Together - Copi Cymraeg

Page 1

GWANWYN 2013

c r e u

c y m u n e d a u

i

f o d

y n

f a l c h

Osgoi toriadau i fudd-dal treth y cyngor yng Nghymru

D

an ddiwygiadau lles Llywodraeth y DU, roedd disgwyl i’r cyllid ar gyfer budd-dal treth y cyngor gael ei dorri a’i ddisodli gyda thaliad i awdurdodau lleol sy’n talu am 90 y cant o gost y budd-dal. Byddai hyn wedi’i adael i fyny i awdurdodau lleol benderfynu sut orau i ddefnyddio’r cyllid. Awgrymodd Llywodraeth Cymru’n flaenorol y byddai’n gweithredu’r toriad 10 y cant, ond mae bellach wedi cymryd cam yn ôl. NI FYDD y toriadau i fudd-dal treth y cyngor a fyddai wedi golygu biliau i 230,000 o bobl am y tro cyntaf yn digwydd wrth i Lywodraeth Cymru ddod o hyd i arian. Byddai wedi golygu bod hawlwyr £67 ar eu colled ar gyfartaledd ac wedi golygu y byddai 230,000 o bobl wedi talu o leiaf rhywfaint o’u biliau treth y cyngor am y tro cyntaf. Mae’r arian ychwanegol a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2013 gan Lywodraeth Cymru’n golygu NA FYDD y toriad i fudd-dal treth y cyngor yn digwydd pan fydd y flwyddyn ariannol nesaf yn cychwyn ym mis Ebrill 2013. Bydd y bobl a chanddynt hawl i’r budd-dal yn parhau i gael y swm llawn. Os ydych chi’n poeni neu’n gofidio am y newidiadau i’r budd-dal lles, cysylltwch â’n Tîm Budd-daliadau Lles ar 01492 805621. Gallwch gysylltu hefyd ag ‘Ymgyrch Mae’ch Budddaliadau’n Newid’ ar 0300 3031073 neu anfon neges destun gyda’r gair ‘newid’ 80018

Digwyddiad y Fforwm Tenantiaid – 15 Mai 2013 Bydd y Digwyddiad Fforwm Tenantiaid ar y 15fed Mai 2013 yn cael ei gynnal yn Eglwys Arfordir y Gogledd, Ffordd y Gors, Towyn. Bydd y digwyddiad hwn yn benodol ynglyn â’r effaith bydd y newidiadau Diwygio Budddaliadau Lles yn ei gael ar denantiaid. Bydd gwybodaeth ar gael mewn perthynas â’r canlynol: treth ystafell wely / tanfeddiannu, cynhwysiant digidol, benthycwyr arian didrwydded ac undebau credyd. Bydd sefydliadau allanol yn ymuno â ni yn y digwyddiad hefyd er mwyn cynnig cyngor a chefnogaeth ar y diwrnod.

DYDDIADAU CAU CRONFA’R GIST GYMUNEDOL Nod Cronfa’r Gist Gymunedol yw cefnogi prosiectau graddfa fach a fydd yn gwella ansawdd bywyd ein tenantiaid mewn cymunedau lleol neu lle mae gennym gartrefi. Mae grantiau o hyd at ^p £1000 ar gael i unrhyw gr w gwirfoddol, cymunedol neu hamdden yn sir Conwy ac ar gyfer ceisiadau unigol sy’n bodloni’r meini prawf a osodwyd yn ein canllawiau. Mae’r dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau’r Gist Gymunedol 2013 fel a ganlyn:

Cysylltiadau

Derbynfa Rhadffon Derbynfa Derbynfa

• 28 Chwefror • 30 Ebrill • 30 Mehefin • 31 Awst • 31 Hydref • 31 Rhagfyr

01492 805500 0800 012 1431 neu 01492 805580 01492 805600 01492 805632

CYMERWCH OLWG Y TU MEWN

Beth sy’n digwydd yn Nhy^ Cymunedol Rhodfa Caer!

tudalen 2

Prosiect Addewidion Cartrefi Conwy

tudalen 3

Diwygiadau i’r Budddaliadau Lles / Newid i’ch Budd-daliadau!

tudalen 4

Mae disgwyl i DENANTIAID elwa ar ostyngiadau mewn dwy siop adwerthu boblogaidd

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Sarah Jones ar 01492 805564 neu anfonwch e-bost at cymrydrhan@cartreficonwy.org

Bryn Eirias Trwsio Bae Colwyn Llandudno

o h o n y n t

tudalen 7

ymholiadau@cartreficonwy.org

Mae copÏau sain o’r cylchlythyr hwn ar gael Galwch ein Derbynfa ar 01492 805500 am gopi


^ Beth sy’n digwydd yn Nhy Cymunedol Rhodfa Caer!

Ein helpu ni i ffurfio’n gwasanaethau

C

Yn Fforwm Tenantiaid mis Rhagfyr, gofynnom am eich adborth ar ein gwasanaethau atgyweirio. Cawsom rywfaint o wybodaeth ddefnyddiol iawn a bydd eich awgrymiadau a’ch sylwadau’n cael eu defnyddio i’n helpu ni i wella’r gwasanaethau a gynigiwn.

yfrannodd Cartrefi Conwy arian tuag at 8 wythnos o sesiynau crefft Nadolig trwy fis Tachwedd a mis Rhagfyr 2012. Cafodd y tenantiaid a’r trigolion gyfle i gymryd rhan mewn gwneud cardiau Nadolig, addurniadau a gemwaith gyda Tina Elliott.

Dweud eich dweud! Byddwn hefyd yn defnyddio sylwadau’r fforwm i’n helpu ni i gysylltu â mwy o denantiaid am y materion sy’n wirioneddol bwysig. Cadwch lygad am arolygon a gweithdai a ddaw yn fuan am eich cyfle i helpu ffurfio’r gwasanaethau a gynigiwn.

Mae’r sesiynau crefft bellach wedi gorffen ac mae Tina’n cyflwyno sesiwn Aerobeg Cadair Freichiau bob prynhawn dydd Iau am 4pm - 5pm yn y T^ y Cymunedol. Mae’r sesiynau’n £2 y pen ac yn addas i bob oedran a lefel ffitrwydd.

Oes gennych adborth ar y gwasanaeth trwsio? Byddem wrth ein boddau yn clywed am eich meddyliau a’ch profiadau. Gallwch ein cyrraedd ni trwy ddefnyddio’r dulliau isod neu trwy fynd at unrhyw aelod o staff.

Dewch draw i ymuno yn yr hwyl. Cysylltwch â Vicky Welsman ar 01745 331825 i gael mwy o fanylion.

Trwy’r ffôn: Rhadffôn: 0800 012 1431 (Gall galwadau o ffôn symudol gostio tipyn yn fwy) neu 01492 805580

T

hema sesiwn mis Ionawr y Cylch Ti a Fi oedd Eira a Dynion Eira oherwydd y tywydd. Chwaraeodd y plant gydag eira go iawn a gwnaethant luniau o ddynion eira gyda Brenda, arweinydd chwarae Ti a Fi.

Trwy’r e-bost: ymholiadau@cartreficonwy.org Trwy’r Post: Y Pencadlys Bryn Eirias, Heritage Gate, Ffordd Abergele, Bae Colwyn, LL29 8BY

Cynhelir y Cylch Ti a Fi bob dydd Mercher am 10am - 12pm yn y T^ y Cymunedol, Bae Cinmel. Mae croeso i bob plentyn cyn-oed ysgol a’i riant ddod draw. Mae’r sesiynau’n rhad ac am ddim.

Cadwch lygad am ragor o erthyglau ar sut rydym yn gwella’r gwasanaethau trwsio a chynnal a chadw!

Mae croeso ichi ddod draw a chael rhywfaint o hwyl. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Vicky Welsman ar 01745 331825.

Ar eich Stad gydag Ivy Brett

arbennig eraill fel eu partïon Pasg a Nadolig blynyddol. Mae aelodau hefyd yn cymryd rhan mewn raffl hefyd i godi arian, gyda’r gwobrau wedi’u rhoi i’r clwb.

Gan Kath Molloy

Yn ogystal â hyn, mae Mrs Brett yn treulio’i hamser rhydd hefyd yn canu gyda chôr lleol. Gan fod cartref Mrs Brett yn rhan o Gynllun Tai Mae Ivy Brett, 86 oed, wedi byw yn ei byngalo Gwarchod, rwy’n ymweld â hi’n rheolaidd ond Cartrefi Conwy yn Llandudno ers 23 o mae’n aml yn anodd cael gweld Ivy gan ei bod hi flynyddoedd. Yn ystod yr amser hwn, mae hi wedi allan mor aml gyda’r holl wirfoddoli mae hi’n ei treulio sawl bore yn Ysbyty Cyffredinol wneud! Mae hi’n weithgar iawn ac mae hi’n cael Llandudno yn gofalu am stondin wybodaeth effaith gadarnhaol iawn ar y grwpiau mae hi’n ddwywaith yr wythnos ar ran Cynhalwyr Cymru. ymwneud â hwy. Mae’n wirioneddol dda gwybod Mae hi wedi gweu niferoedd di-ri o siacedi plant fod pobl fel Ivy allan ar hyd y lle ac sydd am i’w gwerthu er mwyn codi arian i’r achos gwerth dreulio’u hamser yn helpu pobl eraill ac yn codi chweil hwn ac mae wedi ac yn parhau i gymryd arian i achosion gwerth chweil. rhan yn eu holl ddigwyddiadau codi arian. Er Rydw i wedi adnabod Ivy ers nifer o mwyn cydnabod hyn, rhoddodd Cynhalwyr flynyddoedd, yn mynd nôl cyn i Gartrefi Conwy Cymru enw Mrs Brett ymlaen ar gyfer gwobr gael ei ffurfio yn 2008. Rhoesom wahoddiad i Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Conwy, lle Gynhalwyr Cymru ddod i ddigwyddiadau rhoddwyd ‘Gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn’ iddi mawrion fel Diwrnodau Agored a i gydnabod yr 17 o flynyddoedd o wasanaeth Chynadleddau Tenantiaid er mwyn iddi hi ac selog a roddodd i Gangen Llandudno Cynhalwyr aelodau eraill o Gangen Llandudno gael y cyfle i Cymru. ledu’r gair am eu sefydliad. Mae hi wedi bod yn Dywed un o ffrindiau Mrs Brett o gangen gefnogwraig ddiflino ers i mi ei hadnabod hi. Cynhalwyr Cymru, “ Ni allech ddod o hyd i Os ydy’r erthygl hon wedi’ch ysbrydoli chi ac yr wirfoddolwraig fwy selog nag Ivy, fydd hi byth yn hoffech gael gwybod mwy am unrhyw un o’r eich gadael chi i lawr”. sefydliadau neu’r clybiau a grybwyllwyd, Ochr yn ochr â’i gwaith i Gynhalwyr Cymru, Mrs cysylltwch â’r grwpiau’n uniongyrchol gan Brett hefyd yw prif drefnydd Bore Coffi a ddefnyddio’r rhifau isod neu siaradwch gydag gynhelir yn y Trinity Centre, Llandudno. Bob dydd aelod o staff Cartrefi Conwy, fel Warden, a all Gwener, daw aelodau draw i fwynhau’r awyrgylch ddweud wrthych beth sy’n digwydd yn eich ardal cyfeillgar ac i gael sgwrs gyda phobl hŷn o leol a sut gallwch gymryd rhan. feddylfryd tebyg. Mae’r ffioedd aelodaeth a delir Cangen Llandudno Cynhalwyr Cymru yn talu am deithiau dydd a digwyddiadau

Gwirfoddolwr Gwerthfawr

2

- 01492 874505


Prosiect Addewidion Cartrefi Conwy Dynes ysbrydoledig y bydd colled mawr ar ei hôl

B

u farw Sylvia Lavender yn ystod cyfnod y Nadolig 2012 a bydd Cartrefi Conwy a chymuned Tan Lan yn Hen Golwyn yn gweld ei heisiau’n fawr. Ymunodd Sylvia â phwyllgor Canolfan Gymunedol Tan Lan am y tro cyntaf rhyw 10 mlynedd yn ôl ac yn fuan ar ôl ymuno, fe’i hetholwyd yn gadeirydd. Ei phrif nod oedd sicrhau bod cyfleuster ar gyfer y bobl ifanc ar Stad Tan Lan. Gan ddefnyddio’r cysylltiadau oedd ganddi trwy’r Cyngor a Chartrefi Conwy, daeth o hyd i’r bobl iawn i gysylltu â nhw am grantiau a chymorth i dreblu maint y Ganolfan Gymunedol. Roedd gan Sylvia doreth o egni, ni fethodd ei brwdfrydedd, rhoddodd ei synnwyr digrifwch wên ar wynebau pobl ac ysgogodd y pwyllgor i gyflawni’r hyn a saif fel Canolfan Gymunedol Tan Lan heddiw, sef Canolfan Gymunedol wych sy’n ganolbwynt i’r ardal. Ni waeth beth oedd y cyflawniadau cymunedol eraill yr oedd Sylvia’n ymhél â nhw, y gwaith o gyflwyno cyfleuster canolfan gymunedol fodern a ffyniannus ar stad Tan Lan yw’r hyn fydd hi’n cael ei chofio amdano yn y pen draw. Cyn y trosglwyddo, roedd Sylvia’n un o aelodau ^p Tasg a Gorffen Tai (CBSC), yn aelod sefydlu’r Gr w o gr ^ wp Strategaeth Tai Cyngor Conwy a gr ^ wp Cynhwysiad y Trigolion. Cyfetholwyd Sylvia ar y Bwrdd Cysgodol Trosglwyddo a gwasanaethodd ar Fwrdd Cartrefi Conwy. Roedd Sylvia’n falch o fod yn Aelod o Fwrdd Cartrefi Conwy a theimlai drwy’r amser ei bod hi’n cyfleu safbwyntiau trigolion a thenantiaid y stad. Roedd hi’n ymroi i wella’i chymuned leol a cheisio cynyddu cyfleoedd i’r trigolion. Yn 2008, cafodd ei henwebu a’i rhoi ar y rhestr fer ar gyfer gwobr TPAS ‘Ruth Radley Outstanding Achievement in Participation’ am ei hymrwymiad ac am dreulio’i hegni ar brosiectau cymunedol a sicrhau trwyddi hefyd, bod llais y tenantiaid yn cael ei glywed. Bydd Sylvia Lavender yn parhau i fod yn berson ysbrydoledig a boed i’r cof amdani fyw trwy’r gwaith a gyflawnodd gyda Chanolfan Gymunedol Tan Lan.

Ym mis Medi 2008, trosglwyddwyd stoc tai cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i Gartrefi Conwy. Ers hynny, mae Cartrefi Conwy wedi bod yn brysur yn gwneud gwelliannau i’w gartrefi, gwasanaethau a chymunedau i fodloni’r addewidion a wnaeth i’w denantiaid. Roedd yr addewidion hyn yn cynnwys: gwaith gwella i gartrefi lle'r oedd angen fel ystafelloedd ymolchi a ffenestri; gwelliannau i gymunedau fel datblygiadau amgylcheddol a thirwedd, a gwell gwasanaethau lleol. Mae Cartrefi Conwy bellach am wybod gan ei denantiaid os ydych yn teimlo fod yr addewidion hyn wedi’u cadw ac, yn bwysicach na hynny, pa wahaniaeth mae’r gwelliannau hyn wedi’u gwneud i chi, eich cartrefi a’ch cymunedau. Er mwyn gwneud hyn, mae Cartrefi Conwy wedi gofyn i TPAS Cymru, sefydliad annibynnol ^ o denantiaid a’u lleol, i weithio gyda grwp cefnogi i gasglu tystiolaeth gan denantiaid eraill sy’n byw ar hyd a lled Conwy. Gallai hyn olygu siarad â’r tenantiaid ar yr ystadau ac mewn gwahanol ddigwyddiadau a grwpiau cymunedol.

Mae TPAS Cymru wedi cefnogi tenantiaid a landlordiaid tai cymdeithasol yng Nghymru ers 25 mlynedd ac mae ganddo wybodaeth eang am dai cymdeithasol gan ganolbwyntio ar faterion o safbwynt y tenantiaid. Mae TPAS Cymru bellach yn cefnogi grŵp o denantiaid Cartrefi Conwy sydd wedi gwirfoddoli i gymryd rhan yn y prosiect a fydd yn golygu casglu gwybodaeth a thystiolaeth gan denantiaid eraill. TPAS Cymru sy’n rheoli’r prosiect ac maent yn darparu help, gwybodaeth a hyfforddiant annibynnol ar gyfer y tenantiaid-gwirfoddolwyr er mwyn iddynt allu: helpu i ddylunio’r cwestiynau; teimlo’n hyderus wrth ofyn cwestiynau a siarad â thenantiaid eraill; ac, edrych ar ganlyniadau’r arolwg a pharatoi adroddiad byr. Bydd canfyddiadau’r prosiect ar gael i holl denantiaid Cartrefi Conwy yn ystod Haf 2013 felly gwyliwch allan amdano! Os ydych chi’n denant Cartrefi Conwy ac am gael rhagor o wybodaeth am gymryd rhan yn y prosiect, gallwch gysylltu â TPAS Cymru yn uniongyrchol (manylion isod).

TPAS Cymru 01492 593046 iona@tpascymru.org.uk www.tpascymru.org.uk

Llongyfarchiadau i Sylvia Duxbury o Fae Colwyn Diolch i bawb a gwblhaodd ac a ddychwelodd y Chwilair Yswiriant Cynnwys Cartref yn rhifyn gaeaf ‘Gyda’n gilydd’. Rhoddwyd pob ffurflen wedi’i llenwi mewn raffl a Sylvia oedd yr enillydd lwcus o dalebau gwerth £25 o’r Stryd Fawr.

3


Diwygiadau i’r Budd-daliadau L CWESTIYNAU CYFFREDIN

Treth Tanfeddiannaeth / Ystafell Wely Sbâr Beth mae ‘treth tanfeddiannaeth/ystafell wely sbâr’ yn ei olygu? O fis Ebrill 2013 ymlaen, mae Llywodraeth y DU yn gwneud rhai newidiadau i’r taliadau Budd-dal Tai a fydd yn effeithio ar denantiaid a chanddynt fwy o ystafelloedd gwely nag y mae arnynt eu hangen. Mae Deddf Diwygio Lles 2012 yn golygu y byddwch ond yn gallu hawlio Budd-dal Tai ar gyfer y nifer o ystafelloedd gwely y mae arnoch eu hangen ar gyfer eich cartref. Pryd bydd hyn yn dechrau? 1 Ebrill 2013 Beth yw’r rheolau? • Mae disgwyl i blant dan 10 oed ac o’r ddau ryw (bechgyn a merched) rannu ystafell wely. • Mae disgwyl i blant dan 16 oed ac o’r un rhyw (bechgyn neu merched) rannu ystafell wely. • Mae gan bob oedolyn neu bâr hawl i’w hystafell wely eu hunain. • Os oes gennych hawl gyfartal i ofalu am blentyn, dim ond un rhiant all gael y lwfans ystafell wely ar gyfer y plentyn hwnnw – mae hyn yn cynnwys lle bydd plentyn yn dod i aros gyda rhiant nad yw’n byw gydag ef/hi fel rheol. • Ni fydd ystafelloedd gwely ychwanegol yn cael eu caniatáu am resymau meddygol – mae hyn yn cynnwys pâr y mae angen ystafelloedd gwely ar wahân arnynt oherwydd bod un yn sâl neu’n gwella o lawdriniaeth. • Gallai fod gan denantiaid a chanddynt anableddau difrifol, a lle mae angen gofalwr dros nos nad yw’n preswylio arnynt yn rheolaidd, hawl i ystafell wely ychwanegol. Dim ond gofalwyr y mae angen iddynt aros yn yr eiddo am saith noson yr wythnos all gael eu hystyried.

Nid yw fy mhlant yn byw gyda mi drwy’r amser rhagor, ond maen nhw’n aros pan fyddant yn ymweld? Os nad chi yw prif ofalwr eich plant, bydd eich budd-dal tai’n cael ei ostwng yn unol â sawl ystafell wely ‘sbâr’ sydd gennych yn eich cartref. Mae fy mhlentyn i ffwrdd yn y Brifysgol, allaf gadw ei ystafell ar gyfer pan fydd yn dod adref yn ystod y gwyliau? Gallwch, ni wneir gostyngiad i’ch budd-dal tai, fodd bynnag, rhaid i’r absenoldeb fod yn un dros dro, felly bydd hyn ond yn berthnasol os bydd eich plentyn i ffwrdd am lai na thair wythnos ar ddeg y flwyddyn, neu lai na 52 wythnos y flwyddyn, i fyfyrwyr a’i fod yn bwriadu dychwelyd i’r cartref. Os bydd fy Mudd-dal Tai’n cael ei ostwng, beth fydd hynny’n ei olygu? Bydd angen ichi ariannu unrhyw wahaniaeth yn eich Budd-dal Tai i sicrhau y gallwch dalu’r rhent llawn ar gyfer yr eiddo rydych chi’n byw ynddo. Cofiwch, os na fyddwch yn cadw i fyny gyda’ch taliadau rhent, byddwch yn colli’ch cartref. Os asesir bod eich cartref yn cael ei danfeddiannu, bydd eich budddal tai’n cael ei ostwng 14% am gael un ystafell wely ‘sbâr’ a gostyngiad o 25% os bydd gennych ddwy ystafell wely ‘sbâr’ neu’n fwy.

