Gyda’n Gilydd Rhifyn Gwanwyn 2019

Page 1

Y CARTREFI CONW

D D Y L I G N ’ A D Y G YN 2019 W N A W G Y N Y RHIF

Diolch i chi am helpu i wneud lle rydych chi’n byw yn fwy diogel. Rydym wedi cyflwyno’r Rhybudd Camweddau i bob ardal. Mae’r hysbysiad hwn yn caniatáu i ni fel eich landlord symud eitemau rydych chi’n eu gadael mewn ardaloedd cymunedol. Yn ystod y cyfnod hwn gall perchnogion ddod i gasglu eu heitemau. Ar ôl 14 diwrnod gallwn gael gwared ar yr eitemau. Rydym yn ailgylchu, gwerthu neu’n eu rhoi yn y gwastraff cyffredinol. Pam mae angen y gyfraith Camweddau arnom?

Tudalen 8

n e w m u y t d e y f H

0! Cyfle i ennill £25

ud yn ein Dweud eich dwe d Td 7 harolwg boddha

Panel craffu yn adolygu’r ffordd yr ydym yn delio ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Td 2 ymholiadau@cartreficonwy.org • Gwasanaeth Cwsmer: 0300 124 0040 Mae pob galwad gyda Gwasanaethau Cwsmeriaid yn cael eu cofnodi Mae copïau sain o’r newyddlen hon ar gael


Panel craffu yn adolygu’r ffordd yr ydym yn delio ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Rhwng mis Ionawr a mis Hydref 2018 cyfarfu eich panel craffu tenantiaid naw gwaith i adolygu’r ffordd yr ydym yn delio ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol. Yn ystod y cyfnod hwn roedd y panel yn edrych am bethau roedden nhw’n meddwl eu bod yn gwneud yn dda a phethau roedden nhw’n meddwl y gallem ni fod yn eu gwneud ychydig yn well.

Treial Ap Sŵn Diolch i’r panel am eu hawgrymiadau sy’n gwella’r ffordd yr ydym yn ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Fel rhan o’r adolygiad o ymddygiad gwrthgymdeithasol, cymerodd Burnie, Is-gadeirydd y Panel Craffu ran mewn treial ar gyfer yr Ap Sŵn Newydd sydd bellach ar gael i denantiaid recordio a rhoi gwybod am niwsans sŵn.

Yn ystod y treial llwyddodd Burnie i roi cynnig ar holl nodweddion yr ap. Gwelodd Burnie hefyd sut roedd yr ap yn gweithio i staff ar ôl i recordiadau niwsans sŵn gael eu hanfon at Cartrefi Conwy.

Mae’r Ap Sŵn bellach ar gael i denantiaid ei ddefnyddio i recordio a rhoi gwybod am niwsans sŵn. Mae’r ap yn rhad ac am ddim, mae’n hawdd ei ddefnyddio ac mae’n caniatáu i denantiaid ddechrau recordio niwsans sŵn ar unwaith. Mae hefyd yn lleihau’r angen i osod offer monitro sŵn mewn eiddo tenant.

gwrthgymdeithasol. Bydd ein Tîm Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn monitro pob achos ac yn sicrhau bod y person iawn yn delio ag ef yn y ffordd gywir.

Rydym yn defnyddio meddalwedd newydd a fydd yn ei gwneud yn haws i gydweithwyr ddelio ag ymddygiad

Rydym wedi gwneud rhai newidiadau i rai cwestiynau a ofynnwn yn yr arolwg boddhad tenantiaid mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae hyn yn ei gwneud yn haws monitro boddhad tenantiaid a cheisio unioni pethau os nad yw tenantiaid yn fodlon.

Ymunwch â ni ar ein Teithiau Cerdded Dydd Mercher Drwy gydol y flwyddyn bydd tîm o Gartrefi Conwy yn ymweld â’ch ardal. Yn aml iawn bydd eich cynghorwyr lleol, eich gwasanaeth tân a swyddogion yr heddlu yn ymuno â ni. Rydym yn cymryd nodiadau ac yn siarad am unrhyw broblemau y byddwn yn eu gweld neu wedi clywed amdanynt ac yn cymryd camau i wneud unrhyw welliannau posibl. Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth am eich cymuned, felly ymunwch â ni ar y ffordd. Yn yr ychydig fisoedd nesaf byddwn yn: Mae ein calendr llawn o Ddyddiau Mercher Cerdded ar ein gwefan. Os na allwch chi ymuno â ni ond eisiau sgwrs gyda ni, cysylltwch â ni a gofynnwch am eich cydlynydd cymdogaeth. 2

24 Ebrill 2019 Maes Canol 29 Mai 2019 Cyffordd Llandudno 26 Mehefin 2019 Trefriw, Dolgarrog, Tal Y Bont a Rowen www.cartreficonwy.org


n henillwyr i’ u a d ia h c r fa y g Llon

! f a r a d d e w i d f e r t r a C u a Gwobr i ennill cannoedd o ch i fle cy oi rh yn f rau Cartre anaethau Cofiwch fod Gwob defnyddio ein gwas t, en rh ’ch lu da am ch ymlaen… bunnoedd bob mis siarad â ni. Darllenw a f re rt ca ch ei ar-lein, gofalu am

Gwobrau Cartrefi Rwy’n Cymryd Rhan Eleri Jones, enillydd y wobr Cymryd Rhan yn derbyn £100 arian parod gan Allison Hughes

Gwobrau Cartrefi Rwy’n Talu

Rwy’n falch raffl fawr i ennil £200 bob mis

Gwobrau Cartref Rwy’n Talu £200 o arian parod am dalu’ch rhent

Gwobrau Cartrefi Rwy’n Cysylltu

Rwy’n cysylltu raffl fawr i ennil £200 bob mis

Gwobrau Cartrefi Rwy’n Falch

Rwy’n falch raffl fawr i ennil £100 bob mis

Ar agor i’n holl denantiaid sydd wedi derbyn ymweliad Partner Cartref yn ystod y mis diwethaf ac sy’n gofalu am eu cartrefi a’u cadw’n lân a thaclus.

Neges gan denantiaid Ydych chi’n gwybod os ydych chi’n talu’ch rhent gan ddefnyddio cerdyn sweip y codir tâl ar Cartrefi Conwy am hyn? Gwnaethom ddarganfod hyn yn ystod digwyddiad ymgynghori â thenantiaid ym mis Chwefror yr aethom iddo ar y cynnydd rhent blynyddol. Gofynnwyd i ni rannu’r wybodaeth yma gyda chi yn ein newyddlen i denantiaid. Os ydych chi’n talu â cherdyn sweip meddyliwch am newid i Ddebyd Uniongyrchol neu dalu ar-lein. Cofiwch, os ydych chi’n talu ar-lein, byddwch hefyd yn cael eich rhoi yn awtomatig yn y raffl Gwobrau Cartref - Rwy’n Cysylltu, gyda chyfle i ennill £200.

0300 124 0040

3


Mae Creu Menter yn llawn cyfleoedd Os nad ydych wedi ymweld â’n canolfan tenantiaid yn Creu Menter, yna efallai ei bod hi’n bryd i chi wneud. Pam? Ers iddo agor flwyddyn yn ôl mae’r Academi Gyflogaeth •

Wedi cael dros 1,000 o ymwelwyr

Wedi helpu 60 o denantiaid i ddod o hyd i waith - hyd yn oed os ydych chi’n gweithio, dylech feddwl am ymweld?

Ffair Swyddi 1af Mai Ffair Swyddi - 18 o gyflogwyr lleol sy’n awyddus i recriwtio pobl leol. Eisiau gwybod mwy am bwy fydd yno? Cysylltwch â Richard drwy e-bost richard.chance@creatingenterprise.co.uk neu ffoniwch 07391 019 941 Yn yr Academi Gyflogaeth ym Mochdre Cyfleoedd Gwirfoddoli Dros 50 o gyfleoedd ar gael nawr o waith Gweinyddol, Gofalu, Paentio, Gwaith Tir Hyfforddiant yn y gwaith ar gael - CSCS (Construction Skills Certification Scheme), Cymorth Cyntaf, Ymwybyddiaeth Asbestos, TG, Gwasanaeth Cwsmer a mwy...

A yw gweithio yn talu i chi a’ch teulu?

