Adroddiad Effaith Blynyddol

Page 1

Title

Adroddiad Effaith Blynyddol 2013-14

Adroddiad Effaith Blynyddol 13-14

1


Cynnwys Laura 3edd f lw y ddyn

2014

Llenyddiaeth Saesneg Laura yw Llywydd y Gymdeithas Ffotograffiaeth a hi dynnodd y lluniau sydd yn yr adroddiad hwn.

3

Am yr Undeb

24

Datblygiad Myfyrwyr

4

Cyflwyniad

26

Gwirfoddoli a Menter Myfyrwyr

5

Prif gyraeddiadau

29

Lleoliadau

6

Sut mae ein myfyrwyr yn ein graddio

30 Swyddi

7

Ymgysylltiad Cyffredinol

8

Dyfnder Ymgysylltu

9

Bodlonrwydd yn erbyn Ymgysylltiad

10

Perfformiad yn erbyn ein nodau sefydliadol

13

Llais Myfyrwyr

14

Cyngor Myfyrwyr

16

Chwaraeon

18

Cymdeithasau

20

Cyfryngau Myfyrwyr

22

Democratiaeth ac Etholiadau

ac Arian ym Mhocedi Myfyrwyr

32

Adwerthu – Gosod Eiddo

34

Adwerthu – Y Siop TechGwyb & Cutting Edge

36

Campws Parc y Mynydd Bychan

38

Incwm a Gwariant

39

Perfformiad Masnachol

40

Prosiectau Cyfalaf

42

Ein prif dargedau ar gyfer 2014–16

44

Cyfarwyddwyr Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd a Gwasanaethau Undeb Caerdydd Cyf


Am yr Undeb Nod Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yw cael effaith gadarnhaol ar fywyd pob myfyriwr, wrth eu helpu i fwynhau eu hunain yn ystod eu hamser yng Nghaerdydd. Fel rhan annibynnol o’r Brifysgol a arweinir gan fyfyrwyr, mae’r Undeb yn gwneud hynny drwy gynrychioli myfyrwyr a darparu amrywiaeth eang a chynhwysol o weithgareddau a gwasanaethau. Mae’r Undeb wedi’i leoli ar Blas y Parc ac yn Ysbyty Prifysgol Cymru, ac yn cyflogi 100 o staff parhaol, 300 o staff myfyrwyr gyda throsiant o tua £6.2m y flwyddyn.

“Gweithio gyda phob myfyriwr yng Nghaerdydd i wella eu profiad yn y brifysgol ” Ein gwerthoedd Byddwn yn: • darparu cyfleoedd a rhoddi grym • bod yn ardderchog yn yr hyn rydym yn ei wneud drwy fod yn gwbl gynhwysol • annog arweinyddiaeth myfyrwyr • hwyluso newid cadarnhaol • gwrando, cyfathrebu ac ymgysylltu

Ein slogan Cyfranogwch, carwch Gaerdydd

Ein diben Cyfoethogi addysg myfyrwyr Prifysgol Caerdydd er budd y cyhoedd drwy: • Hyrwyddo buddiannau a lles myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn ystod eu cwrs astudiaeth a chynrychioli, cefnogi a chynghori myfyrwyr; • Bod yn sianel gynrychiolaeth gydnabyddedig rhwng myfyrwyr a Phrifysgol Caerdydd ac unrhyw gorff allanol arall; a • Darparu gweithgareddau cymdeithasol, diwylliannol, chwaraeon a hamdden yn ogystal â fforymau ar gyfer trafodaeth er mwyn datblygiad personol ein myfyrwyr. Adroddiad Effaith Blynyddol 13-14

3


Cyflwyniad Cyflwyniad gan y Llywydd

Cyflwyniad gan y Prif Weithredwr

Cyflwyniad y Llywydd

Cyflwyniad gan y Prif Weithredwr

Roedd 2013/14 yn flwyddyn gyffrous i Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd ac mae’n bleser gen i gyflwyno ein Hadroddiad Effaith Blynyddol i chi. Cawsom rai o’r datblygiadau mwyaf uchelgeisiol o fewn sefydliad yn ddiweddar a, fel y gwelwch yn yr adroddiad hwn, cawsom ganlyniadau gwych. Fel Swyddog ail flwyddyn, roeddwn i’n ddigon lwcus i, nid yn unig bod yn rhan o’r cyfnod hwnnw o newid, ond gallaf adlewyrchu a datblygu ar y canlyniadau wrth i ni symud at 2014/15. Bu gwelliannau corfforol eithafol i’n hadeilad yn ogystal â newidiadau i’n llywodraethiant a chynnydd calonogol yn ein perfformiad ariannol. Roedd Uwch Dîm Rheoli newydd a arweinir gan Brif Weithredwr newydd yn golygu bod Tîm Arweinyddiaeth y mudiad, ynghyd â’r Swyddogion, wedi dechrau’r flwyddyn gyda menter ac uchelgais. Bu eleni hefyd yn nodi diwedd ein strategaeth tair-blynedd a rhoddodd gyfle i ni edrych yn ôl ar y tair blynedd diwethaf ac adolygu ein perfformiad. Bwydodd yr adolygiad hwn i mewn i ddatblygiad ein gweledigaeth strategol newydd, sy’n parhau hyd at 2017. Gallwch ganfod mwy am hyn ar cardiffstudents. com/our-plan. Un o’n hamcanion am y tair blynedd nesaf yw cael ein cydnabod fel mudiad eithriadol ac roedd 2013/14 yn wych o ran gosod y sylfeini i wneud hynny’n bosib. Ni yw pumed Undeb Myfyrwyr gorau’r DU yn ôl yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr, sy’n ein gosod ni’n drydydd yng Nghrw ˆ p Russell ac yn gyntaf yng Nghymru. Llwyddiant gwych i bawb a gymerodd ran! Hoffwn ddiolch a llongyfarch pawb, yn enwedig Tîm Swyddogion 2013/14, am flwyddyn mor llwyddiannus. Gwelwch o’r adroddiad hwn fod buddugoliaethau arwyddocaol i fyfyrwyr ac maen nhw wedi ysbrydoli tîm eleni i fod yn barod i weithredu’n syth. Gobeithio eich bod chi’n mwynhau darllen yr adroddiad hwn ac yn parhau i ddilyn ein datblygiadau wrth i ni symud at y dyfodol. Elliot Howells.

4

Mae’n bleser gen i gyflwyno’r adroddiad hwn ac edrych yn ôl ar yr hyn a oedd yn gorwynt o flwyddyn i Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Cafodd ein blwyddyn ei ffurfio o amgylch datblygiad ein strategaeth ar gyfer 2014 i 2017, wrth greu newid mawr yng ngolwg yr undeb, sut mae’r undeb yn rhyngweithio â myfyrwyr a’r hyn y mae’n ei ddarparu i fyfyrwyr Caerdydd. Fel y gallwch weld o’r adroddiad hwn, mae effaith y newidiadau hyn wedi cyfrannu at ymgysylltiad yr Undeb â mwy o fyfyrwyr nag erioed, gan gyrraedd ein sgôr bodlonrwydd uchaf erioed. Dros y ddwy flynedd diwethaf mae adeilad yr Undeb ar Blas y Parc wedi derbyn buddsoddiad arwyddocaol ac fel canlyniad, mae’n cynnig ystod fwy amrywiol o gyfleusterau a gwasanaethau.

5

Undeb Myfyrwyr sy’r 5ed gorau yn y DU

Y datblygiadau mwyaf diweddar, sef Y Plas, y cwrt bwydydd a gwelliannau cyffredinol i 2il lawr yr adeilad, yw buddsoddiadau cyfalaf mwyaf yr Undeb ers i ni adeiladu adeilad yr Undeb 40 blynedd yn ôl. Serch hynny, rydym yn cydnabod bod gennym fwy o waith i’w wneud, felly dros y flwyddyn nesaf byddwn yn datblygu cynlluniau i wella ein presenoldeb ar gampws Parc y Mynydd Bychan yn sylweddol, gan barhau i wella ein cyfleusterau ar Blas y Parc. I gyfannu cyfleusterau datblygol yr Undeb, credaf fod gennym rai o’r bobl orau oll i reoli ein gwasanaethau ac ymgysylltu â myfyrwyr a bod nhw yw’r prif gyfrannwyr at lwyddiant parhaus yr Undeb. Mae gan staff gyrfaoedd, swyddogion myfyrwyr, staff myfyrwyr a gwirfoddolwyr yr Undeb ymrwymiad cryf at Gaerdydd ac maent yn falch o gael rôl mor fawr ym mywyd y myfyrwyr yn y Brifysgol. Hoffwn i eu llongyfarch am flwyddyn mor anhygoel a’u diolch nhw am eu hymrwymiad parhaus. Diolch am eich diddordeb yn yr Undeb; Gobeithio y byddwch yn mwynhau darllen ein hadroddiad ac yn dysgu ychydig mwy am y myfyrwyr rydym yn gweithio â nhw.

Adroddiad Effaith Blynyddol 13-14

Daniel​ Palmer.


Prif gyraeddiadau

Sicrhau bod pob darlith yn cael ei recordio fel rhan o’r prosiect Learn Plus

Academaidd • Cynnal Sesiwn Cwestiynau gyntaf i’r Is-Ganghellor a oedd yn agored i bob myfyriwr. • Lansio amserlenni ar-lein ar gyfer 6 ysgol academaidd a chaiff hyn ei roi ar waith traws-gampws erbyn Medi 2015. • Sicrhau bod pob darlith yn cael ei recordio fel rhan o’r prosiect Learn Plus. • Lobïo’r Brifysgol i ryddhau amserlenni arholiadau yn gynharach. • Hyfforddi dros 1,000 o gynrychiolwyr academaidd. • Treialu porth lleoliadau yn yr ysgol deintyddiaeth.

Gweithgareddau • Cynnydd mewn ffigurau aelodaeth cymdeithasau o dros 31%. • Hyfforddi dros 2,500 o aelodau pwyllgor. • Cynnal 2 noswaith rwydweithio, 16 o sesiynau hyfforddi, 10 fforwm cymdeithas, cynhadledd arweinyddiaeth, 2 gyngor a noswaith groesawu pwyllgor ar gyfer cymdeithasau. • Prosesau gweinyddol symlach ar gyfer clybiau a chymdeithasau chwaraeon ochr yn ochr â system aelodaeth arlein soffistigedig. • Dod yn ddarparwyr achrededig o wobr Gwirfoddolwyr y Mileniwm fel y gall myfyrwyr gael eu cydnabod ar gyfer eu hamser ar bwyllgor. • Cyflwyno strwythur lefel gwobr a chydnabyddiaeth ar gyfer pob cymdeithas a chlwb chwaraeon.

Sicrhau buddsoddiad o £3.4m ar gyfer ailddatblygu’r ail lawr

• Sicrhau’r cyfanswm uchaf hyd yn hyn o noddiant i’r Urdd. • Trawsnewid Go Global mewn i sioe arddangos sengl sydd yn canolbwyntio yn unig ar ein cymdeithasau diwylliannol ar gyfer cynulleidfa gyflawn. ˆ yl Gyrion Caerdydd • Cyflwyno Gw gyntaf erioed; wythnos arbennig i arddangos cymdeithasau. • Hyfforddi dros 2,500 o aelodau pwyllgor. • Enwyd Gair Rhydd fel ail gyhoeddiad gorau’r DU i fyfyrwyr. • Cyflwyno Rhowch Gynnig Arni, rhaglen newydd o weithgareddau, a sicrhau adnodd staff i’w gynorthwyo.

Lles • Lobïo’r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr i lofnodi’r adduned Amser i Newid. • Sefydlu’r Tîm Cyngor, grw ˆp o wirfoddolwyr i hyrwyddo Cyngor i fyfyrwyr. • Sicrhau Meddyg Teulu ar y campws ar gyfer 2015. • Lobïo’r Brifysgol i ddarparu cymorth y-tu-allan-i-oriau i fyfyrwyr.

Cynrychiolaeth a Rhyddhad • Cymryd drosodd cynhaliaeth a gweinyddiaeth y system Gynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr ac ehangu’r tim Llais Myfyrwyr i’w gefnogi . • Cynyddu ymgeiswyr sy’n fenywod yn ein hetholiadau o 32% yn 2013 i 40% yn 2014.

Llofnodi’r addewid Amser i Newid a pheswadio’r Brifysgol i wneud yr un peth

• Senedd Myfyrwyr cytbwys o ran Rhywedd. • Cyflwyno Swyddog BME. • Hyfforddiant rhyddhad wedi’i drefnu i’r holl staff gyrfaoedd. • Cyflwyno sesiynau i Fenywod yn unig mewn campfeydd ar hyd a lled y campws.

Sefydliad Eang • Sicrhau buddsoddiad o £3.4m ar gyfer ailddatblygu’r ail lawr. • Codi £2,360 i elusen Banc Bwyd Caerdydd drwy ailgylchu eitemau dieisiau myfyrwyr o’u cartrefi. • Llwyddo i ennill yr ail le ar gyfer Tîm Swyddogion UCM y Flwyddyn 2013/14. • Datblygu strategaeth Undeb y Myfyrwyr ar gyfer y tair blynedd nesaf. • Datblygu achos busnes gyda’r Brifysgol ar gyfer Canolfan Bywyd Myfyrwyr. • Codi dros £3,000 ar gyfer RAG Y Mynydd Bychan. • Sicrhau bod ffïoedd penodedig ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol yn cael eu hehangu i gynnwys myfyrwyr Ôlraddedig. • Rhoi pwysau ar y Brifysgol i fod yn gyflogwr Cyflog Byw. • Sicrhau ffïoedd llai ar gyfer ceiswyr lloches. • Lobïo’r Brifysgol i ymddwyn fel gwarantwr ar gyfer myfyrwyr Rhyngwladol ac UE yn ogystal â phobl sy’n gadael gofal.

Adroddiad Effaith Blynyddol 13-14

5


Sut mae ein myfyrwyr yn ein graddio Boddhad myfyrwyr Mewn blynyddoedd diweddar mae nifer o sefydliadau wedi ceisio asesu yn annibynnol boddhad myfyrwyr mewn prifysgolion, gan gynnwys undebau myfyrwyr. Mae’r union eiriad yn y cwestiynau am foddhad yn amrywio gyda phob arolwg, yn ogystal â chanran y myfyrwyr sydd yn ymateb. Rydym yn cydnabod ac yn monitro tair sgôr ar foddhad a fesurir yn annibynnol ar gyfer yr Undeb: Yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr, gan Ipsos-Mori ar ran HEFCE/ HEFCW; Arolwg Profiad Myfyrwyr Times Higher Education, gan gylchgrawn Times Higher Education; a’r Baromedr Myfyrwyr Rhyngwladol, gan i-graduate. Yn 2013-14, arhosom yn bedwerydd yn yr arolwg THE a symud i fyny dau le o fewn y NSS i bumed. Mae cyfranogiad yr Undeb yn yr ISB yn eilflwydd a ni chafodd ei asesu yn 2013-14.

Baromedr Myfyrwyr Rhyngwladol

Arolwg Profiad Myfyrwyr T imes Higher Education

Yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr

2012-13

2014

2014

3ydd yn y DU

7fed yn y byd

6

Adroddiad Effaith Blynyddol 13-14

4ydd yn y DU 2013

4ydd yn y DU

5ed yn y DU

2013

7fed yn y DU

2012

5ed yn y DU 2011

5ed yn y DU

2012

4ydd yn y DU


Ymgysylltiad Cyffredinol 12000

Nifer o fyfyrwyr 2011-2012

10000

2013-2014

8000

6000

4000

2000

0

As Gw Se Si Cy Gw Un Ad Gw Si Cy Me Cy Ur Gy Ll Cy Ym Gw Pl ia as ei op op eo dd ne de we fr fa rr m nr er as nt ir ge nt an dl go lia de y fo r w e b d S T ae t y a r C i ei ae f r n h w d G s r th r ch na dd od ym At da th ith i g y si y t a y h u au dd dd hl ol et io u n Go wr a a B d M t u P e i lw sa h ly ei i so y t M a m c a f a D t yr ny rc yf u d er yr e Gy u h a w E a yr dd tb dy id nh wy Ac s n y d l a wy ol el yg n My Et o u r ad ir My yr NU u ho r ny em ga fy Sg S lia Ae dd n rw ai Ex ili d Fy lo dd yr By au tr fy da Ca ch rw a et e yr an rd h

Cy n

yd

d

Mae’r Undeb yn ceisio mesur ei holl ryngweithio gyda myfyrwyr Caerdydd ac yn cofnodi cyfranogaeth yng ngweithgareddau’r undeb a defnydd o’i wasanaethau. Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i gynnal ein gweithgareddau a’n gwasanaethau’n well gan sicrhau bod cyfranogaeth myfyrwyr yn adlewyrchu amrywiaeth myfyrwyr y Brifysgol. Yn ystod 2013/14 gwelodd yr Undeb gynnydd sylweddol yn nifer y myfyrwyr a oedd yn ymgysylltu â’r Undeb mewn ffyrdd mesuradwy. Roeddem yn ymgysylltu ag o leiaf dau draean o fyfyrwyr Caerdydd y llynedd, a dyma’r tro cyntaf i ni lwyddo gwneud hynny. Rydym wedi gwneud ymgysylltu ag o leiaf 25,000 o fyfyrwyr yn flaenoriaeth o fewn ein strategaeth newydd ac rydym yn gobeithio ymgysylltu gyda dros 20,000 o fyfyrwyr yn ystod 2014/15.

Dau draean o holl Fyfyrwyr Caerdydd… Yn 2013/14 defnyddiodd 18,924 o fyfyrwyr un neu fwy o wasanaethau’r Undeb, o gymharu â 16,616 yn 2012/13, sydd yn cynrychioli cynnydd o 14%. Mae hyn yn gyfanswm o 66% o holl fyfyrwyr Caerdydd. Yn ogystal â hyn, rydym yn cydnabod bod llawer o fyfyrwyr yn ymgysylltu â ni mewn ffyrdd nad ydym yn gallu eu mesur – fel defnyddio cyfleusterau cymdeithasol yr Undeb a phrynu pethau trwy ein siopau, yn y bariau a’r caffis. Mae’n annhebygol y byddwn byth yn mesur ymgysylltu fel hyn, ond rydym bob amser yn ceisio sicrhau bod holl fyfyrwyr Caerdydd yn teimlo eu bod yn ymgysylltu o fewn yr Undeb ac yn fodlon gyda beth rydym yn ei gynnig.

Adroddiad Effaith Blynyddol 13-14

7


Dyfnder yr Ymgysylltiad 8000

Nifer o fyfyrwyr 2012-2013

7000

2013-2014 6000

Cynnydd Dramatig

5000

Yn ogystal â chynyddu’r nifer o fyfyrwyr sydd yn ymgysylltu gyda ni, gwelwyd cynnydd dramatig yn 2013/14 hefyd yng nghyfanswm y nifer o ddefnyddwyr ar hyd ein gwasanaethau i gyd, sydd yn golygu bod llawer mwy o fyfyrwyr yn defnyddio nifer gynyddol o’r gweithgareddau a gwasanaethau rydym yn eu cynnig. Yn 2013/14 cyfanswm yr ymgysylltiadau oedd 47,109, o gymharu â 36,788 yn 2012/13.

4000

3000

2000

1000

0 Un

Da u

gw as a

na

et h

Tr Un De Ch De Na Sa Pu Wy Pe Tr ia ig ith dw w we th m ud g ar gw wa r gw ar gw de gw gw gw dd dd a sa a g a g a sa as eg as sa eg sa wa s g na na an wa na an an na na o sa o et et ae et ae ae s e w et wa h h na t a as th h h th th h n sa et ae an h na th ae et th ha au u

wa sa

Cyfanswm Ymgysylltiad Ers 2011/12 mae’r Undeb wedi cofnodi ystod eang o ymgysylltiadau gan fyfyrwyr, gyda chynnydd yn y nifer o fyfyrwyr sy’n defnyddio ein gweithgareddau a gwasanaethau bob blwyddyn. Ein targed ar gyfer 2013/14 oedd ymgysylltu â thros 17,500 o fyfyrwyr a chyrhaeddwyd hwn yn hawdd, o ganlyniad i gynnydd sylweddol yn y cyfranogiad mewn democratiaeth, cymdeithasau a’n rhaglen adloniant.

