Gyda'n Gilydd Rhifyn Gaeaf 2019

Page 1

Y W N O C I F E R T R A C

D D Y L I G N ’ A D Y G F 2019 RHIFYN Y GAEA

Mae ein Llawlyfr i Denantiaid wedi mynd yn ddigidol Mae eich llawlyfr yn cynnwys popeth sydd angen i chi wybod a sut i wneud y mwyaf o fod yn denant gyda Cartrefi Conwy. Darllenwch ar-lein

www.cartreficonwy.org neu ar ap MyCartrefi.

holl n Newydd dda i’n y d yd lw B a n e lig Llaw Dymunwn Nado alen 5) wch fwy ar dud n le rl a (D . d d e o ulu denantiaid a’u te

n Hefyd y tu mew Blwyddyn anhygoel i Creu Menter Darllenwch fwy ar dudalen 3

ymholiadau@cartreficonwy.org • Gwasanaeth Cwsmer: 0300 124 0040 Mae pob galwad gyda Gwasanaethau Cwsmeriaid yn cael eu cofnodi • Mae copïau sain o’r newyddlen hon ar gael

14540 Cartrefi Newsletter Winter 2019 Welsh.indd 1

19/12/2019 10:44


Ymgysylltu â’r Gymuned yn Cartrefi Conwy Mae gennym dîm ymgysylltu â’r gymuned sy’n hyrwyddo, annog a chefnogi cyfleoedd ar gyfer ein tenantiaid a’r cymunedau maent yn byw ynddynt. Rydym yn canolbwyntio ar:

Oeddech chi’n gwybod? Mae dros 250 o denantiaid yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ac mae gennym dros 20 o grwpiau cymunedol gweithredol Awydd cymryd rhan? Darganfyddwch fwy ar ein gwefan www.cartreficonwy.org

LAIS Y TENANTIAID - cael barn y tenantiaid ar yr hyn rydym yn ei wneud yn dda a’r hyn allwn wella GWEITHREDU YN Y GYMUNED - cefnogi gweithgareddau cymunedol i ddod a phobl ynghyd DATBLYGIAD PERSONOL - gweithio gyda thenantiaid i fynd i’r afael â materion sy’n cyfyngu yr hyn y gallwch wneud yn eich bywyd o ddydd i ddydd IECHYD A LLES - Gwella lles ac iechyd meddwl a chorfforol cyffredinol pobl

Cymerodd hanner cant o denantiaid ifanc ran yn ein cynllun Clwb Traeth yng Nghanolfan Chwaraeon Dŵr Bae Colwyn.

Eich helpu i fyw gyda straen Mae nifer o’n tenantiaid yn dweud wrthym ni eu bod yn teimlo’n well ac yn gallu delio â materion maent yn eu hwynebu ar ôl cymryd rhan mewn gweithgareddau i helpu lleihau straen. Mae Lydia, o’r tîm ymgysylltu â’r gymuned yn cynnal gwahanol weithgareddau sydd am ddim i denantiaid. Mae hyn yn cynnwys:

Tenantiaid yn cymryd rhan mewn sesiynau therapi symudiad ystyriol ac yn dysgu sut i ddelio â straen.

• Symudiad ystyriol ac Ymlacio • Therapi Celf • Grwpiau Cerdded • Myfyrdod ‘Gong Bath’ Cysylltwch â Lydia 0300 124 0040 ac ymunwch â ni, rydych yn sicr o deimlo’n well. Derbyniwch y wybodaeth ddiweddaraf am eich ardal ar ein gwefan neu dudalennau Facebook.

2

14540 Cartrefi Newsletter Winter 2019 Welsh.indd 2

Mae’r grŵp cerdded yn mwynhau’r awyr iach a’r golygfeydd syfrdanol, rydyn ni’n cael ein difetha am ddewis yng Ngogledd Cymru. www.cartreficonwy.org

19/12/2019 10:44


Yn ddiweddar, cawsom ein henwi fel: • Y Cwmni Adeiladu sy’n Tyfu Gyflymaf yng Nghymru • Y Cwmni sy’n Tyfu Gyflymaf yng Ngogledd Cymru • Y trydydd Cwmni sy’n Tyfu Gyflymaf yng Nghymru! Eleni, mae Creu Dyfodol wedi: • Cefnogi 87 o bobl i fynd yn ôl i’r gwaith – roedd 32 ohonynt yn denantiaid • Dros 200 o bobl wedi mynychu ein ffeiriau swyddi • 39 o wirfoddolwyr wedi rhoi 3,521 awr o’u hamser • derbyn cyllid gan CITB i gynnal Cyrsiau Pasbort i Adeiladu • 14 o denantiaid wedi cael eu cyflogi drwy’r academi gyflogaeth

Mae Teresa yn fam ifanc a oedd am roi hwb i’w sgiliau swyddfa. Fel tenant llwyddodd i wirfoddoli trwy Creu Menter gyda thîm Gwasanaeth Cwsmeriaid Cartrefi Conwy. Daeth Theresa o hyd i hyder newydd, enillodd gymwysterau newydd yn ystod ei hamser yno gan gynnwys diogelu a hyfforddiant digidol. Trwy wirfoddoli aeth Theresa ymlaen i ddod o hyd i gyflogaeth ac mae hi bellach yn gydweithiwr gwerthfawr yn Cartrefi Conwy sy’n gweithio yn y tîm Llywodraethu. Darllenwch fwy o’n Straeon Go Iawn Bobl ar ein gwefan a Facebook

Creu eich dyfodol gyda’n Hacademi yn 2020 Os ydych yn chwilio am swydd newydd, eisiau cymorth gyda’ch CV, cwrdd â phobl newydd neu dderbyn cymorth i adeiladu eich hyder, gall ein tîm yn ein Hacademi Gyflogaeth eich cynorthwyo! Mae gan yr Academi Gyflogaeth unigryw hon gaffi swyddi rheolaidd, bwrdd swyddi gwag a chyfrifiaduron i’w defnyddio AM DDIM. www.creatingenterprise.org.uk 01492 588980 employmentacademy@creatingenterprise.org.uk Ar agor ddydd Llun i ddydd Gwener 10yb-12yp, 2yp-4yp ym Mochdre 3

14540 Cartrefi Newsletter Winter 2019 Welsh.indd 3

19/12/2019 10:44


Bod yn ddiogel yn eich cartref gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ers dros 5 mlynedd yn rhoi help a chefnogaeth a allai achub bywyd i chi. Mae llwyddiant y cynllun yn dibynnu ar allu siarad gyda thenantiaid yn eu cartrefi er mwyn canfod unrhyw bryderon am eu diogelwch a lles, a’ch cynorthwyo i gymryd camau i wella hyn. Pryd oedd y tro diwethaf i chi gael Archwiliad Diogel ac Iach yn eich cartref? Os oes blwyddyn wedi mynd heibio, cysylltwch er mwyn archebu un heddiw 0300 124 0040

Cofiwch os ydych chi’n gweld risg iechyd a diogelwch lle rydych chi’n byw, rhowch wybod i ni!

David Emmins o Bryn Castell yn helpu ei Gydlynydd Byw’n Annibynnol Ceri Davies i brofi’r larwm tân cymunedol bob wythnos. Mae David yn tawelu’r larwm tra bod Ceri yn gwneud ei gwiriadau. Os yw Galw Gofal yn galw mae’n gadael iddyn nhw wybod ei fod yn brawf. Roedd David yn borthor ysbyty, lle gwnaeth hyfforddiant diogelwch tân gyda’r GIG. Diolch am wneud hyn David.

Bod yn ddiogel yn eich cartref Mae eich iechyd a diogelwch yn bwysig iawn i ni. Grŵp Craffu Mae Laura’n gweithio’n agos gyda’ch grŵp craffu tenantiaid. Mae’r grŵp o denantiaid yn adolygu ein gwasanaethau ac yn edrych yn fanwl ar yr hyn rydym yn ei wneud yn dda a’r hyn y gallwn wella. Eleni, maent wedi bod yn edrych ar ein prosesau diogelwch a thân. Lluniodd y grŵp adroddiad sy’n rhoi rhestr o gamau gweithredu er mwyn gwella, a gofynnwyd i ni atgoffa tenantiaid: Cofiwch Os ydych chi’n byw mewn bloc o fflatiau neu mewn cartref sydd â llwybr i mewn ac allan sy’n cael ei rannu, rhaid iddynt gael eu cadw’n glir bob amser.

