Chapter Awst 2016

Page 1

029 2030 4400

@chaptertweets

chapter.org


02

Croeso

029 2030 4400

CROESO Defnyddiwch y côd QR hwn i lawr-lwytho copi digidol o gylchgrawn Chapter

Delwedd y clawr: The BFG

Chapter Heol y Farchnad, Caerdydd CF5 1QE 029 2030 4400 www.chapter.org ymholiadau@chapter.org

Dylunio: Nelmes Design

Helo a chroeso i’ch cylchgrawn misol sy’n cynnwys holl fanylion rhaglen Chapter ym mis Awst. Y mis hwn rydym yn dathlu talentau lleol ag ambell i ffilm wych o Gymru. Caiff y rhain eu dangos yma yn Chapter ac oddi ar y brif safle hefyd wrth i ni ymuno â sefydliadau ffilm eraill i gyflwyno’r Sinemaes yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Sinemaes yw sinema dros-dro gyntaf y brifwyl — a bydd yn dangos detholiad o ffilmiau Cymraeg o’r archif, ffilmiau nodwedd, gan gynnwys Hedd Wyn, a digwyddiadau cerddorol arbennig gydag un o ffefrynnau’r sîn, H Hawkline. Mae mwy o wybodaeth ar dudalennau 20-21. Wrth i ni nesu at ganmlwyddiant geni Roald Dahl, mae tymor ‘Roald Dahl ar Ffilm’ yn parhau ag addasiadau ffilm o rai o’i straeon mwyaf poblogaidd, gan gynnwys Fantastic Mr Fox, Charlie and the Chocolate Factory a James and the Giant Peach. Bydd yna ddangosiad persawrus arbennig o Matilda gyda chardiau ‘crafu ac arogli’. Gweler tudalennau 16-19. Mae ein sioe gerfluniau boblogaidd yn yr oriel, Sticky Intimacy, yn parhau ac mae yna gyfle i ddysgu mwy amdani drwy gyfrwng sgyrsiau yn Saesneg ac yn Gymraeg y mis hwn. Mae ein mannau perfformio yn cael seibiant y mis hwn, ond i godi awydd arnoch, ewch i dudalennau 12-13 i weld uchafbwyntiau sioeau tymor newydd yr hydref. Diolch am ddarllen ac fe welwn ni chi cyn hir! .


chapter.org

Uchafbwyntiau

Celfyddyd

Emma Hart, Chocking Pages, 2016

tudalennau 4–8

Bwyta Yfed Llogi tudalen 9

Cefnogwch Ni

03

CYMRYD RHAN

page 10

Chapter Mix

Cerdyn CL1C

tudalen 11

Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawrlwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Perfformiadau tudalennau 12–13

Addysg tudalennau 14–15

Ffrindiau Chapter Ffilm tudalennau 16–29

Ymunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40

Clwb Chapter

Gwybodaeth a Sut i archebu tocynnau tudalen 30

Cynllun aelodaeth Chapter i fusnesau. Am ffi flynyddol fechan, gall eich busnes chi fwynhau manteision sylweddol yn Chapter, gan gynnwys gostyngiadau i chi a’ch staff ar fwyd, diod a thocynnau. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.chapter.org/cy/chapter-clwb.

Cadwch mewn cysylltiad Ymunwch â ni ar-lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

eAmserlen rad ac am ddim Cymryd Rhan

eAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E-bostiwch adam.chard@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e-bost.

tudalen 31

Siaradwch â ni

Calendr

@chaptertweets facebook.com/chapterarts chaptertweets

tudalennau 32–33

Nodwch os gwelwch yn dda bod copïau print bras o’n cylchgrawn ar gael ar gais. Cysylltwch â’n Swyddfa Docynnau ar 029 2030 4400.


Exhibition open: Tuesday, Wednesday, Saturday & Sunday 12–6pm; Thursday & Friday 12–8pm; closed Monday

Celfyddyd

029 2030 4400

Katie Cuddon, Leg Plough, serameg wedi’i phaentio, tywod a phren 2008

04


Celfyddyd

05

Katie Cuddon, Di-deitl, pensil a collage ar bapur, 2015

chapter.org

Sticky Intimacy: Katie Cuddon, Emma Hart & Nicholas Pope Gwe 8 Gorffennaf — Sul 18 Medi Mae ‘Sticky Intimacy’ yn dwyn ynghyd artistiaid o wahanol genedlaethau sydd yn archwilio bob un berthynas chwilfrydig â deunyddiau a’r broses o wneud. Mae’r sioe yn sgwrs ar sail arddulliau ffurfiol a thematig cyfun ac, er bod y gweithiau’n amrywiol, mae pob artist yn creu gweithiau sydd yn gwrthod syniad o ‘gerflunwaith fawreddog’. Gan ddefnyddio deunyddiau fel gwydr, pren a chlai, mae Cuddon, Hart a Pope yn trawsnewid eu hamgylchiadau a’u profiadau eu hunain yn weithiau afieithus, llawn emosiwn. Boed hynny trwy gyfrwng prosesau o gerflunio gyda chlai, darlunio neu ddefnydd o wydr wedi’i chwythu, adlewyrchir delwedd o’r corff amherffaith a hynny mewn ffurfiau lletchwith ac anghymesur, pob un ohonynt yn ymwneud â syniad o agosatrwydd ac o ‘wneud â llaw’. Mae Katie Cuddon yn archwilio perthnasedd clai a’r ymwneud corfforol a bennir gan y gwrthrych cerfluniol. Mae ei cherfluniau’n adnabyddus am eu harwynebau aflonydd wedi’u gwneud o grwyn clai sydd yn dod at ei gilydd i greu ffurfiau llawnion. Mae’r ffurfiau hyn yn aml yn lletchwith a chorffog ac mae eu gorffeniadau peintiedig yn tynnu sylw at arwynebau aflonydd a llithrig sy’n cuddio gofod mewnol gwag. Mae llithrigrwydd hefyd yn rhan o amwysedd y ffurfiau, sy’n gwrthod bodoli oddi mewn i un diffiniad unigol, sefydlog. Mae’r rhyngweithio ffurfiol rhwng gwrthrychau, rhwng gwrthrych a gwyliwr, yn ein

hannog i ystyried yr ystrydebau sydd yn sail i’r gweithiau: themâu sydd yn ymwneud â rhyw a rhywioldeb, gwrthodiad, methiant, colled a chywilydd. Mae’r naratifau personol yn gwahodd y wyliwr i ddehongli’r gwaith yn ôl ei brofiad ei hun. Mae ‘Penumbra’, cerflun seramig di-wyneb, di-ryw, o faint plentyn, yn awgrymu bwgan hollbresennol yn yr oriel. Mae’r arwyneb powdrog yn awgrym o berson yn ceisio cael syniad o hyd a lled y creadur hwn, fel petai gwasgu, tylino a theimlo parhaus yn fodd o ryddhau cynnwys y gwaith neu o ddeall yn well yr hyn sydd o dan yr wyneb. Mae ‘Leg Plough’ yn amrywio rhwng comedi a melancoli ac mae eiddilwch y coesau clai plentynnaidd yn galw i gof syniadau am rwystredigaeth, ac o fateroldeb wedi’i chwalu dan bwysau entropi a bygythiad parhaus. Nodweddir gwaith Emma Hart gan estheteg anarchaidd sy’n tanseilio ac yn tarfu ar y broses o wylio, ac sydd yn cyfleu dryswch a straen profiadau bob dydd. Mae Hart yn defnyddio deunyddiau sy’n cyfeirio at brofiadau lletchwith a thrwy hynny yn archwilio’r ffin rhwng rheolaeth ac anhrefn. Mae amlinelliadau seramig o wydrau gwin yn arllwys diodydd seramig dros wal yr oriel. Mae’r pyllau hyn yn ‘swigod sgwrs’ sy’n deillio o’r siapiau ceg y mae Hart ei hun wedi eu brathu yn y clai.


06

Celfyddyd

029 2030 4400

Mae’r gweithiau’n amrwd — mae breichiau seramig yn taro, ac yn cyrlio o gwmpas y corff i sychu’r dagrau; mae coesau’n chwysu, ac fe gânt eu cyfleu mewn printiau a osodir wedyn mewn clai gwydrog. Mae cerfluniau o wallt yn cyfeirio at densiynau rhwng bywyd, rhyddid, rheolaeth a stasis. Mae’r gwallt hir yn y fan hon yn cael ei ddal yn ei le gan ‘scrunchies’ mawrion sydd fel petaent yn ceisio dofi’r clai. Mae Hart yn newid y gofod sydd ar gael i’r gwyliwr gan ddefnyddio naratifau sydd ar y naill law yn gyhoeddus ac ar y llaw arall yn hynod breifat. Fel gwaith nifer o’i gyfoedion a ddaeth i’r amlwg yn y 1970au, ac a oedd yn awyddus i ddod o hyd i iaith gerfluniol newydd, mae gwaith Nicholas Pope yn ddatgysylltiad â chenhedlaeth flaenorol. Daeth Pope i amlygrwydd am ddefnyddio deunyddiau naturiol yn bennaf, deunyddiau yr aeth ati i’w cerfio neu, yn syml ddigon, i’w pentyrru a’u casglu ynghyd. Yn dilyn ei arddangosfa yn 1980, pan gynrychiolydd Brydain yn Biennale Fenis, aeth Pope i ymweld â Zimbabwe a Tanzania – profiad a effeithiodd arno byth ers hynny ac a drawsnewidiodd ei waith artistig yn llwyr.

Wrth symud tuag at ddeunyddiau mwy meddal a mwy hydrin, fel gwydr, porslen, tecstilau, alwminiwm a seramig, dechreuodd Pope greu gwaith haniaethol sy’n cyfeirio at themâu cymhleth fel ysbrydolrwydd, hunanladdiad a chymdeithas. Ar gyfer yr arddangosfa hon, gweithiodd Pope gyda’r meistr-wydrwr James Maskrey, o’r Ganolfan Wydr Genedlaethol yn Sunderland, i greu cyfres newydd o 14 o gwpanau cymun wedi’u hysbrydoli gan y Saith Rhinwedd a’r Saith Pechod Marwol. Ar sail darluniau gwreiddiol yr artist, mae’r cwpanau cymun yn trawsnewid y cynlluniau gwreiddiol ac yn amlygu perthynas gymhleth rhwng yr artist a’r gwneuthurwr. Â’r darluniau’n cael eu harddangos ochr yn ochr â’r cwpanau cymun, dyma gyfle unigryw i gynulleidfaoedd weld y trawsnewidiad hwn mewn manylder. Cafodd arddangosfa ‘Sticky Intimacy’ ei churadu gan Hannah Firth ar ran Chapter ac fe’i datblygwyd ar y cyd ag Oriel Celfyddyd Gyfoes y Gogledd (NGCA), Sunderland. ‘Baldock Pope Zahle’ oedd rhan gyntaf y diptych a gyflwynir yn yr arddangosfa hon ac fe guradwyd y gwaith hwnnw gan George Vasey ar ran NGCA. Comisiynwyd arddangosfa Nicholas Pope ‘Seven Virtues and Seven Deadly Sins’ gan NGCA ar ran ‘Baldock Pope Zahle’ a dderbyniodd gefnogaeth hael gan Gyngor Dinas Sunderland, Y Ganolfan Wydr Genedlaethol, C’Art, Cyngor Celfyddydau Lloegr a Sefydliad Grosserer LF Foghts.

Ynglŷn â’r artistiaid Graddiodd Nicholas Pope o Academi Gelfyddyd Caerfaddon yn 1973. Cynrychiolodd Brydain yn Biennale Fenis a chymerodd ran yn ‘British Art Now, An American Perspective’ yn Amgueddfa Guggenheim, a deithiodd ledled America (y ddwy arddangosfa yn 1980). Yn 1996, dangosodd ei waith ‘Apostles Speaking in Tongues’ yn Tate Britain, ac fe ailddangoswyd hwnnw yn ddiweddar yn Eglwys Gadeiriol Salisbury (2014). Yn 2013, cynhaliwyd arddangosfa unigol o’i waith yng Nghanolfan Celfyddyd Newydd Parc Cerfluniaeth Roche Court, Salisbury. Hefyd yn 2013, cyhoeddwyd Ridinghouse, monograff sylweddol am yr artist. Cafodd gwaith Pope ei gynnwys yn arddangosfa ‘United Enemies: The Problem of Sculpture in Britain in the 1960s and 1970s’ yn Sefydliad Henry Moore, Leeds, y DG (2011). Mae ei waith yn rhan o nifer o gasgliadau cyhoeddus gan gynnwys Casgliad Cyngor y Celfyddydau, Amgueddfa Muller Kroller, Amgueddfa Solomon R Guggenheim, Amgueddfa Stedelijk, y Tate, Oriel Gelf Wakefield ac Oriel Gelf Walker. www.nicholaspope.co.uk Mae Katie Cuddon yn byw ac yn gweithio yn Newcastle. Graddiodd o’r Coleg Celf Brenhinol yn 2006 ac erbyn hyn mae hi’n dysgu Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Newcastle. Mae ei harddangosfeydd unigol yn cynnwys ‘Pontoon Lip’ (gyda Celia Hempton), Gofod Prosiect Cell, Llundain (2014); ‘Waiting for the Cue’, Oriel Simon Oldfield, Llundain, y DG, ‘Spanish Lobe’, Cymrodoriaeth Serameg, Canolfan Gelfyddydau Camden, Llundain, y DG (2011); ‘’I no longer know what the money is’, Oriel Alma Enterprises, Llundain, y DG (2010). Mae ei harddangosfeydd grŵp yn cynnwys ‘The Stone of Folly’, Downstairs, Henffordd, y DG, ‘Sioe Aelodau Stiwdio Voltaire, Llundain, y DG (y ddwy yn 2012); ‘Friendship of the Peoples’, Oriel Simon Oldfield, Llundain, y DG (2011), ‘Spazi Aperti’, Accademia di Romania, Rhufain, Yr Eidal (2009). Yn 2010, dyfarnwyd cymrodoriaeth serameg gyntaf Canolfan Gelfyddydau Camden i Cuddon ac roedd hi hefyd yn Ysgolor Cerfluniaeth ac Arlunio Sainsbury yn yr Ysgol Brydeinig yn Rhufain yn 2008/09. www.katiecuddon.com Derbyniodd Emma Hart radd MA mewn Celfyddyd Gain o Ysgol Gelf y Slade a chwblhaodd ei doethuriaeth mewn Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Kingston yn 2013. Mae hi’n ddarlithydd ar gwrs BA Celfyddyd Gain Coleg Celf Central Saint Martins. Mae ei harddangosfeydd diweddar yn cynnwys ‘Sticky’, Fforwm Diwylliannol Awstria, Llundain (2015); ‘Giving It All That’, ‘Triennial’ Folkestone (2014) a ‘Dirty Looks’, Canolfan Gelfyddydau Camden (2013). Mae ei harddangosfeydd grŵp yn cynnwys ‘SUCKERZ’, L’etrangere, Llundain (2015) gyda Jonathan Baldock, a ‘Only the Lonely’, La Galerie CAC, Noisy Le Sec, Ffrainc (2015). Derbyniodd Emma Wobr Gelfyddyd Max Mara yn 2016. www.emmahart.info


Celfyddyd

07

Nicholas Pope, Mr and Mrs Pope Spiked and Holed, pren wedi’i baentio, 1987

chapter.org

Sgwrs am 4 Sad 13 Awst 4pm Mae ein ‘Sgyrsiau am 4’ yn deithiau tywysedig yng nghwmni ein Tywyswyr Byw, Richard Higlett a Thomas Williams. Maent yn gyfle i ddysgu mwy am yr arddangosfa gyfredol ac am ddulliau gwaith unigryw yr artistiaid. Ni fydd dwy sgwrs yn union yr un fath ond y gobaith yw y byddan nhw’n ddiddorol ac yn agored bob amser. Mae’r Sgyrsiau am 4 yn rhad ac am ddim ac nid oes angen archebu lle ymlaen llaw — dewch draw i fynedfa’r Oriel i ymuno â ni! RHAD AC AM DDIM

Sgwrs am 4 yn Gymraeg Sad 27 Awst 4pm Ymunwch â ni am Sgwrs am 4 yn Gymraeg. Bydd y sgwrs ar agor i siaradwyr Cymraeg o bob lefel ac fe’i harweinir gan ein Cynorthwyydd Oriel, Thomas Williams. Does dim angen archebu ymlaen llaw — dewch draw i’r Oriel i ymuno â ni! RHAD AC AM DDIM

Plant a chelfyddyd

Sul 7 Awst 10.30am Sgwrs yn yr oriel i blant, wedi’i harwain gan blant.

Bydd y sgwrs hon yn yr oriel yn addas i deuluoedd a bydd yn annog plant (ac oedolion) i drafod ac i feddwl am gelfyddyd. Byddwn yn defnyddio’r arddangosfa gyfredol i annog plant i rannu eu syniadau a’u safbwyntiau mewn awyrgylch agored a chreadigol. Cynhelir y digwyddiad yn yr Oriel ac fe’i bwriedir ar gyfer plant 8-12 oed. Rhaid i blant sy’n mynychu’r sgwrs fod yng nghwmni oedolyn. RHAD AC AM DDIM

I DDOD YN FUAN

‘Sticky Intimacy’: Sgyrsiau gyda’r Artistiaid Sad 17 Medi 10am I gyd-fynd â’n harddangosfa gyfredol, Sticky Intimacy, rydym yn falch iawn o allu cydweithio gyda’r curadur George Vasey i gyflwyno symposiwm undydd lle gwahoddir artistiaid i siarad am un o’u gweithiau eu hunain – gwaith sydd o bwys penodol iddyn nhw – am 30 munud. Drwy gyfrwng darlleniad manwl o’u hymchwil eu hunain, bydd cyfranwyr yn ystyried ystod eang o ddylanwadau a chyfeirbwyntiau. Sut mae mynd ati i sôn am ‘waith unigol’? A ddylid gwneud hynny yng nghyd-destun y gwaith ei hun neu yng nghyd-destun arddangosfa? Rhwydwaith neu wrthrych? Bwriad neu dderbyniad y gwaith dan sylw? Mae’r digwyddiad hwn yn dilyn y digwyddiad NGCA ym Mehefin 2016 a oedd yn cynnwys sgyrsiau gyda Johann Arens, Emily Hesse, Fay Nicolson, Lorna Macintyre, William Cobbing a Luke McCreadie. Mae’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn yn agored i bawb ond mae nifer y llefydd sydd ar gael yn brin. Cadwch le drwy ymweld â chapter.org


08

Celfyddyd

029 2030 4400

Delwedd: Lorna Macintyre, o’r gyfres Marcle March, 2016, print gelatin arian wedi’i drin â pherai Nicholas Pope

CELFYDDYD YN Y BAR

Lorna Macintyre Gwe 1 Gorffennaf — Sul 25 Medi I gyd-fynd ag arddangosfa Sticky Intimacy yn yr oriel, aeth Lorna Macintyre ati i gymryd cyfres o ffotograffau o dŷ a stiwdio Nicholas Pope yn Swydd Henffordd. Mae’r printiau gelatin arian yn ddogfen anarferol o’i waith ac yn cyflwyno portread o artist trwy gyfrwng gwrthrychau yn gymaint â thrwy gyfrwng ei waith. Mae’r ffotograffau’n awgrymu dylanwad yr artist ac yn creu rhyw fath o atsain ffurfiol a chysyniadol ar hyd y cenedlaethau.

Ynglŷn â’r artist Lorna Macintyre (g. 1977, Glasgow, yr Alban). Mae arddangosfeydd unigol diweddar Macintyre yn cynnwys ‘Material Language Or All Truth Waits In All Things’, Mary Mary, Glasgow, ‘Solid Objects’, Glasgow Project Room (y ddwy yn 2015) a ‘Four Paper Fugues’, Mount Stuart, Bute (rhan o ‘Generation’, 25 mlynedd o Gelfyddyd Gyfoes yn yr Alban) (2014). Mae ei harddangosfeydd grŵp diweddar yn cynnwys ‘Surface Tension’, Streetlevel Photoworks, Glasgow, ‘Representing Space’, CCA Andratx, Mallorca (2015), ‘Polarity and Resonance’, Sammlung Lenikus, Fiena a ‘Dirt and Not Copper’, 221a, Vancouver. Cynrychiolir Lorna gan Mary Mary, Glasgow. Comisiynwyd yr arddangosfa hon gan NGCA a derbyniodd gefnogaeth hael gan Ymddiriedolaeth Elephant, Cyngor Celfyddydau Lloegr a Chyngor Dinas Sunderland.


chapter.org

Bwyta Yfed Llogi

09

BWYTA YFED LLOGI

I DDOD YN FUAN!

Pop Up Produce Bydd Pop Up Produce, ein marchnad fisol boblogaidd o ddanteithion blasus gan gynhyrchwyr lleol, yn cael hoe ym mis Awst. Cadwch lygad yn agored am y farchnad nesaf ar ddydd Mercher 7 Medi — a’i hamser newydd, 11am — 4pm. Yn y cyfamser, os ydych chi’n gynhyrchydd bwyd ac os hoffech chi ymuno â ni unwaith y mis i werthu eich cynnyrch, mae croeso i chi gysylltu â Paul — paul.turton@chapter.org — i wneud cais am stondin.

Llogi Mae nifer o ystafelloedd a chyfleusterau Chapter ar gael i’w llogi ac mae llawer o’r rhain yn cael eu defnyddio’n rheolaidd gan gymysgedd eclectig o ddosbarthiadau dydd a nos. Ewch i’n gwe-fan neu codwch daflen yn y swyddfa docynnau i weld yr hyn sydd ar gael. Os ydych chi’n chwilio am ystafell ar gyfer parti, cyfarfod neu gynhadledd, neu am ofod i saethu fideo, i ymarfer neu i gynnal gweithgareddau adeiladu tîm, bydd ein cyfleusterau gwych, ein harbenigedd technegol a’n staff cyfeillgar yn gallu sicrhau bod eich digwyddiad yn gyffyrddus, yn unigryw ac yn gofiadwy. Gallwn gynnig amrywiaeth o opsiynau arlwyo ar gyfer eich digwyddiad hefyd. Os oes gennych chi gwestiynau penodol, neu os hoffech chi fwy o wybodaeth am ein cyfleusterau, rhowch ganiad i’n rheolwr llogi, Nicky, ar 029 2031 1058 neu anfonwch e-bost at nicky.keeping@chapter.org.

Tom Mansfield Prif Gogydd Dw i ddim wedi bod yn Chapter yn rhy hir ond dw i’n hoffi meddwl ein bod ni wedi gwella’r fwydlen ers i mi gymryd yr awenau fel Prif Cogydd. Mae gennym gynulleidfa amrywiol iawn yma yn Chapter ac mae ceisio eu hannog nhw i ddod yn ôl atom yn nod sicr i’r tîm — rydym yn cynnig prydau newydd a phrydau arbennig yn ddyddiol. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar fwydlen gyffrous yr hydref a’r gaeaf, a fydd ar gael ym mis Medi. Dw i’n credu’n gryf mewn defnyddio cymaint o gynhwysion lleol a thymhorol â phosib, er mwyn cynhyrchu prydau blasus a chefnogi ein ffermwyr, ein cigyddion, ein gwerthwyr pysgod a’n cyflenwyr annibynnol lleol. Dw i’n ceisio sicrhau bod pobl yn cael bwyd ardderchog yn Chapter, boed hynny’n frechdan syml, yn ginio ysgafn neu’n rhywbeth mwy sylweddol gyda’r nos. Mae gennym lwyfan gwych i arddangos cynhyrchion ardderchog — ac mae’r rheiny’n cael eu coginio â balchder ac angerdd.


10

Cefnogwch Ni

029 2030 4400

Mae Chapter yn elusen gofrestredig ac rydym yn dibynnu ar gefnogaeth gan unigolion a busnesau er mwyn gallu cyflwyno ein rhaglen artistig amrywiol a’n gwaith addysgol pwysig. Rydym yn ddiolchgar am bob ceiniog a dderbyniwn ac fe allwn gynnig ambell beth gwych i chi yn gyfnewid. I wneud cyfraniad, mewn modd syml a chyflym, tecstiwch ‘Chap16’ ynghyd â’r swm yr hoffech ei roi i 70070. Mae yna nifer o ffyrdd eraill o gymryd rhan hefyd…

Unigolion

Busnesau

Ymunwch â chynllun Ffrindiau Chapter ac fe allwch chi fwynhau buddion sy’n amrywio o ostyngiadau ar docynnau ac ar fwyd a diod yn ein Caffi Bar i wahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig, fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn Ffrindiau hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C.

Cynllun aelodaeth Chapter i fusnesau. Am ffi flynyddol fechan, gall eich busnes chi fwynhau manteision sylweddol yn Chapter, gan gynnwys cyfleoedd i rwydweithio, defnydd o’n mannau llogi hyblyg a gostyngiadau i chi ac i’ch staff ar docynnau sinema a theatr — a gostyngiadau hefyd ar fwyd a diod yn ein Caffi Bar. Drwy gydol mis Gorffennaf ac Awst, rydym yn falch iawn o allu cynnig ambell ddêl ardderchog:

Ffrindiau

Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40

Rhoddion Cofrestrwch i wneud cyfraniadau unigol neu roddion reolaidd i Chapter, er mwyn chwarae rhan lawn yn ein gwaith elusennol. Gallwch wneud cyfraniadau ar-lein ar www.chapter.org/cy/cefnogwch-ni neu drwy ymweld â’n Swyddfa Docynnau. Gallwch wneud cyfraniadau drwy neges destun erbyn hyn hefyd — tecstiwch ‘Chap16’ ynghyd â’r swm yr hoffech ei roi i 70070. Fydd hi ddim yn costio ceiniog i chi anfon y neges ac fe fyddwn ni’n derbyn 100% o’ch cyfraniad.

Cymynroddion Mae gadael cymynrodd i Chapter yn fodd i ddiogelu ein gwaith at y dyfodol. Os hoffech chi ystyried gadael rhodd i Chapter yn eich Ewyllys dylech ofyn am gyngor gan eich cyfreithiwr yn y lle cyntaf. Os ydych chi eisoes wedi crybwyll Chapter yn eich Ewyllys, rhowch wybod i ni, fel y gallwn gydnabod eich cyfraniad yn y modd mwyaf priodol.

Clwb

I aelodau presennol… Rydym yn cynnig disgownt anhygoel o 50% pan fyddwch yn archebu un o’n mannau ar log. Bydd hynny, gobeithio, ar y cyd â’r cyflenwad o de a choffi sydd yn rhad ac am ddim i aelodau, yn golygu taw Chapter yw’r lle perffaith i gynnal cyfarfodydd yr haf hwn. I fanteisio ar y cynnig hwn, cysylltwch â Nicky Keeping — nicky.keeping@chapter.org / 029 2031 1058 — a chofiwch sôn am ‘Glwb yr Haf’ pan fyddwch yn archebu. Byddwn yn falch iawn hefyd o ddangos y mannau sydd ar gael gennym i’w llogi. Cysylltwch â Nicky os hoffech chi gael golwg arnynt. I’r rheiny ohonoch sydd yn dal heb benderfynu â yw Clwb Chapter yn addas i’ch busnes chi, dyma hwb bach ychwanegol… drwy gydol misoedd Gorffennaf ac Awst bydd unrhyw un sy’n ymuno â’r Clwb am y tro cyntaf yn derbyn disgownt anhygoel o 40% ar gost aelodaeth y flwyddyn gyntaf. Bydd aelodaeth yn costio £150, yn lle £250*. I fanteisio ar y cynnig hwn, neu i gael mwy o wybodaeth, cysylltwch ag Elaina Johnson: elaina.johnson@chapter.org *trefnir aelodaeth ar sail cytundeb tair blynedd — £150 yn y flwyddyn gyntaf a’r swm hwnnw’n codi i £250 ym mlynyddoedd dau a thri. I gael mwy o wybodaeth am unrhyw un o’r materion uchod, cysylltwch ag Elaina Johnson os gwelwch yn dda — ffoniwch 02920 355662 neu e-bostiwch elaina.johnson@chapter.org.


Chapter Mix

Fe sylwch chi bod rhai o’n digwyddiadau rheolaidd yn cael hoe ym mis Awst — ond fe fyddan nhw yn eu holau bob un ym mis Medi.

CÔR SONGBIRDS A CHORWS DYNION HOYW DE CYMRU YN CYFLWYNO

11

Corws Dynion Hoyw De Cymru

chapter.org

Cylch Chwedleua Caerdydd

‘Proud Voices — A Marriage of Convenience’

Sul 7 Awst 8pm

Gwe 12 Awst 9pm

Straeon ar droad y flwyddyn — straeon a chaneuon i gyfarch y cynhaeaf.

Bydd y noson hon o gerddoriaeth eiconig yn gyfle i gorau LGBT Caerdydd ddod at ei gilydd ar ddechrau Penwythnos Pride yng Nghaerdydd. Dewch i fwynhau’r awyrgylch yng Nghaffi Bar Chapter, wrth i’r corau godi cân. Bydd yna ddetholiad o weithiau gan eiconau cerddorol hen a newydd. Mae Corws Dynion Hoyw De Cymru yn gôr meibion cyfeillgar ac anffurfiol a lansiwyd yn 2008. Dan arweiniad Andrew Bulleyment, maent wedi datblygu repertoire uchelgeisiol ac maent yn perfformio mewn modd ffres a bywiog. Mae’r corws yn caru cerddoriaeth ac yn gobeithio y byddwch chi’n ei mwynhau hefyd! Mae Côr Songbirds yn gôr cymuned amrywiol i ferched LBT yng Nghaerdydd. Bu’r adar cân yn perfformio mewn lleoliadau ledled Caerdydd a De Cymru ers 2012. Mae’r Cyfarwyddwr Cerddorol, Rosie Howarth, yn arwain y côr, yn hogi brwdfrydedd yr aelodau ac yn cynhyrchu sain cyfoethog, llawn emosiwn.

£4 wrth y drws

Diwrnod Gêmau Bwrdd yng nghwmni Rules of Play & Chapter Sul 7 Awst 11am–3pm

Bydd Rules of Play (siop gêmau bwrdd annibynnol yng nghanol Caerdydd) yn meddiannu byrddau Chapter ac yn cyflwyno amrywiaeth eang o gêmau bwrdd ar ddydd Sul 7 Awst o 11am ymlaen! Bydd yna gêmau i blant a theuluoedd, gêmau parti, gêmau addysgol a llawer iawn mwy. Ddim yn gyfarwydd â gêmau bwrdd? Peidiwch â phoeni! Bydd staff Rules of Play wrth law i esbonio’r rheolau a’r strategaethau. Mae’r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim ac mae croeso cynnes i deuluoedd, plant a ffrindiau dychmygol — mwya’r niferoedd, mwya’r hwyl! Am restr lawn o’r gêmau bwrdd a fydd ar gael ar y diwrnod, ewch i rulesofplay.co.uk neu www.chapter.org. RHAD AC AM DDIM

RHAD AC AM DDIM

Jazz ar y Sul Sul 21 Awst 9pm

Ein noson fisol o jazz acwstig melodig yn y Caffi Bar gyda Phedwarawd Jazz Chapter — Glen Manby, Jim Barber, Don Sweeney a Greg Evans. RHAD AC AM DDIM www.glenmanby.com


12

Perfformiadau

029 2030 4400

PERFFORMIADAU

The Good Earth

Cefnogir Theatrau Chapter gan rodd David Seligman er cof am Philippa Seligman


Gyda’r cloc o’r brig: The Harri Parris, Kizzy Crawford, Sinfonia Cymru

chapter.org

Perfformiadau

13

I DDOD YN FUAN Bydd mannau perfformio Chapter yn cael hoe yn ystod mis Awst ond dyma ragflas o’r hyn sydd i ddod yn ystod yr hydref… Rydym yn edrych ymlaen at weld dau gwmni’n dychwelyd i ddathlu gwahanol hunaniaethau Cymru yn eu ffyrdd unigryw eu hunain. Bydd Mai oh Mai Productions yn dod â Sioe Radio yr HarriParris yn ôl i Chapter ac yn recordio sioe newydd i BBC Radio Wales. Ac fe fydd Theatr Motherlode yn dychwelyd i Chapter o’r UDA i gyflwyno eu cynhyrchiad nodedig, The Good Earth. Bydd yna ddigonedd o sioeau i gynulleidfaoedd ifainc hefyd gan gynnwys cyfle i weld perfformiad arbennig o Birdsong — Cân Yr Adar gyda Kizzy Crawford, Gwilym Simcock ac aelodau o Sinffonia Cymru. Bydd y cydweithrediad cerddorol newydd hwn yn archwiliad o goedwig law Carngafallt. Cadwch lygad ar ein gwefan a chylchgronau’r hydref i gael mwy o wybodaeth.


14

Addysg

YR ACADEMI FFILM YN CYFLWYNO:

Diwrnodau Ffilm i Blant

Stinky Flicks — Cwrs Ffilm i Bobl Ifainc Maw 2 Awst — Gwe 5 Awst 10.30am–2.30pm Sad 6 Awst 12–5pm (Digwyddiad) Cwrs pedwar diwrnod a fydd yn annog pobl ifainc i ymchwilio i hanes y ‘gimic’ yn y traddodiad sinematig ac i weithio ar y cyd i ddylunio a chyflwyno ddigwyddiad unigryw yn seiliedig ar ffilm Tim Burton, Charlie and the Chocolate Factory. Bydd y cwrs strwythuredig hwn yn berffaith ar gyfer perfformwyr, dylunwyr a meddyliau creadigol ifainc. Bydd yn gyfle iddynt greu digwyddiad ffilm a fydd yn arwain y gynulleidfa ar daith drwy’r synhwyrau — arogleuon, perfformiadau, synau a gimics. Dewch â phecyn bwyd gyda chi, os gwelwch yn dda. Oed: 9 — 13 £40

029 2030 4400

Ymunwch â thîm Addysg Chapter am ddiwrnod hwyliog yn llawn gweithgareddau creadigol diddorol a fydd yn archwilio byd Roald Dahl ar ffilm. Bydd y gweithgareddau’n cynnwys cynllunio set sinema mewn bocs sgidiau a ffotograffiaeth ddigidol, a bydd yna gyfle i wneud ffilmiau a gweithiau byrion wedi’u hanimeiddio, ac i fwynhau posau, taflenni gwaith a helfeydd trysor! Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. Dewch â phecyn bwyd gyda chi, os gwelwch yn dda. £22 y dydd (pris yn cynnwys tocyn i’r ffilm)

Maw 9 Awst 10am–3.30pm

Charlie and the Chocolate Factory Maw 23 Awst 10am–3.30pm

Fantastic Mr Fox


chapter.org

Addysg

15

‘Sewcial’ Chapter: Gweithdai Gwnïo i Blant ‘SEWCIAL’ FFILM CHAPTER

‘SEWCIAL’ FFILM CHAPTER

Alice Through The Looking Glass

The Secret Life of Pets

Gwe 12 Awst 10.45am–3.30pm

Dewch i wneud ategolion ardderchog wedi’u hysbrydoli gan Alice a’r Mad Hatter! Bydd y plant yn tynnu ysbrydoliaeth o wisgoedd dychmygus y ffilm, ac yn defnyddio ffabrigau wedi’u hysbrydoli gan y môr a chwpanau te. Byddan nhw’n creu broetsh Mad Hatter a band gwallt Alice. Addas i bwythwyr profiadol a dibrofiad fel ei gilydd. Dewch â phecyn bwyd gyda chi, os gwelwch yn dda. £22.50 (yn cynnwys tocyn i’r ffilm)

Mer 24 Awst 10.45am–3.30pm

Dewch draw i wneud cath neu gi bach allan o ffelt — tegan y gallwch ei fwytho a’i gwtsio ar ôl y ffilm! Addas i bwythwyr profiadol a dibrofiad fel ei gilydd. Dewch â phecyn bwyd gyda chi, os gwelwch yn dda. £22.50 (yn cynnwys tocyn i’r ffilm)


Ffilm

029 2030 4400

“ Mae pethau rhyfeddol yn mynd i ddigwydd; pethau na ddychmygaist ti mohonynt erioed” James and the Giant Peach Mae Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael ar gyfer nifer fawr o’n ffilmiau. Fodd bynnag, fe all y wybodaeth amdanynt newid wedi i ni anfon y cylchgrawn hwn i’r wasg — mae manylion pellach i’w cael ar ein gwe-fan. Nid yw’n bosib bob amser i ni gadarnhau gwybodaeth am Ddisgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal cyn i ni anfon y cylchgrawn hwn i’r wasg. Cadwch lygad ar agor am y symbolau hyn, sy’n golygu y bydd angen cadarnhau’r wybodaeth am Ddisgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal. Fe sylwch chi ar y logo hwn ger manylion rhai ffilmiau a pherfformiadau. Mae’r F yn dynodi ffilmiau a pherfformiadau wedi’u cyfarwyddo gan ferched, wedi’u hysgrifennu gan ferched neu / ac sydd yn cynnwys rhannau canolog i ferched ar y sgrin neu ar y llwyfan.

The BFG

16


chapter.org

Ffilm

17

Roalld Dahl © RDLE

ROALD DAHL AR FFILM

Ar 13 Medi, bydd hi’n 100 mlynedd ers geni’r storïwr byd-enwog yma yng Nghymru. Gyda chefnogaeth y BFI ac ar y cyd ag ystâd Roald Dahl, bydd ffans o bob oed yn cael ail-fyw eu hatgofion mwyaf hudolus, wrth i ffilmiau Roald Dahl ddod yn fyw ar y sgrin fawr. Y mis hwn rydym yn edrych ymlaen yn arbennig at ein dangosiad rhyngweithiol ‘crafu ac arogli’ o’r ffilm Matilda. Byddwn hefyd yn dilyn anturiaethau ein Rhaglenwyr Ifanc yn ‘Stinky Flicks’ ac yn annog pobl ifainc i ymuno â’n Diwrnodau Ffilm arbennig. #RoaldDahlOnFilm Ymunwch â byd ‘Roald Dahl ar Ffilm’ ar-lein drwy chwarae’r gêm http://filmhubwales.org/roalddahlonfilm

The BFG Gwe 22 Gorffennaf — Iau 4 Awst UDA/2016/117mun/PG. Cyf: Steven Spielberg. Gyda: Rebecca Hall, Bill Hader, Mark Rylance.

Mae merch o’r enw Sophie yn cwrdd â chawr sy’n casglu breuddwydion. Er bod y cawr hwnnw’n edrych yn frawychus, mae ganddo galon fawr ac mae e’n gwrthod bwyta plant — yn wahanol i nifer o’i gydgewri. Caiff Sophie ei chludo i dir y BFG lle mae hi’n ei helpu e i herio’r cawr creulon, y Fleshlumpeater, ac i sicrhau heddwch rhwng y ddwy diriogaeth.

Susan Wood Rheolwr Prosiect, Roald Dahl ar Ffilm Dw i newydd ymuno â Chanolfan Ffilm Cymru, un o naw o ganolfannau ledled y DG a ariennir gan y BFI ac sydd, gyda’i gilydd, yn ffurfio Rhwydwaith Cynulleidfaoedd Ffilm (FAN) y BFI. Mae Chapter yn brif sefydliad y cynllun yng Nghymru. Byddwn yn gweithio ar y cyd â phob un o’r canolfannau eraill i lansio tymor Prydeinig o bwys, sef tymor ‘Roald Dahl ar Ffilm’. Dw i wedi bod yn brysur yn gwylio’r holl ffilmiau — doeddwn i ddim yn sylweddoli bod yna’r fath gyfoeth o ddeunydd ar gyfer yr hen a’r ifanc fel ei gilydd. Oeddech chi’n gwybod, er enghraifft, taw Roald Dahl greodd gymeriad y ‘Child Catcher’ yn Chitty Chitty Bang Bang? A dw i’n dal i glywed cerddoriaeth anhygoel Tales of the Unexpected! Bydd yna rywbeth at ddant pawb a dw i’n falch iawn o allu gweithio gyda thîm mor wych yng Nghanolfan Ffilm Cymru ac yn Chapter er mwyn sicrhau y bydd yn haf i’w gofio.


18

Gyda’r cloc o’r brig: Charlie and the Chocolate Factory, Willy Wonka and the Chocolate Factory, Matilda

Ffilm

029 2030 4400


chapter.org

Ffilm

Charlie and the Chocolate Factory

Willy Wonka and the Chocolate Factory

Sad 6 (Stinky Flicks*) Sul 7 + Maw 9 Awst

Llun 15 Awst

UDA/2005/115mun/PG. Cyf: Tim Burton. Gyda: Johnny Depp, Freddie Highmore, David Kelly, Helena Bonham Carter.

Mae’r Willy Wonka preifat a gwallgo’ yn caniatáu i bum plentyn gael pip y tu mewn i’w ffatri siocled enwog ar ôl degawdau o weithio yn y dirgel. Un o’r plant lwcus yw’r bachgen tlawd ond hael, Charlie Bucket. Dim ond unwaith y flwyddyn y mae ganddo ddigon o arian i brynu bar o siocled — ar ddiwrnod ei ben-blwydd. * Nodwch os gwelwch yn dda y bydd y dangosiad am 3pm ar Sad 6 Awst yn ddangosiad rhyngweithiol, yn rhan o ‘Stinky Flicks’. Trowch i dudalen 14 i weld y manylion yn llawn.

Crafu ac arogli: Matilda Gwe 12 – Sul 14 Awst UDA/1996/98mun/PG Cyf: Danny DeVito. Gyda: Mara Wilson, Pam Ferris, Danny DeVito.

Mae’r Wormwoods anobeithiol ac anfoesgar yn rhieni i ferch fach hyfryd o’r enw Matilda — sydd hefyd yn digwydd bod yn athrylith. Mae hi’n cael ei hanwybyddu adre’ ac yn treulio’i hamser yn darllen yr holl lyfrau yn y llyfrgell leol. Yna caiff ei hanfon i Crunchem Hall, ysgol hunllefus dan arweiniad y Miss Trunchbull sadistaidd. Yn y fan hon daw ei galluoedd i’r amlwg, ac mae ei phŵer ymenyddol a’i phwerau telecinetig yn denu sylw yr athrawes garedig ac addfwyn, Miss Honey. + Ymunwch â ni am ddangosiad gyda chardiau ‘crafu ac arogli’ arbennig.

I DDOD YN FUAN!

Dangosiad oddi ar y brif safle, yn Ffatri Siocled Cymreig Wickedly! Sad 3 Medi

Ar y cyd â’n ffrindiau yn Theatr y Torch a’r siocledwyr Cymreig, Wickedly, o Hwlffordd, byddwn yn dangos ffilmiau ac yn mwynhau danteithion siocledaidd, arddangosiadau a gweithdai i’r teulu cyfan. I gael mwy o wybodaeth ewch i: www.chapter.org/wickedlywonka

19

UDA/1971/100mun/U. Cyf: Mel Stuart. Gyda: Gene Wilder, Jack Albertson, Peter Ostrum.

Mae’r byd yn syfrdan pan gyhoedda Willy Wonka, a fu’n feudwy ers blynyddoedd, y bydd pump o bobl lwcus yn cael mwynhau taith o amgylch ei ffatri a gweld holl gyfrinachau ei losin anhygoel. Ac fe fydd un o blith y pump hynny yn ennill cyflenwad oes o siocled! Does neb eisiau’r wobr yn fwy na’r Charlie ifanc ond, â’i deulu mor dlawd fel bod hyd yn oed un bar o siocled yn wledd, mae hi’n annhebygol iawn y daw ef o hyd i docyn euraid lwcus ... Ond mae hud a lledrith yn gallu bodoli ac mae Charlie yn cael ei gyfle, ynghyd â phedwar o blant – atgas – eraill.

Fantastic Mr Fox Sad 20, Sul 21 + Maw 23 Awst UDA/2009/97mun/PG. Cyf: Wes Anderson. Gyda: George Clooney, Meryl Streep, Bill Murray.

Mae’r Mr Fox cyfrwys a beiddgar yn colli ei gynffon ar ôl dod ar draws triawd ffiaidd o ffermwyr, Boggis, Bunce a Bean — un tew, un byr a’r llall yn fain. Mae Mr Fox yn bell o fod yn sant ei hun, wrth gwrs — roedd ganddo yrfa lewyrchus fel lleidr ieir tan i bethau fynd yn rhy beryglus, ac roedd yn rhaid iddo gadw hynny’n gyfrinach rhag y Mrs Fox barchus. Ag yntau’n wynebu cael ei garcharu dan ddaear, mae e’n ysgogi ei gydanifeiliaid i godi i fyny yn erbyn y ffermwyr ynfyd. Mae fersiwn Wes Anderson o stori glasurol Dahl yn llawn steil drygionus ac animeiddio ‘stop-motion’ syfrdanol ac idiosyncratig.

James and the Giant Peach Sad 27, Sul 28 + Maw 30 Awst DG/1996/89mun/U. Cyf: Henry Selick. Gyda: Paul Terry, Joanna Lumley, Richard Dreyfuss.

Mae bywyd hapus James mewn pentref ar lan y môr yn Lloegr yn dod i ben yn sydyn pan gaiff ei rieni eu lladd gan rinoseros twyllodrus. Rhaid iddo fynd i fyw gyda’i ddwy fodryb erchyll. Ar ôl achub bywyd pry copyn, mae e’n cael gafael ar dafodau crocodeil hudol ac mae eirinen wlanog enfawr yn dechrau tyfu yn yr ardd. Ar ôl mentro y tu mewn iddo, mae e’n cyfarfod nid yn unig â’r pry cop ond â nifer o ffrindiau newydd sy’n cynnwys buwch goch gota hyfryd a neidr gantroed goeglyd sy’n ei helpu i roi ar waith ei gynllun i gyrraedd Efrog Newydd. Teyrnged hoffus i athrylith hynod Dahl.


20

Ffilm

029 2030 4400

OGYMRU

Chapter a Chanolfan Ffilm Cymru yn Sinemaes, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Y Fenni Sad 30 Gorffennaf — Sad 6 Awst Mae uchafbwyntiau ein rhaglen yn cynnwys dangosiad o Gwaed ar y Sêr gyda chyfeiliant cerddorol gan H Hawkline, pecyn o ffilmiau byrion o archif ACSSC a dangosiad o Hedd Wyn gyda Cowbois Rhos Botwnnog. Bydd BAFTA Cymru, S4C, ITV Cymru, Into Film, Cymdeithas Ffilm Y Fenni, Y Gymdeithas Deledu Frenhinol ac eraill yn ymuno â ni hefyd yn y Sinemaes. Mae digwyddiadau’r Sinemaes yn rhad ac am ddim ond bydd angen tocyn i Faes yr Eisteddfod arnoch er mwyn gallu mynychu. Gweler eisteddfod.cymru am fanylion

CYMDEITHAS FFILM Y FENNI YN CYFLWYNO: Llwybrau’r Cof — Y Gymru Wledig ar Ffilm Y Syrcas Sad 30 Gorffennaf — Sad 6 Awst (amseroedd amrywiol)

O bortreadau o fywyd gwledig a phentrefol i ddathliadau cymunedol, o hwyl y ffair i wefr yr Eisteddfod, aeth camerâu Cymreig ati o Fôn i Fynwy i recordio agweddau ar fywyd ymhell o ‘newsreels’ Hollywood. Detholiad o ffilmiau o gasgliad Archif Cenedlaethol Sgrin a Sain Cymru a chipolwg prin ar rai o gymeriadau a chymunedau Cymru’r 20fed ganrif.

Sad 30 Gorffennaf 5.30pm

Cymru/2013/107mun/PG. Cyf: Kevin Allen. Gyda: Saran Morgan, Damola Adelaja, Aneirin Hughes.

Mae syrcas deithiol yn ymweld â Thregaron yn y 19eg ganrif ac yn cynnig mwy o lawer nag adloniant i Sara, merch ifanc sydd wedi’u caethiwo gan reolau llym a chrefydd ei thad galarus a hynny mewn pentref wedi’i drwytho mewn ofergoeliaeth. Stori i gynhesu’r galon am berthynas y dref â chriw’r syrcas ac â Jwmbi, eliffant a fu farw ac a gladdwyd, yn ôl pob sôn, y tu ôl i Westy’r Talbot, Tregaron, ym 1848. + Popeth yn Gymraeg (13mun) Pennod o’r rhaglen boblogaidd sy’n dilyn Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, i’r Fenni, wrth iddo geisio teithio ar hyd a lled Cymru yn siarad dim ond Cymraeg.

Y Syrcas

Ymunwch â ni i ddathlu’r diwylliant ffilm Cymraeg ac i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr ffilm mewn lleoliad newydd sbon ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, ein dathliad cenedlaethol o’r bywyd Cymraeg. Yn rhan o gydweithrediad Chapter a Chanolfan Ffilm Cymru gyda chynllun ‘Prydain ar Ffilm’ y BFI, byddwn yn dathlu straeon Cymraeg ar ffilm ac yn cael cipolwg ar y talentau sy’n gwneud y gweithiau hynny, yn ffilmiau nodwedd a ffilmiau cartref fel ei gilydd. Bydd yr holl ddigwyddiadau hyn yn Gymraeg a bydd is-deitlau Saesneg ar gael mewn mannau.


chapter.org

Ffilm

21

Hedd Wyn

Maw 2 Awst 6pm Mae bardd ifanc yng Ngogledd Cymru yn cystadlu am gadair yr Eisteddfod Genedlaethol dan ei enw barddol, Hedd Wyn. Ond cyn seremoni’r cadeirio, caiff ei anfon i ymladd, ar y cyd â’r Saeson, yn ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae sinematograffi godidog y ffilm yn cyferbynnu harddwch cartref y bardd ym Meirionnydd ag erchyllterau Passchendaele. Portread ingol o oferedd rhyfel a’r ffilm gyntaf o Gymru i gael ei henwebu am Oscar y Ffilm Iaith Dramor Orau. + Ymunwch â ni am gyflwyniad gan Cowbois Rhos Botwnnog a Mari Lloyd Pritchard am brosiect cerddorol Hedd Wyn, a fydd yn rhan o gyngerdd agoriadol Eisteddfod 2017.

Y Chwarelwr Iau 4 Awst 12.30pm

Cymru/1935/60 mun/PGarf. Cyf: Ifan ab Owen Edwards, Ifor ap Glyn. Gyda: Robert Jones.

Roedd y ‘talkie’ cyntaf yn yr iaith Gymraeg yn anghyflawn, a’r rîl olaf ar goll, ond yn 2006 aeth y gwneuthurwr ffilmiau Ifor ap Glyn ati i ail-greu’r darnau coll gyda chymorth actorion cyfoes a sgôr newydd, er mwyn cyflwyno’r ffilm i gynulleidfaoedd newydd. + Ymunwch â ni am gyflwyniad i’r dangosiad yng nghwmni Ifor ap Glyn.

Gwaed ar y Sêr Iau 4 Awst 4pm

Cymru/1975/60mun/15arf. Cyf: Wil Aaron. Gyda: Grey Evans, Hywel Gwynfryn, Dafydd Iwan, Barry John.

Trefnir i grŵp o enwogion ymddangos mewn cyngerdd mewn neuadd bentref. Ond mae dyn oedrannus a’i gôr o blant ysgol yn ofni y bydd yr enwogion yn dwyn y sylw i gyd — felly maent yn mynd ati i atal yr ymddangosiad drwy lofruddio’r sêr ... Cyflwynir y ffilm yn Gymraeg heb is-deitlau ac fe fydd yna ddehongliad cerddorol byw gan H Hawkline.

“ Cyfuniad o The Wicker Man, Celebrity Big Brother a ffilm ‘slasher’ ” Gruff Rhys

Cefnogir ‘Prydain ar Ffilm’ gan Unlocking Film Heritage sydd yn dosbarthu arian Y Loteri Genedlaethol. Rhan o gynllun ‘Prydain ar Ffilm’ y BFI — bfi.org.uk/britain-on-film

Y Llyfrgell

Cymru/1993/123mun/12A. Cyf: Paul Turner. Gyda: Huw Garmon, Sue Roderick, Judith Humphreys.

Y Llyfrgell

Gwe 5 — Iau 11 Awst Cymru/2016/87mun/is-deitlau/15. Cyf: Euros Lyn. Gyda: Catrin Stewart, Dyfan Dwyfor, Ryland Teifi.

Ar ôl i’r awdures enwog Elena Wdig gyflawni hunanladdiad, mae ei merched, yr efeilliaid, Nan ac Ana, sydd yn llyfrgellwyr, yn eu cael eu hunain ar goll yn llwyr. Mae geiriau olaf Elena yn awgrymu taw ei chofiannydd, Eben, a’i llofruddiodd hi. Yn ystod shifft nos, mae’r efeilliaid yn cychwyn ar gwest am ddialedd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ond yn cael eu hatal gan y porthor, Dan, sy’n dod yn rhan o’r saga yn erbyn ei ewyllys. + Ymunwch â ni am sesiwn holi-ac-ateb gyda’r cast a’r criw ar Gwe 5 Awst.

Moviemaker Chapter Llun 8 Awst

Sesiwn reolaidd sy’n caniatáu i gyfarwyddwyr annibynnol ddangos eu ffilmiau byrion. I gael mwy o wybodaeth am ddangos eich ffilm chi neu unrhyw fanylion eraill, e-bostiwch moviemaker@chapter.org. O bryd i’w gilydd, dangosir ffilmiau sy’n cynnwys deunydd anaddas i bobl iau. Awgrymwn, felly, bod sesiynau Moviemaker Chapter yn addas ar gyfer pobl 18+ oed. RHAD AC AM DDIM

BAFTA CYMRU YN CYFLWYNO:

Android in La La Land Mer 10 Awst

DG/2016/125mun/15. Cyf: Steve Read, Rob Alexander.

Ar ddiwedd y 1970au, dechreuodd y pync ifanc, o Tubeway Army, Gary Webb, arbrofi gyda thechnolegau newydd, ac ailddyfeisio’i hun fel ‘Gary Numan’ a chwyldroi cerddoriaeth â’i synau dyfodolaidd. Drwy gyfrwng y tirwedd sonig newydd hwn, datblygodd bersona robotig, di-emosiwn – a hynny, meddai wedyn, yn ganlyniad i ddiagnosis o syndrom Asperger. Ar ôl brwydrau ag iselder, aeth trwy gyfnod hesb, cyn syrthio mewn cariad gyda un o’i ffans mwyaf, a’i helpodd i ailddarganfod ei gariad at gerddoriaeth. + Sesiwn holi-ac-ateb ar ôl y dangosiad gyda’r cynhyrchydd a’r cyd-gyfarwyddwr, Rob Alexander.


22

Ffilm

029 2030 4400

Gyda’r cloc o’r brig: Sid & Nancy, High-Rise, Elvis & Nixon

Sineffonig yw ein detholiad rheolaidd o ffilmiau am gerddoriaeth. Mae’r cymysgedd eclectig yn cynnwys ffilmiau sydd naill ai’n trin a thrafod cerddoriaeth a cherddorion yn uniongyrchol neu ffilmiau a chanddynt sgôr sain ardderchog.

Sid & Nancy

Suburra

DG/1986/112mun/18. Cyf: Alex Cox. Gyda: Gary Oldman, Chloe Webb, David Hayman.

Yr Eidal/2016/130mun/is-deitlau/18. Cyf: Stefano Sollima. Gyda: Pierfrancesco Favino, Greta Scarano, Jean-Hughes Anglade.

Caiff Sid Vicious ei arestio yn y Chelsea Hotel yn Manhattan ar ôl marwolaeth sydyn a thrasig Nancy. Trwy gyfres o ôl-fflachiadau gwelwn hanes eu perthynas, eu cariad, a’r berthynas dymhestlog, dan ddylanwad heroin, a arweiniodd at wrthdaro rhwng Sid a gweddill y Sex Pistols. Yn llawn o gynddaredd a sŵn, mae ffilm gwlt Cox yn bortread o stori garu eiconig cenhedlaeth herfeiddiol.

Yn yr hen Rufain roedd ardal y Suburra yn llawn puteindai ble’r âi seneddwyr bonheddig i gyfarfod â throseddwyr i wneud busnes. Ddwy fil o flynyddoedd yn ddiweddarach, does dim llawer wedi newid yn y ddinas ac mae’r Eidal ar drothwy cwymp economaidd. Mae glaw trwm, ymddiorseddiad y Pab a sgôr egnïol gan y cerddorion electro M83 fel petaent yn arwyddo apocalyps wrth i’r wladwriaeth, y Fatican, y maffia, rheolwr cysylltiadau cyhoeddus anfoesol a phartïon VIP ddod at ei gilydd i greu anhrefn.

Gwe 5 — Iau 11 Awst

Elvis & Nixon

Gwe 12 — Iau 18 Awst UDA/2016/86mun/15. Cyf: Liza Johnson Gyda: Michael Shannon, Kevin Spacey, Alex Pettyfer.

Mae ffans o ddiwylliant poblogaidd a’r abswrd ’ ledled y byd yn trysori’r diwrnod ym mis Rhagfyr 1970 pan wahoddwyd Elvis Presley i’r ‘Oval Office’ i gwrdd â’r Arlywydd Richard Nixon. Wedi’i hysbrydoli gan y ffotograff eiconig o’r ddau yn ysgwyd llaw, mae’r ffilm hon yn fersiwn swrrealaidd o gyfarfod tyngedfennol rhwng dau o ffigurau mwyaf yr 20fed ganrif.

Gwe 19 — Iau 25 Awst

High-Rise Llun 22 Awst — Iau 1 Medi DG/2015/112mun/15. Cyf: Ben Wheatley. Gyda: Tom Hiddleston, Luke Evans, Jeremy Irons, Sienna Miller, Elizabeth Moss.

Mae Dr Robert Laing yn symud i floc o fflatiau moethus ac yn cael ei hudo gan ei fywyd cymdeithasol newydd, sy’n troi o amgylch y pensaer, Royal. Daw diffygion i’r amlwg yn strwythur yr adeilad ac mae craciau yn ymddangos hefyd yn y gwead cymdeithasol wrth i bartïon soffistigedig ildio i oferedd a distryw. Addasiad hir-ddisgwyliedig o waith dychanol ffyrnig a gwych JG Ballard am ddiwylliant o ormodedd a phrynwriaeth.


Ffilm

The Commune

The Nice Guys

23

Gyda’r cloc o’r brig: Chevalier, The Nice Guys, The Commune

chapter.org

Gwe 29 Gorffennaf — Iau 4 Awst

Gwe 5 — Iau 11 Awst

Denmarc/2015/111mun/15/is-deitlau/15. Cyf: Thomas Vinterberg. Gyda: Ulrich Thomsen, Trine Dyrholm, Fares Fares.

UDA/2016/116mun/15. Cyf: Shane Black. Gyda: Russell Crowe, Ryan Gosling, Angourie Rice.

Yn Copenhagen yn y 1970au, mae cwpwl dosbarth canol a chanol oed o’r enw Anna ac Erik yn etifeddu tŷ mawr ac yn penderfynu symud yno gyda’u merch, Freja, sydd yn ei harddegau, a’i droi yn gomiwn i’w cydnabod a’u ffrindiau. Ond ar ôl cychwyn ar hyd y llwybr beiddgar hwn, mae eu bywydau personol yn cyrraedd pwynt argyfyngus. Drama gyfoethog sy’n cynnwys perfformiadau canolog anhygoel.

Mae March a Healy mor wahanol ag y gallan nhw fod; dau dditectif preifat yn Los Angeles y 1970au sydd yn gorfod datrys dirgelwch marwolaeth actores bornograffig yn y Misty Mountains. Ar ôl cael eu hunain mewn gwe gymhleth o theorïau a swyddogion, dim ond merch adolesent March sydd fel petai’n sylweddoli beth sy’n digwydd mewn gwirionedd.

Chevalier Gwe 29 Gorffennaf — Iau 4 Awst Gwlad Groeg/2016/105mun/is-deitlau/18. Cyf: Athina Rachel Tsangari. Gyda: Giannis Drakopoulos, Kostas Filippoglou, Yiorgos Kendros.

Yng nghanol y Môr Egeaidd, mae chwe dyn, sydd ar daith bysgota ar gwch hwylio moethus, yn penderfynu chwarae gêm. Comedi abswrd ’ ac astudiaeth ddiddorol a chraff o’r ysbryd cystadleuol, lle caiff cyfeillgarwch – a diffygion – y cymeriadau eu gosod dan y chwyddwydr.

“ Fesul golygfa, mae’r ffilm yn bortread o grŵp sydd mor dawel, mor dreisgar ac, yn y pen draw, mor ddi-ildio â’r môr mawr ei hun” Los Angeles Times

Jason Bourne Gwe 12 — Iau 25 Awst UDA/2016/123mun/12A. Cyf: Paul Greengrass. Gyda: Matt Damon, Alicia Vikander, Julia Stiles.

Rai blynyddoedd yn ôl, llwyddodd asiant mwyaf peryglus y CIA, Jason Bourne, i ddatgelu bodolaeth rhaglen ddirgel Treadstone a sicrhau bod y rheiny a oedd yn gyfrifol amdani yn mynd o flaen eu gwell. Yna diflannodd. Nawr, mae e wedi ymddangos ar y llwyfan byd-eang eto — ond does neb yn gwybod pam. Mae e’n cofio popeth am ei orffennol, ond dyw hynny ddim yn golygu ei fod yn gwybod unrhyw beth am y dyfodol.


24

Ffilm

029 2030 4400

O’r chwith i’r dde: The Confession, The Neon Demon

O’R RIL I’R REAL

Weithiau mae bywyd go iawn mor rhyfedd a hudolus bob tamaid â ffilm Hollywood. ‘O’r Rîl i’r Real’ yw ein rhaglen reolaidd o ffilmiau dogfen ac mae’n fodd i ddangos digwyddiadau a phobl gwirioneddol hynod ar y sgrin fawr.

The Hard Stop Gwe 5 — Iau 11 Awst DG/2016/85mun/15. Cyf: George Amponsah.

Yn 2011, cafodd Mark Duggan, 29 oed, ei saethu’n farw gan heddlu Operation Trident yn Tottenham Hale, Llundain, yn y gred ei fod yn cario gwn. Ddeuddydd yn ddiweddarach, trodd gwrthdystiad y tu allan i’r orsaf heddlu leol yn derfysg – yn Llundain yn y lle cyntaf ac yna mewn sawl man ar hyd a lled Lloegr dros y pum niwrnod nesaf. Mae’r ffilm ddogfen amserol ac urddasol hon yn ymgodymu â goblygiadau’r aflonyddwch sifil gwaethaf yn hanes diweddar Prydain a’r effeithiau personol, a anwybyddwyd, i raddau helaeth, gan y cyfryngau prif ffrwd.

The Confession Mer 10 Awst

DG/2016/90mun/TiCh. Cyf: Ashish Ghadiali.

O’i gyfnod yn cefnogi’r Mujahideen yn Bosnia i’w garchariad yn Bagram ac yn Guantanamo, ac o wersylloedd hyfforddi gwrthryfelwyr yn Syria i gelloedd carchar Belmarsh ym Mhrydain, treuliodd Moazzam Begg genhedlaeth gyfan yn ymwneud â gwrthdaro. Dyma’i stori ef, wedi’i hadrodd yn y person cyntaf. Mae’n croniclo datblygiad cyfoes jihad, ei adleoliad i fyd terfysgaeth ac ymateb trychinebus y Gorllewin i’r cwbl. + Ymunwch â ni am sesiwn holi-ac-ateb gyda Moazzam Begg ar Mer 10 Awst.

The Neon Demon Gwe 12 — Iau 18 Awst UDA/2016/117mun/18. Cyf: Nicolas Winding Refn. Gyda: Elle Fanning, Christina Hendricks, Keanu Reeves.

Ar ôl i’r ingénue Jesse â’i chroen dilychwin symud i Los Angeles, daw ei hieuenctid a’i hegni yn destun cenfigen grŵp o ferched a chanddynt obsesiwn â harddwch. Mae’r merched hynny’n fodlon gwneud unrhyw beth i gael yr hyn sydd gan Jesse. Yn llinach ‘Mullholland Drive’ David Lynch, mae hon yn ffilm arswyd swrrealaidd gan gyfarwyddwr Drive ac Only God Forgives.

Remainder Gwe 12 — Iau 18 Awst DG/2016/103mun/15. Cyf: Omer Fast. Gyda: Tom Sturridge, Cush Jumbo, Ed Speleers.

Caiff Tom ei chwalu’n feddyliol ar ôl cael ei daro gan falurion oddi fry. Wrth iddo geisio gwella, mae e’n derbyn arian iawndal ac yn defnyddio ei ffortiwn newydd i ymwneud â’i obsesiwn — ail-greu ei orffennol. Addasiad gan yr artist fideo nodedig, Omer Fast, o’r nofel gan Tom McCarthy sydd yn fyfyrdod penfeddwol ar y cof a chofio.


chapter.org

Ffilm

25

Gyda’r cloc o’r brig: Soil is History, Cadenza, The Sky Trembles and the Earth Is Afraid and the Two Eyes Are Not Brothers

CELFYDDYD + FFILM

The Sky Trembles and the Earth Soil is History 30 Awst Is Afraid and the Two Eyes Are Maw Ffrainc + Portiwgal/2013-2015/93mun/12A. Cyf: Louis Henderson, Filipa César. Not Brothers Maw 16 Awst

DG/2015/95mun/12A. Cyf: Ben Rivers.

Dehongliad o stori Paul Bowles am ddyn Ewropeaidd a gaiff ei herwgipio a’i orfodi i ddawnsio er mwyn difyrru’r troseddwyr. Mae’r ffilm hon yn cymylu’r llinell rhwng ffuglen a dogfen ac yn archwilio’r realiti a grëir yn ystod y broses o wneud ffilmiau. Cyflwynir gweledigaeth newydd ar sail gweddillion diwylliannol criwiau ffilmiau gorllewinol sy’n defnyddio tirwedd a phobl Moroco i greu bydoedd dychmygol.

Cadenza Iau 25 Awst

DG + UDA/1976-2015/70mun/12A. Cyf: Tony Conrad, Beatrice Gibson, Laida Lertxundi, Mary Helena Clark.

Rhaglen o ffilmiau gan artistiaid wedi’i churadu gan Beatrice Gibson. Archwilir haniaethiad fel pwnc a ffurf, a rhoddir sylw hefyd i gerddoriaeth, arian, rhifau a naratif drwy gyfrwng sinema arbrofol.

Mae’r tair ffilm yn y rhaglen deithiol hon yn dadlau na ddaeth gwladychiaeth i ben o gwbl a’i fod, yn hytrach, wedi mynd dan ddaear; hynny yw, nid y tir ei hun a gaiff ei ecsbloetio bellach ond yr adnoddau a’r mwynau yn ei grombil. + Ymunwch â ni am sesiwn holi-ac-ateb gyda Filipa César ar ôl y ffilm.

Wildwood NJ Mer 31 Awst

UDA/1994/60mun/dim tyst. Cyf: Ruth Leithman, Carol Weaks Cassidy.

Wedi’i saethu ar ffilm Super 8, aeth y gwneuthurwyr ffilmiau Leitman a Cassidy ar hyd llwybrau pren y ‘Jersey Shore’ er mwyn ceisio gweld y tu hwnt i’r ystrydebau a chael cip ar eneidiau’r menywod a godwyd ar reidiau ffair, goleuadau a ‘come-ons’. Fe ddaethon nhw ar draws neiniau, ‘go-go girls’ a merched ‘tween’ amddifad gan gofnodi eu gobeithion a’u breuddwydion. + Ymunwch â ni am gyflwyniad arbennig gan y cyfarwyddwr, Ruth Leitman.


Ffilm

029 2030 4400

O’r chwith i’r dde: Stalker, Nostalgia

26

Arolwg o Yrfa Tarkovsky: Cerflunio Amser Un o’r gwneuthurwyr ffilmiau mwyaf gwreiddiol, dylanwadol a nodedig yn holl hanes y sinema. Dim ond saith o ffilmiau nodwedd a gwblhawyd gan Andrei Tarkovsky cyn ei farwolaeth annhymig yn 54 oed. Nodweddir y rheiny gan archwiliadau metaffisegol ac ysbrydol o’r cyflwr dynol ac mae pob un o’i ffilmiau yn gampwaith artistig; gweithiau o harddwch gweledol eithriadol a rhai o glasuron digamsyniol y gelfyddyd sinematig.

Mirror

Nostalgia

Sul 7 + Maw 9 Awst

Sul 21 + Maw 23 Awst

Rwsia/1975/107mun/is-deitlau/U. Cyf: Andrei Tarkovsky. Gyda: Margarita Terekhova, Filipp Yankovskiy, Ignat Daniltsev.

Rwsia/1983/120mun/is-deitlau/12A. Cyf: Andrei Tarkovsky. Gyda: Oleg Yankovskiy, Erland Josephson, Domiziana Giordano.

Gwaith mwyaf hunangofiannol Tarkovsky lle mae haenau o fywyd go iawn — mae tad y cyfarwyddwr yn darllen ei gerddi ei hun ar y trac sain a’i fam yn ymddangos hefyd – yn cydblethu ag atgofion o blentyndod, breuddwydion a hunllefau. Mae i’r ffilm berthnasedd anghyffredin ac oesol – mae’r dilyniant agoriadol o fachgen yn cael trin ei atal dweud â hypnotiaeth yn rhyfeddol, felly hefyd yr olygfa mewn argraffdy, sydd fel petai’n crisialu cyfnod Stalin.

Ar ôl cyrraedd sba mewn pentref Tysganaidd gyda Eugenia, ei gyfieithydd Eidalaidd hardd, mae’r bardd, Gorchakov, yn cael ei blagio gan atgofion am Rwsia a’i wraig a’i blant. Mae e’n cyfarfod â’r cyfrinydd lleol, sydd yn rhoi tasg heriol iddo. Mae’r ffilm yn llawn delweddau dirgel a rhyfeddol, sydd yn dod at ei gilydd i greu cyfanwaith gwyrthiol — natur, tân a dŵr, cerddoriaeth, peintio a barddoniaeth.

Stalker Sul 14 + Maw 16 Awst Rwsia/1980/162mun/is-deitlau/PG. Cyf: Andrei Tarkovsky. Gyda: Alisa Freyndlikh, Alexsandr Kaydanovskiy, Anatoliy Solonitsyn.

Yn nyfnderoedd y ‘Zone’ — man gwaharddedig a llwm — mae yna ystafell ddirgel ag ynddi’r pŵer i wireddu dyheadau dyfnaf y rheiny sydd yn ddigon cryf i gwblhau’r daith beryglus i’r fan. Yn benderfynol o gyrraedd yno, mae gwyddonydd a llenor yn mynd at y Stalker, un o’r ychydig rai sydd yn adnabod tir bygythiol y ‘Zone’, Maent yn cychwyn ar daith beryglus tuag at ben draw anhysbys.

The Sacrifice Sul 28 + Maw 30 Awst Rwsia/1988/149mun/is-deitlau/12A. Cyf: Andrei Tarkovsky. Gyda: Erland Josephson, Susan Fleetwood, Allan Edwall.

Mae actor wedi ymddeol o’r enw Alexander yn dathlu ei ben-blwydd gyda’i deulu a’i ffrindiau pan ddarlledir rhybudd ar y teledu am drychineb niwclear. Mae e’n gwneud addewid i Dduw y bydd yn aberthu pob peth sydd yn annwyl ganddo os gellir osgoi’r drychineb. Y bore nesaf — ac fel petai’r cyfan yn freuddwyd — mae popeth yn normal eto. Ond mae’n rhaid i Alexander gadw ei adduned.


Ffilm

27

Les Cowboys

Adult Life Skills

Fri 19 — Iau 25 Awst

Gwe 26 Awst — Iau 1 Medi

Ffrainc/2016/104mun/is-deitlau/12A. Cyf: Thomas Bidegain. Gyda: François Damiens, Finnegan Oldfield, Agathe Dronne, John C. Reilly.

DG/2016/94mun/15. Cyf: Rachel Tunnard. Gyda: Jodie Whittaker, Lorraine Ashbourne, Brett Goldstein.

O’r chwith i’r dde: Les Cowboys, Adult Life Skills

chapter.org

Yn y Ffrainc gyfoes, mae Alain yn ymddiddori yn yr Hen Orllewin ac yn cychwyn ar daith 16 mlynedd o hyd i ddod o hyd i’w ferch, Kelly, sydd wedi rhedeg i ffwrdd a chael tröedigaeth i Islam. Wrth iddo deithio i Affganistan mae e’n cwrdd â milwr cyflog ac yn ceisio dilyn trywydd ei ferch — ond does yna ddim sicrwydd nad yw hi wedi newid yn gyfan gwbl yn y cyfamser. Fersiwn newydd ysigol ac eliptig o glasur John Ford, The Seachers. Os ydy Les Cowboys yn apelio mae’n bosib y byddwch yn mwynhau The Confession (t24) hefyd.

The Wait Gwe 26 Awst — Iau 1 Medi Yr Eidal/2016/100mun/is-deitlau/12A. Cyf: Piero Messina. Gyda: Juliette Binoche, Giorgio Colangeli, Lou de Laâge.

Mae Anna’n byw ar ystâd a arferai berthyn i deulu ei chyn ŵr. Mae Jeanne, cariad ei mab, yn dod i ymweld ond yn cyrraedd ar adeg sydd yn drasig o anghyfleus. Pan ffonia o’r maes awyr, mae Anna yn rhoi gwybod iddi bod ei chariad – mab Anna — wedi marw mewn damwain. Mae delweddaeth grefyddol a statws Sisili fel cartref i gwerylon gwaedlyd hynafol, ynghyd â defodau canoloesol a thrasiedïau’r Hen Roeg, yn plethu yn ei gilydd mewn melodrama brydferth am alar mam. Ac mae perfformiad Juliette Binoche yn syfrdanol.

Yn dilyn marwolaeth ei gefell, mae Anna’n treulio’i hamser mewn byd ffantasi, heb rhyw lawer o bwrpas, yn sied ei mam. Ond daw ei bywyd i ffocws wrth iddi nesu at ei phen-blwydd yn 30 oed a chwrdd â hen ffrind ysgol. Ffilm chwareus, chwerw-felys am geisio ymdopi â bywyd ar ôl marwolaeth.

A Bigger Splash Sad 20 — Mer 31 Awst Yr Eidal/2015/120mun/15. Cyf: Luca Guadagnino. Gyda: Tilda Swinton, Ralph Fiennes, Dakota Johnson, Matthias Schoenaerts.

Mae Marianne yn seren roc ac yn gwella ar ôl llawdriniaeth ar ei chordiau lleisiol. Mae hi ar ynys ym Môr y Canoldir gyda’i chariad, y gwneuthurwr ffilmiau, Paul. Yn gwbl annisgwyl, mae cyn-gariad iddi, Harry, a’i ferch hardd ond pigog ef yn ymddangos yn y fila. Drama seicolegol bryfoclyd sy’n llawn rhamant, cenfigen a chynllwynion di-foes.

“ Coctel o emosiynau dwys, tirweddau trosgynnol a throeon annisgwyl... gwledd go iawn” Andrew Pulver, Guardian


Ffilm

029 2030 4400

POUTFest

Goreuon y flwyddyn hyd yn hyn

O’r chwith i’r dde: Closet Monster, Room

28

Mae POUTFest yn dychwelyd am flwyddyn gyffrous arall. Drwy gyfrwng y thema ‘Taith drwy amser’, bydd yr ŵyl yn cyflwyno ffilmiau sy’n archwilio bywyd LHDT mewn gwahanol gyfnodau.

POUT: Closet Monster Maw 9 Awst

Canada/2016/90mun/TiCh. Cyf: Stephen Dunn. Gyda: Connor Jessup, Isabella Rossellini.

Mae Oscar Madly, gŵr ifanc creadigol a phenderfynol, yn dyst i ymosodiad gwrth-hoyw creulon — sydd yn parlysu’r dioddefwr o’r canol i lawr. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, mae dyheadau rhywiol eginol Oscar yn deffro ar ôl iddo gyfarfod â’r Wilder carismatig. Ond mae’r deffroad hwn yn cyd-fynd â fflachiadau o’r erchylltra sy’n dal i feddiannu’i feddwl. Gyda chymorth ei fochdew anwes, Buffy, sy’n gallu siarad, mae Oscar yn dechrau ar daith o hunan-ddarganfyddiad yn y portread dychmygus, tywyll a chomig hwn o ddod allan.

Summertime Gwe 26 Awst — Iau 1 Medi Ffrainc/2016/105mun/is-deitlau/15. Cyf: Catherine Corsini. Gyda: Cécile De France, Izia Higelin, Noémie Lvovsky.

Yn ystod haf poeth 1971, mae Delphine, sy’n dod o gymuned wledig geidwadol, yn cwrdd â’r Carole fydol mewn protest ffeministaidd ym Mharis. Ond caiff eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol, mewn byd cosmopolitan a mwy cyfartal, eu chwalu pan ddaw trasiedi i ran teulu Delphine a hithau’n gorfod dychwelyd adref. Stori am gariad, dyhead a theyrngarwch teuluol wedi’i saethu â harddwch a sensitifrwydd mawr. + Ymunwch â ni am gyfarfod o Lavender Screen, ein grŵp trafod ffilm LHDTQ misol, ar ôl y dangosiad ar Sul 28 Awst.

Detholiad o ffilmiau gwobrwyol y mae hi’n werth eu gweld eilwaith (gweler manylion High-Rise ar dudalen 22 ac A Bigger Splash ar dudalen 27).

Room

Gwe 19 Awst — Iau 1 Medi UDA/2015/118mun/15. Cyf: Lenny Abrahamson. Gyda: Brie Larson, Jacob Tremblay, Joan Allen, William H Macy.

Mae nofel Emma Donoghue, a gyrhaeddodd restr fer Gwobr Booker, yn stori am fam a phlentyn sy’n cael eu cadw’n garcharorion am flynyddoedd lawer – stori sy’n adleisio nifer o straeon go iawn. Mae’r fenyw ifanc a’i bachgen pum mlwydd oed (nad yw e erioed wedi byw y tu allan i’r ystafell) yn ffurfio cynllun i ddianc. Ond wedi iddyn nhw gyrraedd y byd y tu allan, cânt eu gorfodi i wynebu rhyfeddod — ac arswyd – eu caethiwed blaenorol. Ffilm ddirdynnol, gyffrous, anhygoel – a charreg filltir i sawl un o’r talentau sydd ynghlwm â hi.

Spotlight Sul 21 Awst — Maw 1 Medi UDA/2015/129mun/15. Cyf: Tom McCarthy. Gyda: Michael Keaton, Rachel McAdams, Mark Ruffalo, Liev Schreiber.

Daw tîm adran newyddiaduraeth ymchwiliol y Boston Globe, dan arweiniad Walter ‘Robby’ Robinson, o hyd i sgandal anhygoel — am yr Eglwys Gatholig a phrosesau systemig ar gyfer cuddio achosion o gamdrin plant. Mae’r ffilm yn ymdrin â phwnc delicet â dwyster a sensitifrwydd ac yn adrodd hanes go iawn sy’n dal i ddatblygu 15 mlynedd yn ddiweddarach.


Robinson Crusoe

chapter.org

Ffilm

Detholiad o ffilmiau gwych sy’n addas i’r teulu cyfan, bob dydd Sadwrn am 11am a 3pm. Rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn.

29

Noddir gan Funky Monkey Feet www.funkymonkeyfeet.co.uk 02920 666688

Carry on Screaming

The Secret Life of Pets

Bob dydd Gwener am 11am, mae Carry On Screaming yn gyfle i rieni neu ofalwyr weld ffilm heb orfod poeni am eu babi’n creu stŵr. Gweler y calendr am fanylion y dangosiadau arbennig hyn i bobl â babanod dan flwydd oed.

Fri 19 — Iau 25 Awst

Robinson Crusoe Gwe 5 — Iau 11 Awst

Gwlad Belg/2016/90mun/PG. Cyf: Vincent Kesteloot, Ben Stassen. Gyda: Ron Allen, George Babbit, Laila Berzins.

Ar ynys egsotig fechan, mae parot allblyg o’r enw Tuesday yn byw mewn paradwys gyda’i ffrindiau. Ond mae e’n breuddwydio am weld y byd. Ar ôl storm ddifrifol, mae Tuesday a’i ffrindiau’n dod o hyd i greadur rhyfedd ar y traeth: bod dynol o’r enw Robinson Crusoe. Ac fe allai hwnnw helpu Tuesday i ddianc o’r ynys.

Alice Through the Looking Glass Gwe 12 — Iau 18 Awst UDA/2016/113mun/PG. Cyf: James Bobin. Gyda: Mia Wasikowska, Johnny Depp, Helena Bonham Carter.

Mae Alice yn dychwelyd i fyd hudolus Underland, ond mae’r Mad Hatter mewn cyflwr ofnadwy. Â chymorth ei ffrindiau, rhaid i Alice deithio drwy amser i’w achub ef — ac Underland ei hun — o grafangau’r Frenhines Goch a chreadur cloc-aidd o’r enw Time.

UDA/2016/90 mun/U. Cyf: Chris Renaud, Yarrow Cheney. Gyda: Ellie Kemper, Jenny Slate, Kevin Hart.

Mae bywyd Max fel hoff anifail anwes y teulu yn cael ei droi ben i waered pan ddaw ei berchennog â chi mwngrel blêr o’r enw Duke yn ôl i’r tŷ. Ond mae’n rhaid iddynt anghofio am eu gelyniaeth ar ôl clywed bod cwningen wen annwyl o’r enw Snowball yn ffurfio byddin o anifeiliaid anwes anghofiedig – byddin sy’n benderfynol o ddial ar bob anifail anwes hapus a’i berchennog.

Finding Dory Gwe 26 Awst — Iau 1 Medi UDA/2016/103mun/U. Cyf: Andrew Stanton, Angus MacLane. Gyda: Ellen DeGeneres, Albert Brooks.

Mae’r pysgodyn tang glas cyfeillgar-ond-anghofus, Dory, yn ceisio dod o hyd i’w rieni. Y drafferth yw nad yw hi’n gwybod dim yw dim amdanyn nhw ac mae hi’n anodd dod o hyd i unrhyw wybodaeth ddefnyddiol. Caiff Dory ei sgubo i’r môr gan gerrynt cryf ac mae hi’n arnofio yn ei blaen, i geisio dysgu mwy amdani hi’i hun ac am ei theulu. Trowch i dudalennau 16-19 i weld manylion holl ddangosiadau ‘Roald Dahl ar Ffilm’. Mae gwybodaeth am ein gweithdai haf a’n gweithgareddau wedi’u hysbrydoli gan ambell un o’r ffilmiau hynny ar dudalennau 14-15.


30

Gwybodaeth / Archebu

029 2030 4400

GWYBODAETH Sut i Archebu Tocynnau

Gwybodaeth

Dros y ffôn — ffoniwch ni ar 029 2030 4400. Rydym yn derbyn pob un o’r prif gardiau credyd. Galwch heibio — mae ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o 11am–8.30pm, ac ar y Sul o 3pm–8.30pm. Ar–lein: Gallwch archebu ar www.chapter.org bob awr o’r dydd a’r nos Consesiynau: Mae cyfraddau disgownt ar gael i fyfyrwyr, pobl dros 60 oed, plant, y di–waith, pobl anabl, deiliaid cerdyn MAX ac i Ffrindiau Chapter a deiliaid Cerdyn Chapter. Bydd angen i chi gyflwyno prawf o’ch cymhwyster i dderbyn cyfradd ostyngol. Archebion grŵp: Prynwch 8 tocyn ac fe gewch chi’r 9fed yn RHAD AC AM DDIM. Noder os gwelwch yn dda • dim ond un disgownt y gellir ei ddefnyddio ar unrhyw un adeg • rydym yn hapus i dderbyn archebion ymlaen llaw ond ni allwn gadw tocynnau i’r naill ochr • os cyrhaeddwch chi’n hwyr mae hi’n bosib y cewch chi’ch atal rhag mynychu eich digwyddiad. Cyflwynir rhai o’n ffilmiau â Disgrifiadau Sain ac Is–deitlau Meddal ond nid yw’r wybodaeth hon bob amser ar gael ar adeg argraffu’r cylchgrawn. Gweler ein gwe–fan am fanylion neu piciwch draw i’r Swyddfa Docynnau yn ystod yr wythnos y mae’r ffilm yn cael ei rhyddhau.

Cwmnïau ac Artistiaid Cysylltiedig Mae Chapter yn gartref i gwmnïau theatr, cwmnïau dawns, stiwdios animeiddio, gwneuthurwyr printiau, crochenwyr, dylunwyr graffeg, dylunwyr deunydd symudol, cyfansoddwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, cyhoeddwyr cylchgronau, artistiaid annibynnol a llawer iawn mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.

Sinema Cyn 5pm O 5pm ymlaen Llawn £4.50 (£4.00) £7.90 (£7.20) Disg £3.50 (£3.00) £5.80 (£5.10) Cerdyn + Disg £3.00 (£2.50) £5.00 (£4.50) DISGOWNT DYDD MAWRTH Tocynnau’r holl brif ddangsiadau — £4.40

Gweithdai a Dosbarthiadau Rydym yn cynnal amrywiaeth eang o weithdai dyddiol a dosbarthiadau gydag ymarferwyr annibynnol, gan gynnwys ballet, zumba, ioga, crefft ymladd, massage i fabanod, cerddoriaeth i blant, pilates, tango, fflamenco, ysgrifennu creadigol, gwersi cerddoriaeth a mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.

Sut i gyrraedd Chapter Fe ddewch chi o hyd i ni yn Nhreganna, i’r gorllewin o ganol y ddinas. Heol y Farchnad, Treganna, Caerdydd CF5 1QE Ar Droed Mae hi’n daith gerdded hamddenol o ryw 20 munud o ganol y ddinas. Ar Fws Mae bysus rhif 17, 18 a 33 yn aros gerllaw ac yn gadael bob pum munud o ganol y ddinas. Ar Feic Mae digon o raciau beic ar flaen yr adeilad. Parcio Mae gennym faes parcio yng nghefn yr adeilad ac mae meysydd parcio lleol eraill wedi eu nodi ar y map. Gofynnwn i chi barchu ein cymdogion os gwelwch yn dda drwy osgoi parcio mewn strydoedd cyfagos.

Prisiau ymlaen llaw/ar–lein mewn cromfachau. Mae “Ymlaen llaw” yn golygu unrhyw bryd cyn diwrnod y dangosiad.

aff nd Lla

d Roa

e St. Glynn

arc

lyF

Heo

o 6pm

cen res

Ha m i l t o n

St

t

Gr

ad

mC ha

Road

St. ay

Treganna

Le c h kwit

Church Rd.

Heol Ddwy rein i o l y B o n t F a en Penllyn Rd.

Harve

nd Wy

rn Seve

ane

. Library St

L Gray

M a rk e t P l . treet yS

St Talbot

Orc h a r d P l.

King’s Ro

d hna

Springfield Pl.

St. Gray

rt S

t.

Road

Earle Pl.

A l be

P — meysydd parcio rhad ac am ddim — rac feics

r R—oadarhosfan bysus Majo

I Ganol Dinas Caerdydd to n ling Wel

et Stre

Mynediad i bawb Mae Chapter yn croesawu ymwelwyr anabl. Os oes gennych anghenion mynediad penodol, ffoniwch ein swyddfa docynnau ar 029 2030 4400.


chapter.org

Cymryd Rhan

31

CYMRYD RHAN Cerdyn CL1C

Cadwch mewn cysylltiad

Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawr–lwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Ymunwch â ni ar–lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

Ffrindiau Chapter Ymunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40

eAmserlen rad ac am ddim eAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E–bostiwch adam.chard@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e–bost.

Cynllun Myfyrwyr Chapter Ydych chi’n fyfyriwr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael aelodaeth am ddim a manteisio ar gynigion arbennig nodedig, fel gostyngiadau yn ein Caffi Bar a thocynnau sinema rhatach? I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Jennifer — jennifer.kirkham@chapter.org www.chapter.org/cy/myfyrwyr

Rydym yn falch o fod yn rhan o Hynt. www.hynt.cymru Hoffai Chapter gydnabod cefnogaeth hael y sefydliadau a’r grwpiau canlynol:

Noddir Theatrau Chapter gan rodd David Seligman er cof am Philippa Seligman Sefydliad Esmée Fairbairn Cronfa Gymunedol Tirlenwi Rhaglen Ddiwylliant yr UE Sefydliad Garfield Weston Sefydliad Foyle Gwobr Biffa Cronfa Loteri Fawr Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston Grŵp Admiral Cyf Sefydliad Moondance ar gyfer y Celfyddydau a Chwaraeon Sefydliad Elusennol Trusthouse Plant mewn Angen y BBC Waitrose Sefydliad Waterloo Sefydliad Henry Moore Ymddiriedolaeth Ynni Gwyrdd ScottishPower SEWTA Sefydliad y Brethynwyr

WRAP Google Sefydliad Jane Hodge Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson Ymddiriedolaeth People’s Postcode Ymddiriedolaeth Feddygol Dunhill Legal & General Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm Ymddiriedolaeth Ernest Cook Sefydliad Boshier–Hinton Lloyds TSB Barclays Celfyddydau & Busnes Cymru Ymddiriedolaeth Austin & Hope Pilkington Gwestai Puma: Gwesty’r Angel Caerdydd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru

Ymddiriedolaeth Elusennol Gibbs Ymddiriedolaeth Elusennol Steel Ymddiriedolaeth Oakdale Cwmni Plastig Dipec Nelmes Design Ymddiriedolaeth Elusennol Coutts Elusen Wake Bruce Funky Monkey Feet Sefydliad Finnis Scott Cote Brasserie Banc Unity Trust RWE Tidal Lagoon Power Hugh James Cymdeithas Celfyddydau Cyfoes Cymru Western Power Distribution

Aelodau Clwb Chapter: Prifysgol Fetropolitan Caerdydd Clearstream Technology Broomfield & Alexander Urban Solar Patronbase Golley Slater Effective HRM BPU Accounting Cyfrifwyr BPU MLM Cartwright Rheolwyr Cyfoeth SLD Capital Law Modern Television Arup Cyfrifwyr EST Tradebox Media Kristen Osmundsen


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.