Gyda'n Gilydd Gaeaf 2017

Page 1

CARTREFI CONWY

D D Y L I G N ’ A D Y G RHIFYN Y GAEAF

Tre e a r a w h C Man red o g A n Y m Cw Td 10-11

udno wedi ei weddnewid Mae ardal Cwm Howard yn Lland dal ddiogel a pherffaith i blant. o fod yn lle oedd wedi gordyfu i ar

. .. N W E M U T Y D HEFY H Y GAEAF

GELWC r dudalen 4 TIPS DIO odaeth a Cewch fwy o wyb WYS L U E H M M Y F A AE HWYL CALAynNaG enquiries@cartreficonwy.org r dudalen 6

syd Cymerwch olwg Gwasanaeth Cwsmer: 0300 124 0040 Mae pob galwad gyda Gwasanaethau Cwsmeriaid yn cael eu cofnodi Mae copïau sain o’r newyddlen hon ar gael

Cartrefi Winter Newsletter 2017 welsh.indd 1

04/01/2018 14:03


O GWMPAS

GWOBRAU

GWYCH AM DDIM

Cymerodd 16 o denantiaid ran yn Ras Hwyl Hanner Marathon Conwy ym mis Tachwedd gan wneud y mwyaf o’r mynediad am ddim gan Gartrefi Conwy.

Rydym wedi rhoi 21 pâr o docynnau i ffwrdd fel gwobrau i denantiaid fynd i weld gemau cartref Rygbi Gogledd Cymru’r tymor hwn.

PORWR BRITH Llongyfarchiadau i Valerie Clemson, a enillodd ein cystadleuaeth Diwrnod Pobl Hyˆn am ddefnyddio’n porth ar-lein MyCartrefi.

Enillodd pedwar teulu’r raffl fawr ar gyfer tocynnau teulu am ddim i weld gêm Clwb Pêl-droed Y Rhyl yn erbyn Leeds United XI.

Aethom ni i weld Valerie a’i ffrind da Holly (ci tywys wedi ymddeol) yn eu cartref clyd croesawgar er mwyn rhoi ei gwobr iddi, sef Amazon Kindle Fire. Roedd Valerie yn hapus iawn ei bod wedi ennill a bydd yn defnyddio ei gwobr yn syth er mwyn mynd ar-lein i gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau, tynnu lluniau a defnyddio porth ar-lein MyCartrefi. Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â Valerie a Holly eto er mwyn clywed mwy am y gwaith gwirfoddoli maen nhw yn ei wneud gyda’i gilydd ar gyfer elusen ‘Guide Dogs for the Blind’. Felly edrychwch am y stori hon yn rhifyn nesaf Gyda’n Gilydd.

Rydym yn falch o gyflwyno talebau £50 ‘Love to shop’ i Angharad Haveland am ddweud ei barn wrthym yn yr arolwg am y Diwrnod MAWR allan.

Cofiwch, bob mis y byddwch yn GW YLIWC H defnyddio’n gwasanaeth ar-lein mycartrefi.org byddwn yn rhoi eich https:// youtu. enw yn raffl fawr Rydw i Wedi be/32yHnosmdIQ Cysylltu Gwobrau Cartref am gyfle i ennill £200. MyCartrefi yw’r ffordd hawsaf o wneud taliad, adrodd am atgyweirio, gweld eich datganiad, diweddaru eich manylion cyswllt a mwy.

Peidiwch ag anghofio dilyn ein tudalen Facebook er mwyn cael gwybod am gystadlaethau yn y dyfodol. www.facebook.com/ OfficialCartrefiConwy

2 Cartrefi Winter Newsletter 2017 welsh.indd 2

www.cartreficonwy.org 03/01/2018 12:23


GWOBRAU CARTREF LLONGYFARCHIADAU I’N HENILLWYR GWOBRAU CARTREF DIWEDDARAF!

Gwobrau Cartrefi Rwy’n Cymryd Rhan

RYDW I’N CYFRANOGI RAFFL FAWR I ENNILL £100 BOB 3 MIS

Ar agor i’n holl denantiaid sy’n cyfranogi yn eu cymuned neu’n cyfranogi i wella gwasanaethau Cartrefi Conwy. Mr Steven Williams

Gwobrau Cartrefi Rwy’n Cysylltu

RYDW I WEDI CYSYLLTU RAFFL FAWR I ENNILL £200 BOB MIS

Ar agor i’n holl denantiaid sydd wedi cysylltu â Chartrefi Conwy ar-lein, gan ddefnyddio’r porth MyCartrefi i dalu rhent, rhoi gwybod am atgyweiriadau neu reoli cyfrifon. Mrs Lorraine Owens

Gwobrau Cartrefi Rwy’n Falch

Miss Tina Williams (yn y llyn)

RYDW I’N FALCH RAFFL FAWR I ENNILL £100 BOB MIS

Ar agor i’n holl denantiaid sydd wedi derbyn ymweliad Partner Cartref yn ystod y mis diwethaf ac sy’n gofalu am eu cartrefi a’u cadw’n lân a thaclus. Rev Mair Jones (yn y llyn)

Gwobrau Cartrefi Rwy’n Talu

Ms M E Hughes

RYDW I’N TALU RAFFL FAWR I ENNILL £200 BOB MIS

Ar agor i’n holl denantiaid y mae eu rhent yn gyfredol ac sy’n talu yn brydlon. Mrs Mavis Eastwood

Mr Dennis Rigby (yn y llyn) 0300 124 0040 0300 124 0040

Cartrefi Winter Newsletter 2017 welsh.indd 3

3

03/01/2018 12:23


TIPS DIOGELWCH Y GAEAF Mae achosion o ladrad wedi gostwng o 70% yn y 10 mlynedd diwethaf ac mae hynny i raddau helaeth oherwydd gwell drysau a ffenestri, fel y rhai sydd wedi eu gosod yn eiddo Cartrefi Conwy. Ond mae bob amser rywbeth arall y gallwch ei wneud i ddiogelu eich cartref.

GADEWCH OLAU YMLAEN Yn ystod misoedd y gaeaf, mae’n haws i ladron weld os yw eich tyˆ yn wag. Gyda nosweithiau tywyll cynnar, mae’n hawdd gweld tyˆ gwag, tywyll. Os ydych allan yn ystod y dydd, gadewch olau ymlaen er mwyn gwneud i’r lle edrych fel petai rhywun gartref. Gallwch ddefnyddio switshis amseru i droi’r golau ymlaen yn y prynhawn neu i newid y golau o ystafell i ystafell. Mae defnyddio bylbiau rhad-ar-ynni yn golygu y gellir goleuo eich cartref am gyn lleied â cheiniog y diwrnod. Yn aml bydd lladron yn cnocio ar eich drws i weld os yw eiddo yn wag, ond maent yn llai tebygol o wneud hynny os yw’n edrych fel petai rhywun gartref.

CADWCH EICH DRYSAU AR GLO Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi adrodd am nifer o ladradau cerdded mewn yn ganol pnawn ac yn gynnar min nos, yn bennaf yng nghartrefi’r henoed. Mae’r dioddefwr wedi bod yn eu cartref bob tro ac mae’r lladron wedi mynd i mewn drwy ddrws cefn neu ddrws ffrynt heb ei gloi. PEIDIWCH Â RHOI CYFLE I DROSEDDWYR DDWYN ODDI WRTHYCH. COFIWCH GADW’CH DRYSAU AR GLO.

Os nad yw’n argyfwng gallwch adrodd am drosedd neu sgwrsio â’r Heddlu ar-lein neu drwy ffonio 101. Ond deialwch 999 bob amser mewn argyfwng. Cadwch mewn cysylltiad â’ch heddlu lleol. www.north-wales.police.uk/

Ar ôl y gwyntoedd cryfion ym mis Hydref, cysylltodd Dan Hornby â ni ynglyˆn â choeden oedd wedi cwympo yn ei ardd ac wedi rhwygo ei gwreiddiau, gan ddifrodi nodweddion arddangosiadol ei ardd. 4

www.cartreficonwy.org

Cartrefi Winter Newsletter 2017 welsh.indd 4

Tra roedd Dan allan, daeth ei gymydog draw gyda llif gadwyn i dorri’r goeden er mwyn helpu i dacluso ei ardd. Daeth Dan yn ôl i weld y cymydog cyfeillgar wrthi a chafodd ymweliad sypreis gan robin goch, oedd wedi dod i weld beth oedd yn mynd ymlaen.

A D N O I G O D M Y C “Treuliais awr yn eistedd ac yn edrych ar y prydferthwch a ddaeth ar ôl y storm”, meddai Dan. “Gwnaeth fy nghymydog rywbeth caredig iawn drwy ddod i helpu ar ôl beth oedd yn teimlo fel trychineb.”

03/01/2018 12:23


rwy

CYMERWCH RAN

O’R BWRDD YMUNWCH Â’N BWRDD FEL AELOD TENANT Gyda’i gilydd mae aelodau ein Bwrdd yn gyfrifol am osod gweledigaeth a blaenoriaethau ein busnes, a monitro risgiau a pherfformiad.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’n Tîm Llywodraethu fel y gallwn drafod hyn gyda chi mewn mwy o fanylder cyn y dyddiad cau ar gyfer ein ceisiadau, sef 29 Ionawr 2018.

Mae 5 o’r llefydd ar ein Bwrdd Rheoli yn cael eu cadw i bobl sy’n byw yn ein heiddo. Ar hyn o bryd mae pedwar o’r lleoedd hynny wedi eu llenwi gan:

E-BOST:

enquiries@cartreficonwy.org NEU FFONIWCH :

Bill Hunt

Colin Matthews

01745 335347

Rob Redhead

Elwen Roberts

Gallwch ddarganfod mwy am aelodau ein Bwrdd ar ein gwefan:

Rydym yn edrych am unigolyn brwdfrydig i lenwi’r 5ed lle rwan.

www.cartreficonwy.org/about-us/meet-the-board

Ydych chi’n credu y dylai tai da fod yn hawl sylfaenol i bawb? Ydych chi’n chwilfrydig ynglyˆ n â •

Pa effaith mae Cartrefi Conwy yn ei gael er budd ein tenantiaid a chymunedau lleol?

O ble daw’r arian?

Y bobl rydym yn gweithio â nhw?

Y risgiau rydym yn eu hwynebu?

Os ydych yn byw mewn eiddo Cartrefi Conwy ac wedi ateb YDW i unrhyw un o’r cwestiynau hyn yna hoffem glywed gennych chi.

YDYCH CHI’N GEFNOGWR DIGIDOL? Oes gennych chi sgiliau cyfrifiadurol da? Allech chi roi peth o’ch amser i helpu pobl sydd angen cymorth i ddysgu sut i ddefnyddio cyfrifiaduron? Hyfforddiant llawn a thelir costau Lydia Watson 07733012521 neu anfonwch e-bost at lydia.watson@cartreficonwy.org.

Cartrefi Winter Newsletter 2017 welsh.indd 5

0300 124 0040

5

03/01/2018 12:23


HWYL CALAN

GAEAF

6

Gwisgodd mwy na 100 o blant a 30 o oedolion i fyny ar gyfer Calan Gaeaf dychrynllyd ym Mharc Peulwys. Gyda’r disgo’n swnllyd cafwyd llawer o ddawnsfeydd ysbrydol, yn ogystal â chystadleuaeth cerfio pwmpen, gemau a digonedd o fwyd.

www.cartreficonwy.org

Cartrefi Winter Newsletter 2017 welsh.indd 6

03/01/2018 12:23


GWASGU AFALAU YN RHODFA CAER Mae perllan gymunedol fach ar ystâd Rhodfa Caer gyda sawl coeden afal, coeden ellyg, a sawl llwyn ffrwythau meddwl fel mwyar duon ac eirin. Mae perllan gymunedol fach ar ystâd Rhodfa Caer gyda sawl coeden afal, coeden ellyg, a sawl llwyn ffrwythau meddwl fel mwyar duon ac eirin. Dydy’r berllan heb gael llawer o sylw dros y blynyddoedd diwethaf ond eleni mae grw ˆ p o drigolion wedi ail-sefydlu’r grw ˆ p garddio ‘Green Fingers’. Maent wedi cychwyn cynnal a rheoli’r berllan, gan ei thorri yn ôl ac adeiladu lle

cynhyrchu gwrtaith. Hoffai’r grw ˆ p pe bai’r berllan yn cael ei gwerthfawrogi fel ased i’r gymuned. Ym mis Medi, llogodd trigolion lleol beiriant gwasgu afalau am ddiwrnod gan gynhyrchu sudd afal i’w roi am ddim i bobl. Roedd y digwyddiad wedi ei amseru i ddal plant Ysgol y Forydd a Maes Owen yn pasio ac roedd y digwyddiad yn arbennig o boblogaidd ganddyn nhw. Cynhaliwyd y digwyddiad gyda help Gwyl Roche o Cadwch Gymru’n Daclus a chymorth gan Cartrefi Conwy. “Rydym yn hyrwyddo bwyta’n iach a helpu plant i ddeall o le mae sudd ffrwythau’n dod. Mae’n beth dda iddyn nhw werthfawrogi cynnyrch lleol ffres nad yw wedi ei brosesu na’i addasu’n gemegol.” Mae grw ˆ p ‘Green Fingers’ am wellau eu sgiliau rheoli’r berllan, gan ddysgu tocio’r coed, gosod mainc yn y berllan ac ailosod y llwybr. Maent yn bwriadu cynnal digwyddiad gwasgu afalau bob blwyddyn.

Peth o gynhaeaf eleni!

ws Ray Jones a Stan Barro yn gweithio’n galed

Cartrefi Winter Newsletter 2017 welsh.indd 7

Dywedodd Ray Deakin fod y prosiect wedi rhoi ydd “gwerthfawrogiad new o fywyd” iddo

0300 124 0040

7

03/01/2018 12:23


GWASTRAFF TIPIO ANGHYFREITHLON SWMPUS Gadael sbwriel yn y stryd neu adael bagiau bin y tu allan yn hytrach na defnyddio biniau a blychau ailgylchu yw tipio anghyfreithlon. Mae’n gwneud i’n cymunedau edrych yn flêr ac yn fudur, ac mae sbwriel wedi ei adael yn gallu bod yn berygl tân. Mae tipio anghyfreithlon hefyd yn ddrud – gallwch dderbyn rhybudd cosb benodedig o £400 am wneud, neu ddirwy o hyd at £50,000 neu 12 mis yn y carchar. Byddwn hefyd yn gweithredu yn erbyn tenantiaid Cartrefi Conwy sy’n dympio eu sbwriel. Os ydych yn cael trafferth gyda’ch sbwriel, PEIDIWCH Â’I DDYMPIO! Dyma beth allwch chi ei wneud:

BINIAU YCHWANEGOL Os oes mwy na 6 o bobl yn byw mewn cartref, gallwch wneud cais i gael ail fin olwynion gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Os yw eich bin yn llenwi gyda chlytiau tafladwy, cofrestrwch ar gyfer y gwasanaeth casglu clytiau, a chewch fin arbennig ar gyfer clytiau a bagiau. Cysylltwch â erf@conwy.org.ul neu 01492 575337 i ddarganfod mwy am finiau ychwanegol a chasgliadau clytiau.

8

Os oes gennych eitemau mawr yr ydych am eu gwaredu na allwch fynd a nhw i’r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref, gallwch dalu i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy eu gwaredu. Mae’n costio hyd at £20.00 am bedair eitem, a gellir bwcio eitemau ychwanegol am £4.00 yr eitem. Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn ar gyfer: •

Dodrefn megis soffas, cadeiriau, byrddau, cypyrddau dillad

Nwyddau gwyn fel oergelloedd, rhewgelloedd, peiriannau sychu dillad, peiriannau golchi

Nwyddau trydanol mawr fel setiau teledu, peiriannau torri gwair, cyfrifiaduron neu eitemau eraill na fydd yn ffitio yn eich bag pinc Crest ar gyfer casglu o ymyl y palmant

Gwelyau – sylwch fod pennau gwelyau, fframiau gwely a matresi yn cael eu cyfrif fel eitemau ar wahân

Carpedi

I drefnu casgliad gwastraff cartref swmpus neu wastraff gardd ffoniwch Dîm Cyngor Amgylcheddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar 01492 575337, neu anfonwch e-bost at affch@conwy.gov.uk neu cysylltwch â ni yma.

www.cartreficonwy.org

Cartrefi Winter Newsletter 2017 welsh.indd 8

03/01/2018 12:23


AILGYLCHU Wyddoch chi y cewch roi dillad ac eitemau trydanol allan ar gyfer casgliadau ailgylchu? Yn y bag piws gallwch ailgylchu dillad glân, esgidiau, bagiau llaw, beltiau, cynfasau, llenni a thywelion. Yn y bag pinc gallwch ailgylchu teganau trydanol, gliniaduron, ffonau symudol, chwaraewyr CD / DVD, consolau, eillwyr, sychwyr gwallt a sythwyr gwallt. Ffoniwch 01492 596783 i gael bagiau newydd gan Crest.

CANOLFANNAU AILGYLCHU GWASTRAFF CARTREF Gall holl drigolion Conwy ddefnyddio’r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref ym Mochdre ac Abergele. Gellir ailgylchu’r canlynol am ddim: •

2 fag bin o sbwriel bob pythefnos

2 fag bin o wastraff anifeiliaid bob pythefnos

Dillad

Tecstilau

Papur, cerdyn a chardfwrdd

Plastig

Gwastraff gardd

Poteli a jariau gwydr

Batris

Tuniau, caniau ac erosolau

Celfi

Eitemau trydanol

Metel sgrap

Cynwysyddion tanwydd wedi eu torri’n ddarnau

Poteli bach o gemegau cartref neu ardd

Gallwch hefyd ailgylchu’r canlynol ym mhob blwyddyn: • 5 bwlb golau fflworoleuol • Carped hyd at chwe ystafell • 10 litr o olew injan neu olew coginio wedi ei ddefnyddio • 37.5 litr o baent • 2 fatri car Gallwch hefyd fynd â 2 fatres y flwyddyn i Adnodd Ail-hawlio Deunydd Mochdre, drws nesaf i’r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref.

0300 124 0040 Cartrefi Winter Newsletter 2017 welsh.indd 9

9

03/01/2018 12:23


T C IE S O R P B E D R PRYSU L O D D E H C L Y G AM TRE CWM Ers yr haf, mae ystâd Tre Cwm yn Llandudno wedi bod yn brysur wrth i’n contractwyr Creu Menter weithio gyda Brenig Construction ar greu bron i 50 o brosiectau unigol. Mae nifer o’r prosiectau wedi eu cwblhau, yn ogystal â thirlunio’r ardaloedd hynny, ond y darn gorau oedd cwblhau man gwyrdd Cwm Howard. Roedd yr ardal y tu ôl i Ffordd Maes y Cwm wedi gordyfu a’i anghofio, ond gan nad oes ffyrdd yn ffinio ag ef, ac y gellir ei weld o’r tai, roedd yn lle perffaith i greu man diogel i blant. Felly fe wnaethom ymgynghori gyda’r plant ar yr ystâd a gofyn iddynt beth oedd arnyn nhw ei eisiau. Fe wnaethom ni gasglu cerrig anferth oedd yn gorwedd o amgylch yr ystâd a’u defnyddio i wneud lindys mawr y gall y plant chwarae, dringo, a defnyddio sialc arno. Dywedodd Matt Stowe, y swyddog datblygu amgylcheddol yng Nghartrefi Conwy a gynlluniodd yr ardal, “Mae’r holl ardal wedi ei ddylunio i fod angen lefel isel o gynhaliaeth ond mae’n cynnig lefel uchel o werth chwarae. Rydym wedi cynnwys drysfa wair a phan fydd y gwair yn tyfu bydd yn addas i blant ifanc iawn chwarae ynddo ac o’i amgylch. Mae caws llyffant chwarae ar gyfer gemau cydbwyso ac mae hyd yn oed yr ochrau wedi eu gwneud o byst pren y gellir dringo arnynt.

Mae nawr yn lle i blant chwarae. Ac mae’r lindys anferth o gerrig yn anhygoel.” ˆ yr, Alfie, sy’n naw oed, hefyd yn Mae ei w hapus a dywedodd: “Mae’r ardal yn anhygoel a dwi’n hoff iawn ohoni. Dwi’n ymweld â fy nain yn aml yn enwedig yn ystod gwyliau’r ysgol a bellach mae’n le gwych i chwarae.” Dywedodd ffrind Alfie, Nick Macuks, sydd hefyd yn naw: “Mae’n wych ac yn union beth oedd arnom ei angen. Mae’n lle gwych i blant ddod i gwrdd ei gilydd a chwarae. Mae’r lindys yn anhygoel a does dim ceir, sy’n dda.” Dywedodd y tenant Frances Steatfield: “Mae’r gwahaniaeth yn yr ardal yma yn anhygoel. Bydd digon o ddefnydd yn cael ei wneud ohoni ac mae’r plant eisoes wrth eu boddau. Dyma beth oedd ei angen ac mae’n edrych fel pe bai rhywun yn poeni am ˆ an. Mae’n braf gweld Cartrefi yr ystâd rw Conwy yn gwneud y gwaith yma ac yn helpu i adeiladu’r gymuned. Mae’n golygu llawer i denantiaid.” Mae prosiect Man Gwyrdd Tre Cwm yn cael ei gefnogi gan fferm wynt Gwynt y Môr a gyfrannodd £65,000 tuag at y cynllun.

Meddai Helen Allent, sy’n denant: “Mae’n wych ac yn welliant anferth. Dim ond tir gwastraff oedd hwn, nad oedd yn cael ei ddefnyddio.

10

www.cartreficonwy.org

Cartrefi Winter Newsletter 2017 welsh.indd 10

03/01/2018 12:23


Gallwch weld y cynnydd diweddaraf drwy ymweld â Thre Cwm ar Facebook: www.facebook.com/trecwm

Os ydych yn byw yn yr ardal ac yr hoffech weithio’n gadarnhaol gyda Chartrefi Conwy i fynd i’r afael â rhai o’r materion eraill ar yr ystâd, cysylltwch â Clare Phipps ar 07887 553802.

0300 124 0040 Cartrefi Winter Newsletter 2017 welsh.indd 11

11

03/01/2018 12:23


PROBLEMAU ARIANNOL?

GALLWN NI HELPU! Rydym ni yma i’ch helpu chi, a gorau po gyntaf y rhowch chi wybod i ni eich bod yn cael problemau, gan y gallwn ni eich helpu chi i ddod o hyd i ateb. Mae gennym ni dîm cynhwysiant ariannol ymroddedig all eich helpu a’ch cefnogi chi gydag amrywiaeth o faterion ariannol, gan gynnwys: • Cyngor ar gyllidebu • Rheoli dyledion • Hawlio budd-daliadau Yn ddiweddar fe wnaethon ni weithio gyda thenant oedd ar fin cael ei droi allan oherwydd diffyg talu rhent. Fe wnaethon ni drefnu cyfarfod gyda Hawliau Lles Cyngor Conwy, ac fe wnaethon ni helpu’r tenant wneud ceisiadau ar gyfer Budd-Dal Plant a Chredyd Treth Plant. Roedd yr hawliadau’n cael eu dyddio’n ôl, oedd yn golygu bod y tenant wedi cael arian o fisoedd cyn yr hawliad. Fe wnaethon ni hefyd helpu’r tenant i siarad gyda’r Ganolfan Waith a dileu’r sancsiwn ar eu Cymhorthdal Incwm. Mae’r arian hwn hefyd wedi ei ddyddio yn ôl 12 mis. Mae hyn yn golygu fod y tenant wedi derbyn digon o arian i dalu’r rhent oedd yn ddyledus, a chawsant gadw eu cartref. Os na fyddwch chi’n talu’ch rhent nac yn cysylltu â ni i geisio datrys y broblem, fe allech chi gael eich hel allan o’ch eiddo, felly cysylltwch â ni:

AR GREDYD CYNHWYSOL? Mae’r Rheolwr Arian ar gyfer pobl sy’n defnyddio Credyd Cynhwysol neu ar fin gwneud cais. Bydd yn eich helpu i wneud y mwyaf o’ch arian: •

Pan fyddwch yn aros am eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf

Pan fyddwch yn cael taliadau misol rheolaidd

SGWRSIO AR Y WE Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am – 8pm Dydd Sadwrn 9am - 1pm Dyddiau Sul a Gwyliau Banc, ar gau

RHADFFÔN

0800 138 7777 •

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am – 8pm

Dydd Sadwrn, 9am – 1pm, dyddiau Sul a Gwyliau Banc, ar gau.

Bydd Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn rhedeg gwasanaeth gostyngol dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn newydd. Ewch i’n tudalen cysylltwch â ni y wefan er mwyn gweld ein oriau agor.

https://www.moneyadviceservice.org.uk/en

Ffoniwch ni:

0300 124 0040

E-bost:

enquiries@cartreficonwy.org

MWY O HELP Cyfle i sgwrsio efo cynghorydd arbenigol Llinell Ddyled Genedlaethol, cael cyngor dyled personol ar-lein a gwirio’r daflen wybodaeth am ddim i gael cymorth gyda’ch arian. https://www.nationaldebtline.org/EW/Pages/peace-of-mind.aspx 12

www.cartreficonwy.org

Cartrefi Winter Newsletter 2017 welsh.indd 12

03/01/2018 12:23


ISAFSWM CYFLOG CENEDLAETHOL

YDYCH CHI’N EI DDERBYN? Yn ôl y gyfraith, rhaid i bron iawn pob gweithiwr sy’n 25 neu’n hyˆ n dderbyn tâl Cyflog Byw Cenedlaethol, neu os yn iau, yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Fel arfer mae’r Llywodraeth yn cynyddu cyfraddau isafswm cyflog yn flynyddol ar 1 Ebrill. Mae’n bosib fod gweithwyr sy’n derbyn yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’r Cyflog Byw Cenedlaethol neu ychydig o gyflog yn uwch na hynny yn colli allan. Gall hyn ddigwydd os yw eu cyflogwyr yn gwneud camgymeriad wrth gyfrifo tâl. Am fwy o wybodaeth am gamgymeriadau cyffredin ewch i www.gov.uk/national-minimum-wage-rates

BETH ALLWCH EI WNEUD? Os ydych yn ansicr os ydych chi neu rywun rydych yn eu helpu yn derbyn yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, gallwch ofyn iddyn nhw ffonio Llinell Gymorth Acas ar 0300 123 1100 i gael mwy o gyngor. Gall gweithwyr hefyd wneud cwyn ar-lein ar GOV.UK drwy chwilio am ‘Pay and work rights complaints’. Ni fydd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn dweud enw gweithiwr wrth gyflogwr heb eu caniatâd.

MAE DROSODD AM FLWYDDYN ARALL – NEU YDI O? Rydym ni wedi bwyta’r twrci, agor anrhegion (a mynd a nhw’n ôl i’r siop efallai), cadw’r tinsel yn yr atic, ac mae pawb yn ddiolchgar ei fod drosodd am flwyddyn arall. Ond a ydyw drosodd mewn gwirionedd? Os ydych yn teimlo’n fwy na thrist fod y Nadolig drosodd ac yn anghysurus gyda chost y Nadolig, Cymerwch Reolaeth heddiw. Nid yw gofyn am gymorth a chefnogaeth yn costio dim i chi felly ffoniwch ni ar 0300 124 0040 neu ewch i http://www.takecontrol.wales Os ydych chi wedi dioddef oherwydd benthyciwr arian didrwydded neu’n credu bod yna un yn gweithredu yn y cyffiniau, ffoniwch y llinell gymorth 24 awr ar 0300 123 3311. Peidiwch ag oedi, gweithredwch, Cymerwch Reolaeth ac ewch i gael cymorth a chefnogaeth yn syth! I gael gwybod mwy, ewch i:

www.gov.uk/report-loan-shark neu www.cartreficonwy.org/take-control-managing-your-money

Cartrefi Winter Newsletter 2017 welsh.indd 13

0300 124 0040 13 03/01/2018 12:23


METHU

APWYNTIADAU 10 50 MEWN MIS ARFEROL...

MAE

MAE

o gartrefi yn methu eu 2il apwyntiad gwasanaethu nwy

o gartrefi yn methu eu apwyntiad gwasanaethu nwy 1af

£2250

o arian rhent yn cael ei wastraffu

£450

o arian rhent yn cael ei wastraffu

Os na fyddwch yn cadw at eich apwyntiad, rydych yn peryglu bywydau ac yn torri’r gyfraith. Pan wnaethoch chi arwyddo’ch cytundeb tenantiaeth, fe wnaethoch chi gytuno i adael ein gweithwyr ni i’ch cartref i gynnal gwiriadau diogelwch nwy blynyddol. Rydym yn cymryd diogelwch nwy o ddifrif, ac os byddwch yn methu apwyntiadau byddwn yn cymryd achos llys yn eich erbyn a allai olygu y gallech golli’ch cartref a gorfod talu ein costau cyfreithiol.

Pan fyddwn yn dod i wneud gwaith yn eich cartref, mae’n debygol y bydd y gwaith hwnnw’n cael ei gyflawni gan aelod o’r Uned Cynnal a Chadw Adeiladau.

