SPRING ELECTIONS CANDIDATE MANIFESTOS
MAKE YOUR CHOICE
ETHOLIADAU’R GWANWYN MANIFFESTOS YMGEISWYR
GWNEWCH EICH DEWIS
2
MANIFESTO 2019
ELECTIONS EXPLAINED Your Students’ Union holds elections in order to allow you to choose your student leaders for the next academic year. There are seven full-time Sabbatical Trustees who will work on a full-time basis, taking a break from their studies or immediately after graduation, and ten part-time Campaign Officers who will work on a voluntary basis alongside their ongoing studies. They are your voice and act as your representatives in the Union, University, and wider community, fighting for you on an institutional, local and national level. Candidates produce manifestos that contain the ideas and principles of their campaigns. Ask yourself if they display the priorities as well as the key creative and communication skills that you would like to see in someone who is representing you and your needs.
What positions are available? We will be electing students for the following positions: FULL-TIME SABBATICAL TRUSTEES: (Seven different positions available). These positions are taken up from June 17th until June the following year. These positions are fulltime jobs so students have to take a year out during their time in office, unless they are graduating the same year. PART-TIME CAMPAIGN OFFICERS: (Nine different positions available). These positions are taken up in the beginning of July for the duration of the following academic year (2019/2020) and are carried out alongside their studies.
WHY VOTE? Simply put: As a student or postgraduate researcher at Cardiff University you will be affected by the decisions made by those elected in this election. By voting, you have the opportunity to vote for the things that you want developed and improved in both the University and the Union. Every single student at Cardiff university is entitled and encouraged to vote in the students’ union elections. It doesn’t matter if you are a home or international student, full-time or part-time student, an undergraduate or postgraduate taught student or a postgraduate researcher. As George Jean Nathan famously said: 'Bad officials are elected by good citizens who do not vote'.
TRANSFERABLE VOTING Transferable voting is a system which allows voters to list the candidates in order of preference. The successful candidate will need more than 50% of the total number of votes in order to win. The candidate with the lowest number of votes is eliminated and their votes transferred. If you don’t believe any of the candidates standing for a position have the qualities you feel are valuable, or you do not agree with their manifesto, you can vote R.O.N. which stands for 're-open nominations'. For roles with multiple positions those who do not receive more votes than R.O.N will not be elected.
MANIFESTO 2019
3
ESBONIO'R ETHOLIADAU Mae eich Undeb Myfyrwyr yn cynnal etholiadau er mwyn caniatáu i chi ddewis eich arweinwyr ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. Mae yna saith Swyddog Etholedig llawnamser a fydd yn gweithio ar sail lawn-amser, gan gymryd egwyl o’u hastudiaethau neu’n ymgymryd â’r swydd yn syth ar ôl graddio, a deg o Swyddogion Etholedig rhan-amser a fydd yn gweithio’n wirfoddol ynghyd â’u hastudiaethau. Nhw yw eich llais, a byddant yn gweithredu fel eich cynrychiolwyr yn yr Undeb, y Brifysgol ac yn y gymuned yn ehangach; yn brwydro ar eich rhan ar lefel sefydliadol, lleol a chenedlaethol. Mae ymgeiswyr yn cynhyrchu maniffestos sy’n cynnwys syniadau ac egwyddorion eu hymgyrchoedd. Holwch eich hun os ydynt yn dangos y blaenoriaethau yn ogystal â'r sgiliau creadigol a chyfathrebu allweddol yr hoffech chi eu gweld mewn rhywun sy’n eich cynrychioli chi a’ch anghenion.
Pa swyddi sydd ar gael? Byddwn yn ethol myfrywyr ar gyfer y swyddi canlynol: SWYDDOGION ETHOLEDIG LLAWN-AMSER: (Mae 7 swydd wahanol ar gael). Mae’r swyddi hyn yn dechrau ar 17eg Mehefin hyd Fehefin y flwyddyn ganlynol. Swyddi llawnamser yw’r rhain, felly rhaid i fyfyrwyr gymryd blwyddyn allan o’u hastudiaethau ar gyfer ymgymryd â hwy, oni fyddant yn graddio’r flwyddyn honno. SWYDDOGION RHAN-AMSER: (Mae nawr gwahanol swydd ar gael). Mae’r swyddi hyn yn cychwyn tua dechrau Gorffennaf, ac maent yn parhau am weddill y flwyddyn academaidd nesaf (2019/2020) a chant eu gwneud ochr-ynochr â’u hastudiaethau.
PAM PLEIDLEISIO? Yn syml: Fel myfyriwr neu ymchwilydd ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd, cewch eich effeithio gan y penderfyniadau a wneir gan y rheini a etholir yn yr etholiad hwn. Drwy bleidleisio, mae gennych y cyfle i ddylanwadu ar y pethau rydych chi eisiau eu datblygu a’u gwella yn y Brifysgol a’r Undeb. Mae gan bob myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd yr hawl i bleidleisio yn etholiadau Undeb y Myfyrwyr. Nid oes ots os ydych chi'n fyfyriwr cartref neu fyfyriwr rhyngwladol, yn astudio'n llawn-amser neu rhan amser, yn fyfyriwr is-raddedig neu ôl-raddedig ymchwil neu a addysgir. Fel y dywedodd George Jean Nathan: 'Caiff swyddogion gwael eu hethol gan ddinasyddion da sydd ddim yn pleidleisio'.
PLEIDLEISIAU SY’N TROSGLWYDDO Mae’r system o bleidleisiau sy’n trosglwyddo’n caniatáu i bleidleiswyr restru’r ymgeiswyr yn ôl eu hoffter ohonynt. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus angen mwy na 50% o’r cyfanswm o bleidleisiau er mwyn ennill. Bydd yr ymgeisydd gyda’r nifer lleiaf o bleidleisiau yn cael eu gwaredu a’u pleidleisiau’n cael eu trosglwyddo. Os ydych o’r farn nad oes gan unrhyw un o’r ymgeiswyr ar gyfer y swydd y nodweddion angenrheidiol, neu os ydych yn anghytuno a’u maniffesto, gallwch bleidleisio dros A.A.E. sef Ail Agor Enwebiadau. Ar gyfer rolau gyda swyddi lluosog, ni fydd y rhai nad ydynt yn derbyn mwy o bleidleisiau na A.A.E yn cael eu hethol.
4
MANIFESTO 2019
STUDENTS’ UNION PRESIDENT LLYWYDD UNDEB Y MYFYRWYR
The Students’ Union President leads the Sabbatical Trustee team and the Union as a whole. They act as the key link to the University Vice-Chancellor, Pro-Vice Chancellors, Council, and Senate, as well as the NUS and other key stakeholders. The role of the President includes acting as the chair of the Board of Directors and Trustees, along with being responsible for the financial position and performance of the Students’ Union.
Mae Llywydd yr Undeb Myfyrwyr yn arwain tîm y Swyddogion Etholedig a’r Undeb yn gyffredinol. Mae’n gweithredu fel cyswllt allweddol ag Is-ganghellor y Brifysgol, Dirprwy Is-ganghellor Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd, y Cyngor a’r Senedd, yn ogystal ag UCM a rhanddeiliaid allweddol eraill. Mae rôl y Llywydd hefyd yn cynnwys gweithredu fel cadeirydd Bwrdd y Cyfarwyddwyr ac Ymddiriedolwyr, ynghyd â bod yn gyfrifol am sefyllfa ariannol a pherfformiad Undeb y Myfyrwyr.
MANIFESTO 2019
STUDENTS’ UNION PRESIDENT LLYWYDD UNDEB Y MYFYRWYR
AMR ALWISHAH Shwmae, I’m your VP Welfare & Campaigns. This year I’ve made groundbreaking achievements: implemented 100+ gender-neutral toilets, secured £4k+ for Black History Month, abolished letting agency fees from Sep-19 & more: bit.ly/ amrachievements I advocate for a Diverse, Representative and Empowering Union! #WeDeserveBetter EDUCATION PAID Placement opportunities for all courses Compassionate EXTENUATING CIRCUMSTANCES procedure Fight for EU students post-Brexit Placement students: Subsidised travel costs and easier access to student support services Fight for rights of postgraduate students that teach #WeDeserveBetter LIBERATION Make CU CARBON NEUTRAL Establish SU sexual harassment and hate crime REPORTING CENTRE More counsellors, safe spaces (BME/LGBT+) & workshops to promote open conversations about mental health Lobby for more diverse curriculum Demand SUPPORT & FAIR treatment of international students Develop University-wide equality, diversity & inclusion policy Enhance campus-wide disability access Promote religious and cultural holidays #WeDeserveBetter SERVICES UPGRADE eduroam & routers in halls HOUSING ACCREDITATION SCHEME FREE gym membership Create equivalent SU at Heath Open day for local businesses to sponsor societies Great hall REDEVELOPMENT Enhance existing sports facilities & Invest in NEW spaces FREE laundry services in residences FREE sanitary products campus wide More quiet spaces for prayer & meditation That’s right we ALL deserve better! Vote Amr#1 for President Shwmae, fi yw eich IL Lles ac Ymgyrchoedd. Eleni rydw i wedi cyflawni llwyddiannau arloesol: rhoi 100+ o doiledau niwtral o ran rhyw, sicrhau £4k+ ar gyfer Mis Hanes Pobl Dduon, diddymu ffioedd asiantaeth gosod o Fedi 19 ymlaen a mwy: bit.ly/ amrachievements Rydw i’n dadlau dros Undeb Amrywiol, Cynrychioladol ac Awdurdodol! #RydynNi’nHaedduGwell ADDYSG Cyfleoedd mynd ar leoliad CYFLOGEDIG i bob cwrs Gweithdrefn dosturiol ar gyfer AMGYLCHIADAU ESGUSODOL Brwydro dros fyfyrwyr yr UE wedi Brexit Myfyrwyr ar leoliad: Cymorthdalu costau teithio a hwyluso mynediad at wasanaethau cefnogi myfyrwyr Brwydro dros hawliau myfyrwyr ôl-raddedig sy’n dysgu #RydynNi’nHaedduGwell RHYDDID Gwneud PC yn GARBON NIWTRAL Sefydlu CANOLFAN ADRODD aflonyddu rhywiol a throseddau casineb yn yr Undeb Mwy o gynghorwyr, mannau diogel (BME/LHDT+) a gweithdai i hyrwyddo sgyrsiau agored ynglŷn ag iechyd meddwl Lobio am gwricwlwm mwy amrywiol Mynnu CEFNOGAETH a thriniaeth DEG i fyfyrwyr rhyngwladol Datblygu polisi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar draws y Brifysgol Ehangu mynediad ar gyfer pobl anabl ar draws y campws Hyrwyddo gwyliau crefyddol a diwylliannol #RydynNi’nHaedduGwell GWASANAETHAU UWCHRADDIO eduroam a llwybryddion mewn neuaddau CYNLLUN ACHREDU TAI Aelodaeth campfa AM DDIM Creu Undeb y Myfyrwyr cyfwerth yn y Mynydd Bychan Diwrnod agored ar gyfer busnesau lleol i noddi cymdeithasau AILDDATBLYGIAD Y Neuadd Fawr Ehangu cyfleusterau chwaraeon presennol a buddsoddi mewn gofodau NEWYDD Gwasanaethau golch dillad AM DDIM mewn neuaddau preswyl Cynnyrch misglwyf AM DDIM ar draws y campws Mwy o fannau tawel ar gyfer gweddïo a myfyrdod Rydyn ni i GYD yn haeddu gwell! Pleidleisiwch Amr#1 fel Llywydd
5
JACKIE YIP ! VOTE YEP TO YIP ! Your Vice President Education ALREADY achieved: More PLUGS and EXTENSION CABLES in libraries ENDED 0% LATE SUBMISSION mark for September AUTOMATIC lecture recording unless opted out INCREASED book allowance from 15 to 35 SATURDAY EXAM BUS MORE E-books/E-journals FAIRER marking, only failed assessments are capped, not the entire module If elected, I will make Student Life: 1. INCLUSIVE: More INVESTMENT in MENTAL HEALTH support FREE DRUG and STI TESTING KITS in SU Protecting INTERNATIONAL students and HOME student’s rights to STUDY/ WORK/VOLUNTEER ABROAD LGBT+ SPECIFIC support Continue working at HEATH PARK ONCE A WEEK DONATE Surplus food in Uni and SU to the homeless Fairer EXTENUATING CIRCUMSTANCES POLICY Support implementation of WELSH LANGUAGE OFFICER 2. HAPPY: More LECTURE RECORDINGS KETTLES and MICROWAVES in ALL study spaces Get a GREGGS on CAMPUS TEDTALK guest lecture series Get visiting THERAPY DOGS QUEUE JUMP for committee members in AU and FRESHERS FAYRE 3. AFFORDABLE: REFURBISHED GYM and MONTHLY PAYMENTS FREE TAMPONS in the SU CHEAPER CATERING across campus CHEAPER TRANSPORT across the city and more NEXTBIKES ! PLEIDLEISIWCH IE I YIP ! Eich Is-lywydd Addysg YN BAROD wedi llwyddo i: Mwy o BLYGIAU a CHEBLAU YMESTYN mewn llyfrgelloedd RHOI DIWEDD AR farc 0% am GYFLWYNIADAU HWYR ar gyfer mis Medi Recordio darlithoedd yn AWTOMATIG heblaw bod ysgol yn optio allan CYNYDDU nifer benthyg llyfrau o 15 i 35 BWS ARHOLIADAU DYDD SADWRN MWY o E-lyfrau/E-gylchgronau Marcio TECACH, dim ond asesiadau a fethwyd sy’n cael eu capio nid yr holl fodiwl Os caf fy ethol, byddaf yn gwneud Bywyd Myfyrwyr yn: 1. CYNHWYSOL: Mwy o FUDDSODDIAD mewn cefnogaeth IECHYD MEDDWL PECYNNAU PROFI AM HEINTIAU A DROSGLWYDDIR DRWY RYW a PHECYNNAU PROFI AM GYFFURIAU AM DDIM yn yr UNDEB Gwarchod hawliau myfyrwyr RHYNGWLADOL a myfyrwyr CARTREF i ASTUDIO/ GWEITHIO/GWIRFODDOLI DRAMOR Cefnogaeth BENODOL i LHDT+ Parhau i weithio ym MHARC Y MYNYDD BYCHAN UNWAITH YR WYTHNOS. Rhoi bwyd gwarged y Brifysgol a’r Undeb yn GYFRANIAD i’r digartref POLISI AMGYLCHIADAU ESGUSODOL tecach Cefnogi gweithrediad o gyflwyno SWYDDOG Y GYMRAEG 2. HAPUS: RECORDIO mwy o DDARLITHOEDD TEGELLAU a MICRODONAU ym MHOB man astudio Cael GREGGS ar y CAMPWS Cyfres darlithwyr gwadd TEDTALK Cael CŴN THERAPI i ymweld Caniatáu i aelodau pwyllgor yn yr UA NEIDIO’R CIW yn ystod FFAIR Y GLAS 3. FFORDDIADWY: ADNEWYDDU CAMPFA a THALIADAU MISOL TAMPONS AM DDIM yn yr Undeb ARLWYO RHATACH ar draws y campws TRAFNIDIAETH RATACH ar draws y ddinas a mwy o NEXTBIKES
6
MANIFESTO 2019
STUDENTS’ UNION PRESIDENT LLYWYDD UNDEB Y MYFYRWYR
PRISCILLA MUROPA As Students' Union President; it will be my aim and objective to ensue that all students' voices are heard. My motivation and inspiration is simple: I believe in this University and through the collective work of the executive committe, staff and students; we can continue with great progress that the University is making. Furthermore, I want to be remembered as a student president who pursued the wishes of the students to accomplish invaluable stuff for everyone concerned. I will be willing to do everything it takes, and do everything in my power and capacity to achieve this as students are my main concern. As a student president, I would bring leardership, commitiment and creativity to the role along with a strong work ethic, rational, practicality and a positive mental attitude. Thank you all, your vote always count. Fel Llywydd Undeb y Myfyrwyr; fy nod a fy amcan yw sicrhau fod yr holl fyfyrwyr yn cael eu clywed. Mae fy nghymhelliant ac ysbrydoliaeth yn syml: Rydw i’n credu yn y Brifysgol hon a thrwy waith ar y cyd rhwng y pwyllgor gwaith, staff a myfyrwyr, gallwn barhau gyda’r datblygiad gwych mae’r Brifysgol yn ei wneud. Hefyd, rydw i eisiau cael fy nghofio fel Llywydd Myfyrwyr a ddilynodd dymuniadau’r myfyrwyr i gyflawni pethau amhrisiadwy i bawb dan sylw. Byddaf yn barod i wneud beth bynnag sydd ei angen, a gwneud bod dim o fewn fy ngallu i gyflawni hyn gan mai myfyrwyr sydd bwysicaf i mi. Fel llywydd y myfyrwyr byddaf yn cyflwyno arweinyddiaeth, ymroddiad a chreadigrwydd i’r rôl ynghyd ag agwedd gweithgar, rhesymegol, ymarferol a meddwl positif. Diolch i chi gyd, mae eich pleidlais wastad yn cyfrif.
MANIFESTO 2019
VICE PRESIDENT EDUCATION IS LYWYDD ADDYSG
The VP Education represents all of you on academic issues to the University. They will lobby and negotiate with the University to encourage them to enact your feedback as well as liaising with the Information Services, including libraries. The VP Education is the Chair of the College Forums and is responsible for overseeing and promoting the Student Academic Rep system.
Mae’r Is Lywydd Addysg yn cynrychioli pob un ohonoch ar faterion academaidd i’r Brifysgol. Mae’r swyddog yn lobïo ac yn trafod â’r Brifysgol er mwyn ei hannog i weithredu ar eich adborth yn ogystal â chydgysylltu â’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn cynnwys llyfrgelloedd. Yr Is Lywydd Addysg yw cadeirydd fforymau’r Coleg ac mae’n gyfrifol am oruchwylio a hyrwyddo system Cynrychiolwyr Academaidd y Myfyrwyr.
7
8
MANIFESTO 2019
VICE PRESIDENT EDUCATION IS LYWYDD ADDYSG
ERIN CLUSKEY Having previously represented students’ educational interests through my role as an ENCAP student representative, and sitting on the education executive as the Student Voice/Course-Based Society Representative for the college of Biological Life Sciences, I have experience in the issues students face within a range of courses across the entire university, and subsequently believe I would be an excellent representative of such a wide body of students from across the university. My goals are: to improve Eduroam: we are too dependent on it as a university for it to be failing us to instigate module fairs, to create a better understanding of the course content you may take in your next academic year to improve library resources – for example, if your dissertation topic is selected for you, then the university should provide the resources for you to succeed. Wedi cynrychioli buddiannau addysgol myfyrwyr yn y gorffennol drwy fy rôl fel cynrychiolydd myfyrwyr ENCAP, a bod ar bwyllgor gwaith addysg fel Cynrychiolydd Llais Myfyrwyr/Cymdeithas yn seiliedig ar gwrs ar gyfer Coleg Y Gwyddorau Biolegol a Bywyd, mae gen i brofiad yn y materion mae myfyrwyr yn eu hwynebu o fewn amrediad o gyrsiau ar draws yr holl brifysgol, ac o ganlyniad yn credu y byddaf yn gynrychiolydd gwych i garfan mor eang o fyfyrwyr ar draws y brifysgol. Fy amcanion yw: i wella Eduroam: rydyn ni’n rhy ddibynnol arno fel prifysgol iddo fod yn ddiffygiol i sefydlu ffeiriau modiwlau, i greu gwell dealltwriaeth o gynnwys y cwrs y gallwch eu cymryd yn y flwyddyn academaidd nesaf i wella adnoddau'r llyfrgelloedd - er enghraifft, os yw pwnc eich traethawd hir wedi ei ddewis ar eich cyfer, dylai’r brifysgol ddarparu’r adnoddau sydd ei angen arnoch i lwyddo.
