Canllaw i'ch lles gan Brifysgol Bangor

Page 1


PRIFYSGOL BANGOR

Canllaw i’ch lles

RYDYCH CHI

WEDI DERBYN CYNNIG GAN

BRIFYSGOL BANGOR…

Os byddwch yn dewis dod i Brifysgol Bangor bydd y canllaw hwn yn rhoi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ddod i adnabod Bangor, y Brifysgol a’r hyn sydd gennym i’w gynnig i chi o ran lles fel darpar fyfyriwr.

1. Cymuned myfyrwyr

2. Cefnogaeth i fyfyrwyr

3. Mae lles yn bwysig i ni

4. Costau byw ac cefnogaeth arian

5. Prisiau wedi eu rhewi

6. Clybiau a Chymdeithasau

7. Gwirforddoli

8. Rhwydweithiau Myfyrwyr

9. Gweithgareddau Undeb Bangor

10. Wythnos Groeso

11. Dysgu sgil newydd

12. Cadwch yn heini

13. Mynd am dro

14. Cynaliadwydd - Mae’n ffordd o fyw

15. Campws Byw

CREU EICH CYMUNED YMA

YM MANGOR

Mae’n normal teimlo ychydig yn bryderus am wneud ffrindiau a symud i ddinas newydd.

Cofiwch...

Mae pawb yn teimlo’r un peth. Fyddwch chi ddim ar eich pen eich hun!

Mae’n hawdd creu eich cymuned ym Mangor. Mae’n fach ac yn gyfeillgar gydag awyrgylch croesawgar.

YMUNWCH Â CHYMUNED EIN

MYFYRWYR CYN I CHI GYRRAEDD

Mae ein app ‘Campus Connect’ yn ofod lle gall pob ymgeisydd

» Sgwrsio gyda myfyrwyr

» Gofyn cwestiynau

» Gwylio ein fideos

» Gwneud ffrindiau newydd

» Cysylltu â ffrindiau ar eich cwrs

» Darganfyddwch pwy fydd ei chyd-letywyr

» Paratoi ar gyfer eich profiad myfyriwr

cofrestrwch ar yr app

Dylai eich amser yn y Brifysgol fod yn bleserus ac yn werth chweil. Rydym yn rhoi blaenoriaeth uchel ar ofalu am ein myfyrwyr a’u cefnogi trwy gydol eu hamser yma.

Cefnogaeth

Gwahaniaethau Dysgu

Penodol

Mae’r Tîm GDP yn darparu cyngor a chefnogaeth i fyfyrwyr Prifysgol Bangor sydd â gwahaniaethau dysgu

penodol (GDP) megis dyslecsia, dyspracsia, dyscalcwlia ac anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD).

Tiwtoriaid Personol

Mae gan bob myfyriwr ym

Mhrifysgol Bangor

tiwtor personol. Mae cael tiwtor personol yn golygu bod yna bob amser aelod o staff academaidd y gallwch chi droi ato gydag unrhyw broblemau.

Tai Preifat

Os byddwch yn dod i Fangor ac yn dewis byw mewn llety preifat, ac yn cael unrhyw broblemau gyda’ch tŷ, landlord neu gontract ac ati, yna bydd y Swyddfa Tai Myfyrwyr yn hapus i helpu. Maen nhw’n cynnal ymgyrchoedd amrywiol drwy gydol y flwyddyn i sicrhau safon uchel o dai myfyrwyr ym Mangor.

Gwasanaethau Anabledd Rydym yn cynnig gwasanaeth i bob myfyriwr anabl. Rydym yn ystyried gofynion pob person yn unigol. Mae ein cymorth yn cynnwys arweiniad, addasiadau, a strategaethau rheoli (gwasanaethau eraill sydd ar gael).

Cyngor

Ariannol

Mae’r Uned Cymorth Ariannol yn rhan o’r Tîm Cymorth i Fyfyrwyr, a gall yr aelodau staff profiadol roi cyngor, gwybodaeth ac arweiniad ar bob agwedd ar gyllid myfyrwyr.

Sgiliau Astudio

Mae Tîm Cymorth Addysgu a Dysgu’r Brifysgol yn cynnig apwyntiadau un-i-un, gweithdai ac adnoddau dysgu i helpu i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i lwyddo yn y brifysgol. Mae’r ganolfan yn cynnig cymorth gydag ysgrifennu academaidd, mathemateg ac ystadegau.

Mae LLES yn bwysig i ni

Mae ein Gwasanaeth Lles yn ran o’r Gwasanaeth

Cymorth a Lles Myfyrwyr yn y Gwasanaethau Myfyrwyr.

Mae gennym ni gwnselwyr proffesiynol cymwysedig, gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol ac arbenigwyr gwybodaeth sydd â phrofiad o

Cwnsela

Gall unrhyw un, ar unrhyw adeg, gael meddyliau ac emosiynau a all deimlo’n llethol. Mae’r

Gwasanaeth Cwnsela yma i helpu ein myfyrwyr i archwilio sut maen nhw’n meddwl, yn ymddwyn ac yn teimlo am fater a’u helpu i ddod o hyd i ffyrdd priodol o wneud newidiadau yn eu bywydau.

helpu myfyrwyr i ddelio â phob math o faterion ymarferol ac emosiynol megis materion yn ymwneud ag astudio, trawma, perthnasoedd, rheoleiddio emosiynol, materion iechyd meddwl yn ymwneud ag anabledd, hygyrchedd, aflonyddu, cynhwysiant a llawer mwy.

Cynghorwyr Iechyd Meddwl

Mae ein Hymarferwyr Iechyd Meddwl yn cynghori ar faterion iechyd meddwl ac yn cynnig arweiniad ar asesu a thrin cyflyrau iechyd meddwl.

Chwe strategaeth ar gyfer delio â straen

1. Byddwch yn ofalus am yr hyn rydych chi’n ei fwyta a’i yfed

2. Cael digon o gwsg

3. Gwnewch ymarfer corff yn reolaidd

4. Rheolwch eich anadlu

5. Gwnewch amser i gael hwyl

6. Gwella eich sgiliau astudio

Haciau Astudio

Gall adolygu ac arholiadau fod yn gyfnod llawn straen, felly rhowch gynnig ar rai o’r haciau astudio hyn i helpu i wneud y broses yn haws ei rheoli.

• Trefnu eich amser

• Symud popeth a all dynnu eich sylw

• Cael apiau astudio defnyddiol

• Ysgrifennu eich nodiadau / cardiau nodiadau

• Defnyddio lliw gwahanol i fodiwlau gwahanol

• Cymryd egwyl yn rheolaidd

Strategaeth iechyd meddwl a lles dan arweiniad myfyrwyr

Gyda’i gilydd, mae Prifysgol Bangor ac Undeb Bangor wedi ymrwymo i agwedd gyfannol at iechyd meddwl a lles myfyrwyr.

Crëwyd strategaeth ar gyfer gwella iechyd meddwl a lles myfyrwyr trwy ddull cydweithredol a arweinir gan fyfyrwyr.

Costau Byw ac Chefnogaeth Ariannol

5 AWGRYM I WNEUD

PRYDAU AM £2

Prydau poeth am £2, dydd Llun i ddydd Gwener yng

Nghaffi Teras a Bar Uno trwy gydol y tymor academaidd a gwyliau’r Haf.

MYNEDIAD I FANNAU

DYSGU CYNNES 24/7 fel mannau dysgu cymdeithasol ym Mhontio. Fel hyn, bydd gennych bob amser le i fynd i gynhesu ac chael seibiant.

AELODAETH AM DDIM

Mae ymuno â Chlwb neu

Gymdeithas yn rhad ac am ddim felly gallwch chi ymuno â chymaint ag y gallwch chi yn eich wythnos groeso.

1. Cadwch lygad ar eich gwariant

2. Rhowch flaenoriaeth i’r costau hanfodol

3. Byddwch yn gynnil - bob dydd

4. Banciwch yn ddoeth

5. Cymerwch y cwrs

Academi Arian

MYNEDIAD I’R GRONFA CALEDI

Mae ein Cronfa Galedi yma i gefnogi myfyrwyr i dalu costau hanfodol na ellid cynllunio ar eu cyfer.

SESIYNAU CYLLIDEBOL UNIGOL

Mae’r cyfarfodydd 1-2-1 hyn yn ymdrin â phynciau fel gosod nodau ariannol, creu cyllideb, ac olrhain treuliau.

CYNHYRCHION MISLIF

RHAD AC AM DDIM

Mynediad i gynnyrch mislif rhad ac am ddim ar draws campysau i holl fyfyrwyr

Prifysgol Bangor sy’n menstru mewn ymdrech i ddileu tlodi mislif.

Prisiau wedi eu rhewi

Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i helpu myfyrwyr i arbed arian, ac mae rhewi prisiau ar yr eitemau hanfodol isod yn un ffordd yr ydym yn gwneud hynny.

» SINEMA PONTIO

» GOLCHI DILLAD

» AELODAETH I’R GAMPFA

» DIODYDD YN ACADEMI

UNED CEFNOGAETH ARIANNOL

Os ydych yn poeni am arian, yna gall

cynghorwyr yr Uned Cefnogaeth Ariannol eich helpu yn y ffyrdd canlynol:

» Eich helpu i asesu eich sefyllfa ariannol.

» Eich cefnogi i greu cyllideb gwariant a fydd yn diwallu eich anghenion hanfodol.

» Gwneud yn siŵr eich bod yn cael

mynediad at yr holl fwrsariaeth Cyllid

Myfyrwyr a bwrsariaeth Bangor y gallwch eu hawlio.

» Edrych ar ffyrdd y gallwch arbed costau.

PERTHYN

Mae clybiau a chymdeithasau ym

Mangor yno i’ch helpu chi i ddod o hyd i gymuned o bobl o’r un anian. Gall treulio amser gydag eraill sydd â’r un diddordeb, angerdd a ffordd o fyw, ddarparu rhwydwaith cymorth ychwanegol y tu allan i’ch astudiaethau academaidd.

Mae gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol

Bangor, dros 30 o Brosiectau

Gwirfoddoli.

Gall gwirfoddoli eich helpu i ennill

sgiliau newydd a gall helpu i leihau teimladau straen a phryder.

Lles Yr Amgylchedd Yr Henoed

Digwyddiadau Y Gymuned Plant

12 RHWYDWAITH MYFYRWYR

Mae Rhwydweithiau Myfyrwyr wedi’u sefydlu i’ch helpu chi i ddod o hyd i gymuned o fyfyrwyr

eraill sy’n rhannu’r un angerdd â chi. Maent hefyd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gymryd rhan mewn ymgyrchoedd, digwyddiadau a hyfforddiant.

Rhwydwaith Myfyrwyr

GWEITHGAREDDAU LLESIANT UNDEB BANGOR

‘CONNECT@BANGOR’

Prosiect cyffrous a chymwynasgar dan arweiniad myfyrwyr lle mae myfyrwyr yn cefnogi ei gilydd mewn grwpiau ac un-i-un, ar-lein ac yn bersonol.

CYMORTH ASTUDIO

Te, coffi, a byrbrydau i fyfyrwyr. Cyfle gwych i gymryd seibiant o astudio a rhannu adborth.

WYTHNOS BYW’N IACH

Wythnos yn llawn gweithgareddau iach ac egnïol i hybu lles a byw’n iach.

YSTAFELL YMLACIO GYDA CHŴN

Mae’r cŵn cyfeillgar yma yn helpu myfyrwyr i ymlacio a theimlo llai o straen!

WYTHNOS GROESO

Dyma ychydig o bethau rydyn ni’n eu trefnu ar eich cyfer chi...

Serendipity

Mae Ffair yr Wythnos Groeso yn rhoi cyfle i fyfyrwyr newydd gofrestru ar gyfer Clybiau, Cymdeithasau a Phrosiectau Gwirfoddoli.

Mae Ysgolion academaidd yn trefnu rhaglenni croeso sy’n cynnwys gweithgareddau setlo mewn, teithiau, hwyl a gemau.

