Eisteddfod Ryng-golegol 2016

Page 1

Rhestr Testunau


Mynegai 3 Gair o Groeso 5 Rheolau Cyffredinol a’r Strwythur Marcio 9 Cystadlaethau Gwaith Cartref 10 Y Twrnament Chwaraeon

2 Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016

12 Cystadlaethau Llwyfan 13 Manylion Cyswllt 15 Gwybodaeth am yr Eisteddfod


Gair o Groeso Gyfeillion! Mae’n fraint i ni fel Pwyllgor Gwaith gyflwyno i’ch sylw destunau Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016. Ar benwythnos y 27ain o Chwefror 2016, bydd Prifysgol y brifddinas yn croesawu myfyrwyr Cymraeg eu hiaith a dysgwyr o brifysgolion ledled Cymru (a rhai o’r tu hwnt i Gymru) i ymuno mewn gwledd o gymdeithasu, mwynhau – a chystadlu.

yma yng Nghaerdydd, cawn ein hatgoffa fod y frwydr i fyw bywydau cyflawn yn Gymraeg ym mhrifysgolion Cymru, yn anffodus, yn un sy’n rhygnu ‘mlaen. Nid oes yna unman lle bo’r frwydr honno’n amlycach nag yma ym Mhrifysgol ac Undeb Myfyrwyr Caerdydd.

Cystadlu, wrth reswm, yw hanfod unrhyw Eisteddfod a lle gwell ar gyfer cystadlu iach o’r fath rhwng ein colegau na llwyfan yr Eisteddfod Ryng-golegol? Ond, drwy gynnal a chymryd rhan mewn digwyddiad Cymraeg o’r fath, ymunwn hefyd mewn gweithred genedlaethol fel un gymuned o fyfyrwyr Cymraeg. Wrth ddod ynghyd ar gyfer un o uchafbwyntiau’n calendr blynyddol, byddwn yn datgan yn gwbl glir ein bod am i’r Gymraeg fod yn ganolog – nid ar un diwrnod nac mewn un digwyddiad yn unig – ond i fywyd a gwaith beunyddiol ein prifysgolion, ac yn wir, ein gwlad.

Serch hynny, gyda’r Llywodraeth ar fin cyhoeddi Safonau’r Gymraeg ar gyfer ein hawliau iaith yn y prifysgolion – i’w gweithredu gan y Comisiynydd, gyda’r sector addysg uwch yn mynd drwy gyfnod o newid ac ansicrwydd mawr a gydag etholiadau’r Cynulliad ar y gorwel, cyflwynwn her i’n gwleidyddion ac i benaethiaid ein sefydliadau. Mynnwn bod Safonau’r Gymraeg yn ddigon cadarn i chwyldroi’r sefyllfa bresennol. Mynnwn weld ein myfyrwyr a’n sefydliadau yn cael eu cefnogi a’u cyllido’n deg. A mynnwn bod y Coleg Cymraeg Cenedlaethol – y bu’n rhaid i fyfyrwyr o’n blaenau frwydro mor galed i’w sefydlu – yn cael ei ddiogelu a’i ddatblygu ymhellach, i ddarparu mwy o gyfleoedd fyth i fyfyrwyr ledled Cymru dderbyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.

O ystyried yr hyn a ddigwyddodd ers yr Eisteddfod Ryng-golegol ddiwethaf yn Aberystwyth fis Mawrth, daeth bygythiad o’r newydd i Neuadd Pantycelyn yno a methodd y Refferendwm ar benodi swyddog llawn-amser dros y Gymraeg

Ein her ni fel myfyrwyr yw defnyddio’n llais i sicrhau eu bod nhw – y rheiny mewn grym – yn gweithredu ac yn ateb ein dyheadau. Cyflwyna’r Eisteddfod gyfle arbennig i ni ymgynnull, i atgyfnerthu’n gweledigaeth yn hyderus ymhlith ein

Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016 3


gilydd a chanfod llais unedig fel myfyrwyr Cymraeg – yn ogystal â chystadlu, wrth gwrs. O ran y cystadlaethau unigol, gobeithiwn yn fawr fel Pwyllgor Gwaith y bydd yna rywbeth at ddant pawb o fewn y testunau hyn – boed hynny’n gystadlaethau gwaith cartref, chwaraeon neu yn gystadlaethau llwyfan; gobeithiwn y bydd pawb yn ymuno yn hwyl ac ysbryd yr Eisteddfod mewn un ffordd neu’i gilydd. Cyflwynwyd ambell gystadleuaeth o’r newydd: diwygiwyd ychydig ar ambell gystadleuaeth draddodiadol a gwnaed i ffwrdd ag eraill yn llwyr mewn ymgais i gadw pethau’n gyfoes. Er mwyn hwyluso’r cystadlu, rydym wedi dilyn cynsail testunau’r Urdd ar gyfer rhai cystadlaethau; wedi eu haddasu mewn rhai mannau – ac wedi torri’n cwys ein hunain mewn mannau eraill. I hwyluso’r cystadlu ymhellach, ni fyddwn yn cyhoeddi Yr Awen, sef cylchgrawn o gyfansoddiadau buddugol yr Eisteddfod, nes ar ôl Mehefin 1af, 2016. Wrth gyhoeddi’r testunau felly, cyhoeddwn yn swyddogol fod y cystadlu yn Eisteddfod Ryng-golegol 2016 yn agored! Dymunwn yn dda ichi wrth fynd ati gyda’r cystadlaethau gwaith cartref; edrychwn ymlaen at dderbyn eich ymdrechion,

4 Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016

felly hefyd gyda’r paratoadau ar gyfer y cystadlaethau llwyfan. Cyhoeddir mwy o fanylion am y trefniadau ymarferol ynghyd â manylion Dawns yr Eisteddfod maes o law. Edrychwn ymlaen yn arw at eich croesawu i Gaerdydd yn y flwyddyn newydd. Ar ran y Pwyllgor Gwaith, Steffan Bryn, Swyddog y Gymraeg 2015/16.


Rheolau Cyffredinol 1. Polisi Iaith 1.1 Diben yr Eisteddfod yw hyrwyddo, dathlu a gwarchod y diwylliant Cymreig a Chymraeg. Cymraeg fydd iaith yr Eisteddfod. 1.2 Mae’n rhaid i’r cyfansoddiadau a’r cystadlu fod yn Gymraeg ac eithrio cystadlaethau nad ydynt yn cynnwys iaith o gwbl gan y cystadleuwyr h.y. Dawnsio Disgo, Ffotograffiaeth a.y.y.b. Noder bod yn rhaid i unrhyw eiriau a osodir fod yn Gymraeg. 1.3 Mewn cystadlaethau hunan-ddewisol, dylai’r mwyafrif helaeth o’r gosodiad fod yn Gymraeg, ond caniateir defnydd o iaith arall i ddiben y gosodiad. Ni chaniateir gorddefnydd o’r iaith honno. Bydd y beirniad priodol yn penderfynu ar hyn yn unol â rheolau’r Eisteddfod. 1.4 Yn y cystadlaethau Dawnsio, caniateir unrhyw gerddoriaeth offerynnol yn gyfeiliant, neu gyfeiliant yn yr iaith Gymraeg. 1.5 Y Gymraeg fydd unig iaith y llwyfan.

Addysg Uwch yng Nghymru a thu hwnt. 2.2 Mewn cystadlaethau lle nodir amser penodol, rhaid cadw oddi fewn i’r amser a osodwyd. Nid yw’n dderbyniol cynllunio’n fwriadol i berfformio darn dros yr amser penodedig. Ni fydd yr Eisteddfod yn diarddel cystadleuwyr sydd dros eu hamser, ond fe fydd beirniad y gystadleuaeth honno’n ystyried y ffaith i’r cystadleuydd fynd dros ei amser yn ei ddyfarniad. 2.3 Oni bai i gystadleuydd ymateb yn ddioed pan elwir amdano ar y llwyfan, bydd yn colli‘r hawl i gystadlu. 2.4 Dylid ymdrechu i ddarparu copi ar gyfer y beirniad mewn cystadlaethau hunan-ddewisol lle bo hynny’n briodol. 2.5 Caniateir defnydd o gopïau yng nghystadlaethau llwyfan yr Eisteddfod gan leiafrif y cystadleuwyr a gymerant ran.

3. Gwobrwyo

2. Cystadlu

3.1 Dyfernir pwyntiau yn holl gystadlaethau’r Eisteddfod yn unol â’r Strwythur Marcio.

2.1 Bydd yr Eisteddfod yn agored i holl fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith a dysgwyr mewn colegau Prifysgol a cholegau

3.2 Y coleg â’r nifer uchaf o bwyntiau ar derfyn yr Eisteddfod fydd yn fuddugol.

Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016 5


3.3 Rhoddir gwobrau i’r buddugwyr (os bydd teilyngdod) yng nghystadlaethau’r Gadair, y Goron, Tlws y Cerddor, Medal y Dysgwyr, y Fedal Ddrama a’r Fedal Gelf. Yn ogystal, rhoddir gwobrau i enillwyr y rhuban glas offerynnol, y rhuban glas lleisiol ac i arweinydd y côr SATB buddugol. Cyflwynir Tarian yr Eisteddfod i’r coleg buddugol. 3.4 Ni wobrwyir oni bydd teilyngdod. 3.5 Bydd dyfarniad y beirniad yn derfynol ym mhob achos yng nghystadlaethau’r Eisteddfod. 3.6 Disgwylir y bydd beirniadaeth ysgrifenedig fer ar gyfer gwaith cartref haeddiannol yn nhyb y beirniad. Ni ellir addo y bydd beirniadaeth ysgrifenedig ar gyfer pob cystadleuaeth ar y llwyfan. 3.7 Ni cheir cydradd buddugol yn y cystadlaethau llwyfan nac yn y cystadlaethau Gwaith Cartref. Caniateir, fodd bynnag, osod cydradd ail a/neu gydradd drydydd.

4. Dyddiadau Cau a Chanllawiau Cyflwyno 4.1 Dylid cyflwyno pob darn yn yr adran Gwaith Cartref erbyn hanner dydd, 10fed Chwefror 2016. 4.2 Disgwylir i’r gwaith cartref oll gael ei gyflwyno’n electronig i Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith. Pennir yr union ddull gan y Cadeirydd, a chyfathrebir hyn i Lywydd pob Cymdeithas Gymraeg/ Undeb Myfyrwyr Cymraeg erbyn 5 Chwefror 2016. Cysyllted â’r Pwyllgor Gwaith am unrhyw arweiniad pellach.

6 Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016

4.3 Dylid cyflwyno pob darn o waith yn yr adran Gwaith Cartref gyda ffugenw arno. Dylid defnyddio ffugenw gwahanol ar gyfer pob darn o waith a gyflwynir. Dylai Llywydd pob Cymdeithas Gymraeg/Undeb Myfyrwyr Cymraeg ffurfio dogfen gyda ffug-enwau’r cystadleuwyr oll a’r enw cyfatebol go iawn wrth ei ymyl, a’i anfon i Gadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod. 4.4 Cyfrifoldeb Llywydd Cymdeithas Gymraeg/Undeb Myfyrwyr Cymraeg pob prifysgol yw cyflwyno gwaith cartref myfyrwyr, a rhestr o gystadleuwyr llwyfan a thimau chwaraeon o’u prifysgolion eu hunain. Os nad oes darpariaeth ffurfiol o’r fath mewn coleg, dylai unigolion gyflwyno’r gwaith eu hunain. 4.5 Bydd y darnau gosod ar gyfer yr holl gystadlaethau cyfieithu ar gael ar gais gan Bwyllgor Gwaith yr Eisteddfod. Dylai Llywyddion pob Cymdeithas Gymraeg/Undeb Myfyrwyr Cymraeg wneud y cais hwnnw yn ôl y galw, lle bo’n bosibl. 4.6 Yng nghystadleuaeth Y Fedal Gelf, dylid gyrru ffotograffau o’r gwaith yn yr un modd ag y gwneir i unrhyw waith cartref arall. Dylid tynnu’r hynny o ffotograffau ag y mynnir, ac a wnânt gyfiawnhad gyda’r gwaith. 4.7 Yng nghystadleuaeth Tlws y Cerddor, dylid cyflwyno’r gwaith ar ffurf trac digidol a chopi print o’r gerddoriaeth ynghyd â’i gilydd. Gwneler hyn trwy’r un dull â gweddill y cystadlaethau Gwaith Cartref. Gall y Pwyllgor Gwaith gyhoeddi canllawiau atodol i


