Gyda'n Gilydd/Together - Haf/Hydref 2015 - Welsh

Page 1

Haf / Hydref 2015

c r e u

c y m u n e d a u

i

f o d

y n

f a l c h

Joe seren The Voice yn canu yn y Diwrnod Allan Mawr Perfforwyd y canwr Joe Woolford, a wnaeth ei farc ar y rhaglen oriau brig ar BBC 1, yn fyw a fo oedd y brif act yn ein Diwrnod Allan Mawr. Mwynhaodd dros 700 o denantiaid o bob rhan o’r sir brynhawn o adloniant o’r radd flaenaf ym Mharc Eirias. Roedd Joe, 20, wrth ei fodd yn canu yn y digwyddiad fel modd o ddweud diolch am y ffordd y cefnogodd cymaint o bobl o’r ardal ef yn ystod ei daith epig drwy raglen BBC 1, The Voice yn gynharach eleni. Cafodd Angel, Tylluan Eryr Ewrasia o Lord of the Wings Prestatyn, dipyn o sylw wrth i’r plant gymryd y cyfle i weld Angel yn agos. Atyniad mawr arall ar gyfer y plant oedd Rob y Ceidwad a ddarparodd gyfleoedd i weld ei gasgliad o nadroedd ac ymlusgiaid. Roedd yr uchafbwyntiau eraill yn cynnwys arddangosfeydd reslo, dawnsio stryd, cymeriadau gwynt, paentio wynebau, cerddwyr stiltiau, modelu balwnau, jyglo tân a chlown haerllug o’r enw Harley.

Yr uchafbwyntiau dan do eraill o’r dydd oedd y bingo a sesiynau erobeg cadair freichiau. Meddai Prif Weithredwr Cartrefi Conwy Andrew Bowden, a oedd yn y digwyddiad gyda’i deulu ei hun: Dyma’r seithfed diwrnod i’r teulu yr ydym wedi’i gael ac mae’n fwy ac yn well nag erioed, gyda llawer mwy o adloniant yn ogystal â darparu digon o wybodaeth a chyngor ar gyfer ein tenantiaid ar amrywiaeth eang o bynciau, o iechyd a diogelwch i gyfleoedd addysgol ac osgoi dyled. Rwy’n gobeithio bod pawb a ddaeth wedi cael diwrnod gwych gan fy mod yn gwybod bod ein staff sy’n ymwneud â threfnu’r digwyddiad yn edrych ymlaen ato gymaint ag mae ein tenantiaid yn ei wneud.

Y tu mewn i’r Ysgubor ym Mharc Eirias, roedd hyd yn oed mwy o weithgareddau i ddewis ohonynt, megis cystadlaethau ar gyfer iPads a thalebau siopa, mwy o gymeriadau gwynt, celf a chrefft a gwneud bathodynnau.

o h o n y n t

CYMERWCH OLWG Y TU MEWN Gwobr Y Faner Werdd am Barc Peulwys. Tudalen 3

Arwr Milwrol yn ŵr gwadd arbennig yn Agoriad ein datblygiad £4.2M newydd, Cysgod y Gogarth. Tudalen 8

Cyfleoedd cyflogaeth gyffrous newydd ar gyfer tenantiaid - Gweler Creu Menter ar Dudalen 4

Yswiriant cynnwys cartref a ydych wedi paratoi? Tudalen 7

Hanner Marathon Conwy

Sul, 22ain Tachwedd

Cysylltiadau

Gwasanaeth Cwsmer 0300 124 0040

ymholiadau@cartreficonwy.org

Mae copïau sain o’r newyddlen hon ar gael Ffoniwch 01745 335345 i ofyn

gan gynnwys Ras Hwyl Cartrefi Conwy - ein 4ydd! Mae’r Ras Hwyl yn rhad ac am ddim i’n tenantiaid. Galwch 01745 335345 i gofrestru heddiw.


CYMERWCH RAN! Mae Cartrefi Conwy yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i chi gymryd rhan; o grwpiau ffocws i denantiaid penodol i ddydd Mercher Crwydro. Mae’r Dydd Mercher Crwydro yn rhoi cyfle i chi siarad â chydweithwyr yn Cartrefi Conwy am bethau sy’n bwysig i chi a’r ardal lle rydych yn byw. Byddwn yn eich ardal chi ar y dyddiadau canlynol:

Dyddiad

Ardal

30 Medi, 2015

Yr Esplanade Penmaenmawr

28 Hydref, 2015

Llandudno - Lôn Cymru/ Gogarth

25 Tachwedd, 2015

Rhodfa Caer

Nadolig

Nadolig

27 Ionawr, 2016

Bryn Eglwys/Maes Glas Llandrillo yn Rhos

24 Chwefror, 2016

Cyffordd Llandudno

30 Mawrth, 2016

Bryn Tirion, Gorlan a Penarth Conwy

Enillydd Croesair YSWIRIANT CYNNWYS Y CARTREF Llongyfarchiadau i Renee Williams, Bae Colwyn Oes gennych chi Yswiriant Cynnwys y Cartref? NA? Trefnwch eich yswiriant heddiw - gweler Tudalen 6 am fwy o fanylion am y cynllun ysgwiriant MY HOME gan Ffederasiwn Tai Cenedlaethol.

NEWIDIADAU AR Y BWRDD Helo Mae Mr Brian Hall wedi cael ei benodi’n ddiweddar fel aelod o Fwrdd Cartrefi Conwy. Mae Brian wedi bod yn denant Cartrefi Conwy ers nifer o flynyddoedd. Wedi ymddeol yn ddiweddar ac wedi rhedeg ei fusnes ei hun yn y gorffennol, ymatebodd Brian i’n hymgyrch recriwtio diwethaf oherwydd ei fod “eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i’w gymuned”. Bydd Brian yn cael cefnogaeth lawn yn ei rôl drwy sesiwn gyflwyno drylwyr a hyfforddiant parhaus, fel y gall gyflawni ei rôl yn hyderus ochr yn ochr â’r 14 aelod arall o’r Bwrdd, y mae 4 arall hefyd yn denantiaid.