-

A fydd rhaid imi symud?

Na, ni fydd rhaid i chi adael eich cartref o I gael reidrwydd. Fodd bynnag, bydd rhaid ichi mwy o wybodaeth a ariannu’r gwahaniaeth mewn Budd-dal Tai eich chymorth, cysylltwch â’n Tîm hun ar gyfer unrhyw ystafelloedd gwely ‘sbâr’ ^ Budd-daliadau Lles ar 01492 allai fod gennych. Os nad ydych chi’n siwr Beth mae ‘oed gweithio’ yn ei olygu? sut byddwch yn talu am unrhyw wahaniaeth 805621. Gallwch gysylltu ag Mae Llywodraeth y DU wedi datgan y bydd treth yn eich Budd-dal Tai, efallai y bydd rhaid ichi ‘ymgyrch Mae’ch Budd-daliadau’n tanfeddiannaeth/ystafell wely sbâr yn effeithio ar denantiaid oed ystyried symud i eiddo llai o faint. Cysylltwch Newid’ hefyd ar 0300 3031073 gweithio ac nad ydynt yn cael credyd pensiwn, felly unrhyw un â’n Tîm Budd-daliadau Lles i gael cyngor ac i neu anfon neges destun o dan oedran credyd pensiwn y wladwriaeth. Ym mis Ebrill drafod eich dewisiadau ymhellach. 2013, oddeutu 61 mlwydd a 6 mis yw oedran credyd pensiwn. gyda’r gair ‘ Allaf gael ystafell wely ychwanegol os... Fodd bynnag, bydd yr oedran credyd pensiwn yn cynyddu newid 80018 Mae gennyf ofalydd sydd yn aros gyda mi dros nos 7 blwyddyn ar ôl blwyddyn, sy’n golygu efallai na fydd rhywun yn 2014 noson yr wythnos yn cael credyd pensiwn tan eu bod nhw’n 62 mlwydd oed. Gallwch gyfrifo’ch oedran credyd pensiwn trwy droi at https://www.gov.uk/pensionOs oes gennych ofalwr dros nos, bydd ganddynt hawl i un credit-calculator. ystafell wely. Cysylltwch â’n Tîm Budd-daliadau Lles i lenwi’r gwaith papur i sicrhau nad oes rhaid ichi dalu. Sut bydd hyn yn effeithio arnaf i? Ar bwy fydd hyn yn effeithio? Pob tenant oed gweithio sy’n byw mewn eiddo Cartrefi Conwy sy’n hawlio Budd-dal Tai.

Dyma rai enghreifftiau: Rwy’n byw gyda’m partner, mae gennym ferch 5 oed, mab 9 oed ac rydym yn byw mewn t ^y tair ystafell wely. Fel pâr, mae gennych hawl i un ystafell wely a byddai disgwyl i’ch plant sydd o dan 10 oed ill dau rannu un ystafell wely. Mae hyn yn gadael 1 ystafell wely ‘sbâr’ sy’n golygu y bydd eich Budd-dal Tai yn cael ei ostwng. Rwy’n byw gyda’m partner, mae gennym fab 4 oed, mab 15 oed ac rydym yn byw mewn t ^y tair ystafell wely Fel pâr, mae gennych hawl i un ystafell wely ac mae disgwyl i’ch plant rannu un ystafell wely tan iddynt gael eu pen-blwydd yn 16 oed, gan fod y ddau ohonynt o’r un rhyw (y ddau yn wrywod). Mae hyn yn gadael 1 ystafell wely ‘sbâr’ sy’n golygu y bydd eich Budd-dal Tai yn cael ei ostwng. Rwy’n byw gyda’m partner mewn t ^y dwy ystafell wely. Fel pâr, mae gennych hawl i un ystafell wely. Mae hyn yn gadael 1 ystafell wely ‘sbâr’ sy’n golygu y bydd eich Budd-dal Tai yn cael ei ostwng.

4

Mae gennyf hawl gofalu am fy mab/merch Bydd eich Budd-dal Tai’n cael ei ostwng oni hawliwch Fudd-dal Plant i’ch plentyn. Mae angen lle arnaf ar gyfer offer meddygol. Byddwch yn cael eich effeithio a bydd eich Budd-dal Tai’n cael ei ostwng. Rwy’n ofalwr maeth Byddwch yn cael eich effeithio a bydd eich Budd-dal Tai’n cael ei ostwng. Dan amgylchiadau eithriadol gallwch wneud cais am Daliad Dewisol Tai i wneud y gwahaniaeth, cysylltwch â’n Tîm Budd-daliadau Lles i drafod hyn ymhellach. Rwy’n byw mewn eiddo wedi’i addasu a chanddo ystafell sbâr. Byddwch yn cael eich effeithio a bydd eich Budd-dal Tai’n cael ei ostwng. Dan amgylchiadau eithriadol, gallwch wneud cais am Daliad Dewisol Tai i dalu am y gwahaniaeth, cysylltwch â’n Tîm Budd-daliadau Lles i drafod hyn ymhellach.

Cysylltwch â’n Tîm Budd-daliadau Lles ar 01492 805621


Lles / Newid i’ch Budd-daliadau! Cap Budd-daliadau Beth yw’r cap budd-daliadau? O fis Ebrill 2013 ymlaen, bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno cap ar gyfanswm y budd-dal y gall pobl oed gwaith ei gael. Bydd y cap budd-daliadau’n golygu na all pobl oed gweithio gael mwy na swm penodol mewn budd-daliadau, hyd yn oed os byddai eu hawl lawn yn uwch fel arall. Bydd y cap yn cael ei osod yn ôl yr incwm net cyfartalog y mae cartrefi sy’n gweithio’n eu hennill. Amcangyfrifir mai £350 yr wythnos yw hyn ar hyn o bryd ar gyfer un oedolyn heb blant a £500 yr wythnos ar gyfer pâr neu riant sengl, ni waeth faint o blant sydd ganddynt.

Credyd Cynhwysol Y Credyd Cynhwysol yw’r un taliad newydd o’ch holl fudd-daliadau oed gweithio a disgwylir iddo gael ei lansio yn yr ardal hon naill ai ym mis Hydref 2013 neu fis Ebrill 2014. Bydd hwn ar gyfer pobl sy’n chwilio am waith neu sydd ar incwm isel. Bydd Credyd Cynhwysol yn disodli’r Lwfans Ceisio Gwaith seiliedig ar incwm, y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth cysylltiedig ag incwm, y Cymhorthdal Incwm, Credydau Treth Plant, Credydau Treth Gwaith ac yn nes ymlaen y Budd-dal Tai.

• Taliadau’r Gronfa Gymdeithasol.

Bydd yn cael ei dalu unwaith y mis i un aelod o bob cartref. Bydd rhaid i bob bil, gan gynnwys rhent, gael eu talu allan o’r un taliad misol hwn, felly byddwch yn ei chael hi’n haws rheoli’ch arian os oes gennych gyfrif banc sy’n cefnogi debydau uniongyrchol. Os nad oes gennych gyfrif banc, mae’n amser da i ddechrau meddwl am agor un. I gael help a chymorth ar agor cyfrif banc, cysylltwch â’n Tîm Budd-daliadau Lles.

• Credyd mewn gwaith.

Pryd bydd y Credyd Cynhwysol yn effeithio arnaf?

• Credyd Dychwelyd i’r Gwaith.

Bydd y newid i Gredyd Cynhwysol yn digwydd mewn camau dros y pedair blynedd nesaf (2013 – 2017).

Er mwyn cyfrifo ydych chi o fewn y cap budd-daliadau, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn adio’ch incwm o’r holl fudd-daliadau a gewch, ar wahân i’r canlynol:

Pa gartrefi sydd wedi’u heithrio? Bydd cartrefi’n cael eu heithrio o’r cap budd-daliadau, beth bynnag fo swm y budd-daliadau a gânt, pan fydd rhywun yn y cartref yn: • Cael hawl i Gredyd Treth Gwaith. • Yn Cael Lwfans Byw i’r Anabl, Taliad Annibyniaeth Bersonol, Lwfans ^ cymorth neu’r Lwfans Gweini. Cyflogaeth a Chymorth yn y gr wp • Yn cael Budd-dal Anafiadau Diwydiannol a phensiynau a thaliadau anabledd rhyfel cyfatebol dan Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog. • Yn cael Pensiwn Gw^yr a Gwragedd Gweddw • Yn ddi-waith ar ôl cael eu cyflogi am 12 mis parhaus cyn hawlio budddaliadau ac wedi colli eu swydd heb unrhyw fai arnynt hwy. Yn yr achos hwn, mae’r cartref yn cael diogelwch 9 mis o’r cap budd-daliadau. Sut bydd y cap budd-daliadau’n cael ei roi ar waith? Pan ddeuir â’r cap budd-daliadau i rym, bydd yn cael ei roi trwy’r system Budd-dal Tai, felly bydd yn cael ei weinyddu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Golyga hyn y bydd eich Budd-dal Tai’n cael ei ostwng gan y swm y mae’ch incwm yn rhagori ar y Cap Budd-daliadau.

1. Ebrill 2013 – Bydd prosiectau Pathfinder yn dechrau mewn rhai ardaloedd o’r DU. 2. Hydref 2013 – Bydd Credyd Cynhwysol yn cael ei gyflwyno i rai hawlwyr newydd. Mae hyn yn debygol o fod mewn rhai ardaloedd yn unig, sydd heb eu nodi eto a chyda dim ond yr hawliadau mwyaf syml fel hawlwyr y Lwfans Ceisio Gwaith sy’n sengl ac nad oes angen help arnynt gyda chostau tai. 3. Ebrill 2014 – Bydd pob hawliwr newydd yn hawlio Credyd Cynhwysol a bydd yr hawlwyr presennol yn dechrau trosglwyddo i Gredyd Cynhwysol. 4. Hydref 2017 – Bydd pob hawliwr ar Gredyd Cynhwysol. Bydd Credyd Cynhwysol yn rhedeg ochr yn ochr â’r system fudd-daliadau bresennol tan fis Hydref 2017. Golyga hyn y bydd rhai pobl yn cael y Credyd Cynhwysol, tra bydd eraill yn parhau i gael eu budd-daliadau presennol. Beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn hawlio’r Credyd Cynhwysol?

Ni ddylai hawlwyr presennol golli allan i’r pwynt eu bod nhw’n newid i Gredyd Cynhwysol oherwydd bydd ‘dulliau diogelu newid’ ar ffurf taliadau ychwanegol i sicrhau nad yw’r dyfarniad Credyd Cynhwysol yn llai nag y byddai’r hawliwr yn ei gael fel arall. Wrth i bobl drosglwyddo i Gredyd Pwy fydd yn cael eu heffeithio? Cynhwysol, bydd cyfleuster hefyd am daliadau ymlaen llaw er mwyn i Yn fras, bydd y cap yn effeithio ar deuluoedd mawrion gyda sawl hawlwyr beidio â gweld bwlch wrth iddynt symud o plentyn sy’n derbyn swm uwch o bosibl na’r symiau Credyd gylchoedd talu o bob pythefnos i bob mis. Bydd rhaid Treth Plant cyfartalog ac yn fwy tebygol o fyw mewn cartrefi gwneud yr hawliadau newydd trwy’r rhyngrwyd Cofiwch mwy o faint sy’n golygu mwy o Fudd-dal Tai. gyda’r hawlwyr yn cael eu cyfrifon ar-lein eu ei bod yn bwysig Beth yw fy newisiadau os byddaf yn cael fy hunain lle gallant adrodd ar newidiadau yn effeithio gan y cap? eu hamgylchiadau. Bydd Cartrefi Conwy’n rhoi gwybod i ni os sicrhau bod cyfleusterau rhyngrwyd ar Mae Llywodraeth y DU yn pwysleisio’r dewis o bydd eich manylion gael yn ei swyddfeydd a thai cymunedol. symud i waith er mwyn osgoi’r cap, ond ni fydd hyn yn bosibl i rai o’r bobl sy’n cael eu heffeithio. cyswllt yn newid, neu os Gallai llawer o’r newidiadau a ddisgrifir Mae dewisiadau eraill yn cynnwys: uchod fod yn destun adolygiad a gallai oes unrhyw newidiadau yn union fanylion a’r graddfeydd amser • Gweld a oes gennych hawl i fudd-dal sy’n eich eich amgylchiadau newid ar ôl i ganlyniadau’r treialon gael eithrio rhag y cap nad ydych chi eisoes yn ei eu hasesu. Bydd Cartrefi Conwy’n hawlio. personol, a allai effeithio monitro’r • Gwneud yn iawn am y diffyg mewn Budd-dal Tai ar eich budd-daliadau sefyllfa ac yn trwy ddefnyddio incwm arall, gan leihau gwariant ar rhoi’r newyddion neu anghenion tai. bethau nad ydynt yn hanfodol, neu gael Taliad diweddaraf i chi er Dewisol Tai. mwyn ichi fod mor Os byddwch yn cael eich effeithio gan y cap budd-daliadau, barod â phosibl. mae’n bwysig eich bod chi’n cael cyngor nawr, cysylltwch â’n Tîm Budd-daliadau Lles. Cysylltwch â’n Tîm Budd-daliadau Lles ar 01492 805621

5


TÂN, LLIFOGYDD, DIFROD DŴR ...

Newid i dalu trwy Ddebyd Uniongyrchol

A allech fforddio talu am eiddo newydd?

I gael ffordd fwy cyfleus, hawdd a diffwdan o dalu’ch rhent, ffioedd gwasanaeth a rhent garej, trefnwch dalu trwy ddebyd uniongyrchol heddiw.

