Chapter ionawr 2014

Page 1

029 2030 4400

@chaptertweets

chapter.org


02

Croeso i’n cylchgrawn misol sy’n nodi pob un o ddigwyddiadau Chapter ym mis Ionawr. Rydym wedi penderfynu dychwelyd at y fformat misol clasurol fel y gallwch weld mewn un man holl amrywiaeth ein rhaglen — ac, fel bob amser, byddem wrth ein bodd yn clywed eich barn chi. Gobeithio i chi fedru ymuno â ni ar gyfer ein parti Nos Galan, noson wych yn llawn perfformwyr bendigedig. Ar ôl y parti, ac yn dilyn cyfnod prysur iawn dros y Nadolig, byddwn ar gau o ddydd Mercher 1 tan ddydd Gwener 3 Ionawr er mwyn gwneud ychydig bach o waith tŷ — ond byddwn ar agor fel arfer (ac yn lân fel pin mewn papur) o ddydd Sadwrn 4 Ionawr ymlaen. Os ydych chi, fel ni, yn ceisio arbed arian ar ôl Nadolig moethus, trowch i dudalen 11 i weld sut y gallwch chi fanteisio ar ostyngiadau a chynigion arbennig drwy ymaelodi â Chapter. Diolch am ddarllen a Blwyddyn Newydd Dda i chi!

Croeso

chapter.org

Andy Eagle, Cyfarwyddwr

Yn ystod y misoedd nesaf, bydd Chapter yn ehangu ei gorwelion wrth i mi fynd ar daith i Serbia. Dw i’n un o chwech o uwch-swyddogion proffesiynol y celfyddydau — ac unig gynrychiolydd Cymru — a ddewiswyd gan y Cyngor Prydeinig i gymryd rhan yng nghynllun ‘Canny Creatives’. Mae’r cynllyn yn ceisio cyflwyno syniadau ac arferion diwylliannol cyfredol y DG yn rhan o ddatblygiad hir-dymor rhaglenni celfyddydol yn Kazakhstan, Serbia a’r Balcanau Gorllewinol, Wcráin, Azerbaijan a Thwrci. Byddaf yn gweithio gyda thimau lleol yn Serbia a’r Balcanau Gorllewinol i greu perthynas barhaol rhwng y Cyngor Prydeinig a’i bartneriaid diwylliannol. Yn Chapter ei hun, rydym yn edrych ymlaen at archwilio’r nifer o bosibiliadau a fydd yn deillio o’r bartneriaeth hon a’r potensial ar gyfer cyfnewid diwylliannol hir-dymor rhwng Cymru a’r gwledydd sy’n cymryd rhan. Gallwch fod yn siŵr y bydd blas y Balcanau ar ambell ddigwyddiad dros y misoedd nesaf!

Oriau Agor dros y Flwyddyn Newydd: Mercher 1 — Gwener 3 Ionawr — Chapter Ar Gau O ddydd Sadwrn, 4 Ionawr ymlaen — Ar agor fel arfer

Delwedd y clawr: The First Time Machine. Delwedd: Roy Campbell-Moore

Chapter Heol y Farchnad, Caerdydd CF5 1QE 029 2030 4400 www.chapter.org ymholiadau@chapter.org


chapter.org

Uchafbwyntiau

Oriel Tudalennau 4-10

Cyfeillion Chapter Tudalen 11

Theatr Tudalennau 12-14

Chapter Mix Tudalen 15

03

CYMRYD RHAN Cerdyn CL1C Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawrlwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Cyfeillion Chapter Sinema Tudalennau 16-25

Ymunwch â Chyfeillion Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Cyfaill Efydd: £25/£20 Cyfaill Arian: £35/£30 Cyfaill Aur: £45/£40 Trowch i dudalen 11 am fwy o wybodaeth

Cadwch mewn cysylltiad Addysg Tudalen 26

Bwyta Yfed Llogi Tudalen 27

Gwybodaeth a Sut i archebu tocynnau Tudalen 28

Cymryd Rhan Tudalen 29

Calendr Tudalennau 30-31

Ymunwch â ni ar-lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

eAmserlen rad ac am ddim eAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E-bostiwch megan.price@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e-bost.

Siaradwch â ni @chaptertweets facebook.com/chapterarts ymholiadau@chapter.org


04

Oriel

029 2030 4400


chapter.org

Oriel

05

3AM: wonder, paranoia and the restless night Tan ddydd Sul 2 Mawrth

Francis Alÿs, Tonico Lemos Auad, Jordan Baseman, Sandra Cinto, Dorothy Cross, Dornith Doherty, Anthony Goicolea, Marc Hulson, Rachel Kneebone, Nathan Mabry, Michael Palm & Willi Dorner, Hirsch Perlman, Ed Pien, Lucy Reynolds, Sophy Rickett, Paul Rooney, Anj Smith, Fred Tomaselli, Danny Treacy, Bettina von Zwehl a Tom Wood.

Gyda’r cloc o’r chwith uchaf: Nathan Mabry, Process Art (Eat Your Heart Out)… 2007. Efydd, marmor a phren, 213.36 x 91.44 x 60.96 cm. Casgliad preifat. Llun: Robert Wedemeyer; Tom Wood, Leg Over, 1985, o’r gyfres Looking for Love, 1983-1986. Print math C, 47.5 x 62 cm (maint y ffrâm); Rachel Kneebone, At the edge of dawn and darkness, 2009. Porslen. Uchder: 57.2 x 51 cm. Gyda chaniatâd Rachel Kneebone / White Cube. Llun: Stephen White, Bettina von Zwehl, Di-deitl I rhif 3, 1998. Print Math C, 50.8 x 40.6 cm. Gyda chaniatâd yr artist ac Oriel Purdy Hicks, Danny Treacy, Them # 15, 2005. Print Lambda digidol C wedi’i osod ar alwminiwm, 215 x 180 cm. Gyda chaniatâd yr artist.

Mae hi’n 3 o’r gloch y bore, awr y blaidd, ac r’ych chi ar ddihun. A fydd y nos yn eich arwain i diroedd anhysbys? A gewch chi eich llyncu gan eich dychymyg? A fydd y tywyllwch yn eich goresgyn? Mae’r arddangosfa hon yn archwilio’r cyflyrau meddwl sy’n gysylltiedig â’r oriau mân. Mae 3 o’r gloch y bore yn ofod diderfyn, yn cynrychioli rhyddid ac antur. Y mae hefyd yn ysbaid rhwng dau gyflwr. Awr i fodau diobaith ac unig, awr yn llawn ysbrydion ac angenfilod, ac awr o natur wyllt, wrth i anifeiliaid fentro allan. Mae’r arddangosfa hon yn gwahodd dau-ar-hugain o artistiaid i fentro i fannau tywyllaf y nos — cyfnod ein hanturiaethau mwyaf gwallgo’ a’n hofnau dyfnaf. Mae eu gweithiau yn archwilio cyffroadau a gwyrdroadau’r nos.

Mae 3am: wonder, paranoia and the restless night yn arddangosfa gan Bluecoat a guradwyd gan Angela Kingston. Ar ôl bod yn Chapter, bydd yn ymweld â The Exchange, Penzance 17 Mai- 13 Gorffennaf 2014, ac Oriel Ferens, Hull, 20 Medi — 14 Rhagfyr 2014. Mae catalog 3am, sy’n cynnwys lluniau o’r gweithiau ynghyd ag ysgrifau amdanynt, ar gael gan Wasg Prifysgol Lerpwl. Gellir ei brynu yn y Swyddfa Docynnau am £15.

Arddangosfa ar agor: Dyddiau Mawrth, Mercher, Sadwrn a Sul 12-6pm; dydd Iau a dydd Gwener 12-8pm; ar gau ar ddydd Llun


06

Oriel

029 2030 4400

CELFYDDYD YN Y BAR Stanley Donwood: Hollywood Dooom Tan ddydd Sul 2 Mawrth Mae Stanley Donwood yn llawn direidi. Mae e mor hoff o chwarae â’n canfyddiad o realiti a bywyd go iawn ag y mae o greu ei ddarnau celf. Mae’n cynnig llygedyn o oleuni sydd fel petai’n egluro pethau ond, o edrych yn fanylach, fe gewch chi bod ffynhonnell y golau’n artiffisial neu’n anhysbys. R’ych chi’n ymdroelli mewn gwe o ddehongliadau ac yn ymgolli yn eich dadansoddiadau eich hun. Nid yw’r real yn real. Mae datganiadau a sylwadau yn gwrthddweud ei gilydd. Mae Donwood yn solet, ond mae hi’n amhosib cael gafael gadarn arno. Os oes yna neges yng ngweithiau Donwood, mae’r neges honno’n mynnu bod ystyr a chanfyddiad yn bethau cymhleth. Mae safbwyntiau’n newid. Caiff y cyd-destun ei ystumio. Mae ei gasgliad Lost Angeles yn gyfres o doriadau leino wedi’u hysbrydoli gan Ddydd y Farn ac yn cynnwys y panorama enfawr, Hollywood Dooom. Wedi’i gerfio’n wreiddiol ar ddeunaw o baneli linoliwm unigol, cyn i’r cyfan gael ei lathru â llaw ar bapur Kozo o Japan, mae’r gwaith yn dangos Dinas yr Angylion yn