15,760 2011/12

8

16,616 2012/13

Adroddiad Effaith Blynyddol 13-14

18,924 2013/14

TARGED A OSODWYD

20,000 2014/15

TARGED A OSODWYD

25,000 2016/17


Boddhad yn erbyn Ymgysylltiad 100

Myfyrwyr sy’n Ymgysylltiedig

Sgôr ACF

80

60

40

20

0

S C e e d C P C e J C P P C w M M O A M S S SO e B nM U RO ed OHC O CS RCH HR P TO e lS OMe nGi enT S y C ARB H AR ART HeM OM H yS lAw nCA iOS P lA USi AT My HS SC iC n i C H l M H X n S i S C P H S S e S i y

Bodlonrwydd v Ymgysylltiad Mae’r Undeb yn edrych yn fanwl iawn ar ei ystadegau ymgysylltiad a boddhad, ac mae’n eu defnyddio i sicrhau bod cyrhaeddiad yr Undeb yn eang ac yn gwbl gynhwysol. Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi dechrau defnyddio’r data hwn i lunio sut rydym yn gweithio a blaenoriaethu ein hadnoddau. Am y tro cyntaf rydym wedi bod â’r gallu i fapio bodlonrwydd myfyrwyr yn yr Undeb yn erbyn y gwir ffigyrau ymgysylltu sydd gennym. Yn y mwyafrif o Ysgolion, mae’n ymddangos i ni fod bodlonrwydd yn uwch na’r ymgysylltu a mwy na thebyg yn adlewyrchu’r her rydym yn ei wynebu o ran gallu sicrhau cyfranogiad ein holl fyfyrwyr yn effeithiol. Caiff pedwar o’r pum grw ˆ p o fyfyrwyr sy’n ymgysylltu lleiaf eu lleoli ar gampws Parc y Mynydd Bychan ac rydym wedi blaenoriaethu’r grwpiau hyn yn ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Adroddiad Effaith Blynyddol 13-14

9


Perfformiad yn erbyn ein nodau sefydliadol

Rhanddeiliaid

Dysgu a thwf

Wedi ei gyflawni 1. I gynhyrchu a lansio strategaeth yn Undeb 2014-17, yn dilyn ymgynghoriad trylwyr gyda myfyrwyr, staff a’r Brifysgol, erbyn 30ain Mehefin 2014

Wedi ei gyflawni 1. I gynyddu ymgysylltiad cyffredinol yr Undeb gydag aelodau unigol i hyd at 17,500 o fyfyrwyr erbyn 31ain Gorffennaf 2014

Wedi ei gyflawni 2. I ddatblygu arolygon boddhad ar gyfer: staff gyrfaoedd, staff sy’n fyfyrwyr, myfyrwyr, gwirfoddolwyr a rhanddeiliaid gweithgareddau myfyrwyr a chyflwyno’r casgliadau amrywiol i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr erbyn 31ain Gorffennaf 2014

Wedi ei gyflawni 2. I gynnal o leiaf 3 diwrnod datblygu staff a chyflwyno a chynhyrchu cyfathrebiadau rheolaidd gan y Prif Weithredwr erbyn 31ain Gorffennaf 2014

Wedi ei gyflawni’n rhannol 3. I fesur boddhad ymysg staff gyrfaoedd ac yna gwella ein perfformiad cyffredinol erbyn 31ain Gorffennaf 2014 Wedi ei gyflawni 4. I gyrraedd o leiaf 85% o foddhad yn sgôr cwestiwn 23 yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2014 (NSS), erbyn 31ain Gorffennaf 2014 Wedi ei gyflawni’n rhannol 5. I gynyddu cyfran ymgysylltu yn etholiadau blynyddol yr Undeb yn arwyddocaol, gyda thystiolaeth o isafswm o fwy na 8,000 o etholwyr yn cymryd rhan, gyda chyfartaledd o 5.5 o ymgeiswyr sabothol ar gyfer pob swydd erbyn 31ain Mawrth 2014

Wedi ei gyflawni 3. I ddatblygu cynllun datblygu Ymddiriedolwyr a goruchwylio recriwtio aelodau ychwanegol o’r Bwrdd, erbyn 31ain Mawrth 2014 Wedi ei gyflawni 4. I gytuno ar gynllun datblygu gyda’r Brifysgol ar gyfer 2il lawr yr adeilad, ar gyfer adeiladu yn 2014, erbyn 31ain Mawrth 2014 Wedi ei gyflawni’n rhannol 5. I sefydlu a chymryd rôl arweinyddol yn natblygiad y prosiect ‘Canolfan Bywyd Myfyrwyr’ gyda’r Brifysgol, erbyn 31ain Hydref 2014

Bob blwyddyn mae Bwrdd Ymddiriedolwyr yr Undeb yn gosod 20 o flaenoriaethau, ar hyd 4 o feysydd. Mae swyddogion etholedig a’r uwch dîm rheoli yn gweithio gyda’i gilydd i geisio cyflawni’r nodau. 10

Adroddiad Effaith Blynyddol 13-14


RHEOLAETH GYLLIDOL Wedi ei gyflawni 1. I osod cyllidebau blynyddol ar gyfer yr Undeb a chyrraedd y safle cyllidebol cyffredinol ar gyfer y ddau gwmni ar gyfer 2013/2014, erbyn 31ain Gorffennaf 2014 Wedi ei gyflawni 2. I gytuno ar gynllun ariannol hirdymor ar gyfer yr Undeb a chyflawni targed y gronfa arian wrth gefn gyffredinol ar gyfer 2013/14, erbyn 31ain Gorffennaf 2014 Heb ei gyflawni 3. I ddatblygu dull cyfrifyddu canolfan gostau i adrannau amrywiol y Brifysgol o fewn yr Undeb a chyflwyno’r casgliadau i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr, erbyn 31ain Ionawr 2014 Wedi ei gyflawni 4. I ddatblygu mynediad 2il lawr yr adeilad a thalu am y datblygiad hwnnw drwy elw masnachol ychwanegol a gyflawnir o’r lle hwnnw, erbyn 31ain Gorffennaf 2014 Wedi ei gyflawni 5. I sicrhau y caiff 3ydd a 4ydd llawr y prosiectau cyfalaf eu cwblhau mewn pryd ac o fewn y cyllid, erbyn 31ain Hydref 2013

SYSTEMAU, POLISÏAU A GWEITHDREFNAU Wedi ei gyflawni 1. I ddatblygu cynllun rheoli a strwythur uwch dîm rheoli i gefnogi blaenoriaethau strategol yr Undeb, erbyn 31ain Mawrth 2014 Heb ei gyflawni 2. I ddatblygu system werthuso fodern gyda chysylltiadau i gardiau sgôr cytbwys unigol ar gyfer pob aelod o staff erbyn 31ain Rhagfyr 2013 Wedi ei gyflawni 3. I sefydlu cynllun gwerthuso swydd newydd a gwerthuso pob rôl swydd erbyn 31ain Gorffennaf 2014 Wedi ei gyflawni 4. I oruchwylio adolygiad cyflawn o drefniadau ariannol a llywodraethu’r Undeb, gan gynnwys adolygiad o strwythur y cwmni a llif gwybodaeth, erbyn 31ain Ionawr 2014 Wedi ei gyflawni 5. I ddatblygu strategaeth gwasanaeth cwsmeriaid, gan gynnwys safonau gwasanaeth, cyflwyno hunaniaeth gorfforaethol ar gyfer staff a mesur o ansawdd gwasanaeth erbyn 31ain Rhagfyr 2013

Cy f f redinol

Wedi’u cyflawni: 15 Wedi’u cyflawni’n rhannol: 3 Heb eu cyflawni: 2 Adroddiad Effaith Blynyddol 13-14

11


Will

3edd f lw y ddyn

Mathemateg Mae Will Mcloughlin wedi bod yn Gynrychiolydd Academaidd Myfyrwyr ers 3 blynedd. Teimlaf fy mod mewn mwy o gysylltiad ag aelodau staff a’r cyfleoedd sydd ar gael yng Nghaerdydd trwy fod yn gynrychiolydd Academaidd myfyriwr. Rwyf hefyd wedi cyfarfod â llawer o gymeriadau diddorol na fuaswn wedi cwrdd â nhw fel arall.Mae fy nghyfraniad at faterion addysgol wedi rhoi syniad i mi ynglyˆ n â sut y gallaf wella materion academaidd. Rwyf eisiau gyrfa mewn addysg felly mae’r profiad yn wych!

12

Adroddiad Effaith Blynyddol 13-14


Llais Myfyrwyr Mae hanes hir a balch gan yr Undeb o gynrychioli myfyrwyr Caerdydd a ffurfio profiad dysgwyr ym Mhrifysgol Caerdydd. Bob blwyddyn caiff arweinyddiaeth myfyrwyr yr Undeb ei hethol gan fyfyrwyr, gyda chynrychiolwyr Coleg ac Ysgol yn cael eu hethol gan fyfyrwyr o’r llefydd hynny.

Cynrychiolaeth Mae Cynrychiolwyr Myfyrwyr Academaidd yn chwarae rôl hanfodol yn y bartneriaeth rhwng Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd. Mae’r Cynrychiolwyr yn ymddwyn fel cyswllt rhwng aelodau o staff a’u cydfyfyrwyr er mwyn sicrhau y caiff llais myfyrwyr ei glywed a’i gymryd yn ddifrifol ar bob lefel. Mae cynrychiolwyr hefyd yn mynychu paneli Staff-Myfyrwyr o fewn eu hysgolion.

Wythnos Siarad Ym mis Chwefror 2014 trefnwyd Wythnos Siarad gennym, ar y cyd â’r Brifysgol; wythnos a oedd yn cynnig cyfle i fyfyrwyr roi adborth ar eu profiad yn y Brifysgol trwy arolygon ar-lein, pwyntiau adborth ar y campws a wal syniadau yn Undeb y Myfyrwyr. Roedd yr Wythnos Siarad hefyd yn cynnal cynhadledd flynyddol Cynrychiolwyr Myfyrwyr Academaidd yn Undeb y Myfyrwyr.

Yn 2013/14, cafodd 500 o fyfyrwyr eu hyfforddi fel Cynrychiolwyr o gymharu â 200 y flwyddyn gynt. Darparwyd yr hyfforddiant trwy 35 o sesiynau hyfforddi unigol ar hyd ysgolion ac Undeb y Myfyrwyr.

Nifer y Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr

2011-12

963

2012-13

971

2013-14

983

Adroddiad Effaith Blynyddol 13-14

13


Cyngor Myfyrwyr Materion Academaidd

Student Advice Cyngor i Fyfyrwyr Mae’r Undeb yn cynnal canolfan gyngor a chynrychiolaeth benodedig ar 3ydd llawr adeilad yr Undeb ac o Hwb y Mynydd Bychan ar gampws y Mynydd Bychan. Bydd ein tîm o Gynghorwyr Myfyrwyr naill ai’n rhoi cymorth i fyfyrwyr yn uniongyrchol neu yn eu cyfeirio at gymorth arbenigol. Yn ystod 2013/14 ailfrandiwyd y Ganolfan Gyngor a Chynrychiolaeth (ARC) fel Cyngor Myfyrwyr a chafwyd blwyddyn arall gyda llawer mwy o fyfyrwyr yn chwilio am gymorth. Chwiliodd cyfanswm o 1,984 o fyfyrwyr unigol am gymorth o gymharu â 1,739 yn 2012/13. Mae staff Cyngor Myfyrwyr yn cynghori myfyrwyr ar amrywiaeth o faterion gan gynnwys materion academaidd, materion defnyddwyr, llety, cyflogaeth, cyllid ac arian myfyrwyr, a rhai personol.

Myfyrwyr fu’n canfod cymorth

1,984 in 2013/14 1,739 in 2012/13

14

Materion Academaidd

856

Adroddiad Effaith Blynyddol 13-14

Ymdriniodd ymgynghorwyr â 2545 o ymholiadau/achosion newydd, cynnydd sylweddol o 14% o’r flwyddyn flaenorol. Yn ystod y flwyddyn, mae’r Ganolfan Gyngor a Chynrychiolaeth wedi ceisio adeiladu eu hymgysylltiad â’r myfyrwyr sydd ar gampws Parc y Mynydd Bychan, a arweiniodd at 258 ymoliad mae’r ganolfan gyngor yn delio a hwy. Materion academaidd yw cyfran sylweddol o’r achosion. Ym Mehefin / Gorffennaf 2014, cysylltodd 166 o fyfyrwyr â’r GGCh ynglyˆ n ag apêl academaidd. Gall problemau academaidd eriall gynnwys materion cymhleth yn ymwneud â chymhwysedd i ymarfer - gallai canlyniad y rhain gael effaith ddwys ar yrfa’r myfyriwr yn y dyfodol.

LLETY Mae materion tai, gan gynnwys blaendal a dadfeiliad, yn ffurfio cyfran uchel o’r achosion yr ymdrinnir â hwy (1159 ymholiad yn 2013-14). Mae llawer o fyfyrwyr hefyd yn defnyddio’r rhestrau canfod tai i gael hyd i lety.

SGWAD CYNGHORI Yn ystod Hydref 2013, recriwtiwyd grw ˆ p o wirfoddolwyr dan yr enw “Sgwad Cynghori” i gynorthwyo gyda gweithgareddau nad ydynt yn ymwneud â chyngor, ac i ymgysylltu â myfyrwyr drwy gynnal digwyddiadau megis Meddyg Arian, Wythnos Genedlaethol Arian Myfyrwyr, Wythnos Holi ac Wythnos Gyngor Tai.

Apêl Academaidd

251

Materion Tai

1064


Sally 4edd f lw y ddyn

Mathemateg, Ymchwil Gweithredol ac Ystadegau gyda Lleoliad Gwaith Proffesiynol Mae Sally Sam wedi defnyddio Cyngor i Fyfyrwyr ddwywaith a buasai’n gwneud hynny eto. Heb y GGCh, ‘dydw i ddim yn sicr ble y buaswn i wedi bod yn byw ar fy ail flwyddyn! Helpodd y GGCh fi i ganfod cyd-fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd oedd yn chwilio am gyd-letywyr mewn ffordd ddiogel a dibynadwy. Roeddynt hefyd yn fodlon gwirio fy nghytundeb ar ôl i ni gael hyd i le i fyw ynddo, gwasanaeth gwych arall maent yn ei gynnig, y bu i mi fanteisio arno..

Adroddiad Effaith Blynyddol 13-14

15


Chwaraeon Saf le

18

2005/06

17

16

15

2006/07

2007/08

2008/09

2009/10

Mae’r Undeb yn hwyluso cynhaliaeth 64 o glybiau chwaraeon a chymdeithasau. Caiff y grwpiau hyn eu goruchwylio gan yr Undeb, ond mae gwirfoddolwyr myfyrwyr o’r grwpiau myfyrwyr yn gwneud llawer o’r gwaith trefnu. Mae’r gwirfoddolwyr hyn yn aelodau etholedig o’r grwpiau hyn bob blwyddyn. Yn 2013/14 gwelodd yr Undeb gynnydd o 5% yn aelodau clybiau’r Undeb Athletaidd. Arweiniodd hyn at 88 o dîmau’n cynrychioli’r Brifysgol mewn cystadlaethau chwaraeon gyda dros 800 o fyfyrwyr yn cymryd rhan. Yn anffodus, yn 2013/14 syrthiodd yr Undeb allan o 20 gorau’r DU yn ôl Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS) am y tro cyntaf mewn hanes diweddar. Mae’r Undeb Athletaidd wedi gwneud adennill lle yn y 20 gorau yn flaenoriaeth am 2014/15 ac ennill lle yn y 10 gorau erbyn 2017. Mae’r Undeb yn cynnig ystod eang iawn o chwaraeon felly mae’n anodd i bob strwythur cystadleuaeth cael ei ddarparu gan BUCS. Mae llawer o’n timoedd yn cystadlu ac yn rhagori mewn gwahanol gynghreiriau, gyda Tae Kwon Do yn bencampwyr Prydain a Dancesport wedi’i rhestri’n pedwerydd yn y DU.

16

12

16

Adroddiad Effaith Blynyddol 13-14

2010/11

17

19

22

2011/12

2012/13

2013/14

88 o dimoedd

5%

Cynnydd o 5% mewn aelodaeth


Anni

4y dd f lw y ddyn

Deintyddiaeth Chwaraeodd Anni Seaborne lacrosse gydol ei hamser yn yr ysgol ac roedd yn awyddus i ddal ati yn y Brifysgol. Cyd mynd i’r Brifysgol, fe chwaraeais lacrosse am 7 mlynedd yn yr ysgol. Hon fydd fy mhedwaredd flwyddyn o fod yn rhan o’r clwb lacrosse yn y Brifysgol. Yn fy ail flwyddyn, fi oedd capten Tîm Cyntaf y Merched, yn fy nhrydedd flwyddyn, fi oedd yr Is-Lywydd a nawr rwyf yn Llywydd y clwb. Mae wedi rhoi strwythur i fy nyddiau ac mae’n rhywbeth i mi weithio drosto ac i edrych ymlaen ato tu allan i fy ngradd.

Adroddiad Effaith Blynyddol 13-14

17


Cymdeithasau Mae Urdd y Cymdeithasau’n gasgliad amrywiol o grwpiau sydd wedi eu torri i lawr yn eang i grwpiau gwleidyddol, adloniant, diwylliannol a rhai sy’n seiliedig ar gyrsiau. Os hoffech chi weld dadansoddiad cyflawn o gymdeithasau’r Undeb yna gweler www.cardiffstudents.com/societies.

31%

Cynnydd o 31% mewn aelodaeth cymdeithasau

Yn ystod 2013/14 cynyddodd aelodaeth o’r cymdeithasau yn ddramatig i uchafswm erioed o 7,712 o fyfyrwyr – cynnydd o 31% ar 2012/13. Mae aelodaeth cymdeithasau wedi tyfu’n sylweddol dros y blynyddoedd diweddar, gyda mwy na chwarter o fyfyrwyr Caerdydd yn dod yn aelod o un grw ˆp o leiaf.

Gwobr Gw irf oddolw y r y

Mileniw m Darparw y r a Achredir

Roedd 2013-14 yn flwyddyn weithgar i’r Urdd; Hyfforddon nhw dros 2,500 aelod pwyllgor yn ogystal â chynnal 2 noson rhwydweithio, 10 fforwm Cymdeithasau, cynhadledd arweinyddiaeth. Hefyd, cafodd waith ei wneud i symleiddio’r prosesau gweinyddiaeth i glybiau a Chymdeithasau chwaraeon ochr yn ochr â system aelodaeth ar-lein soffistigedig. Yn ystod y flwyddyn academaidd 2013-14, gwnaeth yr Undeb Myfyrwyr dod yn ddarparwr awdurdodedig o’r wobr Gwirfoddolwyr y Mileniwm, fel bod myfyrwyr yn gallu derbyn cydnabyddiaeth o’u hamser ar bwyllgor sy’n adio gwerth ychwanegol i gymryd rhan mewn grwpiau myfyrwyr. Gwnaeth yr Urdd a’r Undeb Athletaidd ymuno i gyflwyno strwythur haenog cydnabod a gwobrwyo ar gyfer yr holl gymdeithasau a chlybiau chwaraeon.

7,712

o aelodau

18

Adroddiad Effaith Blynyddol 13-14


Title

Jumana 4edd f lw y ddyn

Fferylliaeth Sefydlodd Jumana Nabulsi y Gymdeithas Arabaidd yn ei blwyddyn gyntaf. Ni fyddai fy mywyd fel myfyriwr yng Nghaerdydd wedi bod yr un fath pe na fyddwn wedi ymgysylltu â chymdeithasau. Mae’r profiad wedi fy ngwneud i’n gymeriad mwy cyflawn, yn ogystal â fy ngalluogi i gyfoethogi fy mywyd fel myfyriwr yng Nghaerdydd. Yr agwedd fwyaf gwerthfawr o’r ymgysylltiad yma oedd cyfarfod â’r holl bobl wych y bu i mi eu cwrdd ar y daith, a theimlaf yn ffodus i ystyried llawer ohonynt i fod yn ffrindiau i mi erbyn hyn.

Adroddiad Effaith Blynyddol 13-14

19


Cyfryngau Myfyrwyr Mae’r Undeb yn cefnogi amrywiaeth o fathau o gyfryngau a arweinir gan fyfyrwyr: Gair Rhydd; Quench; Xpress Radio; a CUTV. Caiff y grwpiau cyfryngau hyn eu cynnal fel cymdeithasau ac maent yn cynhyrchu cynnwys cyfryngau ar gyfer holl fyfyrwyr Caerdydd. Dros y ddwy flynedd diwethaf, rydym wedi bod yn datblygu ffyrdd mwy effeithiol o fesur ymgysylltiad mewn Cyfryngau Myfyrwyr. Yn hytrach na mesur y rheiny sy’n ‘cofrestru’ ar gyfer grwpiau Cyfryngau Myfyrwyr mewn Ffeiriau’r Glas, rydym wedi dechrau mesur y rheiny sy’n cymryd rhan fel cyfrannwyr at gynnwys cyfryngau neu’r rheiny sydd mewn rolau cynorthwyol. Yn ystod 2013/14, cyfrannodd 416 o fyfyrwyr at Gyfryngau Myfyrwyr ac er ein bod ni’n hyderus yr oedd y grwpiau cyfryngau yn ymgysylltu â mwy o fyfyrwyr, nid yw’n gymhariaeth debyg am debyg â’r 126 a gyfrannodd yn 2012/13. Cafodd Gair Rhydd glod uchel yng nghategori ‘Cyhoeddiad Gorau gan Fyfyriwr’ yng Ngwobrau Cymdeithas Gyhoeddiadau Myfyrwyr fis Mai 2014, sy’n golygu mai hwnnw oedd yr ail gyhoeddiad gorau gan fyfyrwyr yn y DU. Yn ogystal â hynny, derbyniodd golygydd Quench, Michael O’Connell Davidson, wobr clod uchel yng nghategori ‘Erthygl Nodwedd Orau’ am ei erthygl ar iechyd meddwl, o’r enw ‘The Elephant in The Room’.

2il

Cyhoeddiad myfyrwyr sy’r 2il orau yn y DU

Gwobrau Cymdeithas Cyhoeddiadau Myfyrwyr Mai 2014

20

Adroddiad Effaith Blynyddol 13-14


Olivier

Title

3edd f lw y ddyn

Astudiaethau Crefyddol a Diwinyddol gyda Newyddiaduraeth

Mae Olivier van den Bent-Kelly yn gyfrannwr rheolaidd at Gair Rhydd. Dechreuais fel cyfrannwr rheolaidd i’r adran Barn a Gwyddoniaeth, cyn cael cynnig rôl Golygydd yr adran Barn tua chanol Ionawr llynedd, er mawr syndod i mi. Mae cyfranogi yng nghyfryngau’r myfyrwyr wedi fy ngalluogi i wella fy ochr greadigol mewn print; mae hyn wedi caniatáu i mi wneud rhywbeth gwahanol. Mae cymryd rhan mewn Cyfryngau Myfyrwyr yn un o’r penderfyniadau gorau i mi ei wneud yn ystod fy nghyfnod yng Nghaerdydd.