gynorthwyo’r trefniadau hyn. 4.8 Dylid rhoi gwybod i Bwyllgor Gwaith yr Eisteddfod pa dimau chwaraeon fydd yn cystadlu ar ran y colegau cyn gynted â phosibl. 4.9 Dylid ymdrechu i ddarparu rhestr o gystadleuwyr llwyfan fore yr Eisteddfod.

5. Materion Gweinyddol 5.1 Bydd penderfyniad Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod yn derfynol ym mhob achos o anghydweld yn yr Eisteddfod.

ynghyd a chystadlu fel Ffederasiwn e.e. casgliad o golegau Llundain. 5.7 Cedwir pob hawl darlledu a thynnu lluniau o ddiwrnod yr Eisteddfod fel y dymunir. Dylid cyflwyno unrhyw wrthwynebiad yn ysgrifenedig i sylw Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith. 5.8 Cedwir pob hawl i gyhoeddi gwaith cartref buddugol yng nghylchgrawn Yr Awen fel y dymunir. Cyhoeddir Yr Awen unrhyw adeg ar ôl yr Eisteddfod, heb fod ynghynt na’r 1af o Fehefin 2016.

5.2 Cyfrifoldeb myfyrwyr unigol a/neu pwyllgor Cymdeithas Gymraeg/ Undeb Myfyrwyr Cymraeg y colegau yw sicrhau bod unrhyw reoliadau hawlfraint wedi eu boddhau. Eu cyfrifoldeb hwythau ydyw cael gafael ar gopïau. 5.3 Bydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod yn penderfynu a yw’r cystadlaethau chwaraeon yn mynd yn eu blaenau yn dilyn ymgynghori gyda swyddogion y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr. 5.4 Cedwir pob hawl i ddiwygio’r testunau gwreiddiol ar alw Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod am ba reswm bynnag. Gwneir pob ymdrech i hysbysu’r colegau o newid o’r fath cyn gynted ag y bo modd. 5.5 Gall y Pwyllgor Gwaith ddiwygio’r rheolau hyn os oes galw. Gwneir pob ymdrech i hysbysu’r colegau o newid o’r fath cyn gynted ag y bo modd. 5.6 Mewn achosion arbennig, gall y Pwyllgor Gwaith ystyried ceisiadau gan golegau a ddymunent ddod

Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016 7


Y STRWYTHUR MARCIO Gwaith Cartref Dyfernir pwyntiau ar gyfer y cystadlaethau Gwaith Cartref fel a ganlyn:

Chwaraeon Dyfernir pwyntiau ar gyfer y cystadlaethau Chwaraeon oll fel a ganlyn:

• 1af – 10 pwynt

• 1af – 20 pwynt

• 2il – 6 phwynt

• 2il – 10 pwynt

• 3ydd – 4 pwynt

• 3ydd – 5 pwynt

Yn achos y prif gystadlaethau Gwaith Cartref, dyfernir y pwyntiau fel a ganlyn:

Y Llwyfan Dyfernir pwyntiau ar gyfer cystadlaethau’r Llwyfan fel a ganlyn:

• 1af – 50 pwynt • 2il – 30 pwynt • 3ydd – 20 pwynt Noder: Y “prif gystadlaethau” yw cystadlaethau Y Gadair; y Goron; Tlws y Cerddor; Medal y Dysgwyr; Y Fedal Ddrama a’r Fedal Gelf.