OLIVER COPLESTON Hi, I’m Oliver Copleston and I want to be your next VP Education. I’m the current Computer Science President, a member of the Education Executive committee and Chair of Scrutiny Committee, amongst other roles. I know how the University and SU operate and I’m ready to use this knowledge to make Cardiff University an even better place to study. I’m campaigning for: A Module Rating System For Students, By Students - This will provide accountability for poor lecturing and make the education process more transparent. A More Compassionate University System - Too often students feel they are dealing with a machine rather than people, especially for extenuating circumstances. I want all interactions with the University to feel personal. Increased Support For Placement Students - By 2023, the University wants 50% of all undergrads to have work experience as part of their degree - that’s 6000 students a year! I know from experience that the University lacks the means to properly support these students. I will implement adequate staff training and better policies so students are no longer left in the dark. Thank you for reading, and please consider voting for Ollie’s Policies! Check out my full manifesto here: bit.ly/voteforVP Helo, Oliver Copleston ydw i ac rydw i’n ymgeisio i fod yr IL Addysg nesaf. Fi yw’r Llywydd Cyfrifiadureg presennol, yn aelod o’r Pwyllgor Gwaith Addysg ac yn gadeirydd y Pwyllgor Craffu, ynghyd a rolau eraill. Rydw i’n gwybod sut mae’r Brifysgol a’r Undeb yn gweithredu ac rydw i’n barod i ddefnyddio fy ngwybodaeth i wneud Prifysgol Caerdydd yn le hyd yn oed gwell i astudio. Rydw i’n ymgyrchu dros: System Sgorio Modiwlau i Fyfyrwyr gan Fyfyrwyr- Bydd hyn yn golygu atebolrwydd ar gyfer darlithio gwael a gwneud y prosesau addysg yn fwy tryloyw. System Brifysgol fwy Tosturiol - Yn rhy aml mae myfyrwyr yn teimlo fel eu bod yn delio gyda pheiriant yn hytrach na phobl, yn enwedig ar gyfer amgylchiadau esgusodol. Dwi eisiau i bob rhyngweithio gyda’r Brifysgol i deimlo’n bersonol. Cynnyddu Cefnogaeth i Fyfyrwyr ar Leoliad - Erbyn 2023, mae’r Brifysgol eisiau 50% o fyfyrwyr israddedig gael profiad gwaith fel rhan o’u gradd - mae hyn yn cyfateb i 6000 o fyfyrwyr y flwyddyn! Rydw i’n gwybod o brofiad nad oes gan y Brifysgol y modd i gefnogi'r myfyrwyr hyn yn ddigonol. Byddaf yn gweithredu hyfforddiant staff digonol a gwell polisïau fel na fydd myfyrwyr yn parhau i gael eu gadael yn y tywyllwch. Diolch am ddarllen, ac ystyriwch bleidleisio dros Bolisïau Ollie os gwelwch yn dda! Darllenwch fy maniffesto llawn yma:bit.ly/voteforVP
MANIFESTO 2019
VICE PRESIDENT EDUCATION IS LYWYDD ADDYSG
TOMOS EVANS Hi, I’m Tom Evans, a third-year BioMed student, and I am running to be your new VP Education! Why am I running? It’s because I believe that we students deserve to have a say in where the £9000, we pay every year, is spent. And to make sure that it goes to supporting every aspect of student life. Why should you vote for me? Well, for the past two years I have been heavily involved in the Students' Union as a Give It A Go team leader, co-president of SHAG, as secretary of CU-pride and elected as a member of student senate and the scrutiny committee. I have gained a fantastic understanding of the university and the students union and I am dedicated to representing every facet of our community. If you agree with my manifest below then vote Tom Evans for Education. Cheaper textbooks Improve assessment feedback International student support. Renewing student accommodation Implement printing allowance Better guidance on placements and hands-on degree experience. Kettles and microwaves in library buildings School relevant mental health counselors Free female sanitary products across campus Improved signposting to available services “Home safe” scheme after SU club nights. Haia, Tom Evans ydw i, myfyriwr Gwyddorau Biofeddygol yn fy nhrydedd flwyddyn yn ymgeisio i fod yr IL Addysg newydd! Pam ydw i’n ymgeisio? Oherwydd rydw i’n credu ein bod ni fel myfyrwyr yn haeddu cael dweud lle ddylai’r £9000 rydyn ni’n ei dalu bob blwyddyn gael ei wario. A gwneud yn siŵr ei fod yn mynd i gefnogi bob agwedd o fywyd myfyrwyr. Pam pleidleisio drosof fi? Wel, am y ddwy flynedd diwethaf rydw i wedi bod yn ymwneud yn helaeth gydag Undeb y Myfyrwyr fel arweinydd tîm Rho Gynnig Arni, cyd-lywydd SHAG, fel ysgrifennydd CU-pride ac wedi fy ethol fel aelod o senedd y myfyrwyr a’r pwyllgor craffu. Rydw i wedi ennill dealltwriaeth ffantastig o’r brifysgol ac undeb y myfyrwyr ac rydw i wedi ymrwymo i gynrychioli bob agwedd o ein cymuned. Os ydych chi’n cytuno gyda fy natganiad isod pleidleisiwch Tom Evans dros Addysg. Gwerslyfrau rhatach. Gwella adborth asesiadau. Cefnogaeth i fyfyrwyr rhyngwladol. Adnewyddu lletyau myfyrwyr. Gweithredu lwfans argraffu. Gwell arweiniad ar leoliadau a phrofiad gradd ymarferol. Tegellau a microdonau mewn adeiladau llyfrgelloedd. Cynghorwyr Iechyd Meddwl perthnasol i bob ysgol. Cynnyrch misglwyf am ddim i fenywod ar draws y campws. Gwell cyfeirio at wasanaethau sydd ar gael. Cynllun “Adref yn ddiogel” wedi nosweithiau clwb yr Undeb.
9
BETHANY GRIFFITHS Hi, I’m Bethany! Since starting university in 2016 I have always been passionate about the student experience. Over the last 2 years I have gradually got more involved with the Student’s Union – I’m now a Student Rep for the school of English, Communication and Philosophy, and am a member of Jackie Yip’s Education Executive! Now I want to stand as VP Education and work to ensure your voice is represented in our Union! As your VP Education I will: Campaign for better transport links across the university. Work with the university to prioritise timetabling issues, producing a system that will ensure timetabling problems are sorted before term starts. Work with staff and students to improve the communication between Cathays and Heath Park. Campaign to revolutionise the libraries: more reasonable library fines, more plug sockets and USB chargers, and the introduction of kettles, microwaves, and water fountains. Work with the university towards improving feedback across the board. Campaign for improvements in student support: addressing late exams, multiple deadlines on the same day, and campaigning for improvements in extenuating circumstances. Work towards improving communication links between staff and students. Vote Bethany – let’s work together! Helo, Bethany ydw i! Ers dechrau yn y Brifysgol yn 2016 rydw i wastad wedi bod yn angerddol ynglŷn â phrofiad myfyrwyr. Dros y 2 flynedd diwethaf rydw i wedi ymwneud mwy gydag Undeb y Myfyrwyr - rydw i nawr yn Gynrychiolydd Myfyrwyr, ar gyfer yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth, ac yn aelod o Bwyllgor Gwaith Addysg Jackie Yip! Rydw i nawr eisiau ymgeisio i fod yn IL Addysg a gweithio i sicrhau fod eich llais yn cael ei gynrychioli yn yr Undeb! Fel eich IL Addysg byddaf yn: Ymgyrchu dros gysylltiadau trafnidiaeth gwell ar draws y Brifysgol. Gweithio gyda’r brifysgol i flaenoriaethu problemau amserlennu, yn creu system a fydd yn sicrhau bod problemau amserlennu yn cael ei datrys cyn i’r tymor ddechrau. Gweithio gyda staff a myfyrwyr i wella cyfathrebu rhwng Cathays a’r Mynydd Bychan. Ymgyrchu i chwyldroi'r llyfrgelloedd: dirwyon llyfrgell fwy rhesymol, mwy o socedi trydan a mannau gwefru USB, cyflwyno tegellau, microdonau a ffynhonnau dŵr. Gweithio gyda’r brifysgol tuag at wella adborth ledled y brifysgol . Ymgyrchu dros welliannau mewn cefnogaeth i fyfyrwyr: yn mynd i’r afael ag arholiadau hwyr, cyfres o ddyddiadau cau ar yr un diwrnod, ac ymgyrchu dros welliannau mewn amgylchiadau esgusodol. Gweithio tuag at wella cysylltiadau cyfathrebu rhwng staff a myfyrwyr. Pleidleisiwch Bethany - gadewch i ni weithio gyda’n gilydd!
10
MANIFESTO 2019
VICE PRESIDENT EDUCATION IS LYWYDD ADDYSG
NICOLE HAYLOR-MOTT
SOPHIA KHIRANI
Hi! I’m Nicole Haylor-Mott and I would love to be your VP Education! I’m a third year Law student, and I’m currently a Team Leader on the Advice and Welfare Exec in the SU. I have hugely enjoyed assisting fellow students in this role, together with other roles I have carried out within the SU in the past. I feel passionately about every student being able to thrive in and enjoy their university experience, and would love to be the person to reflect your voice in improving your academic experience.
About me: I am a third year International, Journalism and Communication student. I have been a Student Support Worker, ambassador for Cardiff Award, Languages for All and Student Ambassador, Lead Volunteer with Cardiff Volunteering, Academic Representative & in the Education Exec. I know what changes are needed from my engagement and I am driven to make change, to serve & represent all students.
Vote for me to vote for: Assisting the University in improving the personal tutor system Increasing plug sockets and improving lighting in all work spaces Increasing use of electronic resources and electronic submission systems for all Working towards a centralised extenuating circumstances procedure which is fair for all Improving access to feedback on all submitted work and transcripts Improving timetabling by reducing occurrences of unreasonable gaps to move between buildings Increasing assistance for placement students when accessing placements and allowing easier access to wellbeing services whilst on placement
What I will make happen: Lobby schools to PUBLISH RECORDINGS OF FIRST LECTURES to help student pick modules better. MAKE SU & UNIVERSITY ACCESSIBLE: signed and subtitled lecture capture, braille signs & plain text versions of all guides. Include EQUALITY, DIVERSITY & INCLUSION REPS in academic rep system. Create MORE STUDY ROOMS open 24/7 during exam period. Policies for schools to publish PAST PAPERS, INCLUDING MARK SCHEME, in every module. Creating systems to SUPPORT PLACEMENT STUDENTS, Heath students and distance learners. Tackle BME ATTAINMENT GAP. Implement PHONE-CHARGING LOCKERS in all libraries. Demand University to have clear plan for a CURRICULUM INCLUSIVE OF LGBT+, BME & INTERNATIONAL STUDENTS. Introduce a PEER ACADEMIC LEARNING (PAL) scheme. Abolish Saturday Exams. Demand TRANSPARENCY OF TUITION FEES, including breakdown of “hidden costs”. LOBBY university to on BEHALF OF EU/ERASMUS STUDENTS POST BREXIT.
I would be so grateful if you #VoteNicole for your VP Education! Thank you! Haia! Nicole Haylor-Mott ydw i ac fe garwn i fod yn IL Addysg arnoch! Rydw i’n fyfyrwraig Y Gyfraith yn fy nhrydedd flwyddyn ac yn Arweinydd Tîm ar y Pwyllgor Gwaith Lles yn yr Undeb. Rydw i wedi mwynhau cynorthwyo cyd fyfyrwyr yn y rôl hon yn fawr, yn ogystal â rolau eraill rydw wedi eu mabwysiadu o fewn yr Undeb yn y gorffennol. Rydw i’n teimlo’n angerddol y dylai bob myfyriwr gael y gallu i ffynnu a mwynhau yn ystod eu profiad yn y brifysgol, ac fe garwn gael bod yn unigolyn sy’n adlewyrchu eich llais ac yn gwella eich profiad academaidd. Pleidleisiwch drosof i bleidleisio dros: Yn cynorthwyo’r Brifysgol i wella’r system tiwtoriaid personol Cynyddu nifer y socedi trydan a gwella goleuo ym mhob man gwaith Cynyddu’r defnydd o adnoddau trydanol a systemau cyflwyno electronig i bawb Gweithio tuag at weithdrefn amgylchiadau esgusodol canolog sydd yn deg i bawb Gwella mynediad at adborth ar bob gwaith a thrawsgrifiadau a gyflwynir Gwella amserlennu drwy leihau achosion o flychau amser afresymol i fynd o un adeilad i’r llall Cynyddu cymorth i fyfyrwyr ar leoliad wrth fynd i leoliad a chaniatáu mynediad haws i wasanaethau lles pan ar leoliad Fe fyddaf i yn hynod ddiolchgar pe byddech chi’n #PleidleisioNicole fel eich IL Addysg! Diolch!
Amdanaf fi: Rydw i’n fyfyriwr rhyngwladol yn fy nhrydedd flwyddyn yn astudio Newyddiaduraeth a Chyfathrebu. Rydw i wedi bod yn Weithiwr Cefnogi Myfyrwyr, llysgennad ar gyfer Gwobr Caerdydd, Llysgennad Myfyrwyr Ieithoedd i Bawb, Prif Wirfoddolwr gyda Gwirfoddoli Caerdydd, Cynrychiolydd Academaidd ac yn y Pwyllgor Gwaith. Rydw i’n gwybod pa newidiadau sydd ei angen o ganlyniad i fy ymgysylltiad ac rydw i yn benderfynol o wneud gwahaniaeth, i wasanaethu a chynrychioli bob myfyriwr. Beth fyddaf i yn ei gyflawni: Lobio ysgolion i GYHOEDDI RECORDIAD O DDARLITH GYNTAF MODIWL i helpu myfyrwyr ddewis modiwlau yn well. GWNEUD YR UNDEB A’R BRIFYSGOL YN HYGYRCH: recordiau darlithoedd wedi ei harwyddo a gydag is-deitlau, arwyddion breil a fersiwn testun plaen o bob canllaw. Cynnwys CYNRYCHIOLWYR CYDRADDOLDEB, AMRYWIAETH a CHYNHWYSIANT yn y system cynrychiolwyr academaidd. Creu MWY O YSTAFELLOEDD ASTUDIO ar agor am 24/7 yn ystod cyfnod yr arholiadau. Polisïau yn gorfodi ysgolion i gyhoeddi CYN-BAPURAU yn CYNNWYS CYNLLUN MARCIO, ym mhob modiwl. Creu systemau i GEFNOGI MYFYRWYR AR LEOLIAD, myfyrwyr y Mynydd Bychan a dysgwyr o bell. Mynd i’r afael â BWLCH CYRHAEDDIAD BME. Gweithredu LOCERI GWEFRU FFONAU ym mhob llyfrgell. Mynnu fod y Brifysgol yn cael cynllun clir ar gyfer CWRICWLWM SY’N GYNHWYSOL I FYFYRWYR LHDT+, BME a RHYNGWLADOL. Cyflwyno cynllun DYSGU CYD FYFYRWYR (PAL) Diddymu Arholiadau ar Ddyddiau Sadwrn Mynnu TRYLOYWDER FFIOEDD DYSGU yn cynnwys dadansoddiad o “gostau cudd”. LOBIO’R brifysgol ar RAN MYFYRWYR YR UE/ERASMUS WEDI BREXIT.
MANIFESTO 2019
VICE PRESIDENT EDUCATION IS LYWYDD ADDYSG
JONATHAN MATCHETT Jonathan Matchett – Manifesto Siwmae! I’m Jonnie and I want to be your VP for Education. I’ve worked with the University and Students Union since first year and feel like I’m now in a position to make real change if I get voted in as VP Education this year. I understand the pressures of today’s education system and would like to make changes for the better for all of us. There are three items I would like to work on: 1. University Transparency on issues like funding and strike action 2. Improving Mental Health services within schools 3. The Cardiff experience: getting the most out of your degree I believe the Vice Chancellor should write a monthly newsletter detailing information about current events within the university such as debt, funding and strikes. I believe personal tutors should have more mental health training than just the 3 hours per year they currently get and would like to introduce a designated member of staff in each school to be a dedicated mental health coordinator. Finally I will fight against libraries closing and for libraries such as the science library to stay open until midnight. Find me on Facebook under Jonnie Quincy Matchett. Jonathan Matchett - Maniffesto Shwmae! Jonnie ydw i ac rydw i eisiau bod yn IL Addysg. Rydw i wedi bod yn gweithio gyda’r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr ers fy mlwyddyn gyntaf ac yn teimlo fel fy mod i nawr mewn sefyllfa i wneud gwahaniaeth gwirioneddol os caf fy ethol fel IL Addysg eleni. Rydw i’n deall y pwysau sydd ynghlwm â system addysg heddiw ac fe hoffwn wneud newidiadau er gwell i bob un ohonom. Mae tair eitem yr hoffwn weithio arnynt: 1. Tryloywder Prifysgol ar faterion megis cyllid a gweithredu diwydiannol 2. Gwella gwasanaethau Iechyd Meddwl o fewn ysgol. 3. Profiad Caerdydd: cael y gorau o’n gradd. Rydw i’n credu y dylai’r Isganghellor ysgrifennu cylchlythyr misol yn manylu gwybodaeth ynglŷn â digwyddiadau presennol o fewn y Brifysgol megis dyledion, cyllid a gweithredu diwydiannol. Rydw i’n credu y dylai tiwtoriaid personol gael mwy o hyfforddiant iechyd meddwl na’r 3 awr y flwyddyn maent yn ei gael ar hyn o bryd a hoffwn gyflwyno aelod dynodedig o staff ym mhob ysgol i fod yn gydlynydd iechyd meddwl ymroddedig. Yn olaf byddaf yn brwydro yn erbyn cau llyfrgelloedd ac ar gyfer llyfrgelloedd megis y llyfrgell gwyddoniaeth i aros ar agor tan hanner nos. Dewch o hyd i mi ar Facebook gyda’r enw Jonnie Quincy Matchett.
11
CALLUM MCCARTHY Education Executive | Assessment and feedback team | Secretary of the SSP Shwmae | Hello Truthfully, I am campaigning to be your Vice President of Education because I fully believe that Cardiff University is in dire need of change. Organisation and planning: The reducing of clashes through the creation of a university system made to regulate, manage and provide clearer information about the current availability of rooms. Improvements to time-tabling so that modules are better spread out (no 30% 70% semesters) through the use of the regulation system. Banning the university from changing what your optional modules after you have applied for your degree. Personal tutors: Better training for personal tutors so that they can be a better tutor and the increase in information that personal tutors can see so that they can better help you. Dissertation supervisors: Improved monitoring and training of dissertation supervisors to promote fairer treatment. Assessment and feedback: The ability for students to be able to challenge lecturers on the grades. Improved assessment guidance and assessment feedback through the creation of a system to better monitor university staff. All lectures to be recorded using panopto, and all students to be granted access to the recordings. Pwyllgor Gwaith Addysg | Tîm Asesu ac Adborth | Ysgrifennydd y PSM Shwmae Mewn gwirionedd rydw i’n ymgyrchu dros fod yn Is-lywydd Addysg oherwydd rydw i’n llawn gredu fod angen enbyd am newid ym Mhrifysgol Caerdydd. Trefnu a chynllunio: Lleihau gwrthdaro drwy greu system prifysgol sy’n rheoli a darparu gwybodaeth gliriach ynglŷn ag argaeledd ystafelloedd ar hyn o bryd. Gwelliannau i amserlenni fel bod modiwlau wedi cael eu gwasgaru yn well (dim cydbwysedd tymhorau 30% - 70%) drwy ddefnydd system rheoliadau. Gwahardd y brifysgol rhag newid beth yw eich modiwlau opsiynol wedi i chi wneud cais am eich gradd. Tiwtoriaid personol: Gwell hyfforddiant i diwtoriaid personol fel y gallant fod yn well tiwtor a chynyddu’r wybodaeth y gall tiwtoriaid personol ei weld fel y gallant fod yn fwy o gymorth. Goruchwylwyr traethawd hir: Monitro a hyfforddiant gwell i oruchwylwyr traethawd hir i feithrin triniaeth decach. Asesu ac adborth: Y gallu i fyfyrwyr herio darlithwyr ar eu graddau. Gwell arweiniad ar asesiadau ac adborth ar asesiadau drwy greu system i fonitro staff y brifysgol yn well. I bob darlithydd gael eu recordio gan ddefnyddio panopto, ac i bob myfyriwr gael mynediad i’r recordiadau.
