5 minute read

I’r bin – peidiwch â’i daflu ar y llawr

I’r bin – peidiwch â’i daflu

Mae gennym gyfrifoldeb i gadw ble rydym yn byw yn lân ac yn daclus drwy beidio dipio yn anghyfreithlon a chael gwared â’n sbwriel ac eitemau ailgylchu yn y ffordd gywir. Rydym yn gweithio gyda’r cyngor i wneud yn siŵr bod gan ein storfeydd biniau ddigon o finiau ar gyfer sbwriel cyffredinol a’r holl ailgylchu. Os nad oes yna ddigon, byddwn yn gofyn i fwy gael eu hychwanegu.

Advertisement

Ei Wneud yn Iawn

Mae ein gofalwyr yn barhaus yn gorfod glanhau ein hardaloedd biniau gan eu bod yn cael eu gadael mewn cyflwr budr. Os ydych chi’n cael trafferth rheoli’ch gwastraff a’ch ailgylchu, rhowch wybod i ni. A diolch yn fawr iawn i bawb sy’n cael gwared ar eu sbwriel yn gywir.

Siarad gyda ni

Tipio Anghyfreithlon – os ydych yn ei weld – rhowch wybod amdano!

Rydym hefyd yn gwybod bod yna faterion gyda phobl yn tipio’n anghyfreithlon mewn ardaloedd yn ein cymunedau. Os byddwch yn gweld hyn yn digwydd, rhowch wybod i ni neu i Gyngor Conwy ar 01492 574000 – ceisiwch roi cymaint o fanylion â phosibl fel y gallwn atal hyn rhag digwydd gyda’n gilydd. Carwch ble rydych yn byw a gwnewch Gwanwyn 2021 yr amser i newid arferion ailgylchu gwael yn arferion da. Diolch i denantiaid ym Maes Glas am gymryd rhan mewn arolwg sy’n ein helpu i ddod o hyd i atebion i ddatrys problemau gyda gwastraff ac ailgylchu. Byddwn hefyd yn cyflwyno’r arolwg hwn mewn meysydd eraill yn ystod y misoedd nesaf.

Ymateb i atgyweiriadau yn ystod Covid

Fel y gwyddoch, nid ydym wedi gallu cyflawni rhywfaint o’n gwasanaeth atgyweirio oherwydd y risgiau o fynd i mewn i gartrefi pobl. Ond rydym yn falch iawn o roi gwybod ichi ein bod bellach yn gallu gwneud atgyweiriadau nad ydynt yn rhai brys yn eich cartref. Byddwn yn dilyn canllawiau iechyd a diogelwch llym iawn i’ch cadw chi a’n cydweithwyr yn ddiogel. Efallai y byddwn yn cymryd ychydig mwy o amser i gyrraedd chi gan fod gennym ôl-log o atgyweiriadau i fynd drwyddynt. Diolch gymaint am fod yn amyneddgar gyda ni.

Diolch am fod yn amyneddgar!

Datblygiadau Newydd

Mae gennym uchelgeisiau mawreddog i adeiladu 1000 o gartrefi newydd dros y 10 mlynedd nesaf. Dyma flas yn unig o’r hyn rydyn ni wedi bod yn ei wneud.

Ysgol Cwrt Maelgwn

Dyma un o’n datblygiadau mwyaf uchelgeisiol hyd yn hyn. Rydym wedi trawsnewid hen adeilad ysgol Maelgwn yng Nghyffordd Llandudno yn llwyr. Mae ystafelloedd dosbarth y prif adeilad wedi’u trosi’n 10 fflat byw’n annibynnol ar gyfer pobl ag anableddau dysgu a chorfforol ac rydym hefyd wedi defnyddio’r gofod chwarae i adeiladu cartrefi cymdeithasol newydd. Rydyn ni’n meddwl ei fod yn edrych yn wych!

