Gyda'n Gilydd Rhifyn Hâf 2016

Page 1

CARTREFI CONWY

D D Y L I G N ’ A D GY RHIFYN HÂF

. .. L Ô N ’ E A M DIWRNODAWR ALLAN M ST AR 18 AW dur n eich dyddia y d ia d yd d y rhowch ry unwch â ni a heddiw ac ym

N... HEFYD Y TU FEW I BOD YN

MAE WED YGOEL AM H N A N Y D D Y W FL OBRAU Tud 4 W G T N IA D D Y W L YN CAEL EI R E T N E M U E R C DDOGOL Tud 10 LANSIO’N SWY

MAE GWOBRAU CARTREFI YMA Tud 2

enquiries@cartreficonwy.org Gwasanaeth Cwsmer: 0300 124 0040 Mae pob galwad gyda Gwasanaethau Cwsmeriaid yn cael eu cofnodi Mae copïau sain o’r newyddlen hon ar gael


MAE GWOBRAU CARTREFI YMA – ENILLWCH GANNOEDD O BUNNOEDD BOB MIS Mae gan denantiaid nawr gyfle i ennill cannoedd o bunnoedd bob mis gyda’n cynllun Gwobrau Cartrefi newydd… Rydym wedi lansio Gwobrau Cartrefi gan roi cyfle i chi ennill cannoedd o bunnoedd bob mis. Mae Gwobrau Cartrefi yn disodli’r cynllun gwobrwyo ‘Countdown’ gan fod y rhan fwyaf o denantiaid wedi gadael i ni wybod nad oedd hwnnw’n gweithio iddyn nhw. Rydym bellach yn gwobrwyo tenantiaid bob mis drwy amrywiaeth o gyfleon cyffrous, gyda channoedd o bunnoedd ar gael i’w hennill.

Gwobrau Cartrefi Rwy’n Talu

RWY’N TALU – eich gwobrwyo am dalu’ch rhent ar amser.

Gwobrau Cartrefi Rwy’n Cymryd Rhan

Gwobrau Cartrefi Rwy’n Falch

RWY’N FALCH – eich gwobrwyo am edrych ar ôl eich cartref a bod yn falch o’ch cartref a’ch cymuned.

RWY’N CYMRYD RHAN – eich gwobrwyo am gymryd rhan a dweud eich dweud a’n cynorthwyo i lunio’n gwasanaethau.

Gwobrau Cartrefi Rwy’n Cysylltu

RWY’N GYSYLLTIEDIG – eich gwobrwyo am ddefnyddio’n gwasanaethau ar-lein.

Er mwyn darganfod sut gallwch ennill cannoedd o bunnoedd ewch i cartreficonwy.org/ homerewards i ddarganfod mwy am fanylion ymgeisio* Neu galwch gwasnaethau cwsmer ar 0300 124 0040. *Telerau ac amodau’n berthnasol.

GWASANAETHU NWY Ers mis Medi diwethaf mae Gwasanaethu Diogelwch Nwy yn cael ei wneud gan ein isgorff menter gymdeithasol, Creu Menter. Mae symud y gwasanaeth hwn i fod yn fewnol wedi creu 6 swydd newydd ac mae hefyd yn galluogi Cartrefi Conwy i gynnig gwasanaeth mwy ymatebol a chost-effeithiol i chi, ein cwsmeriaid. Rydych wedi dweud wrthym bod profiad y cwsmer wedi gwella ac mae lefel boddhad gwasanaeth ar 99.64%. Hefyd rydym wedi estyn yr amser apwyntiad er mwyn i’r gweithwyr wneud atgyweiriadau bychan (hyd at 20 munud) ac mae eu faniau’n caniatáu iddynt allu gwneud atgyweiriadau yn y fan a’r lle. Mae’r tîm hefyd yn cael tynnu cap eiddo sydd â thenantiaid ynddo – roedd hyn yn arfer cael ei wneud gan y tîm ymateb i geisiadau am waith atgyweirio, felly mae’n golygu bod amser 2

www.cartreficonwy.org

y gweithwyr yma’n cael ei ryddhau er mwyn rhoi apwyntiadau atgyweirio cynt i denantiaid. Cofiwch, fel eich landlord mae angen i ni gynnal gwasanaethu nwy a gwiriadau diogelwch unwaith y flwyddyn, bob blwyddyn. Hoffem ddiolch yn fawr i chi am ein helpu i wella’r lefel mynediad tro cyntaf i’ch cartref i gynnal y gwiriadau hyn. Mae hyn yn arbed arian sylweddol ac ar yr un pryd yn gwella eich diogelwch chi, a diogelwch eich teulu a’ch cymdogion.


HOFFECH CHI GAEL MWY O ARIAN YN EICH POCED BOB MIS? Nid yw llawer o denantiaid yn sylweddoli eu bod yn gymwys i hawlio nifer o fudd-daliadau. Gallai hyn olygu arian ychwanegol i chi bob mis, eich cartref ac yn eich poced. Ydych chi’n colli allan... dychmygwch gael ychydig mwy o arian bob mis, ar gyfer pryd o fwyd allan efallai, trip teulu i’r sw ˆ neu arian ychwanegol tuag at eich bil siopa bwyd wythnosol. Yng Nghartrefi Conwy mae gennym dîm cefnogi arbennig sy’n cynorthwyo’n holl denantiaid a’n cartrefi ar draws y rhanbarth i wirio os ydych yn hawlio’r holl fudd-daliadau yr ydych yn gymwys ar eu cyfer. Hyd yma eleni rydym wedi cynorthwyo tenantiaid i hawlio £70,000.

YDYCH CHI WEDI CWRDD EIN TÎM PARTNER CARTREF? Mae’r tîm partner cartref yn gweithio ochr yn ochr gyda gweithwyr gwasanaethu nwy ac yn ymweld â’ch cartref er mwyn gwella a chynnal eich boddhad gyda’r gwasanaeth. Rydym wedi gallu creu’r swyddi newydd hyn gan ddefnyddio’r arian a arbedwyd drwy symud gwasanaethu nwy yn fewnol.

Maent hefyd yn rhoi awgrymiadau a chyngor ar: • Gyfrifon banc • Cyllidebu • Rheoli eich arian • Benthyg arian • Osgoi dyledion - yn enwedig o ran benthycwyr stepen drws a stryd fawr sydd â ffioedd cyfraddau llog aruthrol o uchel • Delio gyda dyled • Cael mynediad at y gostyngiadau gorau Mae’n ymwneud â’ch cynorthwyo i gymryd rheolaeth a chael y mwyaf o’ch arian, nawr ac yn y dyfodol. Beth am roi galwad i ni heddiw a siarad gydag un o Aelodau’n Tîm Cynhwysiant Ariannol. Mae pob sgwrs yn gyfrinachol a gall y tîm ymweld â chi yn eich cartref neu gwrdd â chi yn un o’n swyddfeydd, beth bynnag sy’n fwyaf cyfleus i chi. Rhowch alwad i ni ar 0300 124 0040 a gofynnwch am gael siarad gydag Amanda neu Katie neu gadewch neges iddynt eich ffonio yn ôl.

Mae hefyd yn golygu bod y partneriaid cartref yn cwrdd tenantiaid drwy’r flwyddyn yn eich cartrefi er mwyn gofyn amrywiaeth o gwestiynau sy’n ein cynorthwyo i ddeall yn well eich gofynion a’ch blaenoriaethau fel tenantiaid. Mae’r wybodaeth y maent yn ei gasglu yn golygu y gallwn gynllunio ac addasu’n gwasanaethau yn well er mwyn cwrdd eich gofynion. 0300 124 0040

3


RYDYM YN DATHLU DWEITHWYR LLWYDDIANT... MHEAEFYCY D YN DATHLU... Mae wedi bod yn flwyddyn llwyddiannus iawn hyd yma nid o ran y sefydliad yn unig ond i’n cydweithwyr a’n tenantiaid hefyd. Rydym fel sefydliad yn falch iawn o fod yn dathlu Gwobr Medal Aur y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau. Mae’r wobr arbennig hon yn cydnabod bod Cartrefi Conwy wedi cyflawni’r safon uchaf o iechyd a diogelwch yn y gweithle am y bumed mlynedd o’r bron a dim ond y sefydliadau sy’n dangos y mesurau mwyaf ymrwymedig o iechyd a diogelwch yn y gweithle yn y DU sy’n derbyn y wobr. Cawsom anrhydedd arbennig arall hefyd ac rydym yn hynod o falch i fod yn rhestr 100 uchaf y Sunday Times o ran CWMNI GORAU I WEITHIO IDDO 2016.

4

www.cartreficonwy.org

Cafodd Hannah Owens wobr Dyfodol Disglair am ei hymrwymiad a’i harweinyddiaeth mewn diogelwch nwy yng Ngwobrau Rheoli Cymdeithas Diogelwch Nwy. Fe wnaethom ni hefyd dderbyn cydnabyddiaeth cymeradwyaeth uchel yn yr un gwobrau am ein menter o estyn apwyntiadau gwasanaethu nwy fel bod gweithwyr yn gallu gwneud atgyweiriadau sydyn.


MAE CYDWEITHWYR HEFYD YN DATHLU... Derbyniodd Cydweithiwr ifanc arall, Emily Jones, 20, ddau glod arall wedi ennill dwy wobr Prentis y Flwyddyn. Curodd bron i 2000 o gystadleuwyr eraill i ennill teitl Prentis y Flwyddyn Grw ˆ p Coleg Llandrillo Menai 2016. Yna derbyniodd Wobr Prentis y Flwyddyn Sefydliad Tai Siartredig Cymru hefyd. Mae Emily bellach yn cael ei chyflogi yn swydd Gweinyddydd Technegol y tîm gwasanaethau eiddo a’i huchelgais tymor hir yw rhedeg ei chwmni eiddo ei hun ryw ddydd. Daeth ein anrhydedd mwyaf diweddar yng Ngwobrau Celfyddydau a Busnes Cymru lle cawsom ein gwobrau dwbl. Yn gyntaf fe wnaethom ennill y wobr yn y categori Celfyddydau, Busnes ac Iechyd am ein prosiect ‘Ffocysu ar Ffotograffiaeth’ ac yna cyn diwedd y noson, cawsom ein henwebu fel Busnes y Flwyddyn.

Rydym wastad wedi cefnogi Celfyddydau a Busnes Cymru ac yn cydnabod bod gan y celfyddydau rôl amlwg i’w chwarae wrth wella safon bywydau pobl ac yn bendant mae hyn yn wir am ein tenantiaid, sydd wedi bod yn ymwneud ag amrywiaeth o brosiectau celfyddydol dros y blynyddoedd diwethaf. Cwrs cynhwysiant digidol oedd ‘Ffocws ar Ffotograffiaeth’ a gafodd ei arwain gan Paul Sampson, curadur Oriel ffotograffiaeth Oriel Colwyn yn Theatr Colwyn a chafodd ei redeg er mwyn annog cyfranogwyr i ddefnyddio cyfrifiadur ar gyfer ffotograffiaeth yn ogystal ag ar gyfer pethau eraill fel siopa ar-lein a chysylltu gyda theulu a ffrindiau.

GWYLIWCH https://vimeo.com/173766260

Canlyniad y cyrsiau fu arddangosfeydd yn Venue Cymru a Theatr Colwyn ac mae rhai o luniau anhygoel y grw ˆ p wedi eu trawsnewid i waith celf yng Nghysgod y Gogarth yn Llandudno ac yn Parkway yn Llandrillo yn Rhos.

MAE’N ADEG HONNO O’R FLWYDDYN UNWAITH ETO... MAE’N AMSER AR GYFER Y DIWRNOD ALLAN 2016!! Rydym wedi bod yn gweithio’n galed yn ystod y 6 mis diwethaf i wneud diwrnod o hwyl i’r teulu eleni hyd yn oed yn fwy o hwyl! A bydd gennym syrpreis mawr ar y diwrnod felly peidiwch â cholli allan!! PRYD? 18 AWST LLE? PARC EIRIAS, BAE COLWYN Archebwch eich cludiant am ddim erbyn 5 Awst drwy ffonio 01745 335345 neu e-bostiwch big-day-out@cartreficonwy.org 0300 124 0040

5


CHWERTHIN YW’R FFISIG GORAU YNG NGHYSGOD Y GOGARTH ˆ po awr wrth ymweld â grw m in rth we ch n ˆ sw n ga yn Cawsom ein cyfarch i’w cartrefi newydd er mw n w me i d mu sy t yn idd . drigolion 6 mis wedi l yng Nghysgod y Gogarth no yn nib An ’n w By yw darganfod sut beth Mae’r tenantiaid yn mwynhau bywyd yno, yn bennaf oherwydd y cyfeillgarwch newydd a’r gweithgareddau cymdeithasol, a hefyd oherwydd y rhyddid newydd sy’n dod o fyw mewn llety sy’n cwrdd â’u gofynion byw’n annibynnol. Tudalen darllen mwy? Dywedodd tenantiaid wrthym ni eu bod yn edrych ymlaen at y dyfodol ac yn mwynhau byw, chwerthin, a chael hwyl a dysgu pethau newydd gyda’i gilydd. Meddai Ernest Seabright, 58: Mae gennych eich annibyniaeth ond ar yr un pryd mae cymorth yna pan fo’i angen arnoch. Mae gweithgareddau a chynlluniad Cysgod y Gogarth yn golygu bod rhyngweithio rhwng tenantiaid yn wych. Rydym yn helpu’n gilydd, rydw i wedi helpu i symud teledu a phethau eraill i denantiaid sy’n llai abl. Roedd Gladys Tipton (bron yn 84) yn arfer byw ym Mangor ond mae’n credu bod byw yng Nghysgod y Gogarth yn hyfryd ac nid oes ganddi unrhyw gwyn. Mae ei mab a’i merch sy’n byw yn Llandudno bellach yn poeni llai amdani nawr gan ei bod yn byw gyfagos. “Y bobl a’r cwmni a’r hwyl rydym yn ei gael gyda’n gilydd, mae’n wych” meddai Gladys.

6

www.cartreficonwy.org

Bu Joyce Herbert yn byw am gyfnod hir yn Llandudno ac mae’n dweud ei fod yn wych bod yn ôl, ar ôl byw yn Llandrillo yn Rhos am 8 mlynedd. Drwy gyd-ddigwyddiad roedd ei chymdoges newydd Anita Ellison yn arfer bod yn gymdoges iddi ym Manceinion pan oedd yn ferch ifanc. Symudodd mam Joyce i Landudno ar gyngor meddyg teulu er mwyn byw ger y môr i helpu asthma plentyndod Joyce. Rheswm arall mae Joyce yn mwynhau byw yn ei chartref newydd yw oherwydd bod yr olygfa o’i fflat ail lawr yn edrych dros gartref ei diweddar fam ar y Gogarth, ac mae hynny’n dod ag atgofion braf yn ôl iddi. Mae cymdoges Joyce, Anita, yn byw gyda’i gw ˆ r Eddie ac mae wastad wedi mwynhau mynd allan a chymdeithasu. Newidiodd hynny pan waelodd iechyd Eddie ac yn fuan iawn doedd y tyˆ lle roeddynt yn byw ddim yn addas, ac roeddynt yn gaeth i’w cartref. Newidiodd hynny yn syth ar ôl symud i Gysgod y Gogarth a bellach gallant fynd allan yn haws ac maent yn mwynhau cymdeithasu a byw’n fwy annibynnol. Mae stori Janette Smith yn debyg, roedd hi’n gaeth i’w chyn gartref gan nad oedd yn


Mae Lleisiau@cartreficonwy am wneud i lais bob tenant gael ei glywed!

• Ydych chi weithiau’n teimlo nad yw’ch llais yn cael ei glywed? • Ydych chi’n credu y gallech ein cynorthwyo i wella’n gwasanaethau? • Ydych chi am rannu’ch sgiliau? • Hoffech chi gwrdd pobl newydd? • Hoffech chi wella eich Iechyd a’ch Lles? gallu dringo’r grisiau’r tu allan. Bu Janette yn dioddef o iselder ysbryd oherwydd unigedd a diffyg rhyngweithio. Mae symud i Gysgod y Gogarth wedi bod yn wych i fi. Rydw i wedi adennill fy hyder ac wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd” meddai Janette. Mae Olwyn Rowlands, fydd yn 80 ar Fehefin 6, yn teimlo bod ei chartref newydd yn nefoedd, yn wych, yn arbennig... Mae Olwyn yn Gefnogwr Pobl Hyˆ n a gyda’i chymdoges a’i chyfaill Rose, maent yng nghalon yr holl weithgareddau a gynhelir yng Nghysgod y Gogarth. Mae hyn yn cynnwys trefnu’r clwb pnawn Sul, Clwb Coffi bore Llun, sesiwn bingo ddwywaith yr wythnos a karaoke ar nos Wener. Maent hefyd yn gwneud yn siw ˆ r bod trigolion yn dod at ei gilydd, yn enwedig dros gyfnodau gwyliau er mwyn cyfarfod yn y lolfa dros brydau bwyd a dathliadau.

GWYLIWCH https://vimeo.com/170449388

• Allech chi fod yn ‘ffrind beirniadol’ i Gartrefi Conwy? • Ydych chi’n teimlo fod gennych rywbeth i’w gynnig? • Ydych chi am wella’ch sgiliau? Os oes gennych chi ddiddordeb cysylltwch gyda Lydia Watson – Cydlynydd Ymgysylltu â’r Gymuned - 0300 124 0040 neu e-bost Lydia.watson@cartreficonwy.org.

Trigolion o’r grw ˆ p ffocws yn

dweud eu barn

GWYLIWCH https://vimeo.com/173766260

0300 124 0040

7



CARTREFI’N GWRANDO ARNOCH CHI Ym mis Tachwedd fe wnaethon ni gynnal ymgynghoriad trigolion ym Mryn Castell, Llanfairfechan er mwyn casglu gwybodaeth ar farn ei tenantiaid am eu cartrefi a’r gwasanaethau a ddarperir gan Gartrefi Conwy. Bwriad yr ymgynghoriad oedd ysgogi trafodaeth ymysg tenantiaid a darganfod lefelau boddhad ar nifer o bynciau o fewn cynlluniau byw’n annibynnol. Cafodd yr ymgynghoriad ei ddarparu drwy gêm a chwaraewyd gan ddefnyddio dau ddeg wyth o gardiau wedi eu rhannu i bedwar categori; gwasanaethau, ffordd o fyw, fy nghartref, a lle rydym yn byw. Caiff y cardiau eu defnyddio i ysgogi trafodaeth ar faes arbennig o’r categori ac i gytuno ar sgôr terfynol.

Casglwyd y sgoriau a darparwyd adborth ar fformat llun ‘graddfa seren’ a chymariaethau gyda pherfformiad cenedlaethol a rhanbarthol. Roedd canlyniadau’r digwyddiad yn cydnabod Bryn Castell, Llanfairfechan, fel y cynllun o’r radd uchaf yn rhanbarthol ac yn genedlaethol mewn cyfanswm o ddeg datganiad. Nodwyd meysydd o welliant a rhoddwyd camau gweithredu ar waith yn syth. Bydd y gêm ymgynghori yn dod i gynllun byw’n annibynnol agos atoch chi dros y misoedd nesaf.

ANGEN CYMORTH? Ydych chi’n teimlo fod arnoch angen cymorth gydag unrhyw un o’r pethau isod?

• Defnyddio’r offer yn eich cartref er enghraifft yr offer Galw Gofal

• Cefnogaeth ac arweiniad emosiynol

Os mai ydw yw’r ateb, gallai’r Gwasanaeth Byw’n Annibynnol fod o gymorth.

• Adrodd am waith trwsio a phroblemau’n ymwneud â thai • Rheoli eich gwaith papur a’ch gohebiaeth • Cael mynediad at wasanaethau eraill a chymorth proffesiynol • Cefnogi a hyrwyddo bywyd cymdeithasol bywiog

Cysylltwch â ni ar 0300 124 0040 a gofynnwch am Ceri Twist neu gadewch neges er mwyn i Ceri gysylltu gyda chi.

GWYLIWCH https://vimeo.com/170165349

• Adnabod gwasanaethau lleol a sefydliadau a allai fod o gymorth i chi 0300 124 0040

9


G O D D E R W A M LANSIAD CREU MENTER

swyddfeydd dog swyddogol ym mhrif ed wr ma d sia lan ei er nt ew Bowden Cynhaliodd Creu Me d y prif weithredwr Andr lod tge da lle le ge er Ab yn yddi. Cartrefi Conwy nswm o 27 o gyfleoedd sw fa cy u cre di we a ym d hy bod y fenter

Lawnswyd Cartrefi Conwy y fenter newydd hwn a oedd y cyntaf oi fath yng Nghymru pan ddaeth yn weithredol fis Ebrill diwethaf.

Mae Ian Goss, 38, yn un o lwyddiannau’r cwmni. Collodd ei swydd pan effeithiodd y dirwasgiad ar ei gwmni cyflenwi gwisgoedd a dillad gwaith.

Mae’r sefydliad yn gwneud llawer o waith cynnal a chadw ar eiddo Cartrefi Conwy ar draws y sir, o baentio tu allan tai i wasanaethu nwy, i drwsio tapiau sy’n gollwng a giatiau gerddi sydd wedi torri.

Yn 2011 ymunodd â Crest Co-operative ar gynllun nôl-i’r-gwaith a manteisiodd ar gwrs hyfforddi 16 wythnos, a chafodd gynnig swydd llawn amser gyda Crest ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.

Mae hefyd yn rhedeg academi gyflogaeth arloesol sydd eisoes wedi gweld 4 tenant di waith yn derbyn contract 12 mis er mwyn ennill profiad gwaith.

Cododd drwy’r rhengoedd o fod yn yrrwr casgliadau palmant i swydd oruchwylio ac roedd ymysg y cyntaf i ymuno â Creu Menter fis Ebrill diwethaf.

Bu i Lesley Griffiths, cyn Weinidog Cymunedau a Threchu Tlodi Cymru, oedd yn westai arbennig yn y digwyddiad, longyfarch pawb gan ddweud bod hyn yn “rywbeth i’w ddathlu”.

Bellach ef yw goruchwyliwr gweithredoedd y cwmni yng ngofal 14 o staff.

Un o elfennau unigryw’r cwmni yw’r academi gyflogaeth sydd ond ar gael i denantiaid di waith Cartrefi Conwy. Yn ystod eu contract 12 mis mae’r di waith yn elwa o brofiad gwaith a hyfforddiant, a chymwysterau mewn rhai achosion. Maent yn cael eu mentora drwy’r cyfnod ac yn ystod nawfed mis eu contract maent yn cael cynnig cefnogaeth lawn i ddod o hyd i swydd barhaol, un ai gyda chyflogwr lleol neu gyda Chartrefi Conwy ei hun.

10

www.cartreficonwy.org

GWYLIWCH Creu Menter: https://vimeo.com/170162559 Cwrddwch a Jordan Davies Peintiwr ac addurnwr dan hyfforddiant: https://vimeo.com/170171834 Cwrddwch a Jordan Davies Peintiwr ac addurnwr dan hyfforddiant: https://vimeo.com/170170834


0300 124 0040

11


CARWCH

ECYMICUNH ED

C R A P PEULWYS

BOURHOOD’ H IG E N R U O Y ’S ‘IT R B O GW Llongyfarchiadau i Gymdeithas ‘Go Green’ Peulwys am ennill y Wobr ‘It’s Your Neighbourhood’ am yr ail flwyddyn o’r bron. Cynllun gan y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol yw ‘It’s Your Neighbourhood’, ar gyfer grwpiau garddio cymunedol a arweinir gan wirfoddolwyr. Mae’r ymgyrch yn cefnogi grwpiau cymunedol i lanhau a gwyrddu eu hamgylchedd lleol - y stryd lle maent yn byw neu ddarn bach o dir cymunedol sydd angen ei ailwampio. Gweithiodd y grw ˆ p gyda’i gilydd gyda Chartrefi Conwy i gwrdd un o feini prawf ‘It’s Your Neighbourhood’ o gynnal y mannau gwyrdd ar Barc Peulwys. Trefnwyd sawl casgliad sbwriel a buont yn plannu bylbiau ac yn ail-blannu planhigion oedd wedi methu tyfu. Mae hyn wedi cyfrannu at lwyddiant Parc Peulwys i gadw’i statws Baner Werdd am yr ail flwyddyn yn olynol.

Nododd y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol bod y rhai sy’n cymryd rhan wedi adrodd am amgylchedd glanach, gwyrddach a mwy diogel; synnwyr cynyddol o falchder cymunedol; cynnydd mewn lefelau ailgylchu ac ymwybyddiaeth amgylcheddol leol, a lleihad mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol wrth adfywio’r ardal oedd wedi mynd â’i ben iddo. Llwyddodd y grw ˆ p i wella ers y llynedd pan wnaethon nhw dderbyn lefel 2; gwella. Eleni derbyniodd y grw ˆ p lefel 3; datblygu! Gobeithio y byddant yn cyflawni lefel 4 y flwyddyn nesa; ffynnu, croesi bysedd. Os ydych chi’n rhan o grw ˆ p garddio neu os hoffech gychwyn un ac os ydych eisiau mwy o wybodaeth am y wobr hon cysylltwch â Clare Phipps ar 01745 335656 neu e-bost clare.phipps@cartreficonwy.org

CYNLLUN ADNEWYDDU GAREJ Mae Cartrefi Conwy wedi lansio rhaglen er mwyn ail-ddatblygu ein stoc o garejis o amgylch y sir dros y 12 mis nesaf. Hoffem ailwampio’r holl garejis ond nid yw hyn bob amser yn economaidd hyfyw felly mae’n bosib y bydd peth o’r stoc yn cael ei ddileu. Bydd angen mwy o waith ar rai garejis nag eraill ac yn dilyn y cylch 12 mis, rydym yn bwriadu cynnal a chadw’r garejis ar sail gylchol, barhaol. Byddwn yn cysylltu gyda phawb sy’n rhentu garejis cyn gwneud penderfyniad am unrhyw 12

www.cartreficonwy.org

floc ac os bydd angen gweithio ar unrhyw floc byddwn yn ymgynghori gyda trigolion lleol a phobl sy’n rhentu’r garejis cyn ac yn ystod y broses. Rydym yn ymddiheuro o flaen llaw am unrhyw anghyfleustra ond nid ydym yn creu ymweld y bydd unrhyw waith adnewyddu unigol yn para mwy na 2 wythnos. Cysylltwch â Gwasanaethau i Gwsmeriaid ar 0300 124 0040 a gofynnwch am gael siarad gyda Joseph Palmer neu Claire Twamley os oes gennych bryderon neu gwestiynau am y gwaith adnewyddu.


