Adroddiad Blynyddol ar Weithgareddau 2013-2014
Cynnwys 3
GWELEDIGAETH A GWERTHOEDD
4
EIN TAITH DRWY 2013/14
6
CYFRANOGIAD POB TENANT
9
TWF CYNALIADWY I’N CYMUNEDAU
11
RHAGORIAETH O RAN GWASANAETH AC EIDDO
12
EIN SYLFEINI
14
MANYLION STOC
14
PERFFORMIAD
15
CRYNODEB O BERFFORMIAD ARIANNOL
16
BWRDD RHEOLI AR 31.03.2014
Rhagymadrodd gan Gadeirydd y Bwrdd Mae’n bleser mawr gennyf ar ran y Bwrdd Rheoli gyflwyno’r Adroddiad Gweithgareddau Blynyddol hwn i chi sy’n amlinellu cyflawniadau a chanlyniadau ariannol y Gymdeithas ar gyfer y flwyddyn 1 Ebrill 2013 i 31 Mawrth 2014.
Bu eleni yn anodd o ran cefnogi ein tenantiaid oedd yn teimlo effaith y newidiadau i daliadau budd-daliadau. Mae buddsoddi mewn adnoddau ychwanegol, ynghyd ag ymdrechion cydunol ein cydweithwyr, yn enwedig yn rolau rheoli cyllid a chefnogi tenantiaeth, wedi gwneud cyfraniad arwyddocaol i reoli’n effeithiol y materion sy’n codi o gyflwyno’r ‘Treth Ystafelloedd Gwely’. Mater a fu’n foddhaus iawn eleni yw ein cyfraniad tuag at gynyddu’r nifer o dai fforddiadwy yn sir Conwy, drwy orffen adeiladu ‘tai newydd’ ym Mhenmachno, dymchwel ac ailddatblygu eiddo a ddynodwyd nad oeddent yn addas i bwrpas ym Mae Colwyn a Llandudno, a chaffael ac ailwampio ‘tai gwag’. Rwy’n diolch i fy nghyd aelodau gwirfoddol ar y Bwrdd am eu cyfraniad, eu hymrwymiad a’u cefnogaeth drwy gydol y flwyddyn.
Manylion Cyswllt Prif Swyddfa Morfa Gele, Parc Busnes Gogledd Cymru, Cae Eithin, Abergele, LL22 8LJ
Ynghyd â’r Bwrdd Rheoli, mae gweithwyr ar bob lefel yn y Gymdeithas gweithio’n galed gydol y flwyddyn ochr yn ochr â’n contractwyr, partneriaid strategol, tenantiaid a phreswylwyr lleol i sicrhau ein bod yn parhau i wireddu ein hamcan allweddol, sef creu cymunedau i fod yn falch ohonynt. Rwy’n falch o fod wedi bod yn rhan o hyn. Douglas Leech
Ffôn: 0300 124 0040 Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, anfonwch neges e-bost i: ymholiadau@cartreficonwy.org Gwefan: www.cartreficonwy.org
TUAG AT GYNYDDU’R NIFER O DAI FFORDDIADWY YN SIR CONWY SICRHAU EIN BOD YN PARHAU I WIREDDU EIN HAMCAN ALLWEDDOL, SEF CREU CYMUNEDAU I FOD YN FALCH OHONYNT
2
Adroddiad Blynyddol ar Weithgareddau Cartrefi Conwy 2013-2014
Crynodeb y Prif Weithredwr
Gweledigaeth a Gwerthoedd
Yn ystod cyfnod 1 Ebrill 2013 – 31 Mawrth 2014, cyflawnodd Cartrefi Conwy lawer o bethau, ac maent wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad hwn, roedd hefyd yn gyfnod arwyddocaol i ni wrth i ni ddathlu pen-blwydd y sefydliad yn 5 oed. Yn ystod ein pum mlynedd gyntaf rydym wedi cyflawni llawer o bethau, serch hynny rydym eisiau gwneud mwy, ac rydym yn gosod cynlluniau mwy uchelgeisiol i’n hunain bob blwyddyn. Yn 2013, fe wnaethom symud i’n pencadlys newydd yn Abergele, ac mae hyn yn dangos ymhellach ein hymrwymiad a’n hymroddiad i greu sylfaeni cryf yn sir Conwy a’n bod yma i aros.
Ein gweledigaeth yw darparu cartrefi a gwasanaethau cynaliadwy, fforddiadwy, o safon i gymunedau lleol sy’n ceisio annog cyfranogiad pawb a pharchu anghenion pawb. Mae gwneud cyfraniad real i adfywio, sy’n cael ei arwain gan dai yng Nghymru, yn rhan annatod o wireddu’r weledigaeth hon, “creu cymunedau i fod yn falch ohonynt”.