Na, nid mewn gwirionedd, rhyw fath… Pam fod hyn? Costau gofal plant, contract dim oriau, angen sgiliau newydd… Beth bynnag yw’ch rheswm, buasem wrth ein bodd yn ei glywed. Pam? Mae gennym £500,000 o gyllid i weithio gyda chi a llunio grŵp a fydd yn gwneud i waith dalu i bawb? Os ydych chi’n deulu sy’n gweithio ym Mheulwys, Llandrillo-yn-Rhos, Mochdre neu Landudno ac yn darllen hwn gan feddwl beth yw hyn, yna cysylltwch â ni? Gallai hyn newid eich bywyd gwaith er gwell... meddyliwch pa mor anhygoel fyddai hynny’n teimlo? Siaradwch â Ffion am ymuno â’r grŵp e-bostiwch Ffion.lloyd@creatingenterprise. co.uk neu ffoniwch 07799519567

4

www.cartreficonwy.org


d o r a B n y h Byddwc h t e a g o l f y am G Os ydych chi’n ddi-waith a dros 25 oed mae gennym grwpiau sy’n dechrau ym mis Mai a mis Gorffennaf Ymunwch â’r grŵp bore Mawrth neu grŵp prynhawn Iau Gweithiwch tuag at eich nodau eich hun, magu hyder a chwrdd â phobl newydd. Rydym yn darparu cinio ac fe gewch docyn bws i chi fynd â chi yno. Diddordeb? Archebwch eich lle gyda Karen drwy e-bostio karen.williams@creatingenterprise.org.uk neu rhowch alwad iddi ar 07799519596

sydd wedi Llongyfarchiadau i Andrew D. Daeth dechrau gweithio gyda DP gynharach Andrew i’r Caffi Swyddi yn un i un gan eleni a cafodd gefnogaeth d. Da iawn Richard i chwilio am swyd n drosta ti! Andrew, rydym yn falch iaw gymorth i ddod Os ydych chi’n chwilio am i mewn i’n Caffi o hyd i swydd yna galwch s. Rydym ar Swyddi am baned a sgwr 3yp a dydd agor bob dydd Llun 1yp – Gwener 9yb – 12yp.

0300 124 0040

Gwirfoddolwr ➡️ i Gynorthwyydd Gweinyddol dan Hyfforddiant yn yr Academi Gyflogaeth ➡➡i Weinyddwr Cymorth Cyllid Rydym i gyd yn falch iawn o Joanne, sy’n dechrau ei rôl newydd yfory. Dyma oedd ganddi i’w ddweud am ei thaith yn Creu Menter. Os ydych chi’n cael eich ysbrydoli - anfonwch neges atom a gallwn eich helpu chi hefyd! ‘Nid oeddwn wedi bod yn gweithio ers dros 10 mlynedd pan ddechreuais wirfoddoli gyda Creating Enterprise. Dwi wedi dod yn berson newydd, mae fy hyder wedi tyfu’n aruthrol. Rwyf wedi ennill sgiliau a chymwysterau newydd. Roeddwn yn llwyddiannus gyda chontract â thâl 18 mis yn ennill Diploma mewn Busnes a Gweinyddu ac erbyn hyn rwyf wedi bod yn llwyddiannus eto mewn swydd arall yn yr adran Gyllid. Byddaf yn ennill sgiliau a phrofiadau newydd. Rydw i yn argymell gwirfoddoli i ennill sgiliau gwaith, a bydd swyddi gwag yn dod. Mae’r gefnogaeth barhaus wedi bod yn aruthrol yn enwedig gan Sioned, Jean a’r tîm. Mae wedi fy ngwneud yn berson gwell. Diolch’

5


Beth sy’n digwydd lle rydw i’n byw? Mae gennym llawer o grwpiau yn cynnal gweithgareddau cymdeithasol. Mae llawer yn digwydd felly daliwch i fyny gyda’r wybodaeth ddiweddaraf ar-lein neu gofynnwch i’r cydweithwyr yr ydych yn siarad â nhw a pheidiwch â methu allan. Mae Ffrindiau Cerrig wedi ymrwymo i fod yn Ffrindiau Dementia yn dysgu ei bod yn bosibl ‘by w’n dda gyda Dementia’ gyda chefnogaeth eu cymuned

st, sy’n cyfarfod Mens Shed Llanrw bob dydd Iau o am goffi a sgwrs a Gwydyr 10yb yng Ngolygf

Gwnewch y gorau o ble rydych chi’n byw Cofiwch ymweld â gwefan eich cyngor lleol a gwneud y gorau o fyw yn y sir a’i chymdogion. www.conwy.gov.uk

Am ein holl wybodaeth ddiweddaraf, newyddion, cystadlaethau a chyfleoedd, ewch i’n gwefan

Rydym yn aml yn anghofio mwynhau’r hyn mae twristiaid yn ei wneud pan fyddant yn ymweld â Gogledd Cymru. www.gonorthwales.co.uk

www.cartreficonwy.org a’n dilyn ân Facebook.com/ officialcartreficonwy

Mae straen yn rhan o fywyd Po gyflymaf yr ydym yn derbyn hyn ac yn cynllunio i ddelio ag o fel rhan o’n trefn ddyddiol, yr hawsaf yw delio â’r heriau mae bywyd yn eu taflu atom. Ond nid yw gwneud hyn yn hawdd, yn enwedig pan fyddwch dan straen mawr ac yn teimlo’n gyfan gwbl ar eich pen eich hun. Dyna pam ein bod yn cynnal gweithgareddau am ddim i’ch helpu i i’ch atal rhag teimlo o dan straen. Nid yw’n hawdd cymryd y camau cyntaf i dorri’r ffordd rydych chi’n delio â straen… Meddyliwch am roi cynnig arni a byddwch yn 6

teimlo’n well a gallwch barhau i deimlo’n well gam wrth gam, o ddydd i ddydd. Peidiwch â thorri’ch hun i ffwrdd, cofiwch ein bod yn dal i fyw mewn byd lle mae pobl dda yn cynnig help i ni pan nad ydym yn teimlo gystal. Ewch allan a chymerwch y cymorth hwnnw a dywedwch wrth bobl rydych chi’n eu hadnabod i wneud yr un peth.

Cawsom amser gwych ar ein taith gerdded ddiweddaraf i denantiaid. Diolch yn fawr i’r Bartneriaeth Awyr Agored am roi’r dillad ac esgidiau glaw er mwyn i ni wisgo’n gywir ar gyfer y dydd.

Symudiad Ystyriol a Sesiynau Ymlacio Canolfan Gymunedol y Drindod (Trinity Avenue) bob dydd Iau 10:30 yb o 23ain o Fai Cysylltwch â Lydia Watson ar 07733012521 / 0300 124 0040 E-bost: lydia.watson@cartreficonwy.org

www.cartreficonwy.org


Y Brecwast Prydeinig Mawr ym Maes Cwstenin, Cyffordd Llandudno Mae tenantiaid ym Maes Cwstenin wedi bod yn coginio brecwast bendigedig i ddenu cymdogion allan o’u fflatiau a mwynhau cwmni gwych. Daeth y syniad i’r fei ar ôl i fyfyrwyr coleg Llandrillo dreulio tymor yn gweithio ar eu sgiliau coginio yn y clwb brecinio wythnosol yn y lolfa ym Maes Cwstenin.

Mae ganddynt griw rheolaidd a dywed Piet ‘mae mor dda gweld pobl yn mwynhau pryd gwych ac yn cael sgwrs a chwerthin gyda’u cymdogion’. Mae hyd yn oed yn darparu pryd brecwast ar glud i’r rhai na allant gyrraedd y lolfa. Mae Gwyneth yn mwynhau paratoi’r bwyd a gweini ar fyrddau, mae’n dweud ei bod yn ei chadw’n brysur ac yn rhoi ymdeimlad o bwrpas iddi.

Mae Pat Hughes yn mynychu’n rheolaidd ac yn dweud ei bod mor braf cael brecwast gwych mewn cwmni da. Pan rydych ar eich pen eich hun, does gennych ddim amynedd coginio i chi’ch Roedd y tenantiaid wedi mwynhau’r clwb brecinio gymaint, hun, felly mae hyn yn wych. Rwy’n dod i lawr tua 11yb ac mae’r ar ôl i’r myfyrwyr adael, aeth Piet Botes a Gwyneth Newall ati i brecwast yn fy nghadw’n llawn wisgo eu ffedogau a pharhau â’r nes byddaf yn cael fy swper cymdeithasu hwn. Bob bore dydd gyda’r nos. Llun maent yn coginio brecwast Dywed Diane Wright, un arall sy’n Saesnig llawn gan gynnwys mynychu’n rheolaidd bod y bwyd paned ddiddiwedd o de neu goffi. yn wych ac mae mor braf gweld pobl yn dod allan o’u fflat ac yn mwynhau tipyn o gwmni’.

