Together - Copi Cymraeg

Page 1

Haf 2014

c r e u

c y m u n e d a u

i

f o d

y n

f a l c h

Arwain y Ffordd gyda Diogelwch Tân Cartrefi a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cydweithio i wella diogelwch Tân Mae Cartrefi Conwy wedi bod yn cydweithio gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru (GTAGC) ers 1 Ebrill i gydariannu swydd newydd sbon yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn benodol i helpu cymunedau a thenantiaid Cartrefi Conwy aros yn fwy diogel yn eu cartrefi. Y llynedd, galwodd tenantiaid Cartrefi Conwy am wasanaeth GTAGC 35 gwaith i helpu i ddelio ag argyfyngau tân yn eu cartrefi. Pan fod tân yn cydio gall fod yn brofiad brawychus ac os ydych yn ddigon ffodus i oroesi tân, ni fydd yr un peth yn wir am eich cartref a'ch eiddo fel arfer. Dywedodd Gwyn Jones o GTAGC “Mae Cartrefi Conwy

o h o n y n t

CYMERWCH OLWG Y TU MEWN

wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth efo ni ers sawl blwyddyn bellach er mwyn gwella diogelwch tân yn eu cartrefi, ond y fenter hon yw’r cyntaf o'i bath yng Ngogledd Cymru ac mae’n cryfhau ein partneriaeth ymhellach ac yn dangos pa mor bwysig yw cartrefi a chymunedau Cartrefi Conwy iddyn nhw.” “Gall tân yn y cartref fod yn brofiad sy’n newid bywyd go iawn ac mae’n rhywbeth sy’n aflonyddu ac yn ysgwyd ein tenantiaid, cymdogion a’r gymuned o gwmpas; ein nod gyda'r bartneriaeth newydd hon yw helpu’n tenantiaid i ddeall yr hyn y gallant ei wneud i atal tanau yn eu cartrefi a chadw’u hunain, eu teuluoedd a’u cymdogion yn ddiogel.” meddai Wil Pritchard, Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch Cartrefi Conwy.

Gwelliannau amgylcheddol Ger y Môr

tudalen 3

Os hoffech gael cyngor, neu i wirio eich bod wedi gwneud popeth y gallwch yn eich cartref, ffoniwch 0300 124 0040 nawr i drefnu archwiliad diogelwch tân yn y cartref gyda Chad Rogerson. I gael rhagor o wybodaeth gweler tudalen 2

Roedd digwyddiad Celf y Pasg i Rieni a Plant Bach

tudalen 4

Craig ym Mharc Peulwys

tudalen 6

Awst ulu 2014 - 27 e T r i' l y w H ur. Diwrnod eich dyddiad n y n w h d s ia d m, felly os oe o rhowch y dyd rn a r y lw o d wirfod u ar y Mae angen g foddoli i help ir w i r se m a nio, gennych cyfnod cynllu y d o st y n y 35345 diwrnod neu u ar 01745 3 b re th fa y C tîm ffoniwch ein

Cysylltiadau

Mae o yma e to! Mae gan Cartrefi dale Gadewch i n nt. i sicrhau mai hwn fydd y digwyddiad m wyaf a’r gora u erioed. Dim beth yw eich ots oedran, ifanc neu hen, didd ni gyda’ch ta anwch lent. Edrychw ch am ragor wybodaeth d o ros y misoed d nesaf, ond ag oedi, rhow peidiwch ch y dyddiad yn eich dydd heddiw. iadur

Gwasanaeth Cwsmer 0300 124 0040

ymholiadau@cartreficonwy.org

Cael Gorau Ar Y Siarcod Benthyca - Brathu Yn Ôl!

tudalen 7 Mae copïau sain o’r cylchlythyr hwn ar gael Gofynnwch am gopi drwy ffonio 01745 335345


Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru Helo, Fi yw Chad Rogerson o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ^ Dwi r wan yn gweithio mewn partneriaeth â Cartrefi Conwy ar 12 mis o secondiad o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru. Dwi wedi bod yn gweithio gyda Cartrefi Conwy yn Morfa Gele ers mis Ebrill 2014 bellach. Byddaf yn cyflawni fy swydd fel Swyddog Cymorth Diogelwch Tân yn y Cartref yn bersonol i Cartrefi Conwy a thrigolion Cartrefi Conwy.

Dros y 12 mis nesaf, byddaf yn ymweld â nifer o ddigwyddiadau cymdeithasol a chymunedol, byddaf yn rhoi cyngor a gwybodaeth ar faterion Diogelwch Tân yn y Cartref. Mae hwn yn gyfle gwych i denantiaid dderbyn cyngor a chael atebion i rai ymholiadau diogelwch yn y cartref. Un o fy mhrif dasgau yw cynnal archwiliadau Diogelwch Tân yn y Cartref gyda chi yn eich cartrefi. Mae'n syniad da i chi gael gwiriad Diogelwch Tân yn y Cartref o leiaf unwaith bod ychydig flynyddoedd gan fod amgylchiadau pobl yn newid dros amser. Mae croeso i chi archebu’ch Archwiliad Diogelwch Tân yn y Cartref Personol AM DDIM heddiw! Ffoniwch Wasanaethau Cwsmeriaid Cartrefi Conwy i ofyn am archwiliad Diogelwch Tân yn y Cartref, gan nodi eich enw, cyfeiriad a’ch manylion cyswllt. Edrychaf ymlaen at gwrdd â chymaint ohonoch â phosibl yn fuan iawn. Gwasanaethau Cwsmeriaid 0300 124 0040

2

Cap 1af Ashleigh Mae tenant Cartrefi Conwy, Ashleigh Mills, 15 oed, wedi derbyn ei chap 1af am chwarae i dîm dan 17 Merched Cymru mewn cystadleuaeth yn yr Iwerddon yn ystod wythnos gyntaf gwyliau’r Pasg. Dywedodd mam Ashleigh, y Cynghorydd Tref Sharon Sadler ei bod mor falch ohoni ac ar ben ei digon gyda llwyddiant Ashleigh a’r tîm. Mae pob un ohonynt yn edrych ymlaen at y seremoni gapio ffurfiol a fydd yn cael ei chynnal ym mis Mai.

Llongyfarchiadau i’n tenant Lara Fox sydd wedi ei rhoi ar y rhestr fer yn y categori Tenant Ifanc y Flwyddyn ar gyfer Gwobrau Cyfranogiad Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid (TPAS) Cymru eleni. Pob lwc yn y Gwobrau.


Rhaglen gwelliannau allanol Dros y misoedd nesaf, bydd yr ardaloedd canlynol yn elwa o’n rhaglen gwelliannau allanol -Glanrafon, Llwyn Morfa a Peel Street yn Abergele; Maes Aled a Maes Creiniog yn Llansannan; Parc Bodnant, Conwy Road, Maes y Cwm, Ffordd Elisabeth, Dolydd, Dyffyrn Road a Ffordd Dulyn yn Llandudno. Gallai’r gwaith hwn gynnwys toi, rendro, newid cwteri a byrddau ffasgia, ynghyd â gwaith arall i du allan eich tŷ. Cyn dechrau ar unrhyw waith, bydd Swyddog Cyswllt Tenantiaid G Purchase yn cysylltu â chi i ddweud wrthych pa waith fydd yn ei wneud i’ch cartref a sut y bydd yn effeithio arnoch chi.