Ffarwel Mae Mr Brian Horton, is-Gadeirydd Bwrdd Cartrefi Conwy wedi cyhoeddi y bydd yn camu lawr o’r Bwrdd ym mis Medi 2015, pan ddaw ei dymor 5 mlynedd yn y swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Gweithrediadau i ben. Mae Brian wedi gwasanaethu ar Fwrdd Cartrefi Conwy fel aelod o’r bwrdd tenantiaid ers y ffurfiwyd Cartrefi Conwy ym mis Medi 2008. Cyn hynny roedd yn aelod o’r bwrdd cysgodol ac yn ymgyrchydd gweithgar ar ran tenantiaid yn y cyfnod cyn y bleidlais ar drosglwyddo’r stoc tai o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

2

H C W N U YM D D R W B Y R A

Rydym eisiau sicrhau bod aelodau’r Bwrdd yn cynrychioli trawstoriad llawn o’r gymuned. Ar hyn o bryd rydym yn awyddus i annog diddordeb gan denantiaid sydd â sgiliau a gwybodaeth berthnasol sy’n barod i roi peth o’u hamser yn rheolaidd i’n helpu i gyfarch yr ystod eang o heriau cynyddol ac anghenion tai sy’n wynebu teuluoedd a phobl ifanc yn ein cymunedau. Gan fod Brian Horton wedi cyhoeddi ei ymddeoliad ym mis Medi rydym wrthi’n recriwtio i ddod o hyd i denant arall i lenwi’r swydd wag yma. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â’r tîm Llywodraethu ar: 01745 335347 neu e-bost: Sandra.lee@cartreficonwy.org Aelodau presennol y Bwrdd Tenantiaid Colin Matthews (Hen Golwyn) Robert Redhead (Llysfaen) Brian Hall (Bae Colwyn) Elwen Roberts (Cerrigydrudion) Mae Colin Matthews yn ddarostyngedig i ymddeol yn ei dro yng Nghyfarfod Blynyddol Cyffredinol 2015 ac mae’r Bwrdd wedi cymeradwyo ei ail-ethol.


GWOBR Y FANER WERDD YN CREU HANES AR GYFER PARC PEULWYS Mae Parc Peulwys wedi gwneud hanes drwy fod y stad tai gyntaf yng Nghymru i ennill Gwobr y Faner Werdd. Fel arfer, caiff y gwobrau eu cyflwyno i ardaloedd chwarae neu barciau ac maent yn debyg i’r Faner Las a ddyfernir i draethau glân a diogel. Caiff y gwobrau eu cynnal ar y cyd a Cadwch Gymru’n Daclus ac eglurodd eu swyddog prosiect, Alaw Cerys, bod ennill Gwobr y Faner Werdd yn unrhyw beth ond hawdd. Dywedodd: Roedd angen i’r stad gyflawni rhai meini prawf llym megis bod yn lle croesawgar, yn ogystal â bod yn lle saff a diogel sy’n cael ei gynnal yn dda ac yn cael ei reoli’n dda. Rydym yn gwybod na fyddai dim o’r llwyddiant hwn wedi dwyn ffrwyth heb gyfranogiad hollbwysig y gymuned leol sydd wedi gafael ynddi go iawn i wella’r amgylchedd maent yn byw ynddi. Mae cael Gwobr y Faner Werdd yn destament ac yn gydnabyddiaeth o’r holl waith caled sydd wedi digwydd ym Mharc Peulwys dros y flwyddyn ddiwethaf. Diolch yn fawr i bawb am ei gyfraniaeth. Cadwch i fyny â holl weithgareddau Grwpiau Cymunedol Parc Peulwys a bod yn rhan o gadw Parc Peulwys yn lle Baner Werdd i fyw ynddo.

CARWCH

EICH CYMUNED

PEULWYS YN EI BLODAU Y llynedd dechreuom ar dasg epig o blannu 10,000 o fylbiau mewn un diwrnod ym Mharc Peulwys ac edrychwch ffrwyth eich llafur! Diolch yn fawr iawn i Gymuned a ffrindiau Parc Peulwys am eu hymdrech ysblennydd! Pa wahaniaeth ydym ni wedi’i wneud ym Mheulwys Fel yr ydych yn gwybod yn ôl pob tebyg rydym wedi bod yn gweithio’n galed ar nifer o brosiectau amgylcheddol ym Mheulwys yn ddiweddar. Ochr yn ochr â’r prosiect, rydym wedi cael y dasg o fesur pa effaith y mae’r prosiectau wedi’u cael ar y tenantiaid lleol. Cymerwch gip ar y crynodeb o’r canlyniadau gyferbyn

Cymrwch gip olwg ar fideo Peulwys

Myfyrwyr Llandrillo yn rhoi bywyd newydd i erddi Kennedy Court Mae gerddi Kennedy Court wedi gweld gwelliannau cyson yn y misoedd diwethaf trwy garedigrwydd myfyrwyr Coleg Llandrillo. Mae’r 3 o fyfyrwyr Garddwriaeth yn rhan o raglen ‘Work Skills Step Up to Work’ sy'n anelu i adeiladu eu profiad at y pwynt o waith gwirfoddol ac gobeithio cael tal y pen draw, yn eu maes.

http://tapetv.yourlocal.tv/

Rydym yn diolch i'r grŵp am eu gwaith caled a dymunwn bob llwyddiant yn y dyfodo. Os hoffai unrhyw un gael ragor o wybodaeth am y cynllun, cysylltwch â Nerys Veldhuizen ar 01745 335572

Dathlu ein prentisiaid yng Nghartrefi Conwy I ddathlu Wythnos Prentisiaethau Cenedlaethol aeth Andrew (ein Prif Weithredwr) ‘nôl i’r llawr’ i dreulio’r prynhawn gyda Dylan Williams, ein prentis Gwasanaethau Cwsmeriaid ar ein desg derbynfa. Mae gennym ni hefyd achos arall i ddathlu gan fod dau o’n prentisiaid wedi derbyn gwobrau yn y misoedd diwethaf. Daeth Wesley Jones un o’n prentisiaid Nwy yn 3ydd yn y ‘Gwobrau

Cenedlaethol Prentis y Flwyddyn’ ac mae Guto, ein prentis Cyfryngau Creadigol a Digidol wedi ennill ‘Prentis y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Busnes Conwy. Edrychwch ar ein tudalen we prentisiaeth newydd http://www.cartreficonwy.org/cartrefi/page/apprenticeships Gallwch hefyd edrych ar y wefan Gyrfa Cymru am fwy o gyfleoedd prentisiaeth yng Nghonwy: www.careerswales.com

3


CYFLEOEDD CYFLOGAETH NEWYDD CYFFROUS AR GYFER EIN TENANTIAID Sut mae’n gweithio? Mae Creu Menter yn gynllun newydd gwych sy’n cynnig sgiliau a chyfleoedd cyflogaeth gyda thâl ar gyfer tenantiaid Cartrefi Conwy sy’n ddi-waith ar hyn o bryd.

Prosiect Amgylcheddol Tre Cwm

Pa fath o waith y gallech fod yn ei wneud? Gan weithio mewn tîm bach, byddwch yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o dasgau gwahanol, gan gynnwys ein helpu i glirio eiddo gwag, glanhau ffenestri a gwaith cynnal a chadw sylfaenol yn y cartref.

Oes arnaf i angen unrhyw gymhwyster? Na, y cyfan a ofynnwn yw eich bod wedi ymrwymo i gael y gorau o’r cyfle hwn a chymryd rhan weithredol. Meddai Andrew Bowden, Prif Weithredwr Cartrefi Conwy, “Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda chwmni cydweithredol Crest am beth amser i wneud y weledigaeth hon yn realiti. Mae wedi bod yn daith hir, ond rydym wrth ein bodd y bydd 3 swydd gyntaf Creu Menter yn dechrau ym mis Ebrill. Rydym hefyd yn gobeithio cynnig mwy o gyfleoedd mewn gwahanol grefftau dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf, felly gwyliwch y gofod hwn!”

Yn dilyn llwyddiant prosiect Amgylcheddol Parc Peulwys mae’r prosiect nesaf ar stad Tre Cwm, yn Llandudno yn dod ymlaen yn gyflym. Cynhaliwyd digwyddiadau ymgynghori manwl drwy fis Mehefin i sicrhau bod y syniadau yn mynd i fod o fudd i bobl leol. Mae gwybodaeth am y prosiect ar gael i’w gweld yng Nghanolfan Gymunedol Tŷ Llywelyn neu edrychwch ar y dudalen Facebook. Hefyd, gwyliwch y fideo newydd sbon am y prosiect Parc Peulwys drwy wefan Cartrefi Conwy.

Mwy o wybodaeth Os ydych am gael gwybod mwy am Creu Menter, cysylltwch â ni: E-bost: information@creatingenterprise.org.uk Ffôn: 01492 563458

www.facebook.com/trecwm

GWEITHDY SIED Y DYNION Dechreuodd Sied y Dynion Bae Colwyn gyda chymorth Cartrefi Conwy, ond cafodd ei yrru ymlaen yn gyflym iawn gan Brian Hall sydd bellach yn Gadeirydd.Mewn ychydig dros flwyddyn maent wedi agor gweithdy newydd, gyda chymorth Cyngor Tref Bae Colwyn, a chafodd ei agor yn swyddogol gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Lesley Griffiths AC, a ddisgrifiodd y prosiect yn “ysbrydoledig”. Mae Sied y Dynion wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig ac wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i fywyd aelod, Alun Jones. Dywedodd:

‘‘

Rwy’n rhannol ddall ac ychydig flynyddoedd yn ôl dechreuais golli fy hyder yngly^n â mynd allan ar fy mhen fy hun. Mae’r sied wedi newid fy mywyd yn llwyr ac mae wedi bod yn fendith go iawn i mi. Nawr, yn lle eistedd yn gwylio teledu yn ystod y dydd, rwy’n mynd i’r cyfarfodydd bob dydd Gwener.

’’

PWYSIG - Cadwch lygad ar ein gwefan neu dudalen facebook i gael gwybodaeth am gyfleoedd swyddi newydd drwy Creu Menter www.cartreficonwy.org/cartrefi/page/creating-enterprise

4

Yn y llun mae Norman Critchett, Is-Gadeirydd, Brian Hall, Cadeirydd , Lesley Griffiths y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi ac Alun Jones.


Ein Cymuned mewn Hanes ^ Eisteddom i lawr gyda thenantiaid lleol yng Ngrw p Orchard wythnosol Penmaenmawr, sydd wedi gweld yr ardal yn newid yn sylweddol dros y blynyddoedd ac felly roedd ganddynt ychydig o straeon i’w rhannu. Mae Gerwyn Jones yn cofio caeau lle mae’r llyfrgell a’r Berllan bellach a gwersyll milwrol Americanaidd mawr ar waelod y bryn yn ystod y rhyfel.

“Roedd milwyr yn arfer dod â cherbydau i mewn ac allan o’r tiroedd ac roedd swyddogion yn ymgynnull yn aml ger Bryn Hedd”. Mae Gerwyn yn cofio ei blentyndod yn chwarae gyda ffrindiau ger y safle lle byddai swyddogion yn taflu fferins i’r plant wrth iddynt basio. Mae tenant arall Bettie Thompson yn cofio Penmaenmawr fel cymuned glos brysur gydag ymwelwyr diddiwedd a thwristiaid i’r pentref. “Byddai ymwelwyr yn dod yn eu cannoedd i’r ardal, a oedd â llawer o westai o’r radd flaenaf, gan gynnwys y Mountain View, nad yw bellach yma yn anffodus”. Mae Bettie yn cofio teilwriaid, gwerthwyr tybaco, barbwr a siopau groser, gwerthwr nwyddau haearn a gwneuthurwyr eirch yn ei hanterth, gyda’r sinema boblogaidd “The Crescent” yn tynnu cynulleidfaoedd mawr yn ystod y 1940au. Rhannodd Bettie hefyd ei hatgofion am longau yn docio am ddyddiau ar y tro wrth i gannoedd o ddynion llwytho nwyddau â llaw.

Ar ôl cael ei magu yn yr ardal gyda’i theulu yn ymestyn yn ôl genedlaethau, disgrifiodd Bettie waith ei hen nain yn llwytho coetsys mawr gyda’r post yn teithio o Lundain i Gaergybi. Gorffennodd trwy ddweud “doedd pobl prin yn gadael y pentref gan fod yna gymaint yma ar ein stepen drws” Rydym yn gwybod fod Conwy yn ardal â hanes cyfoethog ac mae yna gyfoeth o straeon y byddai pobl wrth eu bodd yn eu clywed. Os oes gan unrhyw un unrhyw atgofion yr hoffent eu rhannu gyda ni byddem yn falch o glywed gennych. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan neu ymuno â chanolfan gymunedol leol, cysylltwch â Nerys Veldhuizen ar 0300 124 0040.

Dethlir Diwrnod Pobl Hy^n Rhyngwladol ar 1af Hydref

Materion Ariannol - Byddwch yn barod ar gyfer Credyd Cynhwysol Hoffem eich atgoffa bod hawlwyr sengl newydd am Lwfans Ceisio Gwaith wedi eu symud drosodd i Credyd Cynhwysol yn Sir Conwy o fis Mai 2015. Hefyd, bydd unrhyw un sy’n derbyn unrhyw un o’r budd-daliadau canlynol yn cael eu symud i’r system Credyd Cynhwysol rywbryd rhwng mis Mai 2015 a 2017. • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm (JSA) • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar Incwm (ESA) a ddisodlodd y Budd-dal Analluogrwydd • Credyd Treth Plant • Credydau Treth Gwaith • Budd-dal Tai • Cymhorthdal Incwm

Hoffech chi ennill £100 o dalebau stryd fawr? Mae Undeb Credyd Gogledd Cymru yn cynnal raffl! I gael cyfle i ennill, mae angen i chi fod yn aelod o’r Undeb Credyd a hoffi eu tudalen Facebook, chwiliwch am Undeb Credyd Cyfyngedig Gogledd Cymru. I’ch cynnwys yn y raffl bydd angen i chi hefyd lenwi cerdyn cofrestru e-bost yn eich Swyddfa leol neu Fan Casglu. Mae Undeb Credyd Gogledd Cymru yn cynnig benthyciadau fforddiadwy ar gyfraddau cystadleuol, ystod o gyfrifon cynilo hyblyg a cherdyn debyd rhagdaledig. Am fanylion pellach neu i ymuno ar-lein ewch i’r wefan www.northwalescu.co.uk neu ffoniwch 0333 2000 601.