CASGLIADAU BIN BOB 3 WYTHNOS YN DOD I GONWY Mewn ymgais i daclo gwastraff ac i gynyddu ailgylchu, bydd Conwy yn dechrau casglu biniau sbwriel bob tair wythnos cyn hir, yn dilyn penderfyniad gan y Cabinet ar 23 Chwefror. Cafodd y penderfyniad ei wneud yn dilyn adolygiad blwyddyn o hyd ynglyˆ n ag arferion ailgylchu a gwastraff cartrefi, lle darganfuwyd y gellid ailgylchu dros hanner yr eitemau sy’n cael eu taflu i’r biniau olwyn, gwastraff o £1.6 miliwn bob blwyddyn. Roedd yr adolygiad yn cynnwys arolwg o bob cartref yng Nghonwy, gyda’r mwyafrif yn cytuno y dylai’r Cyngor gymryd camau i leihau gwastraff a chadarnhau y gallent ymdopi pe bai sbwriel yn cael ei gasglu yn llai aml a deunyddiau ailgylchu yn cael eu casglu bob wythnos. Bydd newid i gasgliadau gwastraff yn digwydd dros yr haf gyda chasgliadau ailgylchu bob wythnos a gwastraff gardd, tecstilau ac eitemau trydanol bach yn cael eu pigo i fyny bob pythefnos. Dim ond y casgliad gwastraff – eich bin olwyn – fydd yn newid. Bydd casgliadau sbwriel bob 4 wythnos hefyd yn cael eu treialu mewn rhan o’r Sir, a bydd gwasanaeth casglu clytiau babanod yn cael eu cyflwyno.

PARATOWCH AM Y : NEWID HWN, GALLWCH • Llawrlwythwch App Conwy – App Ailgylchu Conwy llawn offer defnyddiol, gwybodaeth a hyd yn oed dull o’ch atgoffa o’r diwrnod casglu; ar gael ar gyfer dyfeisiau iOS ac Android ar www.conwy.gov.uk/conwyapp • Gofyn am focsus ailgylchu ychwanegol os ydych yn ailgylchu llawer o ddeunyddiau • Gwnewch yn siw ˆ r eich bod yn ailgylchu eich holl wastraff bwyd. Gellir ailgylchu gweddillion bwyd, crwyn llysiau, bagiau te a phapur cegin yn eich cadi gwastraff bwyd Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen rhagor o gefnogaeth arnoch, cysylltwch â’r Tîm Cyngor Amgylcheddol drwy anfon e-bost at affch@conwy.gov.uk neu ffonio 01492 575337.

Mae’r amgylchedd yn gyfrifoldeb i bawb ac mae gennym i gyd ran i’w chwarae wrth geisio’i warchod. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cydlynu Diwrnodau Amgylcheddol cymunedol, yr ydym ni’n helpu i’w cefnogi mewn lleoliadau ar draws Conwy er mwyn gwneud cymunedau’n lanach, yn wyrddach, ac yn fwy diogel. Mae’r digwyddiadau hyn yn gyfle gwych i drigolion dderbyn compost am ddim a chael gwared â gwastraff swmpus am ddim. Cliciwch/Ymweld ar y ddolen i weld pryd bydd y Diwrnodau amgylchedd yn cael eu cynnal yn 2016/2017 http://www.conwy.gov.uk/section. asp?cat=7971&Language=1 13



PEIDIWCH Â GADAEL PEIRIANT GOLCHI, SYCHWR DILLAD NA PHEIRIANT GOLCHI LLESTRI YMLAEN OS NAD YDYCH GARTREF!

LLEIHAU’R PERYGLON Byddwch yn ymwybodol o beryglon posib gadael peiriant golchi, sychwr dillad neu beiriant golchi llestri yn rhedeg pan fyddwch allan o’r tyˆ neu yn eich gwely. Ni ddylid gadael offer fel sychwyr dillad, peiriannau golchi a pheiriannau golchi llestri ymlaen os nad ydych yn bresennol, mae pobl wedi marw, a cholli eu tai mewn tân ar ôl eu gadael yn rhedeg tra’u bod yn cysgu. Mae miloedd o dannau mewn tai yn cael eu hachosi bob blwyddyn, mae’r ystadegau canlynol yn sefyll allan: • C ynyddu’r risg o dân difrifol yn lledaenu drwy adael y sychwr dillad ymlaen dros nos neu pan na fyddwch adref (9%) • Gadael offer trydanol ymlaen pan na fyddwch yn ei ymyl, a chael eich rhybuddio gan arogl llosgi (9%) • Blocio tyllau aer drwy fethu glanhau y tu ôl i oergell / rhewgell (44%) Mae gwefan Cyngor ar Ddiogelwch Trydan hefyd yn nodi mai peiriannau golchi a sychwyr dillad yw ail achos mwyaf cyffredin o dannau trydanol yn y DU. Mae peiriannau golchi llestri ac oergelloedd hefyd yn gallu mynd ar dân.

