Adroddiad Blynyddol Gwithgareddau 19/20

Page 1

Adroddiad Blynyddol Gweithgareddau 2019-2020


GWASANAETHAU POBL

GWASANAETHAU EIDDO

DATBLYGU A LLEOEDD

LLYWODRAETH A CHYMORTH


Cynnwys 04

Rhagair gan Gadeirydd Y Bwrdd

12

Llywodraethu a Gwasanaethau Cefnogi

05

Crynodeb Prif Weithredwr y Grŵp

15

Datblygu a Lleoedd

06

Y Daith

18

Creu Menter

08

Gwasanaethau Pobl

22

Dadansoddiad Cyllid

10

Gwasanaethau Eiddo

24

Bwrdd Rheoli

MANYLION CYSYLLTU’R PENCADLYS PRIF SWYDDFA Morfa Gele, Parc Busnes Gogledd Cymru, Cae Eithin, Abergele LL22 8LJ Ffôn: 0300 124 0040 Cofnodir pob galwad gyda Gwasanaethau Cwsmeriaid. E-bost: enquiries@cartreficonwy.org www.cartreficonwy.org Mae’r ddogfen hwn ar gael mewn fformatau eraill ar gais.

3


Rhagair gan Gadeirydd Y Bwrdd Cyn i mi gychwyn, hoffwn gymryd y cyfle hwn i dalu teyrnged i’n cyn Gadeirydd, Huw Evans, fu farw’n drist iawn ym mis Mehefin 2019. Roedd yn unigolyn allweddol iawn i ni yn Cartrefi Conwy ac yn greiddiol i siapio ein gweledigaeth strategol. Drwy ei agwedd drugarog, ei frwdfrydedd, ei arbenigedd a’i wybodaeth o, fe siapiwyd y sefydliad deinamig sy’n bodoli heddiw, ac mae ei etifeddiaeth yn parhau i ddylanwadu ar beth rydym yn ei wneud a sut rydym yn ei wneud. Ers i mi ddal yr awenau fel Cadeirydd Bwrdd Cartrefi Conwy ym mis Tachwedd 2019 rydym wedi gwneud rhai newidiadau i strwythur y Bwrdd. Rwy’n hyderus y bydd yr wybodaeth, sgiliau a’r angerdd o amgylch y bwrdd yn rhoi sylfaen ardderchog ar gyfer y dyfodol mewn cyfnod newydd cyffrous. O edrych yn ôl dros y 12 mis diwethaf, mae’n ysbrydoli rhywun i weld faint rydym wedi ei gyflawni. Mae ein tenantiaid yn cael lle canolog ym mhopeth a wnawn, ac roeddwn wrth fy modd ein bod wedi llwyddo i ennill Safon Ragoriaeth Cwsmeriaid eto eleni. Ein blaenoriaeth gyson fydd sicrhau y gall ein tenantiaid gynnal eu tenantiaeth, byw mewn cartref sydd wedi ei gynnal a’i gadw’n dda, sy’n addas ar gyfer eu hanghenion a’u bod yn cael cefnogaeth dda. Ac mae’n wych gweld ein timau Creu Menter yn eu cefnogi gyda chyfleoedd gwaith, hyfforddi a sgiliau newydd. Fe welwch o’r adroddiad hwn ein bod wedi cynyddu’r momentwm ar ein

4

rhaglen datblygiadau newydd ac wrth i ni adeiladu mwy o gartrefi, y cyfleoedd gwaith ychwanegol rydym yn gallu eu cynnig i’n tenantiaid ac i’r cymunedau ehangach rydym yn eu gwasanaethu. Mae’n dair blynedd bellach ers tân Grenfell yn Llundain, ac rydym yn parhau i ddysgu o’r drasiedi hon. Er ein bod wedi llwyddo i ennill statws Aur ROSPA am ein hymrwymiad i gynnal Iechyd a Diogelwch ardderchog eto eleni, ni fyddwn yn gorffwys ar ein rhwyfau. Eleni, rydym wedi datblygu llwyfan digidol newydd sy’n galluogi cydweithwyr i gofnodi gwybodaeth mewn un lle, gan roi data mwy cywir a chyfredol i ni ar bopeth ynglŷn ag iechyd a diogelwch ar draws y sefydliad cyfan. Wrth i ni gyrraedd diwedd blwyddyn ariannol 19/20, fe newidiodd ein ffordd o fyw a gweithio dros nos pan ddaeth pandemig COVID-19. Bu’n rhaid i’n cydweithwyr addasu’n gyflym i ffyrdd gwahanol iawn o weithio. Hoffwn ddiolch yn bersonol i bob cydweithiwr yn Cartrefi Conwy a Creu Menter sydd wedi dangos y gallu i addasu a bod yn hyblyg er mwyn i’n busnes allu parhau ac i’n tenantiaid gadw’n ddiogel. Diolch o galon i’r tîm TG am ein galluogi ni i gyd i weithio o gartref ac i’n crefftwyr sy’n parhau i fynd i gartrefi i sicrhau ein bod yn ateb y gofynion cyfreithiol fel landlord. Mae hyn wedi cadarnhau’r hyn a wyddwn yn barod, sef bod ein tîm yn wych a chyda’n gilydd gallwn gyflawni pethau gwych. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr i weld ein busnes yn mynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd i ddod. Diolch yn fawr.


