en l g a h R o llawn adau i ddi ion y w g i d d edig d d a r ôl-
Pythefnos Groeso! A gyflwynir i chi gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
croeso i gaerdydd Rydyn ni wedi cyffroi’n lân i’ch croesawu chi i Gaerdydd ym mis Medi. Os ydych chi yn parhau gyda’ch astudiaethau ar lefel ôl-raddedig neu yn newydd i Gaerdydd rydyn ni yma i’ch helpu chi i ddod i nabod eich cyd-fyfyrwyr ôl-raddedig. Mae’r digwyddiadau hyn yn cael eu cynnal i’ch helpu chi gwrdd â phobl â’r un diddordebau a chi i greu cymuned ôl-raddedig a myfyrwyr hŷn yma yng Nghaerdydd, mae croeso i bawb! Gallwch gael yr holl fanylion diweddaraf ar dudalennau ein digwyddiadau ar Facebook @cardiffstudentspostgrad.
Digwyddiadau penodol i ôl-raddedigion a myfyrwyr hyn. Brecwast Canol Bore i ôl-raddedigion a Myfyrwyr Hyn Lleoliad: I’w gadarnhau Mae gan Gaerdydd ambell i drysor cudd sy’n berffaith ar gyfer unrhyw un sy’n hoffi paned dda! Mae hwn yn gyfle i gwrdd â’ch cyfoedion
am sgwrs hamddenol dros goffi poeth neu fwyd blasus. Bydd y lleoliad cyfarfod yn cael ei gyhoeddi ar Rwydwaith Ôl-raddedig Myfyrwyr Caerdydd ar Facebook yn yr wythnosau nesaf. Edrychwch ar @cardiffstudentspostgrad.
Dydd Sadwrn 21ain Medi, 10:30
Carferi’r Taf Lleoliad: Y Taf, Undeb y Myfyrwyr, Cathays
Dyma ddau garferi cyntaf y flwyddyn yn Y Taf, a does dim yn well na chinio dydd Sul blasus. Fel cynnig arbennig, mae’r Carferi yn rhedeg cynnig dau am un, felly dewch o hyd i bartner pan fyddwch yn cyrraedd. Mae cinio hanner pris yn ddwywaith fwy blasus! Dydd Sul 22ain Medi, 13:00 Dydd Sul 29ain Medi, 13:00
Cwis ôl-raddedigion a Myfyrwyr Aeddfed Lleoliad: Y Taf, Undeb y Myfyrwyr , Cathays
Gadewch i’r wybodaeth gyffredinol lifo a dewch i gael hwyl. Gall 6 person fod mewn tîm. Gellir cymryd rhan am ddim ond £1 y person. Dydd Sul 22ain Medi , 19:00
Cwrdd a Chyfarch Y Mynydd Bychan Lleoliad: Lolfa IV, Parc y Mynydd Bychan
Cyfle i gwrdd â ffrindiau cwrs ac ôlraddedigion a myfyrwyr hŷn wedi ei sefydlu yn y Mynydd Bychan dros baned a bisgedi. Dydd Llun 23ain Medi, 15:00-16:30
Cwrdd a Chyfarch Cathays Lleoliad: Y Porthdy, 2il Lawr, Undeb y Myfyrwyr, Cathays
Dydd Mercher 25ain Medi, 15:30 - 17:00 Dydd Gwener 27ain Medi, 11:30 - 13:00
Taith i’r Sinema Lleoliad: Cineworld
Yn aml mae taith i’r sinema yn ffordd wych o ddianc bywyd go iawn am ychydig oriau, ac am £2.90 (Awst 2019) pwy all ddweud na? Bydd y ffilm yn cael ei dewis drwy bleidlais ar ein grŵp digwyddiad Facebook yn agosach i’r amser. Byddwn ni mwy na thebyg yn cwrdd y tu allan i Undeb y Myfyrwyr ar Ffordd Senghennydd (ochr Santander a Co-op) cyn cerdded oddeutu 10-15 munud i Cineworld gyda’n gilydd. Dydd Llun 30ain Medi, 18:00
Teithiau Tywys Rydyn ni’n cynnal nifer o deithiau tywys i’ch dangos chi o amgylch eich dinas newydd yn ystod yr Wythnos Groeso. Gallwch ddod o hyd i fwy o fanylion a phrynu tocynnau ar y wefan ar cardiffstudents.com
Taith Dywys Campws Cathays Lleoliad: Swyddfa Docynnau Llawr Gwaelod Undeb Myfyrwyr Cathays
Os hoffet ddarganfod llyfrgelloedd cyfrinachol, caffis a mannau adolygu tawel, dyma’r daith i ti. Dydd Mercher 18fed- Dydd Gwener 27ain 10:00-11:00 / 12:00 - 13:00 / 15:0016:00
Taith Dywys o amgylch Undeb y Myfyrwyr Lleoliad: Swyddfa Docynnau Llawr Gwaelod Undeb Myfyrwyr Cathays
Mae gan Undeb y Myfyrwyr amrywiaeth eang o wasanaethau i chi eu defnyddio ac i gymryd rhan ynddynt. Dydd Mercher 18fed - Dydd Gwener 27ain 11:00-11:30 / 14:30-15:00
Ffeiriau Y ffordd orau i ddarganfod am y cyfleoedd sydd ar gael i chi yw clywed gan y bobl ymroddgar sy’n eu rhedeg nhw!
Clwb Brecwast y Ffair Chwaraeon Lleoliad: Y Lolfa, Undeb y Myfyrwyr, 3ydd Llawr
Teithiau Canol Dinas Lleoliad: Swyddfa Docynnau Llawr Gwaelod, Undeb y Myfyrwyr, Cathays.
Mae Caerdydd yn aml yn cael ei ddisgrifio fel y “ddinas myfyrwyr berffaith”. felly pam ddim treulio 60 munud gydag ein tywyswyr Rho Gynnig Arni profiadol i weld y trysorau mwyaf diddorol, amgen a gorau sydd gan Caerdydd i’w gynnig. Yn ddyddiol, Dydd Mercher 18fed tan Dydd Gwener 27ain 13:00 - 14:30 / 16:00 - 17:30
Taith Dywys Y Bws Coch Lleoliad: Ymadael o fynedfa Ffordd Senghennydd Undeb y Myfyrwyr / £3
Mae ein taith bws yn gyfle gwych i chi weld Caerdydd am y tro cyntaf. Cyfle i weld tirnodau mwyaf Caerdydd ar daith awr o hyd i Fae Caerdydd ac yn ôl, mewn Bws Mawr Coch. Tocynnau ar gael ar-lein ac yn Swyddfa Docynnau Undeb y Myfyrwyr (llawr gwaelod). Dydd Llun 23ain Medi, 12:00 Dydd Mercher 25ain Medi, 12:00
Dewch draw i ymuno â ni yn ein Clwb Brecwast! Mae’n gyfle euraidd i ddarganfod mwy am beth sy’n digwydd drwy gydol y dydd. Darperir lluniaeth hefyd. Dydd Llun 23ain Medi, 08:30-10:00
Ffair Chwaraeon Lleoliad: Y Neuadd Fawr, Llawr 1af, Undeb y Myfyrwyr
Yr Undeb Athletaidd yw’r corff sy’n cefnogi holl weithgarwch chwaraeon mwy na 60 o glybiau chwaraeon yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Mae’r Ffair Chwaraeon yn rhad ac am ddim a dyma eich cyfle i gwrdd ag aelodau o bob chwaraeon ac i gofrestru. Dydd Llun 23ain Medi, 09:00-17:00
Clwb Brecwast Y Ffair Cymdeithasau a Gwirfoddoli Lleoliad: Y Lolfa, Undeb y Myfyrwyr, 3ydd Llawr
Dewch draw i ymuno â ni yn ystod ein ail a thrydydd Clwb Brecwast! Mae’n gyfle euraidd i ddarganfod mwy am beth sy’n digwydd drwy gydol y dydd. Darperir lluniaeth hefyd. Dydd Mawrth 24ain Medi, 08:30-10:00 Dydd Mercher 25ain Medi, 08:30-10:00
Ffair Cymdeithasau a Gwirfoddoli Lleoliad: Y Neuadd Fawr, Llawr 1af, Undeb y Myfyrwyr
Mae Urdd y Cymdeithasau a Ffair Gwirfoddoli Caerdydd yn cael ei gynnal am ddeuddydd, gyda gwahanol gymdeithasau a prosiectau gwirfoddoli yn cael eu cynrychioli bob dydd. Mae’n gyfle gwych i gwrdd â’n grwpiau myfyrwyr ffantastig a phrosiectau a gweld pa gyfleoedd sydd ar gael i chi gymryd rhan ynddynt.. Dydd Mawrth 24ain Medi, 10:00-17:00 Dydd Mercher 25ain Medi, 10:00-17:00
Digwyddiadau yn ystod y Dydd Taith Diwrnod i Gastell Coch Lleoliad: Ymadael o fynedfa Ffordd Senghennydd Undeb y Myfyrwyr / £6
Dewch gyda ni ar ein bws mawr coch i ymweld â chastell Fictoraidd hardd ar gyrion Caerdydd. Fe fyddwn yn eich gollwng ac yn eich casglu o’r castell ei hun felly mae croeso i chi edrych o amgylch y castell neu fynd am dro o amgylch y Coetir gerllaw. Mae nifer o gyfleusterau yn y castell yn cynnwys ystafelloedd te, taith dywys clywedol am ddim a arddangosfeydd gwybodaeth. Mae tocynnau ar gael yn Swyddfa Docynnau Undeb y Myfyrwyr. Dydd Llun 23ain Medi, 11:00-15:00
Taith Siopa i IKEA Lleoliad: Ymadael o fynedfa Ffordd Senghennydd Undeb y Myfyrwyr / £6
Os ydych chi angen llenwi’ch cartref newydd gyda dodrefn newydd, pam na wnewch chi ymuno â’r Bws Mawr Coch ar eu taith i IKEA lle cynhelir eu gŵyl i fyfyrwyr. Dydd Llun 23ain Medi, 14:00-18:00. Dydd Mercher 25ain Medi, 14:00-18:00 Dydd Gwener 27ain Medi, 14:00- 18:00
Pobi Cacennau Cri
Gwers Gymraeg
Lleoliad: Y Lolfa, 3ydd Llawr, Undeb y Myfyrwyr / £2
Lleoliad: Ystafell Fwrdd, 3ydd Llawr Undeb y Myfyrwyr / £2
Mae pawb yn hoff o gacennau cri. Dewch draw i dreulio amser yn coginio (ac yn bwyta!) - bydd yr holl gynhwysion yn cael eu darparu.
Dyma gyfle da i unrhyw un rydych chi’n eu hadnabod sy’n awyddus i ddysgu Cymraeg.
Dydd Mawrth 24ain Medi, 11:00-14:00 Dydd Iau 26ain Medi, 11:00-14:00
Taith Amgueddfa Genedlaethol Lleoliad: Swyddfa Docynnau, Llawr Gwaelod, Undeb y Myfyrwyr
Darganfyddwch gelf, astudiaethau naturiol a daeareg gyda thaith penodol ar gyfer Amgueddfa Genedlaethol hardd Caerdydd. Dydd Mawrth 24ain Medi, 12:30-14:00 Dydd Iau 26ain Medi, 12:30-14:00
Ymweliad Castell Caerdydd Lleoliad: Swyddfa Docynnau, Llawr Gwaelod, Undeb y Myfyrwyr
Talwch am fynediad ar y drws! I gael mynediad i brisiau myfyrwyr, dewch a’ch cerdyn myfyrwyr, neu brawf o fod yn fyfyriwr. Mae hyn yn golygu y byddwch yn gymwysedig ar gyfer ‘Goriad Castell’ £6.50 sy’n golygu mynediad am ddim am 3 blynedd. Fel arall, mae prisiau mynediad yn: Oedolion £13.50, Myfyrwyr £11.50, Plant (5-16) £9.50. Dydd Mawrth 24ain Medi, 14:00-16:00 Dydd Iau 26ain Medi, 14:00-16:00
Dydd Mawrth 24ain Medi, 15:00-16:00. Dydd Iau 26ain Medi, 15:00-16:00
Ymweld â Bae Caerdydd Lleoliad: Bydd trafnidiaeth yn gadael o Undeb y Myfyrwyr wrth fynedfa Ffordd Senghennydd / £6
Dewch gyda ni i ddarganfod un o gyrchfannau twristaidd mwyaf poblogaidd Caerdydd a datblygiad glan dŵr mwyaf Ewrop. Ym Mae Caerdydd gallwch gymryd teithiau ar gwch, ymweld â Techniquest neu i Gynulliad Cymru. Dydd Mercher 25ain Medi, 09:30-12:00 Dydd Gwener 27ain Medi, 09:30 - 12:00
Taith Diwrnod i Ynys y Barri Lleoliad: Trafnidiaeth yn gadael o Undeb y Myfyrwyr wrth fynedfa Ffordd Senghennydd / £6
Treuliwch y diwrnod yn un o drefi glan môr mwyaf enwog De Cymru. Mae Ynys y Barri yn dref lan môr lle gallwch fwynhau y môr, hufen iâ a sglodion. Adnabyddir yr Ynys i’r mwyafrif fel lleoliad cyfres deledu boblogaidd Gavin a Stacey. Dydd Gwener 27ain Medi, 11:00-15:00
