Gwasanaethau Cwsmer
Cyswllt dyddiol â Cartrefi Conwy
0300 124 0040 Croeso i Dîm Gwasanaethau Cwsmer Cartrefi Conwy Mae’r daflen hon yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol i chi am yr ystod o wasanaethau a ddarperir gan ein Tîm Gwasanaethau Cwsmer. Maent yma i'ch helpu chi gyda cyswllt dyddiol â Cartrefi Conwy.
Gwasanaethau Cwsmer Cysylltu â Cartrefi Conwy Ffoniwch ni ar 0300 124 0040 Anfonwch e-bost at: ymholiadau@cartreficonwy.org Ysgrifennwch atom ni: Gwasanaethau Cwsmer Cartrefi Conwy, Morfa Gele, Parc Busnes Gogledd Cymru, Cae Eithin,Abergele, Conwy LL22 8LJ 15-17 Stryd Madoc, Llandudno LL30 2TL 41 Ffordd Conwy, Bae Colwyn LL29 7AA Oriau Agor y Swyddfa: Dydd Llun - Dydd Iau: 8.45yb tan 5.15yp, Dydd Gwener: 8.45yb tan 4.45yp Llinell Ffôn Gwasanaethau Cwsmer: Dydd Llun Dydd Iau: 9.00yb tan 5.00yp, Dydd Gwener: 9.00yb tan 4.45yp Mewn argyfwng: Mewn argyfwng, y tu allan i’r oriau arferol, ffoniwch 0300 124 0040 Mae'r Tîm Gwasanaethau Cwsmer yn siarad Cymraeg a Saesneg ac yn gallu’ch helpu gyda'r canlynol: • Ymholiadau cyffredinol yn ymwneud â holl wasanaethau Cartrefi Conwy • Canfod pa waith atgyweirio sydd angen ei wneud a threfnu apwyntiadau cyfleus • Gweinyddu taliadau rhent ac archebion cardiau ^ â’ch balans AllPay, neu ddelio ag ymholiad ynglyn • Llogi Canolfan Gymunedol • Diweddaru eich manylion cyswllt a gwybodaeth berthnasol arall • Gwaith brys y tu allan i oriau arferol sydd angen ei ddilyn i fyny
Gwasanaethau Cwsmer Ymholiadau Cyffredinol Ffoniwch y Tîm Gwasanaethau Cwsmer ar 0300 124 0040 gyda'ch ymholiad. Maent yn medru ateb a delio a’ch cais yn uniongyrchol neu sicrhau eich bod yn cael eich trosglwyddo yn sydyn ac yn effeithlon i’r swyddog neu dîm perthnasol i ddelio â’ch cais. Canfod pa waith atgyweirio sydd angen ei wneud a threfnu apwyntiadau cyfleus Mae'r Tîm Gwasanaethau Cwsmer yn gweithio gydag Uned Cynnal a Chadw Adeiladau Cartrefi Conwy ac yn cynnig gwasanaeth atgyweirio hyblyg. Bydd ein ymgynghorwyr gwasanaeth cwsmer yn trin eich holl geisiadau am atgyweiriadau ac yn eich helpu i ganfod pa waith atgyweirio sydd ei angen, yn gwirio datblygiad y gwaith ac yn monitro’r gwasanaeth a ddarperir i chi. Helpwch ni i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl. Cyn ffonio, sicrhewch bod gynnych cymaint o wybodaeth a phosibl am eich cais ac unrhyw fanylion cyswllt. Os ydych chi wedi trefnu gwaith atgyweirio ac angen newid dyddiad yr apwyntiad, rhowch wybod i ni ar unwaith. Asesu Atgyweiriadau Rydym ni’n asesu ceisiadau am atgyweiriadau ac yn eu categorieddio naill ai fel Atgyweiriadau Brys neu Atgyweiriadau Safonol. Mae Cartrefi Conwy yn cynnig gwasanaeth ymatebol atgyweiriadau brys 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Mewn achos o argyfwng, byddwn yn anelu at gyrraedd eich cartref a gwneud y sefyllfa'n ddiogel o fewn 4 awr. Os yn bosibl, byddwn yn cwblhau’r atgyweiriadau argyfwng sydd eu hangen. Os oes angen trefnu apwyntiad arall, bydd yn cael ei nodi fel gwaith Atgyweirio argyfwng Safonol.
Gwasanaethau Cwsmer Gwneud taliad rhent, archebu cardiau AllPay neu holi am eich balans Mae talu’ch rhent trwy’r Tîm Gwasanaethau Cwsmer yn hawdd ac yn ^ bod eich cerdyn debyd neu gredyd wrth gyfleus. Gwnewch yn siwr law, ynghyd â'ch cyfeiriad llawn a’ch manylion cyswllt. Fe allwch chi hefyd archebu cerdyn AllPay neu wirio’ch balans ar yr un pryd. Llogi Canolfan Gymunedol Mae gennym ni Ganolfannau Cymunedol yn yr ardaloedd canlynol: Bae Colwyn, Hen Golwyn, Llandrillo-yn-Rhos a Cyffordd Llandudno. Mae gennym hefyd ystafell wely ar gael i’w llogi ym Maes Cwstennin, Cyffordd Llandudno ar gyfer ffrindiau neu deulu preswylwyr. Mae'r ystafelloedd hyn ar gael i denantiaid, trigolion a grwpiau lleol eu llogi am dâl bychan. Cysylltwch â'r Tîm Gwasanaethau Cwsmer i wirio argaeledd, cyfleusterau’r canolfannau a threfniadau llogi. Proffil Cwsmer Mae Cartrefi Conwy yn darparu ystod o wasanaethau a chymorth yn y gymuned. Rydym ni’n teimlo ei bod yn bwysig i ni feddu ar yr wybodaeth ddiweddaraf am eich cartref fel y gallwn ni gynnig y lefel uchaf o ofal cwsmer, gwasanaeth a chefnogaeth i chi. O bryd i'w gilydd, bydd ein tîm gwasanaeth cwsmer yn cysylltu â chi i ofyn am wybodaeth am eich cartref. Rydym ni hefyd yn gofyn i chi roi gwybod i ni os yw eich manylion cyswllt neu’ch amgylchiadau yn newid – rhag ofn i chi golli allan ar gymorth, cefnogaeth neu gynigion sydd ar gael ichi. Gwaith brys y tu allan i oriau arferol sydd angen eu dilyn i fyny Os oes gwaith brys wedi ei wneud yn eich cartref y tu allan i’r oriau arferol, bydd y gweithiwr yn rhoi gwybod i’r tîm Gwasanaethau Cwsmer a oes angen gwaith dilynol. Bydd y tîm yn cysylltu â chi i drefnu amser cyfleus i gwblhau’r gwaith yma. Safon ein Gwasanaeth Rydym ni wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon uchel i'n preswylwyr. Gallwch ein helpu ni i ddarparu gwasanaethau o’r radd flaenaf drwy ddychwelyd unrhyw arolwg boddhad cwsmer neu holiadur a anfonwn atoch chi. Fodd bynnag, os ydych chi’n meddwl ein bod ni wedi methu darparu gwasanaeth boddhaol yna defnyddiwch ein gweithdrefn gwyno sydd wedi ei chynllunio i ddatrys cwynion cyn gynted ag y bo modd. Cysylltwch â'r Tîm Gwasanaethau Cwsmer i ofyn am gymorth ynglyn â’n gweithred gwyno.