029 2030 4400
@chaptertweets
chapter.org
02
Croeso
029 2030 4400
CROESO Croeso i’ch cylchgrawn misol sy’n cynnwys holl fanylion rhaglen Chapter ym mis Mawrth. Â’r Pasg rownd y gornel, mae gennym ddigonedd o weithgareddau i’ch diddanu yn ystod y gwyliau, gan gynnwys ffilmiau a pherfformiadau y gall y teulu cyfan eu mwynhau... Treiddiwch i fyd rhyfedd Flossy a Boo (t14), sydd yn dychwelyd i Chapter i ddiddanu’r plantos â’u dulliau storïol unigryw sy’n cynnwys pypedau, cerddoriaeth a chymeriadau dros ben llestri. Neu dewch â’r teulu i’n sinema clyd, lle byddwn yn dangos y clasuron The Jungle Book a Pinocchio yn ogystal â ffefrynnau mwy diweddar fel Inside Out a Minions (tt32-33). Ag un ar bymtheg o ffilmiau dros gyfnod o wythnos, bydd Gŵyl Ffilm WOW (tt24-29) yn dod â gweithiau o bob cwr o’r byd i garreg y drws y mis hwn. Ac ar ôl diwrnod caled yn y gwaith (neu matinée hamddenol), beth am ymweld â’n Caffi Bar cysurus? Y mis hwn byddwn yn croesawu Unknown Pleasures, (8-12 Mawrth) (t8), gŵyl gwrw sy’n dathlu bragwyr gorau sîn gyffrous Manceinion. Diolch am ddarllen ac fe welwn ni chi cyn hir!
Defnyddiwch y côd QR hwn i lawr-lwytho copi digidol o gylchgrawn Chapter
Fe sylwch chi efallai ar y logo hwn ger manylion rhai ffilmiau a pherfformiadau. Mae’r F yn dynodi ffilmiau a pherfformiadau wedi’u cyfarwyddo gan ferched, gweithiau wedi’u hysgrifennu gan ferched ac/neu sydd yn cynnwys rhannau canolog i ferched ar y sgrin neu ar y llwyfan.
Chapter Heol y Farchnad, Caerdydd CF5 1QE 029 2030 4400 www.chapter.org ymholiadau@chapter.org
Dylunio: Nelmes Design
Delwedd y clawr: Aakash Odedra (llun: Mark Harvey)
chapter.org
Uchafbwyntiau
Celfyddyd tudalennau 4–6
Cefnogwch Ni tudalen 7
Bwyta Yfed Llogi
03
CYMRYD RHAN
tudalen 8
Chapter Mix
Cerdyn CL1C
tudalen 9
Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawrlwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!
Perfformiadau tudalennau 10–16
Addysg tudalen 17
Ffrindiau Chapter Ffilm tudalennau 18–33
Ymunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40
Clwb Chapter
Gwybodaeth a Sut i archebu tocynnau tudalen 34
Cynllun aelodaeth Chapter i fusnesau. Am ffi flynyddol fechan, gall eich busnes chi fwynhau manteision sylweddol yn Chapter, gan gynnwys gostyngiadau i chi a’ch staff ar fwyd, diod a thocynnau. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.chapter.org/cy/chapter-clwb.
Cadwch mewn cysylltiad Ymunwch â ni ar-lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.
eAmserlen rad ac am ddim Cymryd Rhan
eAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E-bostiwch adam.chard@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e-bost.
tudalen 35
Siaradwch â ni
Calendr
@chaptertweets facebook.com/chapterarts
tudalennau 36–37
Nodwch os gwelwch yn dda bod copïau print bras o’n cylchgrawn ar gael ar gais. Cysylltwch â’n Swyddfa Docynnau ar 029 2030 4400.
04
Celfyddyd
Rose Wylie TILT THE HORIZONTAL INTO A SLANT
029 2030 4400
Rose Wylie, NK (Syracuse Line-Up), 2014, Olew ar gynfas, 185 x 333cm. Gyda chaniatâd yr Artist ac Union Gallery
Tan Sul 29 Mai
Oriau agor yr arddangosfa: Dyddiau Mawrth, Mercher, Sadwrn a Sul 12–6pm; dydd Iau a dydd Gwener 12–8pm; ar gau ar ddydd Llun
chapter.org
Celfyddyd
05
Mae delweddau Rose Wylie yn feiddgar, yn anhrefnus o bryd i’w gilydd ac yn aml yn annisgwyl. Maent yn arddangos ysbryd annibynnol bob amser heb ychwaith fod yn ormesol. Mae Wylie’n gweithio’n uniongyrchol ar gynfasau heb eu paratoi, heb eu hestyn. Daw ei hysbrydoliaeth o nifer o wahanol ffynonellau, y rhan fwyaf ohonynt yn boblogaidd a gwerinol. Mae technegau collage a thechnegau fframio byd ffilm, ynghyd â stribedi cartŵn a phaneli’r Dadeni yn dod ynghyd yn ei chyfansoddiadau a’i motiffau cyson. Â hithau’n gweithio o gof, mae Wylie’n distyllu ei phynciau yn sylwadau cryno, gan ddefnyddio testun i roi pwyslais ychwanegol i’w hatgofion. Mae Wylie’n benthyg o ddelweddaeth uniongyrchol ei bywyd bob dydd yn ogystal ag o ffilmiau, papurau newydd, cylchgronau a theledu. Yn aml, yn ystod
datblygiad darn o waith, ac wrth iddi baratoi’r darluniau cychwynnol ar bapur, mae hi’n dilyn llwybrau a chysylltiadau llac yn y meddwl. Mae’r peintiadau dilynol yn ddigymell ond maent wedi eu hystyried yn ofalus; maent yn cyfuno syniadau a theimladau o fydoedd allanol a phersonol. Mae Rose Wylie’n ffafrio’r penodol yn hytrach na’r cyffredinol; er bod pynciau ac ystyr yn bwysig iddi, mae’r weithred o ganolbwyntio ar elfen benodol yn bwysicach fyth. Mae pob delwedd wedi ei gwreiddio mewn eiliad o sylw penodol ac, er bod ei gwaith yn gyfoes o ran ei natur ddarniedig ac o ran y cyfeiriadau diwylliannol a welir ynddo, mae iddo wedd fwy traddodiadol a amlygir yn ei hymrwymiad at elfennau mwyaf sylfaenol y weithred o greu delwedd – arlunio, lliw a gwead.
06
Celfyddyd
029 2030 4400
Rose Wylie, The Young & Old Herr Reylinger, 2014, Olew ar Gynfas, 185 x 336cm. Gyda chaniatâd yr Artist ac Union Gallery
Ynglŷn â Rose Wylie Ganwyd Rose Wylie ym 1934 ac mae hi’n byw ac yn gweithio yng Nghaint. Astudiodd yn Ysgol Gelfyddyd Folkestone a Dover ac yn y Coleg Celf Brenhinol. Yn 2015, etholwyd Wylie yn Aelod Uwch o’r Academi Frenhinol. Cynrychiolodd Brydain yn ‘Women To Watch’, Amgueddfa Genedlaethol Menywod yn y Celfyddydau, Washington DC (2010) ac fe gynhaliwyd yr arolwg cyntaf o’i gyrfa yn Oriel Jerwood, Hastings (2012). Dilynwyd honno gan ei harddangosfa BP Spotlight yn Tate Britain (2013). Arweiniodd hynny at sioeau amgueddfa yn Philadelphia, UDA, Tonsberg, Norwy, Wolfsberg, yr Almaen, Gofod Prosiect Tal R, Copenhagen, Denmarc ac Oriel Douglas Hyde, Dulyn, Gweriniaeth Iwerddon. Yn 2011, derbyniodd Wobr Paul Hamlyn ac, yn 2014, enillodd Wobr Beintio John Moore. Yn 2015, enillodd Wobr Charles Wollaston am y ‘gwaith mwyaf nodedig’ yn Arddangosfa Haf yr Academi Frenhinol a hynny am Herr Rehlinger In White Armour, darn yr ydym yn falch iawn o fedru’i ddangos yn rhan o’r arddangosfa yn Chapter. Mae gwaith Wylie yn rhan o gasgliadau preifat a chyhoeddus a’r rheiny’n cynnwys Casgliad Tate Britain a Chasgliadau Cyngor y Celfyddydau, Sefydliad Jerwood, Casgliad Hammer, Oriel Gelfyddyd Walker, Oriel Gelfyddyd Dinas Efrog ac Amgueddfa Arario. Cynrychiolir yr artist gan Oriel UNION www.union-gallery.com.
