029 2030 4400
@chaptertweets
chapter.org
02
Croeso
chapter.org
Croeso i’n cylchgrawn misol sy’n nodi pob un o ddigwyddiadau Chapter ym mis Ebrill. Y mis hwn, bydd ein horiel yn gartref i gerfluniau rhyfeddol Jonathan Baldock a’i arddangosfa unigol gyntaf yng Nghymru, The Soft Machine (tt4-5). Os ydych chi, fel ni, yn hoff o ystyried arddangosfeydd mewn mwy o fanylder, gallwch ymuno â thaith dywysedig yn yr oriel a chymryd rhan mewn sgwrs anffurfiol (t8) ar ddydd Sadwrn 26 Ebrill. Mae’n bosib y byddwch chi wedi sylwi hefyd ein bod yn cyflwyno mwy a mwy o gerddoriaeth fyw yn Chapter — ac nid yw’r mis hwn yn eithriad. Byddwn yn cychwyn â pherfformiad ecsgliwsif gan yr arloeswyr arbrofol Cymraeg, Bür Hoff Bau (t13), ynghyd â pherfformiadau gan Jonny and the Baptists (t12) a seren ‘soul’ y dyfodol, Kizzy Meriel Crawford (t12). Rydym yn falch iawn hefyd o allu cyflwyno’r perfformiad cyntaf yng Nghymru o Tender Napalm (t14). Draw yn y sinema, rydym yn falch iawn o groesawu Gŵyl Ffilm Annibynnol Caerdydd (tt18-20). Mae’r ŵyl yn cynnwys rhaglen lawn o ffilmiau nodwedd annibynnol, gwych o bob cwr o’r byd. Trwy gydol mis Ebrill, byddwn yn dangos ffilmiau y cyfeirir atynt yn ffilm hyfryd Mark Cousins, A Story of Children and Film (t17), a chyn diwedd y mis, byddwn yn dangos The Lunchbox (t25) unwaith eto — ffilm a gyflwynwyd am y tro cyntaf yng ngŵyl ffilm boblogaidd WOW Cymru Un Byd. Chwilio am bethau i ddifyrru’r plantos? O bypedau cysgod i sesiwn Moviemaker i Bobl Ifainc, mae yna ddigon i’w diddanu nhw yn Chapter. Gweler tudalennau 28-29 am fwy o wybodaeth. Diolch am ddarllen ac fe welwn ni chi cyn hir! Delwedd y Clawr: Jonathan Baldock, Performer, 2013, cyfryngau cymysg, 60cm (dyfn.) 158cm (uch.) 110cm (lled)
Chapter Heol y Farchnad, Caerdydd CF5 1QE 029 2030 4400 www.chapter.org ymholiadau@chapter.org
chapter.org
Uchafbwyntiau
Oriel tudalennau 4–8
Bwyta Yfed Llogi tudalen 9
03 03
CYMRYD RHAN
Theatr
Cerdyn CL1C
tudalennau 10–14
Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawrlwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!
Chapter Mix tudalen 15
Ffrindiau Chapter Sinema tudalennau 16–27
Ymunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40
Cadwch mewn cysylltiad Ymunwch â ni ar-lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.
Addysg tudalennau 28–29
Gwybodaeth a Sut i archebu tocynnau tudalen 30
Cymryd Rhan tudalen 31
Calendr tudalennau 32–33
eAmserlen rad ac am ddim eAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E-bostiwch adam.chard@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e-bost.
Siaradwch â ni @chaptertweets facebook.com/chapterarts ymholiadau@chapter.org
Oriel
Jonathan Baldock, The Monoliths, 2012, Ffelt, edau sidan, polystyren, cerameg gwydr, gwallt synthetig a chlychau
04 029 2030 4400
Oriel
05
Jonathan Baldock, Gwisgoedd, 2013, gwlân wedi’i grosio â llaw, gwlân, ‘massagers’ a cherameg
chapter.org
Jonathan Baldock: The Soft Machine Rhagolwg: Iau 17 Ebrill 6 — 8pm Arddangosfa: Gwe 18 Ebrill — Sul 29 Mehefin Mae ffurfiau hybrid Jonathan Baldock yn afreolaidd ar y naill law ac, ar y llaw arall, yn hynod gain. Maent yn meddiannu gofod yr oriel fel addurniadau ac fel gwrthrychau. Mae The Soft Machine, arddangosfa unigol gyntaf Jonathan yng Nghymru, yn edrych ar y berthynas rhwng y corff a cherfluniau gan ddefnyddio gosodiadau a pherfformiad. Mae ei waith yn gwneud cysylltiadau annisgwyl rhwng cyfeiriadau diwylliannol ymddangosiadol wahanol — llenyddiaeth, hanes celf, defodau paganaidd, sinema, ffasiwn a defodau carnifalaidd. Mae trawsnewid yn fotiff canolog yng ngwaith Jonathan: mae mygydau, nythod a chregyn yn cynnig rhyw fath o loches. Maent yn groen newydd; yn fannau gwarchodol, cudd. Meddai Oscar Wilde, “Nid yw dyn yn llai tebyg iddo fe ei hun na phan siarada yn ei enw ei hun. Rhowch iddo fwgwd, ac fe ddywed y gwir.” I Jonathan, mae’r mwgwd yn caniatáu i berson fod yn driw i’w hunan. Mae ei wisgoedd yn gartrefi symudol i berfformiwr neu berson. Mae deunyddiau diymhongar yn troi’n gofebion ac yn dod yn fyw trwy gyfrwng symudiadau a choreograffi gofalus; rhoddir bywyd i’r difywyd ac fe ddaw’r annifyr yn ddoniol. Mae ei gerfluniau’n rhyw fath o ofod diogel sy’n consurio atgofion am straeon cysurus i blant — er eu bod nhw hefyd yn cyfeirio at atyniadau brawychus y ffair. Mae Jonathon yn archwilio rôl anghofiedig neu ymylol y crefftwr yn ein diwylliant, ac yn datblygu iaith weledol lle mae deunyddiau yn parhau i chwarae rôl o bwys. Caiff deunyddiau ‘bas’ eu trawsnewid yn wrthrychau o statws ac maent yn herio ein rhagdybiaethau am yr hyn y gallan nhw fod neu wneud. Mae gwaith Jonathan yn gwrthod naratifau penodol o blaid sgwrs: rhwng traddodiad a chrefft, symudiad a llonyddwch, y gwrthrych a’r corff.
Bywgraffiad Ganwyd Jonathan Baldock ym 1980 yn Pembury, y DG. Graddiodd o’r Coleg Celf Brenhinol yn 2005 ac mae e bellach yn byw ac yn gweithio yn Llundain. Mae ei arddangosfeydd unigol diweddar yn cynnwys: Hot Spots, The Apartment, Vancouver (Canada), 2014; A Strange Mix Between a Butcher’s Shop and a Nightclub, Canolfan Gelfyddydau Wysing, Caergrawnt (DG) 2013; The Blue Epoch, Colloredo-Mansfeldský Palác, AMoYA, Prâg (Gweriniaeth Tsiec) 2012; Musica, Oriel Annarumma, Napoli, (Yr Eidal) 2011; Pierrot, PeregrineProgram, Chicago (UDA) 2011. Mae ei arddangosfeydd grŵp yn cynnwys: Two Figures in a Landscape (coreograffi gan Grŵp Dawns Rubato), Amgueddfa Gelfyddyd Rockbund, Shanghai (Tsieina) 2013; Relativity Absolute, Canolfan Gelfyddydau Wysing, Caergrawnt (DG), 2013; The Gathering, Oriel Mytoro, Hambwrg (Yr Almaen), 2013; Implausible Imposters, Oriel Ceri Hand, Llundain (DG), 2013; Pile, Chapter, Caerdydd (Cymru) 2011. Yn ddiweddar, dyfarnwyd Cymrodoriaeth Abbey yr Ysgol Brydeinig yn Rhufain (Yr Eidal) iddo ynghyd â Phreswyliad Swatch Art Peace Hotel, Shanghai (Tsieina).
Arddangosfa ar agor: Dyddiau Mawrth, Mercher, Sadwrn a Sul 12-6pm; dydd Iau a dydd Gwener 12-8pm; ar gau ar ddydd Llun
Oriel
029 2030 4400
Andrew Morris, What’s Left Behind? 2013. 6x7" fformat canolig
06
CELFYDDYD YN Y BAR Andrew Morris: What’s Left Behind? Gwe 14 Mawrth – Sul 18 Mai Mae darluniau Andrew Morris o ofodau mewnol yn ymddangos yn dawel a myfyriol, fel petaent yn llefydd dros dro, gofod rhwng llawnder a gwacter. Mae sbectol darllen yn dal i eistedd ar sil y ffenest a’r gwelyau mewn ystafelloedd gwely newydd gael eu gwneud. Fe allech chi dybio’n rhwydd bod y perchennog newydd bicio allan. Ond edrychwch eto ac fe welwch chi fod yna rywbeth nad yw cweit fel y dylai fod. Mae’r papur wal yn pilio, mae yna ffotograff ar silff lyfrau a fyddai fel arall yn wag; cartrefi yw’r rhain sydd yn y broses o gael eu clirio, cartrefi a oedd yn eiddo i rywun sydd, erbyn hyn, wedi marw. Mae Morris yn portreadu’r golygfeydd hyn â sensitifrwydd mawr — mae’n gwneud mwy na chanolbwyntio ar yr eiddo sy’n weddill ac yn ein harwain i fyfyrio ac ystyried syniadau am gartref, teulu a pherchnogaeth.
Bywgraffiad Mae Andrew Morris yn byw ac yn gweithio yn Abertawe. Graddiodd yn ddiweddar o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Abertawe, lle’r astudiodd Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau. Morris yw deiliad cyntaf Gwobr Artist Ifanc Rhyngwladol Cymru a gyflwynwyd iddo gan Gyngor Prydeinig Cymru am y corff hwn o waith. Gwobr Artist Ifanc Rhyngwladol Cymru Lansiwyd Gwobr Artist Ifanc Rhyngwladol Cymru yn 2013 gan Gyngor Prydeinig Cymru gyda’r nod deuol o ddod o hyd i dalentau newydd ifainc yn y sectorau creadigol ac o feithrin y talentau hynny, gan roi cyfle i artistiaid ifainc o Gymru ddangos eu gwaith yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae’r enillydd yn derbyn gwobr o £500 a chyfle i arddangos gwaith ar chwe chyfandir ac mewn mwy na 100 o wledydd. Beirniaid 2013 oedd Hannah Firth, Pennod, Melissa Hinkin, Artes Mundi a’r cynhyrchydd / curadur annibynnol, Marc Rees.
Oriel
07
O’r top i’r gwaelod: Art Car Bootique
chapter.org
NODWCH Y DYDDIAD!
Art Car Bootique Sul 25 Mai Mae Chapter a Something Creative yn falch o gyhoeddi digwyddiad Art Car Bootique 2014, sy’n dathlu ‘Diwedd Diniweidrwydd.’ Ers ei sefydlu yn 2011, mae’r digwyddiad hwn yn dathlu Cymuned Greadigol Caerdydd. Mae’n gymysgedd eclectig ac ecsentrig o gelfyddyd, perfformiadau, bwyd, cerddoriaeth, ffasiwn ‘vintage’ a phrosiectau wedi’u curadu. O 11am tan 6pm, bydd ein maes parcio yn cael ei drawsnewid yn ffair bentref seicedelig — bydd mwy na 70 o stondinau i chi eu harchwilio a’u mwynhau. Mae Art Car Bootique yn ddigwyddiad rhyngweithiol rhyfedd a hwyliog sy’n cynnig rhywbeth i bawb. Mae’r Art Car Bootique yn cyd-fynd eleni, trwy gydddigwyddiad hapus, â Maibock, ein gŵyl gwrw Almaenaidd flynyddol, a bydd yna berfformiadau byw yn ein Caffi Bar o 6pm tan yn hwyr. Cadwch lygad ar ein gwe-fan, www.chapter.org, am fwy o fanylion. www.artcarbootique.com www.somethingcreatives.com
08
Oriel
Come Along Do
Sgyrsiau am 2
Iau 3 Ebrill 8pm
Dechrau ar Sad 26 Ebrill 2pm
Ymunwch â ni ar ôl y dangosiad o Under the Skin ar gyfer sesiwn Come Along Do, sesiwn anffurfiol a bywiog yn canolbwyntio ar gelfyddyd a ffilm, dan arweiniad Gill Nicol. Pa un ai ydych chi ar dân eisiau dweud rhywbeth neu eisiau gwrando ac ystyried y ffilm, dewch draw ar bob cyfri’ — mae croeso cynnes i bawb.
Cynhelir ein ‘Sgyrsiau am 2’ bob yn ail ddydd Sadwrn yn ystod cyfnodau ein harddangosfeydd ac fe’u cynhelir gan ein Tywyswyr Byw, Richard Higlett a Samuel Hasler. Mae’r sgyrsiau’n gyfle i ddysgu mwy am yr arddangosfa gyfredol ac am ddulliau gwaith unigryw yr artistiaid a’r curadur. Ni fydd dwy sgwrs yn union yr un fath ond y gobaith yw y byddan nhw’n ddiddorol ac eangfrydig bob amser. Mae’r Sgyrsiau am 2 yn rhad ac am ddim a does dim angen i chi archebu lle ymlaen llaw — dewch draw i’r Oriel i ymuno â ni!
£2.50 Gweler tudalen 21 am fanylion pellach.
029 2030 4400
chapter.org
Bwyta Yfed Llogi
09
BWYTA YFED LLOGI
Pop Up Produce
Yfed
Bob dydd Mercher 4 — 7pm
Rydym wrth ein bodd yn dod o hyd i gwrw newydd blasus ac, ym mis Ebrill, byddwn yn croesawu cwrw drafft newydd o’r Almaen, Ankerbräu. Chapter yw’r bar cyntaf yng Nghymru (fe’i dewiswyd o blith nifer) i gynnig y pilsner nodedig hwn. Caiff y cwrw ei ystyried yn fwy ‘gwyrdd’ na phob cwrw arall ar y farchnad; mae’r bragdy yn defnyddio technolegau ‘Bag-In-Box’ a charbonadu a ddatblygwyd ganddyn nhw eu hunain yn hytrach na defnyddio casgenni confensiynol. Mae hyn yn golygu nad oes angen dychwelyd casgenni at y bragdy, sy’n arwain at leihau allyriadau tanwydd. Ac mae’r ‘gasgen’, o’r herwydd, yn hollol ailgylchadwy. Ar ben hynny, mae’r cwrw’n arbennig o flasus!
Mae ein marchnad dros dro reolaidd yn cynnwys cynhyrchwyr bwyd lleol sy’n gwerthu bwydydd blasus a chrefftus. Llanwch eich cypyrddau â bara hyfryd, cacennau blasus, cigoedd a siytni arbenigol a llawer iawn mwy. I weld manylion y cynhyrchwyr a fydd yn bresennol, ewch i’n gwe-fan.
Llogi
Mae nifer o ofodau a chyfleusterau Chapter ar gael i’w llogi, ac mae llawer o’r rhain yn cael eu defnyddio’n rheolaidd gan amrywiaeth eclectig o ddosbarthiadau dydd a nos. Ewch draw i’n gwe-fan i weld yr hyn sydd ar gael – neu gallwch godi taflen yn y swyddfa docynnau. Os ydych chi’n chwilio am ystafell ar gyfer parti, cyfarfod, cynhadledd, i saethu fideo, neu i gynnal ymarfer neu weithgareddau adeiladu tîm, bydd ein cyfleusterau gwych, ein harbenigedd technegol a’n staff cyfeillgar yn gallu sicrhau bod eich digwyddiad yn un cyffyrddus, unigryw a chofiadwy. Gallwn gynnig amrywiaeth o opsiynau arlwyo ar gyfer eich digwyddiad hefyd. Os oes gennych chi gwestiynau penodol neu os hoffech chi fwy o wybodaeth am ein cyfleusterau, rhowch ganiad i’n rheolwr llogi, Nicky, ar 029 2031 1058, neu anfonwch e-bost at nicky.keeping@chapter.org
Nodwch y Dyddiad!
Bydd Maibock, gŵyl gwrw Almaenaidd flynyddol y gwanwyn, yn dychwelyd o ddydd Iau 22 tan ddydd Sul 25 Mai. Nodwch y dyddiad yn eich dyddiadur a pharatowch am wledd o gwrw a bwyd blasus i gydfynd â’r Art Car Bootique poblogaidd (mwy o fanylion t7).
Theatr
Tender Napalm llun: J H Andersen
10 029 2030 4400
Theatr
Act One Metamorphosis
Man arall:
11
O’r chwith i’r dde: Metamorphosis, Day to Go llun: Wyn Mason
chapter.org
Llun 31 Mawrth — Gwe 4 Ebrill 7.30pm Un bore, mae’r arwerthwr teithiol, Gregor Samsa, yn deffro ac yn cael ei fod wedi’i drawsnewid yn bryfetyn enfawr. Ar ôl treulio pob munud o’i fywyd blaenorol yn cynnal ei deulu, rhaid iddyn nhw yn awr — ac iddo ef ei hun — ymdopi ag anabledd amhosib. Yn seiliedig ar nofel fer glasurol Franz Kafka, ac wedi’i haddasu ar gyfer y llwyfan gan Steven Berkoff, mae Act One yn falch o gyflwyno Metamorphosis. Mae cast ensemble talentog yn archwilio’r stori ddirdynnol hon am ddyn ifanc sy’n cael ei fwrw o’r neilltu gan bob un o’i anwyliaid. Act One yw Cymdeithas Ddrama Prifysgol Caerdydd. £8/£6
Papertrail yn cyflwyno Day to Go Crëwyd gan Bridget Keehan Sad 5 + Sad 12 Ebrill 12pm, 2pm + 4pm Mae Day to Go yn eich arwain ar daith farddonol drwy’r Barri ar fws. Ar hyd y ffordd, byddwch yn clywed straeon ac yn cwrdd â’r ‘bobl leol’, y briodferch wrthodedig, y fenyw nad yw’n gallu stopio nofio, y ‘redcoat’ â’r gyfrinach ofnadwy a hyd yn oed nawddsant y Barri ei hun. Cewch weld ochr ar y Barri na wyddech chi ddim oll am ei bodolaeth ... Bydd y bws yn gadael y Neuadd Goffa, ar Heol Gladstone, 5 munud ar droed o Orsaf Drênau Doc y Barri. Mae yna fysiau a thrênau rheolaidd i’r neuadd. Cafodd y ddrama ei chreu gan Bridget Keehan (The Container, The City) gyda chefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, National Theatre Wales a phobl y Barri. Tocynnau ar gael o Neuadd Goffa’r Barri www. memorialhalltheatre.co.DG / 01446 738622 a www. chapter.org Dim ond 20 o seddi fydd ar gael ar gyfer pob perfformiad felly archebwch mewn da bryd i osgoi cael eich siomi! £10/£8 www.papertrail.org.uk
Theatr
Jonny & The Baptists: Taith ‘Stop UKIP’
New Sound Wales yn cyflwyno:
029 2030 4400
O’r chwith i’r dde: Jonny & The Baptists, Kizzy Meriel Crawford
12
Mer 9 Ebrill 8pm Mae digrifwyr cerddorol mwyaf chwilboeth y DG yn cyflwyno awr aflafar o ganeuon, dychan a ffolineb. Ymunwch â nhw cyn etholiadau Ewropeaidd 2014 wrth iddyn nhw herio Nigel Farage a’i giwed o ‘fruitcakes, loonies and closet racists’ a helpwch i roi taw ar UKIP am byth. Gan sêr rhaglenni Radio 4, The Now Show, Infinite Monkey Cage a Sketchorama. Enwebiadau am wobr Act Newydd y Flwyddyn 2013, Gwobr Comedi Cerddorol a gwobr Amused Moose Caeredin. £9/£8/£7 www.jonnyandthebaptists.co.DG
“Sêr y dyfodol.” Sunday Times
Kizzy Meriel Crawford + Climbing Trees Gwe 11 Ebrill 8pm Mae Kizzy Meriel Crawford eisoes yn cael ei chydnabod fel un o gantorion ifainc mwyaf addawol Cymru. Ei huchelgais fel artist du o Gymru yw gwneud ei marc trwy gyfuno jazz a ‘soul’ dwyieithog. Cafodd ei cherddoriaeth ei chwarae’n helaeth ar y cyfryngau ac mae hi wedi perfformio ar nifer o sioeau teledu. Yn 2013, enillodd ‘Frwydr y Bandiau’ yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac ymddangosodd yn WOMEX, Gŵyl Sŵn a chefnogi artistiaid nodedig fel Newton Faulkner. Daw cefnogaeth gan Climbing Trees, a ryddhaodd eu halbwm cyntaf, ‘Hebron’, yn 2013. Mae’r gwaith hwnnw’n un o’r ffefrynnau i ennill Gwobr Cerddoriaeth Cymru eleni. Mae tocynnau ar gael ar-lein yn http://www.wegottickets. com/event/258816 £8 o flaen llaw / £10 wrth y drws
Theatr
Dangosiad Ffilm + Perfformiad Byw:
Brendon Burns
13
O’r chwith i’r dde: Bür Hoff Bau, Brendon Burns
chapter.org
I’r Bür Hoff Bau Iau 3 Ebrill
Cymru/2013/90mun/dim tyst. Cyf: Hans Glaumman.
Ffilm ddogfen goll Gymraeg am hynt a helynt un o fandiau mwyaf arloesol ac unigryw Cymru, Bür Hoff Bau. Fe’i cynhyrchwyd gan y cyfarwyddwr nodedig o’r Almaen, Hans Glaumann, yn ystod haf 1974. Mae’r ffilm yn cofnodi dyddiau olaf band nad yw’n gallu cyflawni ei ddisgwyliadau ei hun wrth recordio albwm cyntaf. Cafodd y ffilm ei hail-ddarganfod gan label recordiau Klep Dim Trep a’i hadfer â chariad gan gwmni cynhyrchu Ffesant. £6
Bür Hoff Bau Sad 5 Ebrill 8pm Ar ôl absenoldeb o 40 mlynedd, mae un o fandiau mwyaf unigryw ac arbrofol Cymru yn dychwelyd i’r llwyfan o’r diwedd. Fe’u hanwybyddwyd gan y cyhoedd ar y pryd a doedd yna ddim lle iddyn nhw yn y llyfrau hanes ... tan nawr. Bydd y digwyddiad byw unigryw hwn, wedi’i gyflwyno gan Klep Dim Trep, yn dilyn y dangosiad ar ddydd Iau 3 Ebrill o I’r Bür Hoff Bau, ffilm ddogfen a gynhyrchwyd gan y cyfarwyddwr o’r Almaen, Hans Glaumann. £8 Tocynnau cyfun i’r ffilm a’r digwyddiad byw £12.
Llun 14 Ebrill 8pm Nid digrifwr cyffredin mo Brendon. Mae e’n hŷn, yn ddoethach ac yn llai gwyllt (ac ar ôl cael cymorth clywed mae e dipyn yn dawelach) ond mae e’n dal yn llawn egni. Mae ei frawddegau’n fras ond yn syndod o huawdl ac yn hynod o hoffus. Dyw e byth yn hunanbwysig ac mae ei natur hunan-fychanol yn galluogi iddo ddweud pethau rhyfeddol. Digrifwr sydd yn llinach clown y brenin; mae e’n llawn hiwmor traddodiadol a chynhwysol. Cafodd ei efelychu sawl tro ond Brendon yw’r meistr: nid perfformiadau’n unig yw ei sioeau; maen nhw’n brofiadau. Mae Burns yn arbrofwr parhaol â ffurf ac wrth ei fodd â sialensiau newydd. £12/£10/£8
“Y set ‘stand up’ mwyaf syfrdanol o lletchwith — a gwerth chweil — a welsom erioed.” ****** (Marc digynsail — chwe seren allan o chwech) Time Out, Llundain
Theatr
029 2030 4400
Theatr Iolo a Theatr Hullabaloo yn cyflwyno
Company of Sirens ar y cyd â Theatr Iolo a Chapter yn cyflwyno première Cymreig:
O’r chwith i’r dde: Luna, Tender Napalm llun: J H Andersen
14
Luna
Gwe 18 — Llun 21 Ebrill 11am + 2pm (Sul 20 Ebrill 2pm yn unig) Profiad theatrig hudolus i blant 2-5 oed a’u teuluoedd am gyfeillgarwch, y lleuad a bod yn ddewr yn y tywyllwch. Mae Luna’n unig yn yr awyr — does neb yno i chwarae gyda hi. Er ei bod hi wedi’i hamgylchynu gan sêr, dydyn nhw ddim fel petaen nhw’n eu deall hi — profiad unig yw bod yr unig leuad yn yr awyr. Ond un noson, wrth iddi rasio ymysg y sêr, mae hi’n sylwi ar fachgen ifanc yn cuddio rhag y cysgodion sy’n symud fel angenfilod ar waliau ei ystafell wely. Mae Luna’n penderfynu picio i lawr o’r awyr a dod yn ffrindiau gyda’r bachgen. Gyda’i gilydd, maent yn mynd ar antur liw nos i’w helpu ef i oresgyn ei ofn o’r tywyllwch. Sioe wedi’i dyfeisio a’i chyfarwyddo gan Sarah Argent yn seiliedig ar stori wreiddiol gan Miranda Thain Cynllunio gan Bek Palmer Cyfansoddi gan Greg Hall Symudiadau gan Jem Treays Goleuo gan Jane Lalljee £7 www.theatriolo.com
“Llwyddodd Luna i hudo ei thorf ifanc â sioe hollol gyfareddol.” South Wales Echo
Tender Napalm
Maw 22 — Sad 26 Ebrill 8pm Gan Philip Ridley Cyfarwyddo gan Chris Durnall Goleuo gan Jane Lalljee “Gallwn i wasgu bwled rhwng y gwefusau yna. Ei wasgu rhwng y gwefusau coch rhosyn yna. Ei wthio rhwng y dannedd gwynion. Yn ysgafn reit. Fyddwn i ddim yn torri’r un dant.” Mae dyn a menyw ar adeg tyngedfennol yn eu perthynas. Maent yn caru’i gilydd ond mae rhywbeth ofnadwy wedi digwydd. Mae Tender Napalm yn ddrama ysgytwol, wreiddiol sy’n archwilio’r berthynas rhwng dyn a menyw. Mae’n ffrwydrol, yn farddonol ac yn greulon, ac yn plethu at ei gilydd dapestri theatrig sy’n ail-archwilio ac yn ail-ddiffinio iaith cariad. Dilynir y perfformiad ar ddydd Mawrth 22 Ebrill gan sesiwn holi-ac-ateb gyda Philip Ridley. £12/£10/£8 Oed 16+ (Sioe’n cynnwys iaith gref a golygfeydd o natur rywiol a threisgar)
“Anaml iawn y mae cariad rhywiol wedi’i archwilio ar lwyfan â’r fath onestrwydd ffyrnig, a’r fath greulondeb a thynerwch.” The Guardian
chapter.org
Chapter Mix
Meddygfa Cyfryngau Cymdeithasol Treganna
Clonc yn y Cwtsh
Mer 2 Ebrill 5-7pm
Ydych chi wedi clywed am gyfryngau cymdeithasol ond heb fod yn siŵr sut mae’r holl beth yn gweithio? Neu sut y gall y cyfryngau cymdeithasol fod o fudd i chi neu i’ch grŵp? Dewch draw i’r Cwtsh yn y Caffi Bar am gyfarfod hamddenol ac anffurfiol. Delfrydol ar gyfer dechreuwyr neu os ydych chi neu eich grŵp cymunedol yn awyddus i ennill mwy o hyder. RHAD AC AM DDIM @cantonsms
Dydd Iau Cyntaf y Mis:
Barddoniaeth a Ffuglen Newydd Iau 3 Ebrill 7.30pm Meic Agored
Tri llais newydd o gymoedd De Cymru: casgliad cyntaf o gerddi gan Jonathan Edwards, nofel gyntaf gan Rhian Elizabeth a gwaith myfyrgar gan Michael Arnold Williams am ei fywyd fel gwyddonydd a’i blentyndod yn y Rhondda. Noddir gan Wasg Seren a Gwasg Mulfran £2.50
Bob dydd Llun 6.30 — 8pm Ydych chi’n dysgu Cymraeg? Ymunwch â ni i ymarfer eich Cymraeg gyda dysgwyr eraill. Croeso i bawb! RHAD AC AM DDIM Ar y cyd â Menter Caerdydd
DARLITH SWDFAS
The Glasgow Boys, the Glasgow Girls and the Scottish Colourists: Harry Fletcher Iau 10 Ebrill 2pm
Ysbrydolwyd y Glasgow Boys gan Argraffiadwyr Ffrainc ac, erbyn 1900, roedd y rhan fwyaf ohonynt wedi gadael am Ewrop. Dylanwadodd y Glasgow Girls ar ddatblygiad arddull Glasgow, gan ennill cydnabyddiaeth ryngwladol. Daeth Lliwyddion yr Alban i gysylltiad uniongyrchol â Matisse, Cezanne a Van Gogh ac fe ystyrir eu paentiadau yn rhai o weithiau mwyaf blaengar celfyddyd Prydain ddechrau’r 20fed ganrif. Ymwelwyr £6 (wrth y drws, yn ddibynnol ar le) www.swdfas.org.uk
Gwe 4 + Gwe 18 Ebrill, Drysau’n agor: 8.30 Sioe am: 9pm
Gwe 11 Ebrill 7pm
Clwb Comedi The Drones
Clint Edwards sy’n cyflwyno’r ‘stand-ups’ addawol gorau. Gwelwyd peth o ddeunydd y nosweithiau hyn ar ‘Identity Crisis’ Rob Brydon. Dydd Gwener cyntaf a thrydydd dydd Gwener y mis. Un o’r ‘Deg Peth Gorau i’w Gwneud yng Nghaerdydd’ yn ôl cylchgrawn The Big Issue. £3.50 (wrth y drws)
Castell Arianrhod Gwe 4 Ebrill 8pm
Mae chwedleua, barddoniaeth a chân yn rhoi bywyd newydd i’r hen fyth Cymreig. Mae’n nhw’n rhan o’n treftadaeth ddiwylliannol ond beth yw perthnasedd y straeon hyn i ni heddiw? Dewch o hyd i Gastell Arianrhod dan y môr, yn y sêr ac yn y chwedl hynafol hon. Dewch i glywed yr hen gân am golli ac ennill; am yr hyn “a fu ddoe, [ac] a fydd o hyd”. Mae llais y storïwr Cath Little o Gaerdydd yn llawn “hud garw” ac mae ei gwaith yn llawn o “ddisgleirdeb straeon”. £5 www.cathlittle.co.uk
Cylch Chwedleua Caerdydd Sul 6 Ebrill 8pm
Dewch i rannu a gwrando ar gasgliad hyfryd o straeon — croeso cynnes i storïwyr a gwrandawyr fel ei gilydd! £4 (wrth y drws)
15
Dance Shorts Deng munud o ddawnsio newydd a chyffrous yn y Caffi Bar — perfformiad gan Gwyn Emberton. RHAD AC AM DDIM
Music Geek Monthly
Iau 27 Mawrth 8pm + Sad 12 Ebrill 3.30pm Iau 24 Ebrill 8pm + Sad 10 Mai 3.30pm Trafodir un clasur o albwm ac un albwm newydd sbon yn y Pwynt Cyfryngol ar ddydd Iau olaf y mis. Cynhelir y gwrandawiad cysylltiedig ym moeth Sinema 2 ar ddydd Sadwrn. RHAD AC AM DDIM www.musicgeekmonthly.tumblr.com
On The Edge
Result Night Maw 15 Ebrill 8pm
Gan Sara Hawys a Leon Russel. Och aye the noo! Mae canlyniadau Refferendwm yr Alban ar Annibyniaeth wedi eu cyhoeddi. Argyfwng neu achos dathlu i Gymru? Drama ddifyr i brocio’r meddwl. £4
Jazz ar y Sul Sul 27 Ebrill 9pm
Ein noson fisol o jazz acwstig melodig yn y Caffi Bar gyda Phedwarawd Glen Manby. RHAD AC AM DDIM
Sinema
A Story of Children and Film
16 029 2030 4400
A Story of Children and Film
chapter.org
Sinema
17
A Story of Children and Film Drwy gydol misoedd Ebrill, Mai a Mehefin byddwn yn dangos ffilmiau y mae sôn amdanynt yn ffilm hyfryd Mark Cousins, A Story of Children and Film. Nid yw’r ffilmiau hyn wedi eu dangos yn sinemâu’r DG o’r blaen — mae hwn yn gyfle gwych felly i gynulleidfa Chapter weld rhai o emau gwirioneddol sinema’r byd.
A Story of Children and Film
Bag of Rice
DG/2013/106mun/is-deitlau/PG. Cyf: Mark Cousins.
Iran/1998/80mun/U. Cyf: Mohammad-Ali Talebi. Gyda: Jairan Abadzade, Masume Eskawdari.
Gwe 4 — Iau 10 Ebrill
Yn ei arddull unigryw a brwdfrydig ei hun, mae Mark Cousins yn defnyddio enghreifftiau o bob cwr o’r byd er mwyn archwilio’r berthynas rhwng ffilm a phlentyndod. Â detholiad eclectig o ffilmiau — sy’n amrywio o glasuron poblogaidd i gampweithiau tanddaearol — mae’n dangos sut y caiff dyfeisgarwch a dychymyg plentyndod ei adleisio yn narganfyddiadau diddiwedd y sinema.
“Mae ysgrif sinematig Mark Cousins am blentyndod a ffilm yn gwbl unigryw — yn ecsentrig ar adegau ond yn wych bob amser.” Peter Bradshaw, The Guardian
Sul 13 + Maw 15 Ebrill Mae Jairan, pedair oed, yn cael ei hanwybyddu adre’ ac mae hi’n ysu am gael rhywbeth i’w wneud. Ar ôl perswadio’i chymydog hŷn a rhannol ddall i fynd i siopa gyda hi, mae’r ddau’n cychwyn ar antur yn ninas brysur Tehran. Beth all fynd o’i le? Ffilm antur ingol a bythgofiadwy am gwpwl annisgwyl.
+
Palle Alone in the World Denmarc/1949/25mun/dim tyst. Cyf: Astrid Henning-Jensen. Gyda: Lars Henning-Jensen.
The Boot
Mae bachgen bach yn deffro ac yn sylweddoli bod pob oedolyn wedi diflannu. Mae’r byd cyfan yn barc chwarae bellach ac mae e’n rhedeg yn wyllt, yn rhoi powdr cyri yn ei frecwast, yn gyrru injan dân, yn hedfan awyren ac yn mynd i’r lleuad.
Iran/1993/60mun/dim tyst. Cyf: Mohammad-Ali Talebi. Gyda: Ali Atashkar, Samaneh Jafar-Jalali, Raya Nasiri.
Willow and Wind
Sul 6 + Maw 8 Ebrill Mae Samaneh yn ferch fach sy’n plagio’i mam i brynu pâr o esgidiau rwber coch iddi ond, wedi iddi gyrraedd adre’, mae hi’n sylwi bod un o’r esgidiau wedi diflannu... Mae bachgen yn deall gwerth yr esgidiau i’r ferch ac yn penderfynu ei helpu hi i ddod o hyd i’r esgid goll. Stori sy’n llawn anwyldeb a digrifwch heintus.
+
Ten Minutes Older Latfia/1978/10mun/dim tyst. Cyf: Herz Frank.
Mae amrywiaeth o emosiynau’n britho wyneb plentyn wrth iddo wylio sioe na welwn ni, y gynulleidfa, mohoni byth. Ffilm ddeng munud o hyd sy’n dangos grym rhyfeddol a swynol y sinema ar fodau dynol.
Sul 20 + Maw 22 Ebrill
Iran/1999/77mun/TiCh. Cyf: Mohammed-Ali Talebi. Gyda: Hadi Alipour, Amir Janfada, Majid Alipour.
Mae Kuchakpour yn torri ffenest yn yr ysgol ac yn cael ei wahardd o’r dosbarth tan iddi gael ei thrwsio. Wrth fynd ati i atgyweirio’r ffenest, mae’r bachgen yn cario paen o wydr trwy gefn gwlad ar ganol storm. Mae’r gwynt yn chwythu — ond a fydd y gwydr yn cracio? Mae’r stori syml hon yn troi’n gwest epig a hardd sy’n llawn barddoniaeth a thensiwn.
Children of the Wind Sul 27 + Maw 29 Ebrill
Japan/1937/88mun/dim tyst. Cyf: Hiroshi Shimizu. Gyda: Reikichi Kawamura, Mitsuko Yoshikawa, Masao Hayama.
Mae dau frawd ifanc, un ohonynt yn arweinydd gang y pentref, yn gweld eu bywyd delfrydol yn syrthio’n ddarnau ar ôl i’w tad gael ei garcharu ar gam am dwyllo. Fe’u hanfonir i aros gyda’u hewythr, lle maen nhw’n treulio’u hamser yn trio meddwl am ffyrdd o ddianc ac o achub cam eu tad. Cafodd tymor Sinema Plentyndod ei guradu gan y gwneuthurwr ffilm Mark Cousins, ei gyflwyno gan Filmhouse a’i gefnogi gan Gronfa Datblygu Rhaglenni y Sefydliad Ffilm Prydeinig, gyda chefnogaeth ariannol gan y Loteri Genedlaethol.
Sinema
029 2030 4400
Alone on Board
18
Gŵyl Ffilm Annibynnol Caerdydd Gwe 4 — Sul 6 Ebrill Cyfle i weld rhai o’r ffilmiau annibynnol newydd gorau ac i gymryd rhan mewn dosbarth meistr gyda Red and Black Films, y tîm a gynhyrchodd The Machine, enillydd gwobr y Ffilm Nodwedd Brydeinig Orau yn Raindance. Bydd yna gyfle hefyd i chi gymdeithasu a rhwydweithio. Ewch i www.cardifffilmfest.org.uk i weld mwy o fanylion. Dilynwch ni ar Twitter @cardifffilmfest
Gwe 4 Ebrill 11am:
Dosbarth Meistr gyda Red and Black Films Bydd y cynhyrchydd John Giwa-Amu a’r cyfarwyddwr Caradog James, gwneuthurwyr y ffilm wyddonias lwyddiannus ddiweddar, The Machine, yn sôn am eu profiadau nhw yn y digwyddiad hwn i wneuthurwyr ffilm ifainc a brwdfrydig. Cyfle prin i holi dau o wneuthurwyr ffilm mwyaf llwyddiannus Cymru. £10/£7
3pm:
Alone on Board Gwlad Belg/2013/93mun/is-deitlau/18arf. Cyf: Jean-Francois Guay. Gyda: Rudy Goddin, Tsveta Dimova.
Caiff Capra, gwerthwr yswiriant, ei achub rhag cael ei fygio gan fenyw anhysbys. Wedi’i berswadio eu bod nhw wedi’u tynghedu i fod gyda’i gilydd, mae’n penderfynu ei dilyn ac yn ei gael ei hun mewn byd swreal a hunllefus lle mae cariad yn agos iawn at farwolaeth.
+ La Otra Cena
Sbaen/2013/12mun/is-deitlau. Cyf: Albert Serrat.
Mae’n Noswyl Nadolig ac mae byddin yn crwydro strydoedd dinas ôl-apocalyptaidd. Mae hen ddyn wedi mynnu aros yno — ac yn ceisio dychwelyd adref i gael ei ginio.
+ Leroy Diaz is a Jerk Alistair Parkhurst, Cyfarwyddwr yr Ŵyl Ffurfiwyd Gŵyl Ffilm Annibynnol Caerdydd y llynedd gan grŵp o wneuthurwyr ffilm lleol a oedd yn awyddus i greu gŵyl ffilm agored, hygyrch ac egwyddorol a fyddai’n ddathliad o dalentau newydd. Cafwyd ymateb syfrdanol gan wneuthurwyr ffilm ledled y byd: derbyniodd yr ŵyl 182 o geisiadau o 35 o wledydd. Gallaf eich sicrhau y bydd detholiad amrywiol a chyffrous o ffilmiau o’r tu allan i’r brif ffrwd ar gael i sine-garwyr Caerdydd — a’r cyfan mewn digwyddiad cyfeillgar a chroesawgar.
Sbaen/17mun/is-deitlau. Cyf: Jesus Marzo.
Mae Leroy Diaz — casglwr teganau yn ei dridegau — yn anghofio’i urddas er mwyn cael gafael ar ddarn gwerthfawr i’w gasgliad.
Sinema
Gwe 4 Ebrill
Sad 5 Ebrill
6pm:
1.30pm:
Sbaen/2013/79mun/18arf. Cyf: Laura Alvea, Jose F. Ortuño. Gyda: Aida Ballmann, Ken Appledorn.
India/2013/113mun/is-deitlau/15arf. Cyf: Vivek Budakoti.
19
Gyda’r cloc o’r chwith uchaf: The Extraordinary Tale of the Times Table, Stop, Pied Piper
chapter.org
The Extraordinary Tale of the Times Table Ffilm lawn steil, lawn hiwmor am ddieithrwch, cyfathrebu a natur abswrd perthnasau, sy’n seiliedig yn fras ar Metamorphosis Franz Kafka. Mae gwraig ddienw yn byw bywyd ynysig ac od ac yn anfon llythyrau digymell at ddieithriaid. Ar ôl i ddyn ateb un o’r llythyron hyn, mae rhamant yn blodeuo. Ond mae tensiynau bywyd yn dechrau cynyddu ac, yn sydyn, mae yna dro tywyll yn yr hanes. (Caiff Metamorphosis Franz Kafka ei archwilio ymhellach yn y theatr y mis hwn — trowch i dudalen 11 am fanylion.)
+ Stop
DG/2012/13mun. Cyf: Paul Murphy.
Mae cyfarfod siawns wrth arhosfan bws, rhwng merch swil o’r enw Karen a merch or-hyderus yn ei harddegau o’r enw Niki, yn dyfnhau pan gaiff cyfrinachau personol eu datgelu. Ond yn lle cyfarchion, mae yna gyfaddefiadau ...
+ The Case of Mary Ford DG/2013/20mun. Cyf: Ben Mole.
Efrog Newydd, 1913: Cyhuddir y mewnfudwr, Mary Ford, o ladd ei chariad. Ond mae hi’n honni taw ei gŵr yw’r llofrudd go iawn — dyn sydd wedi dod yn ôl o farw’n fyw. Mae ei stori’n ein harwain yn ôl i’w chartref hi yng Ngwlad Groeg.
8pm:
Croeso i Ŵyl Ffilm Annibynnol Caerdydd! Dewch i sgwrsio dros ddiod â gwneuthurwyr ffilm a sine-garwyr. RHAD AC AM DDIM
Pied Piper Mae Pied Piper yn stori ddychanol, Brechtaidd, am ddyn golchi dillad syml o’r enw Chunnilal. Y sôn yw fod damwain rhyfedd wedi arwain at osod ymennydd ei asyn annwyl yn ei ben... Mae e’n swyno miliynau â’i natur asynaidd ac, o dipyn i beth, daw’n arwr mwyaf poblogaidd ei gyfnod... Yn llawn hiwmor tywyll, mae’r ffilm hon yn adlewyrchiad o sefyllfa economaiddwleidyddol yr India gyfoes ac fe fydd yn atgoffa rhai gwylwyr o’r ffilm Being There.
+ 02.43
Sbaen/2013/9mun/is-deitlau. Cyf: Hector Rull.
2.43am. Ystafell wag. Galwad annisgwyl.
3.30pm:
The Hook Up Chwilio am gydweithwyr newydd ar gyfer eich prosiect ffilm? Digwyddiad rhwydweithio GFfAC yw’r lle i chi! Yn llawn gwesteion arbennig a gwneuthurwyr ffilm, bydd hwn yn gyfle gwych i chi arddangos eich talent ac i sicrhau bod eich ffilm yn cael ei chynhyrchu. £4/£2/AM DDIM i gyfranogwyr GFfAC
6pm:
Convenience DG/2013/90mun/15arf. Cyf: Keri Collins. Gyda: Ray Panthaki, Adeel Akhtar, Vicky McClure.
Yn y dangosiad arbennig hwn o ffilm nodwedd gyntaf y gwneuthurwr ffilmiau o Gaerdydd, Keri Collins, mae dau leidr di-glem yn eu cael eu hunain wedi’u cloi mewn garej ac mae’n rhaid iddyn esgus eu bod yn weithwyr yno. Première Cymreig wedi’i ddilyn gan sesiwn holi-ac-ateb yng nghwmni Keri Collins a Ray Panthaki.
Sinema
029 2030 4400
Gyda’r cloc o’r chwith: Rood, Unstoppables, Little Block of Cement with Dishevelled Hair Containing the Sea
20
Sul 6 Ebrill 11am:
3.30pm:
Dewch i drafod ffilm gyda chriw’r ŵyl.
Sbaen/2013/70mun/is-deitlau/12arf. Cyf: Daniel Jarod.
Brunch i Wneuthurwyr Ffilm RHAD AC AM DDIM
1pm:
Bluu – The Last Days of Ibiza Ffrainc-Sbaen/2013/81mun/is-deitlau/15arf. Cyf: Alain Deymier.
Yn y ddrama atmosfferig hon, mae Nat, menyw o Baris, yn cyrraedd Ibiza mewn llong ar ôl derbyn gwahoddiad gan Sandra, sy’n ffrind o gyfnod ei phlentyndod. Yn fuan, fe’i caiff ei hun yn rhan o gwlt ac mae’r meistr yn bwriadu arwain ei ddilynwyr at ddiweddglo apocalyptaidd. Ond mae Nat, Sandra a’u ffrindiau yn gweithredu er mwyn achub Ibiza.
+ Rood
Yr Iseldiroedd/2013/14mun/is-deitlau. Cyf: Jasper deg Hoor.
Mae hi’n ugain mlynedd ers profiadau trawmatig yr Hugan Fach Goch ond mae’r ferch yn ei hoed a’i hamser yn dal i ofni y gallai grym y gorffennol ddychwelyd i darfu arni.
+ Sunset Day
Sbaen/2012/15mun. Cyf: JA Duran.
Y 40au. Mae bachgen â galluoedd arbennig yn cael ei herwgipio gan sefydliad dirgel o’r enw ‘The Corp’. Ar ôl blynyddoedd o hyfforddiant, mae’r bachgen yn cael ei orfodi i wneud penderfyniad. Ond pa mor bell yn ôl i’r gorffennol fydd e’n fodlon teithio?
+ Three’s a Crowd
DG/2013/12mun. Cyf: Trevor Hardy.
Mae Ray yn byw ar ei ben ei hun. Mae’n hoff o’i gwmni’i hun. Ond, yn anffodus, allwch chi ddim dewis eich cymdogion.
Unstoppables Collodd Juanjo Méndez ei fraich a’i goes chwith mewn damwain feiciau modur ugain mlynedd yn ôl. Ar ôl cyfnod o wadu a thristwch, a cheisio brwydro yn erbyn y newidiadau yn ei fywyd, penderfynodd ymladd yn ôl a dechreuodd feicio. Arweiniodd hynny at sefydlu clwb beicio, ‘The Pirates’. Yn y ffilm ddogfen ysbrydolgar hon, dilynwn Juanjo ar ei ffordd i’r Gêmau Paralympaidd yn Llundain yn 2012.
+ But Milk Is Important
Norwy/2013/10mun. Cyf: Eirik Grønmo Bjørnsen, Anna Mantzaris.
Mae bywyd ac arferion dyn â phroblemau cymdeithasol yn cael eu newid yn llwyr.
+ Little Block of Cement with Dishevelled Hair Containing the Sea Sbaen/15 munud. Cyf: Jorge Lopez Narravete.
Mae ci a chaseg yn cychwyn ar antur gyda’i gilydd yn y stori hudolus hon am gyfeillgarwch annisgwyl.
6pm:
Cyflwyno Gwobrau GFfAC Byddwn yn cyflwyno pump o ‘Shards’ GFfAC — Y Sgript Orau, Yr Actor Gorau, Yr Actores Orau, y Ffilm Fer Orau a’r Ffilm Nodwedd Orau.
Llun 7 Ebrill 6pm
Moviemaker Chapter GFfAC Mewn rhifyn arbennig o noson ffilmiau byrion annibynnol Chapter, byddwn yn dangos y gweithiau gorau o blith yr holl ffilmiau nad oedd lle iddyn nhw yn rhaglen swyddogol yr ŵyl. Sesiwn reolaidd yn dangos ffilmiau byrion gan wneuthurwyr ffilm annibynnol. I holi am y posibilrwydd o ddangos eich ffilm neu i gael gwybodaeth am unrhyw beth arall, e-bostiwch moviemaker@chapter.org RHAD AC AM DDIM
Sinema
Under the Skin
Clwb Ffilmiau Gwael
21
Under the Skin
chapter.org
Gwe 28 Mawrth — Iau 3 Ebrill DG/2013/108mun/15. Cyf: Jonathan Glazer. Gyda: Scarlett Johansson.
Ar ôl glanio ar y Ddaear a’i chael ei hun yng nghroen gwraig ddynol, mae creadur o’r gofod yn gyrru o gwmpas yr Alban yn hudo dynion ifainc cyn i un ohonynt beri iddi sylwi ar agweddau eraill ar y natur ddynol. Ffilm haniaethol, hynod ddifyr sy’n dadadeiladu pŵer rhywiol a hynny i gyfeiliant sgôr gerddorol hypnotig. Profiad sinematig hudolus. + Trafodaeth Come Along Do gyda Gill Nicol ar ôl y dangosiad ar ddydd Iau 3 Ebrill. Pris tocyn i’r sesiwn fydd £2.50 ac mae tocynnau ar gael yn ein swyddfa docynnau ac ar-lein.
The Grand Budapest Hotel Gwe 21 Mawrth — Iau 3 Ebrill UDA/2014/100mun/15. Cyf: Wes Anderson. Gyda: Ralph Fiennes, Saoirse Ronan, Adrien Brody, Bill Murray.
Dilynwn anturiaethau Gustave H, concierge chwedlonol mewn gwesty Ewropeaidd enwog yn y 1920au, a Zero Moustafa, bachgen ifanc a ddaw’n brentis ac yn ffrind triw iddo. + Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar Ddydd Llun 2 Ebrill, 6.10pm. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai’r dyddiad hwn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau.)
Cuban Fury Gwe 28 Mawrth – Iau 3 Ebrill DG/2014/98mun/15. Cyf: James Griffiths. Gyda: Nick Frost, Rashida Jones, Chris O’Dowd.
Mae Bruce yn ansicr, yn rhy drwm ac yn cael ei fychanu’n gyson gan ei gydweithiwr, Drew. Ond ar ôl i fos newydd deniadol o’r enw Julia gael ei phenodi, merch sydd wrth ei bodd â salsa, caiff ei hoffter bore oes o ddawnsio Lladin ei ailgynnau. Ffilm gomedi swynol ag iddi galon fawr a pherfformiadau disglair. + Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar Ddydd Mawrth 1 Ebrill, 6.10pm. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai’r dyddiad hwn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau.)
I Know Who Killed Me Sul 6 Ebrill UDA/2007/107mun/18. Cyf: Chris Sivertson. Gyda: Lindsay Lohan.
Lindsay Lohan yw Aubrey Fleming, merch sy’n diflannu’n annisgwyl ac yn ailymddangos bythefnos yn ddiweddarach gan honni ei bod yn stripwraig o’r enw Dakota Moss. Pwy yw hi mewn gwirionedd? Rhaid iddi ddatrys y dirgelwch: pwy yw hi? Ble mae hi? Pam? Pryd?
“Ffilm ymhongar a hurt. Ond er gwaetha popeth, mae I Know Who Killed Me yn llwyddo i ennyn cydymdeimlad â Lohan, y seren anniddig.” New York Times
American Hustle Gwe 4 — Iau 10 Ebrill UDA/2013/129mun/15. Cyf: David O Russell. Gyda: Bradley Cooper, Christian Bale, Amy Adams, Jennifer Lawrence.