Y cogyddion Piet a Gwyneth

Pat Hughes

Rydym yn cefnogi gwasanaeth tân ar ymgyrch achub bywyd Lansiodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ymgyrch fawr yn annog pobl sy’n byw yn Llandudno i adrodd am beryglon tân posibl fel celcio. Rydym wedi ymuno â nhw i helpu i gyfleu’r neges i denantiaid am leihau’r risg o beryglon tân yn eu cartrefi. Mae’r ymgyrch ‘Dywedwch wrthym cyn ei bod hi’n rhy hwyr’ yn gofyn i drigolion gysylltu os ydynt yn amau risgiau tân posibl yn eu cymdogaethau, gan gynnwys celcio a phobl yn ysmygu yn y gwely. 0300 124 0040

Mae ein prentisiaid yn cefnogi’r ymgyrch ac ymweld ag ystafell reoli’r Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn Llanelwy

Mae Lyn, Olwen a Rose o Cysgod y Gogarth yn cefnogi’r ymgyrch

7


Diolch i chi am helpu i wneud lle rydych chi’n byw yn fwy diogel Pam mae angen y gyfraith Camweddau arnom? Rydym yn defnyddio gweithwyr diogelwch proffesiynol i gynnal Asesiadau Risg Tân yn ein hadeiladau. Dywedont wrthym nad oedd llawer o’n hadeiladau’n ddiogel. Y rheswm oedd ein bod yn caniatáu i denantiaid adael pethau personol y tu allan i’w drysau ffrynt ac mewn ardaloedd y maent yn eu rhannu â thenantiaid eraill. Gall yr eitemau hyn nid yn

unig fod yn berygl tân ond mewn argyfwng maent yn cyfyngu ar lwybrau ymadael a mynediad ac yn achosi i bobl lithro, baglu neu syrthio, gan roi bywyd mewn perygl. Felly diolch i bawb am ddeall pam na allwn ganiatáu i chi adael eich pethau personol y tu allan i’ch drws ffrynt ac mewn ardaloedd rydych chi’n eu rhannu gyda thenantiaid eraill.

Rydych chi’n gwneud lle rydych chi’n byw yn fwy diogel.

Cartref Newydd Chi Newydd Rhenti Canolradd a Rhentu i Brynu Os ydych chi’n gweithio ac yn byw yn un o’n cartrefi ac yn ennill rhwng £16,000 a £44,000, ydych chi wedi meddwl am fod yn berchen ar eich cartref eich hun. Mae gennym gartrefi ar gael sydd bellach yn costio 20% yn llai na rhent y sector preifat gan roi cyfle i chi gynilo ar gyfer blaendal ar gyfer cartref newydd. Hefyd ar gael nawr cartrefi Rhentu i Berchnogi ym Mron y Castell, Abergele a Pharc Aberkinsy, Y Rhyl. Gallwch Rentu i Berchnogi os ydych chi’n gweithio neu’n hunangyflogedig a bod gennych incwm tŷŷo dan £60,000. Ond ni allwch rentu i berchnogi os ydych chi’n derbyn Budd-dal Tai neu os ydych yn berchennog ar gartref yn barod. Am fwy o wybodaeth ar ein Cartrefi Rhentu I Berchnogi, gysylltwch â HAWS ar www.haws.og.uk neu ffoniwch 01745 335690 I gael gwybod a ydych chi’n gymwys i wneud cais, ewch i Rentu i Berchnogi Cymru https://llyw.cymru/rhentu-i-berchnogi-cymru

Sut ydych chi’n sgorio’r hyn a wna wn?

Rhowch wybod i ni yn ein harolwg boddhad blynyddol. Cadwch lyg ad am yr arolwg ym mis Mai. Byddwn yn anfon yr arolwg atoch ond gallwc h ei lenwi ar-lein hefyd. Mae’r hyn a ddywedwch wrthy m yn bwysig gan ei fod yn ein hel pu i wella ein gwasanaethau. Byddwn yn rhoi enw pawb sy’n llenwi’r aro lwg mewn raffl i ennill £250. Gyrrwch eich arolygau wedi ei gw blhau 8

erbyn

Mai 31ain 2019

www.cartreficonwy.org


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.