Argymhellion Myfyrwyr 2015

Page 1

Argymhellion Myfyrwyr 2015


Cynnwys

3

Cyflwyniad

12

Darpariaeth Iechyd Rhywiol

4

Crynodeb o’r Argymhellion

13

Ffioedd i Geiswyr Lloches

7

Dysgu ac Addysgu

13

Cymdeithasau Preswylwyr

7

Portffolio Newid Addysg

14

Myfyrwyr Parc y Mynydd Bychan

7

Prynhawniau Mercher

14

Gwelededd Cyngor i Fyfyrwyr

8

Cymraeg i Bawb

14

Mannau Astudio

8

Trawsgrifiadau Gradd Estynedig

14

Mynediad i’r Rhyngrwyd ar Leoliad

9

Asesiadau ac Adborth

15

Cynrychiolaeth Myfyrwyr

9

15

Amser y Cydgysylltydd Cynrychiolwyr Myfyrwyr

15

Y Llywydd ar Fwrdd Gweithredol y Brifysgol

16

Myfyrwyr Ôl-raddedig

Gwallau Arholiadau

10

Prosiectau Cyfalaf

10

Yr Undeb Myfyrwyr ar Gampws Parc y Mynydd Bychan

10

Canolfan i Fywyd Myfyrwyr

16

10

Mannau Ymarfer a Pherfformio

17

Chwaraeon

11

Adnoddau Dysgu a Mannau Astudio

17

Aelodaeth Campfa Hyblyg

11

17

Cyfleusterau Chwaraeon

11

Anghenion a Chostau Argraffu

18

Bywyd Campws

12

Cefnogi Myfyrwyr

18

Gwella Darpariaeth Arlwyo

12

Cronfa Ariannol wrth Gefn

18

Cardiau Myfyrwyr & Thaliadau

12

Lwfans Myfyrwyr Anabl

18

Trafnidiaeth

Mannau Astudio 24 awr a Adnewyddwyd

Cymelliadau Ariannol & Ysgoloriaethau


Cyflwyniad Mae’r Argymhellion Myfyrwyr blynyddol eisoes yn broses hynod o werthfawr i’r Undeb Myfyrwyr. Mae’n ein galluogi i ddefnyddio’r holl adborth yr ydym yn casglu o’n myfyrwyr trwy gydol y flwyddyn ac yn sicrhau bod lleisiau myfyrwyr yn cael eu clywed. Mae ymgyrchoedd fel Wythnos Siarad a’r adborth rheolaidd o Fforymau Coleg i gyd wedi cyfrannu at yr argymhellion hyn. Rydym wastad yn hapus gyda lefel y bartneriaeth sy’n bodoli rhwng y Brifysgol a’r Undeb Myfyrwyr. Mae staff uwch y Brifysgol yn ogystal â’r holl gorff staff yn dangos ymrwymiad go iawn i gydweithio â’r Undeb ac mae’r Argymhellion Myfyrwyr yn darparu platfform swyddogol ar gyfer hybu lleisiau myfyrwyr Caerdydd. Eleni, mae’r tîm Swyddogion Etholedig wedi gweithio ar nifer fawr o brosiectau sydd wedi cael eu croesawu gan staff y Brifysgol. Un o’r prif resymau yr ydym yn cael ein hystyried fel un o’r Undebau Myfyrwyr mwyaf blaenllaw sy’n achosi newidiadau positif i fywydau myfyrwyr Prifysgol Caerdydd,

yw’r ffaith bod gennym berthynas weithio agos gyda’r Brifysgol sy’n seiliedig ar bartneriaeth a chyd-barch. Rydym yn cydnabod bod y Brifysgol yn datblygu’n gyflym ac rydym yn gyffrous i weld gwelliannau sylweddol mewn ardaloedd sy’n cael effaith uniongyrchol ar y profiad myfyrwyr yng Nghaerdydd. Bydd yr ymgynghoriadau parhaol gyda myfyrwyr yngl n â’r prosiectau a chyfeirir atynt yn y cyflwyniad hwn, a thu hwnt, yn chwarae rhan sylweddol i sicrhau eu llwyddiant. Oherwydd natur amrywiol y cynnwys yn y ddogfen, roedd yn amhosibl rhestru’r pwyntiau yn ôl blaenoriaeth, yn hytrach felly, maent yn cael eu blaenoriaethu fesul adran. Hoffai’r Swyddogion Etholedig ddiolch pawb sydd wedi gweithio gyda ni dros ein blwyddyn yn arwain yr Undeb ac yn gobeithio, gyda’r cyflwyniad hwn, bydd y Brifysgol yn parhau i weithio ar wella’r profiad myfyrwyr yn 2015/2016 a thu hwnt.

Elliot Howells

Claire Blakeway

Barney Willis

Llywydd yr Undeb Myfyrwyr

Is-lywydd Campws Parc y Mynydd Bychan

Is-lywydd Cymdeithasau ac Ymgyrchoedd

Faraz Alauddin

Bryn Griffiths

Rhys Jenkins

Is-lywydd Lles

Is-lywydd Chwaraeon & Llywydd yr Undeb Athletau

Is-lywydd Addysg

Argymhellion Myfyrwyr 2015

3


Crynodeb O’r Argymhellion Dysgu ac Addysgu

Asesiadau ac Adborth

Argymhelliad: Dylai’r Brifysgol barhau i fuddsoddi’r Portffolio Newid Addysg a’i achosion busnes i sicrhau bod y datblygiadau hyn yn ehangu i gynnwys yr holl nodweddion angenrheidiol. Dylid darparu hyfforddiant i staff addysgu er mwyn iddynt ddefnyddio’r offer a’r systemau i’w botensial llawn. Dylid llunio portffolio o arfer da i ddangos sut y gellir defnyddio’r dechnoleg i wella addysgu a dysgu. Yn ogystal â hyn, mae’n rhaid i’r datblygiadau hyn cael eu hystyried yn y broses gyllidebu i sicrhau fod cyllid addas ar gael er mwyn eu cyflenwi gan fod myfyrwyr yn disgwyl iddynt gael eu cyflenwi’n llwyr.

Argymhelliad: Dylai’r Brifysgol weithio gyda cholegau ac ysgolion yn uniongyrchol i ddatblygu cynllun gweithredu yn cynnwys targedau sy’n cyfeirio at y mater o wallau arholiadau. Lle mae gwallau’n digwydd a newidiadau’n cael eu gwneud i farcio, fel canlyniad, dylai’r wybodaeth hon gael ei throsglwyddo i’r holl fyfyrwyr a effeithiwyd, p’un a oeddent yn rhan o’r cwyn cychwynnol posibl ai peidio.

Argymhelliad: Rhaid i’r mater o sicrhau bod prynhawniau Mercher yn rhydd ar gyfer gweithgareddau allgyrsiol cael ei adolygu’n flynyddol, fel y cytunwyd yn 2004/2005. Yn dilyn yr adolygiad hwn, dylai’r Brifysgol ffurfioli’r cytundeb ynghylch cadw prynhawniau Mercher ac oriau gweddïo dydd Gwener yn rhydd ac atgoffa ysgolion academaidd a staff amserlennu o’r cytundeb i sicrhau ei weithrediad effeithiol. Dylid ystyried ymestyn y cytundeb hwn i holl fyfyrwyr ôl-raddedig a myfyrwyr gofal iechyd lle bo hynny’n bosibl. Argymhelliad: Dylai fod opsiwn i ddysgu Cymraeg drwy ddefnyddio dull tebyg i’r rhaglen Ieithoedd i Bawb i alluogi myfyrwyr o gefndiroedd Cymreig ac fel arall i ddysgu Cymraeg yn ystod eu hamser ym Mhrifysgol Caerdydd. Dylid cyflawni hyn erbyn Medi 2015 er mwyn dangos i fyfyrwyr bod hyn yn rhywbeth y mae’r Brifysgol yn awyddus i hyrwyddo. Dylai’r rhaglen hon ddefnyddio rhai o’r gwersi a ddysgwyd gan y rhaglen Ieithoedd i Bawb megis amseroedd sesiynau i fyfyrwyr Parc y Mynydd Bychan i sicrhau gweithrediad effeithiol o’r rhaglen. Argymhelliad: Dylai’r Brifysgol ystyried opsiynau ar gyfer cydnabyddiaeth ffurfiol o weithgareddau allgyrsiol ar drawsgrifiadau gradd, wrth roi’r opsiwn i fyfyrwyr penderfynu’r hyn sy’n ymddangos arnynt. Dylai hyn fod yn broses debyg i’r un lle y gall myfyrwyr dewis sut mae eu henwau yn ymddangos ar dystysgrifau, sy’n arbennig o bwysig i’r rhai sy’n ystyried ei hun yn drawsryweddol.

4

Argymhellion Myfyrwyr 2015

Prosiectau Cyfalaf Argymhelliad: Dylai’r Brifysgol fuddsoddi mewn adeilad Undeb Myfyrwyr pwrpasol ar gampws Parc y Mynydd Bychan lle dylai gwasanaethau graddedig wedi’u teilwra, mannau gweithgareddau a chymdeithasu cael eu darparu. Rydym yn sylweddoli ni fydd cyfleuster o’r fath ar gael tan y dilyniant sylweddol o’r Uwchgynllun Ystadau. Felly, dylai mannau fod ar gael yn y cyfamser i ddarparu gwasanaethau a chyfleusterau’r Undeb Myfyrwyr. Byddai’r mannau hyn hefyd yn darparu cyfle i ddarparu fersiwn o’r Ganolfan i Fywyd Myfyrwyr ar y campws hynny a bod yn lleoliad i wasanaethau cymorth y Brifysgol. Argymhelliad: Fel rhan o fynedfa’r Ganolfan i Bywydau Myfyrwyr, dylai fod ardal ymgysylltu i’r Undeb Myfyrwyr ar lefel stryd, gall grwpiau myfyrwyr defnyddio’r ardal hon hefyd ar gyfer eu gweithgareddau yn ogystal â darparu ardal lle gall yr Undeb Myfyrwyr redeg ymgyrchoedd. Rydym yn sylweddoli’r angen i ddenu incwm masnachol i ehangu gwasanaethau a chyfleusterau myfyrwyr ond yn gobeithio bydd y Brifysgol yn sicrhau bod yr effaith ar yr Undeb Myfyrwyr yn cael ei monitro’n gyson. Dylai’r Brifysgol gynyddu ei chyllid i’r Undeb os oes unrhyw ostyngiad mewn incwm masnachol, a nodwyd o ganlyniad i gystadleuaeth. Argymhelliad: Dylid ystyried ychwanegu mannau hyblyg fel rhan o fannau ehangach ar gampws i’w weithredu fel rhan o Uwchgynllun Ystadau, neu, cyn hyn, drwy sicrhau bod mannau ar gael gyda’r nos ac ar benwythnosau. Gall y mannau hyn gael eu defnyddio ar gyfer ymarferion a pherfformiadau yn ogystal â chynadleddau ac arddangosfeydd gan y Brifysgol, yr Undeb Myfyrwyr ac aelodau allanol y gymuned.


Adnoddau Dysgu a Mannau Astudio Argymhelliad: Dylai’r Brifysgol anelu at wella cyfleusterau mewn cymaint o lyfrgelloedd â phosibl yn anelu at ansawdd llyfrgell Trevithick wrth weithio tuag at estyniadau llyfrgelloedd fel y cynlluniwyd yn yr Uwchgynllun Ystadau. Dylai cymaint o fannau â phosibl fod ar agor am oriau hirach gan ganiatáu oriau gweithio mwy hyblyg yn enwedig yn ystod cyfnodau arholiadau. Argymhelliad: Dylai’r Brifysgol ddefnyddio’r dadansoddiad ar gostau argraffu a chwblhawyd yn ddiweddar a gweithio tuag at ddarparu dull cyson i’r holl fyfyrwyr, heb ystyried eu math o astudiaeth neu eu rhaglen academaidd. Dylai hyn gael ei gyflawni heb anfanteisio myfyrwyr sydd eisoes yn elwa o gostau rhatach neu argraffu am ddim. Yn ogystal â hyn, dylid cynnal astudiaeth i ddarganfod pa gyrsiau sy’n darparu adnoddau papur a dylai’r dull fod yn gyson ar draws y sefydliad.

Cefnogi Myfyrwyr Argymhelliad: Yn dilyn y cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru, dylai’r Brifysgol ariannu’r Gronfa Ariannol wrth Gefn am y flwyddyn academaidd 15/16 a thu hwnt gydag o leiaf y swm a ddyrannwyd gan Lywodraeth Cymru yn 14/15 i sicrhau bod myfyrwyr sy’n cael trafferth i gyllido’u haddysg yn cael cyfle gyda’r Gronfa Ariannol wrth Gefn. Bydd hyn hefyd yn sicrhau ein bod yn sefydliad cynhwysol sydd yn cefnogi myfyrwyr o bob cefndir. Argymhelliad: Dylai’r Brifysgol gydweithio gyda’r Undeb Myfyrwyr i herio’r toriadau i Lwfansau Myfyrwyr Anabl ac ymrwymo i ddarparu unrhyw gyllid a chefnogaeth ni fydd myfyrwyr anabl yn derbyn mwyach o’r Llywodraeth. Argymhelliad: Dylai’r Brifysgol flaenoriaethu iechyd rhywiol yn ei darpariaeth cefnogi myfyrwyr o ystyried y ddemograffeg mae’n ei gwasanaethu. Dylid ystyried darparu a chynnal peiriannau condomau am ddim o fewn adeiladau’r Brifysgol, yn ogystal â’r rhai sydd ar gael ar hyn o bryd yn yr Undeb Myfyrwyr. Dylid darparu cyngor ac arwyddion cynhwysfawr, cywir a chyfredol ar y fewnrwyd i sicrhau bod y wybodaeth gywir ar gael i fyfyrwyr. Dylai staff cymorth allweddol fod ar gael i ddarparu cyngor brys atal cenhedlu i fyfyrwyr yn ogystal â sicrhau bod staff iechyd rhywiol arbenigol ar gael yn y clinig meddyg teulu newydd.

Argymhelliad: Dylai’r Brifysgol ddarparu cymorth ariannol a chymhellion i geiswyr lloches. Un opsiwn yw o leiaf 2 ysgoloriaeth bob blwyddyn a fydd yn cynnwys costau astudio a byw i geiswyr lloches os byddant yn dewis astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Byddai’r costau byw hyn tua £4,000 yn seiliedig ar gyfrifiannell costau byw myfyriwr israddedig Prifysgol Caerdydd. Byddai’r ymrwymiad i fyfyrwyr sy’n ceisio lloches yn pwysleisio bod cynhwysiant, cydraddoldeb ac amrywiaeth wrth wraidd y Brifysgol ac yn dod â hi’n unol â sefydliadau tebyg eraill megis Prifysgol Queen Mary a London School of Economics. Argymhelliad: Yn dilyn adolygiad o’r cynllun peilot ar ddiwedd y flwyddyn academaidd 15/16, dylai’r Brifysgol ystyried ehangu’r Prosiect Cymdeithasau Preswylwyr i gynnwys y neuaddau preswyl i gyd a chefnogi’r datblygiad o ddigwyddiadau a gweithgareddau. Dylai’r Brifysgol gefnogi’r Undeb Myfyrwyr a’r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr trwy ddarparu canllawiau a hyfforddiant ar gyfer pwyllgorau i sicrhau eu bod yn cyfeirio myfyrwyr yn y cyfeiriad cywir, a fydd yn gwella lles ein myfyrwyr a’u profiadau yn y Brifysgol yn y pen draw. Wrth i neuaddau preswyl newydd gael eu hadeiladu yn ôl yr Uwchgynllun Ystadau, dylid ystyried cynnwys mannau cymdeithasu i’r grwpiau hyn ar gyfer cyfarfodydd a threfnu digwyddiadau.

Myfyrwyr Parc y Mynydd Bychan Argymhelliad: Dylid cynnal astudiaeth ddichonoldeb er mwyn gweld os yw hi’n bosibl newid mynedfa Cymorth i Fyfyrwyr ar Gampws y Mynydd Bychan fel mater o frys. Yn ddelfrydol, byddai’r fynedfa yn amlwg ac yn groesawgar i fyfyrwyr, ac yn gweithredu i ddangos hygyrchedd Cymorth i Fyfyrwyr a’i barodrwydd i gefnogi myfyrwyr sy’n agored i niwed. Yn y cyfamser, dylid gwella arwyddion y gwasanaeth i’w wneud yn haws i ddarganfod ac yn llai bygythiol. Hefyd, dylid gwneud mwy o ymdrech i hyrwyddo presenoldeb Cymorth i Fyfyrwyr ar draws y campws, yn esbonio’r gwasanaethau sydd ar gael i gefnogi myfyrwyr a gwybodaeth am sut y gallant fanteisio arnynt. Argymhelliad: Cyn yr Uwchgynllun Ystadau, dylid ystyried ehangu mannau o’r fath yna ar y campws er mwyn diwallu ar anghenion y myfyrwyr sy’n ceisio astudio ar gampws. Dylai mwy o offer TG fod ar gael mewn ac o amgylch Llyfrgell y Mynydd Bychan i

Argymhellion Myfyrwyr 2015

5


leddfu’r pwysau sydd ar fannau astudio allweddol. Dylai’r Brifysgol ystyried oriau agor hirach ar gyfer llyfrgelloedd eraill i sicrhau bod rhywle i fyfyrwyr campws Cathays i weithio yn hytrach na gweithio yn y Mynydd Bychan. Argymhelliad: Dylai’r Brifysgol flaenoriaethu mynediad i’r rhyngrwyd ar gyfer myfyrwyr ar leoliad, i fyfyrwyr Gofal Iechyd a thu hwnt. Dylid gwneud ymdrechion i gysylltu â myfyrwyr i weld ble yn union mae angen gwella’r ddarpariaeth hon a datrys y problemau fel mater o frys. Lle nad yw mynediad i’r rhyngrwyd yn bosibl yn yr ysbyty neu mewn llety, dylid ystyried darparu mynediad symudol i’r rhyngrwyd gan ddefnyddio Dongles. Os oes cysylltiad data ar gael, rhaid sicrhau bod gan fyfyrwyr mynediad parhaus i’r rhyngrwyd. Hefyd, dylid ystyried gweithio gyda chwmnïau preifat i osod mynediad i’r rhyngrwyd mewn ardaloedd gwledig. Dylai mynediad i Wi-Fi fod yn flaenoriaeth wrth ddarparu llety i fyfyrwyr ar leoliad.

Cynrychiolaeth Myfyrwyr Argymhelliad: Dylai Cydlynwyr Cynrychiolwyr Myfyrwyr gael amser yn eu hamserlenni i gyflawni’r dyletswyddau ychwanegol a ddaw yn sgîl y rôl er mwyn sicrhau datblygiad y Paneli Myfyrwyr Staff mewn ysgolion ac annog myfyrwyr i fod yn bartneriaid yn eu haddysg. Argymhelliad: Fel y nodir yng nghanllawiau CCAUC, dylai’r Brifysgol caniatáu cynrychiolaeth myfyrwyr ar bob lefel y Brifysgol. Felly, dylai’r Brifysgol ychwanegu Llywydd yr Undeb Myfyrwyr i aelodaeth Bwrdd Gweithredol y Brifysgol am y flwyddyn academaidd 2015/2016, a chael adolygiad yn haf 2016.

Myfyrwyr Ôl-raddedig Argymhelliad: Er mwyn annog myfyrwyr i barhau gyda’u hastudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd ar ôl cwblhau gradd israddedig, dylid cynnig mwy o gymhellion ariannol i fyfyrwyr a, lle y bo’n bosibl, dylai hyn fod yn gyson ar draws y sefydliad. Gallai hyn fod mor syml â gostyngiad canrannol mewn ffioedd ar gyfer cyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.

Chwaraeon Argymhelliad: Dylai Chwaraeon y Brifysgol cyflwyno opsiynau aelodaeth campfa hyblyg, os yn bosib contractau treigl misol er mwyn dod yn fwy hygyrch i holl fyfyrwyr y brifysgol.

6

Argymhellion Myfyrwyr 2015

Yn ogystal â hyn, dylai Chwaraeon y Brifysgol barhau i gynnig contractau 12 mis (neu gynnig contractau 9 mis) gyda thaliad ymlaen llaw gan mae’n debygol y bydd y rhain dal yn boblogaidd gyda rhai myfyrwyr e.e. timau chwaraeon sydd yn cael sesiynau tîm yn y Canolfan Cryfder a Chyflyru. Argymhelliad: Dylai’r Brifysgol ymdrechu i ddarparu cyfleusterau chwaraeon o safon uchel sy’n diwallu anghenion ein corff amrywiol o fyfyrwyr. Dylid ystyried datblygu’r safleoedd sydd gennym yn barod a chael safleoedd newydd yn agos i adeiladau academaidd yn ogystal ag ardaloedd preswyl.

Bywyd Campws Argymhelliad: Dylai’r Brifysgol delio â’r problemau o ddarpariaeth arlwyo gwael ar gampws, yn ôl yr adolygiad arlwyo a gwblhawyd yn ddiweddar, i sicrhau bod y ddarpariaeth arlwyo ar gampws yn amrywiol, wedi’i lleoli’n addas, yn iachus ac yn fforddiadwy. Dylid hefyd ystyried anghenion dietegol penodol. Dylai’r amgylchedd fod yn ddeniadol a dylai’r golwg a naws gael eu datblygu yn ôl mewnbwn myfyrwyr. Argymhelliad: Dylai’r Brifysgol anelu at wella mynediad cardiau allwedd i bob neuadd breswyl ac adeiladau’r Brifysgol, lle y bo’n berthnasol. Dylai’r allwedd hon hefyd weithio fel Cerdyn Adnabod Prifysgol y myfyrwyr ac adnabyddiaeth ar gyfer mynd mewn i safleoedd preswyl. Dylai’r brifysgol ystyried opsiwn ar gyfer integreiddio system talu i’r cerdyn hyn a gallai gysylltu’n uniongyrchol i gyfrif banc neu gael y myfyrwyr i ychwanegu arian i’r cerdyn gan ddefnyddio safleoedd ar gampws neu ar-lein. Os nad yw hynny’n opsiwn posibl, dylai taliadau digyffwrdd fod ar gael ym mhob safle masnachol ar gampws gyda’r bwriad o gael app ar gyfer opsiynau talu a theyrngarwch eraill. Argymhelliad: Fel y nodir yn yr Uwchgynllun ystadau, dylai’r Brifysgol darparu ystod o drafnidiaeth gyfleus a chynaliadwy, ond diogel yn bennaf, i fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr. Dylid ystyried opsiynau am gynllun beic yn debyg i’r cynllun Boris Bike cyn gynted ag y bo modd i ddefnyddio o amgylch y sefydliad a thu hwnt. Dylai’r Brifysgol fanteisio ar y ffaith bod calon y campws wedi’i leoli wrth ymyl gorsaf trên a bod llinell trên yn rhedeg yn gyfochrog â’n safle preswyl mwyaf drwy weithio gyda Network Rail i ddarparu pasau trên gostyngol i fyfyrwyr, gyda’r opsiwn posibl o orsafoedd newydd.


Dysgu Ac Addysgu Portffolio Newid Addysg

Prynhawniau Mercher

Mae yna ystod o brosiectau cyffrous iawn yn cymryd lle ar draws y sefydliad a fydd yn gwella’r ffordd y mae myfyrwyr yn dysgu yn y Brifysgol yn sylweddol. Mae prosiectau fel Learn Plus, Amserlennu Electronig a’r posibilrwydd o gael System Tracio Cynnydd ar-lein i gyd yn stepiau positif tuag at greu amgylchedd addysgu modern, hygyrch a rhyngweithiol. Ar hyn o bryd, mae cyllid refeniw cyfyngedig wedi’i ddyrannu i’r portffolio o waith hwn, sydd wedi arwain at oedi gweithrediad rhai prosiectau a fyddai’n cael effaith gadarnhaol ar fyfyrwyr.

Am nifer o flynyddoedd, mae’r prif strwythur o chwaraeon cystadleuol i’n myfyrwyr; Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS), wedi cymryd lle ar brynhawniau Mercher. Yn ogystal â hyn, mae ystod o weithgareddau eraill fel cyfleoedd gwirfoddoli a gweithdai cymdeithasau hefyd yn cymryd lle yn ystod y cyfnod hwn.

Argymhelliad: Dylai’r Brifysgol barhau i fuddsoddi’r Portffolio Newid Addysg a’i achosion busnes i sicrhau bod y datblygiadau hyn yn ehangu i gynnwys yr holl nodweddion angenrheidiol. Dylid darparu hyfforddiant i staff addysgu er mwyn iddynt ddefnyddio’r offer a’r systemau i’w botensial llawn. Dylid llunio portffolio o arfer da i ddangos sut y gellir defnyddio’r dechnoleg i wella addysgu a dysgu. Yn ogystal â hyn, mae’n rhaid i’r datblygiadau hyn cael eu hystyried yn y broses gyllidebu i sicrhau fod cyllid addas ar gael er mwyn eu cyflenwi gan fod myfyrwyr yn disgwyl iddynt gael eu cyflenwi’n llwyr.

Mae yna gytundeb anysgrifenedig na fydd ysgolion yn trefnu sesiynau gorfodol ar ôl 1:00yh ar ddydd Mercher. Trafodwyd y mater o gadw brynhawniau Mercher yn rhydd ar gyfer israddedigion mewn cyfarfod Senedd y Brifysgol yn y flwyddyn academaidd 2004/2005 gyda’r penderfyniad i argymell i’r Cyngor “bod penaethiaid ysgolion yn cael eu hannog i leihau’r nifer o weithgareddau addysgu rhestredig ar ôl 1yh, a lle bo modd ar ôl hanner dydd, ar ddydd Mercher.” Mae rhai myfyrwyr methu cymryd rhan o hyd oherwydd sesiynau gorfodol ar ôl 1:00yh ar ddydd Mercher; efallai oherwydd y natur anysgrifenedig/ answyddogol o’r cytundeb. 10 mlynedd yn ddiweddarach, mae yna hefyd galw gan fyfyrwyr ôl-raddedig eu bod nhw eisiau’r un cyfleoedd ag israddedigion. Mae’r Brifysgol wedi’i chyfansoddi’n wahanol iawn ers i hyn cael ei drafod; mae gennym lawer mwy o fyfyrwyr ôlraddedig a hefyd wedi uno dau sefydliad i gynnig amrywiaeth o gyrsiau gofal iechyd. Yn aml, mae gan fyfyrwyr Gofal Iechyd anawsterau pellach gyda’u hamserlenni oherwydd, fel myfyrwyr ôl-raddedig, cawsant eu hepgor o’r cytundeb cychwynnol. Rydym yn sylweddoli bod anhawster wrth ddelio â lleoliadau clinigol a ni all rhai myfyrwyr ar leoliad elwa o’r un manteision. Ers y cytundeb cychwynnol yn 2004/2005, bu awydd gan fyfyrwyr i sicrhau bod Awr Gweddïo Dydd Gwener, 1:00-2:00, yn cael ei chadw’n rhydd, i sicrhau bod myfyrwyr yn medru cymryd rhan yn yr ymrwymiad crefyddol pwysig hwn heb anfanteisio’u hastudiaethau. Argymhelliad: Rhaid i’r mater o sicrhau bod prynhawniau Mercher yn rhydd ar gyfer gweithgareddau allgyrsiol cael ei adolygu’n flynyddol, fel y cytunwyd yn 2004/2005. Yn dilyn yr adolygiad hwn, dylai’r Brifysgol ffurfioli’r cytundeb ynghylch cadw prynhawniau Mercher ac oriau gweddïo dydd Gwener yn rhydd ac atgoffa ysgolion academaidd a staff amserlennu o’r cytundeb i sicrhau ei weithrediad effeithiol. Dylid ystyried ymestyn y cytundeb hwn i holl fyfyrwyr ôlraddedig a myfyrwyr gofal iechyd lle bo hynny’n bosibl.