Gwelliannau cylchol Ein nod yw sicrhau bod gwaith paent allanol yn cael ei ddiweddaru ar holl dai Cartrefi Conwy bob pum mlynedd. George Jones & Son Cyf yw’r contractwr a ddewiswyd sydd ar hyn o bryd yn gwneud y gwaith hwn ar ein rhan. Eu prif dasg yw paentio pob arwyneb a baentiwyd yn flaenorol lle bo angen, ond mae'r rhaglen waith hefyd yn cynnwys golchi arwynebau PVCu yn eich cartref. Mewn rhai ardaloedd, rydym yn paentio'r rendr i wella ymddangosiad cartrefi a diogelu’r rendr neu’r gwaith brics. Os bydd hyn yn digwydd yn eich ardal chi, byddwn yn ymgynghori â chi ar y cynlluniau lliw a fyddai'n gweithio orau yn eich cymdogaeth chi. Cyn bod gwaith paentio yn cael ei wneud yn eich cartref chi, byddwch yn derbyn llythyr gennym a bydd Swyddog Cyswllt Tenantiaid yn mynd o gwmpas i roi gwybod i chi beth sy'n cael ei wneud ac yn rhoi’r amserlenni.

Archwiliadau asbestos blynyddol

GRANTIAU’R GIST GYMUNEDOL Ydych chi'n rhan o grŵp a fyddai’n elwa o gael rhywfaint o arian ychwanegol? Mae prosiect Cist Gymunedol Cartrefi Conwy yn ceisio cefnogi prosiectau bychain fydd yn gwella ansawdd bywyd ein tenantiaid yn eu cymunedau neu lle y mae gennym dai. Yn ystod y 3 mis diwethaf, dyfarnwyd dros £2,300 i grwpiau tai gwarchod. Derbyniodd grŵp Chataway yn Llanfairfechan £720 i dalu am deithiau undydd yn yr haf. Derbyniodd Clwb Orchard ym Mhenmaenmawr £830 i brynu offer sydd angen ar gyfer eu clwb yn ogystal â theithiau bws. Mae grŵp Bryn Difyr, Penmaenmawr wedi cael dros £840 tuag at wella amgylchedd y stad yn ogystal â thaith undydd. Os hoffech chi wneud cais am grant, ffoniwch Nerys ar 01745 335572, neu Sarah Jones ar 01745 335572.

Mae Cartrefi Conwy yn defnyddio gwasanaethau penodol ein hymgynghorwyr asbestos arbenigol Environmental Essentials i gynnal archwiliadau blynyddol ar bob cartref lle y daethpwyd o hyd i asbestos yn y gorffennol. Drwy gynnal archwiliadau asbestos blynyddol gallwn fonitro cyflwr yr asbestos yn eich cartref ac asesu a oes angen unrhyw gamau pellach i helpu sicrhau eich bod yn ddiogel yn eich cartref. Os byddwn yn credu bod angen symud unrhyw ddeunyddiau sy’n cynnwys asbestos yn dilyn yr archwiliadau hyn, byddwn yn cysylltu â chi i drefnu bod hyn yn cael ei wneud yn ddiogel gan gontractwyr cymwys. Mae’r archwiliad asbestos blynyddol yn un o amryw o arolygiadau rydym yn eu cynnal (fel archwiliadau Diogelwch Nwy) i wneud yn siŵr eich bod yn ddiogel yn eich cartref, felly pan fydd Environment Essentials yn cysylltu â chi i drefnu apwyntiad, rydym yn eich cynghori i’w caniatáu i gynnal yr archwiliad.

Gwelliannau amgylcheddol Ger y Môr “Roedd y biniau ar olwynion bob amser yn cael eu gadael o flaen ein ffenestri neu’n cael eu chwythu i’r ffordd” oedd y sylw gan lawer o denantiaid yn Ger y Môr, Pensarn. Ar ôl sawl sesiwn ymgynghori, cytunwyd ar gynllun efo’r tenantiaid i wella eu mannau cymunedol - gan gynnwys mannau cadw biniau ar olwynion, ffensys preifatrwydd, palmentydd mewn mannau budr, storfeydd sgwteri, a mynediad gwastad lle bo angen. Bydd y rhaglen o welliannau amgylcheddol yn symud ymlaen cyn bo hir i Maes Glas a fflatiau Bryn Eglwys yn Llandrillo-yn-Rhos, Cwrt Cae Môr yn Nhowyn, a Maes Cwstennin yng Nghyffordd Llandudno, ymysg lleoliadau eraill.

3


Ateb eich Cwestiynau am Daliadau Gwasanaeth Mae’r atebion i’r cwestiynau rydych yn eu gofyn amlaf am Daliadau Gwasanaeth isod. Pryd mae’r gwair yn cael ei dorri? – Mae ardaloedd mawr o wair sy’n cael eu torri gan gerbydau tebyg i dractorau’n cael eu torri 16 gwaith y flwyddyn rhwng dechrau mis Mawrth a chanol mis Hydref. Mae ardaloedd o wair lle na allwn ddefnyddio cerbyd tebyg i dractor yn cael eu torri gyda strimiwr neu beiriant torri gwair â llaw 8 gwaith y flwyddyn, bydd hyn yn cydfynd â’r troeon y torrir y gwair gyda pheiriant tebyg i dractor, gan ei gwneud yn haws i fonitro. Sut gaiff gwaith cynnal tir ei fonitro? – Rydym wedi cytuno ar amserlen gyda’r contractwr ac mae’r cynnydd ar yr amserlen yn cael ei rhannu â ni bob tua 2 wythnos. Yn ogystal ag archwiliadau cymdogaeth, mae nifer o drigolion yn monitro’r gwasanaeth ac yn codi unrhyw bwyntiau ynghylch y gwasanaeth gyda Cartrefi Conwy. Pam nad yw’r ardal gyfan o wair yn cael ei thorri ar yr un pryd? Mae hwn yn fater hanesyddol. Roedd contractwyr yn arfer strimio ymylon y gwair ac yn defnyddio peiriannau torri gwair llaw 6 gwaith y flwyddyn a oedd yn golygu ei fod yn aml yn digwydd ar adegau gwahanol i’r cerbyd tebyg i dractor a oedd yn digwydd 16 gwaith y flwyddyn. Byddai hyn yn golygu bod ymddangosiad “rhannol gyflawn” ar y tir. I wella hyn eleni, bydd y contractwr yn torri 2 waith yn ychwanegol ac yn sicrhau y bydd pob yn ail ymweliad yn cynnwys torri’r holl ardaloedd o wair ar yr un pryd.

Cynllun Homelife Mae'r Cynllun Homelife wedi ei sefydlu yn benodol i’ch cefnogi pan fo arian ychydig yn dynn ond rydych yn dal yn awyddus i gael lloriau o ansawdd. Mae'r cynllun yn darparu: • Teiliau Carped Ymarferol, sy’n gwisgo'n dda, ac sy’n hawdd eu gosod • Ystafelloedd o £50.00 (cyflenwi yn unig) • Telerau Talu I Weddu i’ch Cyllideb • Gwres cost isel ac inswleiddiad cadarn • Amrywiaeth o liwiau a gweadau Mae ein holl garpedi yn deils carped ail fywyd sydd wedi dod o swyddfeydd ond yn cynnig gwydnwch heb ei ail, yn hawdd i'w gosod a gellir eu gosod heb yr angen am isgarped neu glud. “Rwyf wedi bod yn fy eiddo am 18 mis ac nid oedd carped i lawr cyn y cynllun hwn. Mae wedi caniatáu i fy mhlant gael rhywfaint o gysur yn eu hystafell wely ac mae wedi lleihau’r sŵn i fyny'r grisiau. Rwyf yn awr yn teimlo ymdeimlad gwirioneddol o berchnogaeth ar gyfer fy nghartref." Mrs D o Beddau, Awst 2012 Cysylltwch â ni: Crest Cooperative Ltd, Brierley House, Ferry Farm Road, Cyffordd Llandudno, Conwy, LL31 9SF • Ffôn: 01492 596783

Beth os yw'n rhy wlyb i dorri’r gwair?– Ar achlysuron pan fod cyflwr y tir yn golygu na ellir torri’r gwair bydd oedi dros dro yn y gwasanaeth. Pan fydd y tywydd yn gwella bydd gwair yn cael ei dorri yn yr ardal nesaf ar LLONGYFARCHIADAU y rhaglen, ni fydd ardal yn cael ei gadael tan y toriad i Joan Pritchard, Gladys nesaf ar y rhaglen. Gall hyn arwain at oedi dros dro Morris a Ruth Richards o Tan Y yn y rhaglen torri gwair, ond bydd y contractwr yn Graig sydd newydd gwblhau eu caniatáu amser ychwanegol pan fydd y tywydd yn gwella er mwyn adfer amserlen y rhaglen. cwrs cyfrifiadurol 10 wythnos Sut mae trigolion yn gwybod beth sy’n digwydd? Ein bwriad yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar sut y mae’r rhaglen yn datblygu. Bydd manylion ar gael cyn bo hir, ar ein gwefan a sianelau cyfryngau cymdeithasol.

yn Glasdir. Da iawn, rwy’n edrych ymlaen at dderbyn e-bost gennych yn fuan!!!

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch cynnal tir neu faterion yn ymwneud â thâl gwasanaeth, cysylltwch â ni drwy e-bost ar servicecharges@cartreficonwy.org neu drwy ffonio 01745 335346 a gofyn am yr Adran Taliadau Gwasanaeth.

Prydleswyr Cynnal Tir - Mae erthygl o dan yr adran Taliadau Gwasanaeth sy’n ymwneud â chynnal tir ac yn ateb nifer o gwestiynau sydd wedi codi. Darllenwch yr erthygl gan ei bod yn debygol bod y rhan fwyaf o Brydleswyr yn gweld gwaith cynnal tir yn digwydd yn agos at eu heiddo. Mantolenni a Amcangyfrifwyd - Fel y gwyddoch, rydym wedi rhoi mantolenni a amcangyfrifwyd a ddylai fod wedi cael eu talu erbyn hyn (naill ai’n llawn neu drwy drefniant debyd uniongyrchol). Mae’r amcangyfrif hwn yn cynnwys elfennau’r tâl gwasanaeth safonol a bydd mantolen wirioneddol i’w dilyn tua dechrau mis Hydref a fydd yn cynnwys gwaith mawr, addurno cylchol a chostau trwsio. Gan fod hwn yn ddull newydd o gyflwyno Manylebau Taliadau Gwasanaeth, bydd cyflwyniad yn cael ei wneud yn y Fforwm Prydleswyr ar 4 Mehefin i egluro'n fanwl sut y bydd y broses hon yn gweithio ac i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Os oes gennych unrhyw bwyntiau eraill rydych eisiau i ni eu cynnwys ar y rhaglen, cysylltwch â ni drwy e-bost ar servicecharges@cartreficonwy.org neu drwy ffonio 01745 335346 a gofyn am yr Adran Taliadau Gwasanaeth. Cynhelir y Fforwm Prydleswyr nesaf yng Nghanolfan Fusnes Conwy, Lôn y Gyffordd, Cyffordd Llandudno yn dechrau am 7.00pm ddydd Mercher 4 Mehefin, 2014. Fel arfer, bydd staff yn y ganolfan o 5.00pm os hoffech chi drafod unrhyw faterion wyneb yn wyneb.

4

Digwyddiad Celf y Pasg i Rieni a Phlant Bach Roedd digwyddiad Celf y Pasg i Rieni a Plant Bach yn Ll-wy-ddiant a hanner.

Ddydd Mercher 2 Ebrill creodd y plant eu cynigion celf a chrefft y Pasg ar gyfer Cystadleuaeth Gelf y Pasg Rhodfa Caer a gynhaliwyd ar 17 Ebrill yn y T^y Cymunedol. Cyflwynodd y Plant waith Celf gyda thema’r Pasg mewn cystadleuaeth celf gymunedol a chymryd rhan mewn helfa wyau Pasg yn y coetir cymunedol. Cafodd bob plentyn brynhawn arbennig o h-wy-l a derbyn wyau Pasg.

Cafodd yr oedolion de prynhawn gyda the a choffi, a byns y Groglith a chacennau blasus. Noddwyd y digwyddiad gan arian PACT Heddlu Gogledd Cymru a’i gydlynu ^ Gweithredu Cymunedol Rhodfa Caer a’r PCSO John McLaughlin. gan Gr wp Beirniadwyd y gystadleuaeth gelf gan y PCSO John a Claire Shiland, Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaeth, Cartrefi Conwy. Diolch yn fawr - Vicky Welsman – Rheolwr Datblygu’r Ty^ Cymunedol, Cartrefi Conwy.

Clwb Snwcer Churchmens Mae Clwb Snwcer Churchmens, Hen Golwyn yn cynnig sesiwn flasu am ddim i denantiaid Cartrefi Conwy sydd dros 18 oed. Mae Clwb Churchmens Colwyn wedi darparu man cyfarfod i aelodau allu chwarae snwcer, biliards a dartiau ers dros gan mlynedd. Cysylltwch â Dewi Jones (Ysgrifennydd) ar 01745 825412 neu Bill Whale (Trysorydd) ar 01492 515673 e-bost: churchmens@yahoo.co.uk i drefnu eich sesiwn flasu am ddim.