Hoffwn ddiolch i denantiaid am ddeall ein rhesymau dros wneud hyn i’ch cadw’n ddiogel os oes tân neu argyfwng arall. Ocsigen ar Bresgripsiwn Os oes gennych ocsigen ar bresgripsiwn gan eich meddyg yn y cartref, mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni! Gwaith trydan A oes unrhyw un ar wahân i Gartrefi Conwy neu ein contractwyr, wedi cyflawni unrhyw waith gosod mesurydd neu drydan yn eich cartref, er enghraifft Sky? Os oes, rhowch wybod i ni! Rhaid i ni wirio nad yw’r gwaith hyn yn gwneud eich cartref yn llai diogel mewn digwyddiad o dân.

Rydym wedi cael gwybod bod rhaid gwneud hyn gan ein Haseswyr Perygl Tân cymwys a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, oherwydd: • y lefel o berygl tân; • eitemau yn achosi rhwystrau mewn argyfwng

4

14540 Cartrefi Newsletter Winter 2019 Welsh.indd 4

www.cartreficonwy.org

19/12/2019 10:44


Mae ein swyddfeydd ar gau drwy gydol cyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd Bydd ein swyddfeydd yn cau o 2:00yp ddydd Mawrth, 24 Rhagfyr ac yn ail-agor am 8:45yb ddydd Iau, 2 Ionawr. Bydd rhai o’n gwasanaethau hanfodol yn dal i weithredu. Cofiwch, os ydym wedi cau, gallwch gysylltu â ni ar-lein ar www.MyCartrefi.org neu drwy’r Ap MyCartrefi er mwyn: • Rhoi gwybod am waith atgyweirio • Gwneud Taliad • Gweld eich datganiadau rhent a mwy... Os oes gennych argyfwngŷyn ystod y cyfnod hwn, ffoniwch 0300 124 0040 unrhyw adeg, dydd neu nos. Nadolig Llawen a byddwch yn ddiogel... Mae dros 1,000 o’n tenantiaid bellach yn defnyddio MyCartrefi i dalu eu rhent a rheoli eu tenantiaeth. Dyma’r ffordd hawsaf a chyflymaf i dalu’ch rhent. Cofrestrwch nawr yn www.MyCartrefi. org neu chwiliwch am App MyCatrefi yn eich siop App.

Nid yw gofyn am gymorth a chefnogaeth yn costio dim i chi Yn Cartrefi Conwy, mae gennym ni dîm budd-daliadau lles a chymorth ariannol penodol sy’n cynnig help i denantiaid a theuluoedd ar draws y rhanbarth. Gallent eich helpu i hawlio’r holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt. Eleni, maent wedi cefnogi 320 o denantiaid i gael mynediad at dros £305,000 o incwm ychwanegol. Maent yn cynnal sesiynau galw heibio bob wythnos yn Nhŷ Cymunedol Rhodfa Caer ym Mae Cinmel ac yn ein swyddfa ym Madoc Street, Llandudno. Gallwch hefyd gysylltu drwy: anfon e-bost at welfarebenefits@cartreficowny.org, ffonio 0300 124 0040 a gofyn i gael siarad â Liza neu Danielle, neu lenwi ffurflen hunanatgyfeirio ar-lein.

14540 Cartrefi Newsletter Winter 2019 Welsh.indd 5

Ydych chi’n ei chael yn anodd ar Gredyd Cynhwysol? Galwch heibio i siarad gyda ni ar: • Sut i wneud cais • Eich manylion rhent • Eich swm Credyd Cynhwysol Katy yw ein Cydlynydd Credyd Cynhwysol, ac mae’n cynnal sesiynau bob dydd Mawrth yng Nghanolfan Waith Llandudno, neu bob dydd Gwener yng Nghanolfan Waith Bae Colwyn rhwng 1:30yp - 4:30yp, neu ffoniwch 0300 124 0040 a gofynnwch am Katy.

