Bangor Hospital - Yma i’ch Helpu Gyda’ch Profedigaeth - Cymraeg

Page 19


Bwrdd lechyd Prifysgol

University Health Boar d

Yma i Helpu

Ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, hoffem gydymdeimlo â chi yn eich profedigaeth. Mae llawer o bethau y bydd angen i chi eu gwneud dros y dyddiau nesaf a bwriad y llyfryn hwn yw eich helpu yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Mae staff mewn ysbytai a gwasanaethau cymunedol ar gael i roi’r wybodaeth, y cyngor a’r cymorth sydd eu hangen arnoch.

Gall y Tîm Caplaniaeth Aml-Ffydd roi cyngor i chi ynghylch cysylltu ag arweinwyr cymunedau ffydd yn ogystal â chynnig cymorth ar faterion ysbrydol a diwylliannol.

Rydym yn byw mewn cymdeithas amlddiwylliannol lle mae ysbrydolrwydd, ffydd a diwylliant ein cymuned leol yn adlewyrchu ysbrydolrwydd, ffydd a diwylliant y byd ehangach. Mae ysbrydolrwydd, ffydd a diwylliant yn arbennig o bwysig yn ystod gofal diwedd oes a gofal yn ystod profedigaeth. Mae’r gwasanaeth Caplaniaeth Ysbytai yn ffynhonnell gwybodaeth ac arweiniad defnyddiol yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae’r gwasanaeth ar gael 24/7 drwy switsfwrdd yr ysbyty.

Mae’r llyfryn hwn yn cynnwys gwybodaeth ymarferol i berthnasau yn dilyn profedigaeth yn ogystal â rhywfaint o arweiniad am y teimladau ac ymateb i alar a allech fod yn eu profi.

Cyfeirnod: Llyfryn Profedigaeth (BAN)

Dyddiad cyhoeddi: Awst 2024

Dyddiad Adolygu: Awst 2026

Cyhoeddwyd gan RNS Publications © Ffôn: 01253 832400 R29

Yn dilyn marwolaeth anwylyd, yn un o’r ysbytai canlynol bydd angen i chi gysylltu â:

Gwasanaethau Profedigaeth

Ysbyty Glan Clwyd

Bodelwyddan

LL18 5UJ

Ffôn: 03000 844123

Dydd Llun i ddydd Gwener 10am - 4pm (ac eithrio gwyliau banc)

Gwasanaethau Profedigaeth

Ysbyty Maelor

Wrecsam

LL13 7TD

Ffôn: 03000 847570

Dydd Llun i ddydd Gwener 10am - 4pm (ac eithrio gwyliau banc)

Gwasanaethau Profedigaeth

Ysbyty Gwynedd

Bangor

LL57 2PW

Ffôn: 03000 850865

Dydd Llun i ddydd Gwener 10am - 4pm (ac eithrio gwyliau banc)

Bydd y Gwasanaethau Profedigaeth yn rhoi gwybod i chi beth fydd yn digwydd nesaf yn dilyn marwolaeth eich anwylyd.

Archwiliwr Meddygol

Mae pob marwolaeth yn cael ei hadolygu gan feddyg annibynnol a elwir yn Archwiliwr Meddygol. Nid cyflogai

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw’r Archwiliwr Meddygol – mae’n gwbl annibynnol. (Gallai’r broses gymryd hyd at 10 diwrnod gwaith o’r dechrau i’r diwedd.)

Bydd yr Archwiliwr Meddygol yn craffu ar nodiadau meddygol y claf, yna caiff y wybodaeth ei throsglwyddo i swyddog archwiliwr meddygol. Bydd swyddog yr archwiliwr meddygol yn siarad â’r meddyg a wnaeth drin y claf ddiwethaf.

Os cytunir ar achos y farwolaeth, bydd swyddog yr archwiliwr meddygol yn cysylltu â’r perthynas. Bydd yn dweud wrthynt beth sydd wedi’i gytuno fel achos y farwolaeth a hefyd yn gofyn a oedd unrhyw bryderon ynghylch triniaeth neu ofal y claf cyn iddo farw.

Ar yr amod nad oes unrhyw bryderon, bydd swyddog yr archwiliwr meddygol yn anfon y dystysgrif feddygol wedi’i chwblhau i Swyddfa’r Cofrestrydd yn yr Ardal lle digwyddodd y farwolaeth.

Bydd y Cofrestrydd yn ffonio’r perthynas i wneud apwyntiad i fynd i’r swyddfa i gofrestru’r farwolaeth.

Ffôn: 02921 500699

E-bost: northwales.medicalexaminersoffice@wales.nhs.uk

Rôl yr Uwch Grwner

Yn achlysurol bydd angen i’r meddyg hysbysu’r Uwch Grwner am farwolaeth y claf. Y Crwner fydd yn penderfynu ar un o’r canlynol:

1 - Yn cytuno ag achos y farwolaeth a bydd yn rhoi Rhan A i’r cofrestrydd.

2 - Bydd yn gorchymyn post mortem i sefydlu achos marwolaeth.

3 - Bydd yn agor ac yn gohirio cwest heb bost mortem.

Os - 1 Bydd y Cofrestrydd yn ffonio’r perthynas gydag apwyntiad.

Os - 2 neu 3 bydd Swyddog y Crwner yn cysylltu â’r perthynas.

Uwch Grwner - Gogledd Ddwyrain / Canolbarth Cymru

Adeilad y Sir, Ffordd Wynnstay, Rhuthun, Sir Ddinbych LL15 1YN

Ffôn: 01824 708047

E-bost: coroner@denbighshire.gov.uk

Uwch Grwner - Gogledd Orllewin Cymru

Stryd y Jêl, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SH 01286 672804

Swyddogion y Crwner

Ffôn: 01745 588816

Cofrestrydd, Genedigaethau a Marwolaethau(gweler tudalennau 5 a 6 am restr o swyddfeydd)

Bydd y cofrestrydd genedigaethau a marwolaethau yn ffonio’r perthynas gydag apwyntiad i ymweld â swyddfa’r cofrestrydd. Bydd y cofrestrydd yn gofyn am y wybodaeth ganlynol:

1 Enw llawn y Claf sydd wedi marw.

2 Cyfeiriad post llawn.

3 Dyddiad a Man Geni.

4 Galwedigaeth.

5 Enw Cyn Priodi (os yn briod).

6 Rhif GIG (os yw’n hysbys).

7 Os yw’r claf am gael ei gladdu / amlosgi.

8 Enw’r Trefnwr Angladdau neu Direct / Pure / Simplicity Cremations.

Pwy sy’n gallu cofrestru’r farwolaeth?

1 Perthynas i’r claf, a oedd yn bresennol ar adeg y farwolaeth.

2 Perthynas, a oedd yn bresennol yn ystod y salwch diwethaf.

3 Perthynas, sy’n byw yn yr isranbarth neu a oedd yn yr isranbarth lle digwyddodd y farwolaeth.

4 Unigolyn a oedd yn bresennol ar adeg y farwolaeth.

5 “Y Deiliad” os oeddent yn gwybod am y farwolaeth.

6 Unrhyw garcharor os oedd yn gwybod am y farwolaeth.

7 Yr unigolyn / ysgutor / awdurdod sy’n gofalu am waredu’r corff.

Bydd y cofrestrydd yn rhoi:

Tystysgrif Werdd - mae hon i’w rhoi i’r trefnydd angladdau.

Bydd angen i chi ofyn i’r cofrestrydd am gopïau o’r dystysgrif marwolaeth (codir tâl am hyn – gellir talu ag arian parod neu gerdyn).

Mae angen copïau o’r dystysgrif marwolaeth ar gyfer y Banc / Cymdeithasau Adeiladu, Ewyllysiau, Pensiynau Preifat / Gwaith, Buddsoddiadau ac ati.

Cofrestru trwy ddatganiad

Yn achlysurol, os nad yw’r unigolyn sy’n cofrestru’r farwolaeth yn byw yn yr ardal lle digwyddodd y farwolaeth, gellir gwneud trefniadau i gofrestru’r farwolaeth trwy ddatganiad. Mae hyn yn golygu y gall y Swyddfa Gofrestru lle digwyddodd y farwolaeth e-bostio’r dystysgrif at gofrestrydd sy’n lleol i’r hysbysydd.

Fodd bynnag, bydd copïau o’r dystysgrif yn cael eu postio at yr hysbysydd gan y swyddfa gofrestru lle digwyddodd y farwolaeth

Swyddfeydd Cofrestru

Ffoniwch i drefnu apwyntiad, ni chaniateir

cyfarfodydd yno heb drefnu apwyntiad o flaen llaw.

Ynys Môn

Swyddfa Cofrestru, Canolfan Busnes Ynys Môn, Parc Busnes Bryn Cefni, Llangefni, LL77 7XA 01248 751925

Caer

Y Swyddfa Gofrestru, Goldsmith House, Goss Street, Caer, CH1 2BG

0300 123 7037

Conwy

Y Swyddfa Gofrestru, Neuadd y Dref, Stryd Lloyd, Llandudno, Conwy, LL30 2UP 01492 576625

Gogledd Sir Ddinbych

Y Swyddfa Gofrestru, Neuadd y Dref, Ffordd Wellington, Y Rhyl, LL18 1BA 01824 708100

De Sir Ddinbych

Y Swyddfa Gofrestru, Neuadd y Dref, Ffordd Wynnstay, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1YN 01824 708100

Sir y Fflint

Y Swyddfa Gofrestru

Neuadd Llwynegrin,

Yr Wyddgrug, CH7 6NR

01352 703333

Gwynedd

Yng Ngwynedd gellir cofrestru marwolaeth

sy’n digwydd yn y sir yn unrhyw un o’r swyddfeydd a restrir isod trwy drefniant ymlaen llaw yn unig. Er mwyn trefnu apwyntiad i gofrestru marwolaeth

unrhyw le yng Ngwynedd ffoniwch: 01766 771000

Gwasanaeth Cofrestru

Gwynedd

Prif Swyddfa Cyngor

Gwynedd, Stryd y Jêl Caernarfon, LL55 1SH

Parhad Swyddfeydd Cofrestru

Swyddfeydd Ardal

Gwynedd

Y Swyddfa Gofrestru

Swyddfeydd y Cyngor

Ffordd y Cob Pwllheli, LL53 5AA

Y Swyddfa Gofrestru,

Swyddfeydd y Cyngor, Cae Penarlâg

Dolgellau, LL40 2YB

Llangollen

Y Swyddfa

Gofrestru Y Capel, (Llyfrgell)

Stryd y Castell, Llangollen, LL20 8NU

01824 706187

Y Rhyl

Gweler Gogledd

Sir Ddinbych

Rhuthun

Gweler De

Sir Ddinbych

Sir Amwythig

Abbey Forgate, Shirehill, Amwythig, Swydd Amwythig, SY2 6ND 0345 678 9016

Wrecsam

Y Swyddfa Gofrestru, Neuadd y Dref, Wrecsam, LL11 1AY 01978 298997

Dywedwch Wrthym Unwaith

Mae “Dywedwch Wrthym Unwaith” yn wasanaeth rhad ac am ddim, a gefnogir gan y Swyddfa Gofrestru, sy’n cynnig cymorth i deuluoedd roi gwybod i adrannau llywodraeth leol a chanolog am farwolaeth eich anwylyd ar adeg anodd.

Gyda’ch caniatâd chi, bydd Gwasanaethau Cyngor Lleol ac Adrannau’r Llywodraeth Ganolog perthnasol yn cael gwybod am y brofedigaeth gan gynnwys: Yr Adran Gwaith a Phensiynau, Y Swyddfa Basbort, Trwyddedau Gyrru a Phensiynau Rhyfel.

Bydd angen i chi ddarparu rhif Yswiriant Gwladol yr un a fu farw (os ydych yn ei wybod) a dogfennau perthnasol (er enghraifft Pasbort, Trwydded Yrru, Cerdyn Llyfrgell, Bathodyn Glas) Os nad yw’r wybodaeth ar gael ar adeg eich apwyntiad gyda’r Cofrestrydd, bydd y Cofrestrydd yn egluro sut i gael mynediad at y gwasanaeth o gartref gan ddefnyddio cyfeirnod a gwasanaeth cysylltu dros rad-ffôn gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael hyd at 28 diwrnod ar ôl cofrestru marwolaeth.

Dywedwch wrth y Swyddfa Gofrestru yr hoffech ddefnyddio’r gwasanaeth “Dywedwch Wrthym Unwaith” pan fyddwch yn ffonio i wneud eich apwyntiad gyda nhw neu fel arall ewch i www.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth.

Cysylltu â Threfnydd Angladdau

Mae’n bwysig cysylltu â threfnydd angladdau cyn gynted â phosibl fel y gallant ddechrau gwneud trefniadau ar eich rhan. Nid oes angen i chi aros nes bod y Dystysgrif

Feddygol Marwolaeth wedi’i chyhoeddi. Bydd eich trefnydd angladdau yn gallu eich cynghori a’ch cefnogi chi a’ch teulu yn ystod y cyfnod hwn.

Gweld Eich Anwylyd Yn yr Ysbyty

Efallai na fydd bob amser yn bosibl gweld eich anwylyd yn yr ysbyty. Efallai y bydd angen gwneud trefniadau drwy eich trefnydd angladdau.

Rhoi Organau a Meinwe

Ni all pawb sy’n marw roi rhodd bywyd trwy roi organau a meinwe, am lawer o resymau.

Os yw rhoi organau a/neu feinwe yn bosibilrwydd, bydd aelod o staff yn cysylltu â chi i drafod penderfyniad hysbys diwethaf eich anwylyd.

Gallwch gysylltu â’r Gwasanaethau Meinwe am ragor o wybodaeth yn uniongyrchol ar 0800 432 0559.

Am unrhyw gyngor, gallwch ffonio’r llinell Gyfeirio

Rhoddwyr Organau ar 03000 20 30 40 neu’r Gwasanaethau Meinwe ar 0800 432 0599. Mae’r rhain ar gael 24 awr y dydd.

Oes Gennych chi Ymholiad?

Gall colli rhywun mor gyflym ac yn annisgwyl fod yn sioc a gall wneud i chi deimlo’n flin a/neu’n anobeithiol. Pan fyddwch yn colli rhywun sy’n bwysig i chi, mae’n normal i chi ofyn cwestiynau, neu fod eisiau deall mwy am y sefyllfa.

Os oes gennych ymholiad, cysylltwch â’n Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt Cleifion (PALS).

Os oes:

• Gennych broblem ond ddim yn gwybod pwy i holi.

• Os ydych eisiau siarad â rhywun nad yw’n ymwneud yn uniongyrchol â’ch gofal.

• Os ydych eisiau canmol gwasanaethau neu aelodau unigol o staff.

• Os oes gennych awgrym ar sut y gallwn wella.

Byddwn yn:

• Gwrando ar eich sylwadau, awgrymiadau, canmoliaeth ac ymholiadau ac yn ymdrechu i ddatrys problemau cyn gynted â phosibl.

• Cynnig cyngor diduedd a chymorth i gleifion, teuluoedd, gofalwyr a ffrindiau.

• Cysylltu â’n staff ac, os yw’n briodol, sefydliadau eraill i’ch cynorthwyo.

• Darparu gwybodaeth am sefydliadau eraill a all roi gwybodaeth neu gyngor i chi.

• Cynorthwyo i wella gwasanaethau drwy adrodd ar themâu a thueddiadau a godwyd gan ein defnyddwyr gwasanaeth.

• Cadw eich gwybodaeth yn gyfrinachol oni bai bod rheswm eithriadol – er enghraifft i amddiffyn plant, chi neu unigolyn arall.

Datrys eich ymholiadau: Bydd Swyddog PALS yn gwneud eu gorau i ddatrys problemau a materion yn sydyn ac yn uniongyrchol gyda’r staff perthnasol. Mae ganddynt fynediad at uwch reolwyr yn y Bwrdd Iechyd i gael cymorth i ddatrys materion pe bai angen.

BCU.PALS@wales.nhs.uk

Ffôn: 03000 851 234

Ydych chi’n Dymuno Codi Pryder?

Os ydych yn teimlo y gallwch wneud hynny, y lle gorau i ddechrau yw drwy siarad ag aelod o’n Tîm Pryderon, gallwch gysylltu â’r tîm ar: 03000 851 234. Gallant geisio datrys eich pryder ar unwaith. Os nad yw hyn yn helpu neu os nad ydych am siarad â staff a ddarparodd y gwasanaeth, yna gallwch gysylltu ag aelod o Dîm Pryderon y Bwrdd Iechyd.

Ffôn: 03000 851 851

E-bost: concernsteam.bcu@wales.nhs.uk

Llythyr: Y Tîm Pryderon, Ysbyty Gwynedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2PW.

Os oes angen mwy o gymorth arnoch, gallwch gysylltu â

Llais Cymru sy’n gorff annibynnol a sefydlwyd i gynrychioli buddiannau a phryderon cleifion a’u teuluoedd.

Conwy/Gwynedd: 01341 422236

Sir Ddinbych/Sir y Fflint/Wrecsam: 01978 356178

Galar

a Phrofedigaeth

Galaru yw ein hymateb emosiynol i golled a gall fod yn drallodus ac yn ddryslyd. Efallai y byddwch chi’n teimlo’n unig gan ei bod hi’n ymddangos nad oes neb yn deall yn iawn sut rydych chi’n teimlo. Mae hyn oherwydd bod profiad unigol pawb o alaru yn unigryw ac yn bersonol iddyn nhw.

Rydym yn mynegi ein galar yn gyhoeddus trwy alaethu, a all gynnwys cardiau, blodau, canhwyllau, gwisgo dillad penodol, seremonïau crefyddol a dathliadau bywyd. Dim ond rhan o’r broses alaru yw’r angladd.

Mae angen i chi ganiatáu cymaint o amser ag sydd angen i chi’ch hun i ddod i delerau â’ch colled. Yn ein cymdeithas, nid yw galaru yn dueddol o gael ei gydnabod yn llawn a gellir ei osgoi hyd yn oed oherwydd gall pobl fod yn ofnus o’r hyn nad ydyn nhw’n ei ddeall.

Fodd bynnag, mae cydnabod eich teimladau chi a rhai pobl eraill yn bwysig iawn i’ch lles.

Teimladau

Nid oes unrhyw reolau ynghylch y broses naturiol o alaru; mae’n brofiad gwahanol iawn i bawb a bydd ymatebion yn amrywio. Gall sut rydych chi’n teimlo ddibynnu ar eich perthynas flaenorol â’r unigolyn sydd wedi marw a sut roeddech chi’n teimlo amdano, yn ogystal â’ch profiadau personol chi a’ch amgylchiadau presennol.

