Gyda'n Gilydd Rhifyn Hâf 2020

Page 1

D D Y L I G N ’ A D GY Y CARTREFI CONW 20 RHIFYN HAF 20

T. 6 l a m r o n i d Dychwely

ch y o’r hyn rydy w m d u e n w g dau’r ynhau rth i gyfyngia bod chi’n mw w h u ic ia e d n io h ri it ff e a b Go teulu neud gyda’ch w i e i ff o h i’n ch io’n raddol. We wanted to update you cyfnod clo lac

Your Repairs Service Explained Lock-down Phase

Recovery phase 1

Emergency repairs Fuel Servicing

Emergency repairs Fuel Servicing

Emergency repairs Fuel Servicing

Essential repairs to keep you safe

Essential repairs to keep you safe

Work on our empty homes Non-essential repairs that are safe to carry out (take less than 1 hour and can be done by 1 person)

Work on our empty homes Non-essential repairs that are safe to carry out (take less than 2 hours and can be done by 1 person)

Planned Improvement programme work (except kitchens and bathrooms) Aids and adaptations Groundworks

All Planned Improvement programme work Aids and adaptations Groundworks

Essential repairs to keep you safe Work on our empty homes

. .. n w e m y t y d y Hef Bysedd Gwyrdd Rhodfa Caer T.2

we can and can’t do and h manage the backlog of rep coming months.

Cam-drin domestig T.5 No non-essential repairs

Recovery phase 2

Rydym ni yn gwneud atgyweiriadau yn flaenoriaeth inni T.7

Long wait times expected for Wait times should improve over non-essential repairs as demand time. Once you log a repair we will Mae pob galwad gyda Gwasanaethau Cwsmeriaid ynincreases cael eu cofnodi • Mae copïau sain o’r tell newyddlen hon gael a visit and prioritise backlog you when to ar expect ymholiadau@cartreficonwy.org • Gwasanaeth Cwsmer: 0300 124 0040


Bysedd Gwyrdd Rhodfa Caer

Bysedd Gwyrdd Rhodfa Caer

Ni fu’n rhaid i grŵp bysedd gwyrdd Rhodfa Caer newid eu cynlluniau oherwydd Covid-19. Roedd y grŵp eisoes wedi prynu deunyddiau cyn y cyfnod clo i greu hysbysfwrdd cymunedol newydd yn eu perllan. Felly treuliodd eu Cadeirydd, Stan Barrows wythnosau cyntaf y cyfnod clo yn bwrw ymlaen â’r gwaith. Bu Stan hefyd yn brysur yn torri’r gwair ac yn gofalu am y coed ffrwythau.

Gwastraff ac Ailgylchu Rydym ni’n gwybod ei bod hi wedi bod yn anodd cadw trefn ar wastraff ac ailgylchu gan fod ein canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref wedi bod ar gau. Ond maent bellach wedi ailagor, felly dechreuwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn sydd gan fwyaf yn wasanaeth am ddim.

Oes gennych chi eitemau swmpus i gael gwared â nhw? Oeddech chi’n gwybod bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cynnig un casgliad gwastraff swmpus am ddim y flwyddyn i holl aelwydydd Conwy. Fe allant gasglu pum eitem ychwanegol ar yr un pryd am £5.00 yr eitem. I hawlio eich casgliad am ddim, ffoniwch eu tîm Cyngor i Gwsmeriaid ar 01492 575337. Mae’r costau’n debyg os ydych chi’n byw yn Sir Ddinbych gyda phum eitem yn costio £23 neu £27 yng Ngwynedd.

2

Fe wyddom fod nifer o denantiaid eisoes yn defnyddio’r ganolfan ailgylchu gwastraff y cartref a chasgliadau eitemau swmpus, ond mae’r neges hon i denantiaid nad ydynt yn eu defnyddio ac sy’n tipio anghyfreithlon yn rheolaidd ble rydych chi’n byw. Rhowch gorau iddi – mae’n beth amhleserus i bawb pan fyddwch chi’n tipio’n anghyfreithlon. Ewch draw neu cysylltwch â’ch awdurdod lleol i gael rhagor o wybodaeth ac i gael gwared ar eich eitemau heddiw. Mae gan bawb ohonom ddyletswydd gofal i sicrhau ein bod yn cael gwared ar ein gwastraff yn gyfreithiol ac atal dirwyon neu hyd yn oed erlyniad. www.flytippingactionwales.org/cy

Ailgylchu, ailddefnyddio a rhoi lle y bo’n bosibl. Os ydi eich eitemau mewn cyflwr da, ystyriwch eu rhoi i deulu, ffrindiau, cymdogion neu elusen lleol neu grŵp cymunedol.


Rydym ni dal yma i chi. Lydia

Laura

Megan

Emma

Nerys

Mae’n wych bod cymaint ohonoch wedi bod mewn cysylltiad â’n tîm Ymgysylltu â’r Gymuned i’ch helpu: • • • •

i fynd ar-lein i gysylltu â theulu a ffrindiau i ddelio â straen a gorbryder os ydych chi’n teimlo’n unig i wneud cynlluniau ar gyfer ble rydych chi’n byw a dod o hyd i gyllid ar gyfer eich grŵp cymunedol

Fe ddywedodd cydweithwyr yn ein tîm lles ei bod hi’n werth chweil siarad a chefnogi tenantiaid yn ystod y cyfnod yma. Mae’n wych fod tenantiaid sydd yn gwirfoddoli gyda Creu Menter bellach yn helpu’r tîm drwy wneud galwadau ffôn rheolaidd ac yn siopa a chasglu presgripsiynau i denantiaid sydd methu mynd allan.

Maent wedi gwneud 1006 o alwadau ffôn rhwng mis Ebrill a mis Mehefin, ac maent yn parhau i roi galwadau cymorth i dros 100 o denantiaid Dywedodd 80 o bobl wrthym eu dioddef gyda rhywbeth oedd yn effeithio ar eu hiechyd a’u lles

Rhoddodd 49 o bobl wybodaeth ddiweddaraf i ni am eu haelwyd er mwyn i ni allu cywiro ein cofnodion

Dywedodd 21 o bobl nad oedd ganddynt bopeth oedd ei angen arnynt

Gwnaed 9 atgyfeiriad i asiantaethau allanol am gymorth

Os ydych chi’n poeni sut rydych chi’n mynd i ymdopi’n ariannol, rydym ni yma i helpu! Rhowch ganiad i ni ar 0300 124 0040 (gofynnwch am y tîm cymorth ariannol) neu anfonwch neges atom ar Facebook. 0300 124 0040

3


Bingo’r Cyfnod Clo Roedd hi’n amser llygaid i lawr yn garden gate ar gyfer Bingo newydd Tîm Ymgysylltu â’r Gymuned dros y cyfnod clo. Nerys Veldhuizen oedd yn galw’r rhifau gyda Megan Eldon yn ei helpu yn ystod sesiynau gwirion ar draws y sir. Dywedodd tenantiaid wrthym eu bod wrth eu bodd â’r syniad hurt ac rydym ni wrth ein bodau gyda’r lluniau ohonoch chi a’r tîm yn chwarae bingo o bell. Yn sesiwn Llanddulas, roedd Lee a Fran Williams a’u tri o blant wrth eu boddau’n ennill bag o fferins Haribo. Dywedodd Lee: “Rydym ni wedi byw yma ers 2013, ac mi allai i ddweud fod y cyfnod clo wedi dod â’r stryd yn agosach at ei gilydd. Mae wedi bod yn amser hir, yn rhy hir, ond mae wedi helpu cymdogion i wneud ffrindiau.

Manteisiwch ar fod yn denant gyda Cartrefi Conwy Cysylltwch â’r Tîm i gael sgwrs ynglyn â’r hyn y gallant ei wneud i chi a beth y gallwch chi gymryd rhan ynddo – efallai y cewch chi sioc eu bod yn cynnal sesiynau Pilates, Symudiadau ystyriol, Myfyrdod, Byrddau Gweledigaeth, Bingo, sesiynau Coffi a Sgwrs a llawer mwy... . Ffoniwch 0300 124 0040 neu e-bostiwch get.involved@cartreficonwy.org a dilynwch nhw ar Facebook 4

www.cartreficonwy.org


Ni ddylai bod adref olygu bod mewn risg. Os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod yn dioddef #CamdrinDomestig, nid yw rheolau ynysu yn berthnasol. Mae ymateb yr heddlu a gwasanaethau cynnal yn dal i fod ar gael.

Cam-drin domestig

Dysgwch fwy yn gov.uk/domestic-abuse neu ffoniwch 999 os ydych chi mewn perygl uniongyrchol.

#YouAreNotAlone

Mynnwch help ar gyfer #CamdrinDomestig. Ffoniwch 999 os ydych chi mewn perygl uniongyrchol. Os na allwch chi siarad a’ch bod yn ffonio o ffôn symudol, gwrandewch ar y gweithredwr a phan y byddant yn eich annog, deialwch 55 er mwyn cysylltu â’r heddlu a fydd yn eich helpu. Gallwch gael cefnogaeth yn

www.gov.uk/domestic-abuse

Arhoswch yn ddiogel adref

Neges gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

Mae byrgleriaeth yn beth brawychus ac yn ddiweddar mae ychydig o denantiaid wedi dweud fod hyn wedi digwydd iddyn nhw. Mae yna lawer o bethau y gallwch chi eu gwneud i atal lladron rhag targedu eich cartref. Mae gan Heddlu Gogledd Cymru ymgyrch gwych o’r enw Mae Mor Hawdd gan roi cyngor i chi am ddiogelwch eich cartref, sied, carafán, car, fan neu feic. Treuliwch amser yn dysgu ac yn adolygu eich diogelwch eich hun, gallai olygu nad ydych yn dod yn ddioddefwr trosedd.

Rydym wedi gweld cynnydd mewn tanau cegin – byddwch yn wyliadwrus wrth goginio. Cynlluniwch ymlaen llaw ac osgowch goginio tra’n yfed alcohol. Rydym ni hefyd wedi gweld cynnydd mewn pobl yn rhoi eu hunain a phobl eraill mewn risg drwy losgi sbwriel. Dyma gyngor sylfaenol i aros yn ddiogel yn eich cartref a’n helpu i amddiffyn ein cymunedau. • Profwch eich larwm tân – edrychwch ar ôl eich larwm tân er mwyn iddo edrych ar eich hôl chi • Mae nifer o danau’n dechrau yn y gegin – dim ond un peth sydd ei angen i gymryd eich sylw • Mae ysmygu yn achos cyffredin o danau – felly diffoddwch sigarennau’n iawn • Gyda thŷ llawn, sicrhewch nad yw’r socedi’n cael eu gorlwytho • Diffoddwch bopeth cyn i chi fynd i’r gwely – mae nifer o danau yn dechrau yn y nos.

Ewch i www.north-wales. police.uk/ a chliciwch ar ymgyrchoedd.

• Mae ffermwyr a pherchnogion tir yn cael eu hannog i osgoi llosgi ar eu tir - os oes wir raid i chi, rhowch wybod i’n hystafell reoli ar 01931 522 006.

Ffoniwch 101 i adrodd unrhyw ddigwyddiadau nad ydynt yn rhai brys neu 999 mewn argyfwng.

I gael rhagor o gyngor, dilynwch ni ar Facebook a Twitter Ffoniwch 999 mewn argyfwng 5


Dychwelyd i normal

Gobeithio eich bod chi’n mwynhau gwneud mwy o’r hyn rydych chi’n hoffi ei wneud gyda’ch teulu a ffrindiau wrth i gyfyngiadau’r cyfnod clo lacio’n raddol. Rydym wrth ein boddau yn clywed beth rydych chi wedi bod yn ei wneud yn ystod y cyfnod clo a’r ysbryd cymunedol sy’n bodoli mewn sawl ardal. Rydym hefyd yn dweud diolch enfawr am weithio gyda ni dros y misoedd diwethaf gyda’r newidiadau i’n gwasanaethau. Mae’n wych ein bod yn mynd o gwmpas eto ac yn dychwelyd i wasanaethau mwy arferol. Rydym ni yn gwneud atgyweiriadau yn flaenoriaeth inni.

6

Mae ein Tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid yn gweithio gartref ond yn dal i fod yma i’ch helpu chi gydag atgyweiriadau. Rhowch alwad iddyn nhw ar 0300 124 0040, disgrifiwch eich atgyweiriad a byddant yn rhoi gwybod ichi sut y byddwn ei drin i chi. Os na allwn roi apwyntiad i chi yn syth byddwn yn mewngofnodi’r manylion ac yn ffonio chi yn ôl pan fyddwn ni’n gallu rhoi ddyddiad i chi.

www.cartreficonwy.org


Eich Gwasanaeth Atgyweiriadau wedi ei esbonio

Cyfnod y Lock-down Atgyweiriadau brys Gwasanaethu tanwydd Atgyweiriadau hanfodol i’ch cadw’n ddiogel Gweithio ar ein cartrefi gwag

Dim atgyweiriadau nad ydynt yn hanfodol

Cyfnod adferiad 1 Atgyweiriadau brys Gwasanaethu tanwydd Atgyweiriadau hanfodol i’ch cadw’n ddiogel Gweithio ar ein cartrefi gwag Atgyweiriadau nad ydynt yn hanfodol sy’n ddiogel i’w gwneud (cymeryd llai nag 1 awr a gall 1 person eu gwneud) Gwaith rhaglen gwelliant wedi’i gynllunio (ac eithrio ceginau ac ystafelloedd ymolchi) Cymhorthion ac addasiadau Gwaith daear

Disgwylir amseroedd aros hir am atgyweiriadau nad ydynt yn hanfodol wrth i’r galw gynyddu a blaenoriaethu ôl-groniad

Hoffwn ddweud wrthych am yr wybodaeth diweddaraf am yr atgyweiriadau y gallwn ac ni allwn eu gwneud a sut rydym yn bwriadu rheoli’r ôl-groniad o atgyweiriadau dros y misoedd nesaf.

Cyfnod adferiad 2 Atgyweiriadau brys Gwasanaethu tanwydd Atgyweiriadau hanfodol i’ch cadw’n ddiogel Gweithio ar ein cartrefi gwag Atgyweiriadau nad ydynt yn hanfodol sy’n ddiogel i’w gwneud (cymeryd llai nag 2 awr a gall 2 person eu gwneud) Holl waith rhaglen Gwella wedi’i gynllunio Cymhorthion ac addasiadau Gwaith daear

Dylai amseroedd aros wella dros amser. Ar ôl i chi fewngofnodi atgyweiriad byddwn yn dweud wrthych pryd i ddisgwyl ymweliad

Cyfnod adferiad 3 Atgyweiriadau brys Gwasanaethu tanwydd Atgyweiriadau hanfodol i’ch cadw’n ddiogel Gweithio ar ein cartrefi gwag Atgyweiriadau nad ydynt yn hanfodol sy’n ddiogel i’w gwneud (cymerwch hyd at ddiwrnod gyda sawl crefft) Holl waith rhaglen Gwella wedi’i gynllunio Cymhorthion ac addasiadau Gwaith daear

Mae’r llinell amser hon yn ddibynnol ar arweiniad Llywodraeth Cymru a gall newid os bydd y pandemig COVID-19 yn mynd i mewn i ail don. Byddwn yn eich diweddaru os a phan fydd unrhyw beth yn newid.

Nol i’r arfer

Ein blaenoriaeth yw’r gwaith atgyweirio ac mae ein timau’n gweithio’n galed gan ddefnyddio system goleuadau traffig er mwyn rhoi gwaith atgyweirio mewn i grwpiau yn nhrefn eu brys a’r dyddiad y cawsant eu cofnodi.

Eich cadw chi’n ddiogel wrth i ni wneud gwaith atgyweirio Dyma beth allwch chi ei ddisgwyl pan fyddwn ni’n dod draw i wneud gwaith atgyweirio yn eich cartref... Byddwn yn Yn gwisgo PPE

Golchi a glanhau ein dwylo’n aml

Yn cadw 2 fetr draw oddi wrthych chi a’ch teulu

Yn glanhau’r ardal waith ac yn glanhau mannau sy’n cael eu cyffwrdd yn aml

Gofynnwn eich bod yn: Gadael i wybod os oes gan unrhyw yn eich cartref Coronafeirws neu os ydynt yn hunan ynysu

Yn osgoi’r ardal rydym ni’n gweithio ynddi ac yn aros mewn ystafell arall

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, cysylltwch. 0300 124 0040

7


Cefnogaeth Chwilio am Swydd

Mae ein gwasanaeth Chwilio am Swydd yn edrych yn wahanol iawn y dyddiau yma, ond fydd dim yn ein hatal rhag gwneud ein gorau i sicrhau eich bod chi’n cael gwaith eto! Fe allwn gynnig cefnogaeth dros y ffôn, ar-lein ac yn bersonol yn unol â chanllawiau cadw pellter cymdeithasol.

Paratoi ar gyfer Cyflogaeth Mae yn ei ôl! Mae ein rhaglen boblogaidd a llwyddiannus ‘Paratoi ar gyfer Cyflogaeth’ yn ôl...yn wahanol! Ymunwch â’n sesiynau cefnogi a hyfforddi ar-lein, fe fyddwn ni’n ymdrin â chyllidebu, magu hyder, sgiliau cyfathrebu a llawer mwy.

Stori Jordan Llongyfarchiadau i Jordan sydd bellach yn gweithio’n llawn amser gyda Brenig Construction fel gosodwr brics dan hyfforddiant. Roedd Jordan yn gwybod ei fod eisiau gweithio ym maes adeiladu ond roedd o’n teimlo bod angen iddo wella ei sgiliau cyflogadwyedd gyntaf. Pan glywodd o am raglen Paratoi ar gyfer Cyflogaeth, fe gofrestrodd yn syth bin. Yna fe gofrestrodd ar gyfer ein cwrs Pasbort i Adeiladu ac enillodd gymhwyster CSCS. Mae agwedd Jordan bob amser yn gadarnhaol a phroffesiynol. Fe fynychodd pob sesiwn ar y ddau gwrs a phrofiad gwaith gyda Brenig Construction ar safle Ysgol Maelgwn, yna treial gwaith. Talodd ei waith caled a’i ymroddiad ar ei ganfed gan fod Jordan bellach wrth ei fodd yn gweithio gyda Brenig Construction mewn swydd lawn amser â chyflog fel gosodwr brics. 8

Galwadau Lles Rydym ni’n hapus i rannu’r newyddion da y bydd gwaith Tîm Llesiant Cartrefi Conwy yn parhau gyda chymorth ein ‘Gwirfoddolwyr Lles’ newydd sbon. Fe fydd ein gwirfoddolwyr yn gwneud galwadau ffôn rheolaidd i sicrhau eich bod chi’n ddiogel ac iach. Fe fyddant hefyd yn cynnig gwasanaeth siopa a chasglu presgripsiwn i denantiaid sydd methu mynd allan yn ystod y cyfnod yma.

www.cartreficonwy.org


Gwneud i Waith: Weithio i Bawb Mae ein prosiect i deuluoedd sy’n gweithio wedi bod yn brysur dros y misoedd diwethaf yn darparu gweithgareddau hwyliog i blant a’u rhieni i’w gwneud adref. Rydym wrth ein boddau yn gweld lluniau o blant yn dangos eu sgiliau creadigol ac arlwyo gyda chymorth ein pecynnau crefft a phobi. Mae yna ddigonedd wedi’i gynllunio dros y misoedd nesaf, yn cynnwys lansio cynllun disgownt newydd sbon mewn partneriaeth gyda busnesau lleol. Tarwch olwg ar sianel YouTube Gwneud i Waith: Weithio i Bawb i gael rhagor o wybodaeth ac ysbrydoliaeth! I gael rhagor o wybodaeth gallwch roi caniad i ni ar 01492 588 980, gallwch anfon e-bost i employmentacademy@ creatingenterprise.org.uk neu anfonwch neges i ni ar ein tudalen ar Facebook.

Drysau swyddfa Madoc Street yn cau am byth, ond drysau newydd yn agor yn Llandudno Rydym wedi penderfynu peidio ag adnewyddu’r brydles ar gyfer swyddfa Madoc Street pan ddaw i ben yn yr hydref. Mae’r swyddfa ardal yma wedi bod ar gau i denantiaid ers y cyfnod clo ac ni fydd yn ailagor. Fe wnaethom adolygu’r gwasanaethau roeddem ni a’n cwsmeriaid yn defnyddio’r swyddfa hon ar eu cyfer, ac fe arweiniodd hyn at benderfyniad na fyddem yn adnewyddu ein prydles: • Mae ein cwsmeriaid bellach yn defnyddio ac yn cael gafael ar ein gwasanaethau’n wahanol • Mae ein staff yn gweithio’n wahanol ac maent bob amser yn addasu beth allwn ni ei wneud i roi gwell cefnogaeth i gwsmeriaid • Mae’n gwneud synnwyr yn ariannol – fe fyddwn ni’n defnyddio’r arian rydym ni’n ei arbed i gynnig mwy o’r gwasanaethau mae ein cwsmeriaid eu hangen

Ond wrth i ddrysau Madoc Street gau, y newyddion da yw y byddwn ni’n rhannu canolfan gymunedol newydd gyda Creu Menter – ein cwmni menter gymdeithasol – yng ngorsaf drenau Llandudno yn fuan.

Mae hi mor bwysig fod y ganolfan yma’n rhoi mynediad i gwsmeriaid at y gwasanaethau maent eu hangen fwyaf. Rydym yn gofyn i chi roi gwybod i ni pa wasanaethau yr hoffech chi i ni eu rhedeg o’r ganolfan.

Cysylltwch â ni i drafod hyn, ffoniwch 0300 124 0040 neu e-bostiwch ymholiadau@ cartreficonwy.org

9


Gwobrau Cartrefi Rwy’n Talu

Gwobrau Cartrefi Rwy’n Cymryd Rhan

Gwobrau Cartrefi Rwy’n Cysylltu

Gwobrau Cartrefi Rwy’n Falch

Bu’n rhaid i ni atal Gwobrwyon Cartref yn ystod y cyfnod clo. Rydym yn gwybod ei bod wedi bod yn gyfnod anodd yn ariannol i lawer o bobl yn ystod y cyfnod clo ac mae’n dal i fod i rai pobl. Dyna pam rydyn ni’n cynnal raffl arbennig COVID-19 unwaith ac am byth ar ddydd Iau 27ain Awst.

Bydd gan denantiaid 15 cyfle i ennill £100*. Byddwn yn cynnwys bob tenant yn y raffl hon felly cadwch eich bysedd wedi eu croesi a dymuno pob lwc i’ch hun i ennill. Byddwn yn cysylltu â’r enillwyr. *Mae telerau ac amodau arferol yn berthnasol gallwch ddod o hyd i’r rhain ar ein gwefan neu gysylltu i ddarganfod.

Tarwch olwg am ragor o newyddion Gwobrau Cartref dros y misoedd nesaf.

au a mwy di, cystadlaeth yd sw f, ra a d ed dau diw . r ac Instagram dion a datblygia te yd it ew Tw n y k, o o ch b w n ce Fa Myn ’n gwefan ac ar trwy ymweld â

10


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.