Ein prif amcan dros y blynyddoedd i ddod yw tyfu fel sefydliad tra’n sicrhau bod ein stoc bresennol yn cael ei gynnal at Safon Ansawdd Tai Cymru. Rydym yn ariannol gadarn er mwyn cynnal ein heiddo at y safon, tra’n troi â hyder i gyflawni amcan strategol arall sef adeiladu cartrefi newydd sy’n bodloni anghenion tai. Yn arwain y rhaglen datblygiad uchelgeisiol hon y mae cwblhad diweddar o chwe byngalo i bobl hŷn ym Mae Colwyn a chwe chartref anghenion cyffredinol ym Mhenmachno yn brosiectau ‘adeiladu newydd’, yn ogystal â chaffael ac ailwampio 4 tŷ gwag i sicrhau y gellir eu defnyddio eto. Mae hyn yn gyrhaeddiad gwych ar gyfer sefydliad mor ifanc ac rwy’n credu bod ein perthynas weithio â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, contractwyr/datblygwyr yn y sector preifat a Chydweithfa Crest yn allweddol i’n llwyddiant. Byddwn yn parhau i adeiladu ar y partneriaethau hyn wrth symud ymlaen, i gyflawni ein huchelgeisiau. Fe hoffwn hefyd achub ar y cyfle hwn i ddiolch i fy nghyd weithredwyr, cydweithwyr, aelodau’r bwrdd a grwpiau tenantiaid drwy gydol Cartrefi Conwy am eu gwaith caled, cefnogaeth ac ymrwymiad parhaol. Gobeithio y cewch fwynhad yn darllen ein hadroddiad gweithgareddau blynyddol ac y byddwch yn cytuno ein bod yn gwneud mwy na darparu cartrefi, rydym yn creu cymunedau i fod yn falch ohonynt. Andrew Bowden
Mae sylfaen ein Cynllun Busnes yn cynnwys tair elfen: Buddsoddi mewn pobl. Rhagoriaeth a llywodraethu mentrus. Cryfder ariannol a chraffter masnachol. Mae’r Cynllun Busnes yn cynnwys amcanion ar gyfer darparu yn erbyn pob un o’r tair elfen hon i sicrhau bod popeth yr ydym yn ei wneud yn cysylltu’n ôl i’n Cynllun Busnes. Â’r sylfaen ar waith, gall y Bwrdd wneud penderfyniadau strategol cadarn â chanolbwynt ar sail tair ‘addewid’ i denantiaid Cartrefi Conwy ar gyfer eu cyflawni yn ystod 2010 - 2015. Y tair addewid yw: Cyfranogiad pob tenant. Rhagoriaeth o ran gwasanaeth ac eiddo. Twf cynaliadwy i’n cymunedau. I gefnogi ein gweledigaeth, gwerthoedd Cartrefi Conwy yw: Trin pobl yn deg gyda gonestrwydd a thegwch. Ymrwymo i ddarparu safonau gwasanaeth ardderchog a bod yn gadarnhaol am hynny. Bod yn sefydliad agored a blaengar sy’n darparu’r gwasanaethau y mae eu hangen ar denantiaid. Gwrando ar gwsmeriaid ac ymgynghori â thenantiaid ar faterion sy’n gysylltiedig â pholisi a gwasanaeth. Diwylliant o ddidwylledd, gonestrwydd ac atebolrwydd. Creu amgylchedd lle caiff ei weithwyr eu gwerthfawrogi a gwireddu eu llawn botensial. Eirioli cynaliadwyedd ym mhob un o’n trefniadau darparu busnes a gwasanaeth. Cofleidio amrywiaeth ein cymunedau.
GWAITH CALED CYMORTH YMRWYMIAD Adroddiad Blynyddol ar Weithgareddau Cartrefi Conwy 2013-2014
3
Ein taith drwy 2013/14 Awst 2013 Diwrnod Hwyl i’r Teulu
Ebrill 2013 Gweinidog Tai yn Ymweld â Pharc Peulwys
Daeth Gweinidog Tai ac Adfywio Llywodraeth Cymru, Carl Sargeant i ymweld â Pharc Peulwys i gydnabod y gwelliannau sydd wedi digwydd ar yr ystâd gan Cartrefi Conwy.
Gorffennaf 2013 Ail-lansio Y Fron
Mae’r ganolfan yn cwmpasu gweledigaeth Cartrefi Conwy ar gyfer Tai Gwarchod yn y dyfodol. Cafodd y ganolfan gymunedol ei hailwampio’n llwyr drwy ymgynghori â thenantiaid a’r gymuned ehangach. Daeth Rupert Moon, cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru i ymuno yn y dathliadau yn yr agoriad swyddogol.
4
Adroddiad Blynyddol ar Weithgareddau Cartrefi Conwy 2013-2014
Cynhaliwyd ein pedwerydd Diwrnod Hwyl i’r Teulu ym Mharc Eirias ac roedd yn ddiwrnod llwyddiannus a gwerthfawr unwaith eto. Daeth tenantiaid o bob oedran i’r digwyddiad a chymryd rhan mewn amrywiaeth o ymgynghoriadau a gweithgareddau hwyl.
Chwefror 2014 Y Cynllun Plannu Mawr
Medi 2013 Cartrefi Conwy yn 5 Oed
Bu cydweithwyr yn dathlu pen-blwydd y sefydliad yn 5 oed a’r llwyddiannau rydym eisoes wedi’u cyflawni cyn cyrraedd y garreg filltir arbennig hon.
Bu tenantiaid, cydweithwyr ac asiantaethau partner yn cydweithio i blannu 1,624 o goed mewn un diwrnod. Y nod oedd creu ‘cymynrodd’ a budd amgylcheddol i’r gymuned, gan annog gwell bioamrywiaeth a llwybr natur i blant allu dysgu tra’n cael hwyl.
Mawrth 2014 Cwblhau Datblygiadau Adeiladau Newydd
Cwblhawyd chwe chartref anghenion cyffredinol ym Mhenmachno a chwe byngalo i bobl hŷn ym Mae Colwyn ac mae pobl yn byw ynddynt bellach.
Rhagfyr 2013 Lansiad Swyddogol Ein Pencadlys Newydd Fe greodd grŵp disgyblion ysgol o Ysgol Glan Gele, Abergele hanes drwy gladdu blwch amser yn ystod agoriad swyddogol y pencadlys newydd fis Rhagfyr 2013.
