ADRODDIAD BLYNYDDOL AR WEITHGAREDDAU 2014-2015
Cynnwys 3
GWELEDIGAETH A GWERTHOEDD
4
EIN TAITH DRWY 2014/15
6
CYNNWYS BOB TENANT
10
TWF CYNALIADWY I’N CYMUNEDAU
13
RHAGORIAETH MEWN GWASANAETH AC EIDDO
15
BUDDSODDI MEWN POBL
16
MANYLION STOC
16
PERFFORMIAD
17
CRYNODEB O BERFFORMIAD ARIANNOL
18
BWRDD RHEOLI 03.09.2015
Rhagair gan Gadeirydd y Bwrdd Mae’n rhoi pleser mawr i mi ar ran y Bwrdd Rheoli i gyflwyno’r Adroddiad Gweithgareddau Blynyddol sy’n rhoi trosolwg o’n cyflawniadau a gwybodaeth ariannol ar gyfer 1 Ebrill 2014 i 31 Mawrth 2015.
Mae eleni wedi bod yn un o dwf a chyflawniad sylweddol i Gartrefi Conwy, er gwaethaf effaith y newidiadau mewn budd-daliadau sy’n parhau i roi baich ar ein hadnoddau. Mae Cartrefi Conwy’n parhau i gyflawni ei addewid i greu cartrefi newydd yn sir Conwy. Yn goron ar y cyfan eleni oedd cychwyn nifer o ddatblygiadau adeiladu newydd sylweddol, yn cynnwys ein cynllun byw’n annibynnol blaenllaw yn Llandudno, Cysgod y Gogarth, a fydd yn cynnig 26 fflat un a dwy ystafell wely unwaith y byddant wedi’u cwblhau, wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer pobl dros 55 oed. Rydym hefyd wedi dechrau datblygu eiddo rhent ‘fforddiadwy’ newydd. Bydd y cyntaf o’r rhain yn ddatblygiad o 4 tŷ dwy a thair ystafell wely yn Nhan y Gogarth yn Llandudno.
Manylion Cyswllt Prif Swyddfa Morfa Gele, Parc Busnes Gogledd Cymru, Cae Eithin, Abergele, LL22 8LJ
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i fy nghydaelodau gwirfoddol o’r Bwrdd am eu hymrwymiad parhaus a chymorth gwerthfawr trwy gydol y flwyddyn. Hoffwn hefyd ddiolch i weithwyr Cartrefi Conwy am eu gwaith caled parhaus a’u hymrwymiad i wireddu ein gweledigaeth. Douglas Leech
Ffôn: 0300 124 0040 Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, anfonwch neges e-bost i: ymholiadau@cartreficonwy.org Gwefan: www.cartreficonwy.org Dilynwch ni:
2
Adroddiad Blynyddol ar Weithgareddau Cartrefi Conwy 2014-2015
TUAG AT GYNYDDU’R NIFER O DAI FFORDDIADWY YN SIR CONWY SICRHAU EIN BOD YN PARHAU I WIREDDU EIN HAMCAN ALLWEDDOL, SEF CREU CYMUNEDAU I FOD YN FALCH OHONYNT
Crynodeb y Prif Weithredwr Mae Cartrefi Conwy wedi cychwyn ar daith newydd gyffrous eleni. Er ein bod yn parhau i gynnal Safon Ansawdd Tai Cymru ar draws ein stoc tai presennol, rydym wedi sefydlu rhai partneriaethau newydd cyffrous sydd wedi ein galluogi i ddarparu ystod o wasanaethau newydd a chartrefi newydd i’n cymunedau lleol. Yn ein Hadroddiad Gweithgareddau Blynyddol diwethaf fe wnaethom osod amcan i dyfu fel sefydliad ac i adeiladu cartrefi newydd i fodloni anghenion tai, ac rydym wedi cyflawni llawer o ran yr amcan hwn dros y 12 mis diwethaf. Yr uchafbwynt i mi oedd ennill ‘Datblygiad Tai y Flwyddyn’ yng Ngwobrau’r Sefydliad Siartredig Tai eleni ar gyfer ein datblygiad o 6 chartref newydd ym Mhenmachno. Roedd y cynllun hwn yn hanfodol o ran cynnal y gymuned wledig hon. Rydym yn parhau i ddatblygu atebion tai newydd ledled y Sir; yn wir, eleni rydym wedi dechrau adeiladu 39 o gartrefi newydd ac wedi parhau i ddefnyddio cartrefi gwag unwaith eto. Rydym yn wirioneddol falch o’r ffaith bod hyn i gyd wedi cael ei gyflawni drwy ddefnyddio cadwyn gyflenwi leol. Yn wir, mae 96% o’n gweithwyr sy’n gweithio ar ein datblygiadau eleni yn dod o Ogledd Cymru, yn ogystal â chreu 6 chyfle prentisiaeth newydd. Rwyf hefyd yn falch iawn o gyhoeddi datblygiad ein Menter Gymdeithasol newydd, Creu Menter, a fydd yn dechrau masnachu’n ffurfiol 1 Ebrill 2015. Mae’r is-gwmni newydd hwn wedi’i greu o’n partneriaeth bresennol gyda Chwmni Cydweithredol Crest. Mae Creu Menter yn gweithredu fel Academi Gyflogaeth a fydd yn agored i unrhyw denant sy’n ddi-waith ac yn awyddus i gael cymorth i fynd i mewn i’r byd gwaith. Mae’n sicrhau bod Cartrefi Conwy yn gallu manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd cyflogaeth ar gyfer ein tenantiaid o fewn ein ffrydiau gwaith cyfredol, wrth ddefnyddio pŵer prynu llawn Cartrefi Conwy i sicrhau contractau cynaliadwy sy’n rhoi gwerth am arian yn y dyfodol. Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy am eu cefnogaeth barhaus dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae ein partneriaeth ardderchog wedi mynd o nerth i nerth sy’n cael ei ddangos yn y gwaith o greu Datrysiadau Tai Conwy. Mae hon yn bartneriaeth arloesol, yn seiliedig ar weledigaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy o “greu gwasanaeth opsiynau tai wedi’i frandio, sy’n hygyrch, yn fodern, yn canolbwyntio ar y cwsmer ac sy’n broffesiynol” yng Nghonwy. Yn y bôn, mae’n ‘siop un stop’ ar gyfer cyngor ar dai ac yn dwyn ynghyd arbenigedd o’r ddau sefydliad dan un to. Rydym yn parhau i wireddu ein gweledigaeth i greu cymunedau i fod yn falch ohonynt ac rwy’n siŵr y byddwch yn gweld o’r adroddiad hwn faint o waith da sydd wedi’i wneud rhwng 2014 a 2015. Andrew Bowden
Gweledigaeth a Gwerthoedd Ein gweledigaeth yw darparu cartrefi a gwasanaethau cynaliadwy, fforddiadwy, o safon i gymunedau lleol sy’n ceisio annog cyfranogiad pawb a pharchu anghenion pawb. Mae gwneud cyfraniad real i adfywio, sy’n cael ei arwain gan dai yng Nghymru, yn rhan annatod o wireddu’r weledigaeth hon, “creu cymunedau i fod yn falch ohonynt”. Mae sylfaen ein Cynllun Busnes yn cynnwys tair elfen: Buddsoddi mewn pobl. Rhagoriaeth a llywodraethu mentrus. Cryfder ariannol a chraffter masnachol. Mae’r Cynllun Busnes yn cynnwys amcanion ar gyfer darparu yn erbyn pob un o’r tair elfen hon i sicrhau bod popeth yr ydym yn ei wneud yn cysylltu’n ôl i’n Cynllun Busnes. Â’r sylfaen ar waith, gall y Bwrdd wneud penderfyniadau strategol cadarn â chanolbwynt ar sail tair ‘addewid’ i denantiaid Cartrefi Conwy ar gyfer eu cyflawni yn ystod 2010 - 2015. Y tair addewid yw: Cyfranogiad pob tenant. Rhagoriaeth o ran gwasanaeth ac eiddo. Twf cynaliadwy i’n cymunedau. I gefnogi ein gweledigaeth, gwerthoedd Cartrefi Conwy yw: Trin pobl yn deg gyda gonestrwydd a thegwch. Ymrwymo i ddarparu safonau gwasanaeth ardderchog a bod yn gadarnhaol am hynny. Bod yn sefydliad agored a blaengar sy’n darparu’r gwasanaethau y mae eu hangen ar denantiaid. Gwrando ar gwsmeriaid ac ymgynghori â thenantiaid ar faterion sy’n gysylltiedig â pholisi a gwasanaeth. Diwylliant o ddidwylledd, gonestrwydd ac atebolrwydd. Creu amgylchedd lle caiff ei weithwyr eu gwerthfawrogi a gwireddu eu llawn botensial. Eirioli cynaliadwyedd ym mhob un o’n trefniadau darparu busnes a gwasanaeth. Cofleidio amrywiaeth ein cymunedau. Adroddiad Blynyddol ar Weithgareddau Cartrefi Conwy 2014-2015
3
Ein taith drwy 2014/15 Tachwedd 2014 Y Cynllun Plannu Bylbiau
Mai 2014 Rhaglen adfywio Peulwys wedi’i chwblhau
Yn dilyn rhaglen gwella cartrefi gwerth £4 miliwn a rhaglen amgylcheddol o £1.1 miliwn, fe wnaeth Cartrefi Conwy ddathlu’r rhaglen adfywio lwyddiannus hon gyda lansiad.
Hydref 2014 Diwrnod Pobl Hŷn 2014
Ymunodd 147 tenantiaid â ni i ddathlu Diwrnod Pobl Hŷn. Mae’r digwyddiad blynyddol hwn yn dwyn ein tenantiaid hŷn ynghyd ac eleni fe wnaeth Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, ymuno â ni.
4
Adroddiad Blynyddol ar Weithgareddau Cartrefi Conwy 2014-2015
Daeth y gymuned, plant ysgol lleol a chydweithwyr Cartrefi Conwy at ei gilydd i ychwanegu bwrlwm o liw’r Gwanwyn at stad Peulwys ac fe wnaethant lwyddo i blannu 10400 o fylbiau mewn un diwrnod - anhygoel!
Ionawr 2015 Lansio’r Prosiect Ffocws ar Ffotograffiaeth
Tachwedd 2014 Gwobrau y Sefydliad Tai Siartredig
Roeddem yn falch iawn o gael ein dyfarnu â ‘Datblygiad y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Sefydliad Tai Siartredig Cymru ar gyfer ein datblygiad o 6 chartref newydd ym Maes y Waen, Penmachno.
Bwriad y prosiect arloesol hwn oedd gwella iechyd a lles pobl hŷn trwy eu cynnwys yn y celfyddydau. Gan weithio gyda Paul Sampson, ffotograffydd arbenigol o Venue Cymru ac Oriel Colwyn, fe wnaethom redeg gweithdy cynhwysiant digidol trwy gyfrwng ffotograffiaeth. Cafodd eu hymdrechion trawiadol eu harddangos i ganmoliaeth uchel yn Venue Cymru yn Llandudno ac Oriel Colwyn yn Theatr Colwyn yn ystod yr haf.
Ionawr 2015 Awch am Fywyd yn cyfarfod Esther Rantzen
Ym mis Ionawr eleni, cafodd rhaglen Awch am Fywyd Cartrefi Conwy ei rhoi ar y rhestr fer yng ‘Ngwobrau Arloesedd ac Arfer Da EROSH 2015’. Mae’r Wobr proffil uchel hon yn cydnabod arloesedd ac arfer da ac fe wnaeth ein Cydlynydd Cynhwysiant Pobl Hŷn a dau gyfranogwr gwreiddiol Awch am Fywyd gyfarfod Esther Rantzen (noddwr EROSH) yn y gwobrau mawreddog yn Llundain.
Tachwedd 2014 39 o gartrefi newydd wedi dechrau cael eu datblygu yn Llandudno
Eleni fe wnaethom ddechrau datblygiad mawr o 39 cartref newydd yn Llandudno. Cysgod y Gogarth (datblygiad o 26 fflat 1 a 2 ystafell wely a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer pobl dros 55 oed), Tan y Gogarth (4 cartref teuluol ar rent canolradd) ac yn olaf, ond nid y lleiaf, Llwyn Rhianedd (9 cartref teuluol newydd). Adroddiad Blynyddol ar Weithgareddau Cartrefi Conwy 2014-2015
5
Cynnwys bob tenant Gwella gwasanaethau tai drwy gyfranogiad gwell tenantiaid a phreswylwyr
Diben y gweithgaredd / digwyddiad 2014/15
Nifer o weithgareddau ymgysylltu
Nifer o denantiaid sy’n rhan o’r gweithgareddau
Gwella’r gymuned / gwasanaeth
2
240
Ymgynghori
10
153
Digwyddiad Iechyd a Diogelwch
3
32
Gwella Iechyd a Lles
137
1262
Cefnogi digwyddiad a noddir gan Cartrefi Conwy
10
43
Digwyddiad / cyfarfod tenantiaid a phreswylwyr
71
1196
Hyfforddiant / adeiladu sgiliau
14
55
Digwyddiad Bwrdd Rheoli
3
9
Cyfarfod partneriaeth / rhwydweithio
1
1
CYFANSWM
251
2991
Nifer y digwyddiadau / gweithgareddau yn 2014/15:
251
6
Adroddiad Blynyddol ar Weithgareddau Cartrefi Conwy 2014-2015
Nifer y tenantiaid a gymerodd rhan yn 2014/15:
2991
Caiff tenantiaid a phreswylwyr gefnogaeth wrth weithio i wella eu cymuned Lansio Sied Dynion Mae prosiect Llais MAWR Cymunedol Conwy wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Swyddog Cynhwysiant Pobl Hŷn Cartrefi Conwy i ddatblygu cyfres o Gynlluniau Peilot Sied Dynion yng Nghonwy ers mis Ebrill 2014. Mae’r grwpiau hyn wedi mynd o nerth i nerth yn ystod y misoedd diwethaf gyda dwy raglen lwyddiannus yn Llanrwst a Bae Colwyn. Mae’r siediau hyn yn darparu hafan ddiogel i ddynion ymlacio ynddynt ac i ymlacio oddi cartref lle gallant siarad ochr yn ochr â dynion eraill dros ‘baned’. Mae hyn yn lleihau unigedd cymdeithasol, yn adeiladu cydlyniad cymunedol ac yn golygu y gall dynion o bob cefndir elwa o weithgareddau yn y ‘sied’.
Gwella’r ffordd mae tenantiaid a phreswylwyr yn cyfranogi wrth ddylanwadu ar wasanaethau, a’u llunio Panel Trosolwg a Chraffu (adolygu Polisi Cynhwysiant Cymunedol a Gweithgareddau) Mae’r Panel Trosolwg a Chraffu’n cynnwys cynrychiolwyr o denantiaid, rhanddeiliaid eraill a gweithwyr Cartrefi Conwy. Mae’r panel yn mynd ati i adolygu a rhoi adborth adeiladol ar weithgareddau Cynhwysiant Cymunedol Cartrefi Conwy. Yn 2014 fe wnaeth y panel Trosolwg a Chraffu adolygu pa weithgareddau roedd Cartrefi Conwy yn eu gwneud er mwyn gweithredu’r Polisi Cynhwysiant Cymunedol.
Dywedoch chi, gwnaethom ni... Awgrymodd y panel ein bod yn edrych ar weithio gyda chwmni ddigwyddiadau i gefnogi’r gwaith trefnu Diwrnod Hwyl i’r Teulu. O ganlyniad, rydym wedi llogi cwmni trefnu digwyddiadau lleol i gydlynu’r adloniant ar gyfer y digwyddiad hwn ar raddfa fawr. Adroddiad Blynyddol ar Weithgareddau Cartrefi Conwy 2014-2015
7
During 2014/15 we have funded a range of projects:
Rhoddion a Nawdd – ble mae’r arian yn cael ei wario: Mae ein rhoddion ac arian nawdd yn cynnig cefnogaeth i amrywiaeth o brosiectau a mentrau i gefnogi’r cymunedau lleol rydym yn byw ynddynt. Yn ystod 2014/15 rydym wedi ariannu ystod o brosiectau:
MAE’R SIART HWN YN DANGOS Y DEG UCHAF SY’N DERBYN GRANTIAU
Gwasanaeth Ieuenctid Conwy Cais
Gwyl Afon Conwy
3%
Rygbi Gogledd Cymru (RGC)
3%
Access All Eirias
3%
17%
4% Banc Bwyd Abergele
5%
6% Gwobrau Tai Cymru CIH
10% 7%
8%
Shelter Cymru Nawdd Gwobrau Celfyddydau a Busnes
Ras Hwyl Cartrefi Conwy, Rhedeg Cymru Am y 3edd Flwyddyn, noddodd Cartrefi Conwy Ras Hwyl Conwy yn Nhachwedd 2014. Adborth gan Chris Yorke, Rhedeg Cymru: Bellach, mae ras hwyl Cartrefi Conwy wedi dod y ras hwyl fwyaf yng Ngogledd Cymru, gyda thua 150 o gyfranogwyr eleni, gyda llawer wedi gwisgo gwisg ffansi, rhai yn cerdded, rhai yn rhedeg, rhai yn hen, y rhan fwyaf yn ifanc, ond pawb wedi cael diwrnod gwych.
8
Adroddiad Blynyddol ar Weithgareddau Cartrefi Conwy 2014-2015
Llandudno Extravaganza
Clwb Biliards a Snwcer Cerrigydrudion Banc Bwyd Rhanbarth Abergele Mae’r rhodd a roddwyd gan Gartrefi Conwy wedi galluogi’r elusen i barhau i logi Rheolwr Prosiect am 3 mis, gydag arian cyfatebol a ddaeth i law gan y Gronfa Loteri Fawr a Fferm Wynt Gwastadeddau’r Rhyl. Adborth a gafwyd gan Linda Taverner, Rheolwr Prosiect ym Mhrosiect Gweithredu Ieuenctid Abergele: “Mae’r grant wedi ein galluogi i barhau i gyflogi rheolwr i’r banc bwyd i ddatblygu a pharhau i ddarparu gwasanaethau banciau bwyd, yn ogystal â chydlynu tîm o wirfoddolwyr. Ers i’r banc bwyd lansio ym Medi 2013, rydym wedi bwydo 713 o bobl, wedi casglu mwy na 8 tunnell o fwyd ac wedi dosbarthu tua 6.5 tunnell o fwyd!
Roedd yn edrych fel pe tai Clwb Cymdeithasol Biliards a Snwcer Cerrigydrudion yn gorfod cau, gan mai dim ond un ymddiriedolwr oedd ganddynt a dim arian i gwrdd â chostau rhedeg. Roeddent hefyd wedi’u ‘snwcro’ oherwydd bod yr adeilad, er ei fod yn strwythurol gadarn, â lleithder, yn anneniadol ac yn ddrud i’w wresogi. Diolch i’n Grant Cist Gymunedol (ynghyd â ffynonellau ariannol eraill), mae’r gwaith bellach wedi’i gwblhau ac aelodaeth y clwb eisoes wedi cynyddu bedair gwaith.
Cyfanswm a ddyfarnwyd i grwpiau cymunedol drwy’r Grant Cist Gymunedol:
£45,518 Diwrnod Hwyl i’r Teulu 2014
Roedd ein 5ed Diwrnod Hwyl i’r Teulu blynyddol ym mis Awst 2014, ac roedd yn llwyddiant ysgubol gydag ystod o weithgareddau llawn hwyl ac addysgiadol, digwyddiadau ac arddangoswyr, i ddenu tenantiaid a’u teuluoedd.
Nifer y tenantiaid yn ein Diwrnod Hwyl i’r Teulu 635 o unigolion = 311 o oedolion a 324 o blant
Adroddiad Blynyddol ar Weithgareddau Cartrefi Conwy 2014-2015
9
Twf cynaliadwy i’n cymunedau Tyfu’r busnes mewn ffordd gynaliadwy
MAE RHEOLI ÔL-DDYLEDION ELENI WEDI CYNNAL LEFEL DDERBYNIOL O ÔL-DDYLEDION.
2.33%
Cyfanswm ôl-ddyledion tenantiaid cyfredol fel canran o’r debyd gros blynyddol ar 31 Mawrth 2015
Er bod y ganran o ôl-ddyledion tenantiaid cyfredol yn llai na tharged y Cynllun Busnes, mae’n uwch na’r flwyddyn flaenorol wrth i bobl barhau i deimlo effaith rhaglen diwygio lles Llywodraeth y DU. Mae 309 o gartrefi yn dal i gael eu heffeithio gan y dreth ystafell wely (244 gyda gostyngiad o 14% a 65 gyda gostyngiad o 25%).
Cynyddu’r cyflenwad o dai newydd yn Sir Conwy Mae Cartrefi Conwy yn parhau i chwilio am gyfleoedd i gynyddu ei stoc tai; trwy ddatblygiadau adeiladu newydd a defnyddio eiddo gwag unwaith eto. Mae eleni wedi bod yn flwyddyn brysur i ni unwaith eto gyda nifer o ddatblygiadau newydd cyffrous yn dechrau siapio:
Cysgod y Gogarth / Tan y Gogarth, Llandudno Ym Mawrth 2014 fe wnaethom ddechrau gweithio ar ein datblygiad blaenllaw (gan gymryd lle fflatiau gwreiddiol Llys Seiriol) gyda chynllun adeiladu o’r newydd yn cynnwys 26 fflat un a dwy ystafell wely, a gynlluniwyd ar gyfer pobl dros 55 oed ac sy’n elwa o Wasanaethau Cydlynydd Byw’n Annibynnol. Bydd y mannau cymunedol a gynlluniwyd hefyd yn darparu canolbwynt i’r gymuned ehangach i annog rhyngweithio drwy weithgareddau cymdeithasol, a digwyddiadau dan arweiniad y tenantiaid a phreswylwyr lleol. Bydd Tan y Gogarth hefyd yn rhan o’r un datblygiad ac mae’n cynnwys 4 tŷ dwy a thair ystafell wely, i’w gosod ar sail rhent fforddiadwy. Dyma’r tai cyntaf i’w gosod ar y ddeiliadaeth hon o fewn stoc Cartrefi Conwy, gyda’r rhent yn cael ei gyfrifo ar 80% o rent marchnad cyfatebol y tŷ, a’u gosod i denantiaid sy’n gweithio ar incwm isel. 10
Adroddiad Blynyddol ar Weithgareddau Cartrefi Conwy 2014-2015
Llwyn Rhiannedd (Maesdu Road), Llandudno Dechreuodd y datblygiad hwn ym mis Ebrill 2014 ac mae gyferbyn ag Ysgol John Bright yn Llandudno ac yn cynnwys 9 tŷ dwy a thair ystafell wely ar gyfer anghenion cyffredinol. Cafodd y datblygiad hwn ei ddarparu gyda chymorth arian eiddo llai Llywodraeth Cymru i gynorthwyo i adeiladu cartrefi ar gyfer tenantiaid sy’n dymuno mynd i eiddo llai. Mae pob un o’r 6 thŷ â dwy ystafell wely wedi’u dyrannu i denantiaid sydd am fynd i eiddo llai yn sgil y diwygiadau lles a’r ‘dreth ystafell wely’ gysylltiedig.
11 Rosemary Avenue, Bae Colwyn
Cynllun Cartrefi Gwag Mae’r cynllun hwn yn anelu at gyflawni amcan llywodraeth leol a chenedlaethol o ddefnyddio cartrefi gwag unwaith eto. Mae’r cynllun yn cysylltu â phrosiect adfywio ‘Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid’, gan ganolbwyntio ar Gartrefi Gwag o fewn ardal Prif Gynllun Bae Colwyn. Mae pedwar eiddo ym Mae Colwyn wedi cael eu prynu a gwaith wedi’i gwblhau. Mae pumed tŷ hefyd wedi cael ei brynu ac mae bellach yn cael ei adnewyddu gan ddisgwyl y bydd yn cael ei gwblhau ym mis Medi 2015. Rydym ar hyn o bryd yn chwilio am 5 eiddo addas arall i’w prynu ym Mae Colwyn yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf i gyrraedd targed CBS Conwy o gaffael 10 cartref gwag erbyn 2016.
Ar ôl bod yn wag am 12 mis cafodd yr eiddo hwn ei ddosbarthu fel cartref gwag hirdymor gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Bu i ni brynu’r eiddo ym mis Tachwedd 2014 dan y cynllun cartrefi gwag i helpu i fynd i’r afael â’r newidiadau yn sgil diwygio’r gyfundrefn les. Tŷ tair ystafell wely bach oedd yr eiddo yn wreiddiol ac roedd mewn cyflwr adfeiliedig. Cafodd ei droi’n dŷ dwy ystafell wely mawr gyda’r nod o helpu’r rheiny a oedd yn chwilio am gartref llai. Cafodd yr eiddo ei droi’n gartref o safon uchel ac erbyn mis Mawrth 2015 roedd teulu yn rhentu’r eiddo. Roedd y teulu yma’n byw mewn tŷ tair llofft ym Mae Colwyn ac yn chwilio am dŷ llai.
Darparwyd nifer o unedau newydd o lety: Pennawd DPA 1/4/2014 – 31/3/2015
7
WEDI’U CAFFAEL
39
ADEILADAU NEWYDD A DDECHREUWYD
2
ANHEDDAU NEWYDD A GRËWYD
Adroddiad Blynyddol ar Weithgareddau Cartrefi Conwy 2014-2015
11
Ymgysylltu â chymunedau i gyflawni datblygiad economaidd a budd cymdeithasol drwy brosesau caffael a menter gymdeithasol Mae Cartrefi Conwy’n parhau i roi llawer iawn o bwys ar gadw’r bunt Gymreig yng Nghymru drwy gael llafur lleol o’n contractwyr, defnyddio cadwyn gyflenwi a datblygu prentisiaid lle bo modd. Mae’r ffigyrau canlynol yn dangos llwyddiant yr ymdrech hon drwy ein trefniant partneriaeth â G Purchase Construction:
gyda 2 ohonynt yn 3 Hyfforddai ddi-waith yn flaenorol
138
133
90
o weithredwyr
o ardal Gogledd Cymru (96%)
o leoliad Conwy (65%)
gyda 3 ohonynt 6 Phrentis yn ddi-waith yn flaenorol
Rhoddodd G Purchase hefyd dros £10,000 mewn budd cymunedol ychwanegol ar ffurf rhoddion a gwaith adeiladu wedi’i wneud heb unrhyw gost i’r gymuned.
Creu Menter Y contractwr cymdeithasol o ddewis Ar 1af o Ebrill 2015 lawnswyd Fenter Gymdeithasol newydd yn ffurfiol, o’r enw Creu Menter. Mae Cartrefi Conwy, mewn partneriaeth â Chwmni Cydweithredol Crest, wedi ffurfio is-gwmni Menter Gymdeithasol newydd; Creu Menter. Mae Creu Menter yn gweithredu fel Academi Gyflogaeth a fydd yn agored i unrhyw denant sy’n ddi-waith ac yn awyddus i gael cymorth i fynd i mewn i’r byd gwaith. Mae’n sicrhau bod Cartrefi Conwy yn gallu manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd cyflogaeth ar gyfer ein tenantiaid o fewn ein ffrydiau gwaith cyfredol, wrth ddefnyddio pŵer prynu llawn Cartrefi Conwy i sicrhau contractau cynaliadwy sy’n rhoi gwerth am arian yn y dyfodol.
12
Adroddiad Blynyddol ar Weithgareddau Cartrefi Conwy 2014-2015
Mae’r cysyniad yn syml; mae Cartrefi Conwy angen gwaith cynnal ar ei eiddo ac mae Crest â’r gallu a’r enw da i gefnogi a mentora’r rhai sydd bellaf i ffwrdd o’r farchnad lafur a’u helpu i gael gwaith. Drwy ddefnyddio ffrydiau gwaith Cartrefi Conwy, byddwn yn gallu rhoi profiad gwaith go iawn i bobl a fydd yn eu helpu i wella eu cymhelliant a’u sgiliau a thrwy hynny, eu galluogi i ddod o hyd i waith lleol. Bydd y ffrydiau gwaith yn cynnwys: Gwasanaeth Tasgmon
Peintio Allanol Glanhau Clirio eiddo gwag Garddio
Rhagoriaeth mewn gwasanaeth ac eiddo 30.5 DYDDIAU*
AMSER AILOSOD CYFARTALOG AR GYFER EIDDO GWAG SAFONOL *Y ffigwr a adroddir yma yw y dyddiau ar gyfartaledd a gymerir i ail-osod bwlch safonol yn C4 o 2014/15 heb gynnwys unrhyw eiddo anodd ei osod sydd wedi eu nodi yn y cyfnod.
3753 100% CYDYMFFURFIAETH NWY YM FIS HYDREF TAN DDIWEDD Y CONTRACT
16322
NIFER Y GWAITH TRWSIO A WNAED YN 2014/15
NIFER Y CARTREFI SY’N EIDDO CARTREFI CONWY AR 31 MAWRTH 2015
O ATGYWEIRIADAU BRYS A GWBLHAWYD O FEWN Y TARGED AR DDIWEDD MAWRTH 2015
Cynhwysiant ariannol: gwneud gwahaniaeth i fywydau tenantiaid Cafodd tenant ei gyfeirio gan Swyddog Incwm oherwydd bod teulu wedi chwalu, a oedd wedi arwain at y tenant a dau o blant yn cael eu gadael yn yr eiddo. Nid oedd y tenant yn delio â gwaith papur gan fod ei gyn-bartner yn delio â hyn ac roedd y tenant a’i gyn bartner yn gweithio. Roedd y tenant hefyd newydd gael ei ddiswyddo, felly nid oedd yn gwybod beth y gallai ei hawlio a pha gymorth y gallai ei deulu ei gael. Roedd y tenant yn ofidus iawn wrth iddo ddarganfod biliau heb eu talu ac nid oedd â’r arian i brynu bwyd i’r teulu. Gwnaeth y Swyddog Budd-daliadau Lles apwyntiad gyda’r tenant a gwneud cais yn syth am barsel bwyd, y gwnaethant fynd ag ef i dŷ’r tenant, ac fe wnaethant hefyd wneud cais am y Gronfa Cymorth Dewisol i helpu gyda dim incwm yn y tymor byr, tra gellir gwneud cais am fudd-daliadau eraill. Cwblhaodd y Swyddog Budd-daliadau Lles wiriad budd-daliadau llawn a oedd yn dangos bod angen iddo hawlio Lwfans Gofalwyr, Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Tai a Lleihau Treth y Cyngor, Prydau Ysgol am Ddim, Budd-dal Plant, Credydau Treth Plant, a hefyd y Lwfans Byw i’r Anabl ar gyfer ei fab.
Adroddiad Blynyddol ar Weithgareddau Cartrefi Conwy 2014-2015
13
Gweithio mewn partneriaeth Datrysiadau Tai Conwy Mae Datrysiadau Tai Conwy yn bartneriaeth arloesol, yn seiliedig ar weledigaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy o “greu gwasanaeth opsiynau tai wedi’i frandio, sy’n hygyrch, yn fodern, yn canolbwyntio ar y cwsmer ac sy’n broffesiynol, mewn partneriaeth â Chartrefi Conwy a rhanddeiliaid eraill, i atal digartrefedd lle bo’n bosibl, a lle mae digartrefedd yn anochel, i gefnogi teuluoedd i baratoi ar gyfer tai sefydlog a chynaliadwy”.
Mae swyddfa newydd ym Mae Colwyn gyda derbynfa cwsmeriaid wedi’i hadnewyddu’n llwyr yn cynnig “siop un stop” ar gyfer ystod eang o Ddatrysiadau Tai. Mae yna 4 elfen allweddol i’r gwasanaeth Datrysiadau Tai:
“Cefais rybudd gan fy landlord ac roeddwn mewn tipyn o banig gan nad oedd gen i gynilion ar gyfer blaendal, neu rent o flaen llaw. Fe wnaeth y staff yn Natrysiadau Tai Conwy fy helpu i ddod o hyd i eiddo i’w rentu’n breifat a fy helpu i ddiogelu rhent a blaendal ymlaen llaw. O’r cychwyn cyntaf roeddent yn garedig, yn gwrtais ac yn dangos empathi tuag ataf i.”
2. Gosod a Rheoli Eiddo – tîm arbenigol yn rheoli eiddo yn y sector rhentu preifat (gan gynnwys llety dros dro) a chynnig cymorth a chyngor i landlordiaid a thenantiaid lleol.
1. Canfod Cartref – rheoli ‘Cofrestr Tai Cyffredin’ newydd; maent yn helpu cwsmeriaid i ddod o hyd i gartref fforddiadwy yng Nghonwy, gan gynnwys dyrannu cartrefi cymdeithasol.
3. Atal Digartrefedd – atal digartrefedd a gweithio gyda chleientiaid i ddatrys anghenion tai a dod o hyd i ddatrysiadau tai tymor hir a sefydlog. 4. Cyswllt Tenantiaeth – grymuso a galluogi dewisiadau bywyd cadarnhaol a gwelliannau sy’n cefnogi byw’n annibynnol ac ymddygiad tenantiaeth cadarnhaol.
5000
NIFER YR YMWELWYR I SWYDDFA DATRYSIADAU TAI CONWY 340% O GYNNYDD MEWN MYNEDIAD I DAI CYMDEITHASOL A GWELLIANT TRAWIADOL O 116% O RAN MYNEDIAD AT Y SECTOR RHENTU PREIFAT
Sicrhau diogelwch ein tenantiaid gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru Rydym yn cymryd diogelwch ein tenantiaid o ddifrif, ac mae gennym berthynas waith ardderchog gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru. Yn wir, rydym â’n Swyddog Tân ymroddedig ein hunain (Chad Rogerson) a gyflogir gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ond sydd wedi’i leoli yn ein Swyddfeydd Cartrefi Conwy. Rôl Chad yw gweithio gyda’n tenantiaid i’w hannog i gael Archwiliad Diogelwch Tân yn y Cartref a rhoi cyngor cyffredinol ar ddiogelwch tân yn y cartref.
405 14
RHWNG MIS EBRILL 2014 A MIS MAWRTH 2015 MAE NIFER O ARCHWILIADAU DIOGELWCH TÂN YN Y CARTREF WEDI EU CYNNAL MEWN EIDDO CARTREFI CONWY
Adroddiad Blynyddol ar Weithgareddau Cartrefi Conwy 2014-2015
Buddsoddi mewn pobl Cartrefi Conwy – Achrededig fel Un i’w Wylio Roeddem yn falch iawn o dderbyn achrediad ‘Un i’w Wylio’ gan Best Companies eleni. Mae’r achrediad hwn yn seiliedig ar adborth ein cydweithiwr ynghylch beth maent yn ei feddwl am weithio yng Nghartrefi Conwy.
Hyfforddi a Datblygu
Gwobrau Busnes Conwy – Prentis y Flwyddyn
Mae Cartrefi Conwy yn parhau i fuddsoddi mewn cyfleoedd hyfforddi a datblygu cydweithwyr, gyda 1,521 o gyfleoedd hyfforddi a datblygu wedi’u rhoi i’n cydweithwyr rhwng mis Ebrill 2014 a Mawrth 2015. Yn ystod 2014/15, cafodd 14 o’n darpar reolwyr, rheolwr newydd a rheolwyr canol fynd ar ein rhaglen datblygu arweinyddiaeth a rheolaeth bwrpasol, wedi’i chynllunio a’i chyflwyno gan Ddysgu i Ysbrydoli ar y cyd â Chartrefi Conwy. Cafodd y rhaglen ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop ac fe wnaeth yr holl gynrychiolwyr gwblhau’r rhaglen 12 mis gyda 10 o gynrychiolwyr hefyd yn dewis cyflwyno gwaith cwrs ac ennill eu cymhwyster Lefel 5 gan y Sefydliad Siartredig Rheolaeth.
Llongyfarchiadau mawr i Guto Williams (ein Prentis Cyfryngau Creadigol Digidol) am ennill Gwobr Prentis y Flwyddyn yng Ngwobrau Busnes Conwy!
7 prentis gwaith wedi’u llenwi’n allanol 24 cyfle
16
lleoliad gwaith
Twf 1 lleoliad Swyddi Cymru
Alex, seren y dyfodol, yn ennill gwobr genedlaethol Dewch i gyfarfod ein seren y dyfodol, Alex Weaver, a enillodd y wobr nodedig hon yng Ngwobrau Sefydliad Tai Siartredig Cymru. Fe wnaeth Alex, a ddaeth atom fel Hyfforddai Rheoli Cymdogaeth, guro cystadleuaeth gref o bob cwr o Gymru i ennill y wobr nodedig hon.
Adroddiad Blynyddol ar Weithgareddau Cartrefi Conwy 2014-2015
15
Mae Cartrefi Conwy yn defnyddio nifer o wahanol sianeli cyfathrebu i gyfleu ei neges. Rydym yn parhau i dderbyn sylw rheolaidd yn y wasg leol ac yn cynnal nifer o ddigwyddiadau proffil uchel i ymgysylltu â’n tenantiaid. Eleni, gwelwyd cynnydd sylweddol yn ein presenoldeb cyfryngau cymdeithasol:
Mae Cartrefi Conwy yn gydnabyddedig iawn o fewn y gymuned ac mae llwyddiant yn cael ei ddathlu a’i rannu
O Fawrth 2014 i Ebrill 2015
+21k
3706
4308
+18k
Ymweliadau â’r wefan (Ymwelwyr Unigryw)
‘Likes’ Facebook
Dilynwyr Twitter
Ymweliadau â’r wefan (Ail Ymelwyr)
Manylion Stoc Anghenion Cyffredinol
% o’r holl stoc CC
Fflat
8
0.2
1 ystafell wely
408
10.9
2 ystafell wely
863
23.0
3 ystafell wely
1342
35.8
4 ystafell wely
68
5+ ystafell wely
CYFANSWM
600
Tai gwarchod
% o’r holl stoc CC
Fflat
40
1.1
1.8
1 ystafell wely
716
19.1
3
0.1
2+ ystafell wely
305
8.1
2692
71.7
CYFANSWM
1061
28.3
NIFER O GAREJYS AR RENT
157
NIFER Y PRYDLESWYR SYDD WEDI PRYNU EU HEIDDO O DAN Y CYNLLUN HAWL I BRYNU AC SY’N TALU TÂL GWASANAETH BLYNYDDOL
13
UNEDAU MASNACHOL NAD YDYNT YN ANHEDDAU
Yn ogystal, mae gennym:
Perfformiad Cartrefwyd oddi ar y rhestr aros
Ail-gartrefwyd, angen blaenoriaethol digartrefedd
Trosglwyddo
2014/15 (Ebrill-Mawrth)
159
89
33
12
281
2013/14 (Ebrill-Mawrth)
168
64
127
6
365
2012/13 (Ebrill-Mawrth)
233
57
63
4
357
Gosodiadau
Cyfnewid CYFANSWM
Colled eiddo gwag fel canran o’r rhent a godir
Ôl-ddyledion Rhent
Ym Mawrth 2015
1.08%
Ym Mawrth 2015
2.33%
Ym Mawrth 2014
1.73%
Ym Mawrth 2014
2.27%
Ym Mawrth 2013
1.49%
Ym Mawrth 2013
2.17%
16
Adroddiad Blynyddol ar Weithgareddau Cartrefi Conwy 2014-2015
Crynodeb o berfformiad ariannol O ble daw’r arian
ARIAN I MEWN
2014 - 15 £000oedd
2013 - 14 £000oedd
15,154
Rhent a thaliadau gwasanaeth
£14,658
650
Grant Cefnogi Pobl
664
1,485
Grantiau cyfalaf
633
2,600
Grant Llywodraeth Cynulliad Cymru
2,600
35
Grantiau eraill
12
197
Gwerthu tai
240
3,000
Benthyciadau gan fenthycwyr preifat
3,000
367
Llog a dderbyniwyd
129
837
Incwm arall
566
I ble aiff yr arian
ARIAN ALLAN
2014 - 15 £000oedd
2013 - 14 £000oedd
4,856
Rheoli Tai
5,238
1,214
Gwasanaethau
1,167
4,731
Caffael a Datblygu Eiddo
2,411
1,264
Gwelliannau Eiddo
1,625
3,011
Cynnal a Chadw – Arferol
3,457
6,444
Cynnal a Chadw ac Atgyweiriadau Mawr wedi’u cynllunio
5,142
149
Prynu asedau sefydlog eraill
2,235
1,448
Llog a dalwyd a thaliadau tebyg eraill
1,335
1,134
Costau Eraill
1,004
Adroddiad Blynyddol ar Weithgareddau Cartrefi Conwy 2014-2015
17
Bwrdd rheoli 03.09.2015 Douglas Leech - Cadeirydd y Bwrdd Brian Horton - Cadeirydd Gweithrediadau ac Is-Gadeirydd y Bwrdd Brian Roberts - Cadeirydd y Pwyllgor Datblygu Huw Evans - Cadeirydd Cydnabyddiaeth Ariannol Clifton Robinson - Cadeirydd Archwilio a Rheoli Risg Christine Jones Chris Hughes Jim Illidge - Cadeirydd y bwrdd Creu Menter Ian Jenkins Colin Matthews Rob Redhead David Roberts Elwen Roberts Susan Shotter Brian Hall Aelodau Bwrdd a Phwyllgor Cyfetholedig: Neil Ashbridge Gareth Jones Peter Parry Fiona Portlock Tîm Rheoli Gweithredol: Andrew Bowden - Prif Weithredwr Tony Deakin - Cyfarwyddwr Cyllid Gwynne Jones - Cyfarwyddwr Gweithrediadau Ysgrifennydd y Cwmni: Sandra Lee
Mae proffiliau bob Aelod presennol o’r Bwrdd a’r Tîm Rheoli Gweithredol ar ein gwefan,
www.cartreficonwy.org
18
Adroddiad Blynyddol ar Weithgareddau Cartrefi Conwy 2014-2015