ddim yn rhy werthfawr
ddim yn rhy werthfawr Gemwaith gan 25 o wneuthurwyr rhyngwladol
Cynnwys 04 – 07 Rhagair Philip Hughes 08 – 19 Ddim yn Rhy Werthfawr: y tonnau y tu cefn i ni Elizabeth Goring 20 – 71 Datganiadau a phroffiliau gwneuthurwyr 72 – 73 Ddim yn Rhy Werthfawr: bwrw goleuni Elizabeth Goring 74 – 75 Rhestr Termau 76 Cydnabyddiaethau
Cyhoeddwyd i gyd-ddigwydd â’r arddangosfa ‘Ddim yn Rhy Werthfawr’ a guradwyd gan Elizabeth Goring a Gregory Parsons ar gyfer Canolfan Grefftau Rhuthun, 11 Gorffennaf – 20 Medi 2015
02 | 03
Rhagair Yn 1998 cynhaliwyd arddangosfa arloesol yn dwyn y teitl Jewellery Moves. Ornament for the 21st century yn Amgueddfa Frenhinol yr Alban yng Nghaeredin. Y Curaduron oedd Amanda Game a Dr Elizabeth Goring, a’i nod oedd rhoi proffil i amrediad eang o ymarfer gemwaith cyfoes rhyngwladol, ei roi yn ei gyd-destun a dathlu ei amrywiaeth. Roedd y Rhagarweiniad i’r cyhoeddiad a oedd yn cyd-fynd ag o’n gofyn y cwestiwn, ‘Beth ydi gemwaith?’ Ysgrifennodd Amanda Game ac Elizabeth Goring mewn ymateb: Gemwaith yw’r enw cyfunol am gyfres o wrthrychau o raddfa cymharol fychan y gellir eu cydio wrth ddillad, neu eu gwisgo’n uniongyrchol ar y corff, er mwyn addurniad personol. Mae gemwaith yn gysyniad – addurniad – ac yn wrthrych – yr em. Mae’n debyg mai celfyddyd gemwaith yw’r gelfyddyd ddynol fwyaf hynafol o’r holl gelfyddydau ac fe’i harferir dros y byd i gyd. Ymhell cyn i bobl wneud crochenwaith a’i addurno, neu greu ac addurno brethyn, roedden nhw’n defnyddio gwrthrychau naturiol fel cregyn, cerrig neu flodau i’w haddurno eu hunain, gan gydnabod y ffordd y gallai addurniadau felly drawsnewid y gwisgwr a’u harwisgo â grym ac, yn aml, â statws. Heddiw fe arferir celfyddyd y gemydd dros y byd i gyd o hyd. Caiff pwysigrwydd gemwaith i bobl drwy gydol eu hanes ei ddarlunio gan gladdiad gemwaith mewn beddi, cymynroddion penodol o emwaith mewn ewyllysiau a’r tueddiad i emau gael eu cadw gan genedlaethau olynol, hyd yn oed os yw’r gwerth a’r ystyr gwreiddiol wedi eu colli. Mae’r datganiad cryno hwn yn dwyn ynghyd diamseredd a chyffredinolrwydd gemwaith o fewn y diwylliant dynol, yn fframio’r cyd-destun ehangach ar gyfer arddangosfeydd fel Ddim yn Rhy Werthfawr. Mae Ddim yn Rhy Werthfawr yn arddangosfa arolwg rhyngwladol sydd wedi’i churadu gan Dr Elizabeth Goring a Gregory Parsons sy’n archwilio ac yn dathlu gwaith cyfredol arloesol gan emyddion sy’n artistiaid gan ddefnyddio defnyddiau anwerthfawr. Gan arddangos gwaith gan artistiaid sy’n gweithio ar hyn o bryd yn y Deyrnas Unedig, Ewrop, Japan, Awstralia a Seland Newydd, mae’n ddiddorol sylwi fod nifer wedi adleoli o’u gwledydd brodorol, gan ddewis lleoedd newydd ar gyfer eu harfer. I emyddion artistiaid radical ar ddiwedd y ’60au a’r ’70au, roedd y syniad o ystyried gemwaith yn gynhenid ‘werthfawr’ dim ond oherwydd yr hyn yr oedd wedi ei wneud ohono, yn un i’w wrthod yn egnïol. Mae’n anodd cyfleu heddiw pa mor chwyldroadol yn union yr oedd hynny. Roedd yna lawer o wahanol ystyriaethau, yn wleidyddol ac yn foesegol, yn gefndir i’r gwrthodiad yma, yn cwestiynu dylunio ceidwadol a syniadau o ‘werth’ sydd wedi’u mewnrweiddio. Y canlyniad oedd ffrwydrad o arferion creadigol, lle’r oedd syniadau’n cael eu harchwilio a’u mynegi mewn cotwm, sidan, reion, pren, plastigau, asgwrn, lledr, rwber, alwminiwm a thitaniwm.
Darn Gwddw ‘Holy Land’, Christel van der Laan, 2013; crwybr serameg, arian ocsidiedig â chaen bowdwr, darganfyddiadau rhywiog. 130 x 290 x 45mm
04 | 05
Fe dyfodd y diddordeb mewn creu gemwaith o’r defnyddiau hyn yn gyflym drwy’r ’70au, yr ’80au a’r ’90au wedi’i yrru gan sawl ffactor yn cynnwys prisiau cynyddol metel, datblygiadau mewn addysg celfyddyd, a chyfres o arddangosfeydd a chyhoeddiadau ysbrydoledig. Roedd y ‘Gemwaith Newydd’ yn cynnig cyfle creadigol na ellid hyd yn hyn ei ddychmygu: daeth cyfuniadau arloesol o ddefnyddiau’n bosib, fel y daeth agweddau newydd tuag at ddefnyddio lliw, a ffurfiau graffeg soffistigedig. Heddiw, mae llawer o artistiaid yn gweithio â defnyddiau anwerthfawr. Mae rhai o’r gwneuthurwyr sydd wedi’u cynnwys yn Ddim yn Rhy Werthfawr yn defnyddio’r hyn a ystyrir yn draddodiadol yn ddefnyddiau ‘gwerthfawr’, wedi’u dewis am eu priodweddau cynhenid fel eu harddwch, cryfder neu eu hirhoedledd, neu i wella’n esthetaidd defnyddiau sydd ddim yn cael eu hystyried ynddynt eu hunain yn werthfawr yn draddodiadol. Mae teitl yr arddangosfa’n rhoi cwmpas i’r curaduron archwilio dulliau felly. Meddai Elizabeth Goring, ‘I mi, daw’r ffin pan ddefnyddir arian neu aur dim ond i ychwanegu ‘gwerth’ i’r gwaith. Mewn rhai achosion, byddai osgoi arian – er enghraifft, lle gallai hynny fod yn ddeunydd priodol ar gyfer y gwaith – yn groes i’r graen; ond [ar gyfer yr arddangosfa hon] mae’n rhaid iddo gymryd y rôl gynhaliol, a pheidio â bod yn ddeunydd pwysicaf.’ Mae gwaith Carina Chitsaz-Shoshtary, a ddarlunnir ar glawr y llyfr, yn cyfathrebu’n huawdl yma mewn perthynas â hyn, mae’r arian nid dim ond yn gwella’r paent graffiti, mae hefyd yn ei ategu, hyd yn oed yn ei barchu drwy ei rôl gynhaliol. Mae ‘gwerth’ yn derm allweddol. Fel yr ysgrifenna Elizabeth Goring yn y traethawd canlynol: Os ydyn ni’n malio am ein gwerthoedd personol mae’n rhaid i ni barhau i ymladd drostyn nhw. […] Mae Ddim yn Rhy Werthfawr yn canolbwyntio sylw ar emyddion dawnus sy’n ymroddedig i ddefnyddio deunydd ar gyfer eu potensial mynegiadol […] mae eu gwaith yn ystyrlon, yn graff ac yn atseiniol. Mae’n eithriadol ddawnus, […] weithiau’n deimladwy, weithiau’n ffraeth, weithiau’n drawiadol hardd. Y mae, yn bwysicach na dim, yn onest ac, o fethu â meddwl am derm gwell, nid yw’n rhy ‘werthfawr’. Mae amrywiaeth yr ymarfer creadigol a’r dewis o ddefnyddiau yn yr arddangosfa hon yn arwyddocaol, fel y mae’r dewis o arena: o farddoniaeth a thelynegiaeth i’r chwareus neu’r gwleidyddol rydyn ni’n canfod corff o waith sydd, 40 mlynedd ar ôl y symudiadau cynharach mewn ymarfer defnyddiau, yn dangos yn glir hyder creadigol ac aeddfedrwydd. Mae’r dewis o waith gan y ddau guradur yn amlygu ac yn herio ein rhagdybiaethau a’n dealltwriaeth o’r hyn y gall ‘anwerthfawr’ ei olygu heddiw; mae hon yn arddangosfa amserol a gwirioneddol ysbrydoledig ar gyfer pawb sydd â diddordeb angerddol mewn gemwaith cyfoes.
Philip Hughes Cyfarwyddwr, Canolfan Grefftau Rhuthun
06 | 07
Darn Gwddw, Mirei Takeuchi, 2012; haearn, dur. 420mm yn ei hyd
Ddim yn Rhy Werthfawr: y tonnau y tu cefn i ni1 1. ‘If men could learn from history, what lessons it might teach us! But passion and party blind our eyes, and the light which experience gives is a lantern on the stern, which shines only on the waves behind us!’ (Samuel Taylor Coleridge, Table Talk, 1831)
Gwerthfawr: 1. Annwyl; cu. 2. Costus iawn neu ddrudfawr. 3. Â pharch tuag ato, yn enwedig mewn materion moesol neu ysbrydol. 4. Yn gysetlyd iawn neu’n fursennaidd, fel mewn lleferydd, moesau etc. 5. (Anffurfiol) Di-werth, fel yn ‘chi â’ch syniadau bondigrybwyll!’ Mae ‘Gwerthfawr’ ag ystod eang o ystyron posibl. Fel y mae diffiniadau’r geiriadur uchod yn ei ddynodi, maen nhw’n cwmpasu’r gwrthrychol (‘drud’), y goddrychol (‘i’w edmygu’), yr ymddygiadol (‘arddulliedig’) a hyd yn oed y coeglyd (lle byddai’n arfer cyfleu’r gwrthwyneb yn union i’w ddefnydd amlach). Yn ei amrediad o ystyron mae â llawer yn gyffredin â’r gair mwy eglur-dwyllodrus hwnnw ‘neis’. Defnyddir ‘Gwerthfawr’ yn aml fel math o law-fer yn y disgwyliad bod y rheiny rydyn ni’n eu hannerch yn rhannu ein canfyddiadau ni’n hunain o’r pwn diwylliannol y mae’n ei gludo gydag o. Yn anffodus nid fel hyn y mae hi bob amser o bell ffordd. Er mwyn tynnu sylw at ei amwysedd potensial, caiff y gair ei gorlannu’n wastad â dyfynodau, fel y mae ei gymar cyfrannol, ‘anwerthfawr’. Er hynny, mae pawb yn deall yr hyn a olygir wrth ‘emwaith gwerthfawr’. Ac felly, siawns nad ydym i gyd yn cytuno ar ei antithesis, ‘gemwaith anwerthfawr’? Wel, na. Efallai i ni feddwl ein bod yn golygu’r un pethau pan fyddwn yn defnyddio’r termau hyn ond mewn gwirionedd mae’r hyn a olygir yn dibynnu ar nifer o newidion – y mwyaf amlwg yw ein diwylliant, ein hoed a’n statws economaidd-gymdeithasol. Ynghlwm â’r rhain mae newidion eraill sy’n fwy penodedig, fel ein barn ar fasnachadwyedd, ein hagwedd bersonol tuag at ymdrech ac arfer artistig, a’n hymwybyddiaeth o ddatblygiad hanes gemwaith. Felly a yw fy ‘ngwerthfawr’ i’r un fath â’ch ‘gwerthfawr’ chi mewn gwirionedd? Mae Ddim yn Rhy Werthfawr yn archwilio’r diriogaeth ymddangosiadol amlwg honno (ond sydd mewn gwirionedd yn ddiamwys) lle gall ein dealltwriaeth o emwaith ‘gwerthfawr’ ac ‘anwerthfawr’ wrthdaro neu gyd-daro’n dibynnu ar bwy ydyn ni. Ei nod yw tynnu sylw at y rhagdybiaethau sylfaenol y byddwn ni i gyd yn eu gwneud ac, o wneud hynny, ein hannog i herio naws ein dyfarniadau gwerth ein hunain. Mae yna lawer o le i gamddehongli ‘gwerthfawredd’ hyd yn oed o fewn byd bychan gemwaith celf cyfoes – term sydd ynddo’i hun wedi cynhyrchu dadl angerddol ac sydd â llawer o’r un potensial ar gyfer camddehongliad. Yn y byd hwnnw, gwelwyd newidiadau arwyddocaol yn y degawdau diweddar o ran y pwysau sydd i’r gair ‘gwerthfawr’. Fodd bynnag, mae cynnydd y newidiadau hyn wedi bod mor gynnil dros amser fel y gallai’r rheiny sy’n ei ddefnyddio fod yn anymwybodol y gallai cenedlaethau gwahanol ei ddeall mewn ffyrdd gwahanol. I weld sut y bu i hyn ddigwydd, mae’n ddefnyddiol cymryd cipolwg yn ôl ar beth o’r hyn a ddisgrifiodd Coleridge fel ‘y tonnau y tu cefn i ni’.