Cwrdd â’r Undeb Myfyrwyr wrth gofrestru

Mae Undeb Bangor yn bresennol yn y digwyddiad cofrestru i siarad â myfyrwyr newydd am fywyd myfyrwyr a’r wythnos i ddod.

Mae Arweinwyr Cyfoed yn fyfyrwyr presennol, sy’n chwarae rhan fawr mewn croesawu myfyrwyr newydd i Fangor. Bydd gan y rhan fwyaf o fyfyrwyr newydd Arweinydd Cyfoed.

Fydd Campws Byw yn trefnu llu o weithgareddau ar gyfer preswylwyr neuaddau’r brifysgol gan gynnwys barbeciw croeso.

Mae Ymlacio a Sgwrsio yn gyfle i gwrdd â phobl newydd mewn amgylchedd ychydig yn dawelach na’r dafarn neu’r clwb arferol.

DYSGU SGIL NEWYDD

Gall dechrau hobi newydd neu

ddysgu sgil newydd fod yn hwyl

ac yn werth chweil. Gall gwneud rhywbeth rydych yn ei fwynhau

eich hefyd helpu i leddfu straen

ac mae’n ffordd wych o gwrdd â

phobl newydd a gwneud ffrindiau.

100 o Glybiau a

Chymdeithasau Undeb y Myfyrwyr ym Mangor ac mae

aelodaeth yn rhad ac am ddim.

Dysgwch iaith newydd

Ehangwch eich gorwelion ac agorwch ddrysau i ddiwylliannau

eraill trwy gofrestru mewn

dosbarth iaith 10 wythnos, am ddim i fyfyrwyr Prifysgol Bangor.

Tynnwch luniau

Gyda golygfeydd anhygoel a

llawer yn digwydd ym Mangor, ffotograffiaeth yw’r hobi

perffaith i dreulio awr neu ddwy sbâr.

Gwirfoddoli gyda’n

Prosiectau Gwirfoddoli

Undeb y Myfyrwyr Gyda dros

30 o brosiectau ar draws 6

maes gwahanol, byddwch yn siŵr o ddod o hyd i rywbeth y byddwch wrth eich bodd yn ei wneud.

Gall myfyrwyr fod yn

Arweinydd Rhwydwaith gyda Rhwydwaith Myfyrwyr Undeb y Myfyrwyr. Dysgwch sgiliau arwain newydd wrth ymgyrchu a threfnu digwyddiadau ar gyfer cymuned o fyfyrwyr sy’n rhannu’r un angerdd â chi.

Amy Stout

Sŵoleg gydag Ymddygiad Anifeiliaid

“Un o’r rhesymau dwi’n caru Bangor yw’r dirwedd o’i chwmpas a’r cyfleoedd y mae’n eu cynnig wrth astudio a phan fydd angen seibiant o’r llyfrau”.

Cadw’n heni

Gall cadw’n heini helpu lles

meddyliol yn ogystal â chorfforol.

Mae gan Chwaraeon Bangor lawer o opsiynau i’ch helpu i gadw’n heini tra’n astudio yma.

Rhowch gynnig ar y wal ddringo dan do, chwaraewch sboncen neu ymunwch ag un o’r nifer o ddosbarthiadau a gynhelir.

Cofiwch...

Mae aelodaeth campfa wedi’i chynnwys yn eich ffioedd neuaddau preswyl Prifysgol Bangor.

Beth am ddechrau Rhedeg?

Mae rhedwyr yn aml yn siarad am y buddion mae rhedeg yn ei gael ar y meddwl yn ogystal â’r corff. Beth am roi cynnig ar redeg trwy ymuno

â chlwb, grŵp cymdeithasol neu roi cynnig ar parkrun?