Efallai y byddwch yn profi ystod eang o deimladau y mae’n anodd gwneud synnwyr ohonynt. Gall galar fod yn brofiad anniben ac anrhagweladwy sy’n mynd a dod fel tonnau. Ar y dechrau, efallai y cewch ormod o sioc i deimlo unrhyw beth. Mae llawer o bobl mewn profedigaeth yn teimlo fel

eu bod wedi fferru ac ymdeimlad o anghrediniaeth; wrth i chi ddod dros y sioc a deall realiti’r hyn sydd wedi digwydd, efallai y byddwch chi’n profi rhai o’r teimladau mwyaf pwerus a gawsoch erioed. Gallech deimlo:

• Yn drist, yn isel eich hwyliau, mewn trallod, yn methu â mwynhau bywyd, ac iselder hyd yn oed.

• Yn ofidus, yn ofnus, yn orbryderus ac yn methu ymlacio.

• Yn ddig tuag at eraill megis eich teulu, ffrindiau, gweithwyr gofal iechyd, Duw, neu’r unigolyn sydd wedi marw hyd yn oed.

• Yn euog ac yn beio eich hun.

• Yn unig, hyd yn oed pan fyddwch yng nghwmni pobl eraill.

• Teimlad o ryddhad ar ôl y farwolaeth, efallai yn dilyn cyfnod o ofid yn y cyfnod yn arwain at y farwolaeth.

• Ymdeimlad o hiraeth ac fel petasech yn chwilio am yr unigolyn sydd wedi marw.

Sut Gallai Galar Effeithio Arnaf i’n Gorfforol?

Efallai y byddwch yn:

• Flinedig ac wedi ymlâdd heb unrhyw egni i gyflawni tasgau syml.

• Methu cysgu yn ôl eich arfer.

• Poenus, megis cur pen, poen cefn, a phoenau cyhyrol.

• Newidiadau yn eich chwant bwyd megis peidio â theimlo’n llwglyd, methu â mwynhau bwyta, neu eisiau gorfwyta, a allai arwain at golli pwysau neu fagu pwysau.

• Teimlo’n sâl, eich stumog yn troi, ac efallai bydd newidiadau yn y ffordd yr ydych yn cael eich gweithio.

• Ymwrthedd isel ac efallai y byddwch yn dal mân heintiau fel annwyd yn haws.

Sut Gallai Galar Effeithio Ar Fy Meddyliau?

Efallai y byddwch chi:

• Fel nad ydych yn gallu canolbwyntio a chofio’n glir.

• Yn bryderus ac yn hel meddyliau dro ar tro am yr unigolyn sydd wedi marw a’r digwyddiadau a arweiniodd at ei farwolaeth.

• Yn ddiymadferth ac yn anobeithiol am y dyfodol.

• Ymdeimlad o afrealiti a datgysylltiad oddi wrth y byd o’ch cwmpas.

Sut Gallai Hyn Effeithio Ar Fy Ymddygiad?

Efallai y byddwch chi:

• Yn ddig, yn flin ac yn ddrwgdybus o bobl eraill.

• Yn aflonydd ac yn methu setlo ac ymlacio.

• Yn ddagreuol neu’n methu crio.

• Ffafrio eich cwmni eich hun ac yn gwrthod eraill, fel ffrindiau, teulu, a sefyllfaoedd cymdeithasol.

Gall sylweddoli bod rhai o’r teimladau, y meddyliau a’r ymddygiadau hyn yn normal eich helpu i deimlo’n llai unig ac nad ydych yn colli arni. Ni all neb ddweud pa mor hir y byddwch chi’n teimlo fel hyn. Roedd eich perthynas â’r unigolyn cyn iddo farw yn unigryw, felly hefyd eich teimladau o alar a’u dwyster a’u hyd. Mae galaru yn hanfodol i helpu pobl i ddod o hyd i ffordd o fyw eu bywydau tra’n dal i deimlo eu bod yn gallu cofio’r unigolyn sydd wedi marw a dal eich gafael ar eich atgofion ohonynt.

