Together - Copi Cymraeg

Page 1

Tenants Newsletter Nov 2013_Layout 1 25/11/2013 08:49 Page 20

Hydref / Gaeaf 2013

c r e u

c y m u n e d a u

i

f o d

y n

f a l c h

Lansio’r Ymgyrch ‘Peidiwch â’n gwahodd i ginio!’ yng Ngogledd Cymru Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi lansio’r ymgyrch ‘Peidiwch â’n gwahodd i ginio – Meddwl yn Ddiogel, Coginio’n Ddiogel!’ i helpu i ostwng nifer y tanau sy’n gysylltiedig â choginio trwy hyrwyddo canllawiau syml ar goginio’n ddiogel. Coginio sy’n achosi dros hanner yr holl danau damweiniol yn y cartref yng Ngogledd Cymru, gyda nifer syfrdanol o ugain tân a oedd yn gysylltiedig â choginio yn digwydd yn Sir Conwy yn unig yn ystod mis Medi. Mae’r ymgyrch newydd hwn yn amlygu’r peryglon pan fo rhywbeth yn mynd â’ch sylw tra’r ydych yn paratoi bwyd a’r risgiau sy’n gysylltiedig â gadael y bwyd yr ydych wrthi’n ei goginio heb unrhyw un i gadw llygad arno. Anghofio diffodd y pentan, gadael bwyd yn y popty microdon yn rhy hir, gorboethi sosban sglodion, llosgi’r tost, neu fraster neu saim wedi cronni ar daclau coginio, gall pob un o’r rhain fod yn drychinebus yn y gegin a gallant achosi anaf difrifol neu, yn fwy difrifol byth, gallant ladd rhywun. Meddai Gwyn Jones, Rheolwr Diogelwch Cymunedol ar gyfer Conwy a Sir Ddinbych: “Mae’n gyfrifoldeb arnom ni i wneud popeth a allwn i amlygu’r ffaith bod coginio’n achosi nifer uchel o danau mewn tai a cheisio cyfleu ein negeseuon yn eglur – ond pan ddaw’n fater o newid ymddygiad i gadw’n ddiogel, dim ond rhoi cyngor y gallwn ni ond eich cyfrifoldeb chi, drigolion Cartrefi Conwy, yw ^ eich bod yn gwneud yn siwr gwrando ar y cyngor hwnnw. •Os byddwch yn gadael yr ystafell tynnwch y bwyd sy’n coginio oddi ar y gwres

Cysylltiadau

•Peidiwch â defnyddio matsis na thanwyr sigaréts i danio cwcerau nwy. Mae dyfeisiau tanio’n fwy diogel ^ bob amser bod coesau unrhyw •Gwnewch yn siwr sosbenni wedi’u troi i ffwrdd oddi wrth ymyl y cwcer •Cadwch y popty, y pentan a’r gridyll yn lân – mae braster a saim sydd wedi casglu’n gallu mynd ar dân yn hawdd •Peidiwch byth â hongian unrhyw beth i sychu uwchben y cwcer •Gofalwch os ydych yn gwisgo dillad llac gan y gallant fynd ar dân yn hawdd ^ bod •Pan fyddwch wedi gorffen coginio gwnewch yn siwr popeth wedi’i ddiffodd •Diffoddwch ddyfeisiau trydan pan nad ydynt yn cael eu defnyddio •Peidiwch byth â defnyddio sosban sglodion – defnyddiwch ffrïwr saim dwfn sydd â thermostat i reoli’r gwres •Trefnwch fod larymau mwg yn cael eu gosod yn eich cartref – maent ar gael yn rhad ac am ddim ac fe allent achub eich bywyd

o h o n y n t

CYMERWCH OLWG Y TU MEWN

Gwaith yn dechrau ar brosiect ystâd werdd £1.1m

tudalen 4

Lansio fforwm lesddalwyr tudalen 4

"Dro ar ôl tro rydym yn ymateb i danau mewn tai sydd wedi dechrau yn y gegin – mae mor hawdd anghofio am eich bwyd pan yw’n coginio, yn enwedig os ydych wedi blino, os yw rhywbeth yn mynd â’ch sylw neu os ydych wedi bod yn yfed. Ond gall y canlyniadau fod yn ddifrodus. Peidiwch â’n gwahodd i ginio a ninnau’n gorfod ymladd y tân yn eich cegin!” “Digwyddodd un enghraifft o effaith ddifrodus gadael bwyd yn coginio heb unrhyw un i gadw llygad arno pan gafodd y Gwasanaeth eu galw i eiddo Cartrefi Conwy wedi i dân gael ei achosi gan sosban sglodion a oedd wedi cael ei gadael heb unrhyw un i gadw llygad arni”.

Cadw Addewidion

tudalen 6

Credir bod y dyn wedi syrthio i gysgu ar ôl gadael ei sosban sglodion heb unrhyw un i gadw llygad arni, a’i fod wedi cael ei ddeffro gan larwm mwg. Fe geisiodd ddiffodd y tân ei hun, a chafodd losgiadau ar ei freichiau a’i ben yn y broses gan orfod treulio amser hir yn yr ysbyty. "Felly da chi, cymerwch sylw o’n hymgyrch a chofiwch – mae larymau mwg yn achub bywydau. I gael gwiriad diogelwch tân yn y cartref yn rhad ac am ddim ffoniwch ein rhif Rhadffôn 24 awr ar 0800 169 1234.

Gwasanaeth Cwsmer 0300 124 0040

ymholiadau@cartreficonwy.org

Byddwch Yn Feistr Ar Gyllidebu Ar Gyfer Y Nadolig!

tudalen 8 Mae copïau sain o’r cylchlythyr hwn ar gael Gofynnwch am gopi drwy ffonio 01745 335345


Tenants Newsletter Nov 2013_Layout 1 25/11/2013 08:49 Page 19

Yr Uned Cynnal a Chadw Adeiladau’n cwblhau rhaglen Ffensio ar ystâd Pendalar.

Nifer y cartrefi a ddiweddarwyd – 28 Amser ar y safle – 6 mis

Gan Simon Wright Fe weithion ni mewn partneriaeth gyda’r tîm Gwneud Iawn â’r Gymuned a’u goruchwyliwr Martin Trigg, ac mae’r gwaith ffensio wir wedi gwneud i’r ystâd i gyd edrych yn dda gan wireddu ein gweledigaeth ar gyfer cymunedau y gallwn fod yn falch ohonynt. Mae wedi rhoi diogelwch i blant chwarae yn eu gerddi eu hunain mewn amgylchedd diogel. Roedd y tywydd yn ffactor mawr yn ystod y rhaglen, gan nad wyf erioed wedi bod mewn llecyn lle’r oedd y gwynt, y glaw a’r barrug mor wael yn dod i mewn o Fôr Iwerddon ond cafodd hyn ei wrthbwyso gan yr ardal hyfryd gyda golygfeydd gwych dros bellter mawr. Bob tro rwy’n mynd i Bendalar rwy’n meddwl cymaint o wahaniaeth y mae’r gwaith wedi ei wneud ac rwy’n teimlo’n falch fy mod wedi bod yn rhan o’r contract allanol cyntaf i gael ei gyflawni gan y tîm mewnol Cynnal a Chadw Adeiladau. Llandudno

Eich Tîm Gwasanaethau Cymdogaeth

Deganwy Bae Colwyn

Conwy

Hen Golwyn Llanddulas

Tan y Lan Ystad Ucheldiroedd Parc Peulwys

Cyffordd Llandudno Penmaenmawr

Pensarn

Llansan Sior

Abergele Llysfaen

Mochdre Glan Conwy

Llanfairfechan Tyn-y-Groes

Betws-yn-Rhos Llanfairtalhaiarn

Henryd Eglwysbach

Tal-y-Bont

Gallwch gysylltu â’ch cydlynydd cymdogaeth trwy ffonio 01745 335359

Bae Cinmel Towyn

Llandrillo-yn-Rhos

Llanelian

Dolgarrog

Llanefydd

Llangernyw Llansannan Bylchau Groes

Trefriw Rowen Capel Garmon

Llanddoged Llanrwst

Capel Curig

Melin Nebo Betws-y-Coed Glasfryn

Dolwyddelan Pentrefoelas Penmachno Cwm Penmachno

Ysbyty Ifan Cerrigydrudion Llangwm Cefn Brith

Ardaloedd Maerdy

Llanfihangel GM

Lynda Johnson

Emyr Hughes

Stephen Bowling

Christine Mockridge

Alexa Boase

Rhif ffôn newydd Gwasanaethau Cwsmeriaid Rhif ffôn ein tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid yn awr yw:

0300 124 0040 Nid yw galwadau’n costio mwy na galwadau i rifau daearyddol (01 a 02) ac mae’n rhaid iddynt gael eu cynnwys mewn munudau cynwysedig a chynlluniau disgownt yn yr un ffordd. Codir yn nodweddiadol am alwadau o linellau tir yn ôl cyfradd o 2c a 10c y funud; mae galwadau o ffonau symudol yn nodweddiadol yn costio rhwng 10c a 40c y funud. Mae galwadau o linellau tir a ffonau symudol wedi’u cynnwys mewn pecynnau galwadau am ddim.

2

Bydd ein tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid yn gallu eich helpu gyda’r canlynol: • Ymholiadau cyffredinol mewn perthynas â’r gwasanaethau y mae Cartrefi Conwy yn eu cynnig • Gwneud diagnosis ar gyfer atgyweiriadau a gwneud apwyntiadau sy’n gyfleus i chi • Talu rhent, archebu cardiau All pay neu ymholi ynghylch eich balans • Bwciadau yn y Ganolfan Gymunedol • Proffilio Tenantiaid • Gwaith brys y tu allan i oriau arferol y mae angen sylw dilynol iddo


Tenants Newsletter Nov 2013_Layout 1 25/11/2013 08:49 Page 18

Cwblhau Gardd y Synhwyrau Sbotolau Holi Jason Webster Beth mae dy swydd yn ei olygu? Mae fy swydd yn bennaf yn golygu gosod systemau TG a rhoi cymorth i gydweithwyr yn Cartrefi Conwy. Sut fyddet ti’n dy ddisgrifio dy hun mewn 3 gair? • Diwyd • Cydwybodol • Didaro Beth oeddet ti am fod pan oeddet yn iau? Roeddwn i am fod yn Ninja Turtle, ond roedd y paent gwyrdd yn costio ffortiwn. Buan wedi hynny y sylweddolais fy mod am wneud “rhywbeth” gyda chyfrifiaduron. Beth yw dy hoff ddyfyniad?

Gan Eluned Hughes. Cafodd tenantiaid ym Mryn Difyr, Penmaenmawr, barti ar ddydd Sul 14 Gorffennaf i ddathlu cwblhau eu gardd synhwyraidd a grëwyd gan ddefnyddio’r gronfa Environmental SOS. “Yn wreiddiol roeddem ni fel tenantiaid am i fflagiau gael eu symud o’r ardal wrth ymyl y byngalos ym Mryn Difyr. Pan godwyd yr ystâd roedd gennym 15 byngalo a 12 o fflatiau un llawr. Roedd wal frics yn amgylchynu’r fflatiau, ac roedd pawb yn teimlo bod hon yn wahanfur rhwng yr adeiladau. Fe benderfynon ni wneud cais am arian o’r gronfa Enviro SOS ac ar ôl nifer o gyfarfodydd fe ddyfarnwyd £3360 i ni. Dechreuodd y gwaith yng nghanol y tywydd oer yn 2013 ac yna fe ddanfonwyd 3 thwb crwn ar gyfer plannu. Wedyn fe gasglodd Mrs Tina Turner yr holl ddeunyddiau plannu ynghyd ac fe drefnodd bod pawb yn helpu. Yn olaf ar ddydd Sul 14 Gorffennaf fe gawsom ein te parti cyntaf gyda’r tenantiaid i gyd yn mwynhau.”

Ar eich marciau ym Mryn Castell Llanfairfechan

“Knowledge speaks but wisdom listens” - Jimi Hendrix Beth fyddai dy gar delfrydol? Pe bai digon o arian gen i, y car McLaren P1 newydd. Mae’n waith celfyddyd! Oes gen ti unrhyw hobïau, ac os felly beth ydynt? Rwy’n hoff iawn o gerddoriaeth ac yn ceisio mynd i gymaint o gigs â phosib. Rwy’n dysgu chwarae’r gitâr ar hyn o bryd hefyd. Rwyf hefyd yn hoff iawn o ddyfeisiau technegol/cyfrifiadurol wrth gwrs, yn ogystal â bod yn ddilynwr brwd chwaraeon modur. Beth yw dy hoff fwyd?

Ar Orffennaf 10 fe estynnodd tenantiaid Bryn Castell wahoddiad i blant y Cylch Meithrin lleol gynnal eu diwrnod mabolgampau ym Mryn Castell. Roedd yn fore llwyddiannus ac yn un a fwynhawyd gan y plant, y rhieni a’r tenantiaid, gyda rhai o’r tenantiaid yn ymuno yn y gêm sgŵp a phêl (wy ar lwy). Cafodd yr holl blant a 2 o’r rhieni dystysgrif a gyflwynwyd iddynt gan Mrs Shirley McCarthy a gafodd dystysgrif hefyd gan un o’r plant am ennill ei ras hi. Mae’r tenantiaid yn gobeithio y bydd y plant yn ymuno â hwy eto yn y dyfodol agos ac yn edrych ymlaen at eu gweld eto.

Rwy’n hoff iawn o fwyd Eidalaidd. Un o’m hoff seigiau yw Spaghetti al Nero de Seppia! (Chwiliwch yn Google!) Beth oedd y ffilm ddiwethaf i ti ei gwylio? Silence of the Lambs. (Ar ôl gwylio’r gyfres deledu newydd Hannibal). Pwy yw dy hoff unigolyn enwog a pham? ‘Does gen i’r un. Dydw i ddim yn hoffi’r holl “ddiwylliant enwogion” yma. Beth yw’r eiliad fwyaf cofiadwy yn dy yrfa hyd yma neu dy gamp fwyaf? Y ffaith mod i’n dal i fod wrth fy modd gyda fy ngwaith mwy na thebyg. Rwyf wedi bod yn gweithio ym maes TG ar gyfer tai cymdeithasol am dros 15 mlynedd bellach, ac mae pob diwrnod yn wahanol ac yn her. Pwy yw dy ysbrydoliaeth neu fodel rôl mwyaf a pham? Jackie Stewart (Enillydd Pencampwriaeth y Byd Fformwla 1 ar 3 achlysur a Chyn-bennaeth Tîm F1 Stewart). Mae’r gŵr yn syml yn rhyfeddol! Nid yn unig y mae’n cael ei ystyried yn un o’r gyrwyr F1 gorau erioed, ond fe lwyddodd y gŵr yma i redeg tîm Fformwla 1 ac yntau’n byw gyda dyslecsia difrifol! Ysbrydoliaeth go iawn, ac mae’n dangos y gallwch wneud unrhyw beth pan ydych yn rhoi eich meddwl ar waith. Pe gallet ti ymweld ag unrhyw ran o’r byd, ble fyddai hynny a pham? Japan. Rwyf wastad wedi cael fy nghyfareddu gan, nid dim ond y dirwedd, ond holl ddiwylliant Japan. Fel rhywun sy’n gweithio ym maes TG, rwy’n ei gael yn beth rhyfeddol bod rhannau o’r wlad yn fwy datblygedig yn dechnolegol nag unrhyw le arall ar y ddaear, ac eto maent yn dal i arfer traddodiadau sy’n gannoedd o flynyddoedd oed! Enwch 1 peth nad oes llawer o bobl yn ei wybod amdanoch chi Roeddwn yn arfer bod yn lleisydd mewn band Metel.

Bydd tai fforddiadwy’n helpu i ddiogelu pentref Mae gwaith yn parhau ar ddatblygiad tai fforddiadwy newydd mewn pentref sy’n Gymraeg ei hiaith yn bennaf yn Nyffryn Conwy. Dywed trigolion lleol ac AS Aberconwy y bydd y cynllun yn helpu i ddiogelu dyfodol Penmachno – ac ysgol y pentref. Mae chwe th^y’n cael eu codi ar y safle ar bwys Ysgol Penmachno – pedwar t^y â thair ystafell wely a dau d^y â dwy ystafell wely. Cafodd y tir ym Maes-y-Waen ei glustnodi ar gyfer tai gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn eu Cynllun Datblygu Lleol. Byddai ail gam yn cynnwys adeiladu chwe th^y arall pan fo tystiolaeth o angen lleol. Cafodd pentrefwyr ddiweddariad ar y cynnydd mewn sesiwn galw-heibio arbennig yn Neuadd Gymunedol Ty’n y Porth. Ymhlith y rheiny a oedd yn bresennol roedd y tad-i-un Mic Roberts a fagwyd ym Mhenmachno - ac nad yw’n dymuno byw yn unrhyw le arall. Meddai Mr Roberts: "Mae gen i un mab ac mae gennym ni blentyn arall ar y ffordd. Yn bersonol, rwy’n meddwl bod angen mawr am ddatblygiad fel hwn i gadw teuluoedd ifainc yn y pentref fel nad oes rhaid iddynt symud i ffwrdd am nad ydynt yn gallu fforddio prynu t^y. Mae mor ddrud prynu t^y ac rydym yn byw mewn ardal lle mae’r cyflogau’n isel ar y cyfan. Bydd hyn yn helpu i gadw’r ysgol ar agor a sicrhau dyfodol y pentref. Mae gan y t^y yr ydym yn byw ynddo ar hyn o bryd ddwy ystafell wely ond dim ond ystafell gistiau yw’r ail ystafell wely a ‘does dim lle i droi lawr grisiau. Cafodd y cynllun ei gymeradwyo hefyd gan AS Aberconwy Guto Bebb. Meddai: “Rwy’n falch bod y datblygiad hwn yn digwydd, yn enwedig gan fod yr ymgynghoriad yn amlwg wedi gwrando ar y farn leol a bod y datblygiad yn cwrdd â’r angen lleol. Mae’r ffaith bod cartrefi fforddiadwy sy’n addas i deuluoedd ifainc yn cael eu hadeiladu’n rhywbeth sydd i’w groesawu’n fawr gan bobl leol a bydd yn darparu mwy o ddisgyblion ar gyfer ysgol y pentref." Nid oedd lefel y gefnogaeth yn syndod o gwbl i Gwynne Jones, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Cartrefi Conwy. “Mae Penmachno yn bentref mawr, ac mae’n bwysig bod pobl yn gallu aros yn y cymunedau y cawsant eu geni a’u magu ynddynt. Datgelodd Mr Jones hefyd y bydd y cartrefi newydd yn cael eu hadeiladu i lefel 4 y cod cartrefi cynaliadwy sy’n golygu y bydd costau ynni’n cael eu cadw mor isel â phosib diolch i’r defnydd o bympiau gwres ffynhonnell aer a phaneli ffotofoltaidd.

3


Tenants Newsletter Nov 2013_Layout 1 25/11/2013 08:49 Page 17

Prosiect Enviro SOS buddugol ym Marl Crescent

Gwaith yn dechrau ar brosiect ystâd werdd £1.1m

Mae byngalos Marl Crescent wedi cael eu gweddnewid yn llwyr o safbwynt amgylcheddol diolch i ymroddiad 2 denant a gyflwynodd eu prosiect i Environment SOS. O ganlyniad i gael y cyllid cychwynnol, canfuwyd arian pellach a’i gwnaeth yn bosib troi’r tir diffaith a oedd wedi gordyfu’n fan cyfarfod a hafan garddio. Fel y gwelwch chi mae’r lluniau’n cyfleu mwy na geiriau.

WEDYN

CYNT

Lansio fforwm lesddalwyr Mae’n rhoi pleser a balchder i mi gyhoeddi bod gan Cartrefi Conwy bellach Fforwm Lesddalwyr. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Mehefin 2013 fe ofynnon ni i’r ^ yn gweithio iddynt hwy. lesddalwyr a oedd yn bresennol sut yr hoffent weld y gr wp Rhoddodd y lesddalwyr gymeradwyaeth i’r enwebiad bod fforwm yn cael ei sefydlu ac fe gytunon nhw y dylai’r fformat yn y dyfodol fod yn hyblyg gyda chyfarfodydd yn cael eu cynnal sawl gwaith bob blwyddyn. Rydym yn gobeithio bod â fforwm adeiladol, ystyrlon sy’n galluogi lesddalwyr i fod yn rhan o’n prosesau wrth symud ymlaen.

Mae gwaith wedi dechrau ar raglen ÂŁ1.1 miliwn o welliannau sy’n ymwneud â mannau gwyrdd er mwyn gweddnewid ystâd dai yng Nghonwy. Bydd y cynllun enfawr ar Barc Peulwys yn Llysfaen yn cynnwys mesurau rheoli traffig, adeiladu llwybrau newydd, gwella ardaloedd chwarae a chreu nodweddion tirlunio tebyg i barc ynghyd â mynedfa newydd ddramatig i’r ystâd.

Mae Jackie Jackson, Cadeirydd Cyfeillion Parc Peulwys ac un o denantiaid yr ystâd ers dros 20 mlynedd, yn dweud bod y rhaglen arfaethedig o welliannau amgylcheddol yn ‘wych’. Meddai: “Mae’r holl denantiaid yr wyf fi wedi siarad gyda hwy wrth eu bodd gyda’r cynlluniau a chyda’r rhaglen adnewyddu sydd eisoes wedi cael ei chwblhau. Yn y gorffennol efallai fod Parc Ydych Byddwn yn anfon llythyr o wahoddiad at yr holl lesddalwyr ynghyd Peulwys wedi cael enw drwg yn annheg, er fy mod i wastad wedi ag agenda cyn pob cyfarfod. Wedyn gall lesddalwyr weld y chi’n isosod? bod yn falch o’r lle yr wyf yn byw. Yn awr rwy’n meddwl bod pynciau llosg a fydd yn cael eu trafod cyn y digwyddiad. Byddem Fe hoffem hefyd ofyn i pawb yn meddwl yr un fath a’u bod yr un mor falch i alw Parc hefyd yn croesawu ceisiadau gan lesddalwyr am unrhyw Peulwys yn gartref iddynt. Mae pobl yn ymfalchĂŻo o ddifrif yn eitemau penodol ar gyfer yr agenda yr hoffent hwy eu gweld lesddalwyr sy’n isosod yr ystâd ac maent yn falch eu bod yn byw yma.â€? yn cael sylw yn un o ddigwyddiadau’r fforwm. Sicrhewch eich ddod i’r cyfarfod nesaf i Fe grĂŤwyd argraff ar AC Ceidwadol Gorllewin Clwyd, Darren bod yn cyflwyno’ch ceisiadau mewn da bryd cyn y fforwm os a profiadau eu drafod Millar, gan y cynlluniau hefyd. Meddai: “Mae wir yn ddiwrnod gwelwch yn dda i sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys ar yr cyffrous iawn. Mae Cartrefi Conwy eisoes wedi buddsoddi sy’n gofyn i lesddalwyr agenda cyn i’r copĂŻau gael eu dosbarthu. miliynau o bunnoedd yn eu stoc dai ym Mharc Peulwys sy’n isosod roi gwybod i Byddwn hefyd yn trefnu cyflwyniadau gan nifer o adrannau yn golygu bod tenantiaid wedi gallu gostwng eu costau gwresogi ni. Cartrefi Conwy ac o bryd i’w gilydd gan asiantaethau allanol i roi diolch i inswleiddio gwell. Ac yn awr rydym yn gweld rhaglen trosolwg ar y gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig a’r ffordd yr ydym yn enfawr o welliannau amgylcheddol a fydd yn gwella ystâd Parc gweithio. Peulwys ymhellach. Mae ymdeimlad gwirioneddol o gymuned ymhlith tenantiaid ac yn sicr mae Cartrefi Conwy, fel landlord cymdeithasol Roedd yn wych bod lesddalwyr yn awgrymu ac yn blaenoriaethu eitemau sydd o cofrestredig, yn chwarae eu rhan yn y broses o gyfoethogi a gwella’r ddiddordeb iddynt hwy. Eich fforwm chi fydd hwn heb os nac oni bai ac ym mhob amgylchedd i’r holl drigolion.â€? cyfarfod y materion a fydd yn cael eu trafod ac y bydd aelodau’n pleidleisio arnynt fydd y mandad y byddwn ni’n bwrw ymlaen ag ef. Felly os ydych am i’ch llais chi gael Fe helpodd y pensaer tirlun, Julie Barr, o’r cwmni Tirlun Barr Associates yng ei glywed, ymunwch â ni. Nghonwy i ddylunio’r gwelliannau amgylcheddol ynghyd ag arbenigwr mewnol Cartrefi Conwy. Meddai hi: “Mae wedi cymryd amser hir a chryn Byddwn hefyd yn cynnal cymhorthfa i lesddalwyr am ryw awr cyn cyfarfodydd yn y dipyn o waith caled ar ran pawb i gynllunio’r gwelliannau amgylcheddol yr dyfodol lle byddwch chi’n gallu siarad yn breifat ar sail un-i-un am bethau nad ydych ydym yn cychwyn arnynt yn awr. Bydd y cynllun yn gwella’r amgylchedd gyda o bosib yn dymuno’u trafod mewn cyfarfod agored. mynediad gwell ar gyfer cerddwyr a’r prif sgwariau o gwmpas yr ystâd yn Byddem wir yn gwerthfawrogi unrhyw awgrymiadau gan ein lesddalwyr ynghylch cael eu hailddylunio. Bydd rhaglen enfawr i blannu coed a phlanhigion a nifer cyfarfodydd a lleoliadau yn y dyfodol. Mae’n bwysig cynnal cyfarfodydd ar adeg o nodweddion cymunol newydd megis deial haul dynol. gyfleus ac mewn lleoliad cyfleus i’r mwyafrif. I gael mwy o wybodaeth neu i gyflwyno unrhyw awgrymiadau cysylltwch â Julie Brotherton ar 01745 335524

Cydlynwyr Byw’n Annibynnol‌..yw’r enw newydd ar y Wardeniaid!

Local discounts savings on your p doorstep

Ar Ă´l trafod gyda thenantiaid ar gynlluniau ac yn y digwyddiad ‘We’ll meet again’ a gynhaliwyd gennym ym mis Mawrth rydym yn newid teitl swydd eich Warden. Y teitl swydd newydd bellach yw Cydlynydd Byw’n Annibynnol, sef y dewis mwyaf poblogaidd ymhlith tenantiaid sy’n byw yn ein cynlluniau tai gwarchodol.

4

Ni fydd y rôl bwysig y maent yn ei chyflawni’n newid mewn unrhyw ffordd ac fel bob amser rydym yn gobeithio y byddwch yn gallu cyfarch eich Cydlynydd Byw’n Annibynnol wrth ei enw cyntaf. Fodd bynnag rydym yn teimlo’n gryf bod y newid enw’n adlewyrchu’n llawn y rolau y maent yn eu cyflawni. Mae Cydlynwyr Byw’n Annibynnol yn weithwyr proffesiynol, sy’n cydlynu gwasanaethau cymorth i’r tenantiaid y maent yn gweithio gyda hwy.

OR CARD MEMBERS FOR

| IN-STORE | MOBILE ATIONAL | LOCAL | ONLINE NA

over

16,000 local retaliers

LOG IN

ard.com unntdownc cclmob.co

OR SCAN

search the mobile site now for offers

www.countdowncard.com

l in log

t +VTU TIPX ZPVS ard at wnn Card dow ntdo ount Cou UIF UJMM XIFO ZPV QBZ t MPDBM 6, PGGFST t 4FBSDI GPS EJTDPVOUT VTJOH ZPVS QIPOF XJUI PVS NPCJMF XFCTJUF t -PPL PVU GPS UIF Countdown sign in TIPQ XJOEPXT 4FBSDI OPX -PH JO BU OIINPC DPVOUEPXODBSE DPN PS TDBO UIF 23 DPEF GSPN ZPVS TNBSUQIPOF PS WJTJU www.countdowncard.com

2 TFMFDU

powered by

3 TFBSDI

4 DIPPTF


Tenants Newsletter Nov 2013_Layout 1 25/11/2013 08:49 Page 16

Prosiect sy’n pontio’r cenedlaethau yn cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr.

Cyrsiau byr a lleoliadau profiad gwaith ar gael yn awr!

Roedd y prosiect sy’n pontio’r cenedlaethau’n cynnwys ^ Crefft Ty ^ Cymunedol Rhodfa Caer a 12 o Gwirfoddolwyr Grwp ddisgyblion Blwyddyn 5+6 o Ysgol Maes Owen. Roedd yn brosiect 10 wythnos lle bu gwirfoddolwyr yn addysgu plant, Rheolwr y Ty^ Cymunedol (Vicky Welsman) a’r pennaeth Miss Foulkes sut i wau ar ôl ysgol yn Nhy^ Cymunedol Rhodfa Caer. Gyda’i gilydd fe weon nhw blanced ag enw’r ysgol arni sydd bellach wedi cael ei chyflwyno ac sy’n cael ei harddangos ar hyn o bryd yn Ysgol Maes Owen. Mae’r prosiect hefyd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr pontio’r cenedlaethau dros Gymru gyfan, felly cadwch olwg am fwy o newyddion…

Sgiliau Meddal gyda CREST Co-operative, Cyffordd Llandudno

y^

Gwirfoddolwyr Grŵp Crefft T Cymunedol Bae Cinmel: Elaine Fox Lara Fox Sharon Sadler Jo O’Keefe Mo O’Keefe Jen Nolan Moyra Othen Sue Roberts Norma Roberts

Cyflwyniad Cynilwyr Ifainc yn Ysgol Maes Owen. Mae’r gwirfoddolwyr Elaine Fox (Tenant), Zoe Fox (Preswyliwr) a Norma Roberts (Tenant) yn rhedeg man casglu gan yr Undeb Credyd o Dŷ Cymunedol Rhodfa Caer o 10 – 11am bob dydd Iau. Maent hefyd yn casglu gan ddisgyblion yn Ysgol Gynradd Maes Owen bob wythnos gan eu hannog i ddechrau cynilo. Cyflwynodd Norma Roberts a Vicky Welsman (Rheolwr y Tŷ Cymunedol) dystysgrifau a gwobrau i 4 cynilwr ifanc rheolaidd yn yr ysgol.

Rydym yn gweithio gydag asiantaethau partner i gynnig ystod o gyrsiau a lleoliadau profiad. Dyma rai o’r cyfleoedd yr ydym yn falch o’u cynnig: Cwrs chwe wythnos i roi’r sgiliau a’r hyder i unigolion chwilio am, a chael swydd. Mae’r cwrs 1 diwrnod yr wythnos yn rhoi sylw i destunau megis: • Meithrin Tîm a Gweithio gydag Eraill • Cyfathrebu • Hyder a Hunan-fri • Sut i ymgeisio am swydd • Sgiliau mewn cyfweliadau Mae’r cwrs yn agored i holl denantiaid Cartrefi Conwy ac mae’n rhad ac am ddim. Gallwn hyd yn oed eich helpu gyda’ch trefniadau teithio. Gall CREST Co-operative hefyd gynnig ystod o gyfleoedd gwirfoddoli a phrofiad gwaith.

Dewch i Glwb Gwaith Tŷ Cymunedol Rhodfa Caer bob dydd Gwener o 10am – 12 canol dydd. Mae Rheolwr y Tŷ Cymunedol Vicky Welsman a Chydlynydd Cynnwys y Gymuned Victoria Kelly ar gael i gynorthwyo pobl i chwilio am swyddi, defnyddio’r wefan Paru Swyddi Ar-lein, llunio CVs a chael mynediad at unrhyw gyfleoedd dysgu a hyfforddi mewn perthynas â chyflogaeth y gall fod arnoch eu hangen.

Hyfforddiant Gogledd Cymru – Mochdre Cyrsiau 1 Diwrnod: Dyfarniad Lefel 2 CIEH mewn Egwyddorion Codi a Chario Dyfarniad Lefel 2 CIEH mewn Diogelwch Bwyd yn y Diwydiant Arlwyo Dyfarniad Lefel 2 CIEH mewn Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle Dyfarniad Lefel 2 BIIAB i Ddeiliaid Trwydded Bersonol Dyfarniad Lefel 2 CIEH mewn Egwyddorion COSHH Hyfforddiant Diogelwch Tân Ymarferol Cymorth Cyntaf Brys yn y Gwaith Twf Swyddi Cymru Ydych chi’n 18 – 24 Oes ac yn Ddi-waith? Fe allai Twf Swyddi Cymru fod yn rhywbeth i chi! Mae Twf Swyddi Cymru yn gyfle am chwe mis mewn swydd â thâl sydd o leiaf yr un faint â’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Mae’r cwbl yn cael ei drefnu’n dda iawn a bydd gennych gontract wedi’i ysgrifennu gan y cyflogwr. Mae’r farchnad waith ar hyn o bryd yn galed iawn. Pwrpas y rhaglen hon yw eich helpu os ydych yn barod am swydd a bod arnoch angen cyfle i ennill y profiad gwaith sy’n eisiau gennych o bosib. Gallai hyn fod y profiad gwaith hollbwysig sydd o bosib yn eich dal yn ôl rhag cael eich swydd gyntaf. I gael mwy o wybodaeth ynghylch sut i gael mynediad at Twf Swyddi Cymru cysylltwch â Vicky ar 07990507550 neu ewch at Wefan Gyrfa Cymru www.gyrfacymru.com a chliciwch ar ‘Twf Swyddi Cymru’ Os hoffech gael gwybod mwy am unrhyw un o’r cyrsiau uchod a chyfleoedd eraill cysylltwch â Vicky Kelly, Cydlynydd Cynnwys y Gymuned ar 07990507550

Oes gennych chi ddiddordeb mewn gwneud cwrs byr i’ch helpu i fynd yn ôl i gael hyfforddiant neu weithio? Ai amdanoch chi yr ydym yn chwilio? Man Oes angen help arnoch i gael Mae TAPE Community Music and Film yn awyddus i ymestyn cyfleoedd i casglu gan yr mynediad at hyfforddiant? artistiaid, gwneuthurwyr ffilmiau, golygyddion, ffotograffwyr, cerddorion Undeb Credyd ar gyfer ac ymarferwyr y celfyddydau yng Ngogledd Cymru. yr holl denantiaid bob dydd Ydych chi’n dymuno Iau o 10-11 am yn Nhy^ Oherwydd eu cronfa ehangol o weithdai a phrosiectau, mae TAPE yn gweithio ond heb unrhyw Cymunedol Rhodfa Caer. Dewch i dymuno ychwanegu at y rhestr o bobl greadigol sy’n gwirfoddoli ac weld sut y gall ymuno â’r Undeb yn gweithio i’r elusen. brofiad? Credyd eich helpu i gynilo at y

Maent yn croesawu CVs neu fanylion profiad blaenorol oddi wrth dyfodol a chael mynediad at Gall Cartrefi Conwy eich helpu i ennill y unrhyw un sy’n dymuno chwarae rhan mewn elusen celfyddydau fenthyciadau fforddiadwy ar gyfer sgiliau a’r profiad y mae eu hangen arnoch i cymunedol sy’n eitemau/achlysuron unigol.Y cwbl fynd yn ôl i weithio neu gael addysg. Mae y mae arnoch eu hangen yw £5 tyfu, gan roi gennym aelod o staff pwrpasol i ganolbwyntio i agor cyfrif a thystiolaeth i cymorth i bobl o ar gynyddu i’r eithaf y cyfleoedd i’n tenantiaid gael brofi pwy ydych. bob oed o bob rhan mynediad at waith neu hyfforddiant. Os oes gennych o’r gymuned archwilio a unrhyw gwestiynau neu os hoffech gael mwy o datblygu syniadau a wybodaeth cysylltwch â Vicky Kelly, Cydlynydd Cynnwys y chyfleoedd creadigol. Gymuned ar 07990507550 Anfonwch neges e-bost i info@tapemusicandfilm.co.uk neu ffoniwch 08432 163 909

Dewch i sesiynau aerobeg cadair freichiau gyda Tina yn Nhy^ Cymunedol Rhodfa Caer. Cewch fwynhau cymryd rhan mewn ymarfer corff ysgafn gan gwrdd â phobl newydd mewn amgylchedd cynnes, cyfeillgar. Bob dydd Llun 12 canol dydd – 1pm, £2 y sesiwn.

5


Tenants Newsletter Nov 2013_Layout 1 25/11/2013 08:49 Page 15

Mae’r cwrs garddwriaeth yn blodeuo go iawn Mae 8 o fyfyrwyr ymroddedig o Beulwys wedi bod yn gweithio trwy eu cymhwyster Lefel 1 mewn Garddwriaeth y gwnaethant ymgymryd ag ef mewn partneriaeth gyda Cartrefi Conwy a Choleg Llandrillo. Roedd 12 lle ar gael ar y cwrs peilot i denantiaid ar ystâd Peulwys a’r ardaloedd o amgylch ac mae wedi bod yn rhedeg bob dydd Iau am 8 wythnos. Mae myfyrwyr wedi bod yn dysgu hanfodion cynnal a chadw gardd, sut i ddewis y planhigion gorau ar gyfer ardaloedd a thymhorau penodol a hefyd sgiliau technegol megis profi pridd. Ar ddiwedd y cwrs 12 wythnos bydd y myfyrwyr wedi cyflawni Lefel 1 mewn Garddwriaeth ac yna byddant yn cael dwy sesiwn ‘grynhoi’ i benderfynu beth hoffent gamu ymlaen ato nesaf. Crëwyd cryn argraff ar Vicky Kelly gan yr ymrwymiad y maent i gyd wedi’i ddangos ers y dechrau ac mae hi’n gobeithio y bydd rhai’n achub ar y cyfle i symud ymlaen i gwrs Lefel 2 yn y coleg. “Mae wedi bod yn llwyddiant gwych yr ydym yn gobeithio ei efelychu mewn ardaloedd eraill.” Mae’r tenant Danny Green, 39, wedi mwynhau’r cwrs gymaint nes ei fod yntau’n ystyried mynd i’r afael â’r NOCN Lefel Dau cyn ceisio cyflogaeth fel garddwr neu dirmon. Meddai: “Rwy’n ddi-waith ar hyn o bryd. Roeddwn yn ofalwr llawnamser ar gyfer fy mam ond mae hi bellach wedi marw. Nid oes gardd gen i fy hun ond mae gennyf ardal gymunol yr wyf yn cael ei defnyddio. Doeddwn i ddim wedi garddio o’r blaen ond rwyf wedi mwynhau’r cwrs yn arw. Rwy’n cael ymdeimlad gwirioneddol o fod wedi cyflawni rhywbeth a byddwn wrth fy modd yn symud ymlaen ac o bosib yn chwilio am swydd yn y sector garddio os gallaf. Ond un o’r manteision mwyaf yw fy mod wedi gwneud llwyth o ffrindiau newydd. Doeddwn i ddim yn adnabod unrhyw un arall ar y cwrs cyn i ni ddechrau. Fodd bynnag, maen nhw’n bobl gyfeillgar iawn ac mae wedi bod yn bleser gweithio ochr yn ochr â hwy. Rwyf hefyd yn meddwl ei fod yn beth gwych bod Cartrefi Conwy wedi trefnu’r sioe arddwriaeth i’n helpu ni, fel tenantiaid, i ddatblygu a gwella’r ardal yr ydym yn byw ynddi.” Os hoffech chi wybod mwy am gyrsiau eraill neu beth sy’n digwydd yn eich ardal chi cysylltwch â Vicky Kelly ar 01745 335342 Victoria.kelly@cartreficonwy.org

Safbwynt Tenant sy’n Aelod o’r Bwrdd Gan Bob Hawkes ^ tenantiaid Ar ôl symud i Lanrwst yn 2010 cefais wahoddiad i ymuno â gr wp Glanrafon. Fe helpais i drefnu bod teledu cylch cyfyng yn cael ei osod ar ein hystâd ac fe helpais i drefnu partïon amrywiol i’r plant yn yr ardal leol. Sylweddolais fy mod yn gallu dod i adnabod y preswylwyr yn well a darganfod beth oedd angen ei wneud ar yr ystâd.

Mwynheais y cyfarfodydd hyn ac fe benderfynais y byddwn yn hoffi ymuno ag un o’r grwpiau o fewn Cartrefi Conwy. Yn gyntaf fe ymunais â’r panel craffu ac yn ddiweddarach fe ^ cyfathrebu gan fy ymunais â’r gr wp mod yn gobeithio y byddai fy sgiliau ^ Yn ystod fy TG o fantais i’r gr wp. ^ fe ddylunion ni amser gyda’r gr wp logo newydd ar gyfer y Fforwm Tenantiaid ac rwy’n teimlo’n falch mod i wedi bod yn rhan o hynny.