Dyma ddiweddariadau Credyd Cynhwysol defnyddiol Taliadau ymlaen llaw Gallwch ond ymgeisio am daliad ymlaen llawn arlein os ydych wedi cael cyfweliad yn y ganolfan waith yn unig. Mae hyn er mwyn lleihau lefelau twyll a brofwyd yn gynharach yr haf hwn. https://www.gov.uk/credyd-cynhwysol/caeltaliad-ymlaen-taliad-cyntaf

Costau Gofal Plant Os ydych wedi derbyn cynnig am swydd, gallwch hawlio costau gofal plant am y mis cyn i chi ddechrau gweithio. Siaradwch â’ch hyfforddwr gwaith cyn gynted â phosibl am eich cynnig swydd, a’r opsiynau cymorth sydd ar gael. Os yw eich swydd yn dod i ben, rhaid i chi roi gwybod i’r Adran Gwaith a Phensiynau ar unwaith. Gellir hawlio cymorth am gostau gofal plant am o leiaf mis ar ôl i’ch cyflogaeth ddod i ben, er mwyn eich cynorthwyo i gynnal eich gofal plant wrth i chi symud o un swydd i’r llall. https://publications.parliament.uk/pa/cm201719/ cmselect/cmworpen/1771/177105.htm https://inews.co.uk/inews-lifestyle/money/flexiblesupport-fund-universal-credit-benefits-how-applyfsf-eligibility-explained-494627

5

19/12/2019 10:44


Am lanast Rydym wedi sefydlu tasglu arbennig i edrych ar ffyrdd newydd o ddelio â rheoli gwastraff ger ein cartrefi. Rydym wedi cyflwyno TCC mewn ardaloedd lle mae tipio anghyfreithlon yn broblem. Cyfrifoldeb y tenant ei hun yw defnyddio’r biniau cywir ar gyfer eu sbwriel a byddem yn eich annog i roi gwybod i ni os byddwch yn gweld aelodau’r cyhoedd yn cael gwared ar sbwriel mewn modd anghyfreithlon er mwyn i ni weithio i atal hyn rhag digwydd.

Tipio anghyfreithlon Hefyd enillodd y clwb bysedd gwyrdd yn eu perllan ym Mae Kinmel wobr gymunedol y Faner Werdd eleni. Llongyfarchiadau pawb Tre Cwm yw’r ail ystâd dai yng Nghymru i gael Gwobr Baner Werdd - da iawn i grŵp Gweithredu Tre Cwm.

Gadael sbwriel yn y stryd neu adael bagiau bin y tu allan yn hytrach na defnyddio biniau a blychau ailgylchu yw tipio anghyfreithlon. Mae’n gwneud i’n cymunedau edrych yn flêr ac yn fudur, ac mae sbwriel wedi ei adael yn gallu bod yn berygl tân. Mae tipio anghyfreithlon hefyd yn ddrud – gallwch dderbyn rhybudd cosb benodedig o £400 am wneud, neu ddirwy o hyd at £50,000 neu 12 mis yn y carchar. Byddwn hefyd yn gweithredu yn erbyn tenantiaid Cartrefi Conwy sy’n dympio eu sbwriel. Os ydych yn cael trafferth gyda’ch sbwriel, peidiwch â’i ddympio! Cysylltwch â erf@conwy.org.uk neu 01492 575337 i ddarganfod mwy am finiau ychwanegol a chasgliadau clytiau.

Mae Cymuned Peulwys yn trefnu sesiynau casglu sbwriel i helpu eu cymuned i gadw eu statws baner werdd.

