2 minute read

Rhagair gan Gadeirydd Y Bwrdd

Cyn i mi gychwyn, hoffwn gymryd y cyfle hwn i dalu teyrnged i’n cyn Gadeirydd, Huw Evans, fu farw’n drist iawn ym mis Mehefin 2019. Roedd yn unigolyn allweddol iawn i ni yn Cartrefi Conwy ac yn greiddiol i siapio ein gweledigaeth strategol. Drwy ei agwedd drugarog, ei frwdfrydedd, ei arbenigedd a’i wybodaeth o, fe siapiwyd y sefydliad deinamig sy’n bodoli heddiw, ac mae ei etifeddiaeth yn parhau i ddylanwadu ar beth rydym yn ei wneud a sut rydym yn ei wneud. Ers i mi ddal yr awenau fel Cadeirydd Bwrdd Cartrefi Conwy ym mis Tachwedd 2019 rydym wedi gwneud rhai newidiadau i strwythur y Bwrdd. Rwy’n hyderus y bydd yr wybodaeth, sgiliau a’r angerdd o amgylch y bwrdd yn rhoi sylfaen ardderchog ar gyfer y dyfodol mewn cyfnod newydd cyffrous. O edrych yn ôl dros y 12 mis diwethaf, mae’n ysbrydoli rhywun i weld faint rydym wedi ei gyflawni. Mae ein tenantiaid yn cael lle canolog ym mhopeth a wnawn, ac roeddwn wrth fy modd ein bod wedi llwyddo i ennill Safon Ragoriaeth Cwsmeriaid eto eleni. Ein blaenoriaeth gyson fydd sicrhau y gall ein tenantiaid gynnal eu tenantiaeth, byw mewn cartref sydd wedi ei gynnal a’i gadw’n dda, sy’n addas ar gyfer eu hanghenion a’u bod yn cael cefnogaeth dda. Ac mae’n wych gweld ein timau Creu Menter yn eu cefnogi gyda chyfleoedd gwaith, hyfforddi a sgiliau newydd. Fe welwch o’r adroddiad hwn ein bod wedi cynyddu’r momentwm ar ein rhaglen datblygiadau newydd ac wrth i ni adeiladu mwy o gartrefi, y cyfleoedd gwaith ychwanegol rydym yn gallu eu cynnig i’n tenantiaid ac i’r cymunedau ehangach rydym yn eu gwasanaethu. Mae’n dair blynedd bellach ers tân Grenfell yn Llundain, ac rydym yn parhau i ddysgu o’r drasiedi hon. Er ein bod wedi llwyddo i ennill statws Aur ROSPA am ein hymrwymiad i gynnal Iechyd a Diogelwch ardderchog eto eleni, ni fyddwn yn gorffwys ar ein rhwyfau. Eleni, rydym wedi datblygu llwyfan digidol newydd sy’n galluogi cydweithwyr i gofnodi gwybodaeth mewn un lle, gan roi data mwy cywir a chyfredol i ni ar bopeth ynglŷn ag iechyd a diogelwch ar draws y sefydliad cyfan. Wrth i ni gyrraedd diwedd blwyddyn ariannol 19/20, fe newidiodd ein ffordd o fyw a gweithio dros nos pan ddaeth pandemig COVID-19. Bu’n rhaid i’n cydweithwyr addasu’n gyflym i ffyrdd gwahanol iawn o weithio. Hoffwn ddiolch yn bersonol i bob cydweithiwr yn Cartrefi Conwy a Creu Menter sydd wedi dangos y gallu i addasu a bod yn hyblyg er mwyn i’n busnes allu parhau ac i’n tenantiaid gadw’n ddiogel. Diolch o galon i’r tîm TG am ein galluogi ni i gyd i weithio o gartref ac i’n crefftwyr sy’n parhau i fynd i gartrefi i sicrhau ein bod yn ateb y gofynion cyfreithiol fel landlord. Mae hyn wedi cadarnhau’r hyn a wyddwn yn barod, sef bod ein tîm yn wych a chyda’n gilydd gallwn gyflawni pethau gwych. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr i weld ein busnes yn mynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd i ddod. Diolch yn fawr.

Advertisement

This article is from: