2 minute read

Crynodeb Prif Weithredwr y Grŵp

Next Article
Y Daith

Y Daith

Pe bai rhywun wedi dweud wrthyf yr adeg yma’r llynedd y byddem yn wynebu pandemig byd-eang fyddai’n newid y ffordd yr ydym yn ‘byw, gweithio a chwarae’, fyddwn i ddim wedi credu hynny. Daeth COVID-19 â ffordd gwbl newydd o weithio i ni yn Cartrefi Conwy a bydd yn parhau i wneud hynny am beth amser. Caewyd ein swyddfeydd yn gyflym a galluogwyd ein cydweithwyr o’r swyddfeydd i weithio o gartref (gan gynnwys ein canolfan alwadau). Rhoddwyd ein holl raglenni datblygu a gwella, yn ogystal â gwaith trwsio dianghenraid, i’r naill ochr. Wedyn, fe adleoliwyd cydweithwyr na allent wneud eu swyddi arferol i ddarparu cefnogaeth ddwys i’r tenantiaid oedd â’r angen mwyaf. Ein blaenoriaeth yn ystod y cyfnod hwn oedd sicrhau ein bod yn cadw tenantiaid yn ddiogel ac yn dal i gydymffurfio, gan warchod cynaladwyedd hirdymor y busnes. Rwyf mor falch o dîm Cartrefi Conwy sydd wedi mynd y filltir ychwanegol i sicrhau fod gan ein tenantiaid bopeth sydd ei angen arnynt yn ystod yr adeg anodd yma. O ddarparu cyngor a chefnogaeth ariannol i denantiaid sydd wedi colli cyfran o’u hincwm oherwydd y pandemig, i’n crefftwyr sydd wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau ein bod yn ateb ein gofynion cyfreithiol. Ond er gwaethaf hyn i gyd, rydym wedi cael blwyddyn hynod lwyddiannus (a phrysur) yma yn Cartrefi Conwy. Nôl ym mis Gorffennaf agorwyd ein ffatri adeilad Modiwlar Creu Menter gyntaf yng Nghaergybi, er mwyn adeiladu ein tai Passivhaus ein hunain. Drwy weithio mewn partneriaeth gyda Beattie Passive rydym bellach yn adeiladu cartrefi carbon sero i amrediad o bartneriaid ar draws Gogledd Cymru. Rydym hefyd wedi cynyddu’r momentwm ar ein rhaglen ddatblygu newydd uchelgeisiol ac wedi creu 103 o gartrefi newydd eleni. Roeddem yn falch iawn o ennill tair gwobr yng Ngwobrau Tai Cymru CIH eleni, gan gynnwys Gwobr Creu Lleoedd ar gyfer rhaglen Adnewyddu Tre Cwm. Ffordd wych o ddathlu’r gwaith anhygoel sy’n digwydd ar draws y grŵp. Un o’r adegau i mi deimlo fwyaf balch oedd yn ystod taith o stad Tre Cwm pan ddywedodd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, “Pe gallem ni botelu’r hyn y mae Cartrefi Conwy wedi ei gyflawni yma, a’i ddefnyddio mewn llefydd eraill, yna byddai Cymru’n well lle o lawer.” Rydym hefyd wedi cychwyn taith arweinyddiaeth sy’n gweddnewid. Mae 27 cydweithiwr wedi ymuno â’r rhaglen Frontline Futures fydd yn galluogi ein cydweithwyr rheng flaen i’n helpu ni i siapio dyfodol ein busnes. Rydym hefyd wedi sefydlu ein rhaglen ‘Arloesi’ er mwyn sicrhau fod cydweithwyr yn cael dweud eu dweud ynglŷn â’r hyn rydym yn ei wneud a sut rydym yn ei wneud. Daeth hyn i benllanw drwy gyd-gynhyrchu ein Cynllun Busnes newydd sy’n amlinellu ein dyheadau ar gyfer y 5 mlynedd nesaf. Mae’r cynllun busnes newydd yn amlinellu ein cynlluniau ar gyfer gweithlu mwy heini a hyblyg fydd yn gallu gweithio o unrhyw le, unrhyw bryd. Ein nod yw cynnig amgylchedd gwaith gwirioneddol hyblyg i’n gweithlu sy’n bodloni anghenion cwsmeriaid a chydweithwyr. Mae’n adeg gyffrous i Cartrefi Conwy wrth i ni barhau i dyfu ac arallgyfeirio, a hoffwn ddiolch i bob un o’n cydweithwyr sy’n ymuno â ni ar y daith hon. Wrth i ni dyfu fel busnes, bydd anelu at ‘greu cymunedau y gallwn fod yn falch ohonynt’ yn greiddiol i ni. Andrew Bowden Prif Weithredwr y Grŵp

Advertisement

This article is from: