YSGOL YR AMGYLCHEDD, ADNODDAU NATURIOL A DAEARYDDIAETH
7fed YN Y DU AM FODDHAD MYFYRWYR
"Mae canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr (NSS) 2014 yn adlewyrchu pwyslais y Brifysgol ar brofiad myfyrwyr drwodd a thro. Roedd y canlyniadau'n rhoi Bangor ymysg y 10 prifysgol uchaf ym Mhrydain am foddhad myfyrwyr (7fed ym Mhrydain heb gynnwys sefydliadau arbenigol), a'r uchaf yng Nghymru am foddhad myfyrwyr." 1 www.bangor.ac.uk/senrgy
Canolfan Amgylchedd Cymru
Croeso Neges gan Bennaeth yr Ysgol Croeso i Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth! Rydym yn adran gyfeillgar sydd wedi cael y raddfa annibynnol uchaf bosibl am ansawdd ein dysgu ac mae gennym enw da’n fyd-eang am ein hymchwil. Er bod ein staff yn arbenigwyr yn eu maes, maent hefyd yn groesawus ac yn barod iawn i ymwneud â myfyrwyr. Yn wir, mae’r gofal bugeiliol a gynigir i’n myfyrwyr yn ddiguro. Mae Bangor ar gyrion Eryri; nid yn unig mae’n lle hardd iawn i fyw ynddo, ond mae hefyd yn rhoi cyfleoedd unigryw i astudio'r amgylchedd naturiol. Hefyd, mae gan ein hymchwil gysylltiadau rhyngwladol cryf yn ymestyn ar draws ystod o gynefinoedd lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae’r Ysgol yn rhan o Goleg y Gwyddorau Naturiol, ynghyd â’r Ysgol Gwyddorau Biolegol, yr Ysgol Gwyddorau Eigion, a'r Ganolfan Biogyfansoddion. Mae’r Coleg yn un o’r canolfannau blaenaf ym Mhrydain ar gyfer dysgu ym maes gwyddorau’r amgylchedd, bioleg, daearyddiaeth a gwyddorau eigion, ac mae myfyrwyr yn
elwa oddi wrth y cysylltiadau hyn drwy fedru astudio ystod eang o bynciau. Ein nod yw cynhyrchu cenhedlaeth newydd o raddedigion sy’n ymwybodol o anghenion cymdeithas, ond sydd hefyd â’r sgiliau i fod yn llwyddiannus ym myd gwaith yn y sector hwn. Felly, mae ein cyrsiau’n rhoi pwyslais ar feithrin a datblygu sgiliau trosglwyddadwy a gwybodaeth yn ymwneud â phynciau penodol. Maent yn cynnwys cyfleoedd i astudio dramor neu gael ‘blwyddyn allan’ mewn gwaith, ac ennill cymhwyster cyflogadwyedd. Ymhellach, caiff ein cyrsiau ‘amgylchedd’, 'daearyddiaeth' a ‘choedwigaeth’ eu hachredu gan yr Institution of Environmental Sciences a’r Institute of Chartered Foresters. Gall y rhain i gyd gynyddu eich rhagolygon o gael swydd dda. Edrychwn ymlaen at eich croesawu i Fangor! Yr Athro Morag McDonald Pennaeth yr Ysgol www.bangor.ac.uk/senrgy 2
Cynnwys
Tudalen
Cynnwys
2 3 4 6
Neges Groeso gan Bennaeth yr Ysgol Cynnwys Lleoliad ac Adnoddau Cysylltiadau â Sefydliadau eraill Achredu Proffesiynol Ein Hymchwil Sut y Caiff ein Cyrsiau eu Dysgu a’u Hasesu Y Cyrsiau a Gynigir gennym Gwybodaeth am y Cyrsiau BSc Ecoleg Daear a Môr Gymhwysol BSc Cadwraeth gyda Choedwigaeth BSc Cadwraeth Amgylcheddol BSc Rheoli’r Amgylchedd BSc Gwyddor yr Amgylchedd Meistr Gwyddor/Rheoli'r Amgylchedd (MEnvSci) BSC/MFor Coedwigaeth BA/BSC/MGeog Daearyddiaeth Gwybodaeth am y Brifysgol Llety Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Gwobrau Cyflogadwyedd Bangor Gofynion Mynediad, Sut i Wneud Cais a Diwrnodau Agored Ffioedd Dysgu, Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Wyddech chi
7 8 10 11
12 13 15 16 18
19 22
3 www.bangor.ac.uk/senrgy
Lleoliad ac Bangor yw’r lleoliad delfrydol ar gyfer astudio’r amgylchedd a’i adnoddau naturiol. Prifysgol Bangor yw’r lleoliad perffaith i astudio’r amgylchedd a’i gysylltiad â phobl, cadwraeth a rheoli tir a dw ˆr. Mae ffermio a choedwigaeth, twristiaeth a hamdden yn weithgareddau pwysig eraill yn yr ardal, gyda rhai o’n cyrsiau’n edrych ar y cydbwysedd rhwng y gweithgareddau hyn a'r gwrthdaro rhyngddynt ar brydiau. Yn rhanbarth Gogledd Cymru mae yna lawer o nodweddion eraill o ddiddordeb y gellir eu hastudio. Er enghraifft, mae’r diwydiant llechi a chloddio am gopr a metelau eraill wedi amharu ar safleoedd ac mewn rhai achosion wedi eu llygru. Wrth ymyl hefyd ceir cyfleusterau cynhyrchu trydan niwclear, trydan-dw ˆr a ffermydd gwynt ar y tir ac oddi ar yr arfordir.
Adnoddau adeilad wedi dod i fri rhyngwladol fel enghraifft wych o adeilad cynaliadwy o ran ei gynllun a'i adeiladwaith, ac mae'n un o ddim ond tri adeilad drwy'r byd sydd wedi cael cymeradwyaeth arbennig am ei nodweddion cynaliadwy neilltuol. Mae swyddfeydd, ystafelloedd darlithio a labordai’r Ysgol wedi eu lleoli’n ganolog, yn agos at Lyfrgell y Gwyddorau, ac o fewn pellter cerdded o’r holl Neuaddau Preswyl. Yn ddiweddar sefydlwyd Ystafell Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol, sy’n galluogi myfyrwyr i astudio cysylltiadau gofodol rhwng data amgylcheddol, hinsoddol, biolegol a chymdeithasol. Mae labordy pwrpasol ar gael ar gyfer gwaith project myfyrwyr gyda phlanhigion, pridd a chyfleusterau dadansoddol amgylcheddol eraill.
Yn Henfaes, gorsaf faes yr Ysgol, sydd ychydig filltiroedd o’r ddinas, ceir tir yn codi o forfa heli a thir isel wedi’i wella ar yr arfordir, i dir pori mynydd 1000 o fetrau uwchlaw lefel y môr. Yno ceir cyfleusterau ar gyfer gwaith maes, tai gwydr a labordy ac fe’u defnyddir yn helaeth gan fyfyrwyr ar gyfer gwaith project. Mae Canolfan Amgylchedd Cymru, sefydliad ymchwil sy'n cyfuno gwyddorau'r amgylchedd, yn bartneriaeth rhwng Prifysgol Bangor a Chanolfan Ecoleg a Hydroleg (CEH) Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol. Mae'r ganolfan mewn adeilad modern iawn sy'n defnyddio dulliau arbed ynni, goleuni naturiol a thechnolegau ynni adnewyddadwy. Mae'r www.bangor.ac.uk/senrgy 4
Danielle Lea-Smith Gradd BSc Coedwigaeth Erbyn hyn mae’n gweithio fel: Swyddog Coetir Erbyn hyn mae’n gweithio i: Y Comisiwn Coedwigaeth Dwi wrth fy modd yn yr awyr agored ac erbyn hyn dwi wedi hen gynefino â hynny fel fy mod yn teimlo'n gynnes bob amser. Roeddwn yn gwybod fy mod eisiau gweithio ym maes coedwigaeth pan oeddwn yn yr ysgol a chael cymwysterau lefel A mewn bioleg, cemeg a daearyddiaeth, fel y gallwn wneud gradd mewn coedwigaeth. Gwneuthum brofiad gwaith gyda'r Comisiwn Coedwigaeth ac euthum yn ôl bob blwyddyn nes oeddwn yn 18 oed. Gorffennais y cwrs rhyngosod ym Mangor a threuliais y drydedd flwyddyn gyda'r Comisiwn Coedwigaeth yn East Anglia. Mae'r flwyddyn ychwanegol honno'n rhoi dyfnder a phrofiad pellach i chi. Ar ôl graddio cefais swydd blwyddyn fel coedwigwr graddedig gyda'r National Forest Company, sy'n creu coetiroedd ar diroedd lle ceid pyllau glo cynt. Erbyn hyn rwyf yn gweithio'n llawn amser i'r Comisiwn Coedwigaeth ar Lannau Mersi. Rwy'n gwneud y gwaith yma oherwydd fy mod yn ei fwynhau'n fawr iawn; fodd bynnag, wnes i erioed freuddwydio y byddwn yn ennill cymaint, bron £30,000 y flwyddyn, ddim ond pedair blynedd ar ôl gorffen yn y brifysgol. Dwi'n hynod falch fy mod yn helpu i adfer coetir hynafol er na fydd pobl yn elwa ar hynny am 20 i 40 mlynedd. Hoffwn feddwl y bydd fy mhlant yn gweld y coetiroedd a'm bod yn rhoi rhywbeth i'r dyfodol.
5 www.bangor.ac.uk/senrgy
Cysylltiadau gyda Sefydliadau Eraill Mae myfyrwyr yn manteisio ar gydweithrediad yr Ysgol â sefydliadau ymchwil a datblygu eraill. Ym Mangor ceir un o’r crynodiadau mwyaf ym Mhrydain o sefydliadau o’r sector gwladol a phreifat yn gweithio yn yr amgylchedd gwledig. Yma ceir swyddfa ranbarthol Adnoddau Naturiol Cymru, y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg a Dw ˆr Cymru. Mae gan yr Ysgol gysylltiadau rhagorol â’r rhain a sefydliadau eraill yn cynnwys y Comisiwn Coedwigaeth, Natural England, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, British Trust for Ornithology, yr Adran Datblygu Rhyngwladol a’r Society for Conservation
Biology. Mae rhai o’r cyrff hyn yn cyfrannu at ddysgu; mae rhai eraill yn cynnig lleoliadau i’n myfyrwyr sy’n gwneud gradd ryngosod neu’n cyllido gweithgarwch ymchwil yn yr Ysgol. Mae gan yr Ysgol gysylltiadau rhyngwladol cryf hefyd â'r World Agroforestry Centre a'r Centre for Tropical Agricultural Research, ynghyd ag amryw o brifysgolion a sefydliadau Ewropeaidd, a chyda llawer o sefydliadau eraill yn Ne America, Affrica ac Asia.
Achrediad Proffesiynol Mae llawer o’n rhaglenni’n cael eu hachredu’n broffesiynol. Caiff llawer o’n graddau amgylcheddol eu hachredu gan yr Institution of Environmental Science (IES). Mae hynny’n dangos eu bod yn cyrraedd y safonau uchel a ddisgwylir gan gyflogwyr. Trwy ddilyn cyrsiau gradd o’r fath sydd wedi’u hachredu, byddwch yn dod yn aelod o’r IES yn awtomatig a chewch wybodaeth am gyfleoedd swyddi, cynadleddau, cyrsiau y gellwch eu gwneud, etc. Unwaith y byddwch wedi graddio, gellwch gael statws ‘Gwyddonydd Siartredig’ a fydd yn apelio’n sylweddol at lawer o gyflogwyr. Y graddau a achredir gan yr IES yw’r BSc Cadwraeth Amgylcheddol, BSc Gwyddor yr Amgylchedd, MSc Gwyddor yr Amgylchedd, BSc Rheoli’r Amgylchedd, Meistr mewn Rheoli'r Amgylchedd, BSc Daearyddiaeth, BSc Ecoleg Daear a Môr Cymhwysol.
Mae ein cyrsiau ôl-raddedig a'n graddau israddedig sy'n ymwneud â choedwigaeth (BSc Coedwigaeth, Meistr mewn Coedwigaeth a BSc Cadwraeth gyda Choedwigaeth), yn cael eu hachredu gan yr Institute of Chartered Foresters (ICF). Gall myfyrwyr a gofrestrodd ar y rhaglenni hyn a achredir wneud cais am statws Siartredig ar ôl iddynt raddio’n llwyddiannus a chael o leiaf ddwy flynedd o brofiad proffesiynol perthnasol. Mae aelodaeth o’r ICF a chael statws siartredig yn cynyddu’n sylweddol eich rhagolygon o gael gyrfa dda a symud ymlaen yn y sector. Mae ein cyrsiau MBA ôl-radd mewn Rheoli'r Amgylchedd a'r MSc mewn Rheoli'r Amgylchedd a Busnes wedi eu hachredu gan yr Institute of Environmental Management (IEMA) ar gyfer y Associate Certificate in Environmental Management.
www.bangor.ac.uk/senrgy 6
Ein
Hymchwil
Cyfleusterau Tyˆ Gwydr yng Nghanolfan Ymchwil Henfaes
Mae ymchwil wyddonol yn gyffrous ac yn werth chweil ac mae'n cael effaith fyd-eang Mae gwaith ymchwil yn aml o fudd sylweddol i’r gymdeithas ehangach ac mae’r Ysgol hon yn credu bod yna lawer o fanteision wrth gyfuno ymchwil ac addysg. Mae’n golygu bod ein myfyrwyr yn cael eu dysgu gan wyddonwyr sydd ar y blaen yn eu maes, a bod y myfyrwyr yn gofyn cwestiynau anodd ac ysgogol i’n darlithwyr am eu gwaith. Mae’r mathau o ymchwil a wneir yn amrywio’n fawr o fewn meysydd yr amgylchedd, daearyddiaeth a defnydd tir. Gwneir llawer o’n hymchwil dramor ac mae gennym brojectau mewn gwledydd mor bell oddi wrth ei gilydd â Fietnam, Ethiopia a Pheriw. Yn ogystal â’r gwaith maes hwn, a’n labordai ym Mangor, mae’r Ysgol yn rhedeg ei chanolfan ymchwil ei hun 6 milltir y tu allan i’r ddinas. Mae hwn yn gartref arbrofion hir-dymor mewn coedwigaeth, coedamaeth, newid hinsawdd, bridio cnydau ac ecoleg. Mae’r Ysgol hefyd yn gartref i ganolfannau ymchwil o bwys a gydnabyddir yn genedlaethol a rhyngwladol, megis y Ganolfan Cadwraeth Seiliedig ar Dystiolaeth a'r Ganolfan Ymchwil Integredig yn yr Amgylchedd Gwledig. 7 www.bangor.ac.uk/senrgy
Mae enw da’r Ysgol ym maes ymchwil yn amlwg nid yn unig yn nifer y projectau ymchwil y mae’n eu cynnal, ond hefyd yn nifer y bobl sy’n dewis astudio am raddau uwch gyda ni. Ar hyn o bryd mae gennym fwy na 150 o fyfyrwyr o bob rhan o’r byd sy’n gwneud ein cyrsiau MA/MSc blwyddyn, dwy flynedd a dysgu o bell. Mae llawer o raddedigion y cyrsiau hyn yn mynd ymlaen i gael swyddi rhagorol yn y meysydd o’u dewis. Yn ogystal, mae gennym dros 65 o fyfyrwyr ar hyn o bryd yn gwneud ymchwil ar gyfer eu gradd PhD. Maent hwy’n cyflawni eu gwaith dros gyfnod o dair blynedd gan arwain at gynhyrchu thesis a nifer o bapurau gwyddonol. Mae’r casgliad hwn o ôl-raddedigion sy’n ymwneud â phynciau amgylcheddol a rheoli adnoddau yn golygu bod yr Ysgol yn rym sylweddol o ran ymchwil fyd-eang yn y maes. Rydym yn denu ysgolheigion ar ymweliad o bob rhan o’r byd ac maent yn cyfrannu at y dysgu ac at awyrgylch fywiog yr Ysgol.
Sut y caiff ein Cyrsiau eu Dysgu a’u Hasesu Mae holl raddau Bangor yn rhai modiwlaidd a defnyddir system dau semester lle’r astudir nifer o fodiwlau gorfodol a dewisol gwerth 10, 20 neu 30 credyd yr un. Mae israddedigion yn astudio modiwlau gwerth 120 credyd y flwyddyn. Mae rhai modiwlau’n orfodol ar gyfer rhaglenni gradd unigol, tra bo eraill yn ddewisol. Mae hyn yn eich galluogi i gynyddu hyd a lled eich astudiaethau ac arbenigo mewn meysydd neilltuol. Fe gewch fanylion am y modiwlau gorfodol a dewisol ar gyfer pob cwrs ar ein gwefan. Ym Mangor rydym yn defnyddio amrywiaeth eang o ddulliau dysgu, yn amrywio o ddarlithoedd, gwaith labordy a gwaith maes i seminarau a thiwtorialau ar gyfer grwpiau bychain. Mae seminarau a thiwtorialau’n canolbwyntio ar ddatrys problemau, datblygu sgiliau astudio ac atgyfnerthu deunydd a ddysgwyd mewn darlithoedd. Mae’r amgylchedd hamddenol ac anffurfiol hefyd yn annog trafodaethau bywiog ar faterion cyfoes a dadleuol. Defnyddir amrywiaeth o ddulliau i asesu cyrsiau, gyda rhaniad o 60% gwaith cwrs a 40% arholiad
yn gyffredin. Mae mathau gwaith cwrs yn amrywio, ond maent yn cynnwys traethodau ac adroddiadau ysgrifenedig, cyflwyniadau poster a llafar, ac adroddiadau labordy. Efallai y bydd angen i chi hefyd lunio cynllun rheoli mewn maes pwnc perthnasol i’ch cwrs astudio. Mae’r rhan fwyaf o fodiwlau’n gwneud defnydd helaeth o amgylchedd dysgu rhithwir Blackboard y Brifysgol, sy’n rhoi mynediad uniongyrchol at adnoddau rhyngrwyd, dogfennau cwrs a nodiadau darlithoedd. Mae’r Ysgol yn trefnu nifer o deithiau astudio maes ym Mhrydain a thramor, yn cynnwys teithiau i Tenerife a Barcelona, yn ogystal â gwneud defnydd cyson o leoliadau yn Eryri. Cynhelir arholiadau ar ddiwedd pob semester. Ym mhob un o’n cyrsiau gradd mae angen i fyfyrwyr wneud project o bwys yn eu blwyddyn olaf. Mae hwn yn ddarn o waith ymchwil gwreiddiol, mewn maes perthnasol i’ch rhaglen radd, ac fe’i goruchwylir gan aelod staff academaidd. Mae llawer o’n graddau israddedig ar gael naill ai fel rhaglenni llawn-amser tair blynedd neu ryng-gyrsiau pedair blynedd. www.bangor.ac.uk/senrgy 8
Gyda’r olaf, treulir cyfnod o hyd at 12 mis gyda chyflogwr diwydiannol neu sefydliad llywodraeth neu an-lywodraethol naill ai ym Mhrydain neu dramor, a hynny rhwng ail a thrydedd flwyddyn y radd. Mae’r lleoliadau hyn yn galluogi myfyrwyr i gael profiad ymarferol perthnasol ac mae cyflogwyr yn aml yn rhoi pwys ar y rhain pan maent yn recriwtio graddedigion newydd. Mae llawer o fyfyrwyr hefyd yn mwynhau ac yn elwa ar y seibiant hwn oddi wrth astudio. Rydym yn cymryd rhan lawn mewn cynlluniau cyfnewid ac mae gennym gysylltiadau arbennig o gryf â’r Ffindir, Canada a’r Unol Daleithiau. Mae ein graddau hefyd yn cynnwys cyfleoedd sy’n atgyfnerthu profiad proffesiynol ac ymarferol. Gall myfyrwyr gyda
9 www.bangor.ac.uk/senrgy
chymwysterau addas fod yn gymwys i astudio am raddau 4 blynedd estynedig (MEnvSci) mewn Gwyddor yr Amgylchedd a Rheoli’r Amgylchedd, (MFor) mewn Coedwigaeth a (MGeog) mewn Daearyddiaeth. Yn y rhain ceir gwybodaeth ddyfnach am wyddor yr amgylchedd ac maent yn cryfhau'r siawns o gael swyddi da. Mae gennym nifer sylweddol o fodiwlau ar gael trwy’r Gymraeg. Bydd hyn yn galluogi i fyfyrwyr cymwys gael bwrsariaethau a fwriedir yn benodol i gynyddu nifer y graddedigion Cymraeg eu hiaith sydd yn y sector amgylcheddol a daearyddiaeth.
Y cyrsiau a gynigir gennym CYRSIAU TAIR BLYNEDD HEB LEOLIADAU
COD UCAS
BSc Ecoleg Daear a Môr Cymhwysol BSc Cadwraeth gyda Choedwigaeth BSc Cadwraeth yr Amgylchedd BSc Rheoli’r Amgylchedd BSc Gwyddor yr Amgylchedd BSc Coedwigaeth BSc Daearyddiaeth BA Daearyddiaeth
C180 5DKD D447 F854 F900 D500 F800 L700
CYRSIAU 4 BLYNEDD YN CYNNWYS LLEOLIADAU BSc Ecoleg Daear a Môr Cymhwysol BSc Cadwraeth gyda Choedwigaeth BSc Cadwraeth Amgylcheddol BSc Coedwigaeth
C183 5DLD D448 D501
GRADDAU MEISTR (4 BLYNEDD, RHAGLEN ISRADDEDIG ESTYNEDIG) Rheoli’r Amgylchedd MEnvSci Gwyddor yr Amgylchedd MEnvSci Coedwigaeth MFor Daearyddiaeth MGeog
D450 F850 D512 F801
CYRSIAU MEISTR HYFFORDDEDIG MSc Coedamaeth MSc Cadwraeth a Rheoli Tir MSc Coedwigaeth Amgylcheddol MBA Rheoli’r Amgylchedd MSc Rheolaeth Amgylcheddol a Busnes MSc Diogelwch Bwyd mewn Amgylchedd sy'n Newid (dysgu o bell) MSc Coedwigaeth (dysgu o bell) MSc Cadwraeth Planhigion MSc Rheoli Coedwigoedd a Natur yn Gynaliadwy (SUFONMA) MSc Coedwigaeth Drofannol Gynaliadwy (SUTROFOR) MSc Coedwigaeth Drofannol (dysgu o bell) MA/MSc Rheolaeth Amgylcheddol Gynaliadwy Mae manylion pellach i’w cael ym Mhrosbectws Ôl-radd Coleg y Gwyddorau Naturiol, ar gael i’w lawrlwytho yn: www.bangor.ac.uk/cns
“Efallai mai blwyddyn fwyaf defnyddiol a dadlennol fy ngradd fu'r flwyddyn ar leoliad." Laura Mai Pozzi, graddiodd gyda BSc mewn Cadwraeth Amgylcheddol "Mae treulio blwyddyn yn y Ffindir fel rhan o'r radd ATME wedi agor fy llygaid i weld graddfa fyd-eang astudio Ecoleg a pha mor bell y gall fy ngradd fynd â mi." Nicole Giglia, graddiodd gyda BSc mewn Ecoleg Daear a Môr Cymhwysol www.bangor.ac.uk/senrgy 10
GWYBODAETH
CWRS BSC ECOLEG DAEAR A MÔR CYMHWYSOL
BSC CADWRAETH GYDA CHOEDWIGAETH
Mae ecolegwyr yn astudio’r cysylltiadau rhwng pethau byw a’u hamgylcheddau. Mae dealltwriaeth o’r fath yn hanfodol ar gyfer rheoli ecosystemau i roi’r gwasanaethau a werthfawrogir gan gymdeithas, gan wneud ecoleg gymhwysol yn bwnc cynyddol bwysig yn y byd cyfoes. Mae’r arbenigedd sydd ar gael ym Mangor ym maes amgylcheddau daear a môr yn ein galluogi i gynnig y radd unigryw hon. Mae Ecoleg Daear a Môr Cymhwysol (EDMC) yn rhoi sylfaen drwyadl yng ngwyddor ecoleg, ond gyda phwyslais ar gymhwyso gwybodaeth ecolegol yn ymarferol at reoli’r amgylchedd a chadwraeth. Rydym yn gwneud defnydd llawn o'n lleoliad eithriadol gydag ymweliadau rheolaidd i warchodfeydd natur lleol a Pharc Cenedlaethol Eryri yn rhan allweddol o’r cwrs. Rydym hefyd yn trefnu teithiau ymhellach i ffwrdd, gyda chwrs maes i Tenerife yn y drydedd flwyddyn yn uchafbwynt poblogaidd. Yn y flwyddyn gyntaf ceir sylfaen mewn ecoleg ac esblygiad, yn ogystal â chyflwyno natur ryngddisgyblaethol rheoli’r amgylchedd. Yn yr ail flwyddyn byddwch yn dyfnhau eich gwybodaeth o ecoleg, gan gymryd cyrsiau hefyd yn egwyddorion rheoli cadwraeth ac yn y sgiliau ymarferol y mae ar ecolegwyr maes eu hangen. Cynigir amrywiaeth o fodiwlau dewisol hefyd, gan eich galluogi i ddechrau arbenigo. Yn y flwyddyn olaf mae myfyrwyr yn cymryd modiwlau mewn ecsbloetio’r môr, ecoleg a chadwraeth bywyd gwyllt, gan ddewis yn ogystal o ystod o fodiwlau dewisol, yn cynnwys ecoleg coedwigoedd, fertebratau môr, ymddygiad anifeiliaid ac ecosystemau dw ˆr croyw. Mae EDMC yn wahanol i raddau ecoleg bur drwy roi cyfle i astudio’r agweddau economaidd-gymdeithasol ar reolaeth ecolegol, yn cynnwys polisi amgylcheddol. Byddwch yn gwneud Project Anrhydedd hefyd, lle byddwch yn gweithio gyda goruchwyliwr i gynllunio a chyflawni ymchwil wreiddiol. Rydym yn cynhyrchu graddedigion a all roi sylw i’r seiliau gwyddonol dros reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, ac effaith penderfyniadau polisi a rheoli yn ecolegol. Mae graddedigion wedi mynd ymlaen i weithio fel ecolegwyr neu reolwyr amgylcheddol ym Mhrydain a thramor, yn ogystal â mynd i fyd addysg neu ymchwil. Caiff y radd hon ei hachredu gan Sefydliad Gwyddorau’r Amgylchedd (Institution of Environmental Sciences).
Coedwigoedd yw’r mwyaf bioamrywiol o’r holl ecosystemau tir, ac maent yn cynnwys y mwyafrif helaeth o rywogaethau tir y byd. Mae mwy na 25% o goedwigoedd y byd yn cael eu rheoli’n bennaf er mwyn gwarchod bioamrywiaeth, ac mae deall sut mae ecosystemau coedwigoedd yn gweithio yn hanfodol os yw ymdrechion cadwraeth coedwigoedd i lwyddo. Mae'r radd Cadwraeth gyda Choedwigaeth yn canolbwyntio ar egwyddorion ac ymarfer cadwraeth fiolegol, ecoleg coedwigoedd ac ecosystemau coedwigoedd, a’r ffyrdd y gellir rheoli coedwigoedd i gyflawni amcanion cadwraeth. Dros 110 o flynyddoedd yn ôl Bangor oedd y brifysgol gyntaf ym Mhrydain i gynnig gradd mewn coedwigaeth, a nawr mae gennym arbenigedd eang mewn ecoleg, gwyddor yr amgylchedd, rheoli coedwigoedd a chadwraeth coedwigoedd. Rydym yn agos at amrywiaeth o wahanol ecosystemau a mathau o goedwigoedd, a ddefnyddir yn helaeth mewn gwaith ymarferol a phroject, ac mae gennym gysylltiadau gyda sefydliadau cadwraeth a choedwigoedd yn y sectorau cyhoeddus a phreifat ym Mhrydain a thramor. Gellwch ddewis gwneud blwyddyn allan o Brifysgol Bangor, gan weithio i sefydliad cadwraeth neu goedwigaeth, astudio dramor (mewn rhannau eraill o Ewrop neu yng Nghanada) neu wneud blwyddyn o brofiad rhyngwladol (unrhyw le yn y byd bron). Gyda gwell ymwybyddiaeth o bwysigrwydd byd-eang coed a choedwigoedd, bydd graddedigion wedi'u paratoi'n dda ar gyfer gyrfaoedd o safon ym myd cadwraeth a meysydd cysylltiedig coedwigaeth aml-bwrpas. Mae’r radd hon wedi ei hachredu’n llawn gan Sefydliad y Coedwigwyr Siartredig (Institute of Chartered Foresters).
11 www.bangor.ac.uk/senrgy
BSC CADWRAETH AMGYLCHEDDOL
BSC RHEOLI’R AMGYLCHEDD
Wrth i bryderon ynghylch yr amgylchedd gynyddu’n gyson, mae mwy a mwy o angen deall sut y gallwn ddiogelu bywyd gwyllt a rheoli ein cefn gwlad yn effeithiol. Mae’r rhaglen radd hon wedi’i hanelu at rai sydd â diddordeb mewn gyrfaoedd mewn cadwraeth bioamrywiaeth, bywyd gwyllt a chefn gwlad. Mae’r cwrs yn rhoi sylfaen dda yn y wyddor o sut mae poblogaethau ac ecosystemau’n gweithredu, gyda modiwlau mewn ecoleg, amaethyddiaeth a choedwigaeth. Ond mae’r pwyslais, yn enwedig wrth i chi symud trwy’r rhaglen, yn fwy ar y materion mwy cymhwysol, rhyngddisgyblaethol sydd ynghlwm wrth warchod yr amgylchedd. Caiff pwysigrwydd ffactorau economaidd a chymdeithasol i sicrhau cadwraeth lwyddiannus ei ddadansoddi mewn modiwlau, megis egwyddorion cadwraeth a pholisi amgylcheddol. Mae modiwl mewn ecoleg a chadwraeth ymarferol yn defnyddio lleoliad digymar Prifysgol Bangor i ddysgu’r sgiliau ymarferol mewn cynnal arolygon ac asesu bioamrywiaeth a ddefnyddir gan weithwyr proffesiynol yn y maes. Dysgir rhan o hwn mewn cydweithrediad ag Ymddiriedolaeth Ornitholeg Prydain. Yn y drydedd flwyddyn mae myfyrwyr yn gwneud cwrs ar bolisi amgylcheddol - sy'n eu helpu i ddeall sut mae penderfyniadau ar reoli'r amgylchedd yn cael eu gwneud. Maent hefyd yn astudio ecoleg a chadwraeth bywyd gwyllt ac mae ganddynt amrywiaeth o fodiwlau dewisol, yn cynnwys un lle maent yn datblygu cynllun rheoli ar gyfer gwahanfa ddŵr yng ngogledd Cymru, ac maent yn cael cyfle i fynd ar gwrs maes i Tenerife. Mae myfyrwyr hefyd yn gwneud darn sylweddol o ymchwil sy'n berthnasol i'w diddordebau. Mae graddedigion o’r rhaglen hon wedi mynd ymlaen i weithio gydag chyrff cadwraeth ym Mhrydain a thramor, yn ogystal â gwneud astudiaethau ac ymchwil pellach ym meysydd bioleg cadwraeth a rheoli adnoddau. Caiff y radd hon ei hachredu gan Sefydliad Gwyddorau’r Amgylchedd (Institution of Environmental Sciences).
Mae ymwybyddiaeth gynyddol o ganlyniadau gofynion dynol ar yr amgylchedd wedi tynnu sylw at yr angen am reolwyr amgylcheddol wedi'u hyfforddi'n broffesiynol a all ddatblygu dulliau a pholisïau ymarferol. Bydd y radd Rheoli’r Amgylchedd yn rhoi i reolwyr amgylcheddol y dyfodol y cefndir gwyddonol a’r gallu i’w gymhwyso at broblemau amgylcheddol go iawn. Mae Bangor mewn sefyllfa hynod dda i gynnig y radd hon gan fod gennym gryfderau yn yr holl feysydd dysgu ac ymchwil perthnasol, yn cynnwys cymhwyso egwyddorion gwyddonol ac amcanion rheoli at ystod o broblemau amgylcheddol megis llygredd, darparu ynni a newid hinsawdd a'r peirianwaith ar gyfer eu lliniaru, yn cynnwys polisi a deddfwriaeth. Byddwch yn datblygu sgiliau penodol a dysgu am ystod eang o faterion amgylcheddol gartref a thramor. Byddwch yn gallu dangos eich gallu i weithio’n annibynnol a defnyddio eich gwybodaeth i lunio cynllun rheoli ar gyfer dalgylch cyfagos a chwblhau project anrhydedd, sydd i gyd yn sgiliau gwerthfawr yng ngolwg cyflogwyr. Bydd digon o gyfle i ymwneud â darpar gyflogwyr ac edrych ar bosibiliadau gyrfa. Gall graddedigion ddisgwyl cael gwaith gyda sefydliadau megis Asiantaeth yr Amgylchedd, DEFRA, awdurdodau lleol ac ymgynghorwyr amgylcheddol, neu symud i feysydd eraill cysylltiedig, e.e. cyfraith amgylcheddol. Mae angen rheolwyr amgylcheddol ar hyn o bryd mewn llawer o feysydd, yn cynnwys y diwydiannau adeiladu, ynni a gwastraff. Bydd eich gradd hefyd yn sylfaen ar gyfer cyrsiau ôl-radd pellach neu ymchwil mewn ystod o feysydd amgylcheddol. Caiff y radd hon ei hachredu gan Sefydliad Gwyddorau’r Amgylchedd (Institution of Environmental Sciences).
www.bangor.ac.uk/senrgy 12
Mesuriadau pridd ar gwrs maes Tenerife
BSC GWYDDOR YR AMGYLCHEDD Daw’r radd mewn Gwyddor yr Amgylchedd â gwybodaeth berthnasol o ystod eang o bynciau ynghyd i edrych ar rai o’r bygythiadau mwyaf sy’n wynebu’r byd, megis newid hinsawdd, cadwraeth, llygredd a sicrwydd bwyd. Mae problemau o'r fath yn golygu y bydd hyd yn oed fwy o alw am wyddonwyr amgylcheddol yn y dyfodol. Mae gan Fangor lawer i’w gynnig ym maes Gwyddor yr Amgylchedd. Rydym mewn lleoliad gwych i astudio ystod eang o amgylcheddau a materion yn ymwneud â hwy. Mae gennym deithiau maes drwy gydol eich gradd a byddwch yn ymwneud yn sylweddol â’r math o sefydliadau allanol y gellwch weithio iddynt rhyw ddiwrnod. Byddwch yn datblygu sgiliau penodol a dysgu am ystod eang o faterion amgylcheddol gartref a thramor; gellwch arbenigo hefyd drwy wneud darn o ymchwil wreiddiol ar gyfer eich project anrhydedd. Byddwch yn ogystal wedi meithrin ystod eang o sgiliau ehangach y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, a datblygu hyder mewn cyflwyniadau a chyfweliadau. Gall graddedigion ddisgwyl cael gwaith gyda sefydliadau diwydiannol, asiantaethau cynghori, ymgynghorwyr amgylcheddol, cwmnïau dw ˆr, Asiantaeth yr Amgylchedd, ac mewn ymchwil a datblygu, yn Ewrop ac ymhellach. Mae ymchwil ôl-radd bellach yn bosibl, yn ogystal â hyfforddi ar gyfer swyddi ym myd dysgu, y cyfryngau ac addysg. Caiff y radd hon ei hachredu gan Sefydliad Gwyddorau’r Amgylchedd (Institution of Environmental Sciences). 13 www.bangor.ac.uk/senrgy
MEISTR GWYDDOR/RHEOLI YR AMGYLCHEDD (MENVSCI) Gall myfyrwyr â chymwysterau priodol wneud cais i astudio am radd pedair blynedd Meistr Rheoli'r Amgylchedd neu Gwyddor yr Amgylchedd (MEnvSci). Bydd y cymwysterau hyn ar lefel uwch yn rhoi gwybodaeth eang a dwfn i chi o wyddor yr amgylchedd/rheoli'r amgylchedd ac ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy, gan wella eich siawns o gael gyrfa lewyrchus. Yn ystod y ddwy flynedd gyntaf mae fframwaith y cwrs yr un fath â'r opsiynau BSc; fodd bynnag, yn y drydedd flwyddyn byddwch yn cymryd nifer estynedig o fodiwlau yn hytrach na gwneud project anrhydedd. Mae myfyrwyr yn gwneud project ymchwil mwy yn y bedwaredd flwyddyn, yn ogystal â mynd ar leoliad proffesiynol. Trwy'r lleoliad proffesiynol mae myfyrwyr yn cael profiad gwerthfawr iawn fel rheolwyr neu wyddonwyr amgylcheddol. Hefyd ceir modiwl Economïau Gwyrdd, lle mae myfyrwyr yn defnyddio eu gwybodaeth i ddatblygu cynllun busnes ymarferol gyda chynaliadwyedd amgylcheddol yn sail iddo. Mae'r modiwlau hyn yn galluogi graddedigion i gymhwyso dulliau rheoli at broblemau amgylcheddol go iawn. Yn ogystal â rhoi’r cyfleoedd gyrfa y gall y BSc Gwyddor yr Amgylchedd a'r BSc Rheoli'r Amgylchedd arwain atynt, bydd y graddau hyn hefyd yn rhoi i raddedigion y sgiliau angenrheidiol i wneud gwaith ymchwil ôl-radd. Mae'r ddwy radd hyn wedi'u hachredu gan Sefydliad Gwyddorau'r Amgylchedd (Institution of Environmental Sciences).
Rachel Carpenter Gradd MenvSci Gwyddor yr Amgylchedd Erbyn hyn mae’n gweithio fel: Rheolwr dan Hyfforddiant (Cydlynydd Project) Erbyn hyn mae’n gweithio i: G’s Fresh, Ely, Sir Caergrawnt Wedi cael fy magu ar dyddyn yng nghefn gwlad, rwyf wedi bod â chywreinrwydd naturiol ynghylch yr amgylchedd erioed, ynghyd â diddordeb mewn gwyddoniaeth a dyfodd drwy gydol fy nghyfnod yn yr ysgol. Astudio ym Mangor oedd y dewis perffaith ar gyfer Gwyddor yr Amgylchedd. Gan fod Bangor mor agos i fannau gwych fel Eryri a choedwigoedd a thraethau Ynys Môn cawsom deithiau maes ardderchog iawn. Roedd dewis eang o fodiwlau yn y cwrs a gallwn ddewis y rhai roedd gennyf wir ddiddordeb ynddynt, ac roedd y dysgu bob amser yn wych hefyd. Rwy'n arbennig o falch i mi ddewis symud ymlaen i'r cwrs 4 blynedd, oherwydd gellais wneud lleoliad 8 wythnos fel rhan o'r flwyddyn olaf. Y lleoliad a ddewisais oedd gwneud ymchwil i gynnyrch ffres yn Harper Adams University College. Fe wnes i ei fwynhau'n fawr a chyflwynodd fi i nifer o wahanol fusnesau - fe wnaeth hyd yn oed fy helpu i gael swydd cyn i mi raddio hyd yn oed! Ers i mi raddio o Fangor, rwyf wedi ymuno â Chynllun Hyfforddiant Rheoli dwy flynedd gyda G's Fresh, un o'r cyflenwyr mwyaf o gynnyrch salad a llysiau ffres i farchnadoedd ym Mhrydain a'r UE. Rwyf newydd ddechrau'r trydydd o'm pedwar lleoliad 6 mis fel Cydlynydd Project dan y cynllun hwn. Fy nau leoliad blaenorol oedd fel Cynorthwywr Cydymffurfio Technegol ac fel Cynorthwywr Gwerthu i'r Tîm Gwerthu Saladau Masnachol. Er iddo deimlo'n frawychus iawn ar brydiau ac yn dra gwahanol i fywyd prifysgol, mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn gyflwyniad gwych i'r diwydiant cynnyrch ffres a sut mae busnes mor fawr â G's yn cael ei gynnal yn llwyddiannus. Rwy'n sicr heb fy ngradd o Fangor a'r cyfleoedd a roddodd i mi na fyddwn wedi cyrraedd lle rydwyf ar hyn o bryd. Diolch!
www.bangor.ac.uk/senrgy 14
BSc/MFOR COEDWIGAETH
BA/BSC/MGEOG DAEARYDDIAETH
Rydym wedi bod yn dysgu coedwigaeth am fwy na 110 o flynyddoedd ac ni fu erioed amser mwy cyffrous i fynd i'r proffesiwn. Bangor oedd y brifysgol gyntaf ym Mhrydain i gynnig gradd mewn coedwigaeth a hi'n awr yw'r gyntaf i gynnig rhaglen israddedig estynedig (y radd MFor). Mae coedwigoedd yn ffynhonnell bwysig o adnoddau adnewyddadwy - coed, coed tân a chynhyrchion eraill megis ffyngau, olewau hanfodol a meddyginiaethau. Maent yn nodwedd o dirweddau ar draws y byd, gallant liniaru effeithiau newid hinsawdd, gwarchod priddoedd a dw ˆr, rhoi lloches i fywyd gwyllt a rhoi cyfleoedd ar gyfer hamdden. Mae ein graddau'n ymdrin â'r holl agweddau hyn ar goedwigaeth a byddant yn eich paratoi ar gyfer her rheoli coedwigoedd ar adeg o newid amgylcheddol byd-eang. Gellwch ddewis gwneud blwyddyn allan o Brifysgol Bangor, gan weithio i sefydliad coedwigaeth gyda gweithwyr proffesiynol profiadol yn y maes, astudio dramor (mewn rhannau eraill o Ewrop neu yng Nghanada) neu wneud blwyddyn o brofiad rhyngwladol (unrhyw le yn y byd bron). Mae ein modiwlau'n cynnwys ymweliadau rheolaidd â choedwigoedd, coedlannau a chwmnïau lleol sy'n defnyddio coed, a cheir teithiau astudio bob blwyddyn: i Eryri yn y flwyddyn gyntaf, i Loegr a'r Alban yn yr ail flwyddyn ac i Tenerife yn y drydedd flwyddyn. Mae cynllun rheoli coedwig i goedwig leol yn rhan bwysig o'r asesu yn y drydedd flwyddyn. Mae gennym gysylltiadau agos â llawer o sefydliadau coedwigaeth, yn cynnwys y Comisiwn Coedwigaeth, Adnoddau Naturiol Cymru, cwmnïau preifat sy'n rheoli coedwigoedd, sefydliadau coedwigaeth nad ydynt yn perthyn i’r llywodraeth a diwydiannau sy’n defnyddio coed. Mae parch helaeth i radd mewn coedwigaeth o Fangor ac mae gan raddedigion da ragolygon gwaith rhagorol. Gallant ddisgwyl cyflog uwch na’r cyfartaledd a rhagolygon datblygiad gyrfa da o fewn ychydig flynyddoedd ar ôl graddio. Mae’r radd hon wedi ei hachredu gan Sefydliad y Coedwigwyr Siartredig (Institute of Chartered Foresters).
Mae Daearyddiaeth yn bwnc deinamig a chyffrous, sy’n edrych ar y prosesau sy’n ffurfio’r Ddaear a’r berthynas rhwng y ddynoliaeth a’r amgylchedd. Ym Mangor rydym yn cynnig graddau Anrhydedd BA a BSc mewn Daearyddiaeth a gradd MGeog pedair blynedd ar lefel meistr. Trwy’r holl raddau hyn mae myfyrwyr yn datblygu gwybodaeth o’r pwnc a sgiliau trosglwyddadwy ar draws ffiniau pynciau traddodiadol. Mae'r graddau BA, BSc a MGeog yn canolbwyntio ar lawer o brosesau ffisegol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol sy'n siapio'r tirwedd a chymdeithas. Byddwch yn edrych hefyd ar y berthynas ddeinamig sydd rhwng pobl a'r amgylchedd. Mae Daearyddiaeth yn ganolog i lawer o faterion mawr byd-eang, sy’n golygu y bydd y galw am ddaearyddwyr yn dal i gynyddu. Mae’r graddau'n rhai modiwlaidd ac fe’u dysgir gan arbenigwyr sy’n ymwneud â’r ymchwil ddiweddaraf mewn ystod eang o feysydd daearyddol. Mae myfyrwyr Daearyddiaeth ym Mangor yn manteisio o fyw ac astudio mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol. Mae teithiau maes ym Mharc Cenedlaethol Eryri yn galluogi myfyrwyr i archwilio prosesau cymdeithasol a ffisegol allweddol. Hefyd mae myfyrwyr yn elwa ar raglen eang o gyrsiau maes ym Mhrydain a thramor, sy’n cyfnerthu dysgu yn y dosbarth a dysgu ymarferol. Mae galw mawr am raddedigion Daearyddiaeth o ganlyniad i’r sgiliau a’r wybodaeth bwnc y maent yn eu datblygu yn ystod eu hastudiaethau. Gall graddedigion ddisgwyl cael gwaith mewn ystod eang o sectorau. Mae graddau Daearyddiaeth hefyd yn rhoi sylfaen ar gyfer astudiaeth ôl-radd bellach, ymchwil neu wneud cymhwyster athro. Gall myfyrwyr Daearyddiaeth gryfhau eu siawns o gael swyddi o safon drwy gofrestru ar gyfer Cymhwyster Cyflogadwyedd Bangor (gweler tudalen 18 am fanylion pellach). Caiff y radd BSC Daearyddiaeth ei hachredu gan Sefydliad Gwyddorau'r Amgylchedd (Institution of Environmental Sciences).
15 www.bangor.ac.uk/senrgy
YN YR 20 UCHAF YN Y DU AM BROFIAD MYFYRWYR
Gwybodaeth am y Brifysgol
Mae maint cryno’r ddinas yn golygu bod cyfleusterau myfyrwyr – yn cynnwys neuaddau preswyl, y Ganolfan Chwaraeon ac Undeb y Myfyrwyr – o fewn pellter cerdded rhwydd o adeiladau’r Brifysgol. Mae siopau’r stryd fawr, banciau, archfarchnadoedd, bwytai, tafarndai, a theatr yn y cyffiniau hefyd fel nad oes fawr gostau teithio. Mae costau byw yn is na’r rhan fwyaf o ardaloedd dinesig, felly gellwch wneud yn fawr o’ch arian, a hynny mewn amgylchedd pleserus iawn i fyw ac astudio ynddo. Mae’n werth cofio hefyd bod Bangor yn cael ei ystyried yn lle cymharol ddiogel i astudio (mae’r raddfa droseddu ar gyfer gogledd Cymru yn un o’r isaf yn y wlad). Mae’r cymysgedd o fyfyrwyr a ddaw yma o bob rhan o’r byd yn golygu bod Bangor bob amser yn ddinas fywiog, liwgar a diddorol. Mae Bangor yn bendant yn ddinas prifysgol – mae’r rhan fwyaf o’r adloniant a’r bywyd nos wedi eu cyfeirio at fyfyrwyr a’u harwain ganddynt, ac mae yna rywbeth yn mynd ymlaen bob amser. Yn ogystal â’r adloniant, mae Undeb y Myfyrwyr hefyd yn trefnu amrywiaeth fawr o glybiau a chymdeithasau, gan ymdrin ag amrywiaeth eang o ddiddordebau
cymdeithasol, diwylliannol, crefyddol, gwleidyddol a chwaraeon. Tra bo Bangor ei hun yn gryno ac yn gyfleus, mae’r ardal o amgylch yn cynnig digon o fannau eang agored. Mae mynyddoedd ac arfordir Eryri yn ardal o harddwch naturiol eithriadol, sy’n cynnig cyfleoedd hamdden rhagorol i chi, boed gennych ddiddordeb mewn gweithgareddau awyr agored neu eisiau mwynhau’r olygfa yn unig. I’r rhai sy’n frwd dros chwaraeon, mae dringo, hwylio, rhwyfo, canwio, syrffio a deifio ymhlith y gweithgareddau awyr agored sydd ar gael. Mae gan y Brifysgol ddewis da o chwaraeon dan do hefyd yng Nghanolfan Brailsford, sydd wedi cael ei hadnewyddu'n sylweddol yn ddiweddar.
"Bydd Canolfan Celfyddydau Perfformio ac Arloesi Prifysgol Bangor, gwerth £45m, yn agor yn 2015. Mae'n gartref i’r cyfleusterau addysgu a dysgu diweddaraf, theatr gyda rhwng 450 a 550 o seddau, sinema, theatr fach, yn ogystal â chyfleusterau cymdeithasol, yn cynnwys bariau, llefydd bwyta a pharc." www.bangor.ac.uk/senrgy 16
© James Lowen
Rachel Ward Gradd BA Daearyddiaeth TAR (Cantab) Erbyn hyn mae’n gweithio fel: Athrawes Ddaearyddiaeth Uwchradd Erbyn hyn mae’n gweithio i: Cyngor Sir Caergrawnt Ar ôl graddio o Fangor gyda gradd Dosbarth Cyntaf mewn daearyddiaeth fe wnes i Dystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) ym Mhrifysgol Caergrawnt. Rwyf wedi cael swydd ger Caergrawnt yn dysgu daearyddiaeth mewn ysgol uwchradd. Fe wnaeth fy nghyfnod ym Mangor roi i mi'r sgiliau a'r hyder i symud ymlaen gyda'r yrfa o'm dewis. Taniodd y modiwlau a ddewisais ym Mangor fy niddordeb mawr mewn daearyddiaeth a'r awyr agored. Yn arbennig, mwynheais y modiwl Daearyddiaeth Awyr Agored a'm lleoliad proffesiynol, yn ogystal â Gwobr Cyflogadwyedd Bangor. Fe wnaeth y cymysgedd o ddarlithoedd a gwaith maes fy ngalluogi i ddatblygu sgiliau'n arwain grwpiau yn yr awyr agored. Ni allai lleoliad y brifysgol fod wedi bod yn well; mynyddoedd, traethau a choedwigoedd. Mae hwn yn lle perffaith i astudio daearyddiaeth a'r awyr agored. Yn fy ngyrfa ddysgu rwy'n bwriadu cwblhau fy ngradd Meistr mewn Addysg yng Nghaergrawnt, gan barhau i fwynhau daearyddiaeth a dysgu.
17 www.bangor.ac.uk/senrgy
Llety Fel myfyriwr blwyddyn gyntaf sicrheir lle i chi yn un o’r Neuaddau Preswyl a reolir gan y Brifysgol. Ceir llety en-suite yn y rhan fwyaf o neuaddau sy’n rhoi mwy o breifatrwydd. Yn ddiweddar gwariwyd dros £35m yn ailddatblygu’r campws, yn cynnwys gwaith sylweddol yn gwella llety i fyfyrwyr. Wrth gwrs, mae yna ddewis helaeth o lety preifat hefyd i’w gael ym
Mangor a'r cyffiniau, os yw’n well gennych hynny, a gall y Swyddfa Tai Myfyrwyr eich helpu i gael y llety rydych ei eisiau. Un fantais fawr yw na fyddwch angen car neu gludiant cyhoeddus; gellir cerdded yn hwylus i bob man o’r neuaddau preswyl. Dim ond 10 munud mae'n ei gymryd i gerdded o’r prif safle llety i brif adeiladau’r Brifysgol.
Gwasanaeth gyrfaoedd a chyflogadwyedd Yn y farchnad swyddi hynod gystadleuol sydd ohoni y dyddiau hyn, mae’n bwysig eich bod yn manteisio’n llawn ar y gweithgareddau academaidd, hamdden a chysylltiedig â gwaith sydd ar gael i chi fel myfyriwr. P’un a ydych yn gwybod pa lwybr gyrfa rydych eisiau ei ddilyn ai peidio, mae’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i helpu myfyrwyr a graddedigion drwy ddarparu ystod eang o wasanaethau cyfarwyddyd gyrfa a chefnogaeth cyflogaeth, yn cynnwys: • cyfweliadau gyrfaol unigol a chyfrinachol, a sesiynau galw heibio • haglen trwy gydol y flwyddyn, yn cynnwys datblygiad personol, chwilio am swyddi, a gweithdai a sesiynau hyfforddi sy’n gysylltiedig â chyflogwyr • gwybodaeth gynhwysfawr a phriodol am yrfaoedd drwy ein Canolfan Wybodaeth a’n Gwefan • Biwrô Cyflogaeth Myfyrwyr (Job Zone), sy’n rhoi cyfleoedd am swyddi rhan-amser, swyddi gwyliau, a swyddi i raddedigion • dewis eang o gyfleoedd i wneud gwaith gwirfoddol, yn cynnwys Arwain Cyfoedion a Mentora gan Fyfyrwyr • lleoliadau profiad gwaith cyflogedig i israddedigion a graddedigion • y cyfle i ddatblygu sgiliau menter a dod yn fwy ymwybodol o hunan-gyflogaeth trwy ein rhaglen Byddwch Fentrus (B-Enterprising)
Gwobr Cyflogadwyedd Bangor Cynlluniwyd Cymhwyster Cyflogadwyedd Bangor (BEA) i wella rhagolygon gyrfa myfyrwyr Prifysgol Bangor yn syth ac yn y tymor hirach. Mae’r cynllun yn gweithredu mewn cydweithrediad rhwng y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, Undeb y Myfyrwyr Bangor a sefydliadau yn y sector preifat, cyhoeddus a gwirfoddol. Mae’n cynnig achrediad ar gyfer gweithgareddau cyd-gwricwlaidd ac all-gwricwlaidd (e.e. gwirfoddoli, clybiau a chymdeithasau, profiadau gwaith, gwaith rhan-amser, dysgu iaith newydd etc.). Efallai nad yw'r rhain yn cael eu cydnabod yn ffurfiol yn eich rhaglen gradd academaidd, ond maent yn werthfawr yn y farchnad swyddi i raddedigion. www.bangor.ac.uk/senrgy 18
GOFYNION MYNEDIAD, SUT I WNEUD CAIS A DYDDIAU AGORED GOFYNION MYNEDIAD
DYDDIAU AGORED
Yma ym Mangor rydym yn derbyn myfyrwyr gydag ystod eang o gymwysterau a chefndiroedd, ac rydym yn ystyried pob cais yn unigol. Yn unol â pholisi’r Brifysgol, rydym yn ystyried ceisiadau gan ddarpar-fyfyrwyr sydd ag anabledd ar yr un seiliau â’r holl fyfyrwyr eraill. Rydym hefyd yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hyˆn a all ddangos bod ganddynt yr ysgogiad a'r ymroddiad i astudio rhaglen mewn prifysgol. I astudio ar gwrs gradd, diploma neu dystysgrif gofynnir am nifer benodol o bwyntiau tariff UCAS gennych. Fel rheol, gellir defnyddio unrhyw bynciau TAG lefel-A neu AS, VCEau a Sgiliau Allweddol i gyfrif cyfanswm eich pwyntiau. Fe gewch fanylion mwy penodol ar ofynion mynediad ar y tudalennau am gyrsiau unigol ar ein gwefan yn: www.bangor.ac.uk/senrgy
Mae’r Ysgol yn cynnal nifer o Ddyddiau Agored gydol y flwyddyn i roi gwell syniad i chi beth i’w ddisgwyl os penderfynwch ddod i astudio gyda ni. Bydd ein staff a’n myfyrwyr presennol wrth law i ateb eich cwestiynau a rhoi gwybodaeth fanwl i chi am y cwrs o’ch diddordeb. Gellwch gael golwg ar y ddinas hefyd ac fe awn â chi ar daith i weld y neuaddau preswyl er mwyn i chi blas ar fywyd myfyriwr ym Mangor. I gael mwy o wybodaeth ac i archebu lle, ewch i’n gwefan.
SUT I WNEUD CAIS Rhaid i fyfyrwyr o’r DU a’r UE wneud cais drwy UCAS a dylid ymgeisio mor fuan â phosibl, gan nodi cod y cwrs (gweler tudalen 10). Gall myfyrwyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol atom drwy ddilyn y drefn ar wefan y Ganolfan Addysg Ryngwladol www.bangor.ac.uk/international
FFIOEDD DYSGU, YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU FFIOEDD DYSGU Gall ffioedd dysgu newid a gellir cael hyd i wybodaeth gyfredol yn: www.bangor.ac.uk/fees
YSGOLORIAETHAU Bob blwyddyn mae’r Brifysgol yn cynnig ystod eang o Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau. Mae'r rhain yn cynnwys yr Ysgoloriaethau Rhagoriaeth (gwerth hyd at £5,000 yr un), Ysgoloriaethau Teilyngdod (i rai sy'n rhagori mewn arholiad mynediad, gwerth hyd at £3,000), Ysgoloriaethau Chwaraeon (ar gael i fyfyrwyr sy'n astudio unrhyw bwnc academaidd, gwerth hyd at £2,000 yr un) ac Ysgoloriaethau'r Rhaglen Dawn a Chyfle (sy'n anelu at ehangu cyfranogiad ar draws Gogledd Cymru). Mae bwrsariaethau hefyd ar gael i gefnogi myfyrwyr o deuluoedd sydd ar incwm is, yn ogystal â rhai sy’n mynd i Addysg Uwch o ofal. Mae bwrsariaethau o £250 y flwyddyn ar gael i'r rhai sy'n dewis astudio mwy na 40 credyd y flwyddyn drwy'r Gymraeg. Yn ogystal a hyn mae sawl un o'n graddau isradd yn gymwys ar gyfer bwrsariaethau cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol o £500 y flwyddyn. Gellir gweld mwy o fanylion ar ein gwefan am yr Ysgoloriaethau a’r Bwrsariaethau sydd ar gael ar hyn o bryd . 19 www.bangor.ac.uk/senrgy
Carys Ford BSc Daearyddiaeth Erbyn hyn mae’n gweithio fel: Swyddog Asedau Technegol Erbyn hyn mae’n gweithio i: Cyngor Dinas Bryste Cyn gynted ag y deuthum i Brifysgol Bangor ar ddiwrnod agored, syrthiais mewn cariad â'r ddinas a'r ardal gyfagos. Roedd agosrwydd y brifysgol i Barc Cenedlaethol Eryri yn sicr yn un o'r rhesymau pam roeddwn eisiau dod i'r brifysgol. Fe wnaeth y dewis o glybiau a chymdeithasau a oedd ar gael drwy Undeb y Myfyrwyr brofi'n bendant i mi mai hon oedd y brifysgol roeddwn eisiau dod iddi. Yn ystod fy nhair blynedd fel myfyriwr roedd amrywiaeth eang o themâu y gellid eu hastudio ar y cwrs. Roedd digon o opsiynau ar gael yn dibynnu pa lwybr roeddwn eisiau ei ddilyn. Yn sicr, roedd y cwrs yn manteisio i'r eithaf ar y ffaith bod Parc Cenedlaethol Eryri mor agos gyda nifer o deithiau lleol yn cael eu trefnu bob blwyddyn gyda gwahanol fodiwlau. Roedd y teithiau maes a gynigid i gyd yn berthnasol iawn i'r cwrs a dysgais lawer oddi wrthynt. Fe wnaeth fy sgiliau maes wella'n eithriadol ac roedd yn gyfle gwych hefyd i ddod i adnabod fy nghyd-fyfyrwyr. Ar ôl gorffen fy ngradd gyntaf, euthum ymlaen i astudio am MSc mewn Rheoli Argyfyngau ar gyfer Peryglon Amgylcheddol ym Mhrifysgol De Cymru. Penderfynais wneud y cwrs hwn oherwydd i mi fwynhau cymaint ar y modiwl Geoberyglon ym mlwyddyn 2 ym Mangor. Roedd fy mhrofiad ym Mangor yn un cadarnhaol iawn ac yn sicr taniodd fy mrwdfrydedd i symud ymlaen ymhellach gyda fy addysg. Bu'r sgiliau a ddatblygais, o ran gwaith ysgrifenedig a gwaith maes, o fudd mawr i mi wrth i wneud yr MSc. Ar hyn o bryd rwy'n gweithio i Gyngor Dinas Bryste yn mapio eu hasedau gan ddefnyddio Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS).
www.bangor.ac.uk/senrgy 20
Francesca McGrath Gradd BSc Cadwraeth Amgylcheddol Erbyn hyn mae’n gweithio fel: Ymgeisydd PhD Erbyn hyn mae’n gweithio i: Prifysgol Genedlaethol Singapore Graddiais gydag anrhydedd dosbarth cyntaf o Brifysgol Bangor ar ôl cwblhau BSc mewn Cadwraeth Amgylcheddol. Rhoddodd y cwrs i mi'r sgiliau craidd sydd eu hangen i wneud ymchwil sy'n dylanwadu ar brojectau cadwraeth ymarferol. Cyfnerthwyd hyn hefyd gan wybodaeth mewn meysydd cysylltiedig megis polisi amgylcheddol, gwyddor pridd a choedwigaeth. Ar gyfer fy nhraethawd hir BSc edrychais ar CITES yn yr Emiradau Arabaidd Unedig ac a fu gweithredu'r confensiwn hwn yn effeithiol ai peidio. Bûm yn ffodus hefyd i gael y wobr Cyrhaeddiad Academaidd pan raddiais. Wedi gorffen fy BSc penderfynais wneud gradd MSc mewn Amgylchedd a Datblygu yn y London School of Economics and Political Science. Roedd y cwrs hwn yn canolbwyntio'n bennaf ar ddatblygu cynaliadwy a rheolaeth/polisïau amgylcheddol. Yn ystod fy MSc cefais fy hun yn parhau i fod â diddordeb mewn ymchwilio i ddulliau cadwraeth ymarferol sy'n cymryd i ystyriaeth system bresennol y farchnad a deinameg gymdeithasol. Ar hyn o bryd rwy'n gwneud gradd PhD ym Mhrifysgol Genedlaethol Singapore ar ôl derbyn Ysgoloriaeth Ryngwladol Singapore i Raddedigion (SINGA). Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar gynlluniau Taliadau am Wasanaeth Ecosystem (PES) a'u gweithredu yn Ne ddwyrain Asia. Mae gennyf ddiddordeb yn benodol yn nhegwch y cynlluniau hyn a'u potensial i gynnal ymdrechion cadwraeth. Rwy'n credu bod fy llwyddiant hyd yma wedi deillio o fy BSc ym Mangor. Mae'r darlithwyr yn SENRGY wedi bod yn rhai o'r athrawon mwyaf dymunol rwyf wedi eu cael hyd yma. Roeddwn yn ffodus hefyd i gael goruchwyliwr gwych, Dr Julia Jones, sydd wedi fy helpu ar hyd y llwybr hwn. Byddwn yn argymell SENRGY, a'm cwrs yn arbennig, i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gyrfa academaidd ym maes cadwraeth. 21 www.bangor.ac.uk/senrgy
Oeddech chi’n gwybod... • Gan Fangor y mae un o’r Cynlluniau Arweinwyr Cyfoed mwyaf ymysg prifysgolion Prydain. O’r funud y byddwch yn cyrraedd, byddwch yn cael cymaint o help a chefnogaeth â phosibl, gyda materion iechyd a lles, yn ogystal â rhai academaidd. Mae’n gynllun sy’n cael ei gynnal gan fyfyrwyr ar gyfer myfyrwyr, felly maen nhw’n gwybod yn union beth ydi bod yn yr un sefyllfa â chi. • Mae Bangor mewn safle delfrydol a chyda phob math o gyfleusterau i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn chwaraeon - yn arbennig rhai awyr agored. Yn Eryri ceir cyfleoedd gwych i ddringo a cherdded mynyddoedd, a digonedd o chwaraeon dw ˆr, yn cynnwys canwïo, caiacio, syrffio, hwylio a chaiacio môr. • Ym Mangor ceir un o brif grynodiadau Gwyddorau’r Amgylchedd yn Ewrop, gyda chanolfannau gan sefydliadau cenedlaethol a rhyngwladol yn y cyffiniau.
'Mae'r Rhaglen Profiad Rhyngwladol yn rhoi dewis i fyfyrwyr astudio dramor am un flwyddyn ychwanegol mewn amrywiaeth eang o wahanol fannau. Mae hyn hefyd yn cryfhau eu CV ac yn rhoi'r profiad rhyngwladol i fyfyrwyr mae llawer o gyflogwyr yn chwilio amdano erbyn hyn.’
INTERNATIONAL EXPERIENCE www.bangor.ac.uk/senrgy 22
GWYBODAETH GYSYLLTU Am fwy o wybodaeth, ewch i’n gwefan yn: www.bangor.ac.uk/senrgy neu cysylltwch â’r Cydlynydd Derbyniadau yn: YSGOL YR AMGYLCHEDD, ADNODDAU NATURIOL A DAEARYDDIAETH PRIFYSGOL BANGOR BANGOR GWYNEDD LL57 2UW Ffôn: +44 (0) 1248 382281 E-bost: senrgy@bangor.ac.uk \BangorUniversity.SENRGY @BUGeography @ConservResearch @BangorForestry @bangorfoodsecurity
Mae’r Brifysgol yn gwneud pob ymdrech resymol i sicrhau bod y wybodaeth a geir yn y llyfryn hwn yn gywir adeg ei argraffu (Rhagfyr 2014).