Eich canllaw ar gyfer bywyd ol-raddedig yng nghaerdydd 2018-19

Page 1

Eich ar canllaw wyd gyfer byig yng d e d d a r l o dd nghaerdy


2 UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD

Cynnwys 3 Croeso oddi wrth yr Is Lywydd Myfyrwyr Ôl-raddedig 4 Eich Undeb Myfyrwyr (Cathays a Pharc y Mynydd Bychan) 5

Eich Swyddogion Etholedig

6

Siopau a Gwasanaethau

8–9 Llais Myfyrwyr: Democratiaeth yn eich Undeb y Myfyrwyr

12–13 Gweithgareddau 14

Swyddi a Sgiliau

15

Gwirfoddoli a Menter

16 Cyngor Myfyrwyr 17 Eich Lles 18–19 Digwyddiadau gwych 20

Map o’r campws

Rydyn ni’n gwybod eich bod chi’n bobl brysur, felly rydyn ni am ei gwneud hi mor syml â phosib i chi gadw’n gyfoes â’r hyn sy’n digwydd o gwmpas y campws. Cylchlythyrau drwy e-bost bob yn ail mis

7 Cymdeithas Myfyrwyr Ôlraddedig Caerdydd

10–11 Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr

Cadwch mewn cysylltiad

Bydd IL y Myfyrwyr Ôl-raddedig, Jake Smith, yn anfon e-bost atoch chi i sôn am yr hyn sy’n digwydd. O ddiweddariadau pwysig, pethau i gymryd rhan ynddynt a newyddion eraill, bydd hwn yn werth ei ddarllen. Bydd ôl-raddedigion a addysgir yn derbyn e-bost bob yn ail fis tra bydd ôl-raddedigion ymchwil yn derbyn e-bost yn fisol. Gwefan Rydyn ni wedi datblygu ardal o’n gwefan ar eich cyfer chi. Ewch i cardiffstudents.com/ postgrad i ganfod mwy. Cyfryngau Cymdeithasol PGradCSU @PostgradCSU

12-13 Gweithgareddau

Digwyddiadau gwych


UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD 3

Croeso i Gaerdydd! Croeso i’r ôl-raddedigion newydd sy’n ymuno â Phrifysgol Caerdydd. I’r rheini sydd wedi astudio ym Mhrifysgol Caerdydd cyn hyn, croeso nôl! Fel myfyriwr ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd rydych yn aelod o Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Mae hyn yn golygu fod gennych fynediad i amrywiaeth gwych o gymdeithasau a chlybiau chwaraeon, gwasanaethau cyngor a chynrychiolaeth i’w defnyddio os oes angen cymorth arnoch tra’n y Brifysgol. Rydych hefyd yn cael eich cynrychioli a’ch cefnogi gan Dîm o Swyddogion Sabothol llawn-amser ac aelodau o staff ymroddedig Undeb y Myfyrwyr. Mae eich undeb yn ymroddedig i sicrhau eich bod chi yn cael yr amser gorau posib fel Myfyriwr Ôl-raddedig yng Nghaerdydd. Gwnawn hyn drwy eich cynrychioli i’r brifysgol ar faterion academaidd, cynnig gweithgareddau cymdeithasol a digwyddiadau, a chefnogi eich pryderon lles. P’un ai eich bod yn fyfyriwr ôl-raddedig ymchwil neu ôl-raddedig a addysgir, rydym eisiau darparu gymaint o gyfleusterau fel eich bod yn gallu gwneud eich ymchwil, cyfleoedd i ddatblygu eich hun mewn cyrsiau datblygu sgiliau a chymuned ôlraddedig bywiog i chi fod yn rhan ohoni. Mae Undeb y Myfyrwyr yn gweithio i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn eich ysgol, drwy’r brifysgol ac o amgylch ein cymuned leol.

Wrth i mi ddechrau fy ail dymor fel Is Lywydd Myfyrwyr Ôl-raddedig, rwyf yn edrych ymlaen i weithio gyda cymaint ohonoch â phosib o fewn y gymuned ôl-raddedig, fel ein bod ni’n gallu gwella profiad myfyrwyr ôl-raddedig yng Nghaerdydd fwy fyth. Gobeithio y byddwch wrth eich bodd yn astudio yn ein dinas a phrifysgol arbennig. Mae Undeb y Myfyrwyr yn cynnig gymaint i gyfoethogi eich amser yng Nghaerdydd, felly cymrwch ran. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau, cysylltwch â mi. Fel arall, gallwch chi ddod o hyd i mi ar drydydd llawr Undeb y Myfyrwyr! Jake Smith IL Myfyrwyr Ôl-raddedig VPpostgraduate@Caerdydd.ac.uk PGradOfficerCSU @PostgradCSU


4 UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD

Eich Undeb Myfyrwyr

Campws Cathays Mae prif adeilad Undeb y Myfyrwyr ar Blas y Parc. Mae gan y lleoliad pwrpasol hwn bum llawr, tafarn, ardal ddysgu gymdeithasol 24awr, allfeydd bwyd, amrywiaeth o siopau, llefydd cyfarfod ac ymarfer, lleoliad amlbwrpas ar gyfer digwyddiadau gyda’r dydd a gyda’r nos, darlithfa a gorsaf radio. Mae Undeb y Myfyrwyr yn le gwych i ymlacio, cwrdd â ffrindiau, cael cymorth, canfod swydd, bwyta a chymryd rhan gyffredinol mewn bywyd myfyrwyr. Mae Undeb y Myfyrwyr hefyd yn gartref i Ardal Astudio Myfyrwyr Ôl-raddedig, wedi ei leoli ar y trydydd llawr. Mae hwn yn ardal penodol i chi fel myfyrwyr ôl-raddedig. Mae’n cynnwys nifer o gyfrifiaduron a gofod i unigolion neu grwpiau gael astudio. Campws y Mynydd Bychan Mae Undeb y Myfyrwyr yn y Mynydd Bychan yn y Lolfa IV ar lawr gwaelod adeilad Neuadd Meirionnydd. Mae’r

Undeb cyswllt hwn yn rhoi mynediad i chi i ystod o wasanaethau a ddarperir ar Blas y Parc, gan gynnwys Siop Swyddi, Gosod Myfyrwyr Caerdydd, Cyngor i Fyfyrwyr, Gwirfoddoli Caerdydd a chyrsiau Datblygu Sgiliau. Gallwch brosesu sieciau clybiau chwaraeon a chymdeithasau yma yn ogystal â phrynu offer ysgrifennu a nwyddau Prifysgol Caerdydd. Mae hefyd yn bosib i chi gynnal cyfarfodydd yng Nghampws Parc y Mynydd Bychan - gan fod gennym ystafelloedd cyfarfod y mae modd i chi eu llogi. Yn ogystal â hyn mae gofod astudio i Fyfyrwyr Ôl-raddedig ar gampws Y Mynydd Bychan. Mae ar agor 24/7 ac wedi ei leoli ar yr 2il lawr adeilad y prif ysbyty. Caiff Undeb y Myfyrwyr yn y Mynydd Bychan ei redeg gan Neil felly dewch i ddweud helo!


UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD 5

Swyddogion Sabothol 2018-19 Mae’r Swyddogion Sabothol yn dîm o fyfyrwyr sy’n cael eu dewis gan fyfyrwyr eraill i arwain Undeb y Myfyrwyr. Maen nhw’n cynrychioli barn myfyrwyr ac yn arwain gweithgareddau ym mhob agwedd o fywyd myfyrwyr fel Addysg i israddedigion, ôl-raddedigion a myfyrwyr gofal iechyd, chwaraeon, cymdeithasau a lles. Caiff y Swyddogion Sabothol eu harwain gan Lywydd Undeb y Myfyrwyr.

Ymgyrchu dros faterion ôl-raddedig Mae Undeb y Myfyrwyr yn cynrychioli pob myfyriwr ôl-raddedig a materion penodol i ôlraddedigion. Yn ddiweddar mae’r Is-Lywydd Myfyrwyr Ôl-raddedig a Undeb y Myfyrwyr wedi bod yn ymgyrchu dros: • Hawliau a statws addysgu i ôl-raddedigion ymchwil • Iechyd Meddwl Myfyrwyr Ôl-raddedig • Swyddfeydd ar gyfer ymchwil • Sut i ariannu astudio ôl-raddedig • Cefnogaeth i fyfyrwyr ôl-raddedig rhan-amser

Cewch gwrdd â’ch Swyddogion Sabothol ar 3ydd llawr adeilad Undeb y Myfyrwyr neu ar cardiffstudents.com


6 UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD

Siopau a Gwasanaethau Caru Caerdydd a Swyddfa Bost Mae ein Siop Caru Caerdydd ar lawr gwaelod Undeb y Myfyrwyr. Mae’r siop yn cynnwys amrywiaeth helaeth o ddillad nodedig Prifysgol Caerdydd, o siwmperi a hwdis i grysau-t a throwsus. Mae’r siop hefyd y gwerthu deunydd swyddfa ac anrhegion.Mae’r siop hefyd yn cynnwys Swyddfa Bost. LoveCardiff@caerdydd.ac.uk 029 2078 1481 Gosod Myfyrwyr Caerdydd Mae Gosod Myfyrwyr Caerdydd yn asiantaeth gosod y mae Undeb y Myfyrwyr yn ei berchen a’i redeg. Wedi’i leoli ar lawr gwaelod Undeb y Myfyrwyr, mae’n wasanaeth rhad ac am ddim heb unrhyw ffi asiantaeth neu ffi weinyddol. cardiffstudentletting.com 029 2078 1525 cardiffstudentletting Y Cwrt Bwydydd yn Y Plas Pan fydd angen bwyd arnoch, bydd eich chwant yn ein dwylo. O saladau iachus i fyrgyr neu sglodion, ein hallfeydd bwyd yn Y Plas yw’r lle perffaith i fynd ar y ffordd i’ch darlithoedd. Maen nhw ar yr 2il lawr gyda llawer o seddi, wifi am ddim a socedi i blygio eich gliniadur - sgwrsio, astudio, bwyta, yfed. Mae’r cwrt bwyd yn cynnwys siop goffi, siop bastai, bar salad ac yn newydd ar gyfer 2017 ein bar bwyd stryd – Yr Hut.

Y Taf Y Taf yw tafarn Undeb y Myfyrwyr. Mae ein tafarn yn berffaith ar gyfer peint tawel neu rywbeth bach i fwyta ac mae yna hefyd gwis anhygoel, cerddoriaeth fyw a bargeinion gwych hefyd. Gwasanaethau Eraill Mae gan yr Undeb nifer o wasanaethau eraill gan gynnwys Uni Hair and Beauty, Repair IT, Blackwell’s Bookshop, Magic Wrap, Banc Santander, the Print Centre, Kodak Express, Coffi Co, Bubble Boba, Acute Barbers, Co-op a Falafel House.


UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD 7

Cymrwch ran yn y gymuned ôl-raddedig Yn ogystal â chael eu cynrychioli gan yr IL Ôl-raddedig , mae Undeb y Myfyrwyr yn darparu cyfleoedd i helpu arwain ymgyrchoedd a threfnu digwyddiadau cymdeithasol a chyfleoedd.

yn gyfle gwych i gymryd rhan. Bydd Jake yn eich hysbysu sut i ymuno â’r Pwyllgor yn ystod Medi a mis Hydref neu dangoswch eich diddordeb drwy anfon e-bost -VPPostgraduate@cardiff.ac.uk

Mae Cymdeithas Myfyrwyr Ôl-raddedig Caerdydd yn gymdeithas o fyfyrwyr sy’n ymroddedig i ddarparu digwyddiadau cymdeithasol, teithiau i lefydd am y diwrnod a chyfleoedd rhwydweithio ar gyfer pob myfyriwr ôl-raddedig, wedi’u haddysgu neu ymchwil, ledled y brifysgol. Yn y gorffennol trefnwyd Dawns Ôl-raddedig ddiwedd y flwyddyn, nosweithiau dangos ffilm, cwisiau tafarn, teithiau am y diwrnod a mwy.

Gall ymuno â’r Pwyllgor Gwaith Ôl-raddedig fod yn ffordd arall o fod yn rhan o’r bywyd ôl-raddedig o amgylch y campws. Mae’r Pwyllgor Gwaith Ôl-raddedig yn bwyllgor o ôl-raddedigion sy’n gweithio’n agos gyda’r Is-lywydd Ôl-raddedig i gynnal ymgyrchoedd ac i gynrychioli ôl-raddedigion ar draws y brifysgol. Y llynedd arolygwyd ôl-raddedigion ynglŷn â chefnogaeth iechyd meddwl y brifysgol, hysbyswyd ôl-raddedigion ar fanteision ynghlwm a bod yn aelod o undeb llafur, cynrychiolwyd ôl-raddedigion ar ran yr IL yng nghyfarfodydd y Brifysgol a mwy. Os hoffech chi helpu i wella profiad myfyrwyr ôl-raddedig, mae hyn yn ffordd wych i ddechrau ymwneud ag ymgyrchoedd Undeb y Myfyrwyr. E-bostiwch Jake os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais i fod yn rhan o’r Pwyllgor Gwaith eleni neu edrychwch allan am y ffurflenni cais pan fydd cyfle yn hwyrach ymlaen yn y tymor.

Gallwch ymuno yn ystod y Ffair Cymdeithasau yn ystod Y Glas neu drwy wefan Undeb y Myfyrwyr cardiffstudents.com. Mae ganddyn nhw dudalen Facebook hefyd facebook.com/CardiffPGA Mae’r Gymdeithas yn chwilio am sawl myfyriwr ôl-raddedig ymroddedig i ymuno â’u pwyllgor eleni a helpu i drefnu digwyddiadau gwych. Os hoffech chi helpu adeiladu cymuned gymdeithasol fywiog, datblygu eich CV a chwrdd ag ôl-raddedigion o ledled y brifysgol, mae ymuno â phwyllgor Cymdeithas Myfyrwyr Ôl-raddedig Caerdydd


8 UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD

Llais Myfyrwyr

Mae Undeb y Myfyrwyr yn fudiad aelodaeth annibynnol, ddemocrataidd, a’i brif ddiben yw cynrychioli eich buddiannau chi a’ch cyd-fyfyrwyr i’r Brifysgol a chymdeithas yn ehangach. Yn y gorffennol, mae’r Undeb wedi ymladd i osod ffioedd ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol, dros lyfrgelloedd 24 awr a rhyddhau amserlenni arholiadau ynghynt. Mae yna nifer o ffyrdd y gallwch fynd ati i godi materion y byddwch eisiau i’r Undeb fynd i’r afael â nhw. Mae disgrifiad cryno isod o’r gwahanol grwpiau sy’n arwain ein gwaith a sut y gallwch chi gyfranogi. Senedd y Myfyrwyr Mae Senedd y Myfyrwyr yn creu ac yn newid polisi Undeb y Myfyrwyr. Golyga hyn eu bod nhw’n penderfynu pa newidiadau neu welliannau y dylem eu

gwneud neu lobïo drostynt. Mae Senedd y Myfyrwyr yn cynnwys dau ddeg pump o seneddwyr a etholir yn Etholiadau’r Hydref. Mae’r Senedd yn cwrdd pum gwaith y flwyddyn ac mae’r cyfarfodydd yn agored i bob myfyriwr. Gall unrhyw fyfyriwr gyflwyno cynnig neu eitem i’w gosod ar yr agenda ar gyfer Senedd y Myfyrwyr, a gall unrhyw fyfyriwr fynychu’r cyfarfod a dadlau o blaid neu yn erbyn y pynciau sydd ar yr agenda. Mae’r agenda, y cofnodion a manylion y cyfarfod nesaf i’w gweld yma cardiffstudents.com/senate. Os oes rywbeth y gallwch feddwl all wneud profiad myfyrwyr ôl-raddedig y well o fewn Undeb y Myfyrwyr, cyflwynwch eich syniadau yma: cardiffstudents.com/ideas


UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD 9

Etholiadau Gan ein bod yn fudiad democrataidd, caiff pob swydd gynrychioli, sydd â’r pŵer i wneud penderfyniadau, ei llenwi drwy etholiad traws-gampws. Mae dwy set o etholiadau bob blwyddyn, a chynhelir y rhai cyntaf ym mis Hydref ar gyfer Senedd y Myfyrwyr, Cynrychiolwyr NUS, a’r Pwyllgor Archwilio. Cynhelir yr ail set o etholiadau yn Chwefror i ethol y Swyddogion llawnamser sy’n cael eu talu a’r deg Swyddog Ymgyrchoedd. Mae’r tîm Swyddogion llawn-amser yn cynnwys y Llywydd a chwe Is-Lywydd, gan gynnwys yr IsLywydd Myfyrwyr Ôl-raddedig. Swyddi gwirfoddol sydd gan y Swyddogion Ymgyrchoedd, ac mae myfyrwyr yn ymgymryd â’r rhain ochr-yn-ochr â’u hastudiaethau. Maent yn cynrychioli grwpiau lleiafrifol a rhyddhad i Undeb y Myfyrwyr ac i’r Brifysgol. Mae angen amrywiaeth o leisiau o fewn y swyddi hyn, ac rydym yn chwilio am ôl-raddedigion i sicrhau bod eu lleisiau i’w clywed! Mae dwy brif ffordd o gyfranogi - gallwch gyflwyno eich hun ar gyfer swydd sydd o ddiddordeb i chi, neu gallwch bleidleisio dros yr ymgeisydd fydd yn eich barn chi’n gwneud gwaith da yn y swydd. Pwyllgor Craffu Mae’r Pwyllgor Craffu’n cynnwys 10 myfyriwr sy’n dal eich cynrychiolwyr (gan

gynnwys Llywydd Undeb y Myfyrwyr a’r IL Ôl-raddedig) i gyfrif. Maent yn gwasanaethu i archwilio adroddiadau Swyddogion Etholedig er mwyn sicrhau eu bod yn gweithio er eich budd chi. Gall unrhyw fyfyriwr ymgeisio ar gyfer aelodaeth o’r Pwyllgor Craffu yn Etholiadau’r Hydref. Byddant yn cwrdd tua wyth gwaith y flwyddyn. Gallwch weld beth mae’r swyddogion yn gweithio arno a chofnodion o gyfarfodydd y Pwyllgor Craffu ar cardiffstudents.com/officers


10 UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD

Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr Beth yw Cynrychiolydd Academaidd Myfyrwyr? Mae Cynrychiolydd Academaidd Myfyrwyr yn wirfoddolwr myfyrwyr sy’n lleisio sylwadau, pryderon a chwestiynau o’u cyrsiau i’w hysgolion. Eu rolau yw casglu adborth o’u cyrsiau a’i anfon at Baneli Staff Myfyrwyr (PSM) a Byrddau Astudiaeth i sicrhau bod lleisiau’r myfyrwyr yn cael eu cymryd o ddifrif ar bob lefel. Mae gennym gyfanswm o tua 1,000 o Gynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn cynrychioli dros 30,000 o fyfyrwyr. Cynrychiolwyr Ôl-raddedigion Ymchwil Bydd Cynrychiolwyr Ôl-raddedig Ymchwil hefyd yn cael eu gwahodd i Fforymau prifysgol. Mae’r fforymau hyn, wedi’u cadeirio gan yr IL Ôl-raddedig, yn rhoi mwy o gyfle i fyfyrwyr ymchwil i godi eu materion yn uniongyrchol ag Undeb y Myfyrwyr. Dewch yn Gynrychiolydd Mae cynrychiolwyr yn chwarae rhan annatod o rymuso lleisiau myfyrwyr ac rydym wastad yn edrych am recriwtiaid newydd. Nid yw profiad blaenorol yn angenrheidiol; y cyfan sy’n ofynnol yw brwdfrydedd a meddwl agored. Bydd y tîm Llais Myfyrwyr yn yr Undeb Myfyrwyr yn eich hyfforddi a chynnig cymorth, felly byddwch yn barod ar gyfer eich rôl. Os oes gennych ddiddordeb, mae croeso i

chi gysylltu â StudentReps@Caerdydd.ac.uk a gall y tîm anfon manylion y Cydgysylltydd Cynrychiolydd Myfyrwyr perthnasol atoch. Fel arall, gallwch gysylltu â swyddfa eich Ysgol a gallent anfon y manylion atoch. Beth yw’r manteision i mi? Fel ôl-raddedigion, mae eich anghenion addysgol yn aml yn arbenigol ac mae angen sylw penodol arnynt. Felly, trwy ddod yn Gynrychiolydd gallwch gymryd gafael ar eich addysg, gallwch helpu i lunio eich cwrs neu brofiad ymchwil ac amlygu unrhyw welliannau. Mae dod yn Gynrychiolydd yn gyfle perffaith i ymgysylltu â myfyrwyr sy’n ymchwilio ac yn astudio pynciau tebyg, byddwch yn cwrdd â llawer o bobl. Cewch gyfle i adeiladu rhwydweithiau gyda staff y Brifysgol i’ch helpu ymgysylltu ag uwch academyddion. Gallwch gymryd rhan mewn sicrwydd ansawdd a gwella safonau academaidd ym Mhrifysgol Caerdydd. Cymerwch ran, dewch yn Gynrychiolydd Academaidd Myfyrwyr Unrhyw gwestiynau? Cysylltwch â: Jake Smith – Is-lywydd Myfyrwyr ôl-raddedig VPpostgraduate@Caerdydd.ac.uk PgradOfficerCSU @PostgradCSU


UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD 11

Defnyddiwch eich Cynrychiolydd Pa fath o faterion mae Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr yn ymdrin â hwy? Gall Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr anfon unrhyw sylwadau cadarnhaol neu negyddol am yr Ysgol, pwnc neu fodiwl drwy fynychu Paneli Staff Myfyrwyr sy’n digwydd tua unwaith y tymor. O ganlyniad o gael eich hyfforddi i arwain myfyrwyr at y bobl berthnasol, mae Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr hefyd yn gallu darparu llawer o wybodaeth ynglŷn â’r Gwasanaethau bydd ar gael o’r Brifysgol a’r Undeb Myfyrwyr.

Sut y gallaf gysylltu â fy Nghynrychiolydd Academaidd Myfyrwyr? Os hoffech rannu adborth am eich cwrs gyda’ch Cynrychiolydd Academaidd Myfyrwyr, gallwch fewngofnodi i cardiffstudents.com/reps a defnyddio’r nodwedd “Find my Rep”. Neu gallwch anfon e-bost at StudentReps@Cardiff. ac.uk neu bicio draw i drydydd llawr yr Undeb Myfyrwyr. Gallwch hefyd dderbyn e-byst o’ch cynrychiolydd yn gofyn am adborth. Sut allai ddarganfod rhagor? cardiffstudents.com/reps StudentReps@Caerdydd.ac.uk Cardiff Student Voice @CU_StudentVoice


12 UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD

Gweithgareddau Cymdeithasau Mae ymuno â chymdeithas neu bwyllgor yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn ffordd wych o rwydweithio, cymryd rhan mewn diddordeb neu eich cysylltu chi â phobl tebyg i chi. Mae yna dros 180 o gymdeithasau gan gynnwys cymdeithasau ar sail cwrs, grwpiau crefyddol, cymdeithasau rhyngwladol yn ogystal â chymdeithasau gwleidyddol a diwylliannol. Chwaraeon Caiff ein clybiau chwaraeon eu cefnogi gan yr Undeb Athletau, sy’n gofalu am fyfyrwyr sy’n rhedeg dros 60 o glybiau chwaraeon, gan gynnwys chwaraeon unigol a thîm, gweithgareddau awyr agored, chwaraeon d r a chrefft ymladd. Cydgysylltiadau Mae ein cydgysylltiadau myfyrwyr yn rhad ac am ddim a gall unrhyw fyfyriwr Prifysgol Caerdydd fod yn aelod. Mae pob cydgysylltiad yn cynrychioli gr p arbennig fel myfyrwyr LHDT+, myfyrwyr croenddu a lleiafrifoedd ethnig neu fyfyrwyr ôl-raddedig, ac yn ymgyrchu ar faterion all effeithio arnyn nhw. Gallwch ganfod mwy am ein cydgysylltiadau ar cardiffstudents.com/associations. Darganfyddwch mwy am weithgareddau yn Undeb y Myfyrwyr ar cardiffstudents.com/activities


UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD 13

Ffyrdd gwych eraill i gymryd rhan Cyfryngau Myfyrwyr Mae gennym ni ddiwylliant cyfryngau sy’n ffynnu yn Undeb y Myfyrwyr gyda gr p brwdfrydig o fyfyrwyr yn cynhyrchu ein papur newydd wythnosol, Gair Rhydd, a’n cylchgrawn misol, Quench, yn ogystal â gwirfoddoli gydag Xpress Radio, ein gorsaf radio, a CUTV, ein gorsaf deledu ar-lein. Gallwch gymryd rhan mewn cyfryngau myfyrwyr unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn. Gall fod yn ffordd wych o berffeithio eich sgiliau newyddiaduraeth yn ogystal â darparu ystod amrywiol o brofiad ar gyfer y dyfodol. Dysgwch Iaith Newydd Rhowch gynnig ar iaith newydd neu wella iaith bresennol, am ddim! Mae Ieithoedd i Bawb yn rhoi cyfle i chi wella eich sgiliau iaith ochr yn ochr â’ch astudiaethau. Mae eu hopsiynau astudio hyblyg yn golygu bod modd i chi ddysgu mewn ffordd sy’n addas i chi, boed yn wythnosol, yn ddwys neu’n annibynnol. P’un ai’ch bod chi’n dechrau o’r dechrau neu am wella eich sgiliau iaith presennol, rydyn ni’n cynnig rhywbeth ar gyfer pob gallu. Rydym yn cynnal cyrsiau mewn ystod eang o ieithoedd ac yn cynnal dosbarthiadau ar ein campysau ym Mharc Cathays a’r Mynydd Bychan. I ganfod mwy, ewch i cardiff.ac.uk/modern-languages.

Rhowch Gynnig Arni Mae Rhowch Gynnig Arni yn galendr llawn o weithgareddau anhygoel i chi roi cynnig arnynt tra eich bod chi’n fyfyriwr yng Nghaerdydd. Mae’n rhoi cyfle i chi roi cynnig ar yr holl bethau mae ein cymdeithasau yn eu gwneud, cymryd rhan mewn chwaraeon, dysgu iaith newydd, datblygu sgiliau hanfodol, gwirfoddoli, mynd ar deithiau diwrnod a phenwythnos, a llawer llawer mwy. Yr amcan yw eich annog chi i roi cynnig ar bethau newydd, cwrdd â phobl newydd a chael profiad anhygoel yng Nghaerdydd.


14 UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD

Swyddi a Sgiliau Siop Swyddi Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio ochr yn ochr â’ch cwrs ôlraddedig, mae’r Siop Swyddi’n lle gwych i ddechrau. Caiff y Siop Swyddi ei rhedeg gan Undeb y Myfyrwyr ac yn cynnig gwasanaeth cyflogi am ddim i holl fyfyrwyr y Brifysgol. Mae cyfleoedd gweithio ar gael yn y Brifysgol, Undeb y Myfyrwyr a chyflogwyr lleol, sy’n cynnig cyflogaeth am dâl sy’n gweddu eich ymrwymiadau academaidd. I ganfod mwy am y Siop Swyddi a sut i gofrestru, ewch i cardiffstudents.com/ Jobshop neu dewch heibio i’r Ganolfan Sgiliau ar 2il lawr Undeb y Myfyrwyr. Mae’n ffordd wych o ennill arian ychwanegol a rhoi profiad gwaith ar eich CV tra eich bod chi’n astudio! CardiffJobshop @CardiffJobshop Jobshop@Caerdydd.ac.uk 029 2078 1535

Y Gwasanaeth Datblygu Sgiliau Mae’r Gwasanaeth Datblygu Sgiliau’n darparu ystod o gyrsiau sy’n bwriadu eich paratoi chi ar gyfer y farchnad gyflogaeth. Mae’r cyrsiau hyn yn amrywio o wella eich sgiliau trosglwyddadwy, codi eich hyder a gwella eich cyflogadwyedd yn gyffredinol. Cyflwynir tystysgrifau am gwblhau’r cyrsiau’n llwyddiannus ac maen nhw’n hynod boblogaidd ymysg cyflogwyr. Mae tri phrif faes i’r cyrsiau a gynigir gan y Gwasanaeth Datblygu Sgiliau: • Tystysgrif Datblygiad Proffesiynol • Diploma Datblygiad Personol • Cyrsiau a achredir yn allanol Ceir gwybodaeth fwy manwl am y cyrsiau hyn ar cardiffstudents.com/jobs-skills. Cysylltwch â ni 029 2078 1489 SDS@Caerdydd.ac.uk CardiffSDS @SDScardiff


UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD 15

Gwirfoddoli Caerdydd Mae gwirfoddoli’n ffordd wych o wneud gwahaniaeth yn y gymuned leol yn ystod eich cyfnod yng Nghaerdydd. Mae’n cynnig profiad gwaith gwerthfawr ar gyfer eich CV yn ogystal â rhoi cyfle i chi gwrdd â phobl newydd a mwynhau! Mae Gwirfoddoli Caerdydd yn cynnig ystod eang o brosiectau gwahanol a chyffrous sy’n gallu gweddu eich amserlen prifysgol. Mae llawer o fyfyrwyr yn gwirfoddoli ar brosiectau o gwmpas dinas Caerdydd ac yn ymroi eu hamser i helpu gwella bywyd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol eraill yn y gymuned leol a datblygu sgiliau, profiadau a chreu ffrindiau newydd drwy ei wneud. I ganfod mwy am Gwirfoddoli Caerdydd a sut i gymryd rhan, ewch i cardiffstudents. com/volunteering neu galwch heibio’u swyddfa yn y Ganolfan Sgiliau ar 2il lawr Undeb y Myfyrwyr pan fyddwch yn cyrraedd Caerdydd. Mae’r swyddfa ar agor rhwng 09:00-17:00 ddydd Llundydd Iau a rhwng 09:00-16:00 ar ddydd Gwener. cardiffstudents.com/volunteering VolunteerCUSU @VolunteerCUSU @VolunteerCUSU

Menter Prifysgol Caerdydd Mae bod yn fentrus yn golygu bod â’r hyder a’r sgiliau i ddod a syniadau’n fyw. P’un ai os ydych eisiau dechrau busnes, creu a thyfu prosiect cymunedol, neu cael argraff ar gyflogwr, rydym yma i’ch cefnogi. Rydym yn cynnal cyfres o weithdai a digwyddiadau drwy’r flwyddyn i roi profiad i chi a chyfleoedd i gyfarfod â phobl proffesiynol ysbrydoledig. Gallwch hefyd ennill rhoddion ariannol i helpu ddod a’ch syniadau’n fyw. Mae yna hefyd ymgynghorydd arbenigol a all roi arweinyddiaeth un ar un a chynnig gofod swyddfa rhydd. Dewch o hyd i ni yn y Ganolfan Sgiliau yn Undeb y Myfyrwyr. Enterprise@Caerdydd.ac.uk studententerprise @CardiffUniE


16 UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD

Cymorth a Chyngor

Mae Cyngor i Fyfyrwyr yma i helpu. Rydym yn darparu canllawiau cyfrinachol a diduedd yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd. Caiff y gwasanaeth hwn ei ddarparu gan Undeb y Myfyrwyr, mae hyn yn golygu ein bod ni’n gweithio ar wahân i’r Brifysgol ac rydym ni’n gweithio er eich budd chi yn unig. Rydyn ni’n gweld miloedd o fyfyrwyr bob blwyddyn - a channoedd o fyfyrwyr ôlraddedig - a’n nod yw eich darparu chi â gwybodaeth wrthrychol fel y gallwch chi wneud penderfyniadau er eich budd chi eich hunain. Yn ogystal â darparu gwybodaeth, gall ein tîm profiadol o ymgynghorwyr ymuno a chi ach cynrychioli yn ystod gweithdrefnau ymddygiad a disgyblu y Brifysgol.

Os oes gennych chi gwestiwn bach, neu broblem fawr, gallwn ni helpu. Cyngor Academaidd Rydyn ni’n darparu cymorth ac arweiniad i fyfyrwyr ar faterion academaidd bob dydd. P’un a fyddwch chi’n ceisio ymgysylltu â gweithdrefnau cymhleth y Brifysgol neu wedi cael ei darostwng gan broses yn y Brifysgol, gall ein cynghorwyr profiadol eich helpu: • Apeliadau Academaidd • Cwynion ac Achwyniadau • Materion Disgyblu • Amgylchiadau Esgusodol • Cymhwyster i Ymarfer • Gweithdrefnau Monitro Cynnydd ac Ymchwil • Cwynion Goruchwyliwr • Arferion Annheg


UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD 17

Cyngor Ar Dai Rydyn ni hefyd yn darparu cyngor ar dai am ddim. Bob blwyddyn rydyn ni’n darparu cyngor i filoedd o fyfyrwyr sy’n dechrau’r broses o rentu tŷ i fyfyrwyr, neu sy’n wynebu anawsterau gyda’u cartref, gan gynnwys: • Gwirio Contractau • Anghydfodau yn ymwneud â blaendaliadau • Dod o hyd i lety • Gadael contract yn fuan • Llwydni, lleithder a Diffyg Atgyweirio • Talu Biliau a Threth Cyngor • Problemau gyda Neuaddau A Mwy! Yn ogystal â materion academaidd a thai gallwn hefyd helpu gyda materion defnyddwyr, problemau cyflogaeth, cwestiynau ynglŷn â gwasanaeth iechyd, materion ariannol a llawer mwy. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr y Brifysgol ac os na allwn ni helpu- gallwn ni eich arallgyfeirio i wasanaeth a fydd yn gallu helpu. Mae llawer o wybodaeth ar gael ar ein gwefan, cymrwch gip olwg cardiffstudents.com/advice

Cysylltwch â ni: 029 2078 1410 Advice@Caerdydd.ac.uk cardiffstudents.com/advice


Your guide toate u Postgradin life cardiff

18 UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD

eich lles Gwasanaethau Dan Arweiniad Myfyrwyr Llinell Nos – Gwasanaeth ffôn gyfrinachol sy’n cynnig gwybodaeth a chlust i wrando. Ar agor bob nos 20:00-08:00 a gwasanaeth negeseuon gwib ar eu gwefan 20:00-00:00. 029 2087 0555 cardiffnightline.co.uk SHAG – Eich Grŵp Ymwybyddiaeth Iechyd Rhywiol . Mae SHAG yn llenwi eich dosbarthwyr condoms yn Undeb y Myfyrwyr a’r Lolfa IV yn Y Mynydd Bychan, a hefyd yn rhedeg sesiynau Cerdyn-C bob Dydd Mercher rhwng 13:00-15:00 yn Ystafell 3D Undeb y Myfyrwyr. shag@cardiff.ac.uk cushag.com Meddyliau Myfyrwyr –Mae Meddyliau Myfyrwyr yn elusen genedlaethol, sy’n ceisio hyrwyddo iechyd meddwl da i fyfyrwyr ar hyd a lled y wlad! Mae eich cangen yng Nghaerdydd yn cynnal grŵp cefnogi ar gyfer Anhwylderau Bwyta bob Dydd Iau rhwng 18:15-19:00 yn Ystafell 4H Undeb y Myfyrwyr, a hefyd yn cynnal digwyddiadau wedi ei ffocysu ar les yn ystod cyfnodau eraill yn y flwyddyn academaidd, er enghraifft Diwrnod Y Plentyn Mewnol! Cardiff@studentminds.org.uk

Gweithredu ar Dai - Grŵp o fyfyrwyr yw Gweithredu ar Dai a’u bwriad yw addysgu a hysbysu myfyrwyr am broblemau cyffredin o ran tai myfyrwyr, a chynnig awgrymiadau ar sut mae datrys problemau posib neu gyfyngu arnynt. Cadwch lygad allan amdanynt mewn pwyntiau allweddol yn ystod y flwyddyn, er enghraifft yn ystod Pythefnos Tai! Gofalu Am Eich Pen - Gwasanaeth yw Gofalu Am Eich Pen sy’n gweithio i hyrwyddo ymgyrchoedd iechyd meddwl gydol y flwyddyn academaidd a chyfeirio myfyrwyr at wasanaethau cymorth perthnasol. Maen nhw hefyd yn trefnu digwyddiadau cymorth i gyfoedion gydol y flwyddyn, gan ddod â myfyrwyr at ei gilydd a hwyluso trafodaethau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl. Wythnos Gofalu Am Eich Pen: 8-12 Hydref Siaradwch -Gwasanaeth gwrando yw Siaradwch sy’n gweithredu yn ystod y dydd. Gall myfyrwyr siarad â gwirfoddolwyr myfyrwyr cymwys, mewn amgylchedd cyfrinachol, am unrhyw beth sy’n peri pryder iddyn nhw, p’un a ydych chi wedi diflasu, yn unig, neu am gael sgwrs â rhywun cyfeillgar. Cynllun Cyfeillio -Mae Cynllun Cyfeillio’r Undeb gerllaw i helpu myfyrwyr newydd i ymgartrefu yng Nghaerdydd ac i ddod yn rhan o gymuned fywiog y myfyrwyr. Mae’ch cyfeillion gerllaw i helpu gyda’ch holl gwestiynau am fywyd myfyrwyr ac i fod yn gyswllt â’r holl gyfleoedd anhygoel mae Undeb y Myfyrwyr yn eu cynnig. Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch BuddyScheme@caerdydd.ac.uk


UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD 19

Cefnogaeth i Fyfyrwyr Mae Cefnogaeth i Fyfyrwyr yn wasanaethau proffesiynol a ddarperir gan y Brifysgol. Dyma’r prif wasanaethau maent yn eu darparu: Sgiliau Astudio Academaidd, Cyngor ac Arian, Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd; Cwnsela a Lles; Anabledd a Dyslecsia; Cymorth Myfyrwyr Rhyngwladol. Lleolir ar 50 Plas y Parc, Campws Cathays a Thyˆ Aberteifi, Campws Parc y Mynydd Bychan. Gwasanaeth galw heibio Lles – Chwiliwch am ‘Gwasanaeth galw heibio Lles’ ar fewnrwyd y myfyrwyr Grwˆ p cefnogaeth gan gynghreiriaid Ôl-raddedigion Mae’r rhain yn sesiynau sy’n darparu lle i siarad gydag ôl-raddedigion eraill am sut maent yn teimlo ac am ffyrdd o ymdopi gydag heriau bywyd ôl-raddedig. Mae’r tri sesiwn gyntaf yn Ystafell Hyfforddi, 0.01 llawr gwaelod, 51a Plas y Parc ar: • Dydd Mawrth Medi 18fed, 2018 10.30 • Dydd Mawrth Hydref 23ain, 2018 10.30 • Dydd Iau Tachwedd 22ain, 2018 10:30 Er mwyn archebu lle ar un o’r grwpiau, chwiliwch am ‘Postgraduate Peer Support’ neu ‘Hyrwyddwyr Lles’ ar Intranet Myfyrwyr. Diddordeb mewn bod yn Gyfaill Cefnogi Ôl-raddedigion? wellbeingchampion@Caerdydd.ac.uk

Your guide toate u Postgradin life cardiff

Gweithdai Lles Academi Ddoethurol Darperir 5 gweithdy yn benodol ar gyfer yr Academi Doethurol ar bynciau gan gynnwys: Rheoli Straen yn y PhD, Delio â Pherffeithiaeth, Rheoli Oedi Gwaith, Effeithiolrwydd Rhyngbersonol, a Phoeni Llai. Bydd manylion am y gweithdai hyn ar gael yn y Rhaglen Academi Doethurol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, dewch i 3ydd llawr Undeb y Myfyrwyr i siarad â Amr Alwishah, eich Is-lywydd Lles ac Ymgyrchoedd . VPWelfare@Caerdydd.ac.uk 029 2078 1422


20 UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD

Digwyddiadau Gwych Mae Caerdydd yn ddinas fywiog sydd ag amryw o ddigwyddiadau i’ch cadw chi’n ddifyr pan nad ydych chi’n gweithio’n galed. Rydym wedi creu rhestr fer yma ond nid popeth mo hyn – rydym yn argymell crwydro, chwilio a chadw llygad allan er mwyn manteisio ar eich cyfnod yn y ddinas. Tân Gwyllt Mae arddangosiad tân gwyllt blynyddol Caerdydd yn digwydd ddechrau mis Tachwedd i ddathlu Noson Guto Ffowc ac mae Round Table Caerdydd wedi ei drefnu am 30 blynedd a mwy. Fe’i cynhelir ym Mharc Biwt gyda’r castell yn y cefndir ac mae’n gyfle gwych i lapio’n gynnes a mwynhau’r goleuadau llachar. Digwyddiadau Bwyd Stryd Mae Caerdydd yn dod yn ddinas fwyfwy enwog am fwyd ac mae ganddi ddigon o gaffis a thai bwyta gwych i gadw’r rhan fwyaf o arbenigwyr yn hapus. Mae Bwyd Stryd wedi ymuno â’r duedd yn y blynyddoedd diwethaf gyda digwyddiadau hynod boblogaidd o gwmpas y ddinas. Hanner Marathon Caerdydd Prifysgol Caerdydd Mae Hanner Marathon Prifysgol Caerdydd bellach yn un o rasys ffordd mwyaf y Deyrnas Unedig. Dyma 2il hanner marathon mwyaf yn y byd, a ras ffordd mwyaf Cymru yn ogsytal â digwyddiad codi arian mwyaf Cymru. Mae’r

digwyddiad yn cael ei gynnar ar ddydd Sul 7fed Hydref eleni. Cofrestrwch i gymryd rhan ar cardiffhalfmarathon.co.uk Pencampwriaeth y Chwe Gwlad RBS Rygbi yw camp genedlaethol Cymru ac mae yna awyrgylch anhygoel yn y ddinas yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad. Gwyliwch Gymru’n herio Lloegr, Ffrainc, Iwerddon, yr Eidal a’r Alban ar sgriniau teledu o gwmpas y ddinas neu, petai chi’n lwcus iawn, gallwch gael gafael ar docyn i wylio gêm yn fyw yn Stadiwm Principality. Gwyl y Faeaf yng Ngaherdydd Yng Ng yl y Gaeaf, mae’r Ganolfan Ddinesig yn troi’n wynfyd Nadoligaidd sy’n cynnwys llawr sglefrio awyr agored, reidiau yn ogystal â bwyd blasus a stondinau diod.


UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD 21

Farsiti Cymru Dechreuodd Farsiti Cymru 20 mlynedd yn ôl fel gêm rygbi rhwng myfyrwyr Prifysgol Caerdydd a myfyrwyr Prifysgol Abertawe. Mae cymaint mwy iddi heddiw. Mae Farsiti Cymru yn wythnos llawn digwyddiadau gyda thimoedd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn 30 a mwy o gampau i gynrychioli eu prifysgol. Bydd y diwrnod terfynol yn gorffen gyda gêm rygbi’r dynion o flaen miloedd o fyfyrwyr o’r ddwy brifysgol. Gwyl Tafwyl Mae Tafwyl yn yl flynyddol a sefydlwyd gan Menter Caerdydd i ddathlu’r defnydd o’r Gymraeg yn y ddinas. Y prif ddigwyddiad yw Ffair Tafwyl, sef cyfuniad o ddigwyddiadau artistig, cerddorol, diwylliannol a chwaraeon, i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg. Am fwy o wybodaeth, ewch i tafwyl.org. G yl Bwyd a Diod Ryngwladol Caerdydd Digwyddiad gwreiddiol Caerdydd a g yl fwyd fwyaf y ddinas gyda thros 100 o gynhyrchwyr lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Rhowch gynnig ar, a phrynwch y gorau o gawsiau ffermdy, bara arbenigol, siocledi wedi’u gwneud â llaw a gwirodlynnau arbenigol. Mae yna gerddoriaeth fyw gydol y digwyddiad hefyd i’ch cadw chi’n ddifyr.

Digwyddiadau Eraill Cofiwch edrych yn Motorpoint Arena Caerdydd am gerddoriaeth fyw a gigs comedi yn ogystal â Chanolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd, sy’n cynnal sioeau cerdd, operâu, bale a pherfformiadau theatr a dawns. Hefyd mae yna ddewis gwych o orielau celf o gwmpas y ddinas sy’n amrywio o ran maint a thestun, o beintiadau i ffotograffiaeth a cherflunwaith.

Mwy o lefydd gwych i ymweld yn ystod y flwyddyn Castell Caerdydd Yr Amgueddfa Genedlaethol Bae Caerdydd (Senedd Cymru, Canolfan y Mileniwm, Adeilad Pierhad a Chapel Noryweg) The Old Library / Yr Hen Llyfrgell Parc y Rhath a Bute


Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd

Yn falch i gyflwyno

Mae Rhowch Gynnig Arni yn cynnal teithiau am y diwrnod drwy gydol y flwyddyn felly gallwch gael diwrnodau llawn hwyl ar draws Cymru a dros Brydain i gyd. Eleni rydym ni wedi neilltuo ambell i daith ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig fel chi!

Teithiau Ôl-raddedig Rhowch Gynnig Arni Tymor yr Hydref Parc Gwledig Margam - Hydref 6ed | £16 Gyda gorffennol diwydiannol a gardd hyfryd, mae Parc Margam yn le perffaith i chwilio am dreftadaeth ac ymlacio.

Caergrawnt - Tachwedd 10fed | £25 Ymunwch â ni wrth i ni deithio i un o’r trefi prifysgol enwocaf a chydnabyddedig; Caergrawnt.

*Taith i Ôl-raddedigion yn unig

*Caiff bws i arbennig i fyfyrwyr ôl-raddedig ei drefnu os oes galw mawr.

Côr y Cewri a Chaersallog - Hydref 13eg | £25 Yn llawn dirgelwch , Côr y Cewri yw un o feini coffa enwocaf a chydnabyddedig y Deurnas Unedig.

Rhydychen - Tachwedd 24ain | £18 Rydych chi wedi ymweld â Chaergrawnt, nawr gallwch fynd i Rydychen; tref hardd a chartref i un o brifysgolion uchaf y byd!

*Taith i Ôl-raddedigion yn unig

Traeth Rhosili - Hydref 20fed | £16 Dewch i weld y golygfeydd godidog ar Draeth Rhosili. *Taith i Ôl-raddedigion yn unig Dilynwch ‘Jake Smith SU’ ar Facebook a @PostgradCSU ar Trydar i gylwed am ddigwyddiadau cymdeithasol ôl-raddedig sy’n digwydd drwy gydol y flwyddyn yn ogystal â’r teithiau Rhowch Gynnig Arni yn ystod tymor y Gwanwyn.

*Caiff bws i arbennig i fyfyrwyr ôl-raddedig ei drefnu os oes galw mawr.

Marchnadoedd Nadolig Caerfaddon - Rhagfur 8fed | £18 Ni fyddai’r Nadolig yr un fath heb daith i’r marchnadoedd nadolig byd-enwog- a Chaerfaddon yw un o’r goreuon. *Caiff bws i arbennig i fyfyrwyr ôl-raddedig ei drefnu os oes galw mawr.


Yn darparu amrywiaeth o gyrsiau ardystiedig i adeiladu eich hyder a chynyddu eich potensial cyflogadwyedd.


24 UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD

Map o’r campws A1

A2

16

Ardal Astudio Ol-raddedigion 17

ELD AV

AV

SUMMERFI

LD

FIE

H AT

HE

B1

AVENUE

EDINGTON

CLODIAN AD RO

INGLEFIEL

D AVENUE

LLANISHE B2N STR EET

MANOR STR

EET

TALYGARN STR

TR

EE

T

T

T EE

RY S BU

WK ES

BE

DA N

IE

RT

C3L ST

TIA

ST

RS

T

ST

RE

RE

ET

ET

C4

ET

ST

RE

T TS

CE

EN

RO

REET

T TREE

RM AN

EE

T Y ST NRO

GLE

12

AN

ST

EET

STREET

STR

2

ET

TRE

FA S

T H ST OR

RD

FO

1

7

ET

TRE

IS S

RTH CYFA

CROFT

BED

9

EET

W TAL

D4

LL

3

SSE

RU

10

D3

T

STR

RR EHA

TR

11

REE

H ST

POC

KEP

ARR

13 D2

US S

TR

15

D1

ANG

REET

T LD S

REET A ST

A DON

YS

E

TT

PLAC

LE ST

DIAN

NESS

INVER

MINISTER

REET A ST BELL

ARA

ST

14

T ED S

N ISA TR AN LL ST AIN RW HI M ER RT ST THTREHERBE YR ST RETREORKY ET

ALFR

PE NT

TR

ST D TE

EE

T

EN

FL OR

DARRAN

YR CH

C2

RS

T

ES

SP

NO

ET

IEL

MA L EE

GF DO

DI

TR

UC

PL

ES

RE

TR

H

VA N

ST

ES

RC

TO N

ITH

ITC HU

ES

G GA ELL RD IGA EN ER S

C1

BR

LIS

WH

M

DA R

ST RE ET

CO S

BR

NY TH ST

REET AER ST CW M

GELLIG

GWEN

EF AN

RE

TS

ET

TR

EE

T

EET

PARTRI

ELM

DGE RD

STREE

T

4

6 5 8 CR NG T LO REE ST

S

OS


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.