Gwasanaethau Pobl
Tai yn Gyntaf
Mae gofalu am ein cwsmeriaid wrth wraidd popeth a wnawn. Dyma flas ar yr hyn y buom yn ei wneud eleni...
Rhaglen Frontline Futures Rydym am ddod â’n cydweithwyr Frontline yn ganolog i bopeth a wnawn. Nhw sy’n adnabod ein tenantiaid. Maen nhw’n gwybod beth sydd ei angen arnynt ac mae ganddynt syniadau gwych sut y gallwn ddarparu gwasanaeth gwell fyth iddynt. Aeth sawl cydweithiwr i’r rhaglen Chartered Institute of Housing Frontline Futures eleni a bydd hyn yn ein helpu i siapio’r ffordd yr ydym yn gweithio yn y dyfodol.
GWASANAETHAU POBL
Fe ymunom ni â siarter Tai yn Gyntaf ym mis Gorffennaf 2019 gan roi ein tŷ cyntaf ar osod ym mis Medi 2019. Mae’r prosiect yn darparu cartrefi i gleientiaid digartref sy’n derbyn cefnogaeth ddwys gennym ni a’r tîm Tai yn Gyntaf.
Cefnogi tenantiaid mewn anhawster ariannol Cefnogodd ein Tîm Cefnogaeth Ariannol 477 o denantiaid i ennill £546,487 o incwm ychwanegol eleni. Mae’r tîm yn darparu cyngor ar fudd-daliadau a chyfrifiadau yn ogystal â chefnogi ceisiadau. Maen nhw hefyd yn cynnig cyngor/cefnogaeth gyda chyllido a rheoli dyled.
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Gweithredwyd meddalwedd Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (ReAct) eleni er mwyn cael mynediad at wybodaeth yn gyflym a rhwydd i reoli achosion yn ddigidol.
Cadair Sgwrs Mae Cadair Sgwrs yn brosiect pontio’r cenedlaethau a lansiwyd yn Llanrwst i fynd i’r afael ag unigrwydd ymysg ein tenantiaid hŷn a chaiff ei ariannu drwy’r Celfyddydau a Busnes. Gan weithio gyda Men’s Shed Llanrwst, disgyblion o Ysgol Bro Gwydir a thenantiaid oedrannus yr ardal leol, lluniwyd partneriaeth gyda’r artist lleol Catrin Williams i greu gwaith celf oedd yn cynrychioli cyfeillgarwch, hapusrwydd ac yn dathlu’r dref sy’n golygu cymaint iddynt. Yna gosodwyd y gwaith celf ar gadair wydr ffibr arbennig a’i dadorchuddio gan yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd yn Eisteddfod Llanrwst. Mi ddefnyddir y gadair mewn digwyddiadau cymunedol er mwyn annog pawb i gymryd pum munud am sgwrs a phaned. 8
Mae ein Panel Craffu yn adolygu ein gweithdrefnau diogelwch tân Yn dilyn trychineb Grenfell, roeddem am weithio gyda’n tenantiaid i weld a oedd unrhyw beth arall yr oedd angen i ni ei wneud i’w cadw nhw’n ddiogel rhag tân. Rhoddodd y panel craffu sêl bendith i’n gweithdrefnau diogelwch tân a rhoddodd 18 o argymhellion i ni weithio drwyddynt a gwella’r hyn a wnawn ymhellach. Diolch yn fawr i’r panel am fod yn rhan o’r gwaith hynod bwysig hwn.
Mae 85% o’n tenantiaid yn fodlon fod eu rhent yn cynnig gwerth am arian Cyfanswm ôl-ddyledion tenantiaid presennol 3.21%