Adroddiad Blynyddol ar Weithgareddau Cartrefi Conwy 2013-2014
5
Cyfranogiad pob tenant Gwella’r modd y mae tenantiaid a phreswylwyr yn cyfranogi wrth ddylanwadu ar wasanaethau a’u llunio FFORWM TENANTIAID – oriau ymgysylltu ffurfiol 2013/14
637
250
169
218
89
65
6
Cyfanswm oriau gwirfoddoli mewn gweithgareddau ffurfiol
Nifer oriau gwirfoddoli ar gyfer y Pwyllgor Rheoli
Nifer oriau gwirfoddoli ar gyfer y grwpiau gwaith
Nifer oriau gwirfoddoli mewn grwpiau ffocws a gweithgareddau
Nifer oriau ymgysylltu mewn digwyddiadau fforwm tenantiaid
Nifer o denantiaid yn mynychu digwyddiadau fforwm tenantiaid
Nifer o denantiaid yn rhan o’r broses caffael/ contractau
Gwella gwasanaethau tai drwy gyfranogiad gwell tenantiaid a phreswylwyr
Cofnodwyd cyfanswm o o oriau ymgysylltu yn ystod y flwyddyn. Mae’r tabl isod yn dangos y nifer o weithgareddau ymgysylltu sydd wedi cael eu cofnodi eleni.
3,143
Diben y gweithgaredd/digwyddiad
Nifer o Nifer o denantiaid weithgareddau sy’n rhan o’r ymgysylltu gweithgareddau
Gwelliant cymunedol/gwasanaeth
6
65
Ymgynghori
3
13
Grwpiau ffocws
1
8
Digwyddiad Iechyd a Diogelwch
5
53
Gwella iechyd a lles
141
1167
Rhannu gwybodaeth
5
33
Arall (Diwrnod i’r Teulu)
1
459
Caffael
1
2
Cefnogi digwyddiad a noddwyd gan Cartrefi Conwy
2
30
Grŵp tenant a phreswylydd
25
447
Hyfforddi/meithrin sgiliau
10
43
Bwrdd Rheoli
2
2
CYFANSWM
202
2322
Yn rhoi cyfle i denantiaid eistedd a sgwrsio â thenantiaid eraill, a rhyngweithio’n gymdeithasol
Yn helpu tenantiaid i ffurfio cyfeillgarwch newydd, trafod unrhyw broblemau y gallai fod ganddynt a chynllunio prosiectau ar gyfer y dyfodol. Mae tenantiaid yn teimlo’n fwy cadarnhaol am eu cymuned.
Mae tenantiaid (teuluoedd ifanc) wedi cael y cyfle i gymryd rhan a datblygu eu grŵp rhiant a phlant bach eu hunain. Mae’n annog cyfranogiad cymdeithasol a gwell sgiliau/cyngor magu plant i’n tenantiaid. 6
Adroddiad Blynyddol ar Weithgareddau Cartrefi Conwy 2013-2014
Mae’r digwyddiadau hyn yn gwneud gwahaniaeth i’n cymunedau a thenantiaid unigol:
Datblygu sgiliau, gwybodaeth a gallu tenantiaid i’w galluogi i fod yn fwy dylanwadol
HYFFORDDI AELOD FFORWM TENANTIAID
88
Nifer oriau ymgysylltu mewn hyfforddiant a chynadleddau
Caiff tenantiaid a phreswylwyr eu cefnogi pan fyddant yn gweithio i wella eu cymuned
Cafodd deg tenant o gynlluniau tai gwarchod gwledig ac arfordirol gwahanol y cyfle i fynychu cwrs cynhwysiant digidol drwy gyfrwng ffotograffiaeth a oedd yn 10 wythnos o hyd. Nod y gweithdai oedd annog y defnydd o gyfrifiaduron, y rhyngrwyd a chyfryngau cymdeithasol mewn modd hwyliog a rhyngweithiol drwy ddefnyddio offer ffotograffig. Yn ystod y rhaglen, cafodd y cyfranogwyr eu cyflwyno i Facebook a Twitter, yn ogystal â meithrin y sgiliau i allu arbed a storio lluniau. Cafodd y tenantiaid y cyfle i fynd ar leoliad i dynnu lluniau o dan lygad medrus ffotograffydd Venue Cymru. Cafwyd adborth cadarnhaol iawn gan bawb a fynychodd am y cwrs gan ddweud sut mae’n fanteisiol iddynt yn eu bywyd o ddydd i ddydd. Mae pob cyfranogwr bellach yn aelodau o Facebook a gallant gyfathrebu â’u teuluoedd; rhannu lluniau a chadw mewn cysylltiad.
Caiff eu gwaith ei arddangos yn Venue Cymru fis Awst 2014 yn ogystal â’n Diwrnod Pobl Hŷn ym mis Hydref 2014.
8
Nifer o aelodau fforwm tenantiaid yn mynychu hyfforddiant a chynadleddau
Plannu coetir Parc Peulwys
Mae’r coetir a blannwyd gan denantiaid, cydweithwyr ac asiantaethau partner wedi sicrhau bod modd i dir gwair diffaith gael ei ddefnyddio eto yn ogystal ag ymgysylltu â thenantiaid yn y gymuned. Bu tenantiaid lleol yn cydweithio â Groundworks, Gogledd Cymru i ddatblygu’r llwybr natur. Cynhaliwyd tua 15 o sesiynau gan Groundworks a mynychodd pum tenant pob sesiwn gan ddysgu am blanhigion, bioamrywiaeth a chodi wal gerrig i wella eu dealltwriaeth o dirlunio a phlannu. Yna roedd modd iddynt ddefnyddio eu sgiliau a gwybodaeth drwy ddatblygu’r llwybr natur cynaliadwy. Bu’r tenantiaid a fu’n rhan o ddatblygu’r llwybr natur hefyd yn rhan o gwrs garddwriaeth a gafodd ei hwyluso’n flaenorol gan Cartrefi Conwy, ac mae’r ddau gwrs yma wedi arwain at adfywio grŵp Go Green a chydweithio er mwyn ceisio datblygu lleiniau tyfu. Mae pawb a fynychodd yn denantiaid sydd wedi bod yn ddi-waith am gyfnod hir ac sydd heb ymgysylltu â Cartrefi Conwy o’r blaen. Roeddem hefyd yn falch o glywed bod tenant a fynychodd y cwrs garddwriaeth wedi cael gwaith gyda Brenig, y contractwr a fu’n gwneud y gwaith amgylcheddol ym Mharc Peulwys.
