Julia Griffiths Jones
ISBN 1 900941 82 1
Julia Griffiths Jones
Julia Griffiths Jones Stori sydd raid ei Hadrodd
Cynnwys Cyflwyniad
7
Philip Hughes Stori sydd raid ei Hadrodd
8
Mary Schoeser Syniadau y tu ôl i'r darnau
36
Julia Griffiths Jones Bywgraffiad
44
Cydnabyddiaethau
48
Cyflwyniad chwith Crys y llanc
Arddangosfa Canolfan Grefft Rhuthun saith mlynedd yn ôl, fis Ionawr 1998, oedd Julia Griffiths Jones – Dirwyn yr Edafedd. Wedi’i chynnwys yn y catalog ar gyfer yr arddangosfa honno yr oedd yr araith wnaed gan Dr Elin Jones ar achlysur ei hagor yn Oriel Glynn Vivian, Abertawe. Disgrifiodd sgwrs a gafodd gyda Julia uwch pryd ganol dydd pan fuont yn trafod tecstiliau a chrefftau traddodiadol merched yn gyffredinol – “Buom yn sôn am pa mor frau a byrhoedlog ydynt a’r modd gofalus ac annwyl y maent yn cael eu gwneud, ac yna eu defnyddio. Aethom ymlaen i drafod y ffaith bod crefftau dynion bron i gyd yn cael eu gwneud gyda deunyddiau parhaol – pren, carreg, metel – ac y maent hefyd (er na hoffwn fod yn rhy ddeddfol chwaith) yn cael mwy o barch na chrefftau merched er bod angen cyffelyb sgiliau. Yna – yr oedd hwn yn bryd bwyd hir – buom yn siarad am y posibilrwydd o briodi (fel pe tai) y byrhoedlog, y bregus a’r dros dro gyda’r parhaol, y caled a’r gwydn, a thrwy hynny gyfleu rhywbeth o natur tasgau domestig traddodiadol merched – y pethau pob dydd sydd yn aml yn cael eu hanwybyddu, dim ond yn ennyn sylw ar yr adegau pan maent heb gael eu cwblhau. Sgiliau anweledig bywyd dyddiol.” Bathodd Elin ymadrodd sydd yn ddisgrifiad perffaith o waith Julia i’r rhai sydd heb ei weld sef brodwaith yn yr awyr. Meddai “Yn y cyfreithiau Cymreig yr oedd yna dair crefft bwysig oedd yn rhoi parch a bri i’r sawl oedd yn eu perfformio. Y gof, y bardd a’r offeiriad – y prydyddion oedd yn newid pryd a gwedd y defnyddiau crai – metel yn dlyswaith ac yn arfau, geiriau’n farddoniaeth, gwrthrychau naturiol yn elfennau cysegredig. Mae’r arddangosfa hon yn brawf bod yma ‘brydyddwraig’ – yn llunio metel gyda gofal a chariad i greu brodwaith cain a pharhaol yn yr awyr.” Mae Julia Griffiths Jones yn byw ac yn gweithio yn Llanybri yng ngorllewin Cymru ac y mae ei gwaith wedi’i wreiddio’n ddwfn yn y fro honno. Yn ystod y saith mlynedd aeth heibio y mae Dirwyn yr Edafedd a sain y brodwaith yn yr awyr wedi datblygu a newid. Mae’r rhai sydd wedi ymddiddori yng ngwaith Julia yn sylweddoli bod yma gyfuniad perffaith o’r personol a’r cyffredinol ac eto wrth edrych ar y darnau newydd hyn fe welir eu bod yn fwy cymhleth, yn gynilach ac yn amlhaenog. Y mae hi wedi arddangos yn helaeth ym Mhrydain a thramor ac wedi cyflawni nifer o brosiectau addysgol a chwblau comisiynau. Yn 2003, i gydnabod ei rhagoriaeth a’i gwaith unigryw, derbyniodd Wobr Cymru Greadigol gan Gyngor Celyddydau Cymru er mwyn hyrwyddo datblygiad y gwaith a welir yn yr arddangosfa hon. Yr ydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu i’r gyfrol ac i’r arddangosfa Straeon sydd raid eu Hadrodd – yn arbennig Mary Schoeser am ei hysgrif graff ac i Gyngor Celfyddydau Cymru am y gefnogaeth ariannol. Philip Hughes Cyfarwyddwr yr Oriel, Canolfan Grefft Rhuthun
6–7
Stori sydd raid ei Hadrodd Mae Julia’n storiwraig reddfol. Mae ganddi ffordd o adrodd stori sydd yn unigryw sef ‘cerdd gwifren’. Mae’r modd y dyfeisiodd y dull hwn o ddweud stori yn stori ynddi’i hun, un a gychwynnodd gydag astudiaethau maes yng Ngwlad Pwyl a Tsiecoslofacia yn 1977 ac sydd yn dal i ddatblygu hyd heddiw. Fel y mae hi’n adrodd ei hynt a’i helynt mae’n amlinellu ffurfiau ar y bwrdd o’i blaen ac y mae’r ysfa i arlunio, i ddisgrifio, i bortreadu bob amser ar flaen ei meddwl. Yn aml y mae ei bys yn siarad cyfrolau, er enghraifft pan mae hi’n chwerthin am ben ei hawydd i adael Cymru a’i llawenydd aeddfed pan ddychwelodd yn 1990, 18 mlynedd yn ddiweddarach. Yn ystod yr 1990au yng Nghymru y dechreuodd ail-ymweld â’i gorffennol a gadawodd hynny argraff ddofn arni gan esgor ar waith gwifren hollol newydd a gwahanol i’r Julia arferol. Rhaid inni felly gymeryd arolwg eang o’i gwaith presennol gan fod gorffennol yr artist yn gyfrifol am lunio’r tirlun presennol ym myd celf gwerin, tecstiliau, cerflunio a phortreadu. Pe bai meddwl Julia’n dirlun, erwau o dir âr toreithiog fyddai celf gwerin. O 1977 tan 1997 pan ieuwyd dilledyn cerdd a gwifren am y tro cyntaf yn Crys y llanc – y mae wedi cael ei hysbrydoliaeth o fewn celfyddyd gwerin ar gyfer argraffu tecstiliau, argraffiadau cyfyngedig o brintiau a llyfrau, arluniau, gludwaith a thecstiliau traddodiadol megis sampleri a chwrlidau. Mae hi’n disgrifio’r argraff wnaed arni gan ei theithiau cyntaf wedi iddi ennill
8–9
uchod Darlun o fonet Slofac Darlun o wisg Slofac wnaed 1 Mawrth 1979 yn Vajnory, Slofacia
uchod Tŷ yn Cicmany, Slofacia Darlun o ddarn o frodwaith Slofac
ysgoloriaeth yn 1977 tra’n astudio tecstiliau yn y Coleg Celf Brenhinol a pha mor ffurfiannol oeddynt wrth iddi ddod wyneb yn wyneb ag enghreifftiau ceinwych o frodwaith, lês, argraffu a chelf gymwysedig addurnol. Y canlyniad oedd astudiaeth o ffynonellau dwyrain Ewrop. Yn dilyn ei chwrs gradd
Tŷ yn Stasnice, Tsiecoslofacia
derbyniodd Ysgoloriaeth y Cyngor Prydeinig i fyw yn Tsiecoslofacia am chwe mis a chael cyfle i ehangu ei gwaith ymchwil i gelf gwerin. O hyn y deilliodd
(1) Julia Jones yn sgwrsio 2004