Crynodeb Prif Weithredwr y Grŵp Pe bai rhywun wedi dweud wrthyf yr adeg yma’r llynedd y byddem yn wynebu pandemig byd-eang fyddai’n newid y ffordd yr ydym yn ‘byw, gweithio a chwarae’, fyddwn i ddim wedi credu hynny. Daeth COVID-19 â ffordd gwbl newydd o weithio i ni yn Cartrefi Conwy a bydd yn parhau i wneud hynny am beth amser. Caewyd ein swyddfeydd yn gyflym a galluogwyd ein cydweithwyr o’r swyddfeydd i weithio o gartref (gan gynnwys ein canolfan alwadau). Rhoddwyd ein holl raglenni datblygu a gwella, yn ogystal â gwaith trwsio dianghenraid, i’r naill ochr. Wedyn, fe adleoliwyd cydweithwyr na allent wneud eu swyddi arferol i ddarparu cefnogaeth ddwys i’r tenantiaid oedd â’r angen mwyaf. Ein blaenoriaeth yn ystod y cyfnod hwn oedd sicrhau ein bod yn cadw tenantiaid yn ddiogel ac yn dal i gydymffurfio, gan warchod cynaladwyedd hirdymor y busnes. Rwyf mor falch o dîm Cartrefi Conwy sydd wedi mynd y filltir ychwanegol i sicrhau fod gan ein tenantiaid bopeth sydd ei angen arnynt yn ystod yr adeg anodd yma. O ddarparu cyngor a chefnogaeth ariannol i denantiaid sydd wedi colli cyfran o’u hincwm oherwydd y pandemig, i’n crefftwyr sydd wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau ein bod yn ateb ein gofynion cyfreithiol. Ond er gwaethaf hyn i gyd, rydym wedi cael blwyddyn hynod lwyddiannus (a phrysur) yma yn Cartrefi Conwy. Nôl ym mis Gorffennaf agorwyd ein ffatri adeilad Modiwlar Creu Menter gyntaf yng Nghaergybi, er mwyn adeiladu ein tai Passivhaus ein hunain. Drwy weithio mewn partneriaeth gyda Beattie Passive rydym bellach yn adeiladu cartrefi carbon sero i amrediad o bartneriaid ar draws Gogledd Cymru.

Rydym hefyd wedi cynyddu’r momentwm ar ein rhaglen ddatblygu newydd uchelgeisiol ac wedi creu 103 o gartrefi newydd eleni. Roeddem yn falch iawn o ennill tair gwobr yng Ngwobrau Tai Cymru CIH eleni, gan gynnwys Gwobr Creu Lleoedd ar gyfer rhaglen Adnewyddu Tre Cwm. Ffordd wych o ddathlu’r gwaith anhygoel sy’n digwydd ar draws y grŵp. Un o’r adegau i mi deimlo fwyaf balch oedd yn ystod taith o stad Tre Cwm pan ddywedodd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, “Pe gallem ni botelu’r hyn y mae Cartrefi Conwy wedi ei gyflawni yma, a’i ddefnyddio mewn llefydd eraill, yna byddai Cymru’n well lle o lawer.” Rydym hefyd wedi cychwyn taith arweinyddiaeth sy’n gweddnewid. Mae 27 cydweithiwr wedi ymuno â’r rhaglen Frontline Futures fydd yn galluogi ein cydweithwyr rheng flaen i’n helpu ni i siapio dyfodol ein busnes. Rydym hefyd wedi sefydlu ein rhaglen ‘Arloesi’ er mwyn sicrhau fod cydweithwyr yn cael dweud eu dweud ynglŷn â’r hyn rydym yn ei wneud a sut rydym yn ei wneud. Daeth hyn i benllanw drwy gyd-gynhyrchu ein Cynllun Busnes newydd sy’n amlinellu ein dyheadau ar gyfer y 5 mlynedd nesaf. Mae’r cynllun busnes newydd yn amlinellu ein cynlluniau ar gyfer gweithlu mwy heini a hyblyg fydd yn gallu gweithio o unrhyw le, unrhyw bryd. Ein nod yw cynnig amgylchedd gwaith gwirioneddol hyblyg i’n gweithlu sy’n bodloni anghenion cwsmeriaid a chydweithwyr. Mae’n adeg gyffrous i Cartrefi Conwy wrth i ni barhau i dyfu ac arallgyfeirio, a hoffwn ddiolch i bob un o’n cydweithwyr sy’n ymuno â ni ar y daith hon. Wrth i ni dyfu fel busnes, bydd anelu at ‘greu cymunedau y gallwn fod yn falch ohonynt’ yn greiddiol i ni. Andrew Bowden Prif Weithredwr y Grŵp

5


Y Daith

Gorffen Y Gwein James ein Ffat Modiwlar Ngha

Awst 2019 Dod â’r Haus 4 One i’r Eisteddfod a lansio ein prosiect celf pontio’r cenedlaethau – Cadair Sgwrs

Medi 2019 Gwaith yn cychwyn ar ein datblygiad Passivehaus cyntaf i Gyngor Sir Ynys Môn

Mawrth 2020 Agor y drysau ar ein prosiect ‘Ail Gyfle’ i ailddefnyddio dodrefn

Hydref 2019 205 tenant yn ymuno â ni ar gyfer Diwrnod Pobl Hŷn

Chwefror 2020 Dod yn un o gwmnïau gorau’r Times 100 Best Company


Mehefin 2019 Tre Cwm, Parc Peulwys a Rhodfa Caer i gyd yn derbyn statws Baner Werdd

nnaf 2019 nidog Julie s yn agor tri Adeilad r gyntaf yng aergybi.

Tachwedd 2019 Ennillwn tair gwobr yng Ngwobrau Tai Cymru, gan gynnwys Gwobr Creu Lleoedd ar gyfer rhaglen Adnewyddu Tre Cwm.

Ionawr 2020 Gwaith yn cychwyn ar ein cartrefi Haus 4 One ym Mae Colwyn

Chwefror 2020 Cydweithwyr yn codi ymwybyddiaeth ac arian yn y BIG Sleep Out

7


Gwasanaethau Pobl

Tai yn Gyntaf

Mae gofalu am ein cwsmeriaid wrth wraidd popeth a wnawn. Dyma flas ar yr hyn y buom yn ei wneud eleni...

Rhaglen Frontline Futures Rydym am ddod â’n cydweithwyr Frontline yn ganolog i bopeth a wnawn. Nhw sy’n adnabod ein tenantiaid. Maen nhw’n gwybod beth sydd ei angen arnynt ac mae ganddynt syniadau gwych sut y gallwn ddarparu gwasanaeth gwell fyth iddynt. Aeth sawl cydweithiwr i’r rhaglen Chartered Institute of Housing Frontline Futures eleni a bydd hyn yn ein helpu i siapio’r ffordd yr ydym yn gweithio yn y dyfodol.

GWASANAETHAU POBL

Fe ymunom ni â siarter Tai yn Gyntaf ym mis Gorffennaf 2019 gan roi ein tŷ cyntaf ar osod ym mis Medi 2019. Mae’r prosiect yn darparu cartrefi i gleientiaid digartref sy’n derbyn cefnogaeth ddwys gennym ni a’r tîm Tai yn Gyntaf.

Cefnogi tenantiaid mewn anhawster ariannol Cefnogodd ein Tîm Cefnogaeth Ariannol 477 o denantiaid i ennill £546,487 o incwm ychwanegol eleni. Mae’r tîm yn darparu cyngor ar fudd-daliadau a chyfrifiadau yn ogystal â chefnogi ceisiadau. Maen nhw hefyd yn cynnig cyngor/cefnogaeth gyda chyllido a rheoli dyled.

Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Gweithredwyd meddalwedd Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (ReAct) eleni er mwyn cael mynediad at wybodaeth yn gyflym a rhwydd i reoli achosion yn ddigidol.

Cadair Sgwrs Mae Cadair Sgwrs yn brosiect pontio’r cenedlaethau a lansiwyd yn Llanrwst i fynd i’r afael ag unigrwydd ymysg ein tenantiaid hŷn a chaiff ei ariannu drwy’r Celfyddydau a Busnes. Gan weithio gyda Men’s Shed Llanrwst, disgyblion o Ysgol Bro Gwydir a thenantiaid oedrannus yr ardal leol, lluniwyd partneriaeth gyda’r artist lleol Catrin Williams i greu gwaith celf oedd yn cynrychioli cyfeillgarwch, hapusrwydd ac yn dathlu’r dref sy’n golygu cymaint iddynt. Yna gosodwyd y gwaith celf ar gadair wydr ffibr arbennig a’i dadorchuddio gan yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd yn Eisteddfod Llanrwst. Mi ddefnyddir y gadair mewn digwyddiadau cymunedol er mwyn annog pawb i gymryd pum munud am sgwrs a phaned. 8

Mae ein Panel Craffu yn adolygu ein gweithdrefnau diogelwch tân Yn dilyn trychineb Grenfell, roeddem am weithio gyda’n tenantiaid i weld a oedd unrhyw beth arall yr oedd angen i ni ei wneud i’w cadw nhw’n ddiogel rhag tân. Rhoddodd y panel craffu sêl bendith i’n gweithdrefnau diogelwch tân a rhoddodd 18 o argymhellion i ni weithio drwyddynt a gwella’r hyn a wnawn ymhellach. Diolch yn fawr i’r panel am fod yn rhan o’r gwaith hynod bwysig hwn.

Mae 85% o’n tenantiaid yn fodlon fod eu rhent yn cynnig gwerth am arian Cyfanswm ôl-ddyledion tenantiaid presennol 3.21%


Sefydliad dementia gyfeillgar Rydym yn parhau i hyfforddi ein cydweithwyr i gyd i fod yn ‘Ffrindiau Dementia’ ac mae ein Cydlynydd Ymgysylltu â Phobl Hŷn’ yn brysur yn hyfforddi ein tenantiaid. Ym mis Mehefin 2019 cynhaliodd preswylwyr Maes Cwstennin brynhawn ‘Cacennau dros Dementia’ i godi ymwybyddiaeth am Dementia a chodi £420 i Gymdeithas Alzheimer’s.

Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid Rydym wrth ein boddau ein bod yn cadw ein Achrediad Rhagoriaeth Mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid eleni ac wedi nodi’r digwyddiad yn ystod Wythnos Gwasanaeth i Gwsmeriaid.

Rydym wedi penderfynu dal ati i gefnogi grwpiau tenantiaid drwy arian y Gist Gymunedol ac eleni fe roddwyd bron i £13,500 i 16 prosiect cymunedol gwahanol.

‘Gwneud Safiad’ yn erbyn Cam-drin Domestig Rydym wedi ymuno â llw CIH Gwneud Safiad eleni ac wedi ymrwymo i: • Creu a sefydlu polisi i gefnogi preswylwyr sy’n cael eu heffeithio gan gam-drin domestig • Darparu gwybodaeth am wasanaethau cefnogaeth cam-drin domestig yn lleol a chenedlaethol ar ein gwefan • Rhoi polisi cam-drin domestig mewn lle i gefnogi cydweithwyr allai fod yn profi cam-drin domestig • Penodi uwch hyrwyddwr cam-drin domestig

“Ro’n i eisiau dod i roi cynnig ar y gwahanol chwaraeon dŵr. Dwi’n falch i mi ddod – mae’n llawer gwell na gwylio’r teledu.”

A dyma mae ein Tîm Ymgysylltu â’r Gymuned wedi bod yn wneud... Clwb Traeth @ Porth Eirias Galluogodd ein Cyllid Cist Gymunedol rai o’n tenantiaid ifanc i roi cynnig ar chwaraeon dŵr ar garreg eu drws, o hwylfyrddio i badlfyrddio.

“Roedd yn wych. Wnes i fwynhau’r padlfyrddio a’r hwylio. Mae’n syniad gwych ac wedi fy nghadw rhag chwarae ar y cyfrifiadur drwy’r dydd. Yn lle hynny rydw i wedi cael llawer o hwyl.”

Caffi Cymunedol Peulwys Mae ein tenantiaid yn cyfarfod bob dydd Mawrth yn y Ganolfan Gymunedol leol am baned ac i chwarae gemau bwrdd. Rydym hefyd yn gwahodd gwesteion i ddarparu gwybodaeth am unrhyw beth o gefnogaeth ariannol i gyngor cyflogaeth. 9


Gwasanaethau Eiddo Mae Cartrefi Conwy yn cynnig amrediad eang o wasanaethau ac arbenigedd i helpu i gynnal y portffolio eiddo sy’n tyfu a thyfu. Ein nod yw darparu gwasanaeth a chefnogaeth eiddo eithriadol sy’n helpu i fodloni’r angen unigol a lleol am dai.

9,714 – nifer y gwaith 98% o lefelau trwsio ymatebol a gwblhawyd yn 2019/20

bodlonrwydd gyda gwaith trwsio

GWASANAETHAU EIDDO Rydym yn parhau i weithio’n galed i sicrhau fod eich cyflenwad presennol o safon ragorol. Eleni rydym ni: Wedi ail wifro 59 – £164,402

99% o atgyweiriadau 98% o waith trwsio argyfwng wedi eu cwblhau o fewn 24 awr

wedi ei wneud yn iawn y tro cyntaf

Gosod 243 bwyler newydd – £796,864 Gosod ffensys a llwybrau newydd mewn 165 o gartrefi – £358,951 Gosod 129 o geginau ac ystafelloedd ymolchi – £750,009

100%

cydymffurfiaeth â diogelwch nwy fel ag yr oedd ar 31ain Mawrth 2019

Asiantaeth Osod HAWS 10

100% o waith

trwsio’n ymwneud â pherygl tân wedi ei gwblhau o fewn y targed

Cwblhau 58 addasiad a cymorth mawr – £253,404 Gwario £2.5 miliwn ar welliannau allanol

HAWS yw ein hasiantaeth gosod tai preswyl sy’n cynnig gwasanaeth rheoli eiddo llawn i landlordiaid preifat. Mae’r gwasanaeth hwn wedi tyfu’n sylweddol dros y 12 mis diwethaf a bellach rydym yn rheoli 163 eiddo i amrywiaeth o gleientiaid ar draws Gogledd Cymru. Rydym yn falch o fod wedi cefnogi’r GIG i ddarganfod cartrefi ar gyfer ei gweithwyr allweddol. Fe wnaethom lletya chwe nyrs agos i Glan Clwyd a oedd wedi hedfan o dramor ac yn gweithio gyda’r GIG i gefnogi yn bellach ei ymgyrch recriwtio yng Ogledd Cymru.


Cyn

Ar ôl

Rhaglen Wella Glanrafon Eleni, cychwynnwyd gweithio ar raglen welliannau £1.3 miliwn yng Nglanrafon, Llanrwst. Ar ôl sawl ymgynghoriad gyda’r gymuned leol, penderfynwyd adfer y rhandai yn gyfan gwbl gan ddymchwel y fflatiau deulawr a’u cyfnewid am gartrefi cwbl gyfoes i deuluoedd yn defnyddio’r dull adeiladu Passivhaus.

Roedd y rhaglen welliannau’n un gynhwysfawr ac yn cynnwys: • Newid y to llechi • Gosod cafnau a phibellau dŵr • Insiwleiddio wal allanol o’r newydd • Wynebu’r tu blaen gyda llechi • Ffenestri newydd

Gweithiodd chwe phrentis ar y prosiect hwn a bwriadwn greu mwy o gyfleoedd gwaith lleol fel rhan o ailddatblygu’r safle.

• Cau siafft y grisiau, a gosod golau ac addurno o’r newydd • Graean gwydr newydd • Llawr newydd yn siafft y grisiau • Mynedfa flaen ddiogel gyda botymau mynediad o’r fflatiau • Gosod Teledu Cylch Cyfyng • Gosod ffaniau echdynnu mewn ystafelloedd ymolchi a cheginau 11


Llywodraethu a Gwasanaethau Cefnogi Arloesi @ Cartrefi Lansiwyd y rhaglen Arloesi eleni gyda’r nod o annog cydweithwyr i siapio’r hyn a wnawn a sut rydym yn ei wneud. Y gwaith cyntaf i gydweithwyr fynd i’r afael ag ef oedd datblygu ein Cynllun Busnes newydd. Fe drefnwyd nifer o sesiynau grŵp Arloesi oedd yn ein helpu i sefydlu prif flaenoriaethau’r cynllun busnes newydd a’r hyn oedd angen i ni ei wneud i fwrw ymlaen gyda’r rhain:

LLYWODRAETH A CHYMORTH

Roeddem yn falch iawn o dderbyn statws Aur ROSPA am y nawfed flwyddyn yn olynol ac rydym yn dal i chwilio am ffyrdd arloesol o wneud yn siŵr fod iechyd a diogelwch yn dod gyntaf ym mhopeth a wnawn. Eleni cyflwynwyd porth Iechyd a Diogelwch newydd yn y sefydliad er mwyn ein galluogi i adrodd yn hawdd am ddigwyddiadau a’i gwneud yn rhwydd i bawb gael mynediad at wybodaeth ar draws y sefydliad. 12


82% o staff yn cytuno mae’r sefydliad yn cael ei redeg ar egwyddorion moesol cadarn

