Gyda'n Gilydd Gaeaf 2016

Page 1

CARTREFI CONWY

D D Y L I G N ’ A D GY RHIFYN GAEAF

GAN DDYMU NO

LE EFI YMA CYF R T R A C U A R MAE GWOB B MIS Tud 2 O B U A N N U OB CANNOEDD

I ENNILL

N... W E M U T H C W EDRYCH

NADOLIG

LLAWEN A

BLWYDDYN N EWYDD DDA

I BAWB!

R CARTREF YN E N T R A P H T E A GWASAN d2 R TAI CYMRU Tu B O W IF R P L IL ENN ETH P A CHEFNOGA L E H M A N Y F O TYDI G ICHI Tud 3 YN COSTIO DIM H – ENWI EIN CYSTADLEUAET enquiries@cartreficonwy.org d 14 MASGOTIAID Tu Gwasanaeth Cwsmer: 0300 124 0040 Mae pob galwad gyda Gwasanaethau Cwsmeriaid yn cael eu cofnodi Mae copïau sain o’r newyddlen hon ar gael


MAE GWOBRAU CARTREFI YMA – CYFLE I ENNILL CANNOEDD O BUNNAU BOB MIS Mae Gwobrau Cartrefi wedi cael eu cyflwyno yn lle cynllun gwobrwyo ‘Countdown’ gan i’r rhan fwyaf o’r tenantiaid ddweud nad oedd yn gweithio iddyn nhw. Rydyn ni rŵan yn gwobrwyo ein tenantiaid ffyddlon pob mis gyda rafflau newydd cyffrous, gyda channoedd o bunnau ar gael i’w hennill. Bydd Gwobrau Cartrefi yn rhoi cyfle ichi ennill cannoedd o bunnau pob mis drwy:

Gwobrau Cartrefi Rwy’n Talu Gwobrau Cartrefi Rwy’n Falch Gwobrau Cartrefi Rwy’n Cymryd Rhan

RWY’N TALU – reich gwobrwyo am dalu eich rhent ar amser. RWY’N FALCH – eich gwobrwyo am edrych ar ôl eich cartref a bod yn falch o’ch cartref a’ch cymuned. RWY’N CYMRYD RHAN – eich gwobrwyo am gymryd rhan a dweud eich dweud a’n cynorthwyo i lunio’n gwasanaethau.

COMING SOON

Gwobrau Cartrefi Rwy’n Cysylltu

RWY’N CYSYLLTU –eich gwobrwyo am ddefnyddio ein gwasanaethau ar-lein

I gael gwybod sut gallwch chi ennill cannoedd o bunnau ewch i cartreficonwy.com/gwobraucartrefi *Rhaid glynu wrth y telerau ac amodauy

YDYCH CHI WEDI CWRDD Â’R TÎM PARTNER CARTREF? Mae’r tîm partner cartref yn cyfarfod tenantiaid gydol y flwyddyn yn eich cartrefi i ofyn amryw gwestiynau er mwyn ein helpu ni i ddeall eich anghenion yn well. Ers cyflwyno’r gwasanaeth hwn rydym wedi helpu cannoedd o denantiaid gydag amryw faterion gan gynnwys sut i arbed arian ar eich biliau tanwydd, trin arian a chymorth ariannol a chymorth tai. Cafodd manteision y gwasanaeth Partneriaid Cartref i denantiaid eu cydnabod yn ddiweddar pan enillodd un o’r prif wobrau yng Ngwobrau Tai Cymru’r Sefydliad Tai Siartredig, yn dilyn pleidlais gan ei aelodau. 2

www.cartreficonwy.org

Bydd ein Partneriaid Cartref yn ymweld â chi pan gewch eich archwiliad diogelwch nwy blynyddol. A pheidiwch ag anghofio, os cewch ymweliad gan y partner cartref a bod eich eiddo’n cael ei gadw’n lân ac yn daclus, cewch gyfle i ennill £100 gyda’n Gwobrau Cartref!


CYMRYD RHEOLAETH CAP NEWYDD BUDD-DALIADAU Mae’r cap newydd ar fudd-daliadau wedi cyrraedd a gallai effeithio arnoch chi. Mae’r cap yn rhoi uchafswm ar faint o arian ‘lles’ y mae aelwyd yn gallu ei gael. Y cap isaf newydd fydd:

Yn Cartrefi Conwy mae gennym dîm cymorth un pwrpas sy’n cynnig help i’n holl denantiaid a’n haelwydydd ar draws yr ardal er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn hawlio’r holl fudddaliadau y mae gennych hawl iddynt.

• £384.62 yr wythnos (£20,000 y flwyddyn) i gyplau, teuluoedd a rhieni unigol sy’n hawlio

Maent hefyd yn rhoi awgrymiadau a chyngor ar:

• £257.69 yr wythnos i oedolion sengl heb blant

• Gyfrifon banc

Os ydych chi’n poeni sut y bydd hyn yn effeithio arnoch chi, cysylltwch â’n Tîm Incwm ar 0300 124 0040 neu ewch i www. takecontrol.wales

• Trin eich arian

Mwy o wybodaeth am y newid: https://www. citizensadvice.org.uk/wales/benefits/thebenefit-cap/the-benefit-cap-and-housingbenefit/the-benefit-cap-and-housingbenefit/

• Gwneud cyllideb

• Benthyg arian • Osgoi dyled – yn enwedig gyda benthycwyr carreg drws a benthycwyr stryd fawr eraill • Delio â dyled • Cael gafael ar y disgowntiau gorau. Mae i gyd yn ymwneud â’ch helpu chi i reoli a gwneud y gorau o’ch arian, yn awr ac yn y dyfodol. Pam na ffoniwch ni heddiw i siarad ag un o Aelodau ein Tîm Cynhwysiant Ariannol un pwrpas? Mae pob sgwrs yn gyfrinachol a gall y tîm ddod i’ch gweld yn eich cartref neu gallent gyfarfod â chi yn un o’n swyddfeydd, beth bynnag sydd orau i chi. Ffoniwch ni ar 0300 124 0040 a gofynnwch am gael siarad ag Amanda neu Katie neu gadewch neges ac fe wnânt eich ffonio’n ôl.

0300 124 0040

3


S R E T S W R E H T CÔR Yn ystod yr haf daeth grŵp o denantiaid hŷn o Lanrwst at ei gilydd i ffurfio Côr Affricanaidd cyntaf Cartrefi. Maent wedi cael llawer o hwyl yn dysgu caneuon llwythol yn ogystal â chlasuron fel ‘Yellow Bird’. Cafodd y Rwsters eu hyfforddi gan yr hyfforddwr llais adnabyddus, Sheila Brook, a’r perfformiwr o fri rhyngwladol Dymphna D’arcy. Dringodd y Rwsters i’r llwyfan i berfformio eu sioe fyw gyntaf yn Niwrnod Pobl Hŷn Cartrefi Conwy gan ennyn cymeradwyaeth enfawr.

Meddai’r Cydlynydd Ymgysylltu Pobl Hŷn, Nerys Veldhuizen “roedd y sesiynau’n gymaint o hwyl ac rwy’n rhyfeddu at ddoniau canu’r Rwsters. Mae ymchwil yn dangos bod cadw’n brysur, cael profiadau newydd a hunan-fynegiant yn gallu gwella a chyfoethogi ansawdd eich bywyd ac mae hyn yn sicr yn amlwg yn y sesiynau canu hyn.”

GW YLIWC H https://vimeo.com/178006609

BOOK OF YOU Yn ystod yr haf cynhaliodd Cartrefi Conwy gwrs llyfr stori digidol 6 wythnos gyda ‘Book of You’ ar gyfer tenantiaid Park Way a’r ardaloedd cyfagos. Gweithiodd y grŵp ar lechi digidol gan greu eu straeon unigryw eu hunain drwy gyfrwng lluniau, geiriau a cherddoriaeth. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cysylltu â’r byd digidol, cysylltwch â Lydia Watson ar 0300 124 0040. 4

www.cartreficonwy.org

GWYLIWC H https://vimeo.com/185328495


SUDD O’R BERLLAN Roedd y Diwrnod Gwneud Sudd Afal ar 26ain Medi yn syniad gwych a bu hefyd yn un llwyddiannus iawn, i blant a thrigolion Rhodfa Caer. Daeth y preswylwyr ynghyd gyda Gwyl o Cadwch Gymru’n Daclus, a ddaeth â’r offer gwneud sudd gyda nhw, ac Ysgol y Foryd a gynhaliodd y digwyddiad yn rhan o’u Diwrnod Fictoraidd. Cafodd pawb ddiwrnod gwych yn gwasgu afalau o berllan Rhodfa Caer ac yn gwneud sudd afal i fynd adref gyda nhw. Fe wnaeth y digwyddiad yn sicr ddod â’r gymuned at ei gilydd a gyda lwc bydd yn eu hannog i ddefnyddio ac ymweld â’r berllan yn amlach. Diolch i bawb a gymerodd ran ac a wnaeth hwn yn ddiwrnod gwych.