Beth Allaf i Ei Wneud i Helpu Fy Hun?

Mae’n bwysig peidio ag anghofio am eich iechyd eich hun. Os ydych yn teimlo fel y gallwch, ceisiwch fwyta prydau rheolaidd yn hytrach na byrbrydau a cheisiwch orffwys digon, hyd yn oed os na allwch gysgu.

Yn ystod cyfnod o straen, gall fod yn demtasiwn i deimlo y byddai bywyd yn haws petaech chi’n symud tyˆ neu’n gwneud penderfyniadau am eiddo eich anwylyd ond mewn gwirionedd nid yw hwn yn amser da i wneud newidiadau mawr yn eich bywyd - efallai na fydd yr hyn sy’n ymddangos yn iawn ar hyn o bryd yn ymddangos yn iawn ymhen rhai misoedd. Os na allwch osgoi gorfod gwneud penderfyniadau pwysig, ceisiwch eu trafod gyda rhywun y gallwch ymddiried ynddo a rhywun a all eich helpu i ystyried gwahanol opsiynau.

Beth y Gall Eraill Ei Wneud i Fy Helpu?

Mae profedigaeth yn effeithio ar deuluoedd mewn llawer o wahanol ffyrdd.

Bydd pob aelod o’r teulu yn ymdopi â phrofedigaeth mewn ffyrdd gwahanol. Efallai y byddwch yn teimlo’r angen i siarad â phobl am y sawl sydd wedi marw dro ar ôl tro gan sôn am y salwch a’r farwolaeth, yr amseroedd da a’r drwg. Gall teuluoedd a ffrindiau helpu i wrando ar yr atgofion a’u rhannu, er efallai y gallai hyn fod yn anodd neu’n anghyfforddus iddynt ar adegau, gan nad oes llawer o bobl yn gwybod beth i’w ddweud. Mae’n bwysig cysylltu â nhw pan fyddwch eu hangen oherwydd gall fod yn anodd i eraill wybod sut rydych yn teimlo a beth y gallant ei wneud i helpu.

Os ydych yn teimlo fel na allwch rannu eich teimladau

gyda theulu a ffrindiau, neu os nad oes gennych berthynas agos â neb, neu os ydych yn profi problemau parhaus wrth ymdopi â bywyd o ddydd i ddydd, yna gall fod yn werth ystyried mathau eraill o gymorth

Meddyg Teulu

Efallai y gall eich meddyg teulu eich helpu ond os oes angen cymorth ychwanegol arnoch, gall ef/hi argymell cwnselydd neu grwpiau cymorth lleol.

Grwpiau Cymorth

Gall ymuno â grwˆp cymorth fod yn gyfle i gwrdd â phobl eraill sydd mewn sefyllfa debyg. Oherwydd fod manylion cyswllt ar gyfer grwpiau lleol yn newid yn aml, rydym wedi cynnwys rhestr o sefydliadau cenedlaethol sy’n gallu rhoi’r wybodaeth leol ddiweddaraf. Mae llawer o’r sefydliadau hyn yn cynnig cymorth emosiynol a chyngor ar faterion ymarferol, fel budd-daliadau DWP neu faterion tai.

Age UK

Cyngor ymarferol i bobl dros 50 oed yn dilyn profedigaeth.

Llinell wybodaeth: 0800 678 1602 www.ageuk.org.uk

Cruse Bereavement Care

Yn cynnig cefnogaeth, cymorth a chyngor i’r rhai sy’n galaru.

Llinell Gymorth: 0808 808 1677 www.cruse.org.uk

Switchboard LGBT

Yn cynnig clust i wrando ar lesbiaid a dynion hoyw, eu teuluoedd, ffrindiau a gofalwyr sy’n wynebu profedigaeth.

Llinell Gymorth: 0800 0119 100 www.switchboard.lgbt

Road Peace

Yr elusen genedlaethol ar gyfer dioddefwyr damweiniau ffordd sy’n darparu cymorth uniongyrchol a chyngor arbenigol i bobl sydd wedi cael profedigaeth ac wedi’u hanafu mewn damweiniau ffordd.

Llinell Gymorth: 0800 160 1069 www.roadpeace.org

SAD

Cefnogi’r rhai yr effeithir arnynt gan Farwolaeth Sydyn ar y Galon.

Llinell Gymorth: 01277 811215 www.sadsuk.org

Samariaid y Rhyl a Gogledd Ddwyrain Cymru Rhoi cymorth emosiynol cyfrinachol 24 awr y dydd.

Llinell Gymorth: 0330 094 5717 www.samaritans.org

Support after Murder and Manslaughter

Cefnogaeth a gwybodaeth i bobl y mae llofruddiaeth neu ddynladdiad wedi effeithio arnynt.

Llinell Gymorth: 0121 472 2912 www.samm.org.uk

Survivors of Bereavement by Suicide

Yn bodoli i fodloni anghenion a lleddfu unigrwydd pobl sydd mewn profedigaeth oherwydd hunanladdiad perthynas neu ffrind.

Llinell Gymorth: 0300 111 5065 www.uksobs.org

WAY Widowed & Young

Yn cynnig cefnogaeth, cymorth a dealltwriaeth i weddwon ieuengach na 50 oed. www.widowedandyoung.org.uk

Ar gyfer plant sydd mewn profedigaeth

Grief Encounter

Elusen yn Llundain sy’n helpu plant trwy brofedigaeth.

Llinell Gymorth: 0808 802 0111 www.griefencounter.org.uk

Cruse for children and young people

Llinell Gymorth: 0808 808 1677 www.hopeagain.org.uk

Bwrdd Iechyd - Iechyd Meddwl

Llinell Gymorth: 111 + 2

St Kentigern Hospice

Yn rhoi cefnogaeth dros y ffôn a gwybodaeth i blant mewn profedigaeth a’u teuluoedd yn nalgylch yr Hosbis.

Llinell Gymorth: 01745 585221 www.stkentigernhospice.org.uk

Nightingale House Hospice Release

Yn agored i bob plentyn mewn profedigaeth a’u teuluoedd yn nalgylch yr Hosbis.

Llinell Gymorth: 01978 316 800 www.nightingalehouse.co.uk

Winston’s Wish

Cymorth i blant sy’n galaru a’u teuluoedd.

Llinell Gymorth: 08088 020 021 www.winstonswish.org

Ar y we: Ymdopi â galar

Cyngor ymarferol a chymorth emosiynol i unrhyw un sy’n wynebu profedigaeth gyda dolenni da i wybodaeth bellach www.bbc.co.uk

Ar ran

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, hoffem

gydymdeimlo â chi â’ch teulu

yn ystod y cyfnod anodd hwn.

The Hospital would like to thank RNS Publications for publishing this information and the following pages contain some features from services o ering their help at this time.

Whilst the Hospital is grateful of their support it does not endorse or recommend any of the services that they provide.

�\\ bereavement ,�port network

stopping mail

STOPPING JUNK MAIL

It is distressing to deal with a bereavement and unsolicited mail can be insensitive and destructive during a grieving process.

By scanning the below QR code on your phone or visiting www.stopmail.co.uk, we are able to securely share this information with mailing organisations and under the Data Protection Act the information will not be used for any other purpose.

Other benefits reduce the possibility of identity fraud, such as assumed identity and you will only have to supply the information once.

You may need help, support or advice on what to do when someone dies in relation to probate.

We offer free guidance and advice on the legal and financial aspects of bereavement including your responsibilities and whether probate is required. Calls are free from most land lines, some calls may be monitored for training purposes and all calls are confidential. This service is provided by the Bereavement

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.