029 2030 4400
@chaptertweets
chapter.org
02
Croeso
chapter.org
CROESO Croeso i’ch cylchgrawn misol sy’n cynnwys manylion rhaglen Chapter ym mis Ebrill. Bydd yr Oriel, y Bar a’r blwch golau yn cael eu trawsnewid y mis hwn gan waith ffraeth a lliwgar yr artist, Richard Woods (tt4–5), a fydd yn creu darnau newydd yn seiliedig ar hanes cyfoethog ein hadeilad. Draw yn y theatr, byddwn yn cyflwyno cerddoriaeth fyw gan Frank Yamma, Lleuwen Steffan a Colorama (t13), cyflwyniad dawns dwbl hyfryd gan Anushiye Yarnell a Riikka Theresa Innanen (t15), heb sôn am sioe glown unigryw o’r enw Finding Home (p11). Byddwn yn cychwyn y mis â dangosiad o’r ffilm hir-ddisgwyliedig, Still Alice (t19), a nifer o ffilmiau newydd eraill, fel y gomedi finiog, Mommy (t19) a It Follows (t19). Bydd ein tymor o ffilmiau’n archwilio effeithiau rhyfel a gwrthdaro yn parhau â ffilmiau Ewropeaidd a Chymreig a bydd yn bwrw golwg ar y modd y caiff ein bywydau eu siapio gan wrthdaro rhyngwladol (tt28-30). Byddwn hefyd yn croesawu Gŵyl Ffilm Annibynnol Caerdydd (CIFF) (tt20-22), sy’n dangos ffilmiau nodwedd annibynnol newydd ac yn rhoi llwyfan i ddarpar wneuthurwyr ffilm. Oes yna ddarpar gyfarwyddwyr ifainc yn eich tŷ chi? Beth am ddod â nhw draw i Ddiwrnod Gweithgareddau Ffilm y Pasg, sy’n archwilio’r ffilm Into the Woods ac yn cynnig diwrnod llawn dop o weithgareddau creadigol (t17). Diolch am ddarllen ac fe welwn ni chi cyn hir!
Defnyddiwch y côd QR hwn i lawr-lwytho copi digidol o gylchgrawn Chapter
Delwedd y clawr: Richard Woods, Inclosure Acts, 2015. Â chaniatâd caredig yr artist a WORKS I PROJECTS Chwith: Nicholas McArthur & Robert Molly Vaughan, The Dancing Plague. Perfformiad yn y Caffi Bar yn rhan o Experimentica 2013
Chapter Heol y Farchnad, Caerdydd CF5 1QE 029 2030 4400 www.chapter.org ymholiadau@chapter.org
chapter.org
Uchafbwyntiau
Oriel tudalennau 4–6
Bwyta/ Yfed/Llogi tudalen 7
Cefnogwch Ni
03
CYMRYD RHAN
tudalennau 8–9
Theatr
Cerdyn CL1C
tudalennau 10–15
Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawr-lwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!
Chapter Mix tudalen 16
Addysg tudalen 17
Ffrindiau Chapter Sinema tudalennau 18–31
Ymunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40
Cadwch mewn cysylltiad Ymunwch â ni ar-lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.
Gwybodaeth a Sut i archebu tocynnau tudalen 32
eAmserlen rad ac am ddim eAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E-bostiwch adam.chard@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e-bost.
Cysylltwch â ni @chaptertweets facebook.com/chapterarts
Cymryd Rhan tudalen 33
Calendr tudalennau 34–35
Nodwch os gwelwch yn dda bod copïau print bras o’n cylchgrawn ar gael ar gais. Cysylltwch â’n Swyddfa Docynnau ar 029 2030 4400.
Oriel
Richard Woods, Inclosure Acts, 2015. Â chaniatâd caredig yr artist a WORKS I PROJECTS
04 029 2030 4400
chapter.org
Oriel
05
Richard Woods: Inclosure Acts Rhagolwg: Iau 9 Ebrill, 6 — 8pm Arddangosfa: Gwe 10 Ebrill — Sul 14 Mehefin Mae Richard Woods wedi ennill enw da yn rhyngwladol am ei drawsnewidiadau pensaernïol a phaentiadau a cherfluniau sy’n uno hanes y celfyddydau addurnol, dylunio swyddogaethol a iaith graffeg â delweddau ac arwynebau synhwyraidd a ffraeth. Mae ei ymyriadau pensaernïol yn ymwneud yn bennaf â gosod arwynebau newydd ar strwythurau presennol, ‘twist’ abswrd ´ ar gwlt DIY a gwelliannau i’r cartref Ar ran Chapter, aeth Woods ati i greu darnau newydd, yn yr Oriel ac ar gyfer y blwch golau. Mae’r rhain wedi eu hysbrydoli gan hanes yr adeilad — sydd ar safle hen farchnad wartheg — a chan y Deddfau Cau Tir (1604-1914), a arweiniodd at drawsnewidiad radical i gaeau a thir comin yng nghefn gwlad. Yn ystod y cyfnod hwn, cafodd bron i saith miliwn erw o dir eu trosglwyddo i berchenogaeth breifat — lle bu unwaith gaeau mawr, cymunedol, roedd y tir bellach yn llawn rhwystrau, gwrychoedd a ffensys, a diflannodd yr hen ffiniau. Yn gyferbyniad â’r gwaith hwnnw, mae cyfres o brintiau mono ar furiau’r Oriel yn cyfeirio at fywyd maestrefol. Yn seiliedig ar efelychiadau o addurniadau ffug-Duduraidd, mae’r paentiadau yn fan cyfarfod i swbwrbia a Neo Geo — y gorffennol yn y dyfodol.
Bywgraffiad Ganwyd Richard Woods ym 1966 yn Swydd Gaer a chafodd ei addysg yn Ysgol Gelf Winchester ac Ysgol Celfyddyd Gain y Slade. Mae e’n byw ac yn gweithio yn Llundain. Yn 2014, cydweithiodd Chapter gyda Woods i gynhyrchu ‘Cardiff Rebuild’, gwaith ar dir Castell Caerdydd yn rhan o Caerdydd Gyfoes. Mae Woods wedi arddangos ei waith yn rhyngwladol ac mae ei brosiectau nodedig diweddar yn cynnwys comisiynau mawrion ym Mhrifysgol Caerfaddon (2014); ‘A Maze for Yorkshire’, Wakefield (2013); Cronfa Celfyddyd Gyhoeddus a Thŷ Lever, Efrog Newydd (2010) a chydweithrediad ar amrywiaeth eang o ddodrefn gydag Established & Sons. Mae gwaith Woods yn rhan o sawl casgliad pwysig, gan gynnwys Casgliad Saatchi, Llundain, Casgliad Frank Cohen, Manceinion/Wolverhampton a Chasgliad Jumex, Mecsico. Caiff ei gynrychioli gan Works I Projects.
Sgwrs am 2 Sad 25 Ebrill, 2pm Cynhelir ein ‘Sgyrsiau am 2’ bob yn ail ddydd Sadwrn yn ystod cyfnodau ein arddangosfeydd ac fe’u cyflwynir gan ein Tywyswyr Byw, Richard Higlett a Thomas Williams. Mae’r sgyrsiau’n gyfle i ddysgu mwy am yr arddangosfa gyfredol ac am ddulliau gwaith unigryw yr artistiaid. Ni fydd dwy sgwrs yn union yr un fath ond y gobaith yw y byddan nhw’n ddiddorol ac yn agored bob amser. Mae’r Sgyrsiau am 2 yn rhad ac am ddim ac nid oes angen archebu lle ymlaen llaw — ymunwch â ni y tu allan i fynedfa’r Oriel! RHAD AC AM DDIM
Oriau agor yr arddangosfa: Dyddiau Mawrth, Mercher, Sadwrn a Sul 12-6pm; dydd Iau a dydd Gwener 12-8pm; ar gau ar ddydd Llun
06
NODWCH Y DYDDIAD
Art Car Bootique Sul 24 Mai Mae Chapter a Something Creative yn falch o gyhoeddi dyddiad Art Car Bootique eleni, a fydd yn ddathliad o ganmlwyddiant Sefydliad y Merched. Ers ei sefydlu yn 2011, mae’r digwyddiad hwn, sy’n gymysgedd eclectig ac ecsentrig o gelfyddyd, perfformiadau, bwyd, cerddoriaeth, ffasiwn ‘vintage’ a phrosiectau wedi’u curadu, yn ddathliad o gymuned greadigol Caerdydd. O 11am tan 6pm, bydd ein maes parcio yn cael ei drawsnewid yn ffair bentref seicedelig — bydd mwy na 70 o stondinau i chi eu mwynhau. Mae’r Art Car Bootique yn ddigwyddiad rhyngweithiol rhyfedd o hwyliog sy’n cynnig rhywbeth i bawb. Trwy gyd-ddigwyddiad hapus, mae’r Art Car Bootique yn cyd-fynd unwaith eto eleni â Maibock, ein gŵyl gwrw Almaenaidd flynyddol, a bydd yna berfformiadau byw yn ein Caffi Bar o 6pm tan yr hwyr. Derbyniodd Art Car Bootique eleni gefnogaeth hael gan Ffrindiau Chapter.
www.facebook.com/artcarbootique www.artcarbootique.com www.somethingcreatives.com
Oriel
029 2030 4400
chapter.org
Bwyta Yfed Llogi
07
BWYTA YFED LLOGI
Llogi
Bwyta Ym mis Ebrill, byddwn yn lansio bwydlen newydd y Caffi a detholiad gwych o brydau fegan a llysieuol, saladau ffres, pysgod a ffefrynnau fel bol porc a brest cyw iâr wedi’i lapio mewn pancetta. Cadwch lygad ar ein gwe-fan, neu dilynwch ein Caffi Bar ar twitter i weld y manylion diweddaraf: @chapter_eats.
Mae nifer o ystafelloedd a chyfleusterau Chapter ar gael i’w llogi, ac mae llawer o’r rhain yn cael eu defnyddio’n rheolaidd gan gymysgedd eclectig o ddosbarthiadau dydd a nos. Ewch i’n gwe-fan neu codwch daflen yn y swyddfa docynnau i weld yr hyn sydd ar gael. Os ydych chi’n chwilio am ystafell ar gyfer parti, cyfarfod neu gynhadledd, neu am ofod i saethu fideo, i ymarfer neu i gynnal gweithgareddau adeiladu tîm, bydd ein cyfleusterau gwych, ein harbenigedd technegol a’n staff cyfeillgar yn gallu sicrhau bod eich digwyddiad yn gyffyrddus, yn unigryw ac yn gofiadwy. Gallwn gynnig amrywiaeth o opsiynau arlwyo ar gyfer eich digwyddiad hefyd. Os oes gennych chi gwestiynau penodol neu os hoffech chi fwy o wybodaeth am ein cyfleusterau, rhowch ganiad i’n rheolwr llogi, Nicky, ar 029 2031 1058 neu anfonwch e-bost at nicky.keeping@chapter.org.
Pop Up Produce Mer 1 Ebrill 3–8pm
Mae ein Pop-up Produce hynod boblogaidd yn dychwelyd! Mae ein marchnad misol newydd yn llawn cynhyrchwyr bwyd lleol a fydd yn cynnig danteithion i dynnu dŵr o’r dannedd. Byddwn yn cyflwyno rhai o’ch hen ffefrynnau ynghyd ag ambell gynhyrchydd newydd sy’n gwerthu siocledi, jamiau a bara arbenigol. Ymunwch â ni ar ddydd Mercher cyntaf y mis ym mhrif gyntedd Chapter i demtio’ch synhwyrau! Ydych chi’n cynhyrchu caws, charcuterie, blodau, picls neu wyau? Neu gynhyrchion blasus eraill? Os hoffech chi ymuno â ni unwaith y mis, cysylltwch â Philippa — philippa.brown@chapter.org — i wneud cais am stondin.
08
Cefnogwch Ni
029 2030 4400
CEFNOGWCH NI
Mae Chapter yn elusen gofrestredig ac rydym yn dibynnu ar gefnogaeth gan unigolion a busnesau er mwyn gallu cyflwyno ein rhaglen artistig amrywiol a’n gwaith addysgol pwysig. Rydym yn ddiolchgar am bob ceiniog a dderbyniwn ac fe allwn gynnig ambell beth gwych i chi yn gyfnewid. Mae yna nifer o wahanol ffyrdd o gymryd rhan...
Unigolion Ffrindiau
Rhoddion
Ymunwch â chynllun Ffrindiau Chapter ac fe gewch chi fwynhau buddion sy’n amrywio o ostyngiadau ar docynnau a bwyd a diod yn ein Caffi Bar, i wahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn Ffrindiau hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C.
Cofrestrwch i wneud cyfraniadau unigol neu roddion reolaidd i Chapter, er mwyn chwarae rhan lawn yn ein gwaith elusennol. Gallwch wneud cyfraniadau ar-lein, ar http://www.chapter.org/cy/cefnogwch-ni neu drwy ymweld â’n Swyddfa Docynnau. Gallwch wneud cyfraniadau drwy neges destun erbyn hyn hefyd — tecstiwch ‘Chap15’, ynghyd â’r swm yr hoffech ei roi i 70070. Fydd hi ddim yn costio ceiniog i chi anfon y neges destun ac fe fyddwn ni’n derbyn 100% o’ch cyfraniad.
Ffrind Efydd : £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur : £45/£40
Myfyrwyr Ydych chi’n fyfyriwr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael aelodaeth rad ac am ddim a manteisio ar gynigion arbennig ardderchog, fel gostyngiadau yn ein Caffi Bar a thocynnau sinema rhatach? Cofrestrwch heddiw drwy ymweld â www.chapter.org/cy/chapter-student-membership
Cymynroddion
Mae gadael cymynrodd i Chapter yn fodd o ddiogelu ein gwaith at y dyfodol. Os hoffech chi ystyried gadael rhodd i Chapter yn eich Ewyllys, dylech ofyn am gyngor gan eich cyfreithiwr yn y lle cyntaf. Os ydych chi eisoes wedi crybwyll Chapter yn eich Ewyllys, rhowch wybod i ni, fel y gallwn gydnabod eich cyfraniad yn y modd mwyaf priodol.
I gael mwy o wybodaeth am unrhyw un o’r materion uchod, cysylltwch os gwelwch yn dda ag Elaina Gray ar 02920 355662 neu e-bostiwch elaina.gray@chapter.org.
chapter.org
Cefnogwch Ni
09
Ein Noddwyr wrth eu Gwaith!
Busnesau Clwb Cynllun aelodaeth Chapter i fusnesau. Am ffi flynyddol fechan, gall eich busnes chi fwynhau manteision sylweddol yn Chapter, a’r rheiny’n cynnwys cyfleoedd i rwydweithio, defnydd o’n mannau llogi hyblyg a gostyngiadau i chi a’ch staff ar docynnau sinema a theatr yn ogystal â phrisiau gostyngol yn ein Caffi Bar. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.chapter.org/ cy/chapter-clwb.
Nawdd
Yn 2014, dyfarnodd Celfyddydau & Busnes Cymru Wobr Gyffredinol Categori’r Celfyddydau i Chapter am ein perthynas waith ragorol â busnesau. Mae yna nifer o gyfleoedd ar gael i’n noddi ac mae’r rheiny’n cynnig buddion gwych, gan gynnwys cyfranogiad staff, lletygarwch corfforaethol a hyrwyddo brand.
Roedd Re-Live yn brosiect a weddai’n berffaith i strategaeth cyfrifoldeb corfforaethol cymdeithasol Legal & General a rhaglen Iechyd a Lles y cwmni. Â’r boblogaeth hŷn yn cynyddu, roedd y cwmni’n awyddus i archwilio ffyrdd o ategu eu gwaith ar yr ymgyrch ‘urddas mewn henoed’. Mae’r ymgyrch honno’n ceisio codi ymwybyddiaeth o effeithiau poblogaeth sy’n heneiddio ar Legal & General fel busnes (drwy gyfrwng pensiynau, ac yswiriant bywyd a salwch difrifol) ond hefyd yr effaith a gaiff ar weithwyr y cwmni, eu perthnasau a’r gymdeithas ehangach. Y mis hwn, bydd y prosiect yn mynd gam ymhellach ac yn cynnig cyfle i bobl gymryd rhan mewn gweithdy ‘Profiad o Dementia’ a drefnir gan gwmni theatr Re-Live. Nod y gweithdy yw estyn cefnogaeth i weithwyr y cwmni sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r cwsmeriaid hynny sydd fwyaf agored i niwed, yn ogystal â’r gweithwyr hynny y mae ganddynt brofiad personol o’r materion hyn. Mae’r gweithdy hefyd yn hybu gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o’r sgiliau cyfathrebu sy’n angenrheidiol ar gyfer ymwneud â dioddefwyr dementia, dyfnhau empathi â dioddefwyr ac archwilio sut y gall hyn fod o fudd mewn dulliau gwaith sy’n canolbwyntio ar y person. Cynhelir y gweithdai drwy gyfrwng nawdd hael gan Legal & General a thrwy raglen Celfyddydau & Busnes Cymru, CultureStep.
Theatr
Blavatsky’s Tower. Llun: That’s My King productions
10 029 2030 4400
Theatr
3 Crate Productions yn cyflwyno
Rogue’z Theatre yn cyflwyno
Blavatsky’s Tower
The Winter Gift
Mer 8 — Sad 11 Ebrill 8pm
Gwe 17 — Sul 19 Ebrill 8pm (+ matinée ar ddydd Sadwrn 3pm)
11
The Winter Gift
chapter.org
Mae Blavatsky’s Tower, gan Moira Buffini, awdur ‘Handbagged’, a enillodd wobr Olivier, yn ystyried beth allai ddigwydd o beidio byth ag agor y drws ffrynt. Ar ôl penderfynu peidio â gadael eu fflat, mae plant teulu Blavatsky wedi dysgu ymwneud â’i gilydd ac â’r byd mewn ffordd... fwy anarferol. Beth fydd yn digwydd pan ddaw meddyg i’w byd a cheisio dod â rhywfaint o’n byd ni gydag ef? Bydd Blavatsky’s Tower yn eich cymell i chwerthin ac i ddwys ystyried. + Trafodaeth o effeithiau unigrwydd cymdeithasol ar iechyd meddwl ar ôl y perfformiad ar ddydd Gwener 10 Ebrill. £10/£8 (Oed: 14+)
Stiwdios Ffilm Nero, Berlin, 1927. Mae actores Americanaidd ifanc hwyliog a chyfarwyddwr Almaenaidd difrifol yn gwneud ffilm a ddaw, maes o law, yn un o glasuron y sinema fud. Fflat yn slymiau Efrog Newydd, 1955. Mae seren ffilmiau mud, sydd bellach yn alcoholig tlawd, yn clywed cnoc ar y drws. Mae rhywun wedi dod o hyd i Louise Brooks ... Mae The Winter Gift, a enillodd ganmoliaeth uchel y llynedd, yn adrodd hanes ‘Pandora’s Box’, y dynion a’r menywod a’i gwnaeth, a’r hyn a ddigwyddodd wedyn... Ysgrifennwyd gan yr awdur nodedig, TJ Davies. £11/£9 (Oed: 16+ Gwaith yn cynnwys iaith gref, deunydd anaddas i bobl iau ac ergydion gwn)
Theatr
029 2030 4400
Finding Home
Cyd-gynhyrchiad gan ChainWorks Productions a Theatrau RCT
O’r chwith i’r dde: Finding Home, Gladiator
12
Gwe 24 + Sad 25 Ebrill 7pm ‘Mae hi wastad yn haws o lawer bod mewn byd y gallwch chi ei adael yfory’ Sioe glown unigol wreiddiol a ddatblygwyd o ganlyniad i ryngweithio sgyrsiol helaeth rhwng y perfformiwr a’r cyfarwyddwr ac archwiliadau o fytholeg bersonol y perfformiwr. Ymgorfforir y fytholeg honno gan chwe masg, techneg y mae’r dull hwn o glownio yn seiliedig arni. Crëir byd a hwnnw’n atgoffa rhywun o fyd Gogol a Beckett. Dechreuwn wynebu ein hunain ymhob cyfeiriad a chwerthin ar harddwch ein hurtrwydd ein hunain.
Perfformiwr: Denni Dennis, Cymru/Denmarc Cyd-awdur a Chyfarwyddwr: Sue Morrison, Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Adnoddau Theatrig Canada Gwisgoedd a set: Philip Ignatiev, Rwsia £12/£10/£8
Gladiator Mer 29 + Iau 30 Ebrill 8pm Ysgrifennwyd gan Laurence Allan It’s Not About The Bike — It’s The Dream. Cyn y Tour de France a chyn Syr Bradley Wiggins, roedd yna ddyn o’r enw Arthur Linton o Aberdâr. Roedd yn bencampwr seiclo’r byd yn 1895 ac fe heriodd seiclwyr gorau ei genhedlaeth gan adael ar ei ôl y sgandal gyffuriau gyntaf un — yn ogystal â’r beic rasio cyntaf un, y Gladiator. Yn y presennol, rydym yn cyfarfod â Jimmy, 18 oed, sy’n dod o hyd i’r Gladiator yn ei garej, ynghyd ag ysbryd yr hyfforddwr, Choppy Warburton, sydd wedi dychwelyd i chwilio am ‘anrhydedd ac urddas’. Yn anffodus i Jimmy, mae hyn yn golygu rhoi cynnig ar y ras feiciau epig o Bordeaux i Baris — a hynny heb adael ei garej. Mae hi’n daith swreal, yn llawn troeon trwstan; rhaid iddo ymdopi â’i gymydog — merch ifanc Goth -, ei chwaer sydd eisiau bod yn fodel, cariad annifyr ei fam, ei dad truenus, sydd wedi bod ar goll ers deng mlynedd, a’r posibilrwydd o ogoniant ... neu gywilydd. Mae’r cynhyrchiad newydd sbon hwn yn ddrama ysbrydoledig, ddoniol a gogoneddus. £12/£8 (Argymhelliad oedran: 14+)
O’r chwith i’r dde: The Harri Parris: The Big Day, Frank Yamma
chapter.org
Theatr
Mai oh Mai Productions yn cyflwyno
Frank Yamma + Lleuwen Steffan
The Harri-Parris: The Big Day Maw 31 Mawrth — Sad 4 Ebrill 8pm gan Llinos Mai Sioe gerdd gomedi newydd sbon gan y tîm a oedd yn gyfrifol am The Harri-Parris: The Leaving Do. Mae’r Harri-Parris yn deulu fferm o orllewin Cymru. Maent yn ddifyr ac yn gamweithredol a does dim yn well ganddynt na chroesawu ymwelwyr. Chi, hynny yw! Mae Anni, unig ferch y fferm, yn priodi ac mae’r Harri-Parris eisiau dathlu’r diwrnod mawr yn eich cwmni chi. Wel, nid y diwrnod mawr ei hun — d’yn nhw ddim yn graig o arian. Beth am y noson cyn y briodas? Y noson y byddan nhw’n cwrdd â dyweddi Anni — Sais, llysieuwr a cherddor ‘indie’ — am y tro cyntaf. Beth allai fynd o’i le?! Tynnwch eich hetiau crand o’r cwpwrdd ac ymunwch â’r Harri-Parris am noson ddifyr o ganeuon, straeon a chacen. Lot fawr o gacen. Ar y cyd â Chapter, Theatr y Torch a Little Wander. Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a Bristol Ferment. £14/£12/£10 Oed: 12+ @TheHarri_Parris
Iau 23 Ebrill 8pm Cyfle prin i brofi bydoedd cerddorol dau ganwr/ cyfansoddwr unigryw yn y cyflwyniad arobryn hwn. Ar ôl treulio’r chwe blynedd diwethaf yn teithio ac yn recordio yn Llydaw, mae Lleuwen Steffan yn ei hôl â chasgliad newydd o ganeuon. Mae caneuon emosiynol-onest ac amrwd Lleuwen wedi sicrhau statws iddi fel un o gyfansoddwyr caneuon cyfoes mwyaf nodedig Cymru. Enillodd Wobr Liet Ryngwladol yn Gijon am ei chân, ‘Ar Gouloù Bev’, ac fe enwyd ei halbwm diweddaraf, Tân, yn Albwm y Flwyddyn yng ngwobrau sianel deledu France3, Ffrainc. Mae Frank Yamma yn un o gyfansoddwyr caneuon pwysicaf cymuned frodorol Awstralia — pan fydd yn canu, mae cynulleidfaoedd yn gwrando ac yn mynd ar daith gydag ef. Yn aelod urddedig o’r Pitjantjatjara, mae e’n canu yn ei iaith frodorol ac yn Saesneg. Ei albwm diweddaraf yw ‘Uncle’ (2014), dilyniant i’r record ‘Countryman’ (2010), a enillodd ganmoliaeth uchel gan y beirniaid. Bydd ei ganeuon nerthol, sŵn hudolus ei gitâr a’i lais dwfn, atgofus yn eich harwain ar eich pen i galon Awstralia. £12
Clwb Ifor Bach yn cyflwyno
‘Roeddwn i wrth fy modd! Teimladwy, doniol a gwreiddiol!’ Les Dennis, yn sôn am ‘The Leaving Do’
Sul 12 Ebrill 8pm
13
Colorama + Cefnogaeth Perfformiad cyntaf Colorama yng Nghaerdydd ers i Carwyn symud i Berlin yn ystod haf 2014. Dros y 12 mis diwethaf, mae e wedi rhyddhau albwm Saesneg nodedig, o’r enw ‘Temari’, a ‘Dere Mewn’, casgliad o’i holl draciau hyd yn hyn yn Gymraeg. Mae Carwyn hefyd wedi bod yn gweithio ac yn recordio gyda Edwyn Collins (Orange Juice), Sarah Cracknell (St Etienne) a Leonard Nimoy (Mr Spock). £8
Theatr
029 2030 4400
Theatr Iolo yn cyflwyno
Sarah Argent & Theatr Iolo yn cyflwyno
Boxy & Sticky
Out of the Blue
Maw 31 Mawrth — Iau 2 Ebrill + Llun 6 Ebrill 11am + 3pm Crëwyd a Chyfarwyddwyd gan Sarah Argent
Gwe 3 Ebrill 12.30pm + 2.30pm Sad 4 Ebrill 10.30am + 2.30pm Sul 5 Ebrill 12.30pm + 2.30
Mae gen i focs. Mae gen i ffon. Gall fy mocs i fod beth bynnag y dymunaf iddo fod. Gallaf fod y tu mewn iddo. Y tu allan iddo. Oddi tano. Ar ei ben. Oddi tano. Ar ei ben. Fy ffon i oedd y tegan cyntaf yn y byd. Gallaf dapio gydag ef. Ei daflu a’i ddal. Gallaf ei gydbwyso ar fy mhen! Antur theatrig ddireidus i ddifyrru a llonni plant 2-5 oed (a’u teuluoedd). Ynghyd â chyfle i chwarae ar ôl y perfformiad.
Ding, dong, cloch y drws. “Parsel i chi.” Pecyn. Dadbaciwch ef ... “Beth sydd ar y tu fewn?” Mae yna bapur i chi chwarae ag ef — ei sgrwnsio, ei rwygo. Cuddio ... “Pî-pô!” Ac yna, un diwrnod, yn sydyn reit, y syrpreis hyfrytaf un ...
O’r chwith i’r dde: Boxy & Sticky, Out of the Blue
14
£7 Oed: 2+ www.theatriolo.com
Perfformiad agos-atoch, hudolus ar gyfer babanod/ plant bach rhwng 6 a 18 mis (a’u gofalwyr). Mae e’n aros. Yn aros i rywbeth gyrraedd. Ar ôl llwyddiant ysgubol y cyflwyniadau cyntaf, mae Out of the Blue yn gyflwyniad perffaith i fyd y theatr — yn llawn delweddau cyfareddol a seiniau diddorol, a chyfle wedi’r sioe i’r plant chwarae hefyd! £8 (oedolion) a £5 (plant) Addas i fabanod 6-18 mis oed #BabyBlueShow
Theatr
15
O’r chwith i’r dde: Transition, I Think Not
chapter.org
National Theatre Wales ar y cyd â Theatr Iolo a Run Ragged yn cyflwyno
Transition Gwe 10 + Sad 11 Ebrill 3pm + 7.30pm Sioe am y broses neu’r cyfnod o newid o un cyflwr i gyflwr arall Mae Jem yn 50 y flwyddyn nesaf. Mae Ella’n 11 oed. Maent yn dad a merch. Mae Ella wrth ei bodd â ballet ac mae hi newydd ddechrau dysgu dawnsio ‘en pointe’. Mae Jem yn ddawnsiwr cyfoes proffesiynol a dyw hynny ddim wrth ei fodd. Maen nhw wedi dawnsio gyda’i gilydd ar garped y gegin erioed. Yn Transition, maent yn archwilio datblygiad eu perthynas drwy gyfrwng dawns, sgwrs a ffilm. Enwebiad ar gyfer Gwobr y Cynhyrchiad Dawns Gorau yng Ngwobrau Theatr Cymru 2015 £7 Addas i gynulleidfaoedd 7+ oed
Cyflwyniad Dawns Dwbl
I Think Not Gwe 17 + Sad 18 Ebrill 7.30pm Anushiye Yarnell & Riika Theresa Innanen Coreograffi: Deborah Hay Beth petai yna gyfatebiaeth rhwng estheteg dawnsiwr a’i (g)allu ef/hi i oroesi? Does yna ddim amser i ddyfeisio cynllun perffaith. Barod! Tanio! Anelu! Yn 2011, cymrodd Anushiye Yarnell a Riika ran ym Mhrosiect Comisiynu Perfformiadau Solo — cyfnod preswyl lle aeth grŵp o artistiaid ati i gomisiynu’r un darn o goreograffi unigol gan y coreograffydd dylanwadol, Deborah Hay. Mae Hay yn defnyddio set o feini prawf esthetig yn ei choreograffi sy’n bodoli dan wyneb ein canfyddiadau; mae hi’n ystyried y bod dynol a’r artist mewn modd cyfannol. Mae Anushiye Yarnell yn berfformiwr y mae ei gwaith yn datgelu tir amgen lle gall cynulleidfa a pherfformiwr gydfodoli. Mae ei gwaith yn tynnu ar brofiad personol, mytholegau y gorffennol a’r dyfodol, syniadau am baradwys a gwareiddiad, breuddwydion ac amrywiaeth ddiwylliannol. Mae Riikka Theresa Innanen yn artist o’r Ffindir sy’n gweithio’n rhyngwladol fel coreograffydd, dawnsiwr, artist fideo ac artist gweledol, curadur ac athrawes. £8/£7 www.deborahhay.com
16
Chapter Mix
Dydd Iau Cyntaf y Mis
Darlith Cymdeithas Celfyddydau Cain ac Addurnol De Cymru
Barddoniaeth a Ffuglen Newydd Iau 2 Ebrill 7.30pm
Noson yng nghwmni darllenwyr gwadd — y bardd, Jonathan Edwards, sydd newydd ennill gwobr Costa, awdur Gwasg Mulfran, Lesley Saunders, a’r awdur straeon byrion o Gaerdydd, Joao Morais. Dilynir y rhain gan sesiwn meic agored. Noddir gan Seren Press, Gwasg Mulfran a Llenyddiaeth Cymru.
£2.50 (wrth y drws)
Clwb Comedi The Drones
029 2030 4400
Iau 9 Ebrill 2pm ‘Byd William Shakespeare’ Nicole Mezey BA, MA, FHEA, FRSA
Mae hi’n 400 mlynedd ers marwolaeth Shakespeare ac mae hynny’n gyfle i gael golwg ar y byd gweledol a materol, a’r newidiadau cymdeithasol, a oedd yn ddylanwad arno. Gadawodd bentref yn Sir Warwick i fynd i Lundain — dinas ddirgel, hudolus, frawychus a budr. Oes o bortreadau, ‘playbills’, gorymdeithiau, theatrau, y Forwyn Frenhines a brenin a oedd yn hela gwrachod ac yn gwrthwynebu ysmygu.
Gwe 3 + Gwe 17 Ebrill. Drysau’n agor: 8.30pm Sioe’n dechrau: 9pm
Ymwelwyr £6 (wrth y drws, yn ddibynnol ar le) www.swdfas.org
Clint Edwards sy’n cyflwyno’r ‘stand-ups’ addawol gorau. Gwelwyd peth o ddeunydd y nosweithiau hyn ar raglen ‘Identity Crisis’ Rob Brydon. Dydd Gwener cyntaf a thrydydd dydd Gwener y mis. Un o’r ‘Deg Peth Gorau i’w Gwneud yng Nghaerdydd’ yn ôl cylchgrawn The Big Issue.
Jazz ar y Sul
Sul 19 Ebrill 9pm
Ein noson fisol o jazz acwstig melodig yn y Caffi Bar, gyda Phedwarawd Jazz Chapter — Glen Manby, Jim Barber, Don Sweeney a Greg Evans.
£3.50 (wrth y drws)
RHAD AC AM DDIM www.glenmanby.com
Sul 5 Ebrill 8pm
Bob dydd Llun 6.30-8pm
Dewch i rannu a gwrando ar gasgliad hyfryd o straeon — croeso i storïwyr a gwrandawyr fel ei gilydd!
Ydych chi’n dysgu Cymraeg? Ymunwch â ni i ymarfer eich Cymraeg yng nghwmni dysgwyr eraill. Croeso i bawb!
RHAD AC AM DDIM Ar y cyd â Menter Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd
Cylch Chwedleua Caerdydd £4 (wrth y drws)
Clonc yn y Cwtsh
chapter.org
Addysg
17
ADDYSG
Theatr Ieuenctid Chapter Dyddiau Mawrth 4.30-6pm I bobl ifainc 7–16 oed
Mae Theatr Ieuenctid Chapter yn cyflwyno gwersi drama, dawns a symud wythnosol i blant rhwng 7 ac 11 oed a phobl ifainc rhwng 12 ac 16 oed. Bydd yna gyfle i gyfranogwyr gymryd rhan hefyd mewn dosbarthiadau meistr yn ystod gwyliau hanner tymor ac ysgolion haf wythnos o hyd. Bydd dosbarthiadau Theatr Ieuenctid Chapter yn help i fagu hyder wrth berfformio ac yn fodd o ddysgu sgiliau a thechnegau newydd wrth i gyfranogwyr baratoi ar gyfer perfformiad cyhoeddus yn un o ofodau theatr proffesiynol Chapter. Dyddiadau: 3, 10, 17, 24 Mawrth 14, 21, 28 Ebrill, 5, 12, 19 Mai £6 y sesiwn, neu £50 am bob un o’r 10 sesiwn. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael.
Diwrnod Gweithgareddau Ffilm Into the Woods Mer 8 Ebrill 9.30am–3.30pm
Ymunwch â Swyddog Addysg a Chyfranogiad Chapter ar gyfer y diwrnod hwyliog hwn o weithgareddau ymarferol a chreadigol a fydd yn archwilio byd straeon tylwyth teg, wedi’i ysbrydoli gan Into the Woods. Dewch â phecyn bwyd os gwelwch yn dda. £20
Seremoni Raddio Academi Ffilm Pobl Ifainc Graddiodd un ar bymtheg o bobl ifainc o Academi Ffilm Pobl Ifainc 2015. Dros gyfnod o bedwar dydd Sadwrn yn ystod mis Ionawr a Chwefror, dysgodd y myfyrwyr am hanes y sinema a’r modd y caiff ffilmiau eu gwneud a’u deall. Rydym yn edrych ymlaen at weld y bobl ifainc hyn yn Chapter weddill y flwyddyn mewn digwyddiadau a gweithgareddau ffilm eraill. Llongyfarchiadau mawr i bob un o’r graddedigion, sydd ar eu ffordd bellach i Hollywood!
Stanley Isles Luke Chapman Elvis Fiera Jensen Velthuis Math O’Donnell Riley Moir-Sims Sonny Rehman Daniel Isaacs
Sophie Isles Sophia Jehu Tom McHale Tobias England-Elbro Michael Coakley-Gulland Ellen Moir-Sims Iolo Craig Jonah James
Cadw mewn Cysylltiad Mae adran Addysg Chapter bellach yn defnyddio Schoop — ap newydd cyffrous rhad ac am ddim sy’n hysbysu defnyddwyr am weithgareddau sydd o ddiddordeb iddynt. Lawrlwythwch Schoop a chwiliwch am Chapter: Schoop ID 4400. Gyda Schoop, r’ych chi yn y lŵp!
I gael mwy o wybodaeth am unrhyw un o’r cyrsiau hyn, a manylion ynglŷn â sut i gofrestru, cysylltwch â learning@chapter.org.
Sinema
029 2030 4400
Still Alice
18
Sinema
Still Alice
It Follows
Mer 1 — Iau 9 Ebrill
Gwe 27 Mawrth — Iau 2 Ebrill
UDA/2014/101mun/12A. Cyf: Wash Westmoreland, Richard Glatzer. Gyda: Julianne Moore, Kristen Stewart, Kate Bosworth, Alec Baldwin.
UDA/2014/100mun/15. Cyf: David Robert Mitchell. Gyda: Linda Boston, Caitlin Burt, Heather Fairbanks.
19
It Follows
chapter.org
Mae Alice Howland, sydd yn briod a chanddi dri o blant mewn oed, yn athro ieithyddiaeth enwog sy’n dechrau anghofio geiriau. Ar ôl cael diagnosis ysgytwol a dinistriol, caiff undod teulu Alice ei brofi i’r eithaf. Mae ei brwydr i aros mewn cysylltiad â’r person yr arferai hi fod yn frawychus, yn dorcalonnus ac yn ysbrydoledig — a’r perfformiad canolog yn odidog. + Ymunwch â ni am drafodaeth Tinted Lens, cydweithrediad newydd gan Chapter, Prifysgol Caerdydd a’r BFI. Byddwn yn archwilio’r meddwl a chysyniadau’n ymwneud â normalrwydd a phatholeg, gan ganolbwyntio ar golled a galar, ffantasi a rhith, dealltwriaeth o amser a chyflyrau ymwybyddiaeth. Dyddiad i’w gadarnhau.
Mommy Mer 1 + Iau 2 Ebrill Canada/2014/135mun/15. Cyf: Xavier Dolan. Gyda: Anne Dorval, Antoine-Olivier Pilon, Suzanne Clément.
Mae mam sengl weddw ac eofn yn ei chael ei hun yn gorfod gofalu rownd y rîl am ei mab 15-mlwydd-oed afreolus. Wrth iddynt ymdrechu i gael deupen y llinyn ynghyd, mae Kyla, y cymydog newydd rhyfedd, yn cynnig helpu... Ffilm gomedi ryfygus a gwobrwyol.
Ar ôl profiad rhywiol rhyfedd, mae merch yn ei harddegau yn ei chael ei hun yn gaeth i weledigaethau hunllefus a theimlad annifyr bod rhywbeth yn ei herlid. Archwiliad o ofnau rhywiol a chymdeithasol a golwg ffres ar genre arswyd.
Open Bethlehem Iau 2 Ebrill
Palesteina/2014/90mun/is-deitlau/PG. Cyf: Leila Sansour.
Hanes taith ryfeddol y gyfarwyddwraig Leila Sansour yn ôl i Bethlehem, y ddinas lle cafodd hi ei magu. Â chamera a char teuluol sy’n torri i lawr o hyd ac o hyd, mae hi’n cychwyn allan i ffilmio portread agos-atoch o dref hanesyddol mewn perygl. Bum mlynedd yn ddiweddarach, ac â mwy na 700 awr o ddeunydd ffilm ganddi erbyn hynny, mae’r gwaith terfynol yn gwyrdroi pob un o’i disgwyliadau ...
Catch Me Daddy Gwe 3 — Iau 9 Ebrill
DG/2015/112mun/15. Cyf: Daniel Wolfe. Gyda: Sameena Jabeen Ahmed, Connor McCarron, Gary Lewis, Kate Dickie.
Mae Laila yn ferch ar ffo ac yn cuddio yng ngorllewin Swydd Efrog gyda’i chariad, y ‘drifter’, Aaron. Ar ôl i’w brawd gyrraedd y dref â chriw o ddrwgweithredwyr ar ei ôl, mae hi’n cael ei gorfodi i ffoi am ei bywyd. Ffilm gyntaf wedi’i saethu’n hyfryd sy’n cyfuno anghyfannedd iasol ag egni gwyllt a sgôr dreiddgar a thrawiadol. Ymunwch â ni am sesiwn holi ac ateb gyda’r cynhyrchydd Jim Mooney ar ddydd Mawrth 7 Ebrill
Sinema
029 2030 4400
Aerobics: A Love Story
20
Gŵyl Ffilm Annibynnol Caerdydd Gwe 17 — Sul 19 Ebrill Cyfle i weld rhai o’r ffilmiau annibynnol newydd gorau ac i gymryd rhan mewn dosbarth meistr ac i gymdeithasu a rhwydweithio. Ewch i www.cardifffilmfest.org.uk i weld mwy o fanylion. Gallwch ddilyn gweithgarwch yr Ŵyl ar Twitter @cardifffilmfest
Gwe 17 Ebrill 1pm:
Dosbarth Meistr CIFF Gyda Stephen Frears a Paul Andrew Williams.
6pm:
Aerobics: A Love Story Sweden/2014/77mun/is-deitlau/15arf. Cyf: Anders Rune. Gyda: Vitor von Schirach, Marin Nystrom.
Mae gan Maria anableddau dysgu ac mae hi’n byw gyda’i chwaer goramddiffynnol, Helen. Ar ôl iddi syrthio mewn cariad â methiant o gynhyrchydd teledu o’r enw Janne, sydd hefyd yn dioddef o iselder ysbryd clinigol, mae carwriaeth gymhleth yn datblygu. Mae’r ffilm yn delio â phwnc heriol â dogn helaeth o swyn ac empathi. Mae’r ddrama realaidd Lychlynnaidd hon yn ffilm nodwedd gyntaf ardderchog gan y cyfarwyddwr masnachol, Rune.
+ The Stomach
DG/2015/15mun. Cyf: Ben Steiner.
Mae Frank wedi cael digon. Mae e’n gyfryngwr ysbrydion ac mae ei unig ddull — grotesg — o sianelu’r meirw yn golygu rhoi ei fywyd ei hun yn y fantol. Mae e eisiau gwneud rhywbeth arall. Ond mae gan eraill, yn y byd hwn a’r nesaf, gynlluniau eraill ar ei gyfer.
+
Une Bonne Affair Ffrainc/2015/20mun. Cyf: Denis Larzillière.
Mae Guillaume Malbet yn trefnu, yn casglu ac yn cadw pob cwpon y daw o hyd iddo a, thrwy hynny, yn gwneud y byd yn lle gwell — iddo fe ei hun, o leiaf. Ond, un diwrnod, mae’n sylweddoli fod ganddo elyn ac fe’i gorfodir i wneud rhywbeth drastig.
8.30pm:
Paranoia Park Ffrainc/2014/76mun/is-deitlau/15arf. Cyf: Bruno Mercier. Gyda: Audrey Beaulieu, Eriq Ebouaney, Fany Mercier.
Pan gaiff merch ei herwgipio mewn parc gan ddihiryn ar-lein, mae ei mam yn cael ei gorfodi i gwblhau cyfres o dasgau cyhoeddus bychanol a pheryglus gan y troseddwr sadistaidd sydd ar ben arall y ffôn. Ffilm gyffro arswydus mewn ‘amser go iawn’.
+ Resting Place
Yr Iseldiroedd/2015/9mun. Cyf: Kristian Knigge.
Mae damwain ofnadwy wedi parlysu’r cyn-ddawnsiwr, Julia, a’i gadael yn gaeth i gadair olwyn. Beth allai fod yn fwy braf na chael ei chymryd am dro hamddenol yn y coed gan ei ffrind gofalgar?
+ Terry and Brenda
DG/2015/15 mun. Cyf: Jamie Hooper.
Allwch chi ddim dewis eich teulu ond fe allwch chi ddewis eich ysglyfaeth.
Sinema
21
ManIslam: Islam and Masculinity
chapter.org
Sad 18 Ebrill 1pm:
6pm:
ManIslam: Islam and Masculinity
North v South
Norwy/2014/61mun/is-deitlau/15arf. Cyf: Nefise Özkal Lorentzen.
DG/2015/90mun/TiCh. Cyf: Steven Nesbit. Gyda: Elliott Tittensor, Charlotte Hope, Steven Berkoff.
Pam mae dyn yn Kuwait, wedi’i ysbrydoli gan 99 enw Allah a straeon y Corân, yn creu comics am arwyr o’r enw ‘y 99’? Pam mae dyn yn Indonesia yn annog dynion eraill i wisgo sgertiau byrion i wrthdystiad? Mae’r gwneuthurwr ffilmiau Twrcaidd-Norwyaidd, Nefise Özkal Lorentzen, yn archwilio pŵer, breintiau a beichiau y syniad Islamaidd o wrywdod.
Ers degawdau, bu’n gadoediad anesmwyth rhwng troseddwyr yn isfydoedd y Gogledd a’r De. Ond, yn awr, mae perthynas beryglus yn bygwth chwythu’r cwbl lot yn yfflon. Première Prydeinig
+ A Private Man
DG/2015/15mun. Cyf: Simon Wade, Paul Wade.
Mae tueddiadau voyeuraidd atgyweiriwr yn troi’n obsesiwn ar ôl i denant newydd symud i fyw i’w adeilad.
+ Sunday Dinner with the Morgans DG/2015/12mun. Cyf: Alex Forbes.
Dan yr arwyneb perffaith, mae pob aelod o deulu’r Morganiaid yn cymryd rhan yn ei weithredoedd tywyll a gwyrdroëdig ei hun, a phob un yn cuddio’i feiau rhag gweddill y teulu.
3pm — 6pm:
The Hook Up Ydych chi eisiau gweithio ym myd ffilm? Angen dod o hyd i gast, criw a chydweithwyr ar gyfer eich prosiect nesaf? Os felly, dewch draw i’r ‘Hook Up’ i gwrdd â chwmnïau cynhyrchu ardderchog a thalentau lleol cyffrous. RHAD AC AM DDIM
8.30pm:
Queen and Country DG/2015/115mun/12A. Cyf: John Boorman. Gyda: Callum Turner, Caleb Landry Jones, Richard E Grant .
Mae’r dilyniant hir-ddisgwyliedig hwn i’r Hope and Glory hunangofiannol yn codi stori’r Bill ifanc 10 mlynedd yn ddiweddarach, wrth iddo ddechrau ei hyfforddiant milwrol. Yn y 1950au cynnar, ac yn ystod cyfnod y Rhyfel yn Corea, rhaid iddo ymdopi â bod yn oedolyn ifanc a cheisio penderfynu beth yn union y mae e’i eisiau mewn bywyd. Mae cast ensemble gwych yn creu darlun swynol, doniol ac ingol o’r cyfnod ar ôl y rhyfel ac o wlad sy’n ceisio gwella’i briwiau. + Sesiwn holi ac ateb gyda’r cyfarwyddwr John Boorman Ymunwch â threfnwyr yr ŵyl a’r gwneuthurwyr ffilm am dderbyniad diodydd rhad ac am ddim yng nghyntedd y sinema ar ôl y dangosiad olaf ar ddydd Sadwrn 18 Ebrill
Sinema
029 2030 4400
Si-O-se-Pol
22
Sul 19 Ebrill 11am-1pm:
3pm:
‘Brunch’ i Wneuthurwyr Ffilm
Free Entry
Dewch i ymuno â chriw CIFF ac i fwynhau ‘brunch’ swmpus gyda gwneuthurwyr ffilm a ffans y sinema.
Hwngari/2014/70mun/15arf. Cyf: Yvonne Kerékgyártó. Gyda: Luca Pusztai, Ágnes Barta.
1pm:
Si-O-se-Pol Yr Almaen/2013/82mun/15arf. Cyf: Henrik Peschel. Gyda: Ramin Yazdani, Christian Concilio, Pheline Roggan.
Mae Parvis, sy’n ddifrifol wael, eisiau cymodi â’i ferch, Nasrin. Mae e’n cyrraedd Sbaen fel mewnfudwr anghyfreithlon ac yn cael deupen y llinyn ynghyd yn economi echrydus Madrid fel glanhawr, cyn perswadio pianydd aflwyddiannus o’r enw Fabrizio a merch Almaenaidd ifanc wedi ei difetha, o’r enw Almut, i fod yn gwmni iddo ar un daith olaf.
+ Serena
Lwcsembwrg/2015/16mun. Cyf: Eric Lamhène.
Wedi cael llond bol ar wawd ei ffrindiau hŷn, Jules a Matthieu, mae’r arddegwr, Joe, yn dial arnynt yn ystod noson allan. Ond mae gan Jules syniadau eraill a buan yr eith pethau y tu hwnt i bob rheolaeth.
+ Everything for the Movies
Gwlad Belg/2015/20 mun. Cyf: Lukas Buys.
Mae Oliver yn codi actores ifanc o’r enw Lize er mwyn ei thywys i set ffilm anghysbell. Ond a fydd yna ben draw i’w hawydd i lwyddo ym myd ffilm?
Mae dwy ferch yn eu harddegau, y Betty swil a’r V hyderus, yn cymryd eu camau cyntaf tuag at annibyniaeth ac yn mynd i ŵyl gerddoriaeth ar lannau’r Ddonwy. Ond ar ôl iddynt gweryla, pob un drosti’i hun yw hi. Mae’r ffilm gyntaf hyderus hon, a ffilmiwyd ar leoliad yng ngŵyl Sziget, yn ddrama egnïol am ddod i oed ac yn llawn o hiwmor ac amheuon ieuenctid.
+ Withering Heights
Canada/2015/9mun. Cyf: Liz Cairns.
Â’i phriodas ar chwâl, nid yw Margot yn gallu cysgu — ac mae hi’n dechrau cilio o’r golwg...
+ Sub Rosa
Gwlad yr Iâ/2015/16mun. Cyf: Thora Hilmarsdottir.
Mae Tilda, sy’n wyth oed, yn crwydro’n ffri yn siop flodau ei nain, lle daw o hyd i fyd o weithgarwch anweddus y tu ôl i’r muriau.
5pm:
Gwobrau CIFF Mae Gwobrau nodedig CIFF yn eu holau a’r tro hwn bydd talentau lleol yn ymgiprys am y wobr, a gyflwynir eleni am y tro cyntaf, er cof am Brian Hibbard. Rhad ac am ddim ond bydd angen tocyn.
Sinema
Coherence
Clwb Ffilmiau Gwael
23
Coherence
chapter.org
Gwe 3 — Iau 9 Ebrill UDA/2013/89mun/15. Cyf: James Ward Byrkit. Gyda: Emily Baldoni, Maury Sterling, Nicholas Brendon.
Ffilm wyddonias drawiadol a gwreiddiol sy’n chwarae ar y syniad adnabyddus bod i bob penderfyniad ganlyniadau gwahanol sy’n cael eu gwireddu mewn realiti cyfochrog. Ond beth ddigwyddai petai pob realiti amgen yn bodoli yn yr un gofod ffisegol? Mae grŵp o westeion mewn parti swper yn eu cael eu hunain mewn hunllef ddiddiwedd o baranoia lle mae hi’n amhosib gwybod pwy a beth sydd yn y fan y dylai fod.
Kill the Messenger Gwe 3 — Iau 9 Ebrill
UDA /2015/112mun/15. Cyf: Michael Cuesta. Gyda: Jeremy Renner, Ray Liotta, Paz Vega.
Pan glywch chi gyfrinach beryglus, a ddylech chi ei rhannu? Mae Kill the Messenger yn adrodd stori wir y newyddiadurwr Gary Webb a ddigwyddodd ddod o hyd i ffynhonnell ddirgel yr epidemig crac ar strydoedd yr Unol Daleithiau. Mae’n dysgu am gysylltiadau â’r CIA a sut y cafodd elw’r busnes ei ddefnyddio i arfogi’r gwrthryfelwyr yn Nicaragua. Mae’r stori ddadleuol hon yn ymgais egnïol a chyffrous i ddod o hyd i’r gwir.
Wild Tales
Gwe 3 — Iau 9 Ebrill Ariannin/2014/122mun/is-deitlau/15. Cyf: Damian Szifrón. Gyda: Liliana Ackerman, Luis Manuel Altamirano García, Alejandro Angelini.
Mae anghydraddoldeb, anghyfiawnder a phwysau’r byd weithiau’n achosi i bobl ffrwydro. Yn y casgliad drygionus a hyfryd hwn o chwe ffilm fer — pob un ohonynt yn sefyll ar ei thraed ei hun — cawn ein dal gan egni annisgwyl, a phleser digamsyniol, colli rheolaeth. Enwebiad am Oscar y Ffilm Dramor Orau
Howard the Duck Sul 5 Ebrill UDA/1985/110mun/PG. Cyf: Willard Huyck.
Mae’r Clwb Ffilmiau Gwael yn ôl am fis arall a’r tro hwn, maen nhw’n cyflwyno hanes hwyaden o’r gofod sy’n gallu siarad. Ar ôl ei gael ei hun, ar ddamwain, ar y Ddaear, mae Howard yn cwrdd â grŵp o ddrwgweithredwyr yn Cleveland ac yn llwyddo i achub cantores o’u crafangau. Ond caiff eu cyfeillgarwch ei beryglu wrth iddyn nhw orfod brwydro yn erbyn dihiryn creulon. Ydych chi’n awyddus i weld beth sy’n digwydd pan fydd hwyaden sy’n siarad a bod dynol yn rhannu gwely â’i gilydd? Na, na ni ond r’yn ni’n mynd i ddangos i chi beth bynnag.
Moviemaker Chapter Llun 6 Ebrill
Sesiwn reolaidd sy’n caniatáu i gyfarwyddwyr annibynnol ddangos eu ffilmiau byrion. I gael mwy o wybodaeth am ddangos eich ffilm chi, neu unrhyw fanylion eraill, e-bostiwch moviemaker@chapter.org. O bryd i’w gilydd, dangosir ffilmiau sy’n cynnwys deunydd anaddas i bobl iau. Awgrymwn, felly, bod sesiynau Moviemaker Chapter yn addas ar gyfer pobl 18+ oed.
Ffilmiau Byrion BAFTA Sul 12 Ebrill DG/2005/117mun/15. Cyf: Amrywiol. Gyda: Jodie Whittaker, Olivia Colman, Shaun Dooley.
Detholiad o ffilmiau byrion a gweithiau wedi’u hanimeiddio o restrau byrion gwobrau yr Academi Ffilm Brydeinig, wedi’u noddi gan EE.
24
Sinema
029 2030 4400
O’r brig: Hamlet gyda Maxine Peake, NT Live: The Hard Problem
Y Llwyfan ar y Sgrin
NT Encore: A View From the Bridge
NT Live: The Hard Problem
Mer 1 + Llun 27 Ebrill (dyddiad y darllediad gwreiddiol: dydd Iau 26 Mawrth)
Beth yw ymwybyddiaeth? Dyna’r cwestiwn sy’n poeni Hilary, ymchwilydd ifanc mewn sefydliad gwyddonol sy’n astudio’r ymennydd. Wedi’r cyfan, os taw mater yw popeth, mae datblygiadau technolegol yn golygu y bydd y cyfrifiadur a’r sganiwr fMRI yn gallu ateb yn y pen draw yr holl gwestiynau sy’n hoelio sylw seicolegwyr y presennol. Dyna ‘broblem’ y teitl, sy’n arwain Hilary i wrthdaro â’i chydweithwyr, gan gynnwys ei mentor, Spike, ei bos Leo, a sylfaenydd y sefydliad, y biliwnydd, Jerry. Mae drama newydd hirddisgwyliedig Tom Stoppard yn archwilio ambell un o’r cwestiynau dwysaf ar ymylon allanol ymchwil gwyddonol.
DG/2014/150mun/18. Cyf: Ivo van Hove. Gyda: Mark Strong.
Yn Brooklyn, mae’r llwythwr llongau, Eddie Carbone, yn croesawu ei gefndryd o Sisili i wlad breuddwydion. Ond ar ôl i un ohonynt syrthio mewn cariad â’i nith hardd, maent yn darganfod bod rhyddid yn beth drudfawr. Mae cenfigen Eddie yn datgelu cyfrinach ddofn, annisgrifiadwy sy’n ei yrru, yn y pen draw, i gyflawni gweithred o frad eithafol. Mae’r dramodydd mawr, Arthur Miller, yn ymwneud â’r freuddwyd Americanaidd yn y stori dywyll ac angerddol hon.
Hamlet gyda Maxine Peake Encore Llun 6 Ebrill DG/2015/195mun/12A. Cyf: Sarah Frankcom.
Mae tad Hamlet wedi marw ac mae gan Ddenmarc frenin newydd. Mae Hamlet yn galaru ac yn ceisio dial — ond mae i hynny ganlyniadau trychinebus. Drama oesol am deyrngarwch, cariad, brad, llofruddiaeth a gwallgofrwydd. Diffinnir pob cynhyrchiad o Hamlet gan yr actor sy’n chwarae’r brif ran. Yn y fersiwn gynnil, ffres a chyflym hon, mae Maxine Peake yn cyflwyno dehongliad o Hamlet sy’n gweddu’n ardderchog i’r cyfnod cyfoes. Cynhyrchiad yn cynnwys golygfeydd o drais ysgafn a chyffuriau
Iau 16 Ebrill DG/2015/180mun/12A. Cyf: Nicholas Hytner. Gyda: Olivia Vinall.
Sinema
25
Blind
The Face of an Angel
Sad 11 — Mer 15 Ebrill
Gwe 10 — Iau 16 Ebrill
Norwy/2014/91mun/is-deitlau/TiCh. Cyf: Eskil Vogt. Gyda: Ellen Dorrit Petersen, Henrik Rafaelsen, Vera Vitali.
DG/2015/100mun/15. Cyf: Michael Winterbottom. Gyda: Kate Beckinsale, Cara Delevingne, Daniel Brühl.
Ar ôl colli ei golwg, mae Ingrid yn encilio i ddiogelwch ei chartref, man lle mae ganddi reolaeth ar bethau, ar ei phen ei hun gyda’i gŵr a’i meddyliau. Ond mae problemau go iawn Ingrid yn gorwedd oddi mewn iddi, nid y tu hwnt i furiau ei fflat ac mae ei hofnau dyfnaf a ffantasïau cudd yn dod i’r wyneb i’w meddiannu.
Mae’r gwneuthurwr ffilmiau, Thomas, yn addasu llyfr gan y newyddiadurwr, Simone, am achos llys yn deillio o lofruddiaeth myfyriwr o Brydain yn yr Eidal — ond buan y caiff ei sylw ei hoelio gan y personoliaethau sy’n rhan o’r achos ffrwydrol. Yn seiliedig ar lofruddiaeth Meredith Kercher a’r syrcas a ddatblygodd wedi hynny yn nhreial Amanda Knox, a gyhuddwyd o lofruddio, mae’r ffilm yn archwiliad o newyddiaduraeth ac yn llawn dirgelwch.
Gyda’r cloc o’r brig: Force Majeure, The Face of an Angel, Blind
chapter.org
Altman
Gwe 10 — Mer 15 Ebrill Canada/2015/96mun/15. Cyf: Ron Mann.
O’i flynyddoedd cynnar yn ffilmio fideos diwydiannol yn Kansas City, i’w wobr am gyraeddiadau oes yn yr Oscars, dyma stori’r gwneuthurwr ffilmiau chwedlonol, Robert Altman. Mae’r ffilm yn trafod ei gorff nodedig o waith, gan gynnwys M*A*S*H, Nashville, The Player a Gosford Park ac yn cynnwys cyfraniadau gan rai o actorion pennaf Altman (Lily Tomlin, Elliott Gould, Sally Kellerman, Lyle Lovett, Michael Murphy) yn ogystal ag atgofion melys ei deulu. Golwg hynod ddiddorol ar yrfa ddisglair.
Force Majeure Gwe 17 — Iau 23 Ebrill Sweden/2014/120mun/is-deitlau15. Cyf: Ruben Östlund. Gyda: Johannes Kuhnke, Lisa Loven Kongsli, Clara Wettergren.
Yn y gomedi ddu filain hon, cawn gwrdd â’r gŵr busnes golygus, Tomas, ei wraig fain, Ebba, a’u plant, wrth iddynt fwynhau gwyliau sgïo yn yr Alpau Ffrengig. Mae’r haul yn tywynnu ac mae’r llethrau’n drawiadol, ond mae avalanche yn troi popeth wyneb i waered. Mae Ebba yn galw ar ei gŵr ond mae Tomas yn gwneud penderfyniad a fydd yn siglo byd y teulu i’w graidd. Enillydd categori Un Certain Regard yng Ngŵyl Ffilm Cannes 2014 Enwebiad am Oscar y Ffilm Dramor Orau
Sinema
029 2030 4400
O’r brig: While We’re Young, White Bird in a Blizzard
26
While We’re Young Gwe 10 — Iau 16 Ebrill UDA/2015/97mun/15. Cyf: Noah Baumbach. Gyda: Amanda Seyfried, Naomi Watts, Ben Stiller, Adam Driver, Adam Horowitz.
Mae Josh a Cornelia yn bâr priod di-blant sy’n byw yn Efrog Newydd. Maent yn eu pedwardegau ac yn cael eu swyno gan y cwpwl hipster ifanc, Jamie a Darby. Mae Jamie yn wneuthurwr ffilmiau uchelgeisiol, maes y mae Josh yn hen gyfarwydd ag ef. Mae’r cwpwl hŷn yn mwynhau egni’r pâr ifanc ond mae’r bwlch rhwng y cenedlaethau a dyheadau gyrfaol Jamie yn arwain at drafferthion. Astudiaeth finiog a disglair o’r ing sy’n gysylltiedig â heneiddio.
The Tale of Princess Kaguya
White Bird in a Blizzard Llun 20 — Iau 23 Ebrill UDA/2014/91mun/15. Cyf: Gregg Araki. Gyda: Shailene Woodley, Eva Green, Angela Bassett.
Mae Kat Connors yn 17 mlwydd oed pan ddiflanna Eve, ei mam brydferth ac enigmatig. Ar ôl byw cyhyd mewn cartref lle mae pob un yn cadw ei emosiynau dan yr wyneb, dyw’r newydd ddim fel petai’n tarfu arni’n ormodol a dyw hi’n sicr ddim yn beio’i thad llywaeth. Ond ar ôl dychwelyd adref o’r coleg, mae hi’n gorfod wynebu’r gwir am ymadawiad ei mam. + Ymunwch â ni ar ôl y dangosiad ar ddydd Mawrth 21 Ebrill am gyfarfod o grŵp trafod ffilm LGBTQ Chapter.
Sad 18 — Iau 23 Ebrill Japan/2013/137mun/PG. Cyf: Isao Takahata. Gyda: Chloë Grace Moretz, James Caan, Mary Steenburgen.
Mae hen dorrwr bambŵ a’i wraig yn dod o hyd i ferch fach y tu mewn i goesyn bambŵ — ac mae hi’n tyfu i fod yn ferch ifanc hyfryd. Mae’r dywysoges ddirgel yn swyno pawb ond, yn y pen draw, rhaid iddi wynebu ei thynged ei hun. Mae Stiwdio Ghibli yn ail-ystyried un o hanesion gwerin enwocaf Japan yn y ffilm syfrdanol brydferth hon. Enwebiad am Oscar y Ffilm Orau wedi’i Hanimeiddio
Sinema
27
A Little Chaos
Chappie
Gwe 24 — Iau 30 Ebrill
Gwe 24 — Iau 30 Ebrill
DG/2015/116mun/12A. Cyf: Alan Rickman. Gyda: Kate Winslet, Helen McCrory, Stanley Tucci.
UDA/2015/120mun/15. Cyf: Neill Blomkamp. Gyda: Hugh Jackman, Sigourney Weaver, Sharlto Copley.
Mae Madame Sabine De Barra fel petai hi’n ddewis rhyfedd i ofalu am erddi a thirweddau palas Versailles — ychydig o ddiddordeb sydd ganddi yng nghynlluniau’r pensaer enwog, Le Nôtre. Fodd bynnag, wrth iddi weithio yno, mae hi’n ei chael ei hun dan swyn y cynllunydd enigmatig ac mae hi’n gorfod ymdopi â moesau cymhleth a pherthnasau peryglus llys Louis XIV.
Yn y dyfodol agos, caiff y gyfraith ei gweinyddu gan heddlu mecanyddol a gormesol. Ond, yn awr, mae pobl wedi cael llond bol. Caiff un o robotiaid yr heddlu, Chappie, ei ddwyn a’i ail-raglennu ac, yn sydyn, mae e’n robot a chanddo’r gallu i feddwl a theimlo drosto’i hun. Â grymoedd dinistriol wedi hynny yn dechrau gweld Chappie fel bygythiad, maen nhw’n barod i wneud unrhyw beth i gynnal y status quo.
O’r chwith i’r dde: A Little Chaos, Chappie
chapter.org
Far From the Madding Crowd Sul 26 — Mer 29 Ebrill
DG/1967/168mun/U. Cyf: John Schlesinger. Gyda: Julie Christie, Peter Finch, Alan Bates, Terence Stamp.
Mae Bathseba Everdene yn ferch ifanc benderfynol a fflyrtaidd sy’n etifeddu fferm fawr ac yn ei chael ei hun mewn perthnasau â thri dyn hollol wahanol i’w gilydd. Mae hi hefyd yn argyhoeddedig ei bod hi’n fwy deallus na phob un ohonynt. Mae afiaith gorfoleddus delweddau Nic Roeg yn fframio harddwch gwledig a bywydau mewnol cymeriadau Thomas Hardy.
Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau meddal ymhob dangosiad yn sinema 1. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau neu ewch i’n gwe-fan i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).
28
Sinema
029 2030 4400
A hithau’n ddeng mlynedd ar hugain ers diwedd Streic y Glowyr, byddwn yn edrych ar y modd yr adlewyrchwyd cymunedau glofaol De Cymru ar y sgrin fawr, ac yn cyflwyno ffilmiau sy’n uno gwleidyddiaeth a balchder.
Proud Valley
Little White Lies
Cymru/1939/75mun/PG. Cyf: Pen Tennyson. Gyda: Paul Robeson, Edward Chapman, Simon Lack.
Cymru/2006/86mun/15. Cyf: Caradog W James. Gyda: Helen Griffin, Daniel Hawksford, Brian Hibbard.
Mae David yn daniwr sy’n chwilio am waith ym mhyllau glo Cymru. Mae e’n cwrdd â’r glöwr, a’r arweinydd côr, Dick Parry. Ond mae gan Dick lai o ddiddordeb yng ngallu David i weithio nag yn ei lais bariton cadarn. Mae trychineb annisgwyl yn bygwth y gymuned ac mae David yn achub y dydd â gweithred drawiadol o hunan-aberth.
Mae teulu dosbarth gweithiol yn wynebu cael ei chwalu gan densiynau hiliol a’r unig un sy’n ceisio’u dal at ei gilydd yw’r fam, Karen. Dyw ei merch, Serena, ddim yn siarad â’r tad diog, ac mae ei mab, Steve, yn llabwst hiliol. Comedi dywyll am wleidyddiaeth casineb, paranoia hiliaeth ac effeithiau hynny i gyd ar deulu Cymreig.
Sul 19 + Maw 21 Ebrill
Sul 26 + Maw 28 Ebrill
Sul 5 + Maw 7 Ebrill
Twin Town
Cymru/1997/95mun/18. Cyf: Kevin Allen. Gyda: Rhys Ifans, Llyr Ifans, Brian Hibbard, Dougray Scott, William Thomas.
Mae’r efeilliaid Lewis yn treulio’u dyddiau’n cymryd cyffuriau ac yn gwefr-yrru. Ar ôl i’w tad, Fatty Lewis, dorri ei goes tra’n gweithio i’r pwysigyn lleol, Bryn Cartwright, maent yn mynnu iawndal. Mae Bryn yn gwrthod talu — ond dyw e ddim yn gwybod pa mor filain y gall yr efeilliaid fod. Â’u tad heb yswiriant, mae brwydr ffyrnig yn datblygu.
Sul 12 + Maw 14 Ebrill
House of America
Cymru/2006/95mun/15. Cyf: Marc Evans. Gyda: Siân Philips, Steven Macintosh, Lisa Palfrey, Matthew Rhys, Richard Harrington.
Mae’r brodyr a’r chwiorydd, Sid, Gwenny a Boyo, yn gorfod gofalu am eu mam emosiynol-ansefydlog wrth iddynt grafu byw. Mae’r teulu camweithredol yn delfrydu’r tad absennol y dywedwyd amdano ei fod wedi symud i America flynyddoedd lawer yn ôl. Wedi’i gosod mewn pentref lle mae’r cwmni mwyngloddio yn ben a’r bobl leol yn cystadlu’n ffyrnig am waith, mae hon yn ffilm bwerus a chymhleth sy’n edrych ar hunaniaeth Gymreig a’r angen am arwyr.
Little White Lies
Effeithiau Gwrthdaro: Cymru
Sinema
Dark Horse
BAFTA Cymru yn cyflwyno:
Cymru/2015/85mun/12A. Cyf: Louise Osmond.
Mer 8 Ebrill
29
O’r chwith i’r dde: Dark Horse, Fog of Sex
chapter.org
Maw 14 — Iau 30 Ebrill Yn Cefn Fforest, ffurfiodd barmêd y clwb lleol, Jan Vokes, gynllun i herio byd elitaidd rasio ceffylau — ‘camp brenhinoedd’ — trwy fridio ei cheffyl rasio ei hun. Daeth â grŵp o bobl at ei gilydd ac, am £10 yr wythnos, fe fagon nhw ebol ar eu rhandir bryniog. Yn adlewyrchiad o’u balchder a’u huchelgais, cafodd y ceffyl ei enwi’n ‘Dream Alliance’. Er mawr syndod i fyd elitaidd rasio ceffylau, datblygodd Dream Alliance i fod yn bencampwr ond, yn ras fwyaf y tymor, bu bron i’w breuddwydion gael eu chwalu. Stori am gymuned ac agosatrwydd i gynhesu’r galon. Ymunwch â ni am ddangosiad arbennig wedi’i ffrydio’n fyw o’r première yn Sinema Maxime yn y Coed Duon ar ddydd Mawrth 14 Ebrill
Fog of Sex
Cymru/2015/90mun/18. Cyf: Christopher Morris.
Cymrodd bum mlynedd i wneud y ddrama ddogfen hon sy’n ail-greu ac yn cyflwyno hanesion a phrofiadau wyth o weithwyr rhyw benywaidd sydd hefyd yn ceisio dilyn cyrsiau Addysg Uwch. Mae’r ffilm onest a syfrdanol hon yn seiliedig ar gyfweliadau cynhwysfawr ond nid yw’n barnu nac yn dewis ochr — mae’n gadael lle i’r gynulleidfa benderfynu drosti’i hun. Cafodd y gwaith ei ymchwilio, ei gynhyrchu a’i ffilmio gan Ysgol Ffilm Casnewydd, yn seiliedig ar astudiaeth ymchwil gan Brifysgol Abertawe.
Patagonia Llun 13 Ebrill
Cymru/2010/116mun/15. Cyf: Marc Evans. Gyda: Matthew Rhys, Nia Roberts, Matthew Gravelle.
Stori dwy fenyw, un yn edrych am ei gorffennol a’r llall yn chwilio am ei dyfodol. Mae Carys, hen fenyw fregus ond eofn o Batagonia, yn twyllo’i chymydog ifanc, Alejandro, i’w chymryd ar daith i Gymru, i ddod o hyd i’r ffermdy lle cafodd ei geni. Yn y cyfamser, mae Gwen, sy’n teithio ym Mhatagonia gyda’i gŵr, i geisio ailgynnau eu priodas, wedi’i dal rhwng angerdd a dyletswydd. + Ymunwch â ni am noson arbennig yng nghwmni BAFTA ac Into Ffilm, wrth i ni ddathlu pen-blwydd y wladfa ym Mhatagonia yn 150 oed
30
Sinema
029 2030 4400
Maidan
Effeithiau Gwrthdaro a Rhyfel
Yn rhan o’n rhaglen o ffilmiau sy’n archwilio brwydrau cyfoes dros ddemocratiaeth a rhyddid, ynghyd ag effeithiau parhaus y Rhyfel Byd Cyntaf, mae Swyddfa’r Comisiwn Ewropeaidd yng Nghymru yn noddi pedair ffilm Ewropeaidd. Mae’r dangosiadau hyn yn cyflwyno safbwyntiau gwledydd Ewropeaidd eraill ar y Rhyfel Byd Cyntaf ac fe’u bwriedir fel ategiad i goffâd cenedlaethol Llywodraeth Cymru, Cymru’n Cofio.
White Ribbon
A Long Way Home
Yr Almaen/2006/141mun/is-deitlau/15. Cyf: Michael Haneke. Gyda: Ulrich Tukur, Susanne Lothar, Josef Biebichler.
Twrci/2013/112mun/is-deitlau/15. Cyf: Alphan Eseli. Gyda: Ugur Polat, Nergis Öztürk, Serdar Orçin.
Mae digwyddiadau rhyfedd mewn pentref bychan yng ngogledd yr Almaen, yn ystod y blynyddoedd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf, fel pe baent yn dystiolaeth o gosbi defodol. Ac mae plant dioddefus y pentref fel pe baent wrth wraidd y dirgelwch. Mae’r campwaith hwn o gyffro seicolegol yn ddarlun o ddirywiad ymerodraeth a datblygiad ffasgiaeth.
Roedd Brwydr Sarikamis yn 1915, yn nwyrain Anatolia, yn drobwynt dinistriol i’r ymerodraeth Ottoman. Rhewodd 90,000 o filwyr i farwolaeth yn ystod ymosodiad annoeth ar filwyr Rwsiaidd yn y bryniau eiraog. Dilynwn grŵp bychan o sifiliaid sy’n ceisio goroesi’r daith dros y bryniau er mwyn cyrraedd man diogel. Mae’r ffilm gyntaf drawiadol hon yn dangos effeithiau enbyd rhyfel ar boblogaethau lleol a difaterwch byd natur.
Iau 16 Ebrill
+ Ymunwch â ni am gyflwyniad arbennig gan Dr Toby Thacker o Brifysgol Caerdydd a derbyniad ar ôl y dangosiad wedi’i noddi gan Swyddfa’r Comisiwn Ewropeaidd yng Nghymru.
Iau 30 Ebrill
+ Ymunwch â ni am gyflwyniad arbennig gan Robert Norris o Gonswl Anrhydeddus Gweriniaeth Twrci, yn ogystal â derbyniad ar ôl y dangosiad wedi’i noddi gan Swyddfa’r Comisiwn Ewropeaidd yng Nghymru.
Maidan
Gwe 24 — Maw 29 Ebrill Wcráin/2014/130mun/12A. Cyf: Sergei Loznitsa.
Cronicl o’r gwrthryfel sifil a chwalodd lywodraeth Arlywydd Wcráin, Victor Yanukovich, a’r argyfwng rhyngwladol a ddatblygodd wedi hynny. Wedi’i ffilmio mewn golygfeydd hirion di-dor, mae hon yn ffilm sy’n arwain y gwyliwr i ganol chwyldro ac mae’n bortread syfrdanol ac uniongyrchol o genedl sy’n brwydro am ei hannibyniaeth.
chapter.org
31
Sinema
Big Hero 6
Ffilmiau i’r Teulu Cyfan Detholiad o ffilmiau gwych sy’n addas i’r teulu cyfan, bob dydd Sadwrn a dydd Sul am 11am a 3pm. Rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn. Archebwch ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi.
Big Hero 6
Gwe 27 Mawrth — Iau 2 Ebrill Dangosiad dan Amodau Cefnogol Arbennig: Dydd Sul 5 Ebrill UDA/2015/108mun/PG. Cyf: Don Hall, Chris Williams. Gyda: Ryan Potter, Scott Adsit, Jamie Chung.
Ffilm am y berthynas arbennig sy’n datblygu rhwng robot Baymax chwyddadwy a’r plentyn rhyfeddol, Hiro Hamada, sy’n ymuno â grŵp o ffrindiau i ffurfio gang o arwyr technolegol. Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau meddal ymhob dangosiad yn sinema 1. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau neu ewch i’n gwe-fan i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).
Into the Woods Gwe 3 — Mer 8 Ebrill
UDA/2014/124mun/PG. Cyf: Rob Marshall. Gyda: Meryl Streep, Anna Kendrick, Chris Pine, Johnny Depp.
Mae gwrach yn gorfodi pobydd di-blant a’i wraig i gael gafael ar eitemau hudolus o straeon tylwyth teg clasurol er mwyn dadwneud y felltith ar eu teulu. Yn gydblethiad o straeon tylwyth teg Grimm a cherddoriaeth Stephen Sondheim, mae hon yn sioe gerdd epig a mawreddog. + Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad yn sinema 1. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau neu ewch i’n gwe-fan i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).
Carry on Screaming Bob dydd Gwener am 11am, mae Carry On Screaming yn rhoi cyfle i rieni neu ofalwyr weld ffilm heb orfod poeni y bydd eu babi’n aflonyddu ar eraill. Gweler y calendr am fanylion y dangosiadau arbennig hyn i bobl â babanod dan flwydd oed.
Noddir gan Funky Monkey Feet www.funkymonkeyfeet.co.uk 02920 666688
Project Almanac Sad 11 + Sul 12 Ebrill
UDA/2014/106mun/12A. Cyf: Dean Israelite. Gyda: Jonny Weston, Amy Landecker, Sofia Black-D’Elia.
Mae grŵp o arddegwyr yn dod o hyd i gynlluniau cudd i greu peiriant amser, ac maent yn mynd ati i’w adeiladu. Ond buan yr eith pethau ar chwâl ... Disgrifiadau Sain meddal ymhob dangosiad yn sinema 1. Is-deitlau meddal ar ddydd Sul 12 o Ebrill am 11am. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau neu ewch i’n gwe-fan i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).
Shaun the Sheep Sad 25 + Sul 26 Ebrill
DG/2015/85mun/U. Cyf: Mark Burton, Richard Starzack.
Mae Shaun yn penderfynu cael diwrnod bant i gael ychydig o hwyl — ond mae yna lawer iawn o gyffro yn ei ddisgwyl... Mae cymhlethdodau â’r Ffermwr, carafán a bryn serth iawn yn ei arwain i’r Ddinas Fawr ac mae’n rhaid i Shaun a’r praidd ffeindio’u ffordd yn ôl i ddiogelwch — a glaswellt ir — eu cartref.
The Tale of Princess Kaguya Sad 18 + Sul 19 Ebrill
Japan/2014/137mun/PG. Cyf: Isao Takahata. Gyda: Chloë Grace Moretz, James Caan, Mary Steenburgen.
Mae hen dorrwr bambŵ a’i wraig yn dod o hyd i ferch fach y tu mewn i goesyn bambŵ — ac mae hi’n tyfu i fod yn ferch ifanc hyfryd. Mae Stiwdio Ghibli yn ailystyried un o hanesion gwerin enwocaf Japan yn y ffilm syfrdanol brydferth hon.
32
Archebu/Gwybodaeth
029 2030 4400
GWYBODAETH Sut i Archebu Tocynnau
Gwybodaeth
Dros y ffôn — ffoniwch ni ar 029 2030 4400. Rydym yn derbyn pob un o’r prif gardiau credyd. Galwch heibio — mae ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o 11am-8.30pm, ac ar y Sul o 3pm–8.30pm. Ar-lein: Gallwch archebu ar www.chapter.org bob awr o’r dydd a’r nos Consesiynau: Mae cyfraddau disgownt ar gael i fyfyrwyr, pobl dros 60 oed, plant, y di-waith, pobl anabl, deiliaid cerdyn MAX ac i Ffrindiau Chapter a deiliaid Cerdyn Chapter. Bydd angen i chi gyflwyno prawf o’ch cymhwyster i dderbyn cyfradd ostyngol. Archebion grŵp: Prynwch 8 tocyn ac fe gewch chi’r 9fed yn RHAD AC AM DDIM. Noder os gwelwch yn dda • dim ond un disgownt y gellir ei ddefnyddio ar unrhyw un adeg • rydym yn hapus i dderbyn archebion ymlaen llaw ond ni allwn gadw tocynnau i’r naill ochr • os cyrhaeddwch chi’n hwyr mae hi’n bosib y cewch chi’ch atal rhag mynychu eich digwyddiad. Cyflwynir rhai o’n ffilmiau â Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ond nid yw’r wybodaeth hon bob amser ar gael ar adeg argraffu’r cylchgrawn. Gweler ein gwe-fan am fanylion neu piciwch draw i’r Swyddfa Docynnau yn ystod yr wythnos y mae’r ffilm yn cael ei rhyddhau.
Cwmnïau ac Artistiaid Cysylltiedig Mae Chapter yn gartref i gwmnïau theatr, cwmnïau dawns, stiwdios animeiddio, gwneuthurwyr printiau, crochenwyr, dylunwyr graffeg, dylunwyr deunydd symudol, cyfansoddwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, cyhoeddwyr cylchgronau, artistiaid annibynnol a llawer iawn mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.
Sinema Cyn 5pm O 5pm ymlaen Llawn £4.50 (£4.00) £7.90 (£7.20) Cons £3.50 (£3.00) £5.80 (£5.10) Cerdyn + Cons £3.00 (£2.50) £5.00 (£4.50) DISGOWNT DYDD MAWRTH Tocynnau’r holl brif ddangsiadau — £4.40
Gweithdai a Dosbarthiadau Rydym yn cynnal amrywiaeth eang o weithdai dyddiol a dosbarthiadau gydag ymarferwyr annibynnol, gan gynnwys ballet, zumba, ioga, crefft ymladd, massage i fabanod, cerddoriaeth i blant, pilates, tango, fflamenco, ysgrifennu creadigol, gwersi cerddoriaeth a mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.
Sut i gyrraedd Chapter Fe ddewch chi o hyd i ni yn Nhreganna, i’r gorllewin o ganol y ddinas. Heol y Farchnad, Treganna, Caerdydd CF5 1QE Ar Droed Mae hi’n daith gerdded hamddenol o ryw 20 munud o ganol y ddinas. Ar Fws Mae bysus rhif 17, 18 a 33 yn aros gerllaw ac yn gadael bob pum munud o ganol y ddinas. Ar Feic Mae digon o raciau beic ar flaen yr adeilad. Parcio Mae gennym faes parcio yng nghefn yr adeilad ac mae meysydd parcio lleol eraill wedi eu nodi ar y map. Gofynnwn i chi barchu ein cymdogion os gwelwch yn dda drwy osgoi parcio mewn strydoedd cyfagos.
Prisiau ymlaen llaw/ar-lein mewn cromfachau. Mae “Ymlaen llaw” yn golygu unrhyw bryd cyn diwrnod y dangosiad.
aff nd Lla
Springfield Pl.
ad
mC ha cen res
Ha m i l t o n
St
t
Gr
King’s Ro
nd Wy
ane
Road
L Gray
. Library St
St. ay
Treganna
Le c h kwit
Church Rd.
Heol Ddwy rein i o l y B o n t F a en Penllyn Rd.
Harve
St Talbot
Orc h a r d P l.
rn Seve
St. Gray M a rk e t P l .
treet yS
e St. Glynn
d Roa
d hna arc lyF
Heo
o 6pm
rt S
t.
Road
Earle Pl.
A l be
P — meysydd parcio rhad ac am ddim — rac feics
r R—oadarhosfan bysus Majo
I Ganol Dinas Caerdydd to n ling Wel
et Stre
Mynediad i bawb Mae Chapter yn croesawu ymwelwyr anabl. Os oes gennych anghenion mynediad penodol, ffoniwch ein swyddfa docynnau ar 029 2030 4400, minicom 029 2031 3430.
chapter.org
Cymryd Rhan
33
CYMRYD RHAN Cerdyn CL1C
Cadwch mewn cysylltiad
Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawr-lwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!
Ymunwch â ni ar-lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.
Ffrindiau Chapter Ymunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40
eAmserlen rad ac am ddim eAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E-bostiwch adam.chard@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e-bost.
Cynllun Myfyrwyr Chapter Ydych chi’n fyfyriwr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael aelodaeth am ddim a manteisio ar gynigion arbennig nodedig, fel gostyngiadau yn ein Caffi Bar a thocynnau sinema rhatach? I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Jennifer — jennifer.kirkham@chapter.org www.chapter.org/cy/aelodaeth-myfyrwyr-chapter
Hoffai Chapter gydnabod cefnogaeth hael y sefydliadau a’r grwpiau canlynol:
Cronfa Gymunedol Tirlenwi Sefydliad Esmée Fairbairn Rhaglen Ddiwylliant yr UE Sefydliad Baring Sefydliad Garfield Weston Sefydliad Foyle Gwobr Biffa Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston Grŵp Admiral Cyf Sefydliad Moondance ar gyfer y Celfyddydau a Chwaraeon Sefydliad Elusennol Trusthouse Y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru Plant mewn Angen y BBC Sefydliad Waterloo Ymddiriedolaeth Ynni Gwyrdd ScottishPower Yr Ymddiriedolaeth Ddarlledu Gymreig SEWTA
Richer Sounds Sefydliad y Brethynwyr Momentum Sefydliad Henry Moore Google Sefydliad Jane Hodge Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson Ymddiriedolaeth People’s Postcode Ymddiriedolaeth Feddygol Dunhill Legal & General Institut für Auslandsbeziehungen e.V Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm Ymddiriedolaeth Ernest Cook Lloyds TSB Arwyddion Morgan Ymddiriedolaeth Elusennol y Garrick Barclays
Celfyddydau & Busnes Cymru Penderyn Ymddiriedolaeth Austin & Hope Pilkington Sefydliad Rhyngwladol Singapore Gwestai Puma: Gwesty’r Angel Caerdydd Maes Awyr Caerdydd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru Ymddiriedolaeth Elusennol Gibbs Cynllun Cymunedol Ceredigion Ymddiriedolaeth Elusennol Steel Sefydliad Boshier-Hinton 1st Office Ymddiriedolaeth Oakdale Cwmni Plastig Dipec Nelmes Design
Ymddiriedolaeth Elusennol Coutts Elusen Wake Bruce Funky Monkey Feet Sefydliad Finnis Scott Banc Unity Trust Hugh James Cymdeithas Celfyddydau Cyfoes Cymru Dot Foundry JVH Gidden & Rees Western Power Distribution Ymddiriedolaeth Follett Celfyddydau & Phlant Cymru Aduniad Merched Ysgol Uwchradd Canton Grŵp y Co-operative Renault Caerdydd Llysgenhadaeth Gwlad Belg Llywodraeth Queensland