Chapter Ebrill 2016

Page 1

029 2030 4400

@chaptertweets

chapter.org


02

Croeso

029 2030 4400

CROESO Defnyddiwch y côd QR hwn i lawr-lwytho copi digidol o gylchgrawn Chapter

Delwedd y clawr: High Rise

Chapter Heol y Farchnad, Caerdydd CF5 1QE 029 2030 4400 www.chapter.org ymholiadau@chapter.org

Dylunio: Nelmes Design

Croeso i’ch cylchgrawn misol sy’n cynnwys holl fanylion rhaglen Chapter ym mis Ebrill. Rydym yn falch iawn o gael croesawu’n ôl Ŵyl Ffilm Annibynnol Caerdydd (GFfAC) (tt24-26). Byddwn yn dathlu sinema a ffilm annibynnol am y trydydd tro a bydd yna ddigon o gyfleoedd hefyd i gyw-wneuthurwyr ffilm rwydweithio. Hefyd yn ein sinema y mis hwn, byddwn yn cyflwyno’r ffilmiau newydd gorau o Gymru, gan gynnwys High Rise gan Ben Wheatley (t18), a’r ffilm nodwedd arswyd gyntaf yn Gymraeg, Yr Ymadawiad (t18). Bydd Theatr Seligman yn gartref i’r ddrama gomedi frathog Fear of Drowning, drama amserol am ymroddiad, plwyfoldeb a diwedd y byd gan Gwmni Theatr Black Sheep a bydd Theatr Iolo yn cyflwyno stori garu gyfoes Made in China, Tonight I’m Gonna Be The New Me (t14). Ac, yn ystod gwyliau’r Pasg, bydd yna ddetholiad gwych o ffilmiau teuluol i ddiddanu’r plantos (tt28-29). Diolch am ddarllen ac fe welwn ni chi cyn hir


chapter.org

Uchafbwyntiau

Celfyddyd tudalennau 4–6

Bwyta Yfed Llogi tudalen 7

Cefnogwch Ni

03

CYMRYD RHAN

tudalen 8

Chapter Mix

Cerdyn CL1C

tudalen 9

Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawrlwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Perfformiadau tudalennau 10–15

Ffrindiau Chapter Ffilm tudalennau 16–29

Addysg tudalen 29

Ymunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40

Clwb Chapter

Gwybodaeth ac Archebu Tocynnau tudalen 30

Cynllun aelodaeth Chapter i fusnesau. Am ffi flynyddol fechan, gall eich busnes chi fwynhau manteision sylweddol yn Chapter, gan gynnwys gostyngiadau i chi a’ch staff ar fwyd, diod a thocynnau. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.chapter.org/cy/chapter-clwb.

Cadwch mewn cysylltiad Ymunwch â ni ar-lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

eAmserlen rad ac am ddim Cymryd Rhan

eAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E-bostiwch adam.chard@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e-bost.

tudalen 31

Siaradwch â ni

Calendr

@chaptertweets facebook.com/chapterarts

tudalennau 32–33

Nodwch os gwelwch yn dda bod copïau print bras o’n cylchgrawn ar gael ar gais. Cysylltwch â’n Swyddfa Docynnau ar 029 2030 4400.


04

Celfyddyd

029 2030 4400

CELFYDDYD

Rose Wylie TILT THE HORIZONTAL INTO A SLANT

Rose Wylie: TILT THE HORIZONTAL INTO A SLANT, arddangosfa yn Chapter, 2016. Llun: Ric Bower

Tan ddydd Sul 29 Mai

Arddangosfa ar agor: Dyddiau Mawrth, Mercher, Sadwrn a Sul 12-6pm; dydd Iau a dydd Gwener 12-8pm; ar gau ar ddydd Llun


chapter.org

Celfyddyd

05

Mae delweddau Rose Wylie yn feiddgar, yn anhrefnus o bryd i’w gilydd ac yn aml yn annisgwyl. Maent yn arddangos ysbryd annibynnol bob amser heb ychwaith fod yn ormesol. Mae Wylie’n gweithio’n uniongyrchol ar gynfasau heb eu paratoi, heb eu hestyn. Daw ei hysbrydoliaeth o nifer o wahanol ffynonellau, y rhan fwyaf ohonynt yn boblogaidd a gwerinol. Mae technegau collage a thechnegau fframio byd ffilm, ynghyd â stribedi cartŵn a phaneli’r Dadeni yn dod ynghyd yn ei chyfansoddiadau a’i motiffau cyson. Â hithau’n gweithio o gof, mae Wylie’n distyllu ei phynciau yn sylwadau cryno, gan ddefnyddio testun i roi pwyslais ychwanegol i’w hatgofion. Mae Wylie’n benthyg o ddelweddaeth uniongyrchol ei bywyd bob dydd yn ogystal ag o ffilmiau, papurau newydd, cylchgronau a theledu. Yn aml, yn ystod

datblygiad darn o waith, ac wrth iddi baratoi’r darluniau cychwynnol ar bapur, mae hi’n dilyn llwybrau a chysylltiadau llac yn y meddwl. Mae’r peintiadau dilynol yn ddigymell ond maent wedi eu hystyried yn ofalus; maent yn cyfuno syniadau a theimladau o fydoedd allanol a phersonol. Mae Rose Wylie’n ffafrio’r penodol yn hytrach na’r cyffredinol; er bod pynciau ac ystyr yn bwysig iddi, mae’r weithred o ganolbwyntio ar elfen benodol yn bwysicach fyth. Mae pob delwedd wedi ei gwreiddio mewn eiliad o sylw penodol ac, er bod ei gwaith yn gyfoes o ran ei natur ddarniedig ac o ran y cyfeiriadau diwylliannol a welir ynddo, mae iddo wedd fwy traddodiadol a amlygir yn ei hymrwymiad at elfennau mwyaf sylfaenol y weithred o greu delwedd – arlunio, lliw a gwead.

D


06

Celfyddyd

029 2030 4400

Rose Wylie: TILT THE HORIZONTAL INTO A SLANT, arddangosfa yn Chapter, 2016. Llun: Adam Chard

Ynglŷn â Rose Wylie Ganwyd Rose Wylie ym 1934 ac mae hi’n byw ac yn gweithio yng Nghaint. Astudiodd yn Ysgol Gelfyddyd Folkestone a Dover ac yn y Coleg Celf Brenhinol. Yn 2015, etholwyd Wylie yn Aelod Uwch o’r Academi Frenhinol. Cynrychiolodd Brydain yn ‘Women To Watch’, Amgueddfa Genedlaethol Menywod yn y Celfyddydau, Washington DC (2010) ac fe gynhaliwyd yr arolwg cyntaf o’i gyrfa yn Oriel Jerwood, Hastings (2012). Dilynwyd honno gan arddangosfa BP Spotlight yn Tate Britain (2013) a arweiniodd at sioeau amgueddfa yn Philadelphia, UDA, Tonsberg, Norwy, Wolfsberg, yr Almaen, Gofod Prosiect Tal R, Copenhagen, Denmarc ac Oriel Douglas Hyde, Dulyn, Gweriniaeth Iwerddon. Yn 2011, derbyniodd Wylie Wobr Paul Hamlyn ac, yn 2014, enillodd Wobr Beintio John Moore. Yn 2015, enillodd Wobr Charles Wollaston am y ‘gwaith mwyaf nodedig’ yn Arddangosfa Haf yr Academi Frenhinol a hynny am Herr Rehlinger In White Armour, darn yr ydym yn falch iawn o fedru’i ddangos yn rhan o’r arddangosfa yn Chapter. Mae gwaith Wylie yn rhan o gasgliadau preifat a chyhoeddus a’r rheiny’n cynnwys Casgliad Tate Britain a Chasgliadau Cyngor y Celfyddydau, Sefydliad Jerwood, Casgliad Hammer, Oriel Gelfyddyd Walker, Oriel Gelfyddyd Dinas Efrog ac Amgueddfa Arario. Cynrychiolir yr artist gan Oriel UNION http://www.union-gallery.com.

Plant a chelfyddyd Sul 3 Ebrill 10.30am Sgwrs yn yr oriel i blant — wedi’i harwain gan blant. Bydd y sgwrs hon yn yr oriel yn addas i deuluoedd ac yn annog plant (ac oedolion) i drafod ac i feddwl am gelfyddyd. Gan ddefnyddio gwaith Rose Wylie fel man cychwyn, anogir plant i rannu eu syniadau a’u safbwyntiau mewn awyrgylch agored a chreadigol. Cynhelir y digwyddiad yn yr Oriel ac fe’i bwriedir ar gyfer plant 8-12 oed. Rhaid i blant sy’n mynychu’r sgwrs fod yng nghwmni oedolyn. RHAD AC AM DDIM

Sgwrs am 4 Sad 2, Sad 16 + Sad 30 Ebrill 4pm Mae ein ‘Sgyrsiau am 4’ yn deithiau tywysedig yng nghwmni ein Tywyswyr Byw, Richard Higlett a Thomas Williams. Maent yn gyfle i ddysgu mwy am yr arddangosfa gyfredol ac am ddulliau gwaith unigryw yr artistiaid. Ni fydd dwy sgwrs yn union yr un fath ond y gobaith yw y byddan nhw’n ddiddorol ac yn agored bob amser. Mae’r Sgyrsiau am 4 yn rhad ac am ddim ac nid oes angen archebu lle ymlaen llaw — dewch draw i fynedfa’r Oriel i ymuno â ni! RHAD AC AM DDIM

Sgwrs am 4 yn Gymraeg Sad 23 Ebrill 4pm Ymunwch â ni am Sgwrs am 4 yn Gymraeg. Bydd y sgwrs ar agor i siaradwyr Cymraeg o bob lefel ac fe’i harweinir gan ein Cynorthwy-ydd Oriel, Thomas Williams. Does dim angen archebu ymlaen llaw — dewch draw i flaen yr Oriel i ymuno â ni! RHAD AC AM DDIM


chapter.org

Bwyta Yfed Llogi

07

ChapterLive: Nine Tree Stumblers

BWYTA YFED LLOGI

Pop Up Produce

Llogi

Mer 6 Ebrill 3–8pm

Mae nifer o ystafelloedd a chyfleusterau Chapter ar gael i’w llogi ac mae llawer o’r rhain yn cael eu defnyddio’n rheolaidd gan gymysgedd eclectig o ddosbarthiadau dydd a nos. Ewch i’n gwe-fan neu codwch daflen yn y swyddfa docynnau i weld yr hyn sydd ar gael. Os ydych chi’n chwilio am ystafell ar gyfer parti, cyfarfod neu gynhadledd, neu am ofod i saethu fideo, i ymarfer neu i gynnal gweithgareddau adeiladu tîm, bydd ein cyfleusterau gwych, ein harbenigedd technegol a’n staff cyfeillgar yn gallu sicrhau bod eich digwyddiad yn gyffyrddus, yn unigryw ac yn gofiadwy. Gallwn gynnig amrywiaeth o opsiynau arlwyo ar gyfer eich digwyddiad hefyd. Os oes gennych chi gwestiynau penodol, neu os hoffech chi fwy o wybodaeth am ein cyfleusterau, rhowch ganiad i’n rheolwr llogi, Nicky, ar 029 2031 1058 neu anfonwch e-bost at nicky.keeping@chapter.org.

Mae ein marchnad fisol boblogaidd o ddanteithion gan gynhyrchwyr lleol yn dychwelyd y mis hwn ar ôl hoe fach. Ar ddydd Mercher cyntaf bob mis, byddwn yn cyflwyno rhai o’ch hen ffefrynnau ynghyd ag ambell stondin newydd a fydd yn gwerthu siocledi, jamiau, bara arbenigol, nwyddau o Sbaen, pice ar y maen, gwin, teisennau heb glwten, te, mêl a nwyddau i’r cartref. Ydych chi’n cynhyrchu bwyd? Ydych chi wedi sylwi ar fwlch yn narpariaeth Pop Up Produce? Os hoffech chi ymuno â ni unwaith y mis i werthu eich cynhyrchion chi, cysylltwch â Paul — paul.turton@chapter.org — i wneud cais am stondin.

ChapterLive Gwe 8 Ebrill 9pm: Nine Tree Stumblers Gwe 22 Ebrill 9pm: Little Folk Mae ChapterLive yn gyfres o gyngherddau byw wedi’u curadu gan yr hyrwyddwyr profiadol, Jealous Lovers Club, a fydd yn cyflwyno detholiad o’u hoff grwpiau o’r DG, Ewrop a gwledydd pellennig eraill yn Chapter. Mae ChapterLive yn gyfle i ddarganfod artistiaid newydd gwych. I gael mwy o wybodaeth am y grwpiau wrth iddyn nhw gael eu cadarnhau, ewch i’n gwe-fan. RHAD AC AM DDIM @JealousLovers1 #ChapterLive


08

Cefnogwch Ni

029 2030 4400

Ffrindiau

Mae Chapter yn elusen gofrestredig ac rydym yn dibynnu ar gefnogaeth gan unigolion a busnesau er mwyn gallu cyflwyno ein rhaglen artistig amrywiol a’n gwaith addysgol pwysig. Rydym yn ddiolchgar am bob ceiniog a dderbyniwn ac fe allwn gynnig ambell beth gwych i chi yn gyfnewid. I wneud cyfraniad, mewn modd syml a chyflym, tecstiwch ‘Chap16’ ynghyd â’r swm yr hoffech ei roi i 70070. Mae yna nifer o ffyrdd eraill o gymryd rhan hefyd…

Unigolion

Busnesau

Ffrindiau

Clwb Chapter

Ymunwch â chynllun Ffrindiau Chapter ac fe allwch chi fwynhau buddion sy’n amrywio o ostyngiadau ar docynnau ac ar fwyd a diod yn ein Caffi Bar i wahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn Ffrindiau hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C.

Cynllun aelodaeth Chapter i fusnesau. Am ffi flynyddol fechan, gall eich busnes chi fwynhau manteision sylweddol yn Chapter, gan gynnwys gostyngiadau ar fwyd, diod a thocynnau i’ch staff. Dros y 18 mis diwethaf, rydym wedi ennill enw da yng nghymuned fusnes Caerdydd ar ôl cyflwyno ystod o ddigwyddiadau rhwydweithio ynghyd ag ambell ddigwyddiad corfforaethol ardderchog. Ym mis Hydref 2015, roeddem yn falch iawn o agor ein drysau i Stratstone Aston Martin a hynny ar gyfer digwyddiad carped coch a derbyniad diodydd a ddilynwyd gan ddangosiad cyntaf o ffilm ddiweddaraf James Bond, Spectre. Mae gennym nifer o fannau gwych i’w llogi — mannau sy’n berffaith ar gyfer cyfarfodydd, sesiynau hyfforddi, cynadleddau a phartïon. Mae eich aelodaeth o Glwb Chapter yn caniatáu gostyngiad i chi o 25% ar bob un o’r mannau sydd ar gael i’w llogi yn y ganolfan yn ogystal â gwahoddiadau i’n digwyddiadau rhwydweithio.

Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40

Rhoddion Cofrestrwch i wneud cyfraniadau unigol neu roddion reolaidd i Chapter, er mwyn chwarae rhan lawn yn ein gwaith elusennol. Gallwch wneud cyfraniadau ar-lein ar http://www.chapter.org/cy/cefnogwch-ni neu drwy ymweld â’n Swyddfa Docynnau. Gallwch wneud cyfraniadau drwy neges destun erbyn hyn hefyd — tecstiwch ‘Chap16’ ynghyd â’r swm yr hoffech ei roi i 70070. Fydd hi ddim yn costio ceiniog i chi anfon y neges ac fe fyddwn ni’n derbyn 100% o’ch cyfraniad.

Myfyrwyr Ydych chi’n fyfyriwr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael aelodaeth rad ac am ddim a manteisio ar gynigion arbennig ardderchog, fel gostyngiadau yn ein Caffi Bar a thocynnau sinema rhatach? Cofrestrwch heddiw drwy ymweld â http://chapter.org/cy/myfyrwyr

Os hoffech chi fwy o wybodaeth am ddigwyddiadau corfforaethol neu am Glwb Chapter, gallwch ymweld â’n gwefan http://www.chapter.org/cy/cefnogaeth-gan-fusnesau.

Digwyddiad Aston Martin: Premiere Spectre, Hydref 2015

CEFNOGWCH NI


chapter.org

Chapter Mix

09

CHAPTER MIX Darlith Cymdeithas Celfyddydau Cain ac Addurnol De Cymru Iau 14 Ebrill 2pm Dydd Iau Cyntaf y Mis Barddoniaeth a Ffuglen Newydd

Rupert Willoughby: Byd Tapestri Bayeux Yn y cyflwyniad bywiog hwn i’r tapestri enwog — sydd yn gymaint mwy na chronicl o frwydr Hastings — bydd Rupert yn taflu goleuni ar rai o’i ddirgelion, yn ei osod yng nghyd-destun yr oes ac yn dadlau’r achos dros ei ystyried yn garreg filltir yn hanes celfyddyd orllewinol. £6 i ymwelwyr (wrth y drws, yn ddibynnol ar le) www.swdfas.org

Jazz ar y Sul Sul 17 Ebrill 9pm

Clwb Comedi The Drones

Gwe 1 + Gwe 15 Ebrill Drysau’n agor: 8.30pm Sioe’n dechrau: 9pm Clint Edwards sy’n cyflwyno’r ‘stand-ups’ addawol gorau. Gwelwyd peth o ddeunydd y nosweithiau hyn ar raglen ‘Identity Crisis’ Rob Brydon. Dydd Gwener cyntaf a thrydydd dydd Gwener y mis. Un o’r ‘Deg Peth Gorau i’w Gwneud yng Nghaerdydd’ yn ôl cylchgrawn The Big Issue £3.50 (wrth y drws)

Cylch Chwedleua Caerdydd Sul 3 Ebrill 8pm

Dewch i rannu a gwrando ar gasgliad hyfryd o straeon — croeso cynnes i storïwyr a gwrandawyr fel ei gilydd! £4 (wrth y drws)

Dydd Iau Cyntaf y Mis Barddoniaeth a Ffuglen Newydd Iau 7 Ebrill 7.30pm

Bydd y darllenwyr gwadd yn cynnwys y bardd, Katrina Naomi (The Way the Crocodile Taught Me) a Jo Mazelis, a fydd yn cyflwyno casgliad newydd o straeon byrion, Significance, o Wasg Seren. Ynghyd â sesiwn meic agored. £2.50 wrth y drws

Ein noson fisol o jazz acwstig melodig yn y Caffi Bar, gyda Phedwarawd Jazz Chapter — Glen Manby, Jim Barber, Don Sweeney a Greg Evans. RHAD AC AM DDIM www.glenmanby.com

Clonc Yn Y Cwtsh Bob dydd Llun 6.30–8pm

Ydych chi’n dysgu Cymraeg? Mae hwn yn gyfle gwych i ymarfer eich Cymraeg yng nghwmni dysgwyr eraill. Croeso i bawb! RHAD AC AM DDIM Ar y cyd â Menter Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd


10

Perfformiadau

029 2030 4400

PERFFORMIADAU Cefnogir Theatrau Chapter gan rodd David Seligman er cof am Philippa Seligman


Perfformiadau

Fear of Drowning

chapter.org

Theatr Black Sheep yn cyflwyno

Fear of Drowning Gan PRW Jenkins Cyfarwyddwyd gan Ryan Romain Maw 19 — Sad 23 Ebrill 7.30pm + Matinée Sad 23 Ebrill 2pm Mae Steve a Elli yn mynd i briodi. Ond mae Elli wedi diflannu ac mae’r gwas priodas, Deano, yn arteithio brawd Elli, Tim, ym math y gwesty. A fydd Elli’n dychwelyd? A fydd Tim yn goroesi? A all cariad bontio’r bwlch cymdeithasol cyn i apocalyps amgylcheddol ein golchi ni ymaith bob un? Ar ôl dod yn ail am Wobr Ddrama gyntaf Cymru, mae Fear of Drowning, yn gomedi ramant ffyrnig am ymrwymiad, plwyfoldeb a diwedd y byd. Mae’n archwilio’r hyn sy’n digwydd pan gaiff diwylliannau tra gwahanol eu gorfodi i gydfodoli. Oed 14+ £12/£10

11


12

Perfformiadau

029 2030 4400

Flossy a Boo

Theatr i’r Teulu Cyfan

Flossy a Boo yn cyflwyno:

The Legendary Adventure of Litla the Brave Maw 29 Mawrth — Gwe 1 Ebrill 10.30am + Sad 2 Ebrill 1pm Wrth i’r gwynt wylofain ac wrth i’r coed grecian, mae Litla fach yn mynd tuag at y tŷ gwag ym mhen draw’r goedwig ac mae hi’n benderfynol o ddod o hyd i’r hyn y mae hi wedi’i golli. Mae Flossy a Boo yn cyflwyno’u harddull theatraidd hynod — stori frathog a thywyll am gariad, colled ac arbrofion botanegol gwallgof — mewn sioe y gall y teulu cyfan ei mwynhau. Â phypedau, cerddoriaeth a chymeriadau dros ben llestri, mae hon yn sioe sy’n llawn dychymyg byrlymus. Argymhelliad oedran: 6+ £7

Gweithdai Creadigol Techneg Motley Maw 29 Mawrth — Gwe 1 Ebrill 1–3pm Mae Techneg Motley yn ddull theatraidd a ddyfeisiwyd gan Flossy a Boo ac mae’n cynnwys elfennau o grefft y clown, cerddoriaeth, theatr gorfforol, adrodd straeon a rhyngweithio â’r gynulleidfa. Yn y gweithdy hwn, gallwch arbrofi â ffurf a chynnwys a dechrau creu eich gwaith theatr eich hun gyda chymorth Techneg Motley. Bydd yn gyfle i chi ddatblygu fel artist, i fagu hyder ac i gael eich traed oddi tanoch mewn ffordd newydd o weithio. Â mwy na deng mlynedd o brofiad cyfun, bydd Flossy a Boo yn eich tywys drwy hanfodion eu harddull mewn awyrgylch cefnogol a gwirion. £12 am un gweithdy, £40 am bedwar (o’u harchebu gyda’i gilydd)

Flossy and Boo’s Curiosity Shop Maw 29 Mawrth – Sad 2 Ebrill 7pm Mae Flossy a Boo wedi penderfynu dianc o’r syrcas i sefydlu eu ‘Curiosity Shop’ teithiol eu hunain — un a fydd yn teithio’r byd ac yn casglu straeon, caneuon a thrugareddau bychain i’w storio ar eu trol. Dewch draw! Dewch draw! Dewch i glywed eu hanesion rhyfeddol (ac anghredadwy, braidd)! Ac i fwynhau eu caneuon hynod grefftus — caneuon nad ydyn nhw byth-bythoedd, wir yr, yn wirion! Yn llawn cerddoriaeth wreiddiol fyw, theatr gorfforol a chomedi, mae Flossy and Boo’s Curiosity Shop yn sioe theatr ryngweithiol — ac mae yna rywbeth i bawb yn eu byd rhyfedd! £12/£10/£8

“Os ydych chi’n chwilio am sioe sy’n llawn dychymyg ac sydd yn siŵr o roi gwên fel gât ar eich wyneb, ewch da chi i weld ‘Flossy and Boo’s Curiosity Shop’. Pleser pur!” Arts Scene in Wales


Perfformiadau

Boxy & Sticky / Bocsi & Ffoni

chapter.org

Theatr Iolo yn cyflwyno

Boxy & Sticky / Bocsi & Ffoni Sad 2, Llun 4 + Maw 5 Ebrill 11am + 2pm Antur theatrig lawn direidi sy’n siŵr o ddifyrru a llonni plant 2-5 oed (a’u teuluoedd). Crëwyd a Chyfarwyddwyd gan Sarah Argent Mae gen i focs. Mae gen i ffon. Gall fy mocs i fod beth bynnag y dymunaf iddo fod. Gallaf i fod y tu mewn iddo. Ar y tu allan. Oddi tano. Ar ei ben. Fy ffon i oedd y tegan cyntaf yn y byd. Dw i’n gallu ei ddefnyddio i dapio. Ei daflu a’i ddal. Gallaf ei gydbwyso ar fy mhen!

Yn dilyn rhediad hynod lwyddiannus y llynedd, mae Boxy a Sticky yn dychwelyd i Chapter yn ystod gwyliau’r Pasg ac fe fydd yna gyfle i blant aros ar ôl y perfformiad hefyd i chwarae. Ieithoedd y perfformiadau:

Sad 2 Ebrill (perfformiad yn Saesneg) Llun 4 Ebrill (perfformiad yn Gymraeg) Maw 5 Ebrill (perfformiad yn Saesneg) Perfformiad 40 munud o hyd + sesiwn chwarae o 15 munud. £7

“ Darn o theatr i gynhesu’r galon ac i ysbrydoli a difyrru plant ifainc” Cathryn Scott, y ‘Cardiff Mummy Blogger’

13


Perfformiadau

Mai Oh Mai a Little Wander yn cyflwyno

Theatr Iolo yn cyflwyno

The Harri–Parris: The Big Day

Tonight I’m Gonna Be The New Me

gan Llinos Mai Mer 6 — Sad 9 Ebrill 8pm

Gwe 8 + Sad 9 Ebrill 8pm

029 2030 4400

O’r chwith i’r dde: The Harri Parris: The Big Day, Tonight I’m Gonna Be the New Me

14

Mae ‘The Harri-Parris: The Big Day’ yn mynd ar daith eto, cyn mynd i fyny i Gaeredin ym mis Awst. Mae’r Harri-Parris wedi bod yn paratoi ar gyfer priodas Anni ers misoedd ac maent yn awyddus i ddathlu’r diwrnod mawr gyda chi. Wel, nid y diwrnod mawr ei hun — d’yn nhw ddim yn graig o arian. Beth am y noson cyn y briodas? Y noson y byddan nhw’n cwrdd â dyweddi Anni am y tro cyntaf un. Mae yna wahoddiad i chi hefyd i ddod i gael cip arno. Beth fydd barn yr Harri-Parris ar gymar newydd Anni? Beth fydd ei farn e ar ei deulu yng nghyfraith yng ngorllewin Cymru? Tynnwch eich hetiau crand o’r cwpwrdd ac ymunwch â’r Harri-Parris am noson o ganeuon, straeon a chacen. Cynhyrchwyd gan: Mai Oh Mai Productions gyda Little Wander Cyf Ariannwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Ar y cyd â Chanolfan Gelfyddydau Chapter a Theatr y Torch gyda chefnogaeth cynllun ‘Ferment’ y Bristol Old Vic. Oed 12+ £14/£13/£12

Daw menyw i’r llwyfan. Mae dyn yn ei gwylio o’r ymylon. Mae’r ddau yn ystyried a fydd eu cariad yn goroesi’r hyn sydd ar fin digwydd. Mae Tonight I’m Gonna Be The New Me yn ddrama ysgytwol ac ymysgarol sydd yn plymio ar ei phen i stori garu amhosib o wir cyn dod i olau dydd ar y pen draw. Mae hi’n ymwneud â’r ffyrdd yr awn ati i fyw ein perthnasau mewn realiti nad yw’n cyfateb ag addewidion y ffilmiau. Yn llawn gwirioneddau di-flewyn-ar-dafod a dychymyg comig, mae Tonight I’m Gonna Be The New Me yn ein harwain i galon waedlyd ein hobsesiwn â goroesi adfyd. Perfformiad agos-atoch ac uniongyrchol sydd yn eich herio chi i’w wylio. Gyda chefnogaeth Theatr Soho, The Place, Bios a Neuadd y Dref, Shoreditch. Datblygwyd yn Stiwdio Theatr y National Theatre a Cove Park drwy gyfrwng cynllun Jerwood, ‘Fuel’. Ariannwyd gan Gyngor Celfyddydau Lloegr, Sefydliad Peggy Ramsay a Sefydliad Neuadd Frenhinol Victoria. £12/£10 Oed 16+ Rhybudd: Mae’r sioe hon yn gwneud defnydd o oleuadau strôb.

“ Llithrig a phryfoclyd, dychrynllyd o ddifyr” The Guardian


Perfformiadau

15

O’r chwith i’r dde: Dick Johns. Llun: Nick Treharne. The Conquest of the South Pole

chapter.org

Dick Johns — What Midlife Crisis?

Company of Sirens (ar y cyd â Theatr Iolo) yn cyflwyno première Cymreig

Mer 13 — Sad 16 Ebrill 8pm

The Conquest of the South Pole

Mae Dick Johns wedi heneiddio. Fel gwin da — ond heb ei storio ar ei ochr mewn seler lychlyd. Collodd ei wallt yn 25 oed ac roedd yn argyhoeddedig y byddai ei ffordd o fyw yn ei ladd erbyn ei 40 — felly beth ddylai e wneud nawr? Mae yna bwysau arno o bob cyfeiriad. Plant. Morgais. Gorfod meddwl ddwywaith cyn defnyddio’r grisiau. Bydd yn darllen ambell stori i chi. Efallai y bydd e’n canu cân hefyd. Bydd yna gwis. Mae pob dim am ei fywyd yn sgrechian: “Argyfwng canol oed”. Dewch i dystio i’w ddarostyngiad. Mae Dick Johns yn awdur ac actor. Dan yr enw Dick Bradnum, perfformiodd yn The Office, My Hero a High Hopes. Enillodd ei stori fer, Joy, Wobr Awduron ac Artistiaid 2015. Mae e’n cofio geiriau llawer o ‘hits’ pop y 1980au yn rhy dda o lawer. Mae e’n 49 oed.

Cymoedd De Cymru. 2016. Mae dynion ifainc — heb waith, heb bwrpas — yn wynebu dyfodol o beiriannau ‘pinball’ a lager, yn y ddrama fyw, gor-fyw hon. Mae Stefan (Slupianek) yn perswadio’i ffrindiau di-waith i ail-greu taith y fforiwr Norwyaidd enwog, Roald Amundsen, i Begwn y De a hynny yn ei ardd gefn. Mae’n gêm, ond yn gêm ddifrifol iawn, sydd yn cynnwys cyrchoedd ar siopau gwersylla lleol a gwersi gwneud stiw morlo. I bob un ohonynt, mae’r ffugio’n teimlo’n fwy real na’u bywydau cyffredin a llwm. Wedi’i llwyfannu yn ystod cyfnod o wyntoedd rhewllyd i economi Prydain, pan nad oes yna lawer o obaith am waith i nifer o bobl ifainc, drama Karge yw’r gwaith iawn ar yr adeg iawn. “Yn aml, mae gobaith yn llechu yn y corneli mwyaf di-nod. Yn nrama Manfred Karge, The Conquest of the South Pole, crio babi ar ddiwedd y ddrama yw’r gobaith hwnnw — neu ai cri yw hi yn ôl ac ymlaen drwy’r blynyddoedd?”

Ewch i www.facebook.com/midlifecrisis66 a phostiwch eich sylwadau / arsylwadau / syniadau am ganol oed. Fe allen nhw gael eu defnyddio yn y sioe. £12/£10/£8

Gan Manfred Karge Cyfarwyddwyd gan Chris Durnall Maw 26 — Sad 30 Ebrill 8pm + Matinées Mer 27 + Sad 30 Ebrill 2pm

Oed 14+ £10/£8 companyofsirens.com

“ Perfformiad ymroddedig ac ysgrifennu ymroddedig o’r radd flaenaf. Perthnasol, amserol, annioddefol. Mae Company of Sirens yn creu theatr anhygoel” Theatre in Wales


Ffilm

029 2030 4400

Marguerite

16


Ffilm

17

Hail, Caesar!

Marguerite

Gwe 18 Mawrth — Iau 7 Ebrill

Gwe 8 — Iau 14 Ebrill

UDA/2016/106mun/12A. Cyf: Ethan Coen, Joel Coen. Gyda: George Clooney, Josh Brolin, Channing Tatum, Scarlett Johansson.

Ffrainc/2015/129mun/15. Cyf: Xavier Giannol. Gyda: Catherine Frot, André Marcon, Michel Fau.

Mae Eddie Mannix yn ‘fixer’ yn Hollywood ac yn cynorthwyo cynhyrchwyr y ffilm ‘Hail Caesar’, lle mae’r seren byd-enwog, Baird Whitlock, yn chwarae’r brif ran. Ar ôl i Whitlock fod allan yn yfed, caiff ei herwgipio gan grŵp o’r enw The Future a chyfrifoldeb Mannix yw hi wedi hynny i gasglu’r $100,000 sydd eu hangen i achub y seren.

Mae Marguerite Dumont yn fenyw gyfoethog sy’n byw ym Mharis y 1920au. Mae hi’n caru cerddoriaeth ac wrth ei bodd yn canu ac yn perfformio i’w hanwyliaid. Dyw hi ddim yn gantores wych ond mae ei chyfeillion a’i gŵr yn cynnal y ffantasi ei bod yn dalentog. Mae’r problemau’n dechrau wedi i Marguerite ddweud yr hoffai gael cynulleidfa go iawn. Yn seiliedig yn fras ar stori wir y ‘socialite’ Americanaidd, Florence Foster Jenkins, mae hon yn stori fywiog a thyner am wraig sydd yn crefu edmygedd y cyhoedd.

Hail, Caesar!

chapter.org

Mae Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael — gweler y calendr am fanylion.

Anomalisa Gwe 25 — Iau 7 Ebrill UDA/2015/90mun/15. Cyf: Duke Johnson, Charlie Kaufman. Gyda: David Thewlis, Jennifer Jason Leigh, Tom Noonan.

Mae David yn ‘guru’ Gwasanaeth Cwsmeriaid ac yn siomi pan gaiff nad yw ei grefft yn ei alluogi i unioni ei broblemau personol. Ymunwn ag ef ar awr brudd, wrth iddo geisio cwmnïaeth fenywaidd — cyn-gariad, yn y lle cyntaf, a Lisa blaen, un o’i ffans, wedi hynny. Ar wahân i Lisa, mae pawb yn edrych ac yn swnio’r un fath — fersiynau o ddadrith Stone. Trwy gyfrwng animeiddio ‘stop-motion’ dyfeisgar, mae’r ffilm hon yn archwiliad tyner, agos-atoch o gymdeithas fodern.

Clwb Ffilmiau Gwael

Firestorm Sul 3 Ebrill UDA/1998/90mun/15. Cyf: Dean Semler. Gyda: Howie Long.

Wrth iddyn nhw barhau â’u taith wyllt drwy rai o ffilmiau mwyaf poblogaidd a chofiadwy y deng mlynedd diwethaf, mae’r Clwb Ffilmiau Gwael yn falch o gyflwyno’r ffilm gyntaf un a gyflwynwyd ganddynt: Firestorm. Mae Howie Long yn chwarae rhan diffoddwr tân sy’n gorfod achub cyn-filwr ac adaregydd deniadol o dân coedwig, ac o afael troseddwr mwyaf dieflig Canada sydd wedi ffoi o garchar ... Ond does dim modd iddo achub y ffilm ofnadwy hon sydd yn glasur o’i bath. Nodwch os gwelwch yn dda: Bydd yna sylwebaeth fyw drwy gydol y dangosiad ac fe all y ffilm a ddangosir newid ar y funud olaf.

Mae’r arwyddion du yn dynodi ffilmiau y mae Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael ar eu cyfer.

Mewn rhai achosion, nid yw’n bosib cadarnhau cyn i’r cylchgrawn hwn fynd i’r wasg a fydd Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael ai peidio. Mae’r arwyddion glas yn dynodi ffilmiau lle bydd angen cadarnhau bod y gwasanaethau hyn ar gael. Fe sylwch chi efallai ar y logo hwn ger manylion rhai ffilmiau a pherfformiadau. Mae’r F yn dynodi ffilmiau a pherfformiadau wedi’u cyfarwyddo gan ferched, wedi’u hysgrifennu gan ferched neu / ac sydd yn cynnwys rhannau canolog i ferched ar y sgrin neu ar y llwyfan.


18

Ffilm

029 2030 4400

Black Mountain Poets

O Gymru Black Mountain Poets

Moviemaker Chapter

Cymru/2015/85mun/15. Cyf: Jamie Adams. Gyda: Alice Lowe, Dolly Wells, Tom Cullen, Richard Elis.

Sesiwn reolaidd sy’n galluogi i gyfarwyddwyr annibynnol ddangos eu ffilmiau byrion. I gael mwy o wybodaeth am ddangos eich ffilm chi neu unrhyw fanylion eraill, e-bostiwch moviemaker@chapter.org. O bryd i’w gilydd, dangosir ffilmiau sy’n cynnwys deunydd anaddas i bobl iau. Awgrymwn, felly, bod sesiynau Moviemaker Chapter yn addas ar gyfer pobl 18+ oed.

Gwe 1 — Iau 7 Ebrill

Mae Claire a Lisa yn fân-droseddwyr ar ffo. Ar ôl eu lladrad trychinebus diweddaraf, maent yn cyrraedd encil ym Mannau Brycheiniog ac yn esgus bod yn gwpwl o feirdd ‘bît’ er mwyn osgoi sylw. Yn y fan honno, maent yn dod dan swyn Richard ac yn clywed tipyn go lew o farddoniaeth wael. Mae’r ffilm olaf hon yn nhriawd byrfyfyr y cyfarwyddwr Jamie Adams o ffilmiau ‘Rhamant Modern’ (cyfres a oedd yn cynnwys hefyd Benny & Jolene ac A Wonderful Christmas Time) yn wledd i’r llygad ac yn gipolwg craff ar berthnasau a meddyliau creadigol. + Ymunwch â ni am sesiwn holi-ac-ateb gyda’r cast a’r criw ar Llun 4 Ebrill.

High Rise

Gwe 1 — Iau 7 Ebrill DG/2015/112mun/15. Cyf: Ben Wheatley. Gyda: Tom Hiddleston, Jeremy Irons, Sienna Miller, Luke Evans.

Mae’r Dr Robert Laing yn symud i floc o fflatiau newydd moethus ac yn cael ei hudo gan ei fywyd cymdeithasol newydd, sy’n troi o amgylch y pensaer, Royal. Daw diffygion i’r amlwg yn strwythur yr adeilad, wrth i graciau ymddangos hefyd yn y gwead cymdeithasol ac mae’r partïon soffistigedig yn ildio i oferedd a distryw. Addasiad hir-ddisgwyliedig o waith dychanol ffyrnig a gwych JG Ballard am ddiwylliant o ormodedd a phrynwriaeth. + Ymunwch â ni ar ôl y dangosiad ar Maw 5 Mawrth am gyfarfod o’n clwb llyfrau / ffilm ‘Addasiadau / Adaptations’ Mae fideo o sesiwn holi-ac-ateb ecsgliwsif gyda Ben Wheatley a Luke Evans, a gynhaliwyd yn Chapter ym mis Mawrth, i’w gweld ar ein gwe-fan. Mae Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael — gweler y calendr am fanylion.

Llun 4 Ebrill

Yr Ymadawiad

Gwe 8 — Iau 14 Mawrth Cymru/2015/108mun/is-deitlau/15arf. Cyf: Gareth Bryn. Gyda: Mark Lewis Jones, Annes Elwy, Dyfan Dwyfor.

Ar ôl i gwpl ifanc ar ffo, Sara ac Iwan, yrru eu car i nant ger ffermdy anghysbell, cânt eu hachub gan Stanley, dyn sy’n byw ar wahân i gymdeithas. Mae’r cariadon ifainc yn tarfu ar ei fywyd unig ac mae’r ddrama feistrolgar hon, a ffilmiwyd ger Tregaron, yn llawn arswyd sy’n cynyddu ac yn cynyddu.

BAFTA

Mer 13 Ebrill Ein dangosiad rheolaidd o’r ffilmiau Cymreig gorau, o’r archif ac o’r cyfnod cyfoes. www.bafta.org/wales

Battle Mountain: Graeme Obree’s Story Llun 18 Ebrill

DG/2015/99mun/12A. Cyf: David Street.

Mae’r beiciwr chwedlonol, Graeme Obree, yn gymeriad gwirioneddol ysbrydolgar. Mae ei awydd i lwyddo er gwaethaf pob disgwyl yn ei arwain i gopa’r byd seiclo — a dau record byd ‘pellter mewn awr’, yn ogystal â medal aur yng nghystadleuaeth ‘Pursuit’ 4000m y Byd. Mae’r ffilm ddogfen yn dilyn y “Flying Scotsman” wrth iddo baratoi ar gyfer ymgais i dorri record cyflymdra’r byd yn Nevada, a hynny ar gefn beic anarferol iawn — “The Beastie” — a gynlluniwyd gan Obree ei hun. + Sesiwn holi-ac-ateb gyda Graeme Obree a’r cynhyrchydd, Beatrice Neumann.


chapter.org

Ffilm

19

Victoria

Sineffonig

Sineffonig yw ein rhaglen reolaidd o ffilmiau am gerddoriaeth. Mae’r gymysgedd eclectig yn cynnwys ffilmiau sydd naill ai’n trin a thrafod cerddoriaeth a cherddorion yn uniongyrchol neu yn cynnwys sgôr sain ardderchog. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn www.chapter.org/cy/season/cine-phonic

Couple in a Hole

Victoria

DG/2015/105mun/12A. Cyf: Tom Geens. Gyda: Paul Higgins, Kate Dickie, Jérôme Kircher, Corinne Masiero.

Yr Almaen/2015/138mun/is-deitlau/15. Cyf: Sebastian Schipper. Gyda: Laia Costa, Frederick Lau, Franz Rogowski, Burak Yigit, Max Mauff.

Gwe 18 — Iau 14 Ebrill

Mae cwpwl o’r Alban, John a Karen, yn byw bywyd syml, gwyllt bron, yn y coed. Maent yn chwilota am fwyd, dŵr ac adnoddau ac yn aros ar wahân i’r pentrefwyr yn y dyffryn islaw. Ar ôl i ffermwr lleol geisio’u helpu, mae eu perthynas yn gwanhau ac fe ddatgelir y trawma a’u harweiniodd i gilio o gymdeithas. Â sgôr atmosfferig gan Beak>, mae’r ffilm hon yn astudiaeth dywyll ac ingol o ddau berson yng ngafael emosiynau poenus. Mae Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael — gweler y calendr am fanylion.

“ Ffilm deimladwy a ffres am rym dinistriol unigrwydd” Benjamin Lee, The Guardian

Lee Scratch Perry’s Vision of Paradise Sad 9 — Mer 13 Ebrill

Yr Almaen/2015/100mun/TiCh. Cyf: Volker Schaner.

Am 15 mlynedd, dilynodd y cyfarwyddwr, Volker Schaner, dad bedydd cerddoriaeth reggae a dub, Lee Scratch Perry, ar daith ysbrydol a daearyddol i Jamaica, Ethiopia, yr Almaen, y Swistir a Llundain. Arweiniodd hynny at y “ffilm ddogfen dylwyth teg” hon. Yn llawn golygfeydd unigryw o’i stiwdio, Black Ark, gwelwn egni di-ildio a dychymyg a chreadigrwydd di-ball dyn sydd yn ei bedwar ugeinfed flwyddyn.

Gwe 15 — Iau 28 Ebrill

Gyda’r hwyr yn ninas Berlin, mae Victoria yn cwrdd â Sonne a’i dri ffrind gorau, Boxer, Blinker a Fuß, mewn clwb. Wrth i bethau ddatblygu, a hynny mewn amser real, maent yn fflyrtio, yn treulio amser gyda’i gilydd ac yn cychwyn carwriaeth. Fodd bynnag, wrth i’r noson fynd rhagddi, mae pethau’n tywyllu ac mae’r ffrindiau newydd yn cael eu gorfodi i gymryd rhan mewn trosedd. Wedi’i hadrodd mewn un olygfa barhaus, ac â thrac sain anhygoel gan Nils Frahm, mae’r ddrama bwerus hon yn cynnwys perfformiadau ardderchog.

Disorder

Gwe 29 Ebrill — Iau 5 Mai Ffrainc/2015/98mun/15. Cyf: Alice Winocour. Gyda: Matthias Schoenaerts, Diane Kruger.

Ar ôl diagnosis o PTSD sy’n ei rwystro rhag parhau â’i yrfa filwrol, mae Vincent yn dychwelyd i dde Ffrainc i weithio fel swyddog diogelwch preifat i ddyn busnes cyfoethog o Libanus sydd hefyd yn delio mewn arfau anghyfreithlon. Ar ôl i’w gyflogwr adael ei wraig a’i fab ifanc adref i fynd ar daith fusnes, mae Vincent yn cael gorchymyn i’w gwarchod. Mae e’n dechrau amau bod grymoedd allanol yn bygwth y teulu ond ai paranoia yn unig yw hynny neu a yw byd llwgr a breintiedig cyflogwr Vincent yn dechrau dirywio? Ffilm gyffro rymus ag iddi drac sain egnïol gan DJ Gesaffelstein.


20

Ffilm

029 2030 4400

Macbeth

Dathlu Shakespeare

Wrth i ni ddathlu bywyd a gwaith Shakespeare, dyma fwrw golwg ar fersiynau ffilm o’i ddramâu ac ar berthnasedd ei straeon yng Nghymru a thu hwnt. Byddwn yn cyflwyno hefyd gyfres o drafodaethau, gweithdai a nodiadau esboniadol arbennig i blant ac oedolion. Cydlynwyd y digwyddiadau hyn gan y Cyngor Prydeinig yn rhan o dymor ‘Shakespeare Lives’, sy’n nodi 400 mlynedd ers marwolaeth y bardd.

Henry V

West Side Story

DG/1989/132mun/PG. Cyf: Kenneth Branagh. Gyda: Christian Bale, Kenneth Branagh, Brian Blessed, Ian Holm.

UDA/1961/145mun/PG. Cyf: Robert Wise, Jerome Robbins. Gyda: Natalie Wood, Richard Beymer, Russ Tamblyn, Rita Moreno.

Sul 3 + Maw 5 Ebrill Ar ôl trechu Owain Glyndŵr, rhaid i’r Brenin Hal adael ei ieuenctid gwrthryfelgar ar ei ôl a cheisio ennill parch ei uchelwyr a’i bobl. Mae Henry’n casglu ei filwyr ynghyd ac yn paratoi at ryfel — rhyfel a fydd, gobeithio, yn adennill rhannau o Ffrainc ac yn uno’i deyrnas. + Ymunwch â ni am drafodaeth banel wedi’i churadu gan Siobhan Brennan a fydd yn archwilio syniadau Shakespeare am hunaniaeth genedlaethol a pherthnasedd hynny i ni yng Nghymru ar Sul 3 Ebrill.

Macbeth

Sul 10 + Maw 12 Ebrill DG/2015/113mun/15. Cyf: Justin Kurzel. Gyda: Michael Fassbender, Marion Cotillard, David Thewlis, Paddy Considine.

Mae Macbeth, dug Albanaidd a rhyfelwr dewr, yn clywed proffwydoliaeth tair gwrach y bydd yn frenin un dydd. Wedi’i arwain gan uchelgais ac ysgogiadau ei wraig, mae Macbeth yn lladd y brenin ac yn hawlio’r goron — ond ni all ddianc rhag ei dynged. Portread gwefreiddiol ac angerddol o un o gymeriadau mwyaf nodedig llenyddiaeth ac o gyfnod tyngedfennol yn hanes Prydain. + Ymunwch â ni am drafodaeth banel wedi’i churadu gan Siobhan Brennan a fydd yn archwilio’r ffyrdd y mae drama Albanaidd Shakespeare yn synied am hunaniaeth genedlaethol yn y Brydain ôl-ddatganoli ar Sul 10 Ebrill.

Sul 17 + Maw 19 Ebrill

Mae cymdogaeth ym Manhattan, Efrog Newydd, ym gefnlen i garwriaeth rhwng Tony a Maria, sydd wedi eu dal yng nghanol rhyfel gang yn y fersiwn egnïol hon o Romeo and Juliet. Maria yw chwaer Bernardo, arweinydd y Sharks, a Tony yw ffrind gorau Riff, arweinydd y Jets. Mae’r ddau gang yn elynion ffyrnig ac ni all Maria na Tony eu darbwyllo i atal y trais. Mae hynny’n arwain at y diweddglo torcalonnus anochel. Â sgôr fythgofiadwy gan Leonard Bernstein a Stephen Sondheim, a choreograffi syfrdanol gan Jerome Robbins, enillodd y ffilm ddeg Oscar gan gynnwys gwobr y Ffilm Orau. + Ymunwch â ni am drafodaeth banel wedi’i churadu gan Siobhan Brennan a fydd yn archwilio ein diddordeb parhaus yn nramâu Shakespeare a’i ddylanwad ef ar sioeau cerdd ar lwyfan ac ar ffilm ar Sul 17 Ebrill.


Ffilm

21

O’r brig: Theatre of Blood, My Own Private Idaho

chapter.org

Chapter 13 yn cyflwyno:

Theatre of Blood Llun 18 Ebrill

DG/1972/100mun/15. Cyf: Douglas Hickox. Gyda: Vincent Price, Diana Rigg, Michael Horden, Arthur Lowe, Dennis Price.

Ar ôl cael ei fychanu mewn seremoni wobrwyo, mae’r actor Shakespeareaidd, Edward Lionheart, yn ffugio’i farwolaeth ei hun er mwyn dial ar ei feirniaid mewn cyfres o lofruddiaethau barddonol sy’n seiliedig ar olygfeydd o lofruddiaethau yn nramâu Shakespeare. Un o ffefrynnau personol Vincent Price. + Ymunwch â ni am drafodaeth Chapter 13 ar ôl y ffilm a chadwch lygad yn agored am nodiadau arbennig gan David Cottis am y modd yr ysbrydolwyd ffilmiau arswyd gan ddramâu Shakespeare.

My Own Private Idaho Maw 19 Ebrill

UDA/1991/102mun/15. Cyf: Gus Van Sant. Gyda: Keanu Reeves, River Phoenix.

Mae dau ffrind gorau yn byw fel ‘hustlers’ ar strydoedd Portland ac yn cychwyn ar daith o hunan-ddarganfyddiad sy’n eu harwain i dref enedigol Mike yn Idaho a’r tu hwnt. Yn seiliedig yn fras ar rannau 1 a 2 Henry IV a Henry V, mae’r garreg filltir hon i sinema hoyw yn gyfle i ystyried geiriau Shakespeare mewn cyd-destun modern. + Ymunwch â ni am ar ôl y ffilm am drafodaeth Lavender Screen, ein grŵp trafod LGBTQ, a fydd yn ystyried cynrychioliadau hoyw yng ngwaith Shakespeare.

Digwyddiad Byw: Shakespeare 400 Sad 23 Ebrill

Cyngerdd gala ysblennydd o gerddoriaeth wedi’i hysbrydoli gan William Shakespeare a pherfformiad byw o’r Royal Festival Hall gan Gerddorfa Ffilharmonig Llundain a Chorws Glyndebourne, dan arweiniad Vladimir Jurowski. Noson o ryfeddodau cerddorol gan gynnwys Othello a Falstaff gan Verdi; darnau cerddorfaol gan Britten, Mendelssohn, Berlioz, Prokofiev ac Adès a darlleniadau gan Simon Callow a sêr nodedig eraill.


Ffilm

029 2030 4400

Ran

Richard III

Japan/1980/156mun/12A. Cyf: Akira Kurosawa. Gyda: Tatsuya Nakadai, Akira Terao, Jinpachi Nezu.

DG/1996/104mun + 40 munud o ddeunydd ychwanegol/15. Cyf: Richard Loncraine. Gyda: Ian McKellen, Annette Bening, Kristen Scott Thomas, Robert Downey Jr, Maggie Smith.

Ran

22

Sul 24 + Maw 26 Ebrill Yn Japan yr 16eg ganrif, mae’r Arglwydd Hidetora yn cyhoeddi ei fwriad i rannu ei dir yn gyfartal rhwng ei dri mab ond mae ei benderfyniad yn tanio brwydr ffyrnig am rym rhwng y tri etifedd. Mae’r addasiad campus hwn o King Lear Shakespeare yn gyfuniad hudolus o hanes Japan, myfyrdodau’r cyfarwyddwr Kurosawa ar ffyddlondeb a themâu’r ddrama wreiddiol. + Ymunwch â ni ar ôl y dagnosiad am drafodaeth wedi’i chadeirio gan Dr Paul Prescott a fydd yn trafod statws Shakespeare fel yr awdur seciwlar a gyfieithwyd amlaf mewn canrifoedd diweddar – a hynny i ieithoedd yn amrywio o Arabeg i Zwlw a Klingon, heb anghofio fersiwn swyddogol ddiweddaraf yr RSC yn iaith Mandarin.

Iau 28 Ebrill

Addasiad wedi’i osod mewn fersiwn ddychmygol o Brydain y 1930au — a llinach Efrog yn giwed o ffasgwyr peryglus. Ar ôl rhyfel cartref gwaedlyd, mae Richard, brawd y Brenin Edward, yn hudo’r Fonesig Anne, sydd yn weddw ers i Richard ladd ei gŵr yn ystod y rhyfel. Mae Richard hefyd yn cynllwynio yn erbyn ei frawd ac, ar ôl i’w nai ifanc ddod yn frenin, mae e’n ennill rheolaeth dros y wlad. Ond mae ei chwant am bŵer yn sicrhau gelynion pwerus iddo hefyd ac mae’r rheiny’n benderfynol o gael y gorau arno. Addasiad gorfoleddus sydd yn cyfleu egni gwyllt yr ysfa am rym gwleidyddol. + Ymunwch â ni am sesiwn holi-ac-ateb ar ffrwd fyw a ffilm ddogfen fer gysylltiedig.

Gweler yr adrannau Addysg a Ffilmiau i’r Teulu Cyfan am fanylion dangosiadau i bobl ifainc a’u teuluoedd.


Ffilm

23

Iona

Freeheld

Gwe 8 — Iau 14 Ebrill

Gwe 15 — Iau 21 Ebrill

DG/2015/85mun/15. Cyf: Scott Graham. Gyda: Ruth Negga, Douglas Henshall, Ben Gallagher, Michelle Duncan.

