BANGOR Y LLE I MI “Fel dinas lai, mae Bangor gyda chymuned glos sydd bellach wedi dod yn gartref oddi cartref i mi” Sabrina Zulkifli Systemau Cyfrifiadurol
Cynnwys. 1. 2. 3. 4. 5. 6. 7. 8. 9.
Cysylltwch ag eraill Gwneud ffrindiau Cadwch yn heini. Dysgwch sgil newydd. Pŵer y planhigion. Cynaliadwyedd - mae’n ffordd o fyw. Cymryd rhan ym Campws Byw Cefnogi ein myfyrwyr Rydym yn gofalu am eich lles
3 4 6 8 10 12 14 16 18
Cysylltwch ag eraill. Gall dechrau yn y brifysgol fod yn gyfnod pryderus mae symud i ddinas newydd a gwneud ffrindiau newydd yn bryderon y mae pawb yn eu profi. Y peth pwysicaf i’w gofio yw bod pawb yn yr un sefyllfa ac nid chi yw’r unig un sy’n teimlo fel yna. Byddwch yn ymgartrefu’n gyflym yma ym Mangor - mae’r ddinas yn fach, yn gyfeillgar ac mae naws groesawgar iawn yma. Ond, os ydych chi’n teimlo ychydig yn bryderus am wneud ffrindiau, dyma ddwy ffordd y gallwch chi gysylltu â staff a myfyrwyr cyn i chi gyrraedd.
Cysylltwch ag ymgeiswyr eraill ar Ap Campus Connect
Mae ein hap Campus Connect yn ofod lle gwahoddir pob ymgeisydd i gwrdd ag eraill ar eu cwrs, yn eu llety ac sy’n rhannu’r un diddordebau. Gallwch chi sgwrsio mewn grwpiau neu anfon negeseuon uniongyrchol at eraill sydd hefyd yn dechrau eu hastudiaethau ym Mangor y mis Medi hwn. Dylech fod wedi cael e-bost eisoes ar sut i lawrlwytho a chreu eich cyfrif, ond os nad ydych wedi ei dderbyn, gallwch gofrestru yma. Sgwrsiwch â staff a myfyrwyr ar-lein
Os oes angen unrhyw gyngor arnoch am eich cwrs, rhestrau darllen neu eisiau cyflwyno eich hun, gallwch gysylltu â staff a myfyrwyr yma.
Gwneud ffrindiau. Mae clybiau a chymdeithasau ym Mangor yno i’ch helpu chi i ddod o hyd i gymuned o bobl sydd â’r un diddordebau â chi. Gall treulio amser gydag eraill sydd â’r un diddordeb, angerdd a ffordd o fyw, ddarparu rhwydwaith cymorth ychwanegol y tu allan i’ch
Gwylio adar LHDT+
DJ
astudiaethau academaidd. Gyda thros 200 o Glybiau a Chymdeithasau ar gael, a rheiny i gyd am ddim i ymuno â hwy, dewch i wneud ffrindiau! Am restr lawn o Glybiau a Chymdeithasau ewch i wefan Undeb y Myfyrwyr.
Gemau Band cyngerdd
Cerdded cŵn
Ffilm
Sŵolegol Gweu a sgwrs
Gwirfoddolwch i wneud gwahaniaeth Ydych chi’n teimlo angerddol am achub y blaned neu eisiau helpu eraill? Mae yna nifer o brojectau gwirfoddoli y gallwch chi gymryd rhan ynddynt tra ym Mhrifysgol Bangor. Dewch i’n helpu ni i ddod yn gampws cyfeillgar i ddraenogod, mynd â’r henoed allan, neu helpu
mewn digwyddiadau dementiagyfeillgar – gall gwirfoddoli eich helpu i ennill sgiliau newydd a gall helpu i leihau teimladau straen, dicter, a phryder. Edrychwch ar wefan Undeb y Myfyrwyr am yr holl gyfleoedd gwirfoddoli diweddaraf.
Mae Arweinwyr Cyfoed wrth law i helpu! Mae llawer o’n myfyrwyr yn dewis Bangor oherwydd natur fach a chyfeillgar y Brifysgol a’r dref. Mae Arweinwyr Cyfoed, sy’n fyfyrwyr presennol, yn rhan fawr o groesawu myfyrwyr newydd i Fangor a byddant wrth law i’ch helpu i ymgartrefu yn y Brifysgol.