cyfnod preswyl tri mis mewn printwaith yn Newcastle-upon-Tyne ac yna arddangosfa unigol.1 Yn 1982 ac 1985 ymestynnodd ei gwybodaeth i gynnwys celfyddyd Hwngari a Romania ar ddwy daith ymchwil ychwanegol ariannwyd gan y Cyngor Prydeinig. Dylanwad y cyfuniad rhwng celf gwerin a theulu fu’n gyfrifol am hyrddio Julia i’r cyfeiriad presennol. Erbyn 1987 yr oedd yn chwilio am fath newydd o fynegiant a dechreuodd edrych ar ffordd o weithio gyda gwifren, tasg a feistrolodd yn ystod y blynyddol olynol wrth edrych ar amryfal wifrau metel a thechnegau adeiladol fel modd o drawsnewid ei dull llinellol o arlunio tri dimensiwn. Ar yr un pryd dechreuodd wario mwy o amser yng Nghymru ac erbyn 1990 yr oedd wedi symud yn ôl ac wedi priodi. Heb y strach o orfod teithio ar draws Llundain, dysgu, gwario amser yn ei stiwdio a gofalu am ei chartref, yn awr yn ei stiwdio newydd yn ei ffermdy perffeithiodd y dull o ddefnyddio gwifren o ddur meddal (wedi’i sodro tra’n ‘cyfansoddi’) ei
bresyddu a’i gwblhau gyda dwy haen o baent. Yn 1994 dechreuodd weithio tuag at ‘Dirwyn yr Edafedd’ – arddangosfa Canolfan Grefft Rhuthun agorwyd yn 1998. Fel yr esboniodd ar y pryd, ei phrif amcan oedd edrych ar decstiliau
uchod Darlun o wisg Slofac Gwraig yn Horna Streda, Slofacia
megis cwrlidau, sampleri, crysau wedi’u brodio hefo lês a cheisio defnyddio gwifren fel pe bai’n edau er mwyn gwneud datganiad mwy parhaol a chadarnach am rywbeth sydd mor fregus a byrhoedlog.2 Rhan allweddol o ddatblygiad ei cherddi gwifren oedd y cyfnod a dreuliodd Julia yn 1996 yn Amgueddfa Povazske yn Zilina, Slofacia, lle mae Castell Budatin yn dangos ei gasgliad unigryw o waith tincer, defnyddiol ac addurnol, a dogfennau a oroesodd gyfnod o dair canrif, yn dangos mudo bydeang a dylanwad crefftwaith gogledd Slofacia mewn gwifren a thunplat. Gyda nawdd Cyngor Celfyddydau Cymru golygai bod Julia’n medru treulio cyfnod preswyl yn gweithio gyda chrefftwr-preswyl yn yr amgueddfa ac ymweld â phedwar o rai eraill yn eu cartrefi. Yr oedd hyn yn drobwynt: “sylweddoli bod y tinceriaid wedi bod yn ceisio gwneud i wifren edrych fel lês a gwau er mwyn creu cerfluniau mewn dillad. Yr oedd hwn yn un o ddarganfyddiadau mawr fy mywyd (creadigol) ac yn sydyn wynebwn bosibiliadau diddiwedd.”3 Erbyn 1998 yr oedd wedi cychwyn gweithio ar Os dewch y ffordd hyn (2003) pan oedd technegau gwifren lesog gyda cherrig wedi eu mewnosod yn cael eu llunio i ddarlunio disgrifiad barddonol Lynette Roberts o bentref Cymreig o
10–11
(2) Julia Griffiths Jones ‘Dirwyn yr Edafedd’ Yr Oriel, Canolfan Grefft Rhuthun 1998, t.11 (3) eto
uchod Darlun o wisg Slofac Marta Botikova yn gwisgo gwisg Slofac Darluniau o gwffs wedi’u brodio
‘lês a charreg’. Beth bynnag am dechneg, yr oedd y tymor beichiogrwydd hir ar gyfer y darn hwn yn arddangos agwedd ddisgybledig, hunan-feirniadol Julia a’r dillad gludwaith yn caniatau iddi ail-ystyried, dad-adeiladu ac ail-gyfansoddi gwaith y tincer oedd wedi hen arfer creu rhywbeth newydd allan o rywbeth hen. Tra bod ambell i ddarn wedi cael ei orffen o fewn pedair i chwe wythnos nid yw’r artist yn brysio gormod. Yn wir, y mae hi’n manteisio ar ymyrriadau. Er enghraifft, Mae popeth yn well erbyn hyn (2004) campwaith o ofodau a darnau soled wedi’u cyfosod – daeth y cyfanwaith hwn o flodau cudd a chyfansoddiad sicr o ganlyniad i dorriad o dri mis tra’r oedd hi’n gwneud dau ddarn ar gyfer Ysbyty Plant Frenhinol Aberdeen. Tra mai cam bychan a naturiol tuag at ddull o fynegiant oedd yn cofleidio ei darluniau llinellol, ei phrofiad gyda thecstiliau a’i gwybodaeth o gelf werin, nid oedd ei phenderfyniad i weithio gyda gwifren fel gydag edau yn hollol newydd chwaith. Erbyn 1996 yr oedd yna ddigon o ddiddordeb yn y pwnc i haeddu rhifyn newydd o Textile Techniques in Metal a gyhoeddwyd gyntaf yn 1975 ond a oedd allan o brint ers 1985. Yr oedd ei awdur, y gemydd Americanaidd Arlene Fisch, yn cydnabod ac yn nodi yn ei rhagair bod yna ‘nifer o artistiaid yn cyfuno technoleg decstil a metel. Gwnaeth cerflunydd Americanaidd ddarnau crog wedi’u creu allan o wifren wedi’i wau ugain mlynedd yn ôl; mae dylunydd Norwyaidd yn gwneud breichledau wedi’u gwau allan o wifren arian ar hyn o
bryd ac y mae yna fyfyriwr ym Mhrydain wedi gwau cadwen ddeng mlynedd yn ôl; hefyd mae yna fyfyriwr yn America’n defnyddio gwifren cloisonne i greu mwclis wedi’u plethu’n bedair cainc.’ Yn ddiddorol iawn aeth Fisch ymlaen i
uchod/de I Mam gyda chariad tudalen flaenorol Crys i fy merch
ddisgrifio sefyllfa sydd yn addas i Julia. ‘Fel y digwydd yn aml y mae artistiaid ar wahanol adegau mewn gwahanol fannau’n digwydd cael yr un syniad yn union a hynny’n yn gwbl annibynnol ar ei gilydd...Nid yw defnyddio technegau tecstil gyda metel yn arwydd o unrhyw fath o symudiad neu arddull dim ond yn hytrach ddiddordeb cyffredin mewn syniad cyffrous sydd fel pe bai’n hofran yn y nwyfre...4 Fodd bynnag, yn fuan iawn yr oedd y cyfeiriad a gymerwyd gan Julia yn symud o’r defnydd llythrennol o dechnegau tecstil mewn metel tuag at greu gwrthrychau gweledol sydd yn medru cyfleu yr un math o gymeriad, hylifedd a rhyddid ag a wna brethyn. Gwelir y trawsnewid hwn yn arbennig yn Ffedog Mya, Ffroc Annie (2003) pan aeth ati i arbrofi drwy lapio gwifren fain o gwmpas gwifren feddalach a pheri iddo edrych yn debyg i frodwaith.Yn ei dychymyg gwelodd organdi anhyblyg ac yna ailweithiodd y darn isaf i wneud iddo edrych fel ffroc donnog. Cynrychiolir yr uchelgais olaf gan Torri Trwodd (2004) darn sydd yn ymddangos fel pe bai newydd gael ei daflu ar lawr. Mae ei siffrwd yn ymgorffori darlun a wnaed gan Julia o’i chwaer Caroline yn dawnsio yn yr ardd, yn ogystal â darlun a wnaeth Caroline ei hun o loÿn byw pan oedd ÿn blentyn.
14–15
(4) Arlene Fisch, Textile Techniques in Metal, (Lark Books, Efrog Newydd) 1996, t.7
chwith/uchod Ffedog Mya, Ffroc Annie
Ar adegau prin y mae’r wisg yn fwriadol anystwyth, fel yn achos I Mam gyda Chariad (2002–3). Mae’r patrwm geometrig yn cyfeirio’n gynnil at swydd ei mam (pensaer) ac at ei wardrob ffasiynol yn y chwedegau (yn arbennig dillad Paco Rabanne a’i ‘platelets’). Ac eto hyd yn oed yn y ffurf foel hon ceir cyfeiriadau bywiog gweledol at genedlaethau ifanc a hen. Mae’r motifau hyn wedi’u gweithio mewn ffabrig, edau a metel ac y maent yn symud gyda llacrwydd y pwyth – hyd yn oed pan nad oes yna bwyth – gan adael namyn gwregys bodis i’n hatgoffa o’r technegau gwifren lês/gwau a oedd mor nodweddiadol o waith Julia ar ddechrau ei thaith greadigol. Ac er nad yw ei gwaith bellach yn llifo allan o’r syniad o wifren-fel-edau yn unig y mae yna elfen o’r ‘newid rôl’ hwn i’w weld mewn darnau megis Mae popeth yn well erbyn hyn. Yma y mae motifau Dwyrain Ewrop a Chymreig yn dod wyneb yn wyneb – gyda blodau gwifren ochr yn ochr â hanner bodis aliminiwm tyllog wedi’i bwytho gyda motif addurnol ailadroddus. Ar waethaf ei hymchwil ddiweddar yn Slofacia y mae profiadau a gafodd dros ugain mlynedd yn ôl yn dal yn fyw yn ei chof ac yn dylanwadu ar ei gwaith presennol. Yr oedd llyfrau braslun yn agored yn ei stiwdio ac yn ysbrydoliaeth iddi megis yn y darn Gwnawn i ti (2004) a ddeilliodd o ddarlun bychan o fodis Slofaciaidd a welodd yn Levice yn 1979. Mewn darnau eraill y mae cynnwys y brasluniau wedi ymdoddi ac yn dangos dylanwadau nes adref – ei theulu,
16–17
yr amgylchedd Gymreig a’r clwb llyfrau bychan sydd ers 1993 wedi bod yn
uchod/de Pwyth ac ysgrif
symbyliad cymdeithasol a deallusol. Fodd bynnag nid rhyw ddetholiad ffwrdd â hi yw canlyniad ei gwaith ymchwil manwl. Y mae ei gwaith cyfredol wedi’i saernio’n dair cainc ofalus.Yn 1999 y daeth y syniad o osod llenyddiaeth, yn gerddi ac yn ffuglen, bob yn ail a darluniau haniaethol o’i theulu. Daeth y syniad wedi iddi ddarllen Impossible Saints (1997) ffuglen o waith Michele Roberts wedi’i seilio ar fywyd a marwolaeth y Santes Josephine a phob yn ail bennod yn adrodd hanes seintiau benywaidd eraill; merched ‘na wyddent eu lle’.5 Beth bynnag, daeth cerdd a phortread yn fuan yn un, fel a welir yn Crys i fy merch (2001). Cafodd y teitl allan o A Red Shirt gan Margaret Atwood ac hefyd allan o gerdd arall gan yr un awdur Shapechangers in Winter pan fedrodd werthfawrogi’r byd yr oedd ei merch yn byw ynddo. Mae’r hanner anorffenedig o’r crys yn cyfleu ieuenctid, addewid ac arwahanrwydd y plentyn Sara a’r gofod gwag yn arwydd o anwybod y dyfodol. Yn ddiweddarach y daeth y sylweddoliad bod y drydedd gainc, celf gwerin Cymru a Dwyrain Ewrop, yn llawn o gymeriadau dychmygol fyddai’n asio â’r rhai real a llenyddol. O fewn y drydedd gainc hon llwyddodd Julia i gyflwyno cyferbyniadau mewn gludwaith drwy efelychu’r cerddor a gosod gwahanol gymysgedd o seiniau ar y trac fel a welir yn Wedi Cymysgu (2004)
18–19
(5) ‘Michèle Roberts’, http://www.virago.co.uk/ virago/meet/roberts_profile.asp
chwith/uchod Torri Trwodd tudalen flaenorol Teyrnged i Calder
Drwy glymu’r elfennau anghymesur hyn wrth ei gilydd gwelir thema y byddai rhai’n ei alw yn ffeministiaeth ond y mae’r gair ‘benyweidd-dra’ yn well gan mai dathlu gwaith yn y cartref ochr yn ochr â chelf gwerin a wneir. Fel y darganfu Julia ei hun, ym mhedwar ban byd y mae yna draddodiad cryf o ferched yn
(6) Liz Hoggard, ‘Domestic Science’, Crafts Mawrth/Ebrill 2002, t29 (7) http://demo.networks. co.uk/celia/theauthor.html ffynonellwyd Rhag 4 2004 a llythyrau gyda Celia Rees 20 Rhag 2004 pan ysgrifennodd hefyd ‘Pe gofynnid i mi “A fyddai eich gwaith yr un peth pe baech erioed wedi ei chyfarfod?” yr ateb fyddai ‘Na fyddai’
gweithio gyda thecstiliau at bwrpas addurno eu cartrefi a’u dillad. Mae’r cynlluniau’n amrywio o wlad i wlad – gan ddibynnu ar grefydd a diwylliant. Ond y mae nifer fawr o’r motifau a welir mewn celf gwerin yn rhywbeth bydeang ac yn cynrychioli pethau sydd yn bwysig ym mywydau merched – y cartref, anifeiliaid, ffrwythlondeb, blodau, adar.6 Ei hymgysegriad hi ei hun sydd yn gyfrifol ei bod wedi cofleidio’r traddodiadau hyn mewn dull mor gyfoes ac unigryw “gan ofalu peidio â rhoi’r gorau i fod yn artist unwaith y mae plant wedi cael eu geni!” (Dywed hyn yn chwareus gan ychwanegu “Nid wyf yn siwperwoman o bell ffordd” ond ar yr un pryd yn medru cyfuno cynhesrwydd, urddas, penderfyniad, teyrngarwch a hwyl.) Drwy gloddio yn y wythien gyfoethog o waith ymchwil gwreiddiol a wnaed ganddi yn y maes y daeth y weledigaeth – cychwyn y clwb llyfrau hefyd yn rhan o’r broses. Mae Pwyth ac Ysgrif (2003) yn dathlu’r clwb a’i chyfeillgarwch hir gyda’r awdur Celia Rees. Y mae Celia hithau wedi talu teyrnged drwy ymgorffori motifau o’r darn hwn ar ei gwefan gan ddweud ‘er ein bod yn gweithio mewn gwahanol gyfryngau yr
22–23
ydym yn aml yn cael ein hysbrydoli gan waith ein gilydd.’ ac yn egluro bod Julia wedi bod yn ddylanwad cynnil ond hollbresennol ar ei gwaith hithau. Y mae Julia’n hynod o ofalus wrth gydnabod ei ffynonellau ac yn gydwybodol geisio sicrhau bod naratif ei gwaith yn gwbl glir, yn adlewyrchu, wrth gwrs, ei hymwneud â’i gwaith fel athrawes ers 1978. Ar hyn o bryd yn Ddarlithydd Cyswllt ar y cwrs BA (Anrh) mewn Dylunio Patrwm Arwyneb yn Athrofa Abertawe y mae ei sgil wrth weithio gyda gwifren hefyd wedi cael ei rannu gydag eraill, megis prosiectau gydag aelodau o Urdd y Brodwyr. Hefyd gyda’r Celfyddydau Cymwysedig Cyfoes (CAA) sydd wedi cynrychioli Julia ers 1988 ac aeth ati yn 2001 i redeg gweithdy ar gyfer darpar athrawon fel rhan o’r cynllun ‘Hands On’ sydd yn ceisio sbarduno myfyrwyr a dysgu technegau a sgiliau iddynt mewn arlunio gyda gwifren a metel y gellid eu haddasu yn y cwricwlwm ac ar eu hymarfer dysgu.8 Yn ddiweddar yr oedd ymysg chwe gwneuthurwr a gomisiynwyd gan Amgueddfa ac Oriel Inverness i greu blychau handlo sydd yn dangos ‘sut y maent yn gweithio, beth sydd yn eu hysbrydoli a beth maent yn ei greu’ ar gyfer eu defnyddio gan athrawon.9 Pwysleisir pwysigrwydd cyfansoddiad. Manteisia ar ei phrofiad hi ei hun wrth geisio dadansoddi darn o waith Picasso dyweder. Defnyddia ei gwaith ei hun yn yr un modd, fel, er enghraifft, Pawb yn meddwl mai kitsch ydoedd (2004) lle mae’r delweddau wedi dod dan ddylanwad Mae Popeth yn well erbyn hyn.
24–25
uchod/de Gwnawn i ti
7
(8) http://www.caa.org.uk/ cvs/griffiths-jones.julia.htm. Bu’r rhaglen ‘Hands on’ yn rhedeg o 1999 tan 2002 a chafodd y rhai gymerodd ran gyfle i fod ddangos eu gwaith yn arddangosfa 2003 y CAA ‘Celebrating Education’.Cafodd Crys i fy Merch a Ffedog eu cynnwys (gweler gwefan y caa.org.uk/2003/ celebrating-education.htm) Un enghraifft o waith gydag Urdd y Brodwyr oedd prosiect gwifren ac edau gyda’r gangen leol, rhan o’r arddangosfa ‘Drawn’ yn Oriel Myrddin yng Nghaerfyrddin Hydref 2002 (9) ‘Highland Influences Create Inverness Exhibition’, http://www.craftscotland. org, ffynonellwyd 5 Rhagfyr 2004
chwith/uchod Wedi cymysgu
Nid yw’r cyfeiriad at Picasso’n syndod o gwbl gan bod Julia, fel yr athrylith celfyddydol hwnnw, yn berchen tipyn o smaldod ynghŷd â pharch tuag at
(10) Gweler http://www. princetonol.com/groups/ iad/lessons/middle/ calder.htm, ffynonellwyd 8 Rhagfyr 2004
draddodiad celfyddydol. Mae hyn hefyd i’w weld yng ngwaith Alexander Calder (1898–1976). Ei ddarnau comisiwn cyntaf ef oedd darluniau o syrcas ac yna yn 1926 anifeiliaid wedi’u llunio allan o wifren a phren, heb sôn am ei syrcasus gwifren bychain hynod a oedd erbyn canol yr 1930au wedi eu llaw-animeiddio yn ei stiwdio ym Mharis gyda chymorth artistiaid blaenllaw y cyfnod.10 Eithr ei symudyddion a ysbrydoloddd Teyrnged i Calder a wnaeth Julia wedi ymweliad ag Amgueddfa Guggenheim ym Milbao fis Medi 2003. Dychmygdd nhw’n crogi yn yr un encilfa yn yr Amgueddfa ag eiddo Calder – ac yr oedd y darn hwn – hunan-bortread – yn allweddol yng nghreadigaeth y gwaith cyfredol. Darnau ar wahân sydd ganddi yn gwrthweithio megis cymeriadau ar lwyfan neu wedi eu coreograffu megis criw o ddawnswyr fel yn Stori sydd raid ei hadrodd (diwedd 2004) Gyda’u lliwiau llachar, cyfansoddiadau rhythmig a chyfeiriadau cyson at lên a chelf gwerin cawn ein hatgoffa, yng ngwaith Julia, o’r blynyddoedd bohemaidd rhwng y ddau ryfel. Mae ei cherddi gwifren yn llwyddo i adrodd stori ac y maent yr un mor drymlwythog o syniadau ag unrhyw gerdd gonfensiynol. Yr un mor amlwg ym mhob darn yw disgrifiad yr artist o
26–27
Os dewch y ffordd hyn a adeiladwyd gyda ‘haen ar ôl haen o batrwm er mwyn ceisio cyfleu drwy gyfrwng gwifren fel y mae’r bardd yn ei hudo i ymweld â hi...’ Ac fel y darn hwn y mae’r holl waith hefyd yn bortread
uchod/de Pawb yn meddwl mai kitsch ydoedd tudalen flaenorol Os dewch y ffordd hyn...