Taith Diwrnod i Draeth Rhosili
Parti Croeso Gemau Retro
Lleoliad: Bydd trafnidiaeth yn gadael o Undeb y Myfyrwyr wrth fynedfa Ffordd Senghennydd / £18 myfyrwyr - £25 os nad yn fyfyrwyr
Lleoliad: Y Taf, 2il Lawr Undeb y Myfyrwyr
Rydyn ni’n mynd i’r traeth ac mae gennych chi wahoddiad! Ymunwch â thîm Rho Gynnig Arni am daith i un o draethau mwyaf godidog y byd. Dydd Sadwrn 28ain Medi, 09:00-20:00
Taith Diwrnod Caerffili
Dydd Mercher 18fed Medi, 18:00-01:00
Cwis y Taf
£1
Lleoliad: Y Taf, 2il Lawr Undeb y Myfyrwyr
Lleoliad: Ymadael o fynedfa Ffordd Senghennydd Undeb y Myfyrwyr / / £18 myfyrwyr - £25 os nad yn fyfyrwyr
Mae tref Caerffili yn dref llai na 10 milltir i’r gogledd o Gaerdydd ac mae mwyaf enwog am ei gastell, sef castell mwyaf Cymru! Gallwch ymweld â’r castell am £4.20 yn unig gyda cherdyn myfyrwyr pan fyddwch yno. Mwy o fanylion a thocynnau y digwyddiad ar cardiffstudents.com Dydd Sul 29ain Medi, 09:00-20:00
Digwyddiadau gyda’r nos ROLLER DISCO
Os yw gwylio Stranger Things wedi achosi i chi hiraethu am adloniant retro, dewch draw i ddangos eich sgiliau ar glasuron fel Dance Machine a Rally Driver. Gellir defnyddio’r peiriannau drwy’r dydd!
£6
Lleoliad: Y Neuadd Fawr, Llawr 1af Undeb y Myfyrwyr
Mae’n amser i roi eich sgidiau sglefrio ymlaen! Rydyn ni’n cynnal y Roller Disco mwyaf a welodd Undeb Myfyrwyr Caerdydd erioed! Dydd Mercher 18fed Medi, 18:00-23:00
Ymunwch â ni bob dydd Iau am 20:00 yn Y Taf i brofi eich gwybodaeth gyffredinol. Dydych chi ddim eisiau colli allan ar ein cwis arbennig ar y 26ain Medi pan mae gennyn ni arbenigwyr ar wybodaeth cyffredinol - Mr Shaun Wallace o sioe gwis ITV The Chase! Dydd Iau 19fed Medi, 18:00 Dydd Iau 26ain Medi, 18:00
THE EXCHANGE
£5
COMEDY CENTRAL LIVE
Lleoliad: Y Taf, 2il Lawr Undeb y Myfyrwyr
Rydym yn troi eich tafarn leol myfyrwyr yn gyfnewidfa stoc byw! Gwyliwch eich hoff ddiodydd yn codi a chwympo mewn pris drwy gydol y nos i gael y bargeinion gorau! Dydd Gwener 20fed Medi, 18:00-01:00 Dydd Gwener 27ain Medi, 18:00-01:00
KARAOKE
Lleoliad: Y Plas, 2il Lawr, Undeb y Myfyrwyr
Mae Comedy Central yn dod â’u taith hynod boblogaidd i’r Plas. Bydd yn barod i chwerthin gyda chomedi or radd flaenaf. Eleni,yr athrylith Russell Kane fydd yn perfformio ar ran Comedy Central Live! Dydd Sul 22ain Medi, 19:00-01:00
ORCHARD PRESENTS LIVE MUSIC
Lleoliad: 2il Lawr, Undeb y Myfyrwyr
£10
YN NEWYDD I 2019! Rydyn ni’n cynnal Karaoke bob nos Sadwrn yn Y Taf ac rydyn ni’n bwriadu gorchfygu’r Taf i gyd!
Lleoliad: Y Plas, 2il Lawr, Undeb y Myfyrwyr
Dydd Sadwrn 21ain Medi, 18:00-01:00 Dydd Sadwrn 28ain Medi, 18:00-01:00
Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn sefydliad cerddoriaeth byw yng Nghaerdydd, ymunwch â ni yn ein gŵyl ein hunain yn arddangos miwisig byw mewn partneriaeth gyda Orchard LIVE!
Noson Ffilm
£3
Lleoliad: Oll yn cael eu harddangos yn y Lolfa, 3ydd Llawr, Undeb y Myfyrwyr
Does dim yn well na ymlacio drwy wylio ffilm dda. Felly pam ddim dod a byrbrydau ac ymlacio gyda ffrindiau. Bydd y ffilmiau yn cael eu rhyddhau yn hwyrach ymlaen. Dydd Sul 22ain Medi, 19:00-22:00 Dydd Mawrth 24ain Medi, 19:00-22:00 Dydd Iau 26ain Medi, 19:00-22:00 Dydd Sul 29ain Medi, 19:00-22:00
Dydd Gwener 27ain Medi, 19:00-01:00
BINGO LINGO
0 £6.5
Lleoliad: Y Neuadd Fawr, Llawr 1af, Undeb y Myfyrwyr
Bingo Lingo yw’r ffurf newydd o Bingo sy’n prysur orchfygu’r wlad. Yn cynnwys dawnsio, olwyn anffawd, raves bach a munudau digon lletchwith. Sylwer mae angen tocyn bingo £1 wrth y drws.
Nosweithiau Clwb Pythefnos Y Glas Swyddogol Prifysgol Caerdydd Rydyn ni wedi rhestru ein nosweithiau clwb Y Glas swyddogol yn ein clwb nos chwedlonol, felly os wyt ti’n hoff o ddawnsio pryna dy docynnau yn fuan
BEACH PARTY Lleoliad: Y Plas, Undeb y Myfyrwyr
ICEBREAKER Lleoliad: Y Plas, Undeb y Myfyrwyr
Dydd Llun 23ain Medi, 22:00 - 03:00
TRIPLE COOKED Lleoliad: Y Plas, Undeb y Myfyrwyr
Dydd Mawrth 24ain Medi, 22:00 - 03:00
YOLO Lleoliad: Y Plas, Undeb y Myfyrwyr
Dydd Mercher 25ain Medi, 22:00-03:00
SHANGRI-LA Lleoliad: Y Plas, Undeb y Myfyrwyr
Dydd Iau 26ain Medi, 22:00-03:00
Dydd Iau 19ain Medi, 22:00-03:00
VK VIVID Lleoliad: Y Plas, Undeb y Myfyrwyr
JUICE Lleoliad: Y Plas, Undeb y Myfyrwyr
Dydd Sadwrn 28ain Medi, 22:00 - 03:00
Dydd Gwener 20fed Medi, 22:00 - 03:00
FOAM PARTY Lleoliad: Y Plas, Undeb y Myfyrwyr
Dydd Sadwrn 21ain Medi, 22:00 - 03:00
Gellir dod o hyd i fwy o fanylion digwyddiadau a thocynnau ar wefan cardiffstudents.com!
Tocynnau Os ydych chi yn dal i edrych ymlaen at bartio drwy’r nos yn Y Plas, clwb Undeb y Myfyrwyr, gallwch brynu tocynnau ar cardiffstudents.com. Gallwch ddewis a dethol pa ddigwyddiadau hoffech fynd iddynt, ond cofiwch, y cynharaf y byddwch yn eu prynu’r mwyaf y byddwch yn ei arbed! Mae gennyn ni hefyd lawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn ystod y dydd a gyda’r nos felly i gael cymdeithasu neu i roi cynnig ar rywbeth newydd, edrychwch ar ein hadran digwyddiadau gyda’r dydd neu’r nos ar cardiffstudents.com. Felly cewch ddewis a dethol o lwythi o weithgareddau
Lleoliadau Eisiau gwybod lle mae popeth yn digwydd? Mae’r lleoliadau canlynol wedi eu lleoli yn adeilad Undeb y Myfyrwyr: Neuadd Fawr - Llawr 1 Y Stiwdio - Llawr 1 Y Taf - Llawr 2 Y Porthdy - Llawr 2 Y Plas - Llawr 2 Y Lolfa - Llawr 3 Cymorth i Fyfyrwyr Rhyngwladol Prifysgol Caerdydd - Llawr 3 Mae’r lleoliadau canlynol wedi eu lleoli yn adeilad Undeb y Myfyrwyr ar Gampws y Mynydd Bychan: Y Lolfa IV Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol Canolfan Feddygol Caerdydd
Mae Rho Gynnig Arni yn cynnal teithiau diwrnod drwy gydol y flwyddyn felly gallwch fwynhau dyddiau allan ar draws Cymru a Phrydain. Eleni rydyn ni wedi cadw rhai teithiau i ôl-raddedigion fel chi!
Teithiau Ôl-raddedig Rho Gynnig Arni Tymor yr Hydref Arfordir Jurassic - 5ed Hydref | £20 Mae’r Arfordir Jwrasig yn gyfle i chi grwydro drwy amser yn llythrennol gyda chreigiau a ffosiliau yn adrodd hanes y Ddaear drwy ffurfiannau a thraethau. *Trefnir bws i ôl-raddedigion yn unig os oes galw am un.
Côr y Cewri a Salisbury - 19eg Hydref | £25 Yn llawn dirgelwch mae, Côr y Cewri yw un o henebion mwyaf adnabyddus ac enwog y DU. *Trefnir bws i ôl-raddedigion yn unig os oes galw am un.
Rhydychen - 20fed Tachwedd | £20 Ewch i Rydychen; tref hardd sy’n gartref i un o brifysgolion gorau’r byd! *Trefnir bws i ôl-raddedigion yn unig os oes galw am un.
Caergrawnt - 23ain Tachwedd | £25 Ymunwch â ni wrth i ni deithio i un o drefi prifysgol fwyaf adnabyddus ac enwog Prydain; Caergrawnt! *Trefnir bws i ôl-raddedigion yn unig os oes galw am un.
Marchnad Nadolig Caerfaddon - 1af Rhagfur | £19 Ni fyddai’r Nadolig yr un peth heb daith i’r marchnadoedd Nadolig byd-enwog - ac mae Caerfaddon ymysg rhai o’r goreuon. *Trefnir bws i ôl-raddedigion yn unig os oes galw am un.
Dilynwch ‘Nick Fox SU’ ar Facebook a @PostgradCSU ar Trydar i glywed am ddigwyddiadau cymdeithasol ôl-raddedig a fydd yn digwydd drwy gydol y flwyddyn yn ogystal â Theithiau Rho Gynnig Arni a fydd yn cael eu cynnal yn nhymor y Gwanwyn.
Cysylltwch â ni Rydyn ni’n gwybod eich bod chi’n bobl prysur, felly rydyn ni eisiau sicrhau ei fod mor hawdd a phosibl i chi gysylltu â ni i gael gwybod beth sy’n digwydd ar y campws. E-bost Bydd eich Is-lywydd Ôl-raddedig, Nick yn anfon e-bost bob hyn a hyn er mwyn gadael i chi wybod beth sy’n digwydd. O ddiweddariadau pwysig, pethau i gymryd rhan ynddynt a newyddion arall, mae’n nhw’n werth eu darllen. I gysylltu â Nick e-bostiwch VPPostgraduate@Cardiff.ac.uk. Gwefan Rydyn ni wedi datblygu adran o’n gwefan yn arbennig i chi. Ewch ar-lein i ddarganfod mwy: cardiffstudents.com/postgrad Cyfryngau Cymdeithasol Ôl-raddedig Facebook / CardiffStudentsPostgrad Facebook / PGradOfficerCSU Twitter / @PostgradCSU Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd Twitter / @UndebMyfyrwyr
Facebook / UndebMyfyrwyr
Snapchat / CardiffStudents
Instagram / CardiffStudents
WhatsApp / 07809 331277
(Ychwanegwch 07809 331277 i’ch cysylltiadau. Anfonwch y neges ‘Ymuno’ i’r rhif hwnnw ar WhatsApp.)
Gwefan / cardiffstudents.com