Iechyd Pelydrol Prosiect wedi'i ariannu gan Cartrefi Conwy, Gwynt y MĂ´r a Comic Relief sydd yn annelu i gefnogi rhai sydd yn dioddef gyda materion iechyd meddwl.
Beth sydd ar gael?
Mae pob sesiwn yn y daflen hon yn cymryd lle ar
Byw Yn Dda Mewn Cyfnod Heriol gyda Peggy Foster
Mae’r cwrs hwn yn cynnwys sut allwn ddysgu i ymateb i straen yn ein bywydau mewn ffordd ystyriol a chariadus i’n hunain ac eraill.
Rheoli Poen
gyda Ben Calder
Dysgwch sut i reoli’r boen gan ddefnyddio technegau anadlu, dychmygu a phwyntiau cyffwrdd sy’n cefnogi prosesau iachau naturiol y corff.
Ymarfer Corff Ar Gyfer Llês
gyda Graeme Waterfield
Sesiynau sy’n cyfuno symudiadau Tai Chi gydag ymestyniadau ysgafn ac ymwybyddiaeth ofalgar (yn y gadair ac yn sefyll).
Man Diogel
gyda Lydia Watson
Mae gennym sesiynau cymorth rhyngweithiol rheolaidd lle rydym yn dysgu sut i fynegi ein teimladau a symud trwy ein hymatebion i ofnau, pryderon a straen.
Beth sydd ar gael? Therapi Sain Gan ddefnyddio sain therapiwtig i gael cydbwysedd a harmoni yn y corff, meddwl a’r emosiynau.
Sesiynau Iachau Egni
gyda Lydia neu Kate
Mae’r iachawr yn eich cefnogi i gael gwared ag emosiynau yn y corff trwy dechnegau ymlacio a myfyrdod.
Therapi Celf
gyda Lisa Lochhead
Mae’r ‘Emerging Woman Art Journey’ yn brofiad dau ddiwrnod i chi ddatgelu eich creadigrwydd cûdd mewn amgylchedd cefnogol a diogel.
Dyddiadur Celf
gyda Lisa Lochhead
Creu Celf ar gyfer lles. Mae dyddiadur pob unigolyn yn unigryw, yn llawn ystyr personol ac adlewyrchiad sy’n meithrin ac yn gwella eich llês.
Therapi un-i-un Techneg Rhyddid Emosiynol Mae’r therapi hwn yn ein galluogi i ryddhau atgofion/digwyddiadau poenus, emosiynau negyddol neu gredoau diwerth. Mae’n gweithio ar y sail os yw rhan o’n bywydau angen gwella, mae’n debygol bod mater emosiynol heb ei ddatrys yn y ffordd. Mae’n cyfuno technegau o seicoleg fodern gyda thapio corfforol ysgafn (gyda’n bysedd) ar bwyntiau ar y pen a rhan uchaf y corff. Mae’r cyfuniad yn aml yn arwain at feddwl a chorff mwy distaw. Profi Somatig Ydych chi’n aml yn teimlo’n llethol? Mae’r therapi hwn yn olrhain ein teimladau corfforol fel y gallwn ddysgu yn araf sut i dawelu a rheoli ein systemau nerfol llethol ac adfer synnwyr o ddiogelwch heb deimlo’n llethol.
Taflen atgyfeirio Rydym yn croesawu atgyfeiriadau o unigolwyn ac sefydliadau eraill. Ar gyfer cymorth i gwblhau y daflen hyn cysylltwch a ni yn defnyddio y manylion drosodd.
Enw:
Cyfeiriad:
FfĂ´n: Manylion y person sy'n atgyfeirio:
Rheswm am atgyfeirio:
Cysylltwch â ni I ofyn unrhyw gwestiynau ac i archebu cysylltwch: Lydia Watson 07733012521 neu 0300 124 0040 lydia.watson@cartreficonwy.org