Gyda'n Gilydd Rhifyn Hâf 2017

Page 1

CARTREFI CONWY

D D Y L I G N ’ A D Y G RHIFYN HAF

N W E M U T Y D Y F HE N

CH TÂ AR DUDALEN 14 DIOGELW OLWG SYDYN CYMERWCH

GYDA GWIRFODDOLEIR ENT ETH CHREU M Y O WYBODA CEWCH FW AR DUDALEN 18

DYDD MERCH ER 16 AWST 11YB-3YP CANOLFAN HAMDDEN JOHN BRIGHT LLANDUDNO,

enquiries@cartreficonwy.org Gwasanaeth Cwsmer: 0300 124 0040

Mae pob galwad gyda Gwasanaethau Cwsmeriad yn cael eu recordio. Mae copiau sain o’r newyddien hon ar gael


O GWMPAS Cododd y daith gerdded Her Arweinyddiaeth ar hyd Llwybr Yr Arfordir Ynys Môn £4578 ar gyfer Wrth Dy Ochr a Chymdeithas Alzheimer. Cymerodd cerddwyr wyliau blynyddol i gerdded 55 milltir mewn 3 diwrnod – mae hynny’n 106,800 o gamau! Mwynhaodd y tîm wisgo i fyny i’r gwaith yn y Twrnamaint yng Nghonwy fis Mehefin. Gwnaethon 400 o obledi a 400 o dariannau yn ein stondin grefftau dros y penwythnos! Mwynhaodd tenantiaid a ymgeisiodd am docynnau am ddim eu seddau ar y prif feinciau yn y gystadleuaeth ymryson a daethant draw i’n stondin i ddweud helo.

MAE’R CANLYNIADAU YMA... Diolch i bawb a lenwodd yr arolwg Boddhad Tenantiaid diweddar. Gwnaethom ganfod fod: • 91% o denantiaid yn fodlon â’r gwasanaeth a ddarperir gan Cartrefi Conwy, sy’n ffigwr yr ydym yn falch iawn ohono. • 89% o denantiaid yn teimlo bod eu rhent yn darparu gwerth am arian, sy’n welliant bach ers y tro diwethaf. • 81% o denantiaid yn teimlo bod eu taliadau gwasanaeth yn cynrychioli gwerth am arian. Mae hyn yn welliant mawr ers ein harolwg diwethaf ac yn rhywbeth rydym yn bwriadu parhau i wella. • 84% o denantiaid yn fodlon â’r gwasanaeth Atgyweirio a Chynnal a Chadw.

Roedden ni’n falch iawn o gael rhoi tocynnau VIP ar gyfer y cyngerdd Little Mix i dair o ferched haeddiannol iawn (a’u rhieni cyffrous!). Diwrnod gwych, llawn gliter i bawb...

EIN TUDALEN PEIDIWCH AG ANGHOFIO EDRYCH AR AU YN Y DYFODOL. FACEBOOK AR GYFER CYSTADLAETH

Conwy www.facebook.com/OfficialCartrefi

2

Rydym wrthi’n dadansoddi’r canlyniadau ac adolygu eich sylwadau. Byddwn yn cynhyrchu adroddiad pellach ar y canlyniadau ac yn ei roi ar wefan Cartrefi Conwy www.cartreficonwy.org/ about-us/how-are-weperforming-2/tenantsatisfaction-survey/ yn y dyfodol agos, felly cadwch lygad am hyn! www.cartreficonwy.org


DWEUD EICH DWEUD! AROLWG BODDHAD ATGYWEIRIADAU Hoffem wybod eich barn am yr arolwg y gofynnwn i chi ei lenwi ar ôl gwneud gwaith atgyweirio ar eich cartref. Cliciwch yma www.surveymonkey.co.uk/r/P3FTKDR i roi eich adborth a chael eich cynnwys yn y gystadleuaeth i ennill £25 o dalebau Love 2 Shop.

SUT RYDYCH CHI’N CYSYLLTU Â NI Rydyn ni am ddarganfod y gwahanol ffyrdd rydych chi’n cysylltu â ni gydag ymholiadau a’r rheswm dros ddefnyddio’r dulliau hyn o gysylltu. Cliciwch yma www.surveymonkey. co.uk/r/SLW6VY6 i roi eich adborth a chael eich cynnwys yn y gystadleuaeth i ennill £25 o dalebau Love 2 Shop.

PWY YDYCH CHI? Pan fyddwch yn ein ffonio, rydym eisiau bod yn sicr gyda phwy rydyn ni’n siarad. Dydyn ni ddim am drafod eich cartref ag unrhyw un! Er mwyn i ni wybod ein bod yn siarad â’r person cywir, bydd ein staff Gwasanaethau i Gwsmeriaid yn gofyn ychydig o gwestiynau i wirio eich manylion. Efallai y byddwn ni’n gofyn i chi am: Eich enw llawn Eich dyddiad geni

HELPWCH NI I WELLA Hoffech chi fod yn rhan o broses i wella ein gwasanaethau i denantiaid? Mae’r Panel Craffu yn grw ˆ p o denantiaid sy’n edrych ar feysydd o waith Cartrefi Conwy. Maen nhw’n gwneud yn sicr y caiff anghenion a safbwyntiau cwsmeriaid eu hystyried, ac yn gweithio mewn partneriaeth gyda Cartrefi Conwy i annog trigolion i gymryd rhan a rhoi adborth. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan gyda’r Panel Craffu neu unrhyw ffyrdd eraill o roi eich adborth, cysylltwch Laura Thomas ar 0300 124 0040 neu drwy e-bost laura.thomas@ cartreficonwy.org.

Eich rhif ffôn Eich enw cyn priodi Enw eich meddyg Rydyn ni’n gwybod y gall hyn ymddangos yn drafferthus, ond rydyn ni’n gwneud hyn er mwyn eich diogelu chi a’ch cartref. Helpwch ni drwy weithio gyda’n staff Gwasanaethau i Gwsmeriaid i gadw eich gwybodaeth yn ddiogel. Diolch. 0300 124 0040

3


Rydym wedi canolbwyntio ar yr amser rydym yn ei gymryd i ymateb i gwynion. Rhwng mis Ebrill a mis Medi 2016, gwnaethom ymateb i gyfartaledd o 39% o gwynion o fewn 10 diwrnod. Cynyddodd hyn i welliant o 94% o ymatebion o fewn 10 diwrnod ar gyfartaledd erbyn mis Mawrth 2017. O’R CWYNION A GAWSOM YN 2016/17, DYMA BETH RYDYM WEDI’I WNEUD: DYWEDOCH CHI Wnaethon ni ddim gyrru llythyrau apwyntiadau atoch chi ac felly fe wnaethoch chi fethu apwyntiadau i wneud mwy o waith yn eich cartref

DYWEDOCH CHI Yn 2016/17, cawsom lawer o gwynion am doeau’n gollwng, tamprwydd a thyfiant llwydni yn eich cartrefi

DYWEDOCH CHI Dylai’r broses o symud tenantiaid oddi cartref dros dro i gynnal gwaith ar eiddo y difrodwyd gan stormydd fod yn un haws

DYWEDOCH CHI Roedd rheoli cyddwysiad a thwf llwydni yn broblem. Cawsom gwynion am ddiffyg sylw Cartrefi Conwy i unioni pethau

4

www.cartreficonwy.org

GWNAETHOM NI Gwnaethom ni ddylunio cardiau apwyntiadau newydd fel bod gennych chi bellach nodyn atgoffa defnyddio gan y crefftwr cyn iddo adael eich cartref

GWNAETHOM NI Roedd nifer yr eiddo y bu i stormydd gaeaf 2015/16 effeithio arnynt gynyddu bob dydd ac felly gwnaethom greu rhaglen waith i wella’r eiddo yr effeithiwyd arnynt. Roedd hyn yn cynnwys toeau newydd, ffenestri newydd, a thynnu ac amnewid insiwleiddiad wal geudod gwlyb. Mae’r rhaglen bellach bron â gorffen ac mae’r problemau a gafwyd gyda dw ˆ r yn dod i mewn a thamprwydd wedi’u datrys

GWNAETHOM NI Gwnaethom adolygu ein polisi ar sut rydym yn rheoli’r broses symud dros dro. Mae gennym broses glir ar waith bellach, sy’n golygu y gallwn eich symud chi i gartrefi dros dro addas yn gynt

GWNAETHOM NI Fel arfer, mae twf llwydni o gyddwysiad oherwydd y ffordd rydym yn byw ac nid oherwydd bod rhywbeth yn bod ar yr eiddo. Gallwch wneud newidiadau i atal twf llwydni. Rydym wedi cyflwyno ffyrdd i’ch helpu i reoli hyn: • Llyfryn a DVD “Helpu i leihau Llwydni” er mwyn eich helpu i reoli cyddwysiad • Pecynnau cael gwared ar lwydni i’ch helpu i drin twf llwydni • Gwasanaethau cael gwared ar lwydni, yn dibynnu ar ba mor ddrwg yw’r broblem Yn y Diwrnod Allan MAWR bydd pobl wrth law yn barod i roi awgrymiadau i chi ar reoli cyddwysiad a thwf llwydni yn eich cartref


YDYCH CHI’N DOD Â’CH TENANTIAETH I BEN? CYN I CHI SYMUD YMLAEN, COFIWCH: • Rhowch 4 wythnos o rybudd ysgrifenedig i ni • Rhowch eich goriadau i ni o fewn y cyfnod rhybudd. Codir rhent o ddydd Llun i ddydd Sul – dychwelwch eich goriadau i ni ar ddydd Llun cyn 12pm i osgoi talu am wythnos arall o rent.

• Gadewch eich eiddo yn glir a glân y tu mewn a’r tu allan gan gynnwys unrhyw le yn yr atig - byddwn yn codi tâl arnoch am unrhyw eitemau y byddwch wedi eu gadael. Gall ffioedd clirio amrywio o £50 i £600 yn dibynnu ar y gwaith sy’n rhaid i ni ei wneud. • Atgyweiriwch unrhyw ddifrod rydych wedi ei wneud i’ch cartref – byddwn yn codi tâl arnoch os bydd yn rhaid i ni eu trwsio. Er enghraifft, byddwn yn codi tâl o £114.16 arnoch i osod drws mewnol newydd.

ATGYWEIRIADAU BRYS SEFYLLFAOEDD BRYS YW: • llifogydd difrifol • prif ddraeniau neu eich unig doiled wedi blocio • nam trydanol peryglus

RYDYM YN CYNNIG GWAS ANAE TH Y TU ALLAN I ORIAU AR GYFE R TENANTIAID SYDD ANGEN ATGYWEIR IADAU BRYS. RYDYM YN ANELU AT DD OD I’CH CARTREF A GWNEUD Y SE FYLLFA’N DDIOGEL O FEWN 24 AW R.

• difrod storm neu ddifrod tân difrifol

CYN I CHI FFONIO, GOFYNNWCH Y CWESTIWN CANLYNOL I CHI’CH HUN:

• dim cyflenwad nwy, trydan neu ddw ˆr

A ALL AROS TAN Y BORE?

• dim gwres neu ddw ˆ r poeth yn y gaeaf (neu unrhyw adeg o’r flwyddyn os bydd rhywun yn eich cartref yn ddiamddiffyn) • nenfydau wedi disgyn neu fethiant strwythurol

Mae ein tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid ar gael i gymryd eich galwad am 8am neu gallwch adrodd am eich problem ar-lein gan ddefnyddio adran Cartrefi ar ein gwefan www.mycartrefi.org

• nam difrifol ar ddrws, grisiau neu lifft sy’n eich atal rhag mynd i mewn i’ch cartref

0300 124 0040

5


PANEL CRAFFU – ATGYWEIRIADAU IAWN Y TRO CYNTAF Rydym o’r farn bod gwasanaeth atgyweiriadau a chynnal a chadw o ansawdd uchel yn hanfodol i gyflawni boddhad tenantiaid. Mae hefyd yn diogelu gwerth ein cartrefi ac asedau adeiladu eraill. Byddwn yn trwsio’n “Iawn y Tro Cyntaf” pan ddown i wneud gwaith atgyweirio, lle bynnag y bo’n bosibl.

gyda nhw i’w rhoi i denantiaid - yn y cyfamser bydd angen i denantiaid wneud nodyn o’r apwyntiad.

Byddwn yn gwirio pa mor dda rydym yn ei wneud ar atgyweiriadau “Iawn y Tro Cyntaf” drwy edrych ar ganran swyddogaethau atgyweirio ymatebol sydd wedi’u cwblhau yn yr ymweliad cyntaf neu sydd angen mwy nag un ymweliad oherwydd sefyllfaoedd sydd y tu hwnt i’n rheolaeth.

o Mae angen i’r Panel Craffu wneud mwy o waith ymchwilio i atgyweiriadau a gynhelir gan gontractwyr allanol am nad yw’r broses yn ymddangos i fod mor effeithlon ag Uned Cynnal a Chadw Adeiladau Cartrefi Conwy.

Treuliodd y Panel Craffu 5 mis yn edrych ar ganran atgyweiriadau sydd wedi’u cwblhau’n iawn y tro cyntaf. Ar gyfer y rhai na gwblhawyd yn iawn y tro cyntaf, edrychodd y Panel ar y rhesymau pam.

