Dwedwch Helo Wrth y Mynydd Bychan

Page 1

Dwedwch Helo Wrth y Mynydd Bychan

Popeth rydych angen ei wybod am eich Undeb Myfyrwyr!


CROESO I’CH UNDEB MYFYRWYR Undeb y Myfyrwyr yn Lolfa IV yw craidd gweithgaredd yr undeb. Os ydych chi ar gwrs ym Mhrifysgol Caerdydd, rydych yn aelod awtomatig o Undeb y Myfyrwyr. Mae hynny’n golygu y gallwch fanteisio ar ein gwasanaethau anhygoel, ac mae’r hawl gennych i wneud penderfyniadau allweddol yngl n â’r hyn mae’r Undeb yn ei wneud a sut caiff ei redeg.

Ystafelloedd Cyffredin a Chyfarfod Mae gennym ystafell gyffredin newydd yn Adeilad Neuadd Meirionnydd sy’n cynnwys meicrodon, tegell a sinc i chi allu fwynhau eich cinio. Mae gennym ardal eistedd gyfforddus ar un ochr a byrddi a chadeiriau’r ochr arall i chi allu astudio a defnyddio’r cyfrifiaduron. Eleni, gallwch hefyd archebu ystafelloedd cyfarfod yn yr un adeilad os hoffech eu defnyddio ar gyfer gr p astudio neu cyfarfod cymdeithas. Gall rhain cael eu archebu drwy Neil yn Undeb y Myfyrwyr yn Lolfa IV, neu danfon e-bost at AlexanderN@Caerdydd.ac.uk.

Cysylltu a ni Dewch i’n gweld yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd ar Barc Mynydd Bychan rhwng 09:00 19:00 dydd Llun -Gwener.

Gallwch hefyd ymweld â ni 24/7 yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, Plas y Parc, Caerdydd CF10 3QN.

Ffoniwch ni / 029 2068 7657

Facebook / CardiffStudentsHeath

Ar-lein / cardiffstudents.com/heath

Instagram / CardiffStudents

Trydar / @HeathParkCSU

Youtube / CardiffStudents


Niko Ciecierski-Holmes IL Campws Parc Y Mynydd Bychan

Fy rôl i yw cynrychioli’r holl fyfyrwyr sy’n astudio ar Barc y Mynydd Bychan. Rydw i yma i’ch annog i wneud y gorau o’ch amser yn y brifysgol a thaclo unrhyw faterion sy’n codi. Dwi’n annog i chi gymryd rhan gymaint â phosib gyda’r Undeb, o chwaraeon a chymdeithasau, i gynrychiolwyr academaidd, a llawer mwy! Dwi’n edrych ymlaen i gyfarfod cymaint ohonoch â phosib ac mae fy nrws o hyd ar agor.

Helo, Neil ydw i, a fi yw’r aelod staff Undeb y Myfyrwyr sy’n gyfrifol am fyfyrwyr y Mynydd Bychan. Gallaf eich helpu i gael mynediad i’r holl wasanaethau ar gampws y Mynydd Bychan, yn ogystal â delio gyda ymholiadau neu materion ynghylch cymdeithasau, clybiau neu Undeb y Myfyrwyr yn gyffredinol. Gallwch hefyd brynu offer ysgrifennu, dillad brand Prifysgol Caerdydd a nwyddau am ddim felly dewch heibio Undeb y Myfyrwyr yn y Mynydd Bychan yn Lolfa IV i weld beth sydd ar gael i chi. Rydym ar agor ddydd Llun i ddydd Gwener bob wythnos, rhwng 09:00 – 17:00.

Eleni, byddaf yn gweithio ar y canlynol: • Ddod a mwy o wasanaethau’r undeb i Undeb y Myfyrwyr yn y Mynydd Bychan a gwella ei bresenoldeb • Gwella Cefnogaeth Myfyrwyr yn y Mynydd Bychan • Cael mwy o fyfyrwyr y Mynydd Mychan i gymryd rhan yng ngweithgareddau’r undeb

Neil Alexander Cydlynydd Parc y Mynydd Bychan


16-17

16-17 Mae’r Swyddogion Etholedig yn dîm o fyfyrwyr sy’n cael eu dewis gan fyfyrwyr eraill i arwain Undeb y Myfyrwyr. Maen nhw’n cynrychioli barn myfyrwyr ac yn arwain gweithgareddau myfyrwyr ym mhob agwedd o fywyd myfyrwyr fel Addysg i Israddedigion, Ôl-raddedigion a myfyrwyr Gofal Iechyd, chwaraeon, cymdeithasau a lles. Caiff y Swyddogion Etholedig eu harwain gan Lywydd Undeb y Myfyrwyr.


Y PETHAU RYDYM YN EU GWNEUD AR EICH RHAN Mae Undeb y Myfyrwyr yma i’ch helpu â phob agwedd o fywyd myfyrwyr. Os ydych am wneud ffrindiau newydd, gwella eich cwrs, canfod swydd neu ddarganfod rhywbeth newydd, ein gwaith ni yw gwneud i hyn ddigwydd.

Rho Gynn

ig Arni

Siop Swyddi Mae’n ffordd wych o ennill arian ychwanegol ochryn-ochr â’ch cwrs. I ganfod mwy am y Siop Swyddi a sut i gofrestru, ewch i cardiffstudents.com/ Jobshop.

Gwirfoddoli Caerdydd Gwnewch y byd yn well lle i rywun arall drwy ymuno ag un o’n nifer fawr o brosiectau gwirfoddoli yn cardiffstudents.com/volunteering.

Cyngor i Fyfyrwyr Mae’r ganolfan Cyngor i Fyfyrwyr yn darparu cyngor a gwybodaeth, eiriolaeth, cynrychiolaeth a chefnogaeth drwy wasanaeth am ddim, anhysbys, di-duedd ac annibynnol i aelodau Undeb y Myfyrwyr. Darganfyddwch mwy ar cardiffstudents.com/ advice. eb y yn digwydd yn Und Mae cryn lawer h ganfod mwy AR lwc gal r, wy fyr My cardiffstudents.com

Gwasanaeth Datblygu Sgiliau Cynyddwch eich cyflogadwyedd drwy ddilyn un o’n cyrsiau datblygiad proffesiynol. Cofrestrwch yn cardiffstudents.com/sds.

Llais Myfyrwyr Gwnewch eich cwrs yn well drwy fod yn Gynrychiolydd Academaidd Myfyrwyr. Byddwn yn gwneud yn sicr fod y Brifysgol yn clywed eich barn. Sicrhewch fod eich llais i’w glywed drwy fwrw golwg ar cardiffstudents.com/studentvoice.

Rho Gynnig Arni Mae Rho Gynnig Arni yn fenter gan Undeb y Myfyrwyr yn cynnig cyfleoedd a sesiynau blasu ar gael i holl fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Mae’n gyfle i chi drio rywbeth cyn ymrwymo’n llawn, megis clybiau, chwaraeon, gwirfoddoli, cyrsiau ieithoedd a datblygu sgiliau. Darganfyddwch mwy ar cardiffstudents.com/giveitago.


CYRSIAU GOFAL IECHYD A CHYFRYNGAU CYMDEITHASOL Dylai myfyrwyr a phroffesiynwyr gofal iechyd fod yn rhydd i wneud y defnydd gorau o’r manteision sy’n perthyn i gyfryngau cymdeithasol. Serch hynny, gall eich defnydd o gyfryngau cymdeithasol a’ch gweithgarwch ar-lein effeithio ar eich cymhwyster i ymarfer, ac mewn rhai achosion, gall olygu y cewch eich bwrw oddi ar eich cwrs. Gynted y byddwch yn ymuno â chwrs gofal iechyd, ystyrir eich gweithgarwch ar-lein i fod yn dystiolaeth o’ch proffesiynoldeb. Dyma rai hintiau handi ar gyfer eich defnydd o Gyfryngau Cymdeithasol yn y Brifysgol.

1

2

Mae’r hawl i siarad yn rhydd yn rhan hanfodol o’n cymdeithas. Serch hynny, rhoddir sylw manwl i’r hyn y byddwch yn ei ddweud os yw pobl yn anghytuno neu’n ei gael yn sarhaus. Dyma’r hyn y bydd angen i chi baratoi ar ei gyfer pan fyddwch yn gosod neges ar gyfryngau cymdeithasol. Os na fyddech chi’n dweud hyn ar lafar, peidiwch â’i ddweud ar-lein.

y Mynydd Parc s w Camp Bychan

3

Cadwch mewn cof y gall cleifion, cydweithwyr, sefydliadau a chyflogwyr weld yr hyn y byddwch yn ei osod ar-lein. Os yw hyn yn groes i safonau moesegol, dylech fod yn ymwybodol y gallwch gael eich dal i gyfrif am yr hyn rydych yn ei ddweud.

Meddyliwch am yr hyn rydych yn ei ysgrifennu, yn arbenn ig os ydych chi wed i cael diwrnod anodd neu os ydych yn teim lo’n rhwystredig ynglyn â rhywbeth.

Gall fod yno ffyrdd eraill o ddylanwadu’n bositif ar y sefyllfa.


Meddyliwch sut y gellid dehongli pethau Mae cyfryngau cymdeithasol yn gwneud ein barn yn gyhoeddus, ac yn y proffesiynau a astudir ar Barc y Mynydd Bychan - mae mwy o graffu cyhoeddus nag erioed y dyddiau hyn. Os na fyddech chi’n dweud rhywbeth yng nghyddestun eich darlithoedd neu ar leoliad gwaith, peidiwch â’i ddweud ar-lein chwaith. Peidiwch â chwyno am eich lleoliad na’ch cleifion arlein, yn hytrach siaradwch â’ch tiwtor neu Gynrychiolwyr Academaidd.

Peidiwch â gweithredu’n groes i gyfrinachedd cleifion Mae mwy i gyfrinachedd cleifion na pheidio â datgelu eu henwau; gall hefyd gynnwys gosod fideos neu luniau o’r cleifion eu hunain, neu ddatgelu rhifau ystafelloedd a chofnodion cleifion. Peidiwch â chynnwys disgrifiadau o gleifion, eu cyflwr iechyd a/neu driniaeth. Mae hefyd yn amhroffesiynol cyfeirio at gleifion mewn ffordd sarhaus.

Amddiffyn eich preifatrwydd Newidiwch eich gosodiadau ar Facebook a rhwydweithiau cyfryngau cymdeithasol eraill i sicrhau nad yw’n hawdd i gleifion gael hyd i chi. Rydym yn argymell nad ydych yn ychwanegu cleifion na staff ysbyty fel ffrindiau ar Facebook, a gwnewch yn sicr fod eich gosodiadau cyfryngau cymdeithasol yn breifat.

Canfod y cyngor gorau Darllenwch gyngor gan gyrff allanol ar gyfryngau cymdeithasol, gan fod canllawiau penodol yn perthyn i wahanol broffesiynau ar gael gan gyrff megis y Cyngor Meddygol Cyffredinol, Coleg Brenhinol y Nyrsys, Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi, Cymdeithas Therapyddion Galwedigaethol Prydain a Choleg y Therapyddion Galwedigaethol, Cyngor Deintyddol Cyffredinol, a Choleg Brenhinol y Radiolegwyr. Mae’r canllawiau hyn i’w gweld ar eu gwefannau.

Os oes gennych chi bryderon ynglyˆn â chyfryngau cymdeithasol, e.e. eich ymddygiad neu aflonyddu, dewch i siarad â Chyngor Myfyrwyr. Nhw yw gwasanaeth cynghori annibynnol, cyfrinachol a di-dâl Undeb y Myfyrwyr. Gall Cyngor Myfyrwyr ddod i gyfarfod â chi yn Undeb y Myfyrwyr yn y Mynydd Bychan neu yn adeilad yr Undeb yn Cathays. cardiffstudents.com/advice

Student Advice Cyngor i Fyfyrwyr


CYMDEITHASAU Os rydych yn barod wedi meddwl ymuno â ychydig o’r 200 o gymdeithasau, peidiwch anghofio fod gennym lwythi o gymdeithasau’n benodol ar gyfer myfyrwyr Parc y Mynydd Bychan.

Bob blwyddyn rydym yn cynnal RAG y Mynydd Bychan lle rydym yn codi miloedd o bunnoedd ar gyfer elusennau anhygoel. Gwnewch yn si r eich bod yn cadw golwg am ddigwyddiadau RAG ddechrau 2017.

Mae’r rhain yn cynnwys amrywiaeth o gymdeithasau’n seiliedig ar gyrsiau, cymdeithasau gwirfoddoli, cymdeithasau cerddoriaeth a chymdeithasau addysgol. Boed os ydych eisiau cyfarfod pobl newydd, chwarae offeryn neu gwneud gwahaniaeth i fywyd rhywun arall, dylech ymuno â chymdeithas. Edrychwch ar cardiffstudents.com/societies am fwy o wybodaeth.

Yn ogystal â chymdeithasau’n seiliedig ar y Mynydd Bychan, mae hefyd gennym llawer o gymdeithasau arall yn Undeb y Myfyrwyr sy’n agored i bawb. O ddadlau i dawnsio bola; pobi i Cymdeithas Iddewon. Drwy gydol y flwyddyn mae ein cymdeithasau yn cydweithio a chynnal digwyddiadau megis G yl Fringe Caerdydd a Noson Fawreddog Cymdeithasu.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, dewch i 3ydd llawr Undeb y Myfyrwyr i sgwrsio â Milly Dyer, eich Is Lywydd Cymdeithasau. Gallwch e-bostio VPSocieties@Caerdydd.ac.uk, trydar @SocietiesCSU neu ffonio 029 2078 1427. VPSocieties@Caerdydd.ac.uk 029 2078 1427 @SocietiesCSU


UNDEB ATHLETAIDD Mae’n gyfle perffaith i gyfranogi mewn chwaraeon fel myfyriwr gofal iechyd. Sefydlwyd Farsiti Meddygaeth yn ddiweddar, lle mae timoedd chwaraeon myfyrwyr Meddygaeth Prifysgol Caerdydd y cystadlu yn erbyn myfyrwyr Meddygaeth Prifysgol Bryste am y tlws. Mae’r clybiau chwaraeon sy’n arbennig ar gyfer myfyrwyr Meddygaeth a Gofal Iechyd yn cynnwys: Rygbi Myfyrwyr Meddygaeth (dynion), Pêl-fasged Gofal Iechyd, Pêl-droed Myfyrwyr Meddygaeth (dynion), Hoci Myfyrwragedd Meddygaeth, Hoci Myfyrwyr Meddygaeth (dynion), Sboncen Myfyrwyr Meddygaeth a Pêl-fasged Myfyrwyr Meddygaeth. Mae gan Brifysgol Caerdydd dros 65 o glybiau

chwaraeon gwahanol felly mae’n lle gwych i gymryd rhan, ymarfer corff a chwrdd â ffrindiau newydd. Mae’r Undeb Athletaidd yn cynnig chwaraeon clasurol fel badminton, rygbi a phêl-rwyd, yn ogystal â chwaraeon fel pêl-droed Americanaidd, crwydro ogofeydd a frisbee. Mae gennym dimoedd cystadleuol yn ogystal â’r cyfle i drio rywbeth nad ydych wedi o’r blaen. Fel myfyrwyr Meddygaeth a Gofal Iechyd, gallwch ymuno â unrhyw un o’r clybiau hyn, yn ogystal â rhai chwaraeon Meddygaeth. Mae yna restr llawn o’r holl chwaraeon a mwy o wybodaeth amdanynt ar cardiffstudents.com/au.

Farsiti M

e d dy g o l

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, dewch i 3ydd llawr Undeb y Myfyrwyr i gael sgwrs â Elin Harding, eich Is Lywydd Chwaraeon a Llywydd yr Undeb Athletaidd. Neu e-bostiwch hi ar VPSports@Caerdydd.ac.uk, trydar @AUPresidentCSU, neu ffonio 029 2078 1438. VPSports@Caerdydd.ac.uk 029 2078 1438 @AUPresidentCSU


Cynrychiolydd Academaidd Myfyrwyr Mae Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr yn fyfyrwyr gwirfoddol sy’n lleisio sylwadau, pryderon a chwestiynau eu cyd-fyfyrwyr yn eu Hysgol. Mae yna dros 1,100 o Gynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr ar draws Prifysgol Caerdydd yn cynrychioli dros 30,000 o fyfyrwyr. Maent yn casglu adborth o’u cwrs ac yn eu cyflwyno i Baneli Staff Myfyrwyr a Bwrdd Astudiaeth i sicrhau fod llais y myfyrwyr yn cael eu cymryd o ddifri ar bob lefel mynediad o’r brifysgol.

Dewch yn Gynrychiolydd Mae cynrychiolwyr yn chwarae rôl bwysig iawn yn rhoi p er i lais y myfyrwyr. Nid oes angen

unrhyw brofiad; dim ond brwdfrydedd a meddwl agored. Bydd y tîm Llais Myfyrwyr yn rhoi hyfforddiant a chefnogaeth yng nghampws y Mynydd Bychan, fel y byddwch yn barod ar gyfer y rôl. Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â StudentReps@Caerdydd.ac.uk. Fel arall gallwch gysylltu â swyddfa eich ysgol ac fe fydd ganddyn nhw wybodaeth am eich Cydlynydd Cynrychiolwyr Myfyrwyr.

Beth yw’r manteision i mi? Fel myfyrwyr Parc y Mynydd Bychan, mae eich anghenion addysg fel arfer yn arbenigol ac yn gofyn am sylw penodol. Felly drwy ddod yn Gynrychiolydd gallwch gael dweud ar eich addysg, helpu siapio eich cwrs a thynnu sylw ar lle mae angen gwelliannau yn y Mynydd Bychan. Mae bod yn Gynrychiolydd yn gyfle perffaith i ymgysylltu â myfyrwyr Meddygaeth a Gofal Iechyd, ac fe fyddwch yn cwrdd â nifer o bobl hefyd. Bydd cyfle i chi adeiladu rhwydweithiau gyda staff y Brifysgol a ymgysylltu â uwch academyddion. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, dewch i 3ydd llawr Undeb y Myfyrwyr i sgwrsio â Mo Hanafy, eich IL Addysg. VPEducation@Caerdydd.ac.uk 029 2078 1428 @EducationCSU


Hy

da

t4

0%

Canllaw Answyddogol i Feddygaeth

i ff

wr

Darllen a argymhellir ar gyfer Myfyrwyr Gofal Iechyd Caerdydd Gwerslyfrau Arobryn Ar Gael i’w Prynu yn y Ffair Gofal Iechyd Gwerslyfrau ar gael am bris gostyngedig o’r Stondin Canllaw Answyddogol i Feddygaeth

£20.99

£11.99

(RRP £34.99)

(RRP £19.99)

Canllaw Answyddogol i Radioleg •

Dysgu sut i ddehongli Pelydrau-X, CTs, MRIs a sganiau eraill Yn cynnwys cwricwlwm cyfan radioleg israddedig Cenedlaethol drwy achosion clinigol perthnasol Enillydd yng Ngwobrau Llyfr y Flwyddyn BMA Enillydd Gwobr Adnodd Israddedig Radioleg Sefydliad Prydeinig y Flwyddyn Argymhellir gan Coleg Brenhinol Radiolegwyr

 TheUnofficialGuideToMedicine  @UGTMedicine  The_UGTM  @the_UGTM

Canllaw Answyddogol i Ymchwil Meddygol, Archwilio a Dysgu •

Popeth sydd angen arnoch i wybod am ymchwil a dysgu, ac agweddau sylfaenol gradd meddygol Yn darparu awgrymiadau ymarferol ar gyfer eich CV gan roi mantais gystadleuol i chi Enillydd yng Ngwobrau Llyfr y Flwyddyn BMA Golygwyd gan enillydd Gwobr Arweinydd Newydd gan y Gymdeithas ar gyfer Astudiaeth Addysg Feddygol

unofficialguidetomedicine.com Rhagolwg o’r tudalennau enghreifftiolo’n llyfrau

dd



Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd

yn falch o gyflwyno

Mae Rhowch Gynnig Arni yn galendr llawn o gyfloedd a gweithgareddau anhygoel i chi roi cynnig arnynt tra’ch bod yn fyfyriwr yng Nghaerdydd. Mae Rhowch Gynnig Arni’n wych os ydych chi’n fyfyriwr gofal iechyd, gan y gall ffitio i mewn i’ch amserlen brysur. Mae’n rhoi cyfle i chi roi cynnig ar unrhyw un o’n 250 o gymdeithasau a chlybiau chwaraeon, dysgu iaith newydd, datblygu sgiliau, gwirfoddoli, mynd ar deithiau diwrnod a phen-wythnos, a chymaint mwy. Yr amcan yw eich annog i roi cynnig ar bethau newydd, cwrdd â phobl newydd a chael profiad anhygoel tra byddwch yng Nghaerdydd. Hefyd, rydym yn trefnu teithiau i wahanol ddinasoedd bob mis am lai na £150, os ydych chi am deithio i fannau yn Ewrop. Buasem wrth ein bodd pe baech chi’n ymuno â ni! I weld beth sy’n digwydd yn Rhowch Gynnig Arni, ewch i cardiffstudents.com/


Will you pick the Elsevier Golden Ticket? Come and visit the Elsevier Stand and take part in the lucky dip. Everyone wins a prize, guaranteed!

ElsevierMedStudents

www.elsevierhealth.co.uk


Newydd gasglu eich cerdyn myfyriwr? Edrych am waith eleni?

Cofrestrwch â Siopswyddi Cam 1

Cofrestru ar-lein ar: cardiffstudents.com/jobshop

Cam 2

Dewch â’ch CERDYN MYFYRIWR a’r dogfennau adnabod canlynol i’r Siopswyddi: • UPasbort DU NEU • Tystysgrif geni DU + prawf o’ch

NEU gallwch hefyd gofrestru yn: Undeb Myfyrwyr Parc y Mynydd Bychan ddyddiau’r wythnos 09:00 - 17:00. • Cerdyn Adnabod Rhyngwladol • Pasbort Di-EEA + BRP NEU

FISA mewn pasbort cyfredol + copi printiedig o DDYDDIADAU TYMOR ar gyfer 2016/17

rhif Yswiriant Cenedlaethol • Pasbort EEA NEU

4ydd llawr, Undeb Myfyrwyr

029 2078 1535/6

Jobshop@caerdydd.ac.uk


map O’r mynydd bychan Ymgynullfan i’r Ganolfan Chwaraeon Ymgynullfan i T Dewi Sant Ymgynullfan i Ysbyty’r Plant Drwodd i’r Maes Parcio

Arosfan Bysiau A. 95, A, B B. 1, 15, 38, 38A, 51, 64, 65, 95, A, B, X C. 2, 15, 38, 64/65, 95, 53, A, B D. 1, 51, 64/65, 95, A, B, X E. 2, 53, 64/65, 95, A, B F. 95, X30 G. 1, 15, 38, 38A, 51, 64, 65, 95 H. 1, 15, 38, 38A, 51, 64, 65, 95, A, B, C

Allwedd 1. C affi Caeau’r Mynydd Bychan 2. Canolfan Graddedigion Parc y Mynydd Bychan 3. Theatrau Darlithio 4. Ysbyty’r Plant

5. 6. 7. 8. 9.

Y Llyn Canolfan Cymorth i Fyfyrwyr T Dewi Sant Canolfan Michael Griffith T Ceredigion

10. Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol 11. Undeb y Myfyrwyr ar Barc y Mynydd Bychan 12. IV Lounge


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.