• 1af – 10 pwynt • 2il – 6 pwynt • 3ydd – 4 pwynt Yn achos cystadleuaeth y Côr SATB, dyfernir pwyntiau fel a ganlyn: • 1af – 30 pwynt • 2il – 20 pwynt • 3ydd – 10 pwynt

8 Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016


Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016 9


Cystadlaethau Gwaith Cartref 1. Barddoniaeth 1.1 C ystadleuaeth y Gadair – Cerdd gaeth neu rydd heb fod dros 100 llinell ar y testun – Cam. Beirniad: Llyr Gwyn Lewis 1.2 Englyn ar y testun – Penbleth 1.3 Englyn digri ar y testun – Chippy Lane 1.4 Englyn coch i gynnwys y geiriau – Clwb Ifor Bach / Clwb Ifor/ Clwb 1.5 Parodi – Hon T H Parry Williams 1.6 Cerdd ddychan i unrhyw un o brifysgolion Cymru 1.7 Limrig “Wrth Skype-io darlithydd un noson...”

2. Rhyddiaith 2.1 Cystadleuaeth y Goron – Darn o ryddiaith greadigol heb fod dros 6,000 o eiriau ar y testun – Gorwelion Beirniad: Anni Llyˆ n 2.2 Stori fer ar y testun – Pont 2.3 Cyfres o dri darn o lên meicro ar y thema – Antur 2.4 Ymson ar y testun – Taith 2.5 Brawddeg - Caerdydd 2.6 Cyfieithu o’r Saesneg i’r Gymraeg

10 Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016

2.7 Cyfieithu o’r Ffrangeg i’r Gymraeg 2.8 Cyfieithu o’r Almaeneg i’r Gymraeg 2.9 Cyfieithu o’r Sbaeneg i’r Gymraeg 2.10 Blog (nas cyhoeddwyd) i Golwg360 am unrhyw bwnc llosg cyfoes 2.11 Araith ar y cwestiwn “A oes lle i ofodau uniaith Gymraeg ym mhrifysgolion y Gymru gyfoes?”

3. Adran y Dysgwyr 3.1 Stori fer ar y testun – Y Ddinas 3.2 Cerdd ar y testun – Taith 3.3 Blog – eich gwers Gymraeg gyntaf 3.4 Cyfres o 5 trydariad yn sôn am eich tymor cyntaf yn y Brifysgol 3.5 Cystadlaethau i Ddechreuwyr Pur/ Myfyrwyr Cymraeg i Bawb 3.6 Cyfres o 5 trydariad yn sôn am eich gwersi Cymraeg 3.7 Cerdyn post at ffrind yn sôn am daith Dyfernir Medal y Dysgwyr i’r gwaith a ddaw i’r brig o blith yr holl fuddugwyr ym mhob cystadleuaeth yn yr Adran hon Noddir Adran y Dysgwyr eleni gan Cymraeg i Bawb, Ysgol y Gymraeg. Mae Cymraeg i Bawb yn fenter newydd sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd ddysgu Cymraeg am ddim ochr yn ochr â’u hastudiaethau ffurfiol.


4. Celf a Ffotograffiaeth 4.1 Y Fedal Gelf – gwaith yn ymateb i’r thema – Hunaniaeth 4.2 Ffotograffiaeth – Casgliad o 4 llun ar y thema – Gobaith

5. Y Fedal Ddrama 5.1 Cyfansoddi drama lwyfan na chymer hwy na 30 munud i’w pherfformio

6. Tlws y Cerddor 6.1 Cyfansoddi darn a fyddai’n addas i’w berfformio yn fyw ar lwyfan. Caiff fod ar gyfer grw ˆ p lleisiol neu grw ˆp offerynol heb fod yn fwy 10 munud

Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016 11


Y Twrnament Chwaraeon Bechgyn • Pêl-droed 11-bob-ochr • Rygbi 7-bob-ochr

Merched • Rygbi 7-bob-ochr • Pêl rwyd • Pêl-droed 7-bob-ochr

12 Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016

.