Tlws, titaniwm ac arian, gan Brian Podschies, 1989. Casgliad Preifat Tlws, Fformica, gan Louise Slater, 1985. Casgliad Preifat
08 | 09
Mae datblygiad yr hyn a ddaeth yn hysbys fel ‘Y Gemwaith Newydd’, yn ail hanner yr ugeinfed ganrif, wedi ei ddogfennu gan sylwebyddion fel Peter Dormer, Ralph Turner a James Evans, ac fe gyhoeddwyd ei farwolaeth gan Paul Derrez yn 1987 2. I emyddion-artistiaid radical diwedd y ‘60au a’r ‘70au, daeth y syniad o ystyried gemwaith yn gynhenid ‘werthfawr’ dim ond oherwydd y defnyddiau yr oedd wedi ei gyfansoddi ohonyn nhw i fod yn un i’w wrthod yn egnïol. Roedd llawer o strandiau o feddwl, yn wleidyddol ac yn foesol, y tu cefn i’r gwrthodiad yma, a gyflenwodd sialens eglur hefyd i anffrwythlonedd ymddangosiadol gemwaith ‘masnachol’. Yng nghanol yr ‘80au, ysgrifennodd Ralph Turner yn ei ragarweinia=d i The New Jewelry: Mae’r rhan fwyaf o’r gemwaith a werthir gan adwerthwyr mawr yn geidwadol eu dyluniad, yn bennaf oherwydd mai dyluniad yn aml yw’r agwedd leiaf pwysig ar emwaith a brynir i ddathlu neu gyhoeddi digwyddiad – dyweddïad, priodas, pen-blwydd priodas. Y brif ystyriaeth i bobl sy’n prynu gwaith ar gyfer digwyddiadau felly yw y dylai edrych yn rhodresgar drawiadol a drud… Mae llawer o emwaith masnachol felly wedi’i ddylunio o fewn cysyniad cul o’r ffordd y dylai gemwaith ymddangos. Ac mae syniadau a oedd unwaith yn ffres ac yn fywiog wedi dod yn ystrydebau. Yn y rhan fwyaf o emwaith masnachol mae’r dyluniad yn cyfri dim ond fel cyfrwng i emfeini a defnyddiau drudfawr.3 Roedd y Gemwaith Newydd yn cwestiynu’n angerddol agweddau mor ddi-syfl ac anfeirniadol tuag at ‘werth’, gan gynnig yn eu lle ffocws ar onestrwydd cysyniad ac ansawdd cynhenid defnyddiau. Er nad oes unrhyw amheuaeth fod y Gemwaith Newydd wedi llwyddo i ryddhau agweddau tuag at wneud, roedd yr effaith a gafodd ar ‘bobl yn prynu gwaith’ ar gyfer digwyddiadau allweddol bywyd yn gyfyngedig. Y safle rhagosodedig i fwyafrif llethol y defnyddwyr yw prynu gemwaith ‘real’ ar gyfer achlysuron felly, greddf sydd fel pe bai wedi’i phennu gan arfer ac amser. Tyfodd diddordeb mewn creu gemwaith o ddefnyddiau nas ystyrid yn draddodiadol yn gynhenid ‘werthfawr’ drwy’r ‘70au, yr ‘80au a’r ‘90au , wedi’i yrru a’i atgyfnerthu gan nifer o ffactorau. Yn y Deyrnas Unedig, elfen bwysig oedd natur gyfnewidiol addysg celfyddyd.
Clustdlysau, niobiwm, gan Ann Marie Shillito, 1987 neu 1988. Casgliad Preifat 10 | 11
Clustdlysau, alwminiwm wedi’i anodeiddio, gan Jane Adam, 1985. Casgliad Preifat
2. Rhoddodd James Evans lyfryddiaeth ddethol ddefnyddiol, er ei bod efallai wedi dyddio’n awr yn ‘The New Jewellery, a documentational account’, in Designing Britain 1945–1975, The visual experience of post-war society, project a gynhaliwyd rhwng 2001–2 (http:// www.vads.ac.uk/learning/ designingbritain/html/tnj.html). O ran marwolaeth yr Gemwaith Newydd gweler Paul Derrez, ‘The New Jewellery. Death of a Movement?’, Crafts 86, Mai/Mehefin 1987. 3. Peter Dormer a Ralph Turner, The New Jewelry: Trends + Traditions, Rhifyn clawr papur, Llundain 1986, 7.
Roedd sefydlu cwrs gemwaith arbrofol dylanwadol Gerda Flöckinger yng Ngholeg Celf Hornsey yn 1962 wedi nodi trobwynt yn nyluniad gemwaith Prydeinig, ac roedd cydnabyddiaeth y gallai gemwaith fod yn gyfrwng grymus ar gyfer mynegiant, yn gorwedd yn braf o fewn y cyfeiriad yr oedd cyrsiau gemwaith eraill yn ei gymryd mewn colegau celf fel y Central School of Art and Design yn Llundain, y Glasgow School of Art a’r Royal College of Art. Roedd y rhain yn cynnig dewis gwahanol cyffrous i lwybr mynediad mwy traddodiadol gemwaith drwy brentisiaethau technegol o fewn y diwydiant. Yn arwyddocaol, fe gynhyrchodd y rhain genedlaethau olynol o athrawon yr oedd eu hyfforddiant yn cynnwys cyfuniad cymhellol o ragoriaeth dyluniad a meistrolaeth techneg. Darparwyd symbyliad pellach gan nifer o arddangosfeydd a chyhoeddiadau hynod ddylanwadol. Yn y Deyrnas Unedig, y cyntaf oedd yr ysbrydoledig ‘Arddangosfa Ryngwladol o Emwaith Modern 1890–1961’. Daeth yr arddangosfa hon nid dim ond â gwaith gemyddion o fwy na 30 o wledydd i Lundain ond hefyd fe gomisiynodd emwaith gan gerflunwyr ac arlunwyr mawr. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, ym Mehefin 1971, dangosodd arddangosfa agoriadol yn Oriel arloesol Electrum yn Llundain gasgliad o waith gan 25 o ddylunwyr a oedd yn cynnwys gemwaith acrylig gan y gemyddion Almaenaidd ac Awstraidd Gerd Rothmann, Claus Bury a Fritz Maierhofer. Gwnaeth eu gwaith argraff sylweddol ar werthfawrogiad o ddefnyddiau ‘anwerthfawr’. Roedd y cyfuniad o acrylig ag aur ac arian yn wefreiddiol wyrdroadol ar y pryd, ac roedd y lliw llachar a’r ffurfiau graffig soffistigedig yn sicr mewn cytgord ag agweddau eraill ar ddiwylliant poblogaidd cyfoes. Roedd llawer o ddefnyddiau ‘anwerthfawr’ ar wahân i acrylig yn cynnig cyfleoedd i uchod: International Exhibition of Modern Jewellery, The Goldsmiths’ Company, 1961 (testun a phlatiau). The New Jewelry, Thames and Hudson, 1986. ar y dde: Clustdlysau, Persbecs ac arian, gan Angus McFadyen, 1985. Casgliad Preifat
gyflwyno lliw. Roedd gemwaith masgynnyrch yr ugeinfed ganrif wedi defnyddio gwydr neu wahanol ffurfiau ar blastig ers amser i’r diben hwn, tra bod gemwaith ‘cain’ traddodiadol yn defnyddio gemfeini ac enamel. Ond yn awr, roedd y diddordeb a oedd yn ehangu’n gyflym mewn gwaith ‘anwerthfawr’ yn annog gwneuthurwyr a oedd wedi’u hyfforddi mewn colegau celf i fwrw eu rhwydi’n ehangach. Câi’r parodrwydd i archwilio ei atgyfnerthu gan yr ymgais gan y brodyr Hunt yn 1979/80 i gornelu’r farchnad mewn arian, gyda’r canlyniad o gynnydd enfawr yn ei bris. Doedd gan fyfyrwyr gemwaith fawr o ddewis ond ceisio defnyddiau gwahanol i arbrofi â nhw. Deunydd synthetig fel neilon, acrylig – poly(methyl methacrylate) a PVC – poly(clorid finyl); metalau fel alwminiwm, dur, titaniwm a niobiwm; tecstilau fel cotwm, cywarch, sidan a reion; papur a defnyddiau naturiol fel pren, plu, rwber a lledr yw dim ond ychydig o’r llu gwahanol ddefnyddiau a oedd yn cael eu harchwilio. Roedd yr ‘80au’n eithriadol gyfoethog o arddangosfeydd gemwaith cyfoes a chyhoeddiadau a newidiodd ganfyddiadau; yn wir, roedd yn ddegawd y gellid ei alw, mewn unrhyw gyd-destun arall yn hytrach na hwn, yn Oes Aur. Roedd arddangosfa’r Ganolfan Grefftau Brydeinig yn 1982 ‘Jewellery Redefined’ yn ffynhonnell ysbrydoliaeth enfawr i lawer o emyddion ifanc sydd ers hynny wedi mynd ymlaen i fod yn wneuthurwyr ac athrawon adnabyddus. Sioe arwyddocaol arall oedd yr ‘Ornamenta’ helaeth, yn y Schmuckmuseum yn Pforzheim yn 1989. Roedd cyhoeddiadau dylanwadol yn cynnwys y syfrdanol Africa Adorned gan Angela Fisher, a gyhoeddwyd am y tro cyntaf yn yr Unol Daleithiau yn 1984, ac a oedd yn datgelu ystod a harddwch anghyffredin gemwaith Affricanaidd, addurniadau corff ac addasiadau corff, yn ogystal â gwerth diwylliannol ac ystyr y defnyddiau lawer a ddefnyddiwyd. Un arall oedd The Colouring, Bronzing and Patination of Metals, gan Richard Hughes a Michael Rowe a gyhoeddwyd yn 1982, a ysbrydolodd emyddion i archwilio metelau fel efydd, pres a chopr mewn ffyrdd newydd cyffrous. Dair blynedd yn ddiweddarach fe luniwyd barn ymhellach am ddefnyddiau a gwerthoedd diwylliannol gan The New Jewelry: Trends + Traditions. I ddilyn cafwyd llawer o arddangosfeydd a chyhoeddiadau eraill a oedd yn procio’r meddwl, yn eu mysg Jewelry in Europe and
chwith: ‘Precious plastics at the Electrum’, Ilse Gray, Design, rhifyn 272, Awst 1971, 36–7; ‘Baubles, bangles and bricks’, Georgina Howell, The Sunday Times Magazine, Mehefin 23, 1985, 38–9. uchod: Jewellery Redefined, Y Ganolfan Grefftau Brydeinig, 1982; Jewelry in Europe and America: New Times, New Thinking, Thames and Hudson, 1996; Ornamenta, Prestel-Verlag, Munich, 1989
12 | 13
America: New Times, New Thinking (1996), Jewellery Moves (1998), a’r Contemporary Japanese Jewellery (2001/2) dadlennol. Erbyn troad y mileniwm, roedd mwy na 120 o wahanol ddefnyddiau’n cael eu cynrychioli yng nghasgliad gemwaith cyfoes Amgueddfeydd Cenedlaethol yr Alban; gellid bod wedi ychwanegu llawer mwy yn rhwydd iawn. Daeth ysgogiad pellach gan seilwaith cefnogol a dyfodd o gwmpas gemwaith cyfoes. Roedd ei flociau adeiladu’n cynnwys orielau preifat a oedd un ai’n emwaith-sbesiffig neu a oedd â staff a oedd yn deall lle gemwaith o fewn y maes crefftau ehangach (ac nid y lleiaf o’r rhain oedd
4. Yn ogystal â’r Deyrnas Unedig roedd yn cynnwys cynrychioliad o Awstralia, Gwlad Belg, Canada, y Weriniaeth Tsiec, Denmarc, Yr Almaen, Y Ffindir, Hwngari, Iwerddon, Yr Eidal, Latfia, Japan, Malaysia, Yr Iseldiroedd, Seland Newydd, Portiwgal, De Affrica, De Korea, Sbaen, Sweden, Y Swistir a’r Unol Daleithiau.
Aspects Sharon Plant yn Llundain – arddangosfa a gynhaliwyd ganddi o 1981–6 ac y mae colled fawr ar ei hôl); arddangosfeydd gwerthu Tony Gordon a Christine Bola, a gychwynnwyd hefyd yn 1981, a ddarparai gyfleoedd adwerthu rheolaidd ac, yn hanfodol, gwybodus ar gyfer gemyddion a oedd yn ymddangos a rhai sefydledig mewn lleoliadau diwylliannol o gwmpas y Deyrnas Unedig (ac mae’n dal i wneud hynny heddiw); digwyddiadau gwerthu blynyddol (fel Ffair Grefftau Chelsea), a alluogodd gwneuthurwyr i gyfarfod â phrynwyr newydd wyneb-yn-wyneb a dangos gwaith newydd i brynwyr sefydledig; y cymorth a gynigiwyd gan sefydliadau datblygu ar lefel cenedlaethol a lleol; amgueddfeydd ac orielau a arianwyd gan gyllid cyhoeddus a adeiladodd gasgliadau o emwaith cyfoes a’i arddangos i gyhoedd a oedd, i raddau helaeth, yn anarbenigol; ac, yn rhannol, casglwyr gwybodus a chefnogol a allai fynd â gemwaith yn gorfforol allan i’r byd ehangach. Yn y cyfamser, fe faethwyd cysylltiadau o fewn colegau celf rhwng gemwaith ‘celf’ a’r diwydiant gemwaith masnachol drwy sefydliad lleoliadau gwaith myfyrwyr yn seiliedig ar ddiwydiant a chystadlaethau dylunio i fyfyrwyr a oedd wedi’u noddi gan ddiwydiant. Roedd mentrau felly’n gyd-fuddiol y naill i’r llall, a hefyd yn rhoi hwb yr oedd gwir ei angen i ragolygon cyflogaeth nifer cynyddol o emyddion ifanc a oedd yn graddio o golegau celf Prydeinig yn negawdau olaf yr 20fed ganrif. Daeth ‘Class of ’95’, arddangosfa yn Neuadd Goldsmith yn haf 1995, â chorff mawr o waith graddedigion at ei gilydd gan ofaint arian ifanc a gemyddion o 76 o sefydliadau mewn 24 o wledydd.4 Cipiodd y sioe foment ddiddorol yn natblygiad cenhedlaeth gyfan o
chwith: (clocwedd o’r top chwith): Cylchgrawn Aspects, Gorffennaf – Medi 1985; Poster Aspects, dyluniwyd gan David King, 1980s (dim dyddiad); Cylchgrawn Aspects, Ionawr – Mawrth 1985. uchod: Dazzle Invites…, Amgueddfeydd ac Orielau Caeredin, 1986; Dazzle Invites…, Amgueddfeydd ac Orielau Glasgow, 1989; Class of ’95: A Goldsmiths’ Company Exhibition, 28 June – 28 July 1995, The Goldsmiths’ Company, 1995
14 | 15
wneuthurwyr ifanc o bob cwr o’r byd. Ar lawer cyfrif roedd yn nodi aeddfedrwydd agwedd tuag at ddefnyddio defnyddiau mewn gemwaith; roedd ‘anwerthfawr’ wedi dod ymhell mewn 30 mlynedd. Un o’r agweddau mwyaf dadlennol ar y ‘Class of ’95’ cydwladol oedd y ffordd yr oedd yn adlewyrchu systemau addysg gemwaith mor wahanol a gwerthoedd diwylliannol mor wahanol. I lawer o ymwelwyr â’r arddangosfa, peth o’r gwaith mwyaf anghyffredin a thrawiadol fyddai hwnnw o Japan.5 Cynrychiolid Japan gan naw o raddedigion o’r Hiko Mizuno College of Jewellery yn Tokyo, tri ohonyn nhw’n dangos gemwaith a oedd yn cynnwys mwsogl, gwenith a golosg. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, yn 2001/2, fe amlygwyd y cyfleuster Siapaneaidd ymhellach gan arddangosfa Simon Fraser ‘Contemporary Japanese Jewellery’ (a ddangoswyd yn Llundain, Caerlŷr ac Aberystwyth), gyda deunydd darfodedig, ac ingol yn aml, fel llwch domestig a chardfwrdd wedi’i losgi. Tra bod dymchwel rhwystrau ynglŷn â meddwl creadigol a gwneud yn rhyddhaol i wneuthurwyr, daw rhyddid â chyfrifoldebau. Mewn gemwaith, mae rhai o’r cyfrifoldebau hynny i’w priodoli i’w gwisgwr potensial. Mae’r mater o wisgadwyedd yn un cymhleth sy’n haeddu arolwg iddo’i hun, ond mae’n croestorri â datblygiad defnyddiau ‘anwerthfawr’ mewn gemwaith ar adegau allweddol yn ei hanes, yn ogystal ag yn ymestyn ei amrediad potensial. Fe ddeliodd y Gemwaith Newydd â gwisgadwyedd o’r cychwyn yn rhan o’i ddadl ynghylch natur gemwaith. Yn 1982, gallodd Diana Hughes ysgrifennu yn ei Rhagarweiniad i’r catalog ‘Jewellery Redefined’, ‘Today the only limits of design, function or material [in jewellery] are those self-imposed by the designer-maker or the wearer.’ (Mewn gwirionedd, roedd y rhan fwyaf o’r gwaith yn ‘Jewellery Redefined’ yn profi ffiniau dylunio neu ddefnydd yn hytrach na swyddogaeth, er i Wendy Ramshaw, er enghraifft, ehangu’r ddadl â’i Printing Set: Ink and Stamps syml ond trawiadol, a fwriadwyd i brintio dyluniadau ar y corff). Roedd nifer o wneuthurwyr bryd hynny’n rhoi sialensiau pendant i’r berthynas draddodiadol rhwng y corff a gemwaith, yn eu mysg Susanna Heron, gyda’i gwrthrychau ‘Wearable and Non-wearable’ (a wnaethpwyd o papier mâché, cotwm a neilon) a Pierre
16 | 17
Contemporary Japanese Jewellery, Merrell/Cyngor Crefftau, 2001; New Times, New Thinking: Jewellery in Europe and America, Cyngor Crefftau, 1996 (ffleiar); Jewellery Moves, Amgueddfeydd Cenedlaethol yr Alban, 1998 (ffleiar); Jewellery Moves, NMS Publishing, 1998
5. Fel y noda Simon Fraser, ‘By 1991 Japanese jewellers were exhibiting their work in Europe’ – only a few years earlier than ‘Class of ’95’. Simon Fraser, Contemporary Japanese Jewellery (Llundain, 2001), 13.