Argymhellion Myfyrwyr 2015

7


Dysgu Ac Addysgu Cymraeg i Bawb Ym Medi 2014, lansiodd y Brifysgol y rhaglen Ieithoedd i Bawb ar gyfer holl fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig y Brifysgol. Mae’r rhaglen yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr dysgu iaith dramor am ddim ochr yn ochr â’u cyrsiau gradd. Cynhelir y prosiect gan yr Ysgol Ieithoedd Modern ac mae myfyrwyr yn cael dewis o opsiynau dysgu ieithoedd sydd wedi cael eu datblygu i gefnogi eu datblygiad personol a gyrfaoedd yn y dyfodol. Mae’r rhaglen yn cynnwys 6 iaith; Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg, Eidaleg, Japaneaidd a Mandarin. Nid yw’r rhaglen yn cynnig Cymraeg fel cwrs iaith ar hyn o bryd. Mae hyn yn siomedig o wybod ein bod yn Brifysgol flaenllaw ym mhrifddinas Cymru a bydd gan lawer o fyfyrwyr diddordeb mewn dysgu’r iaith neu efallai gwella ar sgiliau sydd ganddynt yn barod. Argymhelliad: Dylai fod opsiwn i ddysgu Cymraeg drwy ddefnyddio dull tebyg i’r rhaglen Ieithoedd i Bawb i alluogi myfyrwyr o gefndiroedd Cymreig ac fel arall i ddysgu Cymraeg yn ystod eu hamser ym Mhrifysgol Caerdydd. Dylid cyflawni hyn erbyn Medi 2015 er mwyn dangos i fyfyrwyr bod hyn yn rhywbeth y mae’r Brifysgol yn awyddus i hyrwyddo. Dylai’r rhaglen hon defnyddio rhai o’r gwersi a ddysgwyd gan y rhaglen Ieithoedd i Bawb megis amseroedd sesiynau i fyfyrwyr Parc y Mynydd Bychan i sicrhau gweithrediad effeithiol o’r rhaglen.

8

Argymhellion Myfyrwyr 2015

Trawsgrifiadau Gradd Estynedig Mae’r trawsgrifiadau y mae myfyrwyr yn derbyn ar ôl graddio yn cael eu hystyried fel cydnabyddiaeth ffurfiol o’u gwaith drwy gydol eu hamser yn y Brifysgol. Mae’n siomedig bod y tystysgrifau hyn yn cynnwys gwybodaeth am eu gradd yn unig a dim gweithgareddau eraill y maent yn eu cyflawni fel y Wobr Caerdydd, ymrwymiad gyda gweithgareddau Menter neu gydnabyddiaeth am eu swyddi ar bwyllgorau cymdeithasau neu glybiau. Argymhelliad: Dylai’r Brifysgol ystyried opsiynau ar gyfer cydnabyddiaeth ffurfiol o weithgareddau allgyrsiol ar drawsgrifiadau gradd, wrth roi’r opsiwn i fyfyrwyr penderfynu’r hyn sy’n ymddangos arnynt. Dylai hyn fod yn broses debyg i’r un lle y gall myfyrwyr dewis sut mae eu henwau yn ymddangos ar dystysgrifau, sy’n arbennig o bwysig i’r rhai sy’n ystyried ei hun yn drawsryweddol.


Gwallau Arholiadau Gwallau Arholiadau Ar hyn o bryd, mae nifer o arholiadau ac asesiadau yn cynnwys gwallau yn y cwestiynau eu hun neu’r cyfarwyddiadau. Yn aml, nid yw’r rhain yn cael eu darganfod tan yr arholiad ei hun sy’n golygu bod myfyrwyr yn cael eu tarfu arnynt wrth weithio trwy’r papur. Nid yw’n anghyffredin i gael mwy nag un arholiad yn cymryd lle mewn un ystafell sy’n golygu bod rhai myfyrwyr yn cael eu tarfu’n ddiangen gan gyhoeddiad nad yw’n effeithio arnynt. Gall hyn achosi dryswch ymhlith myfyrwyr ond hefyd eu gofidio ar adeg sydd eisoes yn ddirboenus. Croesawn y sylw a roddwyd i hyn gan staff uwch y Brifysgol ac roedd gostyngiad y gwallau yn Ionawr yn newid positif ond mae’n rhaid i fwy cael ei wneud i sicrhau bod y gwallau yn parhau i leihau. Argymhelliad: Dylai’r Brifysgol gweithio gyda cholegau ac ysgolion yn uniongyrchol i ddatblygu cynllun gweithredu yn cynnwys targedau sy’n cyfeirio at y mater o wallau arholiadau. Lle mae gwallau’n digwydd a newidiadau yn cael eu gwneud i farcio, fel canlyniad, dylai’r rhain cael eu trosglwyddo i’r holl fyfyrwyr a effeithiwyd, p’un a oeddent yn rhan o’r cwyn cychwynnol posibl ai peidio.

Argymhellion Myfyrwyr 2015

9


Prosiectau Cyfalaf Yr Undeb Myfyrwyr ar Gampws Parc y Mynydd Bychan Er y bydd adnewyddiad bach yn cymryd lle yn fuan i hwb yr Undeb Myfyrwyr ym Mharc y Mynydd Bychan, nid yw’n cyfleusterau na wasanaethau ar y campws yn cwrdd ag anghenion y myfyrwyr. Mae gan y myfyrwyr hyn anghenion a blaenoriaethau gwahanol ac rydym yn teimlo y dylem ddyblygu’r hyn yr ydym yn gwneud wrth deilwra ein gwasanaethau i gwrdd ag anghenion penodol y myfyrwyr hyn. Yn dilyn cymeradwyaeth yr Uwchgynllun ystadau, mae yna weledigaeth hirdymor i gael hyd yn oed mwy o fyfyrwyr yn astudio ar y campws ac mae’n rhaid i’n gwasanaethau cwrdd ag anghenion y corff myfyrwyr cynyddol. Argymhelliad: Dylai’r Brifysgol fuddsoddi mewn adeilad yr Undeb Myfyrwyr pwrpasol ar gampws Parc y Mynydd Bychan lle dylai gwasanaethau graddedig wedi’u teilwra, mannau gweithgareddau a chymdeithasu cael eu darparu. Rydym yn sylweddoli ni fydd cyfleuster o’r fath ar gael tan y dilyniant sylweddol o’r Uwchgynllun Ystadau. Felly, dylai mannau fod ar gael yn y cyfamser i ddarparu gwasanaethau a chyfleusterau’r Undeb Myfyrwyr. Byddai’r mannau hyn hefyd yn darparu cyfle i ddarparu fersiwn o’r Ganolfan i Fywyd Myfyrwyr ar y campws hynny a bod yn lleoliad i wasanaethau cymorth y Brifysgol.

Canolfan Bywydau Myfyrwyr Rydym yn gyffrous i weld y cynnydd a wnaed ar ddatblygiad y Ganolfan Bywydau Myfyrwyr ac rydym yn ddiolchgar bod y Brifysgol wedi sicrhau cynrychiolaeth o’r Undeb Myfyrwyr ar bob pwyllgor perthnasol sy’n gysylltiedig. Rydym yn deall bydd y Brifysgol yn cynnig ystod sylweddol o wasanaethau masnachol yn yr adeilad newydd a gallai gael effaith negyddol ar gyfle’r Undeb Myfyrwyr i ddenu incwm masnachol. Er y credwn fod y prosiect hwn yn un positif iawn a fydd yn gwella’r profiad myfyrwyr yng Nghaerdydd, mae yna hefyd perygl y bydd yr Undeb Myfyrwyr yn colli rhan o’i hunaniaeth wrth i’r adeilad newydd gael ei greu. Argymhelliad: Fel rhan o fynedfa’r Ganolfan Bywydau Myfyrwyr, dylai fod ardal ymgysylltu i’r Undeb Myfyrwyr ar lefel stryd, gall grwpiau myfyrwyr defnyddio’r ardal hon hefyd ar gyfer eu gweithgareddau yn ogystal â darparu ardal lle gall yr Undeb Myfyrwyr redeg ymgyrchoedd. Rydym yn sylweddoli’r angen i ddenu incwm masnachol i ehangu gwasanaethau a chyfleusterau myfyrwyr ond yn gobeithio bydd y Brifysgol yn sicrhau bod yr effaith ar yr Undeb Myfyrwyr yn cael ei monitro’n gyson. Dylai’r Brifysgol gynyddu ei chyllid i’r Undeb os oes unrhyw ostyngiad mewn incwm masnachol, a nodwyd o ganlyniad i gystadleuaeth.

10

Argymhellion Myfyrwyr 2015

Mannau Ymarfer a Pherfformio Mae yna angen cynyddol am fannau ymarfer a pherfformio ar gyfer ein 250+ gr p myfyrwyr. Mae cyfran enfawr o’r cymdeithasau a chlybiau chwaraeon hyn a arweinir gan fyfyrwyr angen rhywle i ymarfer sawl gwaith yr wythnos ond hefyd perfformio ar adegau gwahanol drwy gydol y flwyddyn. Rydym yn gwario degau o filoedd o bunnoedd y flwyddyn yn llogi lleoliadau allanol gan nad yw’r cyfleusterau ar gampws yn addas i’r diben. Bydd yr adnewyddiad o ardaloedd yn yr Undeb Myfyrwyr dros haf 2015 yn gwella’r sefyllfa i ryw raddau ond rydym yn gobeithio y bydd ardaloedd eraill ar gael mewn llefydd eraill ar gampws. Argymhelliad: Dylid ystyried ychwanegu mannau hyblyg fel rhan o fannau ehangach ar gampws i’w weithredu fel rhan o Uwchgynllun Ystadau, neu, cyn hyn, drwy sicrhau bod mannau ar gael gyda’r nos ac ar benwythnosau. Gall y mannau hyn gael eu defnyddio ar gyfer ymarferion a pherfformiadau yn ogystal â chynadleddau ac arddangosfeydd gan y Brifysgol, yr Undeb Myfyrwyr ac aelodau allanol y gymuned.


Adnoddau Dysgu A Mannau Astudio Mannau Astudio 24 awr wedi’u hadnewyddu

Anghenion a Chostau Argraffu

Mae rhai o lyfrgelloedd Prifysgol Caerdydd wedi’u dyddio ac yn orlawn. Mae angen ailwampio esthetig arnynt, yn ogystal ag ymarferoldeb ychwanegol, i’w wneud yn ardaloedd deniadol a chyfforddus i weithio ac astudio. Bu cynnydd enfawr o fyfyrwyr yn defnyddio gliniaduron a thabledi ers i’r llyfrgelloedd gael eu hadeiladu felly mae’n rhaid i ni gynyddu’r nifer o socedi p er sydd ar gael. Mae yna hefyd galw am fwy o ddarpariaeth o ardaloedd astudio eraill; ardaloedd sy’n galluogi myfyrwyr i astudio mewn amgylchedd mwy hamddenol neu ddynodi ardaloedd ar gyfer gwaith gr p. Yn ogystal â hyn, mae arferion astudio myfyrwyr yn newid ac mae yna angen cynyddol am fannau astudio 24 awr.

Mae yna ddull anghyson ar draws y sefydliad o ran costau argraffu, ond hefyd o ran beth mae’n rhaid i fyfyrwyr ar wahanol gyrsiau argraffu. Nid yw rhai ysgolion yn codi tâl ar gyfer argraffu, mae rhai yn darparu swm penodol o gredydau ac eraill yn disgwyl myfyrwyr i dalu am eu holl argraffu. Yn yr un modd, mae rhai cyrsiau yn darparu cynnwys darlithoedd ar bapur tra bod eraill yn disgwyl myfyrwyr i dalu am yr adnoddau hyn eu hun. Nid yw hyn yn darparu profiad myfyrwyr positif gan nad yw’r rhesymeg dros y penderfyniadau hyn yn cael eu cyfathrebu ac felly, mae myfyrwyr yn holi pam nad oes un rheol ar gyfer pob ysgol.

Mae’r gwaith adnewyddu bach diweddar yn y Llyfrgell Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol (LCGC) a ysbrydolwyd gan Lyfrgell Trevithick wedi’i groesawu’n gynnes a dylem annog cynlluniau tebyg mewn mannau eraill ar gampws, yn enwedig ar 2il a 3ydd lloriau’r LCGC. Argymhelliad: Dylai’r Brifysgol anelu at wella cyfleusterau mewn cymaint o lyfrgelloedd â phosibl yn anelu at ansawdd llyfrgell Trevithick wrth weithio tuag at estyniadau llyfrgelloedd fel y cynlluniwyd yn yr Uwchgynllun Ystadau. Dylai cymaint o fannau â phosibl fod ar agor am oriau hirach gan ganiatáu oriau gweithio mwy hyblyg yn enwedig yn ystod cyfnodau arholiadau.

Argymhelliad: Dylai’r Brifysgol ddefnyddio’r dadansoddiad ar gostau argraffu a chwblhawyd yn ddiweddar a gweithio tuag at ddarparu dull cyson i’r holl fyfyrwyr, heb ystyried eu math o astudiaeth neu eu rhaglen academaidd. Dylai hyn gael ei gyflawni heb anfanteisio myfyrwyr sydd eisoes yn elwa o gostau rhatach neu argraffu am ddim. Yn ogystal â hyn, dylid cynnal astudiaeth i ddarganfod pa gyrsiau sy’n darparu adnoddau papur a dylai’r dull fod yn gyson ar draws y sefydliad.

Argymhellion Myfyrwyr 2015

11


Cefnogi Myfyrwyr Cronfa Ariannol wrth Gefn

Lwfans Myfyrwyr Anabl

Ym mis Awst 2014, torrodd Llywodraeth Cymru (LlC) y Gronfa Ariannol wrth Gefn (GAwG) ar gyfer sefydliadau Cymreig dim ond dyddiau cyn y flwyddyn academaidd newydd. Helpodd dyraniad Prifysgol Caerdydd o’r Gronfa Ariannol wrth Gefn, sef cyfanswm o £400,000, dros 700 myfyriwr yn 13/14 a chafodd ei defnyddio i gael gwared â rhwystrau i gael addysg.

Lwfans Myfyrwyr Anabl (LMA) yw cymorth ariannol sydd ddim yn dibynnu ar brawf modd ar gyfer myfyrwyr anabl sy’n byw yn y DU. Mae’n ffactor allweddol sy’n penderfynu a fydd myfyrwyr ag anableddau yn mynychu prifysgol neu beidio. Bu toriadau sylweddol i’r LMA y tu allan i Gymru a fydd yn effeithio ar lawer o’n myfyrwyr anabl presennol a’n darpar fyfyrwyr anabl. Disgwylir y bydd Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu toriadau tebyg.

Yn aml, dyma’r unig ffordd y gall myfyrwyr parhau gyda’u hastudiaethau. Myfyrwyr gydag ymrwymiadau ariannol eraill, fel myfyrwyr sy’n rhieni, gofalwyr neu rheini sy’n cymudo i astudio, bydd yn cael eu heffeithio mwyaf gan y toriad hwn a bydd mynediad i addysg uwch yn arbennig o anodd iddynt. Roeddem wedi synnu ac yn siomedig gyda diffyg yr ymgynghori â sefydliadau cyn i’r penderfyniad hwn cael ei wneud a, gyda chymorth yr UCM, buom yn lobïo i wrthdroi’r penderfyniad. Ym Medi 2014, cafodd y penderfyniad ei wrthdroi ac roedd Llywodraeth Cymru yn medru darparu cronfa i’r flwyddyn academaidd 14/15 ond mae wedi cadarnhau yn ddiweddar na fydd hyn yn parhau i 15/16. Argymhelliad: Yn dilyn y cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru, dylai’r Brifysgol ariannu’r Gronfa Ariannol wrth Gefn am y flwyddyn academaidd 15/16 a thu hwnt gydag o leiaf y swm a ddyrannwyd gan Lywodraeth Cymru yn 14/15 i sicrhau bod myfyrwyr sy’n cael trafferth i gyllido’u haddysg yn cael cyfle gyda’r Gronfa Ariannol wrth Gefn. Bydd hyn hefyd yn sicrhau ein bod yn sefydliad cynhwysol sydd yn cefnogi myfyrwyr o bob cefndir.

Er enghraifft, o dan y newidiadau arfaethedig, ni fyddai hawlwyr yn derbyn cyllid ar gyfer offer cyfrifiadurol safonol a fyddai rhaid i fyfyrwyr cyfrannu at gyfrifiadur neu liniadur sy’n angenrheidiol i’w helpu trwy eu cwrs. Byddai rhaid i Brifysgolion a Cholegau darparu pob cymorth sydd ddim yn “gymhleth” neu’n “feddygol” e.e. ysgrifenyddion neu gynorthwywyr llyfrgell. Yn flaenorol, yr LMA oedd yn talu’r costau hyn. Er y bu rhywfaint o oedi a newidiadau bach yn cael eu gwneud i ddyddiadau’r toriadau hyn, mae dal i fod bygythiad i un o werthoedd sylfaenol y Brifysgol a’r Undeb Myfyrwyr; cydraddoldeb. Argymhelliad: Dylai’r Brifysgol gydweithio gyda’r Undeb Myfyrwyr i herio’r toriadau i Lwfansau Myfyrwyr Anabl ac ymrwymo i ddarparu unrhyw gyllid a chefnogaeth ni fydd myfyrwyr anabl yn derbyn mwyach o’r Llywodraeth.

Darpariaeth Iechyd Rhywiol Ar hyn o bryd, nid yw’r Brifysgol yn darparu gwasanaeth uniongyrchol ar gyfer pryderon iechyd rhywiol ein myfyrwyr. Mae’r ddarpariaeth iechyd rhywiol yn cynnwys dolenni ar y wefan, roedd rhai ohonynt wedi’u dyddio tan yn ddiweddar iawn. Mae’n galonogol iawn i glywed am gynlluniau ar gyfer darpariaeth iechyd rhywiol gwell yn y clinig meddyg teulu sy’n dod i gampws ond mae’n rhaid i ni wneud rhagor i sicrhau ein bod yn diogelu ein myfyrwyr rhag risgiau iechyd rhywiol. Argymhelliad: Dylai’r Brifysgol flaenoriaethu iechyd rhywiol yn ei darpariaeth cefnogi myfyrwyr o ystyried y ddemograffeg mae’n ei gwasanaethu. Dylid ystyried darparu a chynnal peiriannau condomau am ddim o fewn adeiladau’r Brifysgol, yn ogystal â’r rhai sydd ar gael ar hyn o bryd yn yr Undeb Myfyrwyr. Dylid darparu cyngor ac arwyddion cynhwysfawr, cywir a chyfredol ar y fewnrwyd i sicrhau bod y wybodaeth gywir ar gael i fyfyrwyr. Dylai staff cymorth allweddol fod ar gael i ddarparu cyngor brys atal cenhedlu i fyfyrwyr yn ogystal â sicrhau bod staff iechyd rhywiol arbenigol ar gael yn y clinig meddyg teulu newydd.

12

Argymhellion Myfyrwyr 2015


Ffioedd i Geiswyr Lloches

Cymdeithasau Preswylwyr

Mae ceisiwr lloches yn rhywun sydd wedi gorfod ffoi ei wlad wreiddiol oherwydd erledigaeth neu drais ac sydd yn edrych am noddfa mewn gwlad arall. Maent yn derbyn y statws hwn wrth i’r Swyddfa Gartref asesu eu cais a phenderfynu a ddylid caniatáu statws ffoadur. Hyd at y flwyddyn academaidd 14/15, roedd rhaid i’r unigolion hyn talu’r un ffioedd â Myfyrwyr Rhyngwladol os byddent yn dewis astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn aml, mae’r ffioedd hyn llawer uwch na ffioedd i fyfyrwyr cartref a byddai bron yn amhosibl i geiswyr lloches talu nhw.

Mae gan Brifysgol Caerdydd 16 neuadd breswyl wahanol sydd yn darparu llety i tua 6,000 myfyriwr. Nid oes unrhyw ryngweithio ffurfiol gyda phreswylwyr ac felly, mae yna ddiffyg ysbryd cymdogol yn y neuaddau. Amlygwyd hyn fel testun pryder i fyfyrwyr oherwydd yn aml dyma’r tro cyntaf iddynt fyw oddi cartref.

Nid yw ceiswyr lloches yn fyfyrwyr rhyngwladol, fe’u gorfodwyd i ffoi o’u gwlad enedigol am ddiogelwch ac mae hyn bellach wedi’i gydnabod gan y Brifysgol. O ganlyniad, mae ceiswyr lloches yn talu’r un ffioedd â myfyrwyr cartref ar hyn o bryd. Ni all ceiswyr lloches wneud cais am gyllid gan gyrff Cyllid Myfyrwyr, yn wahanol i fyfyrwyr cartref. Yn aml, mae hyn dal yn rhwystr i addysg i’r unigolion hyn ac rydym yn teimlo y dylai fod cymhellion ariannol eraill a chymorth ar gael i helpu ceiswyr lloches manteisio ar addysg. Argymhelliad: Dylai’r Brifysgol ddarparu cymorth ariannol a chymhellion i geiswyr lloches. Un opsiwn yw o leiaf 2 ysgoloriaeth bob blwyddyn a fydd yn cynnwys costau astudio a byw i geiswyr lloches os byddant yn dewis astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Byddai’r costau byw hyn tua £4,000 yn seiliedig ar gyfrifiannell costau byw myfyriwr israddedig Prifysgol Caerdydd. Byddai’r ymrwymiad i fyfyrwyr sy’n ceisio lloches yn pwysleisio bod cynhwysiant, cydraddoldeb ac amrywiaeth wrth wraidd y Brifysgol ac yn dod â hi’n unol â sefydliadau tebyg eraill megis Prifysgol Queen Mary a London School of Economics.

Eleni, sefydlwyd prosiect gan yr Undeb Myfyrwyr i ddelio â’r materion hyn, gyda’r teitl gweithredol Cymdeithasau Preswylwyr. Bwriad y prosiect hwn yw creu amgylchedd cynhwysol o fewn y neuaddau preswyl, ac felly yn gwella’r profiad myfyrwyr o neuaddau preswyl trwy greu amgylchedd llawer mwy cyfeillgar a chadarnhaol. Byddai hefyd yn sicrhau bod lleisiau’r preswylwyr yn cael eu clywed ar y cyd er mwyn cyfathrebu problemau drwy broses fwy diffiniedig a chydlynol. Cyflawnir hyn drwy sefydlu cymdeithasau ym mhob un o’n neuaddau preswyl a fyddai’n cynnwys pwyllgor o fyfyrwyr etholedig yn gweithredu fel prif bwyntiau cyswllt ar gyfer myfyrwyr eraill. Byddant yn gyfrifol am gynnal digwyddiadau, seinchwyddo lleisiau’r myfyrwyr a chyfeirio myfyrwyr at wasanaethau cymorth. Bydd ffioedd llety’r Brifysgol yn cyllido’r digwyddiadau eu hun sydd eisoes wedi’i gytuno a’i osod ar £5.00 y person ar gyfer y cyfnod treialu yn 15/16, sy’n canolbwyntio ar 3 neuadd breswyl. Argymhelliad: Yn dilyn adolygiad o’r cynllun peilot ar ddiwedd y flwyddyn academaidd 15/16, dylai’r Brifysgol ystyried ehangu’r Prosiect Cymdeithasau Preswylwyr i gynnwys y neuaddau preswyl i gyd a chefnogi’r datblygiad o ddigwyddiadau a gweithgareddau. Dylai’r Brifysgol gefnogi’r Undeb Myfyrwyr a’r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr trwy ddarparu canllawiau a hyfforddiant ar gyfer pwyllgorau i sicrhau eu bod yn cyfeirio myfyrwyr yn y cyfeiriad cywir, a fydd yn gwella lles ein myfyrwyr a’u profiadau yn y Brifysgol yn y pen draw. Wrth i neuaddau preswyl newydd gael eu hadeiladu yn ôl yr Uwchgynllun Ystadau, dylid ystyried cynnwys mannau cymdeithasu i’r grwpiau hyn ar gyfer cyfarfodydd a threfnu digwyddiadau.

Argymhellion Myfyrwyr 2015

13


Myfyrwyr Parc y Mynydd Bychan Gwelededd Cymorth i Fyfyrwyr Mae’r ddarpariaeth Cymorth i Fyfyrwyr ar gyfer campws Parc y Mynydd Bychan wedi’i lleoli ar ail lawr T Aberteifi. Mae’r fynedfa i’r adeilad hwn yn anodd ei darganfod, ac nid yw’r ffaith bod yna diffyg arwyddion clir yn helpu’r sefyllfa. Mae’r fynedfa bresennol hefyd yn anneniadol; wedi’i lleoli yng nghanol goridor tywyll sy’n cysylltu man darparu’r ysbyty â’r prif ysbyty. O ganlyniad i hyn, mae cerbydau yn defnyddio’r llwybr yn aml i drosglwyddo nwyddau rhwng y ddau safle. Nid yn unig yw’r man yn anodd ei ddefnyddio, mae’n fygythiol a gallai fod yn beryglus, sy’n ei wneud un anoddach byth i fyfyrwyr sydd eisoes yn agored niwed gael mynediad i Gymorth i Fyfyrwyr. Argymhelliad: Dylid cynnal astudiaeth ddichonoldeb er mwyn gweld os yw hi’n bosibl newid mynedfa Cymorth i Fyfyrwyr ar Gampws y Mynydd Bychan fel mater o frys. Yn ddelfrydol, byddai’r fynedfa yn amlwg ac yn groesawgar i fyfyrwyr, ac yn gweithredu i ddangos hygyrchedd Cymorth i Fyfyrwyr a’i barodrwydd i gefnogi myfyrwyr sy’n agored i niwed. Yn y cyfamser, dylid gwella arwyddion y gwasanaeth i’w wneud yn haws i ddarganfod ac yn llai bygythiol. Hefyd, dylid gwneud mwy o ymdrech i hyrwyddo presenoldeb Cymorth i Fyfyrwyr ar draws y campws, yn esbonio’r gwasanaethau sydd ar gael i gefnogi myfyrwyr a gwybodaeth am sut y gallent fanteisio arnynt.

Mannau Astudio Mae’r llyfrgell iechyd yn yr Adeilad Cochrane ar gampws Parc y Mynydd Bychan yn ardal gweithio rhagorol ac yn un a dderbyniwyd yn eithriadol o dda gan fyfyrwyr sy’n astudio ar y campws. Mae’n cael ei hystyried fel un o’r llyfrgelloedd gorau ar gampws y Brifysgol a dylid ei defnyddio fel enghraifft wrth ddatblygu ardaloedd tebyg yn y dyfodol. Fodd bynnag, wrth i nifer y myfyrwyr sy’n astudio ym Mharc y Mynydd Bychan cynyddu, nid oes capasiti digon mawr gan y llyfrgell iechyd a’i hardaloedd cyfagos i ddiwallu anghenion y myfyrwyr hyn, na digon o offer TG ar gael. Mae galw aruthrol am ardaloedd astudio o fyfyrwyr y Mynydd Bychan, staff yr ysbyty a myfyrwyr o rannau eraill y Brifysgol gan ei fod yn un o’r unig lyfrgelloedd sydd ar agor 24 awr am ran fwyaf y flwyddyn. Argymhelliad: Cyn yr Uwchgynllun Ystadau, dylid ystyried ehangu mannau o’r fath yna ar y campws er mwyn diwallu ar anghenion y myfyrwyr sy’n ceisio astudio ar gampws. Dylai mwy o offer TG fod ar gael yn ac o amgylch Llyfrgell y Mynydd Bychan i leddfu’r pwysau sydd ar fannau astudio allweddol. Dylai’r Brifysgol ystyried oriau agor hirach ar gyfer llyfrgelloedd eraill i sicrhau bod rhywle i fyfyrwyr campws Cathays i weithio yn hytrach na gweithio yn y Mynydd Bychan.

14

Argymhellion Myfyrwyr 2015

Mynediad i’r Rhyngrwyd ar Leoliad Bydd rhaid i bob myfyriwr sy’n astudio cwrs Gofal Iechyd mynd ar leoliad clinigol fel rhan o’u hastudiaethau. Mae’r lleoliadau hyn yn aml mewn ardaloedd gwledig y DU. Ac fel canlyniad, mae’n anodd dod o hyd o fynediad i’r rhyngrwyd. Daw hyn yn broblem pan fydd myfyrwyr yn colli cyhoeddiadau pwysig o’r Brifysgol, neu ddim yn cael mynediad i ddeunydd dysgu nac yn gallu cyfathrebu’n gyffredinol ag eraill. Er ein bod ni’n gwerthfawrogi’r ymdrechion a wnaed eisoes gan y Brifysgol i ddarparu dulliau eraill i gael mynediad i’r rhyngrwyd, mae dal i fod grwpiau o fyfyrwyr heb fynediad i’r rhyngrwyd. Argymhelliad: Dylai’r Brifysgol flaenoriaethu mynediad i’r rhyngrwyd ar gyfer myfyrwyr ar leoliad, i fyfyrwyr Gofal Iechyd a thu hwnt. Dylid gwneud ymdrechion i gysylltu â myfyrwyr i weld ble yn union mae angen gwella’r ddarpariaeth hon a datrys y problemau fel mater o frys. Lle nad yw mynediad i’r rhyngrwyd yn bosibl yn yr ysbyty neu mewn llety, dylid ystyried darparu mynediad symudol i’r rhyngrwyd gan ddefnyddio Dongles. Os oes cysylltiad data ar gael, rhaid sicrhau bod gan fyfyrwyr mynediad parhaus i’r rhyngrwyd. Hefyd, dylid ystyried gweithio gyda chwmnïau preifat i osod mynediad i’r rhyngrwyd mewn ardaloedd gwledig. Dylai mynediad i Wi-Fi fod yn flaenoriaeth wrth ddarparu llety i fyfyrwyr ar leoliad.


Cynrychiolaeth Myfyrwyr Amser Cydgysylltwyr Cynrychiolydd Myfyrwyr

Y Llywydd ar Fwrdd Gweithredol y Brifysgol

Mae sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu trin fel partneriaid yn eu haddysg yn amlwg yn flaenoriaeth i’r sefydliad. Ond mae’r profiad hwn yn amrywio yn dibynnu ar yr ysgol maent yn astudio ynddi. Mae’n amlwg bod yr ysgolion sy’n gwneud pob ymdrech i sicrhau bod eu system cynrychiolaeth academaidd yn annog myfyrwyr i roi adborth, yw’r rhai sy’n manteisio mwyaf.

Mae’r Brifysgol a’r Undeb Myfyrwyr yn ymffrostio bod cynrychiolaeth myfyrwyr ar bob corff sy’n gwneud penderfyniadau. Mae Bwrdd Gweithredol y Brifysgol yn gwneud penderfyniadau ar bethau sy’n effeithio myfyrwyr yn rheolaidd ac rydym yn teimlo y dylai’r Undeb Myfyrwyr bod yn rhan o’r penderfyniadau hynny. Mae’r syniad o gael y Llywydd ar bwyllgor Portffolio Newid Bwrdd Gweithredol y Brifysgol wedi cael ei groesawu ond rydym yn teimlo dylai hyn ymestyn i gyfarfodydd ehangach.

Mae llwyddiant y system cynrychiolwyr mewn ysgol yn aml yn dibynnu ar faint o amser mae’r cydlynydd Cynrychiolwyr Myfyrwyr yn cael i gwblhau’r dyletswyddau sy’n ofynnol ohonynt. Amlygir hyn yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd lle dyrennir amser i’r cydlynydd er mwyn cwblhau ei ddyletswyddau. Argymhelliad: Dylai Cydlynwyr Cynrychiolwyr Myfyrwyr gael amser yn eu hamserlenni i gyflawni’r dyletswyddau ychwanegol a ddaw yn sgîl y rôl er mwyn sicrhau datblygiad y Paneli Myfyrwyr Staff mewn ysgolion ac annog myfyrwyr i fod yn bartneriaid yn eu haddysg.

Argymhelliad: Fel y nodir yng nghanllawiau CCAUC, dylai’r Brifysgol caniatáu cynrychiolaeth myfyrwyr ar bob lefel y Brifysgol. Felly, dylai’r Brifysgol ychwanegu Llywydd yr Undeb Myfyrwyr i aelodaeth Bwrdd Gweithredol y Brifysgol am y flwyddyn academaidd 2015/2016, a chael adolygiad yn haf 2016.

Argymhellion Myfyrwyr 2015

15


Myfyrwyr Ôl-raddedig Cymhellion Ariannol & Ysgoloriaethau Ar hyn o bryd, mae yna nifer cyfyngedig o gymhellion ariannol i fyfyrwyr sy’n parhau i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd ar ôl gorffen eu gradd israddedig. Mae ambell ysgol yn cynnig ysgoloriaethau a bwrsariaethau ond mae hyn yn anghyson ar draws y sefydliad. Mae hyn yn dod ar adeg lle cynigir benthyciadau ôl-raddedig i fyfyrwyr a ariennir gan Gyllid Myfyrwyr Lloegr sy’n rhoi’r myfyrwyr sy’n derbyn cyllid o Lywodraeth Cynulliad Cymru o dan anfantais ariannol. Argymhelliad: Er mwyn annog myfyrwyr i barhau gyda’u hastudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd ar ôl cwblhau gradd israddedig, dylid cynnig mwy o gymhellion ariannol i fyfyrwyr a, lle y bo’n bosibl, dylai hyn fod yn gyson ar draws y sefydliad. Gallai hyn fod mor syml â gostyngiad canrannol mewn ffioedd ar gyfer cyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.

16

Argymhellion Myfyrwyr 2015


Chwaraeon Aelodaeth Campfa Hyblyg

Cyfleusterau Chwaraeon

Dros y 7-8 mlynedd diwethaf bu rhywfaint o newid i beth sy’n normal yn nhermau aelodaeth mewn campfa ar draws y diwydiant ffitrwydd. Yn ddiweddarach, byddai bron pob campfa yn cynnig aelodaeth ar gontractau 12mis, ond heddiw mae’r rhan fwyaf o gyfleusterau yn cynnig aelodaeth hyblyg a theimlwn y byddai system yn debyg i hyn yn fuddiol iawn i’r Brifysgol.

Nid yw’r cyfleusterau chwaraeon cyfredol ym Mhrifysgol Caerdydd yn cwrdd â disgwyliadau myfyrwyr ac nid ydynt yn cyrraedd safon y rhan fwyaf o’n cystadleuwyr yn y Gr p Russell.

Mae poblogrwydd iechyd a ffitrwydd yn cynyddu, ond mae’r strwythur aelodaeth cyfredol o gampfeydd y Brifysgol yn rhwystro myfyrwyr rhag ymuno. Ar hyn o bryd, mae yna 2 opsiwn aelodaeth- ‘Aur’ sy’n darparu mynediad i’r campfeydd ar draws campws a ‘Platinwm’ sy’n darparu’r un mynediad ond yn cynnwys dosbarthiadau gr p heb gost ychwanegol. Mae’r ddau opsiwn yn gofyn am ddaliad llawn mewn cyfandaliad ar ddechrau’r flwyddyn - hyn yw’r prif rwystr i fyfyrwyr. Mae llawer o fyfyrwyr methu â fforddio talu cyfandaliad mawr gyfan ar unwaith. Mae hyn hefyd yn opsiwn gwael i fyfyrwyr a allai fod i ffwrdd ar leoliad am gyfnodau o’r flwyddyn, rheini ar gyrsiau sy’n dechrau ar adegau o’r flwyddyn heblaw Medi, neu reini sy’n newydd i ddefnyddio campfa neu sydd ddim yn gwybod os byddant yn rhy brysur yn hwyrach yn y flwyddyn oherwydd gofynion eu cwrs. Hefyd, mae’n rhaid i’r Brifysgol aros yn gystadleuol i ddarparwyr campfa masnachol yng nghanol y ddinas; mae’r rhan fwyaf ohonynt yn darparu opsiynau hyblyg i’w gwsmeriaid ac yn meincnodi eu prisiau aelodaeth fel y nodwyd yn Strategaeth Chwaraeon y Brifysgol a’r Undeb Myfyrwyr.

Wrth i’r campws a’i siâp datblygu gyda’r Uwchgynllun Ystadau, mae gennym y cyfle i wella ansawdd cyfleusterau chwaraeon y sefydliad yn ddirfawr. Rydym yn croesawu’r cyflwyniad o gae llawn 3G. Mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar ddarpariaeth chwaraeon y Brifysgol. Mae’r galw am welliannau i gyfleusterau chwaraeon dal i fod yn uchel ac mae ceisiadau cyffredin yn cynnwys ailosod wyneb y cae Astroturf ac adeiladu un newydd, pwll nofio i’r Brifysgol, mwy o gaeau pob tywydd, gwelliannau i gyfleusterau ac ansawdd y cae yn Llanrhymni, mwy o le yn y campfeydd a chreu stiwdios pwrpasol. Rydym hefyd yn teimlo bod lleoliad rhai o’r cyfleusterau yn rhwystr i gymryd rhan i nifer o fyfyrwyr gan nad ydynt o fewn pellter cerdded i lety myfyrwyr; neuaddau preswyl neu fel arall. Argymhelliad: Dylai’r Brifysgol ymdrechu i ddarparu cyfleusterau chwaraeon o safon uchel sy’n diwallu anghenion ein corff amrywiol o fyfyrwyr. Dylid ystyried datblygu’r safleoedd sydd gennym yn barod a chael safleoedd newydd yn agos i adeiladau academaidd yn ogystal ag ardaloedd preswyl.

Argymhelliad: Dylai Chwaraeon y Brifysgol cyflwyno opsiynau aelodaeth campfa hyblyg, os yn bosib contractau treigl misol er mwyn dod yn fwy hygyrch i holl fyfyrwyr y brifysgol. Yn ogystal â hyn, dylai Chwaraeon y Brifysgol barhau i gynnig contractau 12 mis (neu gynnig contractau 9 mis) gyda thaliad ymlaen llaw gan mae’n debygol y bydd y rhain dal yn boblogaidd gyda rhai myfyrwyr e.e. timau chwaraeon sydd yn cael sesiynau tîm yn y Canolfan Cryfder a Chyflyru.

Argymhellion Myfyrwyr 2015

17


Bywyd Campws Gwell Darpariaeth Arlwyo

Trafnidiaeth

Nid yw’r ddarpariaeth arlwyo i fyfyrwyr a staff ar gampws yn cyrraedd y safon y byddem yn disgwyl o sefydliad o’r fath proffil uchel. Mae’r amrywiaeth o fwyd yn gyfyngedig a cheir ond ychydig o ddewisiadau iach. Mae lleoliadau’r ardaloedd arlwyo a’u naws wedi dyddio a gallent fod yn llawer mwy deniadol ac ysbrydoledig.

Mae’r ddarpariaeth drafnidiaeth ar gampws yn gyfyngedig ac er bod llawer o wasanaethau a chyfleusterau o fewn pellter cerdded, mae siâp y campws yn newid ac felly, mae’r angen am opsiynau teithio yn mynd i gynyddu. Y llwybrau allweddol i’w hystyried yw’r llwybrau rhwng neuaddau preswyl a chanol y campws, llwybrau rhwng y ddau gampws ac opsiynau i deithio i mewn i ganol y ddinas a thu hwnt gyda llwybrau trafnidiaeth cenedlaethol a rhyngwladol. Mae hefyd yn bwysig i ystyried amrywiaeth yr opsiynau trafnidiaeth yn cynnwys llwybrau beicio, llwybrau bysiau, rheilffyrdd a llwybrau cerdded diogel yn ogystal ag ystyried myfyrwyr sy’n defnyddio ceir ac opsiynau parcio.

Argymhelliad: Dylai’r Brifysgol delio â’r problemau o ddarpariaeth arlwyo gwael ar gampws, yn ôl yr adolygiad arlwyo a gwblhawyd yn ddiweddar, i sicrhau bod y ddarpariaeth arlwyo ar gampws yn amrywiol, wedi’i lleoli’n addas, iachus ac yn fforddiadwy. Dylid hefyd ystyried anghenion deietegol penodol. Dylai’r amgylchedd fod yn ddeniadol a dylai’r golwg a naws gael eu datblygu yn ôl mewnbwn myfyrwyr.

Cardiau Adnabod Myfyrwyr a Thaliadau Ar hyn o bryd, mae’n ofynnol i fyfyrwyr cario eu cardiau adnabod prifysgol, allweddi ystafelloedd a cherdyn adnabod preswyl yn ogystal â chario cardiau personol ar gyfer trafodion ariannol ac allweddi personol. Nid yn unig yw hyn yn anghyfleustra ond hefyd mae’n peri risg i ddiogelwch gan ei bod hi’n anodd ac yn gostus i newid cloeon os collwyd allweddi. Byddai’n lawer symlach os byddai un cerdyn digidol yn medru gwneud popeth neu o leiaf rhai o’r swyddogaethau uchod. Argymhelliad: Dylai’r Brifysgol anelu at wella mynediad cardiau allwedd i bob neuadd breswyl ac adeiladau’r Brifysgol, lle y bo’n berthnasol. Dylai’r allwedd hon hefyd weithio fel Cerdyn Adnabod Prifysgol y myfyrwyr ac adnabyddiaeth ar gyfer mynd mewn i safleoedd preswyl. Dylai’r brifysgol ystyried opsiwn ar gyfer integreiddio system talu i’r cerdyn hyn a gallai gysylltu’n uniongyrchol i gyfrif banc neu gael y myfyrwyr i ychwanegu arian i’r cerdyn gan ddefnyddio safleoedd ar gampws neu ar-lein. Os nad yw hynny’n opsiwn posibl, dylai taliadau digyffwrdd fod ar gael ym mhob safle masnachol ar gampws gyda’r bwriad o gael app ar gyfer opsiynau talu a theyrngarwch eraill

18

Argymhellion Myfyrwyr 2015

Argymhelliad: Fel y nodir yn yr Uwchgynllun ystadau, dylai’r Brifysgol darparu ystod o drafnidiaeth gyfleus a chynaliadwy, ond diogel yn bennaf, i fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr. Dylid ystyried opsiynau am gynllun beic yn debyg i’r cynllun Boris Bike cyn gynted ag y bo modd i ddefnyddio o amgylch y sefydliad a thu hwnt. Dylai’r Brifysgol fanteisio ar y ffaith bod calon y campws wedi’i leoli wrth ymyl gorsaf trên a bod llinell trên yn rhedeg yn gyfochrog â’n safle preswyl mwyaf drwy weithio gyda Network Rail i ddarparu pàsau trên gostyngol i fyfyrwyr, gyda’r opsiwn posibl o orsafoedd newydd.



Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd Plas y Parc Caerdydd CF10 3QN Ffôn: 029 2078 1400 cardiffstudents.com

Os hoffech gael copi o’r Argymhellion Myfyrwyr neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am ei gynnwys, cysylltwch â Llywydd yr Undeb Myfyrwyr ar: SUPresident@Caerdydd.ac.uk


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.