Gyda’r gaeafau hynod oer a’r cynnydd mewn llifogydd fel y gwelwyd cyn y Nadolig ar y teledu cenedlaethol a oedd yn cynnwys Gogledd Cymru, mae tenantiaid yn cael eu hannog rŵan i gymryd mesurau ataliol i osgoi pibau rhag byrstio ac i wneud yn siŵr fod ganddynt yswiriant digonol os byddwn yn destun llifogydd annisgwyl eto.

Gellir gwneud y taliadau trwy randaliadau wythnosol neu fisol ar unrhyw un o’r dyddiadau canlynol: Mae Misol – ar y 1af, 7fed, 16eg, 20fed neu’r 23ain pobl heb Wythnosol – bob dydd Llun, dydd Mawrth gyfleusterau debyd neu ddydd Gwener uniongyrchol yn talu Y manteision o dalu trwy Ddebyd £70 y flwyddyn yn Uniongyrchol

Fel y bydd llawer yn cofio, gwelodd Cartrefi Conwy gynnydd yn yr ymholiadau gan denantiaid am yswiriant cynnwys yn sgil y llifogydd cyn y Nadolig e.e. yn Stad y Fron ym Mae Colwyn, oherwydd sylweddolasant nad oedd ganddynt ddigon o yswiriant neu nid oeddent wedi ystyried prynu Yswiriant Cynnwys Cartref.

• Mae’n eich helpu chi i reoli a chyllidebu’ch arian yn fwy effeithiol.

ychwanegol am eu biliau ynni! Rheswm da arall i agor cyfrif sy’n cefnogi debydau uniongyrchol!

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd wedi gweld yswirwyr yn cael hyd at 50% yn fwy o hawliadau na’r disgwyl ar gyfer yr adeg hon o’r flwyddyn o ganlyniad i dywydd rhewllyd. Mae mwy o’r hawliadau hyn ar gyfer difrod a achoswyd trwy ddŵr yn dianc yn hytrach na thân neu ladrad.

• Tynnir taliadau o’ch cyfrif yn awtomatig ar y dyddiadau a gadarnhawyd gyda ni, felly nid oes rhaid ichi gofio pryd i dalu na phoeni am golli taliad.

Talodd cwmnïau yswiriant dros £900m ar gyfer hawliadau a gododd yn sgil pibau wedi byrstio, ac eto nid yw tenantiaid yn sylweddoli maint y risg. Mae llawer yn poeni am fyrgleriaethau tra byddant i ffwrdd, ond dim ond canran fach sy’n poeni am bibau’n byrstio.

• Ailgyfrifir taliadau’n awtomatig bob blwyddyn yn unol â’r codiadau mewn rhent. Rhoddir rhybudd ysgrifenedig mewn perthynas ag unrhyw godiad cyn y dyddiad talu cyntaf.

Gall tenantiaid a thrigolion Cartrefi Conwy bellach drefnu am sicrwydd yswiriant ar gyfer cynnwys eu cartref am gyfradd arbennig y gellir ei fforddio lle gellir talu’r premiymau bob pythefnos neu fis gydag arian parod, yn fisol trwy ddebyd uniongyrchol neu’n flynyddol.

Er y bydd Cartrefi Conwy’n trwsio unrhyw ddifrod sy’n digwydd i strwythur eich Dyluniwyd yr yswiriant i eiddo, ni fydd hyn yn helpu tenantiaid a thrigolion i yswirio’r rhan ymestyn i’ch eiddo fwyaf o’u heiddo cyn hawsed personol. â phosibl ac mae’n eu hyswirio yn erbyn lladrad, fandaliaeth a thân hefyd. Y gwerthoedd eiddo isaf y gellir yswirio amdanynt yw £9,000 os ydych o dan 60 oed neu £6,000 os ydych chi dros 60 oed. Mae’r premiymau’n dechrau o ddim ond £1.53 neu £1.16 y pythefnos yn y drefn honno. Gall tenantiaid a thrigolion godi yswiriant hefyd am bremiwm ychwanegol i gynnwys difrod damweiniol estynedig, yswiriant am gymhorthion clyw, cadeiriau olwyn/sgwteri ac eiddo personol (yswiriant oddi cartref). Mae yswiriant adeiladau ar gyfer siediau, garejis a thai gwydr ar gael hefyd. Felly, os nad oes gennych yswiriant, ffoniwch My Home ar 0845 337 2463.

YN EISIAU pob ffotograffydd brwd! Oes gennych ffotograff a dynnoch sy’n dal un o’r tirnodau yn sir Conwy? Os felly, carem glywed gennych! Rydym wrthi’n adeiladu pencadlys newydd Cartrefi Conwy yn Abergele a hoffwn ymgorffori ffotograffau a dynnwyd gan ein tenantiaid yn nyluniad mewnol yr adeilad. Bydd pob ffotograff arobryn a ddewisir yn cael £50. Sylwch mai’r dyddiad cau i anfon eich ffotograff yw erbyn 5pm dydd Gwener 12 Ebrill. Anfonwch e-bost o’ch ffotograffau at cyfathrebu@cartreficonwy.org neu postiwch nhw at Cartrefi Conwy, Bryn Eirias, Heritage Gate, Ffordd Abergele, Bae Colwyn LL29 8BY *Sylwch fod yn rhaid mai chi sydd wedi tynnu’r ffotograff eich hun yn y lleoliad dan sylw. Rhaid Ffotograffau a dynnwyd fod yn cydraniad uchel.

6

• Yn wahanol i daliadau Archeb Sefydlog, rheolir taliadau Debyd Uniongyrchol gan eich banc ac felly mae llai o risg o beidio â chasglu taliadau neu daliadau’n cael eu dyblygu mewn camgymeriad. • Ar ôl ichi lenwi’r ffurflen debyd uniongyrchol, nid oes angen llenwi ffurflenni eraill a bydd y debyd uniongyrchol yn parhau hyd nes ichi ei ganslo gyda’ch banc ac/neu Cartrefi Conwy, neu bydd taliad yn cael ei ddychwelyd heb ei dalu i ni gan eich banc. • Sicrheir y taliadau gan y warant debyd uniongyrchol I gael mwy o wybodaeth am dalu trwy Ddebyd Uniongyrchol neu i drefnu Debyd Uniongyrchol, cysylltwch â Hayley Legge ar 01492 805517. The Direct Debit Guarantee Gwarant Debyd Uniongyrchol • This Guarantee is offered by all banks and building societies that accept instructions to pay Direct Debits. Mae’r Warant hon yn cael ei chynnig gan bob banc a chymdeithas adeiladu sy’n derbyn cyfarwyddiadau i dalu Debyd Uniongyrchol. • If there are any changes to the amount, date or frequency of your Direct Debit Cartrefi Conwy will notify you 10 working days in advance of your account being debited or as otherwise agreed. If you request Cartrefi Conwy to collect a payment, confirmation of the amount and date will be given to you at the time of the request. Os bydd unrhyw newid yn symiau, dyddiadau neu amlder eich Debyd Uniongyrchol, bydd Cartrefi Conwy yn rhoi gwybod i chi (nifer i’w ychwanegu) diwrnod gwaith cyn i’ch cyfrif gael ei ddebydu, neu fel y cytunwyd fel arall. Os byddwch chi’n gofyn i Cartrefi Conwy gasglu taliad, bydd cadarnhad o’r swm a’r dyddiad yn cael ei roi i chi pan wneir y cais. • If an error is made in the payment of your Direct Debit, by Cartrefi Conwy or your bank or building society, you are entitled to a full and immediate refund of the amount paid from your bank or building society. Os bydd Cartrefi Conwy neu eich banc neu gymdeithas adeiladu, yn gwneud camgymeriad ynghylch talu eich Debyd Uniongyrchol, mae gennych yr hawl i dderbyn ad-daliad llawn ar unwaith o’r swm a dalwyd gan eich banc neu gymdeithas adeiladu. - If you receive a refund you are not entitled to, you must pay it back when Cartrefi Conwy asks you to. Os byddwch chi’n derbyn ad-daliad nad oedd gennych yr hawl i’w dderbyn, mae’n rhaid i chi ei dalu yn ôl pan fydd Cartrefi Conwy yn gofyn i chi wneud hynny. • You can cancel a Direct Debit at any time by simply contacting your bank or building society. Written confirmation may be required. Please also notify us. Gallwch ganslo Debyd Uniongyrchol unrhyw bryd drwy gysylltu â’ch banc neu gymdeithas adeiladu. Efallai y bydd angen cadarnhad ysgrifenedig. Rhowch wybod i ninnau hefyd, os gwelwch yn dda.