Adroddiad Blynyddol ar Weithgareddau Cartrefi Conwy 2013-2014
7
Cais
Canran o Wariant o Roddion a Nawdd
Clwb Rotari Llanrwst
Rhedeg Cymru
Gŵyl Afon Conwy
Gŵyl Gorawl Gogledd Cymru
2%
6%
5%
8%
13%
Betws Ymlaen
13% 22% Grŵp Gweithredu Ieuenctid Abergele
23% 4%
Rygbi Gogledd Cymru
£ a ddyfarnwyd o dan Grant Cist Gymunedol eleni
£88,142
£ a ddyfarnwyd o dan roddion a nawdd
£33,811
Materion Ariannol Cafodd tenantiaid gyfle i fynychu cwrs Materion Ariannol a gafodd ei hwyluso gan Cartrefi Conwy mewn cysylltiad â Cymunedau yn Gyntaf. Cynhaliwyd y cwrs yng Nghanolfan Gymunedol Tan Lan yn Hen Golwyn gyda’r nos, a bu’n ymdrin â phynciau megis cyllido, cyfrifon banc a benthyg. Gwnaed 11 o atgyfeiriadau i Gynghorydd Cynhwysiant Ariannol Cartrefi Conwy am ei chefnogaeth bersonol i wneud y mwyaf o’u hincwm o fudd-daliadau a chyngor ariannol. Bu’r sesiynau hefyd yn gyfle i ddwyn sylw at beryglon benthyg ar stepen drws a darparu cymorth a chyngor i ‘dorri’ y gylched o fenthycwyr stepen drws.
4%
Clwb Pel Droed Betws yn Rhos Grŵp Menter Cynunedol Llew Coch
Caiff gwasanaethau ar gyfer prydleswyr eu gwella drwy well cyfranogiad Ym mis Mawrth 2013, fe wnaethom sefydlu fforwm i brydleswyr a gwahoddwyd pob prydleswr er mwyn iddynt allu ymgysylltu â Cartrefi Conwy a chael dweud eu dweud am y gwasanaethau maent yn eu derbyn. Ers creu’r fforwm hwn, cynhaliwyd dau gyfarfod a gwahoddwyd cydweithwyr o’r sefydliad i roi cyflwyniadau ar feysydd y byddai prydleswyr yn eu cael yn ddefnyddiol ac yn addysgiadol. Yn rhan o’n ymrwymiad i wasanaeth i gwsmeriaid, rydym wedi cyflwyno cymhorthfa un i un cyn pob cyfarfod fforwm, er mwyn hwyluso cyfweliadau preifat â chydweithwyr a phrydleswyr. Mae yna adran benodedig yn newyddlen ‘Gyda’n Gilydd’ sydd yn cael ei ddosbarthu i bob tenant a phrydleswr, gan sicrhau eu bod yn cael eu diweddaru ar faterion sy’n berthnasol i’r gwasanaeth y maent yn ei dderbyn. Drwy gyfrwng y fforwm hwn ac yn rhan o’n datblygiad parhaol, caiff prydleswyr eu gwahodd i adolygu cyfriflen tâl gwasanaeth presennol a datblygiad llawlyfr prydleswyr newydd.
8
Adroddiad Blynyddol ar Weithgareddau Cartrefi Conwy 2013-2014
“Roeddwn wrth fy modd â’r ardd berlysiau! Mwynhaodd y plant eu hun yn fawr. Digon o amrywiaeth, llawer i’w wneud. Heb ddiflasu o gwbl, mae’r plant wedi ymlâdd!!” Diwrnod o Hwyl Fis Awst 2013, cynhaliwyd ein pedwerydd Diwrnod Hwyl i’r Teulu ym Mharc Eirias, ac unwaith eto, roedd yn ddiwrnod llwyddiannus a gwerthfawr. Daeth tenantiaid o bob oedran i’r digwyddiad a chymryd rhan mewn amrywiaeth o ymgynghoriadau a gweithgareddau hwyl. Gyda phedwar parth thema llawn gweithgareddau hwyliog yn seiliedig ar iechyd a lles; cynhwysiad digidol; sgiliau bywyd; hyfforddiant a chyflogaeth a sut i wneud i bob punt fynd ymhellach, rhoesom y cyfle i denantiaid ddysgu mwy am y sgiliau bywyd allweddol a chael dweud eu dweud am y pethau sydd bwysicaf iddynt. Cafodd tenantiaid y cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau megis gweithdy animeiddio, gwyddoniaeth ar y stryd, cystadlaethau pêldroed, aerobeg cadair freichiau, lluniau cŵl a chafodd pawb amser da.