cael ei datgymalu a’i rhwygo mewn ffyrdd cwbl ddiamwys. Ond nid yw Lost Angeles yn feirniadaeth un-llygeidiog o’n diwylliant materol modern. Edrychwch yn ofalus ac fe welwch chi fwy a mwy o gyfeiriadau, mwy o elfennau, mwy o ystyron a chyd-destunau. Edrychwch ar unrhyw un o weithiau Donwood ac fe welwch chi mor gymhleth y gall delwedd ymddangosiadol syml fod. Fe welwch chi, yn union fel y mae bywyd Donwood ei hun yn jig-so o ddarnau o wybodaeth a hannergwirioneddau, bod y gwaith hefyd yn jig-so o ddylanwadau, ystyron a chanfyddiadau. Hyd yn oed pan mae e fel petai’n eich tywys chi at farn sefydlog, fel yn Lost Angeles, mae’n eich tywys at ddarnau yn unig o’r pos. O ran y gweddill, wel, rhaid i chi ei ddehongli drosoch chi’ch hun. Jon Severs Mae Jon Severs yn awdur a newyddiadurwr llawrydd Mae’r testun hwn yn fersiwn wedi’i thalfyrru o draethawd a gomisiynwyd gan ac sydd ar gael yn Chapter.


chapter.org

Stanley Donwood, Hollywood Dooom, 2013

Bywgraffiad yr Artist Ganwyd Stanley Donwood ym 1968 yn Essex ac mae e bellach yn byw ac yn gweithio yng Nghaerfaddon. Enillodd Donwood gydnabyddiaeth ym 1994 pan ddechreuodd greu gwaith ar gyfer albymau’r grŵp roc byd-enwog, Radiohead. Ers hynny, defnyddiwyd ei waith ar 15 o senglau, 9 EP a gwahanol albymau stiwdio gan gynnwys The Bends, Kid A, OK Computer, a Hail to the Thief. Yn ogystal â’i waith gyda Radiohead, mae Donwood wedi arddangos mewn orielau ledled Ewrop, Asia a’r Unol Daleithiau. Mae ei arddangosfeydd diweddar yn cynnwys: ‘Far Away is Close at Hand in Images of Elsewhere’, The Outsiders, Llundain: ‘The Drawing Room’, Atoms For Peace Pop Up, The Enterprise, Llundain (2013) ‘Lost Angeles’ Subliminal Projects, Los Angeles, UDA (2012), ‘Minotaur’, Twneli’r Old Vic, Llundain, y DG (2011), ‘RED MAZE’ Schunck, Heerlen, Yr Iseldiroedd (2010); ‘Palimpsest’ Oriel Mondo Bizzarro, Rhufain, Yr Eidal, ‘OVER NORMAL’, Oriel Fifty24SF, San Francisco, UDA (2010), ‘I LOVE THE MODERN WORLD’ Oriel Tokyo + BTAP, Tokyo (2008)

Oriel

07


08

Oriel

029 2030 4400


Oriel

09

Andy Fung, Tech Waves, 2013

chapter.org

Blwch Golau Andy Fung: Tech Waves Tan ddydd Llun 31 Mawrth Mae gan Andy Fung arddull ddarluniadol unigryw sy’n gyfuniad o egwyddorion swrealaeth a diwylliant pop. Yn rhydd a chwareus, mae ei fersiynau o iwtopia graffig yn ymddangos ar gynfasau ond maent hefyd yn ymddangos, yn fwy annisgwyl efallai, ar ffurf paentiadau uniongyrchol ar fur. Fel graffiti, maen nhw’n gwrthsefyll prosesau masnachol ac yn para tan i rywun beintio drostyn nhw. Wedi dweud hynny, mae hi’n anos diffinio’r sffêr sy’n ffynhonnell i’r gweithiau hyn. Graffiti go iawn, darluniau gwyddonias, celfyddyd ffantasïol, cartwnau, dylunio graffeg a diwylliant cerddoriaeth a chlybio, ynghyd â’r hyn sy’n organig ym myd natur — caiff y cyfan ei hidlo drwy anymwybod yr artist. Mae ei waith yn teimlo’n ddyfodolaidd ar adegau, y math o gelfyddyd y gellid ei dychmygu’n rhan o ffilm wyddonias, wedi’i gosod mewn dyfodol lle mae’r cysylltiad â’r gorffennol wedi’i rwygo neu’n ddim ond atgof annelwig. Ar gyfer ei gomisiwn i Chapter, mae Andy wedi creu gwaith safle-benodol — màs o siapiau a ffurfiau, pob un wedi’i rendro’n fanwl ac a ddaw i’r amlwg fel tonnau seicedelig o dwll du.

Bywgraffiad

Cwblhaodd Andy radd BA yn Ysgol Celfyddyd a Dylunio Falmouth a gradd MA yn UWIC, Caerdydd, lle mae e bellach yn byw ac yn gweithio. Mae ei brosiectau diweddar yn cynnwys ‘Customisation Piano’, Oriel Marburae, Macclesfield, ‘Chasing the Line’, Mello Mello, Lerpwl (y ddau yn 2013); ‘Artist Cymreig y Flwyddyn’, Neuadd Dewi Sant, Caerdydd (2012) a chomisiwn safle-benodol ar gyfer y Boiler House, Caerdydd (2011). Cyflwynodd arddangosfa unigol yn Oriel UNI.ART, Gothenburg, Sweden, ym mis Tachwedd 2013, ac mae e’n gweithio ar y foment gyda DEBUT Contemporary, Llundain. Ar y cyd â’i waith celfyddydol, mae Andy yn aelod o No Thee No Ess. Rhyddhawyd eu halbwm, ‘Spring Dawn Glow’ llynedd, ac fe gafodd trydydd albwm ei brosiect solo, Cymbient, ‘I Saw Energy’ (Folkwit Records) ei ryddhau ym mis Mawrth 2013. www.andyfung.co.uk


10

Oriel

029 2030 4400

OFF THE PAGE gyda Siân Robinson Davies. Llun: Warren Orchard

DIGWYDDIADAU

Sgwrs am 2 Sad 11 Ionawr 2pm Mae’r Sgwrs am 2 yn daith dywysedig anffurfiol a gynhelir bob yn ail ddydd Sadwrn am 2pm. Bydd y sgwrs gyntaf ar gyfer yr arddangosfa hon yn digwydd ar 11 Ionawr. Mae mynediad yn rhad ac am ddim ac nid oes angen i chi fwcio lle — dewch i fynedfa’r oriel toc cyn 2pm.

OFF THE PAGE Iau 23 Ionawr 6pm Mae sesiynau OFF THE PAGE yn ceisio gwneud cysylltiadau rhwng ysgrifennu, cyhoeddi a pherfformio ac yn archwilio ymylon rhyfedd y celfyddydau gweledol. Mae’r sesiynau’n cael eu cynnal ag arddull anffurfiol, rhydd, DIY er mwyn caniatáu i artistiaid roi cynnig ar bethau newydd ac i gymryd risgiau. Ar gyfer y digwyddiad hwn, byddwn yn ymuno â’r artistiaid Freya Dooley a Becca Thomas a bydd y ddwy yn cyflwyno eu gwaith yn eu dulliau unigryw a phersonol eu hunain. Caiff sesiynau OFF THE PAGE eu curadu gan Samuel Hasler, artist sy’n gweithio yng Nghaerdydd ym meysydd testun a pherfformio. £3

I ddod yn fuan Tooth & Clawr Maw 11 Chwefror 7pm Gan ddefnyddio arddangosfa 3am fel man cychwyn, bydd Tooth & Clawr, a gyflwynir gan Phil Owen o Arnolfini a Catherine Angle o Chapter, yn defnyddio testunau dethol i annog trafodaeth fywiog o themâu’r gwaith yn yr arddangosfa. £3 (Archebwch ymlaen llaw os gwelwch yn dda.)

Richard Higlett Goruchwyliwr yr Oriel Cynhelir sesiynau Sgwrs am 2 Oriel Chapter bob yn ail ddydd Sadwrn yn ystod cyfnod pob arddangosfa. Maent yn cynnwys taith a sgwrs anffurfiol a chyfle i ddysgu mwy am yr arddangosfa gyfredol a dulliau unigryw yr artist. Ni fydd dwy sgwrs yn union yr un fath, er ein bod yn gobeithio y byddan nhw bob amser yn ddiddorol ac yn agored. Ar ôl y sgwrs, fe’ch gwahoddir i barhau â’r drafodaeth dros goffi — gall hyn fod yn ffordd wych o wneud ffrindiau newydd. Gweler tudalen Facebook Oriel Chapter am fanylion digwyddiadau yn y dyfodol ynghyd â digwyddiadau eraill yr oriel.


chapter.org

Cyfeillion Chapter

11

Cyfeillion Chapter

Ymunwch â Chyfeillion Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bob blwyddyn mae ein cyfeillion yn cyfrannu swm rhyfeddol o £20,000 drwy gyfrwng eu tanysgrifiadau. Mae hynny’n ein helpu ni i ddenu’r artistiaid rhyngwladol gorau i Gaerdydd, i gefnogi a meithrin talentau lleol ac i gynnig rhaglen addysg gynhwysfawr sy’n cyrraedd dros 600 o bobl ifainc bob blwyddyn. Mae gwahanol lefelau ein cynllun Cyfeillion yn golygu y gallwch chi ddewis y raddfa iawn i chi a manteisio ar fwy o’r pethau r’ych chi’n eu mwynhau yn Chapter. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C — cynllun teyrngarwch Chapter: byddwch yn derbyn 10 pwynt am bob £1 a wariwch yn y swyddfa docynnau. Mae pob pwynt yn werth 1c — gallwch ddefnyddio’r cynilion i brynu tocynnau ar gyfer unrhyw un o ddigwyddiadau Chapter.

Dyma’r holl fanteision sydd ar gael:

Cyfaill Efydd

£25 Aelodaeth Sengl, £35 Aelodaeth ar y Cyd, £20 Disgownt Sengl, £30 Disgownt Aelodaeth ar y Cyd Prisiau gostyngol ar bob tocyn Theatr a Sinema Cerdyn Cyfeillion wedi’i lwytho eisoes â 300 o bwyntiau CL1C Cyfnod archebu ymlaen llaw o bythefnos ar gyfer digwyddiadau dethol Cylchlythyr ecsgliwsif i aelodau** Cylchgrawn misol Chapter** Mynediad i ofod Cyfeillion yn Unig ar y wefan Gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig

Cyfaill Arian

£35 Aelodaeth Sengl, £45 Aelodaeth ar y Cyd, £30 Gostyngiad, £40 Gostyngiad Aelodaeth ar y Cyd Holl fudd-daliadau Aelodaeth Efydd, ynghyd â... 10% oddi ar fwyd a diod yng nghaffi bar Chapter Cyfle i archebu diodydd ar gyfer yr egwyl (sioeau Theatr) ymlaen llaw Cerdyn Cyfeillion wedi’i lwytho eisoes â 450 o bwyntiau CL1C

Cyfaill Aur

* Mae atebolrwydd aelodau o Chapter, Caerdydd Cyf, wedi ei gyfyngu i £1. Mae Aelodaeth Aur yn aelodaeth trwy danysgrifiad tra bod y lefelau Arian ac Efydd yn fathau o aelodaeth nad ydyn nhw’n cynnwys hawliau pleidleisio. Adroddiad Blynyddol ar gael i aelodau aur ar gais. **Caiff y cylchlythyr, y cylchgrawn ac adroddiadau blynyddol eu danfon yn electronig oni ofynnir am gopi caled.

£45 Aelodaeth Sengl, £55 Aelodaeth ar y Cyd, £40 Gostyngiad, £50 Gostyngiad Aelodaeth ar y Cyd Holl fudd-daliadau Aelodaeth Efydd, ynghyd â... 15% oddi ar fwyd a diod yng nghaffi bar Chapter 10% oddi ar brintiau argraffiad cyfyngedig gan artistiaid a chatalogau arddangosfeydd Cerdyn Cyfeillion wedi’i lwytho eisoes â 600 o bwyntiau CL1C Cyfle i archebu diodydd ar gyfer yr egwyl (sioeau Theatr) ymlaen llaw Gwahoddiad i Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol Chapter* a chopi cyfarch o’n hadroddiad blynyddol**


Theatr

“Llais gwreiddiol sy’n cyflwyno gweledigaeth foel a digyfaddawd” Writing About Dance

029 2030 4400

Hide

12


Theatr

13

The First Time Machine

chapter.org

Y Brodyr Treays & Run Ragged Productions yn cyflwyno

The First Time Machine Maw 21 — Mer 22 Ionawr 7pm Foneddigion a boneddigesau, dewch ynghyd! Cyn Dr Who a’r Tardis, cyn Back to the Future, roedd Anacronopete — y Peiriant Amser Cyntaf Erioed. Mae’r Brodyr Treays yn eich gwahodd i fyrddio’i llong amser am daith hudolus i’r gorffennol, yn llawn antur ac eirth peryglus sy’n bwyta dynion, a sioe ddiamser sy’n addo diddanwch a goleuedigaeth. Yn cynnwys cerddoriaeth fyw, theatr a dawns. Ymunwch â’r teulu cyfan ar daith yn llawn darganfyddiadau rhyfeddol ... Foneddigion a boneddigesau, fechgyn a merched, gwisgwch eich gwregysau diogelwch! £7.50/Tocyn teulu £25 (4 tocyn) Addas i’r rheiny dros 5 oed

Deborah Light yn cyflwyno

Hide

Gwe 24 – Sad 25 Ionawr 8pm Mae Hide yn seiliedig ar amwysedd y gair Saesneg. Gweler y diffiniad canlynol: Hide¹: vb to keep out of sight; conceal from view. n a shelter for watching wildlife. Hide²: n the skin of an animal. Yn dilyn llwyddiant ysgubol y cyflwyniad cyntaf ym mis Chwefror 2013, ac â’r sioe ar ei ffordd i ŵyl British Dance Edition 2014, mae HIDE yn dychwelyd i Chapter. Deborah Light, yw un o goreograffwyr mwyaf nodedig Cymru, ac mae hi wedi dwyn ynghyd dri pherfformiwr rhagorol, Jo Fong (Rosas, DV8), Eddie Ladd (Volcano, Brith Gof) a Rosalind Haf Brooks (Earthfall). Mae’r merched rhyfeddol hyn yn datgelu ac yn ail-ddyfeisio’u hunain mewn perfformiad feiddgar a phersonol sy’n cymylu’r ffiniau rhwng hunangofiant a ffuglen. Mae HIDE yn cyfuno ieithoedd corfforol, sy’n amrywio o’r cynnil i’r eithafol, ynghyd â delweddau gweledol, llefaru a sgôr wreiddiol. Maent yn ffurfio, yn trawsnewid ac yn ailffurfio. R’ym ni’n eu gwylio. Ydyn nhw’n eu dangos eu hunain? A ydym ni’n eu gweld? Mae HIDE yn mynd dan groen ei chreawdwr, ei pherfformwyr a’i chynulleidfaoedd. Wrth wneud hynny, mae’n delio â syniadau o ymddangos a diflannu ac (an)welededd. Derbyniodd HIDE gefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru. £12/£10 deborahlight.com


Theatr

029 2030 4400

O’r chwith i’r dde: Priodferch Utah, 4:48 Psychosis

14

Theatr 1.618 yn cyflwyno

Cwmni Theatr Run Amok

Mer 29 Ionawr — Sad 1 Chwefror 8pm Perfformiad yn Gymraeg

Iau 30 — Gwe 31 Ionawr 7.30pm

Priodferch Utah

‘Bob nos dw i’n breuddwydio fy mod i’n rhedeg, dw i’n rhedeg am fy mod i ar goll.’ Mae Alice yn 16 oed ac yn yn byw mewn pentref bach lle nad oes unrhyw beth yn digwydd, byth. Cafodd ei geni pan oedd ei mam, Rebecca, yn 45. Syndod? Rhodd? Embaras efallai? Un diwrnod mae Cennad Mormonaidd yn curo ar eu drws ac mae Alice yn gwahodd y dyn i’r tŷ. Mae Alice yn herio ei magwraeth Fethodistaidd Gymreig ac yn rhedeg i ffwrdd i fyw ei breuddwyd Americanaidd a phriodi’r Mormon. Bedair blynedd yn ddiweddarach, mae hi’n cyrraedd adref ac yn wynebu llid ei mam fatriarchaidd. Yn ystod eu gwylnos, caiff gwirioneddau eu datgelu, gwneir cyffesion ac mae yna broses o wellhad, wrth i’r fam a merch, sydd wedi’u rhannu gan grefydd, dynion a dicter, gael eu haduno. Yn aml, rhyfeloedd yn y cartref yw’r rhai mwyaf dichellgar; fe’u hymleddir â chyllyll a ffyrc, byrddau a chadeiriau. Mae’r ddrama hon yn archwilio syniadau am ‘gartref’, ac yn archwilio’r cwlwm teuluol gan ofyn beth sy’n gwneud i ni ddyheu am y man gwyn man draw? Priodferch Utah yw drama hyd llawn gyntaf cwmni 1.618. Cafodd ei chyflwyno am y tro cyntaf yn 2011 ac aeth ar daith yn 2012. Gan: Carmen Medway-Stephens Y Sêr: Sharon Morgan Cyfieithiad gan Sharon Morgan Derbyniodd ‘Priodferch Utah’ gefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac Adran Lenyddol Sherman Cymru. £12/£10/£8

4:48 Psychosis

Fersiwn ffres a radical o glasur cyfoes Sarah Kane wedi’i chyflwyno gan gwmni cysylltiol Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, Run Amok. Wedi’i pherfformio gan fyfyriwr a raddiodd o Aberystwyth, Rhodri Brady, mae’r cwmni’n defnyddio testun Kane fel dyfais i archwilio ein perthynas â safleoedd rhwydweithio cymdeithasol yng nghyddestun iechyd meddyliol yn yr 21ain ganrif. £8/£6


chapter.org

Chapter Mix

15

Insert cinema audience pic

Cylch Chwedleua Caerdydd

Jazz ar y Sul

Sul 5 Ionawr 8pm

19 Ionawr 9pm

Dewch i rannu a gwrando ar gasgliad hyfryd o straeon — croeso cynnes i storïwyr a gwrandawyr fel ei gilydd!

Ein noson fisol o jazz acwstig melodig yn y Caffi Bar gyda Phedwarawd Glen Manby.

£4 (wrth y drws)

RHAD AC AM DDIM

Darlithoedd SWDFAS

Music Geek Monthly

The Story of Blue in Art : Alexandra Drysdale BA Iau 9 Ionawr 2pm

Ydych chi erioed wedi ystyried o ble daeth y lliw glas mewn llawysgrifau canoloesol, neu sut yr aeth gwydrwyr eglwysi cadeiriol Gothig ati i wneud eu gwydr glas? Mae stori’r lliw glas yn ein harwain ni o fwyngloddiau lapis-laswli Affganistan, i liwyddion indigo Affrica, ac i stiwdios Titian a Vermeer.

Clwb Comedi The Drones Gwe 17 Ionawr 8.30pm Clint Edwards sy’n cyflwyno’r ‘stand-ups’ addawol gorau. Gwelwyd peth o ddeunydd y nosweithiau hyn ar ‘Identity Crisis’ Rob Brydon. O ganlyniad i raglen arbennig y Nadolig, bydd Clwb Comedi The Drones yn dychwelyd ar 17 Ionawr. Ar ôl hynny, cynhelir y noson yn ei slot arferol ar ddydd Gwener cyntaf a thrydydd dydd Gwener bob mis. £3.50 (wrth y drws)

Iau 30 Ionawr 8pm Trafodir un clasur o albwm ac un albwm newydd sbon yn y Pwynt Cyfryngol ar ddydd Iau olaf y mis. Cynhelir y gwrandawiad cysylltiedig ym moeth Sinema 2 ar ddydd Sadwrn. RHAD AC AM DDIM www.musicgeekmonthly.tumblr.com

Clonc yn y Cwtsh Bob dydd Llun 6.30 — 8pm Ydych chi’n dysgu Cymraeg? Ymunwch â ni i ymarfer eich Cymraeg gyda dysgwyr eraill. Croeso i bawb! RHAD AC AM DDIM Ar y cyd â Menter Caerdydd


16

Sinema

029 2030 4400

Cat People

SiNEMA


Sinema

Gothig: Y Diafol Cariad

Dangosiad Dwbl: Black Cat Magic

17

O’r chwith i’r dde: The Haunting, Curse of the Cat People

chapter.org

Ar ôl diwrnod byrraf y flwyddyn, ai ffigyrau cysgodol sydd yna, yn ymddangos drwy’r golau rhewllyd yntai ein dychymyg sy’n chwarae triciau? Mae ein ffilmiau y mis hwn yn archwilio grym hiraeth ac eneidiau unig. Gyda chefnogaeth Rhwydwaith Cynulleidfaoedd Ffilm y BFI www.chapter.org/filmhub

The Haunting Maw 7 + Mer 8 Ionawr DG/1963/114mun/12. Cyf: Robert Wise. Gyda: Julie Harris, Claire Bloom, Richard Johnson.

Un o’r ffilmiau Prydeinig mwyaf brawychus erioed, mae’r gwaith hwn o arswyd seicolegol yn dilyn tîm o ymchwilwyr paranormal ym mhlasty iasol, Hill House, dan arweiniad Dr Markway, sy’n ceisio profi bodolaeth ysbrydion. Mae Luke, sydd yn disgwyl etifeddu’r tŷ, yn cael cwmni Theodora, person dirgel sy’n gallu rhagweld y dyfodol, ac Eleanor y mae ei galluoedd seicig yn galluogi iddi deimlo cysylltiad â’r ysbrydion sy’n byw yn yr hen blasty. Mae rhai’n mynnu bod y ffilm yn archwiliad o chwalfa feddyliol lawn cymaint ag y mae’n archwiliad o ysbrydion, ond un peth sy’n sicr: mae’r ffilm hon wedi ei chopïo lawer gwaith dros y blynyddoedd heb i neb ragori arni erioed. Ymunwch â ni ar ôl y dangosiad ar ddydd Mawrth 7 Ionawr a nos Sul 8 Ionawr ar gyfer grŵp trafod ffilm LGBT Chapter.

Ymunwch â ni am y cyfle hwn i weld stori glasurol Tourneur sy’n archwilio ein hofn o’n greddfau anifeilaidd, ynghyd â’i dilyniant cymharol anadnabyddus. Cydgyfarwyddwyd y dilyniant hwnnw, Curse of the Cat People, gan Robert Wise a oedd yn gyfrifol maes o law am The Haunting, sydd hefyd i’w gweld yn Chapter y mis hwn. Gellir prynu tocynnau ar gyfer y ffilmiau’n unigol neu mae tocyn ar gyfer y dangosiad dwbl yn £10/£8 (gost.), £6/£5 ar gyfer y dangosiad matinée.

Cat People Sul 12 + Maw 14 Ionawr UDA/1942/73mun/PG. Cyf: Jacques Tourneur. Gyda: Simone Simon, Tom Conway, Kent Smith.

Mae’r Americanwr Oliver Reed yn priodi Irena, mewnfudwraig brydferth a dirgel o Serbia sy’n ofni y bydd hi’n troi’n gath fawr fileinig o chwedloniaeth ei mamwlad os caiff ei chyffroi’n rhywiol. Archwiliad uwch-synhwyrus o rywioldeb ac ofergoeliaeth.

Ynghyd â

Curse of the Cat People Sul 12 + Maw 14 Ionawr UDA/1944/67mun/U. Cyf: Gunther von Fritsch, Robert Wise. Gyda: Simone Simon, Kent Smith.

Mae Amy, merch ifanc Oliver ac Alice Reed, yn blentyn unig, llawn dychymyg sy’n ei chael hi’n anodd gwahaniaethu rhwng ffantasi a realiti. Ac mae ei thad yn dechrau poeni go iawn pan ddaw hi i adnabod ffrind dychmygol arbennig iawn: ei wraig gyntaf, Irena, a fu farw...


Sinema

029 2030 4400

Gaslight

Ystafelloedd Tywyll yng Ngwesty’r Angel

Sad 18 — Maw 21 Ionawr

Wrth i dymor Gothig y BFI barhau, mae Ystafelloedd Tywyll yn dychwelyd i safle un o’n dangosiadau mwyaf poblogaidd hyd yn hyn. Ymunwch â ni am gyflwyniad arbennig o ffilm arswyd glasurol mewn lleoliad unigryw yng nghanol dinas Caerdydd. Dylid prynu tocynnau ymlaen llaw o swyddfa docynnau Chapter. Gweler ein gwe-fan am fwy o fanylion.

O’r chwith i’r dde: Gaslight, Rebecca

18

DG/1940/84mun/PG. Cyf: Thorold Dickinson. Gyda: Anton Walbrook, Diana Wynyard.

Ugain mlynedd ar ôl llofruddiaeth Alice Barlow gan ddyn anhysbys, daw cwpwl sydd newydd briodi i fyw yn ei thŷ. Mae gan y gŵr gyfrinach y mae e’n fodlon gwneud unrhyw beth i’w chadw, tra bod ei wraig, Bella yn dechrau dychmygu pethau rhyfedd... Addasiad sy’n fwy ffyddlon i ddrama wreiddiol Patrick Hamilton na’r addasiad mwy adnabyddus a gwblhawyd ym 1944. Y ddrama hon oedd yn gyfrifol am gyflwyno’r term ‘gaslighting’, sef math o gamdriniaeth feddyliol lle gwneir i’r dioddefwr amau ei iechyd meddyliol ei hun. + SciSCREEN: Sad 18 Ionawr cardiffsciscreen.blogspot.co.uk

Rebecca Sul 26 + Maw 28 Ionawr UDA/1940/130mun/PG. Cyf: Alfred Hitchcock. Gyda: Laurence Olivier, Joan Fontaine, George Sanders.

Fersiwn ffilm o nofel Daphne Du Maurier sy’n adrodd hanes morwyn naïf sy’n syrthio mewn cariad â Maxim de Winter, gŵr hynod gyfoethog ond dioddefus. Ar ôl priodi, maen nhw’n dychwelyd i Manderley, ei stad wledig fawr yng Nghernyw, ond mae Max yn cael ei boenydio o hyd gan ei wraig gyntaf, Rebecca, a fu farw y flwyddyn cynt. Ar ôl dadl â meistres y tŷ, Mrs Danvers, mae’r Mrs De Winter newydd yn darganfod bod gan Rebecca afael rhyfedd o hyd ar bawb ym Manderley.

Gwe 17 Ionawr. Drysau’n agor am: 7.30pm, Ffilm am: 8pm

£10 / £8 www.darkenedrooms.com

Cyflwyniad i Ffilmiau Arswyd Nosweithiau Llun, Ionawr 13 — 10 Chwefror 7 — 9yh Ymunwch â’r gwneuthurwr ffilm a’r ffan arswyd, Ben Ewart-Dean, ar gyfer archwiliad dros gyfnod o bum wythnos o themâu a thechnegau ffilmiau arswyd. Bydd pob sesiwn wythnosol yn canolbwyntio ar thema wahanol, o flynyddoedd cynnar ffilmiau arswyd i arswyd gwerin Prydeinig y 1970au, o gyfresi arswyd Americanaidd y 1980au hyd at weithiau arswyd y presennol. Bydd y sesiynau’n cynnwys cyfuniad o ddarlithoedd a thrafodaethau anffurfiol, ynghyd â detholiad o glipiau o glasuron y genre a gweithiau gwych eraill sy’n llai adnabyddus. Erbyn diwedd y cwrs byddwch wedi archwilio rhai o gorneli cudd un o feysydd mwyaf diddorol ac amrywiol astudiaethau ffilm. Cost y cwrs yw £55.00 / £45.00, a bydd aelodau’r cwrs yn gallu prynu tocynnau ar gyfer unrhyw un o ffilmiau tymor Gothig y BFI am bris gostyngol. Gweler ein gwe-fan, www.chapter.org, am fwy o fanylion a chysylltwch, os gwelwch yn dda, â’n swyddfa docynnau i archebu tocynnau.


Sinema

Saving Mr Banks

Clwb Ffilmiau Gwael Double Impact

19

O’r chwith i’r dde: Saving Mr Banks, Blue Jasmine

chapter.org

Gwe 20 Rhag — Iau 9 Ionawr UDA/2013/125mun/PG. Cyf: John Lee Hancock. Gyda: Emma Thompson, Tom Hanks, Paul Giamatti.

Ar ôl i Walt Disney addo gwneud ffilm o hoff lyfr ei blant, rhaid iddo argyhoeddi’r awdur, PL Travers, y bydd ei chymeriad annwyl, Mary Poppins, yn cael y driniaeth y mae’n ei haeddu. Yn ddigyfaddawd a chrintachlyd, mae’r awdur yn bendant ei barn na ddylai ei stori gael ei throi’n ffilm rad Hollywoodaidd a dim ond ar ôl i Disney archwilio ei blentyndod ei hun y daw i wybod am yr ysbrydion sy’n ei phlagio. Gyda’i gilydd, maen nhw’n llwyddo i ryddhau Mary Poppins.

Blue Jasmine Gwe 27 Rhagfyr — Iau 9 Ionawr UDA/2013/98mun/12A. Cyf: Woody Allen. Gyda: Alec Baldwin, Cate Blanchett, Sally Hawkins, Louis C K.

Ar ôl i’w bywyd — a’i phriodas â’r gŵr busnes cyfoethog, Hal — gwympo’n ddarnau, mae’r ‘socialite’ gosgeiddig, Jasmine, yn symud o Efrog Newydd i fflat glawstroffobig ei chwaer, Ginger, yn San Francisco er mwyn ceisio rhoi trefn ar ei bywyd. Mae Blanchett yn amlwg yn ei mwynhau ei hun yn rôl Jasmine — menyw niwrotig sy’n llyncu tabledi Xanax. Mae ffilm ddiweddaraf Allen yn archwilio’r hiwmor sydd i’w gael mewn trasiedi ac wedi derbyn canmoliaeth hael gan y beirniaid.

Sul 5 Ionawr UDA/1991/110mun/18. Cyf: Sheldon Lettich. Gyda: Jean Claude Van Damme.

Blwyddyn newydd a ffilm newydd gan y Clwb Ffilmiau Gwael. A pha ffordd well o ddathlu dyfodiad 2014 nag â dogn dwbl o Jean Claude Van Damme, sy’n chwarae efell da ac efell drwg yn y ffilm Double Impact (1991). Mae Alex a Chad yn efeilliaid sy’n cael eu gwahanu ar ôl marwolaeth eu rhieni. Caiff un ei godi ym Mharis tra bod y llall yn cael ei fagu i fod yn lleidr yn Hong Kong; mae’r ddau fel ei gilydd wedi’u hargyhoeddi taw eu nemesis yn Hong Kong yw’r dyn a laddodd eu rhieni. Dwywaith cymaint o actio gwael, dwywaith cymaint o ymladd a dwywaith cymaint o hwyl gwirioneddol wael. Nodwch os gwelwch yn dda: Mae’r ffilm yn cynnwys sylwebaeth fyw ar ei hyd.

Moviemaker Chapter Llun 6 Ionawr Cyfle rheolaidd i wneuthurwyr ffilm annibynnol ddangos gweithiau newydd. O bryd i’w gilydd, cyflwynir ffilmiau sy’n cynnwys deunydd anaddas i bobl iau, felly awgrymwn bod sesiynau Moviemaker Chapter yn addas ar gyfer pobl 18+ oed. RHAD AC AM DDIM (Gweler manylion ein sesiwn Moviemaker i Bobl Ifainc, ar gyfer darpar wneuthurwyr ffilm, ar dudalen 24.)


Sinema

029 2030 4400

Nebraska

Gravity (2D)

Sad 4 — Iau 16 Ionawr

Sad 4 — Iau 9 Ionawr

UDA/2013/115mun/15. Cyf: Alexander Payne. Gyda: Bob Odenkirk, Bruce Dern, Will Forte, June Squibb.

UDA/2013/91mun/12A. Cyf: Alfonso Cuaron. Gyda: George Clooney, Sandra Bullock.

Mae tad alocoholig yn mynd ar daith o Montana i Nebraska gyda’i fab er mwyn hawlio gwobr gwerth miliwn o ddoleri Mega Sweepstakes Marketing. Ar hyd y ffordd, maen nhw’n cwrdd â ffrindiau, perthnasau a phobl eraill y mae’r tad wedi benthyg arian ganddynt. Mae’r ffilm ddu a gwyn hyfryd hon gan gyfarwyddwr Sideways a The Descendants yn farwnad chwerwfelys i’r teulu Americanaidd estynedig.

Ar ôl i falurion gofod ddinistrio eu gwennol, mae dau ofodwr yn ceisio dychwelyd i’r Ddaear yn y ffilm afaelgar hon sy’n cynnwys delweddau gwirioneddol syfrdanol o’r braw — a’r prydferthwch — sydd ynghlwm â bod ar goll yn y gofod. Mae Cuaron (Children of Men, Y Tu Mamá También & ffilm Harry Potter), yn sicrhau bod yna ddogn helaeth o ddynoliaeth yn y ffilm hon sy’n brofiad corfforol rhyfeddol.

O frig y dudalen: Nebraska, Gravity (2D)

20

+ Disgrifiadau Sain ar ddydd Llun 13 Ionawr

“Drwy gydol y gwaith, mae Payne yn cyflwyno elfennau o hiraeth a gofid i’r comedi ac yn llwyddo i osgoi teimladau pruddglwyfus neu sentimentaleiddiwch rhad.” Variety

“Mae Gravity yn ffilm arallfydol. Dyw hi ddim yn bosib cyfleu â geiriau y rhyfeddodau gweledol a grëir yn yr opera ofodaidd hon.” LA Times


Sinema

21

Leviathan

The Railway Man

Gwe 10 — Iau 16 Ionawr

Gwe 10 — Iau 23 Ionawr

UDA/2013/87mun/12A. Cyf: Vérena Paravel, Lucien CastaingTaylor.

DG/2013/116mun/15. Cyf: Jonathan Teplitzky. Gyda: Colin Firth, Stellan Skarsgård, Nicole Kidman.

Mae Leviathan yn ffilm ddogfen gyffrous, hollgynhwysol sy’n ein harwain yn ddwfn i fyd peryglus pysgota masnachol. Wedi’i gosod ar fwrdd llong bysgota enfawr wrth iddi hwylio dros y tonnau peryglus oddi ar arfordir Lloegr Newydd — yr union ddyfroedd a ysbrydolodd Moby Dick — mae’r ffilm yn cyfleu byd llym, anfaddeugar y pysgotwyr, â grym cyfareddol a chryn harddwch. Gyda chymorth arsenal o gamerâu sy’n cael eu pasio rhwng y criw ffilmio a chriw y llong, ac sy’n plymio dan lefel y môr ac yn esgyn fri i gynnig golwg fel petai o lygad aderyn, fyddwch chi ddim wedi gweld unrhyw beth tebyg i Leviathan; profiad sinematig angerddol a phur.

Roedd gan Eric Lomax ddiddordeb brwd mewn rheilffyrdd pan gafodd ei ddal gan fyddin Japan yn Burma ym 1942. Yn methu ag anghofio’r erchyllterau anhraethadwy a welodd yn ystod ei gyfnod fel carcharor, pan oedd yn gweithio ar “Reilffordd Marwolaeth”, yn ystod yr Ail Ryfel Byd, mae The Railway Man yn dilyn ei garwriaeth a’i briodas â Patti, sydd newydd ysgaru ac sy’n gweld effeithiau ei drawma ar eu perthynas. Yr unig ddewis sydd gan Eric yn y pen draw yw wynebu ei ofnau a mynd ati i ddod o hyd i’r rheiny a’i harteithiodd.

O’r chwith i’r dde: Leviathan, The Railway Man

chapter.org

+ Gyda disgrifiadau sain ac is-deitlau meddal ar ddydd Llun 20 Ionawr

All is Lost Gwe 10 — Iau 23 Ionawr UDA/2013/106mun/12A. Cyf: JC Chandor. Gyda: Robert Redford.

Ar ganol taith solo ar Gefnfor India, mae dyn dienw yn deffro ac yn gweld bod ei gwch hwylio 39 troedfedd yn gollwng ar ôl gwrthdrawiad â blwch storio mawr allan ar y môr. Â’i offer llywio a’i radio wedi torri, mae’r dyn yn hwylio, yn hollol ddiarwybod iddo, i mewn i storm ffyrnig.

“Ffilm gyffro ardderchog heb yr un cam gwag.” Chicago Sun Times


Sinema

029 2030 4400

Long Way From Home

Mandela: Long Walk To Freedom

O’r chwith i’r dde: Long Way From Home, Mandela: Long Walk To Freedom

22

Gwe 17 — Iau 23 Ionawr DG/2013/80mun/12A. Cyf: Virginia Gilbert. Gyda: Edward Fox, Brenda Fricker, Natalie Dormer, Paul Nicholls.

Mae tref heulog a thwristaidd Nîmes yn gartref oddi cartref i gwpwl o Brydeinwyr sy’n darllen papurau newydd Saesneg ac yn gwrando ar Radio 4 yn ogystal â mwynhau’r bwyd ardderchog yn eu bistro lleol. Mae’n nhw’n mwynhau’r math o ymddeoliad y byddai llawer un yn breuddwydio’i gael ond, dan yr wyneb, mae glyn cysgod angau ac mae cyfarfyddiad siawns â phobl ifainc ar eu gwyliau yn cynhyrfu dyfroedd eu perthynas hir ac ymddangosiadol sefydlog.

“Mae’r hyn sy’n ymddangos ar y dechrau fel drama am berthynas gyffredin yn datblygu yn y pen draw yn bortread dinistriol, di-sentiment o anobaith tawel sy’n heintio’r byd paradwysaidd Provençal.” Time Out

Y Syrcas Llun 13 — Mer 15 Ionawr Cymru/2013/92mun/is-deitlau/TICh. Cyf: Kevin Allen. Gyda: Saran Morgan, Damola Adelaja, Aneirin Hughes.

Pan ddaw syrcas deithiol Fictoraidd i Dregaron yng Ngheredigion, maent yn cynnig llawer mwy nag adloniant syml i Sara, merch ifanc sydd wedi’i chaethiwo gan reolau llym ei thad galarus a chrefydd pentref sy’n llawn ofergoelion. Mae’r cyfarwyddwr Kevin Allen (Twin Town) yn adrodd stori dwymgalon a doniol am berthynas y dref â’r troupe ac â Jwmbi, eliffant a fu farw ac a gladdwyd, yn ôl pob sôn, y tu ôl i Westy’r Talbot yn y dref ym 1848.

Gwe 17 — Iau 30 Ionawr DG-De Affrica/2013/152mun/12A. Cyf: Justin Chadwick. Gyda: Idris Alba, Naomie Harris.

Yn seiliedig ar hunangofiant Mandela, mae’r ffilm yn archwiliad sensitif o fywyd cynnar yr ymgyrchwr gwrth-apartheid chwyldroadol. Mae’r ffilm yn croniclo ei daith o’i blentyndod mewn pentref gwledig yng nghanol y Xhosa. Mae’n edrych ar ei addysg a’r modd y cafodd ei radicaleiddio, ac yn ei ddilyn o’i gyfnod fel cyfreithiwr ifanc cegog drwy’r 27 mlynedd a dreuliodd yn y carchar, cyn iddo gael ei urddo’n arlywydd democrataidd cyntaf De Affrica. Mae perthynas dyner a thymhestlog Mandela â’i ail wraig ddadleuol, Winnie, wrth galon y stori, ac mae perfformiad awdurdodol Elba yn dangos datblygiad y dyn o’r radical ifanc egnïol i’r gwladweinydd hynaws a chymodol sydd mor gyfarwydd i ni heddiw.


Sinema

Celfyddyd + Ffilm

Fill the Void

23

O’r chwith i’r dde: 12 Years a Slave, Fill the Void

chapter.org

12 Years a Slave Gwe 24 Ionawr — Iau 6 Chwefror UDA/2013/134mun/15. Cyf: Steve McQueen. Gyda: Chiwetel Ejiofor, Michael Fassbender, Paul Giamatti, Paul Dano.

Yn seiliedig ar stori wir, a gyhoeddwyd ym 1853, mae Solomon Northup yn ddyn du a anwyd yn rhydd ac sy’n byw yn nhalaith Efrog Newydd yn y cyfnod cyn Rhyfel Cartref America. O’i fywyd braf, fel feiolinydd yn byw gyda’i wraig a’i blant, caiff ei fradychu, ei gipio a’i werthu’n gaethwas i blanhigfa yn Louisiana. Yn y fan honno, rhaid iddo ddysgu celu meddylfryd y dyn rhydd rhag ei berchnogion creulon. + Ymunwch â ni am sesiwn Come Along Do, ein trafodaeth reolaidd o gelfyddyd a ffilm gyda Gill Nicol, ar ôl y dangosiad ar ddydd Mawrth 28 Ionawr am 6pm. Mae tocynnau’n £2.50 (rhaid i chi brynu tocyn i weld y ffilm hefyd) ac maent ar gael trwy ein swyddfa docynnau ac ar-lein.

“Dogfen amrwd, huawdl, arswydus ac anhepgorol.” Time

Gwe 24 — Mer 29 Ionawr Israel/2013/90mun/is-deitlau/U. Cyf: Rama Burshtein. Gyda: Chayim Sharir, Hadas Yaron.

Mae Shira, merch ddefosiynol 18-mlwydd-oed, dan bwysau i briodi gŵr ei diweddar chwaer ac i fabwysiadu ei mab newydd-anedig. Nid yw datgan ei hannibyniaeth yn opsiwn yn ei chymuned Hasidaidd Uniongred yn Tel Aviv lle mae’r gyfraith grefyddol a geiriau’r rabbi yn absoliwt. Yn y ffilm gyntaf ryfeddol hon — y ffilm nodwedd gyntaf orau gan fenyw Uniongred o Israel erioed, efallai — mae Burshtein yn adrodd stori am deyrngarwch teuluol, dyletswyddau crefyddol a dymuniadau hunanol gyda hiwmor coeglyd a sensitifrwydd di-ffael.

“Mae Ms. Burshtein yn goleuo byd Shira o’r tu fewn; mae hi fel petai’n galluogi i ni weld ei henaid.” New York Times

NT Live: Coriolanus Iau 30 Ion + Dangosiad Matinée Encore: Maw 4 Chwefror Cyf: Josie Rourke. Gyda: Tom Hiddleston, Mark Gatiss.

Mae Tom Hiddleston yn chwarae rhan un o gymeriadau mwyaf diddorol Shakespeare — y cadfridog Rhufeinig alltud sy’n gorfod cydweithio â’i elyn er mwyn dial — yn y fersiwn hir-ddisgwyliedig hon o’r ddrama.


Sinema

029 2030 4400

August: Osage County

American Hustle

Gwe 31 Ionawr — Iau 13 Chwefror

Gwe 31 Ionawr — Iau 13 Chwefror

UDA/2013/130mun/PG. Cyf: John Wells. Gyda: Meryl Streep, Chris Cooper, Julia Roberts, Benedict Cumberbatch.

UDA/2013/129mun/12A. Cyf: David O Russell. Gyda: Bradley Cooper, Christian Bale, Amy Adams, Jennifer Lawrence.

Daw merched cryfion teulu Weston, y mae bywyd wedi eu gwahanu, yn ôl at ei gilydd yn ystod argyfwng teuluol sy’n eu harwain yn ôl i’r tŷ yn y Midwest lle cawsant eu magu, ac at y fenyw gamweithredol a’u magodd. Mae cyfrinachau tywyll y teulu yn dod i’r wyneb ar ôl i’r patriarch alcoholig fynd ar goll.

Ffilm sy’n edrych ar un o’r sgandalau mwyaf trawiadol yn hanes America. Mae Irving Rosenfeld yn cael ei orfodi i weithio i asiant FBI gwyllt, Richie DiMaso, ac yn cael ei wthio i fyd o wehilion a maffia Jersey, byd sydd ar y naill law yn hynod beryglus ac ar y llaw arall yn gwbl hudolus. Wedi’i ddal rhwng y drwgweithredwyr a’r Feds, mae Carmine Polito yn wleidydd yn New Jersey — ond gwraig ansefydlog Irving yw’r person sy’n bygwth tynnu popeth yn deilchion o’u cwmpas

Gyda’r cloc o’r chwith uchaf: August: Osage County, American Hustle, The Missing Picture

24

Clwb Ffilmiau Merched WOW Mae’r dangosiadau poblogaidd hyn i ferched yn unig yn dychwelyd i Chapter. I gael mwy o fanylion, cysylltwch â Chydlynydd y Clwb Ffilm, Rabab Ghazoul, ar 07759 933311 neu anfonwch e-bost at wowfilmclub@gmail.com. Pris tocyn £3.50, gostyngiadau yn bosib.