12
MANIFESTO 2019
VICE PRESIDENT EDUCATION IS LYWYDD ADDYSG
DARINA NIKOLOVA
MICAELA PANES
Hello, Zdraveite, Hola, Bonjour, Shwmae! VOTE DARINA THE MANDARINA! Through my time at Cardiff University I have interacted with students in a variety of ways: MUN society, Dancesport, SSP chair, Student Ambassador, Freshers Advice Team, LATAM society and more. To continue to improve student experience I would work on things such as: Assessments and feedback, providing DIFFERENT TYPES of assessments, FREE BUS TRANSPORT during the exam periods to the All Nations Centre, provide access to FIRST MARKING (script) for exams and continue to work for the SAFETY-NET MODULE SYSTEM providing more choice and safety. I also want to work on improving Academic resources, this would include compulsory materials being available in a SCANNED COPY, EXTENDING LIBRARIES OPENING TIMES to midnight, and the ability to REQUEST books from libraries that would normally be CLOSED during VACATION BREAKS. In addition to the above, I want to CONTINUE working to improve the Personal Tutor and Academic Rep systems, WORK WITH the careers teams to CREATE FAIRS to allow scholars to present their research to students developing knowledge and research options, INCREASE the range of placements as well as DEVELOP student’s KNOWLEDGE pre-arrival to Cardiff with an INTERACTIVE VIDEO.
Hello, I’m Micaela Panes. I am running for VP Education as I believe that I’m the person who will truly represent and campaign for ALL students across Cardiff. As an MA history student - holding positions as Secretary for SHARE’s StudentStaff Panel and PG Officer on Cardiff’s HistorySoc Committee - I have become passionate for promoting the student voice and ensuring students feel empowered and valued in our academic community. I have three core points which will transform the student experience at Cardiff:
Hello, Zdraveite, Hola, Bonjour, Shwmae! PLEIDLEISIWCH DARINA Y MANDARINA! Drwy gydol fy nghyfnod ym Mhrifysgol Caerdydd rydw i wedi rhyngweithio gyda myfyrwyr mewn amrywiaeth o ffyrdd: Cymdeithas Model Cenhedlodd Unedig, Dancesport, Cadeirydd PSM, Llysgennad Myfyrwyr, Tîm Cyngor Y Glas, Cymdeithas LATAM a mwy. I barhau i wella eich profiad myfyriwr byddaf yn gweithio ar bethau megis: Asesiadau ac adborth, yn darparu GWAHANOL FATHAU o asesiadau, TRAFNIDIAETH BWS AM DDIM i’r Ganolfan yr Holl Genhedloedd yn ystod cyfnod yr arholiadau, darparu mynediad i (sgript) MARCIO CYNTAF ar gyfer arholiadau a pharhau i weithio ar gyfer y SYSTEM DIOGELWCH MODIWL yn darparu mwy o ddewis a diogelwch. Rydw i hefyd eisiau gweithio ar wella adnoddau academaidd, byddai hyn yn cynnwys deunydd angenrheidiol ar gael mewn COPI WEDI EI SGANIO, RHOI ESTYNIAD AR AMSEROEDD AGOR LLYFRGELLOEDD hyd hanner nos, a’r gallu i WNEUD CAIS am lyfrau o lyfrgelloedd a fyddai AR GAU yn ystod CYFNODAU O WYLIAU. I ychwanegu at yr uchod, rydw i eisiau PARHAU i weithio tuag at wella systemau Tiwtoriaid Personol a Chynrychiolwyr Academaidd, GWEITHIO GYDA'r timau gyrfaoedd i GREU FFEIRIAU i ganiatáu ysgolheigion i gyflwyno eu hymchwil i fyfyrwyr sy’n datblygu gwybodaeth ac opsiynau ymchwil, CYNYDDU'r amrywiaeth o leoliadau yn ogystal â DATBLYGU GWYBODAETH myfyrwyr cyn iddynt gyrraedd Caerdydd gyda FIDEO RHYNGWEITHIOL.
1. GET THE MOST FROM YOUR TUITION FEES! FREE PRINTING ALLOWANCE for all students. Increased SUPPORT for students undertaking PLACEMENTS. SUBSIDISED core textbooks. 2. GET THE MOST FROM YOUR DEGREE! BANNING Saturday and late afternoon exams. Option to submit DRAFT ASSIGNMENTS. ‘READING WEEK’ for ALL STUDENTS. More PLUGS across campuses and libraries, and increased STUDY SPACES. Promoting CAPPED LATE SUBMISSIONS. 3. GET REPRESENTED! Ensuring STUDENTS ARE REPRESENTED and have a voice throughout the huge developments being made through the ‘TRANSFORMING CARDIFF PROGRAMME’. REFORM the Student Rep system. Establishing a CLOSER RELATIONSHIP between the Student Union and academic schools – not forgetting Heath Park! #NoPanesNoGains Full manifesto: www.facebook.com/MicaelaPanesVPEducation Helo, Micaela Panes ydw i. Rydw i’n ymgeisio dros fod yn IL Addysg gan fy mod yn credu mai fi yw’r person a fydd yn wirioneddol cynrychioli ac ymgyrchu dros HOLL fyfyrwyr ar draws Caerdydd. Fel myfyriwr MA hanes - yn dal swydd fel Ysgrifennydd ar gyfer Panel Staff Myfyrwyr SHARE a Swyddog Ôl-raddedig ar bwyllgor HistorySoc Caerdydd - Rydw i wedi datblygu angerdd dros hyrwyddo llais y myfyrwyr a sicrhau fod myfyrwyr yn teimlo fel bod ganddynt rym a gwerth yn ein cymuned academaidd. Mae gen i dri phwynt craidd a fydd yn gweddnewid y profiad myfyriwr yng Nghaerdydd: 1. GWNEWCH Y MWYAF O’CH FFIOEDD DYSGU! LWFANS ARGRAFFU AM DDIM i bob myfyriwr. Mwy o GEFNOGAETH i fyfyrwyr sy’n mynd ar LEOLIAD. CYMORTHDALU tuag at werslyfrau craidd. 2. GWNEWCH Y MWYAF O’CH GRADD! GWAHARDD arholiadau Dydd Sadwrn ac arholiadau yn hwyr yn y prynhawn. Opsiwn i gyflwyno ASEINIADAU DRAFFT. ‘WYTHNOS DDARLLEN’ i’r HOLL FYFYRWYR. Mwy o SOCEDI o amgylch y campws a llyfrgelloedd a chynyddu MANNAU ASTUDIO. Hyrwyddo CYFLWYNIADAU HWYR WEDI EU CAPIO. 3. EICH CYNRYCHIOLI CHI! Sicrhau fod MYFYRWYR YN CAEL EU CYNRYCHIOLI a chael llais drwy gydol y datblygiadau enfawr sy’n cael eu gwneud drwy’r ‘CYNLLUN TRAWSNEWID CAERDYDD’. DIWYGIO’R system Cynrychiolwyr Myfyrwyr. Sefydlu PERTHYNAS AGOSACH rhwng Undeb y Myfyrwyr ac ysgolion academaidd - heb anghofio Parc y Mynydd Bychan! #PleidleisiwchPanes Maniffesto llawn: www.facebook.com/MicaelaPanesVPEducation
MANIFESTO 2019
VICE PRESIDENT EDUCATION IS LYWYDD ADDYSG
JOSHUA PRIOR ACHIEVE HIGHER WITH JOSUHA PRIOR Students' Union Receptionist | Student Advice Team Leader | Student Senator 1. BETTER STUDY SPACES More BOOKABLE ROOMS Access to the BOOKING SYSTEM IMPROVE LIBRARIES with: LIGHTS / POWER SOCKETS / USB PORTS Signposting REVISION SPACES 2. IMPROVED LEARNING ENVIRONMENT EARLIER timetables ONLINE Release EXAM SCRIPTS and more FEEDBACK PAST PAPERS and MODEL ANSWERS Provide JOINT HONOURS students with more SUPPORT INFORMATION for MODULE CHOICES Support for JOMEC students LECTURE RECORDINGS More placements for students 3. EXTENUATING CIRCUMSTANCES and APPEALS Make MENTAL HEALTH a priority SIMPLIFY the process Ensure CONSISTENCY 4. EMPLOYABILITY PROMOTE the SKILLS DEVELOPMENT SERVICE Support COURSE-BASED SOCIETIES Invite more EMPLOYERS to GIVE TALKS EXTRA GUEST SPEAKERS More CAREER EVENTS for Schools 5. THE ROLE Run DROP-INS for students to share CONCERNS ACTIVELY ENGAGE with students; have REAL CONVERSATIONS INTEGRATE THE HEATH by spending more time there REVAMP the Student Rep system COMPULSORY training for TUTORS 6. THE SU Renovate the STUDENT KITCHEN with MICROWAVE / FRIDGE / OTHER PROMOTE their 24/7 STUDY SPACE INTRODUCE a PHARMACY CYFLAWNI MWY GYDA JOSHUA PRIOR Derbynnydd Undeb y Myfyrwyr | Arweinydd Tîm Cyngor i Fyfyrwyr | Seneddwr Myfyrwyr 1. MANNAU ASTUDIO GWELL Mwy o YSTAFELLOEDD Y GELLID EU HARCHEBU Mynediad i’r SYSTEM ARCHEBU GWELLA LLYFRGELLOEDD gyda: GOLEUADAU / SOCEDI PŴER / PORTHAU USB Cyfeirio myfyrwyr at FANNAU ADOLYGU 2. AMGYLCHEDD DYSGU GWELL Amserlenni AR-LEIN CYNHARACH Rhyddhau SGRIPT ARHOLIADAU a mwy o ADBORTH CYN-BAPURAU ac ATEBION ENGHREIFFTIOL Darparu mwy o GEFNOGAETH i fyfyrwyr CYDANRHYDEDD GWYBODAETH ar gyfer DEWISIADAU MODIWLAU Cefnogaeth i fyfyrwyr JOMEC RECORDIO DARLITHOEDD Mwy o leoliadau ar gyfer myfyrwyr. 3. AMGYLCHIADAU ESGUSODOL AC APELIADAU Gwneud IECHYD MEDDWL yn flaenoriaeth Gwneud y broses yn FWY SYML Sicrhau CYSONDEB 4. CYFLOGADWYEDD HYRWYDDO’R GWASANAETH DATBLYGU SGILIAU Cefnogi CYMDEITHASAU YN SEILIEDIG AR GWRS Gwahodd mwy o GYFLOGWYR i ROI SGYRSIAU SIARADWYR GWADD YCHWANEGOL Mwy o DDIGWYDDIADAU GYRFAOEDD i Ysgolion 5. Y RÔL Cynnal SESIYNAU GALW HEIBIO i fyfyrwyr i rannu PRYDERON YMWNEUD â myfyrwyr yn GYSON; cael TRAFODAETHAU GO IAWN YMGYFUNO’R MYNYDD BYCHAN drwy dreulio mwy o amser yno AILWAMPIO’R system Cynrychiolwyr Myfyrwyr Hyfforddiant GORFODOL i DIWTORIAID 6. YR UNDEB Adnewyddu CEGIN Y MYFYRWYR gyda MICRODON / OERGELL / ARALL HYRWYDDO eu MAN ASTUDIO 24/7 CYFLWYNO FFERYLLFA
13
HARLEY ROUSELL Hi, I’m Harley! Over the past three years, I have been an Education Executive, English Language academic chair and representative. I have enjoyed every minute of engaging with staff and making sure students have the best experience possible whilst at university. If elected as VP of education, I promise to do more! So, let Harley Help! HELP improve your academic experience: The opportunity to go on course trips to enhance learning for all The opportunity for a placement scheme for all Ability to print directly from laptops to all university printers More plugs in the libraries More engagement with personal tutors through an improved system HELP learning become more accessible: Ensuring 24 hours between exams Exam timetables distributed earlier in the year First semester exams before Christmas break More 24-hour libraries and computer rooms HELP integrate students better: Incorporate an international representative to encourage a connection amongst all students If you have any questions, feel free to contact me: (rousellhe@cardiff.ac.uk) Please remember to vote in the elections and let Harley Help! Haia, Harley ydw i! Dros y tair blynedd diwethaf, rydw i wedi bod yn Weithredwr Addysg, Cadeirydd a chynrychiolydd academaidd Saesneg Iaith. Rydw i wedi mwynhau bob eiliad o ymgysylltu â staff a gwneud yn siŵr fod myfyrwyr yn cael y profiad gorau posib pan yn y brifysgol. Os caf fy ethol yn IL Addysg, rydw i’n addo i wneud mwy! Felly gadewch i Harley Helpu! HELPU gwella eich profiad academaidd: Y cyfle i fynd ar deithiau cwrs i ehangu dysgu i bawb Y cyfle am gynllun lleoliad i bawb Y gallu i argraffu yn uniongyrchol o liniaduron i argraffwyr y brifysgol Mwy o socedi trydanol yn y llyfrgelloedd Mwy o ymgysylltu gyda thiwtoriaid personol drwy system well HELPU i ddysgu fod yn fwy hygyrch: Sicrhau 24 awr rhwng arholiadau Amserlenni Arholiadau i gael eu dosrannu yn gynt yn y flwyddyn Cynnal arholiadau’r tymor cyntaf cyn gwyliau’r Nadolig Mwy o lyfrgelloedd ac ystafelloedd cyfrifiaduron 24 awr HELPU integreiddio myfyrwyr yn well: Cynnwys cynrychiolydd rhyngwladol i annog cyswllt ymysg yr holl fyfyrwyr Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â fi: (rousellhe@ cardiff.ac.uk) Cofiwch bleidleisio yn yr etholiadau a gadewch i Harley Helpu!
14
MANIFESTO 2019
VICE PRESIDENT HEATH PARK CAMPUS IS LYWYDD CAMPWS PARC Y MYNYDD BYCHAN
The VP Heath Park Campus works to improve the healthcare and medical student experience and the services at the Heath Park site. They are responsible for ensuring the growth of the Union’s offering at the Heath and also represent interests of healthcare and medical students at all levels of the University and Union.
Mae Is Lywydd Campws Parc y Mynydd Bychan yn gweithio i wella profiad myfyrwyr gofal iechyd a meddygol a’r gwasanaethau ar safle Parc y Mynydd Bychan. Mae’n gyfrifol am sicrhau twf yr hyn a gynigir gan yr Undeb ar Gampws Parc y Mynydd Bychan a hefyd yn cynrychioli buddiannau myfyrwyr gofal iechyd a meddygol ar bob lefel yn y Brifysgol a’r Undeb.
VICE PRESIDENT HEATH PARK CAMPUS
MANIFESTO 2019
15
IS LYWYDD CAMPWS PARC Y MYNYDD BYCHAN
SHEKINA ORTOM Hello! I’m Shekina, Postgraduate Physiotherapy student. Currently, I’m on Heath Park Executive committee, student senator, student representative, member of the African Caribbean Society and Team CUSU. My vision is to create an inclusive, empowering and supportive Heath Park Campus for all. I believe heath park students’ voices deserve to be heard! As VP Heath Park, I can create change for all! I pledge to: Ensure IV LOUNGE is OPEN 24/7 and offers cheaper and more diverse food options. Set up WELL-BEING and STUDENT SUPPORT HUBS in placements across Wales. EXTEND OPENING HOURS of medic and student support services to cater for PLACEMENT YEAR STUDENTS. Provide NIGHT SHUTTLE-BUSES during exam time. Provide PAID PLACEMENTS and TRAVEL BURSARIES. Improve the organisation and communication of TIMETABLES. Create bigger common rooms and SOCIAL LEARNING SPACES. Develop better Students’ Union services and CAMPAIGNS AT HEATH. Provide more MICROWAVES, KETTLES and WATER FOUNTAINS across Heath. Facilitate better INTERDISCIPLINARY EVENTS, clinical workshops, skills and training. Create a comprehensive EQUALITY, DIVERSITY and INCLUSION strategic plan for all. Create a PEER TO PEER MENTORING scheme for various minority groups: BME, LGBTQ+, Disabilities, Women, carers, International students and more.
WHY WILL YOU VOTE? “TO GET REPRESENTATIVES WITH SIMILAR VALUES TO ME.”
So, Vote Shekina #1 For VP Heath Park! #HeathParkForever Helo! Shekina ydw i, myfyriwr Ffisiotherapi Ôl-raddedig. Ar hyn o bryd rydw i ar Bwyllgor Gwaith Parc y Mynydd Bychan, seneddwr myfyrwyr, cynrychiolydd myfyrwyr, aelod o’r Gymdeithas Garibïaidd Affricanaidd a Thîm UMPC. Fy ngweledigaeth yw creu Parc y Mynydd Bychan cynhwysol, grymus a chefnogol i bawb. Rydw i’n credu fod lleisiau myfyrwyr parc y mynydd bychan yn haeddu cael eu clywed! Fel IL Parc y Mynydd Bychan, gallaf greu newid i bawb! Rydw i’n gwarantu y byddaf yn: Sicrhau fod y LOLFA IV AR AGOR 24/7 ac yn cynnig opsiynau bwyd rhatach a mwy amrywiol. Sefydlu CANOLFANNAU LLES A CHEFNOGAETH I FYFYRWYR mewn lleoliadau ar draws Cymru. RHOI ESTYNIAD ORIAU AGOR gwasanaethau cefnogi myfyrwyr a meddygon i ddiwallu ar gyfer MYFYRWYR AR FLWYDDYN LLEOLIAD. Darparu BYSIAU GWENNOL GYDA’R NOS yn ystod cyfnod arholiadau. Darparu LLEOLIADAU Â CHYFLOG a BWRSARIAETHAU TEITHIO Gwella’r trefnu a chyfathrebu o amgylch AMSERLENNI. Creu ystafelloedd cyffredin mwy a GOFODAU DYSGU CYMDEITHASOL. Datblygu gwell wasanaethau ac YMGYRCHOEDD Undeb y Myfyrwyr yn Y MYNYDD BYCHAN. Darparu mwy o FICRODONAU, TEGELL, a FFYNHONNAU DŴR ar draws Y Mynydd Bychan. Hwyluso DIGWYDDIADAU RHYNGDDISGYBLAETHOL gwell a gweithdai, sgiliau a hyfforddiant clinigol. Creu cynllun CYDRADDOLDEB, AMRYWIAETH a CHYNHWYSIANT strategol cynhwysfawr i bawb. Creu cynllun mentora MYFYRIWR I FYFYRIWR ar gyfer amryw o grwpiau lleiafrifol: Myfyrwyr BME, LGBTQ+, Anableddau, Merched, Gofalwyr, Rhyngwladol a mwy. Felly, Pleidleisiwch Shekina #1 ar gyfer IL Y Mynydd Bychan! #ParcYMynyddBychanAmByth
PAM PLEIDLEISIO? “ER MWYN CAEL CYNRYCHIOLWYR A GWERTHOEDD TEBYG I MI.”
16
MANIFESTO 2019
VICE PRESIDENT POSTGRADUATE STUDENTS IS LYWYDD MYFYRWYR OL-RADDEDIG
The VP Postgraduate Students will work closely with the Student Voice team and fellow Sabbatical Trustees on issues and policies that affect both Postgraduate Research (PGR) and Postgraduate Taught (PGT) Students. They communicate School and College level feedback from Postgraduate Students at University committees to lobby for change, and work with the Student Voice team and VP Education to facilitate the Academic Representation system for Postgraduates, providing support for the Reps to enable them to carry out their role. They are the principle contact for Postgraduates in the Students’ Union, working closely with and supporting the Postgraduate Students’ Association.
Bydd yr IL Myfyrwyr Ôl-raddedig yn gweithio’n agos â’r tîm Llais Myfyrwyr a’ch chyd-swyddogion ar faterion a pholisïau sy’n effeithio ar Fyfyrwyr Ôlraddedig Ymchwil (ORY) ac Ôl-raddedig Addysgu (ORA), cyfathrebu adborth ar lefelau ysgol a choleg o Fyfyrwyr Ôlraddedig ym mhwyllgorau’r Brifysgol er mwyn lobïo ar gyfer newid, gweithio gyda’r tîm Llais Myfyrwyr a’r IL Addysg i hyrwyddo’r system Cynrychiolaeth Academaidd i ôl-raddedigion, darparu cefnogaeth i’r cynrychiolwyr i’w galluogi i gyflawni eu rolau a bod yn brif gyswllt i ôl-raddedigion yn yr Undeb Myfyrwyr. Maent yn gweithio'n agos gyda, a chefnogi’r Gymdeithas Myfyrwyr Ôlraddedig.
VICE PRESIDENT POSTGRADUATE STUDENTS
MANIFESTO 2019
17
IS LYWYDD MYFYRWYR OL-RADDEDIG
NICHOLAS FOX Shwmae! I’m Nick the former VP Welfare and this year’s Senate and AGM Chair, currently studying a Maths Masters. When I joined Cardiff almost 5 years ago, I had a full hairline and couldn’t grow a beard… For Postgraduates: Continue establishing a Postgraduate/Mature students’ community with events throughout the year. More affordable halls options between June-September. Ensure all Postgraduate inductions include SU and Student Support information. Encourage PGR students to join University and College Union (UCU). Go across campus and meet PGR students every week. Protect Postgraduate students from being disproportionately affected by University’s ‘Transforming Cardiff’ cost-saving restructuring. Not Just for Postgraduates: Implement a letting agent review so students can avoid the worst. Modules opted-out of lecture capture to specify in module information. Lobby for more Next Bikes across student areas. Fully support implementation of the Welsh Language officer passed at AGM but OPPOSE suggested VP Sports/Societies merger to fund this. ‘Cardiff University: Yesterday’s Technology, Tomorrow.’ Lobby for better investment in technology. Link up Student Support with JobShop, giving priority to some jobs to students in financial distress. Charge Met Students Quids-Into-YOLO to fund health initiatives. If you like what you see then for fox sake, Vote Nicholas Fox. Shwmae! Nick ydw i, y cyn IL Lles a Chadeirydd y Senedd a’r CCB eleni, ac ar hyn o bryd yn astudio Gradd Meistr mewn Mathemateg. Pan ymunais i â Chaerdydd bron i 5 mlynedd yn ôl, roedd gen i wallt ar flaen fy mhen a doeddwn i ddim yn medru tyfu barf... I Ôl-raddedigion: Parhau i sefydlu cymuned myfyrwyr Ôl-raddedig/Hŷn gyda digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn. Mwy o opsiynau neuaddau preswyl fforddiadwy rhwng Mehefin-Medi. Sicrhau fod pob cyfnod cyflwyno Ôl-raddedigion yn cynnwys gwybodaeth am yr Undeb a Chefnogaeth Myfyrwyr. Ysgogi myfyrwyr Ôl-raddedig Ymchwil i ymuno ag Undeb Prifysgol a Choleg (UCU). Mynd ar draws y campws i gwrdd â myfyrwyr Ôl-raddedig Ymchwil bob wythnos. Amddiffyn myfyrwyr ôl-raddedig rhag cael eu heffeithio’n anghyfartal gan gynllun ailstrwythuro ac arbed arian, ‘Trawsffurfio Caerdydd’. Nid i Ôl-raddedigion yn unig: Gweithredu adolygiad asiantaethau gosod fel y gall myfyrwyr osgoi'r gwaethaf. Modiwlau sydd wedi optio allan o recordio darlithoedd i ddynodi hynny mewn gwybodaeth modiwlau. Lobio dros fwy o Next Bikes ar draws ardaloedd myfyrwyr. Llawn gefnogi gweithredu ar gyflwyno Swyddog Y Gymraeg a basiwyd yn y CCB ond GWRTHWYNEBU'r awgrym i gyfuno IL Chwaraeon/Cymdeithasau i ariannu hyn. ’Prifysgol Caerdydd: Technoleg ddoe, Yfory.’ Lobio dros well buddsoddiad mewn technoleg. Cysylltu Cefnogaeth Myfyrwyr gyda’r Siopswyddi, yn rhoi blaenoriaeth i rai swyddi i fyfyrwyr sydd yn profi caledi ariannol. Codi £1 ar Fyfyrwyr Prifysgol Met i fynd i YOLO er mwyn ariannu mentrau iechyd. Os ydych chi’n hoffi beth rydych chi’n ei weld, pleidleisiwch Nicholas Fox
ELIZABETH HOWARD Hello! My name’s Elizabeth and I am a final year PhD student from SHARE. As a graduate teaching assistant for four years, I have a clear understanding of the rewards and challenges this role entails. I am passionate about ensuring that all graduates who are in teaching roles are treated fairly. I am also president of the Society for Women Graduates (CUSWG) – the only postgraduate society at the university. But there is more I can do: For Undergraduates: Establish mentorship schemes for students considering postgraduate study. Provide fast-track postgraduate applications for current undergraduates. For Postgraduates: Ensure that all students are offered the same level of support from their supervisors. Provide more support for students in financial difficulties. Increase clarity and consistency in contracts for postgraduates who teach. Lobby for better and fairer working conditions and contracts. Organise more postgraduate events with Give it a Go, Careers and Employability, Skills and Volunteering. Improve postgraduate office and social facilities on all campuses, including Queen’s Buildings and Heath Campus. For Heath Postgraduates: Hold weekly office hours where I will be present and visible on campus. Run more postgraduate focused services and events at the Heath. Contact me on: twitter: @Howard_4_VPPG facebook: www.facebook.com/Howard4VPPG/ Helo! Fy enw i yw Elizabeth ac rydw i yn fyfyriwr PhD SHARE yn fy mlwyddyn olaf. Fel cymhorthydd dysgu graddedig am bedwar blynedd, mae gen i ddealltwriaeth glir o’r buddiannau a sialensiau sy’n ynghlwm â’r rôl. Rydw i’n angerddol am sicrhau fod bob myfyriwr graddedig sydd mewn rôl dysgu yn cael eu trin yn deg. Rydw i hefyd yn Llywydd ar y Gymdeithas i Raddedigion Benywaidd (CUSWG) - yr unig gymdeithas ôl-raddedig yn y brifysgol. Ond mae mwy y gallaf i wneud: I Israddedigion: Sefydlu cynlluniau mentora ar gyfer myfyrwyr sy’n ystyried astudiaethau ôlraddedig. Darparu ceisiadau ôl-raddedig llwybr cyflym i israddedigion presennol. I Ôl-raddedigion: Sicrhau fod bob myfyriwr yn cael cynnig i’r un lefel o gefnogaeth gan eu goruchwylwyr. Darparu mwy o gefnogaeth i fyfyrwyr gydag anawsterau ariannol. Cynyddu eglurdeb a chysondeb mewn cytundebau i ôl-raddedigion sy’n addysgu. Lobio dros amodau gwaith a chytundebau gwell a thecach. Trefnu mwy o ddigwyddiadau ôl-raddedig gyda Rho Gynnig Arni, Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, Sgiliau a Gwirfoddoli. Gwella swyddfa ôl-raddedig a chyfleusterau cymdeithasol ar bob campws, gan gynnwys Adeiladau’r Frenhines a Champws y Mynydd Bychan. I Ôl-raddedigion y Mynydd Bychan: Cynnal oriau swyddfa wythnosol lle byddaf yn bresennol ac yn weladwy ar y campws. Cynnal mwy o wasanaethau yn ffocysu ar wasanaethau a digwyddiadau ôl-raddedig yn y Mynydd Bychan. Cysylltwch â fi ar: trydar: @Howard_4_VPPG facebook: www.facebook.com/Howard4VPPG/
18
MANIFESTO 2019
VICE PRESIDENT POSTGRADUATE STUDENTS IS LYWYDD MYFYRWYR OL-RADDEDIG
MUHAMMAD KHAN
ARSALAN JAWEED LAMBAY
Hello, I’m Muhammad Khan, Masters (Logistics and Operations Management) student running for VP Postgraduate, I have previously experienced as a Class representative in my Masters and also society postgraduate advisor working with the union.
I am Arsalan Lambay, and I am running for VP Postgraduate Student in the upcoming spring elections. I believe I have realistic ideas that deal with the concerns that we as students face during our postgraduate studies. I will work progressively at the union level and beyond to improve the experience of all postgraduate students at the university. Being an international student myself one of my major priorities will be working towards solving the issues of students from different backgrounds and diverse cultures across the world.
If successfully elected, I will; Funding: Get postgraduate bursaries and scholarship support, also increase number of tution fee installments. Career & Employability: Providing career counseling, real world business networking through visits and seminars and in-house job opportunities. Social Activities: Work to increase Postgraduate participation in extra-curricular opportunities; working with clubs and societies to improve Postgraduate representation. PGR: Ensure that PGR receive better pay, support and their relationship with their supervisor. I want to make sure every research student have access to suitable workspace and get extra training for teaching. Library & Study Zones: I would like to extend opening hours and study zone for PG students especially at weekends. Better accessibility to text books including more copies and flexible return dates. Time table & Assessment: Make timetables more compact and having reasonable gaps. Also make sure exam dates and results are released on time Mental Health: Provide better mental health support; providing personal tutor training on mental health to tackle overlooked problem. Helo, Muhammad Khan ydw i, myfyriwr Gradd Meistr (Logisteg a Rheoli Gweithrediadau) yn ymgeisio i fod yn IL Ôl-raddedig. Drwy fod yn gynrychiolydd dosbarth yn fy ngradd meistr a hefyd fel cynghorydd cymdeithas ôl-raddedig mae gen i brofiad blaenorol o weithio gyda’r undeb. Os byddaf yn llwyddiannus yn cael fy ethol, byddaf yn; Ariannu: Cael cefnogaeth bwrsariaethau ôl-raddedig ac ysgoloriaethau, hefyd cynyddu nifer rhandaliadau’r ffioedd dysgu. Gyrfa a Chyflogadwyedd: Darparu cwnsela gyrfaoedd, rhyngweithio gyda busnesau’r byd go iawn drwy ymweliadau a seminarau a chyfleoedd gwaith mewnol. Gweithgareddau Cymdeithasol: Gweithio i gynyddu cyfranogiad Ôl-raddedigion mewn cyfleoedd allgyrsiol; gweithio gyda chlybiau a chymdeithasau i wella cynrychiolaeth Ôl-raddedig. Ôl-raddedig Ymchwil: Sicrhau fod Ôl-raddedigion Ymchwil yn derbyn gwell cyflog, cefnogaeth a pherthynas well gyda’u goruchwyliwr. Rydw i eisiau gwneud yn siŵr fod gan bob myfyriwr ymchwil fynediad at ofod gwaith addas ac yn cael hyfforddiant ychwanegol ar gyfer addysgu. Llyfrgell a Mannau Astudio: Hoffwn roi estyniad ar oriau agor a mannau astudio ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig yn enwedig ar benwythnosau. Gwell hygyrchedd i lyfrau testun yn cynnwys mwy o gopïau a dyddiadau dychwelyd hyblyg. Amserlen ac Asesu: Gwneud amserlenni yn fwy compact a chael bylchau rhesymol. Hefyd sicrhau fod dyddiadau arholiadau a chanlyniadau yn cael eu cyhoeddi ar amser Iechyd Meddwl: Darparu gwell cefnogaeth iechyd meddwl; yn darparu hyfforddiant i diwtoriaid personol ar iechyd meddwl i fynd i’r afael â’r broblem hon sy’n cael ei hesgeuluso.
If elected, I will: Work towards more financial support and improved employment opportunities for masters and PhD students. Increase support for part time students, including those with families and caring responsibilities. Support PhD students who teach to gain proper contracts with rights and pay clarity. Campaign to make postgraduate study more affordable and accessible. Arrange more socials to create a better and more close-knit postgraduate community at our university. Attempt to improve study spaces across campus with more facilities. I am incredibly excited about standing for the position of Vice-President Postgraduate and want to thank you for considering my manifesto. Arsalan Lambay ydw i, ac rydw i’n ymgeisio ar gyfer IL Myfyrwyr Ôl-raddedig yn etholiadau’r gwanwyn. Credaf fod gen i syniadau realistig sy’n delio gyda’r pryderon rydyn ni fel myfyrwyr yn eu hwynebu yn ystod ein hastudiaethau ôl-raddedig. Byddaf yn gweithio’n gynyddol ar lefel yr undeb a thu hwnt i wella profiad yr holl fyfyrwyr ôl-raddedig yn y brifysgol. O fod yn fyfyriwr rhyngwladol fy hun un o fy mhrif flaenoriaethau fydd gweithio tuag at ddatrys problemau myfyrwyr o gefndiroedd gwahanol a diwylliannau amrywiol ar draws y byd. Os caf fy ethol, byddaf yn: Gweithio tuag at fwy o gefnogaeth ariannol a gwell cyfleoedd cyflogaeth i fyfyrwyr gradd meistr a PhD. Cynyddu cefnogaeth i fyfyrwyr rhan-amser, gan gynnwys y rheiny â chyfrifoldebau teulu a gofalu. Cefnogi myfyrwyr PhD sy’n addysgu i gael cytundebau gwirioneddol gyda hawliau ac eglurder wrth drafod tâl. Ymgyrchu i wneud astudiaethau ôl-raddedig yn fwy fforddiadwy a hygyrch. Trefnu mwy o ddigwyddiadau cymdeithasol a chreu cymuned ôl-raddedig well a chlòs yn ein prifysgol. Ceisio gwella mannau astudio ar draws y campws gyda mwy o gyfleusterau. Rydw i’n hynod gyffrous ynglŷn ag ymgeisio am y swydd o Is-lywydd Ôl-raddedig ac eisiau diolch i chi am ystyried fy maniffesto.
VICE PRESIDENT POSTGRADUATE STUDENTS
MANIFESTO 2019
19
IS LYWYDD MYFYRWYR OL-RADDEDIG
YASAR MAJIB Hello/Shwmae everyone, I am running for the position of VP Postgraduate Students with the confidence that I can play a positive role in making life of students better. I am currently a Academic Rep or MSc ISP and Chair the SSP meeting in COMSC. I have 11-years of work experience after completing my graduation, I have learned a lot of skills in that era. I have been working at a senior management (decision making) position in an organization with more than a thousand people, I have a very good understanding of how decisions impacts life of others (great power comes with great responsibility). I was dealing with very big projects (multi-billion) which have changed the culture of big provinces (more than 100-million population). I will do my best for improving the overall experience of Postgraduates’ life/ study, but will also focus on the following: Teaching opportunities Job sharing culture (one job with multiple part-time students) Lectures' debriefing time/space Social Events for PGs Ideas Sharing Centre where anybody can come and present their idea to get feedback and necessary support Develop a culture where work/life/study balance is maintained Please vote for me because it can't be done without your help. Yasar Majib Shwmae bawb, Rydw i’n ymgeisio am y swydd o IL Myfyrwyr Ôl-raddedig yn hyderus y gallaf chwarae rôl gadarnhaol drwy wella bywydau myfyrwyr. Ar hyn o bryd rydw i’n Gynrychiolydd Academaidd neu MSc ISP a Chadeirydd y cyfarfodydd PSM yn COMSC. Mae gen i 11 mlynedd o brofiad gwaith wedi i mi gyflawni fy ngradd, rydw i wedi dysgu llawer o sgiliau yn y cyfnod hwn. Rydw i wedi bod yn gweithio mewn swydd uwch reoli (gwneud penderfyniadau) mewn sefydliad gyda dros fil o bobl, mae gen i ddealltwriaeth dda o sut mae penderfyniadau yn effeithio bywydau eraill (gyda phŵer daw cyfrifoldeb). Roeddwn yn deilio â phrosiectau mawr iawn (gwerth miliynau) sydd wedi newid diwylliant taleithiau mawr iawn (poblogaeth mwy na 100-miliwn). Gwnaf fy ngorau i wella profiad cyffredinol Ôl-raddedigion bywyd/astudio, ond byddaf hefyd yn ffocysu ar y canlynol: Cyfleoedd dysgu Diwylliant rhannu swyddi (un swydd gyda sawl myfyriwr rhan-amser) Amser/ gofod i roi adborth ar ddarlithoedd Digwyddiadau Cymdeithasol i Ôl-raddedigion Canolfan Rhannu Syniadau lle gall unrhyw un ddod a chyflwyno eu syniad i gael adborth a chefnogaeth angenrheidiol. Datblygu diwylliant lle mae bywyd/gwaith/astudio cytbwys yn cael ei gynnal Pleidleisiwch drosof i os gwelwch yn dda, nid yw’n bosib cyflawni hyn heb eich cymorth chi. Yasar Majib
JANET WILLIAMS I am a part-time LLM student. Since 2018, I have created a new association for Carers and Parents and have been active across Cardiff Students Union in many other roles. I am a Postgrad Rep and Chair of the Committee in Law POL. I am also part of the 2018-19 Postgraduate Exec. I was recently elected to the NEC as 2019-20 NUS Part-time Officer. As President of the Housing Action, I helped secure a date for abolishing Agency fees in Wales. Free Teas/Coffees once a week during Summer for all students studying. Continue and expand Master’s Funding Information Events to include similar events for potential PGRS. Create a support network for EU students to ensure continuity and reassurance if Brexit happens. Ensure all International Postgraduates have more support including a sponsored emergency contingency fund. Dedicated drop-in sessions for postgraduates across campuses. Include Integrated Masters students in postgraduate events. More scholarships and bursaries for postgraduates. Improve accessibility to the hardship fund. Improve third floor SU facilities for postgraduates. Explore internship opportunities for postgraduates. Improve Supervision system for PGR’s and Personal tutor system for PGT’s More consistency and support to postgraduate researchers teaching. Continue campaign to grant PGRs who teach employment status. Rydw i’n fyfyriwr LLM rhan-amser. Ers 2018, rydw i wedi creu cymdeithas newydd i Ofalwyr a Rhieni ac wedi bod yn weithredol ar draws Undeb Myfyrwyr Caerdydd a sawl rôl arall. Rydw i’n Gynrychiolydd Ôl-raddedig ac yn Gadeirydd ar y Pwyllgor yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth. Rydw i hefyd yn rhan o Bwyllgor Gwaith Ôl-raddedig 2018-19. Yn ddiweddar cefais fy ethol ar gyfer y NEC fel Swyddog Rhan-amser NUS 2019-20. Fel llywydd Gweithredu Tai, fe gynorthwyais i ddiogelu dyddiad ar gyfer diddymu Ffioedd Asiantaeth Gosod yng Nghymru. Te a choffi am ddim unwaith yr wythnos yn ystod yr Haf i bob myfyriwr sy’n astudio. Parhau ac ehangu Digwyddiadau Gwybodaeth am Nawdd Gradd Meistr i gynnwys digwyddiadau tebyg i ddarpar Ôl-raddedigion Ymchwil posibl. Creu rhwydwaith cymorth i fyfyrwyr yr UE i sicrhau cysondeb a sicrwydd os yw Brexit yn digwydd. Sicrhau fod bob myfyriwr Ôl-raddedig Rhyngwladol yn cael mwy o gefnogaeth yn cynnwys cronfa argyfwng wrth gefn wedi ei noddi. Sesiynau taro heibio yn ymroddedig i ôl-raddedigion ar draws y campysau. Cynnwys myfyrwyr Gradd Meistr Integredig mewn digwyddiadau ôl-raddedig. Mwy o ysgoloriaethau a bwrsariaethau i ôl-raddedigion. Gwella hygyrchedd at y Gronfa Caledi. Gwella cyfleusterau i ôl-raddedigion ar drydydd llawr Undeb y Myfyrwyr. Archwilio’r posibiliad o gyfleoedd interniaethau i ôl-raddedigion. Gwella system Goruchwylio ar gyfer Ôl-raddedigion Ymchwil a’r system Tiwtoriaid Personol i Ôl-raddedigion a addysgir. Mwy o gysondeb a chefnogaeth i ymchwilwyr ôl-raddedig sy’n addysgu. Parhau i ymgyrchu i roi statws cyflogaeth i ôl-raddedigion ymchwil sy’n addysgu.