GWIRIO DULL

ADNABOD

Cymrwch amser i wirio cerdyn adnabod y gweithiwr er mwyn gwybod pwy yn union sy’n cael mynediad i’ch cartref. Yn ogystal â cherdyn adnabod Cartrefi Conwy, cadwch olwg am siaced Cartrefi Conwy, hwdi B.M.U a cherbyd Cartrefi Conwy. Os ydym yn anfon un o’n contractwyr cymwys, bydd ganddo hefyd gerdyn adnabod â llun. Os ydych yn ansicr ynghylch a yw’r unigolyn yn weithiwr o Gartrefi Conwy ai peidio, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy ffonio ein rhif ffôn am ddim; 0300 124 0040 i wirio ein bod wedi anfon unigolyn i gyflawni gwaith yn eich cartref. 14

www.cartreficonwy.org

Cartrefi Winter Newsletter 2017 welsh.indd 14

03/01/2018 12:23


TENANTIAID SY’N GEFNOGWYR YSTÂD

GWNEUD GWAHANIAETH Mae Cefnogwr Ystâd yn gweithio gyda’n Cydlynwyr Cymdogaethau ar archwiliadau yn ein hystadau lleol. “Rydym yn edrych am beryglon a phethau sydd angen eu trwsio a’u gwella i atal pobl rhag llithro, baglu a chwympo” meddai Glyn Jones, Rheolwr Cymdogaethau yng Nghartrefi Conwy. “Rydym yn dweud wrth ein tîm atgyweirio am bethau fel draeniau sydd ar goll, ac rydym yn dweud wrth y cyngor am balmantau peryglus.” Mae dau o aelodau’n bwrdd, Bill Hunt a Colin Matthews, hefyd yn ymuno yn yr ymweliadau archwilio. Mae lle i fwy o denantiaid ddod yn Gefnogwyr. Dewch i ddarganfod mwy am beth rydym yn ei wneud a sut i wneud cyfraniad i’ch cymdogaeth. Os gallwch roi 3 awr bob 3 mis i helpu i archwilio’ch ystâd, rydym eisiau clywed gennych! Ffoniwch 0300 124 0040 i adael i ni wybod eich bod am gymryd rhan.

SEFYDLIAD DEMENTIA GYFEILLGAR

Gyda heneiddio’n iach yn llygad y cyhoedd, rydym yn falch o fod yn gweithio tuag at fod yn sefydliad Dementia Gyfeillgar. Daeth Jo Lane, Cydlynydd Cymunedau Dementia Gyfeillgar a Jacky Baldini, Rheolwr Gweithrediadau Teyrngarwch Gogledd Cymru Cymdeithas Alzheimer’s Cymru i’n prif swyddfa i roi’r wobr i ni. Diolchodd Jacky i ni am ein hymdrechion gan ganmol cydweithwyr Cefnogwyr Cyfeillion Dementia a’n aelod o’n bwrdd tenantiaid, sef Colin Matthews am gyflawni rhywbeth arbennig. Mae’r Sesiynau Gwybodaeth Cyfeillion yn rhedeg yn ein prif swyddfa gan ein Cefnogwr Denant ac mae wedi cyrraedd dros 140 o bobl er mwyn eu helpu i ddeall yn well sut beth yw byw gyda dementia a’r camau gweithredu y gallant eu cymryd. Atgoffodd Jacky ni fod y cynllun gweithredu ar gyfer Cyfeillion Dementia yn ddiddiwedd. Canmolodd yr angerdd a’r gefnogaeth sydd i fentrau Cyfeillion Dementia cydweithwyr Cartrefi Conwy sef Ceri Twist a Nerys Veldhuizen, sydd wedi ymuno â grw ˆ p llywio Cyfeillion Dementia Abergele. Cafwyd paned a chacen i nodi’r achlysur. Er mwyn darganfod mwy am Gyfeillion Dementia cysylltwch â Nerys Veldhuizen ar 0300 124 0040 neu ewch i www.dementiafriends.org.uk/

GW YLIWC H tube.com/ https:// www.you x66wc&feature= watch?v=y06X7p youtu.be 0300 124 0040 15 Cartrefi Winter Newsletter 2017 welsh.indd 15

03/01/2018 12:23


MEN’S SHED

HWYL LLANRWST Mae Men’s Shed Llanrwst yn helpu i hyrwyddo lles dynion o bob oed, ac yn dod â nhw at ei gilydd i rannu gwybodaeth a phrofiad ac i roi yn ôl i’r gymuned. Mae Men’s Shed Llanrwst yn helpu i hyrwyddo lles dynion o bob oed, ac yn dod â nhw at ei gilydd i rannu gwybodaeth a phrofiad ac i roi yn ôl i’r gymuned. Gall y cyfarfodydd helpu i ysgogi meddyliau’r aelodau, a drwy wneud cynnyrch, mae’r grw ˆ p yn helpu i godi arian i’w hunain, i’r gymuned ac i elusennau. Gofynnodd Clwb Llewod Llanrwst a’r Ardal i’r grw ˆ p helpu i ddylunio ac adeiladu fflôt Nadolig newydd iddynt. Roedd y fflôt wedi bod yn rhan o’r clwb am dros bymtheg mlynedd, gyda llawer o’r bobl leol wedi tyfu fyny yn ei weld bob blwyddyn. Dros y tair blynedd, mae’r fflôt wedi helpu i godi miloedd o bunnoedd i elusennau lleol, ond roedd yn amser cael model gwell.

16

Defnyddir y fflôt am 3 wythnos ym mis Rhagfyr ac mae’n teithio drwy Lanrwst, Betws y Coed, Penmachno, Cwm Penmachno, Llanddoged, Llangernyw, Capel Garmon a nifer o lefydd eraill. Mae Clwb Llewod Llanrwst wedyn yn gwneud cyfraniad at Men’s Shed Llanrwst er mwyn i’r grw ˆ p ei wario ar weithgareddau eraill. Mae Men’s Shed Llanrwst hefyd yn cynnal dosbarthiadau celf unwaith yr wythnos – mae’r celf sy’n cael ei wneud wedyn yn cael ei arddangos yng Ngolygfa Gwydr ac yn cael ei werthu i godi arian ar gyfer y grw ˆ p. Mae’r aelodau hefyd yn gwneud fframiau o safon uchel i arddangos y gwaith celf. Dyfarnodd Panel y Cist Cymunedol £658.00 i Men’s Shed Llanrwst i’w helpu gyda chostau adeiladu ar gyfer y fflôt Nadolig, ac i brynu deunyddiau i gynhyrchu’r fframiau ar gyfer eu gwaith celf. “Diolch yn fawr am eich help gan bawb yn Men’s Shed Llanrwst.”– Ian Hutchinson, Trysorydd Men’s Shed Llanrwst

www.cartreficonwy.org

Cartrefi Winter Newsletter 2017 welsh.indd 16

03/01/2018 12:23


YDYCH CHI’N GWYBOD AM GR P/ SEFYDLIAD CYMUNEDOL SY’N EDRYCH AM GYLLID? GALLAI CIST GYMUNEDOL CARTREFI GONWY HELPU! Mae’r prosiect yn cefnogi prosiectau bach a fydd yn helpu i wella ansawdd bywyd ein tenantiaid mewn cymunedau lleol neu lle mae gennym gartrefi. Mae grantiau hyd at £3,000 ar gael i unrhyw grwpiau gwirfoddol, cymunedol neu hamdden.

Pwy sy’n gallu gwneud cais am grant? Gall unrhyw grw ˆ p / sefydliad wneud cais am grant Cist Gymunedol os ydynt: • Yn grw ˆ p tenantiaid Cartrefi Conwy •

Gyda thenantiaid Cartrefi Conwy yn y grw ˆp

Gyda phrosiect sydd o fudd i gymuned Cartrefi Conwy

Yn sefydliad y gall tenantiaid Cartrefi Conwy ei ddefnyddio / gael budd ohono

Ysgolion - rhaid i bob cais sy’n ymwneud ag ysgol gael ei gyflwyno gan y Gymdeithas Rhieni ac Athrawon, Cyfeillion yr Ysgol, Llywodraethwyr neu grwpiau codi arian perthnasol eraill.

Cyngor Tref neu Gymuned – bydd angen i’r gwasanaeth ddarparu cadarnhad ysgrifenedig i gefnogi’ch cais, gan nodi nad yw costau sy’n gysylltiedig â’ch gweithgaredd yn gallu cael eu bodloni drwy’r arian sydd ar gael ar hyn o bryd.

Dyma rai o’r grwpiau wnaeth dderbyn Grant Cist Gymunedol: Clwb Pêldroed Phoenix Penmaenmawr

Llain hyfforddi pob tywydd ac ieuenctid

Men’s Shed Llandudno

Ymestyn y sied

Grw ˆ p Sgowtiaid Orme

Ceufadau

Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Gwrych

Prosiect addysg ac digwyddiadau hanesyddol

Clwb Pêl-Droed Llanefydd Football Club

Cyfarpar a dillad

The Ffordd Pandy Potting Shed

Offer a phlanhigion

Cyfeillion Dementia Abergele

Prosiect Dementia Cyfeillgar Abergele

‘Colwyn Churchmen's Club’

Gwelliannau gosodiadau trydan

NID YW grantiau ar gael i grwpiau neu

sefydliadau’r tu allan i Sir Conwy neu os NAD YDYNT yn darparu budd i gymuned Cartrefi Conwy. Ewch i’n gwefan i gael y ffurflen gais, neu cysylltwch â Clare Phipps ar

07887 553802 / 01745 335656 neu drwy e-bost

clare.phipps@cartreficonwy.org

0300 124 0040 17 Cartrefi Winter Newsletter 2017 welsh.indd 17

03/01/2018 12:23


Y TU ALLAN… RHEW AC OERFEL WMNI Y TU MEWN CYNHESRWYDD A CH

Wrth i Storm Caroline gyrraedd ein harfordir, ni allai’r gwynt, y rhew na’r oerfel gadw’n gwesteion i ffwrdd oddi wrth ginio Nadolig Rhodfa Caer. Os rhywbeth roedd y gwynt yn helpu i ledaenu’r arogl hyfryd oedd yn dod o’r gegin i ddenu pobl i mewn. Y tu mewn roedd Siân Corn a’i chorachod (Jo O’Keefe a gwirfoddolwyr eraill o Grw ˆp Gweithredu Yn Y Gymuned Rhodfa Caer) wedi gweithio’u hud er mwyn troi y llwch ceirw yn wledd Nadoligaidd pedwar cwrs. Daeth dros dri deg o drigolion at ei gilydd i fwynhau hud gwirioneddol, cynhesrwydd a chwmnïaeth ar yr adeg arbennig hon o’r flwyddyn. Cafwyd ychydig o banto yn ystod y raffl hyd yn oed... o naddo ddim, o do ddim...

Mae rhai yn cwrdd am baned a sgwrs, mae rhai yn dod at ei gilydd gan eu bod yn rhannu diddordeb (fel gerddi neu grefftau) ac mae eraill yn dod ynghyd i geisio datrys problemau o fewn eu cymunedau. Felly os oes gennych ddiddordeb ymuno â grw ˆ p yn eich ardal, cysylltwch â ni fel y gallwn adael i chi wybod beth maent yn ei wneud a phryd fyddant yn cwrdd. Neu efallai gallech gychwyn eich grw ˆ p eich hun...?

Bu Mike a Jen yn mwynhau’r diwrnod, cwpl sy’n dal mewn cariad ar ôl 47 mlynedd o briodas – mae Mike yn dal i ddod â phaned i Jen yn y gwely bob bore! Roedd Jo O’Keefe ac Elaine Fox, y ddeuawd y tu ôl i’r bwyd blasus a gafodd ei weini, yn cael llawer o hwyl hefyd. Dywedodd Elaine wrthym mai Jo oedd y seren y tu ôl i lwyddiant y diwrnod. Roedd Jo wedi bod yn siopa ac wedi prynu popeth am ychydig dros £130, gan gynnwys y fasged ar gyfer y raffl, ac roeddynt wedi bod yn brysur ers y diwrnod cynt yn paratoi popeth. Fel y gân ‘Love is all around’ yn y ffilm ‘Love Actually’, roedd yr ystafell yn llawn cariad a chynhesrwydd. Wyddoch chi fod sawl grw ˆ p cymunedol fel Grw ˆ p Gweithredu Yn Y Gymuned Rhodfa Caer yn rhedeg drwy’r sir gan Gartrefi Conwy?