Adroddiad Effaith Blynyddol 13-14

21


Democratiaeth ac Etholiadau

6,786

Rhoddir cyfle i holl fyfyrwyr Caerdydd gymryd rhan yn nemocratiaeth yr Undeb a dylanwadu ar gyfeiriad a pholisi’r mudiad. Gwneir hynny mewn sawl ffordd, ond mae’n cynnwys ethol yr Ymddiriedolwyr Sabothol ym mis Mawrth bob blwyddyn a thrwy gyfranogiad mewn cyrff sy’n creu polisïau, megis Cyfarfod Blynyddol yr Aelodaeth a Senedd y Myfyrwyr. Ein hetholiadau ym mis Mawrth 2014 oedd y mwyaf erioed a gynhelid yng Nghaerdydd, gyda 6,786 o fyfyrwyr yn pleidleisio dros 90 o ymgeiswyr, sef record arall. Rydym wedi blaenoriaethu cynnydd arwyddocaol yn nemocratiaeth yr Undeb o fewn cynllun strategol yr Undeb, a’r bwriad yw cael 10,000 o fyfyrwyr i gymryd rhan yn ein hetholiadau erbyn 2017.

o fyfyrwyr yn pleidleisio

90

Senedd y Myfyrwyr Yn ei flwyddyn gyntaf, cadarnhaodd Senedd y Myfyrwyr ymrwymiad Undeb y Myfyrwyr i fynd i’r afael â stigma iechyd meddwl drwy ymuno â chynllun gweithredu Amser i Newid ar y cyd â’r Brifysgol. Hefyd ymunwyd ag ymgyrch Mynediad Cyfartal i sicrhau bod gan geiswyr lloches yr hawl i Addysg Uwch yn y DU ar yr un telerau â myfyrwyr cartref. Yn ogystal â hyn, gwnaed penderfyniad i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhywedd drwy fabwysiadu cynnig cydbwyso rhywedd.

8000 7000

o ymgeiswyr

100

Crynodeb o Enwebiadau a’r Nifer a Bleidleisiodd

90 80

6000

70 60 50

4000

40

3000

30

2000

20

1000 0

10 2007

2008

2009 Pleidleisiau

22

Adroddiad Effaith Blynyddol 13-14

2010

2011

Ymgeiswyr

2012

2013

2014

0

Ymgeiswyr

Pleidleisiau

5000


Faraz Title 2014-15

Swyddog Etholedig Danial Faraz Alauddin yw IsLywydd Lles Undeb Myfyrwyr Caerdydd. Ennill y bleidlais, gan fyfyrwyr ar draws y campws, fel eu cynrychiolydd a’u llais ar gyfer newid? Un o’r pethau gorau sydd wedi digwydd yn fy mywyd!

Adroddiad Effaith Blynyddol 13-14

23


Datblygiad Myfyrwyr Yr Undeb hwn oedd un o’r cyntaf yn y DU i ddatblygu rhaglenni datblygiad myfyrwyr i wella sgiliau a chyflogadwyedd myfyrwyr. Mewn cydnabyddiaeth i bwysigrwydd cynyddol y gwaith hwn a’r angen i ymestyn cyfleoedd i fwy o fyfyrwyr, unodd yr Undeb â’r Brifysgol i ddatblygu gofod newydd yn arbennig ar gyfer Datblygiad Myfyrwyr o fewn i’r Ganolfan er Sgiliau, Menter a Gwirfoddoli sydd newydd gael ei chreu ym Medi 2012 yn adeilad yr Undeb.

Agorwyd y ganolfan newydd gan yr Is-Ganghellor, ac mae bellach yn cynnig lle ardderchog ar gyfer cyflwyno rhaglenni sgiliau’r Undeb mewn meysydd megis arweinyddiaeth, effeithiolrwydd personol a chyfathrebu. Gall myfyrwyr ennill tystysgrifau mewn datblygiad proffesiynol drwy gwblhau pum uned yn y cyrsiau hyn. Yn ystod 2013-14 cafodd 134 o fyfyrwyr lwyddiant mewn Cyfathrebu, 155 mewn Effeithiolrwydd Personol a 197 mewn Arweinyddiaeth. Cyfrannodd cyfanaswn o 1797 myfyriwr unigol mewn sesiynau datblygu sgiliau, cynnydd enfawr o 39% i gymharu â’r flwyddyn gynt. Gwnaed cyfanswm o 6,411 o gontractau o ganlyniad i ail bresenoldeb a gweithio’n glos gydag ysgolion unigol.

1,797

Cyfranogodd 1,797 o fyfyrwyr

39% Cynnydd o 39%

6,411

Gwnaed 6,411 o gysylltiadau

24

Adroddiad Effaith Blynyddol 13-14


TitleEllie

2ail F lw y ddyn

2014

Ffrangeg ac Athroniaeth Gwnaeth Ellie Davies ychydig o sesiynau gyda’r GDS yn ei blwyddyn gyntaf a nawr mae’n dysgu’r sesiynau. Mae myfyrwyr wrth eu bodd â rhywbeth am ddim, ac nid yw’r rhan fwyaf ohonynt yn sylweddoli fod y GDS yn wasanaeth di-dâl. Mae cynifer o fyfyrwyr ar eu 3ydd blwyddyn yn dod i’r sesiynau ac yn dweud cymaint yr hoffent fod wedi cael gwybod amdano ynghynt yn eu

hastudiaethau, ac mae llawer o lasfyfyrwyr yn ei anwybyddu gan nad ydynt yn credu ei fod yn berthnasol iddyn nhw. Buaswn yn dweud, po gynted y byddwch yn sylweddoli pa mor werthfawr yw’r gwasanaeth, mwyaf yn y byd allwch chi ei gael allan ohono. Mae dechrau yn eich blwyddyn gyntaf yn ei gwneud yn hawdd i chi gwblhau pob un o’r 3 thystysgrif, ac wedyn gellir defnyddio’r rhain wrth ymgeisio am swyddi graddedigion.

Adroddiad Effaith Blynyddol 13-14

25


Gwirfoddoli a Menter Myfyrwyr Mae’r Undeb yn cefnogi rhaglen sylweddol o wirfoddoli cymunedol yng Nghaerdydd a’r gymuned ehangach yn Ne Cymru drwy Wirfoddoli Myfyrwyr Caerdydd (GMC). Mae GMC yn elusen annibynnol a sefydlwyd, ac sy’n cael ei rhedeg, gan fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd; caiff ei chyllido gan yr Undeb. Mae GMC wedi ei lleoli yn y Ganolfan er Sgiliau, Menter a Gwirfoddoli ar ail lawr adeilad yr Undeb.

Yr hyn a gyflawnwyd o fewn y Gymuned: • Addysg: Mae GMC wedi gweithredu mewn 10 ysgol gynradd leol, 7 ysgol uwchradd ac wedi rhedeg 3 chlwb ar-ôl-ysgol. • Iechyd meddwl: Mae GMC wedi gweithredu ar 13 ward mewn 2 ysbyty iechyd meddwl yng Nghaerdydd; mae GMC hefyd wedi cynnig cyfleoedd gwirfoddoli mewn 2 uned ailgymhwyso. • Mudiadau Partner: Mae GMC wedi parhau i weithio mewn partneriaeth drwy gefnogi recriwtio ar gyfer mudiadau lleol a chenedlaethol gan gynnwys Headway, Bullies Out, Hybu, Age Concern, NHS, Communities First a Heddlu De Cymru.

Prosiectau Newydd:

Menter Prifysgol Caerdydd Mae Menter Prifysgol Caerdydd, rhan o yrfeydd a chyflogadwyedd, yn un o’r gwasanaethau a reolir gan y Brifysgol sy’n gweithio’r glòs gyda’r Undeb i gynnig cyfleoedd a chefnogaeth ardderchog i fenter myfyrwyr. Yn ystod y flwyddyn, bu 655 o fyfyrwyr yn cymryd rhan yng ngweithgareddau allgyrsiol Menter Prifysgol Caerdydd, gwelliant ar 602 llynedd. Mae Menter Prifysgol Caerdydd wedi’i arianni’n rhannol trwy’r Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid Llywodraeth Cymru. Yn ystod y flwyddyn, gwnaeth Menter Prifysgol Caerdydd cofnodi presenoldeb o 1450 myfyriwr mewn digwyddiadau allgyrsiol. Mae’r digwyddiadau yma yn gyfle i fyfyrwyr i ddatblygu sgiliau menter ymarferol. Hefyd, cafodd 106 myfyriwr eu cefnogi i ddatblygu eu syniadau busnes trwy arweiniad 1-2-1, hawl i gronfeydd profi cysyniad, hawl i ddefnyddio gofod swyddfa am ddim a chysylltiadau i gynghorwyr busnes allanol. Cafodd myfyrwyr a graddedigion, a oedd yn llwyddiannus yn y gystadleuaeth Spark Ideas, eu gwobrwyo â gwobr gronfa o £10,000. O fewn y cwricwlwm, gwnaeth dros 850 myfyriwr datblygu sgiliau menter trwy fodiwlau achrededig mewn 10 ysgol academaidd gyda datblygiad yn cael ei gefnogi gan y tîm menter.

Llynedd, dechreuodd GMC y prosiectau newydd canlynol: • Prosiect Dyfodol Hyderus: Mewn partneriaeth â’r Tîm Ehangu Mynediad, prosiect sy’n cefnogi pobl ifanc sy’n byw mewn gofal i ddatblygu sgiliau, hyder ac uchelgeisiau ynglyˆn ag Addysg Uwch. • Fab 5 Partner Planners a Make & Bake: Mae’r ddau yn glybiau sy’n trefnu digwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer pobl hyˆn. • Innovate Trust: Yn gweithio â’n sefydliad partner, mae gwirfoddolwyr yn gweithio ag oedolion ag anawsterau dysgu, corfforol a/ neu anableddau iechyd meddwl sy’n byw mewn tai â chymorth. • Dydd Gwener LOL: Clwb sy’n darparu pobl â Syndrom Down â’r cyfle i adeiladu sgiliau cymdeithasol a bywyd.. Mae mwy o wybodaeth ynglyˆn â GMC i’w weld ar eu gwefan: www.svcardiff.org

26

Adroddiad Effaith Blynyddol 13-14

655 Cyfranogodd

o fyfyrwyr ym Menter Prifysgol Caerdydd


Title

Ross

2ail f lw y ddyn

Cyfrifeg Dechreuodd ymgysylltiad Ross Piner â’r Tîm Menter yn ystod ei flwyddyn gyntaf. Dwi wedi bod yn mynychu gweithdai, digwyddiadau siaradwyr gwadd a darlithoedd a gynhelir gan Menter Caerdydd ers dechrau fy mlwyddyn gyntaf yn y Brifysgol. Dwi wedi bod yn llysgennad ers dechrau’r flwyddyn academaidd. Roedd mynychu’r gweithdai a digwyddiadau llynedd wedi helpu amrywio’r hyn dwi wedi ei ddysgu ym Mhrifysgol Caerdydd.

Adroddiad Effaith Blynyddol 13-14

27


Title

Sindy 4edd f lw y ddyn

Geneteg Dyma ail flwyddyn Sindy Reyats yn gweithio i’n tîm bariau ac arlwyo. Rwyf wedi cyfarfod rhai o fy ffrindiau gorau yn fan yma, wedi ennill cymaint o hyder a sylweddoli mor bwysig yw datblygu sgiliau sy’n angenrheidiol ar gyfer cyflogadwyedd yn ogystal ag astudio ar gyfer gradd. Rydych yn ennill y fath amrywiaeth o brofiadau; un diwrnod byddwch yn gweini bwyd yn y Taf, a’r nesaf gallwch fod yng ngofal y swyddfa docynnau ac yn casglu tocynnau mewn gig uchel ei phroffil! Y rhan fwyaf o’r amser, nid yw hyd yn oed y teimlo fel swydd, gan fod pawb mor gyfeillgar, ac rydych yn treulio’r rhan fwyaf o’ch amser yma!

28

Adroddiad Effaith Blynyddol 13-14


Lleoliadau Adloniant

CF10

Mae’r Undeb yn cydnabod ei rôl arwyddocaol o ran creu cyfleoedd ar gyfer hwyl a chyfeillgarwch i fyfyrwyr Caerdydd, a gwneir hynny drwy fannau penodol o fewn adeilad yr Undeb.

Caffi traddodiadol yw CF10 sy’n cynnig dewis o frecwast a chinio fforddiadwy gydol y flwyddyn. Wedi ei leoli ar y llawr cyntaf - gyferbyn â’r Neuadd Fawr - caiff CF10 hefyd ei ddefnyddio fel lleoliad ar gyfer gigs, a gall myfyrwyr drefnu i gael defnyddio’r ardal hon ar fin-nos.

Caffis, Bwyd a Mannau Cymdeithasol

WHSmith

Mae’r Undeb yn cynnig ystod o wasanaethau o fewn adeilad yr Undeb lle gall myfyrwyr fwyta, yfed, astudio ac ymlacio. Yn ogystal â bod yn werthfawr iawn i fyfyrwyr, mae llawer o’r gwasanaethau hyn yn cyfrannu’n ariannol at yr Undeb, fel y gall mwy o arian gael ei gyfeirio tuag at ddarparu gwasanaethau lles, gweithgareddau i fyfyrwyr a datblygu myfyrwyr.

Trosglwyddwyd siop yr Undeb i WHSmiths yn Ebrill 2013, ac mae’n darparu ystod eang o nwyddau a dillad sydd â brand y brifysgol. Mae WHSmiths wedi ei leoli ar y llawr cyntaf, ac mae ar agor drwy’r flwyddyn, 09:30am hyd 16:30pm.

Y Lolfa

Mae’r Undeb yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau poblogaidd wedi nos ar gyfer myfyrwyr Caerdydd. Mae’r Neuadd Fawr, Solus ac ardaloedd cymdeithasol eraill o fewn adeilad yr Undeb yn darparu amgylchedd difyr a diogel ar gyfer gweithgareddau min-nos, sy’n parhau i fod yn boblogaidd ymysg myfyrwyr.

Mae’r Lolfa, a lansiwyd yn 2011, yn fan astudio a chymdeithasol ar 3ydd llawr yr adeilad. Mae podiau astudio a Skype wedi eu neilltuo, Cegin i fyfyrwyr, ystafell weddïo a theras to, sy’n arbennig o boblogaidd yn ystod cyfnodau arholiad. Ers mis Hydref 2014, mae’r Lolfa ar agor 24 awr y dydd i gwrdd â galw myfyrwyr am fannau astudio hyblyg.

Canolfan y Graddedigion Mae’r Undeb yn gweithio mewn partneriaeth â’r Brifysgol i gynnal Canolfan y Graddedigion - man arbennig ar gyfer astudio a dysgu cymdeithasol ar gyfer myfyrwyr ôl-radd. Mae gan Ganolfan y Graddedigion ei chaffi ei hun ac ystod o weithgareddau cymdeithasol ar gyfer myfyrwyr ôl-radd.

Y Taf Y Taf yw tafarn draddodiadol yn adeilad yr Undeb, sy’n cynnig ystod o ddewisiadau o ran bwyd a diod, saith diwrnod yr wythnos, ynghyd â rhaglen o adloniant.

Y Gegin Safle gwerthu bwyd sydd ond ar agor yn ystod y dydd yw’r Gegin, yn darparu amrywiaeth o fwyd poeth ac oer, ynghyd â diodydd am bris fforddiadwy. Caeodd y Gegin yn Ebrill 2014 fel rhan o adnewyddu’r adeilad dros haf 2014, ac yn ei le mae yno bellach gwrt bwydydd gydag amrediad eang o ddewisiadau bwyd a diod gan gynnwys safle coffi wedi ei frandio.

Magic Wrap Wedi ei leoli ar y llawr gwaelod, mae Magic Wrap yn cynnig dewis o fwydydd iachus i fyfyrwyr amser cinio.

Adloniant a cherddoriaeth fyw wedi nos

Yn ystod 2013/14 mynychodd dros 10,000 o fyfyrwyr ein gweithgareddau min-nos, gan ei wneud y gweithgaredd mwyaf poblogaidd rydym yn eu darparu. Ynghyd â hyn, mae rhai o’n digwyddiadau min-nos yn agored i fyfyrwyr o brifysgolion eraill yng Nghaerdydd a’r cyhoedd yn gyffredinol, ond nid ydym yn cipio’r data yma ar gyfer monitro cyfranogiad.

Solus Caewyd Solus, sef prif glwb-nos yr Undeb, yn Ebrill 2014 er mwyn ei adnewyddu a’i ailwampio, gan gynnwys creu lefel mesanîn a tho gwydr. Yn dilyn yr adnewyddiad, ail-enwyd y lle yn ‘Y Plas’ ac mae’n cynnig gweithgareddau rheolaidd wedi nos y ogystal â gigs a digwyddiadau eraill. Caiff hefyd ei ddefnyddio yn ystod y dydd ar gyfer cynadleddau, arddangosfeydd, stondinau marchnad a grwpiau myfyrwyr.

Mynychodd dros

10,000 fyfyrwyr ein gweithgareddau gyda’r nos Adroddiad Effaith Blynyddol 13-14

29


Swyddi ac Arian Siop Swyddi Unistaff ac arian ym mhocedi myfyrwyr Mae’r Undeb yn gweithio mewn partneriaeth â’r Brifysgol mewn rhedeg Siop Swyddi Unistaff - asiantaeth gyflogaeth ar gyfer myfyrwyr Caerdydd, sy’n gosod myfyrwyr mewn gwaith rhan-amser a dros-dro o fewn y Brifysgol a’r gymuned ehangach. Mae Siop Swyddi Unistaff wedi ei lleoli ar lawr gwaelod adeilad yr Undeb, er bod llawer o fyfyrwyr yn cael mynediad i’r gwasanaeth drwy cardiffstudents.com neu’r gronfa-ddata o swyddi a anfonir i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru. Yn 2013/14, bu’r Siop Swyddi’n wasanaeth gwerthfawr i fyfyrwyr Caerdydd, gyda 1,839 o fyfyrwyr yn cael eu gosod mewn gwaith dros-dro neu ran-amser, ychydig yn llai na’r flwyddyn flaenorol.

“Diolch am bopeth mae’r Siop Swyddi wedi ei wneud i mi eleni. Rwyf wedi mwyhau gweithio gyda chi!” Helen, myfyrwraig ENCAP

30

Adroddiad Effaith Blynyddol 13-14

“Mae’r Siop Swyddi’n wasanaeth anhygoel, a byddaf yn parhau i’w hyrwyddo i ddarpar fyfyrwyr a myfyrwyr cyfoes. Rwyf yn gwybod y buasai ffrindiau i mi mewn prifysgolion eraill wedi dymuno cael rhywbeth tebyg yn ystod eu hastudiaethau.” Sarah, myfyrwraig nyrsio


James

3edd f lw y ddyn

Economeg BSc. Ymunodd James Reeves â’r Siop Swyddi yn ei ail flwyddyn. Mae gweithio gyda’r Siop Swyddi wedi helpu i ariannu llawer o brofiadau na fyddent wedi bod yn bosib fel arall. Mae wedi helpu gyda chostau hyfforddiant plymio SCUBA yn ogystal ag ymuno ag amryw o wahanol gymdeithasau yn yr Undeb, ac yn sgil hynny mae wedi caniatáu i mi werthfawrogi’r hyn sydd gan ein prifysgol i’w gynnig. Dyma’r ffordd hawsaf i ennill profiad mewn nifer o wahanol feysydd o waith rhanamser, yn ogystal â datblygu sgiliau y gellir eu trosglwyddo, sef yr union beth mae cyflogwyr graddedigion yn chwilio amdano.

Adroddiad Effaith Blynyddol 13-14

31


Adwerthu Gosod Eiddo MYFYRWYR Mae’r Undeb yn berchen ar ei asiantaeth gosod eiddo ei hun, wedi ei leoli ar lawr gwaelod yr Undeb. Sefydlwyd yr asiantaeth yn 2005, ac mae’n fodel o ymarfer gorau o fewn y sector; roedd hefyd yn un o’r asiantaethau cyntaf yn y DU i gael ei redeg gan Undeb Myfyrwyr. Llwyddodd asiantaeth Gosod Eiddo Myfyrwyr Caerdydd i ganfod cartref i 1,803 o fyfyrwyr llynedd, ac mae’r unig asiantaeth gosod eiddo o bwys yng Nghaerdydd sydd ddim yn codi ffioedd asiantaeth ar denantiaid. Er gwaethaf hyn, mae asiantaeth Gosod Eiddo Myfyrwyr Caerdydd yn dal i wneud elw da, sydd wedyn yn cael ei ail-fuddsoddi yng ngweithgareddau a gwasanaethau eraill yr Undeb.

Cardiff Student Letting OWNED & RUN BY CARDIFF UNIVERSITY STUDENTS' UNION

TEL: (029) 20781525 | www.cardiffstudentletting.com

Myfyrwyr y canfuwyd cartrefi iddynt

1,360 1,499 1,803 2011/12

2012/13

2013/14

Gwelwyd cynnydd o 20% yn y nifer o fyfyrwyr y canfuwyd cartrefi iddynt yn ystod 2013/14

32

Adroddiad Effaith Blynyddol 13-14


Title

Tom

4edd F lw y ddyn

2014

Gradd Meistr mewn Ffiseg Mae Tom Harrison wedi bod yn rhentu gan asiantaeth Gosod Eiddo Myfyrwyr Caerdydd. Buaswn yn argymell yn gryf rhentu drwy asiantaeth Gosod Eiddo Myfyrwyr Caerdydd, gan fod eu gwasanaeth yn dryloyw, yn ymatebol a chyfeillgar. Ymdriniwyd â phob ymholiad yn gyflym, yn effeithlon ac yn llwyr, neu fe’u pasiwyd ymlaen i’r unigolion perthnasol lle’r oedd angen gwneud hynny. Nid yn unig yw’r adeilad wedi ei gadw mewn cyflwr da, ond mae’r cwmni wedi sicrhau bod deialog agored a chyfeillgar yn cael ei chynnal o ran ein profiad â nhw a’r tyˆ.

Adroddiad Effaith Blynyddol 13-14

33


Adwerthu Y Siop TechGwyb

Cutting Edge

Mae’r Undeb yn rhedeg Siop TG o lawr cyntaf adeilad yr Undeb, yn cyflenwi cyfarpar TG yn ogystal â gwasanaeth trwsio cyfrifiaduron a gliniaduron. Yn ogystal â hyn, mae’r siop hefyd yn darparu ar gyfer anghenion offer ‘sgrifennu myfyrwyr.

Mae’r Undeb yn rhedeg salon trin gwallt ar lawr gwaelod adeilad yr Undeb. Mae’n agored i fyfyrwyr, staff a’r gymuned leol, a chaiff holl elw’r salon ei ail-fuddsoddi yng ngweithgareddau a gwasanaethau’r Undeb. Ers iddo agor yn 2010, mae’r salon wedi mynd o nerth i nerth ac mae’n wasanaeth y gosodir cryn werth arno.

Myfyrwyr a ddefnyddiodd y siop ar gyfer trwsio offer

1,338 2011/12

34

Adroddiad Effaith Blynyddol 13-14

1,199 2012/13

1,216 2013/14


Title Claire 3edd f lw y ddyn

Cerddoriaeth (BMus) Mae Claire Wisener wedi bod yn gweithio yn y Siop TG ers blwyddyn. Nid yw bywyd myfyriwr yn rhad, gyda llyfrau ar gyfer eich cwrs a chymdeithasau, mae incwm ychwanegol yn ddefnyddiol iawn. Fel myfyriwr cerddoriaeth, rwy’n gwario llawer o arian ar argraffu , felly mae swydd ran-amser wir yn helpu cynorthwyo hynny. I rywun fel minnau, sydd â rhan fawr yng ngweithgaredd yr undeb, mae rhyngweithio ag ystod eang o fyfyrwyr bob dydd yn wych. Mae’r staff llawn amser yn wych i weithio â nhw, mae’r undeb yn wych i weithio iddo, a chredwch hi neu beidio, dwi wedi dysgu tipyn am DechGwyb ers gweithio yno!

Adroddiad Effaith Blynyddol 13-14

35


Gampws Parc y Mynydd Bychan Yr Undeb ar Gampws Parc y Mynydd Bychan Mae gan yr Undeb bresenoldeb bach ond cynyddol ar gampws Parc y Mynydd Bychan, ac mae’n ymateb i’r galw gan fyfyrwyr drwy gynyddu ei gefnogaeth i weithgareddau myfyrwyr ar y campws a gwella’r cyfleusterau sydd ar gael i fyfyrwyr a grwpiau myfyrwyr. Mae’r Undeb yn gweithredu Hwb y Mynydd Bychan, o fewn i Lolfa IV yn Neuadd Meirionnydd a gall myfyrwyr gael gafael ar y rhan fwyaf o wasanaethau’r Undeb o’r Hwb, gan gynnwys y Siop Swyddi, Gosod Eiddo Myfyrwyr Caerdydd, Cyngor i Fyfyrwyr a’r Gwasanaeth Datblygiad Sgiliau. Mae strategaeth yr Undeb ar gyfer 2014-17 yn gosod pwyslais cryf ar wella profiad myfyrwyr Parc y Mynydd Bychan a gobeithir cynnal ymgynghoriad yn ystod 2014/15 gyda myfyrwyr Parc y Mynydd Bychan. Mae ymgynghoriad wedi cymryd lle sydd wedi arwain at adnewyddiad cynlluniedig o’r lle yn gynnar yn 2015.

Mae strategaeth yr Undeb ar gyfer 2014-17 yn gosod pwyslais cryf ar wella profiad myfyrwyr Parc y Mynydd Bychan

“Fel myfyriwr ar Barc y Mynydd Bychan, mae’n hawdd teimlo eich bod wedi eich ynysu rhag llawer o fywyd myfyrwyr yng Nghaerdydd; dyna pam ei bod mor bwysig i bawb gyfranogi yng ngweithgareddau Undeb y Myfyrwyr.” Matthew, myfyriwr Meddygaeth

36

Adroddiad Effaith Blynyddol 13-14


Matthew 4edd F lw y ddyn

Meddygaeth Mae Matthew Williams wedi ymgysylltu ag Undeb y Myfyrwyr ers ei flwyddyn gyntaf. Rwyf wedi bod yn ymwneud ag Undeb y Myfyrwyr ers fy mlwyddyn gyntaf yng Nghaerdydd, pryd yr ymunais ag ambell gymdeithas, ac ers hynny mae fy nghyfranogiad wedi cynyddu. Rwyf bellach ar bwyllgorau tair cymdeithas a Phwyllgor Gwaith y Cymdeithasau; mae’r ymgysylltiad yma wedi rhoi cyfle i mi gwrdd â phobl ardderchog na fyddwn i fel arall wedi dod i gysylltiad â nhw. Mae bod yn rhan o weithgareddau Undeb y Myfyrwyr yn golygu fy mod i wedi llwyr fwynhau fy amser yn y brifysgol, a buaswn yn bendant yn annog eraill i gyfranogi!

Adroddiad Effaith Blynyddol 13-14

37


Incwm a Gwariant Incwm

2014

2013

Grant Bloc

600,000

600,000

Rhoddion mewn Nwyddau 1,117,001 (cyfran o gostau Gwasanaethau Undeb Caerdydd Cyf. sy’n perthyn i’r Undeb)

1,161,519

Nawdd

2,170 3,951

Hysbysebu yn Gair Rhydd

-

17,182

Incwm o weithgareddau 157,335 elusennol (gan gynnwys incwm ar gyfer chwaraeon cymdeithasau a gweithgareddau myfyrwyr eraill)

124,220

Cyfanswm

1,876,506

1,906,872

2014

2013

Cost cyfryngau myfyrwyr

-

44,485

Cyflogau

669,886

697,555

Sefydliad

27,924

38,610

Costau gweinyddol

83,726

65,867

Cerbydau a theithio

143,456

161,617

Gweithgareddau’r Undeb

670,215

619,392

Treuliau proffesiynol

6,384

4,737

Treuliau cyllidol

336

651

Costau atodol

244,185

272,337

Cyfanswm

1,846,112

1,905,251

Incwm Net /(gwariant)

30,394

1,621

Gwariant

38

Adroddiad Effaith Blynyddol 13-14

Mae’r undeb yn elusen gofrestredig a chwmni a gyfyngir drwy warant. Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd sy’n rhoi cyfrif am weithgareddau elusennau’r Undeb, a chyfrifir am weithgareddau masnachol drwy Wasanaethau Undeb Caerdydd Cyf. Roedd 2013/14 yn flwyddyn sefydlog i’r elusen, heb unrhyw amrywiaethau sylweddol ym mherfformiad yr elusen nag o ran pennu adnoddau i’w amcanion elusennol.

Gellir lawrlwytho copi cyflawn o Ddatganiadau Cyllidol yr Undeb ac Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr o

cardiffstudents.com/about-cusu

n dy d y log w l B fyd ! se rall! a


Perfformiad Masnachol Cyfrif Elw a Cholled ar gyfer y Flywddyn a Ddaeth i Ben 31.07.14

Mantolen 31.07.14

2014

2013

Trosiant

4,361,289

4,659,929

Asedau gosod

Cost gwerthiant

(2,338,340)

(2,598,610)

Elw gross

2,022,949

Treuliau gweinyddol

2014

2013

Asedau gosod diriaethol

213,335

797,834

2,061,319

Buddsoddiadau

71,563 77,023

(3,766,805)

(3,934,376)

284,898 874,857

Incwm gweithredu arall

1,903,000

1,935,192

Asedau Cyfredol

Elw gweithredol

159,144

62,135

Cyfranddaliadau

106,095

122,440

Eitemau eithriadol eraill

(588,141)

(2,386,418)

Dyledwyr

1,005,015

597,694

Llog arall a dderbynnir ac incwm cyffelyb

1,178

501

Arian yn y banc ac wrth law

407,773

147,416

1,518,883 867,550

Llog taladwy a thaliadau cyffelyb

(3,850)

(11,803)

Credydwyr: symiau sydd i’w talu o fewn un flwyddyn

(1,305,643)

(1,243,190)

Colled ar weithgareddau cyffredin cyn treth

(431,669)

(2,335,585)

Dyledion cyfredol net

213,240

(375,640)

Colled ar gyfer y flwyddyn ariannol

(431,669)

(2,335,585)

Asedau net ac eithrio ymrwymiadau pensiwn

498,138

499,217

Asedau net ac eithrio ymrwymiadau pensiwn Ymrwymiadau pensiwn net

(2,709,187)

(2,278,597)

(Dyledion) /asedau net

(2,211,049)

(1,779,380)

(2,211,049)

(1,779,380)

Cronfa rhanddalwyr /(dyledion) (2,211,049)

(1,779,380)

Cyfalaf ac arian wrth gefn Cyfrif elw a cholled Mae Ymddiriedolwyr yr Undeb hefyd yn Gyfarwyddwyr o Wasanaethau Undeb Caerdydd Cyf. sef y cwmni masnachu sy’n darparu’r holl wasanaethau masnachol a gynigir gan yr Undeb, gan gynnwys lleoliadau, adwerthu, arlwyo, hysbysebu a gosod ‘stafelloedd. Yn dilyn blwyddyn heriol yn 2012, mae’r cwmni masnachol unwaith eto wedi gwella ar ei elw gweithredol, gyda chynnydd o bron i £1/2 miliwn dros y ddwy flynedd. Mae elw gweithredol o £159K eleni’n cynrychioli cynnydd o 156% mewn elw o gymharu â 2013, a chrëwyd hyn drwy elw gross mwy cystadleuol a chwymp sylweddol mewn costau gweithredu.

Newid mewn cadw cyfrifon O ganlyniad i newidiadau mewn cadw cyfrifon ar gyfer ymrwymiadau pensiwn lle diffinnir buddion, mae’r cwmni wedi cydnabod ei oblygiadau at y dyfodol i gynllun pensiwn y staff, SUSS, sy’n £2,709,187 (2013: £2,386,418). Mae’n debygol y bydd oblygiadau’r cwmni yn ymestyn hyd 2030 a chaiff effaith ddramatig ar y fantolen hyd hynny.

Gwrthdroad mewn elw gweithredol o

£1.2m yn y ddwy flynedd ddiwethaf

Adroddiad Effaith Blynyddol 13-14

39


Prosiectau Cyfalaf

Adnewyddu’r 2il Lawr

Adeilad newydd ar Blas y Parc

Yn ystod haf 2014 bu’r Undeb yn ymgymryd â’r prosiect cyfalaf mwyaf uchelgeisiol ers y codwyd yr adeilad presennol yn 1974, gan adnewyddu’r holl 2il lawr. Roedd y prosiect yn cynnwys: adnewyddu’r clwb-nos, Solus (a ail-enwyd Y Plas), i gynnwys lefel mesanîn a tho gwydr; trawsnewid y Gegin gan ei throi’n gwrt bwydydd gyda phedwar safle arlwyo cyffrous; ailwampio ac ymestyn y Dderbynfa; ail-addurno a mân welliannau i’r Taf, gan gynnwys toiledau newydd ac ymestyn y gwasanaeth arlwyo; a gosod lifft nwyddau i wasanaethu llawr 1af ac 2il lawr yr adeilad.