Sgwrs am 2 Sad 5 + Sad 19 Mawrth 2pm Mae ein ‘Sgyrsiau am 2’ yn deithiau tywysedig o gwmpas yr arddangosfa gyfredol, yng nghwmni ein Tywyswyr Byw, Richard Higlett a Thomas Williams. Maent yn gyfle i ddysgu mwy am yr arddangosfa gyfredol ac am ddulliau gwaith unigryw yr artistiaid. Ni fydd dwy sgwrs yn union yr un fath ond y gobaith yw y byddan nhw’n ddiddorol ac yn agored bob amser. Mae’r Sgyrsiau am 2 yn rhad ac am ddim ac nid oes angen archebu lle ymlaen llaw — dewch draw i fynedfa’r Oriel i ymuno â ni! RHAD AC AM DDIM
chapter.org
Cefnogwch Ni
07
CEFNOGWCH NI
Mae Chapter yn elusen gofrestredig ac rydym yn dibynnu ar gefnogaeth gan unigolion a busnesau i gyflwyno ein rhaglen artistig amrywiol a’n gwaith addysgol pwysig. Rydym yn ddiolchgar am bob ceiniog a dderbyniwn ac fe allwn gynnig ambell beth gwych i chi yn gyfnewid. I wneud cyfraniad, mewn modd syml a chyflym, tecstiwch ‘Chap16’ ynghyd â’r swm yr hoffech ei roi i 70070. Mae yna nifer o ffyrdd eraill o gymryd rhan hefyd ...
Unigolion
Busnesau
Ffrindiau
Clwb
Ymunwch â chynllun Ffrindiau Chapter ac fe allwch chi fwynhau buddion sy’n amrywio o ostyngiadau ar docynnau a bwyd a diod yn ein Caffi Bar i wahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn Ffrindiau hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C.
Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40
Rhoddion Cofrestrwch i wneud cyfraniadau unigol neu roddion reolaidd i Chapter, er mwyn chwarae rhan lawn yn ein gwaith elusennol. Gallwch wneud cyfraniadau ar-lein ar www.chapter.org/cy/cefnogwch-ni neu drwy ymweld â’n Swyddfa Docynnau. Gallwch wneud cyfraniadau drwy neges destun erbyn hyn hefyd — tecstiwch ‘Chap16’ ynghyd â’r swm yr hoffech ei roi i 70070. Fydd hi ddim yn costio ceiniog i chi anfon y neges ac fe fyddwn ni’n derbyn 100% o’ch cyfraniad.
Myfyrwyr
Ydych chi’n fyfyriwr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael aelodaeth rad ac am ddim a manteisio ar gynigion arbennig ardderchog, fel gostyngiadau yn ein Caffi Bar a thocynnau sinema rhatach? Cofrestrwch heddiw drwy ymweld â chapter.org/cy/myfyrwyr.
Cymynroddion
Mae gadael cymynrodd i Chapter yn fodd i ddiogelu ein gwaith at y dyfodol. Os hoffech chi ystyried gadael rhodd i Chapter yn eich Ewyllys dylech ofyn am gyngor gan eich cyfreithiwr yn y lle cyntaf. Os ydych chi eisoes wedi crybwyll Chapter yn eich Ewyllys, rhowch wybod i ni, fel y gallwn gydnabod eich cyfraniad yn y modd mwyaf priodol.
Cynllun aelodaeth Chapter i fusnesau. Am ffi flynyddol fechan, gall eich busnes chi fwynhau manteision sylweddol yn Chapter, gan gynnwys cyfleoedd i rwydweithio, defnydd o’n mannau llogi hyblyg a gostyngiadau i chi a’ch staff ar docynnau sinema a theatr. Cewch ostyngiadau ar bris bwyd a diod yn ein Caffi Bar hefyd. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.chapter.org/cy/chapterclwb.
Nawdd
Yn 2014, dyfarnodd Celfyddydau & Busnes Cymru Wobr Gyffredinol Categori’r Celfyddydau i Chapter am ein perthynas waith ragorol â busnesau. Mae yna nifer o gyfleoedd ar gael i’n noddi ac mae’r rheiny’n cynnig buddion gwych, gan gynnwys cyfranogiad staff, lletygarwch corfforaethol a hyrwyddo brand. Am fwy o wybodaeth, ewch i www. chapter.org/cy/nawdd. I gael mwy o wybodaeth am unrhyw un o’r materion uchod, cysylltwch os gwelwch yn dda ag Elaina Gray — ffoniwch 02920 355662 neu e-bostiwch elaina.gray@chapter.org.
08
Bwyta Yfed Llogi
Pop Up Produce
ChapterLive
Mae ein marchnad fisol boblogaidd o ddanteithion gan gynhyrchwyr lleol yn dychwelyd y mis hwn ar ôl hoe fach. Ar ddydd Mercher cyntaf bob mis, byddwn yn cyflwyno rhai o’ch hen ffefrynnau ynghyd ag ambell stondin newydd a fydd yn gwerthu siocledi, jamiau, bara arbenigol, nwyddau o Sbaen, pice ar y maen, gwin, teisennau heb glwten, te, mêl a nwyddau i’r cartref. Ydych chi’n cynhyrchu bwyd? Ydych chi wedi sylwi ar fwlch yn narpariaeth Pop Up Produce? Os hoffech chi ymuno â ni unwaith y mis i werthu eich cynhyrchion chi, cysylltwch â Paul — paul.turton@chapter.org — i wneud cais am stondin.
Mae ChapterLive yn gyfres o gyngherddau byw wedi’u curadu gan yr hyrwyddwyr profiadol, Jealous Lovers Club, a fydd yn cyflwyno detholiad o’u hoff grwpiau o’r DG, Ewrop a gwledydd pellennig eraill yn Chapter. Mae ChapterLive yn gyfle i ddarganfod artistiaid newydd gwych. I gael mwy o wybodaeth am y grwpiau wrth iddyn nhw gael eu cadarnhau, ewch i’n gwe-fan.
Mer 2 Mawrth 3-8pm
Unknown Pleasures Maw 8 — Sad 12 Mawrth
(Mae oriau agor y bar i’w gweld ar y calendr) Ar ôl camu allan o gysgod hufennog Boddingtons, mae dinas Manceinion ar ganol chwyldro cwrw crefftus. Mae micro-fragdai bychain ond dylanwadol fel Six O’Clock Beer Co a Blackjack Beers wedi ymuno ag eraill fel y Marble Brewery i sicrhau bod Manceinion bellach yn gyrchfan o bwys i gwrwgarwyr. Bydd y ddinas yn cynnal ei Hwythnos Gwrw swyddogol gyntaf ym mis Mehefin eleni — dyma feddwl, felly, y byddai’n dda o beth ymuno yn y dathliadau gyda’n gŵyl flynyddol ni o gwrw casgen y mis hwn. Byddwn yn cyflwyno cwrw o ryw ddwsin o fragdai newydd neu fychain — a fydd yna ddim Flake i’w gael ar yr un ohonynt! Ac os ydych chi’n hoff o wirodydd, ac yn gyfarwydd â’r enw Zymurgorium, byddwch chi wedi cyffroi’n lân eisoes ...
029 2030 4400
Gwe 11 + Gwe 25 Mawrth 9pm
RHAD AC AM DDIM @JealousLovers1 #ChapterLive
Llogi Mae nifer o ystafelloedd a chyfleusterau Chapter ar gael i’w llogi ac mae llawer o’r rhain yn cael eu defnyddio’n rheolaidd gan gymysgedd eclectig o ddosbarthiadau dydd a nos. Ewch i’n gwe-fan neu codwch daflen yn y swyddfa docynnau i weld yr hyn sydd ar gael. Os ydych chi’n chwilio am ystafell ar gyfer parti, cyfarfod neu gynhadledd, neu am ofod i saethu fideo, i ymarfer neu i gynnal gweithgareddau adeiladu tîm, bydd ein cyfleusterau gwych, ein harbenigedd technegol a’n staff cyfeillgar yn gallu sicrhau bod eich digwyddiad yn gyffyrddus, yn unigryw ac yn gofiadwy. Gallwn gynnig amrywiaeth o opsiynau arlwyo ar gyfer eich digwyddiad hefyd. Os oes gennych chi gwestiynau penodol, neu os hoffech chi fwy o wybodaeth am ein cyfleusterau, rhowch ganiad i’n rheolwr llogi, Nicky, ar 029 2031 1058 neu anfonwch e-bost at nicky.keeping@chapter.org.
