Diwrnod Digar

Page 1

8 Mai 2018

Eich tocynnau i’n Cyngerdd Teulu (13 Mai 2018) Diweddariad Teithio Diolch am archebu tocynnau i’n Cyngerdd Teulu yn Neuadd Dewi Sant ar 13 Mai; gobeithio’ch bod chi’n edrych ymlaen at y cyngerdd gymaint â ni! Hoffwn eich hysbysu bod Caerdydd yn cymryd rhan mewn diwrnod digar ar 13 Mai. Bydd 14 stryd ar gau i gerbydau yng nghanol y ddinas, yn cynnwys: Heol y Porth, Stryd y Castell, ardal Parc Cathays, a’r rhan helaeth o Ffordd y Gogledd. Dewch draw i Gaerdydd ychydig yn gynt na’r arfer i wneud yn siŵr eich bod yma mewn da bryd ar gyfer y cyngerdd, ac er mwyn manteisio ar ein Gweithgareddau Am Ddim Cyn y Cyngerdd! Cyfle i drio offerynnau o’r gerddorfa AM DDIM O 2pm ymlaen, ac yn ystod egwyl y cyngerdd, bydd yna gyfle i drio offerynnau o’r gerddorfa. Felly, os ydych chi’n cyrraedd ychydig yn gynnar, dewch i ymuno â ni yn Neuadd Dewi Sant! Cyrraedd Neuadd Dewi Sant Amgaeaf fap o’r ffyrdd sydd ar gau yn y ddinas ar 13 Mai. Am wybodaeth ynghylch amserlenni trafnidiaeth cyhoeddus, a’r ffyrdd sydd ar gau cymrwch olwg ar wefan a chyfryngau cymdeithasol Traveline Cymru a gwefan a chyfryngau cymdeithasol Cyngor Caerdydd i gynllunio’ch taith i Gaerdydd. Rhagor o wybodaeth Cofiwch gysylltu â ni os ydy’r manylion uchod yn aneglur neu os oes arnoch eisiau rhagor o wybodaeth. Rhowch ganiad i Linell Cynulleidfaoedd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ar 0800 052 1812 (ddydd Llun tan ddydd Gwener) a bydd un o aelodau’r tîm yn falch iawn o roi help llaw i chi. Gobeithiwn cewch amser gwych yn y cyngerdd ddydd Sul!


TRAVELINE CYMRU Gwefan

www.cymraeg.traveline.cymru/digwyddiadau/diwrnod-di-gar-caerdydd-dydd-sul-13-mai-2018

Facebook www.facebook.com/TravelineCymru Twitter

@TravelineCymru

CYNGOR CAERDYDD Gwefan

www.caerdydd.gov.uk

Facebook www.facebook.com/cardiff.council1 Twitter

@CyngorCaerdydd


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.