Yn ystod 2013/14 dechreuwyd trafodaethau â’r Brifysgol ynglyˆ n â sut i ddatrys y broblem hirdymor o ddiffyg hygyrchedd adeilad yr Undeb o ochr Plas y Parc. Yn ystod y flwyddyn nesaf, byddwn yn datblygu cynllun mewn cydweithrediad â’r Brifysgol i godi adeilad newydd o flaen adeilad presennol yr Undeb, a fydd yn gartref i rai o wasanaethau cymorth i fyfyrwyr y Brifysgol. Bydd hefyd yn creu mynedfa newydd i adeilad yr Undeb ac yn gwella lle i fyfyrwyr ar lefel stryd. Rydym yn rhagweld y bydd y prosiect yn atgyfnerthu safle’r Undeb wrth galon campws Parc Cathays, ac y bydd y cyfleuster newydd, ynghyd ag adeilad presennol yr Undeb, yn ffurfio Canolfan ar gyfer Bywyd Myfyrwyr yn y Brifysgol.

40

Adroddiad Effaith Blynyddol 13-14


Ail-ddatblygu’r llawr gwaelod a’r llawr 1af Yn dilyn prosiectau ail-ddatblygu llwyddiannus ar 4ydd, 3ydd ac 2il lawr o adeilad yr Undeb rhwng 2012 a 2014, ein huchelgais yw cwblhau gweddill yr adeilad drwy adnewyddu’r llawr 1af a’r llawr gwaelod yn ystod gwanwyn a haf 2015. Ein bwriad yw creu mwy o ardaloedd ar gyfer y celfyddydau a pherfformio, ynghyd â chynyddu’r nifer o safleoedd adwerthu sy’n wynebu’r stryd ar y llawr gwaelod. Mae hefyd yn debygol y byddai’r prosiect yn cynnwys gwell mynedfa gefn i’r adeilad, lifft ar gyfer pobl a gwell cysylltedd rhwng y ddau lawr.

Datblygiadau byrdymor a hirdymor ar gampws Parc y Mynydd Bychan Yn ystod 2014/15 ein bwriad yw uwchraddio’r cyfleusterau yn Lolfa IV ar gyfer myfyrwyr a grwpiau myfyrwyr, ynghyd â gweithio gyda’r Brifysgol i wella cyfleusterau arlwyo a chynyddu oriau agor llawr gwaelod Neuadd Meirionnydd. Y gobaith yw y bydd y datblygiadau hyn yn hwyluso ymgysylltiad myfyrwyr ar gampws Parc y Mynydd Bychan yn y tymor byr, wrth i gynlluniau gael eu datblygu i godi adeilad pwrpasol ar gyfer Undeb y Myfyrwyr, i’w gwblhau erbyn 2017 neu 2018.

Adroddiad Effaith Blynyddol 13-14

41


Ein prif dargedau ar gyfer 2014-15 Mae bwrdd ymddiriedolwyr yr Undeb wedi gosod y targedau canlynol fel eu prif 20 blaenoriaeth ar gyfer y flwyddyn:

Rhanddeiliaid

Dysgu a Thwf

Cynnal perthynas gref, gynaliadwy a boddhaol â’n rhanddeiliaid, wrth sicrhau bod yr Undeb yn ymgysylltu’n weithredol â’i randdeiliaid mewn gosod cynlluniau strategol a gweithredol

Parhau i wella’r hyn mae’r Undeb yn ei wneud wrth ddarparu staff, swyddogion a gwirfoddolwyr â’r sgiliau a’r wybodaeth maent eu hangen i wireddu gweledigaeth yr Undeb

1. S icrhau bod strategaeth yr Undeb yn cael ei gweithredu’n effeithiol rhwng 2014 a 2017 - gwelir tystiolaeth o hyn mewn fersiwn ryngweithiol o’r cynllun ar cardiffstudents. com erbyn 30ain Medi 2014, ac mewn adroddiad ar gwblhau’r flwyddyn gyntaf erbyn 31ain Gorffennaf 2015.

1. C ynyddu ymgysylltiad cyffredinol yr Undeb ag aelodau unigol i hyd at 20,000 o fyfyrwyr erbyn 31ain Gorffennaf 2015

2. G weithredu’r newidiadau y cytunwyd arnynt i strwythur corfforaethol yr Undeb - y dystiolaeth am hyn fydd cwblhau pob cam gweithdrefnol a diweddaru pob cytundeb cyllidol a phrydles â phob corff cysylltiedig, gan gynnwys y Brifysgol a GMC, erbyn 31ain Gorffennaf 2015. 3. G wella’r sgôr ar gyfer cwestiwn 23 o’r ACF o 4% ymysg myfyrwyr sy’n astudio ar gampws Parc y Mynydd Bychan, o gymharu â 2014, erbyn 31ain Gorffennaf 2015. 4. G wella’r sgôr cyffredinol ar gyfer boddhad staff gyrfa a staff myfyrwyr erbyn 30ain Mehefin 2015. 5. C ynnal y cynnydd sylweddol mewn lefelau ymgysylltu yn etholiadau blynyddol yr Undeb, gyda thystiolaeth o isafswm o fwy na 8,000 o etholwyr yn cymryd rhan, gyda chyfartaledd o 6.5 o ymgeiswyr ar gyfer pob swydd sabothol erbyn 31ain Mawrth 2015.

42

Adroddiad Effaith Blynyddol 13-14

2. C yflwyno cynllun datblygiad staff a pholisi gwirfoddoli staff, a sicrhau bod gan bob aelod staff gynllun datblygiad personol gweithredol erbyn 28ain Chwefror 2015. 3. S icrhau achrediad Cwmnïau Gorau ac o leiaf statws arian ar gyfer Buddsoddwyr mewn Pobl , erbyn 31ain Gorffennaf 2015. 4. M eincnodi perfformiad yr Undeb mewn ymgysylltiad myfyrwyr a datblygiad y mudiad yn erbyn Undebau Myfyrwyr eraill o fewn grw ˆ p Russell erbyn 30ain Tachwedd 2014. 5. D atblygu rhaglen ddeallusrwydd myfyrwyr blynyddol, taflu goleuni ar ymgysylltiad ac anghenion myfyrwyr yn ôl demograffeg a chwrs er budd staff yr Undeb a’r Brifysgol erbyn 31ain Mawrth 2015.


Rheolaeth Gyllidol Sicrhau sefydlogrwydd ariannol drwy reolaeth gyllidol gadarn, adolygu ymarferion cyfredol a buddsoddi yn adeilad a chyfleusterau’r Undeb 1. G osod cyllidebau blynyddol ar gyfer Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd (UMPC) a Gwasanaethau Undeb Caerdydd Cyf. (GUCC) a chyrraedd y safle cyllidebol cyffredinol ar gyfer y ddau gwmni ar gyfer 2014/2015, erbyn 31ain Gorffennaf 2015. 2. D atblygu dull cyfrifo cost ganolog ar gyfer gwahanol adrannau’r Brifysgol o fewn UMPC a GUCC a chyflwyno’r canfyddiadau i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr, erbyn 31ain Ionawr 2015. 3. S icrhau bod holl brosiectau cyfalaf ar yr 2il lawr, sydd disgwyl iddynt fod ar agor erbyn y Glas 2014, wedi eu cwblhau mewn pryd ac o fewn y gyllideb, a bod pob mândrwsio wedi ei ddatrys erbyn 31ain Hydref 2014 . 4. D atblygu achos busnes dros ail-ddatblygu llawr gwaelod a llawr cyntaf adeilad Undeb y Myfyrwyr a’i gyflwyno i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr erbyn 28ain Chwefror 2015. 5. S icrhau bod set lawn o weithdrefnau cyllidol wedi eu diweddaru’n cael eu cymeradwyo a’u bod mewn lle, a bod i gytundebau sy’n parhau am fwy na blwyddyn ddyddiad adolygu a’u bod yn ddibynnol ar y polisi cytundebau, tendro a phryniant sydd newydd gael ei gyflwyno, erbyn 31ain Rhagfyr 2014.

Systemau, Polisïau a Gweithdrefnau Sicrhau bod systemau polisïau a gweithdrefnau’r Undeb yn ychwanegu gwerth, yn galluogi mwy o ymgysylltiad myfyrwyr, a’u bod yn hawdd i’w deall 1. D atblygu achos busnes a chynllun i gefnogi cadw adeilad Undeb y Myfyrwyr yn agored 24-y-dydd yn ystod y tymor, a’u cyflwyno i’r Ymddiriedolwyr erbyn 31ain Rhagfyr 2014. 2. A dolygu gwasanaethau blaen y tyˆ a diogeled ar gyfer adeilad Undeb y Myfyrwyr i gwrdd ag anghenion y dderbynfa newydd a sicrhau bod y ddarpariaeth newydd yn barod i weithredu erbyn 30ain Medi 2014. 3. C wblhau rhan A a rhan B o gynllun achrediad Undebau Myfyrwyr o Safon UCM, a bod wedi trefnu archwiliad heb fod yn hwyrach na Gorffennaf 2016, erbyn 30ain Mehefin 2015. 4. D atblygu adran Lywodraethiant gynhwysfawr o cardiffstudents.com, gan gynnwys adroddiadau Ymddiriedolwyr, adroddiadau effaith blynyddol a gwybodaeth am Ymddiriedolwyr erbyn 31ain Ionawr 2015. 5. D atblygu fframwaith wedi ei diweddaru ar gyfer cymhwyster rheolwyr a system werthusiad 360 gradd gysylltiedig erbyn 31ain Mawrth 2015.

Adroddiad Effaith Blynyddol 13-14

43


Cyfarwyddwyr Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd a Gwasanaethau’r Undeb Caerdydd Cyf 2013/14 Swyddogion Sabothol sy’n Ymddiriedolwyr Llywydd

Cari Davies

I-L Cymdeithasau ac Ymgyrchoedd

Elliot Howells

I-L Chwaraeon a Llywydd yr UA

Edore Evuarherhe

I-L Addysg

Ollie Wannell

I-L Campws Parc y Mynydd Bychan

Gemma Wheeler

I-L Lles

Helen Dent

Ymddiriedolwyr a Enwebir gan y Brifysgol Gethin Lewis Susan Gwyer-Roberts

Ymddiriedolwyr Allanol Sir Donald Walters Kim Gould MBE Richard Roberts

Staff Uwch Prif Weithredwr

Daniel Palmer

Cyfarwyddwr Cyllid

Alice Courtney-Hatcher

Cyfarwyddwr Gweithredu

Ben Eagle

Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd Plas y Parc Caerdydd CF10 3QN

Cyfarwyddwr Gwasanaethau’r Aelodaeth Steve Wilford

Tel: +44 (0) 29 2078 1400

Cyfarwyddwr Gwasanaethau Masnachol Mark Cheeseman

www.cardiffstudents.com


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.