chapter.org
Chapter Mix
09
CHAPTER MIX Meddygfa Cyfryngau Cymdeithasol Treganna Mer 2 Mawrth 5–7pm
Ydych chi wedi clywed am gyfryngau cymdeithasol ond heb fod yn siŵr sut mae’r holl beth yn gweithio? Neu sut y gall y cyfryngau cymdeithasol fod o fudd i chi neu i’ch grŵp? Dewch draw i’r Cwtsh yn y Caffi Bar am gyfarfod hamddenol ac anffurfiol. Delfrydol ar gyfer dechreuwyr neu os ydych chi neu eich grŵp cymunedol yn awyddus i fagu mwy o hyder. RHAD AC AM DDIM @cantonsms
Dydd Iau Cyntaf y Mis Barddoniaeth a Ffuglen Newydd Iau 3 Mawrth 7.30pm
Gyda’r bardd, Judy Brown, a fydd yn darllen o’i llyfr newydd, Crowd Sensations, a’r nofelydd o Iwerddon, Helen Blackhurst, a fydd yn darllen o’i llyfr newydd hi, Swimming on Dry Land. I’w dilyn gan sesiwn meic agored. £2.50 wrth y drws
Clwb Comedi The Drones Gwe 18 Mawrth Drysau’n agor: 8.30pm Sioe’n dechrau: 9pm
Clint Edwards sy’n cyflwyno’r ‘stand-ups’ addawol gorau. Gwelwyd peth o ddeunydd y nosweithiau hyn ar raglen ‘Identity Crisis’ Rob Brydon. Dydd Gwener cyntaf a thrydydd dydd Gwener y mis. £3.50 (wrth y drws)
Pythefnos Masnach Deg:
Ymweliad gan ffermwr o Balestina Maw 8 Mawrth 7.30pm
Dewch i glywed hanes ffermwr masnach deg o Balestina, Mohammed Hamada. Bydd e yn Chapter yng nghwmni aelodau o staff Zaytoun, cwmni sy’n mewnforio nwyddau masnach deg o Balestina. Dewch i glywed am rai o’r anawsterau y mae’r ffermwyr yn eu hwynebu a sut y mae masnach deg yn gwneud gwahaniaeth i’w cymunedau. Dilynir y sgwrs gan sesiynau blasu yn llawn nwyddau blasus o Balestina a chyfle i brynu olew olewydd, perlysiau Za’atar, datys, cwscws a mwy! RHAD AC AM DDIM www.fairdos.com
Clwb Comedi The Drones yn cyflwyno
“The Donny Donkins ‘AS (hopefully soon to be) SEEN ON TV!’ Show “
Iau 10 Mawrth 2pm Toby Faber MA MBA
Gwe 4 Mawrth Drysau’n agor: 8.30pm Sioe’n dechrau: 9pm
Ar ôl llwyddiant yn ‘Fringe’ Caeredin, mae Brenin Digamsyniol Byd Comedi*, Donny Donkins, yn dod â’i sioe deledu fyw i Gaerdydd. Crëwyd cymeriad Donny Donkins — digrifwr hunandwyllodrus ar drothwy chwalfa nerfol — gan y ‘stand up’, Barry Castagnola (BBC3, Channel 4, ITV). Un o 10 Uchaf Gŵyl Caeredin, GQ *efallai £3.50 (wrth y drws)
Jazz ar y Sul Sul 20 Mawrth 9pm
Ein noson fisol o jazz acwstig melodig yn y Caffi Bar, gyda Phedwarawd Jazz Chapter — Glen Manby, Jim Barber, Don Sweeney a Greg Evans. RHAD AC AM DDIM www.glenmanby.com
Cylch Chwedleua Caerdydd Sul 6 Mawrth 8pm
Dathlu Dydd Gŵyl Dewi â straeon a chaneuon £4 (wrth y drws)
Darlith Cymdeithas Celfyddydau Cain ac Addurnol De Cymru Faber and Faber — 90 mlynedd o gloriau rhagorol. Yn llawn hanesion a straeon personol, bydd y ddarlith hon yn olrhain hanes un o brif gyhoeddwyr Llundain drwy gyfrwng ei ddarluniau, ei gloriau a’i ddyluniadau. Mae hanes gweledol y wasg yn cynnwys artistiaid mor amrywiol â Rex Whistler, Peter Blake a Damien Hirst a chysyniadau dylunio’n amrywio o waith teipograffeg arloesol Berthold Wolpe i ‘gridiau’ amrywiol asiantaeth Pentagram. £6 i ymwelwyr (wrth y drws, yn ddibynnol ar le) www.swdfas.org
Clonc yn y Cwtsh Bob dydd Llun 6.30–8pm
Ydych chi’n dysgu Cymraeg? Mae hwn yn gyfle gwych i ymarfer eich Cymraeg yng nghwmni dysgwyr eraill. Croeso i bawb! RHAD AC AM DDIM Ar y cyd â Menter Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd
10
Perfformiadau
029 2030 4400
PERFFORMIADAU Cefnogir Theatrau Chapter gan rodd David Seligman er cof am Philippa Seligman
Gyda’r cloc o’r brig: Gary Clarke (Llun: Joe Armitage); Liz Aggiss (Llun: Joe Murray); James Cousins (Llun: Benedict Johnson)
Perfformiadau
11
O’r chwith i’r dde: Robbie Synge, Wendy Houston (Llun: Hugo Glendinning)
chapter.org
British Dance Edition Maw 15 — Gwe 18 Mawrth Mae’r British Dance Edition (BDE) yn arddangosfa ddwyflynyddol o ddawnsio Prydeinig. Yn ddigwyddiad o bwys ar y calendr dawns rhyngwladol, mae’r BDE yn cyflwyno rhaglen amrywiol o weithiau dawns o safon dros gyfnod o bedwar diwrnod. Mae’r pedwar prif bartner — Canolfan Mileniwm Cymru, Tŷ Dawns Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Chanolfan Glan-yr-afon — yn cael eu harwain gan Chapter a’i raglen o gynhyrchu creadigol, Coreo Cymru. Coreo sydd yn gyfrifol am ddenu’r British Dance Edition i Gymru am y tro cyntaf ers sefydlu’r ŵyl gan y Rhwydwaith Dawns Cenedlaethol yn 1998. Mae Chapter a’i bartneriaid yn falch iawn o groesawu hyd at 375 o gynadleddwyr ac o gefnogi’r gwaith o brynu a gwerthu gweithiau dawns Prydeinig a meithrin cysylltiadau newydd oddi mewn i’r gymuned ddawns ryngwladol. Bydd y rhaglen amrywiol o ddawnsio penigamp yn cynnwys perfformiadau gan 36 o artistiaid a chwmnïau dawns blaenllaw ac addawol o bob un o bedair gwlad y DG a’r rheiny’n cynnwys Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Jo Fong, Gwyn Emberton Dance, y Theatr Genedlaethol, Vertical Dance Kate Lawrence a Up & Over It. Bydd tocynnau i bum perfformiad deinamig yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd, a Chanolfan Glan-yr-afon yng Nghasnewydd ar werth i’r cyhoedd a byddant yn gyfle i brofi rhai o’r gweithiau dawns mwyaf cyffrous yn y DG. Mae’r rhain yn cynnwys dau gyflwyniad triphlyg yn theatr Donald Gordon gan
Russell Maliphant, Cwmni Dawns Phoenix, Theatr Ddawns yr Alban, Cwmni Hofesh Shechter, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Candoco; a rhaglen ddwbl o sêr y dyfodol yng Nghanolfan Glan-yr-afon, Aakash Odedra a James Cousins, ynghyd â theatr ddawns hudolus gan Gary Clarke a Theatr Gecko. Bydd Chapter yn cyflwyno gwaith gan gwmnïau addawol Robbie Synge, Dan Daw Creative Projects a Project O ar ddydd Mercher 16 Mawrth. Byddwn hefyd yn croesawu dirprwyaeth ryngwladol o weithwyr proffesiynol byd dawns. I gyd-fynd â’r rhaglen lawn hon o waith, bydd yna sioe fasnach helaeth hefyd â rhyw 70 o gwmnïau Prydeinig yn cymryd rhan. Bydd 11 o artistiaid a chwmnïau yn ychwanegol at hynny yn cyflwyno eu cynyrchiadau a’u syniadau newydd, a’r rheiny’n cynnwys Ballet Cymru, Simon Whitehead, Shobana Jeyasingh a Jasmin Vardimon a bydd yna raglen Busnes Dawns i artistiaid a chynhyrchwyr addawol ar y cyd â Dance UK a’r Cyngor Prydeinig . Bydd tocynnau undydd ar gael i artistiaid annibynnol lleol a gweithwyr proffesiynol. Bydd y rheiny’n caniatáu i chi ymweld â’r Sioe Fasnach, sesiynau trafod, derbyniadau, digwyddiadau rhwydweithio a pherfformiadau dethol ar 17 Mawrth yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Ewch i www.britishdanceedition.com i gael mwy o wybodaeth am y rhaglen.
Perfformiadau
029 2030 4400
Ted Shiress
12
Ted Shiress: I Am Still Not Sting
Project O
Mer 2 Mawrth 7.30pm
Perfformiadau Cyhoeddus British Dance Edition Pum perfformiad gan gwmnïau dawns eithriadol o bob cwr o’r DG
Canolfan Mileniwm Cymru Mer 16 Mawrth 8pm Theatr Ddawns yr Alban Dreamers Cwmni Russell Maliphant Piece No. 43 Theatr Ddawns Phoenix Bloom
Nid Sting oedd Ted Shiress dro yn ôl — a dyw hynny ddim wedi newid yn y cyfamser. Ac nid unrhyw seren roc arall mohono chwaith. Mae sêr roc yn cael y merched. Yn wahanol i Ted. Gallwch ddisgwyl iddo barhau i rantio a chwyno am hynny ac amrywiol rwystredigaethau eraill yn y sioe hon sy’n dilyn ei berfformiad yng Ngŵyl Gomedi Caerdydd 2015. Ategir doniau comig unigryw Ted gan Carri Munn a fydd yn cyflwyno fersiwn newydd o’r sioe a welwyd yng Ngŵyl Gomedi Caerdydd 2015, Keep Calm Like Carri Munn. Bydd y noson hefyd yn cynnwys darnau wedi’u hanimeiddio ac elfennau ffilm newydd o we-gyfres ‘Cynic Ted’. Yn honno, mae e’n chwarae ef ei hun — nid Sting. £8/£6
Ed Aczel The Random Flapping of a Butterfly’s Wings
Iau 17 Mawrth 8pm
Sad 5 Mawrth 8pm
Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru Tuplet Cwmni Dawns Candoco Beheld Cwmni Hofesh Shechter tHE bAD
Mae Ed Aczel, “gwrth-ddigrifwr byw gorau Prydain”, yn ôl The Guardian, wedi cychwyn ar ei ail daith genedlaethol wrth iddo fynd ati unwaith eto i geisio diffinio natur bodolaeth. Mae Aczel yn adnabyddus am beidio â dilyn rheolau ‘stand-up’ ac mae e’n bwriadu defnyddio ei sioe, a dosaid o Theori Anhrefn, i newid y byd unwaith ac am byth — er y gallai hynny fod yn fusnes rhy gymhleth yn y pen draw. Mae e’n gofyn y cwestiwn, ‘A allwch chi gadw torth a’i bwyta hi?’ — h.y. a oes modd newid ymwybyddiaeth ddynol a chadw’ch penwythnosau’n rhydd? Mae e’n cynnwys ambell stori gylchol am ei fywyd ond dyw’r rheiny ddim yn para’n rhy hir, diolch i’r drefn. Trwy gyfrwng mathemateg, hanes a byrfyfyrio, bydd Aczel yn archwilio ei psyche ei hun, yn dadansoddi ei freuddwydion ac yn ceisio peidio â bod yn rhy paranoid wedi hynny...
£10–£26 www.wmc.org.uk 029 2063 6464
Glan-yr-afon Mer 16 Mawrth 3pm Cwmni Gary Clarke Coal 6pm Cwmni James Cousins There We Have Been Cwmni Aakash Odedra Echoes
Gwe 18 Mawrth 3pm Gecko Institute
£12.50/£10.50 www.newportlive.co.uk/riverfront 01633 656757
£10/£9/£8 Oed: 16+
“Un o’r sioeau mwyaf rhyfedd a mwyaf difyr ers blynyddoedd” Metro
Perfformiadau
Hijinx ar y cyd â Blind Summit yn cyflwyno
Theatr Everyman yn cyflwyno
13
Gyda’r cloc o’r chwith: Meet Fred, Medea, Worse Things Happen
chapter.org
Meet Fred Iau 3 Mawrth 1.30pm + 7.30pm Dyma Fred. Dyn digon normal sydd eisiau bwrw ymlaen â’i fywyd: dod o hyd i swydd, dod o hyd i ferch fach neis, setlo i lawr. Yr unig broblem yw taw pyped yw Fred. Mae bywyd bob dydd yn anodd pan fyddwch chi’n dibynnu ar dri dyn arall drwy’r amser. Mynd allan am dro, cwrdd â merched, mynd i’r ystafell ymolchi ... dyw bywyd byth yn hawdd i’r pypedau yn ein plith. Wedi’i chreu ar y cyd â’r pypedwyr arbenigol, Blind Summit, mae’r sioe “hynod ddifyr” (Wales Arts Review) hon yn ymwneud ag ymgais rhywun o’r tu allan i adael ei farc mewn byd lle mae angen llawer iawn o help arno. Yn ffraeth, teimladwy a herfeiddiol, mae Meet Fred yn cynnwys pyped cegog ac, fel ymhob un o gynyrchiadau Hijinx, berfformiadau byw gan actorion a chanddynt ac heb fod ganddynt anableddau dysgu. Dyfeisiwyd gan The Company Cyfarwyddwyd gan Ben Pettitt-Wade 1.30pm: £5 7.30pm: £10/£8/£6 Oed: 12+
Medea gan Euripides Cyfieithiad gan Philip Vellacott Maw 8 — Sad 12 Maw 8pm Cyn hired ag y bu gwragedd, bu yna ddynion i’w bradychu. Ond nid gwraig gyffredin mo Medea. Mae hi’n wyres i dduw’r haul ac i wrach. Ac mae ei gŵr, Jason, arweinydd enwog yr Argonawtiaid, yn dysgu, yn rhy hwyr o lawer, ei fod wedi gwneud camgymeriad ofnadwy. Ymunwch â Theatr Everyman am fersiwn dywyll a chyfriniol o’r drasiedi enwog ac oesol hon. £10/£8 (consesiynau Maw + Iau yn unig)
Worse Things Happen Iau 10 — Sad 12 Mawrth 8pm + Matinee Sad 12 Mawrth 3pm Roeddwn i’n edrych ar y môr. Roeddwn i’n meddwl ba mor hawdd fyddai hi i ddiflannu. Beth yw’r gost pan fyddwch chi’n credu’r stigma sydd wedi codi o’ch hamgylch? Mae’r sioe hon yn archwiliad — ysgafn ond dwys — o iselder. Mae Catriona yn actor, yn hoff o straeon gwir, yn berfformiwr corfforol ac yn dioddef o iselder. Cefnogir gan: £12/£10/£8
14
Perfformiadau
029 2030 4400
Perfformiadau i’r Teulu Cyfan dros gyfnod y Pasg
Flossy and Boo
Maw 29 Mawrth — Sad 2 Ebrill
Flossy a Boo yn cyflwyno:
The Legendary Adventure of Litla the Brave
Flossy and Boo’s Curiosity Shop Maw 29 Mawrth – Sad 2 Ebrill 7pm
Wrth i’r gwynt wylofain ac wrth i’r coed grecian, mae Litla fach yn mynd tuag at y tŷ gwag ym mhen draw’r goedwig ac mae hi’n benderfynol o ddod o hyd i’r hyn y mae hi wedi’i golli. Bydd Flossy a Boo yn cyflwyno’u harddull hynod eu hunain mewn sioe y gall y teulu cyfan ei mwynhau — stori frathog a thywyll am gariad, colled ac arbrofion botanegol gwallgof. Â phypedau, cerddoriaeth a chymeriadau dros ben llestri, mae hon yn sioe sy’n llawn dychymyg byrlymus.
Mae Flossy a Boo wedi penderfynu dianc o’r syrcas i sefydlu eu ‘Curiosity Shop’ teithiol eu hunain — un a fydd yn teithio’r byd ac yn casglu straeon, caneuon a thrugareddau bychain i’w storio ar eu trol. Dewch draw! Dewch draw! Dewch i glywed eu hanesion rhyfeddol (ac anghredadwy, braidd)! Ac i fwynhau eu caneuon hynod grefftus, caneuon nad ydyn nhw byth-bythoedd, wir yr, yn wirion! Yn llawn cerddoriaeth wreiddiol fyw, theatr gorfforol a chomedi, mae Flossy and Boo’s Curiosity Shop yn sioe theatr ryngweithiol — ac mae yna rywbeth i bawb yn eu byd rhyfedd!
Argymhelliad oedran: 6+ £7
£12/£10/£8
“ Os ydych chi’n chwilio am ddarn sy’n llawn dychymyg ac a fydd yn rhoi gwên fel gât ar eich wyneb ewch da chi i weld Flossy and Boo’s Curiosity Shop. Pleser pur!” Arts Scene in Wales
Maw 29 Mawrth — Gwe 1 Ebrill 10.30am + Sad 2 Ebrill 1pm
Gweithdai Creadigol Techneg Motley
Maw 29 Mawrth — Gwe 1 Ebrill 1-3pm Mae Techneg Motley yn ddull theatraidd a ddyfeisiwyd gan Flossy a Boo ac mae’n cynnwys elfennau o grefft y clown, cerddoriaeth, theatr gorfforol, adrodd straeon a rhyngweithio â’r gynulleidfa. Yn y gweithdy hwn, gallwch arbrofi â ffurf a chynnwys a dechrau creu eich gwaith theatr eich hun gyda chymorth Techneg Motley. Bydd yn gyfle i chi ddatblygu fel artist, i fagu hyder ac i gael eich traed oddi tanoch mewn ffordd newydd o weithio. Â mwy na deng mlynedd o brofiad cyfun, bydd Flossy a Boo yn eich tywys drwy hanfodion eu harddull mewn awyrgylch cefnogol a gwirion. £12 am un gweithdy, £40 am bedwar (o’u harchebu gyda’i gilydd)
Perfformiadau
15
Boxy & Sticky
chapter.org
Theatr Iolo yn cyflwyno
Boxy & Sticky
Sad 2, Llun 4 Maw + 5 Ebrill 11am + 2pm Antur theatrig lawn direidi sy’n siŵr o ddifyrru a llonni plant 2-5 oed (a’u teuluoedd). Crëwyd a Chyfarwyddwyd gan Sarah Argent Mae gen i focs. Mae gen i ffon. Gall fy mocs i fod beth bynnag y dymunaf iddo fod. Gallaf i fod y tu mewn iddo. Ar y tu allan. Oddi tano. Ar ei ben. Fy ffon i oedd y tegan cyntaf yn y byd. Dw i’n gallu ei ddefnyddio i dapio. Ei daflu a’i ddal. Gallaf ei gydbwyso ar fy mhen!
Yn dilyn rhediad hynod lwyddiannus y llynedd, mae Boxy a Sticky yn dychwelyd i Chapter yn ystod gwyliau’r Pasg ac fe fydd yna gyfle hefyd i aros ar ôl y perfformiad i chwarae. Ieithoedd y perfformiadau:
Sad 2 Ebrill (perfformiad yn Saesneg) Llun 4 Ebrill (perfformiad yn Gymraeg) Maw 5 Ebrill (perfformiad yn Saesneg)
Perfformiad 40 munud o hyd + sesiwn chwarae o 15 munud. £7
“ Darn o theatr i gynhesu’r galon ac i ysbrydoli a difyrru plant ifainc” Cathryn Scott, ‘Cardiff Mummy Blogger’
Perfformiadau
029 2030 4400
Good News From The Future
16
Good News From The Future What Comes Next? Gwe 18 + Sad 19 Mawrth 8pm “Rydym yn hapus yn ein crwyn ein hunain — daeth ein haeddfedrwydd â detholiad hollol newydd o bleserau yn ei sgil.” Cyfle arall i weld ‘hit’ annisgwyl Gŵyl Ddawns Caerdydd fis Tachwedd diwethaf. Mae Good News From The Future yn dwyn ynghyd weithwyr arloesol o fyd y theatr gorfforol, ambell un nad yw wedi perfformio ers amser maith ac ambell un nad yw ond newydd ddechrau. Mae’n nodi ac yn dathlu’r doethinebau sy’n llechu mewn cyrff hŷn ac ysbryd anturus y rheiny a fu’n myned y daith ers meitin. Daw dwsin o berfformwyr at ei gilydd mewn darn byrfyfyr ecsentrig ac afieithus sy’n cynnwys unawdau, deuawdau a gwaith grŵp. A’r cyfan yn hwyl go iawn! £10/£8
Theatr Bara Caws yn cyflwyno
Hogia Ni — Yma O Hyd Maw 22 — Iau 24 Mawrth 8pm (Cynhyrchiad yn Gymraeg. Bydd yna grynodeb Saesneg o bob golygfa felly bydd y sioe’n addas ar gyfer y rheiny sy’n dysgu Cymraeg.) Mae hi’n 2014 ac mae Lluoedd Arfog ei Mawrhydi wedi dychwelyd, o’r diwedd, o Helmand, Affganistan. Mae tri chyn-filwyr yn cyfarfod yn yr Alex, Caernarfon. Mae Iwan Jones, Diane Taylor a Telor Roberts wedi dychwelyd i fywyd sifil ond, o dipyn i beth, daw’n amlwg na fydd hi’n bosib iddynt ailgydio yn eu bywydau blaenorol. Nid yw’r profiad hunllefus o fod ar flaen y gad yn cilio byth. Mae geiriau Plato, “Dim ond y meirw wêl ddiwedd rhyfel”, mor berthnasol ag erioed. £12/£10/£8
Newsoundwales yn cyflwyno
The Moon Birds, Holiday in the Mind + Sean O’Brien Sad 26 Mawrth 7.30pm Mae’r grŵp pum-aelod, The Moon Birds, o Ferthyr Tudful, yn prysur ennill enw da iddyn nhw eu hunain fel un o fandiau byw gorau Cymru. Daw amrywiaeth o ddylanwadau — Bob Dylan, The Beatles a Chic — at ei gilydd i greu coctel cerddorol penfeddwol. Mae Holidays in the Mind, y band a ffurfiwyd gan y diweddar annwyl Mark Humphries, yn feistri ar gerddoriaeth bop seicedelig, ac mae Sean O’Brien yn ganwr gwerin hynod addawol a chanddo lais llawn cyfoeth a phrofiad. £9
“ Anhygoel. Dw i ddim yn cofio’r tro diwethaf i mi weld perfformiad mor hyderus gan grŵp o gerddorion ifainc” David Owens, WalesOnline
chapter.org
Addysg
17
ADDYSG
‘Sewcial’ Chapter O Sul 17 Ionawr ymlaen am gyfnod o 10 wythnos Dau gwrs 10 wythnos o hyd a fydd yn galluogi pobl ifainc wyth i 14 oed i ddysgu a datblygu eu sgiliau gwnïo.
Cwrs Dechreuwyr: 1.30pm–3pm Cwrs Canolradd: 3.30pm–5pm
Lle i 10 person ifanc ymhob gweithdy £50 am gwrs 10 wythnos neu £6 am sesiwn unigol. Gallwch gadw lle drwy gysylltu â’n Swyddfa Docynnau — 029 2030 4400
Addysg
Animeiddio ac Awtistiaeth Cwrs 1: Mer 24 Chwefror, Mer 2, Mer 9, Mer 16 + Mer 23 Mawrth 5.15– 6.45pm Cwrs 2: Iau 14, Iau 21, Iau 28 Ebrill, Iau 5 + Iau 12 Mai 5.15–6.45pm
Yn ystod y gwanwyn, byddwn yn cyflwyno dau gwrs arall pum wythnos o hyd i bobl ifainc ar sbectrwm awtistiaeth a phobl ifainc a chanddynt anghenion addysgol arbennig. Mae’r sesiynau 90 munud o hyd hyn yn caniatáu i’r bobl ifainc fagu hyder cymdeithasol ac i ddysgu a datblygu sgiliau animeiddio mewn awyrgylch cefnogol a chreadigol. Gall pob sesiwn fod yn sesiwn unigol neu’n rhan o gynllun gwaith mwy — gallwn drefnu rhaglenni dysgu unigol i bob cyfranogwr. Bydd lle i wyth disgybl bob wythnos. £25
Academi Ffilm Pobl Ifainc 2016 Sad 27 Chwefror, Sad 5, Sad 12 + Sad 19 Mawrth 10.30am–2.30pm
Ym mis Chwefror, bydd ein rhaglen lwyddiannus a phoblogaidd i’r genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr ffilm yn dychwelyd. Os ydych chi rhwng naw a 12 oed, cysylltwch â ni cyn gynted â phosib — nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. Bob wythnos, bydd cyfranogwyr yn dysgu am agwedd benodol ar y broses o wneud ffilmiau. Bydd cyfle hefyd i wylio ffilm sy’n enghreifftio’r agwedd honno.
Sad 27 Chwefror: ‘Sut caiff ffilmiau eu gwneud’ Sad 5 Mawrth: ‘Hanes y Sinema’ Sad 12 Mawrth: ‘R’ych chi eisiau bod yn gyfarwyddwr, felly?’ Sad 19 Mawrth: ‘Sut i olygu ffilm’
Nodwch os gwelwch yn dda y bydd angen pecynnau bwyd bob dydd. £40 am bob un o’r pedair sesiwn (yn cynnwys tocynnau ffilm). £12 y sesiwn (yn cynnwys tocyn ffilm)
Ffilm
029 2030 4400
Trumbo
18
Ffilm
19
Our Brand Is Crisis
A Bigger Splash
Gwe 26 Chwefror — Iau 3 Mawrth
Gwe 26 Chwefror — Iau 3 Mawrth
UDA/2015/107mun/15. Cyf: David Gordon Green. Gyda: Sandra Bullock, Billy Bob Thornton, Anthony Mackie, Zoe Kazan.
Yr Eidal/2015/120mun/15. Cyf: Luca Guadagnino. Gyda: Tilda Swinton, Ralph Fiennes, Dakota Johnson, Matthias Schoenaerts.
Mae ymgynghorydd gwleidyddol Americanaidd di-ildio yn anghofio am ei hymddeoliad ar ôl i sgandal arwain at ail-ethol arlywydd dadleuol yn Bolivia. Ond mae’n rhaid iddi gystadlu ag un o’i gwrthwynebwyr pennaf sy’n gweithio dros ymgeisydd arall. Ffilm sy’n dangos mor ddifrifol, ac mor hwyliog hefyd, yw’r hen gêm wleidyddol yna weithiau ...
Mae Marianne yn seren roc sy’n gwella ar ôl llawdriniaeth ar ei chordiau lleisiol. Mae hi ar ynys ym Môr y Canoldir gyda’i chariad, y gwneuthurwr ffilmiau, Paul. Yn gwbl annisgwyl, mae cyn-gariad iddi, Harry, a’i ferch hardd ond pigog ef, yn ymddangos yn ei fila. Drama seicolegol bryfoclyd sy’n llawn rhamant, cenfigen a chynllwynion di-foes.
Mae Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael — gweler y calendr am fanylion.
“ Coctel o emosiynau dwys, tirweddau trosgynnol a throeon annisgwyl... gwledd go iawn” Andrew Pulver, The Guardian
O’r chwith i’r dde: Our Brand Is Crisis, A Bigger Splash
chapter.org
Trumbo Gwe 19 — Iau 3 Mawrth UDA/2015/124mun/15. Cyf: Jay Roach. Gyda: Bryan Cranston, Diane Lane, Helen Mirren, Michael Stuhlbarg, Louis CK.
Roedd Dalton Trumbo yn gyfrifol am sgriptio nifer o glasuron Hollywood ac hefyd yn un o’r ‘Hollywood Ten’ a wthiwyd i’r ymylon oherwydd eu cysylltiadau honedig (a gwirioneddol) â Chomiwnyddiaeth yn ystod cyfnod y Rhyfel Oer yn America. Yn gymeriad allblyg, ecsentrig ac angerddol, gwrthododd Trumbo gael ei effeithio gan yr ymdrechion i ddifetha ei yrfa. Stori lawn hiwmor am wytnwch dynol yn ystod cyfnod hurt a pheryglus ac atgoffâd amserol o’r angen i frwydro dros eich credoau.
Alphaville Sul 28 Chwefror + Maw 1 Mawrth Ffrainc/1965/95mun/12A. Cyf: Jean-Luc Godard. Gyda: Eddie Constantine, Anna Karina, Akim Tamiroff.
Mae asiant cudd o UDA yn cael ei anfon i unbennaeth decnocratig Alphaville, lle mae’n rhaid iddo ddod o hyd i berson coll a rhyddhau’r ddinas o afael yr arweinydd creulon. Yn gyfuniad o wyddonias dystopaidd a ffilm noir, saethwyd y ffilm ar strydoedd Paris, lle roedd pensaernïaeth fodern yr arddull ‘brutalist’ yn gynrychioliad o fyd newydd. Enillydd yr Arth Aur yng Ngŵyl Ffilm Berlin 1965
Mae Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael — gweler y calendr am fanylion.
Mae Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael ar gyfer nifer o’n ffilmiau. Fodd bynnag, fe all y wybodaeth honno newid wedi i ni anfon y cylchgrawn hwn i’r wasg. Bydd y wybodaeth ddiweddaraf ar gael i chi ar ein gwe-fan. Gweler t23 am fanylion sesiwn holi-ac-ateb arbennig Power In Our Hands.
20
Ffilm
029 2030 4400
“ Mae’n anodd meddwl amdano fel un sy’n perthyn bellach i’r gorffennol — am mai ef oedd y dyfodol, bob amser” Julien Temple Yn dilyn y newyddion trist am farwolaeth David Bowie yn gynharach eleni, bydd Chapter yn dathlu ei gyfraniad ef i fyd y sinema.
The Hunger
Labyrinth
UDA/1983/96mun/18. Cyf: Tony Scott. Gyda: David Bowie, Susan Sarandon, Catherine Deneuve.
DG/1986/98mun/U. Cyf: Jim Henson. Gyda: David Bowie, Sarah Connelly, Toby Philpott, Ron Mueck, Danny John Jules.
Mae Miriam Blaylock yn casglu celfyddyd y Dadeni, tlysau crog o’r Hen Aifft, cariadon ac eneidiau. Mae hi’n fampir brydferth, oesol sy’n byw yn Efrog Newydd gyda’i gŵr ffyddlon, John. Wedi iddo fe ddechrau heneiddio, maent yn mynd at wyddonydd, y Dr Sarah Roberts, ac mae Miriam yn dechrau ei llygadu hi fel partner newydd posib.
Mae’r chwaer hŷn, Sarah, wedi cael digon ar orfod gofalu am ei llysfrawd ifanc ac yn gofyn i’r Coblynnod ei gymryd ymaith. Mae’r Coblynnod yn cytuno ac, yn syfrdan, mae Sarah’n dilyn y bychan i fyd ffantasi er mwyn ei achub o afael Jareth, Brenin y Coblynnod. Mae Jareth wedi gosod y babi yng nghanol ei labyrinth, drysfa sydd yn llawn twyll ac ystryw. Mae Sarah’n dod yn ffrindiau â’r Coblynnod ond ai rhith arall yw eu cyfeillgarwch?
Sul 6 + Maw 8 Mawrth
+ Ymunwch â ni ar ôl y dangosiad ar Sul 6 Mawrth am gyfarfod o grŵp trafod ffilm LGBTQ Chapter. Mae Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael — gweler y calendr am fanylion.
Love You Till Tuesday Sul 20 + Maw 22 Mawrth
Gorllewin yr Almaen/1969/60 mun/U. Cyf: Malcolm J Thomson. Gyda: David Bowie, Hermione Farthingale, John Hutchinson.
Cyfle prin i weld y ffilm hyrwyddo hon a gynhyrchwyd gan reolwr Bowie ar y pryd, Kenneth Pitt. Mae hi’n arddangos saith o ganeuon a darn meim, gan gynnwys un gân a gwblhawyd ddyddiau’n unig cyn y ffilmio, Space Oddity. Dangoswyd y ffilm ar deledu Grampian yn 1970 ond fe’i rhoddwyd o’r neilltu wedi hynny, tan iddi gael ei rhyddhau yn 2005.
Sul 27 + Maw 29 Mawrth
Labyrinth
Moonage Daydream
Ffilm
21
The Hateful Eight
Dad’s Army
Gwe 26 Chwefror — Iau 3 Mawrth
Gwe 4 — Iau 17 Mawrth
UDA/2015/182mun/18. Cyf: Quentin Tarantino. Gyda: Kurt Russell, Samuel L Jackson, Jennifer Jason Leigh.
DG/2016/106mun/PG. Cyf: Oliver Parker. Gyda: Toby Jones, Bill Nighy, Tom Courtenay, Catherine Zeta-Jones.
Mae’r ‘bounty hunter’, John ‘The Hangman’ Ruth wedi cymryd llofrudd Daisy Domergue i’r ddalfa yn Red Rock ond mae storm eira yn eu gorfodi i lochesi yn siop ddillad Minnie. Yn y fan honno, dônt ar draws ciwed o gymeriadau brith eraill. A fydd pob un ohonynt yn goroesi’r storm?
Mae morâl ‘Home Guard’ y Capten Mainwaring yn Walmington-on-Sea yn isel, tan i newyddiadurwr urddasol gyrraedd i ysgrifennu erthygl am y platŵn. Yn y cyfamser, mae MI5 yn erlid ysbïwr Almaenaidd yn yr ardal, wrth i’r Ail Ryfel Byd dynnu at ei derfyn.
O’r brig: The Hateful Eight, Dad’s Army
chapter.org
Mae Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael — gweler y calendr am fanylion.
Clwb Ffilmiau Gwael Cobra
Sul 6 Mawrth
UDA/2016/115mun/15. Cyf: John Hillcoat. Gyda: Chiwetel Ejiofor, Woody Harrelson, Norman Reedus, Kate Winslet.