Pan fyddwch yn cyrraedd, byddwch yn cwrdd â llawer o Arweinwyr Cyfoed mewn digwyddiadau amrywiol. Bydd un Arweinydd Cyfoed wedi’i neilltuo i chi hefyd ac fe fydden nhw yn cadw mewn cysylltiad agosach â chi.
Cadwch yn heini. Gall cadw’n heini helpu lles meddyliol yn ogystal â chorfforol. Mae gan Chwaraeon Bangor lawer o opsiynau i’ch helpu i gadw’n heini tra’n astudio yma.
Rhowch gynnig ar y wal ddringo dan do, chwaraewch sboncen neu ymunwch ag un o’r nifer o ddosbarthiadau a gynhelir.
“Mae Bangor yn swatio rhwng mynyddoedd godidog Eryri a thraethau tawel Ynys Môn, sy’n ei wneud y lle perffaith i fynd i grwydro. Mae’r Gymdeithas Padlfyrddio yn caniatáu ichi ymgolli yn y llefydd hyn, tra hefyd yn mwynhau’r gweithgareddau sydd ganddynt i’w cynnig.” James Szewczyk, Swoleg gyda Herpetoleg
Io a Cofiwch, os ydych yn byw yn neuaddau preswyl Prifysgol Bangor mae eich aelodaeth o’r gampfa wedi’i gynnwys yn y pris. Gallwch ddechrau ar yr ymarfer hwn gyda Ceri a Jay, Cynorthwywyr Chwaraeon - a’i wneud yn y gampfa neu gartref.
oga i’r corff a’r meddwl
Mae rhedwyr yn aml yn siarad am y buddion mae rhedeg yn ei gael ar y meddwl yn ogystal â’r corff. Beth am roi cynnig ar redeg trwy ymuno â chlwb, grŵp cymdeithasol neu roi cynnig ar parkrun? Mae pedwar parkrun y gallech ymuno â nhw yn ystod eich cyfnod yma ym Mangor: • Penrhyn • Conwy • Nant-y-Pandy • Coedwig Forest Beth am gofrestru a rhoi cynnig ar eich parkrun lleol cyn dod i Fangor? www.parkrun.org.uk
5 awgrym da i’ch rhoi ar ben ffordd!
1. Gwobr bach bob hyn a hyn Rhannwch eich nod i dasgau llai a gwobrwywch eich hun ar hyd y ffordd. 2. Gwrandewch ar gerddoriaeth Pop, roc neu hip-hop? Ceisiwch greu rhestr chwarae sy’n codi’ch hwyliau. 3. Rhowch hwb i chi’ch hun Rhowch ganmoliaeth i’ch hun ac enwi 5 peth rydych yn dda am eu gwneud! 4. Ewch allan i’r awyr iach Ewch am dro, am bicnic, neu eisteddwch ar fainc yn y parc am 10 munud. 5. Cysur mewn cwmni Ceisiwch ddod o hyd i ddosbarth neu rywun arall sy’n gweithio tuag at yr un nod â chi.
Dysgwch sgil newydd. Gall dechrau hobi newydd neu ddysgu sgil newydd fod yn hwyl ac yn werth chweil. Gall gwneud rhywbeth rydych yn ei fwynhau eich helpu hefyd i leddfu straen ac mae’n ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau! Mae dros 200 o Glybiau a Chymdeithasau Undeb y Myfyrwyr ym Mangor ac mae aelodaeth yn rhad ac am ddim. Dyma rai syniadau sut y gallech wneud defnydd da o’ch amser sbâr fel myfyriwr yma. Dysgwch iaith newydd Ehangwch eich gorwelion ac agorwch ddrysau i ddiwylliannau eraill trwy gofrestru mewn dosbarth iaith 10 wythnos. Tynnu lluniau Gyda golygfeydd anhygoel a llawer yn digwydd ym Mangor, ffotograffiaeth yw’r hobi perffaith i dreulio awr neu ddwy sbâr.
Ymunwch â’r Syrcas Neu o leiaf meistroli ychydig o sgiliau syrcas trwy ymuno â’n Cymdeithas Syrcas - Cirque du Soc. Byddwch yn greadigol Crëwch ddarn addurniadol ar gyfer eich ystafell neu gwnewch anrheg bersonol i ffrind – gall y Gymdeithas Knit and Natter, y Gymdeithas Grefft, a’r Gymdeithas Gelf eich helpu ar eich ffordd i greu eich campwaith!
“Un o’r rhesymau rydw i’n caru Bangor yw’r dirwedd o’i chwmpas a’r cyfleoedd y mae’n eu cynnig, wrth astudio a phan fydd angen seibiant o’r llyfrau.” Amy Stout, Swoleg gydag Ymddygiad Anifeiliaid
Pŵer y planhigion. “Gall ddod o hyd i ryseitiau newydd a rhoi cynnig ar fwydydd newydd fod yn lot o hwyl, ac i’r rhan fwyaf o bobl, mae’n bosibl bodloni’ch anghenion maeth ar ddiet fegan sydd wedi’i gynllunio’n dda - yn enwedig gyda’r amrywiaeth
fawr o fwydydd sy’n seiliedig ar blanhigion sydd ar gael yn awr! Mae pawb yn unigryw a chredaf ein bod yn gwneud ein gorau, boed hynny’n feganiaeth lawn, llysieuaeth, neu ddewis opsiwn heb gig yn achlysurol. Ni ddylai feganiaeth eich cyfyngu, ac rydw i’n mwynhau’r rhyddid o ddewis bwyd o fewn yr amrywiaeth eang o fwydydd sydd ddim yn cynnwys cynhyrchion anifeiliaid” Elsie Pearce, Llywydd VegSoc 2021/22
Bwyd sy’n dda i’r blaned Mae yna lawer o ffyrdd y gallwch fwynhau bwyd a gofalu am y blaned. Mae BwydDaBangor yn gaffi/bwyty amgylcheddol cynaliadwy ar stryd fawr Bangor. Mae pob un o lefydd bwyd y Brifysgol hefyd wedi ymrwymo
i ddarparu bwyd blasus, sy’n rhoi gwerth am arian ac yn defnyddio cynhwysion ffres a lleol lle bo modd. Mae yna hefyd lawer o opsiynau fegan a llysieuol ar gael. Gallwch hefyd siopa’n lleol ym Marchnad Bangor bob dydd Gwener.
Rhowch gynnig ar rai ryseitiau llysieuol blasus gan ein VegSoc Byrgyrs ffa pob
Cawl Courgette
Cynhwysion 1x tin o ffa pob, 1 nionyn, 4x tafell o fara, pupur coch, garlleg, 3x taten, tsili, tabasco, persli, pupur.
Cynhwysion 2 courgette mawr, 1 nionyn, menyn (fegan os dymunir), stoc (llysiau), 1 llwy fwrdd o iogwrt (soi/ceirch/almon os dymunir), halen a phupur.
Dull 1. Ffriwch y nionyn, pupur coch a garlleg ac ychwanegu chilli a tabasco 2. Coginiwch y tatws ac yna eu stwnshio 3. Ychwanegwch y ffa, persli a phupur i’r stwnsh 4. Torrwch y bara yn friwsion bara a’i ychwanegu at y gymysgedd 5. Coginiwch nes bod y gymysgedd yn ddigon trwchus i ffurfio pasteianau cyn ffrio pob pasteian mewn olew. Mae’n gwneud tua 8 byrgyr.
Dull 1. Coginiwch y nionyn nes ei fod yn dryloyw/brownio 2. Ychwanegwch y courgette wedi’u torri’n fân a’r halen 3. Coginiwch nes bod y sudd yn cael ei ryddhau 4. Ychwanegwch y stoc a choginio’r cymysgedd nes ei fod yn feddal 5. Ychwanegwch y pupur cyn ei gymysgu a’i weini
Cynaliadwyedd mae’n ffordd o fyw. Mae cynaliadwyedd yn hanfodol bwysig i Brifysgol Bangor, a’n nod yw hyrwyddo cynaliadwyedd mewn gweithgareddau ymchwil, busnes a menter. Rydym wedi ymrwymo i lesiant cenedlaethau’r dyfodol ac fel myfyriwr ym Mangor mae sawl ffordd i chi gymryd rhan.