Gydag Ap Conwy, gallwch: • Dderbyn nodyn atgoffa o’ch casgliad wythnosol fel na fyddwch yn anghofio eich diwrnod casglu neu pa gynhwysyddion sy’n cael eu casglu • Derbyn rhybuddion os bydd eich casgliad wedi’i ohirio neu os bydd eich diwrnod casglu yn newid • Canfod pa eitemau y gellir eu hailgylchu a’r rhai na ellir eu hailgylchu a pha gynhwysydd i’w ddefnyddio • Canfod eich banc ailgylchu neu ganolfan ailgylchu agosaf • Gofyn am fagiau ailgylchu bwyd a llawer mwy! http://www.conwy.gov.uk/en/Resident/Recycling-andWaste/The-Conwy-App.aspx

6

14540 Cartrefi Newsletter Winter 2019 Welsh.indd 6

19/12/2019 10:44


Gwneud y mwyaf o’ch ardal Cadwch lygad ar ein tudalen Facebook, ymwelwch â’n gwefan neu ffoniwch a gofynnwch beth sydd gennym ymlaen. Efallai cewch eich synnu bod cymaint o weithgareddau i gymryd rhan ynddynt, o gerdded i goginio i fyfyrio a llawer mwy...

Lansiwyd y Trendy Travellers ym mis Awst. Maent yn cwrdd bob pythefnos ym Mae Colwyn i gael sgyrsiau, cwisiau a diwrnodau allan gyda’i gilydd. Mae croeso i bawb ffonio Colin ar 01492 518018 am wybodaeth.

Roedd diwrnod pobl hŷn eleni yn ymwneud â ‘dawnsio rownd y cloc’ a gofalu am eich tic toc…

Llwyddodd grŵp Rhoi i’ch ardal Llanrwst i gael mwy o arian i ail-lansio’r cynllun hwn. Mae preswylwyr yn rhoi eu hamser i wneud rhywbeth dros rywun yn eu cymuned ac yna cael rhywbeth wedi ei wneud yn ôl. Cysylltwch ag Allison i ddarganfod mwy ar 07753 865915

0300 124 0040

14540 Cartrefi Newsletter Winter 2019 Welsh.indd 7

7

19/12/2019 10:44


enillwyr h i’n u a d ia h rc fa y Llong

! f a r a d d e iw d f e Gwobrau Cartr

oedd o cyfle i chi ennill cann oi rh yn f re rt Ca thau u ra yddio ein gwasanae Cofiwch fod Gwob fn de t, en rh ’ch lu am da laen… bunnoedd bob mis â ni. Darllenwch ym d ra sia a f re rt ca eich ar-lein, gofalu am

Gwobrau Cartrefi Rwy’n Cymryd Rhan Rydw i’n cyfranogi raffl fawr i ennil £100 bob 3 mis

Gwobrau Cartrefi Rwy’n Talu

Gwobrau Cartrefi Rwy’n Cysylltu Rydw i wedi cysylltu raffl fawr i ennil £200 bob mis

Rwy’n Talu raffl fawr i ennil £200 bob mis

Gwobrau Cartref Rwy’n Talu £200 o arian parod am dalu’ch rhent.

Gwynne Jones gyda phreswylydd Llys Cynfran, Katie Stone a’i mab Sam sy’n rhoi high five i ni am ennill ein gwobr.

Syndod hapus iawn i’r tenant Ms Gardner enillydd ein Gwobr Cartref Rwy’n Talu Llongyfarchiadau.

Gwobrau Cartrefi Rwy’n Falch

Rwy’n falch raffl fawr i ennil £100 bob mis

Ar agor i’n holl denantiaid sydd wedi derbyn ymweliad Partner Cartref yn ystod y mis diwethaf ac sy’n gofalu am eu cartrefi a’u cadw’n lân a thaclus.

Rydym yn gorffen y flwyddyn gyda thair Gwobr Tai Cymru Roeddem mor falch ein bod wedi ennill tair gwobr yng Ngwobrau Tai Cymru Chartered Institute of Housing. Fe wnaethon ni ennill am: • Y datblygiad bach newydd gorau am Llys Cynfran yn Llysfaen • Contractwyr sy’n canolbwyntio fwyaf ar y gymuned gyda Creu Menter • Gwneud lleoedd yn bositif ar gyfer y gwaith amgylcheddol yn Nhre Cwm Hefyd anrhydeddwyd ein Rheolwr Gyfarwyddwr gyda’r wobr ymroddiad rhagorol i dai am ei 20 mlynedd o waith angerddol ym maes tai cymdeithasol.

8 0300 124 0040

14540 Cartrefi Newsletter Winter 2019 Welsh.indd 8

www.cartreficonwy.org

19/12/2019 10:44


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.