UDA/1986/87mun/18. Cyf: George P. Cosmatos. Gyda: Sylvester Stallone.
Wrth barhau â dathliadau pen-blwydd y Clwb Ffilmiau Gwael yn 10 oed, dyma gyflwyno ‘shocker’ arall o’r seler yn Chapter, Cobra. Rhaid i heddwas di-ildio warchod yr unig berson a all dystio yn erbyn cwlt llofruddgar rhyfedd. Os ydych chi’n hoffi ffilmiau dros ben llestri o’r 80au, siacedi lledr a Sylvester Stallone mewn denim tynn, dyma’r ffilm i chi. Dalier sylw: Bydd yna sylwebaeth fyw drwy gydol y ffilmiau hyn ac fe all y ffilm a ddangosir newid ar y funud olaf.
Triple Nine Gwe 4 — Iau 17 Mawrth Mae criw o heddweision llwgr yn cael ei blacmelio gan y maffia Rwsiaidd a’u cymell i gymryd rhan mewn ‘heist’ amhosib. Ond caiff y cynllun ei droi ben i waered ac mae hynny’n sbarduno diweddglo sydd yn llawn cyffro, brad, trachwant a dialedd. Mae Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael — gweler y calendr am fanylion.
22
Ffilm
029 2030 4400
O’r chwith i’r dde: Mike Peters & The Alarm: Poppies Falling From The Sky, High Rise
O Gymru
Mike Peters & The Alarm: Poppies Falling From The Sky Cymru/2016/145mun + sesiwn holi-ac-ateb a pherfformiad/dim tyst.
Cyfle i weld y gyngerdd yn llawn ar y sgrin fawr, gan gynnwys fersiynau emosiynol o ‘A New South Wales’ ac ‘In the Poppy Fields’. Hon oedd y noson anhygoel pan gafodd The Alarm gwmni Cerddorfa Symffoni y Wlesh Pops, Côr Meibion Orffews Treforys a lleisiau cymunedol Acquire. Noson na ddylid ei cholli. + Ymunwch â ni cyn y ffilm i gyfarfod â Mike Peters yng nghyntedd y sinema ac am sesiwn holi-ac-ateb arbennig ar ôl y dangosiad. £10
Moviemaker Chapter Llun 7 Mawrth
Sesiwn reolaidd sy’n galluogi i gyfarwyddwyr annibynnol ddangos eu ffilmiau byrion. I gael mwy o wybodaeth am fynd ati i ddangos eich ffilm chi neu unrhyw fanylion eraill, e-bostiwch moviemaker@ chapter.org. O bryd i’w gilydd, dangosir ffilmiau sy’n cynnwys deunydd anaddas i bobl iau. Awgrymwn, felly, bod sesiynau Moviemaker Chapter yn addas ar gyfer pobl 18+ oed.
BAFTA yn cyflwyno:
Black Mountain Poets Mer 9 Mawrth
Cymru/2015/90mun/15. Cyf: Jamie Adams. Gyda: Alice Lowe, Dolly Wells, Tom Cullen, Richard Elis.
Mae Claire a Lisa yn fân-droseddwyr ar ffo. Ar ôl eu lladrad trychinebus diweddaraf, maent yn cyrraedd encil ym Mannau Brycheiniog ac yn esgus bod yn gwpwl o feirdd ‘bît’ er mwyn osgoi sylw. Yn y fan honno, maent yn dod dan swyn Richard ac yn clywed tipyn go lew o farddoniaeth wael. Mae’r ffilm olaf hon yn nhriawd byrfyfyr y cyfarwyddwr Jamie Adams o ffilmiau ‘Rhamant Modern’ (cyfres a oedd yn cynnwys hefyd Benny & Jolene ac A Wonderful Christmas Time) yn wledd i’r llygad ac yn gipolwg craff ar berthnasau a meddyliau creadigol. + Ymunwch â ni am sesiwn holi-ac-ateb gyda Jamie Adams a’r cynhyrchydd, Jon Rennie.
High Rise Iau 10 Mawrth
DG/2015/112mun/18arf. Cyf: Ben Wheatley. Gyda: Tom Hiddleston, Luke Evans, Jeremy Irons, Sienna Miller, Elizabeth Moss.
Mae’r Dr Robert Laing yn symud i floc o fflatiau newydd moethus ac yn cael ei hudo gan ei fywyd cymdeithasol newydd, sy’n troi o amgylch y pensaer, Royal. Daw diffygion i’r amlwg yn strwythur yr adeilad, wrth i graciau ymddangos hefyd yn y gwead cymdeithasol ac mae’r partïon soffistigedig yn ildio i oferedd a distryw. Addasiad hir-ddisgwyliedig o waith dychanol ffyrnig a gwych JG Ballard am ddiwylliant o ormodedd a phrynwriaeth. + Ymunwch â ni am sesiwn holi-ac-ateb gyda’r cyfarwyddwr, Ben Wheatley, a Luke Evans.
chapter.org
Ffilm
23
Weithiau mae bywyd go iawn mor ryfedd a hudolus bob tamaid â ffilm Hollywood. ‘O’r Rîl i’r Real’ yw ein rhaglen reolaidd o ffilmiau dogfen ac mae’n cynnwys ffilmiau sy’n cyflwyno digwyddiadau a phobl gwirioneddol ddiddorol.
Power In Our Hands
The Pearl Button
DG/2016/71mun/PG. Cyf: Angela Spielsinger.
Chile/2015/82mun/TiCh. Cyf: Patricio Guzmán.
Cyfuniad o hanes cymdeithasol, deunydd archif a chyfweliadau cyfoes sy’n dathlu pen-blwydd Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain yn 125 oed. Mae’r ffilm yn archwilio hanes cudd a threftadaeth y gymuned Fyddar yn y DG. Ffilm ddogfen anhepgor i unrhyw un sy’n ymddiddori yn y frwydr dros hawliau sifil, y frwydr dros gydraddoldeb a’r hawl i gael eich clywed.
Gweler t24 am y manylion yn llawn
+ Ymunwch â ni am drafodaeth banel dan ofal Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain, gyda dehonglydd BSL, ar Maw 8 Mawrth
Gwe 4 — Iau 10 Mawrth
Hitchcock/Truffaut Gwe 4 — Iau 10 Mawrth
Ffrainc/2015/80mun/is-deitlau/TiCh. Cyf: Kent Jones. Gyda: Martin Scorsese, David Fincher, Wes Anderson, Richard Linklater.
Ym 1962, daeth Alfred Hitchcock a François Truffaut at ei gilydd yn Hollywood i gynnal cyfweliad cynhwysfawr, wythnos o hyd. Arweiniodd eu trafodaethau at lyfr a ddaeth, maes o law, yn gyfeirlyfr i gyfarwyddwyr ifainc. Yn seiliedig ar y recordiadau gwreiddiol o’r cyfarfod, mae’r ffilm hon yn cyfleu un o wersi mawrion hanes y sinema.
“ Arolwg ardderchog ... sylwebaeth wych ar ddisgwrs y sinema bryd hynny ac yn awr” Peter Bradshaw, The Guardian
Gwe 18 — Iau 24 Mawrth
+ Ymunwch â ni ar ôl y dangosiad ar Mer 23 Mawrth am drafodaeth Tinted Lens, cydweithrediad newydd gan Chapter, Prifysgol Caerdydd a’r BFI. Gweler ein gwe-fan am fwy o fanylion.
“ Gwaith cain sy’n tynnu ynghyd erchyllterau gwladychiaeth yn gyffredinol ac erchyllterau penodol cyfnod Pinochet”
Celfyddyd + Ffilm Sinema Artistiaid 2016 Aeth Swyddfa’r Sinema Annibynnol a LUX ati i gomisiynu pum ffilm fer newydd i’w dangos cyn ein ffilmiau nodwedd arferol — dull guerilla o gyflwyno ffilmiau gan artistiaid newydd anhygoel ar y sgrin fawr. Mae’r artistiaid hynny’n cynnwys Gabriel Abrante (A Brief History of Princess X), Dora Garcia (El helicóptero), Naeem Mohaiemen (Abu Ammar is Coming), Margaret Salmon (Birdsong) a Corin Sworn a Tony Romano (The Coat). Gweler ein gwe-fan am fwy o fanylion.