^ Gwasg Y Bobl Hyn

Croeso unwaith eto i’n ail rifyn o ‘Wasg y Bobl Hšn’. Mae ein tenantiaid hšn wedi bod yn weithgar iawn dros y tri mis diwethaf, a dyma ychydig o’r hyn y maent wedi bod yn ei wneud: Mae grĹľp o 20 o denantiaid hšn o gwmpas Conwy wedi bod yn mwynhau’r rhaglen ‘Awch tuag at Fywyd’ yng Nghanolfan Gymunedol y Fron, Hen Golwyn. Maent bellach hanner ffordd drwy’r cwrs ac wedi cael 3 sesiwn thema. Maent wedi cael siaradwyr gwadd ac ymarferion rhyngweithiol ynglšn â ‘Iechyd a Lles’, ‘Diogelwch yn y Cartref’, a ‘Rhwydweithiau Cymdeithasol’. Fel rhan o’r sesiwn ‘Iechyd a Lles’ mwynhaodd y cyfranogwyr sesiwn flasu erobeg cadair. Cyflwynwyd sesiwn ‘Cymorth Cyntaf yn y Cartref’ gan y Groes Goch ac yn olaf cafwyd sesiwn cynhwysiant digidol rhyngweithiol. Disgrifiodd Ann Wright, un o denantiaid Cartrefi Conwy o’r Fron y sesiynau fel rhai ‘gwych.’ Dywedodd mewn cyfweliad diweddar: ‘Dwi wir

The golden age is before us, not behind us. William Shakespeare

yn edrych ymlaen at ddod draw gan fy mod yn cael cwrdd â phobl newydd ac mae’r rhyngweithio’n wych. Dwi hefyd yn dysgu sgiliau newydd a phethau bach pwysig am ddiogelwch a sicrwydd y cartref na wnes i erioed eu sylweddoli, pethau syml sy’n gallu gwneud gwahaniaeth wrth aros yn ddiogel. Bydd Cartrefi Conwy’n cyflwyno rhaglen mewn gwahanol ardaloedd yn nes ymlaen yn yr haf. Os oes diddordeb gennych mewn cymryd rhan, ffoniwch Nerys ar 01745 335572.

Cynllun arloesol wrth galon ein cymuned Mae'n bleser gan Cartrefi Conwy gyhoeddi enw ei ddatblygiad tai gwarchod newydd, gwell yn Llandudno a ddewiswyd gan denantiaid a thrigolion cynlluniau cyfagos yn Llandudno. Bydd y cynllun tai gwarchod newydd, gwell ar hen safleoedd Llys Seiriol a Llys ^ Eryl r wan yn cael ei alw’n Cysgod y Gogarth a bydd y pedwar t ^y teulu ar rent canolradd yn cael eu galw’n Tan y Gogarth. Mae’r adeiladau presennol yn cael eu dymchwel ar hyn o bryd ac mae gwaith paratoi’n cael ei wneud ar gyfer y sylfaeni. Rhagwelir y bydd y gwaith adeiladu ei hun yn dechrau ym mis Mehefin 2014. Bydd RL Davies, y prif gontractwr ar y datblygiad hefyd yn gweithio gyda'r ysgolion lleol i drefnu ymweliadau gan y masgot diogelwch “Ivor Goodsiteâ€? i dynnu sylw at ddiogelwch y safle o amgylch y datblygiad newydd a pheryglon safleoedd adeiladu. Bydd y gwersi a ddysgir gan y plant gyda chymorth Ivor, o ^ fudd iddynt nid yn unig r wan ond hefyd yn nes ymlaen yn eu bywydau. ^ Llywio o denantiaid a thrigolion lleol a bydd yn cyfarfod bob Sefydlwyd Gr wp deufis i drafod materion allweddol yn ymwneud â'r datblygiad, fel dylunio’r tu mewn, cyfathrebu a gweithgareddau a digwyddiadau bwriedig.

Byddwn yn parhau i roi diweddariadau rheolaidd i denantiaid a phreswylwyr mewn cynlluniau cyfagos ond yn y cyfamser, os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y datblygiadau, ffoniwch Eiry Lloyd Davies, Rheolwr Prosiectau Tai ar 01745 335570.

Oeddech chi'n gwybod bod y Groes Goch yn cynnig y gwasanaethau canlynol i bobl h ^yn yng Nghonwy?

Y Groes Goch Brydeinig Gwasanaethau gael #/3'!#0 3 ') sydd )# 1,ar 1&# -#,i -bobl )# '+ gogledd +,/1& Cymru )#0 i’r Cartref o’r - Ysbyty &# #"– Mae’r /,00 &#)-0 Gwasanaeth 1Groes &,20 +" 0 ,$ -yn #,-helpu )# $,)),miloedd 4'+% 0&o ,/1bobl '+ &dilyn ,0-'1 ) 01 6 yn Goch arhosiad +" -/#3#+ 10 yn 2++yr #!# 00 /6 & ,0yn -'1 atal ) "*'00',+0 6 byr ysbyty ac 2--,/1 +i’r " !ysbyty /# 1 &drwy ,*# ddarparu -derbyniadau /,3'"'+% #51/ 0diangen

gefnogaeth ,+1 !1 20 ,+ ychwanegol

a ,gofal / * yn ') 1y cartref.

Cysylltwch â ni ar 01745 828366 neu ar e-bost yn HFHConwy&Denbs@redcross.org.uk

,+46 #+ 0 /#"!/,00 ,/% 2(

Gwasanaeth Cyfeillio Gofal - cyfeillio #$/'#+"'+% + gwasanaeth " #+ )'+a% 1&# ,3#/ rhai 0galluogi #/3'!# $,/ar 0 'dros + gyfer ,/1oed & yng )#0 ngogledd 50 ,+1 !1 2Cysylltwch 0 ,+ â ni ar Cymru. / # * '828360 ) 01745 neu ar e-bost ) ,/1& )#0 /#"!/,00 ,/% 2( yn,$ GofalNorthWales@redcross.org.uk

Diddordeb newydd yn rhoi syrffwyr arian yn y llun ^ o syrffwyr arian yn Mae gr wp derbyn sgiliau cyfrifiadurol newydd drwy ddysgu am ^ o 10 o ffotograffiaeth. Mae gr wp denantiaid Cartrefi Conwy ar hyn o bryd yn cwblhau cwrs cynhwysiant digidol a ffotograffiaeth 10 wythnos o hyd yn Venue Cymru. ^ wedi bod allan yn tynnu lluniau mewn mannau fel y Fach yn Mae’r gr wp ^ yr 1940au ym Mae Colwyn. Llandudno a g wyl Maent hefyd wedi bod yn dysgu sgiliau ffotograffiaeth fel defnyddio golau a Enillydd chysgod, cyfansoddiad a thechnegau y £100 yn y amlygiad. Mae'r myfyrwyr wedi dysgu beth i'w wneud gyda’r lluniau yn ôl gystadleuaeth i enwi’r yn ystafell gyfrifiaduron Venue Cymru. datblygiad newydd yn

Llaw, Braich, Gwddf ac Tylino’r

Disgrifiodd y tenant Brenda Llandudno oedd Robinson, 74, o Kennedy Court, G Griffith o St Andrews Hen Golwyn, y cwrs fel un ‘hollol wych’. Dywedodd ‘Mae wedi mynd â Avenue, Llandudno ni allan o gwmpas y lle ac wedi fy nenu allan o’r fflat. Rydan ni wedi bod yn dysgu, ond hefyd yn siarad â’n gilydd, rydym wedi cael cymaint o hwyl. Rwyf wedi gwneud ffrindiau newydd ac wedi mwynhau’r profiad yn fawr.’