DATHLIADAU DIWRNOD POBL HŶN Mae Diwrnod Pobl Hŷn Cartrefi Conwy yn ddigwyddiad gwych ac yn ffordd ardderchog o ddathlu’r rhan y mae pobl hŷn yn dal i’w chwarae yn ein cymunedau. Roedd yn ddiwrnod emosiynol hefyd i’r bensiynwraig 82 mlwydd oed, Josie Hughes, a fu’n crio dagrau o lawenydd ar ôl cael ei hanrhydeddu am ei gwaith gwirfoddoli yn helpu cymdogion a chodi arian i elusen. Bu Phil Batty o Landrillo-yn-rhos hefyd yn dathlu ar ôl iddo ennill Gwobr Hyrwyddwr Pobl Hŷn, ac aeth Gwobr y Cymydog Eithriadol i Brian Hughes, o Hen Golwyn. Meddai Josie, a oedd yn emosiynol iawn: “Mae’n wych ac rwyf mor falch. Ond dyna’n union beth rwyf yn ei wneud. Rwy’n hoffi helpu pobl ac fe wnaf unrhyw beth y bydd unrhyw un yn gofyn imi ei wneud os yw’n helpu, yn werthu tocynnau raffl neu gyflwyno taflenni, rwy’n gwneud popeth y gallaf.

“Maen nhw i gyd yn dweud bod fy nrws bob amser ar agor i bawb ac os gofynnwch, fe wnaf os yw’n helpu. Fy nod yw helpu cynifer o bobl ag y gallaf.” Mae’r Hyrwyddwr Pobl Hŷn, Phil Batty, yn gadeirydd ar y Clwb Coffi ac yn trefnu tripiau i lefydd fel Lerpwl, Southport ac orielau celf yn ogystal â digwyddiadau cymdeithasol eraill i’r aelodau. Mae hefyd yn helpu i drefnu’r Clwb Gwener Hapus, yn rhedeg sesiynau bingo a gweithgareddau eraill ar gyfer y clwb sydd â dros 50 o aelodau. Dywedodd y Cynghorydd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a’r Hyrwyddwr Pobl Hŷn, Andrew Hinchliff, a oedd yn aelod o’r panel beirniadu: “Roedd gennym gynifer o straeon hyfryd i’w hystyried a phob un yn haeddu cydnabyddiaeth.”

GW YLIWC H https://vimeo.com/185328495

0300 124 0040

5


6


0300 124 0040

7


MILIWN YN MYND GWAI TH GWELLA GWER TH £2.75YN LLANDUDNO RHAGDDO’N DDA YN NHRE CWM Mae’r gwaith ar ein hail brosiect ystâd graddfa fawr i drawsnewid Tre Cwm yn Llandudno yn mynd rhagddo’n dda iawn. Rydym yn modelu ein gwaith ar yr hyn a wnaethom ym Mharc Peulwys yn Llysfaen sy’n awr yn ennill gwobrau ac mae hynny’n rhywbeth rydym yn gobeithio ei ailadrodd yn Nhre Cwm. Mae’r gwaith gwella i’r eiddo yn cynnwys gosod ffenestri a thoeau newydd, uwchraddio’r boeleri ac inswleiddio waliau allanol fel rhan o brosiect amgylcheddol mawr. Rydym wedi gweithio’n agos gyda thrigolion dros y 12 mis diwethaf i ddatblygu’r cynlluniau hyn ac maent wrthi’n gwneud gwelliannau i wella edrychiad eu cartrefi a sicrhau eu bod yn cael eu codi i’r safon.

Mae’r gwaith amgylcheddol allanol hefyd wedi dechrau a bydd yn parhau drwy haf 2017 ar 60 o brosiectau unigol gyda’r bwriad o newid yr amgylchedd chwarae, mynediad i’r ystâd, mannau gwyrdd agored a mannau parcio i wneud Tre Cwm yn lle brafiach i weithio, byw a chwarae. Dros y misoedd nesaf, caiff y trigolion gyfle i wneud eu rhan. Mae Wates, y prif gontractwr, wedi rhoi nawdd i’r ganolfan gymunedol leol Tŷ Llywelyn i gynnal gweithgareddau, yn enwedig ar gyfer y trigolion iau, i leihau’r posibilrwydd o ddamweiniau a’u cadw’n ddiogel yn ystod y gwaith adeiladu.

GW YLIWC H https://vimeo.com/178455011

N ‘MAES DATBLYGIAD LLANFAIRFECHA EN GLANARFON’ BRON Â’I ORFF Mae’r gwaith bron wedi’i gwblhau ar ddatblygiad Maes Glanarfon ar Ffordd Penmaenmawr yn Llanfairfechan a bydd y tenantiaid newydd yn symud i mewn ddechrau mis Ionawr. Mae gan y datblygiad olygfeydd godidog o’r arfordir ac maent yn gymysgedd o fflatiau 1 a 2 ystafell wely a fflatiau bwthyn a thai 2 a 3 ystafell wely. Mae’r cartrefi yn gymysgedd o Dai rhent cymdeithasol a chanolradd a bydd yn rhoi tai fforddiadwy ac o ansawdd i’r trigolion newydd. Yn ystod y gwaith adeiladu rydym wedi dod i adnabod y gymuned leol, rydym wedi cefnogi a chymryd rhan yn y carnifal, gan roi gweithdai i’r plant ysgol lleol a bod yn 8

www.cartreficonwy.org

rhan o’r gwaith adnewyddu yn y llyfrgell leol gan weithio ochr yn ochr â Chyfeillion llyfrgell gymunedol Llanfairfechan fel bod y dref yn dal i allu mwynhau adeilad llyfrgell a chanolbwynt adnoddau i’r gymuned. Mae adeiladau rhentu canolradd ar gael i bobl sy’n gweithio gydag incwm yn dod i mewn i’r tŷ o £15,000 - £30,000 I gael rhagor o wybodaeth holwch aelod o’n tim cyfeillgar, Ffonwch 0300 125 0050 neu ewch i www.cartreficonwy.org


