Gwybodaeth a newyddion i deuluoedd yng Nghymru Llinell gymorth, gwefan a chyfryngau cymdeithasol Llinell Gymorth / Ffynhonnell Gwybodaeth / Newyddion / Llwyfan i rieni
Mae PwyntTeulu yn cynnwys newyddion, llinell gymorth, ffynhonnell gwybodaeth a llwyfan i rieni gael dweud eu dweud Pam Bod PwyntTeulu Yn Bodoli? Mae yna lawer o wasanaethau gwych i deuluoedd yng Nghymru, ond o siarad gyda rhieni a gofalwyr, mae’n ymddangos bod rhai yn cael trafferth canfod pa wasanaethau sy’n agored iddynt.
Sut Mae PwyntTeulu Yn Helpu? Rydym yn cysylltu gyda theuluoedd ledled Cymru, yn gwrando ar anghenion ac yn rhoi’r wybodaeth a’r cyngor sydd ei angen. Nid ydym yn ailadrodd y pethau sydd ar gael eisoes; rydym yn llenwi’r bylchau ble nad oes gwybodaeth. Rydym yn cefnogi rhieni a gofalwyr i ddarganfod y wybodaeth gorau a fwyaf perthnasol trwy’r wefan a’n llinell gymorth (ffôn, testun a sgwrsio ar-lein).
Pwy Mae PwyntTeulu Yn Helpu?
PwyntTeulu Cymru: Datblygiad ProMo-Cymru, wedi’i ariannu gan grant Llywodraeth Cymru.
Er ein bod yn wasanaeth cyffredinol i rieni, gofalwyr ac unrhyw un sy’n gyfrifol am blant a phobl ifanc yng Nghymru, rydym yn cysylltu ac yn cyrraedd teuluoedd o gartrefi incwm isel a’r rhai ystyrir â’r angen mwyaf yn benodol.
gwe/sgwrsio
testun
07860 052 905
ffôn
0300 222 57 57
Sut Rydym Yn Helpu Teuluoedd Llinell Gymorth/Sgwrsio/IM
Gwybodaeth
Er ei bod yn gyffredin bellach i ddod o hyd i wybodaeth ar-lein, weithiau bydda’n well gennym siarad gyda rhywun i gael cefnogaeth un i un.
Mae gennym beiriant chwilio arbennig i deuluoedd sy’n chwilio sefydliadau cofrestredig perthnasol; ffordd syml a dibynadwy i deuluoedd ddarganfod cymorth.
Weithiau hefyd mae’n haws siarad gyda rhywun yn uniongyrchol, yn enwedig i’r rhai sydd â phroblemau llythrennedd, diffyg sgiliau chwilio ar-lein, neu gyda chysylltedd rhyngrwyd gwael. Os ydynt yn galw’r llinell gymorth, bydd ein cynghorwyr yn gwrando ar y broblem, yn rhoi cymorth i feddwl beth sydd ei angen, a’u cynghori am y cymorth sydd ar gael.
Newyddion PwyntTeulu Rydym yn cychwyn sgyrsiau gyda theuluoedd ac mae’r pynciau trafodir yn ffurfio sylfaen yr erthyglau a’r fideos. Maent yn darparu gwybodaeth berthnasol, gyfoes a phwysig i deuluoedd ar faterion cenedlaethol a rhanbarthol. Mae’r newyddion diduedd hefyd yn cyfeirio at wasanaethau perthnasol a gwybodaeth i’r teulu.
Mae gwybodaeth ar gael ar eich tudalen sir leol hefyd, sydd yn rhestru: Cysylltiadau hanfodol ac argyfwng Gwasanaethau awdurdod lleol allweddol fel Cymunedau yn Gyntaf, Teuluoedd yn Gyntaf, Dechrau’n Deg, Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd a Chefnogi Pobl Pynciau gwasanaethau lleol: iechyd a lles, gofal plant, tai, anghenion ychwanegol, arian, ysgolion, cyngor magu plant a phethau i’w gwneud
Rydym wastad yn awyddus i weithio gyda sefydliadau newydd
Rhannu’r Baich... Mae llais y teulu’n hanfodol i’n gwasanaeth. Rydym yn defnyddio Rhannu’r Baich... fel llwyfan i rieni rhannu problemau, darparu cefnogaeth i’w cyfoed a chodi ymwybyddiaeth o’r heriau sydd yn wynebu teuluoedd.
Mae ein cynghorwyr a sefydliadau perthnasol hefyd yn cynnig cyngor.
Gweithio Gyda Phobl Broffesiynol Rydym yn ymgynghori gyda Bwrdd Ymgynghori Prosiect sy’n cynnwys cynrychiolwyr o wasanaethau teulu a chefnogaeth tai allweddol ledled Cymru. Mae PwyntTeulu yn cefnogi sefydliadau’r trydydd sector a chymunedol i hyrwyddo’u gwasanaethau ar ein cyfryngau cymdeithasol, newyddion, peiriant chwilio a llinell gymorth, yn darparu adnodd gwybodaeth lawn i deuluoedd yng Nghymru.
Beth Yw Buddion PwyntTeulu? Mae’r gwasanaeth yn ddwyieithog, wedi’i ysgrifennu mewn iaith syml
Gwefan hawdd ei lywio a chynghorwyr llinell gymorth hyfforddedig, yn cael teuluoedd yn syth at y wybodaeth sydd ei angen
Sawl pwynt mynediad: ar-lein, ffôn, testun Diduedd Rhieni yn ganolog i ddatblygiadau
Helpwch ni i helpu teuluoedd ledled Cymru
Rydym yn ymestyn allan i deuluoedd ac yn gallu amlygu eich gwasanaeth
gwe/sgwrsio
testun
07860 052 905
ffôn
0300 222 57 57