The Missing Picture Gwe 31 Ionawr — Llun 3 Chwefror Cambodia/2013/90mun/is-deitlau/12A.Cyf: Rithy Panh.

“Am flynyddoedd lawer, dw i wedi bod yn chwilio am y llun sydd ar goll: ffotograff a dynnwyd rhwng 1975 a 1979 gan y Khmer Rouge pan oedden nhw’n rheoli Cambodia... Ar ei ben ei hun, wrth gwrs, nid yw delwedd yn brawf o lofruddiaeth dorfol.” Enillodd ffilm hunangofiannol, iasol hardd y cyfarwyddwr, Panh, wobr Un Certain Regard yn Cannes. Mae’r gwaith hynod wreiddiol hwn yn defnyddio ffigyrau clai wedi’u gwneud â llaw ynghyd â dioramâu manwl i gyfleu’r difrod a achoswyd gan gyfundrefn Pol Pot yn Cambodia yn dilyn buddugoliaeth y comiwnyddion ym 1975.


chapter.org

Sinema

25

Ffilmiau i’r Teulu Cyfan Detholiad o ffilmiau gwych sy’n addas i’r teulu cyfan, bob dydd Sadwrn am 11am a 3pm. Rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn. Archebwch ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi.

Carry on Screaming!

The Moon Man

Bob dydd Gwener am 11am, mae Carry On Screaming yn galluogi i rieni neu ofalwyr weld ffilm heb orfod poeni y bydd eu babi’n aflonyddu ar eraill. Gweler y calendr am fanylion y dangosiadau arbennig hyn i bobl â babanod blwydd oed neu iau.

Sad 25 — Sul 26 Ionawr

Frozen (2D) Sad 4 — Sul 12 Ionawr UDA/2013/108mun/PG. Cyf: Chris Buck, Jennifer Lee. Gyda: Kristen Bell, Josh Gad.

Mae’r optimist eofn Anna yn ymuno â Kristoff ar daith epig, drwy’r eira a’r oerfel, ac yn dod ar draws dyn eira doniol o’r enw Olaf wrth iddi geisio dod o hyd i’w chwaer, Elsa. Mae pwerau rhewllyd Elsa wedi sicrhau bod y deyrnas yn bodoli mewn gaeaf tragwyddol...

Turbo (2D) Sad 18 — Sul 19 Ionawr UDA/2013/96mun/U. Cyf: David Soren. Gyda: Ryan Reynolds, Paul Giamatti.

A all damwain ryfedd helpu malwen i wireddu breuddwyd fawr ei bywyd — ennill ras yr Indy 500?

Sponsored by Funky Monkey Feet www.funkymonkeyfeet.co.uk 02920 666688

DG/2013/95mun/U. Cyf: Stephen Schesch. Gyda: Katharina Thalbach.

Mae Hen Ŵr y Lleuad yn gafael yng nghynffon comed ac yn dod ar daith i’r Ddaear er mwyn archwilio creaduriaid a golygfeydd rhyfeddol planed newydd. Ond nid yw popeth fel yr ymddengys.

Sesiwn Moviemaker i Gnafon Bychain Sad 25 Ionawr 1 — 3pm

Cyfle i bobl ifainc gyflwyno eu ffilmiau byrion eu hunain ac i wylio a thrafod gyda chyd-wneuthurwyr ffilm ifainc. E-bostiwch MovieMaker@chapter.org i gael manylion ynglŷn â sut i gyflwyno eich ffilm. RHAD AC AM DDIM


26

Addysg

029 2030 4400

ADDYSG

Ffilm yn Afan

Academi Ffilm Pobl Ifainc 2014 O ddydd Sadwrn 18 Ionawr (10 — 2pm) ymlaen, bydd Chapter yn cefnogi rhaglen Sinema Gymunedol Ffilm yn Afan ac yn cyflwyno Academi Ffilm Rhynggenedliadol. Mae’r cwrs mis o hyd ar agor i bobl ifainc rhwng 9 a 12 oed yng Nghwm Afan Uchaf ac fe’i cynhelir ar un dydd Sadwrn y mis rhwng mis Ionawr a mis Gorffennaf. Yr unig bethau sydd eu hangen i gymryd rhan yw awydd tanbaid i ddysgu sut mae ffilmiau’n gweithio, ac aelod o’r teulu sy’n oedolyn (mam, brawd, ewythr, cefnder ...) a hoffai ddod i ddysgu ar y cyd â’r person ifanc. Bydd dangosiadau a gweithdai misol yn canolbwyntio ar bynciau amrywiol — o hanes y sinema i animeiddio, o gyfarwyddo i olygu, ac o sinematograffi i sgriptio. I gael mwy o wybodaeth am ein cyrsiau ffilm wedi’u teilwra’n benodol, a digwyddiadau addysg ffilm, cysylltwch â learning@ chapter.org

Animeiddio ac Awtistiaeth Nosweithiau Mawrth o 28 Ionawr 6pm Yn dilyn ein cwrs Animeiddio llwyddiannus yn ystod yr hydref i bobl ifanc ar sbectrwm awtistiaeth a phobl ifainc ag anghenion addysgol arbennig, bydd Chapter yn cynnal cwrs arall 10-wythnos o hyd ar nosweithiau Mawrth, yn dechrau ar 28 Ionawr am 6pm. Mae’r sesiynau 90-munud o hyd hyn yn caniatáu i’r bobl ifainc sy’n cymryd rhan fagu hyder cymdeithasol ac i ddysgu a datblygu sgiliau animeiddio mewn amgylchfyd cefnogol a chreadigol. Bydd pob sesiwn yn hunangynhaliol neu gellir mynychu’r sesiynau fel cyfres — fe all ein staff animeiddio profiadol drefnu rhaglenni dysgu unigol os bydd angen. Nifer cyfyngedig o leoedd fydd ar gael bob wythnos. Er mwyn cymryd rhan yn y sesiynau, cysylltwch â learning@chapter.org Addas i bobl ifainc 14 — 18 oed.

Cyflwyniad i Ffilmiau Arswyd Trowch i dudalen 17 i weld manylion ein cwrs 5-wythnos o hyd sy’n canolbwyntio ar themâu a thechnegau Ffilmiau Arswyd, dan arweiniad y gwneuthurwr ffilm, Ben Ewart-Dean. www.chapter.org/cy/dysgu-chyfranogi

Digwyddiadau addysg Mae mwy o weithgareddau addysgol ardderchog i oedolion i’w gweld yng ngweddill y rhaglen sinema. Dyma ambell uchafbwynt:

Come Along Do – tudalen 23 Lavender Screen – turadlen 17 SciSCREEN – tudalen 18

I weld manylion ein sgyrsiau a’n digwyddiadau yn yr Oriel trowch i dudalen 9 os gwelwch yn dda.


chapter.org

Bwyta Yfed Llogi

27

O’r chwith i’r dde: Byrgyr gwygbys cyri, cnau coco a choriandyr, Pop Up Produce

BWYTA YFED LLOGI

Bwydlen Newydd

Pop Up Produce

Mae ein bwydlen newydd yn cynnwys prydau hawdd eu deall, o ansawdd ardderchog, ac mae yna bwyslais go iawn ar flas. Maent yn brydau rhyngwladol wedi’u paratoi â chynhyrchion lleol eithriadol. Fel pryd arbenigol, mae Prif Gogydd Chapter, Mark, yn cyflwyno ei fersiwn ef o’r cawl cig oen Cymreig clasurol. Pryd arall i dynnu dŵr o’ch dannedd fydd y golomen wyllt wedi’i gweini â hash madarch, pancetta a thatws — blasus ofnadwy! Ar gyfer y rheiny yn eich plith sy’n dotio ar bysgod, byddwn yn cynnig draenog y môr (‘sea bass’) wedi’i weini â cavolo nero, a cassoulet o ffa cannellini a courgettes, neu gregyn gleision o arfordir Cymru mewn saws hufen a gwin gwyn. Mae ein byrgyr fegan newydd — gwygbys cyri, cnau coco a choriandyr — yn enillydd gwobr Gwir Flas ac, i frecwast, gallwch roi cynnig ar ein byrgyr bara lawr. Dod i fwyta gyda’r plantos? Gall rhieni archebu byrgyr iachus a blasus i’r plant wedi’i wneud o foron, corn, gwygbys a mango. Mae Greta — o siop Greta’s Wholefoodies yn y Bont-faen — yn edrych ymlaen gymaint â ni at sicrhau bod ei byrgyrs ar gael i’n cwsmeriaid. Rydym hefyd wedi ymuno â Tim a Sophie o Ardd Marchnad Glan yr Afon er mwyn cynnig dail salad gaeafol a llysiau ffres anhygoel. Rydym am sicrhau bod digon o ddewis ar gael i’n cwsmeriaid a bod yna rywbeth ar y fwydlen at ddant pawb. Yn Chapter, bydd y sêr i’w gweld ar eich plât ar ôl i ni lansio bwydlen Ionawr 2014 ac mae yna wahoddiad i’r sioe i bob un!

Bob dydd Mercher 4 — 7pm

@chapter_eats

Mae ein marchnad dros dro reolaidd yn cynnwys cynhyrchwyr bwyd lleol sy’n gwerthu bwydydd blasus a chrefftus. Mae Charcutier Ltd yn cynnig y cigoedd gorau wedi’u halltu a’u mygu o Brydain, Ewrop a Gogledd America, mae Sourdough Bakery yn cynnig bara crefftus hyfryd ac, i’r nifer yn eich plith y mae hoffter o bethau melys yn wendid digamsyniol, bydd Your Indulgence yn cynnig cacennau, melysion a siocledi cartref arbennig.

Llogi Mae nifer o leoedd a chyfleusterau ar gael i’w llogi yn Chapter, ac fe ddefnyddir y rhain yn rheolaidd gan gymysgedd eclectig o ddosbarthiadau dydd a nos. Edrychwch ar ein gwe-fan neu codwch daflen yn y swyddfa docynnau i weld yr hyn sydd ar gael. Ac os ydych chi’n chwilio am ystafell ar gyfer parti, cyfarfod, cynhadledd, neu er mwyn ffilmio fideo, ar gyfer ymarferion neu weithgareddau tîm, bydd ein cyfleusterau arloesol, ein gwybodaeth dechnegol a’n staff cyfeillgar ar gael i’ch helpu chi i greu digwyddiad cyffyrddus, unigryw a chofiadwy. Bydd rheolwr ein caffi hefyd yn gallu cynnig amrywiaeth o opsiynau arlwyo ar gyfer eich digwyddiad. Os oes gennych gwestiynau ynglŷn â llogi neu os hoffech chi fwy o wybodaeth, rhowch ganiad i Nicky, rheolwr y gwasanaeth llogi, ar 029 2031 1050/58 neu anfonwch e-bost at nicky. keeping@chapter.org


28

Gwybodaeth

029 2030 4400

GWYBODAETH Sut i Archebu Tocynnau

Gwybodaeth

Dros y ffôn — ffoniwch ni ar 029 2030 4400. Rydym yn derbyn pob un o’r prif gardiau credyd. Galwch heibio — mae ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o 11am-8.30pm, ac ar y Sul o 3pm — 8.30pm. Ar-lein: Gallwch archebu ar www.chapter.org bob awr o’r dydd a’r nos Consesiynau: Mae cyfraddau disgownt ar gael i fyfyrwyr, pobl dros 60 oed, plant, y di-waith, pobl anabl, deiliaid cerdyn MAX ac i Aelodau a deiliaid Cerdyn Chapter. Bydd angen i chi gyflwyno prawf o’ch cymhwyster i dderbyn cyfradd ostyngol. Archebion grŵp: Prynwch 8 tocyn ac fe gewch chi’r 9fed yn RHAD AC AM DDIM. Noder os gwelwch yn dda • dim ond un disgownt y gellir ei ddefnyddio ar unrhyw un adeg • rydym yn hapus i dderbyn archebion ymlaen llaw ond ni allwn gadw tocynnau i’r naill ochr • os cyrhaeddwch chi’n hwyr mae hi’n bosib y cewch chi’ch atal rhag mynychu eich digwyddiad.

Cwmnïau ac Artistiaid Cysylltiedig Mae Chapter yn gartref i gwmnïau theatr, cwmnïau dawns, stiwdios animeiddio, gwneuthurwyr printiau, crochenwyr, dylunwyr graffeg, dylunwyr deunydd symudol, cyfansoddwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, cyhoeddwyr cylchgronau, artistiaid annibynnol a llawer iawn mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.

Sinema Cyn 5pm O 5pm ymlaen Llawn £4.50 (£4.00) £7.90 (£7.20) Cons £3.50 (£3.00) £5.80 (£5.10) Cerdyn + Cons £3.00 (£2.50) £5.00 (£4.50) DISGOWNT DYDD MAWRTH Tocynnau’r holl brif ddangosiadau — £4.40 Prisiau ymlaen llaw/ar-lein mewn cromfachau. Mae “Ymlaen llaw” yn golygu unrhyw bryd cyn diwrnod y dangosiad.

aff nd Lla

Marke t

d/ Heo

Ar Droed Mae hi’n daith gerdded hamddenol o ryw 20 munud o ganol y ddinas. Ar Fws Mae bysus rhif 17, 18 a 33 yn aros gerllaw ac yn gadael bob pum munud o ganol y ddinas. Ar Feic Mae digon o raciau beic ar flaen yr adeilad.

h kwit

Church Rd.

Heol Ddwyreiniol

Le c

Penllyn Rd.

ad

St

Canton

A l be

rt S

t.

Road

P — meysydd parcio rhad ac am ddim  — safle bws — rac feics

ad r Ro Majo

Ha m i l t o n

t ce n

St. ay

d Eas t

Earle Pl.

King’s Ro

Road

. Library St

Gr

Cowbrid ge Ro a

s Cre am nd Wy

Orc h a r d P l.

Lane Gray

nad

M a rk e t P l .

St Talbot

rn Seve

St. Gray

h arc Harve

Sut i gyrraedd Chapter Fe ddewch chi o hyd i ni yn Nhreganna, i’r gorllewin o ganol y ddinas. Heol y Farchnad, Treganna, Caerdydd CF5 1QE

Springfield Pl.

lyF treet yS

Sut i gyrraedd Chapter

e St. Glynn

d Roa

Roa

from 6pm o 6pm

Gweithdai a Dosbarthiadau Rydym yn cynnal amrywiaeth eang o weithdai dyddiol a dosbarthiadau gydag ymarferwyr annibynnol, gan gynnwys bale, zumba, ioga, crefft ymladd, massage i fabanod, cerddoriaeth i blant, pilates, tango, fflamenco, ysgrifennu creadigol, gwersi cerddoriaeth a mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.

y Bont Faen

To Cardiff City Centre / I Ganol Dinas Caerdydd

ton ling Wel

Parcio Mae gennym faes parcio yng nghefn yr adeilad ac mae meysydd parcio lleol eraill wedi eu nodi ar y map uchod. Gofynnwn i chi barchu ein cymdogion os gwelwch yn dda drwy osgoi parcio mewn strydoedd cyfagos.

et Stre

Mynediad i bawb Mae Chapter yn croesawu ymwelwyr anabl. Os oes gennych unrhyw anghenion mynediad penodol ffoniwch ein swyddfa docynnau ar 029 2030 4400, minicom 029 2031 3430.


chapter.org

Cymryd Rhan

29

CYMRYD RHAN Cerdyn CL1C

Cadwch mewn cysylltiad

Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawrlwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Ymunwch â ni ar-lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

Cyfeillion Chapter

eAmserlen rad ac am ddim eAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E-bostiwch megan.price@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e-bost.

Ymunwch â Chyfeillion Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Cyfaill Efydd: £25/£20 Cyfaill Arian: £35/£30 Cyfaill Aur: £45/£40 Trowch i dudalen 11 am fwy o wybodaeth

Hoffai Chapter gydnabod cefnogaeth hael y sefydliadau a’r grwpiau canlynol:

Landfill Community Fund Esmée Fairbairn Foundation EU Culture Programme The Baring Foundation Garfield Weston Foundation Foyle Foundation Biffa Award Colwinston Charitable Trust Admiral Group plc Moondance Foundation Foundation for Sport and the Arts Trusthouse Charitable Foundation Community Foundation in Wales BBC Children in Need The Welsh Broadcasting Trust SEWTA Richer Sounds

The Clothworkers’ Foundation Momentum The Henry Moore Foundation Google Jane Hodge Foundation Simon Gibson Charitable Trust People’s Postcode Trust Dunhill Medical Trust Legal & General Institut für Auslandsbeziehungen e.V Millennium Stadium Charitable Trust The Ernest Cook Trust Lloyds TSB Morgan Signs Garrick Charitable Trust Barclays Arts & Business Cymru

Penderyn The Austin & Hope Pilkington Trust Singapore International Foundation Puma Hotels Collection: Cardiff Angel Hotel Cardiff Airport Wales Arts International Gibbs Charitable Trust Ceredigion Community Scheme The Steel Charitable Trust The Boshier-Hinton Foundation Oakdale Trust Nelmes Design The Coutts Charitable Trust Bruce Wake Charity Funky Monkey Feet

Finnis Scott Foundation Unity Trust Bank Hugh James Contemporary Art Society for Wales The Dot Foundry JVH Gidden & Rees Western Power Distribution Follett Trust Arts & Kids Cymru Canton High School Girl’s Reunion Co-operative Group IKEA Renault Cardiff Embassy of Belgium Queensland Government


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.