75% o staff yn anghytuno rydw i wedi diflasu gyda’r gwaith rydw i’n neud

92% o staff yn cytuno mae fy sefydliad yn annog gweithgareddau elusennol

Cwmnïau Gorau 2020 Roeddem yn falch iawn o gyrraedd rhif 62 ar restr y Times o 100 Sefydliad Nid-er-Elw i weithio iddynt. Mae’n bwysig i ni fod cydweithwyr wrth eu bodd hefo’r hyn maen nhw’n ei wneud ac yn mwynhau gweithio gyda ni. Dyma ddywedodd rhai ohonynt: • Gallu dylanwadu a gweld effaith fy mhenderfyniadau, sy’n gwneud hwn yn lle gwych i weithio ynddo. • Mae Cartrefi yn gwmni hwyliog sy’n meddwl i’r dyfodol • Mae awyrgylch waith gwych yma • Busnes da ym mhob ffordd i weithio iddo ac rydw i’n cael cefnogaeth barhaus

Rydym yn parhau i gynnig ystod o hyfforddiant a chyfleoedd datblygu i’n cydweithwyr. Eleni rydym ni wedi:

Cefnogi 3 ar Brentisiaeth Fodern

Darparu 1,402 cyfle datblygu i Gydweithwyr

150 o gydweithwyr wedi

308 o oriau wedi ei

cwblhau hyfforddiant Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)

Amser Siarad

gwblhau o hyfforddiant iaith Gymraeg i wella ein allu i ymateb i ein tenantiaid

77 o gydweithwyr y rheng flaen wedi

mynychu hyfforddiant benthyca arian anghyfreithlon Cymru i alluogi ni amddiffyn ein tenantiaid o fenthyca arian anghyfreithlon

104 o gydweithwyr wedi

cwblhau hyfforddiant Plain English i wella sut rydym yn cyfathrebu gyda ein tenantiaid

Gwahoddwyd ein cydweithwyr i gyd i gymryd rhan yn y ‘Diwrnod Amser Siarad’ ym mis Chwefror. Mae’r digwyddiad blynyddol hwn yn ein helpu i godi ymwybyddiaeth a lleihau stigma sy’n ymwneud â phroblemau iechyd meddwl. 13


Data amrywiaeth Yng Nghartrefi Conwy a Chreu Menter rydym yn ceisio sicrhau triniaeth a chyfle cyfartal i holl weithwyr presennol a gweithwyr posibl. Rydym yn casglu data ar draws holl nodweddion a ddiogelir er mwyn gwella’r polisïau rydym yn eu datblygu a’r penderfyniadau rydym yn eu gwneud.

Ethnigrwydd

Cymysg  Gwyn Prydeinig  Gwyn Arall  Mae’n well gen i beidio dweud  Dim data

2%

42%

2%1%3%

Cydweithwyr

Religion 1%

Bwdhaidd  Cristion  Dim Crefydd  Mae’n well gen i beidio dweud  Crefydd arall  Dim data 42%

36%

3%2%

16%

Cydweithwyr

Sexual orientation

Heterorywiol  Mae’n well gen i beidio dweud  Dim data 82%

3%

16%

Cydweithwyr

Rhyw

Benyw Gwryw

35%

65%

56%

Bwrdd

Oedran 5%

Bwrdd 14

44%

Cydweithwyr

16--39 40--65 65+ 30%

20%

38%

Cydweithwyr

59%

3%


Datblygu a Lleoedd Mae creu cartrefi mwy fforddiadwy i’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni yn Cartrefi Conwy. Eleni rydym wedi: • Cyflwyno 103 o gartrefi newydd i Cartrefi Conwy ar draws Conwy, Gwynedd a Môn • Dod â

10 tŷ gwag yn ôl i ddefnydd

DATBLYGU A LLEOEDD

Llys Cynfran, Peulwys Llys Cynfran yw datblygiad tai cymdeithasol mwyaf Cartrefi Conwy sy’n darparu cymysgedd amrywiol o dai anghenion cyffredinol pedair ystafell wely (x4), tai anghenion cyffredinol tair ystafell wely (x6), rhandai wedi eu haddasu ar gyfer cadair olwyn i’r rhai ag anghenion arbennig (x3), yn ogystal â rhandai anghenion cyffredinol un a dwy ystafell wely (x4). Etifeddwyd y safle segur fel rhan o drosglwyddo stoc ac roedd yn hynod anodd datblygu yno oherwydd y creigwely bas, cyfuchliniau moel a phrif bibell ddŵr a phwysau uchel ynddi yn rhedeg drwy’r safle. Er mwyn gwneud arbedion, dyluniwyd y cynllun ar ddwy lefel, gan osgoi torri a llenwi’r tir ar raddfa fawr, a defnyddio topograffi’r safle yn hytrach i greu lloriau is. Roedd y cynllun arloesol hwn yn dal i gadw Gofynion Ansawdd Datblygu ac yn ei dro yn creu llety golau, eang ac ymarferol i denantiaid â lefelau amrywiol o anghenion. Roeddem yn falch iawn o ennill gwobr ‘Datblygiad Bychan y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Tai y CIH.

15


Rydym hefyd wedi dechrau gweithio ar sawl safle datblygu newydd eleni

Ysgol Maelgwn, Cyffordd Llandudno Mae’r cynllun datblygu £5.2 miliwn hwn yn rhoi bywyd newydd i hen adeilad ysgol yng Nghyffordd Llandudno a bydd yn creu 27 o gartrefi newydd gan gynnwys 10 o randai i bobl ag anableddau. Mae’r hen ysgol yn adeilad rhestredig Gradd II ac mae nifer o’r nodweddion gwreiddiol, gan gynnwys y teilsio, llefydd tân, llawr pren a’r nenfwd coed trawiadol yn cael eu cadw.

Ffordd Conway, Bae Colwyn Mae’r datblygiad hwn o dai fforddiadwy newydd ar Ffordd Conwy yn West End Bae Colwyn, yn bartneriaeth rhwng Cartrefi Conwy a Brenig Construction i drosi hen adeilad segur yn 8 o randai modern ar rent canolradd.

Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth gyda thîm Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i wneud yn siŵr fod y cartrefi hyn yn bodloni anghenion ystod o bobl sydd ag anghenion penodol. Edrychwn ymlaen yn fawr i weld y datblygiad wedi ei gwblhau ym mis Hydref 2020.

Ffordd Fictoria, Rhyl Rydym hefyd wedi cychwyn adeiladu 18 o randai yn y Rhyl fydd ar gael a gyfer rhent cymdeithasol y flwyddyn nesaf. 16

Ffordd Gloddaeth, Llandudno Mae’r datblygiad hwn o 16 o randai dwy ystafell wely yn Llandudno ar rent canolradd i’w gwblhau ddiwedd 2020.


Ein cartrefi Ystafelloedd Gwely

1

2

3

4

5

Cyffredinol (cymdeithasol)

491

910

1299

76

4

Lloches (cymdeithasol)

699

283

4

-

-

Canolradd

10

79

61

-

-

Rhentu i Brynu

-

1

10

-

-

1200

1273

1374

76

4

Cyfanswm

Sylw i Ddatrysiadau Modiwlar Creu Menter Eleni rydym wedi cychwyn dau ddatblygiad newydd mewn partneriaeth a Datrysiadau Modiwlar Creu Menter. Caiff y cartrefi hyn eu hadeiladu gan ddefnyddio’r dull adeiladu Beattie Passive a’r darnau adeiladu yn cael eu creu yn ein ffatri bwrpasol ar Ynys Môn.

Eco-gartrefi Ffordd Sefton

Tros Y Afon, Llanrwst

Bydd y safle hwn yn creu 8 cartref un ystafell wely i’r rhoi ar les i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i ddarparu cartrefi o ansawdd i’r rhai sydd angen tai ar frys.

Bydd y datblygiad hwn yn cynnwys 8 cartref teulu newydd ar rent cymdeithasol.

Rhentu i Berchnogi Rydym hefyd wedi ehangu ein deiliadaeth i gynnig 10 cartref ‘Rhentu i Berchnogi’ newydd yng Nghonwy a Sir Ddinbych eleni. Mae’r cynllun hwn yn galluogi tenantiaid i brynu’r cartref maen nhw’n ei rentu. Bydd canran o’r rhent yn cael ei chynilo fel cyfandaliad iddynt allu prynu’r cartref yn ddiweddarach. 17


Creu Menter Dros y pedair blynedd ddiwethaf, mae Creu Menter wedi sicrhau twf sylweddol ac wedi dod yn Fenter Gymdeithasol sydd wedi ennill sawl gwobr a chael ei chydnabod yn rhyngwladol. Mae ein trosiant wedi tyfu o £400,000 yn ein blwyddyn gyntaf i £10 miliwn yn 2020. Yn ogystal â chael ei enwi fel cwmni adeiladu sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru a’r cwmni sy’n tyfu fwyaf yng Ngogledd Cymru, roeddem yn falch iawn o ennill Gwobr Twf yng Ngwobrau Busnes NatWest SE100. Cawsom ein henwi hefyd fel un o’r 100 menter gymdeithasol orau yn y DU. Mae’r sefydliad wedi arallgyfeirio’n ddiweddar a bellach mae’n arbenigo mewn Datrysiadau Modiwlar, yn adeiladu tai ffrâm bren i safon Passivhaus ar draws Gogledd Cymru mewn partneriaeth a’r busnes teuluol, Beattie Passive. Gyda thîm sy’n tyfu’n barhaus a 65 o gydweithwyr ar draws pob maes busnes, rydym yn gyffrous ynglŷn â’r dyfodol a sut y gallwn barhau i gyflwyno ein gweithgareddau masnachol i fodloni ein pwrpas cymdeithasol. Caiff ein holl elw masnachol ei ail-fuddsoddi mewn mentrau cyflogaeth drwy Creu Dyfodol, gan helpu tenantiaid i greu gwell dyfodol iddynt eu hunain, eu teuluoedd a’u cymunedau.

Datrysiadau Modiwlar Creu Menter Agorodd Julie James AC ein ffatri adeiladu modiwlar yn swyddogol – y ffatri gyntaf o’i fath yng Ngogledd Cymru. Mae’r ffatri yng Nghaergybi yn creu cartrefi o ansawdd sy’n ynni effeithlon, carbon sero. Caiff paneli coed eu creu yn y ffatri ac yna gellir eu codi ar y safle o fewn 5-8 diwrnod. Mae’r adeiladau’n defnyddio inswleiddiad perfformiad uchel, gan olygu y bydd ar y tai angen 90% yn llai o wres. Rydym newydd orffen ein datblygiad modiwlar cyntaf i Gyngor Sir Ynys Môn yng Nghaergybi a chrëwyd pedwar byngalo ar rent cymdeithasol yr oedd eu hangen yn fawr.

1093 eiddo a gerddi wedi eu clirio

Tunnell o wastraff wedi ei glirio: 295

211 eiddo

wedi ei beintio

Bwyler newydd: 243

165 ffens a

llwybr newydd 18


Menter fasnachol Rydym wedi croesawu dau dîm newydd at Creu Menter; y tîm Cynnal a Chadw o Ran yr Amgylchedd sy’n cynnal a chadw gerddi cymunol ac ardaloedd gwyrdd â’n tîm Ail Wifro Trydanol ein hunain.

Hanes Dan 46 o wirfoddolwyr wedi rhoi 4,634 awr, wedi eu cefnogi gan 24 Bydi Gwaith 65 o gymwysterau wedi eu hennill gan denantiaid

“Dwi’n teimlo fod rhywun yn gweld gwerth ynof. Dwi ddim yn teimlo’n wirion wrth ofyn am help, a dwi wedi profi i mi fy hun y gallaf wneud mwy nag a feddyliais. Nid fy mod yn methu o’r blaen, doeddwn i erioed wedi rhoi cynnig arni. Mae’r bobl o’ch cwmpas yn eich annog, eich gyrru ‘mlaen, yn dweud y medrwch wneud y gwaith.”