haniaethol wedi’i lunio’n gelfydd o ‘ffurfiau cordeddog, llinellau torredig, effeithiau gorwych a llachar, cyferbyniadau lliw a naws metelaidd gloyw.’11 Fel neo-ddarddulliwr y mae Julia wedi datblygu i fod, nid yn unig yn un o wneuthurwyr mwyaf arbennig Cymru ond hefyd yn arwain y maes lle mae ystumiau gofodol yn bod.12 Y mae’r arddull neo-ddarddulliaidd yn amlwg yn ei gwaith am ddau reswm: yr oedd y symudiad gwreiddiol yn un llenyddol yn ogystal ag artistig ac am ganrif a mwy o ddiwedd y 16eg ganrif ymlaen hwn oedd yr arddull avant garde a rewodd fel pe tae lle’r oedd celf gwerin a gwisg Dwyrain a Gogledd Ewrop yn bod. Mae het a ffedog y wisg Gymreig yn deillio o ddillad o oes Elisabeth a Iago ac fe sylwir bod portreadau o’r oesoedd hyn bob amser yn cynnwys crychdorchau lês wedi eu cyfnerthu â gwifren, brodwaith edau fetel a phob math o bincio a phyffio. Yn union fel y mae’r portreadau wedi eu gormesu gan y gwisgoedd y mae Julia hefyd wedi creu genre o’r ‘dilledyn fel portread’. Symudodd ymlaen o gelf ‘y wisg wag’ yr 20fed ganrif ac y mae ei gwaith yn gyforiog ei bersonoliaeth, yn gyfareddol ac yn gofiadwy ac eto’n adlewyrchu nodweddion yr artist. Mae ei marciau mor
30–31
(11) Luciana Arbace, ‘Mannerism’, Encyclopedia of Interior Design, gol. J Banham (Llundain a Chicago: Fitzroy Dearborn) 1977 ac am fwy am neoddarlluniaeth gweler Mary Schoeser, More is More, an antidote to minimalism (Llundain: Conran Octopus) 2001, t 155 (12) ‘West Wales Revealed as the UK’s Art Gallery’, Datganiad i’r Wasg oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru 30/4/2004 http://www.artswales.org/ pressoffice/printable.asp? newsid=154
chwith/uchod Dylanwad fy nhad yn crynhoi
wreiddiol ac mor hoenus o fewn y cerddi gwifren fel bod colli ei thad a goffawyd yn Dylanwad fy nhad yn crynhoi (2005) yn ei bortreadu fel cymeriad megis Pobun ond yn unigolyn ar yr un pryd. Mae geiriau terfynol
Noder: Mae yna ragymadrodd defnyddiol i DdwyrainCanol Ewrop ar http://www.omnibusol.com /easteurope.html
Lynette Roberts yn Poem from Llanybri yn addas nid yn unig oherwydd bod Julia yn awr yn byw yn Llanybri ond hefyd oherwydd eu bod yn crynhoi’r hyn y mae hi wedi llwyddo i ymgyrraedd ato. ...I send an ode or elegy In the old way and raise our heritage. Mary Schoeser
32–33
Syniadau y tu ôl i'r darnau Crys i fy merch 2001 Dur meddal wedi’i beintio 82 cms x 83 cms My sister and I are sewing A red shirt for my daughter Dwy linell allan o gerdd gan Margaret Atwood o’r enw Crys Coch. Ond wedi darllen y gerdd ganlynol Shapechangers in Winter (t.40) cefais f’ysbrydoli i wneud Crys i fy merch.
I Mam gyda chariad 2002/3 Dur meddal wedi’i beintio, effemera casgledig 150 cms x 49 cms Yn y chwedegau yr oedd fy mam yn hip a ffasiynol ac yn tueddu i wisgo lliwiau llachar a phatrymog. Yr wyf wedi defnyddio delweddau o ddillad fy nain yn y bodis er mwyn cadw’r cysylltiad ond y mae prif ran y darn yn rhannol ddyledus i Paco Rabanne a’i ddillad cadwynog. Mae’r siapiau hirgrwn yn cynnwys delweddau ailadroddus o ddillad fy mam, blows lês, siwt drowsus a blows sidan. Daeth yr uwchwaith ffabrig, edefau a darnau o fetel ar y diwedd ac y mae’n helpu i roi argraff feddalach a mwy tecstilaidd i’r cyfanwaith.
Ffedog Mya, Ffroc Annie 2003 Dur meddal wedi’i beintio 122 cms x 71 cms Daeth yr ysbrydoliaeth am Ffedog Mya, Ffroc Annie oddi wrth fy nwy nain, y deunydd a wisgid ganddynt a’r brodwaith a wnaed ganddynt. Dwy wraig wahanol iawn i’w gilydd, Annie’n gwisgo’n llachar tra bod Mya, oedd yn nyrs, yn fwy tawel, er fy mod yn cofio llawer o batrymau bach blodeuog gan y ddwy. Yr wyf wedi dewis siâp ffedog fel cyfrwng i’r delweddau, y math o ddilledyn yr oedd Mya’n ei wisgo; ond yr wyf wedi’i addurno gyda llawer o waith llaw a lês gwisg priodas o eiddo Annie. Daw’r lliwiau o fag llaw raffia yr oedd Mya’n arfer ei ddefnyddio ar achlysuron arbennig. Y mae hanner isaf y ffedog wedi’i ddatgymalu a’i ailweithio i’w wneud i edrych yn debyg i ffroc symudliw.
Teyrnged i Calder 2003 Dur meddal wedi’i beintio, aliminiwm, edau 130 cms x 74 cms Fis Medi 2003 euthum i Amgueddfa Guggenheim ym Milbao i weld symudion Calder. Eisteddais yn hir ar fainc yn syllu ar symudyn yn crogi ar ei ben ei hun mewn cilfach mewn mur oedd yn troelli ac yn tonni. Yr oeddwn wedi gwneud y cynllun papur ar gyfer y darn hwn ac wedi ceisio dychmygu sut yr edrychai yn crogi yn y gofod. Hunan bortread ydyw i fod ac o dan yr haen gwelir betgwn goch, bodis gwyrdd, coler les a siol hufen. Y rhain yw elfennau’r wisg Gymreig ond y mae’r hanner ffedog, er ei bod yn arfer cael ei gwisgo yng Nghymru, yn addurnedig dros ben gyda delweddau o frodwaith Dwyrain Ewrop arni.
36–37
Os dewch y ffordd hyn... 2003 Dur meddal wedi’i beintio 132 cms x 60 cms Rwyf yn byw yn Llanybri, Sir Gaerfyrddin, lle y bu Lynette Roberts, bardd yr Ail Ryfel Byd, hefyd yn byw. Mae llawer o’i gwaith yn delio’n arbennig gydag iachau ac yr wyf yn eithriadol o hoff o’r gerdd Poem from Llanybri. Y mae’r darn wyf wedi’i wneud yn rhannol fantell a rhannol gwisg o’r pedwardegau, sef ymateb uniongyrchol i’r math o ddillad yr oedd Lynette Roberts yn arfer eu gwisgo medde nhw. Yr wyf wedi creu haen ar ôl haen o batrwm mewn ymdrech i ddelweddu, drwy gyfrwng gwifren, y modd y mae’r bardd yn ein denu i ymweld â hi drwy gydol y gerdd. Cyn troi at farddoni bu Lynette Roberts, fel minnau, yn astudio tecstiliau, ac yn nes ymlaen bu’n gwerthu blodau. Teimlaf bod gen i gysylltiad agos â hi ac y mae’n debyg ei bod wedi gwthio’i phlant mewn pram ar hyd yr un llwybrau a minnau’n union.
Pwyth ac ysgrif 2003 Dur meddal wedi’i beintio, aliminiwm, ffabrig, edau 133 cms x 89 cms Ysbrydolwyd y darn hwn gan fy nghyfeillgarwch gyda Celia Rees a’r mwynhad a gaf yn ei gwaith ysgrifenedig. Cefais y syniad am siâp y darn allan o gymal yn ei chyfrol Sorceress – “Gadewais y wisg a gefais gan Le Grand ar y tywod grutiog. Gorweddai’r â yn edrych yn union fel merch wedi sgertiau llydan a’r peisiau ar fin y dwr boddi a’i thaflu i’r lan.” Cychwynnais drwy wneud y darn ar waelod y sgert ac y mae’r saethau’n gwibio o gwmpas ac yn denu’r llygaid at y wisg a’r stori. Yr wyf wedi llenwi strwythur y cwilt lloerig gydag elfennau allan o lyfrau Celia Witch Child, Sorceress a Pirates. Daw’r forforwyn o Zennor yng Nghernyw lle bu ein teuluoedd yn mynd ar wyliau a medrwch weld y geiriau “I was at the fest the same day as Watcyn” yn treiddio drwy’r darn.
Gwnawn i ti 2004 Dur meddal wedi’i beintio, aliminiwm pwythedig 133 cms x 68 cms Daw’r darn hwn allan o ddarlun bychan bach a wneuthum o fodis tra’r oeddwn yn astudio gwisgoedd gwerin yn ardal Levice yn Slofacia yn 1979. Mae’r hanner ffedog yn cynnwys delweddau a ddeilliodd o lawer o ddarluniau gwahanol o wisgoedd. Teithiais yn Slofacia hefo Dr Marta Botikova, fy nghyfieithydd, ac yr ydym wedi parhau’n gyfeillion. Un diwrnod aeth â mi i Horna Streda i gyfarfod gwraig oedd yn brodio gwisgoedd a dangosodd i mi ddwy ffedog wedi’u brodio’r un ffunud, un i’w gwisgo tu ôl ymlaen a’r llall tu blaen yn ôl. Mae i ochr chwith y darn linell gadarn sydd yn dangos cefn y ffedog.
Mae popeth yn well erbyn hyn 2004 Dur meddal wedi’i beintio, aliminiwm pwythedig 63 cms x 140 cms Dechreuais weithio ar y bodis yn gyntaf gan fwriadol gyfuno motifau brodwaith Cymreig a Phwylaidd. Yr hyn a ddenodd fy niddordeb yma oedd haenu gwifren dros ddalen fetel am ei fod yn ddyfais oedd yn uno ac yn dehongli’r modd yr oedd y patrwm yn cael ei osod. Torrwyd ar draws y broses o wneud y darn hwn gan waith comisiwn ac felly pan ddychwelais ato euthum ati i ddatblygu ymhellach y llinellau rhythmig gyda blodau y medrir eu gweld yn y Ffedog Iachau.
Ffedog iachau 2004 Dur meddal wedi’i beintio, aliminiwm 146 cms x 61 cms (Comisiynwyd gan GIC Grampian ar gyfer Ysbyty Frenhinol Plant Aberdeen) Yr wyf yn hoff iawn o ffurfwisgoedd nyrsus, y ffedog syml arferai gael ei gwisgo yn yr ugeiniau a’r tridegau, a chefais yr ysfa i weithio gyda ffurfiau onglog a chrimp. Dadgyfansoddais y ffedog a’i llenwi â blodau, perlysiau, aderyn, calonnau a phlentyn a’i freichiau ar led. Dibynnais ar Culpeper’s Herbal am wybodaeth ar berlysiau a dewisais y rhai sydd yn ymwneud yn fwyaf arbennig gyda chlefydau plant. Barf y bwch – at anhwylder yr iau a’r frest Ceinioglys – i wella briwiau Palalwyfen – at epilepsi Uchelwydd – at ffitiau Tafod y Neidr – i atal gwaedu Saffrwn – at y frech goch Troed yr Aderyn – at anhwylder gwddf a genau Y Fadfelen – i wella trwyn a genau’n gwaedu Cwmffri – at y swyneg Ffacbys – at y coluddion Pelydr Sbaen – i leddfu poen ac atal peswch
Gwisg ddiolch 2004 Dur meddal wedi’i beintio, aliminiwm pwythedig 81 cms x 61 cms (Comisiynwyd gan GIC Grampian ar gyfer Ysbyty Frenhinol Plant Aberdeen) Ysbrydolwyd y darn hwn gan waith arlunio plant a’r hyn a ddelweddir yw plentyn yn dweud ‘diolch’ wrth y nyrs neu’r meddyg. Edrychais ar sampleri, y darnau brodwaith cyntaf fyddai plentyn yn gorfod eu gwneud ers talwm a phenderfynais gyfosod delwedd ddestlus a threfnus i ddathlu plant y gorffennol gyda lluniau gan blant heddiw. Mae’r darluniau ar y bodis wedi cael eu gwneud gan fy merch bumlwydd oed a’i ffrind ac yr wyf wedi eu gwnio ar y ddalen aliminiwm. Y mae’r gwneuthuriad gwifren wedi’i wneud allan o gyfuniad o ddarluniau o waith plant mewn ysgolion cynradd yn Aberdeen. Dywedodd un plentyn bod angen blodau, siocled, sudd a cherdyn brysiwch wella i’ch helpu i wella ac yr wyf wedi ymgorffori’r geiriau yn y darn.
Wedi cymysgu 2004 Dur meddal wedi’i beintio 138 cms x 59 cms Yr oeddwn ers peth amser wedi gwneud darnau amrywiol o wisg a’u pinio o gwmpas y stiwdio. Daeth fy mrawd i ‘ngweld ac egluro sut y mae cerddorion yn troshaenu gwahanol synau sef yr hyn a elwir ‘cymysgu’. Byddaf yn gwrando ar gerddoriaeth wrth fy ngwaith ac y mae llawer o deitlau fy narnau wedi cael eu dwyn oddi ar rai o fy hoff ganeuon. Yn y man fe sodrais y darnau gyda’i gilydd ac felly y mae yma gymysgedd o wisgoedd Cymreig a Slofac.
38–39
Pawb yn meddwl mai kitsch ydoedd 2004 Dur meddal wedi’i beintio 68 cms x 132 cms Daeth y motifau yn y darn hwn allan o frodwaith cotwm glas a gwyn, rhyw fedr sgwâr, arferai gael ei osod y tu cefn i’r stôf i arbed gwneud llanast wrth goginio yng ngheginau Hwngari. Prynais lawer o’r brodweithiau hyn tra’n gwneud gwaith ymchwil yn Hwngari ond cododd y staff yn yr Amgueddfa Ethnograffic ym Mwdapest eu trwynau a’u disgrifio fel kitsch. Yr wyf wedi torri’r llun gwreiddiol i lawr ac ailosod y ddelwedd ac nid yw bellach yn ffurfio llun eithr addurniad. Y mae’r modd y mae’r ddelwedd wedi cael ei dosdrannu yn y darn hwn wedi dod dan ddylanwad Mae Popeth yn Well erbyn hyn.
