laura ellen bacon
Llif Laura Ellen Bacon Gosodwaith haniaethol trochol mewn helyg, ddyfeisiwyd yn arbennig ar gyfer Canolfan Grefft Rhuthun. 2 Awst – 21 Medi 2014

Sefwch yng nghanol crynswth enfawr o ffurfiau llifol ymchwyddol, crychdonnau a phentyrrau. Aroglwch arogl parhaol y deunydd naturiol; gwyliwch y cysgodion yn disgrifio tonnau newydd ar y waliau. Mae deunydd yn arllwys i mewn, i’r pwynt lle mae’r gofod yn llawn, gan ymateb i’r pensaernïaeth presennol ac i’r llif ymwelwyr fel ei gilydd. Gan ddefnyddio iaith benodol sgil creu arbennig iawn i amlyncu’r oriel, mae Laura Ellen Bacon yn trin a chysylltu miloedd o ffyn gwiail helyg, eu tensiwn cynhenid wedi eu rhwymo gan glymau, gyda’u potensial ar gyfer symudiad yn dal i fod yn amlwg. Caiff màs ei greu gan ystumiau lluosog ar raddfa dynol, strwythur pensaernïol newydd mewn deunydd naturiol. Mae’r gwaith, yn ei ehangder tawel a thryloywder, hefyd yn cyfeirio at lifogydd eithafol diweddar, yng Ngogledd Cymru ac ar Wastadeddau Gwlad yr Haf, lle cafodd yr helyg ar gyfer y gwaith hwn yn ei dyfu. Wedi achosi difrod a chaledi mawr, fe giliodd y dyfroedd o’r diwedd, mewn pryd ar gyfer y cynhaeaf helyg blynyddol. Mae cof y digwyddiad hwn, fodd bynnag, wedi ei ymgorffori yn y deunydd. Dywed Laura: “Mae modd gweld yr olion adawyd gan y dŵr llifogydd yn cilio ar yr helyg rwyf wedi ei gael o Wlad yr Haf yn ystod y misoedd diwethaf. Mae’r olion hybrin yma ar bob coesyn wedi rhoi delweddau dychmygol byw i mi o’r miloedd o goesau helyg yn sefyll yn dalsyth yn y dŵr llifogydd, yn aros yn dawel i’r lefelau dŵr bygythiol ostwng. Trwy gydol holl gyfnod y llifogydd ac yng nghanol yr holl ofn a phryder, roedd yr helyg yn sefyll, yn llonydd ac yn dawel; gallaf ddychmygu pa mor gymylog ac oer oedd y dŵr, sut y buasai gwasgfa enfawr wedi bod ar y ddaear islaw, sut y byddai golau dydd yn cael ei adlewyrchu’n wych rhwng coesau’r helyg.” Gan ymateb i’r arsylliad hwn o fewn y gosodwaith, mae’r artist wedi cymhwyso lliw i ail-greu llinell lanw’r llifogydd, sefydlu lefel newydd, cof-nôd y llif. Mae Laura Ellen Bacon wedi arddangos yn eang ers 2001, gan gynnwys arddangosfeydd a digwyddiadau megis ‘Collect’ yn Oriel Saatchi Llundain a Jerwood Contemporary Makers 2010. Gwelwyd ei ffurfiau cerfluniol mewn lleoliadau mewnol ac allan yn yn yr awyr agored mewn llefydd megis Chatsworth, Blackwell yn Ardal y Llynnoedd a’r New Art Centre yn Wiltshire. Mae ei stiwdio yn Swydd Derby. Sara Roberts, curadur

Creodd Laura Ellen Bacon y gosodwaith safle benodedig yma dros gyfnod o bythefnos, gyda chymorth gan… Kate Jordan, Ellie Jones-Hughes, Millie Louise Wellington, Rose Hiles, Nia Shaw, Connie Parr a Elisha Walkden-Williams. Gwnaed y prosiect hwn yn bosib trwy nawdd arbennig gan Sefydliad Esmée Fairbairn. Hoffai Canolfan Grefft Rhuthun ddiolch i Laura Ellen Bacon a Sara Roberts; Dewi Tannatt Lloyd, Nia Roberts, Bethan Hughes; a Chyngor Celfyddydau Cymru. Cyhoeddir gan Ganolfan Grefft Rhuthun Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol Testun Yr Awduron 2014 ISBN 978-1-905865-66-6 Ffotograffiaeth y gosodwaith: Dewi Tannatt Lloyd Cyfieithu: Nia Roberts Dylunio: Lawn, Lerpwl Argraffu: Team Impression, Leeds Mae Canolfan Grefft Rhuthun yn derbyn cyllid refeniw gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac yn rhan o Gyngor Sir Ddinbych. Fersiwn Saesneg ar gael.