ant i s e l l h m eic a u l a f di i o n a h u a Hinti
Helo, fi yw eich IL Lles o fewn Undeb y Myfyrwyr. Mae hyn yn golygu fy mod wedi cael fy ethol gan fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd i’ch cynrychioli chi ar faterion lles. Mae’r llyfryn hwn yn esbonio’r gwasanaethau sydd ar gael i gefnogi eich lles. Os fyddwch yn dysgu un peth o’r llyfryn hwn, dysgwch fod help o hyd ar gael pan fo angen arnoch. Mae yna wasanaeth ar gyfer pob mater lles, ac os nad ydych yn si r pwy i fynd atynt gyda’ch problemau mae croeso i chi ddanfon e-bost ataf ac fe ddof i o hyd i’r person all eich helpu chi.
1 | Eich Iechyd a Lles
Rydym am greu amgylchedd cefnogol a chynhwysol yng Nghaerdydd, felly os oes angen help arnoch plis gofynnwch amdano. Drwy wneud hyn, gallwn sicrhau eich bod yn gwneud y mwyaf o’ch profiad myfyriwr. Cysylltwch â mi ar VPWelfare@Caerdydd.ac.uk neu ar 029 2078 1422. Dwi’n gweithio ar 3ydd llawr Undeb y Myfyrwyr felly croeso i chi ddod heibio i ddod o hyd i mi. Mwynhewch Wythnos y Glas!
Hollie Cooke
Cyngor i Fyfyrwyr Mae Cyngor i Fyfyrwyr yn wasanaeth rhad, cyfrinachol, di-duedd ac annibynnol sy’n cael ei redeg gan Undeb y Myfyrwyr, yn darparu cyngor a gwybodaeth, eiriolaeth a chynrychiolaeth. Mae myfyrwyr yn aml yn dod i Gyngor i Fyfyrwyr am gynrychiolaeth academaidd neu gymorth am dai. Fodd bynnag, mae’n darparu llawer o wasanaethau eraill, felly os rydych yn chwilio am help sy’n annibynnol o’r Brifysgol, llenwch eu ffurflen ymholiad sydd ar gael ar y wefan, neu ffoniwch nhw. Gallwch hefyd ymweld â nhw ar 3ydd llawr Undeb y Myfyrwyr. Mae Cyngor i Fyfyrwyr hefyd yn gweithredu ar Gampws y Mynydd Bychan, mae apwyntiadau ar gael drwy archebu ymlaen llaw. Os ydych am gymryd rhan yn helpu lles myfyrwyr eraill, yna mae Cyngor i Fyfyrwyr yn rhedeg Pwyllgor Gweithredol Cyngor. Maent o hyd yn chwilio am wirfoddolwyr newydd. Os oes gennych ddiddordeb naill ai danfonwch e-bost at Cyngor i Fyfyrwyr, neu cysylltwch â’r IL Lles. Yn ogystal â hyn, cadwch lygad allan am yr Wythnos Gofal am eich Pen (10 – 14 Hydref) a’r Wythnos Cyngor ar Tai (7 – 11 Tachwedd). Mae’r rhain yn wythnosau ymgyrch mae Cyngor i Fyfyrwyr a’ch IL Lles yn eu cynnal i ddarparu gwybodaeth ynglyn ag iechyd meddwl a thai ar gyfer blwyddyn nesaf. 029 2078 1410 Advice@Caerdydd.ac.uk cardiffstudents.com/advice
Cyngor ir Fyfyrwyth a Cymor
7
International Students 2015 Eich Iechyd a Lles | 3
Gwasanaethau Dan Arweiniad Myfyrwyr Mae Gwasanaethau Dan Arweiniad Myfyrwyr yn grwpiau myfyrwyr sy’n dod at ei gilydd i ddarparu gwasanaethau ar gyfer myfyrwyr eraill a chymuned lleol Caerdydd. Ewch i cardiffstudents.com/activities/sls i ddod o hyd i fwy o wybodaeth. Hefyd mae pob un o’r grwpiau o hyd yn chwilio am wirfoddolwyr, felly os rydych eisiau cymryd rhan, cysylltwch.
Llinell Nos Mae Nightline o hyd yna i wrando ar fyfyrwyr sydd eisiau trafod rhywbeth yn gyfrinachol. Maent yn darparu gwasanaeth ffôn sy’n rhedeg 20:00 tan 08:00 bob dydd, neu mae gwasanaeth negeseua cyflym ar gael ar eu gwefan 20:00 tan 00:00. Maent yn gwrando, a ddim yn rhoi darlith. Felly, os rydych yn teimlo bod angen siarad â rhywun, ffoniwch nhw ar 029 2087 0555. Mae’r rhif hefyd ar eich cerdyn myfyriwr fel eich bod o hyd yn gallu dod o hyd iddo’n handi. Ochr yn ochr â chefnogi myfyrwyr, maent hefyd yn chwilio am fwy o fyfyrwyr i wirfoddoli, os oes gennych chi awydd gwneud hynny, dewch o hyd iddynt yn Ffair y Cymdeithasau. @CardiffNL
cardiffnightline.co.uk
Meddyliau Myfyrwyr Mae Student Minds yn gweithio i gefnogi myfyrwyr sydd ag anhwylderau bwyta drwy hwyluso grwpiau cefnogi hunangymorth wythnosol. Ochr yn ochr â hyn, maent hefyd yn ceisio codi ymwybyddiaeth o holl anhwylderau iechyd meddwl, a chynnal digwyddiadau codi arian drwy gydol y flwyddyn. Os hoffech fynychu un o sesiynau’r gr p, maent yn rhedeg ddydd Iau 18:15 - 19:15 yn ystafell 4H Undeb 4 | Eich Iechyd a Lles
y Myfyrwyr, gyda’r sesiwn gyntaf yn sesiwn cwrdd a chyfarch ar 6 Hydref. Croeso i chi ddod â theulu neu ffrindiau os nad ydych chi eisiau mynd ar eich pen eich hun. Cardiff@Studentminds.org.uk
SHAG - Grŵp Ymwybyddiaeth Iechyd Rhywiol Mae SHAG yn gweithio i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o faterion sylfaenol iechyd rhywiol. Maent yn credu ei fod hi’n bwysig sôn am iechyd rhywiol a rhyw. Os rydych yn wynebu problem am unrhyw agwedd o’ch iechyd rhywiol a ddim yn si r beth i’w wneud mae’n fwy na thebygol y bydd gan SHAG yr ateb. Mae SHAG yn darparu peiriannau condomau ar gyfer holl fyfyrwyr yn Undeb y Myfyrwyr a’r Lolfa IV yn y Mynydd Bychan. Os rydych eisiau mynediad i fwy na chondomau cyffredin, mae SHAG yn cynnal sesiynau Cerdyn-C. Yma gallwch gael condomau durex am ddim o bob math a maint, dams deintyddol a lube. Mae’r sesiynau hyn yn cael eu cynnal bob dydd Mercher 13:00 – 15:00 yn Undeb y Myfyrwyr. CUSHAG.com
CHIPS – Cymdeithas Pobl Iechyd Caerdydd
sgiliau newydd drwy gymryd rhan mewn rhedeg menter gymdeithasol, cysylltwch â nhw.
Mae CHIPS yn angerddol am addysgu myfyrwyr ar y cysyniad o ‘fyw’n iach’. Boed os ydych eisiau colli pwysau, dysgu ryseitiau newydd neu eisiau teimlo’n iachus, eu nod yw i helpu chi i gyflawni hyn.
RAG
Maent yn rhedeg sesiynau wythnosol, yn cynnwys rhedeg yn y parc a dosbarthiadau dan do. Cadwch lygad ar eu tudalen Facebook am wybodaeth am eu sesiwn gyntaf.
Co-op Ffrwythau a Llysiau Mae Co-op Ffrwythau a Llysiau yn darparu cynnyrch o ansawdd uchel am brisiau myfyrwyr. Mae ganddynt stondin rhwng 12:00 - 16:00 ar ddydd Mercher yn Undeb y Myfyrwyr, fel arfer ar yr 2il lawr. Yma gallwch osod archeb ar gyfer yr wythnos ganlynol, neu gasglu eich cynnyrch. Wrth osod eich archeb, gallwch ddewis rhwng ffrwythau, llysiau, saladau a bagiau stir fry, i gyd am £3.50 yr un. Os nad ydych yn gallu dod i’r stondin, gallwch hefyd archebu ar-lein ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Nod RAG Caerdydd yw i godi arian ac ymwybyddiaeth am dair prif elusen. Drwy gydol y flwyddyn mae ganddynt digwyddiadau megis Jailbreak a Lost. Mae yna lawer o heriau cyffrous ac mae’n ffordd wych i roi hwb i’ch cyflogadwyedd. RAG@Caerdydd.ac.uk
os W ythunA m Gofalh Pen Eic –14.10.16 6
10.10.1
Ochr yn ochr â hyn, mae’r Co-op bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr newydd, felly os ydych am ddatblygu
Eich Iechyd a Lles | 5
Cymorth i Fyfyrwyr -
Eich Bywyd Myfyrwyr, Gyda Chefnogaeth. Cymorth i Fyfyrwyr yw’r gwasanaethau proffesiynol y mae’r brifysgol yn ei ddarparu i rhoi’r cymorth sydd angen arnoch. Mae’r gefnogaeth ymarferol a chyfrinachol sy’n cael eu darparu gan eu timoedd arbenigol yn cynnwys:
Cyngor ac Arian Yma gallwch ganfod help ynghylch cyllid a ffioedd dysgu, cyngor ar sut i reoli eich arian a chyngor ar dreth gyngor a budd-daliadau.
Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Os rydych angen rhywfaint o gyngor gyrfa, neu eisiau darganfod mwy am brofiad gwaith a chyfleoedd gwaith, dyma lle mae angen ichi fynd.
Cwnsela a Gwasanaethau Lles Os rydych yn cael anhawster gyda salwch meddwl, yn gweld Prifysgol yn anodd, neu’n wynebu amgylchiadau anodd, yna efallai y byddwch am ystyried archebu apwyntiad cwnsela neu lles.
Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia Cynnig cymorth gydag anghenion hygyrchedd, gwneud cais am DSA, neu darparu cefnogaeth astudio i’r rheini ag anawsterau dysgu.
Cymorth Myfyrwyr Rhyngwladol Os rydych yn fyfyriwr rhyngwladol ac
6 | Eich Iechyd a Lles
angen cymorth gyda fisas a gyfraith mewnfudo yna gallwch gael cymorth yma. Maent hefyd yn gallu helpu gyda byw yn y DU a newid eich astudiaethau.
Fel y gallwch weld, mae llawer o wasanaethau a chymorth ar gael gyda llawer mwy ar Fewnrwyd y Brifysgol. Felly os oes gennych unrhyw faterion dylech ofyn am gymorth, peidiwch byth â dioddef yn dawel. Os hoffech well trosolwg o’r gwasanaethau yna chwiliwch am ‘Cefnogaeth a Gwasanaethau’ ar y fewnrwyd. Hefyd drwy gydol wythnos y glas mae Cymorth i Fyfyrwyr yn creu llawer o blogiau hunangymorth felly edrychwch ar rhain ar blogs.cardiff. ac.uk/studentlifecu/ a dilynwch ‘studentlifecu’ ar Twitter, Facebook a Youtube am wybodaeth hanfodol am eich bywyd myfyriwr! Unrhyw ymholiadau? StudentSupportCentre@Caerdydd.ac.uk 029 2087 4844 neu dewch heibio: Canolfannau Cymorth Myfyrwyr ar 50 Plas-y-Parc, Campws Cathays a T Aberteifi, Campws Parc y Mynydd Bychan.
Cymryd rhan!
cardiffstudents.com/activities
clwb neu gymdeithas cyn cofrestru, ac yn ffordd wych o weithio allan os yw’r weithgaredd yn rhywbeth rydych yn ei fwynhau. Edrychwch ar lyfryn rho gynnig arni ar cardiffstudents.com i weld pa sesiynau sydd ar gael.
Cymdeithasau
Ffair Gwirfoddoli
Gallwch ddod o hyd i glybiau, cymdeithasau a chyfleoedd gwirfoddoli yn Ffeiriau Y Glas. Neu edrychwch drwy’r categorïau gwahanol ar wefan yr Undeb ar:
Mae Cymdeithasau yn grwpiau o fyfyrwyr sy’n rhannu diddordebau, credoau neu werthoedd cyffredin. Mae yna dros 200 o gymdeithasau y gallwch gymryd rhan ynddynt. Mae Cymdeithasau yn ffordd wych o brofi rhywbeth newydd, datblygu sgiliau a gwneud ffrindiau ar hyd y ffordd. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch cymdeithasau, cysylltwch â Milly, eich IL Cymdeithasau ar: VPSocieties@Caerdydd.ac.uk neu ar 029 2078 1427.
Chwaraeon Mae yna dros 60 o glybiau chwaraeon gwahanol y gallwch gymryd rhan ynddynt. Gall fod yn ffordd wych i wella eich profiad myfyrwyr gan ei fod yn rhoi’r cyfle i chi gwrdd â phobl newydd a datblygu fel person. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Elin, eich IL Chwaraeon a Llywydd Undeb Athletau ar: VPSports@Caerdydd.ac.uk neu arn 029 2078 1438.
Rho Gynnig Arni
Mae yna hefyd amrywiaeth eang o gyfleoedd gwirfoddoli y gallwch gymryd rhan ynddynt. Mae hyn yn ffordd arall wych o gyfarfod pobl a datblygu eich sgiliau. Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â: Volunteering@Caerdydd.ac.uk Os bydd unrhyw un o’r gweithgareddau hyn yn cymryd eich ffansi, mae digonedd o gyfleoedd eraill. Er enghraifft, gallwch ddod yn gynrychiolydd academaidd, cymryd rhan mewn gwaith rhan amser drwy Siopswyddi, mynd i drafaelio gyda Chanolfan Cyfleoedd Byd-eang, neu wella eich cyflogadwyedd gyda Dyfarniad Caerdydd. Mae hi wedi cael ei brofi fod ymgysylltiad mewn gweithgareddau yn gallu bod yn fuddiol iawn i’ch lles a chyflwr meddwl, nid yn unig hyn ond mae hefyd yn gyfle i chi gwrdd â phosibl newydd, a rhoi dimensiwn gwahanol i’ch profiad myfyriwr. Os ydych yn wynebu unrhyw broblemau gyda chymryd rhan, rhowch wybod i ni yn Undeb y Myfyrwyr beth gallwn wneud i helpu.
Os nad ydych yn si r beth i ymuno a ddim eisiau ymrwymo eto, yna gallwch gofrestru i sesiwn flasu rho gynnig arni. Mae hyn yn caniatáu i chi i geisio
Eich Iechyd a Lles | 7
Cardiff University Student Life Fun Run Part of the Cardiff University Festival of Running
Take part, meet other students, make friends, have fun and be healthy! Saturday 1 October Time: 3.45pm Price: ÂŁ5 Date:
Distance: Route:
2.4km 2 laps around Cardiff Civic Centre, starting outside Cardiff City Hall
Get yourself, your friends and housemates involved in the Cardiff University/Cardiff Half Marathon race weekend by signing up to the Cardiff University Student Life Fun Run. A new event exclusively for all Cardiff University students, the 2.4km route is perfectly suited to all abilities. With no pressure to record fast times or even run all the way round, dig out your best fancy dress, drag along friends and enjoy the experience.
Register now
to be a part of this great new event and Cardiff University’s healthy student community! www.cardiffhalfmarathon.co.uk/take-part/cardiff-university-festival-of-running/ studentlifecu