PAM PLEIDLEISIO?
“ OHERWYDD DEMOCRATIAETH = PWER I’R BOBL.” ETHOLIADAU’R GWANWYN 2019 PLEIDLEISIO’N AGOR: 09:00 25 CHWEFROR PLEIDLEISIO’N CAU: 17:00 1 MAWRTH
CARDIFFSTUDENTS.COM/VOTE
MANIFESTO 2019
VICE PRESIDENT SOCIETIES & VOLUNTEERING IS LYWYDD CYMDEITHASAU A GWIRFODDOLI
The VP Societies & Volunteering will champion societies, campaigns and student-led activities within the Union, University, and local community. They are also responsible for allocating budgets to our societies. It will be their role to represent the views of our diverse membership of over 200 affiliated groups and 8000 members. They will help to ensure the Union continues to develop its support for societies and ensure that students as members and leaders have access to high quality opportunities.
Mae’r Is-Lywydd Cymdeithasau a Gwirfoddoli yn hyrwyddo cymdeithasau, ymgyrchoedd a gweithgareddau a arweinir gan fyfyrwyr yn yr Undeb, y Brifysgol a’r gymuned leol. Mae hefyd yn gyfrifol am ddyrannu cyllidebau i’n cymdeithasau. Eu rôl nhw fydd cynrychioli barn ein haelodaeth amrywiol o dros 200 grŵp cyswllt ac 8000 o aelodau. Byddant yn sicrhau bod yr Undeb yn parhau i ddatblygu ei chefnogaeth ar gyfer cymdeithasau a sicrhau bod myfyrwyr fel cyfranogwyr ac arweinwyr yn cael mynediad at gyfleoedd o ansawdd uchel.
21
22
MANIFESTO 2019
VICE PRESIDENT SOCIETIES & VOLUNTEERING IS LYWYDD CYMDEITHASAU A GWIRFODDOLI
NICOLA MORGAN Having been president of 2 societies and a representative on the societies exec committee, I know all the challenges faced by committees and I'd love to have the opportunity to help make all your societies and volunteering opportunities the best that they can be! I’d rework the tier structure to make sure it’s achievable for societies of all sizes and categories, as well as making committee training online so you can do it in your own time. I also want to petition the university for an easier way to book university rooms (to take pressure off the SU rooms), and want to look into how venues in the SU are used and see if more time can be given to societies in key rooms like Y Plas, Y Stiwdio and Y Stiwdio 2. In addition I'd work to ensure the Centre for Student Life works for societies when it's built. Finally, I’d increase visits to the Heath Campus as well as working one evening a week for students who may be on placement 9-5. I'd work with officers representing Postgraduates, Heath students, BME minority students and disabled students to make sure societies are open to all. O fod yn llywydd 2 gymdeithas ac yn gynrychiolydd ar bwyllgor gwaith y cymdeithasau, rydw i’n ymwybodol o’r holl heriau y mae cymdeithasau yn eu hwynebu ac fe garwn gael y cyfle i helpu gwneud bob un o’ch cymdeithasau a chyfleoedd gwirfoddoli'r gorau posibl! Byddaf yn ailwampio’r strwythur haen i wneud yn siŵr ei fod yn gyraeddadwy i gymdeithasau o bob maint a chategori, yn ogystal â gwneud hyfforddiant pwyllgor ar-lein fel y gallwch ei wneud yn eich amser eich hunain. Rydw i hefyd eisiau deisyfu’r brifysgol am hwyluso’r ffordd o archebu ystafelloedd y brifysgol (lleihau’r baich ar ystafelloedd yr Undeb), ac eisiau archwilio sut mae lleoliadau yn yr Undeb yn cael eu defnyddio a gweld os gall mwy o amser gael ei roi i gymdeithasau yn y prif ystafelloedd megis Y Plas, Y Stiwdio a'r Stiwdio 2. Yn ogystal byddaf yn gweithio i sicrhau y bydd Canolfan Bywyd y Myfyrwyr yn gweithio ar gyfer cymdeithasau pan gaiff ei adeiladu. Yn olaf, byddaf yn cynyddu ymweliadau i’r Mynydd Bychan yn ogystal â gweithio un noson yr wythnos i fyfyrwyr a all od ar leoliad rhwng 9-5. Byddaf yn gweithio gyda’r swyddogion a fydd yn cynrychioli Ôl-raddedigion, myfyrwyr y Mynydd Bychan, myfyrwyr lleiafrifoedd BME a myfyrwyr anabl i wneud yn siŵr fod cymdeithasau yn agored i bawb.
HANNAH SCHOLES Hey everyone! I’m Hannah and this is why I’m running for VP Societies and Volunteering. As the president of the Medieval Re-enactment Society, I know how hard running a society can be, but I also know how great being a part of a society is. YOUR union works for YOU. Societies and Volunteering is fantastic at CUSU, but I can make it even better. There are over 200 UNIQUE societies and each one has their own needs and they all work slightly differently. It’s that diversity that makes CUSU amazing. In my spare time I volunteer with a local Scout group and this year I’m also helping with Nerd Varsity. This is what I aim to do: Refine and condense paperwork to make it clearer, easier and more usable. Explore options for additional storage facilities. Make it possible for societies to collaborate easily with societies from other universities. Support societies in working with academic courses. Relaunch the refreshers fair in the Spring semester and bring back wristbands for people on the stalls. Expand links between societies and volunteering opportunities. Recognise all the hard work volunteers put in. Want to know more? Come have a chat or drop me an Email. Helo bawb! Hannah ydw i a dyma pam rydw i’n ymgeisio i fod yn IL Cymdeithasau a Gwirfoddoli. Fel llywydd y Gymdeithas Ailddeddfiad Canoloesol, rydw i’n gwybod pa mor anodd y gall redeg cymdeithas fod, ond rydw i hefyd yn gwybod pa mor wych yw bod yn rhan o gymdeithas. Mae EICH undeb yn gweithio ar eich cyfer CHI. Mae Cymdeithasau a Gwirfoddoli yn ffantastig yn UMPC, ond gallaf i ei wneud yn well fyth. Mae dros 200 o gymdeithasau UNIGRYW ac mae gan fod un ei hanghenion ei hun ac maent oll yn gweithio mewn ffyrdd gwahanol. Amrywiaeth sy’n gwneud UMPC mor anhygoel. Yn fy amser rhydd rydw i’n gwirfoddoli gyda grŵp Scout lleol ac eleni rydw i hefyd yn helpu gyda’r Farsiti Amgen. Dyma rydw i’n anelu at wneud: Ailddiffinio a chywasgu gwaith papur i’w wneud yn gliriach, yn haws ac yn haws ei ddefnyddio. Archwilio opsiynau ar gyfer cyfleusterau storio ychwanegol. Hwyluso’r cyfle i gymdeithasau gydweithio gyda chymdeithasau o brifysgolion eraill. Cefnogi cymdeithasau mewn gweithio â chyrsiau academaidd. Ail lansio ffair y glas yn nhymor y Gwanwyn ac ail gyflwyno strapiau arddwrn i bobl ar y stondinau. Ehangu cysylltiadau rhwng cymdeithasau a chyfleoedd gwirfoddoli. Cydnabod yr holl waith caled mae gwirfoddolwyr yn ei wneud. Eisiau gwybod mwy? Dewch i gael sgwrs neu anfonwch E-bost ataf.
VICE PRESIDENT SOCIETIES & VOLUNTEERING
MANIFESTO 2019
23
IS LYWYDD CYMDEITHASAU A GWIRFODDOLI
ORLA TARN
EMILY WILLISCROFT
As your current Mental Health Officer, I care deeply about our societies and volunteering projects – I have not only seen the positive effect they have on student wellbeing, but have also experienced them first-hand. In my time at Cardiff, I have taken part in twelve different societies and four different Volunteering projects (and the Societies Exec!), all of which have made me the person I am today. I’d like to make societies and volunteering the best they can possibly be, so they continue to hugely impact on the Student Experience.
Hi! I'm Emily, a third year student eager to improve your student experience. As both an SU Volunteer and a member of societies such as Act One, I’ve learnt amazing skills and made lifelong friends. Now I’d love to help every student to have these opportunities by becoming your VP Societies and Volunteering!
My ideas are: University Level: Further development of the REFRESHERS’ Period Trialling low-cost TRANSPORT for commuting between halls and activities
1) To work more closely with all societies on a personal level to bring about the changes YOU want to see, as well as working to get more people involved in our universities 200+ societies.
Improving Accessibility: SIX MONTH memberships for placement/exchange students Introducing WELLBEING OFFICERS as tier structure requirement Optimising Societies and Volunteering FAYRES, facilitating EASY ACCESS to STALLHOLDERS
2) Supporting the growth of the Volunteering branch within the SU. By bringing all aspects of volunteering under this branch, students will be able to more easily set up and take part in volunteering programs they are passionate about.
Encouraging Growth: Introducing a ‘VOLUNTEER OF THE WEEK’ scheme Restructuring the ROOM BOOKING system to include Heath and University rooms Holding a weekly DROP-IN for committees/students wanting to start new societies/ projects Creating SPONSORSHIP LISTINGS on the SU website for Societies and studentrun projects Hosting society category FORUMS for committees Want to know more? Find my extended manifesto on Facebook: https://www.facebook.com/orla.tarn Thank you – please VOTE! Fel eich Swyddog Iechyd Meddwl presennol, mae ein cymdeithasau a phrosiectau gwirfoddoli yn bwysig iawn i mi - nid yn unig ydw i wedi gweld yr effaith gadarnhaol y maent yn ei gael ar les myfyrwyr, ond hefyd wedi eu profi yn bersonol. Yn ystod fy amser yng Nghaerdydd, rydw i wedi cymryd rhan mewn deuddeg gwahanol gymdeithas a phedwar prosiect Gwirfoddoli gwahanol (a Phwyllgor Gwaith y Cymdeithasau!), maent oll wedi fy siapio i fel person. Hoffwn wneud cymdeithasau a gwirfoddoli'r gorau posibl, fel eu bod yn parhau i gael dylanwad mawr ar y Profiad Myfyriwr. Fy syniadau i yw: Lefel Prifysgol: Datblygiad pellach o gyfnod Ail Wythnos y Glas Treialu TRAFNIDIAETH cost isel ar gyfer cymudo rhwng neuaddau preswyl a gweithgareddau Gwella Hygyrchedd: Aelodaeth CHWE MIS ar gyfer myfyrwyr ar leoliad/myfyrwyr cyfnewid. Cyflwyno SWYDDOGION LLES fel un o ofynion y strwythur haen Gwneud y mwyaf o FFEIRIAU Cymdeithasau a Gwirfoddoli, hwyluso MYNEDIAD i STONDINWYR Annog Twf: Cyflwyno cynllun ‘GWIRFODDOLWR YR WYTHNOS’ Ailstrwythuro'r system ARCHEBU YSTAFELLOEDD i gynnwys ystafelloedd Y Mynydd Bychan a’r Brifysgol Cynnal sesiynau GALW HEIBIO wythnosol ar gyfer pwyllgorau/myfyrwyr sydd eisiau dechrau cymdeithasau/prosiectau newydd Creu RHESTRAU NAWDD ar wefan yr Undeb ar gyfer cymdeithasau a phrosiectau a redir gan fyfyrwyr Cynnal FFORYMAU wedi ei chategoreiddio ar gyfer pwyllgorau cymdeithasau Eisiau gwybod mwy? Dewch o hyd i fy maniffesto estynedig ar Facebook: https://www.facebook.com/orla.tarn Diolch - PLEIDLEISIWCH os gwelwch yn dda!
So, what’s the plan?
3) Make the Fresher’s Fair easier to navigate for both Students and Society members running the stalls. 4) Create more awareness for societies and volunteering through improved publicity and by better connecting the Academic Schools to the SU. University isn’t just about your degree; it is about making friends and doing something you're passionate about. So #SpiceUpSocieties and vote for me to make the changes you want to see! Haia! Emily ydw i, myfyriwr trydedd flwyddyn yn awyddus i wella eich profiad myfyriwr. Fel Gwirfoddolwr yn yr Undeb ac aelod o gymdeithasau megis Act One, rydw i wedi dysgu sgiliau anhygoel a gwneud ffrindiau gydol oes. Fe garwn i helpu pob myfyriwr i gael y cyfleoedd hyn drwy fod yn IL Cymdeithasau a Gwirfoddoli i chi! Felly, beth yw’r cynllun? 1) I weithio yn fwy agos gyda’r holl gymdeithasau ar lefel bersonol i gyflwyno’r newidiadau rydych CHI eisiau eu gweld, yn ogystal â gweithio i gael mwy o bobl i gymryd rhan yn un o’r 200+ cymdeithas yn ein prifysgol. 2) Cefnogi twf y gangen Gwirfoddoli o fewn yr Undeb. Bydd dod â phob agwedd o wirfoddoli o dan y gangen hon, yn ei gwneud hi’n haws i fyfyrwyr sefydlu a chymryd rhan mewn rhaglenni gwirfoddoli y maent yn angerddol amdanynt. 3) Gwneud Ffair y Glas yn haws ei dramwyo i Fyfyrwyr ac aelodau’r Cymdeithasau yn rhedeg y stondinau. 4)Creu mwy o ymwybyddiaeth am gymdeithasau a gwirfoddoli drwy well cyhoeddusrwydd a drwy wneud gwell cyswllt rhwng yr Ysgolion Academaidd a’r Undeb. Nid yw’r brifysgol am eich gradd yn unig; mae hefyd yn gyfle i wneud ffrindiau a gwneud rhywbeth rydych chi’n angerddol amdano. Felly #SpiceUpSocieties pleidleisiwch drosof fi i wneud y gwahaniaeth hoffwch ei weld!
24
MANIFESTO 2019
VICE PRESIDENT SPORTS & AU PRESIDENT IS LYWYDD CHWARAOEN A LLYWYDD YR UNDEB ATHLETAIDD
The Vice President Sports and AU President champions sport within the Union, University, and local community. It’s their role to represent students who play both competitive and participation sports to both the University and the Union. They are also the key liaison Sabbatical Trustee with the University Sports Department, as well as working with the student-led sports clubs to assist them in their development. Essentially, the VP Sports is here to promote health and fitness and to inspire more students to play sport at Cardiff University.
Mae’r Is Lywydd Chwaraoen A Llywydd Yr Undeb Athletaidd yn hyrwyddo chwaraeon o fewn yr Undeb, y Brifysgol a’r gymuned leol. Ei rôl yw cynrychioli myfyrwyr sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon cystadleuol a chyfranogol i’r Brifysgol a’r Undeb. Yr unigolyn hwn hefyd yw’r Swyddog cyswllt allweddol ag Adran Chwaraeon y Brifysgol, ac mae’n gweithio gyda’r clybiau chwaraeon a arweinir gan fyfyrwyr i’w helpu i ddatblygu. Diben yr Is Lywydd Chwaraeon yw hybu iechyd a ffitrwydd ac ysbrydoli rhagor o fyfyrwyr i gymryd rhan mewn chwaraeon ym Mhrifysgol Caerdydd.
VICE PRESIDENT SPORTS & AU PRESIDENT
MANIFESTO 2019
25
IS LYWYDD CHWARAOEN A LLYWYDD YR UNDEB ATHLETAIDD
JACOB LLOYD
SHABAN NADEEM
Jake a difference! Vote Jacob Lloyd for VP Sports.
Shaban for VP Sports.
Through my work as a student senator, SU volunteer, and wellbeing champion, I have a thorough appreciation of our student community’s vital needs. As the president of one of the university’s fastest-growing clubs – Ultimate Frisbee – I have become familiar with the workings of the Athletic Union and its relationships with societies of all sizes.
Sporting commitments have long occupied my time at the University. Participation in different sporting activities has always wanted me to improve student experience where a lack of facilities and equipment tend to inhibit sportsmen’s ability to outperform. As Paksoc Sports Director, I have continually worked towards increasing sporting events which has helped bring into light the hidden talent. Your vote would enable the provision of my services throughout Cardiff University.
Aside from this position’s chief priorities – namely lobbying the university for improved facilities – I am especially passionate about: Improving and celebrating gender and LGBTQ+ inclusivity. I believe that everyone should be able to benefit from sport in Cardiff. To reflect our incredibly diverse student body, I hope to fully integrate often marginalised groups into the world of sport. Promoting school outreach and charity work for our sports clubs. I would love to help more clubs do great work in the community, be it coaching local school teams or raising money for charity. Encouraging participation for students who have not previously engaged in sports. Postgraduate or first year, elite athlete or complete beginner, I want to help every Cardiff student see that being involved in sport can make an incredible difference to your university experience.
I will work to ensure: 1. Free facilities: Students should be allowed to access sporting facilities free of cost, and availability for enrolled students be prioritised over external hires. 2. Free Wednesdays - For students who still have academic schedules after 1 pm as most BUCS games and other sports take place on the day. 3. Sports scholarships – To ensure that the University attracts the best talent. 4. Increased access – Ensuring that AU provides access to Swimming pools, Astro-turfs and more 3g pitches as per student demand. 5. Networking – Of AU with professional clubs and creating international opportunities. 6. Increased timings – For the sports facilities that close early on weekends. I will endeavour to ensure that the current University strategy is consistent with this non-exhaustive list.
Gwnewch wahaniaeth! Pleidleisiwch dros Jacob Lloyd ar gyfer IL Chwaraeon.
Shaban ar gyfer IL Chwaraeon.
Drwy fy ngwaith fel seneddwr myfyrwyr, gwirfoddolwr yn yr Undeb, a hyrwyddwr lles, mae gen i werthfawrogiad trylwyr o anghenion hanfodol ein cymuned o fyfyrwyr. Fel llywydd un o glybiau sy’n tyfu cyflymaf yn y brifysgol - Frisbee Eithafol - rydw i wedi dod yn gyfarwydd gyda’r ffordd y mae’r Undeb Athletaidd yn gweithredu a’i berthynas gyda chymdeithasau o bob maint.
Mae ymrwymiad at chwaraeon llenwi fy amser yn y Brifysgol ers amser hir. Mae cymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau chwaraeon wastad wedi gwneud i mi eisiau gwella profiad y myfyriwr pan mae diffyg cyfleusterau ac offer yn tueddu i gyfyngu ar allu chwaraewyr i berfformio’n well. Fel Cyfarwyddwr Chwaraeon Paksoc, rydw i wedi gweithio yn barhaol tuag at gynyddu digwyddiadau chwaraeon sydd wedi helpu i ddatguddio talentau cudd. Bydd eich pleidlais yn galluogi darpariaeth fy ngwasanaethau ar draws Prifysgol Caerdydd.
Ar wahân i’r prif flaenoriaethau'r swydd hon - yn bennaf lobio’r brifysgol ar gyfer cyfleusterau gwell - rydw i’n enwedig yn angerddol ynglŷn â: Gwella a dathlu cynwysoldeb rhywedd a LGBTQ+ Rydw i’n credu y dylai pawb allu buddio o chwaraeon yng Nghaerdydd. I adlewyrchu ein corff myfyrwyr hynod amrywiol, rydw i’n gobeithio i integreiddio’n llawn grwpiau sy’n aml ar y cyrion i mewn i fyd chwaraeon. Hyrwyddo ymestyn allan at ysgolion a gwaith elusennol ymysg ein clybiau chwaraeon. Fe garwn helpu mwy o glybiau i wneud gwaith gwych yn y gymuned, boed hynny’n hyfforddi timau ysgolion lleol neu godi arian i elusen. Annog cyfranogaeth myfyrwyr nad ydynt wedi ymgymryd â chwaraeon yn y gorffennol. Myfyriwr Ôl-raddedig neu fyfyriwr blwyddyn gyntaf, athletwr o fri neu ddechreuwyr, rydw i eisiau helpu bob myfyriwr yng Nghaerdydd i ddeall fod bod yn rhan o chwaraeon yn medru gwneud gwahaniaeth anhygoel i’ch profiad yn y brifysgol.
Byddaf yn gweithio i sicrhau: 1. Cyfleusterau am ddim: Dylai myfyrwyr gael mynediad at gyfleusterau chwaraeon heb orfod talu, a dylai argaeledd i fyfyrwyr cofrestredig gael blaenoriaeth dros logi allanol. 2. Dyddiau Mercher Rhydd - I fyfyrwyr sydd yn parhau i gael amserlen academaidd llawn wedi 1yh, gan fod y mwyafrif o gemau BUCS a chwaraeon eraill yn cael eu cynnal yr un diwrnod. 3. Ysgoloriaethau chwaraeon - I sicrhau fod y brifysgol yn denu'r talentau gorau. 4. Cynnydd mewn mynediad - Sicrhau fod yr UA yn darparu mynediad i byllau Nofio, caeau-astro mwy o gaeau 3g yn ddibynnol ar alw myfyrwyr. 5. Rhwydweithio -rhwng yr UA a chlybiau proffesiynol a chreu cyfleoedd rhyngwladol. 6. Cynyddu amserau- ar gyfer y cyfleusterau chwaraeon sy’n cau yn fuan ar benwythnosau. Byddaf yn ymdrechu i sicrhau fod strategaeth bresennol y Brifysgol yn gyson gyda’r rhestr nad yw’n gyflawn hon.
26
VICE PRESIDENT SPORTS & AU PRESIDENT
MANIFESTO 2019
IS LYWYDD CHWARAOEN A LLYWYDD YR UNDEB ATHLETAIDD
JUDE PICKETT Hey I’m Jude! I am running to be your VP Sport and Athletic Union President. I believe that, whether an elite athlete, recreational player or social member, being part of one of the 67 sports clubs at Cardiff Uni will enhance and transform your university experience. Therefore, I am dedicated to providing the best AU for you! Vote #HEYJUDE and I will Ensure free Student Union entry for AU members on Wednesday evenings Increase transparency and fairness of AU budget allocation Continuously lobby the university for improved and more sports facilities Promote social membership in all clubs Improve IMG and expand ‘Give it a Go’ schemes Promote spectating for important fixtures using advertisement across campus Improve transport for away supporters Reduce gym payment for AU members Link student physios/ sports massage students with players Increase effective communication between sports teams and the AU Create varsity competitions for lower level teams. As the current president of the Ladies' Hockey club, I have the knowledge and experience to know exactly what is required from the AU to make improvements for all. It would be rude not to vote for Jude! Helo Jude ydw i! Rydw i’n ymgeisio i fod yn IL Chwaraeon a Llywydd yr Undeb Athletaidd. Rydw i’n credu, boed eich bod chi’n athletwr o fri, chwaraewr hamdden neu aelod cymdeithasol, bydd bod yn rhan o un o’r 67 o glybiau chwaraeon ym Mhrifysgol Caerdydd yn trawsnewid eich profiad prifysgol. Felly, rydw i’n benderfynol o ddarparu'r UA gorau i chi! #PleidleisiwchJude ac fe fyddaf yn: Sicrhau mynediad am ddim i Undeb y Myfyrwyr i aelodau o’r UA ar nosweithiau Mercher Cynyddu tryloywder a thegwch wrth ddyrannu cyllid yr UA Lobio’r Brifysgol yn barhaol i gael gwell a mwy o gyfleusterau chwaraeon Hyrwyddo aelodaeth gymdeithasol ym mhob clwb Gwella IMG ac ehangu cynlluniau ‘Rho Gynnig Arni’ Hyrwyddo gwylio chwaraeon ar gyfer gemau pwysig gan hysbysu ar draws y campws Gwella trafnidiaeth i gefnogwyr oddi cartref Lleihau taliadau campfa ar gyfer aelodau'r UA Rhoi myfyrwyr ffysio/ myfyrwyr tylino chwaraeon mewn cysylltiad gyda chwaraewyr Cynyddu’r cyfathrebu effeithiol rhwng timau chwaraeon a’r UA Creu cystadlaethau Farsiti i dimau lefel is. Fel llywydd presennol y clwb Hoci Menywod, mae gen i’r wybodaeth a’r profiad i wybod yn union beth sydd ei angen gan yr UA i wneud gwelliannau i bawb. Pleidleisiwch Jude!
ELLA WATSON Umbrella Ella has got your AU covered! Ever since I was young, sport has been a massive part of my life from cross country running, to becoming the current president and women’s team captain of the Cardiff Uni Volleyball Club. Playing sports to a national level as well as recreationally has given me a well-rounded view of the requirements for Cardiff sports, and I’ve got the leadership experience to help the AU continue to thrive. As your AU president, I would strive to boost Cardiff Sport, through championing: #Physioforall Continue the process started by current AU president to provide free physio for all sports teams to maximising athlete performance whilst allowing physio students to gain their required practice hours. Improve the ‘sports for all’ campaign and imporve communication between AU and Cardiff Uni Sport. Lobbying to increase funding to improve accessibility in sports ie sitting volleyball, wheelchair rugby programs. Implement a focus on mental health in sports. Interclub awareness and increased social media presence. Introduce results shout-outs for sports teams at YOLO on Wednesday nights after BUCS games, and start a weekly results newsletter increasing inter-sport awareness. VOTE UMBRELLA ELLA FOR YOUR AU FELLA #AUPresidElla #lashylimbsforthewins #umbrellaellaforyourAUfella Mae gan El Ymbarél eich UA dan reolaeth! Ers i mi fod yn ifanc, mae chwaraeon wedi bod yn rhan fawr o fy mywyd o redeg traws gwlad, i fod yn Llywydd a chapten presennol ar dîm menywod Clwb Pêl-foli Prifysgol Caerdydd. Mae chwarae chwaraeon ar lefel genedlaethol yn ogystal ag yn hamddenol wedi rhoi golwg cyflawn o ofynion sydd eu hangen ar gyfer chwaraeon Caerdydd i mi, ac mae gen i’r profiad o arweinyddiaeth i helpu’r UA i barhau i ffynnu. Fel eich Llywydd yr AU, byddaf yn ymdrechu i hybu Chwaraeon Caerdydd, drwy hyrwyddo; #FfysioIBawb Parhau gyda’r broses a ddechreuwyd gan y Llywydd yr UA presennol i ddarparu ffysio am ddim i bob tîm chwaraeon i gynyddu perfformiad athletwyr wrth ganiatáu i fyfyrwyr ffysio ennill oriau ymarfer angenrheidiol. Gwella’r ymgyrch ‘chwaraeon i bawb’ a gwella cyfathrebu rhwng yr UA a Chwaraeon Prifysgol Caerdydd. Lobio i gynyddu cyllid i wella hygyrchedd mewn chwaraeon h.y. rhaglenni pêlfoli wrth eistedd, rygbi cadair olwyn. Rhoi pwyslais ar iechyd meddwl o fewn chwaraeon. Ymwybyddiaeth rhwng clybiau a chynyddu presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol. Cyflwyno cyhoeddi canlyniadau ar gyfer timau chwaraeon yn YOLO ar nosweithiau Mercher wedi gemau BUCS, a dechrau cylchlythyr canlyniadau wythnosol yn cynyddu ymwybyddiaeth rhwng chwaraeon. PLEIDLEISIWCH ELLA FEL EICH LLYWYDD UA #EllaLlywyddYrUA #PleidleisiwchElla
PAY EVERY STUDENTS’ TUITION FEES? A BIT AMBITIOUS MAYBE... STAND AGAINST RISES IN TUITION FEES? THAT SEEMS REASONABLE... STUDENT SENATE
Got a great idea to improve your Union?
visit cardiffstudents.com/ideas
28
MANIFESTO 2019
VICE PRESIDENT WELFARE & CAMPAIGNS IS LYWYDD LLES AC YMGYRCHOEDD
The VP Welfare & Campaigns represents your welfare needs to the University and strengthens links with key welfare service providers in the local community. The VP Welfare & Campaigns will work to improve support services in both the Union and University and will campaign on any welfare issues facing our student population.
Mae’r Is Lywydd Lles Ac Ymgyrchoedd yn cynrychioli eich anghenion lles i’r Brifysgol ac yn atgyfnerthu cysylltiadau â’n darparwyr gwasanaethau lles allweddol yn y gymuned leol. Bydd yr Is Lywydd Lles Ac Ymgyrchoedd yn gweithio i wella gwasanaethau cymorth yn yr Undeb a’r Brifysgol a bydd yn ymgyrchu dros unrhyw faterion lles sy’n wynebu ein myfyrwyr.
VICE PRESIDENT WELFARE & CAMPAIGNS IS LYWYDD LLES AC YMGYRCHOEDD
ELLEN FERGUSON Hey, my name is Ellen Ferguson. I’m currently in my third year studying Media and Communications in JOMEC and I’m running for VP Welfare & Campaigns. I would use my own experiences of the current mental health and welfare services provided by the university to bring about positive changes to the current system to make sure it is even more accessible and continues to bring support to students. Policies: Have late night and weekend opening hours for mental health and wellbeing drop in sessions to bring further access to students as mental health isn’t 9 to 5. Run and organise mental health/wellbeing fun days at the students union with fun activities that all students can take part in for a rest bite from studies and to have personal time. Get more student campaigns and events arranged for causes that are of interest to a variety of students. I am passionate and caring and want to help and get involved with improving the Cardiff student experience. Please vote for me as ‘you’ve got a friend in me’ and I want all students to believe that ‘you’re braver than you believe, stronger than you seem, and smarter than you think’. Hei, fy enw i yw Ellen Ferguson. Rydw i yn fy nhrydedd blwyddyn yn astudio Cyfryngau a Chyfathrebu yn JOMEC ac rydw i’n ymgeisio am IL Lles ac Ymgyrchoedd. Byddwn yn defnyddio fy mhrofiadau personol o’r gwasanaethau iechyd meddwl a lles presennol a ddarperir gan y brifysgol i gyflwyno newidiadau cadarnhaol i’r system bresennol i wneud yn siŵr ei fod yn hyd yn oed fwy hygyrch ac yn parhau i ddod â chefnogaeth i fyfyrwyr. Polisïau: Cael oriau agor gyda’r nos ac ar benwythnosau ar gyfer sesiynau galw heibio ar gyfer iechyd meddwl a lles i roi mwy o fynediad i fyfyrwyr gan nad yw iechyd meddwl yn 9 tan 5. Cynnal a threfnu diwrnodau iechyd meddwl/lles hwyl yn undeb y myfyrwyr gyda gweithgareddau hwyl y gall bob myfyriwr gymryd rhan ynddo i gal hoe oddi wrth astudiaethau a chael amser personol. Cael mwy o ymgyrchoedd myfyrwyr a digwyddiadau wedi eu trefnu i achosion sydd o ddiddordeb i amrywiaeth o fyfyrwyr. Rydw i’n angerddol ac yn ofalgar ac eisiau helpu a chyfrannu at wella profiad myfyriwr yng Nghaerdydd. Pleidleisiwch drosof i gan gennych chi ffrind ynof i ac rydw i eisiau i bob myfyriwr gredu eich bod chi’n ddewrach nag ydych chi’n gredu, cryfach nac ydych chi’n ymddangos, ac yn fwy clyfar nag ydych chi’n ei feddwl.
DANIEL LAVORCHIK NO MANIFESTO SUBMITTED HEB GYFLWYNO MANIFFESTO
MANIFESTO 2019
29
30
MANIFESTO 2019
VICE PRESIDENT WELFARE & CAMPAIGNS IS LYWYDD LLES AC YMGYRCHOEDD
CAM ROSE Hi! I’m Cam Rose. I am a 3rd-year Physics student, current President of Amnesty International Society, committee member for Feminist Society and former student senator. For 5 years, I’ve been active in campaigning for marginalised people. I will transform our union into a force that can protect and fight for all students. These are my main policies: Create a consistent policy for extenuating circumstances Stop student deportations Set up SU hate crime/sexual harassment reporting centre Stop letting agencies from pressure selling Demand the protection of EU students’ rights post-Brexit Expand revision aid during exams: free refreshments and panic rooms in library/ study spaces Establish food donation spots at SU for students in need Create ethical and green investment policy Represent ALL genders on student records and cards Set up free termly smear tests Provide specialist counsellors for BME and LGBT+ students Improve personal tutor system Create ‘Student Carers Passports’ Support implementation of full-time Welsh language officer Ensure a friendly campus for students with disabilities More multi-faith prayer rooms Ensure better support for campaign officers and student led services Protection for students involved in sex work Create mental health strategy for all students addressing minorities and intersectionality #OurStudents #OurRights #OurUnion Haia! Cam Rose ydw i. Rydw i’n fyfyriwr Ffiseg 3ydd blwyddyn, Llywydd presennol Cymdeithas Amnest Rhyngwladol, aelod pwyllgor yn y Gymdeithas Ffeministiaid a chyn-seneddwr myfyrwyr. Am 5 mlynedd, rydw i wedi bod yn weithredol yn ymgyrchu dros bobl sydd ar y cyrion. Byddaf yn trawsnewid eich undeb i mewn i rym a fydd yn gallu amddiffyn a brwydro dros bob myfyriwr. Rhain yw fy mhrif bolisïau: Creu polisi cyson ar gyfer amgylchiadau esgusodol Atal allgludo myfyrwyr Sefydlu canolfan adrodd troseddau casineb/aflonyddu rhywiol i’r undeb Atal asiantaethau gosod rhag rhoi pwysau ar fyfyrwyr i brynu tai Mynnu amddiffyn hawliau myfyrwyr yr UE wedi Brexit Ehangu Cymorth Adolygu yn ystod arholiadau: lluniaeth am ddim ac ystafelloedd cynhyrfu mewn llyfrgelloedd/mannau astudio Sefydlu mannau rhoddi bwyd yn yr Undeb i fyfyrwyr mewn angen Creu polisi buddsoddi moesegol a gwyrdd Cynrychioli POB rhyw ar gofnodion a chardiau myfyrwyr Sefydlu profion ceg y groth am ddim bob tymor Darparu cynghorwyr arbenigol i fyfyrwyr BME a LHDT+ Gwella’r system tiwtoriaid personol Creu ‘Pasbortau Myfyrwyr sy’n Ofalwyr’ Cefnogi’r gweithrediad o gyflwyno Swyddog y Gymraeg llawn amser Sicrhau campws cyfeillgar i fyfyrwyr gydag anableddau Mwy o ystafelloedd gweddïo aml-ffydd Sicrhau gwell cefnogaeth i swyddogion ymgyrch a gwasanaethau dan arweiniad myfyrwyr Amddiffyn myfyrwyr sy’n ymwneud a gwaith rhyw Creu strategaeth iechyd meddwl i’r holl fyfyrwyr yn cyfeirio at leiafrifoedd a chroestoriadaeth #EinMyfyrwyr #EinHawliau #EinHundeb
HANNAH RYAN My name is Hannah Ryan and I am running to be your next VP Welfare and Campaigns! Here, I have included the campaigns most important to me – as there are not enough words avaliable to cover every idea! If elected I would like to provide anonymous drug advice and perhaps drug safety testing kits, to ensure student safety whilst remaining realistic about drug use amongst the student population. Another of my major aims is to promote the correlation between physical wellbeing and improvements in mental health, and I would like to achieve this through collaborating with VP Sports to create a more comfortable environment within sporting teams - to help reduce the anxiety that students may feel towards joining these clubs. This year, as LGBT+ Women's Officer, I organised a campaign dedicated to raising awareness of the correlation between mental health difficulties and identifying as LGBT+, and collaborated with Student Support to help provide specific support for marginalised students. This is the kind of work that I would endeavour to continue in the Students’ Union, by running future campaigns for various marginalised groups, such as BAME and international students - to increase targeted support for them. Fy enw i yw Hannah Ryan ac rydw i’n ymgeisio dros fod yn IL Lles ac Ymgyrchoedd nesaf! Yma, rydw i wedi cynnwys yr ymgyrchoedd sydd bwysicaf i mi - gan nad oes digon o eiriau i drafod bob syniad! Os caf fy ethol hoffwn ddarparu cyngor anhysbys ar gyffuriau ac efallai offer profi diogelwch cyffuriau, i sicrhau diogelwch myfyrwyr wrth barhau i fod yn realistig ynglŷn â defnydd cyffuriau ymysg poblogaeth y myfyrwyr. Un arall o fy mhrif amcanion yw hyrwyddo’r gydberthynas rhwng lles corfforol a gwelliannau mewn iechyd meddwl, a hoffwn lwyddo hyn drwy gydweithio gyda IL Chwaraeon i greu amgylchedd mwy cyfforddus o fewn timau chwaraeon - i helpu lleihau’r pryder y gall fyfyrwyr ei deimlo ynghylch ymuno â’r clybiau hyn. Eleni fel Swyddog LHDT+ Merched, fe wnes i sefydlu ymgyrch wedi ei ymrwymo i godi ymwybyddiaeth am y berthynas rhwng anawsterau iechyd meddwl a phobl sy’n ystyried eu hunain yn LHDT+, ac wedi cydweithio gyda Chefnogaeth i Fyfyrwyr i helpu darparu cefnogaeth benodol ar gyfer myfyrwyr sydd ar y cyrion. Dyma’r math o waith y byddwn i’n ymdrechu i barhau yn Undeb y Myfyrwyr, gan redeg ymgyrchoedd ar gyfer amryw o grwpiau ar y cyrion yn y dyfodol, megis myfyrwyr BME a myfyrwyr rhyngwladol - i gynyddu cefnogaeth wedi ei dargedu ar eu cyfer.
VICE PRESIDENT WELFARE & CAMPAIGNS IS LYWYDD LLES AC YMGYRCHOEDD
JAMES WAREHAM Siwmae pawb! As a second-year, I understand the welfare problems we face as students and I don’t think you’re being represented. I won't let that happen any longer - #WarehamForWelfare means #RepresentationForAll Why you should elect me: TEAM LEADER and Social Media Coordinator for Student Advice and Welfare SECRETARY of the mental health group Mind Your Head HUGE EXPERIENCE in campaigning for mental health (the famous #alrightmate campaign), better housing (agency fees banned!) and YOUR voice 100+ HOURS spent volunteering for YOUR wellbeing WELLBEING CHAMPION, effective bystander and suicide prevention trained What I’ll do with your vote: OVERHAUL the personal tutor/supervisor system to make it consistent, effective and supportive INTRODUCE a therapy animal for student support MAKE dyslexia tests FREE REPRESENT and LISTEN to you through open office hours and demographicspecific consultations BE PRESENT weekly in the Heath CONNECT the University and Student Support to improve wait times and referral systems FIGHT FOR communications and access to wellbeing services yn Gymraeg PRODUCE a welcome guide for international students and improve integration by working with Residence Life LOBBY the University to improve disabled access across campus To see more, ask questions and read my extended manifesto, search #WarehamForWelfare on Facebook Shwmae bawb! Fel myfyriwr blwyddyn dau, rydw i’n deall y problemau lles rydyn ni fel myfyrwyr yn eu hwynebu a dydw i ddim yn credu eich bod chi’n cael eich cynrychioli. Ni fyddaf yn caniatáu i hyn barhau ddim mwy - Mae #WarehamDrosLes yn golygu #CynrychiolaethIBawb Pam y dylech bleidleisio amdanaf i: ARWEINYDD TÎM a Chydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol ar gyfer Cyngor i Fyfyrwyr a Lles YSGRIFENNYDD y grŵp iechyd meddwl Gofalu am eich Pen LLWYTH O BROFIAD mewn ymgyrchu dros iechyd meddwl (yr enwog ymgyrch #iawnmêt), gwell gweithredu tai (ffioedd asiantaeth wedi eu gwahardd!) ac EICH llais Treulio 100+ AWR yn gwirfoddoli ar gyfer EICH lles HYRWYDDWR LLES, wedi cael hyfforddiant atal hunanladdiad ac ymyrraeth gwyliwr Beth byddaf i’n ei wneud gyda’ch pleidlais: Atgyweirio'r system tiwtoriaid personol/goruchwylwyr er mynd ei wneud yn system gyson, effeithiol a chefnogol. CYFLWYNO anifail therapi ar gyfer cefnogi myfyrwyr NEWID profion dyslecsia i fod AM DDIM CYNRYCHIOLI a GWRANDO arnoch chi drwy oriau swyddfa agored a chynghorion penodol i ddemograffeg BOD YN BRESENNOL yn y Mynydd Bychan yn wythnosol CYSYLLTU’R Brifysgol a Chefnogaeth Myfyrwyr i wella amseroedd aros a systemau cyfeirio BRWYDRO DROS gyfathrebu a mynediad at wasanaethau lles Cymraeg CYNHYRCHU canllaw croesawu i fyfyrwyr rhyngwladol a gwella integreiddio drwy weithio gyda Bywyd Neuaddau Preswyl LOBIO’R Brifysgol i wella mynediad i bobl anabl ar draws y campws I weld mwy, gofyn cwestiynau neu ddarllen fy maniffesto estynedig, chwiliwch am #WarehamForWelfare ar Facebook
MANIFESTO 2019
31
MANIFESTO 2019
WHY WILL YOU VOTE? “ TO GET REPRESENTATIVES WITH SIMILAR VALUES TO ME” SPRING ELECTIONS 2019 VOTING OPENS: 09:00 25TH FEBRUARY VOTING CLOSES: 17:00 1ST MARCH
MANIFESTO 2019
BLACK AND ETHNIC MINORITIES OFFICER SWYDDOG CROENDDU A LLEIAFRIFOEDD ETHNIG
The Black and Ethnic Minorities Officer works to represent the interests of black students and students of ethnic minority backgrounds (BEM) and to campaign on any relevant issues. Mae’r Swyddog Croenddu a Lleiafrifoedd Ethnig yn gweithio i gynrychioli buddiannau myfyrwyr duon a myfyrwyr o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig ac ymgyrchu dros unrhyw faterion perthnasol.
ARREYEH NASIR AADAN NO MANIFESTO SUBMITTED HEB GYFLWYNO MANIFFESTO
33
34
MANIFESTO 2019
BLACK AND ETHNIC MINORITIES OFFICER SWYDDOG CROENDDU A LLEIAFRIFOEDD ETHNIG
CINDY IKIE Wagwan, Hello and Shwmae! I’m Cindy Ikie and I’m running to become your Black & Ethnic Minorities Officer. I’m originally a South-East Londoner with Nigerian heritage, born in Holland and raised in the UK. Now that’s over with, I’ll bore you with my academic history; I am a second year PhD Biosciences researcher funded by the Arthritis Research UK Biomechanics and Bioengineering Centre. I’m quite the ‘institutional hopper’ having studied my MRes Biomedical Research degree at Imperial College London and my BSc (Hons) Biochemistry degree at the University of Reading – basically, a science fanatic. Representing others comes naturally to me, mostly because I really enjoy liaising with other students from all walks of life, as everyone’s story is unique and important. After many years of representing students throughout my education, I believe I’m well suited for this sensitive role. If elected, I would like to transparently tackle the ‘Black Attainment Gap’, as described by the NUS. There’s a reported 26% gap between white and BME students, more BME students leaving studies before completion and poor career progression for BME graduates. Your perspectives matter most, and we could work together to create a dialogue through Coffee Mornings, campaigns and more! Wagwan, Hello a Shwmae! Cindy Ikie ydw i ac rydw i’n ymgeisio i fod yn Swyddog Croenddu a Lleiafrifoedd Ethnig. Rydw i yn wreiddiol o Dde-ddwyrain Llundain gyda threftadaeth Nigeria, wedi fy ngeni yn yr Iseldiroedd a fy magu yn y DU. Nawr fod hynny drosodd, rydw i am eich diflasu chi gyda fy hanes academaidd; rydw i’n ymchwilydd yn fy ail flwyddyn yn astudio PhD yn y Biowyddorau yn cael nawdd gan y Ganolfan Biomecaneg a Biobeirianneg Arthritis Research UK. Rydw i’n dipyn o ‘sbonciwr sefydliadau’ wedi astudio fy ngradd Mhres Ymchwil Biofeddygol yng Ngholeg Imperial Lloegr a fy BSc (Anrh) Biocemeg ym Mhrifysgol Reading - yn syml ffanatig gwyddonol. Mae cynrychioli eraill yn dod yn naturiol i mi, yn bennaf oherwydd rydw i’n mwynhau cysylltu â myfyrwyr eraill o bob cefnir mewn bywyd, gan fod stori pawb yn unigryw ac yn bwysig. Wedi sawl blwyddyn o gynrychioli myfyrwyr drwy fy addysg, rydw i’n credu rydw i yn addas iawn ar gyfer y rôl sensitif hon. Os caf fy ethol hoffwn, mewn dull tryloyw, fynd i’r afael â’r ‘Bwlch Cyrhaeddiad Pobl Dduon’, fel y disgrifir gan yr NUS. Adroddir bod bwlch o 26% rhwng myfyrwyr gwyn a BME+, mae mwy o fyfyrwyr BME+ yn gadael eu hastudiaethau cyn eu cyflawni a chynnydd gyrfaol gwael ar gyfer graddedigion BME. Eich safbwyntiau chi sydd bwysicaf, ac fe allwn gydweithio i greu deialog drwy Foreau Coffi, ymgyrchoedd a mwy!
JEEVAN KAUR Hi I'm Manjeevan! I am a second-year undergraduate studying Journalism, Media, and English. I am a proactive member of the student body and want to do more to tackle issues impacting BAME+ students. I am supportive and confident reaching out to students from diverse backgrounds. I am committed to championing further awarenes ackgroundns aimed at improving University experiences and prospects in the future. I would focus on greater awareness of different cultures and concentrate on strengthening a sense of community on campus. I helped students voicing their comments as a Student Rep and Student Mentor, which enhanced my ability to effectively communicate pressing concerns and reach resolutions. These initial ideas aim to ensure there is meaningful and conscious change for students from BAME+ backgrounds. Events and panels highlighting a range of opportunities. A network for BAME+ students to voice their experiences. Drop-in sessions to provide a platform for concerns and improvements. Skills sessions and activities to foster an inclusive atmosphere. Awareness campaigning to bridge BAME+ attainment gap. Career boosting sessions and collaborative approach to create connections. Haia Manjeevan ydw i! Rydw i’n fyfyriwr israddedig yn fy ail flwyddyn yn astudio Newyddiaduraeth, Cyfryngau a Saesneg. Rydw i’n aelod gweithredol o gorff y myfyrwyr ac eisiau gwneud mwy i fynd i’r afael a materion yn effeithio ar fyfyrwyr BME+. Rydw i’n gefnogol ac yn hyderus yn cysylltu â myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol. Rydw i’n ymrwymedig i hyrwyddo ymgyrchoedd ymwybyddiaeth bellach wedi eu hanelu at wella profiadau Prifysgol a rhagolygon yn y dyfodol. Byddwn yn ffocysu ar ymwybyddiaeth fwy o ddiwylliannau gwahanol a chanolbwyntio ar gryfhau ymdeimlad o gymuned ar y campws. Cynorthwyais fyfyrwyr yn lleisio eu sylwadau fel Cynrychiolydd Myfyrwyr a Mentor Myfyrwyr, sydd wedi ehangu fy ngallu i gyfathrebu’n pryderon enbyd yn effeithiol a chyrraedd datrysiad. Mae’r syniadau cychwynnol hyn yn anelu at sicrhau bod newid ystyrlon ac ymwybodol ar gyfer myfyrwyr o gefndiroedd BME+. Digwyddiadau a phaneli yn uwch-oleuo amrywiaeth o gyfleoedd. Rhwydwaith i fyfyrwyr BME+ i leisio eu profiadau. Sesiynau galw heibio i ddarparu llwyfan i bryderon a gwelliannau. Sesiynau sgiliau a gweithgareddau i fabwysiadu awyrgylch gynhwysol. Ymgyrchoedd ymwybyddiaeth i leihau bwlch cyrhaeddiad BME+. Sesiynau hybu gyrfa ac ymagwedd gydweithredol i greu cysylltiadau.
MANIFESTO 2019
INTERNATIONAL STUDENTS' OFFICER SWYDDOG MYFYRWYR RHYNGWLADOL
The International Students' Officer works to represent International Students’ interests at Union and University level and to campaign on any relevant issues. Mae’r Swyddog Myfyrwyr Rhyngwladol yn gweithio i gynrychioli buddiannau Myfyrwyr Rhyngwladol yn yr Undeb a’r Brifysgol ac ymgyrchu dros unrhyw faterion perthnasol.
35
POORVI RAVINDRA AGARWAL Hello I am Poorvi Agarwal and as part of international student I would like to nominate myself for this post because I think the problems faced by international students are same and being a part of it I would share my experience to help everyone adjust to the new environment and overcome the problems. I would not promise like others do but I'll definitely give my 100% do stand upto everyone's expectation. Helo Poorvi Agarwal ydw i ac fel myfyriwr rhyngwladol hoffwn enwebu fy hun ar gyfer y swydd hon oherwydd rydw i’n credu fod problemau sy’n wynebu myfyrwyr rhyngwladol yr un peth, ac o fod yn rhan ohono byddwn yn rhannu fy mhrofiad i helpu pawb i addasu i’r amgylchedd newydd a goresgyn eu problemau. Ni fyddaf yn addo fel mae eraill yn gwneud ond yn bendant, byddaf yn rhoi 100% i gyrraedd disgwyliadau pawb.
36
MANIFESTO 2019
INTERNATIONAL STUDENTS' OFFICER SWYDDOG MYFYRWYR RHYNGWLADOL
PARUL JAIN Hello Everyone, hope you all doing good :) I want to be International student officer because I myself is international student. I can help you and understand you better. I have the ability to represent things smoothly and calmly. I can take responsibility very smartly. please DO TRUST ME and Vote for ME. I hope we will meet soooon. and if you want to know para care or not? follow me on my insta that is Paradontcare7 my profile is all about traveling, adventure and campaigns. hope you all like it and will vote for me. Thank you so much. Helo bawb, Gobeithio eich bod chi gyd yn cadw’n iawn :) Rydw i eisiau bod yn Swyddog Myfyrwyr Rhyngwladol oherwydd rydw i fy hunan yn fyfyriwr rhyngwladol. Gallaf eich helpu chi a’ch deall yn well. Mae gen i’r gallu i gynrychioli pethau yn esmwyth a digynnwrf. Gallaf gymryd cyfrifoldeb yn gall. A WNEWCH CHI YMDDIRIED YNOF a PHLEIDLEISIO DROSOF os gwelwch yn dda. Gobeithio y byddwn yn cyfarfod yn fuan. Ac os ydych chi eisiau gwybod pam ddim? Dilynwch fi ar fy instagram sef Paradontcare7 Mae fy mhroffil yn ymwneud â theithio, antur ac ymgyrchoedd. Gobeithio y gwnewch chi ei hoffi a phleidleisio drosof i. Diolch yn fawr iawn.
JUI-HSUAN SU NO MANIFESTO SUBMITTED HEB GYFLWYNO MANIFFESTO
INTERNATIONAL STUDENTS' OFFICER SWYDDOG MYFYRWYR RHYNGWLADOL
GERLINE WILLIAM NO MANIFESTO SUBMITTED HEB GYFLWYNO MANIFFESTO
MANIFESTO 2019
37
38
MANIFESTO 2019
ALISTAIR CREAVEN
MENTAL HEALTH OFFICER SWYDDOG IECHYD MEDDWL
The Mental Health Officer works to represent the interests of students experiencing a mental health condition at Union and University level and campaigns on any relevant issues. Mae’r Swyddog Iechyd Meddwl yn gweithio i gynrychioli myfyrwyr sy'n profi cyflwr iechyd meddwl ar lefel Undeb a'r Brifysgol ar unrhyw faterion perthnasol.
Feeling isolated at Cardiff University? Maybe it's time for that to change. Vote Alistair Creaven as Mental Health Officer. I stand for increasing awareness of not just mental health issues that are prevalent at the university level, but also for campaigning for awareness of the various systems already in place which many might not now how to use or even know about. This would apply especially for first year students. As someone who has used the extenuating circumstances service, and also someone who found it quite intimidating at first. I would like to make it more explicit who can use the services and how they work. This will enable the wellbeing services to better do their job through reaching more people. Many people may tolerate their circumstances stoically when they need not! Anyone who thinks they're not eligible may in fact be eligible for extenuating circumstances. I also support maintaining current services, be it: Counselling from wellbeing officers Drop-in services Online advice Group therapy sessions ------------Ultimately I stand for the people. A much more inclusive system and building the university to be more open to mental health issues and creating more of a safe space. Thanks, Alistair Creaven Teimlo’n ynysig ym Mhrifysgol Caerdydd? Efallai ei bod hi’n bryd i hynny newid. Pleidleisiwch dros Alistair Creaven fel Swyddog Iechyd Meddwl. Rydw i’n sefyll dros godi ymwybyddiaeth nid yn unig o faterion iechyd meddwl sydd yn fynych ar lefel y brifysgol, ond hefyd am ymgyrchu am ymwybyddiaeth o’r systemau amrywiol sydd yn barod ar gael, gan fod llawer o bosib ddim yn gwybod sut i’w defnyddio na hyd yn oed yn ymwybodol o’u bodolaeth. Byddai hyn yn enwedig yn berthnasol i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf. Fel rhywun sydd wedi defnyddio’r gwasanaeth amgylchiadau esgusodol, a hefyd rhywun a oedd yn ei weld yn frawychus i ddechrau. Hoffwn ei wneud yn fwy eglur pwy sy’n gallu defnyddio’r gwasanaethau a sut maent yn gweithio. Bydd hyn yn galluogi'r gwasanaethau lles i wneud eu gwaith yn well drwy gyrraedd mwy o bobl. Mae llawer o bobl yn goddef eu hamgylchiadau yn stoicaidd heb angen! Gall unrhyw un sydd meddwl nad ydynt yn gymwys fod yn gymwys mewn gwirionedd ar gyfer amgylchiadau esgusodol. Rydw i hefyd yn cefnogi cynnal gwasanaethau presennol, boed yn; Cwnsela gan swyddogion lles Gwasanaethau galw heibio Cyngor ar-lein Sesiynau therapi grŵp ------------Yn y pen draw rydw i’n sefyll dros y bobl. System llawer mwy cynhwysol ac adeiladau’r brifysgol i fod yn fwy agored i broblemau iechyd meddwl a chreu man mwy diogel. Diolch, Alistair Creaven
MANIFESTO 2019
MENTAL HEALTH OFFICER SWYDDOG IECHYD MEDDWL
DANIEL MAPATAC Hello, My manifesto can be found on: bit.ly/mapatac Give it a read and if you too are passionate about the issues I’ve raised, please consider giving me your vote! Helo, Gellir dod o hyd i fy maniffesto yma: bit.ly/mapatac Darllenwch fy maniffesto ac os ydych chi hefyd yn angerddol ynglŷn â’r materion rydw i wedi eu codi, ystyriwch roi eich pleidlais i mi!
39
CAITLIN PARR Hello! I’m Caitlin and I want to be your new Mental Health Officer! I’m an enthusiastic and extremely passionate person who will always go the extra mile to ensure students feel supported and listened to. I work tirelessly to improve the student experience - being part of the Student Advice and Welfare Executive Committee; Fresher’s welfare team and ‘Buddy Scheme’. I have also been elected as the first ever President of ‘Talk It Out’! Setting up ‘Talk It Out’ has been an incredibly valuable experience, helping students talk through their issues within a safe environment. I’m a ‘Peer Educator’ for Girlguiding UK; teaching young girls about resilience, mental health and signs of unhealthy relationships. The topics of relationships and domestic abuse are very important to me and I would love to develop more support for students who are victims of abuse and currently under-represented. I also want to enhance provisions for the mental health of LGBT+ students; improve Heath Park wellbeing services; and implement compulsory mental health training for staff such as Personal Tutors. Approximately 1/4 of our student body will suffer from mental health problems in their lifetime so please help me help them by voting today. Thank you! Helo! Caitlin ydw i, ac rydw i eisiau bod yn Swyddog Iechyd Meddwl! Rydw i’n frwdfrydig ac yn berson hynod angerddol a fydd wastad yn mynd y filltir olaf i sicrhau fod myfyrwyr yn teimlo fel eu bod yn cael eu cefnogi a bod pobl yn gwrando arnynt. Rydw i’n gweithio’n ddiflino i wella profiad y myfyriwr - o fod yn rhan o Gyngor i Fyfyrwyr a’r Pwyllgor Gwaith lles; tîm lles a ‘Cynllun Cyfeillio’ Y Glas. Rydw i hefyd wedi cael fy ethol fel llywydd cyntaf erioed ‘Siaradwch Amdano’! Mae sefydlu ‘Siaradwch Amdano’ wedi bod yn brofiad hynod werthfawr, yn helpu i fyfyrwyr siarad drwy eu problemau mewn amgylchedd diogel. Rydw i’n ‘Addysgwr Cyfoedion’ ar gyfer Girlguiding Uk; yn dysgu merched ifanc ynglŷn â gwydnwch, iechyd meddwl ac arwyddion perthynas afiachus. Mae’r pynciau perthnasau a thrais domestig yn hynod bwysig i mi ac fe garwn ddatblygu mwy o gefnogaeth i fyfyrwyr sydd yn ddioddefwyr trais ac yn cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd. Rydw i hefyd eisiau ehangu darpariaethau ar gyfer iechyd meddwl myfyrwyr LHDT+; gwella gwasanaethau lles Y Mynydd Bychan; cyflwyno hyfforddiant iechyd meddwl angenrheidiol i staff megis Tiwtoriaid Personol. Bydd oddeutu 1/4 o gorff y myfyrwyr yn dioddef o broblemau iechyd meddwl yn eu bywyd felly, os gwelwch yn dda a wnewch chi fy helpu i’w helpu nhw drwy bleidleisio heddiw. Diolch!
40
MANIFESTO 2019
STUDENTS WITH DISABILITIES OFFICER SWYDDOG MYFYRWYR AG ANABLEDDAU
The Students with Disabilities Officer works to represent the interests of students with disabilities at Union and University level and campaigns on any relevant issues. Mae’r Swyddog Myfyrwyr ag Anableddau yn gweithio i gynrychioli buddiannau myfyrwyr ag anableddau yn yr Undeb a’r Brifysgol ac ymgyrchu dros unrhyw faterion perthnasol.
SAREENA NAWAZ NO MANIFESTO SUBMITTED HEB GYFLWYNO MANIFFESTO
MANIFESTO 2019
ETHICAL & ENVIRONMENTAL OFFICER SWYDDOG MOESEGOL AC AMGYLCHEDDOL
41
FLAVIE IOOS Hi! My name is Flavie and I’m a second year biology undergraduate student. I am currently vice president of People and Planet society, which has achieved the divestment of Cardiff University from fossil fuels and is currently running the Sweatshop Free campaign. If I am elected, my main goals would be to: Introduce more vegetarian and vegan options at the Taf Turn advertising screens off outside of working hours in the SU Support the Sweatshop Free campaign ran by People and Planet Replace disposable plastic cups with reusable cups at the SU Introduce more recycling bins on campus (for batteries, paper, lightbulbs etc.) Better regulate heating in libraries and SU meeting rooms Organise more talks on environmental and ethical issues ran by specialists on these subjects Introduce bee hives on the SU roof, as it has been done in the School of Pharmacy and Pharmaceutical Sciences Add more water-saving toilets on campus. If you would like to see these changes happen on campus, please vote for me to become your next Ethical and Environmental Officer! Haia! Fy enw i yw Flavie ac rydw i’n fyfyriwr israddedig yn fy ail flwyddyn ys astudio bioleg. Rydw yn llywydd ar Gymdeithas y Bobl a’r Blaned ar hyn o bryd, sydd wedi llwyddo gwaredu buddsoddiadau Prifysgol Caerdydd i mewn i danwyddau ffosil ac mae’r ymgyrch ar hyn o bryd yn cynnal ymgyrch Gwrth Slafdai.
The Ethical and Environmental Officer works to represent students’ ethical and environmental interests and campaigns on any relevant issues. Mae’r Swyddog Moesegol ac Amgylcheddol yn gweithio i gynrychioli buddiannau moesegol ac amgylcheddol myfyrwyr ac yn ymgyrchu dros unrhyw faterion perthnasol.
Os caf fy ethol, fy mhrif amcanion yw i: Gyflwyno mwy o opsiynau llysieuol a fegan yn y Taf Troi sgriniau hysbysebu i ffwrdd y tu allan i oriau gweithio yn yr Undeb Cefnogi’r ymgyrch Gwrth Slafdai a redir gan Gymdeithas Pobl a’r Blaned Ailosod cwpanau plastig y gellir eu taflu gyda chwpanau eildro yn yr Undeb Cyflwyno mwy o finiau ailgylchu ar y campws (ar gyfer batris, papur, bylbiau ayyb.) Rheoleiddio gwres yn well mewn llyfrgelloedd a chyfarfodydd yr Undeb Trefnu mwy o sgyrsiau ar faterion amgylcheddol a moesegol wedi eu rhedeg gan arbenigwyr ar y pynciau hyn Cyflwyno cychod gwenyn ar ’o'r Undeb, gan ei fod wedi cael ei wneud yn yr Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Ychwanegu mwy o doiledau arbed dŵr ar y campws. Hoffwn weld y newidiadau hyn yn digwydd ar y campws, pleidleisiwch drosof i fod y Swyddog Moesegol ac Amgylcheddol nesaf!
42
MANIFESTO 2019
ETHICAL & ENVIRONMENTAL OFFICER SWYDDOG MOESEGOL AC AMGYLCHEDDOL
ROSS MCQUILLAN-JOHNSON NO MANIFESTO SUBMITTED HEB GYFLWYNO MANIFFESTO
NUZHA NADEEM Hello everyone! I am Nuzha Nadeem and I will be campaigning for the post of Ethical and Environmental officer for the Spring elections 2019. I am a firstyear student studying Civil and Environment engineering. Being the treasurer of the environment club back in my school and also the student representative and ambassador at Cardiff University has given me the chance to grow as an individual, who works towards encouraging a positive atmosphere for our community in and outside our campus. If elected, the first change that I would love to bring into our community would be to promote good behavior to people as well as the environment, treat others how you want to be treated, your ethics and morals define who you are. Opening communal fridges across campus, this would not only prevent us from wasting food but also help the homeless. Promoting the habit of hand me downs of electronic gadgets from students who are graduating Cardiff University. Organizing organic food stalls at our campus, to promote healthy eating and much more. Thank you for taking the time to read my manifesto. Every student’s opinion matters, if you have any questions feel free to email me at nadeemn1@cardiff.ac.uk. Helo bawb! Nuzha Nadeem ydw i ac fe fyddaf yn ymgyrchu am y swydd o Swyddog Moesegol ac Amgylcheddol ar gyfer etholiadau’r Gwanwyn 2019. Rydw i’n fyfyriwr blwyddyn gyntaf yn astudio Peirianneg Sifil ac Amgylcheddol. Mae bod yn drysorydd y clwb amgylcheddol yn fy ysgol gynt yn ogystal â bod yn gynrychiolydd a llysgennad myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi rhoi'r cyfle i mi i dyfu fel unigolyn, sy’n gweithio tuag at annog awyrgylch cadarnhaol ar gyfer ein cymuned y ar ac oddi ar ein campws. Os caf fy ethol, y newid cyntaf y byddaf yn caru ei gyflwyno i’n cymuned fydd hyrwyddo agwedd dda tuag at bobl yn ogystal â’r amgylchedd, trin eraill fel yr hoffech gael eich trin, mae eich moesau a’ch egwyddorion yn diffinio pwy ydych chi. Agor oergelloedd cymunedol ar draws y campws, bydd hyn nid yn unig yn ein hatal rhag gwastraffu bwyd ond hefyd yn helpu’r digartref. Hyrwyddo’r ymarfer o ddefnyddio teclynnau electronig ail-law gan fyfyrwyr sydd yn graddio o Brifysgol Caerdydd. Trefnu stondinau bwyd organig ar ein campws, i hyrwyddo bwyta’n iach a llawer mwy. Diolch am roi o’ch amser i ddarllen fy maniffesto. Mae barn bob myfyriwr yn bwysig, os oes gennych chi unrhyw gwestiynau mae croeso i chi fy e-bostio i ar nadeemn1@caerdydd.ac.uk.
MANIFESTO 2019
ETHICAL & ENVIRONMENTAL OFFICER SWYDDOG MOESEGOL AC AMGYLCHEDDOL
WAQAR SHAH My name is Syed Waqar. I'm running to be your next Ethics & Environment Officer. The opportunities provided by the position of Ethical and Environmental Officer are numerous; I seek to have a lasting impact on the habits and cultures found not only on campus, but also in the local community outside of the University. As a son of an environment and remote sensing scientist, with more than 45 years of experience, I understand the impact of the environment and have always been passionate about leading a sustainable lifestyle. I am aiming to reduce our environmental impacts (energy, water, food and other resources use & waste). I am looking forward to spreading more information about the current environmental issues that we are facing and encourage all the members of the university towards their behaviours relating to the environment. I will also initiate a suggestion scheme among the students and staff members for giving at least one suggestion through observing the university surrounding to eliminate more environmental issues. I believe in give and take theory so if we give respect to our nature, we will take back a good future.I'll be working on, creating a more sustainable, accessible and ethical union. Fy enw i yw Syed Waqar. Rydw i’n ymgeisio i fod y Swyddog Amgylcheddol a Moesegol. Mae’r cyfleoedd a ddarperir yn swydd y Swyddog Amgylcheddol a Moesegol yn niferus; rydw i’n anelu i gael dylanwad tymor hir ar arferion a diwylliant a geir nid yn unig o amgylch y campws, ond hefyd yn y gymuned leol y tu allan i’r Brifysgol. Fel mab i wyddonydd amgylcheddol a synhwyro anghysbell, gyda mwy na 45 mlynedd o brofiad, rydw i’n deall y dylanwad yr amgylchedd a wastad wedi bod yn angerddol ynglŷn â byw bywyd cynaliadwy. Rydw i’n anelu i leihau ein dylanwad amgylcheddol (egni, dŵr, bwyd a defnydd a gwastraff adnoddau eraill). Rydw i’n edrych ymlaen at ledaenu mwy o wybodaeth ynglŷn â materion amgylcheddol presennol rydyn ni’n eu hwynebu ac yn annog bob aelod o’r brifysgol tuag at eu hagweddau tuag at yr amgylchedd Byddaf hefyd yn sefydlu cynllun awgrymiadau ymysg myfyrwyr ac aelodau o staff i roi o leiaf un awgrym drwy arsylwi o amgylch y brifysgol i waredu mwy o broblemau amgylcheddol. Rydw i’n credu yn y theori o roi a derbyn felly os dangoswn ni barch tuag at ein natur, fe fyddwn yn derbyn dyfodol da. Fe fyddaf yn gweithio at greu undeb mwy cynaliadwy, hygyrch a moesegol.
LUCY STARKIE NO MANIFESTO SUBMITTED HEB GYFLWYNO MANIFFESTO
43
44
MANIFESTO 2019
JACOB MORRIS
SWYDDOG Y GYMRAEG WELSH LANGUAGE OFFICER
Os byddaf yn ddigon ffodus i ennill eich pleidlais, addawaf i wireddu'r canlynol: 1. Parhau gyda'r gwaith sydd eisoes ar y gweill o sicrhau Swyddog y Gymraeg llawn-amser, drwy gydweithio'n unol â\r Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd (UMCC). 2. Trefnu digwyddiadau i hyrwyddo Dydd Gwyl Ddewi, Dydd Miwsig Cymru a Diwrrnod Shwmae Sumae. Fydd digwyddiadau o'r fath yn sicrhau fod y Gymraeg yn rhywbeth fyw ac yn iach. 3. Cydweithio gyda'r frwydr sydd eisoes ar y gweill: waredu arholiadau ar ddydd Sadwrn. Gan gofio bod Eisteddfod yr Urdd yn syrthio ar ddydd Sadwrn, fyddai eu gwaredu yn galluogi myfyrwyr gystadlu. 4. Sefydlu Cymdeithas newydd i ddysgwyr Cymraeg. Fel sy'n digwydd ym Mangor ac Aber, gall dysgwyr cwrdd â siaradwyr iaith gyntaf i ymarfer eu Cymraeg mewn awyrgylch anffurfiol tu hwnt i'r stafell ddosbarth. 5. Cydweithio'n glos gyda'r Gym Gym, Cymdeithas Iolo a swydd newydd Deon y Gymraeg. Law yn llaw gyda fy ngwaith fel llysgennad, sefydlu fforwm y Coleg Cymraeg er mwyn gwneud y Coleg yn rhywbeth sy'n fwy na ffynhonnell arian gan greu nosweithiau Pitsa a Pheint, ynghyd â threfnu gigs achlysurol. Addawaf i weithio hyd eithaf fy ngallu i sicrhau fod gan fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith lle cydradd o fewn y Brifysgol. If I would be lucky enough to gain your vote, I promise to do the following:
Mae’r Swyddog y Gymraeg yn gyfrifol am gynrychioli buddiannau myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg yn y Brifysgol o fewn strwythurau’r Undeb a, lle y bo’n briodol, strwythurau’r Brifysgol. The Welsh Language Officer is responsible for representing the interests of Welsh speaking students at the University within the structures of the Union and where appropriate, the University.
1. Continue with the work of securing a full-time Welsh Language Officer that’s already in motion, by working together with UMCC (Cardiff’s Welsh Speaker’s Students’ Union). 2. Organise events to promote St. David’s Day, Welsh Language Music Day and Shwmae Sumae Day. Events like these will ensure that the Welsh language is something that’s alive and thriving. 3. Working together with the battle that’s already under way; getting rid of exams on Saturdays. As the Youth Eisteddfod yr Urdd falls on a Saturday, removing Saturday exams would enable students to compete. 4. Set up a new Society for Welsh language learners. As in Bangor and Aber, learners can meet and mingle with first language speakers to practice their Welsh in an unformal environment, beyond the classroom. 5. Working closely with the Gym Gym (Welsh Language Society), Cymdeithas Iolo and the new Welsh Language Dean, hand in hand with my work as an ambassador, set up a Coleg Cymraeg forum to make sure the Coleg is something that’s more than just a source of money by creating Pizza and Pint nights, as well as some occasional gigs. I promise to work to the best of my ability to ensure that Welsh language students have an equal place within the University.
MANIFESTO 2019
45
ZACH EDGE
LGBT+ OFFICER (OPEN) SWYDDOG LHDT+ (AGORED)
The LGBT+ Officer (Open) role is to represent Lesbian, Gay, Bisexual, Trans* and Plus students’ interests and to campaign on any relevant issues. Rôl y Swyddog LHDT+ (Agored) yw cynrychioli buddiannau myfyrwyr Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol, Traws* a Phlws ac i ymgyrchu ar faterion perthnasol.
Shwmae/Hey everyone I've been involved with the LGBT+ community in Cardiff for a few years now, I identify as a transgender man and have held positions on both CU Pride and the LGBT+ association. I've also sat on Student Senate and Scrutiny Committee; I am very passionate about making changes and inspiring growth in the union. I am keen to continue the work done on the accessibility of gender neutral toilets and on making gender neutral spaces more available around Cardiff. I've heard many horror stories about individuals being questioned or made uncomfortable when using changing rooms and if elected, I would actively be lobbying for change across clothing retailers in Cardiff. I'd also like to provide more social opportunities and safe spaces for LGBT+ people. I'd be continuing my predecessors' drop in sessions and frequent socials through the LGBT+ association. As well as this I'd be looking to work directly with the University to ensure that they maintain focus on LGBT+ mental health in their support services and see the continuation of student involvement in that process as they have been doing this year with regular focus groups. Vote for me and get the Edge on LGBT+ issues. Shwmae bawb Rydw i wedi bod yn ymwneud gyda’r gymuned LHDT+ yng Nghaerdydd am flynyddoedd bellach, rydw i’n cydnabod fy hun fel dyn trawsrywiol ac wedi cynnal swyddi ar CU Pride a’r gymdeithas LHDT+. Rydw i hefyd wedi bod ar Senedd y Myfyrwyr a’r Pwyllgor Craffu; rydw i’n hynod angerddol ynglŷn â gwneud newidiadau ac ysbrydoli twf yn yr undeb. Rydw i’n awyddus i barhau’r gwaith rydw i wedi ei wneud ar hygyrchedd toiledau niwtral o ran rhyw ac ar wneud mwy o fannau niwtral o ran rhyw ar gael o amgylch Caerdydd. Rydw i wedi clywed sawl stori arswyd am unigolion yn cael eu cwestiynu neu eu gwneud yn anghyfforddus wrth ddefnyddio ystafelloedd newid ac os caf fy ethol, byddwn yn weithredol lobio am newid mewn siopau dillad ar draws Caerdydd. Hoffwn hefyd ddarparu mwy o gyfleoedd cymdeithasol a mannau diogel ar gyfer pobl LHDT+. Byddaf yn parhau gyda sesiynau galw heibio a digwyddiadau cymdeithasol fy rhagflaenydd drwy’r gymdeithas LHDT+. Yn ogystal â hyn byddaf yn edrych i weithio yn uniongyrchol gyda’r Brifysgol i sicrhau eu bod yn cynnal ffocws ar iechyd meddwl LHDT+ yn eu gwasanaethau cefnogi a gweld parhad myfyrwyr yn ymwneud a’r broses honno fel sydd wedi bod yn digwydd eleni gyda grwpiau ffocws cyson. Pleidleisiwch drosof i gael Edge ar faterion LHDT+.
46
MANIFESTO 2019
EDEL ANABWANI
MATURE STUDENTS’ OFFICER SWYDDOG MYFYRWYR HYN
Hi everyone, my name is Edel Anabwani, Journalism, Media and Cultural student, and I would love to be your Mature Officer this year. I believe I have the experience passion, and commitment to fulfil the role to the best of my ability. As well as furthering the work of previous Mature Officers, my ideas for the role are as follows: Mature Committee I feel it is important to have an organisation representing all mature people at the university. For this reason, I will endeavour to set up a mature person’s committee, where there will be elected women/men representing the diversity of groups to ensure the diverse range of issues that mature face at the university is being addressed. Summary of what I hope to do for the mature students if elected Take policy proposals on issues affecting mature students to Student Council and/or AGM, based on feedback from mature students Organise and deliver a campaign related to issues affecting mature students Fulfil any democratic mandates and promote any matters of Union policy that relate to mature students Deliver your manifesto pledges Support other members of the Student Leadership Team and to contribute to their campaigns, as required Haia bawb, fy enw i yw Edel Anabwani, myfyriwr Newyddiaduraeth, Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol, ac fe garwn fod yn Swyddog Myfyrwyr Hŷn drosoch chi eleni. Rydw i’n credu fod gen i’r profiad, angerdd ac ymrwymiad i gyflawni’r rôl hyd gorau fy ngallu. Yn ogystal â datblygu ar waith Swyddogion Myfyrwyr Hŷn blaenorol, mae fy syniadau ar gyfer y rôl fel a ganlyn:
The Mature Students' Officer role is to represent mature student’s interests and to campaign on any relevant issues. Rôl y Swyddog Myfyrwyr Hyn yw cynrychioli myfyrwyr hyn ac ymgyrchu ar unrhyw faterion perthnasol.
Pwyllgor Myfyrwyr Hŷn Rydw i’n teimlo ei fod yn bwysig i gael sefydliad yn cynrychioli'r holl fyfyrwyr hŷn yn y brifysgol. Am y rheswm hwn, byddaf yn ymdrechu i sefydlu pwyllgor myfyrwyr hŷn, lle bydd menywod/dynion etholedig yn cynrychioli amrywiaeth o grwpiau i sicrhau amrywiaeth eang o faterion y mae myfyrwyr hŷn yn eu hwynebu yn y brifysgol yn cael eu trafod. Crynodeb o’r hyn rydw i’n gobeithio ei wneud ar gyfer y myfyrwyr aeddfed os caf fy ethol Cymryd cynigion polisïau ar faterion yn effeithio myfyrwyr hŷn i’r Cyngor Myfyrwyr ac/neu i’r CCB, yn seiliedig ar adborth gan fyfyrwyr hŷn Trefnu a darparu ymgyrch yn ymwneud â materion sy’n effeithio myfyrwyr hŷn Cyflawni unrhyw fandadau democrataidd a hyrwyddo unrhyw faterion o bolisi’r Undeb sy’n gysylltiedig â myfyrwyr hŷn Dosbarthu eich addewidion maniffesto. Cefnogi aelodau eraill o’r Tîm Arweinyddiaeth Myfyrwyr ac i gyfrannu at eu hymgyrchoedd, fel y disgwylir
MANIFESTO 2019
NIAMH HINCHCLIFFE
WOMEN’S OFFICER SWYDDOG MERCHED
The Women’s Officer works to represent women students’ interests and campaigns on any relevant issues. Mae Swyddog Merched yn gweithio i gynrychioli buddiannau myfyrwyr sy’n ferched ac ymgyrchu dros unrhyw faterion perthnasol.
NO MANIFESTO UPLAODED HEB GYFLWYNO MANIFFESTO
47
WHY WILL YOU VOTE?
“ BECAUSE DEMOCRACY = POWER TO THE PEOPLE.” SPRING ELECTIONS 2019 VOTING OPENS: 09:00 25TH FEBRUARY VOTING CLOSES: 17:00 1ST MARCH
CARDIFFSTUDENTS.COM/VOTE