Gyda'n Gilydd Rhifyn Gwanwyn 2017

Page 1

CARTREFI CONWY

D D Y L I G N ' A D Y G RHIFYN GWANWYN

f Corydd hyna, Cymru, Sally yn taro’r nodau uchaf yn 93 oed,

i lly, sy’n nain Ymunodd S a c wyresau, â 13 o wyrion a st rs yn Llanrw te s w R y r ô Ch g nd i’r afael a fel ffordd i fy d mae hi’n aelo unigedd, ac llu wn ac yn ga poblogaidd ia odau uchaf cyrraedd y n . cystal â neb wybodaeth Cewch fwy o ar dudalen 17

! I DDOD YN FUAN

YDD GWEFAN NEW nwy.org www.cartrefico

G SYDYN CYMERWCH OLW AR DUDALEN 2

WILIO YDYCH CHI’N CH AM WAITH? DAETH WYBO CEWCH FWY O AR DUDALEN 5

MAE O’N ÔL.. . DIWRNOD ALLAN MAW R CARTREFI C ONWY!

16 AWST, 11 AM-3PM

Cewch fwy o wybodaeth ar dudalen 13 enquiries@cartreficonwy.org Gwasanaeth Cwsmer: 0300 124 0040 Mae pob galwad gyda Gwasanaethau Cwsmeriad yn cael eu cofodi Mae copiau sain o'r newyddien hon ar gael


CYMERWCH OLWG SYDYN AR EIN GWEFAN NEWYDD Mae’r wefan newydd yn cael ei lansio cyn bo hir! Rydym ni’n gobeithio y byddwch chi’n hoffi’r nodweddion newydd a gwell cymaint â ni. Bydd y wefan newydd yn hawdd i’w defnyddio, yn eich helpu i ganfod yr wybodaeth sydd arnoch chi ei hangen yn gyflym ac yn addas ar gyfer cyfrifiaduron, llechi electronig a dyfeisiau symudol. Cofiwch fynd i’n gwefan i weld: • y newyddion diweddaraf • gwybodaeth am swyddi gwag • dolenni defnyddiol, rhifau ffôn A phopeth arall sydd arnoch chi angen ei wybod am fod yn denant Cartrefi Conwy.

CYMERWCH RAN, A DYWEDWCH EICH DWEUD… Mae ein Panel Craffu yn cynnwys nifer o denantiaid sy’n cynnal adolygiadau gwasanaeth er mwyn gwella gwasanaethau ar gyfer tenantiaid. Yn ddiweddar bu iddyn nhw edrych ar y broses gwyno a gwneud nifer o argymhellion, gan gynnwys: • Sicrhau bod yr holl wybodaeth am y broses gwyno yn glir a chyson • Sicrhau bod y ffurflen a’r daflen gwyno ar gael yn swyddfeydd Cartrefi Conwy, ardaloedd cymunedol, tai cymunedol ac ar wefan Cartrefi Conwy. Mae’r Panel Craffu yn credu bod Cartrefi Conwy yn darparu proses gwyno sy’n gwella gyda llawer o arferion da. Mae Amy Garner, Rheolwr Gwasanaeth Cwsmeriaid, wedi ystyried a gweithredu ar nifer o argymhellion y panel. Bydd y panel yn adolygu’r adroddiad ymhen blwyddyn i weld pa gynnydd sydd wedi ei wneud ac i wirio a yw’r broses yn gweithio ac a yw’r targedau yn cael eu cyrraedd. Mae’r Panel Craffu bellach yn edrych ar y Gwasanaeth Atgyweirio, yn arbennig atgyweirio pethau’n iawn y tro cyntaf. Bydd y panel yn edrych ar hyn tan fis Mai 2017 ac yn rhoi trosolwg o’r canfyddiadau yn y rhifyn nesaf o Gyda’n Gilydd.

2

www.cartreficonwy.org


COFRESTRU AR GYFER CARTREF CARTREFI CONWY Yn ystod 2016 bu i ni gydweithio gyda’r Panel Craffu i edrych ar ein proses ar gyfer cofrestru darpar denantiaid. Mynychodd y grw ˆ p 4 sesiwn a oedd yn cynnwys cymryd rhan mewn ymarfer cofrestru, gweld eiddo a derbyn allweddi. Roedd yr adborth a ddarparwyd gan y grŵp yn ddefnyddiol iawn a bu i ni roi ystyriaeth fanwl i’r argymhellion:

DYWEDOCH CHI Mae angen taflen wybodaeth ar gyfer tenantiaethau cychwynnol

DYWEDOCH CHI Mae ar denantiaid angen mwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael iddyn nhw pan fyddan nhw’n mynd i weld eiddo

DYWEDOCH CHI Mae ar denantiaid newydd angen mwy o wybodaeth ar sut i reoli eu tenantiaeth cyn iddyn nhw gofrestru ac mae arnyn nhw angen mwy o gefnogaeth cyn i’r denantiaeth ddechrau

GWNAETHOM NI Mae pob tenant newydd bellach yn derbyn copi o daflen wybodaeth yn eu pecyn cofrestru sy’n egluro tenantiaethau cychwynnol

GWNAETHOM NI Rydym ni’n diweddaru’r holiadur a ddefnyddir gan staff pan fo unigolion yn cofrestru er mwyn cynnwys mwy o gwestiynau i’ch helpu chi gyda’ch cytundeb tenantiaeth

GWNAETHOM NI Rydym ni rw ˆ an yn gwirio tenantiaid cyn iddyn nhw gofrestru. Pan fo angen, byddwn yn eu cyfeirio at wasanaethau cefnogi eraill

0300 124 0040

3


BETH AM I CHI GYMRYD RHAN?

Y TÎM SY’N EICH HELPU CHI I GYMRYD RHAN

Cofiwch, mae yna sawl ffordd y gallwch chi gymryd rhan: • Grwpiau Ffocws • Arolygon Ar-lein • Arolygon drwy’r Post • Ymgynghoriadau • Grwpiau Cymunedol • Prosiectau Cymunedol • Gweithgareddau Cymdeithasol • Gwirfoddoli • Hyfforddiant a Gwella Sgiliau

Tîm Cynnwys Cymunedau

Mae Tîm Cynnwys y Gymuned Cartrefi Conwy yn gweithio ar lawr gwlad ac yn cyfarfod yn rheolaidd gyda thenantiaid i’w helpu nhw i gymryd rhan ac i ddweud eu dweud. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan, cysylltwch â’r tîm ar 0300 124 0040 neu anfonwch e-bost a email laura.thomas@cartreficonwy.org

PEIDIWCH A G ANGHOFIO , OS YDYCH C LLEISIAU CA HI’N COFRES RTREFI BYDD TRU AR GYF EICH ENW Y RAFFL ‘RW Y ER N CAEL EI GY ’N CYMRYD R N NW YS YN Y HAN’ AC FE A LLWCH CHI E NNILL £100!

DYMA GIPOLWG SYDYN O RHOWCH WYBOD I NI BETH YW SUT Y BU I CHI FEIRNIADU EIN EICH BARN AM GYFLE I ENNILL £250 GWASANAETHAU Y LLYNEDD Diolch i bawb ddaru lenwi’r arolwg bodlonrwydd Mae’ch barn yn bwysig iawn i ni ac yn gwneud gwahaniaeth, felly diolch yn fawr iawn i chi Gallwch dal gwblhau eich arolwg ar-lein ar: https://www.surveymonkey.co.uk/r/SBG8MJN Trwy law a dychwelyd yn y post. Dros y ffôn gan ffonio 0300 124 0040

• 90% o denantiaid yn fodlon gyda’r gwasanaeth a ddarparwyd gan Cartrefi Conwy. Mae hyn yn cyfateb â lefelau bodlonrwydd o arolwg 2014 ac mae’r lefel uchel o fodlonrwydd yn rhywbeth rydym yn falch ohono. • 88% o denantiaid yn teimlo bod eu rhent yn werth am arian. Rydym yn falch gyda’r canlyniad hwn gan ei fod yn gosod Cartrefi Conwy ymysg y perfformwyr gorau o gymharu â Chymdeithasau Tai eraill. • 71% o denantiaid yn teimlo bod eu taliadau gwasanaeth yn darparu gwerth am arian. Mae’r sgôr hwn yn cyfateb â mwyafrif y Cymdeithasau Tai eraill, ac mae’n faes rydym yn ceisio ei wella drwy adolygu’r gwasanaethau rydym yn eu darparu. • 88% o denantiaid yn fodlon gyda safon eu cartref ac mae 86% yn fodlon gyda’u cymdogaeth fel lle i fyw. Mae hyn yn rhywbeth rydym yn arbennig o falch ohono ac yn sicrhau bod ein cartrefi yn cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru. • 83% o denantiaid yn fodlon gyda’r gwasanaeth Trwsio a Chynnal a Chadw. Mae hyn yn debyg i ganlyniad 2014 (84%) ac rydym bob amser yn dymuno ei wella. • 74% o denantiaid yn fodlon â’r ffordd y mae Cartrefi Conwy yn gwrando ar eu barn, ac yn gweithredu arnynt. Mae hyn yn ein gosod yn agos iawn i’r Cymdeithasu Tai sy’n perfformio orau.

4

www.cartreficonwy.org


MAE CREU MENTER YN CYNNIG MWY O GYFLEOEDD I CHI Wyddoch chi fod mentrau cymdeithasol yn darparu gwasanaethau neu’n gwerthu nwyddau sy’n gwneud arian ac elw fel unrhyw fusnes arall? Ond y gwahaniaeth yw bod yr elw yn cael ei ail-fuddsoddi yn y gymuned. Bydd prosiect Cam wrth Gam Creu Menter yn cael ei lansio gyda hyn diolch i hwb ariannol o £250,00 gan y Gronfa Loteri Fawr. Mae hyn yn golygu y byddwn yn gallu darparu cyfleoedd gwirfoddoli o ansawdd uchel i helpu 30 o bobl y flwyddyn i gychwyn eu taith i gyflogaeth barhaol. WAW! Mae’r prosiect ei hun wedi creu tair swydd newydd, ac yn rhoi cyfle i denantiaid cymwys Cartrefi Conwy gymryd eu cam cyntaf tuag at gael gwaith drwy wirfoddoli gyda’r Academi Gyflogaeth. Gall hyn fod mewn rôl weinyddu, ymgysylltu â’r gymuned neu gyfathrebu, neu hyd yn oed helpu gyda digwyddiadau Cartrefi Conwy. Gallwch wirfoddoli am hanner diwrnod yr wythnos neu dridiau a mwy.

PEIDIWCH Â LLUSGO’CH TRAED, ˆ AN: CYSYLLTWCH Â NI RW

PAM GWIRFODDOLI? • Ennill sgiliau newydd a phrofiad • Gwella rhagolygon gwaith • Cwrdd â phobl newydd • Magu hyder • Mynediad i amrywiaeth o hyfforddiant A byddwch yn derbyn: • Gwisg a chyfarpar diogelu personol (os oes angen) • Treuliau ychwanegol • Cefnogaeth mentor • Cefnogaeth “mewn swydd” gan Fydi Gwaith • Datblygiad personol • Mae gwirfoddoli yn cyfrif tuag at eich oriau Lwfans Ceisio Gwaith

AC MAE’N WERTH CHWEIL Mae gennym ni raglen wobrwyo i ddiolch i chi am roi o’ch amser i wirfoddoli. Mae’r rhaglen yn seiliedig ar nifer yr oriau rydych chi wedi gwirfoddoli ac wedi ei rhannu’n dair haen, sef Efydd, Arian ac Aur. Ar ôl i chi gyrraedd pob haen byddwch yn derbyn tystysgrif ac yn gallu dewis gwobr. Mae yna hefyd ddigwyddiad blynyddol i ddathlu ac i ddiolch i bob gwirfoddolwr sydd wedi ein helpu.

Siaradwch efo Nigel Morgan i gymryd rhan yn un o fudiadau mwyaf cyffrous y sir sy’n datblygu’n gyflym. Ffon: 01745 335664 E-bost: volunteering@creatingenterprise.org.uk

inistration Joanne Lloyd volunteer adm n Lloyd assistant with mentor Ffio

0300 124 0040

5


OWAIN JONES

rillo-yni yw Owain Jones o Land em ad ac yr ar nn cy nt thu yn Un o storïau llwyddia fel ymgynghorydd gwer iol idd fre we d yd sw yn Rhos, sydd wedi derb udno. Currys PC World yn Lland Yn 2014, ar ôl cymryd amser i ffwrdd i edrych ar ôl ei fab newydd-anedig, treuliodd Owain ei ddyddiau yn chwilio ac yn chwilio am waith. Ond ofer fu. Ond, ar ôl cofrestru gyda’r Academi Gyflogaeth, fe ddechreuodd pethau wella. Dywedodd: “Roeddwn i’n gweithio am gyfnod i Crest Co-operative yn clirio eiddo ond fe adawais i aros gartref a helpu fy mhartner Kate i edrych ar ôl ein babi bach newydd, Fletcher. “Wrth iddo fynd yn hyˆ n penderfynais ei bod yn bryd i mi fynd yn ôl i weithio, ond cefais drafferth canfod unrhyw beth. Mi nes i ymgeisio am 20 swydd – o fanwerthu a gyrru faniau i waith gweinyddol – ond roeddwn i’n cael fy ngwrthod yn syth bin neu ddim yn cael ymateb o gwbl. “Mi glywais wedyn am yr Academi Gyflogaeth newydd ac felly cyflwynais gais am un o’r contractau, ac roeddwn i’n ddigon ffodus i gael fy newis. “Roeddwn i’n gweithio’n bennaf gyda’r tîm clirio eiddo yn paratoi cartrefi ar gyfer

6

www.creatingenterprise.org.uk

tenantiaid newydd, sef yr hyn yr oeddwn i’n ei wneud o’r blaen.” Rhoddwyd sgiliau newydd Owain ar waith y llynedd pan ymgeisiodd am swydd werthu yn Currys PC World. “Diolch i gymorth yr Academi mi es i’r cyfweliad yn hyderus ac mi ges i’r swydd. “Mae cael swydd unwaith eto, ar ôl bod yn ddi-waith am ychydig flynyddoedd, yn deimlad ffantastig. Mae o wir wedi newid fy mywyd, wedi rhoi rheswm i mi godi o’r gwely yn y bore ac rydw i wedi cael fy hunan-barch yn ôl. “Fyswn i ddim wedi gallu gwneud hyn heb gymorth yr Academi Gyflogaeth, ac rydw i'n argymell yr Academi i bawb."


OES ARNOCH CHI ANGEN YCHYDIG O HELP O GWMPAS Y Tyˆ? Mae gan Creu Menter wasanaeth tasgmon newydd a gwych ar gyfer tenantiaid Cartrefi Conwy? Rydym ni’n cynnig gwasanaeth dibynadwy gan rywun y gallwch chi ymddiried ynddo, a hynny am bris rhesymol o £10 yr hanner awr (yn cynnwys TAW). Felly, os ydych chi’n glanhau’ch tŷ yn llwyr ac angen rhywun i wneud mân waith neu i wneud y tasgau bychain sydd wedi bod ar eich rhestr ers misoedd, ffoniwch ni! 01745 335684.

MAE RHAI O’N TENANTIAID EISOES WEDI ELWA AR Y GWASANAETH:

“Ddydd Mawrth daeth Olly acw i roi ffelt newydd ar do fy sied. Mi ddaru o wneud joban dda a chlirio ar ei ôl a chadw’r lle’n daclus.” Tenant, St Andrew Avenue, Llandudno, Chwefror 2017 “Mae’r gwasanaeth tasgmon yn wasanaeth gwych, rydw i’n fwy na hapus gyda’r gwasanaeth a dderbyniais gan Olly, mae o’n gyfeillgar ac yn weithgar iawn, a byddaf yn defnyddio’r gwasanaeth eto ymhen ychydig.” Tenant, Cysgod y Gogarth, Ebrill 2017

MAE TIMAU CREU MENTER YN GWNEUD GWAITH DA O RAN: • Paratoi eiddo ar gyfer tenantiaid newydd • Peintio ac addurno • Cynnal a chadw cyffredinol • Gwaith ar seiliau • Cynnal a chadw systemau nwy Dyma newyddion da i denantiaid gan fod yr arbedion rydym ni’n eu gwneud drwy Creu Menter: • Yn creu swyddi newydd, • Yn gwella boddhad cwsmeriaid, • Yn golygu bod yna fwy o arian i’r fuddsoddi yn eich cartrefi • Yn helpu i godi tai newydd sydd wir eu hangen

YN CAEL LANSIO GYDA HYN! Gwefan Newydd

www.creatingenterprise.org.uk Gallwch ganfod mwy o wybodaeth am swyddi newydd gyda Chreu Menter drwy ein dilyn ni ar Facebook

01745 335684

7


CARWCH

ECYMICUNH ED

C R A P PEULWYS

CYMDOGOL D Y R B S Y G A D Y G L O G S PLANT Y S YN LLWYR Y LW U E P C R A P U A H N A YN GL Diolch yn fawr iawn i’r plant a helpodd eu cymuned i lanhau Parc Peulwys yn llwyr. Roedd ymdrechion codi sbwriel y tîm yn sicrhau bod eu stad Baner Werdd yn lân a thaclus a chafodd bawb frechdanau bacwn yn y ganolfan gymunedol ar ôl eu gwaith caled. Gwaith da iawn wir!

YMGYRCH CADWCH Y LLE’N LÂN – DIM LLANAST! Baw Cw ˆ n a Sbwriel – beth am roi terfyn ar y problemau gyda’n gilydd? Mae baw cw ˆ n a sbwriel yn rhai o’r problemau mwyaf cyffredin y mae trigolion y Fwrdeistref Sirol yn cwyno amdanyn nhw wrth y Cyngor. Mae sbwriel yn difetha ein hardal hardd ac mae methu cael gwared ar faw ci yn briodol yn drosedd afiach y mae’r Awdurdod Lleol yn ei chymryd o ddifrif. Mae’n annymunol yn ogystal â pheryglus. Pan fo perchnogion anghyfrifol yn gadael baw cw ˆ n ar lawr, heb ei godi a'i roi yn y bin priodol, gall fynd ar esgidiau, dillad, cadeiriau olwyn, beiciau, pramiau a theganau. Mae’n difetha mwynhad pobl eraill o’r gymdogaeth a’r mannau cyhoeddus. 8

www.cartreficonwy.org

Gall baw cw ˆ n hefyd achosi clefydau, yn arbennig tocsocariasis (haint parasitig sy’n effeithio ar blant ac, mewn rhai achosion, yn arwain at ddallineb). Mae taflu sbwriel a pheidio â chlirio baw cw ˆ n yn wrthgymdeithasol yn ogystal ag anghyfreithiol. Mae systemau gorfodi cadarn ar waith gyda Swyddogion Gorfodi yn patrolio ardaloedd problemus ac yn cyflwyno dirwyon cosb benodedig i unrhyw un maen nhw’n ei ddal yn torri’r gyfraith. Serch hyn, mae yna bobl yn dal yn taflu sbwriel ac ddim yn clirio baw eu cw ˆ n.


CADWCH Y LLE’N LÂN - DIM LLANAST Mae Llysgenhadon Conwy yn cael eu cyflogi i addysgu pobl a chodi ymwybyddiaeth o ailgylchu a phroblemau baw cw ˆ n a sbwriel mewn ysgolion, grwpiau cymunedol a chymdeithasau trigolion yn ogystal â gyda thenantiaid cymdeithasau tai. Byddwch yn gweld y llysgenhadon allan o gwmpas mewn digwyddiadau yn darparu gwybodaeth a chyngor yn ogystal â bagiau baw cw ˆn a stybis ar gyfer bonion sigaréts. Ond, er mwyn i’r ymgyrch fod yn llwyddiannus, mae arnom ni angen eich cymorth chi i roi terfyn ar y problemau yma. Gallwch roi gwybod am broblemau ar-lein yn www.conwy.gov.uk/litter Rhif ffôn: : 01824 706275 neu E-bost: bawcwn@conwy.gov.uk

Am ragor o wybodaeth am gw ˆ n, baw cw ˆ n a Gorchmynion Rheoli Cw ˆn ewch i: www.conwy.gov.uk /cw ˆn

RHYBUDD - TIPIO ANGHYFREITHLON A GADAEL EICH SBWRIEL AR OCHR Y FFORDD Fel y gwyddoch chi efallai, mae’r Cyngor wedi bod yn ymchwilio i broblemau tipio anghyfreithlon a gwastraff sy’n cael ei adael ar ochrau ffyrdd yn Nhre Cwm, Llandudno ac mewn mannau eraill yn y sir. Mae swyddogion y Cyngor yn ymchwilio i bob cwyn ac yn chwilota drwy’r gwastraff sy’n cael ei adael ar ymylon ffyrdd a llwybrau ac mewn mannau parcio wrth ymyl biniau ailgylchu i ganfod tystiolaeth. Mae’r swyddogion yn cynnal mwy o batrolau ac yn defnyddio TCC i ganfod pwy sy’n gyfrifol. Camau gorfodi a gymerir mewn perthynas â’r materion hyn: • Rhoi rhybudd ffurfiol • Dirwy cosb benodedig o £75 • Erlyniad

Mae gwaredu gwastraff yn briodol yn ddyletswydd ar bawb. Mae hyn yn golygu ailgylchu beth fedrwch chi a sicrhau bod y gweddill yn ffitio i mewn i’ch bin neu ei waredu mewn modd priodol h.y. mynd â’ch gwastraff i’r domen eich hun neu dalu cwmni cymeradwy i wneud hynny drosoch chi (byddwch yn derbyn Nodyn Trosglwyddo Gwastraff).

Nid yw cynllun sbwriel ac ailgylchu’r Cyngor yn caniatáu i chi adael bagiau bin ac ati ar ochr y ffordd ac felly mae rhoi unrhyw wastraff ar lawr wrth ymyl eich biniau sbwriel ac ailgylchu yn drosedd.

Os ydych chi’n cael trafferth rheoli’ch gwastraff neu’n dymuno rhoi gwybod i ni am dipio anghyfreithlon, cysylltwch ag Adran yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau ar (01492) 575337 i dderbyn cyngor. 0300 124 0040

9


FFEITHIAU AC AWGRYMIADAU SBWRIEL AC AILGYLCHU I’ch helpu chi gyda’ch sbwriel dyddiol neu os ydych chi’n glanhau’ch tŷ yn llwyr, dyma ychydig o awgrymiadau defnyddiol i’ch helpu chi ailgylchu mwy a lleihau’ch gwastraff:

1. GWYBOD PA BETHAU RYDYCH CHI’N GALLU EU HAILGYLCHU Papur, cerdyn, gwydr, caniau alwminiwm a dur, poteli plastig a phecynnau bwyd (ac eithrio haenau glynu a bagiau), ffoil, aerosolau, cartonau sudd, batris domestig, gwastraff gardd, tecstilau a gwastraff bwyd. Os ydych chi’n dal yn ansicr, cysylltwch â’ch Cyngor lleol neu ewch i’w wefan.

2. RHOWCH O YN Y LLE IAWN Er mwyn gwneud yn siŵr bod modd ailgylchu’r pethau rydych chi'n eu rhoi yn eich biniau/ blychau ailgylchu, gwnewch yn siŵr eu bod yn lân ac yn cael eu rhoi yn y cynhwysydd cywir. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod y deunyddiau yn ddigon da i gael eu hailddefnyddio. Nid oes modd ailgylchu popeth drwy'r gwasanaeth casgliadau ymyl palmant ond mae modd i chi fynd â rhai pethau i ganolfannau ailgylchu (pethau fel batris

10

www.cartreficonwy.org

ceir, matresi, paent, metel sgrap, carpedi a theiars). Mae yna hefyd gyfleusterau ar gael mewn rhai archfarchnadoedd i chi waredu hen fagiau plastig a bylbiau rhad-ar-ynni.

3. TRÏWCH BEIDIO Â CHREU GWASTRAFF Defnyddiwch eitemau y gallwch chi eu hailddefnyddio a thrïwch beidio â defnyddio eitemau untro. Yn hytrach, defnyddiwch fagiau ailddefnyddiadwy a chynwysyddion diod golchadwy ac ati. Cyn rhoi rhywbeth yn y bin gofynnwch i chi’ch hun a oes modd ei drwsio, ei roi i rywun arall neu ei roi i siop elusen. O ran bwyd, cadwch lygad ar y dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ a thrïwch beidio â gadael i bethau golli eu blas neu lwydo cyn i chi eu defnyddio – gall cynllunio’ch prydau cyn mynd i siopa a rhewi pethau hyd nes bydd arnoch chi eu hangen helpu.

4. PRYNWCH BETHAU AIL-LAW AC WEDI EU HAILGYLCHU Drwy brynu pethau ail-law ac wedi eu hailgylchu rydych chi’n helpu i ddiogelu adnoddau naturiol ac arbed ynni, gan edrych ar ôl y blaned ac arbed arian ar yr un pryd!


E E

OES GENNYCH CHI SYNIAD DA I GADW’CH CYMUNED YN DACLUS?

rtrefi Conwy yn Cofiwch, mae prosiect Cist Gymunedol Ca nogi prosiectau bach darparu hyd at £3000. Rydym yn cef . sy’n gwella ansawdd bywyd ein tenantiaid

AR GYFER PETH Y GELLID DEFNYDDIO’R GRANT? • Gweithgareddau a digwyddiadau cymunedol a grw ˆp • Offer a deunyddiau ar gyfer grwpiau cymunedol • Gwella cyfleusterau hamdden cymunedol

munedol derbyn arian gan Gist Gy di we r Siô n Sa l go Ys e Ma . eu prosiect cadw gwenyn at ag tu y nw Co i ef rtr Ca

• Gwelliannau amgylcheddol bychain • Cyfleoedd dysgu a rhaglenni hyfforddiant • Atgyweirio neu welliannau i adeilad er mwyn gwneud gwell defnydd ohono

CARWCH

EICH CYMUNED 0300 124 0040

11


MAE GWYLIAU’R HAF ROWND Y GORNEL MAE’R GWYLIAU YN GYFLE DA I... Ymlacio, archwilio, mwynhau a threulio amser gyda’ch teulu a’ch ffrindiau. Ond peidiwch â chael eich gwneud – dewiswch yn ddoeth os ydych chi’n benthyg arian. Gwnewch y dewisiadau cywir yr haf yma neu fe allwch chi fod â mwy na’r felan wyliau ar eich plât.

CEFNOGAETH I DDIODDEFWYR CWMNÏAU BENTHYCA ARIAN ANGHYFREITHLON Mae swyddogion arbenigol wrth law i gefnogi a chynorthwyo dioddefwyr, gan eu cynghori ar ddyledion a phroblemau eraill. Mae’n bwysig gwybod nad yw benthyca gan fenthyciwr heb drwydded yn drosedd. Y benthyciwr fydd wedi cyflawni’r drosedd. Ni fydd Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru yn cymryd camau yn erbyn unrhyw un sydd wedi benthyg arian ond byddant yn ceisio’ch helpu i reoli’ch arian. Yn ogystal, maen nhw wedi helpu llawer o bobl i ddileu eu dyledion – meddyliwch am y peth, cyfle i ddechrau o’r newydd... Os ydych chi wedi dioddef oherwydd benthyciwr arian didrwydded neu’n credu bod yna un yn gweithredu yn y cyffiniau, ffoniwch y llinell gymorth 24 awr ar 0300 123 3311 (mae’r holl alwadau yn gwbl gyfrinachol). 12

www.cartreficonwy.org

MAE SIARAD YN BETH DA

Siaradwch efo ni cyn i bethau fynd yn waeth – Amanda a Katy yw Ymgynghorwyr Cynhwysiant Ariannol Cartrefi Conwy ac maen nhw’n fwy na pharod i'ch helpu chi. Mae’r holl sgyrsiau yn gyfrinachol ac fe allan nhw ddod i’ch gweld chi yn y cartref neu fe allwch chi drefnu eu cyfarfod yn ein swyddfeydd, beth bynnag sydd orau gennych chi.

MAE TALU'CH RHENT DRWY DDEBYD UNIONGYRCHOL YN HAWS Gellir casglu taliadau debyd uniongyrchol yn wythnosol neu bob pythefnos ar unrhyw ddiwrnod o’r wythnos neu yn fisol ar y 1af, 7fed, 16eg, 20fed neu'r 23ain.

YN DOD YN FUAN Cadwch lygad ar agor am y gwasanaeth talu dros y ffôn – ein gwasanaeth talu newydd, diogel ac awtomataidd y gallwch chi ei ddefnyddio ar unrhyw adeg i dalu’ch rhent.

A YW EICH CARTREF A’CH EIDDO WEDI EU DIOGELU? Pe baech yn tynnu’r to ac yn troi’ch cartref ar ei ben ei waered a’i ysgwyd, faint fyddai cost amnewid yr holl bethau sy’n disgyn allan neu'n torri? Os nad ydych chi wedi ystyried sicrwydd yswiriant o’r blaen, fe allwch chi gael braw o ddysgu faint fyddai prynu popeth o’r newydd yn ei gostio. Mae’r Ffederasiwn Tai Cenedlaethol a Thistle Tenant Risk yn cynnig yswiriant cynnwys My Home Contents am gyn lleied â £1.65 bob pythefnos (ar gyfer tenantiaid dan 60 oed) a £1.25 bob pythefnos ar gyfer tenantiaid 60 oed a hŷn. Gallwch dalu’r premiymau ochr yn ochr â’ch rhent. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â My Home Insurance ar neu 0845 337 2463


YN EISIAU GOHEBWYR CRWYDROL!

DYDDIADAU AR GYFER EICH DYDDIADUR Y TWRNAMAINT, 25 A 26 MEHEFIN Rydym ni’n falch iawn o fod yn noddi digwyddiad Twrnamaint cyntaf Conwy. Canol haf, ar 24 a 25 Mehefin 2017, bydd llu o farchogion, bonheddwyr, gwyˆr arfog, saethyddion, Llychlynwyr, cerddorion, actorion crwydrol, jyglwyr, masnachwyr a chellweiriwyr yn heidio i dref gaerog Conwy i gymryd rhan yn un o'r digwyddiadau ail-greu hanes mwyaf cyffrous erioed! Cyfle i ennill tocynnau VIP ar gyfer y twrnamaint ymwan – cysylltwch â ni i roi’ch enw yn yr het, naill ai drwy ffonio 01745 335345, anfon e-bost at communications@ cartreficonwy.org neu anfon neges ar Facebook. Ac mae gennym ni weithgareddau a nwyddau gwych ar gael drwy'r penwythnos ar ein stondin, felly cofiwch alw heibio. www.thetournament.co.uk

MAE’R DIWRNOD ALLAN MAWR YN CAEL EI GYNNAL AR 16 AWST

Oes gen ti awydd rhoi cynnig ar newyddiadura, cynhyrchu llyfr comig neu ffotograffiaeth? Wyt ti rhwng 15 a 25 oed? Beth am ymuno â’n gohebwyr crwydrol yn y Diwrnod Allan Mawr eleni? Rydym yn chwilio am 5 gwirfoddolwr sy’n barod i weithio â Cherddoriaeth a Ffilm Cymunedol TAPE i gynhyrchu podlediad a llyfr comig Diwrnod Allan Mawr Cartrefi Conwy. Bydd y gwirfoddolwyr: •

Rhwng 15-25 mlwydd oed

 diddordeb mewn cynhyrchu cyfryngau ac yn hapus i siarad â’r cyhoedd.

Ar gael ddydd Mercher 16 Awst, yn ogystal â bod ar gael i fynychu sesiwn hyfforddi yn stiwdio TAPE cyn y Diwrnod Allan Mawr.

Bydd ein 5 gwirfoddolwr yn derbyn camera digidol gennym ni, i ddiolch iddyn nhw am gefnogi'r Diwrnod Allan Mawr. Oes gen ti ddiddordeb? Dweud wrthym mewn 100 gair pam wyt ti eisiau cymryd rhan ac anfona dy ateb at communications@cartreficonwy.org Fel arall, ffonia Guto, aelod o’r Tîm Cyfathrebu, ar 01745 335544 i gael mwy o wybodaeth.

Peidiwch â cholli’r cyfle i fynychu digwyddiad gorau’r flwyddyn! Ymunwch â ni unwaith eto ar gyfer y Diwrnod Allan Mawr. Mi fydd yn ddigwyddiad llawn hwyl, gwybodaeth ac adloniant ac mi fydd yna rywbeth at ddant pawb - beth bynnag eich oedran! Ac mae gennym ni lond gwlad o wobrau i chi eu hennill.

Cadwch eich llygad ar agor am eich gwahoddiad VIP, a fydd yn cyrraedd gyda'r newyddlen nesaf fis GORFFENNAF. 0300 124 0040 13


CADWCH EICH CARTREF YN DDIOGEL YR HAF YMA Mae byrgleriaeth yn fater difrifol a dyna pam rydym ni’n parhau i dargedu lladron yma yng ngogledd Cymru. Er mwyn rhwystro lladron sy'n bachu cyfle, mae arnom ni eisiau annog y cyhoedd i wirio diogelwch eu cartref er mwyn atal lladron rhag targedu eu cartrefi. Dyma ychydig o awgrymiadau syml i’ch helpu chi leihau eich siawns o ddioddef trosedd o'r fath. Cofiwch gloi eich drysau a'ch ffenestri pan fyddwch chi allan. Caewch a chlowch ddrysau ystafelloedd nad ydych chi’n eu defnyddio. Peidiwch â gadael drysau patio na ffenestri ystafelloedd haul ar agor neu heb eu cloi. Clowch eich drysau a’ch ffenestri cyn mynd i’r gwely. Peidiwch â gadael beiciau nac offer y tu allan. Cadwch nhw dan glo, gwnewch nodyn o’r rhifau cyfres a chadwch gofnod ffotograffig o unrhyw eiddo gwerthfawr fel beiciau. Peidiwch â chuddio allweddi sbâr dan botiau blodau neu fat drws – dyma’r llefydd cyntaf y bydd lladron yn edrych

COFIWCH DDOD ATOM NI I DDWEUD HELO WRTH TY TURTLE, PENNY PIG A LUCKY PAN FYDDWCH CHI’N EIN GWELD NI ALLAN O GWMPAS Diolch unwaith eto i bawb ddaru ein helpu ni i ddewis enwau, a llongyfarchiadau i Alfie Richards ddaru ennill ein cystadleuaeth i enwi ein masgotiaid. 14

www.cartreficonwy.org

Peidiwch byth â gadael allweddi yn y golwg neu o fewn cyrraedd ffenestr neu gwarel wydr, nac yn y clo – mae hyn yn gwneud pethau’n haws i’r lleidr. Cadwch nhw o’r golwg. Tynnwch lun o eitemau gwerthfawr fel gemwaith. Rhowch farc diogelwch ar eitemau trydanol ac eiddo gwerthfawr arall – gall hyn eich helpu i’w cael yn ôl os ydyn nhw’n cael eu dwyn ond fe all hefyd berswadio lleidr i beidio â dwyn yr eitemau yn y lle cyntaf. Gall goleuadau da y tu allan i’ch eiddo atal neu dynnu sylw lleidr. Os oes gennych chi larwm lladron, cofiwch ei droi ymlaen cyn i chi fynd allan.

Dylai unrhyw un sy’n gweld rhywun yn ymddwyn yn amheus ffonio Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu, mewn argyfwng, 999. Gallwch hefyd ddarparu gwybodaeth yn anhysbys drwy ffonio Crimestoppers on 0800 555 111 Ewch i wefan Heddlu Gogledd Cymru i weld y newyddion diweddaraf ar aros yn saff a diogel drwy gydol y flwyddyn. www.heddlu-gogledd-cymru.police.uk

Ffynhonnell: Heddlu Gogledd Cymru


GWOBRAU CARTREFI – CYFLE I ENNILL CANNOEDD POB MIS

Mae Gwobrau Cartrefi yn disodli cynllun gwobrau Countdown y bu i'r rhan fwyaf o denantiaid ddweud wrthym ni nad oedd yn gweithio iddyn nhw. Rydym ni bellach yn gwobrwyo tenantiaid ffyddlon bob mis gyda rafflau cyffrous lle gallan nhw ennill cannoedd o bunnau. Bydd y Gwobrau Cartrefi yn rhoi cyfle i chi ennill cannoedd pob mis am y canlynol: RWY’N TALU – eich gwobrwyo chi am dalu’ch rhent ar amser. Felly, os ydych chi

wedi’r talu’r rhent sy’n ddyledus ar amser, mae'ch enw yn cael ei gynnwys yn y raffl fisol. Y wobr yw £200.

RWY’N FALCH – eich gwobrwyo chi am edrych ar ôl eich cartref ac am ymfalchïo yn eich cartref a’ch bro. Byddwch yn cael eich dewis yn ystod ymweliadau partner â’ch cartref a bydd eich enw yn cael ei ychwanegu i raffl fisol lle gallwch chi ennill £100.

RWY’N CYMRYD RHAN – eich gwobrwyo chi am gymryd rhan, dweud eich dweud

a’n helpu ni i gynllunio’n gwasanaethau. Felly, pan fyddwch chi’n cymryd rhan (gyda Lleisiau Cartrefi, drwy gwblhau holiaduron, cymryd rhan mewn ymgynghoriadau neu fynychu digwyddiadau) bydd eich enw yn cael ei ychwanegu’n awtomatig i’r raffl chwarterol lle gallwch chi ennill £100.

YN DOD YN FUAN www.mycartrefi.org

RWY’N CYSYLLTU AR-LEIN – eich gwobrwyo chi am ddefnyddio’n gwasanaethau ar-lein.

YN DDIWEDDAR BU I NI SGWRSIO AG UN ENILLYDD ‘RWY’N TALU’, ANNE PHEASEY

I ganfod sut fedrwch chi ennill cannoedd o bunnau, ewch i cartreficonwy.org/ homerewards neu ffoniwch 0300 124 0040. *Amodau a thelerau yn berthnasol.

efo fi ac yn fy helpu o gwmpas y tyˆ ac yn hwfro ac yn glanhau i mi bob wythnos, ac felly mae hi’n llawn haeddu cael ei thretio hefyd.”

Sut deimlad ydi o i ennill y wobr rwy’n talu? “Rydw i wrth fy modd ac rydw i wastad yn gwneud yn siw ˆ r fy mod i’n talu ychydig bach mwy ar ben fy rhent fel fy mod i'n well allan ar ddiwedd y flwyddyn pan fyddem yn cael ein hwythnosau di-rent.” Ar beth ydych chi’n mynd i wario’r arian? “Coeliwch neu beidio, mae gen i 28 o wyrion ac wyresau a dau arall ar y ffordd felly, fel y gallwch ddychmygu, byddaf yn gwario'r arian arnyn nhw. Ond mae fy merch sy’n byw wrth fy ymyl yn wych

Oes gennych chi unrhyw awgrym ar gyllidebu? “Yr hyn a ddywedodd fy mam wrthyf, a'r hyn rydw i'n dweud wrth fy mhlant, yw gwneud yn siw ˆ r bod y rhent yn cael ei dalu yn y lle cyntaf (a bod gennych chi lenni glan) – hyd yn oed os ydych chi’n cael trafferthion ariannol. Y peth pwysicaf yw bod gennych chi do uwch eich pen, gallwch roi trefn ar bopeth arall o’r fan honno. Hefyd, unwaith rydych chi’n mynd i ôl-ddyledion rhent gall pethau waethygu’n gyflym a gall fod yn annod iawn i chi ddod allan o’r twll hwnnw.” Oes gennych chi unrhyw awgrym ar reoli arian? “Rydw i wastad yn gwneud yn siw ˆ r mod i’n rhoi ychydig o’r neilltu bob mis, hyd yn oed £5 yma ac acw, oherwydd dros amser bydd y swm yn cynyddu. Hefyd, os oes gennych chi arian dros ben ar ôl talu'ch biliau efallai y byddai'n syniad da i chi ei roi o'r neilltu ac anghofio amdano tan ddiwrnod glawog.”

Cofiwch, os ydych chi’n cael trafferth cyllidebu, rydym ni yma i’ch helpu. Mae gennym ni dîm cynhwysiant ariannol ymroddedig a all eich helpu chi gadw ar y trywydd cywir.

0300 124 0040 15


N Y L B W D D IA L DATH N A H C E F IR A F N A LL Roedd yna ddathliad dwbl yn Llanfairfechan wrth i ni agor ‘Maes Glanarfon’ (ein datblygiad newydd) ac, ychydig wythnosau yn ddiweddarach, wrth i Gyfeillion Llyfrgell Gymunedol Llanfairfechan ail-agor y llyfrgell ar ôl buddsoddiad gwerth £47,000. Roedd yna 205 o weithwyr a 4 prentis yn gweithio ar ddatblygiad Maes Glanarfon, gan ddarparu hwb mawr i’r economi leol. Mae’r datblygiad yn cynnwys 28 o dai fforddiadwy a chafodd ei orffen dri mis yn fuan.

Lansiodd Cyfeillion Llyfrgell Gymunedol Llanfairfechan hefyd gystadleuaeth ysgrifennu stori fer a chystadleuaeth dylunio logo ar gyfer plant ysgol.

Mae un o’r prentisiaid, Josh Jones, bellach yn byw yn un o’r cartrefi gyda’i bartner ac mae ei Mae Kirsty Merrell Daily, mam leol, yn credu fam yn byw drws nesaf. bod hyn a’r gystadleuaeth ysgrifennu stori fer yn syniad da a'i fod yn mynd i danio dychymyg y plant. Canmolodd bwyllgor Cyfeillion Llyfrgell Gymunedol Llanfairfechan am eu gwaith caled a’u hymrwymiad wrth ailwampio’r llyfrgell.

“Mae pobl yn dweud bod llyfrau yn hen beth erbyn hyn, ond dydw i ddim yn cytuno efo hynny." Diolch yn fawr iawn i blant Ysgol Fabanod Llanfairfechan ac Ysgol Pant y Rhedyn am serennu a chanu yn y ddau ddigwyddiad. Roedd hi'n brofiad gwych cael cydweithio gyda’r grw ˆ p cymunedol mewn partneriaeth â Brenig Construction a Gwasanaethau Llyfrgell Conwy i adfer y ganolfan gymunedol yma ar gyfer y pentref cyfan. Cliciwch ar y ddolen i wylio fideo a ffilmiwyd yn ystod y dathliadau i ail-agor y llyfrgell.

16

www.cartreficonwy.org

https://youtu.be/kuXc5HqtLrY


DATHLIAD DYDD GWYL ˆ P GYDA’N GILYDD DEWI GRW

Y Rwsters, gan gynnwys Sally, oedd sêr dathliad Dydd Gw ˆ yl Dewi arbennig a drefnwyd gan y Grw ˆ p Gyda’n Gilydd yng Ngwesty’r Eryrod, Llanrwst. Mwynhaodd dros 40 o drigolion lleol de’r prynhawn blasus yn ogystal â chaneuon traddodiadol a pherfformiadau dawns y glocsen gan ddisgyblion Ysgol Bro Gethin. Mae Grw ˆ p Gyda’n Gilydd yn cyfarfod bob dydd Gwener ac yn dathlu achlysuron arbennig drwy gydol y flwyddyn, gan godi arian ar gyfer elusennau ar yr un pryd. Meddai Sally: “Ymuno â’r Rwsters ydi’r peth gorau rydw i wedi ei wneud erioed. Pan oeddwn i’n byw yn fy hen dyˆ yn Nhrefriw, ac ar ôl i mi syrthio, doeddwn i byth yn mynd allan. Bûm yn byw yn y tyˆ hwnnw am 46 o flynyddoedd ond rydw i bellach wedi symud ar draws y ffordd i fyw mewn byngalo.

Mae pawb yn gyfeillgar, mae pobl yn fy helpu i wisgo fy nghot ac yn sgwrsio efo fi.” Ers i’r Rwsters berfformio am y tro cyntaf yn nigwyddiad Diwrnod Pobl Hyˆn Cartrefi Conwy yn Venue Cymru yn yr hydref, mae’r côr wedi perfformio mewn digwyddiadau eraill wedi eu trefnu gan Gartrefi Conwy ac, yn ddiweddar, wedi canu efo Cymdeithas Opera Cenedlaethol Cymru. Ac mae Sally a’r Rwsters wedi cael sylw yn y papurau newydd lleol a chenedlaethol a hyd yn oed wedi bod ar newyddion ITV Cymru.

“Doeddwn i ddim yn mynd allan llawer a roeddwn i’n dechrau teimlo’n unig. Yna daeth Alison Hughes, sy’n gweithio i Gartrefi Conwy, i’m gweld a gofyn i mi ymuno â’r côr. “Doeddwn i ddim wedi canu o’r blaen nac wedi bod ar lwyfan. Doedd neb erioed wedi gofyn i mi. Ond, pan es i un o'r ymarferion, mi nes i fwynhau'r profiad mas draw. Mae o’n rheswm i mi fynd allan o’r tyˆ a chyfarfod efo pobl.

GWYLIWC H https://vimeo.com/206240698

0300 124 0040 17


DIGWYDDIAD CYMUNEDAU CYFEILLGAR I DDEMENTIA Mae aelodau Tyˆ Cymunedol Rhodfa Caer wedi cynnal eu sesiwn hyfforddiant dementia cyntaf yn llwyddiannus – diolch i Colin Matthews, aelod o fwrdd y tenantiaid. Mae Cymunedau Cyfeillgar i Ddementia yn rhaglen sy’n cynorthwyo cymunedau i fod yn gyfeillgar i ddementia. O lywodraethau a byrddau iechyd i’ch siop leol a’ch siop torri gwallt, mae ganddyn nhw i gyd gyfrifoldeb i wneud yn siw ˆ r bod pobl â dementia yn cael eu dallt, yn cael eu gwerthfawrogi ac yn gallu cyfrannu at eu cymuned. www.alzheimers.org.uk/info/20079/ dementia_friendly_communities

PRENTISIAID YN ARWAIN TAITH ELUSENNOL 50 MILLTIR Pan fyddwch chi’n darllen hwn bydd ein cydweithwyr wedi gorffen her 50 milltir Llwybr Arfordir Ynys Môn. Mae Andrew Bowden, y Prif Weithredwr, Aelodau Bwrdd a grw ˆ p o gydweithwyr brwdfrydig eraill wedi gwirfoddoli i gymryd rhan yn y daith galed hon a hynny er budd elusen. Trefnwyd y daith gan Hannah McGoona, Jade Jones ac Alex Bond (prentisiaid modern) a bu iddyn nhw weithio’n ddiflino i wneud y daith yn llwyddiant. Bydd yr holl elw yn cael ei rannu rhwng dwy elusen, sef Cymdeithas Alzheimer's ac Awyr Las (elusen GIG gogledd Cymru). Yn ystod y deunaw mis diwethaf mae Cartrefi Conwy wedi codi £4,000 i’r Gymdeithas Alzheimer's. 18

GW YLIWC H /217689669

https:// vimeo.com


Mae Cartrefi Conwy yn noddwyr balch RGC a Chlwb Pêl-droed y Rhyl ac o’r herwydd rydym ni’n derbyn tocynnau i’w cynnig i’n tenantiaid yn ogystal â chynnal diwrnodau masgot ac, ar ben hynny, rydym ni’n gweithio’n agos gyda’r ddau glwb i roi cyfle i'n tenantiaid arddangos eu medrau rygbi a phêl-droed.

NODDWYR BALCH

Mae RGC wedi cael tymor cyntaf gwych yn yr Uwchgynghrair ac wedi gwneud hanes pan ddaru nhw guro Pontypridd ac ennill Cwpan Genedlaethol URC. Rydym ni’n falch iawn o’u noddi ac i weld medrau rygbi yn cael eu meithrin yma yng ngogledd Cymru. Yn anffodus, dydi Clwb Pêl-Droed y Rhyl ddim wedi cael y tymor gorau ac maen nhw wedi gostwng adran, ond mae'r Lilywhites ar dân i ddod yn ôl yn dalog y tymor nesaf. Oddi ar y cae mae’r clwb wedi cael tymor cymunedol gwych - da iawn chi! Bydd y ddau glwb yn ymuno efo ni yn ein Diwrnod Allan Mawr, felly dewch draw i gwrdd a chwarae gyda'n harwyr chwaraeon lleol. Cofiwch gadw mewn cysylltiad â Chartrefi Conwy a chadw’ch llygad ar y bêl i ennill tocynnau i weld y timau y tymor nesaf.

CYDWEITHREDU I OFALU Mae tenantiaid Llandudno a Llanrwst wedi cymryd rhan mewn dau grŵp Cydweithredu i Ofalu, gan drafod sut y gallwn ni gynllunio a gwella eu gwasanaethau gofal. Os hoffech chi ddweud eich dweud am y dewis o wasanaethau gofal rydych chi'n eu derbyn, yna mae ar y grŵp eisiau clywed

gennych chi. Mae hwn yn grŵp sy’n cael ei arwain gan denantiaid sy’n awyddus i fwy o aelodau ymuno a chefnogi ei gilydd gydag anghenion gofal. Ffoniwch 0300 124 0040 a gofynnwch am gael siarad efo Nerys Veldhuizen i dderbyn mwy o wybodaeth.

Byw’n Annibynnol – fedrwn ni eich helpu? Ydych chi’n adnabod rhywun sy’n denant i Gartrefi Conwy ac sydd angen ychydig bach o gymorth i fyw’n annibynnol yn ei gartref?

DYDDIAD I’CH DYDDIADUR ˆ n, Diwrnod Pobl Hy 28 Medi, Venue Cymru Ymunwch â ni eto eleni i ddathlu cyfraniad anhygoel a’r gwahaniaeth y mae ein heiriolwyr hyˆn yn ei wneud yn ein cymunedau.

Ffoniwch 0300 124 0040 neu anfonwch e-bost at independentlivingservice@ cartreficonwy.org 19


GWASANAETH BYW ANNIBYNNOL Mae ein cydlynwyr byw'n annibynnol: Cefnogaeth emosiynol ac arweiniad Adrodd atgyweriadau ac unryw faterion eraill gyda’r Ty Delio hefo unryw waith papur pwysig a gohebiaeth Trefnu cyswllt i wasanaethau ac i help broffesiynol Cefnogi ac hybu bywyd cymdeithasol gweithgar Cadw yn ddiogel yn y cartref

0300 124 0040

!

www.cartreficonwy.org

A oes gennych chi ddiddordeb yn y Gwasanaethau Byw'n Annibynnol? Oes:

o

Nac oes:

o

A ydych chi’n adnabod rhywun a fyddai â diddordeb yn y Gwasanaethau Byw'n Annibynnol?

o

Nac oes:

o

Enw Cyntaf

Oes:

Cyfenw

Cyfeiriad Sir

Cod post

Rhif Cyswllt E-bost Gwrrwch draw e: Cartrefi Conwy, Morfa Gele, Par Busnes Gogledd Cymru, Abergele, Conwy, LL22 8LJ a’r ebost e: independentlivingservice@cartreficonwy.org


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.