Gyda'n Gilydd Rhifyn Arbennig Gwanwyn 2020

Page 1

CORONAFEIRWS AROS GARTREF DIOGELU’R GIG

CARTREFI CONWY

Gyda’n Gilydd RHIFYN Y GWANWYN 2020

ACHUB BYWYDAU

Mae’r rhain yn ddyddiau rhyfedd i ni gyd ac yn dorcalonnus i’r miloedd o deuluoedd sydd wedi colli anwyliaid i’r Coronafeirws. Ond ar yr un pryd, mae sawl stori i godi calon yn ein cymunedau ac ar hyd a lled y wlad. Mae pob un ohonom yn rhan o hyn gyda’n gilydd, o weithwyr rheng flaen y GIG, yr Heddlu a’r Gwasanaeth Tân a Gofalwyr, i’r gweithwyr allweddol hanfodol sy’n cadw ein siopau ar agor, yn danfon, yn datrys argyfwng, a phawb sy’n gwneud ein rhan yn cadw pellter cymdeithasol ac yn aros gartref i achub bywydau.

Gwych gweld eich cefnogaeth ar gyfer ein GIG. Gadewch i ni barhau i gefnogi hwy.

Gobeithio hefyd eich bod chi’n gwneud rhywbeth bob dydd sy’n gwneud i chi deimlo’n dda – dawnsio, canu, chwerthin, garddio, ymarfer, pobi a chadw mewn cysylltiad efo teulu a ffrindiau. Yn bennaf oll, gwnewch gynlluniau ar gyfer y dyfodol gan y bydd y cyfnod hwn yn mynd heibio.

Rydyn ni’n rhannu’r hyn rydyn ni’n ei wneud i deimlo’n dda ar ein

TUDALEN CYMRYD RHAN GYDA CARTREFI Ewch i’r dudalen hon er mwyn cael llond lle o gyfleoedd sut i gymryd rhan yn ystod ac ar ôl y cyfyngiadau symud a: cymrwch ran mewn digwyddiadau cyffrous yn eich cymuned dewch i gyfarfod â phobl o’r un meddylfryd dewch i ddweud eich dweud ynglŷn â’r ffordd rydym yn rhedeg Cartrefi Conwy. 1

@getinvolvedatcartrefi Hefyd, dros y 2 fis nesaf bydd gennym gystadlaethau newydd bob pythefnos gyda chyfle i chi a’ch teulu ennill gwobrau. Mae’r gystadleuaeth gyntaf yn gyfle i chi ennill £100 a’r cyfan sydd raid i chi ei wneud yw hoffi a dilyn y dudalen erbyn 15fed Mai. Pob lwc gan y tîm – Owen, Lydia, Megan, Laura, Emma, Matt a Nerys!

Mae fersiynau sain ac print or cylchlythur hwn ar gael. Galwch 0300 124 0040. Ebost ymholiadau@cartreficonwy.org Gall pob galwad i ein Gwasanaeth Cwsmer ei recordio.


Rydym ni ac eraill yma i helpu Mae hi’n bwysig iawn i ni eich bod yn cadw’n ddiogel ac yn iach yn enwedig yn ystod Pandemig y Coronafeirws a’r cyfyngiadau symud. Dyna pam rydyn ni wedi sefydlu Tîm Lles fydd yn gallu cynnig cymorth i chi gyda siopa hanfodol, nôl presgripsiwn neu gynnig sgwrs gyfeillgar dros y ffôn.

40

Mae gennym ni o gydweithwyr o bob rhan o’r gwaith yn helpu gyda siopa hanfodol a nôl presgripsiynau. #ymaihelpu

Rydyn ni wedi gwneud dros 2500 o alwadau ffôn i denantiaid i weld ydyn nhw angen ein cymorth.

Mae digon o gymorth arall ar gael yn ein cymuned sy’n cyflwyno gofal ac yn cynnig gwasanaethau i’n cadw ni’n ddiogel ac yn iach. Felly os ydych chi neu rywun rydych chi’n eu hadnabod angen help neu gymorth, rhowch ganiad i’n tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid a gallwn ddarparu’r wybodaeth yma i chi. Yn ystod y cyfnod hunan-ynysu a’r cyfyngiadau ar symud, yn enwedig os ydych yn byw ar eich pen eich hun, gall unigrwydd fod yn brofiad anodd a real iawn. Mae’n bwysig dal ati i siarad a chadw mewn 2 cysylltiad er mwyn llwyddo i ddod drwyddi. 2

Presgripsdiwn arall wedi ei ddanfon yn Rhos on Sea.

Dywedwyd Carol ein tenant, ni all ddiolch mwy i Cartrefi Conwy am be a wnaethom.

Felly ffoniwch ni os ydych ein hangen ar 0300 124 0040 neu e-bostiwch ymholiadau@cartreficonwy.org

chadwch a d ia ll e h m y c h ic e Cadwch mwyn gofalu r e d a ti ll y s y c n w e m lles. am eich iechyd a’ch Defnyddiwch dechnoleg os medrwch chi – gall y ffôn, e-bost, Facetime a WhatsApp eich helpu i gadw cysylltiad â phobl Ysgrifennwch lythyrau ac anfonwch luniau Trowch y radio ymlaen a gwyliwch y teledu pan fydd rhaglenni sgwrsio neu raglenni eraill sydd o ddiddordeb i chi. Mae sawl elusen yn cynnig gwasanaethau cyfeillio neu wasanaethau cadw-golwg dros y ffôn i bobl hŷn sy’n hunan-ynysu. 0300 124 0040


Sut ydych chi’n teimlo?

Mae’n naturiol teimlo wedi eich llethu, yn rhwystredig ac yn orbryderus ar yr adeg hon ond gallwch ddarganfod ffyrdd o gynnal eich lles emosiynol a’ch iechyd meddwl. Gallwch geisio gwneud ymarferion anadlu, myfyrio ac ymwybyddiaeth ofalgar. Mae llawer o gymorth i’w gael ar-lein neu dros y ffôn ac mae gennym ein harbenigwraig ein hunain, Lydia sy’n helpu tenantiaid gyda hyn drwy’r flwyddyn. Meddai ein tenant Sheila “Mae’r dosbarthiadau wedi dysgu i mi fod yn fwy caredig gyda mi fy hun. Felly nawr rwy’n hyderus y byddaf yn cael bywyd iach iawn y dyfodol.”

Rhowch gynnig ar rywbeth newydd

Wyddech chi fod gan Y Brifysgol Agored filoedd o gyrsiau am ddim:

Mae Lydia yn rhedeg sesiynau wythnosol ar-lein ar hyn o bryd. Felly os ydych chi am ymuno i gysylltu, ewch drwy’r ddolen ar dudalen Facebook cymryd rhan neu ffoniwch 0300 124 0040

Every Mind Matters -

ymgyrch GIG i’ch helpu i ofalu am eich iechyd meddwl. Edrychwch ar y cwis a chael eich cynllun gweithredu www.nhs.uk/oneyou iechyd meddwl eich hun.

/every-mind-matters

www.open.edu/openlearn/free-courses/ full-catalogue

Creu Menter

Byddwn yn cyflwyno cyfres o gyrsiau hyfforddiant ar-lein i unrhyw un sydd eisiau gwella eu sgiliau a bod yn barod i chwilio am waith. Gall ein tîm ni gynnig sesiynau 1:1 i chi i’ch cefnogi dros y ffôn i ddod o hyd i waith. Mae’n hanfodol archebu lle – y cyfan sydd raid i chi ei wneud yw anfon neges atom ar Facebook: 3 @creatingenterprise neu ebost: sioned.williams@creatingenterprise.org.uk 3 er mwyn cadw lle.

www.cartreficonwy.org


Rydyn ni wedi ein rhyfeddu gan y straeon sydd wedi ein cyrraedd. Mae Jill, sydd wrth y dderbynfa fel arfer, yn trawsgrifio dogfennau ar gyfer Sefydliad Smithsonian, tra mae Amanda, Gwirfoddolwr gyda’r Tîm Incwm (gweler y llun ohoni gyda’i Bydi Gwaith, Katy) yn dechrau cwrs gan Y Brifysgol Agored mewn TG.

Cadw’n Brysur

Os ydych yn chwilio am syniadau sut i’ch diddanu cadw chi a’ch teulu’n ddiddig yn ystod y cyfnod y cyfyngiadau ar symud, ewch i edrych ar y blog Chatterbox sy’n cynnig pethau amrywiol fel teithiau rhithiol o amgylch amgueddfa ac e-lyfrau am ddim, neu ddysgu sut i chwarae’r gitâr. Mae’n werth cael golwg!

www.chatterpack.net/blogs/blog/list-of-online-resources-for-anyone-who-is-isolated-at-home

Cynghorion arbed Arian

#YMAIHELPU Fy enw i ydi Dan ac dwi’n rheoli ein Tim Cymorth Ariannol Money Support Team gyda Cartrefi Conwy. Mae rhai o’n tenantiaid yn poeni am dalu eu rhent. Efallai bod rhai ar gontractau sero awr ac nad oes ganddyn nhw unrhyw oriau felly does ganddyn nhw ddim incwm.

4

Os ydych chi’n poeni am sut rydych chi’n mynd i ymdopi’n ariannol rydyn ni yma i helpu! Ffoniwch ni ar 0300 124 0040 (gofynnwch am y tîm cymorth arian) neu gollyngwch neges atom ar facebook a byddaf yn gofyn i un o fy nhîm roi galwad i chi cyn gynted â phosibl.

Gallwch dal wneud taliad ar-lein trwy My Cartrefi.org neu drwy alw ein linell taliad 0300 124 0060 neu 0300 124 0040 i gysodi debyd uniongyrchol. Gallwch weld cyngor gwarchod eich arian a Coronafeirws ar Money Super Market a Money Saving Expert, ac cynigion gorau am nwy a thrydan yn Uswitch. www.moneysupermarket.com/money-made -easy/coronavirus-and-family-finances www.moneysavingexpert.com www.uswitch.com

0300 124 0040


Cysylltu gyda ni Cofiwch allwch gysylltu â ni trwy ein wefan MyCartrefi www.mycartrefi.org Gallwch wneud taliadau dros y ffôn hefyd ar 0300

124 0060

Rydyn ni’n diweddaru’n tudalen Facebook yn gyson felly dilynwch ni er mwyn gwybod y diweddaraf

Bu cymdogion cyfeillgar yn ymgynnull gyda’i gilydd i helpu tenant na allai adael ei thŷ i gael gwlân i wau. Cafodd y gwlân ei basio i lawr trwy eu gerddi nes iddo gael ei ddanfon i’n tenant yn y pen draw.ovely teamwork. X

Gofynnwn i chi gadw llygad ar eich ffrindiau, teulu a chymdogion drwy’r cyfnod anodd hwn a chysylltu os oes gennych unrhyw bryderon.

Cadw chi’n ddiogel yn y cartref #YMAIHELPU

Helo - fy enw ydi Ricky ac dwi’n beiriannydd nwy gyda Cartrefi Conwy. Fy ngwaith i yw cadw’ch dŵr yn gynnes a’ch gwres ymlaen. Bob blwyddyn mae’n rhaid i ni wirio’ch offer nwy i sicrhau eu bod yn ddiogel. Gwn fod rhai tenantiaid sydd ag ymweliad yn dod i fyny yn poeni am ein gadael i mewn i’w cartrefi ac rwy’n ei ddeall yn llwyr. Ond er mwyn tawelu eich meddwl, rydym yn dilyn cyngor pellter cymdeithasol gan y Llywodraeth. Ein gwaith ni yw eich cadw chi’n ddiogel rhag niwed, felly gadewch i ni ddod i mewn i’ch cartrefi. 5

PWYSIG – mae rhai archwiliadau atgyweirio a chynnal a chadw hanfodol y mae’n ofynnol i ni eu gwneud yn ôl y gyfraith. Mae hyn yn cynnwys yr archwiliadau nwy blynyddol a’r profion trydanol bob 5 mlynedd. Hyd yn oed os ydych chi’n hunan-ynysu yn eich cartref mae’n rhaid i ni wneud yr archwiliadau hyn. ond fFe wnawn ni eu hoedi os oes modd, ond dim ond at ddyddiad penodol cyn bod yn rhaid i ni wneud y gwiriadau. Rydyn ni’n dilyn canllawiau diogelwch ychwanegol er mwyn gwneud hyn mor ddiogel â phosibl er mwyn eich gwarchod chi a’n cydweithwyr rheng flaen. Fe rown gyfarwyddiadau i chi eu dilyn cyn i ni ddod i mewn i’ch cartref. www.cartreficonwy.org


Gofalu am eich cartref Rydym ni’n gwybod faint ohonom fydd yn cynhyrchu mwy o sbwriel ac ailgylchu yn ystod y cyfyngiadau ar symud. Felly mae’n bwysig ein bod ni’n gwneud yn fawr o’n biniau gwastraff cyffredinol a’n biniau ailgylchu er mwyn llwyddo gyda hyn cystal â phosibl. Mae cynghorau Conwy, Sir Ddinbych a Gwynedd yn cynnal y gwasanaeth biniau ac ailgylchu arferol ar hyn o bryd, ac eithrio Sir Ddinbych sydd ddim yn casglu gwastraff gardd. Os ydych chi’n byw yng Nghonwy, mae’r gwasanaeth casglu gwastraff gardd newydd wedi cychwyn gan Bryson Recycling. Cofiwch fod angen cofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn. Mae’n costio £35 y flwyddyn ac mae hynny’n cynnwys danfon y bin. Gallwch archebu hyd at 3 bin ychwanegol am £20 yn fwy am bob bin. Gallwch gofrestru ar gyfer y gwasanaeth ar www.brysonrecycling. org/gardenwasteonline neu drwy ffonio 01492 555898.

Cofiwch am eich cymdogion a pheidiwch â llosgi gwastraff gardd na gwastraff cyffredinol.

Meddyliwch am gompostio a chadw bagiau ar gyfer unrhyw wastraff ychwanegol (ni ddylai arogleuo os ydych yn ailgylchu’n gywir) ar y naill ochr a’i roi yn eich bin ar ôl iddo gael ei wagio. Mae llosgi gwastraff gardd a gwastraff cyffredinol yn eich peryglu chi ac eraill ac yn ychwanegu at y pwysau ar ein gwasanaethau brys.

6

0300 124 0040


Efallai hefyd y byddwn yn cael cyfle i wneud y pethau nad oedd gennym amser i’w gwneud neu nad oeddem am eu gwneud. Felly cadwch unrhyw eitemau nad ydych eu hangen neu ddim eu heisiau bellach ar y naill ochr a chewch wared arnynt pan fydd casgliadau mawr eich cyngor yn ailgychwyn neu pan fydd y canolfannau ailgylchu gwastraff cartref yn ailagor.

Neges gan Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru Dyma gyngor sylfaenol gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar bethau y gallwch eu gwneud i gadw’n ddiogel yn eich cartref ac i’w helpu nhw i warchod ein cymunedau. • Profwch eich larwm mwg – gofalwch am eich larwm i’r larwm ofalu amdanoch chi. • Mae nifer o danau’n cychwyn yn y gegin – eiliad o golli canolbwyntiad sydd ei angen. • Mae ysmygu’n achosi tân yn aml – felly diffoddwch hi, yn llwyr. • Gan fod pawb gartref, gwnewch yn siŵr nad yw’r socedi trydan wedi eu gorlenwi. • Diffoddwch bopeth cyn mynd i’r gwely – mae nifer o danau yn cychwyn yn y nos.

7 7

Maen nhw hefyd yn gofyn i ni ystyried ar frys beth yw canlyniad ein gweithredoedd. Dilynwch Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar Facebook a Twitter i gael mwy o gyngor ar yr hyn y gallwch ei wneud i gadw’n ddiogel yn eich cartref a’n helpu i amddiffyn ein cymunedau. www.cartreficonwy.org


Gwyliwch y Twyllwyr Mae cynnydd mawr wedi bod yn yr adrodd am dwyll ers mis Mawrth. Byddwch yn ofalus. Gallwch gofrestru gyda ‘Action Fraud Alert’ er mwyn derbyn diweddariadau rheolaidd am weithgarwch twyll yn eich ardal.

Os ydych yn credu eich bod wedi cael eich twyllo, rhowch wybod i Action Fraud ar 0300 123 2040 0808 223 1133 ac os ydych angen cyngor, ffoniwch Linell Cwsmeriaid Cyngor Ar Bopeth ar 0808 223 1133. Os ydych mewn perygl mawr, ffoniwch yr heddlu ar 999. Cysylltwch â’ch banc os ydych yn meddwl eich bod wedi cael eich twyllo.

Does dim esgus o gwbl dros drais yn y cartref, waeth beth fo’r amgylchiadau.

8

Os oes unrhyw un yn teimlo eu bod mewn perygl o ddioddef camdriniaeth, mae’n bwysig cofio fod cymorth a chyngor ar gael i chi, gan gynnwys yr heddlu, cymorth ar-lein, llinellau cymorth, llochesi a gwasanaethau eraill. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun.

https://cartreficonwy.org/tenants/ domestic-abuse Ffoniwch linell am ddim, 24-awr Cenedlaethol Llinell Gymorth Cam-drin Domestig 0808 20 00 neu ymwelwch https://www.nationaldahelpline.org.uk/ Ffoniwch 999 os ydych mewn argyfwng 0300 124 0040


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.