Dyma ychydig o ffyrdd y gallwch ein helpu i barhau gyda’n cenhadaeth gynaliadwy. Biniau ailgylchu mewn mannau cyhoeddus Mae Prifysgol Bangor wedi gosod biniau ailgylchu mewn mannau cyhoeddus fel y gallwn ni i gyd wneud ein rhan dros yr amgylchedd pan fyddwn ni allan. Ymgyrch Ailddefnyddio Diwedd Tymor Mae’r ymgyrch Ail-ddefnyddio Diwedd Tymor yn rhoi cyfle i fyfyrwyr mewn neuaddau roi eitemau diangen y gellir eu
hailddefnyddio i elusen leol. Gellir rhoi eitemau gan gynnwys llestri, sosbenni a phadellau, dillad, esgidiau, neu offer cegin.
Meddyliwch cyn yfed Rydym yn canolbwyntio ar leihau’r defnydd o wellt yfedar draws y campws, a dyna pam mae maent wedi’u tynnu oddi ar bob cownter a dim ond ar gais y byddant ar gael. Rhoi’r gorau i gwpanau papur Peidiwch â thaflu’ch arian ar eitemau untro, dewch â’ch cwpan a’ch potel eich hun y gellir eu hailddefnyddio gallwch eu hail-lenwi â dŵr am ddim a byddwch yn cael 10c oddi ar bob diod boeth ym mhob un o safleoedd arlwyo’r Brifysgol. I ddarllen mwy am ymgyrchoedd cynaliadwy’r Brifysgol ewch i’n gwefan.
Mislif Cynhwysol a Chyfeillgar i’r Blaned Gwirfoddolwch yn ein Gerddi Botaneg
Mae gwirfoddoli yn Nhreborth yn ffordd wych o ddysgu mwy am blanhigion a’r amgylchedd naturiol. Yn wir, mae llawer o’r ardd yn cael ei chynnal a’i chadw gan gefnogaeth gwirfoddolwyr ac rydym yn hynod ddiolchgar am yr holl gefnogaeth a gawn. Dysgwch sut allech chi gymryd rhan...
Mae Undeb Myfyrwyr Bangor wedi gweithredu Cynllun Peilot Tlodi Mislif ac Urddas Mislif sy’n gynaliadwy yn amgylcheddol, ariannol a chymdeithasol.
Mae cynhyrchion untro sy’n 100% di-blastig gyda phecynnau ailgylchadwy ar gael mewn amrywiaeth o doiledau ar draws y campws ac wedi’u dosbarthu mewn peiriannau plastig wedi’u hailgylchu. Darllenwch fwy am y cynllun hwn.
Cadwch lygad am sesiynau codi sbwriel a gynhelir trwy gydol y flwyddyn a gallwch ein helpu i ddiogelu ein cefnforoedd a’n mannau natur.
Cymryd rhan ym Campws Byw. Mae’r tîm Campws Byw yma i ddarparu rhaglen o ddigwyddiadau amrywiol a hwyliog i’r holl fyfyrwyr sy’n byw yn neuaddau preswyl Prifysgol Bangor. Mae ein hamserlen digwyddiadau wythnosol wedi’i chynnwys yn eich ffioedd Neuadd, sy’n golygu y gallwch fynd gyda’ch ffrindiau i’r rhan fwyaf o nosweithiau yn ystod yr wythnos, heb orfod poeni am y gost.
Mae’r calendr o ddigwyddiadau yn amrywiol ac wedi’i greu gan fyfyrwyr, ar gyfer myfyrwyr. Mae ein tîm yn deall uchafbwyntiau ac isafbwyntiau’r flwyddyn academaidd, felly rydym yn teilwra ein calendr i wneud yn siŵr fod gennych y digwyddiad iawn ar yr amser iawn. Bwyd am ddim cyn sesiwn adolygu trwm? Mae wedi’i gynnwys yn y calendr. Cyfarfod a sgwrsio wrth gyrraedd - wedi’i drefnu!