Pa wahaniaeth fydd o’n ei wneud? Ar hyn o bryd telir budd-daliadau bob wythnos, bob pythefnos neu bob pedair wythnos. Bydd Credyd Cynhwysol yn cyfuno’r holl fudd-daliadau y mae’n ei ddisodli i mewn i un taliad a fydd yn cael ei dalu bob mis calendr. Eisiau mwy o wybodaeth? Os ydych yn poeni am sut y bydd y newidiadau hyn yn effeithio arnoch chi mae llawer o leoedd y gallwch gael cyngor. Os oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd ymwelwch â’r safleoedd canlynol: www.moneymadeclearwales.org (Mae gan y wefan hon ystod o offer defnyddiol y gallwch eu defnyddio, o Wiriadau Iechyd Ariannol i gyfrifiannell budd-daliadau yn ogystal â chyngor ar ddyledion). www.adviceguide.org.uk (chwiliwch am Gredyd Cynhwysol) fel arall, gallwch siarad â’n Tîm Cynhwysiant Ariannol ar 0300 124 0040

SIOPAU SYMUDOL CREST Oeddech chi’n gwybod bod gan holl denantiaid Cartrefi Conwy hawl i ostyngiad o 15% yn siopau cymunedol Crest? Mae hyn yn cynnwys: • Dodrefn Fforddiadwy o £5 yn unig! • Hanfodion trydanol: Peiriannau golchi, rhewgelloedd a mwy! • Dillad bron yn newydd ar gyfer y teulu cyfan o £1. Erbyn hyn mae 3 o siopau yn eich ardal; 2 yn Llandudno ac un ym Mae Colwyn. I gael gwybod mwy, ewch i: www.crestcooperative.co.uk I gael eich cerdyn disgownt anfonwch neges i Crest ar Facebook (Crest Co-operative), Twitter @crestrecycle, e-bost llandudno@crestcooperative.co.uk neu galwch i mewn i’w siopau.

5


YDYCH CHI’N ‘DDIOGEL RHAG TÂN’? Cartrefi Conwy – yn gweithio gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i’ch cadw’n ddiogel. Chad yw ein Swyddog Diogelwch Tân ac mae wedi gweithio gyda ni am y 12 mis diwethaf i’ch helpu chi i fod yn ‘ddiogel rhag tân’ yn eich cartref. “Dros y flwyddyn ddiwethaf rwyf wedi bod yn gweithio gydag ystod o denantiaid i sicrhau bod eu cartrefi mor ddiogel ag y bo modd. Mae ein Archwiliadau Diogelwch Tân yn y Cartref yn cwmpasu popeth o brofion synhwyrydd mwg, gweithdrefnau gwagio pe bai tân, polisïau aros lle rydych, yn ogystal â nifer o awgrymiadau i gadw’n ddiogel yn eich cartref a lleihau’r risg o dân. Os nad ydych wedi cael archwiliad diogelwch tân yn eich cartref yn ddiweddar, pam na wnewch chi roi galwad i mi ac archebu un – fe allai achub eich bywyd. Mae Chad wedi bod yn gweithio ar rai awgrymiadau defnyddiol i ni rannu gyda chi:

Trydan

Diogelwch yn y Gegin

Gwybod y peryglon

Awgrymiadau defnyddiol • Y peth pwysicaf am goginio WYDDOCH ganolbwyntio. Mae’ r rhanyw i danau cegin yn digwydd pan fwyaf o CHI? yn gadael pethau heb oruchwyfydd pobl Caiff y rhan fwyaf o danau ac liaeth. • ^ Pe . idi wch byth a llenwi ffri wr saim anafiadau sy’n gysylltiedig â thân eu fw y na thri chwarter llawn o olew. Osdwfn hachosi yn y gegin fwy nag yn unman fflamau, peidiwch byth ^a thaflu ^ oes arall yn y cartref. Caiff tua 20 o bobl dros y sosban, bydd yn ffrwydr d wr eu lladd neu eu hanafu bob dydd wyllt ac yn lledaenu’ r t^an o yn . mewn tanau sydd wedi eu • Peidiwch ^a gadael offer fel cychwyn yn ddamweiniol golchi a pheiriannau golchi llespeitririannau ymlaen yn y gegin. yn ystod y nos. • Trowch handlenni sosbenni fel Ffrio Saim Dwfn yn sticio allan neu lle y gellir eunad ydynt ddamweiniol ac nid dros gylch taro’n Mae tanau ffriwyr poeth arall. saim dwfn yn achosi • Peidiwch ag yfed a chogini 1/5 o’r holl danau o!

Caiff 28,000 o danau yn y cartref eu hadrodd bob blwyddyn fel bod yn cael eu hachosi gan namau trydanol, damweiniau neu gamddefnyddio offer trydanol.

damweiniol mewn cartrefi a fynychwyd gan y Gwasanaeth Tân ac Achub yn y DU bob blwyddyn.

Meddyliwch am yr hyn rydych yn ei wneud pan fyddwch yn ffrio saim dwfn. Cofiwch eich bod yn cynhesu sawl peint o olew i dymheredd uchel iawn. Gall yr olew yn achosi llosgiadau ofnadwy a thorri allan yn fflamau. Yn wir, mae’n danwydd delfrydol ar gyfer tân, ac yn anodd ei ddiffodd.

Mae arolygon yn awgrymu: Byddai 38% yn gadael gwresogydd ymlaen a heb oruchwyliaeth Byddai 21% yn gadael un ymlaen dros nos Gallai hyn arwain at risgiau trychinebus o dân.

di Gair i Gall dan draw od y tr u la b e g • Cadwch ^ wrth dd wr. nhigyn neu ^ rhoi pot pla • Peidiwch ath gwlyb ar ben teclyn unrhyw be trydanol. ^ r yn l an ac iw st to y d fo • Gwiriwch pell oddi wrth lenni, yn ddigon ypyrddau. bleindiau a ch

• Peidiwch ^a gorlw ytho bob soced yw’ r rh socedi; un plwg i yw’ r offer yn cym eol, yn enwedig os ryd llawer o b^wer (fel tegell). • Peidiwch ^a rhedeg draws mannau cerdceblau estyniad ar garpedi a rygiau gan ded neu o dan y gallant wisgo.

Byw mewn fflat? Pam y dylai fod ots gennych? Nid yw byw mewn fflat yn fwy peryglus na byw mewn ty^ , ond mae’n bwysig gwybod y dylai eich cynllun tân fod yn wahanol. Os oes tân tu mewn i’ch fflat neu fflat deulawr ein cyngor ni yw i adael, gan gau’r drws tu ôl i chi a ffonio 999.