Degen, â’i Personal Environment (pren a llinyn) a Ladder pieces (pren). Roedd gwaith arall ag ystyr dim ond yng nghyd-destun ffotograffiaeth neu berfformiad; mae penodau 2 a 3 The New Jewelry â’r teitl ‘Jewelry as Image’ a ‘Jewelry as Theatre’. Gyda dyfodiad cyfrifiaduron, roedd rhai darnau’n bodoli’n rhithiol yn unig (gemwaith cysyniadol efallai wedi ei ddwyn i’w gasgliad rhesymegol); ac yma mae materoliaeth ei hun, yn ddadleuol, wedi ei ddisodli. Yn negawd cyntaf yr unfed ganrif ar hugain gwelwyd adfywiad calonogol o ddiddordeb yn y defnydd o ddefnyddiau a oedd yn draddodiadol ‘werthfawr’ oherwydd eu hansawdd cynhenid (yn hytrach na’u gallu i greu argraff). Fe ail-ddarganfu gemwyr ba mor rhyfeddol yw aur ac arian i weithio â nhw a’u potensial ar gyfer mynegiant. Daeth ail-fywiogiad rhagoriaeth mewn aur a gwaith arian cyfoes, mewn dyluniad a gweithrediad, â synnwyr amlwg o hyder a brwdfrydedd gydag o, yn rhannol ymysg gwneuthurwyr ifanc a oedd yn dod i mewn i’r maes. Cyrhaeddodd dulliau newydd ochr-yn-ochr â thechnoleg ac offer newydd deniadol: CAD, weldio laser a phrintio 3D, y cwbl yn ddelfrydol addas i’r Oes Ddigidol. Roedd yn bosib ystyried metelau ‘gwerthfawr’, er yn gostus, fel defnyddiau i’w harchwilio fel unrhyw ddefnydd arall. Yn anffodus, pan wthiwyd pris aur ac arian eto i uchelfannau newydd gan y dirwasgiad economaidd bydeang ar ôl 2008, roedd yna ruthr rhagfynegadwy tuag at fwliwn er mwyn ‘diogelwch’. Gyda’r helbul economaidd fe aseiniwyd ‘gwerth’ i rywbeth mor amheus ag ‘aur’ 9 carat. Yn y Deyrnas Unedig daeth gwrthdroad poblogaidd i ffordd o feddwl ceidwadol mewn llawer o feysydd bywyd cenedlaethol ag ail-fuddsoddiad o ffydd gydag o yng ‘ngwerth cynhenid’ gemwaith ‘metel gwerthfawr’, ar ran y prynwyr o leiaf. Hyd at y dyddiad hwn, gwnaethpwyd cynnydd ardderchog gyda newid canfyddiadau poblogaidd ynglŷn â ‘gwerth’ gemwaith. Gyda chyfleoedd i drafod eu gwaith wyneb-yn-wyneb â’u cwsmeriaid mewn ffeiriau, caniatâi arddangosfeydd a sioeau gradd i wneuthurwyr esbonio ystyr gwerth ‘cronnus’ (drwy’r hyn y mae’r gwneuthurwr wedi ei ddwyn i’r gwaith) yn hytrach na gwerth ‘cynhenid’ (pris posib y darn yn y farchnad – ei bris wedi iddo gael ei doddi weithiau). Ond mae’r diffyg marchnad eilaidd wybodus barhaus sy’n amgyffred ‘gwerth’ gwirioneddol a
Neclis All you can eat, David Poston, 2013. Dur printiedig wedi’i weldio dros bren, wyth o elfennau cymalog; wedi’i gwisgo gan Ruth McCabe
hanes gemwaith anfasnachol, ac sy’n aseinio prisiau cymesur iddo, mewn cyfuniad â chred boblogaidd sydd wedi hen galedu yn niogelwch bwliwn pur, yn awr mewn perygl o adael llawer o wneuthurwyr yn pregethu i’r cadwedig gan fwyaf: eu casglwyr presennol. Dyma un rheswm fod creu arddangosfeydd fel Ddim yn Rhy Werthfawr yn dal yn bwysig. Pan awgrymodd Gregory Parsons a Philip Hughes i ddechrau fy mod i’n gweithio â nhw ar arddangosfa o emwaith ‘anwerthfawr’ fy ymateb cychwynnol oedd un o amheuaeth. Onid oedd hyn yn hen syniad braidd? Fy ymateb i oedd ymateb rhywun sydd wedi bod yn ymwneud â gemwaith cyfoes am dros dri degawd: yn ddigon hir i weld mwy nag un ail-ddyfeisiad o’r olwyn emwaith. Cafodd fy ymateb i ei atsain gan un o’r gemyddion mwyaf sefydledig a wahoddwyd i gymryd rhan yn yr arddangosfa. Gofynnodd y gemydd hwn, gyda chwrteisi mawr wedi’i gymedroli gan flinder dealladwy, sut oedden ni’n diffinio ‘anwerthfawr’. Oedd o’n ddiffiniad metel a cherrig anwerthfawr y ‘70au neu a oedd gennym ni rywbeth mwy sylweddol dan sylw? I aralleirio geiriau’r unigolyn hwn, yn sicr os ydym wedi deall unrhyw beth erbyn hyn ynglŷn â gwerthfawredd a materoliaeth, hynny yw nad ydyn nhw wedi eu lleoli dim ond ym myd gwerth masnachol; ni phennir gwerthfawredd gan bris. Gwnaeth yr ymateb yma i mi geisio cipio fy synnwyr clir ei bod yn bwysig ailymweld â’r materion hyn, a gwneud hynny’n awr. Mae rhannau sylfaenol y strwythur cymorth i’r rheiny sy’n gwneud gemwaith ‘anwerthfawr’ wedi diffygio neu wedi eu herydu ers y Blynyddoedd Euraidd hynny. Mae orielau preifat, amgueddfeydd cyhoeddus, sefydliadau datblygu, casglwyr i gyd dan bwysau economaidd sylweddol. Yn fwyaf pwysig, mae cyrsiau colegau celf sy’n cynnig gemwaith fel disgyblaeth pwnc sengl yn prysur ddiflannu. Mae hyn wedi effeithio, ymysg eraill, ar ddysgu gemwaith ym Mhrifysgol Middlesex, a ffurfiwyd yn rhannol o Goleg Celf Hornsey lle’r oedd Gerda Flöckinger wedi sefydlu ei chwrs arloesol yn 1962. Yn gynnar yn 2014, cyhoeddodd Graeme Brooker, Pennaeth Adran Ffasiwn a Chynllunio Tu Mewn: I gydbwyso blaenoriaethau a roddir i sgiliau sy’n seiliedig ar ddysgu, ymholiad creadigol, meddwl materol, dadansoddi beirniadol, a theorïau diwylliannol ar draws ein Hysgol Gelf a Dylunio, mae’r maes gemwaith yn arwain gyda datblygiad rhaglen ehangach ar gyfer israddedigion gyda chyrhaeddiad rhyngwladol: BA Crefft Dylunio, a fydd yn cael ei hyrwyddo o 2014. Bydd myfyrwyr olaf Middlesex sydd ar y rhaglen gemwaith cyfredol sy’n fawr ei barch, yn graddio yn 2015/16; rhaid aros i weld sut y bydd gemwaith yn dod ymlaen yno yn y dyfodol. Er bod y ddadl ynghylch ystyr ‘gwerth’ mewn gemwaith wedi ei thrafod a’i hennill o leiaf yn rhannol sawl degawd yn ôl, ni ellir dileu rhagdybiaethau diwylliannol mor hawdd. Mae’n rhaid i ni ail-ymgymryd â dadlau bob tro y bydd amgylchiadau’n gofyn am hynny – amgylchiadau a
fydd yn codi, heb amheuaeth, mewn llawer o wahanol ffyrdd i genedlaethau lawer o emyddion yn y dyfodol. Cafodd yr angen parhaus am arddangosfeydd fel Ddim yn Rhy Werthfawr ei danlinellu pan siaradon ni â gemydd ifanc a oedd wedi graddio dim ond dwy flynedd yn gynharach. Roeddem wedi bod â diddordeb yn ei gwaith coleg ‘anwerthfawr’ trawiadol, ac fe ofynnon ni pam ei bod yn gweithio’n awr mewn ‘metel gwerthfawr’ yn unig. Dywedodd wrthon ni, ‘Rwy’n defnyddio arian gan mai dyna y mae pobl am ei brynu.’ Mae ar emyddion angen gwneud bywoliaeth. Golyga hynny gynhyrchu’r hyn mae pobl am ei brynu, ac mae mwyafrif y bobl am brynu’r hyn maen nhw’n ei ddeall sy’n Beth Go Iawn. Iddyn nhw mae Metel Gwerthfawr Real yn dal i fod â blaenoriaeth dros ddychymyg, creadigrwydd, unplygrwydd artistig, oriau o lafur, sgiliau maint sydd wedi’u mireinio neu ddyluniad sensitif. Ysgrifennodd gemydd ifanc arall y cysyllton ni ag o, Ar hyn o bryd rwy’n canolbwyntio ar wneud fy nghasgliad o emwaith cain… fe geisiais i’n wirioneddol galed i gyfuno’r ddau dan ddau enw gwahanol ond roedd hynny bron yn amhosib, ac oherwydd yr ymateb a gefais gan bobl, roedd yn rhaid i mi ganolbwyntio mwy ar y rhan gemwaith cain. Er fy mod yn gweld fod eich cynnig yn gyfle ardderchog, ni allaf gyflawni’r ymrwymiad hwn. Efallai un diwrnod y byddaf yn ddigon cyffyrddus i ddychwelyd i fyd gemwaith arbrofol, ond am y tro bydd yn rhaid i mi lynu at gasgliad sy’n cyrraedd mwy o bobl. Roedd hwn yn ateb synhwyrol, pragmatig, ond roedd yn ein digalonni na fyddem yn cael cyfle i arddangos yr hyn sydd, i ni, yn emwaith llawer mwy diddorol a ‘gwerthfawr’. Os ydyn ni’n malio am ein gwerthoedd personol mae’n rhaid i ni barhau i frwydro drostyn nhw. O ran gemwaith, un ffordd o wneud hynny yw amlygu’r math o waith ysbrydoledig sy’n atgyfnerthu dealltwriaeth boblogaidd o ‘werth cronedig’; a bod yn rhaid i’r atgyfnerthiad gyrraedd y prynwyr a’r gwneuthurwyr ifanc newydd. Mae Ddim yn Rhy Werthfawr yn canolbwyntio sylw ar emyddion dawnus sy’n ymroddedig i ddefnyddio deunydd oherwydd eu potensial mynegiannol yn hytrach na’u gwerth cynhenid. Mae eu gwaith yn ystyrlon, yn graff ac yn ddiwylliannol gyseiniol. Mae’n eithriadol ddawnus, yn dechnegol ac yn esthetig. Mae weithiau’n deimladwy, weithiau’n ffraeth, weithiau’n hardd ryfeddol. Mae eu gwaith sy’n deillio o synnwyr sydd bron yn ddwys o gysylltiad â deunydd, mae eu gwaith yn cyfathrebu ar lawer lefel. Y mae, yn bwysicach na dim, yn onest ac – yn niffyg term gwell – ddim yn rhy ‘werthfawr’.
Elizabeth Goring Caeredin, Chwefror 2015
18 | 19
Datganiadau a phroffiliau gwneuthurwyr Attai Chen
22 | 23
Carina Chitsaz-Shoshtary
24 | 25
Eunmi Chun
26 | 27
Warwick Freeman
28 | 29
Emmeline Hastings
30 | 31
Christel van der Laan
32 | 33
Felieke van der Leest
34 | 35
Sari Liimatta
36 | 37
Märta Mattsson
38 | 39
Jasmin Matzakow
40 | 41
Kazumi Nagano
42 | 43
Shinji Nakaba
44 | 45
Lina Peterson
46 | 47
Zoe Robertson
48 | 49
Michihiro Sato
50 | 51
Mariko Sumioka
52 | 53
Emiko Suo
54 | 55
Tore Svensson
56 | 57
Janna Syvänoja
58 | 59
Mirei Takeuchi
60 | 61
Timothy Information Limited
62 | 63
Terhi Tolvanen
64 | 65
Catherine Truman
66 | 67
Flóra Vági
68 | 69
Heather Woof
70 | 71
Darn gwddw ‘Subscribe Series’, Zoe Robertson, 2014; sychdarthiad â llaw, plastig cyfrodedd thermoffurfiedig, cydrannau alwminiwm turniedig, ffibr wedi’i fflocio, rwber silicon a dur gwrthstaen. 800 x 350 x 150mm
20 | 21
Attai Chen Ganwyd: Jerwsalem, Israel, 1979 Stiwdio: Munich, Yr Almaen Hyfforddiant: Academi Celf a Dylunio Bezalel, Jerusalem; Akademie der Bildenden Künste, Munich Gwobrau: Enillydd Gwobr Herbert Hofmann, Schmuck, Munich, 2011; Enillydd, Oberbayerischer Förderpreis fur Angewandte Kunst, 2012; Gwobr Andy am Gelfyddyd Gyfoes, 2014 Gwaith wedi’i gynnwys yng nghasgliadau: Amgueddfa Israel, Jerwsalem; Amgueddfa Celfyddyd Fetropolitan, Efrog Newydd, UDA; Die Neue Sammlung, Staatliches Museum für Angewandte Kunst, Munich; Amgueddfa Celfyddyd Tel Aviv, Israel www.attaichen.com
Mae fy ngwaith cyfredol yn dibynnu’n bennaf ar bapur eildro fel deunydd craidd, a gesglir mewn darnau a’u cyfuno. Mae symudiad cylchol twf mewn natur wedi fy nghyfareddu erioed: munud diflanedig ei sylweddoliad, ei ddadfeiliad, a’i ddechrau newydd o weddillion yr hyn a ddaeth ynghynt. Fy mwriad yw cipio moment yn y symudiad diddiwedd hwn, i adlewyrchu breuder yr hyn sydd dros dro, a’r un pryd cyfleu bywiogrwydd sydd wedi’i gynnwys o fewn cysondeb symudiad.
Tlws ‘The free radicals (part 3)’, 2011; papur, paent, glud, arian, efydd, dur gwrthstaen. 100 x 73 x 50mm 22 | 23
Neclis, 2014; papur, glo, paent, glud, arian ocsidiedig. 220 x 170 x 950mm
Carina Chitsaz-Shoshtary Ganwyd: Augsburg, Yr Almaen, 1979 Stiwdio: Althegnenberg, Yr Almaen Hyfforddiant: Staatliche Berufsfachschule fur Glas und Schmuck, Neugablonz; Akademie dêr Bildenden Künste, Munich, Yr Almaen Gwobrau: Bayerischer Staatspreis für Nachwuchsdesigner, 2012; Enillydd, Oberbayerischer Förderpreis fur Angewandte Kunst, 2012 Gwaith wedi’i gynnwys yng nghasgliadau: The Rotasa Foundation, Mill Valley, California, UDA; Die Neue Sammlung, Staatliches Museum für Angewandte Kunst, Munich www.where-to-put-it.com
Cyfres Karma Chroma Mae fy ngwaith diweddar wedi’i greu o fathau o ddefnyddiau cwbl gyferbyniol. Ar yr un llaw rwy’n defnyddio paent graffiti, wedi’i grafu oddi ar wal sydd wedi’i chwistrellu’n drwm yn y ddinas. Ar y llall, rwy’n cynnwys defnyddiau y deuthum o hyd iddyn nhw wrth grwydro o gwmpas yn yr amgylchedd naturiol – darnau o bren, planhigion wedi’u sychu, cwrel, cregyn a cherrig. Yr hyn sy’n gyffredin iddyn nhw yw eu bod yn cynnwys stori gyfrinachol sy’n dymuno ymchwiliad. Mae’r byd graffiti â’i iaith a’i reolau ei hun, ac mae negeseuon y paentiadau wal yn gryptig i rai o’r tu allan fel rheol. Mae’r dalennau trwchus o baent y byddaf yn eu casglu o’r wal yn cynnwys cannoedd o haenau o raffiti angof; roedd pob haen unwaith yn rhan o baentiad wal fawr neu lythrennau. Bydd “ymchwil ‘archeolegol’ ffug” yn cychwyn pan fyddaf yn dechrau symud yr haenau a gwahanu’r deunydd yn ddalennau main.1 Roedd pob darn bychan a gesglais i o natur yn ffracsiwn o olygfa ddirgel fawr unwaith: roedd cragen ar y traeth yn rhan unwaith o’r cosmos estron eang o dan y môr. Mae fel petai’r darnau sy’n ymddangos o’m trawsnewidiad, a chyfuniad y defnyddiau hyn, yn dod o fyd paralel. Efallai iddyn nhw ymddangos fel arteffactau o wareiddiad a fu, ffosilau o blaned arall neu addurniadau bodau chwedlonol. 1. Ellen Maurer-Zilioli, The Lunatic Swing. Carina Chitsaz-Shoshtary, Munich, 2013, 5
Tlws crog ‘Shine Not Burn’, 2014; pren, graffiti, gwydr, arian, llinyn. 208 x 84 x 44mm 24 | 25
Tlws ‘Raduga Tree’, 2014; graffiti, arian, dur gwrthstaen. 180 x 72 x 54mm
Eunmi Chun Ganwyd: Chungbuk, De Korea, 1971 Stiwdio: Munich, Yr Almaen Hyfforddiant: Prifysgol Merched Seoul (Mathemateg); Prifysgol Merched, Seoul (Crefft); Prifysgol Kookmin, Seoul (Gwaith Metel a Gemwaith); Akademie dêr Bildenden Künste (Gemwaith), Munich Gwobrau: BKV Preis fur junges Kunsthandwerk, Munich; Enillydd Gwobr Herbert Hofmann, Schmuck 2008 Gwaith wedi’i gynnwys yng nghasgliadau: Amgueddfa CODA, Apeldoorn, Yr Iseldiroedd; Amgueddfa Fetropolitan Celfyddyd, Efrog Newydd, UDA; Amgueddfa Gelfyddydau a Dylunio, Efrog Newydd; Die Neue Sammlung, Munich, Yr Almaen; Amgueddfa Gelfyddyd Genedlaethol, Pensaernïaeth a Dylunio, Oslo, Norwy; Service des Affaires Culturelles, Mairie de Cagnes-sur-Mer, Ffrainc
Gofynnais i mi fy hun, ‘Beth yw harddwch mewn gemwaith? A sut allaf i ddilyn yr harddwch hwn?’ Meddyliais mai un o nifer o ffyrdd posib fyddai gweithio â defnyddiau annymunol neu a wrthodwyd oherwydd, o fewn cyd-destun celfyddyd, gall rhywbeth sy’n atgas fod yn hardd hefyd. Dyna sut y dechreuais ddefnyddio defnyddiau organig. Roedd byrhoedledd defnyddiau felly’n anfwriadol ond mae’n cysylltu â’m thema ganolog: cylchrediad bywyd rhwng bodau dynol, planhigion ac anifeiliaid; fe fyddan nhw i gyd yn dychwelyd i’r llwch a chael eu hail-eni un diwrnod.
Tlws ‘Panda’, 2015; gwallt dynol, coluddyn bach buwch, hadau, arian. 130 x 70 x 95mm Tlws ‘Wing’, 2012; gwallt dynol, coluddyn bach 26 | 27
buwch, eurddalen, arian. 170 x 150 x 35mm
Warwick Freeman Ganwyd: Nelson, Seland Newydd, 1953 Stiwdio: Auckland, Seland Newydd Hyfforddiant: Hunan ddysgedig gan fwyaf Gwobrau: Laureate, Sefydliad Celfyddydau Seland Newydd, 2002; Laureate, Sefydliad Françoise van den Bosch, 2002; ‘Klassiker’ der Moderne, Schmuck, Munich, Yr Almaen, 2013 Gwaith wedi’i gynnwys mewn nifer o gasgliadau’n cynnwys: Amgueddfa Auckland; the Danner Stiftung, Munich; Amgueddfa’r Celfyddydau Cain, Houston (Casgliad Helen Drutt), UDA; Oriel Genedlaethol Awstralia, Canberra; Amgueddfa’r Powerhouse, Sydney, Awstralia; y Schmuckmuseum, Pforzheim, Yr Almaen; Amgueddfa Stedelijk, Amsterdam, Yr Iseldiroedd; Amgueddfa Te Papa, Seland Newydd, Wellington; Amgueddfa V&A, Llundain, y Deyrnas Unedig
Bydd defnyddiau’n cyflwyno gwirionedd arbennig y gallwch deimlo rhwymedigaeth i weithio â nhw. ‘Gwerthfawr’ yw un gwirionedd felly. Ond nid wyf yn teimlo unrhyw angen i weithio â’r gwirionedd hwnnw – mae’n well gen i fod yn gyfrifol am un arall.
Breichled ‘Link’, 2012; lignum vitae, paent. 125 x 110 x 35mm Cyffiau Glas, Coch a Melyn, 2011; lapis laswli, iasbis, pren petraidd, lignum vitae, arian ocsidiedig. 95mm (dia o ddisgiau pren) 28 | 29
Cyffen Felyn, 2011; petrified wood, lignum vitae, arian ocsidiedig. 95mm (dia o ddisg bren)
Emmeline Hastings Ganwyd: Llundain, y Deyrnas Unedig, 1987 Stiwdio: Bryste Hyfforddiant: Prifysgol y Celfyddydau Creadigol, Farnham, Swydd Surrey Gwobrau: Dyluniad Newydd Gorau, Ffair Goldsmiths 2011 Gwaith wedi’i gynnwys yng nghasgliadau: Amgueddfa Fitzwilliam, Caergrawnt, y Deyrnas Unedig www.emmelinehastings.co.uk
Mae’r ymdriniaeth o’m defnyddiau dewisol a’u cyfuniad wedi annog chwilfrydedd yn gyson ac wedi codi cwestiynau o ‘werth’. Maen nhw’n symud rhwng cylchoedd ‘gwerth’ a ‘syniad’. Fodd bynnag, mae fy newisiadau wedi’u symbylu bob amser gan unigrywiaeth estheteg, a’r ‘teimlad’ sydd i’m gemwaith i, ym mhob ystyr y gair.
Tlws, 2013; acrylig (Persbecs), titaniwm, aur. 50 x 40 x 30mm 30 | 31
Coler Glir, 2013; acrylig (Persbecs), titaniwm, aur. 170mm
Christel van der Laan Ganwyd: Son en Breugel, Yr Iseldiroedd, 1963 Stiwdio: Perth, Awstralia Hyfforddiant: Prifysgol Murdoch, Perth; West Coast College, Carine, Perth Gwobrau: Gwobr Metelau Gwerthfawr: Gwobr Genedlaethol Gemwaith Cyfoes, Oriel Gelf Ranbarthol Griffith, Griffith, Awstralia, 2004; Gwobr Agored, Gwobr Genedlaethol Gemwaith Cyfoes, Oriel Gelf Ranbarthol Griffith, 2006 Gwaith yng nghasgliadau: Alice and Louis Koch Collection of Rings, Basle, Y Swistir; Oriel Gelf De Awstralia, Adelaide; Oriel Gelf Ranbarthol Griffith, Griffith; Oriel Genedlaethol Awstralia, Canberra; Amgueddfa’r Powerhouse, Sydney, Awstralia www.christelvanderlaan.com
Mae’r syniad o werthfawredd mewn gemwaith a’r chwiliad am harddwch yn yr hyn sy’n cael ei esgeuluso neu ei roi o’r neilltu’n themâu sy’n ailddigwydd yn fy ngwaith i. Ers 2008 rwyf wedi gweithio’n helaeth â chrwybr serameg cerfiedig, deunydd anhydrin a ddefnyddir fel cymhorthydd sodro ar fainc waith y gemydd. Dewis a threfnu’r deunydd amrywiol yw’r agwedd fwyaf boddhaus a heriol o’r broses o wneud. Rwy’n ymdrechu i greu gwrthrychau gemwaith barddol lle bydd pob elfen yn cael ei thrawsnewid o’i chyfosod ag un arall a lle bydd pob rhan â rôl hanfodol yn y cyfansoddiad terfynol.
Tlws ‘Holy Land’, 2012; crwybr cerameg, arian â chaen o bowdwr. 55 x 70 x 20mm 32 | 33
Tlws Crog, 2013; crwybr cerameg, arian ocsidiedig a haen o bowdwr, Gleiniau dur toredig Fictoraidd, sêl agat gwag. 65 x 90 x 30mm
Felieke van der Leest Ganwyd: Emmen, Yr Iseldiroedd, 1968 Stiwdio: Øystese, Norwy Hyfforddiant: Vakschool Schoonhoven, Yr Iseldiroedd; Gerrit Rietveld Academie, Amsterdam, Yr Iseldiroedd Gwobrau: Laureate, Profiel Prijs 2008, Stichting Profiel, Yr Iseldiroedd; Laureate, Prix de la Communauté Française Wallonie-Bruxelles 2008, Cyngor Crefftau’r Byd-BF, Gwlad Belg Gwaith yng nghasgliadau: Amgueddfa CODA, Apeldoorn, Yr Iseldiroedd; KODE – Kunstmuseene i Bergen, Norwy; Amgueddfa Gelfyddyd Los Angeles County, UDA; Miaao – Amgueddfa Ryngwladol y Celfyddydau Cymhwysol Heddiw, Turin, Yr Eidal; mima – Sefydliad Celfyddyd Fodern Middlesbrough, Middlesbrough, y Deyrnas Unedig; Museum Arnhem, Yr Iseldiroedd; Amgueddfa’r Celfyddydau Addurnol, Montreal, Canada; Amgueddfa’r Celfyddydau Cain, Houston, UDA; Nasjonalmuseet for kunst, arkitektur og design, Oslo, Norwy; Amgueddfeydd Cenedlaethol yr Alban, Caeredin, y Deyrnas Unedig; Nordenfjeldske Kunstindustrimuseum, Trondheim, Norwy; Amgueddfa Gelfyddyd Racine, Racine, UDA; Rijksmuseum, Amsterdam; TextielMuseum, Tilburg, Yr Iseldiroedd; Amgueddfa’r V&A, Llundain, y Deyrnas Unedig ac eraill www.feliekevanderleest.com
Pan rwy’n gweithio â lliwiau rwy’n teimlo fel arlunydd. Pan rwy’n gweithio â metel rwy’n teimlo fel adeiladwr. Pan rwy’n gweithio â thegannau rwy’n teimlo fel plentyn.
Tlws ‘Pregnant Grizzli Bearmaid’, 2013; tecstilau wedi’u crosio a’u gwau (alpaca, polyester, fiscos, ffelt, cotwm), anifeiliaid plastig, iasbis aur. ‘Bearmaid’ 140 x 115 x 50 mm. ‘Bear Cub’ 100 x 35 x 30 mm 34 | 35
Neclis ‘The Beaver Family from Pencil Creek’, 2011; tecstil, anifeiliaid plastig, arian, glasfaen, sirconia ciwbig, pensiliau, hemalyke ®. 165 x 160 x 7mm
Sari Liimatta Ganwyd: Lappeenranta, Y Ffindir, 1977 Stiwdio: Lappeenranta Hyfforddiant: Coleg Polytechnig South Karelia, Lappeenranta; myfyriwr cyfnewid, Gerrit Rietveld Academie, Amsterdam, Yr Iseldiroedd Gwaith wedi’i gynnwys yng nghasgliadau: Berner Design Stiftung, Bern, Y Swistir; Amgueddfa CODA, Apeldoorn, Yr Iseldiroedd; Oriel Genedlaethol Victoria, Melbourne, Awstralia; Amgueddfa Gelfyddyd De Karelia, Lappeenranta, Y Ffindir, ac eraill www.sariliimatta.net
Yn rhy aml, yn anffodus, byddwn yn esgeuluso rhannau mwyaf gwerthfawr y byd o’n cwmpas. Yn fy ngwaith i rwy’n ceisio gwneud i bobl roi mwy o sylw i broblemau yn yr amgylchedd a’n cymdogaethau a rennir.
Tlws ‘Shared’, 2014; gleiniau gwydr, garnedau, gwrthrych gwydr a metel, peridots, dur, teganau plastig, weiren gopr. 95 x 100 x 45mm 36 | 37
Cerflun gemwaith ‘All Rights Reserved’ 2013; gleiniau gwydr, cadwyni pres (wedi’u gwneud ei hun), eurddalen, pinnau, tegan plastig. 320 x 135 x 65mm
Märta Mattsson Ganwyd: Stockholm, Sweden, 1982 Stiwdio: Stockholm Hyfforddiant: HD – Hantverk och Design på Nääs fabriker, Tollered, Sweden; myfyriwr cyfnewid, Prifysgol Hawaii Pacific, UDA; HDK - Ysgol Ddylunio a Chrefftau, Göteborg, Sweden; myfyriwr cyfnewid, Coleg Gemwaith Hiko Mizuno, Tokyo, Japan, ac Ysgol Ddylunio Rhode Island, Providence, UDA; Coleg Celf Brenhinol, Llundain, y Deyrnas Unedig Gwobrau: Talente Prize, Internationale Handwerksmesse, Munich, Yr Almaen, 2012; Gwobr Ragoriaeth, ‘Gwthio Ffiniau ac Ymlid Sialensiau’, Arddangosfa Ryngwladol Celfyddyd Metel Gyfoes, Beijing, Tsieina, 2013 Gwaith wedi’i gynnwys yng nghasgliadau: Academi Celfyddydau Tsieinat, Hangzhou; Grassi Museum für Angewandte Kunst, Leipzig, Yr Almaen; Amgueddfa Celfyddydau a Dylunio, Efrog Newydd, UDA; Nationalmuseum, Stockholm; Amgueddfa Röhsska, Göteborg, Sweden; Schmuckmuseum in Pforzheim, ac eraill www.martamattsson.com
Mewn byd lle na ddarganfyddir llawer o fridiau newydd ac egsotig byddaf yn defnyddio creaduriaid marw yn fy narnau i i ennyn syndod. Mae’r creaduriaid yn cael eu trawsnewid a’u hail-eni; yn cael bywyd newydd fel gwrthrychau syndod.
Tlws ‘Beetlejuice’, 2010; chwilen, resin, arian, zirconias ciwbig. 70 x 40mm 38 | 39
Tlws ‘Slices’, 2014; chwilod electroffurfiedig copr, zirconias ciwbig, resin, lacer, arian. 150 x 100mm
Jasmin Matzakow Ganwyd: Aachen, Yr Almaen, 1982 Stiwdio: Stockholm, Sweden Hyfforddiant: Prentisiaeth mewn eurychiaeth, Freiburg, Yr Almaen; Prifysgol Celf a Dylunio Burg Giebichenstein, Halle/Saale, Yr Almaen; preswyliad a hyfforddiant mewn addurniad Arabaidd gyda’r ceinlythrennydd Ayten Teryaki, Istanbul, Twrci; preswyliad ac ymchwil yn y Museo Reina Sofia, Madrid, Sbaen; Konstfack, Stockholm, Sweden Gwobrau: Ysgoloriaeth Istanbul y Kunststiftung Sachsen-Anhalt, Yr Almaen, 2010; Mention, Kunstpreis 2010 der Stiftung dêr Saalesparkasse, Yr Almaen; Grassipreis dêr Sparkasse Leipzig, Yr Almaen, 2011; Talente Prize, Internationale Handwerksmesse, Munich, Yr Almaen, 2011; Gwobr 1af, Cominelli Award, La Fondazione Cominelli a’r Associazione Gioiello Contemporaneo, Yr Eidal, 2012; Ysgoloriaeth y Kunststiftung Sachsen-Anhalt und Kloster Bergesche Stiftung, Yr Almaen, 2012 Gwaith wedi’i gynnwys yng nghasgliadau: Grassi Museum für Angewandte Kunst, Leipzig, Yr Almaen; Stiftung Moritzburg-Kunstmuseum des Landes Sachsen-Anhalt, Halle, Yr Almaen www.cargocollective.com/jasminmatzakow
Mae fy null o weithio’n symud fwyfwy tuag at ddull sy’n seiliedig ar gynnwys. Yn hytrach na dechrau gweithio tuag allan o ymchwiliad materol, rwy’n dechrau o destun ac yn ymchwilio fy nefnyddiau’n unol â hynny. Rwy’n ystyried ei gymeriad, hanes ei ddefnydd yn hanesyddol ac yn gyfoes a’i ystyr diwylliannol yn fy nghymdeithas i fy hun ac eraill. Byddaf yn gwneud hynny hefyd â siapiau ac yn ceisio darganfod lle bydd defnydd a siâp yn croestorri â’m thema i. Ac yna mae’n amser i mi fy mhlannu fy hun yn y defnyddiau, dechrau deialog â nhw a’m caniatáau fy hun i golli rheolaeth o’r broses.
Darn Gwddw, 2015; pren leim, croen. 600 x 200 x 50mm 40 | 41
Darn Gwddw, 2015; pren leim, shibuichi. 500 x 300 x 50mm
Kazumi Nagano Ganwyd: Nagoya, Japan, 1946 Stiwdio: Tokyo, Japan Hyfforddiant: Prifysgol Celfyddyd Tama, Tokyo (nihonga, techneg baentio Japaneaidd draddodiadol); yn ddiweddarach wedi astudio â Minato Nakamura (gemwaith) Gwobrau: Gwobr gweithiau cain, Cystadleuaeth Gemwaith Celfyddyd Japan, Tokyo, 2002 Gwaith wedi’i gynnwys yng nghasgliadau: Alice and Louis Koch Collection of Rings, Basle, Y Swistir; La Fondazione Cominelli a’r Associazione Gioiello Contemporaneo, Yr Eidal; Amgueddfa’r V&A, Llundain, y Deyrnas Unedig
Mae’r weithred o afael wedi ei meithrin drwy gydol hanes hir Japan. Gan ddefnyddio gwŷdd llaw, rwy’n gwehyddu dalen o dâp papur ac yn ei blygu’n emwaith tri dimensiwn gan ddefnyddio dulliau Japaneaidd traddodiadol origami. Dim ond fy mysedd sydd eu hangen i blygu’r ddalen. Mae fy lliwiau a’m papur i gyd wedi’u gwneud o ddefnyddiau naturiol.
Tlysau, 2015; edau papur lliain, ffibr bambŵ, edau neilon, aur, pin arian, wedi’i liwio ag inc sumi. 85 x 90 x 50mm yr un 42 | 43
Tlws, 2015; edau papur lliain, ffibr bambŵ, edau neilon, aur, pin arian, wedi’u lliwio ag inc sumi. 85 x 90 x 55mm
Shinji Nakaba Ganwyd: Sagamihara, Kanagawa Prefecture, Japan, 1950 Stiwdio: Sagamihara Hyfforddiant: Coleg Gemwaith Hiko Mizuno, Tokyo, Japan Gwaith wedi’i gynnwys yng nghasgliadau: Amgueddfa’r Celfyddydau Cain, Montreal, Canada; Amgueddfa’r Celfyddydau Cain, Boston, UDA; Amgueddfa Gelfyddydau a Dylunio, Efrog Newydd, UDA; Amgueddfa Genedlaethol Celfyddyd y Gorllewin, Tokyo, Japan www.s-nakaba.com
Fy nod yw dod â bywyd newydd sbon i rywbeth sydd heb unrhyw werth. Rwy’n defnyddio nid dim ond metelau a cherrig drudfawr ond hefyd boteli plastig, caniau cwrw alwminiwm a defnyddiau eraill sydd wedi’u taflu o ffynonellau rhyfeddol fel pibellau dŵr polyvinyl, bolltau haearn a sbwriel. Boed hynny â gemwaith drudfawr, cerrig glan môr, dail wedi disgyn neu boteli plastig, rwy’n mwynhau’r broses o wneud gemwaith a datgelu harddwch cudd y defnyddiau. Rwy’n trin pob deunydd yn gyfartal i ddod â’u priodweddau cudd i’r amlwg, ac rwy’n trawsnewid pob darn yn drysorau cerfluniol hardd a gwisgadwy.
Modrwy ‘Cut Body’ , 2015 (2013); cragen fôr gerfiedig, pres. 35 x 35 x 30mm 44 | 45
Tlws ‘Aluminium Chrysanthemum’, 2015 (2003); alwminiwm tenau (can cwrw), dur. 150 x 150 x 80mm
Lina Peterson Ganwyd: Göteborg, Sweden, 1979 Stiwdio: Llundain, y Deyrnas Unedig Hyfforddiant: Prifysgol Guildhall Llundain; Prifysgol Brighton; y Coleg Celfyddydau Brenhinol, Llundain Gwobrau: Gwobr Cymdeithas Gemyddiaeth Gyfoes, Dylunwyr Newydd, Llundain, 2004; Enillydd Gwobr Datblygu’r Cyngor Crefftau, 2007; Enillydd Gwobr Jerwood Contemporary Makers, 2010 Gwaith yng nghasgliadau: Y cyngor Crefftau, Llundain; Röhsska Museum, Göteborg, Sweden www.linapeterson.com
Rwy’n gweithio ag ystod o wahanol ddefnyddiau, yn cynnwys coed, plastig, metelau a thecstilau, gan fod materoliaeth gynhenid pob un o’r rhain yn caniatáu i mi fforio a mynegi rhywbeth gwahanol. Bydd y prosesau o weithio’r defnyddiau gwahanol hyn – cerfio pren, pwnsio metel, pwytho brethyn – yn dylanwadu ar y gwaith. Mae gen i ddiddordeb parhaus mewn cyfuno gwahanol ddefnyddiau yn ogystal â throsi priodweddau gweledol un defnydd mewn un arall, er enghraifft, dynwared patrwm tecstil wedi’i bwytho mewn metel.
Tlws ‘Carved in Yellow’, 2013; pren leim wedi’i gerfio a’i baentio. 90 x 90 x 15mm Tlws ‘Carved in Colour’, 2014; pren wedi’i gerfio a’i baentio, arian, aur, quartzite. 130 x 90 x 15mm 46 | 47
Darn gwddw ‘Carved in Blue’, 2014; pren leim wedi’i gerfio a’i baentio. 400 x 180 x 20mm
Zoe Robertson Ganwyd: Reading, Y Deyrnas Unedig, 1974 Stiwdio: Birmingham, Y Deyrnas Unedig Hyfforddiant: Coleg Celfyddyd a Dylunio Plymouth; Prifysgol y London Guildhall; UCE (Prifysgol Canolbarth Lloegr), Birmingham (Tystysgrif Addysg Ol-raddedig) Gwobrau: Gwobr Gyntaf, Dylunio Gemwaith Ffasiwn, y Jerwood Foundation, 1997; Gwobr Arian am Emwaith Galeri, Gwobrau Goldsmiths’ Craft and Design, Llundain, 2010; Crybwylliad Anrhydeddus, Gwobr Cominelli Award, La Fondazione Cominelli a’r Associazione Gioiello Contemporaneo, Yr Eidal, 2012 Gwaith yng nghasgliadau: Alice and Louis Koch Collection of Rings, Basle, Y Swistir; Galeria Sztuki w Legnicy, Gwlad Pwyl www.zoerobertson.co.uk
Archwilio defnyddiau yw’r grym gyriadol yn fy ngwaith i. Caiff prosesau diwydiannol a defnyddiau anhraddodiadol eu harchwilio’n gyfunol, gan fy ngalluogi i arbrofi â phosibiliadau newydd sydd ‘ddim yn rhy werthfawr’, a hynny’n arwain at greadigaethau gemwaith sy’n mynegi fy nymuniadau artistig.
‘Subscribe Series’, darn gwddw (manylyn), 2014; sychdarthiad wedi’i wneud â llaw, plastig cyfrodedd a thermoffurfiedig, cydrannau alwminiwm turniedig, ffibr wedi’i fflocio, rwber silicon a dur gwrthstaen. 70 x 35 x 15mm
48 | 49
‘Subscribe Series’, darn gwddw, 2014; sychdarthiad wedi’i wneud â llaw, plastig cyfrodedd a thermoffurfiedig cydrannau alwminiwm turniedig, ffibr wedi’i fflocio, rwber silicon a dur gwrthstaen. 800 x 350 x 150mm
Michihiro Sato Ganwyd: Takasaki, Gunma, Japan, 1961 Stiwdio: Osaka, Japan Hyfforddiant: Prifysgol Gunma, Japan (BA mewn Addysg Celf); Fachhochschule Pforzheim, Yr Almaen (Dylunio Gemwaith); Academi Gelfyddydau Genedlaethol, Norwy (MA mewn Celfyddydau Cain) Gwobrau: Grand Prix, Arddangosfa Grefftau Ryngwladol Itami (gemwaith), 2001; Grand Prix, Arddangosfa Grefftau Gemwaith Japan, 2002; Ysgoloriaeth Llywodraeth Norwy, 2002 Gwaith yng nghasgliadau: Alice and Louis Koch Collection of Rings, Basle, Y Swistir; Amgueddfa Celf a Chrefft, Itami; Amgueddfeydd Cenedlaethol yr Alban, Caeredin, y Deyrnas Unedig www.michihiro-sato.info
I mi, mae gemwaith yn arwyddocau’r person mewnol a’u synnwyr unigol o werth neu harddwch. I mi mae byrhoedledd pethau bydol yn hardd, ac rwyf am i’r gemwaith rwyf i’n ei wneud adlewyrchu hyn. Mae breuder a synwyrusrwydd papur yn caniatáu i mi gyflawni’r nod hwn. Bu farw fy mam yn 1990. Yn fuan ar ôl ei hangladd fe hedfanodd bwdgerigar bach glas ar fy malconi. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, ar yr un diwrnod â marwolaeth fy mam, fe fu farw yntau hefyd. Fe’i cleddais o ym môn coeden o flaen fy fflat, a rhai blynyddoedd yn ddiweddarach deuthum o hyd i gangen fechan yn tyfu yno. O hyn rwy’n deall mai un agwedd yn unig yw byrhoedledd pethau bydol. Efallai bod angen i ni ddeall cydlyniad pethau bydol er mwyn goresgyn tristwch a phoen.
Tlws ‘I Don’t Have an Evil Heart’, 2014; papur, pres, paent cashew, arian, dur gwrthstaen. 180 x 40 x 40mm 50 | 51
Tlws ‘Hana-Cho-Chin’, 2014; papur (catalog masnachol), arian, pres, dur gwrthstaen, lacer Siapaneaidd synthetig. 210 x 65 x 50mm
Mariko Sumioka Ganwyd: Aichi, Japan, 1981 Stiwdio: Llundain, y Deyrnas Unedig Hyfforddiant: Prifysgol Osaka, Japan (Economeg); Ysgol Ddylunio Gemwaith Akasaka, Tokyo, Japan; Coleg Ieithoedd Tramor Japan, Tokyo; Coleg Celf Caeredin, y Deyrnas Unedig Gwobrau: Ymysg y chwe chystadleuydd uchaf am Ddyluniwr y Flwyddyn, Dylunwyr Newydd, Llundain, 2011; Cil-wobr, Dyluniad Newydd Gorau, Goldsmiths’ Fair, Llundain, 2014; Enillydd Gemwaith y Flwyddyn, Collect, Llundain, 2015 www.marikosumioka.com
Caf fy ysbrydoli gan elfennau pensaernïol Japaneaidd ac ysbryd Zen i greu darnau unigryw sydd wedi’u gwneud o ddefnyddiau unigryw fel enamel, kimono, metelau patiniad a gwerthfawr. Gan ddefnyddio defnyddiau mor lliwgar a phersonol a ‘collage’ medrus fe ganiateir i’m darnau chwareus a cherfluniol ddatgelu eu straeon eu hunain.
Tlws ‘Wabi Sabi’ brooch, 2014; copr ocsidiedig, enamel ar gopr, arian ocsidiedig, pin dur gwrthstaen. 58 x 50 x 15mm Tlws ‘Bamboo’ , 2014; copr ocsidiedig, enamel ar gopr, bambŵ, arian ocsidiedig, pin dur gwrthstaen. 44 x 55 x 15mm 52 | 53
Tlws ‘Pray for Japan’, 2014; arian ocsidiedig, enamel ar gopr, arian eurblatiog, cordyn cotwm, pin dur gwrthstaen. 95 x 80 x 15mm
Emiko Suo Ganwyd: Tokyo, Japan, 1966 Stiwdio: Tokyo Hyfforddiant: Prifysgol y Celfyddydau, Tokyo (Prifysgol Genedlaethol Celfyddydau Cain a Cherddoriaeth Tokyo gynt) Gwobrau: Bayerischer Staatspreis a’r Wobr Talente, Munich, Yr Almaen, 1995; Gwobr Fawreddog, Cystadleuaeth Celfyddyd Gemwaith Japan, Tokyo, 1998; 16eg Gwobr Tansuiou/Sefydliad Ymchwil ac Ysgoloriaeth Crefft Celfyddyd Sato, Tokyo, 1999; Gwobr Teilyngdod, Cystadleuaeth Celfyddyd Gemwaith, Siapan, Tokyo, 2006; 17eg Gwobr Celfyddydau Cain Coffaol/Sefydliad Coffadwriaethol Gotoh, Tokyo, 2006 Gwaith yng nghasgliadau: Alice and Louis Koch Collection of Rings, Basle, Y Swistir; Amgueddfa Mint Crefft + Dylunio, Gogledd Carolina, UDA; Amgueddfa’r Celfyddydau a Dylunio, Efrog Newydd, UDA; Amgueddfa Prifysgol Kyushu Sangyo, Fukuoka, Japan; Amgueddfeydd Cenedlaethol yr Alban, Caeredin, y Deyrnas Unedig; Amgueddfa Genedlaethol Celfyddyd Fodern, Tokyo; Pinakothek dêr Moderne, Munich, Yr Almaen; Amgueddfa’r V&A, Llundain, y Deyrnas Unedig www.suo-emiko.jp
Cefais fy magu yn sŵn morthwyl haearn a ffeil. Y synau a wnaethpwyd gan y pump neu chwech o bobl yng ngweithdy gemwaith fy nhad sydd wedi llunio’r person ydw i heddiw. Nid oedd arnaf eisiau cael fy nghyfyngu i weithio dim ond â metelau gwerthfawr; gall arbrofi a ‘chwarae’ ag amrywiaeth o ddefnyddiau arwain at weithiau newydd. Weiren denau fyddaf i’n ei defnyddio fwyaf, dalen fetel denau a mesh. Rwy’n hoff o’r gwrthddywediad rhwng gwendid cynhenid ymddangosiadol y defnyddiau a’r strwythurau cryf y gallant eu creu yn y pen draw. Mae fy ngemwaith i fel hidlydd sy’n gwahanu tu allan y galon oddi wrth ei thu mewn. Rwyf â diddordeb mewn pa mor bell y gallaf roi mynegiant concrid i’m syniadau o fewn ffin y corff dynol. Rwy’n ceisio gwneud y gwisgwr yn gyflawn.
Tlysau, 2015; dur gwrthstaen, pres, caen ceramig Glas: 66 x 37 x 13mm, Gwyrdd: 64 x 32 x 10mm, Coch: 55 x 43 x 10mm 54 | 55
Breichled, 2014; dur gwrthstaen, copr, pres, caen ceramig, top: 120 x 110 x 105mm, gwaelod: 110 x 95 x 77mm
Tore Svensson Ganwyd: Alfta, Sweden, 1948 Stiwdio: Göteborg, Sweden Hyfforddiant: Västerbergs Konstskola, Gävle, Sweden; HDK-Högskolan för Design och Konsthantverk, Göteborgs Universitet, Sweden Gwobrau: Bayerischer Staatspreis, Munich, Yr Almaen, 1999; Enillydd Gwobr Herbert Hofmann, Schmuck, Munich, 2012 Gwaith yng nghasgliadau: y Contemporary Art Society, Llundain, y Deyrnas Unedig; Amgueddfa Gelfyddydau Los Angeles County, Los Angeles, UDA; Museé des Arts Decoratifs de Montreal, Canada; Amgueddfa’r Celfyddydau Cain, Houston (Casgliad Helen Drutt), UDA; Oriel Genedlaethol Awstralia, Canberra; Amgueddfa Genedlaethol, Stockholm, Sweden; Nordiska Museet, Stockholm; Röhsska Museum, Göteborg www.toresvensson.com
Pan ddechreuais i weithio â dur yn gynnar yn yr ‘80au roedd yn ymdrech i ddatblygu gofannu arian, i ddod o hyd i ffordd arall o weithio gyda hen grefft a oedd yn llawn o reolau anysgrifenedig yngŷn â sut i drin arian. Roedd o ddiddordeb i mi weld sut, drwy’r broses o weithio, y gallwn fireinio defnydd rhad i fod yn rhywbeth mwy gwerthfawr. Yn ddiweddarach, pan ddechreuais ddefnyddio dur hefyd yn fy ngemwaith, fe ganfûm ei fod yn ddefnydd a oedd yn siwtio fy niddordeb i ym maes geometreg ac mewn arwynebau.
Tlws ‘Åsa’, 2015; dur, gilt. 50 x 60mm Tlws ‘Box’, 2012; dur, paent. 40 x 40 x 20mm Modrwy ‘Inside Tube’, 2013; pren, arian, paent. 20 x 22 x 42mm 56 | 57
Modrwy ‘Tube’, 2012; dur, paent. 20 x 25 x 45mm
Janna Syvänoja Ganwyd: Helsinki, Y Ffindir, 1960 Stiwdio: Helsinki Hyfforddiant: Taideteollinen Korkeakoulu (Aalto University), Helskinki Gwobrau: Gwobr y Ffindir am Gelfyddyd Ifanc, Helsinki, 1993; Bayerischer Staatspreis, Munich, Yr Almaen, 1997; Gwobr Torsten and Wanja Söderbergs, Göteborg, Sweden, 2004; Ornamo Artist of the Year, Helsinki, 2011; Prins Eugen Medal, Stockholm, Sweden, 2012 Gwaith mewn nifer o gasgliadau’n cynnwys: Oriel Gelf Gorllewin Awstralia, Perth; Amgueddfa Gelf Dinas Helsinki, Y Ffindir; Amgueddfa’r CODA, Apeldoorn, Yr Iseldiroedd; Amgueddfa Ddylunio, Helsinki; Deutsches Technikmuseum, Berlin, Yr Almaen; Amgueddfa Ryngwladol y Celfyddydau Cymhwysol, Yr Eidal; Kunstgewerbenmuseum, Berlin, Yr Almaen; Amgueddfa Gelf Malmö, Sweden; Mint Museum of Craft + Design, Gogledd Carolina, UDA; Amgueddfa’r Celfyddydau Addurnol Montreal, Canada; Amgueddfa’r Celfyddydau a Dylunio, Efrog Newydd, UDA; Museum für Kunst und Gewerbe, Hamburg, Yr Almaen; Amgueddfa’r Celfyddydau Cain, Houston (Casgliad Helen Drutt), UDA; Amgueddfa Genedlaethol, Oslo, Norwy; Amgueddfeydd Cenedlaethol yr Alban, Caeredin, y Deyrnas Unedig; Amgueddfa Röhsska, Göteborg, Sweden, a llawer mwy www.jannasyvanoja.com
Darnau, Gofodau, Lleoedd Gwerthfawr Gallaf i lunio’r rheolau, ond bydd y darn yn ffeindio’i siâp ar ei ben ei hun. Pan fydd elfennau arbennig sydd wedi ffurfio’n dilyn ei gilydd ac yn dod o hyd i’w rhythm yn fy nwylo i, bydd y wyrth yn digwydd. Mae’n broses araf, fyfyriol a hynod naturiol. Byddaf yn defnyddio papur wedi’i brintio, mapiau, catalogau, geiriaduron. Mae eu gorffennol yn eu gwneud yn gyfoethog, yn cario gyda nhw fannau arbennig ac ystyron damweiniol. Mae’r defnydd hwn yn rhoi i’r darnau eu haddurniad unigol allanol a mewnol – eu haddurniadau. Rwy’n gweld pren, carreg, asgwrn, plu, caeau, melfed. Roedd cynnwys blaenorol y deunydd papur yn ymwneud â chyfathrebu rhwng pobl – neges a mynegiant. Gwisgir darn o emwaith i’r un pwrpas.
Tlws, 2013; papur eildro (mapiau), weiren ddur. 160 x 90 x 60mm Neclis, 2014; papur eildro, weiren ddur. 150 x 100 x 35mm 58 | 59
Tlws, 2013; papur eildro (mapiau), weiren ddur. 160 x 140 x 45mm
Mirei Takeuchi Ganwyd: Porz-Wahn, Cologne, Yr Almaen, 1969 Stiwdio: Munich, Yr Almaen Hyfforddiant: Prifysgol Kyoritsu Joshi, Tokyo, Japan (dylunio cynnyrch); Fachhochschule fur Angewandte Wissenschaften, Hildesheim, Yr Almaen; Akademie dêr Bildenden Künste, Munich Gwobrau: Grand Prix, Galeria Sztuki w Legnicy, Gwlad Pwyl, 2005; Gwobr Aur, Arddangosfa Grefft Ryngwladol, Amgueddfa Gelfyddydau a Chrefftau, Itami, Japan; Gwobr Bayerischer Staatspreis a Herbert Hofmann, Schmuck, Munich, 2011 Gwaith yng nghasgliadau: Die Neue Sammlung, Staatliches Museum für Angewandte Kunst, Munich; Amgueddfa’r V&A, Llundain, y Deyrnas Unedig www.mirei-takeuchi.tumblr.com
Glöyn byw â’i adenydd rhwygedig Yn hedfan ymlaen ac ymlaen Gan raddol golli’i gydbwysedd Aden gwas y neidr wedi’i ffeindio ar y ffordd Ble mae ei pherchennog? Mae’r eneidiau digartref hyn  grym tragwyddol harddwch Sy’n swyno’r meddwl Mae gwytnwch yn nodwedd o haearn – ond byddwch yn teimlo ei freuder pan fydd yn rhydu i ffwrdd. Mae’r cyferbyniad hwn fel pe bai’n adlewyrchu bywyd pryfed.
Tlws, 2012; haearn, aur, dur. 120mm yn ei hyd, symudol 60 | 61
Darn Gwddw, 2012; haearn, dur. 420mm yn ei hyd, symudol
Timothy Information Limited Ganwyd: Chipping Norton, y Deyrnas Unedig, 1967 Stiwdio: Penge, Llundain, y Deyrnas Unedig Hyfforddiant: Coleg Celf a Dylunio Henffordd, y Deyrnas Unedig; Ysgol Gelf Epsom, Surrey, y Deyrnas Unedig; Spink and Sons, Gwneuthurwyr Medelau, Llundain Gwobrau: Ras Sachau (Cyntaf, Ysgol Gynradd Colwall, 1977); 100m (Trydydd, YG Colwall, 1977); Ras Wy ar Lwy (Trydydd, YG Colwall, 1977) Gwaith yng nghasgliadau: Galeria Sztuki w Legnicy, Gwlad Pwyl
Nid wyf i’n ymhyfrydu mewn defnyddiau. A dweud y gwir byddaf yn defnyddio’r holl sgiliau sydd gen i i’w gwneud mor anweladwy ag sy’n bosib. Oherwydd. Nid amdanyn nhw mae hyn i gyd. Amdanaf i y mae o… Felly Mr Platinumydiamondygoldysilverynickelybrassycopperyaluminiumyglassyclayywoodyplasticythermoplasticytextileypaperyfoundobjecty, ydi hynna’n esbonio pam na chawsoch chi’r rhan pan wnaethoch chi ymddangos gyda’ch swagr hunan-ymgolledig, narsisaidd, ego-wallgof? Ie, ie, ie, rwy’n deall. Nid eich bai chi ydi o, hanes diwylliannol felltith a’r holl oesau hynny a mympwyon a phethau. Ond hei! Fy stori i, nid chi, yw’r testun yma.
Bathodyn ‘Badge and Useful Jar’ (manylyn), , 2011 62 | 63
‘Badge and Useful Jar’, 2011; pres, dur gwrthstaen, caen bowdwr, magnedau, gwydr. 70 x 70 x 30mm
Terhi Tolvanen Ganwyd: Helsinki, Y Ffindir, 1968 Stiwdio: Journet, Ffrainc Hyfforddiant: Lahden Muotoiluinstituutti, Lahti, Y Ffindir; Gerrit Rietveld Academie, Amsterdam, Yr Iseldiroedd; Sandberg Instituut, Amsterdam Gwobrau: Cymeradwyaeth Uchel, Gwobrau Dyluniad Iseldiraidd, 2007 Gwaith wedi’i gynnwys yng nghasgliadau: Alice and Louis Koch Collection of Rings, Basle, Y Swistir; Amgueddfa CODA, Apeldoorn, Yr Iseldiroedd; EKWC (Canolfan Waith Seramegau Ewropeaidd, ’s-Hertogenbosch, Yr Iseldiroedd; Gintaro muziejus-galerija, Vilnius, Lithuania; Amgueddfeydd Cenedlaethol yr Alban, Caeredin, y Deyrnas Unedig; The Rotasa Foundation, Mill Valley, California, UDA; Schmuckmuseum, Pforzheim, Yr Almaen; Stichting Françoise van den Bosch, Amgueddfa Stedelijk, Amsterdam; Amgueddfa’r V&A Llundain, y Deyrnas Unedig ac eraill www.terhitolvanen.com
Rwy’n hoff o goed. Mae coed yn hardd – bach a mawr, tenau a thew. Mae coed yn fyw, maent yn anadlu; maent yn llawn pŵer bywyd. Fy angerdd i yw cael gweithio â changhennau: mae eu hansawdd, lliwiau, ffurfiau a chromliniau’n ysbrydoli’n fawr. Ac mae’n heriol: mae’n amhosib copïo un yn union. Bydd canghennau eraill yn gwneud cromliniau eraill, a daw yn ddarn newydd. Daw pob darn yn unigryw. Beth amser yn ôl, am y tro cyntaf erioed, fe ges rywfaint o bren lafant gan fy landlord. Mae’n rhaid bod y lafant yma wedi bod yn tyfu am o leiaf 20 mlynedd. Wrth i mi dorri’r pren yn ddarnau llai i ffitio i mewn i’w ofod storio gwnaethpwyd i mi feddwl am aur: mae aur yn gwneud i’m calon guro yn yr un modd. Mae mor ddrud fel bod arnaf ofn bob amser gwneud camgymeriad. Fy nhasg fel artist yw dangos sut y gall y defnyddiau yn fy ngemwaith wneud i’m calon guro fel hyn.
Tlws ‘Amethyst Plant’, 2014; cactws amethyst, sment, pren. u: 90mm 64 | 65
Neclis ‘Black Coral’, 2012; pren afal, arian. dia: 210mm
Catherine Truman Ganwyd: Glenelg, De Awstralia, 1957 Stiwdio: Adelaide, Awstralia (Gweithdy Gray Street) Hyfforddiant: Prifysgol De Awstralia (Addysg; Gemwaith/Metelofannu); Gwobrau: Cymrawd Cyngor Celfyddydau Awstralia, 2007–8; Meistr Crefft Awstralaidd (2008–10); Gwobr Ruddem, Llywodraeth De Awstralia, am Fenter y Celfyddydau (Gweithdy Gray Street), 2011 Gwaith yng nghasgliadau: Oriel Gelf De Awstralia, Adelaide; Oriel Gelf Gorllewin Awstralia, Perth; Artbank, Llywodraeth Awstralia; Amgueddfa Goffa’r Rhyfel, Auckland, Seland Newydd; Amgueddfa CODA, Apeldoorn, Yr Iseldiroedd; Amgueddfa ac Oriel Gelf y Northern Territory, Darwin, Awstralia; Amgueddfa Academi Ganolog y Celfyddydau Cain, Beijing, Tsieina; Oriel Genedlaethol Awstralia, Canberra; Oriel Genedlaethol Victoria, Melbourne, Awstralia; Pinakothek dêr Moderne, Munich, Yr Almaen; Amgueddfa’r Powerhouse, Sydney, Awstralia; Oriel Gelf Queensland, Brisbane, Awstralia www.graystreetworkshop.com/partners/catherine-truman
Byddaf yn gweithio’n aml ar draws disgyblaethau celfyddyd a gwyddoniaeth. Am flynyddoedd lawer rwyf wedi gweithio ymysg gwyddonwyr yn cynnwys anatomyddion, histolegwyr, niwrowyddonwyr a gwyddonwyr naturiol, yn dehongli eu gwaith ac yn dangos cyffelybiaeth rhwng ein harferion. Yn ddiweddar rwyf wedi dechrau meddwl am fy stiwdio fel labordy o fath, a’m harfer fel proses o ymholi ac arbrofi sy’n esblygu. Rwy’n gweithio ar hyn o bryd â defnyddiau naturiol a synthetig – yn archwilio’r gwahanol ryngberthynas rhyngddyn nhw. Drwy ddod â’r defnyddiau hyn sydd weithiau’n wahanol ac weithiau’n gydweddol at ei gilydd fy nod yw creu ffurfiau newydd sy’n cwestiynu rôl dynolryw yn eu bodolaeth, cwestiynu eu tarddiad, eu pwrpas a’u ffisioleg – i greu pos o ystyr a gwerthoedd a phryfocio synnwyr o ansicrwydd gan y gynulleidfa. Rwyf wedi dysgu fy mod, wrth wneud pethau â’m dwylo, â llai o lawer o synnwyr o afleoliad oddi wrth y byd rwy’n byw ynddo.
Tlysau ‘Fluro-plants’, 2013; thermoplastig, tiwbin silicon, dur gwrthstaen. Dimensiynau amrywiol, y mwyaf 120 mm 66 | 67
‘Egg Shells’, pedwar tlws a gwrthrych (wystrysen), 2013; Cregyn traeth De Awstralia, gwydr, paent, arian pur. Dimensiynau amrywiol, y mwyaf 120 mm
Flóra Vági Ganwyd: Budapest, Hwngari, 1978 Stiwdio: Budapest Hyfforddiant: Budapesti Szolgáltató- es Kézmu’’vesipari Szakképzo’’ Iskola, Budapest, Hwngari; Universidad Nacional Autónoma de México, Taxco, Mecsico; Alchimia, Scuola di gioielleria contemporanea, Florence, Yr Eidal; Y Coleg Celf Brenhinol, Llundain, y Deyrnas Unedig Gwobrau: Gwobr Gyntaf, Talente, Internationale Handwerksmesse, Munich, Yr Almaen, 2004; Gwobr Marzee, Galerie Marzee Graduation Show, Nijmegen, Yr Iseldiroedd, 2004; Gwobr Goffa Bakri Yehia, y Coleg Celf Brenhinol, Llundain, y Deyrnas Unedig, 2008; Gwobr Ewropeaidd ar gyfer y Celfyddydau Cymhwysol – Talent Ifanc, Cyngor Crefftau’r Byd Mons, Gwlad Belg, 2012; Crybwylliad Arbennig, Gwobr Cominelli Award, La Fondazione Cominelli a’r Associazione Gioiello Contemporaneo, Yr Eidal, 2014 Gwaith yng nghasgliadau: Amgueddfa CODA, Apeldoorn, Yr Iseldiroedd; Grassi Museum für Angewandte Kunst, Leipzig, Yr Almaen www.floravagi.net
Pan ddechreuais i wneud gemwaith a gwrthrychau am y tro cyntaf wyddwn i ddim y byddai’r defnyddiau â rôl mor bwysig. Byddaf yn dewis defnyddiau sydd â phriodweddau arbennig, a bydd rhai o’r rheiny’n newid gydag amser neu oherwydd dylanwad arbennig, fel y bydd popeth. Mae dewis y defnydd priodol fel dod o hyd i’r iaith briodol i fynegi eich meddyliau. O fod wedi byw dramor a siarad gwahanol ieithoedd, deuthum yn arbennig o ymwybodol o bwysigrwydd dod o hyd i’r gair priodol i ddisgrifio emosiwn arbennig neu syniad… … ac wedyn mae yna’r pethau hynny na allwch roi eich bys arnyn nhw a’u henwi. Dyna’r diriogaeth lle byddaf yn ceisio sylwi a chreu pethau. Mae ymestyn y syniad o harddwch yn bwysig i mi, i osod tasg fwy cymhleth i lygaid y gwyliwr lle mae edrych, teimlo – a gwisgo! – i gyd yr un pryd yn bwysig.
Tlws ‘Woodwaves’, 2013; pren derw, pigment, paent acrylig, aur 18ct. 70 x 50 x 50mm Tlws ‘Pillowaves II’, 2014; pren gellyg, enamel oer, arian, dur. 100 x 100 x 20mm 68 | 69
Tlws ‘Brittle Growing’ , 2015; pren ‘red heart’, arian, dur. 80 x 70 x 20mm
Heather Woof Ganwyd: Caeredin, y Deyrnas Unedig, 1985 Stiwdio: Caeredin Hyfforddiant: Coleg Celf Caeredin (BA (Anrh), MA) Gwobrau: Enillydd, Rising Stars, 2013; Hothouse 4, Cyngor Crefftau’r Deyrnas Unedig, 2014 www.heatherwoof.com
Rwy’n wneuthurwr sy’n cael fy nghyfareddu gan fetel fel deunydd. Arbrofi â’r deunydd yw man cychwyn fy mhroses o ddylunio, ac rwy’n gwneud gweithiau mewn ymateb i briodweddau cynhenid y defnydd. Mae gweithio â thitaniwm yn golygu gweithio â chyfyngiadau caeth. Mae’n fetel anodd sydd ddim yn cydymffurfio â rheolau gwaith metel arferol. O ganlyniad ceir sialensiau a thensiwn creadigol, ac yn y pen draw mae’n agor cyfleoedd newydd. Byddaf yn ceisio ecsploetio priodweddau unigryw titaniwm o bosibiliadau cryfder, pwysau ysgafn a lliwio i greu gwrthrychau sydd â synnwyr annisgwyl o lifedd a symudiad.
Tlws ‘Implode’, 2013; titaniwm, arian pur ac eurblat. 40 x 40 x 25mm 70 | 71
Neclis ‘Slinky’ , 2014; titaniwm, aur 9ct. hyd: 600mm
Ddim yn Rhy Werthfawr: bwrw goleuni
Gregory Parsons a Philip Hughes gafodd y syniad ar gyfer Ddim yn Rhy Werthfawr – a’r teitl – dros bum mlynedd yn ôl. Yn ystod un o’r nifer o nosweithiau hynod lawen rwyf wedi eu treulio yn eu cwmni yn Rhuthun fe awgrymwyd y gallwn i gyd-guradu’r arddangosfa â Greg. Roedd hwn yn wahoddiad a oedd yn drech na mi. Mae Greg â llygad rhyfeddol, ac rwyf wedi edmygu ei sgiliau curadu ers blynyddoedd lawer. Ymhellach, ac yntau’n artist a dyluniwr dawnus ei hun, gyda phrofiad sylweddol mewn tecstilau a datblygu cynnyrch, daw o gefndir gwahanol iawn i’m cefndir i. Roeddwn i’n guradur amgueddfa am chwe blynedd ar hugain, ac rwy’n gweithio’n awr fel curadur annibynnol ac ysgrifennwr sy’n canolbwyntio’n bennaf ar emwaith ac arian. Mae i gyd-guradu lawer o fanteision. Daeth hyn yn eglur iawn pan wnes i gyd-guradu arddangosfa Jewellery Moves Amgueddfeydd Cenedlaethol yr Alban yn 1998 ag Amanda Game. Rhoddodd y profiad gyfle i ni’n dwy ein trochi ein hunain mewn meddwl dwys ynghylch cyd-angerdd, a datblygu gweledigaeth gyffredin. Daethom â’n gwybodaeth unigol, a chyflenwol yn aml, i brosiect a oedd yn llawer mwy cynhwysfawr nag y gallai’r un ohonom fod wedi’i gyflawni ar ein pen ein hunain. Ond efallai mai un o’r agweddau pwysicaf ar guradu yw ei fod yn eich gorfodi i gyfiawnhau eich greddfau, i egluro eich ffordd o feddwl ac amddiffyn eich dewisiadau. Cafodd pob manylyn yn Jewellery Moves ei drafod, ei gyd-drafod a’i fireinio’n drwyadl hyd nes ein bod ni’n dwy’n fodlon. Roedd hyn yn arbennig o gymwys i’n proses o ddethol, a ddaeth, yn y pen draw, â gwaith rhagorol gan fwy na 130 o emyddion, yn ymarfer mewn 24 o wahanol wledydd, i Gaeredin. Mae curadu’n gelfyddyd gyfrin, ddirgel i lawer, ac mae cyd-guradu efallai’n fwy fyth felly. Bydd papurau arholiad gwyddoniaeth yn y Deyrnas Unedig yn gofyn yn aml i fyfyrwyr nid dim ond cyflenwi atebion ond hefyd i ‘ddangos eu proses’. Awgrymodd trafodaeth ddiweddar gyda chyw curadur ifanc
72 | 73
brwdfrydig y gallai fod yn ddiddorol disgrifio’n fyr y ffordd y dewisodd Greg a minnau’r cast ardderchog o emyddion yn Ddim yn Rhy Werthfawr 1. Dyma’r ffordd y gwnaethon ni hynny, yn ystod trafodaethau wyneb yn wyneb, e-byst, negeseuon testun a galwadau ‘skype’ di-rif. Y cam cyntaf oedd sawl blwyddyn o ymchwil trylwyr. Fe ymwelodd Greg yn arbennig â llawer o arddangosfeydd a ffeiriau, yn cynnwys Casglu, Dylunwyr Newydd, Ffair Grefftau Cyfoes Fawr y Gogledd, sioeau colegau celf a digwyddiadau stiwdio agored, a siarad yn uniongyrchol â gwneuthurwyr am eu gwaith pryd bynnag y byddai hynny’n bosib. Buom yn pori mewn cylchgronau a chyhoeddiadau eraill, taflenni orielau preifat, y rhyngrwyd a rhwydweithiau cymdeithasol; buom yn siarad â llawer o bobol ac yn chwilio agennau ein hatgofion gweledol. Ar wahân i’n gilydd i ddechrau, buom yn rhestru enwau a’u cydosod yn rhestrau hir (hir iawn). Erbyn dechrau Ebrill 2013, roeddem wedi casglu bron i 100 o enwau o emyddion sy’n defnyddio defnyddiau anwerthfawr ac y mae eu gwaith wedi denu sylw un neu’r llall ohonom neu, yn aml, ni’n dau. Yn y pwynt hwn fe wnaethon ni glustnodi cyfnod sylweddol o amser i drafod beth yn union oedd ein bwriad ni’n dau ar gyfer yr arddangosfa hon. Fe ffurfiodd ein trafodaethau’r sail i friff y gallem gyfeirio’n ôl ato wrth i ni barhau i ddatblygu ein ffordd o feddwl. Cafodd strwythur gor-syml yn seiliedig ar ddefnyddiau ei wrthod yn gyflym; roeddem â llawer mwy o ddiddordeb mewn pam a sut roedd gwneuthurwyr yn defnyddio eu deunydd dewisol. Roeddem am i Ddim yn Rhy Werthfawr ganolbwyntio sylw’n bennaf ar emyddion dawnus sy’n defnyddio defnyddiau ar gyfer eu potensial mynegiannol. Cytunwyd ein bod yn gobeithio dangos gwaith eithriadol a oedd yn ystyrlon, yn llawn mewnwelediad, yn ddiwylliannol atseiniol, yn eithriadol fedrus yn dechnegol ac yn esthetaidd, ac a oedd hefyd yn wisgadwy. Roedd ansawdd
yn llawer pwysicach i ni na pha un ai a oedd y gwneuthurwr wedi ei gydnabod yn rhyngwladol neu’n emydd sy’n datblygu. Yna daeth dogn iach o realaeth wrth i ni drafod yr agweddau ymarferol. Faint o emyddion y gallem roi lle amlwg iddyn nhw yng ngofod yr arddangosfa? Faint o waith gan bob un allem ei ddangos? Pa mor ddiweddar ddylai’r gwaith fod? Ddylem ni ystyried y Deyrnas Unedig yn unig, neu edrych tuag at Ewrop neu ymhellach hefyd? Wedi i ni gytuno na ddylai ansawdd eithriadol gael ei gyfyngu gan ffin ddaearyddol, beth fyddai’r problemau ymarferol? A buom yn siarad am y rhestrau, y llinellau amser, rhaniad y baich gwaith a chyllidebau. Wedi i ni gytuno’n eithaf cyndyn na allai cyfanswm y gwneuthurwyr fod yn fwy na 25, dechreuwyd ar broses ddethol aml-gyfnod hir. Gofynnwyd i bawb ar y rhestr anfon gwybodaeth atom am eu gwaith cyfredol, ynghyd â delweddau. Gwnaethpwyd y rhan fwyaf o’r gwaith gweinyddu sylweddol roedd hyn yn ei olygu gan Greg. Gyda’r cyfnod nesaf roedd yn ofynnol i ni ddyfeisio meini prawf i allu asesu gwaith pob gemydd yn eu herbyn o ran ein nodau penodedig a’n briff: yr elfen hanfodol yw cysondeb cymhwysiad. Defnyddiwyd pedwar o feini prawf a oedd â graddfeydd pwysau amrywiol. O’i roi’n syml, tri ohonyn nhw oedd: defnydd galluog o ddeunydd; defnydd galluog o dechneg; a thystiolaeth amlwg o arloesi a/neu feddwl dargyfeiriol. Rhoddwyd y pwysau mwyaf ar y maen prawf anoddaf ei ddiffinio: y ffactor ‘wow’, waeth beth fo’r deunydd na’r dechneg. Mae hwn yn oddrychol ac yn anniffiniol – ond roeddem ein dau’n cytuno ein bod, o’i ganfod, yn gwybod hynny. Roedd cyfnodau olaf y broses o ddethol yn ailadroddus: fe edrychwyd ar bopeth sawl gwaith ac o sawl cyfeiriad curadurol. Yn rhan o hynny fe wnaethon ni ystyried a oeddem yn cynnig cydbwysedd rhesymol o ran y mathau o waith