Sesiynau lles meddwl i gael gwared â straen – rydym yn cynnig hynny hefyd, ochr yn ochr â sesiynau yoga wythnosol yn ein capel Acapela, ar ei newydd wedd. I sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau o’r ardal, rydym hefyd yn cynnal digwyddiadau Dianc a Darganfod rheolaidd sy’n mynd â chi allan o’r ddinas i’r ardal o’n cwmpas yn Eryri. Yn yr haf rydym yn hoffi trefnu teithiau i’n traethau lleol hyfryd, ac mae yna ddigonedd o ddigwyddiadau lle ceir bwyd am ddim fel cinio dydd Sul, picnics a barbeciws trwy gydol y flwyddyn, felly ni fyddwch yn llwgu!
Lles gyda Campws Byw
Mae Campws Byw yn annog myfyrwyr i fod yn heini a bwyta’n dda - mae gennym hyd yn oed ein Llyfr Coginio Campws Byw ein hunain, wedi’i lunio gan gyn-fyfyrwyr. Rydym yn gwybod nad yw bob amser yn hawdd rhoi eich llesiant yn gyntaf, felly rydym yn sicrhau ein bod yn rhoi cymaint o gyfleoedd â phosibl i chi. Mae gennym fannau cymdeithasol gwych a chyfleusterau ar draws ein dau bentref, sy’n eich galluogi i ymlacio a mwynhau ein digwyddiadau mewn lleoliadau perffaith, neu i gynllunio digwyddiadau i’ch hunain. Rydym yn cynnal ein digwyddiadau ym Mhentref Ffriddoedd ac ym Mhentref Santes Fair ac mae croeso i chi yn y naill bentref neu’r llall, waeth ble rydych chi’n byw. Neuaddau preswyl Prifysgol Bangor yw eich cartref tra eich bod oddi cartref, felly, gwnewch y mwyaf o’ch amser gyda ni ac ymunwch â digwyddiadau Campws Byw.
Cefnogi ein myfyrwyr. Dylai eich amser yn y Brifysgol fod yn werth chweil ac yn bleserus. Rydym yn rhoi blaenoriaeth uchel i ofalu am ein myfyrwyr a’u cefnogi trwy gydol eu hamser yma. O’r Wythnos Groeso ymlaen, byddwch yn cael cymaint o help a chefnogaeth ag y bo modd gyda materion iechyd a lles yn ogystal â’ch gwaith academaidd.
M ff t a n
1
Cyngor gan ein myfyrwyr.... Dyma Arddun Rhiannon, wnaeth astudio yn yr Ysgol Gymraeg, yn trin a thrafod materion iechyd meddwl a hefyd yn sôn am ei phrofiadau ym Mangor. Mae’r Gweinyddu a Gwasanaethau Myfyrwyr yn cynnig cefnogaeth i fyfyrwyr ar amrywiaeth o faterion sy’n ymwneud â bywyd myfyrwyr. Ewch i’r wefan i weld rhestr lawn o wasanaethau ar gael.
S a
2
3
4
£
Syniadau arbed arian ar fwyd
Mae gan ein myfyrwyr lawer o ffyrdd i’ch helpu i arbed costau tra yn y brifysgol. Dyma rai awgrymiadau arbed arian maen nhw wedi’u rhannu gyda ni.
1. Prynwch mewn swmp - mae pasta a reis yn para am amser hir felly prynwch y bag mwyaf ac arbedwch arian yn y tymor hir. 2. Rhannwch eich prydau gofynnwch i bawb yn y fflat rannu’r gost a choginio lasagne mawr neu ginio dydd Sul. 3. Ewch i siopa gyda’r hwyr - bydd llawer o archfarchnadoedd yn gostwng prisiau rhai eitemau ar ddiwedd dydd. 4. Mae’r rhewgell yn ffrind i chi - paratowch bryd a rhewi’r gweddill, mae’n para llawer hirach na’i gadw yn yr oergell.
Poeni am arian?
Nid ydym am i’ch profiad prifysgol gael ei ddifetha gan bryderon diangen am arian. Mae ein Huned Cymorth Ariannol wrth law i’ch helpu gyda chyngor, gwybodaeth ac arweiniad ar bob agwedd ar gyllid myfyrwyr. Os ydych yn ystyried chwilio am waith i helpu gyda’ch costau byw tra yn y brifysgol gall ein Tîm Cyflogadwyedd eich helpu i ddod o hyd i waith rhan-amser. Cofiwch, os ydych eisoes yn gweithio i gadwyn fawr, gofynnwch am newid lleoliad! Mae digonedd o gadwyni bwyd adnabyddus, siopau coffi ac archfarchnadoedd yma ym Mangor.