Mae pedwar parkrun y gallech ymuno â nhw yn ystod eich cyfnod yma ym

Mangor:

• Penrhyn

• Conwy

• Nant-y-Pandy

• Coedwig Niwbwrch

Beth am gofrestru a rhoi cynnig ar eich parkrun lleol cyn dod i Fangor?

www.parkrun.org.uk

James Szewczyk, Sŵoleg gyda Herpetoleg

“Mae Bangor wedi’ swatio rhwng mynyddoedd godidog Eryri a thraethau tawel Ynys Môn, sy’n ei gwneud yn berffaith ar gyfer archwilio. Mae’r Gymdeithas Paddleboarding yn caniatáu ichi ymgolli mewn yr amgylchoedd hyn, tra hefyd yn mwynhau’r gweithgareddau y maent yn cynnig.”

5 awgrym da i’ch rhoi ar ben ffordd!

1. Gwobr bach bob hyn a hyn Rhannwch eich nod i dasgau llai a gwobrwywch eich hun ar hyd y ffordd.

2. Gwrandewch ar gerddoriaeth

Pop, roc neu hip-hop? Ceisiwch greu rhestr chwarae sy’n codi’ch hwyliau.

3. Rhowch hwb i chi’ch hun Rhowch ganmoliaeth i’ch hun ac enwi 5 peth rydych yn dda am eu gwneud!

4. Ewch allan i’r awyr iach Ewch am dro, am bicnic, neu eisteddwch ar fainc yn y parc am 10 munud.

5. Cysur mewn cwmni

Ceisiwch ddod o hyd i ddosbarth neu rywun arall sy’n gweithio tuag at yr un nod â chi.

MYND AM DRO

I gael agwedd fwy hamddenol tuag at ymarfer corff dyddiol, mae Bangor yn cynnig digonedd o fannau prydferth ar gyfer mynd am dro hamddenol.

Dyma rai chwaraeon lleol sy’n boblogaidd gyda’n myfyrwyr.

‘Roman Camp’

Er ei enw, nid oes gan y Gwersyll

Rhufeinig unrhyw beth i’w wneud â’r

Rhufeiniaid, ond roedd yna bryngaer Normanaidd o’r 12fed ganrif yma unwaith. Mae’n cynnig golygfeydd godidog o’r ddinas, y pier, a’r ddwy bont sy’n cysylltu Bangor ac Ynys Môn. Mae yna lawer o lwybrau yn arwain i fyny at y safle, mae un llwybr wedi ei leoli ar ben Lon Cariadon.

Cylch Maen

Yn cael ei adnabod yn lleol fel y ‘Cylch Cerrig’, mae’r man gwyrdd hardd hwn yn gorwedd rhwng prif adeiladau’r brifysgol ac Afon Menai. Mae myfyrwyr yn aml yn dod yma i ymlacio a chael picnic. Cylch yr

Orsedd o Eisteddfod Genedlaethol 1931 yw’r Cylch Maen. Wedi’i leoli ychydig oddi ar Siliwen Road.

Bont Borth

Gallwch gerdded i Borthaethwy

mewn tua 45 munud o ganol

Bangor. Mae Porthaethwy yn

cyfeirio at y pentref ar yr ochr aralli

Bont Borth. Mae’r pentref yn cynnig llwybrau cerdded hyfryd ac mae

golygfeydd syfrdanol o’r bont. I gyrraedd yno, dilynwch Ffordd Caergybi o Fangor.

Pier Garth

Ffefryn mawr ymhlith ein myfyrwyr. Mae gan bier Garth ystafell dê ar ddiwedd y strwythur 460m.

Mae golygfeydd godidog o’r culfor, Biwmares, Llandudno ac Eryri i’w gweld o’r pier. Wedi’i leoli ar Ffordd Garth.

Lon Las Ogwen

Hefyd yn cael ei gyfeirio ato fel Lôn

Cegin, mae’r llwybr hwn yn rhedeg ar hyd Afon Cegin ac yn rhan o rwydwaith Lonydd Glas. Gan gychwyn ym Mhorth Penrhyn, mae’n ymestyn yr holl ffordd i bentref Tregarth. Mae Porth Penrhyn ar y chwith wrth i chi adael Bangor ar hyd Lon Glan Môr, ychydig cyn cyrraedd Ffordd Llandegai.