Stori sydd raid ei hadrodd 2004 Dur meddal wedi’i beintio, aliminiwm pwythedig 134 cms x 122 cms Ers cryn dipyn yr oeddwn wedi bod yn chwarae hefo’r syniad o gyfuno gwisgoedd gwryw a benyw ond nid oedd dim yn dod. Yr oeddwn yn parhau i osod haenau o wifren ar siaced dyn, ar y chwith, ac yna dechreuais weithio ar ddarn yn ymwneud â gwaith awdur arall, Michelle Roberts. Wrth ail-ddarllen Daughters of the House gwneuthum restr weledol o ddelweddau a oedd yn apelio ataf yn y stori Dwy bais goch Côt wau las Croesau simsan coch ar gingham Smotyn fflamgoch Ffrociau main clystyrog a ffedogau bach drostynt Yr oeddwn hefyd wedi bod yn ystyried beth fyddai llenor yn ei wisgo wrth ysgrifennu a thrwy edrych ar wisgoedd gyrfaol gwelais bod ffedogau a smociau’n cael eu gwisgo i arbed dillad gorau wrth weithio. Dangosir y “gorau” yma drwy gyfrwng dalen fetel.
Torri Trwodd 2004 Dur meddal wedi’i beintio 90 cms x 131 cms Yr oedd arnaf eisiau gwneud darn oedd yn ymestyn allan a thorri ar draws y darnau mwyaf statig ond heb bren dillad yn agos. Chwyddais a thorri i fyny ddarlun o loÿn byw a wnaed gan fy chwaer yn blentyn a’i drawsnewid yn linlun ohoni’n dawnsio mewn gwisg ddu.
Dylanwad fy nhad yn crynhoi 2005 Dur meddal wedi’i beintio 111 cms x 55 cms Yr oedd fy nhad yn ddrafftsmon disglair; ei ddarluniau’n eglur, cywir a manwl. Yr oedd hefyd yn gwisgo fel pin mewn papur ac yn berchen nifer o siacedi, a welir yma wedi hollti gan goler ei ffurfwisg forwrol. Mae’r darn hefyd wedi dod dan ddylanwad gwaith metel Michael Craig-Martin a chasgliad John Galliano a ddyluniwyd ar gyfer Dior wedi’u seilio ar ffurfwisg filwrol.
Shapechangers in Winter (detholiad) Margaret Atwood
uchhod Crys i fy merch
40–41
I feel it as a pressure, an added layer: above, the white waterfall of snow thundering down; then attic, moth-balled sweaters, nomadic tents, the dried words of old letters; then stairs, then children, cats and radiators, peeling paint, us in our bed, the afterglow of a smoky fire, our one candle flickering; below us, the kitchen in the dark, the wink of pots on shelves; then books and tools, then cellar and furnace, greying dolls, a bicycle, the whole precarious geology of house crisscrossed with hidden mousetrails, and under that a buried river that seeps up through the cement floor every spring, and the tree roots snouting their slow way into the drains...
Poem From Llanybri Lynette Roberts If you come my way that is... Between now and then, I will offer you A fist full of rock cress fresh from the bank The valley tips of garlic red with dew Cooler than shallots, a breath you can swank In the village when you come. At noon-day I will offer you a choice bowl of cawl Served with a ‘lover’s’ spoon and a chopped spray Of leeks or savori fach, not used now, In the old way you’ll understand. The din Of children singing through the eyelet sheds Ringing ‘smith hoops, chasing the butt of hens; Or I can offer you Cwmcelyn spread uchod Os dewch y ffordd hyn...
With quartz stones from the wild scratchings of men You will have to go carefully with clogs Or thick shoes for it’s treacherous the fen, The East and West Marshes also have bogs. Then I’ll do the lights, fill the lamp with oil, Get coal from the shed, water from the well; Pluck and draw pigeon with crop of green foil This your good supper from the lime-tree fell. A sit by the hearth with blue flames rising, No talk. Just a stare at ‘Time’ gathering Healed thoughts, pool insight, like swan sailing Peace and sound around the home, offering You a night’s rest and my day’s energy. You must come – start this pilgrimage Can you come? – send an ode or elegy In the old way and raise our heritage.
42–43
Bywgraffiad Geni
1954 Bangor, Gwynedd
Addysg 1976–78 1973–76 1972–73
M.A. Printio Tecstiliau Coleg Celf Brenhinol B.A. Printio Tecstiliau Coleg Celf Caerwynt Cwrs Sylfaen Coleg Celf Hornsey
Gwobrau 2003 1999 1996 1984 1982 1979 1977
Gwobr Cymru Creadigol – Cyngor Celfyddydau Cymru Gwobr Deithio Celf Cymru Ryngwladol Gwobr Cyngor Celfyddydau Cymru i wneud ymchwil yn Slofacia Ysgoloriaeth y Cyngor Prydeinig i wneud gwaith ymchwil yn Romania Ysgoloriaeth y Cyngor Prydeinig i wneud gwaith ymchwil yn Hwngari Ysgoloriaeth y Cyngor Prydeinig i wneud gwaith ymchwil yn Tsecioslofacia wedi’i leoli ym Mhrifysgol Comenius, Bratislafa am bum mis Gwobr Sandersoin Celf mewn Diwydiant i wneud gwaith ymchwil yng Ngwlad Pwyl a Tsiecoslofacia
Casgliadau 2000 Amgueddfa Bankfield, Halifax Amgueddfa Povazske, Zilina, Slofacia 1999 1978 Amgueddfa Victoria & Albert, Llundai Comisiynau Comisiwn gan GIC Grampian ar gyfer Ysbyty Plant Frenhinol Aberdeen 2004 2000 Gwneud y wobr i enillydd cystadleuaeth Person Busnes y Flwyddyn Cymru a gyflwynwyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli
44–45
Detholiad 2000 1999 1999 1999 1998 1997 1987 1981 1980 Detholiad 2003 2003 2003 2002 2002 2002 2001 2001 1996 1995 1993 1992 1992
o Arddangosfeydd Unigol Dirwyn yr Edafedd, Amgueddfa Bankfield, Halifax Cwpwrdd arddangos – Celf Gymhwysol Gyfoes, Llundain Brodweithiau yn Amgueddfa Air Povazske, Zilina, Slofacia (catalog) Brodwaith yn Amgueddfa Genedlaethol Air Slovak, Martin, Slofacia Dirwyn yr Edafedd Oriel Canolfan Grefft Rhuthun (catalog ac ar daith) Dirwyn yr Edafedd Oriel Glynn Vivian, Abertawe Ailymweld â Chelf Gwerin Tair Gwlad, Oriel Llyfrgell Hwlffordd, Canolfan Astudiaethau Gwerin Ewropeaidd, Llangollen ac Oriel Bangor Canolfan Gelf Czech Chic South Hill Park, Bracknell (taith) yn cynnwys Oriel Caerwynt, Oriel Holt Street, Birmingham Five Months Oriel Spectro, Newcastle-upon-Tyne o Arddangosfeydd Grŵp Dathlu Addysg – Celf Gymhwysol Gyfoes, Llundain SOFA Chicago – cynrychiolwyd gan Ganolfan Grefft Rhuthun Gweld Llais a Chlywed Llun Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Pafiliwn Cyngor Celfyddydau Cymru, curadwyd gan Ganolfan Grefft Rhuthun Euromix – Oriel Salt Mill, Swydd Efrog Degawd Canolfan Grefft Rhuthun Drawn Oriel Myrddin, Caerfyrddin Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Sir Ddinbych Telling Canolfan Gelf Aberystwyth Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Llandeilo Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bro Colwyn Metalworks Oriel Rhydychen A Westward Eye Canolfan Grefft Cork (sioe dau berson) Live Wire City Gallery, Oriel Dinas Caerlyr; Oriel Ruskin, Sheffield (ar daith)