Bydd pob cystadleuaeth yn cael ei chynnal ar ffurf cystadleuaeth gwpan, brynhawn dydd Gwener y 26ain o Chwefror. Bydd nifer y gemau, ac felly amseroedd pob gêm yn dibynnu ar y nifer y prifysgolion sy’n cymryd rhan yn y gystadleuaeth. Cyhoeddir trefn y penwythnos yn agosach i’r dyddiad.


Cystadlaethau Llwyfan 1. Unawd offerynnol – hunan-ddewisiol

17. Grw ˆ p Dawnsio Creadigol

2. Ensemble offerynnol – hunanddewisiol

18. Deuawd Ddoniol – hunan-ddewisiol

3. Unawd piano – hunan-ddewisiol

19. Cyflwyniad theatrig digri – hunanddewisiol

4. Llefaru unigol – hunan-ddewisiol

20. Meimio i unrhyw gân Gymraeg

5. Unawd cerdd dant – hunan-ddewisiol

21. B ing Bong (un cystadleuydd o bob prifysgol i gystadlu)

6. Clocsio unigol 7. Unawd alaw werin – hunan-ddewisiol 8. Stepio i grw ˆ p o ddau neu fwy 9. Grw ˆ p dawnsio gwerin 10. Deuawd agored neu ddeuawd cerdd dant – hunan-ddewisiol 11. Unawd merched – hunan-ddewisiol

22. Côr Sioe Gerdd – Eryr Pengwern, o’r sioe Heledd Penri Roberts, Linda Gittins a Derec Williams 23. Côr Bechgyn – Anthem, Ulvaeus/ Andersson (tr. Geraint Roberts) Geiriau Cymraeg: Ednyfed Williams

12. Unawd bechgyn – hunan-ddewisiol

24. Côr Merched –Tyred Arglwydd, Eric Jones Geiriau: R. J. Derfel

13. Ensemble lleisiol – hunan-ddewisiol

25. Comedi stand-yp hyd at bum munud.

14. Grw ˆ p llefaru – Croesi’r Paith, Myrddin ap Dafydd Clawdd Cam, Gwasg Carreg Gwalch

26. Côr SATB – Mae’r Dyfodol yn Ein Dwylo Ni Penri Roberts, Linda Gittins a Derec Williams Hawlfraint: Cyhoeddiadau Sain

15. Unawd allan o sioe gerdd – hunanddewisiol 16. Sgets – hunan-ddewisiol

Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016 13


14 Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016


Manylion Cyswllt Dylid cyflwyno unrhyw ymholiadau ynghylch y testunau hyn, neu yn wir, Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016 yn gyffredinol, i’r Pwyllgor Gwaith drwy law Steffan Bryn, Swyddog y Gymraeg, Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd:

m swyddogygymraeg@caerdydd.ac.uk

Gwybodaeth am yr Eisteddfod Ryng-golegol Er gwybodaeth, mae lleoliad a’r prifysgolion fydd yng ngofal cynnal yr Eisteddfod dros y blynyddoedd nesaf fel a ganlyn: • 2017 – Bangor • 2018 – Caerfyrddin • 2019 – Abertawe • 2020 – Aberystwyth • 2021 – Caerdydd

Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016 15


Trefnir yr eisteddfod eleni ar y cyd rhwng swyddog y gymraeg umpc a’r gym gym. am fwy o wybodaeth

swyddogygymraeg@caerdydd.ac.uk @RhyngGol2016

UNDEBMYFYRWYR

Dyddiad cyhoeddi: 18fed Rhagyr 2015 Cyhoeddwr: Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd

16 Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.