LLE GWAG Mae gennym le gwag ar hyn o bryd ar y Bwrdd Rheoli. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwybod mwy am hyn, chwiliwch am yr hysbyseb ar ein gwefan neu cysylltwch â Sandra Lee, Ysgrifennydd y Cwmni ymholiadau@cartreficonwy.org neu ffôn: or phone: 01745 335347

Eleni darllenais fod Cartrefi Conwy yn chwilio am gynrychiolwyr tenantiaid newydd ar gyfer y Bwrdd Rheoli. Fe ymgeisiais i am y rôl ac ar ôl cyfweliad cefais fy nerbyn. Rwyf wedi bod mewn cyfarfod sefydlu, a roddodd gipolwg go iawn i mi ar yr hyn yr oedd y bwrdd yn gyfrifol amdano a beth oedd y disgwyliadau ohonof fi. Mae hyn wedi rhoi hwb go iawn i mi, o wybod fy mod yn cynrychioli nid dim ond yr ystâd yr wyf yn byw arni ond holl ardal Cartrefi Conwy. Rwyf wedi mynychu cyfarfodydd y bwrdd ac rwyf wedi bod gydag aelodau eraill o’r bwrdd o gwmpas ystadau amrywiol i weld y gwelliannau a hefyd yr hyn y mae ei angen mewn gwahanol ardaloedd. Mae pawb ar y bwrdd yn gyfeillgar iawn ac yn barod iawn i helpu ac rwy’n gobeithio, yn y dyfodol, y byddaf yn gallu defnyddio fy mhrofiad a’m hyfforddiant o fewn y bwrdd i gynrychioli’r tenantiaid ymhellach.

6

Cadw Addewidion

Mae llawer o denantiaid yn ymwybodol bod Cartrefi Conwy wedi cael ei sefydlu ym mis Medi 2008 fel Cymdeithas Dai ddielw, yn dilyn pleidlais gan denantiaid a arweiniodd at drosglwyddo tai cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i Cartrefi Conwy (3,774 eiddo). Prif bwrpas y trosglwyddiad oedd sicrhau y byddai’r stoc dai’n cael ei gwella i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn dyddiad targed Llywodraeth Cymru, sef Mawrth 2013. Fe gyflawnon ni hyn erbyn Rhagfyr 2012. Roedd y ddogfen gynnig “Eich Cartref Chi, Eich Dewis Chi” hefyd yn cynnwys addewidion a dyheadau eraill mewn perthynas â darparu gwasanaethau a buddsoddi mewn cymunedau a fyddai’n sicrhau bod tenantiaid a’r gymuned ehangach yn elwa o welliannau yn y meysydd hyn dros amser. Yn ddiweddar gofynnodd Cartrefi Conwy i’r Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid (TPAS Cymru) gwrdd â thenantiaid Cartrefi Conwy dros y cyfnod o Ebrill – Mehefin 2013 i gasglu eu safbwyntiau ynghylch y cynnydd yr oedd y Gymdeithas yn ei wneud mewn perthynas â’r addewidion yn y ddogfen gynnig. Yn awr gallwn rannu pwyntiau allweddol y prosiect hwnnw gyda chi. Rhoddwyd cyhoeddusrwydd i’r prosiect mewn amrywiaeth o ffyrdd i ysgogi tenantiaid i gymryd rhan, gan gynnwys erthygl yn Newyddlen Tenantiaid Cartrefi Conwy, cyflwyniad i’r Fforwm Tenantiaid, hysbyslenni cyhoeddusrwydd i grwpiau a chymdeithasau tenantiaid, cyflwyniad ar radio lleol a ‘chlywed ar lafar’ gan staff rheng-flaen. Cynhaliwyd sesiwn wybodaeth i roi mwy o fanylion i denantiaid oedd â diddordeb. Cafodd safbwyntiau a chanfyddiadau tenantiaid eu casglu trwy’r canlynol: • Grwpiau ffocws yn y gymuned gydag ystod o denantiaid o bob ardal y mae Cartrefi Conwy yn gweithredu ynddi. • Arolwg sampl o denantiaid dros y ffôn Fe wnaeth y prosiect grwpio’r addewidion yn 4 thema allweddol; 1. Gwella ac atgyweirio cartrefi 2. Gwella cymunedau 3. Cyflenwi gwasanaethau lleol gwell 4. Rhenti a thaliadau gwasanaeth Cymerodd 67 o denantiaid ran trwy’r grwpiau ffocws a sesiynau wyneb yn wyneb ac fe ymgynghorwyd â chyfanswm o 46 o denantiaid trwy’r ymarferion arolwg dros y ffôn. I roi safbwynt allanol ychwanegol fe gynhaliwyd arolwg sampl dros y ffôn o gysylltiadau allweddol o’r sefydliadau sy’n gweithio mewn partneriaeth (rhanddeiliaid) gyda Cartrefi Conwy hefyd. Mae’r adborth ar y cyfan yn dangos bod y tenantiaid a’r rhanddeiliaid a gymerodd ran yn y prosiect yn credu bod Cartrefi Conwy wedi cyflawni mewn perthynas â’r prif themâu o ran ei haddewidion yn y ddogfen gynnig. Ers hynny rydym wedi adolygu’r addewidion gwreiddiol hynny a chan ddefnyddio themâu allweddol prosiect TPAS, mewn ymgynghoriad gyda Phwyllgor Rheoli’r Fforwm Tenantiaid ac aelodau o’r Bwrdd, rydym yn datblygu set newydd o ymrwymiadau a fydd yn cael ei defnyddio i ddangos ein cynnydd parhaus mewn perthynas â gwella ansawdd tai a gwasanaethau i denantiaid a chyfleoedd eraill i denantiaid a’n cymunedau. Os hoffech fwy o wybodaeth ynghylch sut y gallech chi chwarae rhan yn y broses o adolygu neu ddylanwadu ar y gwasanaethau y mae Cartrefi Conwy yn eu darparu, cysylltwch â Sandra Lee, Ysgrifennydd y Cwmni E-bost: ymholiadau@cartreficonwy.org neu ffôn: 01745 335347

! Torrwch ar hyd y llinell doredig

Allwch chi ganfod ble mae Wali’n cuddio? Os ydych chi’n meddwl eich bod yn gwybod ble y mae, rhowch gylch o amgylch y lle hwnnw yn y llun a chwblhewch eich manylion isod i gael cyfle i ennill taleb Love to Shop sy’n werth £20. Enw: Cyfeiriad: Rhif ffôn cyswllt: E-bost: Gallwch fynd â slipiau wedi’u cwblhau i’ch swyddfa leol Cartrefi Conwy neu eu postio i : Pencadlys Cartrefi Conwy, Morfa Gele, Parc Busnes Gogledd Cymru, Cae Eithin, Abergele LL22 8LJ


Tenants Newsletter Nov 2013_Layout 1 25/11/2013 08:49 Page 14

Cystadleuaeth "Pen yn ei Blodau Deafblind Cymru – allan nhw helpu rhywun yr ydych chi’n ei adnabod? Mae Deafblind Cymru’n darparu nifer o wasanaethau sydd o fudd uniongyrchol i bobl ddall a byddar neu sy’n gweld ac yn clywed yn rhannol yng Nghymru. Mae’r gwasanaethau’n cynnwys cyfeillio yn y cartref, grwpiau cymdeithasol, cyfeillio dros y ffôn a’r e-bost, cynhwysiant digidol ac eiriolaeth. Isod ceir manylion y cyfarfodydd grwpiau cymdeithasol agosaf i bobl ddall a byddar yng Ngogledd Cymru. Conwy Gwesty’r Ambassador, Llandudno – Bob dydd Gwener olaf yn y mis 11am – 1pm Grŵp y Rhyl Hafan deg, Grange Road, Y Rhyl – Bob trydydd dydd Mawrth 2pm – 4pm Wrecsam Avow, 21 Egerton Street – Bob 2il ddydd Iau 10:30am – 12:30pm Grwpiau coffi a sgwrs Hen Golwyn Y Gyfnewidfa, 317 Abergele Road, Hen Golwyn – Bob 2il ddydd Llun yn y mis 10:30am – 12 canol dydd Llanelwy The Plough, Llanelwy – Bob dydd Iau cyntaf yn y mis 10:30am – 12canol dydd

Enillodd Mrs Brewer wobr am yr ardd fechan orau yn y gystadleuaeth “Pen yn ei Blodau” yr haf hwn.

Preswylwyr ar ystâd Rhodfa Goleuadau Nadolig Caer yn dysgu sgiliau digidol Mae preswylwyr sy’n byw ar Ystâd Rhodfa Caer wedi bod yn mynychu ein sesiynau ‘get digitally included’ yn Nh^y Cymunedol Rhodfa Caer i’w helpu i ddod yn fwy hyderus ar y cyfrifiadur ac ar-lein. Mae un o’r mynychwyr, Norma Roberts sy’n 73, wedi bod yn mynychu’r sesiynau ers iddynt ddechrau a chyn hynny nid oedd hi erioed wedi bod ar y Rhyngrwyd. Bedair wythnos ers i’r sesiynau ddechrau mae ganddi ei chyfrif e-bost a Facebook ei hun diolch i gymorth un o’r gwirfoddolwyr. Mae Norma wedi egluro ei bod yn gallu cadw mewn cysylltiad gyda’i ffrindiau a’i theulu ar Facebook ac roedd hefyd wedi cyffroi yn arw o ddarllen y negeseuon pen-blwydd yr oedd ffrindiau wedi eu postio ar ei wal. Pan ofynnwyd iddi beth oedd yn dymuno ei wneud nesaf fe eglurodd yr hoffai brynu ei gliniadur ei hun fel ei bod yn gallu defnyddio’r cyfrifiadur a’r Rhyngrwyd yn fwy aml gan ei bod yn mwynhau hynny gymaint.

Ydy mae’n amser chwilio amdanynt – fe daflon ni nhw i mewn i’r bocs yna o dan y grisiau gyda’r goeden Nadolig a’r esgidiau ar eu pen. Allwn ni eu harchwilio cyn ein bod yn eu rhoi ar y goeden Nadolig neu o amgylch ein hystafell – yr ateb yw ‘gallwn’ ond a ydym wedyn yn eu gwirio o safbwynt diogelwch (y ffiws cywir yn y plwg a phob gwifren mewn cyflwr da) – yr ateb yw ‘ddim bob amser’. A allai fod gennym ni neu a allai fod gennych chi broblem o bosib???

Peidiwch ag anghofio eu gwirio o safbwynt diogelwch eleni hefyd

Canhwyllau Bychain

Mae prosiect Cynhwysiant Digidol Conwy yn un o chwe phrosiect yng Ngogledd Cymru a sefydlwyd gan Cymunedau 2.0 gyda Phartneriaid lleol er mwyn hybu cynhwysiant digidol a darparu hyfforddiant sylfaenol ar gyfer Ydyn maen nhw’n edrych yn neis ac yn gwneud ein hystafelloedd yn glyd, ond unigolion sydd wedi’u hallgau’n ddigidol ac sy’n byw yng Nghonwy. Mae Swyddog gallant fod yn fwy peryglus nag yr ydym yn sylweddoli. Cynhwysiant Digidol Conwy Kerry Quirk sy’n gweithio i Gyngor Gwasanaethau Dychmygwch y sefyllfa hon: Gwirfoddol Conwy a Rheolwr Datblygu T^y Cymunedol Cartrefi Conwy Vicky Rydych wedi cynnau cannwyll fechan yn eich ystafell fyw ond ar ôl ychydig mae Welsman wedi bod yn cydweithio i lansio’r sesiynau “Get digitally included” yn cnoc ar y drws ffrynt ac rydych yn gadael yr ystafell i ateb y drws. Tra’r ydych Nh^y Cymunedol Rhodfa Caer. allan o’r ystafell mae eich anifail anwes yn taro’r gannwyll fechan gan achosi iddi Maent wedi bod yn gweithio droi drosodd, glanio ar eich carped a mynd ar dân, ac mae tân o’r fath yn gallu ar y prosiect yma i gynyddu lledu’n gyflym. hyder gwirfoddolwyr i Pam bod â fflam noeth pan allech chi brynu canhwyllau bychain diogel sy’n ddarparu’r sesiynau’n gweithio ar fatri ac yn creu effaith debyg i fflam go iawn. annibynnol a’u helpu i ddod yn hyrwyddwyr digidol. Cynhelir y sesiynau bob TEITHIAU prynhawn dydd Mercher am 10 wythnos ac CERDDED AR mae gwirfoddolwr wedi cael ei neilltuo i DDYDD MERCHER weithio gyda phob mynychwr er mwyn eu 29 Ionawr 2014 Llandudno helpu i gyflawni’r hyn yr hoffent ei wneud Christine Mockridge ar y cyfrifiadur a’r Rhyngrwyd. Yr allwedd i’r sesiynau hyn rhoi cymorth i’r preswylwyr ddefnyddio TGCh mewn ffyrdd 26 Chwefror 2014 Abergele sy’n ystyrlon ac yn berthnasol iddynt hwy. Alexa Boase I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Swyddog Cynhwysiant 26 Mawrth 2014 Hen Golwyn Digidol Conwy Kerry Quirk ar 01492 534091 neu fel arall drwy’r Stephen Bowling e-bost: kerryquirk@cvsc.org.uk

7


Tenants Newsletter Nov 2013_Layout 1 25/11/2013 08:49 Page 13

bl) i fynd i o b o (5 lu u te n nnill tocy angen i chi ei e Eich cyfle chi i e a m y l b w c Y i. dewis ch gêm RGC o’ch stiwn canlynol. e w c y b te a w y wneud ten Tîm RGC? Beth yw enw Cap

stiwch eich ateb i po u ne rg y.o w on cartrefic ’n eb i cymryd.rhan@ rgele LL22 8LJ. Mae be A , in th Ei ae C E-bostiwch eich at , ru dd yr holl atebion By snes Gogledd Cym . Bu 13 20 rc Pa yr gf e, el ha G R fa Mor p. 5pm ar 20 ei dynnu allan ar ha dau ddod i law cyn el ca yn d yd ill en ’r rhaid i’r holl geisia g enw oi mewn het gyda cywir yn cael eu rh

Arolygon ail-archwilio asbestos Fel rhan o gyfrifoldeb parhaus Cartrefi Conwy i ddiogelu eich iechyd a’ch lles tra’r ydych yn byw yn un o dai Cartrefi Conwy, rydym yn cynnal cyfres o arolygon ailarchwilio asbestos blynyddol i wirio bod y deunyddiau yn eich cartref yn dal yn ddiogel

ac mewn cyflwr da. Mae’n bwysig iawn bod Cartrefi Conwy yn cynnal ar archwiliadau hyn er mwyn eich diogelwch chi ac unrhyw bobl eraill sy’n byw yn eich cartref neu’n ymweld â’ch cartref yn ogystal ag unrhyw weithwyr a fydd o bosib yn dod i wneud atgyweiriadau yn eich eiddo, a gofynnwn felly eich bod yn caniatáu i’r archwiliad hwn ddigwydd.

BYDDWCH YN FEISTR AR GYLLIDEBU AR GYFER Y NADOLIG!

Awgrym Rhif 2 Ewch i’r siopau elusen i gael bargeinion ar bethau ail law cyn bod pawb arall yn gwneud. Gallwch brynu rhoddion gwych yn y siopau elusen.

Gan Jon Highcock

Awgrym Rhif 3 Dechreuwch chwilio am fargeinion ar eBay cyn gynted â phosib, cyn bod y gystadleuaeth yn mynd yn rhy ffyrnig. Defnyddiwch restri gwylio ar eBay a chofiwch beidio â chynnig mwy nag yr ydych wedi cyllidebu ar ei gyfer.

Roedd pobl yn arfer chwerthin am fy mhen am fy mod wedi gorffen siopa am anrhegion Nadolig erbyn diwedd Medi. Doedd dim ots gen i oherwydd fi oedd yn chwerthin yn y diwedd pan oedd pawb yn cwyno eu bod heb yr un ddimai goch ym mis Ionawr! Roeddwn i wedi dysgu mai’r tric cyntaf gyda’r Nadolig yw dechrau cynllunio a gwario mor gynnar â phosib. Rwy’n gweld tymor y Nadolig fel brwydr ariannol, ac erfyniaf arnoch i wneud yn siŵr eich bod yn ennill y rhyfel. Y syniad yw cael Nadolig gwych, sy’n bleserus ac yn hamddenol a pheidio â bod heb yr un ddimai goch ym mis Ionawr.Yr her wirioneddol adeg y Nadolig, yn enwedig os ydych mewn dyled, yw gwneud yn siŵr nad ydynt yn eich ^ cael eich hun i drafferth wedi i gyfnod yr wyl ddod i ben. ^ Rhyw ddwy flynedd yn ôl gofynnodd y gwr sy’n wir feistr ar gyllidebu dros y Nadolig, Martin Lewis, i’w ddilynwyr a ddylai pobl sydd o ddifrif ynglŷn ag arbed arian “ganslo’r Nadolig”! Dydyn ni ddim yn meddwl bod angen mynd mor bell â hynny, hyd yn oed os yw dyled yn broblem i chi.

Y gwir nod i unrhyw gyllidebwr da yw peidio â gorfod gwario ceiniog yn fwy ym mis Rhagfyr nag y mae fel arfer yn ei wneud, ac mae hyn i gyd yn seiliedig ar fod â chynllun cyllidebu ar gyfer y Nadolig. Mae cyllidebu da yn rhywfaint o grefft. Ond gydag ychydig o gynllunio yn awr fe allwch ddal i fod yn feistr ar gyllidebu ar gyfer y Nadolig! Beth am geisio cyfnewid taith i’r sinema neu am bryd o fwyd â gweithgaredd rhad-ac-am-ddim a chynilo’r arian o’ch cyllideb y byddech wedi’i wario ar gymdeithasu er mwyn ei roi tuag at y Nadolig. Mae gennych hefyd eich cyllideb bwyd, taclau ymolch a glanhau a chydag ychydig o gynllunio gofalus gallwch helpu i wneud yn siŵr eich bod yn ennill y frwydr ariannol y Nadolig hwn a’ch bod yn dal i gael amser gwych. Y pethau i’w prynu ar gyfer y Nadolig YN AWR! Awgrym Rhif 1 Gwasgarwch gost bwyd Nadolig – dechreuwch brynu pethau y bydd eu hangen arnoch yn agosach at y Nadolig yn awr, megis saws llugaeron, craceri, sieri i Nain, stwffin, rhoddion bychain ac unrhyw beth â dyddiad ‘i’w fwyta cyn’ sy’n bell i ffwrdd.

8

Awgrym Rhif 4 Mae gan Amazon lyfrau ail law sy’n edrych bron fel newydd. Gall y rhain arbed ffortiwn i chi ar eu pen eu hunain! Awgrym Rhif 5 Cynilwch eich pwyntiau Clubcard, gwobrwyon ac unrhyw gynigion hyrwyddo ar gyfer y gorchwyl siopa olaf cyn y Nadolig. Gall pwyntiau Nectar a Clubcard Tesco i gyd helpu wrth siopa ar gyfer y Nadolig. Peidiwch â chael eich temtio i’w defnyddio cyn hynny. Awgrym Rhif 6 Chwiliwch am gynigion yn eich blwch e-bost – mae mis Hydref a mis Tachwedd yn amser da i gadw golwg am fargeinion a chynigion ar-lein. Ond sicrhewch eich bod yn gallu eu fforddio! Mae ychydig yn hwyr ar gyfer eleni ond a yw’n rhywbeth y gallwch ei ystyried ar gyfer y flwyddyn nesaf??? Awgrym Rhif 7 Allwch chi arbed arian trwy swmp-brynu? Gwiriwch gynigion arbennig ar gyfer yr holl gynhyrchion y bydd eu hangen arnoch dros gyfnod y Nadolig. Awgrym Rhif 8 Byddwch yn grefftus! Allwch chi wneud rhodd i rywun neu goginio cacen arbennig i rywun fel anrheg Nadolig? Nawr yw’r amser i gael y pethau y bydd eu hangen arnoch! Awgrym Rhif 9 Allwch chi roi rhodd a gawsoch y llynedd yn rhodd i rywun eleni? Nid oes cywilydd mewn ‘ailgylchu’ anrhegion heb eu defnyddio! Awgrym Rhif 10 Os nad ydych wedi gwneud hynny yn barod dechreuwch ‘her pot wedi’i selio’ (mwy am hyn isod). Potiwch a chynilwch y Nadolig hwn. Mae’r ‘her pot wedi’i selio’ yn syniad a gymerwyd o MoneySavingExpert.com. Rhwng r an a’r Nadolig cynilwch gymaint o newid mân ag y gallwch. Os oes gennych blant gallwch wneud gêm hwyl allan o hyn. Ewch ati i gynnwys y plant a chynnal cystadleuaeth i ddyfalu faint fydd gennych mewn gwirionedd yn y diwedd. Peidiwch â defnyddio’r arian tan y gorchwyl siopa olaf cyn y Nadolig a defnyddiwch yr arian ar gyfer rhoddion, bwyd a danteithion Nadoligaidd. Fe synnwch chi pa mor gyflym y mae’r ceiniogau’n troi’n bunnoedd.

BANCIAU BWYD A CARTREFI CONWY Mae Cartrefi Conwy wedi bod yn cydweithio’n agos gyda Banc Bwyd Conwy am y ddwy flynedd ddiwethaf ac ers canol mis Medi rydym hefyd wedi gallu atgyfeirio pobl at Fanc Bwyd Abergele. Mae’n arwydd trist o’r cyfnod yr ydym ynddo bod cynnydd dramatig wedi bod ar draws y sir yn nifer y bobl sy’n defnyddio banciau bwyd am eu bod mewn argyfwng ac yn methu â fforddio bwyd. Gall fod nifer o resymau pam fod pobl yn eu cael eu hunain mewn anhawster ariannol megis sancsiynau ar fudd-daliadau, perthynas yn methu, dyled, salwch a phroblemau teuluol. Yn erbyn y cefndir hwn mae’r Diwygiadau i Fudd-daliadau lles yn ddiweddar ac yn barhaus wedi arwain at galedi ac argyfwng cynyddol i’n tenantiaid ac rydym wedi sylwi ar gynnydd sydyn mewn achosion lle mae’n tenantiaid yn cael eu gadael heb incwm ORIAU oherwydd oedi wrth AGOR A CHAU’R brosesu ceisiadau am SWYDDFEYDD DROS Y fudd-daliadau a NADOLIG hawliadau’n cael eu Bydd Cartrefi Conwy yn cael ei sancsiynu. swyddfeydd yn ystod yr wythnos Yn ystod y mis rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn cyntaf ers i fanc Newydd. Bydd y swyddfeydd yn cau i’r bwyd Abergele cyhoedd am 3pm ar ddydd Mawrth ddod yn weithredol 24 2013 ac yn ail-agor am 8:45am rydym wedi cael y fraint o ddanfon pum ar ddydd Iau 2 Ionawr 2014. pecyn bwyd i’n tenantiaid. Ym mhob achos, cyn i ni gysylltu â’r banc bwyd, fe ymwelwyd â’r tenantiaid ac fe gadarnhawyd eu bod heb fwyd ac mewn argyfwng byrdymor. Cyn sefydlu Banc Bwyd Abergele roddem yn ddibynnol ar Fanc Bwyd Conwy i ddarparu parseli bwyd i’n tenantiaid a oedd mewn argyfwng ledled y sir. Maent wedi gweld cynnydd o 60% o flwyddyn i flwyddyn yn y galw yn 2013. Fe gysylltodd un o’n tenantiaid yn yr ardal a wasanaethir bellach gan Fanc Bwyd Abergele â mi ddau fis yn ôl pan oedd Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ei phartner wedi cael ei atal ar ôl asesiad o allu i weithio. Cyflwynwyd apêl ond yn y cyfamser roeddent heb fudd-daliadau ac nid oedd y tenant wedi bwyta bwyd solet am bythefnos fel bod yr ychydig a oedd ganddynt yn gallu cael ei roi ^ a’i mab. Pan ddanfonon ni barsel bwyd ati, y cwbl a i’w g wr oedd ganddi yn yr oergell oedd yr ychwanegion meddygol yr oedd yn ei chael ar bresgripsiwn a’r cwbl a oedd ganddi yn ei chwpwrdd cegin oedd bocs o fagiau te a hanner torth o fara. Nid yw’r naill na’r llall o’r Banciau Bwyd yn y sir yn caniatáu i bobl gysylltu â hwy’n uniongyrchol a dim ond atgyfeiriadau gan sefydliadau proffesiynol megis y Gwasanaethau Cymdeithasol, yr Adran Gwaith a Phensiynau a ni ein hunain y maent yn eu derbyn. I gael mwy o wybodaeth ynghylch sut y gallwch gefnogi’r Banciau Bwyd neu os byddwch yn eich cael eich hun mewn argyfwng byrdymor dilys a chithau’n methu â’ch bwydo eich hun na bwydo eich teulu cysylltwch â ni ar 01745 335341

CONTRACT GWIRIADAU NWY Mae’n dda gan Cartrefi Conwy gyhoeddi bod y contract wedi cael ei ddyfarnu i Sure Group am 2 flynedd bellach. Mae’n bwysig eich bod yn gweithio gyda ni i sicrhau bod peirianwyr yn cael mynediad i gwblhau’r gwiriadau diogelwch nwy pwysig yma. Mae’n bwysig iawn bod Sure Group yn cwblhau’r gwiriadau hyn er mwyn eich diogelwch chi ac unrhyw bobl eraill sy’n byw yn eich cartref neu’n ymweld â’ch cartref a gofynnwn felly eich bod yn caniatáu i’r gwiriad hwn ddigwydd.


Tenants Newsletter Nov 2013_Layout 1 25/11/2013 08:49 Page 12

Newid i dalu trwy Ddebyd Uniongyrchol Ar gyfer ffordd fwy cyfleus, hawdd a didrafferth o dalu eich rhent, taliadau gwasanaeth a rhent garej, beth am sefydlu debyd uniongyrchol heddiw. Gellir gwneud taliadau mewn rhandaliadau wythnosol neu fisol ar unrhyw un o’r dyddiadau canlynol:

DIFROD A ACHOSWYD GAN ^ DÂN, LLIFOGYDD, DWR …… Allech chi fforddio prynu eiddo newydd y gaeaf hwn? Gyda’r gaeafau arbennig o oer a llifogydd cynyddol, erfynnir ar denantiaid yn awr i gymryd mesurau ataliol i osgoi pibelli wedi ^ os bydd llifogydd annisgwyl byrstio y gaeaf hwn a gwneud yn siwr eto bod ganddynt yswiriant digonol. Dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd yn y blynyddoedd diwethaf mae cwmnïau yswiriant wedi cael hyd at 50% yn fwy o hawliadau na’r disgwyl ar gyfer yr adeg o’r flwyddyn oherwydd y tywydd rhewllyd. Mae mwy o’r hawliadau yn ymwneud â difrod a achoswyd ^ yn gollwng nag sy’n ymwneud â thân neu ladrad. gan ddwr Talodd cwmnïau yswiriant dros £900m mewn ymateb i hawliadau a gododd oherwydd pibelli wedi byrstio, ond eto efallai fod tenantiaid yn dal i danamcangyfrif y risg. Mae nifer yn pryderu ynghylch byrgleriaeth tra’u bod i ffwrdd, ond dim ond canran fechan sy’n pryderu ynghylch pibellau wedi byrstio. Yn awr gall tenantiaid a phreswylwyr Cartrefi Conwy drefnu yswiriant ar gyfer cynnwys eu cartref yn ôl cyfradd fforddiadwy lle gellir talu premiymau yn bythefnosol neu’n fisol mewn arian parod, yn fisol trwy ddebyd uniongyrchol neu’n flynyddol. Mae’r yswiriant wedi’i fwriadu i helpu tenantiaid a phreswylwyr i yswirio’r rhan fwyaf o’u heiddo mor hawdd â phosib ac mae hefyd yn eu hyswirio rhag lladrad, fandaliaeth a thân. Y gwerth isaf y gellir yswirio eiddo amdano yw £9,000, os yw pobl dan 60 oed, neu £6,000 os yw pobl dros 60. Mae’r premiymau’n dechrau o £1.53 neu £1.16 yn unig bob pythefnos yn y drefn honno. Gall tenantiaid a phreswylwyr hefyd gynyddu’r yswiriant am bremiwm ychwanegol i gynnwys difrod damweiniol estynedig, yswiriant ar gyfer cymhorthion clyw, cadeiriau olwyn/sgwteri ac eiddo personol (yswiriant i ffwrdd o’r cartref). Mae yswiriant ar gyfer siediau, garejis a thai gwydr ar gael hefyd. Felly os nad oes yswiriant gennych chi ar gyfer y gaeaf hwn ffoniwch My Home ar lo-call 0845 337 2463.

Misol – ar y 1af, 7fed, 16eg, 20fed neu’r 23ain Wythnosol – bob dydd Llun, dydd Mawrth neu ddydd Gwener Manteision talu trwy Ddebyd Uniongyrchol • Mae’n eich helpu i reoli eich arian a chyllidebu’n fwy effeithiol. • Mae taliadau’n cael eu cymryd o’ch cyfrif yn awtomatig ar y dyddiadau a gadarnhawyd gyda chi fel nad oes rhaid i chi gofio pryd i dalu na phoeni am golli taliad. • Mae taliadau’n cael eu hail-gyfrifo’n awtomatig bob blwyddyn yn unol â’r codiadau rhent. Anfonir hysbysiad ysgrifenedig ynghylch unrhyw godiad cyn y dyddiad talu cyntaf. • Yn wahanol i daliadau ar Archeb Sefydlog, nid yw taliadau Debyd Uniongyrchol yn cael eu rheoli gan eich banc ac felly mae llai o risg na fydd taliadau’n cael eu casglu neu y bydd taliadau’n cael eu dyblygu mewn camgymeriad. • Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r ffurflen Debyd Uniongyrchol, nid oes angen cwblhau unrhyw ffurflenni pellach a bydd y Debyd Uniongyrchol yn parhau nes eich bod yn ei ganslo gyda’ch banc neu/a Cartrefi Conwy, neu fod taliad yn cael ei ddychwelyd heb ei dalu atom ni gan eich banc. • Mae taliadau wedi’u gwarantu dan y Warant Debyd Uniongyrchol I gael mwy o wybodaeth am dalu trwy Ddebyd Uniongyrchol neu i sefydlu Debyd Uniongyrchol, cysylltwch â’r Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 0300 124 0040.

Gwarant Debyd Uniongyrchol • Mae’r Warant hon yn cael ei chynnig gan bob banc a chymdeithas adeiladu sy’n derbyn cyfarwyddiadau i dalu Debyd Uniongyrchol • Os bydd unrhyw newid yn symiau, dyddiadau neu amlder eich Debyd Uniongyrchol, bydd Cartrefi Conwy yn rhoi gwybod i chi (nifer i’w ychwanegu) diwrnod gwaith cyn i’ch cyfrif gael ei ddebydu, neu fel y cytunwyd fel arall. Os byddwch chi’n gofyn i Cartrefi Conwy gasglu taliad, bydd cadarnhad o’r swm a’r dyddiad yn cael ei roi i chi pan wneir y cais •Os bydd Cartrefi Conwy neu eich banc neu gymdeithas adeiladu, yn gwneud camgymeriad ynghylch talu eich Debyd Uniongyrchol, mae gennych yr hawl i dderbyn addaliad llawn ar unwaith o’r swm a dalwyd gan eich banc neu gymdeithas adeiladu • Os byddwch chi’n derbyn ad-daliad nad oedd gennych yr hawl i’w dderbyn, mae’n rhaid i chi ei dalu yn ôl pan fydd Cartrefi Conwy yn gofyn i chi wneud hynny • Gallwch ganslo Debyd Uniongyrchol unrhyw bryd drwy gysylltu â’ch banc neu gymdeithas adeiladu. Efallai y bydd angen cadarnhad ysgrifenedig. Rhowch wybod i ninnau hefyd, os gwelwch yn dda. PATE MACRELL MWG AR CROSTINI GYDA CONFIT NIONOD COCH Gan Jon Highcock Byddai’r rysáit pate macrell mwg blasus hwn yn gwneud y cwrs cyntaf perffaith ar gyfer pryd Nadolig am £1.22 yn unig y pen. (Digon i 6 – Cyfanswm cost £7.34 - £1.22 y pen). CYNHWYSION. • 600g o facrell mwg (£4.50) • 5 nionyn coch mawr (90c) • 1 lemwn (30c) • 300ml o crème fraîche (89c) • 1 baguette brown garw (75c) • Nwyddau cwpwrdd (halen, pupur du, siwgr, olew olewydd, saws marchruddygl a finegr gwin coch). CYFARWYDDIADAU. •Gellir paratoi’r pate ar Noswyl Nadolig. Dechreuwch trwy haenu’r macrell i mewn i bowlen fawr (gan waredu’r croen a gofalwch am yr esgyrn!). Yn awr cymysgwch y crème fraîche, sudd hanner lemwn, dwy lwy de o saws marchruddygl i mewn i’r bowlen ac ychwanegwch halen a phupur i roi blas. Gorchuddiwch y bowlen a’i rhoi yn yr oergell dros nos. •Gallwch wneud y confit nionod coch y noson cynt hefyd. Tafellwch y nionod a’u rhoi mewn padell â gwaelod trwchus gydag ychydig o olew olewydd. Coginiwch hwy dros wres isel nes bod y nionod yn dryleu, tua 6 i 7 munud. Yn awr ychwanegwch halen, pupur, pinsiad ^ Trowch y gwres i mawr o siwgr, tair llwy fwrdd o finegr gwin coch ac un llwy fwrdd o ddwr. lawr fel bod y cymysgedd yn mudferwi am oddeutu 1 awr nes bod yr holl hylif wedi anweddu a bod gennych farmaled coch gludiog ar ôl. Gadewch iddo oeri a gall hwn gael ei osod yn yr oergell dros nos hefyd. •Ar fore dydd Nadolig gallwch wneud y crostini. Mae’r rhain yn syml iawn. Tafellwch y ffon fara ar ongl gyda thrwch o ryw hanner modfedd – fe gewch ddigonedd o crostini – byddai 1 yn ddigon i 2 neu 3 o bobl. Ysgeintiwch ddafnau mân o olew olewydd drostynt a’u rhoi yn y popty ar 200c am 5 munud. Gadewch iddynt oeri cyn eu gweini. •Pan fyddwch yn barod i’w gweini rhowch ychydig o bate ar bob crostini a’u gweini â lletem lemwn a thalp da o confit nionod coch ar eu pwys. •MWYNHEWCH EU BWYTA! ADDASWYD O RYSÁIT O ‘FRUGAL FOOD’ AR Y WEFAN LOVE MONEY.COM.

9


Tenants Newsletter Nov 2013_Layout 1 25/11/2013 08:49 Page 11

Llety io d d r a G b lw h yda C g d â t s y h ic e r A rc a P s ly L a y a w ark Gwarchodol P Parc, â Par kway a Llys

weld wys aughton wb garddio i ym gl n ga d eais i gael fy nhy ia Gan Caroline N h d d yn o fw ah fe gw f re yn d b o dder y log yn yr hy cefais y pleser sgrifau am ennill ty wb. Ar fore heu ys cl th r a’ a d n gy ia Yn ddiweddar r ar d se a’r ulio ychydig o am i pan oeddent yn eu blodau lle medrais dre d rd ge ’r d Blodau. tâd, lluniau o hnegau tyfu a hy u Colwyn yn ei ra ec o gwmpas yr ys b th o a gw n n io g ig h yn n l archodo gu am bla ret categori Tai Gw rwd gwrdd, dys ystâd, sef Marga b yr yr w ar d d d ai ar ti i an d fford d oedd ys 4 o den rddio’n cynnig nt o frwdfr yded wb sy’n cynnw ai cl r m â’ cy d g rd Mae clybiau ga lw cw am l ô l, roedd yn adnoddau. Ar ichard Blackwel R a . yn oed rhannu es n Jo n h Jo gosiad yr ystâd nes, an Jo d d nal a en ile ym E n , n ra so o d ei wneud i gyn Richar n n uchel fo ge sa an al ae n n m cy y n mew f ei fod if y gwaith gan bob tenant odd John wrthy i danamcangyfr ed es n yw w d , fe d ia n u el h w el eu arddwr o fri fy lanhigion yn ca h. Yn ystod fy ym i’n p lc d w gy o yd b am ad au o n h d cr an si ed G ardalo dyn, gan d gwobrwyol a’r y gydol y flwyd nnu rhai newyd w la tr h i p n a w l o fla n gy ly chadw’r gerddi n ei i d yn flwyddyn ga mae’n rhaid i ch i bod yn ei wneu yfu drachefn y ed d w t i yn w d yn gyfrifoldeb y d id ry yn h w et amlwg b yr hydref er m reuodd ddod yn h tocio yn ystod ec D . yn w an au am gyfer y gw lwyn yn ei Blod mewn pryd ar ! o d C ed u o ra d b d o ny gw fly n yr holl odol yng sy’n gamp anghywir dros gori Tai Gwarch wobr 9 gwaith, te y ca ill n y c en i ar P ed ys w af maent rddi bob di Par kway a Ll lynedd ddiweth h ofalu am y ge m rt 0 w 1 l Fe enillodd gerd o y lle d to yr ys w yl a’r presw 1997 ac yn a sgiliau’r clwb r y tro cyntaf ym se am , d ed yd i frwdfr n eu ryfeddol diolch ei hanghofio, ga yn h yt b t an d i d fy al â’r categori Ta st ’n flwyddyn na gy blwyddyn. ae o m yn ac b au d w cl lo ed i’r yn yn ei B bobl yddyn orau erio ngwobrau Colw h yn gyson gan g yc yn gw l o d au o ad ch 2008 oedd y flw lw ar w derbyn sy d a pha y categori Tai G dau! Maent yn ybodol o'r ystâ lo w B ym ei yn yn bod wedi ennill t ru en d os ym g ngwobrau C dweud nad oed os hyd yn oed, h yn -R l n b -y o h llo p ri a d d an gy Gwarchodol yn Parc, gwyrdd Ll Par kway a Llys grifio fel tr ysor is d ei el ga sy’n ymweld â d tâ ys ydyw. Fe allai’r Richard, lygfeydd mor brydferth fel y dywedodd mae bod â’r go ac lly i, fe n ar as p m m fy gw am ddeol ynddo.” odd symud o ym an i ydych yn gofyn yn yd l fr ae hy ch d ei ed tâd yn ’n amgylch wn nantiaid ar yr ys d i mewn. Mae re o ag yr rdd liwgar yn lla aw ga “Mae rhai o’r te r â’ eu d gr o d n ga i’n tr ’u ffenes ôl eu troed lliwgar, llachar o ngor a dilyn yn cy eu ar o d n a methu. wn i. A allaf wra ysgu trwy balu d am d i n o f ro h la n al i fy N Felly nesaf? flodau’r flwyddyn amrywiaeth o

Diwrnod i’r Teulu Cartrefi Conwy 2013! Roedd 4ydd Diwrnod i’r Teulu Cartrefi Conwy yn llwyddiant ysgubol unwaith eto. Cafodd y diwrnod llawn hwyl i denantiaid a theuluoedd Cartrefi Conwy ei gynnal yng Nghanolfan Ddigwyddiadau newydd Eirias, ym Mharc Eirias, Bae Colwyn. Cafodd y diwrnod o hwyl, a fynychwyd gan gannoedd o denantiaid o bob rhan o’r sir, ei ganmol fel un o’r goreuon erioed! Gyda’r ganolfan enfawr yn llawn digwyddiadau hwyliog gan gynnwys gweithdai animeiddio, gwyddoniaeth stryd, cystadlaethau pêl-droed, aerobeg cadair freichiau, ffotograffau ffynci a llawer mwy, cafodd pawb amser gwych. Gyda phedwar parth yn llawn digwyddiadau yn seiliedig ar themâu iechyd a lles; cynhwysiant digidol; sgiliau bywyd, hyfforddiant a chyflogaeth a sut i wneud i bob punt gyfrif, fe roddon ni’r cyfle i chi ddysgu mwy am y sgiliau bywyd allweddol hyn a chael dweud eich dweud am y pethau sydd fwyaf o bwys.

10


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.