“Rwyf wrth fy modd yn astudio ym Mangor oherwydd yr ymdeimlad anhygoel o gymuned, gyda’m ffrindiau ar y cwrs a’r cymdeithasau, a’r bobl rwy’n cwrdd â nhw yn y dafarn, mae pawb yn hynod o gyfeillgar yma!” Phoebe Iddon, Athroniaeth, Crefydd a Cherddoriaeth
Rydym yn gofalu am eich lles. Mae ein Gwasanaeth Llesiant yn rhan o’r Gwasanaeth Cymorth a Lles Myfyrwyr sydd wedi’i leoli o fewn Gwasanaethau Myfyrwyr. Mae gennym gwnselwyr proffesiynol cymwysedig, gweithwyr iechyd meddwl
Cefnogaeth Cyfoed-i-Gyfoed
Mae “Cyswllt@Bangor” yn broject cydweithredol arloesol a dylanwadol dan arweiniad myfyrwyr sy’n cael ei redeg gan wirfoddolwyr ac sy’n darparu cefnogaeth cyfoedion a grŵp trwy gysylltu ar-lein ac wyneb yn wyneb. Mae’r Tîm Cyswllt yn canolbwyntio ar hyrwyddo cysylltiadau cadarnhaol â chyfoedion, cymorth iechyd meddwl a lles i fyfyrwyr ar gampws y brifysgol a thu allan. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn yn Undeb y Myfyrwyr am Cyswllt@Bangor pan fyddwch yn cyrraedd yma.
proffesiynol ac arbenigwyr gwybodaeth sydd â phrofiad o helpu myfyrwyr i ddelio â phob math o faterion ymarferol ac emosiynol megis materion yn ymwneud ag astudio, trawma, cysylltiadau â phobl, rheoli emosiynau, materion iechyd meddwl yn ymwneud ag anabledd, hygyrchedd, aflonyddu, cynhwysiant a llawer mwy.
Rheoli straen arholiadau
Mae straen yn rhywbeth rydym i gyd yn ei brofi o bryd i’w gilydd. Mae gan sawl agwedd ar fywyd prifysgol y potensial i achosi straen, gan gynnwys addasu i amgylchedd byw newydd, bodloni gofynion academaidd, datblygu cyfeillgarwch a pharatoi ar gyfer arholiadau a sefyll arholiadau. Edrychwch ar ein canllaw rheoli Straen Arholiadau.
Haciau Astudio “Mae Bangor wedi dod yn gartref oddi cartref i mi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae’n lle gwych i astudio. Rwy’n teimlo fy mod yn cael cefnogaeth lawn gan fy nghyfoedion a’r darlithwyr. Rwy’n sicr nad oes lle tebyg iddo.” Phoebe Crewe, Cerddoriaeth
Gall adolygu ac arholiadau fod yn gyfnod llawn straen, felly rhowch gynnig ar rai o’r haciau astudio hyn i helpu i wneud y broses yn haws ei rheoli. • • • • • •
Trefnu eich amser Symud popeth a all dynnu eich sylw Cael apiau astudio defnyddiol Ysgrifennu eich nodiadau / cardiau nodiadau Defnyddio lliw gwahanol i fodiwlau gwahanol Cymryd egwyl yn rheolaidd
Chwe strategaeth ar gyfer delio â straen
Sut beth ydy bod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor?
Cam Un: Byddwch yn ofalus am yr hyn rydych chi’n ei fwyta a’i yfed Cam Dau: Cael digon o gwsg Cam Tri: Gwnewch ymarfer corff yn rheolaidd Cam Pedwar: Rheolwch eich anadlu Cam Pump: Gwnewch amser i gael hwyl Cam Chwech: Gwella’ch sgiliau astudio Darllenwch y canllaw llawn ar ein gwefan.
Ymunwch â’r sgwrs #Bangor2022 Prifysgolbangor /Prifysgolbangor @Prifysgolbangor @ prifysgolbangor