Ysgwydd – 6Drwy -/,3'ddarparu "'+% %#+1)gwasanaeth # & +" /* tylino’r ysgwydd, * 00 %gwddf -/,*,1# +" 0&,llaw, 2)"#/braich, # 4# ac &#)rydym yn helpu i hybu ymdeimlad o les 0#+0# ,$ 4#))- #'+% +" /#) 5 1',+ '+ a hamdden mewn pobl yn ystod -#,-)# "2/'+% 1'*#0 ,$ -#/0,+ ) !/'0'0 adegau o argyfwng personol. ,+1 !1 20 ,+

Bydd gwaith y gržp yn cael ei arddangos yn Venue Cymru ^ ym mis Awst a bydd hefyd i’w weld yn y diwrnod Pobl Hyn ar 1 Hydref.

- Symud # 0&,/1-1#yn /* # # -/,3–'"Rydym Cymhorthion +" ,ac #.2'- )darparu , +0 ,$ 4 &##)!& '/0olwyn 1&#/offer cadeiriau * #+1 arall i’w llogi yn y tymor byr.

Cysylltwch ni ar 01745 ,+1 !1 20 ,+â 828350 ,/ # * ')

neu ar e-bost yn NWMobility-Aids@redcross.org.uk

, ')'16- '"0 /#"!/,00 ,/% 2(

Cysylltwch â ni ar 01745 828330

5


Craig ym Mharc Peulwys Ymwelodd plant ysgol â chwarel i weld y slab pedair tunnell fetrig o galchfaen sy’n cael ei defnyddio i greu nodwedd newydd syfrdanol wrth fynedfa’r stad dai lle maent yn byw. Bydd y clogfaen anferth o Chwarel Aber ym Moelfre, ar Ynys Môn, yn cael ei gaboli a’i ysgythru cyn iddo gael ei godi i'w le ar stad Parc Peulwys yn Llysfaen, uwchben Hen Golwyn. Cafodd y disgyblion o Ysgol Tan y Marian ar y stad gyfarfod â meistr y chwarel i weld y graig ac o ble y cafodd ei chloddio. Y chwarel a weithredir gan Anglesey Masonry ddarparodd y cerrig ar gyfer campwaith Thomas Telford, pont grog Menai, a dyma'r chwarel galchfaen llwyd olaf sydd ar agor ar yr ynys. Mae’r disgyblion wedi bod yn ymchwilio i galchfaen a sut y cafodd ei ffurfio dros filiynau o flynyddoedd ac mae’r ffeithiau diddorol a gasglwyd o’u hymchwil wedi’u hysgythru ar y garreg i roi gwybod i eraill am lawer, lawer, mwy o flynyddoedd i ddod.

Yn galw ar bobl ifanc Gogledd Cymru! Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth yn eich cymuned? Oes gennych chi syniad da ar gyfer prosiect atal troseddau a fydd yn helpu gwneud eich cymuned yn lle mwy diogel i fyw ynddi? Os felly, mae Heddlu Gogledd Cymru yn awyddus i glywed oddi wrthych chi. Mae Crimebeat eisiau cefnogi grwpiau ieuenctid 5 – 25 mlwydd oed gyda grantiau o hyd at £500 i helpu rhoi eich syniad ar waith. 1. Meddyliwch am broblem, fel bwlio, fandaliaeth, graffiti neu fater cymunedol arall a gweithgaredd y gallwch chi ei gyflwyno a fydd yn ei leihau 2. Llennwch ein ffurflen gais syml 3. Anfonwch eich cais trwy e-bost i: enquiries@crimebeatnorthwales.co.uk Bydd y Pwyllgor Uwch Siryfion yn ystyried eich cais a byddwn yn rhoi gwybod i chi os ydych wedi bod yn llwyddiannus. Os ydych chi, mae'r gweddill yn eich dwylo chi i wneud eich prosiect ddigwydd. Mae rhagor o wybodaeth am Crimebeat ar gael ar eu gwefan www.crimebeatnorthwales.co.uk

Siopau sydd wedi ennill GWOBRAU yn cynnig gostyngiadau mawr i denantiaid Cartrefi Conwy.

Grant Gwisg Ysgol Ar ôl dod atoch eich hun yn dilyn gofynion drud tymor y Nadolig, mae’r haf yn prysur nesáu. Gall hon fod yn adeg anodd eithriadol o’r flwyddyn i deuluoedd gyda phlant sy’n paratoi i symud i’r ysgol uwchradd ym mis Medi. Gall cost gwisgoedd ysgol newydd fod yn eithaf drud ac efallai y bydd teuluoedd ar incymau isel yn ei chael yn anodd dod o hyd i’r arian i dalu am y costau hyn. Gallai rhai teuluoedd fod yn gymwys i gael grant gwisg ysgol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae'r grantiau hyn ar gael i rieni sy’n hawlio budd-daliadau lles penodol er mwyn prynu gwisg ysgol i blant sy’n symud i flwyddyn 7. Os ydych chi'n credu eich bod yn gymwys i dderbyn grant gwisg ysgol a bod gennych fynediad i’r we, gallwch lwytho ffurflen gais i lawr o www.conwy.gov.uk. Mae’r wefan hon hefyd yn rhoi gwybodaeth ^ â sut i wneud cais am ginio ysgol am ddim ar gyfer eich ddefnyddiol ynglyn plant. Os byddai’n well gennych wneud cais dros y ffôn, ffoniwch Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar 01492 574000. Mae rhai ysgolion uwchradd yn cynnig gwasanaeth ‘siop gyfnewid’. Yma, gallwch brynu eitemau o wisg ysgol ail-law. Mae’r wisg ysgol mewn cyflwr da a gallwch arbed arian fel hyn. Siaradwch â’r ysgol uwchradd y bydd eich plant yn mynd iddi a bydd modd iddynt ddweud wrthych a yw’r gwasanaeth hwn yn cael ei gynnig.

Cadw’r plant yn hapus am lai o bres Un o’r problemau y mae llawer o deuluoedd yn eu profi dros y gwyliau ysgol yw diddanu’r plant heb orfod gwario ffortiwn. Mae digon o weithgareddau ar gael yn rhad ac am ddim os yw’r tywydd yn braf, ond mae’n rhaid i bob un ohonom grafu’n pennau pan ddaw’n fater o gadw’r plant yn brysur pan mae'n bwrw glaw. Mae llawer o wybodaeth ar wefan Sir Conwy, ewch i www.conwy.gov.uk Cyn gwastraffu arian mawr ar gemau neu DVDs newydd sbon, gwnewch ^ eich bod yn edrych yn un o'r siopau ail law sydd wedi agor yn yr yn siwr ardal, gallwch arbed punnoedd yn prynu gemau neu DVDs ail law a mynd â nhw yn ôl i’w hail werthu unwaith y bydd y plant wedi eu cwblhau neu eu gwylio. Oes gennych chi fynediad i Facebook? Ewch i’r tudalennau Ar Werth, Cyfnewid a Rhoi am ddim ar gyfer eich ardal chi, mae llawer o syniadau ar y tudalennau hyn gan bobl yn yr ardal. Gallech hefyd gael bargen tra byddwch yn chwilio am syniadau.

Yw arian yn dal yn brin? Gwasanaeth Cyngor Ariannol Manteisiwch ar wefan y Gwasanaeth Cyngor Ariannol, mae digon o offer ar-lein ar gael yno a digon o gynghorion ar sut i wneud mwy gyda'ch arian. Mae’n wasanaeth rhad ac am ddim ac yn ddefnyddiol iawn. www.moneyadviceservice.org.uk Money Made Clear Wales Dyluniwyd y wefan hon i’ch helpu chi i reoli eich arian yn well trwy grynhoi cyngor ac arweiniad ar gynilion, benthyciadau a sut i reoli unrhyw ddyled y gallech fod yn ei phrofi. www.moneymadeclearwales.org Ydych chi’n dal i deimlo bod angen rhywfaint o gymorth arnoch i roi trefn ar eich arian? Mae pob croeso i chi roi caniad i ni. Gallwn eich helpu chi a’ch cyfeirio am gyngor ar ddyledion os oes angen. Bydd ymweliadau’n cael eu cynnal yn eich cartref eich hun ac mae’r holl wybodaeth rydych yn ei rhoi’n gyfrinachol Gallwch gysylltu â’r tîm cynhwysiant ariannol/ budd-daliadau lles ar 01745 335625 neu welfarebenefits@cartreficonwy.org.

Mae tenantiaid yn gymwys i gael gostyngiad o 15% ar ddodrefn, nwyddau trydanol a dillad yn siopau Crest Co-operative. Mae’r siopau, ym Mae Colwyn ac yn Llandudno, yn cynnig dodrefn ail law unigryw a dodrefn newydd o ansawdd, eitemau trydanol cost isel, gan gynnwys peiriannau golchi, rhewgelloedd ac oergelloedd a dillad bron yn newydd. Gyda dillad brand ar gyfer babanod, plant ac oedolion o ddim ond £1, dodrefn deniadol am bris mor isel â £5 a nwyddau trydanol o £50, mae siopau Crest yn cynnig rhywbeth i bawb. Enillodd Crest Co-operative wobr Sefydliad Ailddefnyddio y Flwyddyn 2014 gan y Rhwydwaith Ailddefnyddio Dodrefn (FRN). Oherwydd y bartneriaeth waith gref rhwng Cartrefi Conwy a Crest Co-operative, mae tenantiaid eisoes yn elwa ar arbedion mawr. I ddechrau arbed a chael eich cerdyn disgownt Crest Co-operative, dewch â phrawf o’ch tenantiaeth gyda Cartrefi Conwy i Crest Furniture Reclaim, Douglas Road, Bae Colwyn, LL29 7PE (gyferbyn â Theatr Colwyn) neu Crest Community Store, Mostyn Broadway, Llandudno, LL30 1YL (y tu ôl Debenhams).

6

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.crestcooperative.co.uk neu holwch gwestiwn ar Facebook trwy chwilio am Crest Co-operative.


Rydym yn deall y gallai trigolion, ar adegau, fod eisiau gwneud gwaith yn ein heiddo. Os ydych chi’n bwriadu gwneud gwelliannau mawr i’ch cartref, byddem yn falch i gael gwybod amdanynt yn gyntaf. Dylech gysylltu â’ch Cydlynydd Cymdogaeth yn y lle cyntaf cyn archebu unrhyw waith neu ddechrau ar unrhyw dasgau. Y rheswm am hyn yw er mwyn sicrhau nad yw’n achosi unrhyw ymrwymiad atgyweirio parhaus i ni fel eich landlord. Bwriad hyn hefyd yw i ni fedru cadw golwg ar unrhyw waith sy’n cael ei wneud yn ein heiddo a phenderfynu a fyddwn ni’n caniatáu i’r gwaith gael ei wneud. Cyn dechrau ar UNRHYW waith, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais. Gallwch ofyn am ffurflen gan eich Cydlynydd Cymdogaeth neu drwy ymweld â’n swyddfeydd. Bydd y ffurflen yn gofyn i chi roi cymaint o wybodaeth â phosibl i ni a’i dychwelyd i ni i’w hystyried. Byddwn yn cysylltu â chi o fewn 10 diwrnod o dderbyn eich cais. Os na allwn wneud penderfyniad o fewn yr amser hwn, byddwn yn esbonio pam ac yn rhoi amserlen fras i chi ar gyfer gwneud penderfyniad.

SYLWCH fod yn rhaid i chi gael caniatâd ysgrifenedig gennym ni cyn gwneud unrhyw welliant neu addasiad o bwys i’ch cartref. Mae hyn yn ofynnol yn ôl telerau ac amodau eich tenantiaeth. Os na fyddwch chi’n gofyn am ganiatâd, efallai y byddwn yn gofyn i chi i gael gwared ar y cyfarpar, er enghraifft, os oes rhaid inni wneud unrhyw waith yn gysylltiedig â’ch gwelliant, efallai y byddwn yn codi tâl arnoch am unrhyw gostau y byddwn yn eu hwynebu. Nid oes angen i chi ofyn am ein caniatâd i wneud mân waith fel addurno, neu gael cypyrddau wedi’u gosod yn eich ystafell wely bresennol ond bydd yn rhaid i chi ofyn am ein caniatâd os ydych yn bwriadu cyflwyno eitemau fel gwneud gwaith ar ^ i’ch cartref • gyflenwadau nwy, trydan neu ddwr

• Cynnal newidiadau strwythurol mewnol e.e. troi dwy ystafell yn un • Gosod math arall o drefn wresogi e.e. llosgwr logiau

CAEL Y GORAU AR Y SIARCOD BENTHYCA – BRATHU YN ÔL! Os ydych chi’n cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd, beth bynnag yw’r rheswm, mae Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru (IMLU) yn rhybuddio trigolion i beidio â gwneud y camgymeriad o droi at fenthycwyr anghyfreithlon – boed yn ddynion neu’n ferched. Sefydlwyd IMLU gan lywodraeth ganol ddiwedd 2007 i ddod o hyd i siarcod benthyca ledled Cymru a’u herlyn, ac mae’n gweithredu fel rhan o Safonau Masnach. Mae'r benthycwyr anghyfreithlon hyn yn gweithredu heb drwydded credyd defnyddwyr, ac yn manteisio ar bobl ddiamddiffyn - boed oherwydd tlodi neu ddyled, neu anawsterau yn eu bywydau fel dibyniaeth neu broblemau iechyd. Mae siarcod benthyca yn twyllo benthycwyr trwy godi llog gormodol (mae IMLU yn dweud nad yw cyfraddau o 150,000% APR yn anghyffredin!) ac ychwanegu taliadau cosb fel y mynnant. “Nid yw'r siarcod benthyca yn cynnig unrhyw waith papur yn egluro telerau'r benthyciad, a rhaid i chi ddal ati i dalu yn ôl hyd nes y byddan nhw’n penderfynu y gallwch chi stopio. Efallai y byddant yn ymddangos yn gyfeillgar wrth iddynt gynnig y benthyciad, a phan fyddwch chi'n talu - ond byddwch yn gweld ochr arall i’w cymeriad pan na allwch chi dalu”, fel yr eglura’r tîm IMLU. Mae IMLU yn annog trigolion i sicrhau bod gan unrhyw un sy’n cynnig benthyg arian drwydded credyd defnyddwyr. Os ydych yn ddioddef yn sgil siarc benthyca, neu’n credu bod siarcod yn gweithredu yn y cyffiniau, ffoniwch IMLU ar y Llinell Gymorth 24 awr: 0300 123 3311. Gallwch ffonio yn ddienw os ydych yn dymuno.

YN EISIAU! ENWEBIADAU AR GYFER PWYLLGOR RHEOLI TPAS CYMRU Mae TPAS Cymru yn sefydliad Cymru gyfan ac mae lledaeniad daearyddol ac amrywiaeth ein haelodaeth yn adlewyrchu hyn. Hoffem hefyd adlewyrchu hyn yn ein Pwyllgor Rheoli ac felly rydym yn annog enwebiadau gan grwpiau sy'n draddodiadol yn cael eu cynrychioli llai, ac o bob rhan o Gymru. OS OES ARNOCH CHI/NEU OS YDYCH CHI’N NABOD RHYWUN Â DIDDORDEB MEWN DOD YN AELOD O’R PWYLLGOR RHEOLI NEU OS HOFFECH CHI FWY O WYBODAETH FFONIWCH LAURA THOMAS AR 01745335347 CYN DYDD GWENER 27 MEHEFIN.

• Gwelliannau i’r ardd fel sied neu ddecin/patio • Gosod teledu cylch caeedig Ni fyddwn yn peidio â chymeradwyo eich cais am resymau afresymol; ond, efallai y bydd amodau’n berthnasol os byddwn yn caniatáu eich cais. Byddwn yn trafod unrhyw amodau gyda chi, er mwyn i chi fedru penderfynu a ddylech chi fwrw ymlaen â'r gwaith ai peidio. Dylai unrhyw waith sy’n cael ei wneud ar ein heiddo gael ei wneud gan grefftwyr medrus a byddem eisiau copïau o unrhyw dystysgrifau perthnasol ar ôl cwblhau unrhyw waith, byddwn hefyd eisiau dod i archwilio’r gwaith er mwyn sicrhau ein bod yn fodlon bod y gwaith wedi’i wneud yn gywir. Os hoffech chi drafod y drefn o wneud ceisiadau gwella, neu os oes gennych brosiect mewn golwg, gallwch gysylltu â’ch Cydlynydd Cymdogaeth neu Glyn Jones, Rheolwr Cymdogaeth ar 01745 335359.

Bwrdd Rheoli Cartrefi Conwy Mae’r Bwrdd yn gyfrifol am osod ac arwain cyfeiriad busnes Cartrefi Conwy a sicrhau bod ei gweledigaeth yn cael ei chyflawni. Mae’r Bwrdd yn cynnwys 15 aelod. Mae Pump o’r rhain yn denantiaid, mae Pump wedi’u henwebu’n gynrychiolwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, ac mae Pump wedi’u recriwtio’n annibynnol. Mae'r Bwrdd yn gwneud penderfyniadau strategol ac ariannol pwysig, yn monitro ein perfformiad ac yn datblygu cynlluniau sy'n cyfrannu at fynd i'r afael ag anghenion tai ac adfywio cymunedol yn Sir Conwy. Mae swyddi’n dod yn wag o bryd i'w gilydd pan fydd aelod o'r Bwrdd yn ymddiswyddo a bob blwyddyn, rhaid i Llongyfarchiadau nifer o aelodau’r Bwrdd sy’n i Sure Group ar ennill Denantiaid ac aelodau Annibynnol gwobr Contractwr Tai o’r Bwrdd gamu i lawr, ond gallant Cymdeithasol y Flwyddyn wneud cais i gael eu hailbenodi os ydynt am barhau i wneud cyfraniad yng Ngwobrau’r Gymdeithas ar y lefel hon. Rheolwyr Diogelwch Nwy Rydym bob amser yn barod i siarad ag unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd sedd ar y Bwrdd Rheoli, er mwyn i ni fedru esbonio beth mae’n ei olygu a’u helpu i ddatblygu gwybodaeth busnes, sgiliau personol a hyder yn barod i wneud cais ffurfiol am unrhyw swyddi gwag a allai godi. Rydym eisiau sicrhau bod aelodau’r Bwrdd yn cynrychioli trawstoriad llawn o'r gymuned. Ar hyn o bryd, rydym yn awyddus i annog diddordeb gan denantiaid sydd â gwybodaeth ac amser i ymrwymo i'n helpu i fynd i'r afael ag anghenion tai a’r heriau sy’n wynebu’r rhai sy’n byw yn ardaloedd mwy gwledig y sir a’n tenantiaid ieuengaf a’u teuluoedd. Mae gennym sedd wag ar hyn o bryd ar gyfer aelod o’r Bwrdd sy’n Denantiaid, felly hoffem glywed oddi wrthych os oes gennych ddiddordeb yn hyn. Sut fyddwch chi'n elwa o hyn; • Gwell dealltwriaeth o’r ffordd y mae’r Gymdeithas yn gweithio i gefnogi ei denantiaid a chynnal a chadw cartrefi i Safon Ansawdd Tai Cymru • Gwybodaeth a sgiliau y gellir eu defnyddio mewn sefyllfaoedd eraill (yn y gweithle, y gymuned, yn bersonol) • Mynediad i hyfforddiant i gefnogi eich datblygiad personol Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 0300 124 0040 a gofynnwch am gael siarad â Laura Thomas neu Sandra Lee yn y Tîm Llywodraethu neu anfonwch e-bost atom: ymholiadau@cartreficonwy.org

7


Gweithio mewn partneriaeth i fynd i'r afael ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Yn ddiweddar, gofynnodd Heddlu Gogledd Cymru i Jan Jones, Uwch Swyddog Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Cartrefi Conwy, i roi cyflwyniad i Swyddogion newydd yr Heddlu i egluro ystyr a phwrpas Gwaharddebau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (ASBIs) dan Ddeddf Tai 1996. Roedd cyflwyniad Jan yn cynnwys: • Pwerau sydd ar gael i landlordiaid cymdeithasol ac awdurdodau lleol i ddelio ag achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol • Esiamplau o ymddygiad gwrthgymdeithasol y byddai Gwaharddeb yn helpu ei atal • Esiamplau o’r mathau o amodau a fyddai’n cael eu gosod mewn Gwaharddeb • Manteision defnyddio Gwaharddeb Ond mae pethau’n newid wrth i ‘Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddau a Phlismona 2014’ ddod i rym yn ddiweddarach eleni. Bydd y Ddeddf newydd yn cyflwyno sawl newid i’r arfau a’r grymoedd sydd ar gael i landlordiaid cymdeithasol, awdurdodau lleol, yr Heddlu a phob asiantaeth arall sy’n cyfrannu at atal ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac mae Jan wedi ei gwahodd yn ôl i roi diweddariad i’r Heddlu’n ddiweddarach eleni. Drwy weithio mewn partneriaeth gyda Heddlu Gogledd Cymru, gallwn ddatblygu’n prosesau partneriaeth ymhellach i fynd i'r afael â phob math o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a sicrhau y gall pob un o’n tenantiaid fwynhau eu cartrefi a bywyd o ansawdd da.

Sbotolau ar Wesley RowlandJones Beth mae eich swydd yn ei olygu? Pob agwedd ar blymio a gwresogi Sut fyddech chi'n disgrifio eich hun mewn 3 gair? swil, tawel, doniol Beth oeddech chi eisiau bod pan oeddech yn iau? Dyn Tân Beth yw eich hoff ddyfyniad? You only live once (YOLO) Beth fyddai eich car delfrydol? BMW M5 Oes gennych chi unrhyw ddiddordebau, os felly, beth? Y gampfa. Codi pwysau. Pe baech chi’n ennill y loteri ar beth fyddech chi’n gwario arian gyntaf? Car Beth yw eich hoff fwyd? Pasta Beth oedd y ffilm ddiwethaf i chi ei gwylio? Saving Private Ryan

Eitemau gellir codi tâl amdanynt yn eich eiddo Beth ydyn nhw? • Atgyweiriadau sy'n deillio o ddifrod neu esgeulustod tenant. • Cael gwared o osodiadau a roddwyd gan denant. • Cael gwared o 'welliannau' a wnaed gan denant lle nad yw caniatâd wedi'i roi neu nad ydynt yn cwrdd â safonau Cartrefi Conwy. • Dim mynediad ar gyfer gwasanaethu offer nwy a chostau cyfreithiol cysylltiedig. • Clirio’r cartref a’r ardd. • Colli apwyntiadau o fewn yr Uned Cynnal a Chadw Adeiladau. • Difrodi neu golli offer Teleofal. • Unrhyw eitemau pellach a nodwyd ac y cytunwyd arnynt gyda'r tenant. Costau gwaith atgyweirio cyffredin y gellir codi

tâl amdanynt

Newid cloeon / cael mynediad

£96.26

Gosod drws mewnol newydd

£73.03

Gosod drws allanol safonol newydd

£383.91

Ailwydro hyd at 1 metr sgwâr

£90.00

Ailwydro mwy nag 1 metr sgwâr

£180.00

Gosod sedd toiled newydd

£30.49

Ffob drws newydd

£26.10

Clirio eiddo y tu mewn

Isafswm £100 Uchafswm £2000

Clirio eiddo y tu allan

Clirio malurion £30.64 Clirio malurion eithriadol £83.21

Am fanylion llawn am eitemau y gellir codi tâl amdanynt,cysylltwch â 0300 124 0040

Rhowch wybod am eich cais am waith atgyweirio difrod drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 0300 124 0040 Mae angen talu o flaen llaw - ni fyddwn yn trwsio difrod heb dderbyn taliad yn gyntaf.

Cymerwch ofal o'ch cartref a'r ardd gan ei fod yn costio i chi ar gyfer gwaith atgyweirio difrod, clirio a gwastraffu amser.

Pwy yw eich hoff berson enwog a pham? Tom Hanks oherwydd bod ganddo ffilmiau da Beth yw’r peth mwyaf cofiadwy yn eich gyrfa hyd yma neu eich llwyddiant mwyaf? Ennill fy NVQ lefel 2 Pwy yw eich ysbrydoliaeth fwyaf neu fodel rôl, a pham? Chris Gethin (bodybuilder) oherwydd ei fod yn siaradwr da Pe gallech ymweld ag unrhyw le yn y byd, lle fyddai hwnnw a pham? Awstralia oherwydd ei fod yn lle braf efo llefydd a golygfeydd hardd Enwch 1 peth nad yw llawer o bobl yn ei wybod amdanoch Mae gen i ofn pryfaid cop

Datrysiadau Tai Conwy Mae Datrysiadau Tai Conwy yn bartneriaeth newydd rhwng Cartrefi Conwy a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae’n siop un alwad ar gyfer Landlordiaid a Thenantiaid fel ei gilydd. Mae’n fan cychwyn ar gyfer asiantaeth gosod tai newydd sy’n cynnig gwasanaeth proffesiynol a chystadleuol i Landlordiaid. Gallwn gynnig 3 gwahanol fath o gynhyrchion rhent i landlordiaid – o’r gwasanaeth eiddo a reolir yn llawn i'r dewis cyfateb eiddo. Mae’r gwasanaeth eiddo a reolir yn llawn yn caniatáu landlordiaid i fanteisio ar brofiad cymdeithas dai sydd ar hyn o bryd yn rheoli 3,800 o gartrefi a defnydd llawn o isadeiledd Cartrefi Conwy sy’n cynnwys llinell gymorth atgyweirio 24 awr a’r defnydd o drydanwyr, seiri a pheirianwyr nwy hollol gymwys Cartrefi Conwy i atgyweirio eich eiddo. Gall landlordiaid leihau eu pryderon rhent ymhellach trwy fod yn dawel eich meddwl y gall Datrysiadau Tai Conwy gadw rheolaeth gadarn ar unrhyw gyfrif rhent yn sgil eu profiad o reoli incwm rhent. Rydym hefyd yn cynnig talebau i landlordiaid i gael arian oddi ar unrhyw waith atgyweirio eiddo ar rent am gyfnod byr fel rhan o’n gwasanaeth a reolir yn llawn. Cysylltwch â Datrysiadau Tai Conwy ar 0300 124 0050 i gael rhagor o wybodaeth neu ewch i’n gwefan yn www.conwyhousing.co.uk

8


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.