Llwyddodd Dan, yr Hyfforddai Gweithiwr Amgylcheddol i ymgeisio am ei rôl drwy Academi Creu Dyfodol gan Creu Menter sy’n cynnig cyfleoedd cyflogaeth yn arbennig i denantiaid Cartrefi Conwy. Mae gan hyfforddai’r cyfle i ennill profiad gwaith, cymwysterau a chefnogaeth gan fentor i’w helpu i wneud yn fawr o’r cyfle hwn a gallu symud ymlaen i waith pellach. Dywedodd Dan: “Rydw i’n teimlo’n gryf ynglŷn â phethau’n ymwneud a phlanhigion ac yn edrych ymlaen yn fawr i newid amgylchedd leol pobl fel y gallant fwynhau’r ardaloedd gwyrdd lleol.”

“Pan gychwynnais i wirfoddoli, ro’n i’n teimlo mod i’n ffitio mewn. Ro’n i’n perthyn i rywle. Mae pawb angen rheswm i godi yn y bore.”

Academi Mentrau Cymdeithasol Lansiodd Dirprwy Weinidog Yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters AC, yn swyddogol Academi Menter Gymdeithasol Cymru Mae’r Academi yn cynnig rhaglenni dysgu a datblygu arloesol i gwmnïau, mentrau cymdeithasol, cyrff cyhoeddus ac unigolion ar draws Cymru. Rydym hefyd yn rhan o rwydwaith dysgu byd-eang sy’n cyflwyno rhaglenni dysgu ac addysg ar draws y byd. Gweithredir Academi Menter Gymdeithasol Cymru gan Creating Enterprise mewn partneriaeth â Chanolfan Cydweithredol CymruWales Co-operative Centre fydd yn cyflwyno rhaglenni yng Nghanolbarth a De Cymru.

“Dwi’n cael fy nhrin fel unigolyn a chael cefnogaeth gyson”

“Dwi wedi cael cymorth i gael pobl nôl i’r gwaith, ac wedi dysgu sgiliau newydd” 19


Cefnogaeth Chwilio am Swydd

1,400 wedi ymweld â’r Academi Gyflogaeth

Dros 300 o bobl leol wedi dod i’r Ffair Swyddi a digwyddiadau ymgysylltu

cefnogaeth i fynd i swyddi

165 o bobl wedi cael cefnogaeth

605 o ffurflenni cais wedi

22 o bobl wedi cwblhau

i greu neu ddiweddaru CV

eu cwblhau gyda chymorth

Paratoi ar gyfer Cyflogaeth

33 o bobl wedi cyfranogi yn Paratoi ar gyfer Cyflogaeth, gyda 15 yn mynd ymlaen i rôl wirfoddol a 10 yn mynd i swyddi.

Cyflwyno 374 o sesiynau sgiliau meddal, yn cefnogi pobl i wella eu hyder, sgiliau cyfathrebu, rheoli amser, datrys problemau a gwaith tîm.

97 o bobl wedi cael

Pasbort i Adeiladwaith

Gwaith â Thâl 18 o denantiaid wedi cael eu cyflogi drwy’r Academi Gyflogaeth eleni: Rydym hefyd yn gweithio gydag isgontractwyr Cartrefi Conwy i ddarparu cyflogaeth am dâl i denantiaid Cartrefi Conwy. Diolch yn fawr i Brenig Construction, Andy Pitman a NWPS am gymryd 5 gweithiwr newydd eleni!

Prosiect ailddefnyddio Dodrefn Ail Gyfle Agorwyd y drysau eleni ar ein prosiect ‘Ail Gyfle’ i ailddefnyddio dodrefn Caiff tenantiaid Cartrefi Conwy sydd mewn trafferthion ariannol fynediad at ddodrefn am ddim. 20


Astudiaethau achos

Hanes Lauren Daeth Lauren (Loz) at Creu Menter pan oedd hi’n byw mewn llety â chymorth a dechreuodd wirfoddoli yn y Dderbynfa ym Mochdre a daeth i adnabod y tîm yn dda iawn. Mae Loz yn gwneud yn fawr o bob cyfle ddaw i’w rhan – yn ystod ei chyfnod yn gwirfoddoli, mae hi wedi cefnogi’r prosiect Teuluoedd Gwaith gyda digwyddiadau ac mae hi hefyd wedi gweithio gyda’r Tim Ymgysylltu â’r Gymuned. Mae hi hefyd wedi cwblhau nifer o gyrsiau hyfforddi ac yn mynychu ein cyfarfodydd i wirfoddolwyr yn rheolaidd. Bellach, mae’n byw ar ei phen ei hun ac yn annog eraill i ddod i’r Academi am gymorth bob amser.

Hanes Jordan Daeth Jordan at Creu Menter heb syniad ble i gychwyn. Ar ôl cyfnod yn ddi-waith ac yn ddigartref, roedd wedi ymrwymo ac yn barod i newid ei fywyd. Cwblhaodd y rhaglen Paratoi ar gyfer Cyflogaeth ac aeth ymlaen at y Pasbort i Adeiladwaith. Cwblhaodd ei brofiad gwaith gyda Brenig Construction, llwyddodd yn ei brawf CSCS, a pha ddaeth swydd gyda Brenig drwy’r Academi Gyflogaeth, ymgeisiodd Jordan a llwyddo i gael y swydd. 21


Manylion ariannol

2018–19

O ble mae’r arian yn dod

22

2019–20

Mae’r symiau a ddangosir mewn 000’au o £ Rhent a thaliadau gwasanaeth

18,863

20,100

542

519

Grant Llywodraeth Cymru

2,734

2,802

Gwerthu eiddo tai

1,362

2,596

24

42

1,559

2,416

Grant Cefnogi Pobl

Llog a dderbyniwyd Incwm arall


I ble mae’r arian yn mynd

2018–19

2019–20

Mae’r symiau a ddangosir mewn 000’au o £ Rheoli Tai

6,599

7,034

Gwasanaethau eiddo a chynlluniau

1,629

1,661

Cynnal a Chadw arferol

2,839

3,258

Cynnal a chadw a gynllunnir ac Atgyweirio mawr

4,484

4,322

Llog a dalwyd

1,883

2,309

Costau eraill

4,051

5,091

Sut cawn ein rheoleiddio Mae Cartrefi Conwy yn Landlord Cymdeithasol Cofrestredig a reoleiddir gan Lywodraeth Cymru. Y Fframwaith Rheoleiddio ar gyfer Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru sy’n sail i Lywodraeth Cymru ddal Cymdeithasau Tai yn gyfrifol am eu gweithredoedd a sicrhau eu bod yn darparu tai o ansawdd dda a gwasanaethau o ansawdd uchel. Cyhoeddwyd y Farn Reolaethol olaf ar Gartrefi Conwy ym mis Rhagfyr 2019 ac mae ar gael i’w weld ar wefan Cartrefi Conwy yn ogystal ag un Llywodraeth Cymru (Rheoliadau Tai). Seiliwyd y farn ar werthusiad y Gymdeithas ei hun o’i chydymffurfiaeth â’r safonau perfformiad ynghyd â gwybodaeth reolaethol a gafwyd drwy berthynas reoli barhaus, gyd-reoli rhwng y Rheoleiddiwr a’r Gymdeithas.

Barn Reoli – Statws Cyd-Reoli – Rhagfyr 2019 Llywodraethu a Gwasanaethau Safonol: Nodi a rheoli risgiau newydd ac sy’n dod i’r amlwg yn briodol. Hyfywedd Ariannol Safonol: Yn diwallu gofynion hyfywedd ac yn meddu ar y gallu ariannol i ddelio â sefyllfaoedd yn briodol. Gellir gweld mwy o wybodaeth am y Fframwaith Rheoleiddiol ar gyfer Cymdeithasau Tai yng Nghymu ar wefan Llywodraeth Cymru: llyw.cymru/cymdeithasau-tai-syddwediu-cofrestru-yng-nghymru-fframwaith-rheoleiddiol

23


Prif Swyddogion ar 31 Gorffennaf 2020 Andrew Bowden Prif Weithredwr Grŵp Peter Lewis

Cyfarwyddwr Adnoddau’r Grŵp

Katie Clubb

Rheolwr Gyfarwyddwr Cartrefi Conwy

Adrian Johnson

Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Masnachol

Aelodau’r Bwrdd ar 31 Gorffennaf 2020 Jim Illidge

Cadeirydd y Bwrdd

David Shepherd Is Gadeirydd y Bwrdd a Chadeirydd Pwyllgor Grŵp Tâl ac Enwebiadau Bill Hunt

Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Tenantiaid

Gareth Jones

Cadeirydd Pwyllgor Grŵp Strategol Cyllid ac Adnoddau

Kath Coughlin

Cadeirydd Pwyllgor Grŵp Archwilio a Sicrwydd

Neil Ashbridge Mark Chadwick Bethan Jones Helen Pittaway Trevor Henderson

Aelodau Cyfetholedig (Byrddau a Phwyllgorau)

Newidiadau i benodiadau Bwrdd Cartrefi Conwy yn ystod 2019/20 Mae Bwrdd Cartrefi Conwy yn awr yn cynnwys dim llai na 5 a dim mwy na 10 aelod, heb unrhyw benodiadau wedi’u diogelu neu yn seiliedig ar etholaeth. Gall y Bwrdd benodi hyd at ddau aelod cyfetholedig i’r Bwrdd ac i bob un o’i Bwyllgorau. Mae’r rhai sydd wedi eu penodi’n aelodau o Fwrdd a Phwyllgor Cartrefi Conwy wedi eu nodi uchod. Penodwyd Mr Jim Illidge yn Gadeirydd y Gymdeithas ym mis Rhagfyr 2019, gan gymryd yr awenau gan Mr David Shepherd oedd wedi llenwi’r swydd fel Cadeirydd Dros Dro ym mis Mehefin 2019 yn dilyn marwolaeth ddisymwth Mr Huw Evans. Ymddeolodd Mr Rob Redhead o Fwrdd Cartrefi Conwy ym mis Medi 2019 ac ymddiswyddodd Mr Colin Matthews fel aelod cyfetholedig ar y Bwrdd Gwasanaethau tenantiaid ym mis Mehefin 2020. Gwerthfawrogwyd eu hymrwymiad a’u cyfraniad drwy eu penodiad. Penododd y Bwrdd Mr Trefor Henderson ym mis Rhagfyr 2019 i lenwi’r swydd wag a ddaeth i fodolaeth ar Fwrdd Cartrefi Conwy.

Aelodau’r Bwrdd Creu Menter ar 31 Gorffennaf 2020 Peter Parry Neil Ashbridge

Peter Parry

Pwyllgor Grŵp Strategol Cyllid ac Adnoddau

Tara Bold

Bwrdd Gwasanaethau Tenantiaid

Elwen Roberts

Patricia Quiney

Pwyllgor Grŵp Archwilio a Sicrwydd

Elinor Corbett-Jones

Ysgrifennydd y Cwmni Sandra Lee

Mark Chadwick

Guto Lewis

Cyfetholedig

Ysgrifennydd y Cwmni Sandra Lee

24

Cadeirydd y Bwrdd


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.