Rydym yn cynnig grantiau cychwynnol o £150 er mwyn helpu grwpiau i gychwyn a £100 ychwanegol y flwyddyn i’w cadw i fynd. 18

CYSYLLTWCH Â CLARE PHIPPS AR 07887 553802 / 01745 335656 NEU CLARE.PHIPPS@CARTREFICONWY.ORG

www.cartreficonwy.org

Cartrefi Winter Newsletter 2017 welsh.indd 18

03/01/2018 12:23


N

DYMA MAISY Y CI ANHYGOEL Mae’r Labrador aur pum mlwydd oed yn helpu Bernadette Clutton, tenant anabl Cartrefi Conwy, i fyw yn annibynnol. Mae’r ci arbennig yn gi anabledd wedi ei hyfforddi ac mae’n helpu’r ddynes 55 oed i ddadwisgo, mae’n casglu ei basged feddyginiaeth argyfwng a gall hyd yn oed ei helpu i rolio drosodd yn y gwely, troi’r golau ymlaen ac agor drysau. Credir mai Maisy yw’r ci anabledd cyntaf yng Ngogledd Cymru. Mae Bernadette, sy’n byw yn Llanfairfechan yn dioddef o ddwy ddisgen sydd wedi llithro o’u lle yn ei chefn, yn ogystal ag arthritis andwyol. Mae’n dweud y byddai’n anodd iawn parhau heb yr anhygoel Maisy a heb gymorth Cartrefi Conwy. Meddai Bernadette: “Byddai bywyd heb Maisy yn arbennig o anodd. Mae fy nghyflwr yn golygu fod pob diwrnod yn wahanol. Un diwrnod, alla i ddim symud na sefyll, a’r diwrnod nesaf gallaf symud o gwmpas yn weddol hawdd. “Dw i’n dibynnu ar Maisy i wneud pob math o dasgau i fi a dw i hefyd yn cael llawer o gymorth gan gydlynydd byw’n annibynnol Cartrefi Conwy, Ceri Davies.” Ychwanegodd: “Cefais Maisy pan oedd ychydig wythnosau oed. Darparodd yr elusen, Dog A.I.D. ˆ n lleol (‘Assistance in Disability’) hyfforddwr cw i ddod i fewn i fy helpu i’w hyfforddi. Mae’n fy helpu i ddadwisgo a gall dynnu fy sannau, fy jeans a fy nghardigan i ffwrdd. Mae gen i declyn i’w ddefnyddio sy’n helpu i fi roi fy sannau a fy nhrowsus ymlaen. Mae hi hefyd yn gallu pigo unrhyw beth rydw i’n ei ollwng i fyny. Mae Maisy yn fy helpu i rolio drosodd yn y gwely os na alla’ i symud ac mae’n gallu rhoi goleuadau i ffwrdd neu ymlaen ac agor a chau drysau.” “Mae’n gi hyfryd ac mae ganddi bersonoliaeth gynnes a chariadus. Mae’r elusen yn gwirio ei bod yn iawn bob blwyddyn. Mae ei bwyd yn cael ei bwyso’n ofalus ac mae gen i rywun sydd yn ei cherdded bob dydd er mwyn iddi gael ei hymarfer. Mae ganddi bum mlynedd arall fel ci sy’n gweithio a gobeithio byddaf yn cael ci bach newydd i’w hyfforddi. Mae wedi gwneud gwahaniaeth anferth i fy mywyd ac wedi rhoi fy hyder yn ôl i fi. Dw i’n llawer hapusach ac yn gallu mynd o gwmpas y lle eto bellach.”

Cartrefi Winter Newsletter 2017 welsh.indd 19

“Dw i’n dibynnu ar Maisy a Ceri Davies a dw ˆ r os byddwn i’n gallu dod i ben i ddim yn siw hebddyn nhw. Mae Cartrefi Conwy wedi bod yn dda iawn efo fi ac wedi darparu rheiliau llaw o amgylch fy nghartref”, meddai. Dywedodd Kate Knight o Dog A.I.D. fod gan ˆ n yn yr elusen fwy na 100 o hyfforddwyr cw gweithio gyda chleientiaid ar hyd y wlad. ˆ n o wahanol Dywedodd: “Rydym yn hyfforddi cw fridiau. Mae’r cleient yn darparu eu ci eu hunain ac yna rydym ni yn anfon hyfforddwr i weithio efo nhw. Gall gymryd unrhyw beth rhwng naw mis a dwy flynedd i hyfforddi ci cymorth yn llawn. ˆ n wneud amrywiaeth o dasgau fel “Gall ein cw llenwi neu wagu peiriant golchi a llusgo basged olchi y tu allan. “Gallant fynd i nôl help mewn argyfwng, dod o hyd i ffôn symudol ac wrth gwrs, yn achos Bernadette, helpu pobl i wisgo a dadwisgo a thynnu dillad gwely drostynt.”

I DDARGANFOD MWY AM DOG A.I.D EWCH I’W GWEFAN HTTP://WWW.DOGAID.ORG.UK

0300 124 0040 19 03/01/2018 15:46


O DAN 35

YMGYNGHORIAD Yn ddiweddar, fe wnaethom wahodd tenantiaid a phobl ar y gofrestr tai, i gyd o dan 35, i ddweud eu problemau tai wrthym, i’n helpu ni i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Rhoddodd y naw ohonynt ddigon o adborth a gwybodaeth ddefnyddiol i ni fynd yn ôl efo ni i Ddatrysiadau Tai Conwy a thîm Cartrefi Conwy. Cafodd y sesiwn ymgynghori ei dilyn ag ymarferion gwaith tîm yng Nglan Llyn, gyda’r heriau o wneud rafft ac ymarferion rhaffau uchel. Fe wynebodd y tîm yr her, gan gefnogi ei gilydd a threchu eu hofnau.

NEWYDDION DIWEDDARAF

YM MRYN EGLWYS, LLANDRILLO YN RHOS, MAE GWAITH WEDI EI GYCHWYN AR INSWLEIDDIO WAL ALLANOL Y FFLATIAU. MAE’R INSWLEIDDIAD WEDI EI FFITIO A’R CAM NESAF YW EU RENDRO YN Y LLIWIAU NEWYDD SYDD WEDI EU DEWIS GAN Y TENANTIAID.

Diolch i’r cyfranogwyr gwych am ymuno a rhoi gwahanol safbwyntiau.

20

www.cartreficonwy.org

Cartrefi Winter Newsletter 2017 welsh.indd 20

0300 124 0040 03/01/2018 12:23


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.