Gyda'n GIlydd Rhifyn Gwanwyn

Page 7

I’r bin – peidiwch â’i daflu Mae gennym gyfrifoldeb i gadw ble rydym yn byw yn lân ac yn daclus drwy beidio dipio yn anghyfreithlon a chael gwared â’n sbwriel ac eitemau ailgylchu yn y ffordd gywir. Rydym yn gweithio gyda’r cyngor i wneud yn siŵr bod gan ein storfeydd biniau ddigon o finiau ar gyfer sbwriel cyffredinol a’r holl ailgylchu. Os nad oes yna ddigon, byddwn yn gofyn i fwy gael eu hychwanegu.

Ei Wneud yn Iawn

Siarad gyda ni

Mae ein gofalwyr yn barhaus yn gorfod glanhau ein hardaloedd biniau gan eu bod yn cael eu gadael mewn cyflwr budr. Os ydych chi’n cael trafferth rheoli’ch gwastraff a’ch ailgylchu, rhowch wybod i ni. A diolch yn fawr iawn i bawb sy’n cael gwared ar eu sbwriel yn gywir.

Tipio Anghyfreithlon – os ydych yn ei weld – rhowch wybod amdano! Rydym hefyd yn gwybod bod yna faterion gyda phobl yn tipio’n anghyfreithlon mewn ardaloedd yn ein cymunedau. Os byddwch yn gweld hyn yn digwydd, rhowch wybod i ni neu i Gyngor Conwy ar 01492 574000 – ceisiwch roi cymaint o fanylion â phosibl fel y gallwn atal hyn rhag digwydd gyda’n gilydd. Carwch ble rydych yn byw a gwnewch Gwanwyn 2021 yr amser i newid arferion ailgylchu gwael yn arferion da. Diolch i denantiaid ym Maes Glas am gymryd rhan mewn arolwg sy’n ein helpu i ddod o hyd i atebion i ddatrys problemau gyda gwastraff ac ailgylchu. Byddwn hefyd yn cyflwyno’r arolwg hwn mewn meysydd eraill yn ystod y misoedd nesaf.

Ymateb i atgyweiriadau yn ystod Covid Fel y gwyddoch, nid ydym wedi gallu cyflawni rhywfaint o’n gwasanaeth atgyweirio oherwydd y risgiau o fynd i mewn i gartrefi pobl. Ond rydym yn falch iawn o roi gwybod ichi ein bod bellach yn gallu gwneud atgyweiriadau nad ydynt yn rhai brys yn eich cartref. 0300 124 0040

Byddwn yn dilyn canllawiau iechyd a diogelwch llym iawn i’ch cadw chi a’n cydweithwyr yn ddiogel.

od Diolch am f r! ga yn amynedd

Efallai y byddwn yn cymryd ychydig mwy o amser i gyrraedd chi gan fod gennym ôl-log o atgyweiriadau i fynd drwyddynt. Diolch gymaint am fod yn amyneddgar gyda ni. 7


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.