3 minute read

Gwasanaethau Pobl

Gwasanaethau Pobl Tai yn Gyntaf Mae gofalu am ein cwsmeriaid wrth wraidd popeth a wnawn. Dyma flas ar yr hyn y buom yn ei wneud eleni... Fe ymunom ni â siarter Tai yn Gyntaf ym mis Gorffennaf 2019 gan roi ein tŷ cyntaf ar osod ym mis Medi 2019. Mae’r

Rhaglen Frontline prosiect yn darparu cartrefi i gleientiaid digartref sy’n derbyn

Advertisement

Futures GWASANAETHAU POBL cefnogaeth ddwys gennym ni a’r tîm Tai yn Gyntaf.

Rydym am ddod â’n cydweithwyr Frontline yn ganolog i bopeth a wnawn. Nhw sy’n adnabod ein tenantiaid. Maen nhw’n gwybod beth sydd ei angen arnynt ac mae ganddynt syniadau gwych sut y gallwn ddarparu Cefnogi tenantiaid mewn anhawster ariannol gwasanaeth gwell fyth iddynt. Aeth sawl cydweithiwr i’r rhaglen Chartered Institute of Housing Frontline Futures eleni a bydd hyn yn ein helpu i siapio’r ffordd yr ydym yn gweithio yn y dyfodol. Cefnogodd ein Tîm Cefnogaeth Ariannol 477 o denantiaid i ennill £546,487 o incwm ychwanegol eleni. Mae’r tîm yn darparu cyngor ar fudd-daliadau a chyfrifiadau yn ogystal â chefnogi ceisiadau. Maen nhw hefyd yn cynnig cyngor/cefnogaeth gyda chyllido a rheoli dyled. Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Gweithredwyd meddalwedd Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (ReAct) eleni er mwyn cael mynediad at wybodaeth yn gyflym a rhwydd i reoli achosion yn ddigidol.

Cadair Sgwrs Mae Cadair Sgwrs yn brosiect pontio’r cenedlaethau a lansiwyd yn Llanrwst i fynd i’r afael ag unigrwydd ymysg ein tenantiaid hŷn a chaiff ei ariannu drwy’r Celfyddydau a Busnes. Gan weithio gyda Men’s Shed Llanrwst, disgyblion o Ysgol Bro Gwydir a thenantiaid oedrannus yr ardal leol, lluniwyd partneriaeth gyda’r artist lleol Catrin Williams i greu gwaith celf oedd yn cynrychioli cyfeillgarwch, hapusrwydd ac yn dathlu’r dref sy’n golygu cymaint iddynt. Yna gosodwyd y gwaith gan yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd yn Eisteddfod Llanrwst. Mi ddefnyddir y gadair mewn digwyddiadau cymunedol er mwyn annog pawb i gymryd pum munud am sgwrs a phaned. celf ar gadair wydr ffibr arbennig a’i dadorchuddio

Mae ein Panel Craffu yn adolygu ein gweithdrefnau diogelwch tân Yn dilyn trychineb Grenfell, roeddem am weithio gyda’n tenantiaid i weld a oedd unrhyw beth arall yr oedd angen i ni ei wneud i’w cadw nhw’n ddiogel rhag tân. Rhoddodd y panel craffu sêl bendith i’n gweithdrefnau diogelwch tân a rhoddodd 18 o argymhellion i ni weithio drwyddynt a gwella’r hyn a wnawn ymhellach. Diolch yn fawr i’r panel am fod yn rhan o’r gwaith hynod bwysig hwn.

Mae 85% o’n tenantiaid yn fodlon fod eu rhent yn cynnig gwerth am arian Cyfanswm ôl-ddyledion tenantiaid presennol 3.21%

Sefydliad dementia gyfeillgar Rydym yn parhau i hyfforddi ein cydweithwyr i gyd i fod yn ‘Ffrindiau Dementia’ ac mae ein Cydlynydd Ymgysylltu â Phobl Hŷn’ yn brysur yn hyfforddi ein tenantiaid. Ym mis Mehefin 2019 cynhaliodd preswylwyr Maes Cwstennin brynhawn ‘Cacennau dros Dementia’ i godi ymwybyddiaeth am Dementia a chodi £420 i Gymdeithas Alzheimer’s. • Rhoi polisi cam-drin domestig mewn lle i gefnogi cydweithwyr allai fod yn profi cam-drin domestig • Penodi uwch hyrwyddwr cam-drin domestig

Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid Rydym wrth ein boddau ein bod yn cadw ein Achrediad Rhagoriaeth Mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid eleni ac wedi nodi’r digwyddiad yn ystod Wythnos Gwasanaeth i Gwsmeriaid.

Rydym wedi penderfynu dal ati i gefnogi grwpiau tenantiaid drwy arian y Gist Gymunedol ac eleni fe roddwyd bron i £13,500 i 16 prosiect cymunedol gwahanol.

A dyma mae ein Tîm Ymgysylltu â’r Gymuned

‘Gwneud Safiad’ yn erbyn Cam-drin Domestig Rydym wedi ymuno â llw CIH Gwneud Safiad eleni ac wedi ymrwymo i: • Creu a sefydlu polisi i gefnogi preswylwyr sy’n cael eu heffeithio gan gam-drin domestig • Darparu gwybodaeth am wasanaethau cefnogaeth cam-drin domestig yn lleol a chenedlaethol ar ein gwefan wedi bod yn wneud...

“Ro’n i eisiau dod i roi cynnig ar y gwahanol chwaraeon dŵr. Dwi’n falch i mi ddod – mae’n llawer gwell na gwylio’r teledu.”

Clwb Traeth @ Porth Eirias Galluogodd ein Cyllid Cist Gymunedol rai o’n tenantiaid ifanc i roi cynnig ar chwaraeon dŵr ar garreg eu drws, o hwylfyrddio i badlfyrddio. “Roedd yn wych. Wnes i fwynhau’r padlfyrddio a’r hwylio. Mae’n syniad gwych ac wedi fy nghadw rhag chwarae ar y cyfrifiadur drwy’r dydd. Yn lle hynny rydw i wedi cael llawer o hwyl.”

Caffi Cymunedol Peulwys Mae ein tenantiaid yn cyfarfod bob dydd Mawrth yn y Ganolfan Gymunedol leol am baned ac i chwarae gemau bwrdd. Rydym hefyd yn gwahodd gwesteion i ddarparu gwybodaeth am unrhyw beth o gefnogaeth ariannol i gyngor cyflogaeth.

This article is from: