Bychan Dw edwch Helo wrth y Mynydd Pop eth ry dych an gen ei w ybod am eich Un deb Myfyrwyr
Croeso i’ch Undeb Myfyrwyr Undeb y Myfyrwyr yn Lolfa IV yw craidd gweithgaredd yr undeb. Os ydych chi ar gwrs ym Mhrifysgol Caerdydd, rydych yn aelod awtomatig o Undeb y Myfyrwyr. Mae hynny’n golygu y gallwch fanteisio ar ein gwasanaethau anhygoel, ac mae’r hawl gennych i wneud penderfyniadau allweddol ynglyˆn â’r hyn mae’r Undeb yn ei wneud a sut caiff ei redeg.
Cysylltu a ni Dewch i’n gweld yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd ar Barc Mynydd Bychan rhwng 9:00am a 7:00pm dydd Llun -Gwener.
Gallwch hefyd ymweld â ni 24/7 yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, Plas y Parc, Caerdydd CF10 3QN.
Ffoniwch ni / 029 2068 7657
Facebook / CardiffStudentsHeath
Ar-lein / cardiffstudents.com/heath
Instagram / CardiffStudents
Trydar / @HeathParkCSU
Youtube / CardiffStudents
Katey Beggan IL Campws Parc y Mynydd Bychan
Fy rôl i yw cynrychioli’r holl fyfyrwyr sy’n astudio ar Barc y Mynydd Bychan. Rydw i yma i’ch annog i gyfranogi yng ngweithgareddau Undeb y Myfyrwyr, boed drwy gynrychioli eich cyfoedion fel cynrychiolydd academaidd myfyrwyr, neu drwy ymuno â chymdeithas neu glwb chwaraeon. Os ydych chi’n cael unrhyw broblemau yn y Brifysgol, mae croeso i chi gysylltu â fi! Mwynhewch eich blynyddoedd yn y Brifysgol, ac edrychaf ymlaen at eich gweld yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.
Helo, Neil ydw i, a fi yw’r aelod staff Undeb y Myfyrwyr sy’n gyfrifol am fyfyrwyr y Mynydd Bychan. Rydw i’n eich helpu i gael mynediad i’r holl wasanaethau sydd gan Undeb y Myfyrwyr i’w cynnig ym Mharc y Plas. Mae’r rhain yn cynnwys Cyngor i Fyfyrwyr, ymuno â chlybiau chwaraeon yr UA a chymdeithasau, prynu hwdis y gellir eu personoleiddio, rhoi eich enw i lawr ar gyfer y Siop-swyddi a llawer mwy! Galwch i mewn yn Undeb Myfyrwyr ar Barc y Mynydd Bychan i ddweud helo.
Eleni byddaf yn gweithio ar y canlynol: • Darparu gwell cyfleusterau ar gyfer myfyrwyr sy’n rhieni ar Barc y Mynydd Bychan. • Gwella’r drefn ac ansawdd lleoliadau gwaith i ffwrdd o Gaerdydd. • Ymgyrchu dros ddatblygiadau pellach fydd yn cyfoethogi profiad myfyrwyr yn y Mynydd Bychan.
Mae’r Swyddogion Etholedig yn dîm o fyfyrwyr sy’n cael eu dewis gan fyfyrwyr eraill i arwain Undeb y Myfyrwyr. Maen nhw’n cynrychioli barn myfyrwyr ac yn arwain gweithgareddau myfyrwyr ym mhob agwedd o fywyd myfyrwyr fel Addysg i Israddedigion, Ôl-raddedigion a myfyrwyr Gofal Iechyd, chwaraeon, cymdeithasau a lles. Caiff y Swyddogion Etholedig eu harwain gan Lywydd Undeb y Myfyrwyr.
y PethaU ryDyM yn eU gwneUD ar eich rhan Mae Undeb y Myfyrwyr yma i’ch helpu â phob agwedd o fywyd myfyrwyr. Os ydych am wneud ffrindiau newydd, gwella eich cwrs, canfod swydd neu ddarganfod rhywbeth newydd, ein gwaith ni yw gwneud i hyn ddigwydd. Byddwn yno i chi yn Undeb y Myfyrwyr ar Barc y Mynydd Bychan yn yr IV Lounge sydd ger Adeilad Cochrane bob dydd, yn eich helpu chi â’r pethau mawr a’r phethau bach, i wneud eich amser ym Mhrifysgol Caerdydd yn well.
Siop Swyddi
Gwasanaeth Datblygu Sgiliau
Mae’n ffordd wych o ennill arian ychwanegol ochr-ynochr â’ch cwrs. I ganfod mwy am y Siop Swyddi a sut i gofrestru, ewch i cardiffstudents.com/Jobshop.
Cynyddwch eich cyflogadwyedd drwy ddilyn un o’n cyrsiau datblygiad proffesiynol. Cofrestrwch yn cardiffstudents.com/sds.
Gwirfoddoli Caerdydd
Llais Myfyrwyr
Gwnewch y byd yn well lle i rywun arall drwy ymuno ag un o’n nifer fawr o brosiectau gwirfoddoli yn cardiffstudents.com/volunteering.
Gwnewch eich cwrs yn well drwy fod yn Gynrychiolydd Academaidd Myfyrwyr. Byddwn yn gwneud yn sicr fod y Brifysgol yn clywed eich barn. Sicrhewch fod eich llais i’w glywed drwy fwrw golwg ar cardiffstudents.com/studentvoice.
Mae cryn lawer yn digwydd yn Undeb y Myfyrwyr, gallwch ganfod mwy yn cardiffstudents.com
Cyrsiau Gofal Iechyd a Chyfryngau Cymdeithasol Dylai myfyrwyr a phroffesiynwyr gofal iechyd fod yn rhydd i wneud y defnydd gorau o’r manteision sy’n perthyn i gyfryngau cymdeithasol. Serch hynny, gall eich defnydd o gyfryngau cymdeithasol a’ch gweithgarwch ar-lein effeithio ar eich cymhwyster i ymarfer, ac mewn rhai achosion, gall olygu y cewch eich bwrw oddi ar eich cwrs. Gynted y byddwch yn ymuno â chwrs gofal iechyd, ystyrir eich gweithgarwch ar-lein i fod yn dystiolaeth o’ch proffesiynoldeb. Dyma rai hintiau handi ar gyfer eich defnydd o Gyfryngau Cymdeithasol yn y Brifysgol.
1
Mae’r hawl i siarad yn rhydd yn rhan hanfodol o’n cymdeithas. Serch hynny, rhoddir sylw manwl i’r hyn y byddwch yn ei ddweud os yw pobl yn anghytuno neu’n ei gael yn sarhaus. Dyma’r hyn y bydd angen i chi baratoi ar ei gyfer pan fyddwch yn gosod neges ar gyfryngau cymdeithasol.
2 3
Os na fyddech chi’n dweud hyn ar lafar, peidiwch â’i ddweud ar-lein. Cadwch mewn cof y gall cleifion, cydweithwyr, sefydliadau a chyflogwyr weld yr hyn y byddwch yn ei osod ar-lein. Os yw hyn yn groes i safonau moesegol, dylech fod yn ymwybodol y gallwch gael eich dal i gyfrif am yr hyn rydych yn ei ddweud.
Meddyliwch am yr hyn rydych yn ei ysgrifennu, yn arbennig os ydych chi wedi cael diwrnod anodd neu os ydych yn teimlo’n rhwystredig ynglyn â rhywbeth. Gall fod yno ffyrdd eraill o ddylanwadu’n bositif ar y sefyllfa.
Meddyliwch sut y gellid dehongli pethau
Amddiffyn eich preifatrwydd
Mae cyfryngau cymdeithasol yn gwneud ein barn yn gyhoeddus, ac yn y proffesiynau a astudir ar Barc y Mynydd Bychan - mae mwy o graffu cyhoeddus nag erioed y dyddiau hyn. Os na fyddech chi’n dweud rhywbeth yng nghyd-destun eich darlithoedd neu ar leoliad gwaith, peidiwch â’i ddweud ar-lein chwaith. Peidiwch â chwyno am eich lleoliad na’ch cleifion ar-lein, yn hytrach siaradwch â’ch tiwtor neu Gynrychiolwyr Academaidd.
Newidiwch eich gosodiadau ar Facebook a rhwydweithiau cyfryngau cymdeithasol eraill i sicrhau nad yw’n hawdd i gleifion gael hyd i chi. Rydym yn argymell nad ydych yn ychwanegu cleifion na staff ysbyty fel ffrindiau ar Facebook, a gwnewch yn sicr fod eich gosodiadau cyfryngau cymdeithasol yn breifat.
Peidiwch â gweithredu’n groes i gyfrinachedd cleifion Mae mwy i gyfrinachedd cleifion na pheidio â datgelu eu henwau; gall hefyd gynnwys gosod fideos neu luniau o’r cleifion eu hunain, neu ddatgelu rhifau ystafelloedd a chofnodion cleifion. Peidiwch â chynnwys disgrifiadau o gleifion, eu cyflwr iechyd a/neu driniaeth. Mae hefyd yn amhroffesiynol cyfeirio at gleifion mewn ffordd sarhaus.
Canfod y cyngor gorau Darllenwch gyngor gan gyrff allanol ar gyfryngau cymdeithasol, gan fod canllawiau penodol yn perthyn i wahanol broffesiynau ar gael gan gyrff megis y Cyngor Meddygol Cyffredinol, Coleg Brenhinol y Nyrsys, Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi, Cymdeithas Therapyddion Galwedigaethol Prydain a Choleg y Therapyddion Galwedigaethol, Cyngor Deintyddol Cyffredinol, a Choleg Brenhinol y Radiolegwyr. Mae’r canllawiau hyn i’w gweld ar eu gwefannau.
Os oes gennych chi bryderon ynglyˆn â chyfryngau cymdeithasol, e.e. eich ymddygiad neu aflonyddu, dewch i siarad â Chyngor Myfyrwyr. Nhw yw gwasanaeth cynghori annibynnol, cyfrinachol a di-dâl Undeb y Myfyrwyr. Gall Cyngor Myfyrwyr ddod i gyfarfod â chi yn Undeb y Myfyrwyr yn y Mynydd Bychan neu yn adeilad yr Undeb yn Cathays. cardiffstudents.com/advice.
cyMDeithasaU Mae gennym ystod eang o gymdeithasau’n arbennig ar gyfer myfyrwyr Gofal Iechyd, gan gynnwys cymdeithasau sy’n seiliedig ar gyrsiau a chymdeithasau eraill a allai eich helpu i ddewis llwybr gyrfa yn y dyfodol. Os ydych chi am gwrdd â phobl newydd, chwarae offeryn neu wneud gwahaniaeth ym mywyd rhywun arall, yna mae cymdeithasau’n addas ar eich cyfer chi. Beth am fwrw golwg ar cardiffstudents. com/societies am fwy o wybodaeth.
Un o’r digwyddiadau gwych a drefni gan gymdeithasau yw RAG y Mynydd Bychan, pan fyddwn ni’n codi miloedd o bunnoedd ar gyfer elusennau rhagorol. Gwyliwch allan am RAG y Mynydd Bychan tua dechrau 2016. Mae gennym dros 200 o gymdeithasau yn Undeb y Myfyrwyr, a gall unrhyw un ymuno â nhw, o’r Gymdeithas Ddadlau i Jazz; Gwyddbwyll i’r Gymdeithas Islamaidd - maent yn gyfle gwych i roi cynnig ar rywbeth newydd, datblygu sgiliau a gwneud ffrindiau newydd o bob rhan o’r byd! Gydol y flwyddyn rydym yn trefnu digwyddiadau megis Gw ˆ yl Ymylol Caerdydd a Dawns y Cymdeithasau.
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau ynglyn ag ymuno â chymdeithas, sefydlu un neu os ydych eisiau gwybod mwy, gallwch gysylltu â Hannah Sterritt-Is-Lywydd Cymdeithasau. Mae hi ar gael: VPSocieties@Caerdydd.ac.uk 029 2078 1427
UnDeB athletaU Mae’n gyfle perffaith i gyfranogi mewn chwaraeon fel myfyriwr gofal iechyd. Sefydlwyd Farsiti Meddygaeth yn ddiweddar, lle mae timoedd chwaraeon myfyrwyr Meddygaeth Prifysgol Caerdydd y cystadlu yn erbyn myfyrwyr Meddygaeth Prifysgol Bryste am y tlws. Mae’r clybiau chwaraeon sy’n arbennig ar gyfer myfyrwyr Meddygaeth a Gofal Iechyd yn cynnwys: Rygbi Myfyrwyr Meddygaeth (dynion), Pêl-fasged Gofal Iechyd, Pêl-droed Myfyrwyr Meddygaeth (dynion), Hoci Myfyrwragedd Meddygaeth, Hoci Myfyrwyr Meddygaeth (dynion), Sboncen Myfyrwyr Meddygaeth a Pêl-fasged Myfyrwyr Meddygaeth. Mae gan Brifysgol Caerdydd dros 60 o glybiau chwaraeon eraill. Ymunwch, cadwch yn heini, a manteisiwch ar y cyfle i gwrdd â ffrindiau newydd. Mae’r Undeb Athletau (UA) yn cynnig chwaraeon traddodiadol fel rygbi, hoci, pêl-rwyd, neu os ydych am roi cynnig ar rywbeth newydd yna mae gennym lawer o gampau sy’n tyfu o ran poblogrwydd fel corffbel, ogofa a phêl-droed Americanaidd. Gallwch ganfod mwy yn cardiffstudents.com/au. Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn, dewch i 3ydd llawr yr Undeb i gael sgwrs â Sam Parsons, eich Is-Lywydd Chwaraeon a Llywydd yr Undeb Athletau. Neu gallwch gysylltu ag e drwy: VPSports@Caerdydd.ac.uk 029 2078 1438
Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
yn falch o gyflwyno
Mae Rhowch Gynnig Arni yn galendr llawn o gyfloedd a gweithgareddau anhygoel i chi roi cynnig arnynt tra’ch bod yn fyfyriwr yng Nghaerdydd. Mae Rhowch Gynnig Arni’n wych os ydych chi’n fyfyriwr gofal iechyd, gan y gall ffitio i mewn i’ch amserlen brysur. Mae’n rhoi cyfle i chi roi cynnig ar unrhyw un o’n 250 o gymdeithasau a chlybiau chwaraeon, dysgu iaith newydd, datblygu sgiliau, gwirfoddoli, mynd ar deithiau diwrnod a phen-wythnos, a chymaint mwy. Yr amcan yw eich annog i roi cynnig ar bethau newydd, cwrdd â phobl newydd a chael profiad anhygoel tra byddwch yng Nghaerdydd. Hefyd, rydym yn trefnu teithiau i wahanol ddinasoedd bob mis am lai na £150, os ydych chi am deithio i fannau yn Ewrop. Buasem wrth ein bodd pe baech chi’n ymuno â ni! I weld beth sy’n digwydd yn Rhowch Gynnig Arni, ewch i cardiffstudents.com/GiveitaGo.
Nicola Taaffe @ West Grove Cynllun Deintyddol Myfyrwyr DPAS Dim ond £8.50 y mis!
Ymunwch Heddiw: Mae ymuno’n hawdd. Cyflwynwch eich cerdyn U.C.M. / cerdyn adnabyddiaeth myfyrwyr cyfoes a dilys. Wedyn cwblhau ffurflen gofrestru, mandad Debyd Uniongyrchol a ffurflen awdurdodi ar gyfer DPAS. Ychwanegir ffi gofrestru o £10 at eich taliad misol cyntaf. Ffôn: (029) 2045 3346 E-bost: surgery@nicolataaffe.co.uk 2, West Grove, Caerdydd, CF24 3AN www.nicolataaffe.co.uk
Mae hyn hefyd yn cynnwys: Dau archwiliad iechyd deintyddol y flwyddyn Un apwyntiad hylendid y flwyddyn (yn cynnwys digennu a sgleinio) Gostyngiad o 15% ar Driniaethau Peledr-x clinigol bach lle bo angen Profion arferol am gancr y geg Cyngor ar ddiet a hylendid y geg Cerdyn aelodaeth â rhifau llinellgymorth 24 awr ar gyfer achosion deintyddol brys gartref neu dramor Yswiriant Atodol ar gyfer Anafiadau Deintyddol ac Achosion Brys Ledled y Byd
Prif Ysbyty
map O'r mynydd bychan
Ysgol Ddeintyddiaeth
LLWYBR BEICIO
ACADEMIC AVENUE
2
1
Llwybrau
2
Darlithfeydd 2
3
Ymgynullfan i’r Ganolfan Chwaraeon
1
Prif Ysbyty
A&E
Ymgynullfan i Tyˆ Dewi Sant Ymgynullfan i Ysbyty’r Plant
1
3
GRISIAU
4
Drwodd i’r Maes Parcio
5
4
Ymgynullfan
Arosfan Bysiau 1. 2, 22, 38, 53, 85, 101, 102, A, B 2. 1, 22, 38, 51, 85, 101, 102, A, B 3. 2, 22, 38, 53, 85, A, B 4. A, B, X 5. 1, 39, 22, 51, 200, 85, 101, 102, A, B, X 6. 1, 39, 51, 101, 102 7. 2, 39, 53, 101, 102
Allwedd 1. C affi Caeau’r Mynydd Bychan 2. Canolfan Graddedigion Parc y Mynydd Bychan 3. Caplaniaeth (Lloches B5) 4. Ysbyty’r Plant 5. Y Llyn
7 Ty Dewi Sant
6
8
Michael Griffith
5 9
Adeilad Cochrane
12 11
10
14 13
15
IV Lounge
RESIDENTIAL ROAD
6 7
TO ALLENSBANK ROAD
6. Canolfan Cymorth i Fyfyrwyr 7. Tyˆ Dewi Sant 8. Canolfan Michael Griffith 9. Tyˆ Ceredigion 10. Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol
11. C yngor i Fyfyrwyr 12. Ystafell Gyffredin Gofal Iechyd 13. Undeb y Myfyrwyr ar Barc y Mynydd Bychan 14. Caffi’r IV Lounge