DYMA BETH GANFUWYD GAN Y PANEL: o Os na chaiff atgyweiriad ei gwblhau y tro cyntaf a’n bod yn gwneud apwyntiad arall, ni fydd y tenant yn cael llythyr i’w atgoffa o’r apwyntiad newydd. Bydd crefftwyr atgyweirio yn cario cardiau apwyntiadau

6

www.cartreficonwy.org

o Teimlai’r panel fod angen mwy o wybodaeth ar denantiaid am sut y mae’r system atgyweiriadau’n gweithio – sut y caiff atgyweiriadau eu cofnodi a’u trefnu. Mae’r Panel wedi argymell bod yr adran Gwasanaeth Cwsmeriaid yn edrych ar sut y gallant hysbysu tenantiaid yn well am y broses. Teimlad cyffredinol y Panel oedd bod y Gwasanaeth Atgyweirio a Chynnal a Chadw yn darparu gwasanaeth gwych i denantiaid ar hyn o bryd a bod staff yn gweithio’n galed i wella’r gwasanaeth yn barhaus. Ond, teimlai’r Panel fod y gwasanaeth weithiau’n tanberfformio pan gaiff swyddogaethau atgyweirio eu rhoi i is-gontractwyr, yn enwedig o ran cyfathrebu ac apwyntiadau dilynol. Mae hyn yn rhywbeth yr hoffai’r Panel edrych arno yn y dyfodol.


YOU

LO E LIVE

where

CAEL GWARED AR LWYDNI!

CARWCH

EICH CYMUNED

Mae tamprwydd a chyddwysiad yn faterion parhaus mewn cartrefi ledled y DU. Mae dulliau gwell o insiwleiddia, megis gwydr dwbl, insiwleiddiad atig a seliau drws yn cadw’r oerfel allan, ond maent hefyd yn ei gwneud yn anodd i leithder adael.

Rydym hefyd yn defnyddio systemau Awyru Mewnbwn Positif (PIV) a gaiff eu lleoli yn yr atig ac sy’n gadael i aer ffres, hidledig i mewn i‘r cartref. Mae hyn yn helpu i stopio cyddwysiad, atal twf llwydni a lleihau gwiddon llwch.

Daw llawer o’n tai gyda ffaniau echdynnu a thyllau awyr yn y ffenestri – cofiwch eu defnyddio a pheidiwch â blocio’r tyllau awyr ar eich ffenestri. Os ydych yn coginio neu’n sychu dillad, cofiwch agor eich ffenestri i adael i’r lleithder ddianc.

Dewch i’n gweld yn ein stondin yn y Diwrnod Allan Mawr - mae gennym becynnau i’w dosbarthu i lanhau llwydni lefel isel a chyngor ar sut i gadw llwydni rhag dychwelyd.

0300 124 0040

7


CYFARCH YMGYRCHU PENSIYNWR RICHARD YN ARWR

nant Cartrefi os, Richard Blackwell - te Rh yn o rill nd Lla y, er Jeff wa rk Pa chwith, Chris Brockley, Ma or , ef dr yr rw ho ng cy Conwy gyda nnah Fleet. arson, John Davies ac Ha Pe th Ka es er Ma n, so ar Pe Cafodd Richard Blackwell gymeradwyaeth ar ôl ei ymgyrch i wella diogelwch ar y ffyrdd yn lle mae’n byw yn ystâd Parkway yn Llandrillo-yn-Rhos. Penderfynodd Richard wneud rhywbeth ar ôl gweld gyrrwr ambiwlans yn cael trafferth mynd heibio ceir wedi parcio yn y ffordd bengaead lle mae’n byw. Cysylltodd Richard â’r cynghorydd tref, Glenys Baker, gan ofyn am ei chymorth i roi trefn ar y broblem barcio, gan awgrymu bod arwyddion newydd yn cael eu gosod i atal gyrwyr rhag parcio yn Parkway cyn cerdded i’r dref i siopa neu i fynd i’r gwaith. Meddai Richard: “Mae yma faniau danfon a phob math o gerbydau’n blocio’r ffordd, yn enwedig yn agos i’n canolfan gymunedol. Y broblem yw, ni all ambiwlansys fynd i lawr y ffordd, a wyddwn i ddim beth fydden ni’n ei wneud pe bai ‘na dân. Y peth yw, mae pobl yn parcio yma ac yn cerdded i’r siopau, nid yw’r bobl hyn yn byw’n agos i Parkway o gwbl. Rwy’n falch iawn fod rhywbeth wedi’i wneud ac y bydd tenantiaid Parkway rywfaint yn saffach rwan gobeithio. Y cyfan wnes i oedd awgrymu arwyddion newydd ac rwy’n falch y gwrandawyd arna i.”

Meddai’r Cynghorydd Baker: “Cyflwynodd Richard ei hun i mi 18 mis yn ôl pan ddes i’n gynghorydd am y tro cyntaf, gan ofyn am gymorth. “Roedd rhai pobl yn parcio yno ac yn mynd ar eu gwyliau, a dydi’r bobl hyn ddim hyd yn oed yn byw yn Parkway. “Mae pobl fel Richard a’i gymdogion yn haeddu cael help. Felly cysylltais â Chyngor Sir Conwy, codi’r arian ar gyfer yr arwyddion a derbyn cytundeb y gellid eu codi. Rwy’n falch iawn bod yr arwyddion wedi mynd i fyny, ac mae’r cyfan diolch i Richard.” Yr ymgyrch yw’r diweddaraf mewn cadwyn o weithredoedd da a gynhaliwyd gan Richard, sy’n helpu cymydog dall yn rheolaidd hefyd. “Y peth am Richard yw ei fod yn gwneud llawer i helpu ei gymdogion pan fyddan nhw’n gofyn iddo, a gwn ei fod yn edrych allan amdanyn nhw,” meddai’r Cynghorydd Baker.

Oes gennych chi syniad i helpu i wella lle rydych chi’n byw? Darganfyddwch fwy am ein Grantiau Cist Gymunedol. https://cartreficonwy.org/tenants/ my-neighbourhood/funding/ I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Clare Phipps ar 01745 335656

8

www.cartreficonwy.org


CYSYLLTWCH: COFRESTRWCH AR GYFER MYCARTREFI RŴAN EWCH I WWW.MYCARTREFI.ORG

Fel diolch am ddefnyddio MyCartrefi, bob mis y byddwch yn defnyddio ein gwasanaeth ar-lein, byddwn yn rhoi eich enw mewn raffl fawr lle bydd cyfle i chi ennill £200.

Drwy ddefnyddio MyCartrefi gallwch: • Wneud Taliad • Rhoi gwybod am waith atgyweirio

• Cysylltu â ni • Gweld eich taflen ddatgan

• Diweddaru eich manylion cyswllt • Gwirio eich Balans

Mae mynd ar-lein gyda MyCartrefi yn hawdd iawn ond os oes angen cymorth arnoch, gadewch i ni wybod: Ffoniwch: 0300 1240040 | E-bost: enquiries@cartreficonwy.org | Ar-lei: www.cartreficonwy.org

SUT I GOFRESTRU CAM 1

Ewch i www.MyCartrefi.org a nodwch eich cyfeirnod tenantiaeth, eich dyddiad geni a’ch

CAM 2

Nodwch eich cyfeiriad e-bost ac yna crëwch enw defnyddiwr a chyfrinair y byddwch yn eu defnyddio er mwyn mewngofnodi yn y dyfodol.

CAM 3

Byddwch yn derbyn e-bost gyda dolen er mwyn rhoi’ch cyfrif ar waith.

Er mwyn cofrestru bydd angen i chi roi rhif cyfeirnod eich tenantiaeth. Gellir dod o hyd i’r rhif hwn ar unrhyw lythyr mae Cartrefi Conwy yn ei anfon atoch. 9


CYFRANOGI YN EICH CYMUNED Mae Cyfranogi Yn Eich Cymuned yn gynllun gwirfoddoli lle mae pobl yn cefnogi ei gilydd gyda’u sgiliau drwy ddefnyddio Bancio Amser. Mae angen cefnogaeth gan rywun arall ar bob un ohonom ar ryw adeg yn ein bywydau, ac mae Bancio Amser yn ffordd newydd o’i wneud.

10

Mae’n ffordd o gyfnewid, gydag amser yn cael ei ddefnyddio fel arian. Am bob awr mae cyfranogwr yn ei roi yn y Banc Amser, efallai drwy roi cymorth ymarferol a chefnogaeth i eraill, maent yn gallu tynnu’r un faint o gefnogaeth allan mewn amser, pan fyddant ei hangen.

“Rydw i’n ei chael hi’n llawer haws cael rhywun i smwddio fy nillad nawr, wedi i mi golli fy ngwraig.”

Ym mhob achos, mae’r cyfranogwr yn penderfynu beth y gallant ei gynnig. Mae amser pawb yn gyfartal, felly mae un awr o fy amser i’n gyfartal ag un awr o’ch amser chi, waeth beth rydym yn dewis ei gyfnewid. Er enghraifft, gall rhywun sy’n siopa i aelod hyˆn yna wario’r credyd amser hwnnw ar gael rhywun i dorri eu gwair.

“Mae’n deimlad braf gallu helpu eraill.”

www.cartreficonwy.org

“Rydw i wedi gwneud ffrindiau newydd ac wedi magu llawer o hyder, rydw i nawr yn rhedeg noson carioci yn y lolfa bob wythnos i ennill credydau amser.”

“Roeddwn yn gallu gweld fy ngw ˆ r yn yr ysbyty diolch i aelod arall a oedd yn dod gyda mi ar y bysiau yno ac yn ôl.” “Mae’n hawdd cael cymorth os ydym ni ei angen,”


DDE BYSELO DD EICH GWYRLIVE where

YOU

CARWCH

Ar hyn o bryd, mae Cyfranogi Yn Eich Cymuned yn cael ei gynnal yng Nghysgod y Gogarth yn Llandudno ac yn y Fron, Bae Colwyn, er mwyn cynnwys tenantiaid o’r ardaloedd cyfagos ac Abergele. Bydd Cynllun Cyfranogi Yn Eich Cymuned yn dechrau ym Mae Cinmel yn ddiweddarach yn 2017. I gael rhagor o wybodaeth am y prosiectau hyn, cysylltwch â Nerys Veldhuizen ar 0300 124 0040.

BETH MAE’R AELODAU WEDI’I RANNU Mae aelodau wedi rhannu 800 o oriau gwirfoddoli syfrdanol i gefnogi ei gilydd, gan gynnwys: • Torri gwair • Cludo papurau newyddion dyddiol • DIY – gan gynnwys gosod silffoedd a pholion llenni • Mynd gydag aelodau i apwyntiadau ysbyty • Darparu galwadau ffôn lles • Coginio prydau • Cynnal boreau coffi

CYMUNED

Grw ˆ p o drigolion sydd wedi dod at ei gilydd i wella’r mannau gwyrdd ar eu hystâd yw grw ˆ p garddio Bysedd Gwyrdd yn Rhodfa Caer, Bae Cinmel. Maen nhw wedi gwneud llawer o waith yn ailblannu a pheintio’r planwyr pren, ac maen nhw’n trefnu cystadleuaeth arddio 'Rhodfa Caer yn ei blodau'. Mae cynlluniau’r grw ˆ p ar gyfer y dyfodol yn cynnwys dod â perllan y gymuned yn ei hôl. Maen nhw hefyd yn bwriadu trosi darn o dir anniben, sydd wedi gordyfu, yn ardd coffa. Bydd hwn yn le heddychlon ar yr ystâd lle gall pobl gofio rhai tyner sydd wedi huno.

CWRS IECHYD A LLES AM DDIM – ‘FINDING YOUR ANCHOR’ FINDING YOUR ANCHOR – Cwrs 4 wythnos am DDIM ar reoli eich lles eich hun. Yn dechrau ym mis Medi gyda phedwar sesiwn 1.5 awr yr un. I gael rhagor o wybodaeth neu i archebu lle, ffoniwch Lydia ar 0300 124 0040, neu anfonwch e-bost at Lydia.watson@cartreficonwy.org

• Cynnal clwb brecwast hwyr • Dysgu crosio • Gwersi TG • Smwddio

GW YLIWC H /car trefic https:// vimeo.com e givewhereyouliv

onwy/

0300 124 0040

11


Y CYFAN SYDD ANGEN I CHI EI WYBOD AM

MAWR N A LL A D O RN IW DD ELENI SYDD HYD YN OED YN FWY

YR ADEG HONNO O’R FLWYDDYN ETO! CYNHELIR DIWRNOD ALLAN MAWR ELENI AR 16 AWST YN CANOLFAN HAMDDEN JOHN BRIGHT, LLANDUDNO – MAE GENNYM NI GYMAINT O BETHAU GWYCH I CHI EDRYCH YMLAEN ATYNT ELENI! Rydym wedi bod yn gweithio’n galed iawn ers mis Rhagfyr i sicrhau bod digwyddiad eleni yn fwy anhygoel na digwyddiad y llynedd, felly dewch i ymuno â’r hwyl!

ADLONIANT ANHYGOEL JAMIE LEE HARRISON Os ydych chi’n ffan o Britain’s Got Talent, rydych chi’n siwr o adnabod y canwr ifanc anhygoel hwn a gyrhaeddodd y rownd gynderfynol eleni. Ac am lais! Rydym yn disgwyl perfformiad a fydd yn codi’r blew ar gefn eich gwar ganddo! I’r dim!

Cerddwyr stilts Bwytawyr tân

TWIST AND PULSE

Acrobateg

Nid oes angen cyflwyno’r rhain. Bydd Twist and Pulse yn dod â’u steil unigryw o ddawns stryd a chomedi (Streetomedy) i lwyfan y Diwrnod Allan MAWR eleni. Bydd yr hen a’r ifanc fel ei gilydd yn syfrdanu o weld symudiadau aruthrol y grw ˆ p.

Perfformiadau erial

Byddan nhw’n cynnal dau weithdy dawns yn arbennig i denantiaid rhwng 8 ac 16 oed (mae lleoedd yn gyfyngedig felly gwnewch yn siwr eich bod yn nodi eich enw ar y rhestr yn syth ar ôl cyrraedd).

Reslo

VENUS DEMILO

Peintio wynebau

Bydd y band addawol anhygoel hwn o Lerpwl yn cadw cwmni i ni ac yn chwarae clasuron roc i chi ganu gyda nhw. Os na fydd y grw ˆ p yma yn un o’r prif fandiau yn Glastonbury erbyn 2020, mae rhywbeth mawr o’i le!! 12

BETH ARALL SY’N DIGWYDD?

www.cartreficonwy.org

Uwcharwyr yn rhedeg yn rhydd Disgo wedi’i lenwi ag aer Llawer o hwyl ag offer wedi’u llenwi ag aer Ranger Rob

(yn dychwelyd eto ar ôl galw mawr)

Perfformiadau syrcas

A LLAWER, Y LLAWER MW


CYFLE I CHI ENNILL CANNOEDD!! Mae Cartrefi Conwy bellach wedi lansio ei borth tenantiaid Cartrefi newydd ac rydym am i’n holl denantiaid ddefnyddio’r adnodd ar-lein gwych hwn.

BETH SYDD ANGEN I CHI EI WNEUD? COFRESTRU AR GYFER CARTREFI (gweler y cyfarwyddiadau ar dudalen 9) Arbed yr e-bost cadarnhau a gewch unwaith y byddwch wedi cofrestru, a dod ag o gyda chi ar eich dyfais symudol ar y diwrnod (dilynwch yr olion troed ar gyfer stondin ‘I’m Connected’). Am bo un sy’n cofrestru cyn 2pm ar 16 Awst ac sy’n dod i’n gweld yn y Diwrnod Allan Mawr, byddwn yn ychwanegu £1 i gronfa’r wobr. Y mwyaf o bobl fydd yn cofrestru, y mwyaf o arian y gallech chi ei ennill. (Rhaid i chi fod yn y Diwrnod Allan MAWR a dangos eich e-bost i gael siawns o ennill). Cewch gandi-fflos am ddim (dim mwy na 2 berson) pan fyddwch yn dangos eich e-bost cadarnhad i ni.

MAE ANGEN I CHI DDARLLEN HWN! Mae’r digwyddiad yn dechrau am 11.00am a daw i ben am 3.00pm. Byddwch yn ymwybodol y bydd y gweithgareddau awyr agored yn cau am 2pm pan fydd y sioe diweddglo yn dechrau. DEWCH Â’CH GWAHODDIAD WEDI’I GWBLHAU GYDA CHI AR Y DIWRNOD. Rydym yn disgwyl niferoedd uchel eleni felly dim ond tenantiaid Cartrefi Conwy y gallwn eu caniatáu i’r digwyddiad. Yn anffodus, ni allwn ganiatáu aelodau teulu estynedig nad ydynt yn denantiaid Cartrefi Conwy. Darperir cinio am ddim (bocs bwyd gyda dewis o frechdanau). Bydd y bocs bwyd yn cynnwys diod feddal a bydd dw ˆ r ar gael yn y brif neuadd. Bydd te a choffi ar gael i’w prynu ar y diwrnod. Ni ddarperir hufen iâ eleni.

Rhaid i chi drefnu eich cludiant am ddim erbyn 4 Awst. Ffoniwch Linda ar 01745 335345, anfonwch e-bost atom ni yn diwrnod-allan-mawr@ cartreficonwy.org neu anfonwch neges atom drwy Facebook. 0300 124 0040 13


DIOGELWCH TÂN

MWG PRYD OEDD Y TRO DIWETHAF I CHI WIRIO EICH LARWM MWG?

Mae gan bob un o’n cartrefi larymau mwg er mwyn helpu i’ch cadw’n ddiogel. Byddwn yn gwirio eich larwm bob blwyddyn, ond rydym yn argymell eich bod yn profi eich synwyryddion mwg eich hunain unwaith yr wythnos.

Os ydych yn cael problemau gyda’ch larwm mwg, ffoniwch y Gwasanaethau i Gwsmeriaid ar 0300 124 0040 i ofyn am atgyweiriad.

1. A yw’r golau gwyrdd yn dangos? Mae hyn yn golygu bod eich larwm wedi’i gysylltu â’r prif gyflenwad trydan.

OFFER

2. Pwyswch y botwm profi – a yw eich larwm yn gwneud sw ˆ n?

A YW EICH OFFER CEGIN YN DDIOGEL?

OES GENNYCH CHI GYSYLLTIAD ‘CARELINE’?

Mae oergelloedd, rhewgelloedd, sychdaflwyr, golchwyr llestri a golchwyr dillad i gyd yn ddefnyddiol iawn, ond achosodd offer cartref diffygiol 4328 o danau damweiniol y llynedd, sef 14% o’r holl danau damweiniol.

Pan fyddwch yn profi eich larwm mwg, gwnewch yn siwr ei fod wedi’i gysylltu â Careline. Dylai Careline eich ffonio chi drwy eich blwch Lifeline – dywedwch wrthynt eich bod yn profi eich larwm. Efallai bod gennych fotwm profi lefel isel yn eich tyˆ , y gallwch ei ddefnyddio yn hytrach nag estyn yn uchel am eich larwm mwg. Gofynnwch i’ch Cydlynydd Byw’n Annibynnol os nad ydych yn siwr.

14

www.cartreficonwy.org

Mae gan y wefan www.electricalsafetyfirst. org.uk set ddefnyddiol iawn o ganllawiau a chyngor ar gyfer cadw eich cartref yn ddiogel.


RHAI O’U HARGYMHELLION PWYSICAF YW: • Gwiriwch blygiau a socedi eich offer yn rheolaidd am farciau llosgi, a gwrandewch am synau grwnan neu glecian.

ARCHEBWCH EICH AROLWG DIOGELWCH TÂN YN Y CARTREF AM DDIM 0300 124 0040

• Os ydych yn cael problemau gyda ffiwsys wedi chwythu, torwyr cylched yn tripio neu os yw’r offeryn yn teimlo’n boeth i’w gyffwrdd, mae angen i chi weithredu. • Dylech ddadmer eich oergell o leiaf unwaith y flwyddyn er mwyn sicrhau bod eich offer yn parhau i weithio’n gywir. • Glanhewch y tu ôl i’ch oergell a’ch rhewgell yn rheolaidd i atal llwch rhag cronni. • Peidiwch â defnyddio gwresogydd i ddadmer y tu mewn i’r oergell. • Peidiwch â gosod oergell yn agos at boptai, rheiddiaduron, neu yn llygad yr haul – bydd hyn yn gwneud iddo weithio’n galetach i gadw’r tymheredd mewnol angenrheidiol. • Peidiwch byth â blocio agoriadau awyru mewnol nac allanol eich oergell. • Glanhewch y gwlaniach o hidlydd eich sychdaflwr a glanhewch o amgylch y drws bob tro y byddwch yn ei ddefnyddio. • Peidiwch â rhoi dillad gyda thoddyddion, olew neu fraster arnynt yn y sychdaflwr. • Gwyliwch am farciau llosgi a gwiriwch nad oed weiriau rhydd neu wedi gwisgo ar eich offer. • Peidiwch â gadael sychdaflwyr, golchwyr llestri na golchwyr dillad ymlaen dros nos. Os yn bosibl, tynnwch y plwg neu diffoddwch offer dros nos a phan fyddwch yn mynd allan. • Peidiwch ag anwybyddu synau rhyfedd! Os ydych chi’n meddwl y gallai fod problem, tynnwch eich offeryn allan o’r soced a chysylltwch â’r gwneuthurwr neu dechnegydd atgyweirio cymwys. Gallwch hefyd ddefnyddio’r wefan ‘Electrical Safety First’ i wirio a yw unrhyw un o’ch offer cartref wedi’u galw’n ôl gan y gwneuthurwr am resymau diogelwch.

www.electricalsafetyfirst.org.uk/ product-recalls/

YDYCH CHI'N BWY MEWN BLOC O FFLATIAU?

YDYCH CHI’N GWYBOD BETH I’W WNEUD OS BYDD YNA DÂN? Mae’n bwysig gwybod beth i'w wneud pe bai tân. Cymerwch amser i ddarllen y rhybuddion diogelwch tân sydd ar bob llawr o'ch bloc. Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn, cysylltwch – gallai achub eich bywyd!

DIOGELWCH TÂN MEWN ARDALOEDD CYMUNEDOL Mae’n bwysig iawn nad ydych yn gadael UNRHYW eitemau mewn ardaloedd cymunedol. Rhaid cadw’r ardaloedd hyn yn glir bob amser er mwyn atal tân rhag lledaenu. Mae eitemau mewn cynteddau ac ardaloedd cymunedol eraill hefyd yn atal pobl rhag gadael yr adeilad yn ddiogel pe bai tân. Os gwelwch unrhyw beth yn eich bloc sy’n berygl tân, cysylltwch gyda ni ar unwaith.

DRYSAU TÂN Rydym wedi sylwi bod nifer o ddrysau tân mewn blociau fflatiau wedi cael eu dal ar agor yn ddiweddar. Mae’r drysau tân hyn yn arbed bywydau gan eu bod yn atal tân rhag lledaenu trwy eich adeilad. Os gwelwch ddrws tân sydd wedi’i ddal ar agor, caewch o a gadewch i ni wybod. 0300 124 0040 15


SIONED S eth WILLIAiM Gyfloga

CYFARFOD Y TÎM

Mentor Academ

Rwyf yma i gefnogi pob gwirfoddolwr a phob unigolyn ar yr Academi Gyflogaeth. Byddaf yn gweithio gyda phobl i roi cynllun gweithredu personol ar waith, rhoi hyfforddiant a chefnogaeth iddyn nhw gyda chwilio am swyddi a sgiliau. Rwyf am wneud yn siw ˆ r y bydd pob un rwy’n ei gefnogi yn ennill profiad addas a fydd yn eu helpu i gymryd cam yn nes at gyflogaeth. Rwy’n ferch leol o Ynys Môn ac mae fy nghefndir ym maes hyfforddiant, cyflogaeth a gwaith cymunedol. Bûm yn gweithio ar un o brosiectau cyflogaeth CAIS lle bûm yn helpu pobl i ddod o hyd i swyddi cynaliadwy. Roedd yn brofiad gwerthfawr iawn a dyna lle dysgais fod gen i frwdfrydedd i gefnogi pobl i gymryd camau bychain a all wneud gwahaniaeth mawr i’w bywydau. Rwyf wedi treulio’r tair blynedd diwethaf yn gweithio ar brosiectau i helpu pobl yng Ngogledd Cymru wneud defnydd o’r we am y tro cyntaf. Roedd hyn yn cynnwys hyfforddi staff a gwirfoddolwyr, recriwtio

16

www.creatingenterprise.org.uk

tiwtoriaid a gwobrwyo grwpiau cymunedol gyda chit digidol er mwyn eu helpu i ddefnyddio’r we yn fwy effeithiol. Gwn fod mynd ar-lein a defnyddio’r we yn bwysig iawn i helpu pobl i fynd i mewn i gyflogaeth, sydd yn rhywbeth y byddaf yn ei gyflwyno i’r Academi Gyflogaeth. Rwy’n edrych ymlaen i helpu pobl i sylweddoli eu potensial ac rwyf wrth fy modd yn gweithio yn rhywle sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl, ac sy’n falch o hynny. Rwyf wedi bod yn dilyn gwaith Creu Menter am fisoedd ac felly pan ddaeth cyfle am swydd, doeddwn i ddim am adael iddo basio!

01745 335684


NIGEL N logaeth MORGA demi Gyf Cydlynydd Aca

Rwyf wedi ymuno â Creu Menter yn ddiweddar fel Cydlynydd Academi Gyflogaeth, gan gyflwyno rhai o’n tenantiaid i fuddion gwirfoddoli, a helpu eraill i ddod o hyd i gyflogaeth. Gall hyn fod drwy ein Hacademi Gyflogaeth, neu ddod o hyd i waith arall drwy rwydwaith o weithwyr rydym yn gweithio ac yn siarad â nhw ar hyn o bryd. Rwyf wedi cael llawer o rolau gwahanol dros y blynyddoedd, gan gynnwys cerddor lledbroffesiynol, deiliad stondin marchnad, goruchwyliwr drws, llafurwr, rheolwr siop, cyfrifydd a swyddog heddlu rhannol gymwys, i enwi ond ychydig! Yn fwy diweddar, cefais fy nghyflogi gan yr Adran Gwaith a Phensiynau fel rhan o’u Tîm Gweithiwr a Phartneriaeth, ac ochr yn ochr â Thîm Datblygu Busnes Awdurdodau Lleol. Rwyf hefyd wedi treulio peth amser yn ddi-waith, felly rwy’n ymwybodol o’r materion sy’n wynebu tenantiaid di-waith. Yn ystod y cyfnod hwn, cefais sawl cyfle i wirfoddoli, a’m helpodd i ennill profiad, gwella cyfleoedd, datblygu sgiliau newydd, gwella fy CV, a rhoi synnwyr o bwrpas a chyfeiriad i mi.

3 MOMENT BALCH: 1 Rwy’n oroeswr canser, a chefais wybod na fyddwn i’n gallu cael plant. Felly mae tynnu dau fys ar y clefyd hwn a dod dros y canser, yna gael dau o blant, yn gorfod bod ar dop fy rhestr

DEWCH I DDWEUD HELO OS WELWCH CHI FI O ! GWMPAS

2 Cael gwobr dewrder gan Wasanaeth Tân Gogledd Cymru am achub 13 o bobl o adeilad a oedd ar dân yn Llandudno, ond ni allwn gasglu’r wobr gan fy mod yn beicio ar hyd y Nîl i godi arian ar gyfer Mencap ar y pryd! 3 Cael fy ngwahodd i barti gardd yn Buckingham Palace, am waith y gwnes i gyda chwsmeriaid diamddiffyn yn y Ganolfan Waith

Rwy’n gefnogwr rygbi brwd, yn dilyn Cymru ers ein hanterth yn y Yn fy mywyd personol, rwyf wrth saithdegau. Rwy’n aelod o Glwb Rygbi Llandudno, ac yn ddeilydd fy modd yn treulio amser gyda tocyn tymor RGC, ac roeddwn i‘n fy nheulu, ac rwyf hefyd yn hoffi ddigon lwcus i’w dilyn i Stadiwm cadw’n heini, gan fynd i redeg, beicio ac i’r gampfa yn rheolaidd. y Principality yn ddiweddar Rwy’n rhan o weithgareddau codi i’w gwylio yn Rownd Derfynol Cwpan Cenedlaethol Undeb arian ar gyfer Cancer Research Rygbi Cymru, a’u gweld yn curo UK, ac rwyf wedi cymryd rhan yn ddiweddar mewn digwyddiad Pontypridd! Relay for Life 24 awr, hyd yma rydyn ni fel tîm bach wedi codi dros £4,000 ar gyfer yr elusen.

01745 335684 17


WYDDOCH CHI?

FOD CREU MENTER YN RHOI CYFLEOEDD NWY GWIRFODDOLI I DENANTIAID CARTREFI CO ITH AR DRAWS YSTOD EANG O FATHAU O WA

Mae llawer o wirfoddolwyr yn cael boddhad mawr o roi eu hamser i helpu, a gall gwirfoddoli gynnig rheolwaith a strwythur mewn amgylchedd cyfeillgar. Mae gwirfoddoli yn ased da iawn i’w roi ar eich CV ar gyfer unrhyw un sy’n bwriadu mynd i gyflogaeth.

BETH YDW I’N EI GAEL? • Datblygiad Personol • Ennill sgiliau newydd a phrofiad • Gwella rhagolygon gwaith • Cwrdd â phobl newydd • Magu hyder

Rydym yn trefnu digwyddiad gwirfoddolwyr blynyddol i ddiolch i’n holl wirfoddolwyr sydd wedi ein helpu yn ystod y flwyddyn.

• Mynediad i amrywiaeth o hyfforddiant

MAE SWYDDI GWAG YN CYNNWYS:

• Darperir Gwisg a Chyfarpar Diogelu Personol (os yn briodol)

Cymhorthydd Derbynfa

• Treuliau ychwanegol

Cymhorthydd Marchnata a Chyfryngau Cymdeithasol

• Cefnogaeth mentor

Cymhorthydd i’r Gofalwr

• Cefnogaeth “mewn swydd” gan Fydi Gwaith

Cymhorthydd Marchnata a Digwyddiadau

Mae yna hefyd raglen wobrwyo i ddiolch i chi am eich amser. Yn seiliedig ar y nifer o oriau rydych chi wedi gwirfoddoli, byddwch yn datblygu i lefelau Efydd, Arian ac Aur. Ar ôl i chi gyrraedd pob lefel byddwch yn derbyn tystysgrif ac yn gallu dewis o amrywiaeth o wobrau.

Gwaith Gweinyddu a Gweithgareddau Cefnogaeth Gymunedol Cymhorthydd Gweinyddol Cymhorthydd i Grefftwr Cymhorthydd Peintio

SUT I WNEUD CAIS

18

• Dros e-bost neu ffôn – 01745 335684 / volunteering@creatingenterprise.org.uk

• Byddwn yn trefnu treial i chi weld a ydych yn hoffi’r cyfle rydych wedi’i ddewis

• Byddwn yn trefnu sgwrs anffurfiol neu’n dod allan i gwrdd â chi i drafod y cyfle mwyaf addas i chi

• Os yw pawb yn hapus – byddwn yn cytuno ar oriau sy’n gweddu ac yna byddwch yn barod i ddechrau

www.creatingenterprise.org.uk

01745 335684


SOWND MEWN RHIGOL AC ANGEN CYMORTH I SYMUD YN EICH BLAEN?

Ffoniwch Lydia ar 0300 124 0040 neu anfonwch e-bost at Lydia.watson@cartreficonwy.org i symud ymlaen heddiw!

ˆ R BETH I’W WNEUD NESAF? DDIM YN SIW Gallwn eich helpu gyda: • Lanlwytho buddion ar-lein

• Gwella eich sgiliau

• Chwilio am waith

• Cymorth i gael mynediad at ddysgu

• Sgiliau a chefnogaeth ddigidol • Nodi eich sgiliau

• Cefnogaeth un i un • Magu hyder

MICHELLE YN GWNEUD YN DDA! Mae Michelle Harrison yn denant Cartrefi Conwy yn Llanfairfechan. Mae hi’n 27 oed ac mae ei phlentyn ieuengaf yn mynd i’r ysgol yn llawn amser, felly mae Michelle eisiau mynd yn ôl i’r gwaith ond ddim yn gwybod lle i ddechrau. Clywodd Michelle am y cymorth y mae Cartrefi Conwy yn ei gynnig a ffoniodd y swyddfa. Cafodd ei chyflwyno i Lydia Watson, a gafodd wybod am yr hyn oedd ei angen ar Michelle a’r hyn yr oedd am ei wneud. Y peth cyntaf oedd cefnogi Michelle gyda dryswch yn y Ganolfan Waith, a helpodd Lydia hi i sortio hynny. Yna aethant ati i edrych ar opsiynau o swyddi. “Cynigiodd y Ganolfan Waith swydd 10 tan 2 i mi mewn siop,” meddai Michelle, “ond hoffwn i wneud rhywbeth sy’n yrfa ac nid dim ond yn swydd.” Roedd Michelle eisiau bod yn ymwelydd iechyd yn canolbwyntio ar blant byddar, ond roedd her hyfforddiant fel nyrs, ynghyd â’r oriau a’r lleoliadau, yn anodd eu rheoli gyda thri phlentyn ifanc. Mae hi bellach wedi penderfynu yr hoffai fod yn Gymhorthydd Addysgu ar gyfer plant ag anableddau dysgu neu broblemau ymddygiadol, sy’n gweddu’n well gydag oriau ysgol a gwyliau ei phlant.

