Gyda'n Gilydd Rhifyn Hydref

Page 1

CARTREFI CONWY

D D Y L I G N ’ A D Y G

IN E L R A EWCH EF HWN YR HYDR

RHIFYN HYDREF

-lein r a d n y m m a P onwy? C i f e r t r a C o f e d hawsaf

unig y fford Hyn yw nid yn am , rhoi gwybod d lia ta d u e n ow iweddaru cysylltu â ni, d , io s w tr h it a w eich cyswllt, gweld eich manylion eich balans.... io ir w g , d ia n a datg h yn mis y byddwc Cofiwch, bob argwasanaeth defnyddio ein s yn y n eich cynnwy y n w d d y b in le het. tynnu enw o gystadleuaeth nnill u am gyfle i e Rwy’n Cysyllt £200

CH W T L L Y S CY FI

E RG R T R A C Â .MYCARTREFI.O WWW

.... .. N W E F U T Y D HEFY YL

Llongyfarchiadau i’n

henillwyr Dwi’n Talu a Dwi’n Falch diwed dar Roedd John Sulliv an a’i wraig yn da thlu 44 o flynyddoedd o briodas yn ogys tal â phenblwydd Mrs Sullivan yr wythn gwnaethon nhw os y ennill. Dywedod d John ei fod wrth ei fodd cael mynd a’i wra ig allan am bryd o fwyd gyda ’r arian. John gydag Am anda Wilson, Ym gynghorydd Cynhwysiant Aria nnol Cartrefi Co nwy. Mrs Sheila Pibw orth gydag Aman da

DIWRNOD HW Tud 5 RHODFA CAER HYBU N www.cartreficonwy.org Y S ID K I IT F F A GR 8 enquiries@cartreficonwy.org LWCH Tud NEGES DDIOGE Gwasanaeth Cwsmer: 0300 124 0040 Mae pob galwad gyda Gwasanaethau Cwsmeriaid yn cael eu cofnodi Mae copïau sain o’r newyddlen hon ar gael

Cartrefi Autumn Newsletter 2017 Cym.indd 1

24/10/2017 16:05


CYSYLLTWCH: COFRESTRWCH AR GYFER MYCARTREFI RŴAN EWCH I WWW.MYCARTREFI.ORG

Fel diolch am ddefnyddio MyCartrefi, bob mis y byddwch yn defnyddio ein gwasanaeth ar-lein, byddwn yn rhoi eich enw mewn raffl fawr lle bydd cyfle i chi ennill £200.

Drwy ddefnyddio MyCartrefi gallwch: • Wneud Taliad • Rhoi gwybod am waith atgyweirio

• Cysylltu â ni • Gweld eich taflen ddatgan

• Diweddaru eich manylion cyswllt • Gwirio eich Balans

Mae mynd ar-lein gyda MyCartrefi yn hawdd iawn ond os oes angen cymorth arnoch, gadewch i ni wybod: Ffoniwch: 0300 1240040 | E-bost: enquiries@cartreficonwy.org | Ar-lei: www.cartreficonwy.org

SUT I GOFRESTRU CAM 1

Ewch i www.MyCartrefi.org a nodwch eich cyfeirnod tenantiaeth, eich dyddiad geni a’ch

CAM 2

Nodwch eich cyfeiriad e-bost ac yna crëwch enw defnyddiwr a chyfrinair y byddwch yn eu defnyddio er mwyn mewngofnodi yn y dyfodol.

CAM 3

Byddwch yn derbyn e-bost gyda dolen er mwyn rhoi’ch cyfrif ar waith.

Er mwyn cofrestru bydd angen i chi roi rhif cyfeirnod eich tenantiaeth. Gellir dod o hyd i’r rhif hwn ar unrhyw lythyr mae Cartrefi Conwy yn ei anfon atoch. 2

www.cartreficonwy.org

Cartrefi Autumn Newsletter 2017 Cym.indd 2

24/10/2017 16:05


N

t

,

g

GENETHOD THE GREAT

GATSBY YN RHOI DECHRAU ˆN DA I’R DIWRNOD POBL HY

Roedd y Diwrnod Pobl Hŷn eleni yn ddigwyddiad gwych a oedd yn dathlu’r cyfraniad gwych y mae pobl hŷn yn ei wneud yn ein cymunedau. Agorwyd y dathliadau gan Janet Finch Saunders, AC Aberconwy a Phencampwr Pobl Hŷn y Ceidwadwyr Cymreig a chroesawodd dros 200 o westeion i’r digwyddiad. Roedd yr ystafell yn fwrlwm o hwyl a sgwrsio wrth i’r gwesteion fwynhau eu cinio ac yna wrth i adloniant lliwgar y prynhawn ddechrau gyda pherfformiad genethod y Great Gatsby. Yn ystod y dathliadau roedd cyfle i’r gwesteion gael gwybodaeth a chyngor defnyddiol, yn enwedig ynglŷn â mynd ar-lein i arbed arian a threchu unigedd. Wrth i de prynhawn gael ei weini aeth yr ystafell yn ddistaw ar gyfer uchafbwynt y diwrnod, y Seremoni Wobrwyo. Cawsom 43 o enwebiadau gan denantiaid a chydweithwyr. Yr enillwyr emosiynol a haeddiannol ond diymhongar oedd : Diane Wright o Faes Cwstenin a enillodd wobr Cymydog Neilltuol am ofalu am ei chymdogion ac am fod yn gyfaill sydd bob amser yn cadw llygad arnynt. Margaret Richardson o Parkway a enillodd y wobr Gwirfoddolwr Neilltuol am y cannoedd o oriau y mae’n eu treulio’n gwirfoddoli yng ngerddi wedi’u rhannu yn Parkway gan helpu i’w gwneud yn hynod o hardd. Roedd hwn yn ddathliad dwbl i Parkway gan mai nhw unwaith eto oedd enillwyr Colwyn yn ei Blodau 2017. Enillydd y brif wobr, sef Pencampwr Pobl Hŷn, oedd Ernie Seabright o Gysgod y Gogarth am bopeth y mae’n ei wneud i’w gymdogion a’r gymuned. Roedd gwen enwog Ernie’n lledaenu o glust i glust wrth iddo dderbyn ei wobr. Canmolodd y beirniaid yr holl enillwyr gan ddweud y bu’n hynod anodd iddyn nhw ddewis o blith yr holl enwebeion oherwydd bod pob un yn enillydd yn eu llygad nhw am bopeth maen nhw’n ei wneud dros eu cymdogion.

U LLONGYFARCHIADAN I’N HOLL ENWEBEIO Jean Williams Norma Roberts Jeanette Smith Steve & Elaine Davis Ernie Seabright Brenda Robinson Margaret Richardson Diane Wright Dilys Roberts Burnie Clutton Margaret Rowlinson Richard Blackwell Glyn & Iris Lloyd Pauline Sparkes Christine Eardley Annabella Orr Buddug Cotton Bill Shields Janet Griffith Terry Oldbury Tilly Goodwin Olwyn Rowlands Carl Dutton Gwylym Jones Gerald Dunphy

Bu dewis hefyd gan y barnwyr y flwyddyn hon i roi gwobr un tro i gwpl Steve ac Elaine Davis, i gydnabod eu hysbryd cymunedol a’u hymroddiad i’w cymdogion.

GW YLIWC H / https:// youtu.be V2bbOLbV7Q8

Mae gennym lawer o weithgareddau wythnosol sy’n cael eu rhedeg gan bobl hŷn i bobl hŷn allan yn ein cymunedau. Mae Côr Rwsters yn cyfarfod yn rheolaidd yn Llanrwst ac maen nhw wedi perfformio ar draws y Sir. Cliciwch i weld rhai o’r aelodau’n siarad am beth mae canu gyda’r côr yn ei olygu iddyn nhw. Gofynnwch i’ch cydlynydd Byw’n Annibynnol beth sy’n mynd ymlaen yn eich ardal chi neu ffoniwch ni ar 0300 124 0040 neu ewch i www.cartreficonwy.org.

0300 124 0040 Cartrefi Autumn Newsletter 2017 Cym.indd 3

3

24/10/2017 16:06


D N Y M AR-LEIN YNG NGHONWY

Does dim angen i chi fod â’ch cyfrifiadur neu eich gliniadur eich hun yn eich cartrefi. Os ydych yn aelod o lyfrgell, gallwch ddefnyddio cyfrifiadur yn eich llyfrgell leol am ddim.

GALL MYND AR-LEIN EICH HELPU CHI I: • Gadw mewn cysylltiad â’ch ffrindiau a’ch teulu • Rheoli eich arian • Chwilio am Swyddi • Gwneud cais am Gredyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill • Dysgu mwy am y pethau sydd o ddiddordeb i chi

Os ydych angen ychydig bach o help ychwanegol gyda Thechnoleg Gwybodaeth, beth am fynd i’ch clwb swyddi agosaf. Mae ganddyn nhw staff pwrpasol wrth law i helpu ac ateb cwestiynau am amrywiaeth o bynciau gan gynnwys e-bost, arbed dogfennau, atodi ffeiliau fel eich CV a chwilio’r rhyngrwyd.

CLWB SWYDDI WYTHNOSOL Bae Colwyn 22 Ffordd yr Orsaf, LL29 8BY Bob dydd Mawrth 10 tan 4 01492 575578

Llandudno T Llywellyn, Hospital Road, LL30 1LA Bob dydd Iau 10 - 4 01492 575578

Ardal Pensarn Canolfan Dewi Sant, Rhodfa’r De Pensarn LL22 7RG Bob dydd Mercher 10 tan 4 01492 575578

Ardal Llanrwst Golygfa Gwydir Llanrwst LL26 0AG Bob dydd Llun 10 am tan 4pm 01492 640945

Gallwch hefyd gysylltu â’n Pencampwyr Digidol yng Nghartrefi Conwy a Chreu Menter a fydd yn gallu trefnu i’ch cyfarfod chi. Ffoniwch Lydia Watson 07733012521 neu Sioned Williams 01745 335684

GALLWCH GAEL SESIYNAU AR-LEIN YN EICH LLYFRGELL LEOL FEL A GANLYN: Llyfrgell Abergele, Dydd Mawrth 10am Llyfrgell Bae Colwyn Dydd Llun 10:30am Llyfrgell Conwy, Dydd Gwener 10am Llyfrgell Llandudno, Dydd Mercher 10am Llyfrgell Llanrwst, Dydd Mercher 5pm 4

www.cartreficonwy.org

Cartrefi Autumn Newsletter 2017 Cym.indd 4

24/10/2017 16:06


DIWRNOD HWYL

RHODFA CAER

Roedd yn wych bod yn rhan o ddigwyddiad cyffrous arall gyda phopeth o ddawnswyr Morris i reidiau ar gefn mul, tombola a cherddoriaeth byw. Roedd hyd yn oed Harry Styles yno - ond dim ond fersiwn cardbord o’r seren bop yn anffodus. Trefnwyd y digwyddiad gan y Gymdeithas Preswylwyr leol, Gweithredu Cymunedol Rhodfa Caer. Meddai Stan Burrows, y Cadeirydd: “Mae cymaint wedi bod yn mynd ymlaen ac mae’r gymuned wedi codi cryn dipyn o arian a fydd yn mynd tuag at dripiau allan i’r henoed a phobl ifanc sy’n byw gerllaw. Daeth Sally Tierney a Sharon Hughes, o Barc Peulwys yn Llysfaen, draw gyda rhai o aelodau grŵp dawnsio Morris y Sharelles a roddodd arddangosfa ddawns i’r gynulleidfa. Ychwanegodd Clwb Pêl-droed y Rhyl elfen o gystadlu at y diwrnod gyda chystadleuaeth saethu am y gôl gyda gwobr o grysau thîm cyntaf replica yn ogystal â sgarffiau a nwyddau eraill. Roedd rheolwr gyfarwyddwr Rhyl FC, Mike Jones, wrth ei fodd yn cefnogi’r diwrnod cymunedol. Dywedodd: “Fel clwb pêl-droed mae Cartrefi Conwy yn bwysig i ni gan mai nhw yw ein prif noddwyr. Mae wedi bod yn grêt cefnogi’r diwrnod hwyl cymunedol a thrigolion a thenantiaid Rhodfa Caer.

CYFLE ARALL I ENNILL!

Crys replica tîm cyntaf clwb pêl-droed y Rhyl a sgarff. Y cyfan sydd angen ei wneud yw datrys yr anagram isod ac yna ffonio neu e-bostio’r tîm cyfathrebiadau ar 01745 335345 neu communications@cartreficonwy.org gyda’ch ateb cyn dydd Gwener, 3 Tachwedd 2017.

Oh Limey Wolfish Teeth Cartrefi Autumn Newsletter 2017 Cym.indd 5

0300 124 0040

5

24/10/2017 16:06


NODDWYR BALCH Cofiwch ein bod yn noddwyr balch o dîm RGC a Rhyl FC ac mae gennym nifer o docynnau gemau cartref am ddim i’w cynnig i denantiaid. Rydym yn gweithio’n agos â’r ddau glwb er mwyn rhoi cyfle i dalent ein tenantiaid ar y cae pêl-droed neu rygbi gael ei ddarganfod.

Cafodd RGC dymor cyntaf gwych gan greu hanes yn erbyn Pontypridd gyda’u buddugoliaeth wych yn gêm derfynol cystadleuaeth Enillwyr Cwpan Cenedlaethol WRU 2017. Maen nhw’n dal i berfformio’n dda eleni ac rydym wedi gweld gemau a buddugoliaethau anhygoel yn ddiweddar.

Cadwch lygad ar ein tudalen Facebook am gyfle i ennill tocynnau neu ffoniwch y tîm cyfathrebiadau ar 01745 335345 6

www.cartreficonwy.org

Cartrefi Autumn Newsletter 2017 Cym.indd 6

24/10/2017 16:06


YL RASREFHI CW ONWY CART

DYDD SUL 19 TACHWEDD Y CEI YNG NGHONWY

6 O FANTEISION RHEDEG

Dewch a’r teulu cyfan draw i awyrgylch carnifal Hanner Marathon Conwy sy’n cael ei drefnu gan Run Wales.

• Atal Afiechyd

Rhedwch 1 filltir o gwrs rhedeg Hanner Marathon Conwy gyda channoedd o gefnogwyr yn eich annog ymlaen. I ffwrdd a chi i’r llinell gychwyn, mwynhewch y rhedeg ac yna ymfalchïwch yn eich munud o fuddugoliaeth wrth i chi groesi’r llinell derfyn a chasglu eich medal.

• Gwella’ch Iechyd • Colli pwysau • Rhoi hwb i’ch hyder • Lleddfu straen • Codi iselder Mae rhedeg yn wirioneddol llesol i’r corff, y meddwl a’r ysbryd. Gall hyd yn oed rhedeg dim ond pellter byr wneud i chi deimlo’n fwy egnïol, eich helpu i ganolbwyntio’n well a mwynhau popeth sydd gan fywyd i’w gynnig.

AM DDIM Gall tenantiaid gymryd rhan yn y ras hwyl ddim rŵan drwy ffonio’r Rhowch eich enw i lawr ar gyfer y ras am anfonwch e-bost at Tîm Cyfathrebiadau ar 01745 335345 neu communications@cartreficonwy.org 0300 124 0040 Cartrefi Autumn Newsletter 2017 Cym.indd 7

7

24/10/2017 16:06


GRAFFITI KIDS YN HYBU NEGES DDIOGELWCH Diolch i aelodau o Glwb Ieuenctid Tyˆ Llywelyn yn Llandudno am weithio gydag artist graffiti proffesiynol Andy Birch. Maen nhw wedi creu arwyddion lliwgar i’n helpu ni i hyrwyddo prosiect amgylcheddol sydd erbyn hyn yn symud yn ei flaen yn dda yn ystâd Tre Cwm. Gyda thua 50 o wahanol brosiectau’n digwydd dros gyfnod o 10 mis, mae’n hollbwysig fod pobl ifanc yn gwybod am beryglon y peiriannau gwaith trwm sy’n symud o gwmpas yr ardal yn ogystal â gofalu nad ydynt yn chwarae mewn mannau sydd wedi’u cau i ffwrdd gyda ffensys.

Dywedodd Violet Sturdy, 11, ei bod hi wirioneddol wedi mwynhau cymryd rhan ac meddai: “Mae’n syniad gwych rhoi gwybod i bobl pa waith sy’n mynd ymlaen a dysgu am ddiogelwch o amgylch gwaith adeiladu a pheiriannau. “Hefyd, dwi wedi bod eisiau creu celf efo paent chwistrell a dwi’n gallu gneud hynny yma heb fynd i drwbl, a da ni’n gneud rhywbeth defnyddiol fydd llwythi o bobl yn gallu ei weld. Mae’n syniad gwych.”

Gofalwch eich bod yn cael yr holl newyddion diweddaraf am Brosiect Amgylcheddol Tre Cwm drwy ymweld a Thre Cwm ar Facebook

www.facebook.com/trecwm 8

www.cartreficonwy.org

Cartrefi Autumn Newsletter 2017 Cym.indd 8

24/10/2017 16:06


TWIST AND PULSE YN

NY UNYMA ANLA DIDRNDOD WR AL DIW

Diolch i’r cannoedd o denantiaid a ddaeth draw am Ddiwrnod Allan Mawr gwych arall. Cafodd y gynulleidfa eleni eu diddanu gan Twist and Pulse y pâr dawnsio stryd a ymddangosodd ar y sioe Britain’s Got Talent. Yn ymuno a nhw roedd yr anhygoel Jamie Lee Harrison (a gyrhaeddodd rownd derfynol Britain’s Got Talent eleni) a’r band roc Venus Demilo.

DYMA BETH OEDD GAN RAI OHONOCH CHI I’W DDWEUD AM Y DIWRNOD GW YLIWC H /

https:// youtu.be YPtvI71z61Y

Thema’r diwrnod oedd ‘cysylltwch’ ac roedd Don Jackson yno fel llysgennad digidol Cartrefi Conwy er mwyn annog ein tenantiaid hŷn i fynd i ‘syrffio’. Dywedodd Don wrthym sut y gwnaeth mynd arlein ei helpu o i frwydro yn erbyn unigrwydd ers iddo golli ei wraig.

Cofiwch – bob mis y byddwch yn defnyddio ein gwasanaethau ar-lein www.mycartrefi.org byddwn yn eich cynnwys yn y gystadleuaeth (Insert I’m connected logo) Rwy’n Cysylltu am gyfle i ennill £200

Dywedodd Ian: “Fe wnaeth dysgu sut i ddefnyddio iPad agor y drws i mi. Mae llawer o fy ffrindiau ar hyd y wlad yn defnyddio e-bost a Facebook a rŵan mi alla’i ddod o hyd iddyn nhw. Mae o hefyd wedi fy ngalluogi i ddod o hyd i fy ngwas priodas, John Bushere, nad oeddwn i wedi siarad ag o ers dros 60 o flynyddoedd. Mae Don rŵan yn defnyddio e-bost a Facebook yn rheolaidd ac yn annog pobl hŷn eraill i wneud yr un peth a pheidio bod ofn rhoi cynnig arni.

Cartrefi Autumn Newsletter 2017 Cym.indd 9

0300 124 0040

9

24/10/2017 16:06


YMGYRCH DALIWCH ATI I GEFNOGI POBL Diolch anferth i bob tenant, cydweithiwr, Cynghorydd Lleol ac Aelodau Cynulliad a gymerodd ran yn yr ymgyrch Daliwch Ati i Gefnogi Pobl. Mae eich cefnogaeth chi wedi sicrhau nawdd ariannol ar gyfer y ddwy flynedd nesaf. Mae rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru yn cefnogi dros 57,000 o bobl yn genedlaethol bob blwyddyn i fyw mor annibynnol â phosibl. Mae’r nawdd yn caniatáu i Wasanaeth Byw’n Annibynnol Conwy roi cefnogaeth hollbwysig i’n tenantiaid hŷn a hebddo fyddai dim modd i ni redeg cymaint o weithgareddau llwyddiannus ar eu cyfer.

Rydyn ni’n canmol y Grŵp Gyda’n Gilydd o Lanrwst sydd wedi casglu swm anhygoel o £5,926.70 ar gyfer Macmillan.

GW YLIWC H / https:// youtu.be jloHW-ZBU_Q

10

www.cartreficonwy.org

Cartrefi Autumn Newsletter 2017 Cym.indd 10

24/10/2017 16:06


GWYBODAETH AM DDIOGELWCH CYMUNEDOL Peidiwch â rhoi cadachau neu ddefnyddiau yn eich sychwr sydd wedi cael eu defnyddio i amsugno pethau fflamadwy

Sychwr dillad yw’r ail beiriant trydanol mwyaf tebygol i achosi tân yn y cartref. Dyma awgrymiadau diogelwch syml wrth ddefnyddio sychwyr dillad: Tynnwch y fflwff o’r hidlydd ar ôl bob llwyth Peidiwch â gorchuddio’r fent nac unrhyw agoriad arall Gwnewch yn siŵr nad yw pibell y fent wedi plygu nac wedi’i gwasgu mewn unrhyw ffordd Defnyddiwch bibelli sy’n cael eu hargymell ar gyfer y fent

Ceisiwch beidio â defnyddio eich sychwr dillad a’ch peiriant golchi pan fyddwch yn cysgu neu pan nad ydych chi gartref Peidiwch â gorlwytho eich sychwr neu ei lwytho â defnydd sy’n wlyb diferol Ceisiwch dynnu’r dillad cyn gynted ag y mae’r peiriant wedi gorffen sychu a defnyddiwch y cyfnod oeri ar y sychwr bob tro.

Arwyddion nad yw eich sychwr yn awyru’n iawn: Dillad yn cymryd amser hir i sychu Dillad yn teimlo’n boethach na’r arfer ar y diwedd

Peidiwch ag awyru aer poeth ond i du allan yr adeilad

0300 124 0040 Cartrefi Autumn Newsletter 2017 Cym.indd 11

11

24/10/2017 16:06


MAE’R HYDREF YN AMSER HUDOL

o Ond peidiwch â gadael idd d od droi’n hunllef. Nid yw’n an lan bod yn ddiogel ar noson Ca .Y Gaeaf a Noson Tân Gwyllt tân e sio ffordd orau yw mynd i u. gwyllt sydd wedi’i threfn

Dyma’r bedwaredd flwyddyn mae Cartrefi Conwy wedi bod yn gweithio gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru. Rydyn ni’n cydweithio drwy gynnal gwiriadau diogelwch yn eich cartref i’ch helpu i: • • •

Leihau’r risg o dân Atal llithro a baglu Cadw’ch cartref yn ddiogel

Mae Carol Richards, Swyddog Diogelwch Cartrefi yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, hefyd yn hyfforddi 12 o gydweithwyr yng Nghartrefi Conwy i gynnal y gwiriadau yma yn eich cartrefi. Dywedodd Carol: “Mae’r bartneriaeth yn wych ar gyfer y ddau sefydliad gan ein bod ni’n cael ymweld â bron i 4,000 o gartrefi i gynnal gwiriadau diogelwch.

12

www.cartreficonwy.org

Cartrefi Autumn Newsletter 2017 Cym.indd 12

24/10/2017 16:06


Mae hyn yn bwysig iawn, yn enwedig ar gyfer tenantiaid hŷn neu rai sy’n wynebu problemau sy’n golygu bod mwy o risg iddynt frifo neu waeth yn eu cartref. Ond maen nhw hefyd yn bwysig ar gyfer pawb gan ein bod ni’n aml yn gallu bod yn rhy gyfforddus yn ein cartrefi, heb weld y peryglon.

EICH CADW CHI’N DDIOGEL AC YN IACH YN EICH CARTREF

Mae llawer o’r hyn rydyn ni’n ei drafod yn synnwyr cyffredin, ond rydyn ni’n atgoffa pobl am arferion da i fod yn ddiogel. Pethau syml, fel profi eich larymau tân bob wythnos, peidio â rhoi gormod o eitemau mewn socedau, yn enwedig gan fod gennym ni gymaint o declynnau yn yr oes sydd ohoni a diffodd y socedau dros nos a phan nad ydych chi gartref. Felly, mae hi’n bwysig eich bod chi gartref pan mae eich apwyntiad– nid dod i farnu neb rydyn ni, ond i helpu i’ch cadw chi’n ddiogel – pwy a ŵyr, efallai y bydd yn achub eich bywyd!”

Cartrefi sydd â gwasanaeth nwy cyfredol

100% Tasgau i ymateb i Asesiad Risgiau Tân sy’n cael eu cwblhau o fewn y targed

100% D D Y W E N U A D IA CANLYNR EIN CYR AEDD Bu i ni sgwrsio gyda Carol a’r Swyddog Ymgysylltu â Chwsmeriaid, Linda Holmes, ar ymweliad â chartref tenant newydd ym Mharc Peulwys. Mae’r tenant eisoes yn dilyn trefn dda i gadw ei theulu’n ddiogel ac yn iach yn eu cartref newydd, ond fe awgrymodd Carol un neu ddau o bethau y gallai eu newid. Fe soniodd y tenant am rai o’i phryderon hi hefyd, ac roeddem yn gallu datrys y rheini’n syth.

Atgyweiriadau a gwblhawyd yn iawn y tro cyntaf

93.25%

Bodlonrwydd â’r gwasanaeth atgyweirio

99.31%

Gwaith atgyweirio brys a gwblhawyd o fewn y targed o 24 awr

98.52% Amser cyfartalog i ailosod cartref

17.9 Diwrnod 0300 124 0040 13

Cartrefi Autumn Newsletter 2017 Cym.indd 13

24/10/2017 16:06


CWRS CYNTAF ‘CAMAU CYNTAF’ TUAG AT WAITH YN CYCHWYN MAE CAMAU CYNTAF TUAG AT WAITH YN CYNNIG CYRSIAU HYFFORDDI AM DDIM I DENANTIAID. MAE’R CYRSIAU’N PARA 11 WYTHNOS A BOB WYTHNOS BYDD TENANTIAID YN CAEL HANNER DIWRNOD O HYFFORDDIANT I BARATOI AM SWYDD AC UN DIWRNOD O WIRFODDOLI MEWN RÔL SYDD O DDIDDORDEB IDDYNT. Cychwynnodd y cwrs cyntaf ar 9 Hydref ac mae’r cwrs nesaf yn cychwyn ar 13 Tachwedd. Felly, os ydych chi’n byw mewn cartref Cartrefi Conwy, dros 25 oed, wedi bod yn ddi-waith am fwy na blwyddyn ac yn gallu rhoi diwrnod a hanner am 11 wythnos, beth am wneud cais? Byddwch yn gwella eich sgiliau i ddod o hyd i swydd, yn cyfarfod pobl newydd ac fe fyddwn yn talu unrhyw gostau a ddaw yn sgil y cwrs.

Llongyfarchiadau i’r tenantiaid a’r gwirfoddolwyr Creu Menter, Joanne a Sarah, sydd wedi derbyn y Wobr Efydd ar ôl gwirfoddoli am fwy na 50 awr. Roedd yn ddathliad dwbl i Joanne gan ei bod newydd gael gwybod ei bod wedi cael swydd newydd fel Cymhorthydd Gweinyddol gyda’r tîm. Fe roesom ni groeso cynnes hefyd i’n gwirfoddolwr newydd, Wendy Davies, sy’n gwirfoddoli gyda James y Gofalwr yn ein prif swyddfa yn Abergele. Rydym ni i gyd wedi ein synnu bod gan Wendy amser i wirfoddoli gan ei bod yn ofalwr llawn amser prysur i’w gŵr ac yn gwarchod ei ŵyr.

FFONIWCH SIONED AR 01745 335698 I GAEL GWYBOD MWY.

14

www.creatingenterprise.org.uk

Cartrefi Autumn Newsletter 2017 Cym.indd 14

24/10/2017 16:06


LU CREU MENTER YN CASGH GWOBRAU CENEDLAET OL Yng Ngwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru, fe enwyd Creu Menter fel Menter Gymdeithasol y Flwyddyn yng Nghymru. Bu i ni hefyd ennill Menter Addysg, Hyfforddiant a Gwaith y Flwyddyn. Mae hwn yn gyflawniad enfawr ac mae wir yn rhoi Creu Menter ar y map yng Nghymru. Bydd yn ein helpu i hyrwyddo ein nodau i barhau i dyfu a rhoi llawer mwy o gyfleoedd yn y gweithle i’n tenantiaid.

I weld yr holl newyddion, gwybodaeth a chyfleoedd diweddaraf gan Greu Menter, ewch i’n gwefan www.creatingenterprise.org.uk neu ffoniwch 01745 335698.

facebook.com/creatingenterprise/

01745 335684 15 Cartrefi Autumn Newsletter 2017 Cym.indd 15

24/10/2017 16:06


YR W C Y H T N E B R I’ L E A D A G PEIDIWCH Â LO L Y W T H IC E D E D D Y W R ARIAN DID LIG HWN, RWY ORWARIO’R NADO

FFERTHION D IMLAD HWNNW PEIDIWCH Â MYND I DRA TE R A’ N H ET A W G ER D YN LLAW NEU FE ALL PETHAU FO EICH BOD YN SUDDO… Peidiwch â mynd i drafferthion drwy orwario’r Nadolig hwn, neu fe all pethau fod yn llawer gwaeth na’r teimlad hwnnw eich bod yn suddo...

Ewch i’n tudalen Cymryd Rheolaeth ar ein gwefan i weld gwybodaeth ddefnyddiol am reoli eich arian:

Rydyn ni yma i’ch helpu. Nid yw gofyn am gymorth a chefnogaeth yn costio dim i chi.

www.cartreficonwy.org/take-control

Yng Nghartrefi Conwy, mae gennym ni dîm cymorth penodol sy’n cynnig help i denantiaid a theuluoedd ar draws y rhanbarth. Gallent eich helpu i hawlio’r holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt. Maent hefyd yn rhoi cyngor ac awgrymiadau ynglŷn â: • • • • • • •

Chyfrifon banc Neilltuo arian Rheoli eich arian Benthyca arian Osgoi dyled – yn enwedig i fenthycwyr stepen drws a benthycwyr eraill ar y stryd fawr Delio gyda dyled Cael y gostyngiadau gorau

A ydych chi wedi dioddef yn sgil benthyciwr arian didrwydded neu’n credu y bod un yn gweithredu yn eich ardal?

CYSYLLTWCH Â’R LLINELL GYMORTH 24 AWR SY’N GWBL GYFRINACHOL AR 0300 123 3311.

Mae’r cyfan yn ymwneud â cheisio eich helpu chi i reoli a gwneud y gorau o’ch arian, rŵan ac yn y dyfodol. Beth am roi galwad i ni heddiw er mwyn siarad â rhywun o’n Tîm Cynhwysiant Ariannol? Mae’r holl sgyrsiau’n gyfrinachol ac fe all y tîm ddod i’ch gweld chi gartref neu fe allwch chi eu cyfarfod yn ein swyddfeydd, beth bynnag sydd orau gennych chi. Ffoniwch ni ar 0300 124 0040 a gofynnwch am gael siarad efo Amanda neu Katy neu adael neges iddyn nhw roi galwad yn ôl i chi.

HYD YMA ELENI, MAE AMANDA A KATY WEDI HELPU TENANTIAID I HAWLIO DROS £165,335

16

www.cartreficonwy.org

Cartrefi Autumn Newsletter 2017 Cym.indd 16

24/10/2017 16:06


SYRPREIS MAWR I

MATT STOWE

Llongyfarchiadau i Matt Stowe ar ennill gwobr anrhydeddus Gweithiwr y Flwyddyn Baner Werdd Cymru. Bu i ni sleifio aelodau balch iawn o’i deulu i’r seremoni wobrwyo yng Nghanolfan Gymunedol Parc Peulwys, lle daeth ei fam a’i frodyr i’r golwg yn dal baner i’w longyfarch.

Derbyniodd Matt y wobr am ei waith arbennig ym Mharc Peulwys. Ond roedd yn ddathliad dwbl wrth i wobr amgylcheddol y Faner Werdd arall gael ei chyflwyno i gymuned Parc Peulwys am y drydedd flwyddyn yn olynol.

Dywedodd Matt: “’Doedd gen i ddim syniad y byddwn i’n cael y wobr yma heddiw, ond y prif reswm rydyn ni yma yw i dderbyn gwobr y Faner Werdd y gall holl drigolion Parc Peulwys fod yn falch iawn ohoni. Oherwydd eu penderfyniad nhw mae’r ystâd dai yma wedi cael cymaint o gydnabyddiaeth.

0300 124 0040 17 Cartrefi Autumn Newsletter 2017 Cym.indd 17

24/10/2017 16:06


BETH YW DIWRNOD AMGYLCHEDDOL CYMUNEDOL? Mae’n annog eich cymuned i fynd i’r afael â phroblemau amgylcheddol yn yr ardal. Diwrnod i leihau ôl-troed carbon eich cymuned drwy eich helpu chi i ailddefnyddio ac ailgylchu cymaint â phosib. Eich cefnogi chi a thrigolion lleol eraill i ymfalchïo yn y lle rydych yn byw ynddo.

BETH SY’N DIGWYDD AR DDIWRNOD AMGYLCHEDDOL CYMUNEDOL? Mae staff y Cyngor yn casglu sbwriel ac yn cael gwared â sbwriel o dipio anghyfreithlon gyda grwpiau amgylcheddol dan oruchwyliaeth o’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyraethau Cyfiawnder Cymunedol Cymru. Mae’r Tîm Ymateb Amgylcheddol yn ymgymryd â thasgau bychain fel glanhau graffiti, peintio, clirio draeniau a mwy... Mae compost ar gael AM DDIM felly cofiwch ddod â chynhwysydd addas efo chi i’w ddal. Gallwch gael gwared â’ch gwastraff swmpus a mawr AM DDIM. Mae gwasanaeth casglu ar gael ar gais hefyd, ar gyfer unrhyw un sydd angen help i ddod â’u gwastraff swmpus a mawr o’u cartref i’r sgip.

Y DIWRNODAU AMGYLCHEDDOL CYMUNEDOL ELENI

18

Diwrnod

Lleoliad

Dydd Mawrth 28 Tachwedd 2017

Gorlan Estate Conwy

Dydd Mawrth 12 Rhagfyr 2017

Abergele

Dydd Mercher 24 Ionawr 2018

Cae Mawr Llandudno

Dydd Mercher 21 Chwefror 2018

Betws yn Rhos

www.cartreficonwy.org

Cartrefi Autumn Newsletter 2017 Cym.indd 18

24/10/2017 16:06


LAWRLWYTHWCH

AP AILGYLCHU

CONWY AM DDIM

A OES GENNYCH CHI SYNIAD DA I GADW’CH CYMUNED YN DACLUS? Cofiwch, mae prosiect CIST GYMUNEDOL CARTREFI CONWY’n darparu hyd at £3000 i gefnogi prosiectau bach. Gall yr arian fynd tuag at: • Offer a deunyddiau i grwpiau cymunedol • Gwelliannau amgylcheddol bach • Cyfleoedd i ddysgu a chael hyfforddiant

Cewch nodyn atgoffa o’ch casgliad wythnosol fel na fyddwch yn anghofio eich diwrnod casglu na pha gynhwysyddion sy’n cael eu casglu. Derbyn rhybuddion os bydd eich casgliad wedi’i ohirio neu os bydd eich diwrnod casglu yn newid.

• Gweithgareddau a digwyddiadau grŵp cymunedol, a mwy... Ffoniwch Clare Phipps ar 01745 335656 neu 07887 553802, neu anfon e-bost at: clare.phipps@cartreficonwy.org i ofyn am ffurflen gais heddiw.

Gallwch ganfod pa eitemau y gallwch eu hailgylchu a’r rhai na allwch eu hailgylchu a pha gynhwysydd i’w ddefnyddio. Dewch o hyd i’ch banc ailgylchu neu ganolfan ailgylchu agosaf. Gallwch ofyn am fagiau gwastraff bwyd ychwanegol a llawer mwy! www.conwy.gov.uk/en/Resident/Recyclingand-Waste/The-Conwy-App.aspx

0300 124 0040 19 Cartrefi Autumn Newsletter 2017 Cym.indd 19

24/10/2017 16:06


CARU EICH CYMUNED Mae’n bwysig ceisio bod yn oddefgar gyda’ch cymdogion a chofio ein bod yn byw gwahanol fathau o fywydau. Byddwch yn rhesymol efo’ch cymdogion ac yn ystyriol ohonynt. Meddyliwch am: • Gadw sain eich teledu, radio neu gerddoriaeth yn isel, yn enwedig gyda’r nos. • Os ydych chi’n berchen ci a bod rhaid i chi ei adael ar ei ben ei hun, gwnewch yn siŵr ei fod yn cael digon o fwyd ac ymarfer corff. Gallai radio’n gwmni neu ymweliad gan ffrind dorri ar ddiwrnod unig. Ni fydd ci ond yn cyfarth yn gyson os yw’n anfodlon. • Rhowch beiriannau swnllyd fel peiriannau golchi dillad a golchi llestri oddi wrth waliau partisiwn neu eu rhoi ar garped neu fat rwber er mwyn iddynt grynu llai. • Hwfro ar adegau rhesymol – yn enwedig mewn fflat neu eiddo sy’n sownd wrth eiddo arall. Ceisiwch osgoi glanhau’n gynnar yn y bore neu’n hwyr yn y nos.

20

• Gofalwch wrth gau drysau, yn enwedig os ydych chi’n byw mewn fflat sy’n rhannu mynedfa. Os ydych chi’n cael parti, yn enwedig y tu allan neu gyda’r nos, dywedwch wrth eich cymdogion am y cynlluniau ymlaen llaw; gallwch hyd yn oed eu gwahodd! • Wrth wneud mân waith adeiladu ar neu yn eich cartref, gwnewch y tasgau mwyaf swnllyd yn ystod y dydd. Gwnewch y gwaith tawelach gyda’r nos, fel peintio ac addurno. • Wrth i blant chwarae, mae’n bwysig bod oedolyn yno i gadw golwg ar lefel y sŵn. • Gall arogleuon coginio cryf neu fwg sigaréts gario, yn enwedig os ydych yn byw mewn fflat. Defnyddiwch y ffan wyntyllu neu agorwch ffenest neu geisio ysmygu llai yn eich fflat. COFIWCH, CEISIWCH SIARAD Â’CH CYMDOGION AM BROBLEM YN GYNTAF GAN Y GALL HYN DDATRYS NIFER O BROBLEMAU’N SYDYN.

www.cartreficonwy.org

Cartrefi Autumn Newsletter 2017 Cym.indd 20

24/10/2017 16:06


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.