UDA/2015/101mun/12A. Cyf: Peter Sollett. Gyda: Julianne Moore, Ellen Page, Steve Carell, Michael Shannon, Josh Charles.

Mae mam ifanc o’r enw Iona yn gadael Glasgow ac yn dychwelyd i Ynysoedd Heledd ei magwraeth, yng nghwmni’i mab, Billy. Mae’r symud yn cynnig ffordd o fyw mwy syml, mwy hamddenol i Billy, sydd yn arddegwr dioddefus, ac yn arwain hefyd at ganlyniadau pellgyrhaeddol yn y gymuned a adawodd Iona ar ei hôl. Â pherfformiadau pwerus, mae hon yn stori ddwys a hudolus am drawma teuluol, crefydd a pherthnasau, wedi’i gosod yn erbyn harddwch naturiol eithriadol.

Mae ditectif heddlu uchel ei pharch yn New Jersey o’r enw Laurel Hester yn cael diagnosis o ganser ac mae hi’n awyddus i adael ei phensiwn i’w phartner, Stacie. Ond mae swyddogion y llywodraeth yn ei hatal rhag gwneud. Daw’r ditectif, Dane Wells, a’r ymgyrchydd, Steven Goldstein, at ei gilydd i amddiffyn Laurel a Stacie, gan ddwyn ynghyd hefyd aelodau o’r heddlu a dinasyddion cyffredin i gefnogi’r frwydr am gydraddoldeb. Stori wir ysbrydoledig am frwydr dros gyfiawnder.

Mae Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael — gweler y calendr am fanylion.

Mae Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael — gweler y calendr am fanylion.

The Witch

Dheepan

Gwe 15 — Iau 28 Ebrill

Gwe 15 — Iau 28 Ebrill

Canada/2015/90mun/15. Cyf: Robert Eggers. Gyda: Anya TaylorJoy, Kate Dickie, Ralph Ineson.

Ffrainc/2015/109mun/is-deitlau/15. Cyf: Jacques Audiard. Gyda: Jesuthasan Antonythasan, Kalieaswari Srinivasan, Claudine Vinasithamby.

Gyda’r cloc o’r chwith: Iona, Freeheld, Dheepan

chapter.org

Yn y flwyddyn 1630, mae William a Katherine a’u pump o blant yn byw bywyd Cristnogol defosiynol ar ymyl anialwch anhreiddiadwy yn un o drefedigaethau Prydain yn y byd newydd. Ar ôl i’w mab newyddanedig ddiflannu, ac ar ôl i’w cnydau fethu, mae’r teulu’n dechrau troi yn erbyn ei gilydd. Portread iasol o ddatodiad clymau teuluol wrth i ofn a phryder arwain y cymeriadau ar eu pennau i feddiant pŵer maleisus. I’w gadarnhau — Efallai y bydd Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael — gweler y calendr am fanylion.

Â’r Rhyfel Cartref yn Sri Lanka yn dod i ben, a’r Teigrod yn colli’r dydd, mae Tamil Dheepan yn penderfynu ffoi i Ffrainc. Mae e’n mynd â dau ddieithryn, gwraig a merch fach, gydag ef yn y gobaith y bydd esgus bod yn deulu yn ei gwneud hi’n haws iddo hawlio lloches yn Ffrainc. Daw Dheepan o hyd i waith ar stâd o dai y tu allan i’r brifddinas ac mae e’n gweithio’n galed i greu bywyd a chartref i’w deulu newydd, ffug. Ond mae yna drais o’i gwmpas ymhobman ac mae hynny’n ailagor clwyfau seicolegol y rhyfel. Enillydd y Palme d’Or yn Cannes 2015


Ffilm

029 2030 4400

Cesium and a Tokyo Girl

24

GFfAC: Gŵyl Ffilm Annibynnol Caerdydd Gwe 22 — Sul 24 Ebrill

Mae Gŵyl Ffilm Annibynnol Caerdydd yn dychwelyd am y trydydd tro i ddathlu ffilmiau annibynnol a sinema’r byd. Eleni byddwn yn cydweithio am y tro cyntaf â Cardiff Animation Nights (CAN) ac yn cyflwyno cyfres o siaradwyr gwadd a dangosiadau nodedig o fyd animeiddio. Ymunwch â ni yn y cyntedd am sgwrs, gwydraid o win a chyfle i gwrdd â’r gwneuthurwyr ffilm.

Gwe 22 Ebrill 1.30pm

Dangosiad 1 Cystadleuaeth Animeiddio CAN DG/2015/60mun/18arf.

Detholiad o rai o’r ffilmiau byrion gorau wedi’u hanimeiddio a’r rheiny o bob cwr o’r byd. Dangosiad i unrhyw un a phob un sy’n hoff o animeiddio.

3pm

Know Your Freedom + Ffilmiau Byrion 1 Emiradau Arabaidd Unedig/2015/76mun/12Aarf. Cyf: Ghalia Al Aqili, Supriya Srinivas.

Wrth iddynt ddilyn eu breuddwydion ym myd chwaraeon, mae tri champ-wraig yn yr Emiradau yn brwydro yn erbyn gwe gymhleth o dabŵs cymdeithasol — gwaharddiadau agored a chudd fel ei gilydd — er mwyn cystadlu ar y llwyfan rhyngwladol. Stori am ddewrder a phenderfyniad a dewisiadau anghyffredin mewn cymdeithas sydd wedi’i rhwymo gan draddodiad.

+ Follow The Instructions Sbaen/2016/17mun.

Mae menyw feichiog yn cyrraedd ysbyty gor-effeithlon.

+ The Light Thief

Sbaen/2016/19mun. Cyf: Eva Daoud.

Beth sydd ar ôl i berson wedi i hanfod cariad gael ei ddwyn oddi arno? A sut all y cariad hwnnw gael ei adfer?

+

On The Run Ffrainc/2016/12mun. Cyf: Gianguido Spinelli.

Mae gan Jacques ddeng munud i gyrraedd ochr arall y dre’, i guddio’i anffyddlondeb ac i achub ei briodas.

6pm

Cesium and a Tokyo Girl Japan/2015/109mun/15arf. Cyf: Ryo Saitani. Gyda: Kaira Shirehase, Masato Nagamori.

Yn y gymysgedd syfrdanol hon o ffantasi, animeiddio a cherddoriaeth, mae’r ferch ysgol rhydd-feddyliol, Mimi, yn cael ei tharo gan fellten ac yn archwilio’r Japan gyfoes a hanesyddol yng nghwmni saith o dduwiau. Mae hi’n chwilio hefyd am aderyn maina ei mam-gu.

+ S2

Brasil/2016/20mun. Cyf: Bruno Bini.

Mae sgriptiwr yn methu’n deg ag ysgrifennu – ac yn cael bod bywyd yn dynwared ei gelfyddyd.

8.30pm

CAN yn cyflwyno Noson gyda Joanna Quinn Bydd y cyfarwyddwr nodedig, Joanna Quinn, a enwebwyd am Oscar ac a enillodd wobrau niferus, yn trafod ei phrosesau creadigol ac yn rhoi cipolwg i ni ar ei thechnegau enwog a dylanwadol. Addas i bobl o bod oed.


Ffilm

25

O’r chwith i’r dde: Peter Lord – 40 Years of Aardman, Love/Me/Do

chapter.org

Sad 23 Ebrill 11am

Peter Lord — Aardman yn 40 oed Ymunwch â ni am sesiwn i ddathlu pen-blwydd Aardman yn 40 oed, yng nghwmni Cyd-sylfaenydd a Chyfarwyddwr Creadigol y cwmni, Peter Lord. Dewch i weld ac i glywed mwy am y stiwdio animeiddio fydenwog a sut yr aethant ati i greu Morph, Wallace & Gromit, Chicken Run, Shaun the Sheep a llawer iawn o gymeriadau a ffilmiau ardderchog eraill.

1.30pm

Broke

Awstralia/2016/98mun/15arf. Cyf: Heath Davis. Gyda: Steve le Marquand, Claire van der Boom, Steve Bisley.

Caiff BK, cyn arwr rygbi sydd erbyn hyn yn byw mewn tlodi a chywilydd, ei achub o’r strydoedd gan weithiwr rheilffordd oedrannus. Wrth iddo frwydro yn erbyn ei ddibyniaeth ar gamblo, mae e’n ceisio gwneud iawn am ei gamweddau, gyda chymorth Terri, ei ffan pennaf.

+ The Purple Land

Uruguay/2016/20mun. Cyf: Charly Gutierrez.

Yn Uruguay yn y 1860au, mae ranshwr yn dod i dre’ i chwilio am waith ond mae e’n ei gael ei hun mewn byd treisgar a pheryglus.

3pm

The Hook–Up Ydych chi eisiau gweithio ym myd ffilm? Angen dod o hyd i gast, criw a chydweithwyr ar gyfer eich prosiect nesaf? Os felly, dewch draw i’r ‘Hook Up’ i gwrdd â chwmnïau cynhyrchu ardderchog a thalentau lleol cyffrous. A’r cyfan yn rhad ac am ddim!

4.15pm

Dangosiad 2 Cystadleuaeth Animeiddio CAN DG/2016605mun/18arf.

Detholiad arall o’r gweithiau animeiddio gorau o bedwar ban byd yng nghystadleuaeth CAN.

6pm

Love/Me/Do DG/2015/90mun/15arf. Cyf: Martin Stitt. Gyda: Rebecca Calder, Jack Gordon.

Yn y ddrama seicolegol dywyll a chlawstroffobig hon mae Antonia, banciwr llwyddiannus, a Max, actor di-waith, yn cychwyn ar garwriaeth letchwith ac mae hynny’n eu hysgogi, yn y pen draw, i gyflawni trosedd ofnadwy. Enwebiad am Wobr y Ffilm Nodwedd Brydeinig Orau yn Raindance 2015

+ Artificial

Sbaen/2016/19mun. Cyf: David Pérez Sañudo.

Mae Xabier yn mynychu cyfweliad rhyfedd am swydd — hynny yw, mae e wedi cael ei ddewis eisoes. Ond ar gyfer beth?

8pm

Kicking Off DG/2015/84mun/15arf. Cyf: Matt Wilde. Gyda: Warren Brown, Greg McHugh, Alistair Petrie, Danielle Bux.

Yn dilyn penderfyniad dadleuol gan ddyfarnwr pêldroed sy’n arwain at gwymp dau dîm i adran is, mae dau gefnogwr pybyr yn eu cael eu hunain mewn sefyllfa anarferol – mae un ohonynt yn cymryd y dyfarnwr yn wystl. Enillydd y Ffilm Nodwedd Brydeinig Orau yn Raindance 2015

+ The Chop

DG/2016/17mun. Cyf: Lewis Rose.

Ar ôl colli ei swydd fel cigydd cosher, mae’n rhaid i’r Yossi carismatig weithredu’n eithafol er mwyn dod o hyd i swydd newydd.


Ffilm

029 2030 4400

Ben BocQuelet – The Amazing World of Gumball

26

Sul 24 Ebrill 11am

3.05pm

(tan 1pm)

Ffrainc/2015/73mun/15arf. Cyf: Quentin Valois. Gyda: Jules Creissels, Lucas Delaporterie, Stephanie Palies.

Brunch i Wneuthurwyr Ffilm Ymunwch â chriw’r ŵyl a gwneuthurwyr ffilm o bob cwr o’r byd am frecwast, coffi a sgwrs.

11.30am

Ben Bocquelet — The Amazing World of Gumball Rydym yn falch iawn o gyflwyno sesiwn yng nghwmni creawdwr ‘The Amazing World of Gumball’ ar y Cartoon Network. Bydd Ben yn dangos ambell bennod i ni ac yn cynnig cip ar un o’r cyfresi animeiddio mwyaf cyffrous, uchelgeisiol a llwyddiannus sy’n cael ei chreu yn y DG ar hyn o bryd. Addas i bobl o bod oed.

1.15pm

Cloth Cat Animation yn cyflwyno Ffilmiau Teuluol Byrion wedi’u hanimeiddio Bydd stiwdio nodedig Cloth Cat o Gaerdydd yn cyflwyno dangosiad o rai o’r ffilmiau byrion gorau i deuluoedd — gweithiau o bedwar ban byd.

Hossegor Tri diwrnod. Pum person ifanc. Pum stori wedi’u cydblethu. Merch dwyllodrus, bachgen sy’n lladrata, celwyddgi, person mewnblyg a ffotograffydd. Er nad ydynt yn adnabod ei gilydd, maent yn bradychu ac yn dylanwadau ar ei gilydd yr un modd, a hynny mewn tref lan môr gysglyd. Ffilm nodwedd gyntaf hyderus ag iddi adleisiau o’r Nouvelle Vague Ffrengig.

+ Craspec

Ffrainc/2016/15mun. Cyf: David Le Meur.

Wedi’i dormentio gan farwolaeth ei wraig, mae biliwnydd meudwyaidd yn ei gloi ei hun yn ei blasty gyda’i chorff.

+ Where Leaves Fall

Sbaen/2016/19mun. Cyf: Alica Albares.

Rhaid i fenyw sy’n galaru am ei merch gymodi gyda’i mam sydd hefyd ar fin marw.

+ The Smirk

Yr Eidal/2016/16mun. Cyf: Emanuele Palamara.

Mae canwr o Napoli sy’n gaeth i gadair olwyn ar ôl damwain yn breuddwydio am ddychwelyd i’r theatr lle y daeth i amlygrwydd.

6pm

Gwobrau GFfAC Mae’r gwobrau nodedig hyn yn dychwelyd ac fe fydd y noson yn cynnwys dangosiad o’r pum ffilm fer, wedi’u gwneud gan animeiddwyr lleol, sydd yn ymgiprys am Wobr Brian Hibbard. Rhad ac am ddim ond bydd angen tocyn


Ffilm

Our Little Sister

Midnight Special

Gwe 22 — Iau 28 Ebrill

Gwe 29 Ebrill — Iau 5 Mai

27

Gyda’r cloc o’r brig: Our Little Sister, Midnight Special, Eye in the Sky

chapter.org

Japan/2015/128mun/is-deitlau/PG. Cyf: Hirokazu Kore-eda. Gyda: Ayase Haruka, Nagasawa Masami, Kaho.

Mae tair chwaer yn dechrau gofalu am eu hannerchwaer iau ar ôl cyfarfod â hi am y tro cyntaf yn angladd eu tad. Mae’r chwaer hŷn yn gyfrifol, chwaer arall yn llawn asbri a’r chwaer ieuengaf yn ddigon gwirion — maent bob un yn rhannu hen dŷ eu mamgu. Wrth i ni weld bywydau bob dydd y chwiorydd, mae’r ffilm yn archwilio plentyndod coll, cysylltiadau teuluol a chyfrifoldeb. Mae’r stori hardd hon yn llawn o lawenydd tawel ac yn ymwneud ag emosiynau a wynebwn bob un ohonom. Enillydd Gwobr y Gynulleidfa yng Ngŵyl Ffilm San Sebastian 2015

Eye in the Sky Gwe 29 Ebrill — Iau 5 Mai DG/2016/102mun/15. Cyf: Gavin Hood. Gyda: Helen Mirren, Alan Rickman, Barkhad Abdi, Aaron Paul, Jeremy Northam.

Mewn tref sianti yn Kenya, mae’r grŵp terfysgol al-Shabaab yn trefnu cyfarfod ac mae lluoedd milwrol Kenya, gyda chymorth drônau milwrol yr Unol Daleithiau a’r Deyrnas Unedig, yn dechrau eu gwylio. Cawn olwg ar y gêm wleidyddol ehangach ac ar y tu mewn i’r ymgyrch: cyrnol llym yng nghanolfan byddin Prydain; peilotiaid y drônau yn Nevada; gweinidogion y peiriant gwleidyddol a’r asiantau ar lawr gwlad yn Kenya. Mae’r sgript yn ffraeth ac amserol ac mae yna gast gwych hefyd (sy’n cynnwys perfformiad olaf Alan Rickman). Mae’r ffilm yn gip pryfoclyd ar un o weithgareddau mwyaf dadleuol y cyfnod modern. I’w gadarnhau — Efallai y bydd Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael — gweler y calendr am fanylion.

UDA/2015/115mun/12A. Cyf: Jeff Nichols. Gyda: Michael Shannon, Kirsten Dunst, Jaeden Lieberher, Adam Driver.

Yn y ffilm gyffro ddramatig hon mae Roy yn benderfynol o amddiffyn ei fab unigryw a dawnus, Alton, wyth-mlwydd-oed. Mae e’n ceisio’i arwain i guddfan gyfrinachol er mwyn ei gadw o afael sect crefyddol eithafol a thasglu llywodraethol. I’w gadarnhau — Efallai y bydd Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael — gweler y calendr am fanylion.

Louder Than Bombs Gwe 29 Ebrill — Iau 5 Mai Norwy/2015/109mun/15. Cyf: Joachim Trier. Gyda: Jesse Eisenberg, Gabriel Byrne, Isabelle Huppert, Devin Druid.

Mae’r ffotograffydd rhyfel enwog, Isabelle Reed, wedi marw mewn damwain car ar ôl dychwelyd o flaen y gad. Dair blynedd yn ddiweddarach, mae ei dau fab a’i gweddw yn ceisio cyflwyno arddangosfa o’i gwaith ond yn cael nad ydynt wedi dod i delerau go iawn â’u colled. Stori dynn a chynnil sy’n cynnwys perfformiadau gwych; portread cain o effeithiau galar ar berthnasau teuluol. I’w gadarnhau — Efallai y bydd Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael — gweler y calendr am fanylion.


28

Ffilm

029 2030 4400

Detholiad o ffilmiau gwych sy’n addas i’r teulu cyfan, bob dydd Sadwrn am 11am a 3pm. Rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn.

Noddir gan Funky Monkey Feet www.funkymonkeyfeet.co.uk 02920 666688

Bill

Gnomeo & Juliet

DG/2015/94mun/PG. Cyf: Richard Bracewell. Gyda: Mathew Baynton, Simon Farnaby, Martha Howe-Douglas.

DG/2011/82mun/U. Cyf: Kelly Asbury. Gyda: James McAvoy, Emily Blunt, Michael Caine, Maggie Smith.

Yng ngwaith diweddaraf y tîm a oedd yn gyfrifol am ‘Horrible Histories’ y BBC, mae chwaraewr liwt anobeithiol a diogyn diedifar o’r enw ‘Bill’ Shakespeare yn gadael ei dref enedigol i chwilio am ei ffortiwn yn Llundain. Yn y fan honno, caiff ei hun yng nghanol cynllwyn i lofruddio’r frenhines.

Mae teuluoedd Montague a Capulet am yddfau’i gilydd — ond mae corachod y ddau deulu, Gnomeo a Juliet, mewn cariad. Fersiwn hwyliog newydd o Romeo and Juliet gyda chaneuon gan Elton John.

Pinocchio

Sad 16, Sul 17 + Sul 24 Ebrill

Gwe 1 — Iau 7 Ebrill

Sad 2, Llun 4 + Mer 6 Ebrill UDA/1940/84mun/U. Cyf: Hamilton Luske, Ben Sharpsteen. Gyda: Cliff Edwards, Dickie Jones, Mel Blanc.

Mae’r Dylwythen Deg Las yn rhoi bywyd i’r pyped pren, Pinocchio, ac yn addo ei droi’n fachgen go iawn os bydd yn deilwng o hynny. Ond mae’r trafferthion yn dechrau wedi i Pinocchio gael ei arwain ar gyfeiliorn. Â chymorth ei gyfaill, Jiminy Cricket, a’i dad, Geppetto, rhaid i Pinocchio fynd ati i brofi ei fod yn deilwng o fod yn fachgen bach o gig a gwaed.

The Jungle Book Sul 3, Maw 5 + Iau 7 Ebrill

UDA/1967/75mun/U. Cyf: Wolfgang Reitherman. Gyda: Phil Harris, Sebastian Cabot, George Sanders, Louis Prima.

Mae Mowgli, a godwyd yn jyngl India gan fleiddiaid, wedi tyfu’n fachgen cryf ac mae ei ffrindiau, Bagheera y panther a Baloo yr arth, yn ceisio ei berswadio i adael y jyngl am y gwareiddiad dynol cyn i’r teigr creulon Shere Khan gyrraedd.

Gwe 8, Sad 9 + Sul 10 Ebrill

The Lion King

UDA/1994/86mun/U. Cyf: Roger Allers, Rob Minkoff. Gyda: Matthew Broderick, Jeremy Irons, James Earl Jones.

Ar ôl marwolaeth ei dad, mae’r llew bach Simba — a ddaw un dydd yn frenin — yn chwilio am ei hunaniaeth. Ond mae ei awydd i blesio eraill a’i dueddiad i wthio’r ffiniau yn ei arwain ar ei ben i drybini. Clasur cyfoes hwyliog sy’n seiliedig ar drasiedi Shakespeare, Hamlet.

Lion King

Ffilmiau i’r Teulu Cyfan


Gyda’r cloc o’r chwith uchaf: 10 Things I Hate About You, Chapter Learning, Cinderella

chapter.org

Addysg

29

Animeiddio ac Awtistiaeth 10 Things I Hate About You Sad 23 + Sul 24 Ebrill

UDA/1999/93mun/12A. Cyf: Gil Junger. Gyda: Heath Ledger, Julia Stiles, Joseph Gordon-Levitt.

Rhaid i fachgen newydd yr ysgol ddod o hyd i fachgen arall i fynd allan gyda’r ferch fwyaf crintachlyd yn yr ysgol. Mae honno’n chwaer i’r ferch y mae’r bachgen newydd yn ei ffansïo ac all e ddim mynd allan gyda hi tan y bydd gan y chwaer gariad hefyd. Mae’r ‘romcom’ hyfryd hon yn seiliedig ar ddrama gomedi Shakespeare, The Taming of the Shrew, ac mae hi’n llawn perfformiadau ardderchog gan gast sy’n cynnwys yr Heath Ledger ifanc.

Cinderella

Sad 30 Ebrill + Sul 1 Mai UDA/1950/71mun/U. Cyf: Wilfred Jackson, Clyde Geronimi, Hamilton Luton Luske. Gyda: Ilene Woods, James MacDonald, Eleanor Audley.

Ar ôl i lysfam greulon Cinderella ei hatal rhag mynychu’r ddawns frenhinol, caiff y ferch ifanc help annisgwyl gan y llygod hoffus, Gus a Jaq, a chan ei Dewines Garedig. Yn seiliedig ar yr un stori werin ag a ysbrydolodd ddrama Shakespeare, King Lear, mae’r ffilm hon yn un o glasuron oesol Disney.

Carry On Screaming Bob dydd Gwener am 11am, mae Carry On Screaming yn cynnig cyfle i rieni neu ofalwyr weld ffilm heb orfod poeni y bydd eu babi’n aflonyddu ar eraill. Gweler y calendr am fanylion y dangosiadau arbennig hyn i bobl â babanod dan flwydd oed.

Cwrs 1: Mer 24 Chwefror, Mer 2, Mer 9, Mer 16 + Mer 23 Mawrth 5.15–6.45pm Cwrs 2: Iau 14, Iau 21, Iau 28 Ebrill, Iau 5 + Iau 12 Mai 5.15–6.45pm Yn ystod y gwanwyn, rydym yn cyflwyno dau gwrs pum wythnos arall i bobl ifainc ar sbectrwm awtistiaeth ac i bobl ifainc a chanddynt anghenion addysgol arbennig. Mae’r sesiynau 90 munud o hyd yn caniatáu i’r bobl ifainc fagu hyder cymdeithasol ac i ddysgu a datblygu sgiliau animeiddio mewn awyrgylch cefnogol a chreadigol. Gall pob sesiwn fod yn sesiwn unigol neu’n rhan o gynllun gwaith mwy. Gallwn drefnu rhaglenni dysgu unigol i bob cyfranogwr a bydd lle i wyth disgybl bob wythnos. £25

Diwrnod Gweithgareddau Ffilm Maw 5 Ebrill 9.30am - 3pm

Ymunwch â Swyddog Addysg Chapter, Matt Beere, am ddiwrnod o weithgareddau difyr a chreadigol a fydd yn archwilio ffilm Disney, The Jungle Book. Dewch â phecyn bwyd gyda chi, os gwelwch yn dda. 8-11 oed £20 (yn cynnwys tocyn ar gyfer y ffilm am 11am)

Moviemaker Iau

Sad 30 Ebrill 10.30am — 12.30pm Ymunwch â’r gwneuthurwr ffilmiau a’r tiwtor, Tom Betts, am ddetholiad o ffilmiau byrion wedi’u dethol yn ofalus ynghyd â thrafodaeth gysylltiedig. Yn dilyn y trafodaethau, bydd cyfranogwyr yn cael tasg fer i’w chwblhau a hynny mewn llai nag awr. 9–14 oed £3


30

Gwybodaeth / Archebu

029 2030 4400

GWYBODAETH Sut i Archebu Tocynnau

Gwybodaeth

Dros y ffôn — ffoniwch ni ar 029 2030 4400. Rydym yn derbyn pob un o’r prif gardiau credyd. Galwch heibio — mae ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o 11am–8.30pm, ac ar y Sul o 3pm–8.30pm. Ar–lein: Gallwch archebu ar www.chapter.org bob awr o’r dydd a’r nos Consesiynau: Mae cyfraddau disgownt ar gael i fyfyrwyr, pobl dros 60 oed, plant, y di–waith, pobl anabl, deiliaid cerdyn MAX ac i Ffrindiau Chapter a deiliaid Cerdyn Chapter. Bydd angen i chi gyflwyno prawf o’ch cymhwyster i dderbyn cyfradd ostyngol. Archebion grŵp: Prynwch 8 tocyn ac fe gewch chi’r 9fed yn RHAD AC AM DDIM. Noder os gwelwch yn dda • dim ond un disgownt y gellir ei ddefnyddio ar unrhyw un adeg • rydym yn hapus i dderbyn archebion ymlaen llaw ond ni allwn gadw tocynnau i’r naill ochr • os cyrhaeddwch chi’n hwyr mae hi’n bosib y cewch chi’ch atal rhag mynychu eich digwyddiad. Cyflwynir rhai o’n ffilmiau â Disgrifiadau Sain ac Is–deitlau Meddal ond nid yw’r wybodaeth hon bob amser ar gael ar adeg argraffu’r cylchgrawn. Gweler ein gwe–fan am fanylion neu piciwch draw i’r Swyddfa Docynnau yn ystod yr wythnos y mae’r ffilm yn cael ei rhyddhau.

Cwmnïau ac Artistiaid Cysylltiedig Mae Chapter yn gartref i gwmnïau theatr, cwmnïau dawns, stiwdios animeiddio, gwneuthurwyr printiau, crochenwyr, dylunwyr graffeg, dylunwyr deunydd symudol, cyfansoddwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, cyhoeddwyr cylchgronau, artistiaid annibynnol a llawer iawn mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.

Sinema Cyn 5pm O 5pm ymlaen Llawn £4.50 (£4.00) £7.90 (£7.20) Disg £3.50 (£3.00) £5.80 (£5.10) Cerdyn + Disg £3.00 (£2.50) £5.00 (£4.50) DISGOWNT DYDD MAWRTH Tocynnau’r holl brif ddangsiadau — £4.40

Gweithdai a Dosbarthiadau Rydym yn cynnal amrywiaeth eang o weithdai dyddiol a dosbarthiadau gydag ymarferwyr annibynnol, gan gynnwys ballet, zumba, ioga, crefft ymladd, massage i fabanod, cerddoriaeth i blant, pilates, tango, fflamenco, ysgrifennu creadigol, gwersi cerddoriaeth a mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.

Sut i gyrraedd Chapter Fe ddewch chi o hyd i ni yn Nhreganna, i’r gorllewin o ganol y ddinas. Heol y Farchnad, Treganna, Caerdydd CF5 1QE Ar Droed Mae hi’n daith gerdded hamddenol o ryw 20 munud o ganol y ddinas. Ar Fws Mae bysus rhif 17, 18 a 33 yn aros gerllaw ac yn gadael bob pum munud o ganol y ddinas. Ar Feic Mae digon o raciau beic ar flaen yr adeilad. Parcio Mae gennym faes parcio yng nghefn yr adeilad ac mae meysydd parcio lleol eraill wedi eu nodi ar y map. Gofynnwn i chi barchu ein cymdogion os gwelwch yn dda drwy osgoi parcio mewn strydoedd cyfagos.

Prisiau ymlaen llaw/ar–lein mewn cromfachau. Mae “Ymlaen llaw” yn golygu unrhyw bryd cyn diwrnod y dangosiad.

aff nd Lla

Springfield Pl.

ad

mC ha cen res

Ha m i l t o n

St

t

Gr

King’s Ro

nd Wy

ane

Road

L Gray

. Library St

St. ay

Treganna

Le c h kwit

Church Rd.

Heol Ddwy rein i o l y B o n t F a en Penllyn Rd.

Harve

St Talbot

Orc h a r d P l.

rn Seve

St. Gray M a rk e t P l .

treet yS

e St. Glynn

d Roa

d hna arc lyF

Heo

o 6pm

rt S

t.

Road

Earle Pl.

A l be

P — meysydd parcio rhad ac am ddim — rac feics

r R—oadarhosfan bysus Majo

I Ganol Dinas Caerdydd ton ling Wel

Stre

et

Mynediad i bawb Mae Chapter yn croesawu ymwelwyr anabl. Os oes gennych anghenion mynediad penodol, ffoniwch ein swyddfa docynnau ar 029 2030 4400.


chapter.org

Cymryd Rhan

31

CYMRYD RHAN Cerdyn CL1C

Cadwch mewn cysylltiad

Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawr–lwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Ymunwch â ni ar–lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

Ffrindiau Chapter Ymunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40

eAmserlen rad ac am ddim eAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E–bostiwch adam.chard@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e–bost.

Cynllun Myfyrwyr Chapter Ydych chi’n fyfyriwr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael aelodaeth am ddim a manteisio ar gynigion arbennig nodedig, fel gostyngiadau yn ein Caffi Bar a thocynnau sinema rhatach? I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Jennifer — jennifer.kirkham@chapter.org www.chapter.org/cy/myfyrwyr

Rydym yn falch o fod yn rhan o Hynt. www.hynt.cymru Hoffai Chapter gydnabod cefnogaeth hael y sefydliadau a’r grwpiau canlynol:

Noddir Theatrau Chapter gan rodd David Seligman er cof am Philippa Seligman Sefydliad Esmée Fairbairn Cronfa Gymunedol Tirlenwi Rhaglen Ddiwylliant yr UE Sefydliad Garfield Weston Sefydliad Foyle Gwobr Biffa Cronfa Loteri Fawr Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston Grŵp Admiral Cyf Sefydliad Moondance ar gyfer y Celfyddydau a Chwaraeon Sefydliad Elusennol Trusthouse Plant mewn Angen y BBC Waitrose Sefydliad Waterloo Sefydliad Henry Moore Ymddiriedolaeth Ynni Gwyrdd ScottishPower SEWTA Sefydliad y Brethynwyr

WRAP Google Sefydliad Jane Hodge Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson Ymddiriedolaeth People’s Postcode Ymddiriedolaeth Feddygol Dunhill Legal & General Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm Ymddiriedolaeth Ernest Cook Sefydliad Boshier–Hinton Lloyds TSB Barclays Celfyddydau & Busnes Cymru Ymddiriedolaeth Austin & Hope Pilkington Gwestai Puma: Gwesty’r Angel Caerdydd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru

Ymddiriedolaeth Elusennol Gibbs Ymddiriedolaeth Elusennol Steel Ymddiriedolaeth Oakdale Cwmni Plastig Dipec Nelmes Design Ymddiriedolaeth Elusennol Coutts Elusen Wake Bruce Funky Monkey Feet Sefydliad Finnis Scott Cote Brasserie Banc Unity Trust RWE Tidal Lagoon Power Hugh James Cymdeithas Celfyddydau Cyfoes Cymru Western Power Distribution

Aelodau Clwb Chapter: Prifysgol Fetropolitan Caerdydd Clearstream Technology Broomfield & Alexander Tincan 1st Office Urban Solar Patronbase Golley Slater Effective HRM Little Casino Stills Branding CDF Cyfrifwyr BPU MLM Cartwright Rheolwyr Cyfoeth SLD Capital Law Modern Television Arup Cyfrifwyr EST Tradebox Media


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.