Ychydig o awgrymiadau: .wr saim dwfn fwy na thri chwarter ^ i ffr i nw lle a • Peidiwch byth . llawn o olew. ddio ffri wr saim dwfn fny de yw fn dw io ffr o l ge • Y ffordd fwyaf dio thermostat. Mae ei thermostat yn ei atal rhag trydanol a reolir gan swch sglodion popty. gorboethi, gorau oll dewi io heb oruchwyliaeth. gin co ^ u’n tha pe el da ga a th fiwch, • Peidiwch by ^ u gloch y drws yn canu. Co tio. yn Hyd yn oed os yw’r ff onn nefyd lbw no dwch yn stopio ca mae tanau’ n dechrau pa ^ ei roi yn y in sychu llestri gl an cyn wy llia wn me yd bw wyllt. h eic h wc ch • Sy . d^wr wneud yr olew ffr dro’n ll ga d yd erw oh n hy e ma , ffri wr ch o fara neu daten. trowch ba rn da da gy d red he tym y • Profwch mae’r olew yn rhy boeth felly Os yw’ n crensio’n gyflywcm,h iddo oeri. y gwres i ffwrdd a gade ^ ban, byth ^a thaflu d wr dros^ y. sos h wc idi pe , au am ffl oes Os • yn lledaenu’ r t an bydd yn ffrwydro’n wyllt ac i goginio peidiwch ^a chael eich temtio ol, oh alc d yfe di we i ch h yc • Os yd gyda sosban sglodion.

Tanau Saim Mae tanau saim yn deillio o geginau budr a blêr ac yn cael eu hachosi gan y saim sydd wedi hel mewn offer coginio yn tanio, petheuach yn cael ei storio wrth ymyl ffynonellau gwres yn mynd ar dân, neu gan faw, llwch a briwsion yn blocio systemau awyru ac yn achosi cynnyrch i ordwymo. Yn aml caiff ffyrdd o fyw prysur eu beio am beidio â glanhau ceginau yn iawn, ac mae esgusodion cyffredin yn cynnwys bod yn rhy brysur neu frwydro â blaenoriaethau eraill. Mae un pumed o bobl yn cyfaddef i roi eu hunain mewn perygl oherwydd eu bod yn rhy ddiog i lanhau gystal ag y dylent. Gellir osgoi tanau saim yn rhwydd drwy lanhau’r gegin yn drylwyr yn rheolaidd a thacluso llanast.

6

Os bydd tân yn rhywle arall yn yr adeilad, ac nid y tu mewn i’ch fflat neu fflat deulawr chi, mae ein cyngor yn wahanol. Mae waliau, lloriau a drysau mewn fflatiau a fflatiau deulawr wedi eu hadeiladu i roi rhywfaint o amddiffyniad rhag tân i chi - o leiaf 30 i 60 munud. Felly, os oes tân mewn man arall yn yr adeilad ond nid y tu mewn i’ch cartref chi, mae’n fwy diogel i chi aros yn eich fflat oni bai bod y gwres neu fwg yn effeithio arnoch. Arhoswch yn eich unfan a ffoniwch 999. Mae Tanau yn dod ag effeithiau dinistriol Cafodd y tân ei achosi gan sosban sglodion yn ffrwydro. Diolch byth, ar yr achlysur hwn, llwyddodd preswylydd yr eiddo ddianc â mân anafiadau. Wrth gwrs, gallai fod yn llawer gwaeth. Ni allwn ond dychmygu effeithiau seicolegol digwyddiad fel hyn, ond ychwanegwch hyn at golli eich holl eiddo ac mae’r effaith yn drychinebus. Nid oedd gan y preswylydd o’r digwyddiad hwn unrhyw yswiriant cynnwys a chollodd bopeth; Carpedi, dodrefn, teledu, potiau a sosbenni, gwelyau a dillad gwely a dillad. Dyna ochr ymarferol bethau yn unig; yn amlwg cafodd eitemau o werth sentimental eu dinistrio hefyd. Efallai na fyddwch yn gallu hawlio am eitemau sydd o werth ^ r bod cynnwys eich sentimental, ond gallwch ofalu am yr hanfodion drwy wneud yn siw eiddo wedi’i yswirio. Mae’r cynllun yswiriant cynnwys MY HOME y Ffederasiwn Tai Cenedlaethol yn bolisi yswiriant tenantiaid, ffordd gost-effeithiol o sicrhau nad ydych byth yn yr un sefyllfa â’r preswylydd anffodus hwn. Os ydych dros 60 oed gallwch gael yswiriant safonol o £6000 am gyn lleied â £1.16 yr wythnos. Os ydych o dan 60 oed yr isafswm yswiriant y gallwch ei gael yw £9,000 am gost o £1.53 yr wythnos. Rydym yn credu ei fod yn gost fach am dawelwch meddwl. Gallwch gael llyfryn yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch drwy gysylltu â’r Gwasanaeth Cwsmeriaid ar 0300 124 0040 neu fel arall siaradwch â’ch Cydlynydd Byw’n Annibynnol neu Cydlynydd Cymdogaeth.

Os hoffech chi Archwiliad Diogelwch Tân yn y Cartref am ddim, cysylltwch â thîm gwasanaeth cwsmeriaid Cartrefi Conwy a fydd yn fwy na pharod i gymryd eich manylion a’u trosglwyddo i Chad.


Gair gan Andrew Bowden Mae iechyd a diogelwch ein tenantiaid o’r pwys pennaf i ni ac fel cwmni rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd arloesol i sicrhau bod diogelwch rhag tân yn cael ei gynnal. Rydym yn buddsoddi’n drwm mewn sicrhau bod ein holl eiddo â diogelwch mwg/tân sy’n gysylltiedig â’r prif gyflenwad trydan.

Diogelwch plant Amser Te ‘Terfysg Amser Te’ a’r pwysau y mae teuluoedd yn wynebu i gadw plant yn ddiogel yn ystod prysurdeb amser te. Amser te yn aml yw’r amser o’r dydd pan fo’r pwysau ar rieni a gofalwyr ar ei drymaf - wrth i chi geisio cael y plant i setlo o’r ysgol neu feithrinfa a chychwyn ar y drefn amser.

Gallwch ddod o hyd i fanylion am rai o’r achosion mwyaf cyffredin o ddamweiniau difrifol, yn ogystal â chyngor diogelwch ar gyfer eu hatal ar wefan Atal Damweiniau Plant: www.childsafetyweek.org.uk

WYDDECH CHI?

Sythwr Gwallt - Wyddoch chi fod Sythwyr Gwallt yn aros yn ddigon poeth i losgi hyd at 15 munud ar ôl eu diffodd.

Cadw eich plentyn yn ddiogel ar-lein. Mae plant a phobl ifanc yn treulio llawer o amser ar-lein - gall fod yn ffordd wych iddynt gymdeithasu, archwilio a chael hwyl. Ond mae plant hefyd yn wynebu peryglon fel seiberfwlio neu weld cynnwys sy’n amhriodol. Dyna pam ei bod yn bwysig iddynt wybod sut i aros yn ddiogel ar-lein. P’un a ydych yn ansicr ynghylch yr hyn sy’n digwydd ar-lein neu i ddal i fyny gyda thechnoleg newydd, mae’n bwysig eich bod yn siarad â’ch plentyn am gadw’n ddiogel. Mae gan wefan yr NSPCC ystod eang o adnoddau a chyngor i rieni: www.nspcc.org.uk

WYDDECH CHI? Mae bron i chwarter rhai 11 a 12 oed â phroffil rhwydweithio cymdeithasol wedi cael profiad o rywbeth sydd wedi eu dychryn yn y flwyddyn ddiwethaf.

^

TAN, LLIFOGYDD, LLADRATA

"MI WNAETH O DDIM DIGWYDD I MI" Gofynnwch i'ch lletywr am pecyn ymgeisio am ddim neu ymgeisiwch heddiw, galwch My Home ar:

0845 337 2463 (allai fod yn rhatach i alw 01628 586189) Ebost: myhome@thistleinsurance.co.uk // Ymwelwch: www.thistlemyhome.co.uk

Yswiriant cynnwys Tai

CYFLE GWIRFODDOLI CHILDLINE Mae ChildLine yn llinell gymorth gyfrinachol rad ac am ddim i blant a phobl ifanc. I gael gwybod mwy am fod yn wirfoddolwr llinell gymorth ChildLine yn y ganolfan ym Mhrestatyn, cysylltwch â Sally King-Sheard ar 0207 5396090 neu e-bostiwch sally.king-sheard@nspcc.org.uk i gael manylion am sesiynau gwybodaeth.

Mae’r Cynllun Yswiriant Gwladol Ffederasiwn Tai Cynnwys My Home yn enw cynnyrch a drefnwyd ac a weinyddir ar ran y Ffederasiwn Tai Cenedlaethol gan Thistle Tenantiaid Risgiau. Mae arddull masnachu o Thistle Insurance Services Limited. Brocer Lloyd. Awdurdodwyd a rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol. ^ A Cwmni Grw p JLT. Swyddfa Gofrestredig: Y Adeilad St Botolph, 138 Houndsditch, Llundain, EC3A 7AW. Cofrestrwyd yn Lloegr Rhif 00338645. Rhif TAW 244 2321 96. Mae'r Ffederasiwn Tai Cenedlaethol yn Gynrychiolydd Penodedig o Thistle Insurance Services Limited.

7


Datblygiadau Newydd Dagrau o lawenydd ar gyfer Sonya ar ôl symud i gartref llai yn Llwyn Rhiannedd Roedd Sonya Pritchard yn un o’r tenantiaid cyntaf mewn datblygiad gwerth £1 miliwn o naw o gartrefi a adeiladwyd yn Llwyn Rhiannedd oddi ar Maesdu Rd yn Llandudno. Roedd Sonya “wrth ei bodd” ar ôl symud i gartref ecogyfeillgar llai. Daeth symud i eiddo llai ar yr amser iawn i Sonya gan ei bod yn wynebu hunllef hyd yn oed gwaeth o fis Gorffennaf pan y byddai’n rhaid iddi ddechrau talu’r dreth ystafell wely ar ei hen gartref. Roedd wynebau hapus gan bawb yn yr agoriad swyddogol yn enwedig y disgyblion ar y cyngor ysgol yn Ysgol Morfa Rhianedd a oedd ar frig y rhestr gwadd VIP ar gyfer y seremoni ar ôl iddynt helpu i ddewis enw ar gyfer y datblygiad naw ty^ dwy a thair ystafell wely.

Maent yn hynod o falch bod y datblygiad am gael ei alw’n Llwyn Rhianedd i anrhydeddu eu cyfranogiad, a chydnabuwyd eu cyfraniad pan gawsant eu cyflwyno gyda siec am £200 oddi wrth Cartrefi Conwy tuag at gronfa adnoddau’r ysgol. Cafodd y datblygiad ei wneud mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a helpodd i sicrhau cyllid ychwanegol ar gyfer y prosiect gan Gronfa Eiddo Llai Llywodraeth Cymru i gynorthwyo gyda lleihau maint cartrefi o ganlyniad i ddiwygio lles. Mae’r eiddo wedi cael eu cynllunio i fod yn gartrefi am oes yn ogystal â galluogi chwech o’r naw tenant i symud i gartrefi llai, mwy addas.

Arwr Rhyfel yn agor datblygiad pobl hy^n blaenllaw newydd gwerth £4.2M “Mae’r prosiect yn destament gwych i’r gwaith partneriaeth sy’n digwydd rhwng y cyngor a Chartrefi Conwy.” Meddai Prif Weithredwr Cartrefi Conwy Andrew Bowden: “Mae hwn yn ddatblygiad blaenllaw ar gyfer pobl hy^n sy’n byw yn y gymuned. Yma gallant gael y gorau o’r ddau fyd. Gallant fyw yn annibynnol ac, os oes angen mwy o gymorth arnynt wrth i’w hamgylchiadau newid, gellir darparu hynny yn yr un cyfleuster.” Alf Davies Yr arwr o’r Ail Ryfel Byd, Alf Davies, 95 oed oedd y gwestai arbennig yn agoriad swyddogol ein datblygiad gwarchod blaenllaw gwerth £4.2 miliwn ar gyfer pobl hŷn yn Llandudno. Mae Alf wedi bod yn denant Cartrefi Conwy a chaiff ei adnabod gan ei gyd-breswylwyr fel “Ambush Alf” oherwydd iddo allu dianc rhag angau yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Ac roedd cymeradwyaeth cynnes fel ychwanegodd Mr Bowden: “Mae Cysgod y Gogarth yn addas ar gyfer y genhedlaeth hy^n ac yn addas i arwyr. Ac mae gennym ein harwr Ail Ryfel Byd ein hunain, Ambush Alf, yma gyda ni heddiw. Mae ei stori yn un wych ac mae’r hyn a wnaethoch i ni i gyd yn ystod y rhyfel yn gwbl glodwiw.”

Rydym wedi newid dau hen gynllun tai gwarchod am 30 o fflatiau newydd a thai i bobl hy^n. Ychwanegodd Alf, hen daid i bedwar: “Roeddwn i’n byw yn Llys Eryl ers 18 mlynedd ac yn awyddus i symud i mewn i Gysgod y Gogarth pan agorodd.” Dywedodd ei gyd-breswylydd June Ann Parry, 70 oed: “Mae gen i’r fflat ar yr ail lawr, a wir i chi mae o’n hyfryd. “Yn wir, rwy’n meddwl bod y lle i gyd yn fwy moethus na rhai gwestai rydw i wedi bod ynddynt a fedra i ddim credu fy mod yn byw yma.” Dywedodd y Cynghorydd Andrew Hinchliff wrth iddo ddatgan y datblygiad ar agor: “Mae’n bleser mawr i gael gwahoddiad i agor y datblygiad newydd gwych hwn yn ffurfiol sy’n dod â bywyd newydd i Strategaeth Tai Pobl Hy^n Cyngor Conwy.”

Gwedd fewnol y cyntedd a phen grisiau

8

Yr Ystafell Bampro

Lolfa Gymunedol y Tenantiaid

Dewiswyd y preswylydd June Ann Perry, 70 oed, i helpu i dorri’r rhuban ar y datblygiad newydd ochr yn ochr â’r Cynghorydd Andrew Hinchcliff, cefnogwr pobl hy^n Cyngor Conwy

Ystafell Aros


Gwasg y Bobl Hy^n FFAITH DDIDDOROL

Mae yna fantais i dyfu’n hy^n - plastigrwydd yr ymennydd. Ar un adeg credwyd ein bod wedi’n geni gyda nifer penodol o gelloedd yr ymennydd sydd yn araf yn marw wrth i ni heneiddio. Mae gwyddoniaeth yn awr yn gwybod bod ein hymennydd yn parhau i dyfu niwronau wrth i ni heneiddio ac yn gallu ail-lunio ei hun mewn ymateb i’r hyn y mae’n ei ddysgu. Gall hyd yn oed dysgu jyglo, dysgu iaith newydd neu chwarae offeryn achosi newidiadau sylweddol i’r ymennydd o ran clywed, cofio a symudiadau llaw. Hefyd, mae astudiaethau’n cadarnhau bod ein geirfa nid yn unig yn parhau i dyfu wrth i ni wneud, mae’n dod yn fwy cyfoethog ac yn darparu ffyrdd mwy cynnil o fynegi ein hunain. Cyn belled ag yr ydym yn ei ddefnyddio, ni fyddwn yn ei golli!

Anfonodd un o’n tenantiaid y gerdd hon atom am bwysigrwydd cadw eich annibyniaeth, felly roeddem yn meddwl y byddem yn ei rhannu gyda chi...

A PLEA FROM THE HEART - gan Lili Mick Why would they take my home? Just because I can’t really cope I can dress myself and make a cup of tea That’s not a good enough reason to take my home from me I try my best to cope I can’t reach my feet not, but someone else can do that for me So please!! Don’t take my home My memories are all here From my back garden where my children swung on the trees To the front garden where I sat knitting So please don’t take my home and memories from me

Awgrymiadau hydrefol i baratoi eich gardd Efallai bod lliwiau afieithus yr haf yn pylu o’ch ffiniau ond peidiwch â chael eich twyllo i feddwl bod y cyfan drosodd tan y gwanwyn nesaf. Mae’r hydref yn amser prysur yn yr ardd, amser i glirio llystyfiant pydredig yr haf a pharatoi’r ardd ar gyfer misoedd oer y gaeaf i ddod.

Tynnu cysgod y ty^ gwydr a glanhau eich ty^ gwydr Mae’n amser i gael gwared ar unrhyw baent cysgod yn eich ty^ gwydr er mwyn gwneud y mwyaf o’r golau haul sydd ar gael i’ch planhigion a glanhau eich Ty^ Gwydr. Drwy gydol misoedd tawel y gaeaf, gwnewch ymdrech i olchi’r potiau a’r hambyrddau hadau wrth baratoi ar gyfer hau a phlannu yn ystod y gwanwyn. Cofiwch y gallwch barhau i hau digon o lysiau i dyfu yn y gaeaf.

Borderi taclus

Cynnal offer garddio

Palwch allan eich blodau blynyddol a’u hychwanegu at y domen gompost. Gallwch ailblannu eich gwlâu gyda gwlâu y gaeaf megis trilliw, llygad y dydd a melyn y gaeaf ar gyfer arddangosfa liwgar y gwanwyn nesaf.

Cyn i chi storio eich peiriant torri gwellt yng nghefn y sied, mae’n werth rhoi gwasanaeth iddo i sicrhau ei fod mewn cyflwr perffaith pan fyddwch ei angen y gwanwyn nesaf.

Plannwch blanhigion bytholwyrdd a chodwch rywogaethau tyner

Mae angen miniogi gwelleifiau a siswrn tocio - gallwch wneud hyn eich hun neu eu hanfon i ffwrdd os byddai hynny’n well gennych. Mae rhawiau, ffyrch ac offer eraill yn elwa o gel eu golchi. Sychwch nhw yn drylwyr a rhowch olew ar y rhannau metel er mwyn atal rhydu. Gellir glanhau handlenni pren a’u hamddiffyn gydag olew had llin.

Planhigion bytholwyrdd yw asgwrn cefn yr ardd, gan ddarparu strwythur a diddordeb drwy gydol y flwyddyn, felly po fwyaf o goed bythwyrdd sy’n eich gardd, y gorau y bydd yn edrych yn y gaeaf! ^ r eich bod yn codi’r rhywogaethau Gwnewch yn siw tyner hynny megis y begonia, dahlia a canna cyn i’r rhew cyntaf fygwth.

Mae gan Margaret Awch am Fywyd Ymwelom â Margaret Brewer yn ei chartref yn Y Berllan ym Mhenmaenmawr i ddiolch iddi am ei hymdrech galonogol i godi arian yn ystod Ras Hwyl Cartrefi Conwy. Cododd Margaret £118 ar gyfer elusen leol, Hosbis Dewi Sant, trwy gymryd rhan yn y Ras Hwyl a beth sy’n fwy rhyfeddol yw iddi gymryd rhan a hithau wedi torri ei braich.

beirniadu eraill sydd i gyd yn cyfrannu at wella’r gymuned mae hi’n byw ynddi. Gwir Awch am Oes Margaret yw garddio ac mae hi’n gyn-enillydd balch yn y categori gardd leiaf o’r gystadleuaeth arddio ‘Pen yn ei Blodau’. Fe ymwelom â Margaret yn gynnar ym mis Ionawr ac roedd yn paratoi ar gyfer y gwanwyn i gyrraedd yn ei gardd trwy dorri lawr mynawyd y bugail, tocio’r rhosod a chael ei photiau allan i blannu’r planhigion unflwydd.