Stryd Gloddaeth, Llandudno

Mae’r datblygiad hwn yn darparu 16 fflatiau newydd rhent canolraddol yng nghalon Llandudno. Rydym hefyd yn adeiladu cartrefi newydd yn Rhyl, Llanddulas a Llanrwst.

Ewch i’r tudalennau datblygu ar ein gwefan i weld ein holl ddatblygiadau diweddaraf, ewch ar daith 360 y tu mewn i rai o’r cartrefi a darllen sut mae adeiladu cartrefi newydd yn arwain at gyflogaeth lwyddiannus i lawer o denantiaid.

Beth yw…

Tai cymdeithasol?

Darperir Tai Cymdeithasol gan Gynghorau Lleol a Chymdeithasau Tai, ar gyfraddau sy’n fforddiadwy i’r rhai hynny ar incymau isel. Mae galw mawr am dai cymdeithasol a dim ond os ydych chi ‘mewn angen ty’ y cewch eich derbyn ar y gofrestr tai cymdeithasol.

Sut i wneud cais am dai cymdeithasol

Gallwch wneud cais am dai cymdeithasol drwy gysylltu â’r tîm Dod o hyd i gartref ar 0300 124 0050. Mae ein tîm Dod o hyd i gartref yn brysur iawn ar hyn o bryd ac yn derbyn cannoedd o alwadau bob dydd felly efallai y bydd yn cymryd ychydig o amser i ateb felly byddwch yn amyneddgar. Maent yn defnyddio proses o’r enw SARTH (Llwybr Mynediad Sengl i Dai) sy’n golygu mai dim ond un cais y mae’n rhaid i chi ei wneud i fynd ar y Gofrestr Dai ar gyfer pob cymdeithas dai ledled sir Conwy.

Rhent Canolradd

Mae tai rhent canolradd yn ddull mwy fforddiadwy o rentu cartref (fel arfer tua 20% yn llai na rhent sector preifat) ac yn anelu at weithwyr allweddol gydag incwm blynyddol rhwng £16,000 - £44,000. Mae’r cynllun hwn yn rhoi cyfle i chi gynilo am flaendal os ydych yn meddwl am brynu eich cartref eich hun yn y dyfodol.

Dod yn fuan

Rhentu i Brynu

Mae’r cynllun hwn yn caniatáu ichi gynilo 20% o’r rhent rydych chi’n ei dalu er mwyn i chi brynu’r cartref hwnnw yn nes ymlaen. Mae’n ffordd wych o fynd ar yr ysgol eiddo. Rhaid i chi fod yn gweithio i wneud cais am y cynllun hwn.

Sut i ymgeisio am Gynlluniau Tai Rhent Canolradd a Rhentu i Brynu

Gallwch ddarganfod mwy a chofrestru ar gyfer cartrefi Canolradd a Rhentu i Brynu trwy ymweld â www.taiteg.org.uk

Mae’n wych bod pethau yn ailagor

Rydym yn gweithio tuag at agor ein canolfannau cymunedol a’n lolfeydd tenantiaid eto yn fuan. Rydyn ni’n sicrhau ein bod ni’n dilyn Canllawiau’r Llywodraeth ac yn dechrau paratoi ein hadeiladau i groesawu tenantiaid yn ôl i ddigwyddiadau. Byddwn yn rhannu mwy o wybodaeth yn fuan. Byddwn yn dal i gynnal gweithgareddau ar-lein hefyd fel sesiynau Delio gyda Straen gan Lydia ar Zoom, gallwch ymuno â Lydia ar gyfer sesiynau byw ar ddydd Mawrth a dydd Iau am 10.30yb.

Cadwch lygad ar ein tudalen Facebook Cynnwys Cymunedol i gael mwy o wybodaeth am weithgareddau yn eich ardal chi. www.facebook.com/getinvolvedatcartrefi. Ddim ar-lein? Cysylltu â ni i wybod beth sy’n digwydd 0300 124 0040.

This article is from: