Gyda'n gilydd Hydref 2014

Page 1

Hydref 2014

c r e u

c y m u n e d a u

i

f o d

y n

f a l c h

Dathliad Parc Peulwys Yn y newyddlen ddiwethaf fe wnaethom ni sôn am daith Ysgol Tan y Marian i Chwarel Aber i weld y garreg a fydd yn cael ei gosod ger mynedfa Parc Peulwys. Fel y gwelwch chi o'r llun mae’r garreg bellach yn ei lle ac mae’r gwaith amgylcheddol ym Mharc Peulwys wedi ei gwblhau. Ar ôl 8 mis o waith dwys i ailgynllunio'r mannau agored ar y stâd, ddiwedd mis Mai cawsom gyfle i ddathlu ein hymdrechion. Cafodd yr holl breswylwyr wahoddiad i ddiwrnod hwyl i agor 'Parc Peulwys yn swyddogol ac i ddiolch iddyn nhw am fod mor amyneddgar. Daeth y diwrnod i ben gyda mochyn rhost a pherfformiad gan fand byw ar gae'r ysgol. Mae'r gwelliannau, a oedd yn cynnwys ail-wneud y ffyrdd, creu llwybrau newydd, plannu cannoedd o lwyni a choed blodeuol, gosod deial haul dynol, creu cwmpawd cerrig/man eistedd a chreu mynedfa fawreddog, wedi cael croeso brwd gan y trigolion. Mae'r gwaith wedi ailfywiogi’r Gymdeithas Go Green, sydd wedi creu lleiniau tyfu ac yn cynllunio prosiectau amgylcheddol eraill. Maen nhw’n awyddus i gynnwys pawb yn yr ardal sydd eisiau helpu i gadw'r 'Parc' ym Mheulwys. Mae Cartrefi Conwy bellach yn y camau olaf o benderfynu ar yr ardal nesaf a fydd yn elwa o welliannau amgylcheddol mawr. Byddwn yn cyhoeddi enw’r ardal yn ystod y Diwrnod i'r Teulu ar 27 Awst.

o h o n y n t

CYMERWCH OLWG Y TU MEWN

Parc Peulwys yn denu ystafell ddosbarth o ymwelwyr tramor. Tudalen 2

Cystadleuaeth Luniau. Tudalen 4

Llongyfarchiadau. Tudalen 4

Ie cadarn ar gyfer Lleisiau@CartrefiConwy Tudalen 8

Cysylltiadau

Gwasanaeth Cwsmer 0300 124 0040

ymholiadau@cartreficonwy.org

Mae copïau sain o’r cylchlythyr hwn ar gael Gofynnwch am gopi drwy ffonio 01745 335345


^

GRW P GO GREEN PEULWYS Mae Cymdeithas Go Green Peulwys wedi ei sefydlu ers bron i chwe blynedd ac rydym ni bellach yn bwriadu caffael darn o dir cyfagos gan Gartrefi Conwy; sydd wedi bod yn gefnogol iawn i amcanion y Gymdeithas i ddatblygu gardd gymunedol a lleiniau tyfu gyda chwch gwenyn cymunedol. Ynghyd â Cartrefi Conwy rydym ni hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â Ffederasiwn Ffermydd Dinas a Gerddi Cymunedol, Groundworks a Bwrdd Partneriaeth Peulwys a'r Cylch. Yn ddiweddar, oherwydd oedi wrth dderbyn prydles y tir, rydym ni wedi cael defnyddio tir yr ysgol gynradd leol, sef Ysgol Tan Y Marian, er mwyn manteisio ar y tymor tyfu ac i roi cyfle i aelodau o’r gymuned gael mynediad i leiniau bach o dir i dyfu llysiau a blodau. Gan ein ni’n defnyddio tir yr ysgol, rydym ni’n helpu disgyblion yr ysgol iau ac Ysgol Fabanod Penmaenrhos i blannu hadau a thyfu llysiau ac yna i godi’r llysiau ar ddiwedd y tymor tyfu. Ein gweledigaeth yn y tymor hir ydi creu canolfan gymdeithasol fawr gyda gardd gymunedol sy’n rhoi cyfle i’r gymuned leol ddefnyddio lleiniau tyfu. Byddai hynny yn ei dro yn annog mentrau cymdeithasol, hyfforddiant a chyfleoedd gwirfoddoli er budd y gymuned leol a hynny ar garreg eu drws.

Gofod Ieuenctid Bae Cinmel Ar 16 Gorffennaf am 6.30pm cynhaliwyd sioe arbennig i’r teulu cyfan yng Ngofod Ieuenctid Bae Cinmel o’r enw Circo Rum Ba Ba. Ariannwyd a chyflwynwyd y digwyddiad gan Gyngor Celfyddydau Cymru a’r cynllun Noson Allan. Bu i dros 50 o denantiaid a phreswylwyr fwynhau’r sioe a oedd yn cynnwys comedi, acrobatiaid a thaflu cacen allan o sgert anferth!!! Roedd y gynulleidfa hefyd yn gallu cymryd rhan yn y perfformiad. Cynhaliwyd y sioe ar noson fendigedig o haf ym Mharc Rhodfa Caer ac roedd yna farbeciw a stondin lluniaeth wedi ei drefnu gan Collette Gaskell o'r Gwasanaeth Ieuenctid. Roedd hwyl a chwerthin i’w glywed ar draws y stâd. Derbyniodd yr holl blant a oedd yn rhan o’r perfformiad dystysgrifau. Mae ar Vicky Welsman, Rheolwr Datblygu’r Ty Cymunedol, eisiau diolch i bawb ddaru drefnu'r digwyddiad gwych yma.

Parc Peulwys yn denu ystafell ddosbarth o ymwelwyr tramor Bu i fyfyrwyr a ddefnyddion nhw eu gerddi eu hunain fel dosbarth yn ystod cwrs garddwriaethol ddenu ystafell ddosbarth o ymwelwyr tramor i weld canlyniadau gwych eu hymdrechion. Daeth 19 cynrychiolydd o 7 gwlad Ewropeaidd i Landudno ar ymweliad tridiau fel rhan o Brosiect Partneriaeth Grundtvig a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd. Roedd yr ymwelwyr yn dod o sefydliadau cenedlaethol a lleol o Lithwania, Hwngari, yr Iseldiroedd, Slofenia, y Swistir, y Ffindir a'r Weriniaeth Tsiec. Roedd yr ymweliad hwn yn rhan o brosiect Partneriaeth Grundtvig a gydlynwyd gan NIACE Cymru. Dywedodd Rheolwr y Rhaglen, Kay Smith o NIACE Cymru: “Rydym ni’n ffodus iawn bod gennym ni rywfaint o ddarpariaeth ragorol yn y maes hwn i arddangos prosiect cymunedol ac estyn allan, arferion dysgu yn y teulu a’r gweithle a phartneriaethau effeithiol”. Bu i’r ymwelwyr gyfarfod â thenantiaid Cartrefi Conwy a oedd wedi cofrestru ar y cwrs fel rhan o gynllun amgylcheddol gwerth £1.1 miliwn ar stad Parc Peulwys. Yn sgil y cyfle i ennill cymwysterau yn eu cymuned eu hunain, mae un tenant wedi cael swydd barhaol gyda'r contractwr tirlunio a oedd yn gweithio ar y cynllun ym Mharc Peulwys. Cafodd Steve McLeod waith ar ôl iddo gofrestru ar gwrs garddwriaeth a gwirfoddoli. Dywedodd: “Symudais yma i stâd Peulwys efo Morwenna fy ngwraig a Katlin fy merch fach chwe blwydd oed, o Lerpwl tua phedair blynedd yn ôl. Rydw i’n wreiddiol o Bootle ond mae Morwenna yn Gymraes. “Roeddwn i wedi bod yn ddi-waith ers peth amser ac wedi gwneud cais am gannoedd, neu hyd yn oed filoedd o swyddi. Roeddwn i wedi anfon cymaint o CVs at bobl, roedd y peth yn chwerthinllyd. Yna, cofrestrais ar y cwrs garddwriaeth a oedd yn cael ei redeg gan Cartrefi Conwy a bu i mi fwynhau’r cwrs yn fawr iawn. Roeddwn i wrth fy modd efo'r gwaith ac yn awyddus iawn i ddod o hyd i swydd lawn amser yn gwneud gwaith tirlunio a gwaith tir arall. Ar ôl i ni ddechrau gweithio ar y llwybr natur cefais gynnig swydd lawn amser efo Brenig Construction ." Tenant arall ddaru gofrestru ar y cwrs oedd Phyllis Higgins, sy’n 69 oed. Roedd hi'n falch iawn pan gytunodd Chris Joynson y tiwtor ei bod hi, a’i chyd-fyfyrwyr, yn cael mynd i'r afael â phroblemau yn ei gardd hi fel rhan o'u gwaith cwrs. Mae Phyllis wedi bod yn denant ym Mheulwys ers dros chwarter canrif a bellach wedi ymddeol o’i swydd fel Goruchwyliwr Domestig Ysbyty Bodelwyddan. Dywedodd Phyllis: “Bu i mi gofrestru ar gyfer y cwrs gan fod fy ngŵr, Brian, wedi marw. Roedd o mor wael ac nid oeddwn i'n gallu ei adael. Fe ddechreuodd fy ngardd dyfu'n wyllt, roedd gen i gywilydd ohoni ond doeddwn i ddim yn gallu garddio oherwydd bod yn rhaid i mi aros efo Brian. Ar ôl iddo farw bu i mi drio tocio’r planhigion a thacluso’r ardd. Yna, un diwrnod, cefais daflen drwy'r drws yn sôn am gwrs garddwriaethol ac roeddwn i’n meddwl ei fod yn syniad da. Rydw i wedi dysgu cymaint - a doeddwn i ddim yn sylweddoli cyn lleied roeddwn i’n gwybod am blanhigion, pridd a chwyn. Ond efallai mai'r peth gorau sydd wedi dod o’r cwrs ydi'r ffaith fy mod i wedi gwneud ffrind newydd.” Dywedodd Ruth, ymwelydd o'r Swistir: “Diolch yn fawr am rannu’ch profiadau efo ni. Gwaith gwych.” Dywedodd ymwelydd arall o'r Ffindir: “Roedd yn braf eich gweld chi’n creu gerddi ac amgylchoedd prydferth. Mae harddwch yn rhoi mwy o egni a hapusrwydd i ni. Gwaith gwych.”

2


Miloedd o ddarnau Mosaig yn troi logo ysgol yn gampwaith Yn syth ar ôl ennill gwobr genedlaethol ar gyfer prosiect gwau, ^ p o bobl mae’r grw ifanc o ystâd dai Bae Cinmel unwaith eto wedi troi at bobl hyn am help, y tro yma i greu campwaith allan o ddarnau bychain o deils. Gweithiodd deg o ddisgyblion Ysgol Maes Owen, ynghyd â ^ deg aelod o grw p ^ crefft Ty Cymunedol Rhodfa Caer, gyda’i gilydd am ddeg wythnos, gan gyfarfod pob dydd Mercher mewn clwb ar ôl ysgol, i greu mosaig crwn 5 troedfedd gyda logo’r ysgol arno. Gyda miloedd ar filoedd o ddarnau bach yn disgleirio yn haul yr haf ac yn cymryd ei le gyda balchder ar gorm simnai’r ysgol, cafodd y mosaig ei ddadorchuddio i'r gymuned ddydd Iau 17 Gorffennaf. Roedd yna ddathliad arbennig arall y diwrnod hwnnw hefyd, roedd Ed O'Keeffe, peiriannydd wedi ymddeol, yn cael ei ben-blwydd yn 70 oed. Ed oedd yr artist ddaru dynnu llun o’r cynllun ar gyfer y mosaig 5 troedfedd ar ôl derbyn delwedd 5cm o logo Ysgol Maes Owen – a hynny ar lawr yn ei ystafell fyw! Meddai Jacqueline Richmond, Maer Tywyn a Bae Cinmel: “Mae’n bleser mawr gweld prosiect mor wych yn y gymuned leol. “Bydd y logo yno i bawb ei weld ac yn dyst bod grwpiau sy'n pontio'r cenedlaethau yn gweithio'n dda er lles yr hen a’r ifanc yn ein cymuned. Fe ddylai pawb sydd wedi bod yn rhan o’r prosiect yma fod yn falch iawn o’u camp." Pan ofynnodd y pennaeth i’r disgyblion beth oedden nhw wedi ei fwynhau fwyaf am y prosiect fe gafodd gymysgedd o ymatebion brwdfrydig yn sôn am ba mor lliwgar a blêr oedd y prosiect a pha mor anodd oedd trio dod o hyd i ddarnau bychain lliwgar sy’n cyd-fynd â lliwiau logo’r ysgol.

AMGY L CH E D DOL

Canmolodd Vicky Welsman, Rheolwr Datblygu Ty^ Cymunedol Rhodfa Caer ^ Cartrefi Conwy, ymrwymiad y grw p crefftau a phlant yr ysgol wrth ddewis a dethol y miloedd ar filoedd o ddarnau bychain o deils i wneud y mosaig. Canmolodd Vicky aelod o'r Grwp Crefft, Jo O'Keeffe, gan ddweud: “Nid yn unig yr oedd Jo yn wych yn greadigol, ond roedd Jo hefyd yn help mawr i mi gydlynu popeth. “Mae hwn wedi bod yn brosiect partneriaeth gymunedol gwych ac ni fyddai wedi bod yn bosibl heb gydweithio llwyddiannus. “Hoffaf ddiolch yn arbennig i Gymunedau yn Gyntaf a roddodd £300 o arian 'Thema Dysgu' i ni ac i’r masnachwr adeiladu lleol, Roger Jones a gyflenwodd y deunyddiau am ddim ac i K & C Construction, adeiladwyr lleol, am osod y Mosaic. Dywedodd Aled Owen Rheolwr Safle K & C Construction: “Roedd yn dda bod yn rhan a helpu i osod y mosaig. Mae llawer o ddisgyblion sy'n mynychu'r ysgol yma yn byw yn un o'n datblygiadau cyfagos ac rydym ni’n weithgar iawn wrth gefnogi a helpu cymunedau yn ein hardal adeiladu.” Dywedodd pennaeth Ysgol Maes Owen, Catrin Foulkes: “Mae hi wedi bod yn wych unwaith eto gweld amrywiaeth o oedrannau yn gweithio efo’i gilydd. Mae hyn wedi bod yn hwb i hunan-barch y plant gan eu bod wedi gallu gweld eu gwaith caled a’u hymdrechion yn dwyn ffrwyth. “Rydw i’n hynod falch o'r gwaith rydym ni wedi ei wneud gyda Chartrefi Conwy a’u hymrwymiad i adeiladu cysylltiadau cymunedol ac asiantaeth. “Unwaith eto, mae'r gwaith mae ein plant wedi ei wneud gyda gwirfoddolwyr Ty^ Cymunedol Rhodfa Caer wedi bod yn wych a’r cwestiwn sydd ar wefusau pawb rwan ydi beth nesaf?"

Gwella Mynedfeydd Cymunedol Ydi’r fynedfa gymunedol yn eich fflatiau chi yn edrych hyll ac yn ddiflas? Na phoener! Rydym ni newydd ddechrau rhaglen i wella mannau mynediad cymunedol nifer o'n fflatiau aml-lawr. Gallai'r gwaith yma gynnwys gosod lloriau newydd, addurno a gosod balwstradau newydd. Dros y misoedd nesaf byddwn yn ymweld â fflatiau aml-lawr perthnasol ym Mae Colwyn, Hen Golwyn, Abergele, Llandrillo-yn-Rhos, Llandudno a Phenmaenmawr. Cyn y bydd unrhyw waith yn cael ei wneud bydd Swyddog Cyswllt Tenantiaid G Purchase yn cysylltu efo chi ac yn gofyn am eich barn chi ynghylch lliwiau a lloriau posibl. Bydd hefyd yn dweud wrthoch chi sut bydd y gwaith yn effeithio arnoch chi.

Oes yna fan agored yn eich cymdogaeth chi sy’n difetha harddwch eich ardal? Ydych chi a'ch cymdogion wedi siarad am wneud rhai newidiadau i'r ffordd y mae’ch cymdogaeth yn edrych? Efallai mai SOS Amgylcheddol ydi’r ateb rydych chi’n chwilio amdano. Mae dros 40 o Nodyn brosiectau, sy’n dod i gyfanswm o £100,000, wedi eu cymeradwyo yn ystod y tair blynedd diwethaf sydd wedi gwneud Atgoffa Mae’r newidiadau cadarnhaol i fannau agored yn ein cymdogaethau. Mae'r prosiectau hyn wedi amrywio o greu man cyfarfod ar gynllun tai gwarchod a chreu mannau cymunedol ar gyfer y gymuned gyfan i fuddsoddi mewn prosiectau ysgolion sy'n gwasanaeth SMS argyfwng yn agos at ein stadau tai. Os ydych chi’n meddwl y gallai SOS Amgylcheddol achub y dydd yn eich ardal chi, yna ffoniwch caniatáu i bobl fyddar, trwm eu Cartrefi Conwy a gofynnwch am y ffurflen gais syml a’r daflen wybodaeth. Ar ôl i ni dderbyn eich ffurflen gais, byddwn clyw ac efo nam ar y lleferydd yn y DU i yn edrych ar eich cynnig gyda phanel o denantiaid. Os ydi’ch prosiect chi’n cael ei gymeradwyo, yna bydd yn rhaid i anfon neges destun SMS i’r gwasanaeth chi gyflwyno eich syniad, efo nifer o syniadau eraill, yn ystod digwyddiad tenantiaid. Yno, bydd yr holl bobl sy'n 999 yn y DU. Mae angen i chi gofrestru ^ bresennol yn pleidleisio dros eu hoff brosiect. Felly, mae’r pw er i wneud penderfyniadau ac i ddewis pwy sy’n cael yr eich ffôn symudol cyn defnyddio’r arian yn nwylo’r tenantiaid. Gall brosiectau unigol gael hyd at £4,000 a chyda cyfanswm o £50,000 ar gael mi fydd yna gwasanaeth. Ewch i ddigon o enillwyr. Peidiwch â cholli'r cyfle yma i gael cymorth SOS Amgylcheddol yn eich cymdogaeth. http://www.emergencysms.org.uk Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau ydi dydd Gwener 10 Hydref 2014.

3


Cystadleuaeth Ffotograffiaeth Rhowch eich sgiliau ffotograffiaeth ar brawf! Fel rhan o'n gwelliannau arfaethedig i fynedfeydd cymunedol ein fflatiau aml-lawr, rydym ni’n chwilio am ffotograffwyr brwd i dynnu lluniau o olygfeydd neu dirnodau lleol. Bydd y ffotograffau yma wedyn yn cael eu defnyddio i addurno’r mynedfeydd perthnasol. I fod yn rhan o'r gystadleuaeth, anfonwch eich lluniau at communications@cartreficonwy.org ac os ydi’ch llun neu’ch lluniau chi’n cael eu dewis, nid yn unig y byddan nhw’n cael eu harddangos yn yr ardaloedd mynediad am flynyddoedd i ddod, ond byddwch hefyd yn derbyn taleb gwobr.

Cystadleuaeth

Gwelliannau Amgylcheddol Bryn Eglwys a Maes Glas Mannau cymunedol wedi tyfu'n wyllt, biniau olwyn wedi eu chwythu i bob man, dim lein ddillad a dim lle i eistedd allan i fwynhau'r tywydd braf. Dyma rai o'r sylwadau a gawsom gan denantiaid Bryn Eglwys a Maes Glas yn Llandrillo-yn-Rhos. Yn dilyn cyfnod o ymgynghori, lluniwyd rhaglen o welliannau amgylcheddol ar gyfer yr ardal i geisio mynd i’r afael â rhai o'r materion yma. Roedd y rhaglen yn cynnwys creu saith man caeedig i finiau olwyn a gwella tair gardd gymunedol – a oedd yn cynnwys lefelu'r tir, codi ffensys a giatiau a gosod leiniau dillad. Rydym ni bob amser yn chwilio am gyfleoedd i wella mannau gwyrdd a sut gallwch ddefnyddio’r mannau yma. Felly, os oes gennych chi syniad fe allwch chi naill ai fanteisio ar y cynllun SOS Amgylcheddol neu fynd at eich Cydlynydd Cymdogaeth.

Llongyfarchiadau Fel rhan o ddathliadau cenedlaethol Wythnos y Gwirfoddolwyr, cynhaliodd Canolfan Gwirfoddoli CGGC ddigwyddiad dathlu ar 4 Mehefin, a gefnogwyd gan Gymunedau yn Gyntaf, i gydnabod y cyfraniad anhygoel y mae’r holl wirfoddolwyr yng Nghonwy wedi ei wneud. Llongyfarchiadau i driawd Cartrefi Conwy, Sylvia Duxbury, Tina Turner a Joan O'Keeffe (tenantiaid) a dderbyniodd dystysgrifau i gydnabod yr oriau o waith gwirfoddol a'r gwahaniaeth y maent wedi ei wneud yn ein cymunedau.

Cyfle i ennill tocyn teulu (5 o bobl) ar gyfer gêm gartref RGC o'ch dewis chi a bag nwyddau RGC Undeb Rygbi Cymru. Y cyfan sydd arnoch chi angen ei wneud ydi ateb y cwestiwn canlynol. Beth oedd safle terfynol RGC1404 yng Nghynghrair Pencampwriaeth SWALEC y tymor diwethaf 2013/14? I gystadlu, anfonwch eich ateb at communications@cartreficonwy.org neu ffoniwch y tîm cyfathrebu ar 01745 335345 erbyn 1 Hydref 2014 fan bellaf. Cofiwch gynnwys eich enw llawn, eich cyfeiriad a’ch rhif ffôn. Pob lwc!

4

Gwobrau TPAS Daeth Lara Fox, Tenant Cartrefi Conwy, yn drydydd yng nghategori Tenant Ifanc y Flwyddyn. Daeth Lara yn gefnogwr digidol gan helpu llawer fynd ar y “rhaglen cymryd rhan yn ddigidol” yn ei chymuned ym Mae Cinmel.

Cyflogwr Coleg Cambria a Dyfarniadau Myfyrwyr Cymunedol 2014 Mae ein sefydliad yn falch iawn o Zara Roberts, enillydd gwobr Dysgwr Tai y Flwyddyn 2014. Roedd Carl Sergeant, y Gweinidog Tai, yn bresennol yn y gwobrau a bu iddo longyfarch Zara ar ei llwyddiant.


Gwasg y Bobl Hy^n Diwrnod Pobl Hy^n Ein thema eleni ydi ‘Awch at Fywyd’, rhaglen newydd sbon gyffrous Cartrefi Conwy wedi ei theilwra'n benodol ar eich cyfer chi. Mae Awch at Fywyd wedi ei gynllunio i wella eich iechyd a'ch lles drwy sesiynau hwyliog, thema a rhyngweithiol. Dewch draw i ddysgu mwy yn y gweithdai Awch am Fywyd sy'n cynnwys: • • • •

Aerobeg a Symud i Gerddoriaeth ar eich Eistedd Sesiynau blasu pampro, gan gynnwys tylino Gweithdy deall arian a’r rhyngrwyd Celf a Chrefft

Dewch draw, gallwch gymryd rhan cymaint neu gyn lleied ag yr hoffech. Cofiwch, chi piau’r dewis. Eich diwrnod chi ydi o felly mae’n bwysig eich bod chi’n teimlo’n gyfforddus. Byddwch yn derbyn eich gwahoddiad personol i’r digwyddiad cyffrous yma yn y post yn fuan. Cysylltwch â'ch Cydlynydd Byw'n Annibynnol neu Nerys Veldhuizen am fwy o fanylion ar 01745 335572

Marl Crescent Cruisers mawr o ddwr ar y ffordd yn ôl i gartref y rheiny a oedd yn edrych ar fy ôl i, roedd gen i ofn mawr cael ffrae ganddyn nhw. Felly, mi benderfynais mai’r peth gorau i mi ei wneud oedd ffoi yn ôl am adref, i Lerpwl. Yn ffodus, ar y ffordd o Benbedw mi nes i gyfarfod cwpwl caredig ddaru gynnig mynd â fi efo nhw, ond gan ei bod hi mor hwyr pan gyrhaeddais i roedd yn rhaid i mi aros dros nos efo nhw. Erbyn cyrraedd Lerpwl drannoeth roedd fy mam yn poeni yn arw amdanaf gan fod rhywun wedi dweud wrthi fy mod i ar goll. Gyda'r haul yn boeth ar ein hysgwyddau a’r gerddi yn llawn hyd yr ymylon o flodau lliwgar, bu i ni gael sgwrs efo rhai o’r merched hyfryd yn eu cartrefi yng nghanol Cyffordd Llandudno. Roedd Lillian?, Yvonne Cox ac Iona Roberts o fyngalos Marl Crescent wedi ein gwahodd i sgwrsio am 'Marl Crescent Cruisers', clwb y maen nhw a chyd breswylwyr eraill wedi ei sefydlu yn ddiweddar gyda chymorth grant sefydlu Cartrefi Conwy. “Y prif reswm dros sefydlu'r clwb mewn gwirionedd oedd i gymdeithasu ac i gael arian i dalu am gludiant i fynd allan efo’n gilydd am de prynhawn. Dydi Lilian ddim yn gallu symud cystal â rhai ohonom ni, ond mae bod yn rhan o’r clwb yn golygu nad ydi hi’n colli allan ar sgwrs a phaned o de. Ac rydym ni wrth ein bodd yn clywed ei hanesion difyr, yn enwedig y rhai am adeg y rhyfel." Bu i Lilian, sy’n 83 mlwydd oed ac wedi bod yn byw yn y byngalos ers 14 mlynedd bellach, gwrdd â'i gwr pan oedd hi'n aelod o’r Awyrlu Brenhinol. Cytunodd, mae hi’n hoff iawn o hel atgofion, yn arbennig o flynyddoedd y rhyfel. Treuliodd Lilian ei phlentyndod yn Lerpwl a bu iddi orfod ymgilio deirgwaith yn ystod y rhyfel. Chwarddodd pan adroddodd hanes yr ymgiliad olaf a’r helbul y bu iddi achosi.

Ar ôl hynny roedd mam wedi cael digon ar yr ymgilio a bu iddi anfon neges at fy nwy chwaer i ddychwelyd adref i Lerpwl i fyw efo hi a’m brawd bach hyd ddiwedd y rhyfel." Mae Marl Crescent Cruisers yn edrych ymlaen at wneud y gorau o fisoedd yr haf ac yn prysur drefnu boreau coffi gyda stondinau trugareddau i godi arian ar gyfer teithiau’r clwb yn yr hydref a'r gaeaf.

Byddwch yn barod i ddathlu! Dyddiad i’ch dyddiadur! Bydd ein Diwrnod Pobl Hŷn ar 1 Hydref 2014 yn Kinmel Manor, Abergele o 11am tan 5pm. Peidiwch â cholli allan!

PEN AC YSGWYDDAU AR Y BLAEN Y canlyniad gorau posibl i Tina Turner a oedd wedi gwirioni pan ddywedodd hi wrthym ni am ^ lwyddiant ei grw p Bryn Difyr yng nghystadleuaeth 'Pen yn ei Blodau'. “Dyna’r tro cyntaf i ni gystadlu ac roeddem ni wedi gwirioni’n lân am gael 1af a dau 2il, rhywbeth na fu i ni erioed ddisgwyl. “Roeddem ni’n ffodus iawn i dderbyn £840 drwy’r Gist Gymunedol ym mis Ebrill, y tro cyntaf i ni wneud cais. Bu i ni wario £500 ar fasgedi crog, hadau planhigion a phridd – ac mae’r blodau bellach yn wledd i’r llygaid. Mae’r lle’n edrych yn wych ac yn neis iawn. Roedd o’n waith caled iawn ond roedd yn werth y drafferth. Rydym ni’n bwriadu defnyddio gweddill yr arian i gynllunio teithiau i’r preswylwyr. Oherwydd ein llwyddiant eleni rydym ni’n gobeithio ymgeisio am fath arall o gyllid i gynnal a chadw’r ardal." Am fwy o wybodaeth am grantiau Cartrefi Conwy, gan gynnwys y grant sefydlu a grant y Gist Gymunedol, cysylltwch â’r Tîm Cyfathrebu ar 01745 335345 neu anfonwch e-bost at cyfathrebu@catreficonwy.org

“Yn wlyb domen dail ar ôl neidio i mewn i bwll

5


Datrysiadau Tai Conwy wedi ei lansio! Ddydd Llun, 30 Mehefin, lansiwyd Datrysiadau Tai Conwy sydd wedi ei leoli yn 41 Ffordd Conwy, Bae Colwyn. Mae Datrysiadau Tai Conwy yn bartneriaeth newydd rhwng Cartrefi Conwy a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac yn cynnig siop un alwad ar gyfer eich holl opsiynau tai, gan roi’r cwsmer wrth wraidd eu gwasanaeth. Beth fydd hyn yn ei olygu i chi? Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chartrefi Conwy yn rhannu swyddfa 41 Ffordd Conwy, lle byddwch chi’n gallu cael mynediad i'r gwasanaethau canlynol fel y rhestrir ar y tabled (ar dde): Am fwy o wybodaeth am wasanaethau Datrysiadau Tai Conwy, cysylltwch â 0300 124 0050 neu ewch i wefan www.taiconwy.co.uk

Gall Gwasanaeth Hawliau Lles a Chynhwysiant Ariannol Cartrefi Conwy helpu tenantiaid

u Tai a n y i s ar Op r o g n h • Cy yda’c g h t or • Cym ntiaeth l Tena u Ata a h t e sana • Gwa rtrefedd d Diga refed t r a g i gan D • Dat iadau i l o h m a • Y str T Cofre CBSC th sanae rtref a w G • d Ca Canfo u aetha n a s a • Gw eriaid Cwsm fi Conwy e Cartr th antae i s A • Tai Gosod thasol i Cymde

Cydweithfeydd bwyd Beth yw Cydweithfa Fwyd?

• Gwneud cais ar gyfer budd-daliadau e.e. budd-dal tai, budddal Treth y Cyngor a budd-dal anabledd • Rheoli dyledion a chysylltu â chredydwyr • Derbyn y bargeinion ynni gorau • Gwiriad iechyd ariannol am ddim i edrych ar eich incwm a’ch gwariant. Mae Lisa Jones, Mike Thomas a Linda Holmes yn ceisio helpu tenantiaid i wella eu sefyllfa ariannol ac mae'r gwasanaeth yn rhad ac am ddim i denantiaid Cartrefi Conwy. Rydym ni wedi gweld dros 200 o denantiaid ers mis Medi y llynedd. Os hoffech chi ein cymorth ni, ffoniwch Gwasanaeth Cwsmeriaid Cartrefi Conwy ar 0300 124 0040. Fel arall, fe allwch chi siarad efo’ch Swyddog Incwm, eich Cydlynydd Cymdogaeth neu’ch Cydlynydd Byw'n Annibynnol.

Mae cydweithfa fwyd yn ffordd syml o brynu ffrwythau a llysiau ffres yn eich cymuned a chefnogi busnesau lleol ar yr un pryd. Mae’r cydweithfeydd bwyd yn cael eu rhedeg yn wythnosol gan wirfoddolwyr mewn lleoliadau cymunedol fel ysgolion, canolfannau neu weithleoedd. Mae'r holl gynnyrch a gyflenwir drwy'r cydweithfeydd bwyd yn dod o gyflenwyr lleol sy'n dewis ffrwythau a llysiau ffres yn ôl y tymor, argaeledd a gwerth. Y cwbl sydd arnoch chi angen ei wneud ydi galw heibio’ch cydweithfa fwyd, archebu’ch nwyddau, talu, ac yna nôl y nwyddau ffres yr wythnos ganlynol. Mae yna oddeutu 300 o gydweithfeydd bwyd cymunedol yng Nghymru. Yn ogystal â’ch helpu i fwyta'n iach, mae’r cydweithfeydd bwyd hefyd yn eich helpu i arbed arian. Mae rhai cydweithfeydd bwyd hefyd yn cynnig cynnyrch fel wyau yn ychwanegol at lysiau a ffrwythau. Mae llawer ohonyn nhw’n gysylltiedig â gweithgareddau cymunedol eraill. Ewch i www.foodcoopswales.org.uk i ddod o hyd i gydweithfeydd bwyd yn eich ardal chi.

6


Popeth sydd arnoch chi angen ei wybod am ddyled: Rhan 1 Mae llawer o bobl yn cael trafferthion ariannol. Os ydych chi yn y sefyllfa yma, golygu mai dim ond hanner yr hyn rydych chi’n ei dalu sy’n cael ei anfon at eich credydwyr. O ganlyniad, bydd yn cymryd dwywaith yn fwy o amser i chi dalu’ch dyma ychydig o awgrymiadau i wneud pethau’n haws i chi. dyledion. Mae Step Change yn cynnig Cynllun Rheoli Dyledion am ddim. Cyngor - os ydych chi’n cael problemau ariannol gofynnwch am gyngor ar unwaith. Cysylltwch â Thîm Hawliau Lles Cartrefi Conwy drwy'r Gwasanaethau Cwsmeriaid Ffoniwch nhw ar 0800 138 1111. ar 0300 124 0040. Neu ffoniwch eich Canolfan Cyngor ar Bopeth leol ar 0844 477 Cwmnïau Ynni - mae'r rhan fwyaf o gwmnïau ynni yn cynnig cymorth i 2020 neu elusen Step Change ar 0800 138 1111 cyn gynted ag y gallwch. gwsmeriaid mewn trafferthion ariannol. Cysylltwch â'ch cyflenwr ynni os ydych Cyllidebu - gwnewch restr o'r arian sydd gennych chi’n dod i mewn ac unrhyw chi’n cael trafferth talu’ch bil. wariant, gan gynnwys arian sy'n ddyledus i gredydwyr. Gallwch ddefnyddio’ch cyllideb i lunio cyfriflen y gallwch chi ei rhoi i gredydwyr i ddangos eich bod chi mewn trafferthion ariannol.

Awdurdod Ymddygiad Ariannol – maen nhw’n cynnig cyngor ar wasanaethau ariannol megis cwmnïau benthyciad. Ewch i’w gwefan: www.fca.org.uk.

Undebau Credyd – mae'r rhain yn aml yn cynnig benthyciadau rhatach na Hurbrynu - cytundeb ydi hwn sy'n llogi nwyddau i gleientiaid am gyfnod benthycwyr carreg drws neu gwmnïau benthyciad diwrnod cyflog. Cysylltwch ag penodol. Ar ddiwedd y cyfnod gall y cleient brynu'r nwyddau am bris bychan. Undeb Credyd Gogledd Cymru ar 0333 200 0601. Mae’r cynllun yma’n aml yn cael ei ddefnyddio i brynu ceir. Cynlluniau Rheoli Dyled - mae rhai cwmnïau yn cynnig rhoi’ch holl ddyledion i mewn i un Cynllun Rheoli Dyledion. Rydych chi’n talu ffi fisol iddyn nhw ac maen nhw wedyn yn anfon yr arian sy’n ddyledus at eich credydwyr. Ond ble mae’r fagl? Mae rhai cwmni rheoli dyledion yn codi hyd at 50% ar gyfer y gwasanaeth, sy'n

Llog - dyma'r swm y mae credydwr yn ei godi arnoch chi ar ben y swm rydych chi wedi ei fenthyg. Gwiriwch y cyfraddau llog cyn cytuno ar unrhyw fenthyciad neu gynnyrch ariannol arall er mwyn i chi weithio allan faint yn union faint fydd yn rhaid i chi dalu'n ôl.

YDYCH CHI'N BERCHEN AR GI HEB FICROSGLODYN? ^ Efallai eich bod chi wedi darllen neu glywed llu o straeon arswyd am gw n yn cael eu dwyn o erddi pobl. Yn anffodus mae’r drosedd hon yn dod yn fwyfwy cyffredin ac nid ^ yw wedi ei chyfyngu i ddinasoedd mawr yn unig. Mae pob mathau o gw n yn cael eu dwyn ac ni ddylem ni gymryd yn ganiataol na fydd yn digwydd i ni oherwydd bod gennym ni gi 'mwngrel' ac nid ci o frîd. ^ r bod eich ci yn cael microsglodyn. Fel hyn, os ydi’ch ci yn cael ei Gwnewch yn siw ddwyn neu’n mynd ar goll, fe ellir adnabod y ci drwy ei ficrosglodyn a’i ddychwelyd i chi yn gynt. Gall talu am loches ci tra bod yr awdurdodau yn ceisio dod o hyd i'r perchennog, fod yn gostus iawn.

Ar gael yn gymraeg ar gais

YMDDIRIEDOLAETH GIG GWASANAETHAU AMBIWLANS CYMRU Mae gan bawb ei stori, ond beth ydi’ch stori chi? Ydych chi wedi defnyddio Gwasanaethau Ambiwlans Cymru neu Galw Iechyd Cymru? I helpu i wella’r gwasanaethau yma ewch i adran dweud eich dweud www.ambulance.wales.nhs.uk neu ysgrifennwch at Wasanaeth Ambiwlans Cymru / Galw Iechyd Cymru, RHADBOST NAT6805, Abertawe SA7 9ZZ neu cysylltwch â’r Tîm Partneriaid Gofal Iechyd ar 01792 311773 neu ppi.team@wales.nhs.uk.

Rhybudd am wefru E-Sigarets • defnyddiwch y gwefrydd a roddwyd gyda’ch pecyn • peidiwch â chymysgu gwahanol ddarnau • peidiwch â thynhau batri’n rhy dynn ar y gwefrydd • peidiwch â’u gadael heb neb yn yr ystafell

O fis Mawrth 2015 yng Nghymru ac o fis Ebrill 2016 yn Lloegr, mi fydd yn rhaid i BOB ci gael microsglodyn. Os nad ydych chi'n gallu fforddio talu am hyn efallai y byddwch chi’n gymwys i gael microsglodyn yn rhad ac am ddim. Os oes gennych chi fynediad i'r rhyngrwyd ewch i www.chipmydog.org.uk i gael rhestr o filfeddygon sy'n cynnig hyn yn eich ardal chi. Os nad oes gennych chi fynediad i'r rhyngrwyd, ffoniwch 0330 123 0334.

CANOLFAN ADNODDAU ANABLEDD Dyma Elusen a sefydlwyd yn 1988 i gefnogi pobl ag anableddau a namau ar y synhwyrau yng ngogledd Cymru. “RYDYM NI’N YMFALCHÏO YN EIN GALLU I DDARPARU CANOLFAN SY’N CANOLBWYNTIO AR Y PERSON AC I GYNNIG DATRYSIADAU YMARFEROL I GEFNOGI BYW BOB DYDD" Rydym ni ar Twitter a Facebook! www.facebook.com/drcshop29

www.twitter.com/drcshop29 neu @ drcshop29 Hoffwch a dilynwch ni i dderbyn y newyddion a’r cynigion diweddaraf yn y ganolfan. Os oes gennych chi unrhyw ymholiad, gallwch gysylltu â ni dros y ffôn: 01745 448288 neu ar e-bost: disability.resourcecentre@wales.nhs.uk

7


Tenantiaid! Dewch i ddweud eich dweud Cymeradwywyd cynlluniau i wella'r ffordd y gall tenantiaid a thrigolion gymryd rhan yn Cartrefi Conwy ddydd Iau 14 Awst 2014 gan denantiaid a fynychodd gyfarfod cyffredinol arbennig o Fforwm Tenantiaid Cartrefi Conwy'. Am lawer o fisoedd a gyda chefnogaeth annibynnol gan TPAS Cymru (y Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid), mae aelodau o Bwyllgor Rheoli'r Fforwm Tenantiaid ynghyd ag Aelodau’r Bwrdd a staff Cartrefi Conwy wedi bod yn archwilio ffyrdd o wella cyfleoedd cymryd rhan. Bydd y newidiadau yn symud i ffwrdd o strwythur ffurfiol a phrosesau cysylltiedig, ac yn eu lle bydd fframwaith mwy hyblyg a Chylch Gorchwyl a fydd yn cael ei frandio fel 'Lleisiau@Cartrefi Conwy'. Mae'r fframwaith 'Lleisiau@CartrefiConwy' newydd wedi ei anelu at sicrhau mwy o gynrychiolaeth a hygyrchedd ar draws ystod eang o weithgareddau ymgysylltu â'r gymuned a chyfranogiad tenantiaid yn Cartrefi Conwy. Bydd gweithgareddau yn gysylltiedig â Gweithredu Cymunedol, Gwella Gwasanaeth a Datblygiad Personol yn cael eu hyrwyddo o dan y teitl 'Lleisiau@CartrefiConwy' er mwyn annog mwy o bobl i rannu eu barn a chael gwybodaeth am faterion sy'n ymwneud â'r cartrefi a’r gwasanaethau mae Cartrefi Conwy yn ei ddarparu i'w tenantiaid a'r gymuned ehangach ledled Conwy. Dywedodd Cydlynydd Llywodraethu Cymunedol Cartrefi Conwy, Laura Thomas: “Mae'n bwysig i denantiaid arfer eu hawl i ddylanwadu ar wasanaethau. Rydym yn credu y bydd y fframwaith Lleisiau@CartrefiConwy newydd yn ei gwneud yn llawer haws i'n tenantiaid i wneud hynny. “Rydym am i fwy o denantiaid deimlo y gallant gael dweud eu dweud, bod eu barn yn bwysig ac yn gallu gwneud gwahaniaeth. “Rydym yn gobeithio bydd rhoi mwy o eglurder am y cyfleoedd ymgysylltu sydd ar gael ar gyfer ein tenantiaid ac eraill yn y gymuned ehangach yn annog mwy o gyfranogiad a dull mwy cydweithredol a chynhwysol lle gall prydleswyr, staff, trigolion ac asiantaethau a rhwydweithiau cefnogol weithio'n well gyda'i gilydd yn ein cymunedau i ddylanwadu, siapio a gwella ein gwasanaethau er budd pawb." Gweinyddwyd y bleidlais gan David Lloyd, Cyfarwyddwr TPAS Cymru, a chadarnhaodd i’r newidiadau arfaethedig fynd yn eu blaen. Dywedodd: “Mae fy nghydweithwyr a minnau yn swyddfa TPAS Cymru Gogledd Cymru wedi mwynhau bod yn rhan gyda thenantiaid a staff Cartrefi Conwy ers y Trosglwyddiad. Mae'n arfer da i adolygu eich dull o ymgysylltu â'r gymuned a chyfranogiad tenantiaid o bryd i’w gilydd, ac mae’r penderfyniadau a wnaed gan y tenantiaid heno wedi eu hanelu at adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd hyd yn hyn a helpu i sicrhau canlyniadau cadarnhaol ar gyfer tenantiaid a'r cymunedau i'r dyfodol. Mae'r heriau a wynebir a'r camau sy'n cael eu cymryd yma yn Cartrefi Conwy i helpu gwneud cyfranogiad yn fwy cynhwysol a hygyrch yn gyson â'r hyn yr ydym yn ei weld ar draws y sector, yng Nghymru ac yng ngweddill y DU. Caiff eich tenantiaid eu canmol am yr ymrwymiad a roddwyd i ddod mor bell â hyn ac edrychaf ymlaen at barhau ein perthynas gyda chi i gyd yn y dyfodol". Mae rhai tenantiaid eisoes yn gyfarwydd â'r cyfleoedd a gynigir gan Gartrefi Conwy i gymryd rhan ac maent wedi elwa o gyfranogiad trwy; • gael gwell dealltwriaeth ynghylch y gwasanaethau a ddarperir gan Cartrefi Conwy • bod yn fwy hyderus ynghylch mynegi pryderon neu gwynion, sy'n sicrhau eu bod yn cael eu trin drwy'r sianelau cywir

8

Lleisiau@CartrefiConwy

• ymgymryd â hyfforddiant ffurfiol fel hylendid bwyd, cyfrifiaduron, cyrsiau garddwriaeth a ffotograffiaeth, • gwneud ffrindiau newydd a chynyddu eu hunanhyder, i gyd o gymryd rhan Mae'r dull newydd yn cydnabod bod unigolion yn dewis cymryd rhan mewn amrywiaeth o ffyrdd i weddu i'w hamgylchiadau unigol, diddordebau a dewisiadau. I'ch helpu i benderfynu os ydych am gymryd rhan, ac yna i'ch helpu os gwnewch; Pwy? Mae cyfleoedd i gymryd rhan yn agored i bawb sy'n byw yng nghartrefi Cartrefi Conwy - nid y rhai a enwir ar y Cytundeb Tenantiaeth yn unig - ac rydym hefyd yn croesawu sylwadau gan drigolion ac asiantaethau eraill. Os ydych yn teimlo eich bod angen cymorth ychwanegol i leisio eich barn neu gymryd rhan gallwch ddod â rhywun gyda chi, megis ffrind, gofalwr neu aelod arall o'r teulu. Beth? Byddwn yn cyhoeddi dewislen o gyfleoedd â chalendr o weithgareddau ac yn gwneud pwrpas y gweithgareddau yn gliriach, er mwyn eich helpu i ddeall yr hyn y gallech fod yn ei wneud a'r hyn y gellir ei gyflawni. Ble? Byddwn yn gliriach ynghylch ble y bydd gweithgareddau neu ddigwyddiadau yn cael eu cynnal; er enghraifft, Yn y Cartref, rhywle yn eich Ardal Leol, neu yn rhywle y gall fod angen i chi i deithio ychydig bellter iddo. Gallwn hyd yn oed eich cynorthwyo gyda threfniadau teithio a chostau cludiant. Faint o amser? Byddwn yn fod yn gliriach ynghylch pa mor hir rydym yn disgwyl i weithgaredd penodol bara a cheisio eich helpu i ddod o hyd i weithgareddau i gymryd rhan ynddynt sy'n cyd-fynd â faint o amser y teimlwch y gallwch roi. I gael gwybod mwy am y cyfleoedd i gymryd rhan yn Cartrefi Conwy; Ffoniwch: 0300 124 0040 a gofynnwch am gael siarad â Laura Thomas. E-bost: lleisiau@cartreficonwy.org Gallwch hefyd gael rhagor o wybodaeth ar ein gwefan www.cartreficonwy.org - edrychwch ar yr adran 'Newyddion' ar gyfer digwyddiadau sydd ar y gweill a’r dudalen 'Dweud eich Dweud'.

f a e a G y n y f i h Yn R • Y diweddaraf gan Steve Mc Leod sydd wedi llwyddo i sefydlu ei fusnes garddwriaeth ei hun. Dewch i wybod beth oedd ei ysbrydoliaeth i gyflawni hyn ar ôl manteisio ar gyfleoedd gwirfoddoli ac ennill cymwysterau ar garreg ei ddrws ei hun! • Popeth sydd arnoch chi angen ei wybod am ddyled: Rhan 2 • Crynodeb o’r Digwyddiad Pobl Hy^n • Dewch i weld sut hwyl cafodd Zara Roberts, Dysgwr Iau y Flwyddyn, pan fu iddi gyfarfod â’r Gweinidog Tai, Carl Sargeant, yn ystod cinio yn y Senedd yng Nghaerdydd (i'w gadarnhau) • A llawer mwy... 'Gyda'n Gilydd' ydi’ch newyddlen chi, a bydd y rhifyn nesaf ar gael ym mis Rhagfyr. I roi gwybod i ni beth hoffech chi ddarllen amdano neu os oes gennych chi fwy o wybodaeth, erthygl neu stori ddiddorol i’w chynnwys yn rhifyn y Gaeaf, cysylltwch â ni! Cysylltwch â'r Tîm Cyfathrebu ar 0174335345 neu e-bostiwch communications@cartreficonwy.org


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.