Athroniaeth Margaret yw i helpu pobl nad ydynt yn gallu helpu eu hunain. Mae hi’n ysbrydoliaeth ac yn llysgennad gwych ar gyfer yr hyn y gall pobl hy^n ei gyflawni mewn bywyd. Mae Margaret ar y cyngor tref, a hi yw Trysorydd yr Orchard Club - clwb garddio lleol ac yn cymryd rhan mewn paneli craffu a

Sied y Dynion Llanrwst Dros y flwyddyn ddiwethaf mae Llanrwst wedi gweld ^ cynnydd a phoblogrwydd ei grw p Sied y Dynion ei hun, gan dynnu llawer o ddynion lleol o’r ardal i gyfarfod wythnosol o feddyliau a diddordebau. ^ Mae “Sied y Dynion” yn grw p sy’n darparu lle ble gall y dynion deimlo’n gartrefol i rannu diddordeb ac mae’n cynnig yr offer a’r adnoddau sydd eu hangen, i weithio ar brosiectau o’u dewis eu hunain, wrth eu pwysau eu hunain mewn lleoliad diogel, cyfeillgar a chynhwysol.

Gall hyn hefyd amrywio gyda llawer o siaradwyr gwadd a thrafodaethau cyfeillgar yn digwydd yn rheolaidd. Yn cael ei redeg gan Megan Taylor Rose yma yng Nghartrefi ^ p yn cwrdd bob dydd Iau ac ar hyn o Conwy, “mae’r grw bryd yn y broses o gynllunio adeiladu eu sied eu hunain fel ^ lleoliad ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol. Maent wir yn grw p

brwdfrydig ac yn edrych ymlaen at y cyfle i afael ynddi gyda’r gwaith adeiladu gan weithio fel tîm.” Yn ogystal â darparu canolbwynt cymdeithasol gwych ar gyfer y mynychwyr rheolaidd, mae’r Sied wedi profi i fod yn achubiaeth i lawer yma, gan ei fod yn rhoi cyfle iddynt ddod allan o’r ty^, siarad a chanolbwyntio eu sgiliau ar brosiectau mewn amgylchedd cyfeillgar gyda phobl o’r un meddylfryd. Yn ogystal â mwy o aelodau yn ymuno bob wythnos, yn ddiweddar cawsant logo wedi’i gynllunio ar eu cyfer, a gellir gweld y daflen sy’n hysbysebu’r cyfarfodydd yma gyda’r holl wybodaeth am sut i fod yn rhan o’r Sied y Dynion a chymryd rhan yn yr hwyl, beth bynnag yw eich oedran.

9


O dan y Chwyddwydr ^ Grw p Cyfeillgarwch y Fron, Hen Golwyn

O dan y Chwyddwydr ^ Grw p Gyda’n Gilydd, Llanrwst

Ffurfiwyd Grŵp Cyfeillgarwch y Fron dros flwyddyn yn ôl gan gyfeillion cynllun Byw’n Annibynnol y Fron yn Hen Golwyn. Roeddent eisiau clwb gyda gwahaniaeth; clwb llawn gwybodaeth a allai helpu trigolion hŷn yr ardal ddysgu am y gwasanaethau sydd ar gael o ran hybu iechyd a lles. Mae’r grŵp wedi cael blwyddyn gynhyrchiol iawn gyda siaradwyr gwadd o wahanol sefydliadau megis y Groes Goch, y Gymdeithas Strôc a’r Ambiwlans Awyr. Maent hefyd wedi mwynhau cwisiau, ambell i gêm o Bingo a sesiwn ffilm. Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o’r grŵp cyfeillgarwch maent yn cyfarfod bob dydd Mawrth 2 - 4 yng Nghanolfan Gymunedol Fron, Hen Golwyn. Cysylltwch â Renee Williams ar 01492 517256 am fwy o fanylion.

CADW’N HEINI A CHAEL HWYL

Dawnsio Llinell gyda Maureen Canolfan Gymunedol Pentre Newydd, Hen Golwyn. I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch Maureen ar 01492 516224

Mae’r grŵp Gyda’n Gilydd wedi mynd o nerth i nerth dros y 3 blynedd diwethaf ac erbyn hyn mae ganddynt aelodaeth o dros 30 o bobl. Maent yn cyfarfod bob mis gyda Chlwb Bingo y Fron gan gynnal eu cyfarfodydd mewn mannau eraill. Yn Llanrwst maent yn cyfarfod yng Nghlwb Llanrwst ac yn Hen Golwyn yng Nghanolfan Gymunedol y Fron. Os ydych am ymuno yn yr hwyl, cysylltwch ag Allison ar 01745 335330.

Ras Hwyl 4ydd Cartrefi Conwy Dydd Sul 22ain Tachwedd Ras llawn hwyl ar gyfer y teulu oll sy’n cael ei gynnal diwrnod Hanner Marathon Conwy. Mae’r Ras Hwyl yn rhad ac am ddim ar gyfer tenantiaid Cartrefi Conwy felly galwch ni ar

01745 335345 heddiw i gofrestru.

Diweddariad y Gist Gymunedol ^ Ydych chi’n cynllunio prosiect ar gyfer eich grw p neu fudiad cymunedol?

Ydych chi’n chwilio am ychydig bach mwy o arian i ariannu eich prosiect? Yna, gwnewch gais am grant y Gist Gymunedol heddiw! Mae’r prosiect Cist Gymunedol yn ceisio cefnogi prosiectau bychain fydd yn gwella ansawdd bywyd ein tenantiaid yn eu cymunedau lleol neu lle y mae gennym dai. Yr uchafswm grant y gall prosiect wneud cais amdano yw £2,500. Ers mis Ebrill 2014, mae dros £35,000 wedi’i ddyfarnu i grwpiau. Rhai prosiectau sydd wedi elwa yw: • Prosiect Futsal Bae Cinmel • Clwb Bowlio’r Fardre ^ p Cymunedol Calon Peulwys • Grw ^ • Grw p Cymunedol Marl Cruisers

• Menter Siabod • Clwb Bowlio Llanrwst ^ • Grw p Cymorth Cymunedol Penmaenmawr

10

Menter Siabod ^ Mae Menter Siabod yn Grw p Gweithredu Cymunedol yn Nolwyddelan a’i brif nod yw datblygu prosiectau mewn cydweithrediad â’i breswylwyr a pharhau i ddarparu datblygiad cynaliadwy yn cynnwys yr holl gymuned.

Ar beth gafodd yr arian ei wario? Cafodd £852.76 ei wario ar roi gwedd newydd ar y pafiliwn cymunedol, a oedd yn cynnwys peintiwr/ addurnwr, dodrefn a bwrdd gwyn ar gyfer hyfforddiant.

Pa wahaniaeth mae’r arian wedi’i wneud? Mae’r bwrdd gwyn wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i’r dosbarthiadau Cymraeg, heb y pafiliwn cymunedol fel cyfleuster, byddai’n rhaid i’r unigolion fynd i ddosbarthiadau Cymraeg yng Nghyffordd Llandudno. Mae’r gymuned leol yn awr yn gweld y pafiliwn fel lle mwy ffres i ymweld ag o gyda chlwb crefft newydd wedi’i sefydlu.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.