Mae disgwyl i DENANTIAID elwa ar ostyngiadau mewn dwy siop adwerthu boblogaidd

Y chwyddwydr ar Kevin Talbot

Mae’r Crest Co-operative wedi uno gyda Chartrefi Conwy i gynnig gostyngiad adwerthu o 15% i denantiaid y gymdeithas tai. Bydd y tenantiaid yn gymwys i gael cerdyn gostyngiadau Siop Gymunedol Crest.

Beth mae’ch swydd yn ei olygu? Fi yw’r cydlynydd atgyweiriadau cynnal a chadw ymatebol o ddydd i ddydd. Rwy’n treulio fy amser yn y Pencadlys ym Mryn Eirias, Bae Colwyn gan amlaf.

Agorodd y Crest Co-operative siop newydd ym Mostyn Broadway (y tu cefn i Barc Llandudno) ar ddydd Sadwrn, 16 Chwefror. Agorodd y cwmni ailgylchu siop ar y stryd fawr ar Ffordd yr Orsaf, Bae Colwyn, y llynedd. Mae’r ddwy siop yn gwerthu pethau hanfodol i’r cartref fel soffas, gwelyau, cypyrddau dillad, peiriannau golchi, oergell-rewgelloedd, poptai newydd ac ail-law, a llawer mwy. Caiff pob eitem drydanol wedi’u hadnewyddu eu profi gan dîm o beirianwyr ac fe’u gwerthir gyda gwarant o dri mis. Bydd tenantiaid Cartrefi Conwy’n cael gostyngiad hefyd ar ystod o ddillad plant a nwyddau meithrinfa o frandiau’r stryd fawr sydd bron yn newydd. Dywedodd Sharon Jones, Prif Weithredwr y Crest Co-operative: “Mae hwn yn gyfle gwych i denantiaid arbed arian ar hanfodion y cartref. Rydym wrth ein boddau o gynnig gostyngiad o 15% i denantiaid Cartrefi Conwy.” Mae storfa Crest Cooperative ar Ferry Farm Road yn awr ar gau.

Sut byddech yn disgrifio’ch hun mewn 3 gair? Teyrngar, gonest a dibynadwy. Beth oeddech chi eisiau bod pan oeddech yn iau? Roeddwn am fod yn bêl-droediwr proffesiynol. Oes gennych unrhyw hobïau, os oes, beth ydyn nhw? Unrhyw beth sy’n gysylltiedig â chwaraeon mewn gwirionedd; pêl-droed, sboncen, golff a rhedeg. Pe byddech yn ennill y loteri, ar beth fyddech chi’n gwario’ch arian yn y lle cyntaf? Byddwn yn prynu plasty gyda phwll nofio dan do a champfa. Byddwn yn cael parti pabell fawr agored ar y tir hefyd. Beth yw’ch hoff fwyd?

Os ydych chi’n denant Cartrefi Conwy ac yn dymuno gwneud cais am gerdyn gostyngiadau Siop Gymunedol Crest, mae ffurflenni cais ar gael yn ein siopau Crest. Gellir defnyddio’r cardiau gostyngiadau bob tro yr ymwelwch â siop Crest.

Cinio dydd Sul Beth yw’ch atgof mwyaf cofiadwy yn eich gyrfa neu’ch cyflawniad mwyaf hyd yma? Rhedeg Marathon Chicago a Llundain, bydd yr awyrgylch a’r profiad yn byw gyda mi am byth. Pe gallech ymweld ag unrhyw le yn y byd, ble fyddai hynny a pham? Jamaica neu’r Caribî oherwydd mae popeth yn hamddenol ac yn rhydd o straen yno. Enwch 1 peth nad oes llawer o bobl yn ei wybod amdanoch? Rydw i wedi rhoi peint o waed 3 gwaith y flwyddyn am y 15 mlynedd diwethaf.

WALES/CYMRU

0300 123 3311 UK/DU 0300 555 2222 (Standard rate/Cyfradd arferol)

WEBSITE/GWEFAN

www.direct.gov.uk/stoploansharks

Atal Damweiniau Cartref Cymru

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae nifer o ddamweiniau a marwolaethau yn ymwneud á phlant ifanc a cordiau bleind, gall y rhain gael eu hatal drwy:

We had nothing, no money left to give them, and I felt they would kill me anyway, so we had no choice but to ask for help… Doedd gennym ni ddim byd, dim arian ar ôl i’w roi iddyn nhw, a ro’n i’n teimlo y byddan nhw’n fy lladd beth bynnag, felly doedd dim dewis ond gofyn am help…

• Gosod bleindiau nad oes ganddynt cordiau • Cadw cordiau allan o gyrraeth • Peidiwch á rhoi dodrefn yn ymyl ffenestri Er mwyn lleihau’r risgiau o ddamweiniau cordiau bleind, ddylai cordiau gael eu cadw allan o gyrraeth plant; gellir cledd gael eu gosod yn hawdd i glymu’r cord yn uchel allan o gyrraeth.

Gellir cledd cael eu gosod i glymu cordiau yn uchel i fyny allan o gyrraedd plant am lain a £2.00 yr un

Gall damweiniau ddigwydd, mae plant bach yn crwydro ac nid bob amser o dan oruchwyliaeth. Bydd plant bach yn mygu’n dawl; mae eu pennau yn pwyso mwy na eu cyrff. Peidiwch á thorri cordiau yn ei hanner; gall arwain at un cordyn fod yn hirach na’r llall ac yn hawdd i glymu o amgylch gwddf plentyn bach.

Tommy Williams Swyddog Diogelwch yn y Cartref

Are you a loan shark victim? A ydych chi’n dioddef oherwydd siarcod benthyg arian? Borrowed £500 Interest charged £3,000. total to be repaid within five months. Benthycwyd £500 Llog a godwyd £3,000 Y cyfan i’w dalu o fewn pum mis.

Borrowed £200 Interest charged £80 to be repaid in 5 weekly payments of £48. Benthycwyd £200 Llog a godwyd £80 Y cyfan i’w dalu fesul taliad o £48 dros 5 wythnos.

7


Llwyddiant SATC Rydym newydd gwblhau rhaglen gwella tai enfawr yng Nghartrefi Conwy i bron 3,800 eiddo ar hyd a lled y sir. Trwy’r rhaglen hon, crëwyd 320 o swyddi gennym a 300 o gyfleoedd hyfforddi eraill. Yn ogystal, achubwyd bron 4,000 o geginau ac ystafelloedd ymolchi yn hytrach na’u gollwng mewn safle tirlenwi. Yn ogystal â’r 300 o gyfleoedd hyfforddi, creodd y cydweithrediad gyda’r Crest Co-operative Ltd saith swydd amser llawn wrth i gynllun Llwybrau at Brentisiaethau redeg gyda Choleg Llandrillo a arweiniodd at 50 o leoliadau. Ymhlith y tenantiaid fydd yn elwa ar y gwelliannau mae Robert a Selma Lloyd o Bendalar, yn Llanfairfechan. Dywedodd Mrs Lloyd, 62 oed: “Rydym yn falch iawn o’n hystafell ymolchi newydd a chyflawnwyd y gwaith yn wych heb ryw lawer o lanastr. Ychwanegodd Mr Lloyd, gyrrwr bws wedi ymddeol: “Mae Cartrefi Conwy’n wych. Maen nhw wedi’n trin ni’n dda iawn ac rydym wedi gweld gwahaniaeth mawr ers i Cartrefi Conwy gymryd yr awenau yn 2008.” Mae Andrew Bowden yn hynod falch o’r berthynas weithio gyda G Purchase Construction a Crest Cooperative, ond hoffai’n ddiolch yn arbennig i’n tenantiaid. Er i’r gwelliannau hyn gael eu gwneud i wella’ch

safonau byw, rydych chi wedi gorfod goddef yr anghyfleustra a chael adeiladwyr yn eich eiddo. Gwerthfawrogwn eich amynedd a’ch cefnogaeth, felly rhaid i Gartrefi Conwy ddiolch yn fawr i’n holl denantiaid. Nid ydym yn gorffwys ar ein bri, rydym wedi dechrau ar waith allanol a gwelliannau amgylcheddol gwerth £6 miliwn ac rydym yn gwella ein heiddo ymhellach er mwyn iddynt fod yn addas i’r dyfodol. Ffeithlen Cartrefi Conwy Gwnaed y gwaith canlynol: 2,305 cegin newydd

295 to newydd

3,367 drws newydd

1,062 gwaith llinell doeau

2,130 ystafell ymolchi newydd

399 rendrad

319 o addasiadau i ystafelloedd ymolchi

717 boeler newydd

Ailweirio 1,398 eiddo

1,809 gwaith inswleiddio llofftydd a wal geudod

455 o ffenestri newydd

325 gwaith inswleiddio waliau allanol

Disgowntiau Lleol Cartrefi Conwy – dangoswch eich Cerdyn cyn talu i arbed arian! ABERGELE 10% I FFWRDD Cariad Bride 31/33 Market Street LL22 7AF 01745 832 560 Blodau, Anrhegion a Nwyddau Priodasol COLWYN BAY 10% I FFWRDD Boxellence Fitness Centre 3/5 Station Road LL29 8BP 01492 539 593 Chwaraeon a Hamdden 5% I FFWRDD Music Makers 12 Penrhyn Road LL29 8LG 01492 534 834 Chwaraeon, Hamdden a Hobïau 5% I FFWRDD Revolution Unit 8, Bay View Shopping Centre Sea View Road LL29 8DG Ffasiwn

10%I FFWRDD TLC Auto Valet Conwy 42 Sea View Road LL29 8DG 07551 070 073 Cynnal a Chadw Ceir

LLANRWST 10% I FFWRDD Blodeuwedd 19 Station Road LL26 0EP 01492 642 700 Cartref a Dodrefn

10% I FFWRDD Zanzibar Coffee Shop & Bistro 15 Penrhyn Road LL29 8LG 01492 534 144 Bwyta Allan

5% I FFWRDD Clare’s Health Shop 8 Denbigh Street LL26 0LL 01492 641 669 Iechyd a Harddwch

KINMEL BAY 5% I FFWRDD Peter Roberts Joinery & Building 24 Langford Drive LL18 5NP 01745 355 415 Nwyddau a Gwasanaethau Cartref LLANDDULAS 10% I FFWRDD Crystal Clear Diamond Events Plas Tirion Flat Abergele Road LL22 8EN 07783 740 191 Gwasanaeth Personol

5% I FFWRDD Ty The Hand, Ancaster Square LL26 0LH 01492 642 224 Cartref a Dodrefn MOCHDRE 10% I FFWRDD Homeflooring UK Direct House Glan Y Wern Road LL28 5BW 01492 544 070 Cartref a Dodrefn

OLWYN HEN GOLWYN 10% I FFWRDD Computer Repairs Conwy 305 Abergele Road LL29 9YF 07794 667 205 Trydanol 10% I FFWRDD Lyndale Hotel 410 Abergele Road LL29 9AB 01492 515 429 Llety 10% I FFWRDD Bwyty Tamarind Thai Lyndale Hotel 410 Abergele Road LL29 9AB 01492 515 429 Bwyta Allan 10% I FFWRDD Wedding Day Perfect Day 1 Cefn Road LL29 9PN 07557 261 061 Blodau, Anrhegion a Nwyddau Priodasol

DEC A

34 B12

16

56

Argymhellwch eich hoff siop... Ydych chi’n gwybod am siop neu wasanaeth ardderchog sydd ddim ar y rhestr? Ffoniwch y Gwasanaethau Cwsmer ar 0844 478 1800 neu ewch i www.countdowncard.com a nodi enw, manylion cyswllt, ayyb… y busnes. Yna, mi wnawn ni eu gwahodd i ymuno ar eich rhan!

Cofrestrwch eich erdyn... Ewch i www.countdowncard.com a chlicio ar ‘Register’ i dderbyn diweddariadau, cynigion arbennig a chystadlaethau trwy gyfrwng neges destun, eGylchlythyrau a thrydar!

Am ragor o wybodaeth mae croeso i chi gysylltu gyda’ch Cydlynydd Cymdogaeth, neu roi galwad i adran Gwasanaethau Cwsmer Countdown ar 0844 478 1800.

8

Os oes gennych sylwadau ar y rhifyn hwn neu awgrymiadau ar gyfer rhifynnau ‘Gyda’n Gilydd’ i’r dyfodol, cysylltwch â’r tîm cyfathrebu ar 01492 805503 neu anfonwch e-bost at Sylwch fod yr holl gynnwys yn gywir ar adeg cyhoeddi.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.