Ffilm sy’n edrych ar un o’r sgandalau mwyaf trawiadol yn hanes America. Mae Irving Rosenfeld yn cael ei orfodi i weithio i asiant FBI gwyllt o’r enw Richie DiMaso ac yn cael ei wthio i fyd o wehilion a maffia Jersey. Mae’r byd hwnnw yn hynod beryglus ar y naill law ond, ar y llaw arall, yn gwbl hudolus. Yn y cyfamser, mae gwleidydd yn New Jersey, Carmine Polito, wedi’i ddal rhwng y drwgweithredwyr a’r Feds. A beth wedyn yw hanes gwraig ansefydlog Irving...?
Sinema
029 2030 4400
American Interior
I’r Bür Hoff Bau
Mer 30 Ebrill
Iau 3 Ebrill
Cymru/2014/90mun/argPG. Cyf: Dylan Goch. Gyda: Gruff Rhys.
Cymru/2013/90mun/Cymraeg, dim is-deitlau/dim tyst. Cyf: Hans Glaumman.
O’r chwith i’r dde: American Interior, I’r Bür Hoff Bau
22
Ym 1792, teithiodd gwas fferm o Eryri o’r enw John Evans i America i geisio dod o hyd i lwyth o Americanwyr Brodorol ar y Gwastadeddau Mawrion y tybid eu bod yn siarad Cymraeg. Dros ddau gan mlynedd yn ddiweddarach, dilynodd Gruff Rhys, sy’n perthyn o bell i Evans, ôl ei draed, dros y cyfandir, ar Daith Gyngerdd Ymchwiliol. Mae hwn yn brosiect unigryw sy’n chwalu’r ffiniau rhwng cerddoriaeth, llenyddiaeth a ffilm ac yn ymchwilio i’r hyn a ddigwyddodd go iawn yng nghalon y byd newydd. + Sesiwn holi-ac-ateb gyda Gruff Rhys a’r criw (Dangosir American Interior o ddydd Gwener 9 tan ddydd Iau 22 Mai)
Ffilm ddogfen (a oedd ar goll am flynyddoedd) sy’n dilyn hynt a helynt un o fandiau mwyaf arloesol ac unigryw Cymru, Bür Hoff Bau. Fe’i cynhyrchwyd gan y cyfarwyddwr nodedig o’r Almaen, Hans Glaumann, yn ystod haf 1974. Mae’r ffilm yn gofnod o ddyddiau olaf band sy’n methu â chyflawni ei ddisgwyliadau ei hun wrth geisio recordio albwm cyntaf. Cafodd y ffilm ei hail-ddarganfod gan label recordiau Klep Dim Trep a’i hadfer â chariad gan gwmni cynhyrchu Ffesant. Gweler t13 am fanylion y perfformiad byw gan Bür Hoff Bau ar ddydd Sadwrn 5 Ebrill. £6
Sinema
23
20 Feet From Stardom
The Past
Gwe 11 — Iau 17 Ebrill
Gwe 4 — Iau 10 Ebrill
UDA/2013/91mun/12A. Cyf: Morgan Neville.
Ffrainc/2013/130mun/is-deitlau/12A. Cyf: Asghar Farhadi. Gyda: Bérénice Bejo, Tahar Rahim, Ali Mosaffa.
O’r chwith i’r dde: 20 Feet From Stardom, The Past
chapter.org
Mae cantorion cefndirol yn byw mewn byd sydd y mymryn lleiaf y tu hwnt i lifoleuadau enwogrwydd. Dyma gipolwg ar arwyr cudd roc a rôl, gan gynnwys Darlene Love, a ganodd ar recordiau gan artistiaid fel Elvis a The Beach Boys, a Merry Clayton y mae ei sgrech epig ar “Gimme Shelter” yn foment eiconig yn hanes pop. Tra’n canolbwyntio hefyd ar rai o wirioneddau caled diwydiant didostur, mae’r ffilm hon yn bortread ardderchog o artistiaid yng nghyd-destun newidiadau cerddorol a chymdeithasol sylweddol yr 20fed ganrif. Enillydd Oscar y Ffilm Ddogfen Orau.
Noys R Us: As The Palaces Burn Maw 1 — Iau 3 Ebrill UDA/2014/121mun/15. Cyf: Don Argott.
Mae’r ffilm ddogfen hon yn dilyn y band metel o fri rhyngwladol, Lamb of God, ar eu taith dyngedfennol yn 2010. Yn ystod y daith honno, bu farw un o ffans y grŵp ym Mhrâg ac fe gafodd y prif leisydd, Randy Blythe, ei gyhuddo o ddynladdiad. Mae’r ffilm ddogfen ddiddorol hon — a gychwynnwyd fel archwiliad o’r modd y gall cerddoriaeth ddod â phobl at ei gilydd — yn delio â digwyddiadau trasig ac yn gyfle prin i glywed Randy’n trafod yr achos llys. Gyda chyflwyniad gan Mark Gubb o Noys R Us ar ddydd Mawrth 1 Ebrill
Mae Marie a Samir yn aros i briodi ond, cyn gallu gwneud, mae angen iddyn nhw ddatrys ambell broblem. Er mwyn cwblhau ysgariad Marie, mae ei gŵr, Ahmad, yn dychwelyd o Tehran, ac wrth i’r broses fynd rhagddi, datgelir goblygiadau eu gweithredoedd ynghyd â chyfrinachau o’u gorffennol. Y ffilm gyffro ddomestig hon yw’r ffilm gyntaf gan y cyfarwyddwr arobryn Farhadi i gael ei gosod y tu allan i Iran. Mae’n cynnwys perfformiadau rhagorol gan y cast.
Lavender Screen:
G.B.F.
Maw 8 + Iau 10 Ebrill UDA/2013/92mun/15. Cyf: Darren Stein. Gyda: Michael J. Willett, Paul Iacono, Megan Mullally.
Mae’r frwydr ffyrnig am oruchafiaeth rhwng tair o’r merched mwyaf poblogaidd yn North Gateway High yn cymryd tro annisgwyl pan ddatgelir bod eu cydddisgybl, Tanner, yn hoyw — myfyriwr agored hoyw cynta’r ysgol. Mae’n rhaid i Tanner benderfynu a yw ei boblogrwydd cynyddol yn fwy pwysig na’r cyfeillgarwch y mae’n debygol o orfod troi cefn arno.
+
Straight with You Yr Iseldiroedd/2013/19mun/is-deitlau/TiCh. Cyf: Daan Bol.
Mae gan Melvin 11 oed gyfrinach: dyw e ddim yn ffansio merched. Er bod ei deulu’n gwybod hyn, mae e’n ofni dweud wrth ei ffrindiau ysgol, am ei fod yn ofni y byddan nhw’n ei fwlio. Beth ddylai wneud, felly, pan gaiff lythyr cariad gan y ferch fwyaf cŵl yn ei ddosbarth? Enillydd Gwobr Ieuenctid Iris 2013 Ymunwch â ni ar ôl y dangosiad ar ddydd Mawrth 8 Ebrill ar gyfer cyfarfod o grŵp trafod ffilm LGBT Chapter.
Sinema
029 2030 4400
Labor Day
Lars Von Trier: Another One Night Stand
O’r chwith i’r dde: Labor Day, Nymphomaniac
24
Gwe 11 — Iau 24 Ebrill UDA/2013/111mun/12A. Cyf: Jason Reitman. Gyda: Kate Winslet, Josh Brolin, Tobey Maguire.
Mae mam sengl isel ei hysbryd, Adele, a’i mab, Henry, yn cynnig lifft i ddyn brawychus sydd wedi’i anafu. Wrth i’r heddlu chwilio am y carcharor ar ffo, mae’r fam a’r mab yn dysgu gwir stori’r dyn. O dipyn i beth mae’r tri gyda’i gilydd yn ffurfio uned deuluol ryfedd ond syndod o rymus hefyd. Drama emosiynol, freuddwydaidd. + Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar Ddydd Iau 16 Ebrill, 6.10pm. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai’r dyddiad hwn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau.)
Game City Mer 16 Ebrill Aeth Modern Playing i Japan a dyma gyfle i chi glywed am y daith honno ac i gymryd rhan mewn dathliad o ddiwylliant gêmau fideo. Noson o syniadau, fideo, cerddoriaeth a thrafodaethau. Cyfle i gwrdd â phobl greadigol a chanddyn nhw sgiliau, uchelgeisiau a gweledigaethau tra amrywiol. £6/£5 www.modernplaying.com
Yn dilyn y darllediad lloeren byw a’r sesiwn holi-acateb ym mis Chwefror, byddwn yn cyflwyno’r dangosiad dwbl cyflawn ar ddydd Sadwrn y 12fed, ynghyd â sesiwn holi-ac-ateb wedi’i recordio ymlaen llaw. Os hoffech chi weld dwy bennod Nymphomaniac ar yr un noson, bydd tocynnau cyfun yn ddim ond £12/£10/£8.
Nymphomaniac: Pennod 1 Gwe 11 — Maw 15 Ebrill
Denmarc/2013/118mun/18. Cyf: Lars Von Trier. Gyda: Charlotte Gainsbourg, Stellan Skarsgård, Stacy Martin, Shia LaBeouf, Christian Slater, Uma Thurman.
Mae dyn sengl hŷn o’r enw Seligman yn dod o hyd i’r nymffomaniad Joe mewn ali, wedi’i hanafu’n ddifrifol, ac yn ei chymryd i’w gartref. Wrth iddo geisio trin ei chlwyfau, mae hi’n adrodd hanes erotig ei harddegau a’i bywyd fel oedolyn ifanc. Portreadir y Joe ifanc gan Stacy Martin mewn cyfres o ôl-fflachiadau.
Nymphomaniac: Pennod 2 Sad 12 – Mer 16 Ebrill
Denmarc/2013/118mun/18. Cyf: Lars Von Trier. Gyda: Charlotte Gainsbourg, Stellan Skarsgård, Jamie Bell, Willem Dafoe, Udo Kier.
Mae’r ail bennod yn dilyn Joe wrth iddi geisio ailddarganfod pleser rhywiol. Ond er gwaetha’r nifer helaeth o olygfeydd graffig o ryw, nid ffilm erotig mo hon. Yn hytrach, mae hi’n archwiliad gweledol a deallusol rhyfeddol o gariad, celfyddyd, crefydd a dyhead. Ffilm sy’n dwyn i gof gyfoeth ffilmiau fel Breaking the Waves — a gwaith gan awdurgyfarwyddwr radical sydd ar anterth ei yrfa.
Sinema
25
The Double
The Lunchbox
Gwe 18 – Llun 28 Ebrill
Gwe 18 – Maw 29 Ebrill
DG/2013/93mun/15. Cyf: Richard Ayoade. Gyda: Mia Wasikowska, Jesse Eisenberg, Chris O’Dowd.
India/2013/104mun/is-deitlau/PG. Cyf: Ritesh Batra. Gyda: Irrfan Khan, Nimrat Kaur, Nawazuddin Siddiqui.
Mae Simon yn ddyn swil ac unig sy’n cael ei anwybyddu yn y gwaith, ei wawdio gan ei fam a’i anwybyddu gan ferch ei freuddwydion. Ond caiff ei fywyd ei droi ben i waered â dyfodiad cyd-weithiwr newydd, James. James yw dwbl corfforol Simon — ond mae ei gymeriad yn gyferbyniad llwyr; mae James yn hyderus, yn garismatig ac yn llwyddo gyda’r merched. Ac er syndod ac arswyd i Simon, daw James, o dipyn i beth, i reoli’i fywyd...
Mae gwraig ifanc, unig o’r enw Ila yn paratoi cinio i’w gŵr di-hid — cinio a ddarperir gan y Mumbai Lunchbox Wallahs chwedlonol. Mae Sajaan yn ŵr gweddw nad yw’n edrych ymlaen at ei ymddeoliad o’i swydd fel cyfrifydd. Ond pan â bocs bwyd Ila ar goll a chyrraedd desg Sajaan, mae perthynas dyner yn datblygu rhyngddynt, drwy gyfrwng nodiadau a adewir yn y bocsys bwyd.
O’r chwith i’r dde: The Double, The Lunchbox
chapter.org
Chapter Wails yn cyflwyno:
Dead Ringers Iau 17 Ebrill
UDA/1988/117mun/18. Cyf: David Cronenberg. Gyda: Jeremy Irons, Genevieve Bujold, Heidi Von Palleske.
Stori iasol am ddyblau gan David Cronenberg, meistr ffilmiau arswyd corfforol. Mae Elliot a Beverly yn efeilliaid unfath (mae Jeremy Irons yn chwarae’r ddwy ran yn gwbl feistrolgar) sy’n rheoli clinig gynaecoleg llwyddiannus gyda’i gilydd. Ar ôl i Beverley syrthio mewn cariad ag un o’u cleifion, mae ei obsesiwn yn bygwth gwahanu’r efeilliaid am byth ac mae’r ffiniau rhwng yr hyn sy’n real a dychmygol yn dechrau dadfeilio. Ymunwch â’r artist a’r gwneuthurwr ffilm Ben EwartDean am drafodaeth Chapter Wails ar ôl y dangosiad. £2.50
A Long Way Down Gwe 11 – Iau 24 Ebrill DG/2014/96mun/15. Cyf: Pascal Chaumeil. Gyda: Aaron Paul, Imogen Poots, Rosamund Pike.
Mae cyflwynydd teledu dan gwmwl, mam sengl o’r enw Maureen, merch ddioddefus yn ei harddegau a methiant o gerddor o’r enw JJ yn cyfarfod yn ystod cyfnod o iselder ac yn llunio cytundeb er mwyn helpu’i gilydd i oresgyn eu problemau unigol. Stori chwerw-felys, ysgafn â chast ardderchog; addasiad gan Nick Hornby o’i nofel ei hun.
Sinema
029 2030 4400
Exhibition
An Episode in the Life of an Iron Picker
O’r chwith i’r dde: Exhibition, An Episode in the Life of an Iron Picker
26
Gwe 25 Ebrill — Iau 1 Mai DG/2014/105mun/15. Cyf: Joanna Hogg. Gyda: Viv Albertine, Liam Gillick, Tom Hiddleston.
Yn y portread cyfoethog a chymhleth hwn o gwpl artistig sy’n paratoi i werthu eu tŷ yn Llundain, mae Hogg yn archwilio bywydau mewnol pobl y mae ganddyn nhw bopeth, i bob golwg. Mae Hiddleston yn cydweithio’n gyson â Hogg ac mae perfformiad cyngitarydd y Slits, Viv Albertine, hefyd yn gynnil a chelfydd. Llwyddodd y gyfarwyddwraig i lunio ffilm grefftus, syndod o deimladwy.
The Unknown Known Gwe 25 — Mer 30 Ebrill UDA/2013/96mun/TiCh. Cyf: Errol Morris.
Portread rhyfeddol o gyn-Weinidog Amddiffyn George W. Bush, Donald Rumsfeld, pensaer y Rhyfel yn Irac. Yn hytrach na chynnal cyfweliad confensiynol, mae Morris yn perswadio Rumsfeld i berfformio ac i esbonio’r archif sylweddol o gofnodion a ysgrifennodd yn ystod cyfnod o bron i hanner can mlynedd o wasanaeth yng Nghyngres yr Unol Daleithiau. Mae’r cofnodion yn cynnig cipolwg ar hanes — nid yr hanes swyddogol ond yr hanes y mae Rumsfeld am i ni ei weld.
Gwe 25 Ebrill — Iau 1 Mai Rwmania/2013/74mun/TiCh. Cyf: Danis Tanovic.
Mae Nazif yn masnachu metel o hen geir tra bod ei wraig, Senada, yn gofalu am eu dwy ferch fach. Un dydd, mae Senada, sy’n feichiog, yn teimlo poen yn ei bol ac, yn yr ysbyty, caiff glywed bod rhywbeth yn bod ar y plentyn. Ond does dim yswiriant meddygol ganddi ac mae pennaeth yr ysbyty yn gwrthod caniatáu iddi dderbyn triniaeth. Mae portread neorealaidd Tanovic o dlodi yn Bosnia-Herzegovina yn drawiadol a bythgofiadwy. Enillydd Arth Arian Gŵyl Ffilm Berlin 2013
Dangosiad Encore NT Live: War Horse Sul 13 Ebrill Cyf: Nick Stafford.
Yn seiliedig ar nofel Michael Morpurgo, ac wedi’i haddasu ar gyfer y llwyfan gan Nick Stafford, mae War Horse yn arwain cynulleidfaoedd ar daith ryfeddol o gefn gwlad Dyfnaint i ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf yn Ffrainc. Mae’r cynhyrchiad yn cynnwys pypedau maint llawn rhyfeddol gan Handspring Puppet Company o Dde Affrica, sydd yn llwyddo i ddod â cheffylau’n fyw ar y llwyfan. Mae tocynnau i’r dangosiadau encore hyn, wedi’u recordio ymlaen llaw, yn £13/£11/£10.
chapter.org
Sinema
27
Ffilmiau i’r Teulu Cyfan
Noddir gan Funky Monkey Feet www.funkymonkeyfeet.co.uk 02920 666688
O’r chwith i’r dde: Tinkerbell and the Pirate Fairy (2D), Muppets Most Wanted
Detholiad o ffilmiau gwych sy’n addas i’r teulu cyfan, bob dydd Sadwrn am 11am a 3pm. Rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn. Archebwch ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi.
Carry on Screaming! Bob dydd Gwener am 11am, mae Carry On Screaming yn galluogi i rieni neu ofalwyr weld ffilm heb orfod poeni y bydd eu babi’n aflonyddu ar eraill. Edrychwch ar y calendr i weld manylion y dangosiadau arbennig hyn i bobl â babanod blwydd oed neu iau.
Frozen Singalong Sad 5 — Sul 6 Ebrill
UDA/2013/108mun/PG. Cyf: Jennifer Lee, Chris Buck. Gyda: Kristen Bell, Josh Gad, Idina Menzel.
Mae Anna’n cychwyn allan ar daith epig drwy’r eira a’r oerfel ac, wrth iddi geisio dod o hyd i’w chwaer, Elsa, daw ar draws dyn eira doniol o’r enw Olaf. Ond mae pwerau rhewllyd Elsa wedi sicrhau bod y deyrnas yn bodoli mewn gaeaf tragwyddol...
Tinkerbell and the Pirate Fairy (2D) Sad 12 — Iau 17 Ebrill UDA/2014/78mun/U. Cyf: Peggy Holmes, Sean Laurie. Gyda: Mae Whitman, Kristin Chenoweth, Lucy Liu.
Ar ôl i dylwythen deg gamddealledig ddwyn y ‘llwch pixie’ glas, rhaid i Tinker Bell a’i chyfeillion fynd ar antur i Skull Rock i’w adennill.
Muppets Most Wanted Gwe 18 — Sul 27 Ebrill
UDA/2014/113mun/U. Cyf: James Bobin. Gyda: Tina Fey, Ty Burrell, Ricky Gervais.
Ar ganol taith fyd-eang, mae’r Muppets yn eu cael eu hunain yn rhan o ladrad gemau o bwys yn Ewrop – lladrad sydd wedi’i drefnu gan rywun sy’n edrych yn debyg iawn i Kermit...
28
Addysg
029 2030 4400
ADDYSG
Sesiwn Moviemaker i Bobl Ifainc Sad 5 Ebrill 10 – 11.30am
Mae’r sesiwn Moviemaker i Bobl Ifainc yn dychwelyd — ac fe fydd yn ddigwyddiad rheolaidd o hyn ymlaen. Cynhelir y sesiynau ar ddydd Sadwrn cyntaf y mis o ddydd Sadwrn 5 Ebrill ymlaen! Felly, os ydych chi dan 16 oed ac yn wneuthurwr ffilm brwd, dewch i gael blas ar yr hyn sydd gennym i’w gynnig. Byddwn yn gwylio ac yn trafod ffilmiau byrion ac yn dangos eich ffilmiau chi hefyd. Ar ddydd Sadwrn 5 Ebrill, byddwn yn dangos ffilm ardderchog Hugo Dodd, a ysbrydolwyd gan James Bond. £1.50
Enw: Hugo Dodd Oedran: 14 Am beth mae dy ffilm? Mae’r ffilm yn fersiwn o ffilm James Bond. Mae’n ymwneud â’r rhyfel oer a strategaethau amddiffyn, ynghyd â chynllwynion llywodraethol a negeseuon syml am fywyd. Pa mor hir gymrodd hi i’w gwneud? Fe gymrodd hi ryw flwyddyn a hanner i ni gwblhau’r ffilm. Pa feddalwedd ddefnyddiaist ti? Fe ddefnyddiais i Sony Movie Studio 0.9 a 10 Platinum i olygu’r ffilm. Ers pryd wyt ti wedi bod yn gwneud ffilmiau? Dw i wedi mwynhau gwneud ffilmiau ers i mi fod yn rhyw 6 neu 7 oed. Fe raddiais i o Academi Ffilm Pobl Ifainc Chapter. Pa fath o gamera wyt ti’n ei ddefnyddio? Camcorder HD Sony.