COFIWCH LANHAU’R TU NÔL I’CH OERGELL/ RHEWGELL Trowch yr offer i ffwrdd a thynnwch nhw allan o dro i dro i lanhau’n gyflym y tu nôl iddynt a chael gwared ar unrhyw fflwff sydd yno. Cofiwch eu troi yn ôl ymlaen ar ôl gwneud hynny. PEIDIWCH RHOI PEIRIANT GOLCHI, SYCHWR DILLAD NA PEIRIANT GOLCHI LLESTRI YMLAEN YN Y NOS NEU PAN FYDDWCH ALLAN Efallai ei fod yn llawer mwy cyfleus i wneud hynny ond dylech dderbyn eich bod yn cymryd risg gweddol isel ond gyda photensial o ganlyniadau gwael iawn os byddwch yn gwneud hynny. PEIDIWCH Â DEFNYDDIO’R NODWEDD OEDI CYN CYCHWYN, NA DEFNYDDIO TRYDAN ORIAU ALLFRIG TARIFFAU ‘ECONOMY 7’ mae’n ymddangos bod lefelau syndod o uchel o beiriannau golchi, peiriannau golchi llestri a sychwyr dillad yn mynd ar dân y dyddiau hyn felly gallai defnyddio’r nodwedd uchod fod yn hynod o beryglus. Mae angen i chi benderfynu os oes gwir angen i chi gymryd y risg o dân neu lifogydd yn y tyˆ!!! 0300 124 0040 15


LLEIHAU’R PERYGLON Cyngor diogelwch tân y Llywodraeth yw peidio gadael nwyddau gwynion yn rhedeg os nad ydych yn bresennol. Nid yw hyn yn golygu fod yn rhaid i chi eistedd a’u gwylio, ond gwnewch yn siw ˆ r fod rhywun yn y tyˆ i glywed unrhyw larymau mwg yn seinio neu i arogli unrhyw losgi.

trydanol. Maent yn ymgyrchu ar ran defnyddwyr a gweithwyr proffesiynol yn y maes trydan i wella rheoliadau diogelwch ac i sicrhau bod negeseuon diogelwch yn berthnasol, yn gyfredol, ac yn cael eu cyfathrebu’n dda.

Mae’r wefan ‘Eletrical Safety First’ yn cynnig llawer o gyngor a syniadau ynglyˆ n â defnyddio trydan yn ddiogel a gwybodaeth ar alw cynnyrch yn ôl oherwydd diogelwch.

Mae gan y safle Safonau Masnach hefyd restr wych o gynnyrch sydd wedi ei alw nôl oherwydd diogelwch sy’n cynnwys mwy neu lai’r holl offer yn y cartref. Mae’n werth nodi a gwirio’r safle’n rheolaidd gan ei fod yn cynnwys holl faterion diogelwch nwyddau traul – hyd yn oed bwyd...

Electrical Safety First yw elusen gyntaf y DU sy’n ceisio lleihau’r nifer o farwolaethau ac anafiadau a achosir gan ddamweiniau

Ewch i: www.electricalsafetyfirst.org.uk

R E T S O B H C IW N CYNLLU GALW’N HOLL DENANTIAID IFANC I! 5 – 16 OED, RYDYM EICH ANGEN CH

Helpwch ni i godi ymwybyddiaeth o Ddiogelwch Nwy yn eich Cartref. Ewch i https://www.gassaferegister.co.uk/ help-and-advice/gas-safety-in-the-home/ gas-safety-tips/

YNA GWNEWCH BOSTER ATYNIADOL LLAWN GWYBODAETH SY’N DANGOS Y PERYGLON A CHYNNIG CYNGOR AM AROS YN DDIOGEL O RAN NWY YN EICH CARTREF. Bydd 1 enillydd ar gyfer pob grw ˆ p oedran 5- 7 , 7 – 11, 11- 14, 14 – 16 a phob un yn ennill £50 o dalebau siopa’r stryd fawr, a bag o bethau da. Mae’r gystadleuaeth yn cau ar 11 Awst 2016. Caiff enillwyr eu cyhoeddi yn y DIWRNOD ALLAN MAWR 18 AWST 2016. Anfonwch eich poster at Cartrefi Conwy, Morfa Gele, Parc Busnes Gogledd Cymru. Abergele LL22 8LJ Cofiwch /gwarchodwr ysgrifennu eich enw, oedran, cyfeiriad a rhif ffôn eich rhieni ar ei gefn. Ewch i’r safle defnyddio hwn www.co-gassafety.co.uk 16

www.cartreficonwy.org


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.