1992 1991 1991 1990 1989 1988 1985 1984 1979 1979
Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberystwyth A Welsh Proposal Oriel West Wharf, Caerdydd (sioe dau berson) Riveting Stuff Oriel 31, Y Trallwm, Powys Oriel Celf a Dylunio Leeds Ingenious Inventions Amgueddfa Harris, Preston Figure Happy Canolfan Gelf y Canoldir (ar daith) The Minories, Caergolun, Essex (sioe dau berson) ‘4 at 7’ Oriel 7 Dials, Llundain The Open and Closed Book Amgueddfa Victoria & Albert, Llundain Oriel Curwen, Llundain
Cylchgronau 2003 VIEW ON COLOUR, rhifyn 23, Visible skills of daily living CRAFTS, rhifyn Mawrth/Ebrill 2002, Domestic Science 2002 1998 EMBROIDERY, Unwinding the Thread Teledu 2002 1999 1998
Nodwedd ar P’nawn Da ar S4C Digidol Nodwedd ar Heno S4C Nodwedd ar Sioe Gelf S4C
Catalogau 2003 2002 1999 1998
Gweld Llais a Chlywed Llun cyhoeddwyd gan Ganolfan Grefft Rhuthun Degawd cyhoeddwyd gan Ganolfan Grefft Rhuthun Embroideries in The Air cyhoeddwyd gan Amgueddfa Povazske Dirwyn yr Edafedd, cyhoeddwyd gan Ganolfan Grefft Rhuthun
46–47
Preswyl 2003 2002 1984 1980
Ysgol Gynradd Caerfelin, Sir Gaerfyrddin Ysgol Uwchradd Castell Newydd Emlyn, Ceredigion Canolfan Gelf South Hill Park, Berkshire Gweithdy Spectro Arts, Newcasrle-upon-Tyne
Gwaith wedi’i Gyhoeddi 1984 A Drawing a Day – A Month in Hungary cyhoeddwyd gan Julia Griffiths Jones Five Months in Czechoslovakia argraffwyd yn Spectro Arts, Newcastle-upon-Tyne 1980 1979 Cadeirlan Derby mewn cysylltiad â Gwasg Aylesford Cottage 1978 Folklor Polski mewn cysylltiad â Gwasg Aylesford Cottage 1978 A Diary argraffwyd yn y Coleg Celf Brenhinol Darlithio 2004– 2000–04 1991–00 1991–00 1982–90 1981–83 1978–90
Darlithydd Darlithydd Darlithydd Darlithydd Darlithydd Darlithydd Darlithydd
Cysylltiol, Athrofa Abertawe Hŷn, U.W.I. C. Caerdydd Cysylltiol, U.W.I.C. Caerdydd Cysylltiol, C.C.T.A. Caerfyrddin Cysylltiol, Prifysgol Middlesex Rhan-amser, Ysgol Gelf a Dylunio Epsom Rhan-amser, Coleg Celf a Dylunio Berkshire
Gwaith Dylunio 1978–92 rhychwant o weithiau comisiwn mewn amrywiol gyfryngau gan gynnwys tecstiliau, papur a metel. Cwmniau comisiynu yn cynnwys – Paperchase, C.T.Strangeways, Butters, Sasha Wardell, Jenny Frean a The House of James; cynlluniau tecstil wedi’u gwerthu ym Mharis, Milan, y DU a Gweriniaeth Iwerddon.
Cydnabyddiaethau Julia Griffiths Jones Hoffwn ddiolch yn arbennig i ‘nheulu am eu cefnogaeth diddiwedd, yn enwedig Peter, Watcyn a Sara. Hefyd diolch i Menna Owen-Strong a Mary Schoeser am eu cymorth amhrisiadwy wrth lunio’r arddangosfa hon. Mae nifer o rai eraill hefyd wedi fy hybu: Eleanor Glover; Gillian St John Griffiths; Nathalie Camus; Philip Hughes; Audrey Walker; Hilary Rhys Osmond; Jacquie Mclennan; Mary La Trobe Bateman; Celia Rees, a holl staff y cwrs Dylunio Patrwm Arwyneb yn Athrofa Abertawe ac yr wyf yn wir ddiolchgar iddynt oll. Hoffai Canolfan Grefft Rhuthun ddiolch i a chydnabod cymorth y canlynol: Cyngor Celfyddydau Cymru a Nathalie Camus; Mary Schoeser; Mary La Trobe Bateman a Sonja Collins o’r Celfyddydau Cymhwysol Cyfoes; Sara Roberts; Hafina Clwyd; Fennah Podschies; Lisa Rostron; Dave Lewis; Roger Mansbridge, Pete Goodridge ac ArtWorks. Mae Mary Schoeser yn awdur a beirniad rhyngwladol adnabyddus ac wedi cyhoeddi nifer o gyfrolau dylanwadol am y celfyddydau cymhwysol. Y mae ei gwaith diweddaraf yn cynnwys More is More: an antidote to minimalism, a gyhoeddwyd gan Conran Octopus (Llundain) a Reed Publishing (NZ) Limited, a World Textiles: a concise history, a gyhoeddwyd yn fydeang gan Thames & Hudson yn eu cyfres hanes celfyddydau. Fel Cymrodor Ymchwil yng Ngholeg Celf S Martin y mae hi ar hyn o bryd yn curadu Fashion’s Memory, o gelf gwerin i gelf i’w wisgo, mewn gwahanol fannau yn yr UDA a’r DU.
Dylunio: lawn www.lawn-hq.co.uk Ffotograffi: Jason Ingram – heblaw Ffedog Iachau, Gwisg Ddiolch a ffotograffiaeth ar leoliad gan Graham Matthews Argraffwyd gan: Synergy Argraffwyd gydag inciau llysieuol ar bapur yn deillio o fforestydd cynaliadwy. Cyhoeddwyd gan, Yr Oriel, Canolfan Grefft Rhuthun. Testun h yr awduron a CGR 2005. ISBN 1 900941 82 1 Y mae Oriel Canolfan Grefft Rhuthun yn rhan o Gyngor Sir Ddinbych gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru.
Staff Canolfan Grefft Rhuthun: Philip Hughes a Jane Gerrard. Julia Griffiths Jones – Stori sydd raid ei Hadrodd – arddangosfa deithiol Canolfan Grefft Rhuthun gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru. Cyhoeddir y gerdd Poem from Llanybri gyda chaniatad Angharad Rhys. Detholiad allan o Shapechangers in Winter gyhoeddwyd yn Eating Fire, Selected Poetry 1965–1995 gan Margaret Atwood. Detholiad allan o gyda chaniatad Curtis Brown Group Ltd. Llundain ar ran Margaret Atwood h Margaret Atwood 1995. Detholiad allan o Sorceress gan Celia Rees gyda chaniatad caredig Bloomsbury. Am fwy o wybodaeth am Julia Griffiths Jones ymwelwch â www.juliagriffithsjones.co.uk
48
Yr Oriel Canolfan Grefft Rhuthun Heol y Parc, Rhuthun, Sir Ddinbych LL15 1BB Ffôn: 01824 704774
Julia Griffiths Jones
ISBN 1 900941 82 1
Julia Griffiths Jones