Dyfarniad Efydd yn y Celfyddydau O ddydd Mawrth 8 Ebrill ymlaen 6 — 7.30pm Eleni, rydym yn edrych ymlaen at allu cynnig Dyfarniad Efydd yn y Celfyddydau i bobl ifainc 11+ oed. Beth yw’r Dyfarniad Efydd yn y Celfyddydau? Mae Dyfarniad Efydd yn y Celfyddydau yn caniatáu i bobl ifainc gymryd rhan yn y celfyddydau ac i rannu eu sgiliau. Er mwyn ennill gwobr Efydd — cymhwyster cenedlaethol Lefel 1 — mae angen i bobl ifainc gymryd rhan mewn gweithgaredd celfyddydol y maen nhw’n ei fwynhau, neu fynychu digwyddiad celfyddydol, gwneud gwaith ymchwil am arwr/arwres o fyd y celfyddydau, a rhannu eu sgiliau ag eraill. Sut mae’r cynllun yn gweithio? Bydd pobl ifainc yn gweithio gyda chynghorydd ac yn cadw cofnod ar ffurf portffolio. Fe allai’r portffolio fod yn ffeil, yn llyfr sgetsys, yn ddyddiadur fideo neu’n we-fan — y plant eu hunain biau’r dewis. Pryd fydd hyn yn digwydd? Bydd yna ddwy sesiwn nosweithiol bob mis, o ddydd Mawrth 8 Ebrill ymlaen.
chapter.org
Addysg
Gweithdy Theatr Bypedau
King Lear
Gyda Joan Alexander Sad 12 Ebrill 5-7 oed: 10.30am-12.30pm 8-12 oed: 1.30 — 3.30pm
Cyfle i wneud eich theatr bypedau syml eich hun ac i gael blas ar dechnegau cynnar y sinema. Gyda chymorth blychau pizza byddwch yn llunio theatr ac yn defnyddio lluniau digidol i wneud ffeiliau Gif wedi’u hanimeiddio. Ar ddiwedd y gweithdy, gallwch fynd â’ch theatr, eich pypedau, a’ch Gifs, neu fideo o’ch sioe bypedau, adre’ gyda chi. Byddwch yn datblygu nifer o sgiliau ac yn dysgu am oleuo, datblygu cymeriadau a gwaith tîm. Bydd y gweithdy hwn yn tynnu ar ddylanwad ac ysbrydoliaeth stori Peter Pan. Archebwch mewn da bryd i osgoi cael eich siomi! £5
I ddod yn fuan!
Academi Ffilm Pobl Ifainc 2014
Bydd yr Academi Ffilm boblogaidd i bobl ifainc yn dychwelyd yn ystod mis Mai a Mehefin. Os ydych chi rhwng 9 a 12 oed ac yn awyddus i ddysgu mwy am sut mae ffilmiau yn cael eu gwneud, dyma’r cwrs i chi! Erbyn diwedd y 4 sesiwn rhyngweithiol a’r 4 o ddangosiadau ffilm byddwch wedi dysgu digon i allu gwneud eich ffilm eich hun! £24 am bob un o’r 4 sesiwn (yn cynnwys tocyn ffilm)
29
Dangosiad o sioe yr Ysgol Theatr Genedlaethol. Bydd National Theatre Live yn darlledu cynhyrchiad y cyfarwyddwr Sam Mendes (enillydd Oscar) o King Lear yn fyw o’r Theatr Genedlaethol ar ddydd Iau 1 Mai. Dangosiad i ysgolion ar ddydd Gwener 16 Mai am 10am. £4.50
I archebu tocynnau ar gyfer unrhyw un o’r digwyddiadau addysg hyn, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 304400 neu anfonwch e-bost at learning@chapter.org i gael mwy o wybodaeth.
30
Archebu / Gwybodaeth
029 2030 4400
GWYBODAETH Sut i Archebu Tocynnau
Gwybodaeth
Dros y ffôn — ffoniwch ni ar 029 2030 4400. Rydym yn derbyn pob un o’r prif gardiau credyd. Galwch heibio — mae ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o 11am-8.30pm, ac ar y Sul o 3pm–8.30pm. Ar-lein: Gallwch archebu ar www.chapter.org bob awr o’r dydd a’r nos Consesiynau: Mae cyfraddau disgownt ar gael i fyfyrwyr, pobl dros 60 oed, plant, y di-waith, pobl anabl, deiliaid cerdyn MAX ac i Ffrindiau Chapter a deiliaid Cerdyn Chapter. Bydd angen i chi gyflwyno prawf o’ch cymhwyster i dderbyn cyfradd ostyngol. Archebion grŵp: Prynwch 8 tocyn ac fe gewch chi’r 9fed yn RHAD AC AM DDIM. Noder os gwelwch yn dda • dim ond un disgownt y gellir ei ddefnyddio ar unrhyw un adeg • rydym yn hapus i dderbyn archebion ymlaen llaw ond ni allwn gadw tocynnau i’r naill ochr • os cyrhaeddwch chi’n hwyr mae hi’n bosib y cewch chi’ch atal rhag mynychu eich digwyddiad. Cyflwynir rhai o’n ffilmiau â Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ond nid yw’r wybodaeth hon bob amser ar gael ar adeg argraffu’r cylchgrawn. Gweler ein gwe-fan am fanylion neu piciwch draw i’r Swyddfa Docynnau yn ystod yr wythnos y mae’r ffilm yn cael ei rhyddhau.
Cwmnïau ac Artistiaid Cysylltiedig Mae Chapter yn gartref i gwmnïau theatr, cwmnïau dawns, stiwdios animeiddio, gwneuthurwyr printiau, crochenwyr, dylunwyr graffeg, dylunwyr deunydd symudol, cyfansoddwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, cyhoeddwyr cylchgronau, artistiaid annibynnol a llawer iawn mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.
Sinema Cyn 5pm O 5pm ymlaen Llawn £4.50 (£4.00) £7.90 (£7.20) Cons £3.50 (£3.00) £5.80 (£5.10) Cerdyn + Cons £3.00 (£2.50) £5.00 (£4.50) DISGOWNT DYDD MAWRTH Tocynnau’r holl brif ddangosiadau — £4.40
Gweithdai a Dosbarthiadau Rydym yn cynnal amrywiaeth eang o weithdai dyddiol a dosbarthiadau gydag ymarferwyr annibynnol, gan gynnwys ballet, zumba, ioga, crefft ymladd, massage i fabanod, cerddoriaeth i blant, pilates, tango, fflamenco, ysgrifennu creadigol, gwersi cerddoriaeth a mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.
Sut i gyrraedd Chapter Fe ddewch chi o hyd i ni yn Nhreganna, i’r gorllewin o ganol y ddinas. Heol y Farchnad, Treganna, Caerdydd CF5 1QE Ar Droed Mae hi’n daith gerdded hamddenol o ryw 20 munud o ganol y ddinas. Ar Fws Mae bysus rhif 17, 18 a 33 yn aros gerllaw ac yn gadael bob pum munud o ganol y ddinas. Ar Feic Mae digon o raciau beic ar flaen yr adeilad. Parcio Mae gennym faes parcio yng nghefn yr adeilad ac mae meysydd parcio lleol eraill wedi eu nodi ar y map. Gofynnwn i chi barchu ein cymdogion os gwelwch yn dda drwy osgoi parcio mewn strydoedd cyfagos.
Prisiau ymlaen llaw/ar-lein mewn cromfachau. Mae “Ymlaen llaw” yn golygu unrhyw bryd cyn diwrnod y dangosiad.
aff nd Lla
Springfield Pl.
ad
mC ha cen res
Ha m i l t o n
St
t
Gr
King’s Ro
nd Wy
ane
Road
L Gray
. Library St
St. ay
Treganna
Le c h kwit
Church Rd.
Heol Ddwy rein i o l y B o n t F a en Penllyn Rd.
Harve
St Talbot
Orc h a r d P l.
rn Seve
St. Gray M a rk e t P l .
treet yS
e St. Glynn
d Roa
d hna arc lyF
Heo
o 6pm
rt S
t.
Road
Earle Pl.
A l be
P — meysydd parcio rhad ac am ddim — rac feics
r R—oadarhosfan bysus Majo
I Ganol Dinas Caerdydd to n ling Wel
et Stre
Mynediad i bawb Mae Chapter yn croesawu ymwelwyr anabl. Os oes gennych unrhyw anghenion mynediad penodol ffoniwch ein swyddfa docynnau ar 029 2030 4400, minicom 029 2031 3430.
chapter.org
Cymryd Rhan
31
CYMRYD RHAN Cerdyn CL1C
Cadwch mewn cysylltiad
Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawrlwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!
Ymunwch â ni ar-lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.
Ffrindiau Chapter Ymunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40
eAmserlen rad ac am ddim eAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E-bostiwch adam.chard@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e-bost.
Cynllun Myfyrwyr Chapter Ydych chi’n fyfyriwr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael aelodaeth am ddim a manteisio ar gynigion arbennig nodedig, fel gostyngiadau yn ein Caffi Bar a thocynnau sinema rhatach? I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Jennifer — jennifer.kirkham@chapter.org www.chapter.org/cy/aelodaeth-myfyrwyr-chapter
Hoffai Chapter gydnabod cefnogaeth hael y sefydliadau a’r grwpiau canlynol:
Landfill Community Fund Esmée Fairbairn Foundation EU Culture Programme The Baring Foundation Garfield Weston Foundation Foyle Foundation Biffa Award Colwinston Charitable Trust Admiral Group plc Moondance Foundation Foundation for Sport and the Arts Trusthouse Charitable Foundation Community Foundation in Wales BBC Children in Need The Waterloo Foundation ScottishPower Green Energy Trust The Welsh Broadcasting Trust
SEWTA Richer Sounds The Clothworkers’ Foundation Momentum The Henry Moore Foundation Google Jane Hodge Foundation Simon Gibson Charitable Trust People’s Postcode Trust Dunhill Medical Trust Legal & General Institut für Auslandsbeziehungen e.V Millennium Stadium Charitable Trust The Ernest Cook Trust Lloyds TSB Morgan Signs Garrick Charitable Trust
Barclays Arts & Business Cymru Penderyn The Austin & Hope Pilkington Trust Singapore International Foundation Puma Hotels Collection: Cardiff Angel Hotel Cardiff Airport Wales Arts International Gibbs Charitable Trust Ceredigion Community Scheme The Steel Charitable Trust The Boshier-Hinton Foundation 1st Office Oakdale Trust Dipec Plastics Nelmes Design
The Coutts Charitable Trust Bruce Wake Charity Funky Monkey Feet Finnis Scott Foundation Unity Trust Bank Hugh James Contemporary Art Society for Wales The Dot Foundry JVH Gidden & Rees Western Power Distribution Follett Trust Arts & Kids Cymru Canton High School Girl’s Reunion Co-operative Group Renault Cardiff Embassy of Belgium Queensland Government