Helpodd Lydia i drefnu cyrsiau ar gyfer Michelle, y telir amdanynt gan Cartrefi Conwy. Mae hi wedi bod ar gwrs Rheoli Ymddygiad Anodd ym Mae Colwyn, cwrs Swyddog Diogelu Dynodedig yn Nhyˆ Llewelyn a chwrs Cymorth Cyntaf Pediatrig ym Mae Cinmel. Mwynhaodd Michelle y cyrsiau’n fawr a’r cyfle i ennill sgiliau newydd. “Rwy’n ceisio peidio â bod gartref yn ystod y dydd – gallwch deimlo’n ynysig, yn treulio’ch holl amser gyda’r plant neu lanhau ar eu holau. Mae’n neis cael rhywbeth i’w wneud sy’n wahanol i baned yn nhyˆffrind. Mae’n fy nifyrru, yn gwneud i mi ddefnyddio fy ymennydd, sydd heb gael ei ddefnyddio’n iawn ers cael plant!” Cafodd Michelle gymorth gyda’i CV hefyd, gan ei wneud yn fwy penodol ar gyfer y swyddi yr oedd am wneud cais amdanynt. Cysylltodd Lydia ag ysgol i ofyn am fanyleb swydd, roedd gan yr ysgol swydd wag ac anfonodd y cais am swydd at Michelle, felly fe aeth amdani! “Mae cymorth Lydia wedi gwneud y dasg o chwilio am swydd yn llawer haws,” meddai Michelle. “Mae hi’n hyfryd, yn ddeallus iawn ac yn ddoniol. Byddwn i bendant yn argymell y gwasanaeth i eraill”.

0300 124 0040 19


www.cartreficonwy.org

0300 124 0040


DIM GODDEFGARWCH GYDA CHYFFURIAU ANGHYFREITHLON Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae ein Tîm Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a Heddlu Gogledd Cymru wedi cael cwynion yn ymwneud â defnyddio a delio cyffuriau anghyfreithlon ar ystadau Tre Cwm. Rydym o’r farn bod y rhan fwyaf o’n tenantiaid yn bryderus iawn am y peryglon y mae defnyddio cyffuriau anghyfreithlon yn eu creu i gymdeithas ac i blant yn arbennig. Rydym am weithio gyda chi i wneud gwahaniaeth a gwella’r ardal.

COFIWCH… PAN FYDDWCH YN LLOFNODI EICH CYTUNDEB TENANTIAETH, RYDYCH YN CYTUNO: “i beidio â defnyddio eich cartref, neu ardaloedd cymunedol neu gyfagos, nac yn caniatáu iddynt gael eu defnyddio, at ddibenion anghyfreithlon neu anfoesol (gan gynnwys defnyddio, gwerthu neu dyfu cyffuriau anghyfreithlon).”

Y CAMAU GWEITHREDU RYDYM WEDI’U CYMRYD • 7 x Contract Ymddygiad Derbyniol wedi’u cytuno a’u llofnodi gan denantiaid – mae’r tenantiaid hyn wedi addo gweithio gyda ni i wella eu hymddygiad. • 2 x Rybudd Tenantiaeth Terfynol wedi’u rhoi – mae’r tenantiaid hyn mewn perygl o gamau gweithredu cyfreithiol yn cael eu cymryd yn eu herbyn nhw neu eu cartref. • 2 x Waharddeb Sifil – tenantiaid yn cytuno gyda’r Llys i wella eu hymddygiad. • 2 x Ddadfeddiant – tenantiaid wedi colli eu cartrefi. . • 1 x Meddiant Gohiriedig – gall y tenant golli ei gartref.

Ydych chi’n bryderus am ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn eich cymdogaeth? Rhowch wybod i ni. Rhif ffôn: Tîm Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Cartrefi Conwy 01745 335361 E-bost: antisocialbehaviour@ cartreficonwy.org Yn ASB Team, Cartrefi Conwy, ysgrifenedig: Morfa Gele, North Wales Business Park, Abergele, Conwy, LL22 8LJ Ar-lein: cartreficonwy.org/contactus/report-anti-socialbehaviour Gallwch hefyd ffonio Heddlu Gogledd Cymru ar 101 (neu 999 mewn argyfwng) 0300 124 0040 21


GWEITHIO GYDA HEDDLU GOGLEDD CYMRU Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru i wneud yn sicr bod ein tenantiaid yn ddiogel yn eu cartref.

Gwnaethom wahodd yr heddlu i adolygu diogelwch ym mhob cynllun cysgoddol Cartrefi Conwy. Byddant hefyd yn gweithio gyda’n Cydlynwyr Byw’n Annibynnol i helpu ein tenantiaid hyˆn gadw’n ddiogel. “Rwy’n hapus iawn gyda’r hyn rwyf wedi’i weld hyn yma,” meddai David Williams, Swyddog Troseddu Heddlu Gogledd Cymru. “Gwelsom safon uchel o ddiogelwch yn eiddo Cartrefi Conwy i gyd. Mae drysau a ffenestri â diogelwch uwch, ond dim ond os ydyn nhw’n cael eu defnyddio y byddan nhw’n effeithiol!” Rydym wedi gweld drysau ffrynt cymunedol yn cael eu dal ar agor gyda bric a swp o oriadau’r fynedfa yn cael eu cynnig i berthnasau, ac hyd yn oed y postmon! Mae bwrgleriaeth wedi gostwng 70% yn y 10 mlynedd diwethaf, ond y ffordd hawsaf o ddwyn yw cerdded i mewn. Mae Heddlu Gogledd Cymru yn argymell cadw drysau a ffenestri dan glo, gan wirio ac ail wirio eich diogelwch cyn mynd i’r gwely gyda’r nos. “Bu cynnydd mewn byrgleriaeth goriadau ceir - dim ond 30 eiliad y mae’n ei gymryd i fynd drwy ddrws heb ei gloi a chipio’r goriad ar gyfer y car y tu allan i’ch tyˆ.”

Gall troseddwyr fynd i mewn i’ch cartref hefyd os byddwch chi’n eu gadael i mewn! “Yn aml pan fydd rhywun wedi cael eu twyllo neu wedi dioddef byrgleriaeth gan rywun a gnociodd ar eu drws, rydyn ni’n clywed “Ond roedd o i’w weld yn ddyn neis.” Wrth gwrs ei fod o – fel arall fyddech chi heb agor y drws!” meddai David Williams. Y ffordd orau yw peidio â rhoi’r cyfle i droseddwyr ddefnyddio eu dawn siarad. “Peidiwch â theimlo ei bod yn rhaid i chi agor y drws. Eich cartref chi ydyw a chi sy’n dewis pwy sy’n dod i mewn. Edrychwch allan o’r ffenestr, edrychwch i weld a yw’n rhywun rydych chi’n ei adnabod. Os na, ysgydwch eich pen yn gwrtais a chwifio ar yr unigolyn i fynd i ffwrdd.” Os na allwch weld stepen eich drws yn hawdd o’r tu mewn, trefnwch ‘guriad cyfrinachol’ gyda ffrindiau a theulu. Gwiriwch yr amser i weld a yw’n debygol o fod yn rhywun sy’n dod heibio yn rheolaidd. Gallwch hefyd wella eich diogelwch drwy sicrhau bod eich sied yn yr ardd ar glo. “Rydyn ni’n cadw beiciau, peiriannau torri gwair a chistiau tw ˆ ls drud mewn siediau - mae fel basged siopa i ladron os yw’r drws ar agor! Mae lladron yn hoffi dwyn pethau y gallant eu gwerthu’n gyflym, felly peidiwch â gwneud pethau’n hawdd iddyn nhw.”


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.