Twf Cynaliadwy i’n Cymunedau Tyfu’r busnes mewn modd cynaliadwy Mae rheoli ôl-ddyledion eleni wedi cadw’r lefel o ôl-ddyledion ar lefel derbyniol. Mae’r nifer o denantiaid sydd wedi cael eu heffeithio yn dilyn diwygio’r budd-daliadau wedi amrywio yn ystod y flwyddyn oherwydd newid yn amgylchiadau personol ein tenantiaid, ond y nifer uchaf o denantiaid oedd 249. Roedd y tenantiaid hyn yn colli naill ai 14% neu 25% o’u lwfans budd-dal tai yn erbyn eu rhent. Daeth gwerth y ddyled i uchafswm o £93,756 ar gyfer tenantiaethau a gafodd eu heffeithio gan y dreth ystafelloedd gwely. Mae’r lefel o ddyled wedi bod yn gostwng yn raddol dros y flwyddyn a chafodd hyn ei gyflawni drwy waith y tîm rheoli incwm ynghyd â darparu cefnogaeth i alluogi tenantiaid i symud i eiddo llai. Yn ystod y flwyddyn, symudodd 46 tenant i eiddo llai, ac felly nid yw’r dreth ystafelloedd gwely bellach yn effeithio arnynt. Trosglwyddodd nifer o’r rhain ôl-ddyledion i’w tenantiaeth newydd, ond mae’r ddyled yn cael ei rheoli gan y tîm rheoli incwm er mwyn ei adennill drwy’r gweithdrefnau arferol.
Mae nifer o’r tenantiaid hefyd wedi derbyn cymorth gan Cartrefi Conwy i wneud cais i’r Awdurdod Lleol am daliadau dewisol tai. Mae’r taliadau dewisol tai yn rhoi cymorth i denantiaid sydd wedi gweld cap neu ostyngiad yn eu budddaliadau. Cymeradwywyd 56 o daliadau dewisol tai eleni, ac yn eu tro maent wedi gostwng yr ôl-ddyledion rhent posibl a allai fod wedi cronni.
Tyfu ein cymunedau drwy arwain adfywiant tai
Darparwyd nifer o unedau newydd o lety: Pennawd DPA 1/4/2013 – 31/3/2014
5
NIFER WEDI’U CAFFAEL
12
NEWYDD
Adroddiad Blynyddol ar Weithgareddau Cartrefi Conwy 2013-2014
9
Yn ystod y cyfnod hwn rydym wedi cwblhau ein datblygiadau newydd cyntaf, gyda chwe chartref anghenion cyffredinol ym Mhenmachno a chwe byngalo i bobl hŷn ym Mae Colwyn, ac mae pobl bellach yn byw ym mhob un ohonynt. Drwy gydol y datblygiadau newydd hyn, rydym wedi cydweithio’n agos â’n contractwyr i sicrhau bod safonau uchel yn cael eu cynnal tra’n darparu ymrwymiad i ddefnyddio llafur lleol a chadwyni cyflenwi lleol. Rydym yn parhau i weithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy er mwyn ailwampio cartrefi a oedd unwaith yn wag, i’w defnyddio eto. Rydym hefyd yn falch o gyhoeddi yn ystod y cyfnod yma buom yn llwyddiannus yn cael caniatâd cynllunio er mwyn amnewid y cynllun tai gwarchod yn Llys Seiriol/Llys Eryl (Cysgod-y-Gogarth), Llandudno ble mae contractwyr bellach ar y safle ac yn datblygu yn unol â’r rhaglen a gynlluniwyd. Disgwylir y byddwn yn cwblhau’r gwaith erbyn 2015 a bydd y datblygiad newydd hwn yn darparu 26 o randai i bobl hŷn a phedwar o dai i deuluoedd.
Ymgysylltu â chymunedau i sicrhau datblygiad economaidd ac enillion cymdeithasol drwy brosesau caffael a mentrau cymdeithasol Comisiynwyd Building Maintenance Unit (BMU) yn brif gontractwr i gyflwyno cynllun palmant a ffensio Cartrefi Conwy, sef prosiect tair blynedd o hyd. Yn ystod y broses o archwilio’r gwaith ar y safle daeth BMU o hyd i gyfle i weithio â menter gymdeithasol i ddefnyddio’r prosiect i ddarparu profiad gwaith i bobl sydd wedi bod yn ddi-waith am gyfnod hir. Yn ystod y flwyddyn rydym wedi ymgysylltu â Cydweithfa Crest i ddiogelu cyfanswm o chwe lleoliad cynhwysiad cymdeithasol i gydweithio â gweithlu BMU. Bu hyn yn brosiect llwyddiannus iawn i BMU a CREST gan ei fod wedi sicrhau cyfleoedd hyfforddi a gwaith ar gyfer y rhai sydd yn ddi-waith ers cyfnod maith ac yn rhoi cyfle i’r ddau sefydliad adnabod gweithwyr at y dyfodol. Mae Cartrefi Conwy yn parhau i weithio ochr yn ochr â Chydweithfa Crest, sydd yn cynhyrchu ac yn cyflenwi’r deunyddiau ffensio ar gyfer y cynllun ffensio ym Mochdre. Drwy’r cynllun hwn gall Cydweithfa Crest fonitro eu cynnyrch a safon y cynnyrch tra’n cael profiad o gynhyrchu’r eitemau hyn. Yng Nghartrefi Conwy rydym yn prynu’r paneli ffensio ar gyfer y cynllun drwy Cydweithfa Crest sydd yn cynhyrchu’r rhain yn fewnol. Ers cychwyn y rhaglen, mae Cydweithfa Crest wedi gallu datblygu eu cynhyrchiad ymhellach na’r hyn roeddynt wedi ei ragdybio a nawr gallant gynnig eu paneli ffensio i gwsmeriaid eraill. Y nod tymor hir ar gyfer Cydweithfa Crest yw cynyddu trosiant ac elw a fydd yn ei dro yn cael ei ail-fuddsoddi i gefnogi gweithgareddau menter gymdeithasol pellach.
Oherwydd y rhaglen allanol:
60%
90%
Mae 60% o’r bobl a gyflogwyd wedi’u lleoli o fewn sir Conwy
15
eth Prentisia
10
Adroddiad Blynyddol ar Weithgareddau Cartrefi Conwy 2013-2014
Mae 90% o’r bobl a gyflogwyd wedi’u lleoli yng Ngogledd Cymru
1 drwy G Purchase a 14 prentisiaid a hyfforddeion ychwanegol sy’n gweithio ar ein rhaglenni drwy isgontractwyr i G Purchase.
Rhagoriaeth o ran Gwasanaeth ac Eiddo Ym mis Tachwedd 2013 fe wnaethom ennill cydymffurfiad llwyr ar gyfer gwasanaethu nwy, a bellach mae gennym dystysgrifau CP12 dilys ar gyfer 100% o’n eiddo. Mae cyflawni cydymffurfiad llwyr yn dynodi llwyddiant ein contract gyda rheolaeth gref o’r prosesau a chadw’n llym at y weithdrefn. Os na chaniateir mynediad, caiff achosion eu hatgyfeirio yn rheolaidd i’r awdurdod lleol ar gyfer gweithred llys.
Mae gan Cartrefi Conwy un rhif ffôn i gysylltu â nhw
cynllun Llys Seiriol/Llys Eryl ddim yn bodloni Safon Ansawdd Tai Cymru ac roedd angen moderneiddio helaeth i fodloni anghenion tai tenantiaid presennol ac ar gyfer y dyfodol. Drwy ymgynghori sylweddol, cytunwyd i ailddatblygu’r cynllun yn llawn at safonau cyffrous “Gofal Ychwanegol”. Cefnogwyd tenantiaid presennol i symud o’u cartrefi a daethpwyd o hyd i lety arall addas iddynt. Parhaodd tenantiaid i fod yn rhan mewn digwyddiadau a chyfarfodydd ymgynghori i wneud penderfyniadau allweddol am y cynllun. Roedd y datblygiad newydd, o’r enw ‘Cysgod y Gogarth’ yn ganlyniad i ymgynghori.
Ym mis Awst 2013 fe wnaethom lansio ein rhif Tîm Gwasanaeth i Gwsmeriaid 0300 124 0040. Bydd holl dderbynfeydd Cartrefi Conwy a’r ganolfan gysylltu ym Morfa Gele yn cefnogi’r rhif 0300 124 0040 a dyma’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pob ymholiad newydd, a gobeithir y gellir datrys ymholiadau yn ystod yr alwad gyntaf. Ar y rhif hwn bydd ein Tîm Gwasanaeth i Gwsmeriaid yn gallu helpu â’r canlynol:
Ymholiadau cyffredinol yn ymwneud â holl
wasanaethau Cartrefi Conwy Canfod pa waith atgyweirio sydd angen ei wneud a threfnu apwyntiadau cyfleus Gwneud taliad rhent, archebu cardiau AllPay neu holi am falans tenant Archebu Canolfan Gymunedol Proffilio Tenant Gwaith brys y tu allan i oriau arferol sydd angen eu dilyn i fyny
Caiff tenantiaid hŷn eu cefnogi i fyw’n annibynnol
Yn ystod haf 2013 fe wnaethom ail-lansio Canolfan Gymunedol Y Fron. Mae’r Ganolfan Gymunedol yn cwmpasu gweledigaeth Cartrefi Conwy ar gyfer Tai Gwarchod yn y dyfodol. Cafodd y ganolfan gymunedol ei hailwampio’n llwyr drwy ymgynghori â thenantiaid a’r gymuned ehangach. Mae’r ganolfan nawr yn cynnwys cyfleusterau ymolchi a sychu gwell i denantiaid sy’n byw yn y cynllun tai gwarchod yn yr ardal, lolfa benodol i denantiaid a chanolfan gymunedol wedi’i moderneiddio gan gynnwys cegin a chyfleusterau ymolchi.
Yn ystod y cyfnod hwn fe wnaethom gyflwyno rôl newydd sef Cydlynydd Ymgysylltu â Phobl Hŷn, sydd yn darparu rôl benodol i sefydlu a chefnogi gweithgareddau sydd wedi’u hanelu ar gyfer ein tenantiaid hŷn. Fe arweiniodd hyn at greu a datblygu rhaglen Angerdd am Fywyd. Ym mis Chwefror cychwynnodd y rhaglen Angerdd am Fywyd yng Nghanolfan Gymunedol Fron, Bae Colwyn a chymerodd deunaw o denantiaid o ledled Conwy ran yn y ‘Caffi bywyd’ cyntaf. Yn dilyn llwyddiant y digwyddiad hwn, bu tenantiaid o Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig eraill, gan gynnwys y rheini o ardaloedd gwledig, yn cymryd rhan yn y rhaglen sy’n newid bywydau a derbyniwyd adborth arbennig o gadarnhaol. Fel y soniwyd eisoes yn yr adroddiad hwn, rydym wedi derbyn caniatâd cynllunio i amnewid y cynllun tai gwarchod yn Llandudno. Yn anffodus, doedd
Roedd Cartrefi Conwy hefyd yn bartner allweddol wrth ddatblygu Strategaeth Tai Pobl Hŷn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a bu’n gweithio i weithredu’r strategaeth yn y sir. Roedd hyn yn cynnwys arwain ar ddatblygiad fforwm ar y cyd i gyflwyno rhagor o gyfleoedd ar gyfer ein Cydlynwyr Byw’n Annibynnol, i weithio â chydweithwyr mewn swyddi tebyg mewn cymdeithasau tai eraill. Galluogodd hyn i Gydlynwyr Byw’n Annibynnol hyrwyddo a throsglwyddo’r Gwasanaeth Byw’n Annibynnol i denantiaid Cartrefi Conwy a allai fanteisio o’r gwasanaeth hwn ond sydd ddim yn byw yn bresennol mewn cynllun dynodedig. Adroddiad Blynyddol ar Weithgareddau Cartrefi Conwy 2013-2014
11
Ein Sylfeini BUDDSODDI MEWN POBL Buddsoddi mewn staff drwy gyfleoedd hyfforddiant a datblygu
Mae Cartrefi Conwy yn parhau i fuddsoddi mewn cyfleoedd hyfforddiant a datblygu ar gyfer cydweithwyr. Yn ystod 1 Ebrill 2013 - 31 Mawrth 2014, cynhaliwyd 387 o weithgareddau datblygu i gydweithwyr. Roedd mentrau corfforaethol ar gyfer cydweithwyr rheng flaen ar Ymwybyddiaeth Cynhwysiant Ariannol a hyfforddiant Home Swapper yn uchel ar yr agenda er mwyn ymateb i’r agenda Diwygio’r Gyfundrefn Les. Cafodd mentrau hyfforddiant allweddol eraill eu cyflwyno ar draws y busnes hefyd gan gynnwys iechyd a diogelwch, Diogelu Data a dwy raglen Cyflwyniad Corfforaethol ar gyfer dechreuwyr newydd. Mae’r rhaglen anghenion Dysgu a Datblygu yn parhau i dyfu wrth i’r busnes gyflwyno meysydd newydd o waith ac mae’n annog datblygiad cyfrifoldeb ac ehangder cydweithwyr o fewn eu rolau, yn ogystal â darparu hyfforddiant arfer gorau a diweddaru gwybodaeth mewn sawl maes wth i’r tirwedd deddfwriaethol barhau i newid. Yn ogystal â pharhau i sicrhau bod ein contractwyr yn darparu gwaith a chyfleoedd hyfforddiant i’r rhai sy’n byw yn y sir ac yng Ngogledd Cymru, rydym wedi darparu cyfleoedd gwaith lleol yn uniongyrchol yng Nghartrefi Conwy sy’n cynnwys
4 prentisiaeth 34 Dangos arfer gorau mewn iechyd a diogelwch Yn ystod y cyfnod hwn, bu Cartrefi Conwy yn llwyddiannus yn gwneud cais am wobr Y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau (RoSPA). Gan ailadrodd llwyddiant y blynyddoedd blaenorol eto, dyfarnwyd gwobr Aur RoSPA i ni am gydnabyddiaeth arfer da wrth reoli iechyd a diogelwch yn y gweithle.
12
Adroddiad Blynyddol ar Weithgareddau Cartrefi Conwy 2013-2014
swydd wag a gafodd eu llenwi’n allanol
18
lleoliad profiad gwaith uniongyrchol
Twf 2 gydweithiwr Swyddi Cymru
LLYWODRAETHU MENTRUS A RHAGOROL Mae strwythyr y cwmni yn briodol i gefnogi cyflwyniad gwasanaeth cefnogol Mae creu ein pencadlys pwrpasol newydd ym Mharc Busnes Gogledd Cymru yn Abergele yn nodi pennod newydd gyffrous yn ein datblygiad corfforaethol. Mae’r swyddfeydd newydd, o’r enw Morfa Gele, sef cors arfordirol wrth ymyl afon, yn rhoi lle i ni ddod â gwasanaethau ynghyd ac yn gadael lle i ni dyfu. Mae sicrhau bod ein defnyddwyr gwasanaeth yn parhau i gael eu cefnogi yn ôl eu hanghenion, yn enwedig mewn amseroedd caled a heriol oherwydd newidiadau i Ddiwygio’r Gyfundrefn Les, wedi arwain at wneud newidiadau yn y ffordd y mae ein timau yn gweithio. Mae hyn wedi’i gyflawni trwy gydweithio efo staff wrth weithio yn fwy hyblyg a chroesawu cyfleoedd ar gyfer datblygiad personol.
Mae grwp o blant ysgol o Abergele wedi gwneud hanes wrth gladdu capsiwl amser yn Morfa Gele sydd am gael ei agor mewn 50 mlynedd.
Trwy gydol y flwyddyn, mae ein Bwrdd Rheoli wedi cyfrannu at ymgynghoriadau yn ymwneud ag arolwg diweddaraf y Fframwaith Rheoleiddio ac adolygiad dilynol Llywodraethu Cymdeithasau Tai Cymru. Mae aelodau’r bwrdd yn ymwybodol o’r cynnydd mewn ffocws rheoleiddio ar y Bwrdd i reoli risgiau i’r busnes a sicrhau bod trefniadau llywodraethu yn dangos arfer gorau.
Mae Cartrefi Conwy yn enwog o fewn y gymuned a chaiff ei lwyddiant ei ddathlu a’i rannu Mae’r dulliau o gyfathrebu rydym yn eu defnyddio yng Nghartrefi Conwy yn cydweithio er mwyn cynorthwyo aelodau’r gymuned i wybod pwy ydym ni a beth rydym ni’n ei wneud, i gynorthwyo cydweithwyr ar bob lefel i deimlo eu bod yn cael eu diweddaru, i gael eu cynnwys ac i wella ein brand, delwedd gref a’n henw da.
Roedd yn ddiwrnod balch iawn i fyfyrwraig Pensaernïaeth 20 oed o Ddinbych, Jade Reed-Williams, a ddyluniodd arwydd allanol yr adeilad.
Er mwyn rhoi syniad i bobl wybod pwy ydym ni a beth rydym ni’n ei wneud, ar gyfartaledd rydym yn derbyn 1958 o ymwelwyr unigryw i’n gwefan bob mis (o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol - 1645). Rydym yn derbyn sylw yn y wasg yn fisol yn y North Wales Weekly News, Daily Post a’r Pioneer, a phan fo’n berthnasol, rydym yn cael ein cynnwys yn y Rhyl Journal hefyd. Mae 243 o bobl yn ein ‘hoffi’ ar Facebook (+173 o’i gymharu â 31 Mawrth 2013) ac mae gennym 251 o ddilynwyr ar Twitter (fe wnaethom lansio ein cyfrif Twitter yn Hydref 2013). Mae ein sianeli cyfryngau cymdeithasol yn gyfrwng cadarnhaol iawn ble gall budd-ddeiliaid ymgysylltu â ni a’i gilydd.
Adroddiad Blynyddol ar Weithgareddau Cartrefi Conwy 2013-2014
13
Manylion Stoc Anghenion cyffredinol
Eiddo gwarchod
Tŷ/byngalo 1 gwely
47
281
Fflatiau - 1 gwely
345
450
Tŷ/byngalo - 2 ystafell wely
407
178
Fflatiau - 2 wely
445
132
Tŷ/byngalo - 3 ystafell wely
1281
4
Fflatiau - 3 ystafell wely
60
2
Tŷ/byngalo - 4 + gwely
70
0
Fflatiau - 4 + ystafell wely
1
0
Fflatiau un ystafell
8
40
CYFANSWM
2664
1087
Ar 31 Mawrth 2014, ein stoc tai oedd uned, sef:
3751
CYFANSWM
628
GAREJ AR RENT
157
3751
O BRYDLESWYR, SYDD WEDI PRYNU EU HEIDDO O DAN Y CYNLLUN HAWL I BRYNU AC MAENT YN TALU TÂL GWASANAETH BLYNYDDOL
14
UNED FASNACHOL NAD YDYNT YN ANHEDDAU
Yn ogystal, mae gennym:
Perfformiad Gosodiadau
Cartrefwyd oddi ar y rhestr aros
Ail-gartrefwyd, angen blaenoriaethol digartrefedd
Trosglwyddo
2013/14 (Ebrill-Mawrth)
168
64
127
6
365
2012/13 (Ebrill-Mawrth)
233
57
63
4
357
2011/12 (Ebrill-Mawrth)
201
58
65
7
331
Cyfnewid CYFANSWM
Colled eiddo gwag fel canran o’r rhent a godir Ym Mawrth 2014
1.73%
Ym Mawrth 2013
1.49%
Ym Mawrth 2012
1.31%
Ôl-ddyledion rhent Ym Mawrth 2014
2.27%
Ym Mawrth 2013
2.17%
Ym Mawrth 2012
2.20%
14
Adroddiad Blynyddol ar Weithgareddau Cartrefi Conwy 2013-2014
Perfformiad wedi’i osod yn erbyn cynllun busnes blynyddol gan ystyried gwaith ailwampio mawr a gwaith mawr mewn eiddo gwag.
Crynodeb o berfformiad ariannol O ble daw’r arian
ARIAN I MEWN
2013 - 14 £000’S
2012 - 13 £000’S
14,658
Rhenti a thâl gwasanaeth
13,933
664
Grant Cefnogi Pobl
649
1,171
Grantiau cyfalaf
270
2,600
Grant Llywodraeth Cynulliad Cymru
2,600
12
Grantiau eraill
0
240
Gwerthiant eiddo tai
193
3,000
Benthyciadau gan fenthycwyr preifat
7,500
129
Llog a gafwyd
7
566
Incwm arall
3,587
Lle mae’r arian yn mynd
ARIAN ALLAN
2013 - 14 £000’S
2012 - 13 £000’S
5,238
Rheoli tai
4,480
1,167
Gwasanaethau
1,179
2,411
Caffael eiddo
2,969
1,625
Gwella eiddo
3,683
3,457
Cynnal a chadw - arferol
3,126
5,142
Cynnal a chadw a gwaith trwsio mawr a gynlluniwyd
9,662
2,235
Prynu asedau sefydlog eraill
117
1,335
Llog a dalwyd a thaliadau tebyg eraill
1,081
1,004
Costau eraill
1,208
Adroddiad Blynyddol ar Weithgareddau Cartrefi Conwy 2013-2014
15
Bwrdd Rheoli ar 31.03.2014 Douglas Leech - Cadeirydd y Bwrdd Brian Horton - Is-Gadeirydd a Chadeirydd Pwyllgor Gweithrediadau Brian Roberts - Cadeirydd Pwyllgor Datblygu Christine Jones - Cadeirydd Pwyllgor Tâl Mair Jones - Cadeirydd Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg Huw Evans Chris Hughes Jim Illidge Ian Jenkins Colin Matthews Robert Redhead Clifton Robinson Dave Roberts Susan Shotter Bu’r canlynol yn gwasanaethu yn ystod y flwyddyn hefyd: Brian Leggett - Ymddiswyddodd Gorffennaf 2013 Robert Hawkes - Ymddiswyddodd Ebrill 2014 Aelodau Bwrdd a Phwyllgor Cyfetholedig yn gwasanaethu yn ystod y flwyddyn: Jacqueline Doodson (Ymddiswyddodd Mai 2014) Michael Mason (Ymddiswyddodd Mai 2014) Gareth Jones Tîm Rheoli Gweithredol: Andrew Bowden - Prif Weithredwr Tony Deakin - Cyfarwyddwr Cyllid Gwynne Jones - Cyfarwyddwr Gweithrediadau Ysgrifennydd y Cwmni: Sandra Lee
Mae proffiliau bob Aelod presennol o’r Bwrdd a’r Tîm Rheoli Gweithredol ar ein gwefan,
www.cartreficonwy.org
16
Cartrefi Conwy Annual Activities Report 2013-2014