CADWCH EICH

CYMUNED YN DACLUS

Mae’r amgylchedd yn gyfrifoldeb i bawb ac mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae i ofalu amdano. Mae Conwy yn un o’r siroedd gorau yng Nghymru am ailgylchu. Mae’n wych bod trigolion Conwy yn awyddus i wneud eu rhan i helpu’r amgylchedd ac mae llawer o awgrymiadau a chyngor, yn enwedig pan fydd y tywydd yn troi’n wlyb a gwyntog, i gadw eich cymuned yn daclus ar wefan y cyngor, neu gallwch hefyd ffonio neu e-bostio a gofyn inni anfon gwybodaeth atoch.

CASGLIADAU GWASTRAFF SWMPUS Mae gwasanaeth casgliadau gwastraff swmpus ar gael ar gyfer eitemau mawr fel dodrefn, offer trydanol, hen ddodrefn ystafelloedd ymolchi, unedau cegin a gwastraff o’r ardd. COST EITEMAU TŶ Mae hyd at bedair eitem yn costio £20 a chodir £4 am bob eitem ychwanegol. NEU MAE PRISIAU CASGLU GWASTRAFF GARDD SWMPUS YN: • Hanner llwyth £50 • Llwyth llawn £95 (Llwyth llawn = Uchafswm o 1 dunnell) I drefnu casgliad ffoniwch (01492) 575337, e-bostiwch erf@conwy.gov.uk neu defnyddiwch y ffurflen ar-lein ac fe wnânt

eich ffonio’n ôl i drefnu amser. I drefnu casgliad gwastraff gardd swmpus cysylltwch â Crest Co-operative ar 01492 596783. Gallech hefyd fynd ag eitemau tŷ neu wastraff o’r ardd i Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref ym Mochdre neu yn Abergele. Cofiwch fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cydlynu Dyddiau Amgylcheddol cymunedol rheolaidd, yr ydyn ni’n helpu i’w cefnogi, mewn lleoliadau gwahanol ar draws Conwy i wneud cymunedau’n lanach, yn fwy gwyrdd a mwy diogel. CLICIWCH/EWCH I WELD PRYD MAE’R DYDDIAU AMGYLCHEDDOL WEDI’U TREFNU AR GYFER 2016/2017 http://www.conwy.gov. uk/section. asp?cat=7971&Language=1 Diolch am helpu i gadw eich cymdogaeth yn lân a thaclus. 0300 124 0040

9


AR T N IA IR W S Y I H C H C Y N N E OES G ? O D ID E H ’C A F E R T R A C H GYFER EIC Beth fyddech chi’n ei wneud pe byddech yn cyrraedd adref ar ôl noson allan neu drip i ffwrdd i weld bod rhywun wedi torri i mewn i’ch cartref, bod pibell wedi byrstio a dŵr wedi llifo drwy’r tŷ?

Mae’r premiymau’n dechrau o gyn lleied â £1.77 yr wythnos (i denantiaid dan 60), a dim ond £1.22 yr wythnos (i denantiaid 60 a drosodd). Gallwch dalu’r premiymau gyda’ch rhent.

Nid yw eich eiddo yn cael ei yswirio’n awtomatig gan Cartrefi Conwy yn erbyn tân, lladrad, difrod dŵr na risgiau tai eraill. Felly, os nad ydych wedi meddwl yn iawn am yswiriant, gallech gael dipyn o sioc. Fodd bynnag, mae Cartrefi Conwy wedi ymuno â’r Ffederasiwn Tai Cenedlaethol a Thistle Tenant Risks i gynnig Cynllun yswiriant cynnwys tŷ My Home i chi.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â My Home Insurance 0845 337 2463

CADW’N GYNNES – OND CADW’R COSTAU I LAWR!

Cofiwch rydym rwn yn cynnig taliadau trwy debyd uniongyrchol i gael ei gasglu pob dwy wythnos neu yn fisol a’r y 1af, 7fed, 16eg, 20fed neu’r 23ain. Hefyd, galwch dalu eich rhent dros y ffon yn ystod oriau gwaith Dydd Llun - Wener gyda aelod o dim Gwasanaeth Cwsmer

Gyda’r tywydd oer wedi cyrraedd mae cadw’n gynnes yn bwysig i’n hiechyd a’n lles, ond gall fod yn ddrud. Wyddech chi, mewn cartrefi yn y DU, ein bod yn defnyddio mwy o ynni i wresogi ein hystafelloedd nag ar gyfer unrhyw ddiben arall – yn y cartref arferol mae 62% o’r holl ynni a ddefnyddiwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwresogi. Mae hyn hefyd yn golygu ein bod yn treulio llawer o arian ar gadw’n gynnes yn ein cartrefi, ar gyfartaledd mae cartrefi’r DU yn gwario £750 y flwyddyn ar nwy (y tanwydd mwyaf cyffredin ar gyfer gwresogi cartrefi). Ond mae yna bethau y gallwch eu gwneud i helpu i leihau’r gost o gadw’n gynnes; 10

www.cartreficonwy.org

• Gwnewch yn siŵr bod eich thermostat wedi ei osod ar y tymheredd cywir. Tua 18o sy’n cael ei argymell, a gallai ei godi 1o ychwanegu £75 y flwyddyn at eich bil • Ceisiwch gael gwared ar ddrafftiau. Mae drafftiau oddi wrth ddrysau a ffenestri yn golygu bod gwres yn dianc o’ch cartref. Gall camau atal drafftiau syml a llenni trwchus helpu i gadw’r gwres i mewn. • Newid eich cyflenwr. Os nad ydych wedi cymharu eich darparwr ynni na’ch cynllun ers dros 12 mis, yna gallech fod yn talu mwy nag y dylech. Gallai rhai cwmnïau arbed cannoedd o bunnoedd y flwyddyn ichi.


HELPU I LEIHAU LLWYDNI Y gaeaf hefyd yw’r amser o’r flwyddyn pan all llwydni gronni yn ein cartrefi, ond mae’n hawdd ei reoli drwy ddilyn rhai camau syml fel, sychu anwedd ar unwaith neu’n well fyth atal anwedd rhag cronni drwy agor awyrellau neu ffenestr fach er mwyn i’r aer lifo, yn enwedig ar ôl defnyddio’r bath neu’r gawod neu wrth sychu dillad. Mae gennym becyn ‘Help Reduce Mouldy’ sydd ar gael am ddim sy’n rhoi awgrymiadau bach ar sut i gadw llwydni draw. Efallai bod gennych un o’r pecynnau hyn yn barod, ond os nad oes, ffoniwch 0300 124 0040 i ofyn am un heddiw.

yn cadw ein s u n n ia d d y llw wedi bod yn m y d y rc Peulwys. R ! a u h a M d m ia y h c r 17 fa dw r 2016 Llongy rdd a’r gyufe am gymryd yr amser i ga e W g a fl F s b Statw da iawn i baw eithio ac i chwarae... c a r w fa n y ,iw Diolch le gwych i fyw n y d e n u m y eich c 0300 124 0040

11


IG I DDATHLU A NADOLIG – AMSER ARBENN FAN GOLEUO EICH CARTREF CY

OND BYDDWCH YN OFALUS! • Goleuadau bach – cofiwch ddefnyddio’r ffiwsys iawn a’u diffodd pan ewch i’r gwely • Peidiwch byth â gorlwytho socedi trydan.

• Peidiwch byth â gadael cannwyll yn llosgi yn ystafell plentyn • Peidiwch â gadael ystafell lle mae cannwyll yn llosgi

• Peidiwch â defnyddio eich popty i gynhesu eich cartref

• Cofiwch ddiffodd canhwyllau bob amser cyn ichi fynd i gysgu neu pan fyddwch yn mynd allan

• Peidiwch ag yfed alcohol pan fyddwch yn coginio

• Cadwch ganhwyllau sy’n llosgi allan o afael plant ac o gyrraedd anifeiliaid anwes

• Peidiwch â gadael bwyd sy’n coginio

Os ydych mewn unrhyw amheuaeth neu os hoffech gael mwy o gyngor, cysylltwch â Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 0300 124 0040 i drefnu Archwiliad Diogelwch Cartref am ddim

• Blanced drydan – ydy hi’n ddiogel i’w ddefnyddio • Gofalwch fod eich larymau mwg yn gweithio

RHYBUDD AM FATRIS LITHIWM-ION Mae’r batris hyn sydd i’w cael mewn Ffonau, E-Sigaréts a gliniaduron (ymhlith dyfeisiau eraill) wedi cael llawer o sylw yn y cyfryngau yn ddiweddar. Un ddyfais sydd wedi cael cryn sylw yw ffôn Samsung Galaxy Note 7 a alwyd yn ôl, a’i ganslo’n ddiweddarach, oherwydd problem gyda’r batris yn gorboethi ac, ar adegau, yn mynd ar dân. Fel rheol gyffredinol, gellir ystyried bod y batris hyn yn anniogel os cânt eu gordrydanu, os ydynt yn gorboethi neu os cânt eu difrodi mewn unrhyw ffordd. Mae’n bosibl na fydd offer trydanu rhad gan gyflenwyr di-frand, neu a fwriedir i drydanu batris eraill, yn trydanu batris Lithiwm-Ion yn iawn, os ydynt yn gweithio ar foltedd rhy uchel, neu os nad ydynt yn rheoleiddio’r broses drydanu’n iawn, gallant arwain at ordrydanu. Gall hyn arwain at iddynt fynd ar dân. 12