roeddem wedi’u dewis. Er ein bod wedi gwrthod dull ‘casglu stampiau’ cynrychioliadol, teimlem y byddai’n ddymunol ail-wirio effaith y canlyniad; ‘adolygiad o’r rhagolwg’, mewn ffordd. Roeddem yn meddwl hefyd am gyfosodiad, cyseinedd ac effaith gweledol: rydym ein dau’n curadu’n weledol, yn ein pennau, ac roeddem yn dechrau datblygu ein teimlad am gydlyniad mewnol y sioe. Ac o’r diwedd, roedd gennym ein rhestr derfynol. Yn ystod ein cyfnod ymchwil, roeddem wedi gweld llawer o emwaith ardderchog a oedd wedi bod o ddiddordeb mawr i ni ond nad oedd yn llwyr ffitio’r brîff am ryw reswm neu’i gilydd 2. Penderfynwyd ategu’r arddangosfa ganolog â dangosiad arbennig yn amlygu gwaith gan raddedigion mwy diweddar a gwneuthurwyr a oedd wedi dod at emwaith o feysydd eraill. Y nod yma oedd amlygu persbectifau ffres, efallai drwy’r defnydd medrus o ddefnyddiau ‘anwerthfawr’, ffyrdd arloesol o weithio, neu agweddau llawn dychymyg tuag at ryngweithio a gwisgo. Mae’r daith guradurol wedi bod yn hynod ddiddorol ac ysbrydoledig. Mae yna waith gwirioneddol aruthrol allan yna…
Elizabeth Goring Caeredin, Chwefror 2015
1. Rhoddodd Sarah Osborn gynnig ar rywbeth tebyg dros 30 mlynedd yn ôl yn ei thraethawd ‘The Front Line’, y rhagair i gatalog yr arddangosfa Jewellery Redefined yn 1982 (tudalennau 9–10) 2. Llwyddodd detholwyr Jewellery Redefined, o’u canfod eu hunain mewn sefyllfa debyg, i ddatrys hyn drwy ychwanegu ‘Detholiad Ychwanegol’ o ddewisiadau na fyddent fel arall wedi’u cynnwys yn eu harddangosfa (catalog Jewellery Redefined tudalennau 59–62)
Rhestr Termau: esboniad o
rai defnyddiau a thechnegau Acrylig: Mae Acrylig, neu poly(methyl methacrylate), yn thermoplastig tryloyw: deunydd plastig sy’n dod yn ystwyth dros dymheredd penodol ac sy’n caledu pan fydd yn oeri. Paent acrylig: Gwneir paent acrylig o bigment sydd mewn daliant mewn emylsiwn polymer acrylig. Mae â sail dŵr, mae’n sychu’n gyflym ac mae’n ddŵr-wrthiannol pan yn sych. Alwminiwm wedi’i anodeiddio: Gellir lliwio alwminiwm drwy roi’r metel mewn daliant mewn hydoddiant o asid sylffwrig a dŵr ac yna basio cerrynt trydan drwyddo. Bydd arwyneb yr alwminiwm yn cyfuno â’r ocsigen yn y toddiant gan ffurfio haen arwyneb o alwminiwm ocsid. Mae’r asid yn toddi’r haen arwyneb hon gan greu mândyllau bychan a fydd yn amsugno llifynnau lliwio. CAD: Mae CAD, neu ‘computer-aided design’, yn defnyddio technoleg cyfrifiadur yn hytrach na drafftio â llaw wrth greu dyluniadau. Amethyst cactws: Daw hwn o Dde Affrica ac mae’n cynnwys clystyrau o risial bach o gwmpas prif risial. Paent cashew: Haen o lacer anghonfensiynol a deunydd ffrithiant a gynhyrchwyd o gyfansoddyn ffenol planhigyn wedi’i echdynnu o gnau cashew. Wedi e ddatblygu a’i gynhyrchu yn Japan gan y Cashew Company Ltd. Crwybr serameg: Bloc serameg â strwythur tyllog, a ddefnyddir gan emyddion fel arwyneb i sodro defnyddiau arno. Cubic zirconia: Gemfaen synthetig, y ffurf grisialog giwbig o ‘zirconium dioxide’ sy’n ddi-liw fel rheol. ‘Electroforming’: Proses ar gyfer ffurfio gwrthrychau unigryw drwy electrowaddodi metel ar fodel craidd (fel trochi’r gwrthrych mewn metel). Fflocio, neu ffibr wedi’i fflocio: Mae fflocio’n dyddodi ffibrau mân niferus ar arwyneb sydd wedi’i orchuddio â gludydd drwy gymhwyso maes trydanol foltedd uchel. Mae’r broses hon yn rhoi gwead a lliw i’r arwyneb. Hemalyke: Ffurf synthetig o haematit.
74 | 75
Weldio laser: Techneg weldio i uno metelau gan ddefnyddio ffynhonnell gwres hynod ganolbwyntiedig a chrynodedig a ddarperir gan belydr laser Lignum vitae: Pren caled, trwchus a gwydn. Mae ei enw Lladin yn cyfieithu’n ‘bren bywyd’ mewn cyfeiriad at ei ddefnydd meddygol traddodiadol. Niobiwm: Metel gwrthsafol hydwyth tebyg i ditaniwm, yn naturiol lwyd, y gellir ei liwio’n llachar gan broses anodeiddio sy’n creu lliw arwyneb ymyriant optegol. Cyflawnir hyn un ai drwy wres neu ocsideiddiad electrolytig anodig pan gaiff cerrynt trydan ei basio drwy’r metel. Gwahanol iawn i arwyneb llifedig alwminiwm wedi’i anodeiddio. Côt o bowdwr: Math o gaen a ddefnyddir yn bennaf i greu gorffeniad caled parhaol ar fetelau. Fe’i cymhwysir yn electrostatig fel rheol fel powdwr sych a’i galedu dan wres. Shibuichi: Aloi Siapaneaidd o gopr ac arian y gellir ei batinio i gynhyrchu ystod o liwiau glas a gwyrdd cynnil. Silicone: Polymer y gellir ei syntheseiddio i greu ystod eang o briodweddau. Gall siliconau amrywio o hylif i rwberaidd (er enghraifft, deunydd tiwbio silicone) i blastig caled. Caiff ei gamsillafu weithiau’n ‘silicon’, sy’n elfen gemegol a ddefnyddir i greu silicone. Printio sychdarthiad: Cymhwysir inciau i arwyneb polyester, polymer neu bolymer haenedig gyda phres gwres i gynhyrchu delwedd wydn barhaol. Trawsnewidir yr inc solet yn nwy a all dreiddio’r arwyneb. Pan fydd y tymheredd yn oeri bydd y nwy yn dychwelyd i gyflwr solet, a bydd yr inc wedi dod i bob pwrpas yn rhan o’r polymer. Gan fod y broses yn dibynnu ar i fandyllau’r polymer agor a chau, ni ellir ei gymhwyso i ffibrau naturiol. Inc Sumi: Inc du parhaol wedi’i wneud o huddygl olew llysiau (pinwydd fel rheol) wedi’i gyfuno â chyfrwng uno. Fe’i defnyddir yn draddodiadol mewn sumi-e, y gair Siapaneaidd am baentio brwsh inc du.
Clocwedd o’r top chwith: Heather Woof yn ei stiwdio yng Nghaeredin; Janna Syvänoja yn ei stiwdio yn Helsinki; Heather Woof – gwaith ar y gweill; Catherine Truman yn ei stiwdio yn Adelaide; Shinji Nakaba wrth ei gwaith; Shinji Nakaba
Cydnabyddiaethau Dymuna Elizabeth Goring ddiolch i Gordon Barclay, Marion Goring, Jenny Harper, Dorothy Hogg, David Poston a Ruth McCabe, Shannon Tofts. Dymuna Canolfan Grefftau Rhuthun ddiolch i’r Dr Elizabeth Goring a Gregory Parsons, Shannon Tofts, Ellie Jones-Hughes, yr holl arddangoswyr, Fritz Maierhofer, Tony Gordon a Christine Bola, David Poston, Julia Stephenson, Rosemary Ransome Wallace, Sophia Tobin ac Eleni Bide, The Goldsmiths’ Company. Lisa Rostron, Stephen Heaton a Rachel Shaw yn Lawn. Pete Goodridge ac ArtWorks. Cyngor Celfyddydau Cymru: Louise Wright, Nathalie Camus, lolo Wyn Williams; a’r tîm i gyd yng Nghanolfan Grefftau Rhuthun. Staff arddangosfa ac addysg Canolfan Grefftau Rhuthun: Philip Hughes, Jane Gerrard, Sioned Phillips, Joe Jubb a Einir Wyn Jones Dylunio: Lawn Creative, Lerpwl Printio: Team Impression, Leeds Cyfieithu: Catherine Lowe Ffotograffiaeth: tudalen 1: Franz Karl tudalen 2: Carina Chitsaz-Shoshtary. tudalen 3: top: Emmeline Hastings. gwaelod: Flóra Vági tudalen 4: Robert Frith tudalen 7: Mirei Takeuchi tudalennau 8, 10 & 11: Shannon Tofts tudalennau 11–16: Cloriau llyfrau a deunydd print wedi’u sganio o eitemau yng nghasgliad yr awdur ei hun, ac eithrio tudalen 11 (chwith), trwy garedigrwydd The Goldsmiths’ Company’ a thudalen 12 (top), trwy garedigrwydd Fritz Maierhofer tudalennau 17: David Poston tudalen 20: Zoe Robertson tudalennau 22–23: Attai Chen tudalen 24: Mirei Takeuchi tudalen 25: Laurens Burro tudalen 26: Eunmi Chun tudalen 27: Mirei Takeuchi tudalennau 28–29: Roy Tremain tudalennau 30–31: Emmeline Hastings tudalennau 32–33: Robert Frith tudalennau 34–35: Eddo Hartmann tudalennau 36–37: Sari Liimatta tudalennau 38–39: Märta Mattsson tudalennau 40–41: Jasmin Matzakow tudalennau 42–43: Ryota Sekiguchi tudalennau 44–45: Shinji Nakaba tudalennau 46–47: Lina Peterson
76
tudalennau 48–49: Zoe Robertson tudalennau 50–51: Sergei Didyk tudalennau 52–53: James Champion tudalennau 54–55: Masatoshi Sasahara tudalennau 56–57: Franz Karl tudalennau 58–59: Janna Syvänoja portread gan Mikko Ryhänen tudalennau 60–61: Mirei Takeuchi tudalennau 62–63: Simon Armitt tudalennau 64–65: Eddo Hartmann tudalennau 66–67: Catherine Truman tudalennau 68–69: Flóra Vági tudalennau 70–71: James Robertson
clawr: neclis ‘Sting’, Carina Chitsaz-Shoshtary, 2013; graffiti, arian. 195 x 88 x 24mm, cadwyn: 710mm. model: Mari Halang. cynllunydd: Katharina Gruszczyn’ski. colur a gwallt: Nadja Kaiser. ffotograffiaeth: Laurens Burro clawr cefn: Attai Chen yn gwisgo ei dlws ‘The Yung Zabars’, 2011; papur, papur newydd, lliw, glud, pres, graffit, arian, dur gwrthstaen. 80 x 100 x 60mm. ffotograffiaeth: Carina Chitsaz-Shoshtary
Mae Shannon Tofts wedi creu ffilm i gyd-fynd â’r arddangosfa. Dymuna Canolfan Grefftau Rhuthun ddiolch iddo a phawb sydd wedi cyfrannu tuag at wneud y ffilm: Carina Chitsaz-Shoshtary, Emmeline Hastings, Felieke van der Leest, Märta Mattsson, Jasmin Matzakow, Lina Peterson, Zoe Robertson, Mariko Sumioka, Heather Woof
tudalen 1: Tlws ‘Box’, Tore Svensson, 2014; dur, paent. 62 x 22 x 14mm tudalen 2: Attai Chen yn gwisgo ei dlws ‘The Yung Zabars’, 2011; papur, papur newydd, lliw, glud, pres, graffit, arian, dur gwrthstaen. 80 x 100 x 60mm tudalen 3: Darn Gwddw, Emmeline Hastings, 2013; acrylig (Persbecs), aur 18ct. 250 x 200 x 30mm Tlws ‘Things Happen in a Garden Series’, Flóra Vági, 2014; cedrwydden, pigment, paent acrylig, arian, dur. 90 x 70 x 35mm
Cyfranogwyr yn y ffilm: Liz Ellis, Rob Ellis, Suzanne Hodgson, Anna Lilley, Russ Pinnegar, Shaun Synnuck, Dewi Tannatt Lloyd Dwylo (ar gyfer rhan o’r ffilmio): Michael Behennah, Rhian Hâf, Margit Hart, Fritz Maierhofer, Eleri Mills, Gregory Parsons Alana Tyson Cyhoeddwyd gan Ganolfan Grefftau Rhuthun Testun © The Authors 2015 ISBN: 978-1-905865-12-3 Canolfan Grefftau Rhuthun, Canolfan y Celfyddydau Cymhwysol Ffordd y Parc, Rhuthun, Sir Ddinbych LL15 1BB Ffôn: +44 (0)1824 704774 www.canolfangrefftrhuthun.org.uk Caiff Canolfan Grefftau Rhuthun ei hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac mae’n rhan o Gyngor Sir Ddinbych. Gwnaethpwyd pob ymdrech i geisio caniatâd i atgynhyrchu’r delweddau hynny nad yw eu hawlfraint yn perthyn i’r Gwneuthurwyr a Chanolfan Grefftau Rhuthun ac rydyn ni’n ddiolchgar i’r unigolion a’r sefydliadau sydd wedi ein cynorthwyo â’r dasg hon. Mae unrhyw esgeulustod yn gwbl anfwriadol. Ni chaniateir atgynhyrchu’r llyfr hwn yn gyfan nac yn rhannol mewn unrhyw ffurf heb ganiatâd ysgrifenedig gan y cyhoeddwr. Mae’r cyhoeddiad hwn ar gael hefyd yn Saesneg.