CynaliadwyeddMae’n ffordd o fyw

Mae cynaladwyedd yn

hanfodol bwysig i Brifysgol Bangor, a’n nod yw hyrwyddo cynaliadwyedd mewn gweithgareddau ymchwil, busnes a menter.

Biniau ailgylchu mewn mannau cyhoeddus

Mae Prifysgol Bangor wedi gosod biniau ailgylchu mewn mannau cyhoeddus fel y gallwn

ni i gyd wneud ein rhan dros yr amgylchedd pan fyddwn ni allan.

Ymgyrch Ailddefnyddio

Diwedd Tymor

Mae’r ymgyrch Ail-ddefnyddio

Diwedd Tymor yn rhoi cyfle i fyfyrwyr mewn neuaddau roi

eitemau diangen y gellir eu hailddefnyddio i elusen leol. Gellir rhoi eitemau gan gynnwys llestri, sosbenni a phadellau, dillad, esgidiau, neu offer cegin.

Caffi Trwsio

Mae gwirfoddolwyr yn cynnal y digwyddiad hwn

sy’n canolbwyntio ar atgyweirio

eitemau bob dydd fel dillad, beiciau, a dyfeisiau trydanol bach i ddileu gwastraff.

Meddyliwch cyn yfed

Rydym yn canolbwyntio ar leihau gwastraff.

» Dim ond ar gais y bydd gwellt yfed ar gael.

» Dewch â’ch cwpan a’ch potel y gellir eu hailddefnyddio eich

hun a byddwch yn cael 10c oddi ar bob diod boeth yn y Brifysgol ac mae ail-lenwi dŵr am ddim.

» Darperir llwyau metel ym mhob un o safleoedd arlwyo’r

Brifysgol yn lle trowyr tafladwy.

Gwirfoddolwch

yn ein Gardd Fotaneg

Mae gwirfoddoli yn Nhreborth yn ffordd wych o ddysgu mwy am blanhigion a’r amgylchedd naturiol.

Mae llawer o’r ardd yn cael ei chynnal a chadw gan gefnogaeth gwirfoddolwyr.

Darganfyddwch sut allech chi gymryd rhan...

draws y Brifysgol yn 2022 gyda’r nod o dorri 25% o allyriadau carbon deuocsid cyfwerth (CO2e) y Brifysgol.

Mae hwn yn darged uchelgeisiol ond credwn y gallwn ei gyrraedd. Bydd angen i ni edrych ar wahanol ffyrdd o weithio a bydd angen cefnogaeth pob un aelod o gymuned y Brifysgol i’w gyflawni.W

Ein 3 maes targed allweddol...

» YNNI

» TEITHIO

» GWASTRAFF

Mae casgliadau sbwriel yn digwydd trwy gydol y flwyddyn ac yn ein helpu i amddiffyn ein cefnforoedd a mannau natur.

Campws Byw

Rhaglen o ddigwyddiadau

amrywiol a hwyliog i fyfyrwyr sy’n byw yn Neuaddau Preswyl y Brifysgol.

Mae aelodaeth Campws Byw wedi’i gynnwys yn ffioedd neuaddau predwyl Prifysgol Bangor!

Digwyddiadau sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr

» Wedi’i deilwra i’r flwyddyn academaidd.

» Bwyd am ddim cyn sesiynau adolygu trwm.

» Cyfarfod a chymysgu wrth gyrraedd.

» Sesiynau lles meddwl i gael gwared â straen.

Archwiliwch Bangor a thu hwnt

» Teithiau Dianc ac Archwilio Rheolaidd.

» Ymweliadau ag Eryri a thraethau lleol.

BYDDWCH YN EGNÏOL

BYDDWCH YN GYSYLLTIEDIG

BYDDWCH YN YSBRYDOL

BYDDWCH YN RHAN O CAMPWS BYW

» Digwyddiadau bwyd am ddim: rhostiau dydd Sul, picnics, barbeciw.

Ffocws lles

» Yn annog byw’n heini a bwyta’n iach.

» Mannau cymdeithasol a chyfleusterau sy’n caniatáu i fyfyrwyr ymlacio.

» Sesiynau yoga wythnosol yn Acapela.

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.