www.cartreficonwy.org

Mae yna hefyd risg y gallech or-drydanu “E-sigaréts” sydd fel arfer ag amseroedd trydanu byr iawn (dim ond ychydig oriau i rai) ac er bod llawer o E-Sigaréts yn atal gor-drydanu, mae’n deg dweud bod hwn yn ddiwydiant cymharol newydd, ac na fyddai’r rhan fwyaf o bobl yn gwybod pa frand sydd ag “enw da”. Gallai trydanu un o’r E-Sigaréts hyn nad ydynt wedi’u gwneud cystal gynyddu’r risg o or-drydanu a thân yn sylweddol.

FF YNONELLAU http://www.samsung.com/uk/note7exchange/ http://www.bbc.co.uk/news/business-37618618 http://www.samsung.com/uk/note7exchange/


0300 124 0040 13


CYSTADLEUAETH ENWI EIN MASGOTIAID GWERTH £50 O DALEBAU SIOPAU’R STRYD FAWR I’W HENNILL Bydd llawer ohonoch eisoes wedi gweld aelodau newydd teulu Cartrefi Conwy – ein Masgotiaid Lliwgar… Ond yn awr mae arnom angen enwau lliwgar i gyd-fynd â’u cymeriadau lliwgar. Mae gennym MR CRWBAN TŶ? Sy’n ein helpu i hyrwyddo ein cartrefi a’n gwasanaethau i denantiaid MISS RHEOLI CADW MI GEI? Sy’n ein helpu i annog tenantiaid i fod yn drefnus gyda’u harian MRS GWOBRAU CARTREF? Sy’n ein helpu i hyrwyddo ein rhaglen sy’n gwobrwyo tenantiaid am dalu eich rhent, gwneud eich

DIWEDDARIAD AR AROLWG O FODDHAD TENANTIAID 2016 Diolch yn fawr am yr ymateb gwych i’n Harolwg o Foddhad Tenantiaid a anfonwyd atoch yn ystod mis Awst. Rydym wrthi’n edrych ar eich atebion, eich sylwadau a’ch awgrymiadau er mwyn ein helpu i barhau i wella a bodloni eich anghenion i’r dyfodol. Bydd adborth ar ganlyniadau’r arolwg yn cael ei gyhoeddi yn y dyfodol agos ar ein gwefan, a cheir hefyd ddiweddariad mewn cylchlythyr yn y dyfodol. 14

www.cartreficonwy.org

rhan, gofalu am eich cartref (ac, yn dod yn fuan, am ddefnyddio ein gwasanaethau ar-lein).

PA ENWAU FYDDECH CHI’N EU RHOI IDDYN NHW? Anfonwch eich syniadau, a chofiwch roi gwybod i ni pa enw rydych wedi’i roi i bob un, i’r: Tîm Cyfathrebu, Cartrefi Conwy, Morfa Gele, Parc Busnes Gogledd Cymru, Abergele, Conwy, LL22 8LJ neu e-bostio communications@cartreficonwy.org neu ewch i Facebook Y dyddiad cau ydy 16 Ionawr 2017. Cofiwch gynnwys eich enw, eich cyfeiriad a’ch rhif ffôn.

BYW HEB OFN Os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod yn dioddef cam-drin domestig, trais rhywiol neu fath arall o drais yn erbyn menywod, gallwn eich helpu i ddod o hyd i’r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Linell Gymorth Byw Heb Ofn: 0808 8010 800 Ebost: gwybodaeth@llinellgymorthbywhebofn.cymru


Yn ddiweddar fe wnaeth Lleisiau@Cartrefi gynnal digwyddiad arddangos yn dathlu blwyddyn wych o gymryd rhan a gwneud gwelliannau i’n gwasanaethau. Gyda’r tymheredd gyda’r nos y tu allan yn gostwng bu’r preswylwyr yn mwynhau powliad o gawl poeth wrth iddynt edrych yn ôl ar yr hyn a gyflawnwyd yn ystod y flwyddyn a siarad am syniadau i’r dyfodol er mwyn dal i gymryd rhan. Cafwyd paned a chacen wrth i’r preswylwyr bleidleisio i benodi Cadeirydd ac Isgadeirydd newydd ar gyfer y panel craffu. Llongyfarchiadau i John Roberts o Landrilloyn-rhos a benodwyd yn Gadeirydd ac Yvonne Hicks a benodwyd yn Is-gadeirydd. Mae gan y ddau flynyddoedd lawer o brofiad o fod yn rhan o grwpiau tenantiaid ac o wneud gwahaniaeth drwy ddweud eu dweud.

Mae yna sawl ffordd ichi wneud eich rhan a dweud eich dweud yn Cartrefi Conwy drwy: • Lleisiau@Cartrefi, • Cymryd rhan mewn arolygon • Mynd i ddigwyddiadau • Cymryd rhan mewn ymgynghoriadau • Gweithgareddau cymdeithasol wythnosol sy’n cael eu cynnal mewn nifer o ganolfannau cymunedol • Cyfleoedd i Wirfoddoli, Meithrin Sgiliau a chael Gwaith • Ymweld â’n swyddfeydd • Siarad â Gwasanaethau i Gwsmeriaid ynglŷn â gwaith trwsio

ar-lein newydd. Bydd y panel craffu’n edrych ar ein proses gwyno.

GW YLIWC H

Yn gynnar y flwyddyn nesaf bydd Lleisiau@ Cartrefi yn edrych ar ein gwefan newydd ac yn ein helpu i weld pa mor hawdd ydyw i denantiaid ei defnyddio a chael y gorau o’r gwasanaethau

https://vimeo.com/173766260

CARTREF CLWB PÊL-DROED Y RHYL I’R LILYWHITES Rydym yn falch o noddi Clwb Pêl-droed y Rhyl ac mae gennym docynnau tymor teulu ar gael i denantiaid allu gwylio’r ‘Lilly Whites’ yn chwarae gweddill eu gemau cartref y tymor hwn. Hefyd, a fyddai gan eich plentyn ddiddordeb mewn bod yn fasgot pêl-droed? Mae gennym gyfle gwych i ddau blentyn ym mhob gêm gartref fod yn fasgotiaid ar ddiwrnod y gêm ar y cae ac fe fyddant yn derbyn pecyn Clwb Pêl-droed y Rhyl am ddim hefyd.

Os oes gennych ddiddordeb mewn tocynnau neu mewn bod yn fasgot, ffoniwch 0300 124 0040 a gofynnwch am gael siarad â’r Tîm Cyfathrebu neu e-bostiwch communications@cartreficonwy.org http://www.rhylfc.co.uk/teams/Rhyl-FC/ Fixtures_Results

CADW CYSYLLTIAD Cadw cysylltiad a chael y wybodaeth ddiweddaraf drwy fynd i’n Gwefan a’n tudalen Facebook neu gallwch gysylltu â ni ar 0300 124 0040 i gael gwybod mwy…

 @OfficialCartrefiConwy

0300 124 0040



www.cartreficonwy.org 0300 124 0040 15


I L O E H R D D R W B R I’ I D PENO Ar ôl darllen ein herthygl yn yr haf am ein swydd wag i denant fod yn aelod o’r bwrdd, cysylltodd Sarah Bennett-Evans â’r tîm Llywodraethu i gael gwybod mwy am y rôl. Ar ôl cyflwyno cais cynhwysfawr a chael ei chyfweld gan banel oedd yn cynnwys aelodau’r bwrdd a Chadeirydd y panel craffu tenantiaid, penodwyd Sarah gan y Bwrdd a dechreuodd yn ei rôl ar 3 Hydref 2016. Mae 15 aelod ar Fwrdd Cartrefi Conwy a swyddi di-dâl yw pob penodiad i’r Bwrdd. Y 5 TENANT SY’N GWASANAETHU AR Y BWRDD YW; Robert Redhead, sy’n cynrychioli’r Bwrdd ar y Grŵp Llywio Iechyd a Diogelwch ac mae hefyd wedi cael ei benodi i’r Pwyllgor Datblygu a’r Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg Elwen Roberts, sydd hefyd yn eistedd ar Fwrdd ein his-gwmni, Creu Menter

Colin Matthews, sydd hefyd yn gwasanaethu ar y Pwyllgor Gweithrediadau a’r Pwyllgor Tâl ac Enwebiadau Bill Hunt, a benodwyd yn ddiweddar yn Gadeirydd ar y Pwyllgor Gweithrediadau Sarah Bennett-Evans Caiff aelodau’r Bwrdd wasanaethu am uchafswm o 9 mlynedd. Gofynnir i aelodau’r bwrdd sy’n denantiaid ymddeol yn eu tro bob 3 blynedd dreigl. Mae hyn yn golygu bod swyddi gwag yn codi o bryd i’w gilydd. Rydym yn awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â diddordeb mewn bod yn aelod o’r Bwrdd a gallwn gynnig hyfforddiant a datblygiad parhaus i helpu’r rheini sydd ag amser i ymrwymo i rôl o’r fath, gan fod hyn yn helpu i sicrhau y gallwn lenwi swyddi gwag cyn gynted â phosib’ wrth iddynt godi.

Aelodau ein sialens ‘M Bwrdd yn cymr y d rhan yn annequin ’ ac helpu £500 a’r i godi dro gyfer Pla s nt Mewn Angen

16

www.cartreficonwy.org


GWELEDIGAETH AR GYFER 2020 YN YMRWYMEDIG I RAGORIAETH Dros y 7 mlynedd ddiwethaf, mae Cartrefi Conwy wedi bod yn creu cymunedau i fod yn falch ohonyn nhw, ac mae gennym ni heddiw dros 3,700 o eiddo drwy Ogledd Cymru. Rydym ni’n parhau i dyfu, dyheu ac edrych tuag at y dyfodol. Rydym ni’n croesawu newidiadau mewn ffyrdd o fyw,

yr amgylchedd a thechnoleg, ac rydym ni’n gweithio’n agosach gyda’n cwsmeriaid heddiw nag a fuom erioed o’r blaen. Mae Cartrefi Conwy yn parhau i edrych tuag at y dyfodol. Rydym ni’n angerddol ac wedi ein hymrwymo i greu cymunedau sy’n ffynnu. Dros y 5 mlynedd nesaf, byddwn ni’n ymroi i gefnogi ein holl gwsmeriaid wrth sicrhau bod ein gwasanaethau yn cynnig gwerth am arian ac yn cael yr effaith fwyaf ar ddefnyddwyr gwasanaethau a chymunedau.

Gwasanaethau Pobl Bydd gwasanaethau a boddhad cwsmeriaid yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Cartrefi Conwy. Wrth weithio’n agos gyda’n cwsmeriaid, byddwn ni’n defnyddio’r mewnwelediadau pwysig hyn yn ddeallus er mwyn helpu i ddatblygu a chyflawni gwasanaethau a chymorth a fydd yn cwrdd ag anghenion unigol bob cwsmer. Ein nod yw darparu gwasanaethau, profiadau a chynnyrch neilltuol i’r cwsmeriaid. Bydd gwasanaethau a boddhad cwsmeriaid yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Cartrefi Conwy. Wrth weithio’n agos gyda’n cwsmeriaid, byddwn ni’n defnyddio’r mewnwelediadau pwysig hyn yn ddeallus er mwyn helpu i ddatblygu a chyflawni gwasanaethau a chymorth a fydd yn cwrdd ag anghenion unigol bob cwsmer.

Mae’r galw am dai ac anghenion amrywiol y cwsmeriaid yr ydym ni’n eu gwasanaethu yn parhau i dyfu. Mae Cartrefi Conwy yn datblygu ei bortffolio eiddo yn weithredol, yn Sir Conwy a thrwy’r rhanbarth fel ei gilydd, er mwyn sicrhau y gallwn ni gynnig amrediad o gartrefi fforddiadwy o ansawdd a chefnogi adfywio cymunedau.

Ein nod yw darparu gwasanaethau, profiadau a chynnyrch neilltuol i’r cwsmeriaid.

Mae sicrhau ein bod yn gweithredu busnes hyfyw a’n bod yn cael ein cydnabod fel partner dibynadwy a chyflogwr o ddewis i gyd yn bwysig iawn i Cartrefi Conwy. Rydym ni’n dymuno mwyhau cyfleoedd drwy weithio’n fwy creadigol gyda phartneriaid dibynadwy drwy strwythurau masnachol a mentrau cymdeithasol.

Customer service and satisfaction will continue to be a priority for Cartrefi Conwy, working closely with our customers, we will intelligently use these important insights to help develop and deliver services and support which meets the individual needs of every customer.

Er mwyn sicrhau ein bod yn darparu ein holl gwsmeriaid gyda’r cartref delfrydol, mae Cartrefi Conwy yn darparu amrediad eang o wasanaethau ac arbenigedd sy’n cael eu cynnig er mwyn helpu cynnal ein portffolio eiddo sy’n parhau i dyfu. Ein nod yw darparu gwasanaeth a chefnogaeth eiddo eithriadol sy’n helpu i gwrdd ag anghenion tai ar gyfer unigolion a’r gymuned fel ei gilydd.

Our aim is to provide outstanding customer services, experiences and products.

Ein nod yw adeiladu ar ein henw da dibynadwy a pharhau i fod y busnes creadigol, effeithiol, effeithlon a llwyddiannus yr ydym ni heddiw.

The demand for housing and the diverse needs of the customers we serve continues to grow. Cartrefi Conwy is actively developing its property portfolio, both in the county of Conwy and across the region, to ensure we can offer a range of quality, affordable homes and support community regeneration. Making sure we operate a viable business and are recognised as a trusted partner and employer of choice are all very important to Cartrefi Conwy.

To ensure we provide all our customers with the ideal home, Cartrefi Conwy provide a wide range of services and expertise that are offered to help maintain our ever-growing property portfolio. Our aim is to provide exceptional property service and support that helps meet both the individual and local housing needs.

We want to maximise opportunities by working more creatively with trusted partners through commercial and social enterprise structures. Our aim is to build on our trusted reputation and continue to be the creative, effective, efficient and successful business we are today.

0300 124 0040 17


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.