24
Ffilm
029 2030 4400
Mae Gŵyl Ffilm WOW Cymru Un Byd yn dychwelyd â detholiad diddorol o sinema’r byd i’ch difyrru. Unwaith eto, bydd WOW yn teithio i bedwar ban byd, o fynyddoedd Albania (Sworn Virgin) i ffyrdd llychlyd Brasil (Neon Bull) a pharadwys drofannol ynys Vanuatu yn y Môr Tawel (Tanna). Mae sawl un o’r ffilmiau hyn wedi ennill gwobrau mawrion mewn gwyliau o bwys ledled y byd. Eleni mae yna gyfle prin i weld ffilm fud wych o Rwsia (Arsenal) a gyflwynir â chyfeiliant cerddorol byw godidog. Peidiwch, da chi, a cholli noson sy’n addo bod yn dra chofiadwy. Mae Pasport Gŵyl WOW ar gael am £35 (£30 gostyngiadau) ac fe fydd yn caniatáu i chi weld holl ffilmiau’r ŵyl.
Gwe 11 Mawrth 4pm + 6pm
8.30pm
The Pearl Button
Yr Ymadawiad
Chile/2015/82mun/is-deitlau/12A. Cyf: Patricio Guzmán.1
Cymru/2015/87mun/is-deitlau/15arf. Cyf: Gareth Bryn. Gyda: Mark Lewis Jones, Annes Elwy, Dyfan Dwyfor.
Ffilm sy’n ymhyfrydu yn harddwch llosgfynyddoedd, mynyddoedd a rhewlifoedd Patagonia — a darn sydd yn siŵr o wneud i chi gnoi cil. Yn yr un wythïen delynegol â’i waith blaenorol, Nostalgia for The Light, mae Guzman yn myfyrio ar seryddiaeth, dŵr, y cof a llawer o bethau eraill. Gan bendilio rhwng y cosmig a’r microsgopig, mae Guzman yn archwilio hanes trallodus Chile trwy gyfrwng cyfres o gyfweliadau teimladwy. Mae cyfweliad â hen fenyw frodorol o Batagonia yn arbennig o drawiadol; mae hi’n un o aelodau olaf llwyth o bobl nomadig y mae eu hiaith ar ddiflannu. + Ymunwch â ni am sesiwn holi-ac-ateb gyda Patricio Guzmán ar ôl y dangosiad am 6pm. Enillydd yr Arth Arian am y Sgript Orau yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Berlin 2015
“Telynegol, argraffiadol, dwys” LA Times
Mae gan y felodrama feistrolgar hon dro dieflig yn ei chynffon. Ar ôl i gwpl ifanc ar ffo, Sara ac Iwan, yrru eu car i nant ger ffermdy anghysbell, cânt eu hachub gan Stanley, dyn sy’n byw ar wahân i gymdeithas. Mae’r cariadon ifanc yn tarfu ar fywyd unig Stanley ond mae e’n eu helpu nhw â chyfuniad stoicaidd o addfwynder ac amynedd — tan i gyfrinachau a thensiynau ddod i’r golwg. Enghraifft brin o ffilm ‘genre’ Gymraeg, ag iddi is-destun gwleidyddol cynnil, gan griw Y Gwyll. + Ymunwch â ni am sesiwn holi-ac-ateb gyda’r cast a’r criw ar Gwe 11 Mawrth
Dosbarthiadau meistr: 2pm Dosbarth Meistr gyda Patricio Guzmán, cyfarwyddwr The Pearl Button. 4.15pm Dosbarth Meistr gyda Gareth Bryn ac Ed Talfan, cyfarwyddwr a chynhyrchydd Yr Ymadawiad. £5
The Pearl Button
GWyl Ffilm WOW Cymru Un Byd
Ffilm
25
O’r brig: Lamb, Our Little Sister
chapter.org
Sad 12 Mawrth 3.30pm
8.35pm
Lamb
Our Little Sister
Ethiopia/2015/96mun/is-deitlau/TiCh. Cyf: Yared Zeleke. Gyda: Rediat Amare, Kidist Siyum, Welela Assefa.
Japan/2015/128mun/is-deitlau/TiCh. Cyf: Hirokazu Kore-eda. Gyda: Ayase Haruka, Nagasawa Masami, Kaho.
Wedi’i gosod yn ucheldiroedd Ethiopia, mae’r ffilm hon yn bortread hyfryd o fywyd pentrefol a chymuned o ffermwyr ymgynhaliol. Caiff yr Ephraim ifanc ei adael gyda’i ewythr gormesol ar ôl i’w dad adael i edrych am waith. Ar ei ben ei hun mewn byd anghyfarwydd, mae gan Ephraim un ffrind pennaf — ei ddafad anwes. Ond mae hwnnw fel petai wedi’i dynghedu i fynd i’r sosban... Er bod yr hanes yn syml, wedi’i hadrodd drwy lygaid y bachgen, mae yna fwy yn digwydd nag yr ymddengys ar yr olwg gyntaf. Ac er bod cymdeithas y ffilm yn ffyrnig o batriarchaidd, nain fywiog Ephraim, Emama, sy’n teyrnasu yn y cartref. Mae i’r stori hudolus hon am dyfu i fyny mewn gwlad lle mae bwyd yn brin dinc digamsyniol dilysrwydd.
5.45pm
The Act of Killing Denmarc/2013/115mun/15. Cyf: Joshua Oppenheimer.
Yn y 1960au, roedd Anwar Congo yn un o arweinwyr mudiad para-filwrol yn Indonesia o’r enw Ieuenctid Pancasila ac roedd yn gyfrifol, ar y cyd â’i ddilynwyr taer, am lofruddio ac arteithio mwy na miliwn o Gomiwnyddion honedig, Tsieineaid ethnig a deallusion. Yn falch o’u gweithredoedd ac â’u traed yn rhydd, mae Anwar a’i ffrindiau yn defnyddio actorion, yn adeiladu setiau cywrain a hyd yn oed yn defnyddio effeithiau pyrotecnig i ail-greu’r llofruddiaethau ar gyfer y ffilm ddogfen hon. Mae Anwar yn frwdfrydig iawn ar y cychwyn ond, wrth i drais y ffilm gael ei ail-greu, mae e’n dechrau teimlo anesmwythder ... ac edifeirwch. + Ymunwch â ni am drafodaeth ar ôl y dangosiad.
Mae tair chwaer yn dechrau gofalu am eu hanner-chwaer iau ar ôl cyfarfod â hi am y tro cyntaf yn angladd eu tad. Mae’r chwaer hŷn yn gyfrifol, chwaer arall yn llawn asbri a’r chwaer ieuengaf yn ddigon gwirion — maent bob un yn rhannu hen dŷ eu mam-gu. Wrth i ni weld bywydau bob dydd y chwiorydd, mae’r ffilm yn archwilio plentyndod coll, cysylltiadau teuluol a chyfrifoldeb. Â phedwar prif berfformiad ardderchog, mae stori hardd Kore-eda am agosatrwydd y chwiorydd yn llawn o lawenydd tawel a phleserau syml. Enillydd Gwobr y Gynulleidfa yng Ngŵyl Ffilm San Sebastian 2015
“ Dathliad swynol a chyfareddol o’r teulu” Sight & Sound
Ffilm
029 2030 4400
Arsenal
26
SUL 13 MAWRTH 3pm
8pm
Félix & Meira
Paths of the Soul
Canada/2014/105mun/is-deitlau/15. Cyf: Maxime Giroux. Gyda: Martin Dubreuil, Hadas Yaron, Luzer Twersky.
Tibet/2015/115mun/is-deitlau/PG. Cyf: Zhang Yang. Gyda: Nyima Zadui, Yang Pei, Tsring Chodron.
Stori dyner, wych, gynnil a phwerus am y berthynas annhebygol rhwng Iddewes Hasidig a gŵr cyfoethog afradlon. Rhaid i Meira ddewis rhwng gadael ar ei hôl ei bywyd cyfarwydd a chyfyng a mentro gyda Felix. Yn llawn cynildeb, mae hi’n bleser gwylio cymeriad taer a thawel yn agor ei hun i fyd o gerddoriaeth, chwerthin a rhyddid. Ffilm sy’n cynnwys perfformiadau cryfion, cynildeb yn y dweud a strwythur penigamp. Enillydd Gwobrau’r Actor Gorau a’r Actores Orau yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Amiens
“Ffilm ddiedifar o sensitif” ionecinema 5pm
Arsenal + Cyfeiliant Cerddorol Byw Rwsia/1929/88mun/is-deitlau/PG. Cyf: Alexander Dovzhenko. Gyda: Semyon Svashenko, Nikolai Nademsky, Anbrose Buchma.
Mae’r Rhyfel Byd Cyntaf wedi dod â dinistr, colled a chaledi yn ei sgil. Mae Timosh, milwr newydd adael y fyddin, yn dychwelyd i’w dref enedigol, Kiev, yng nghanol dathliadau rhyddid Wcrain. Ond mae e’n herio’r awdurdodau lleol drwy alw am ailsefydlu’r system Sofietaidd. Wedi’i ffilmio’n hyfryd, daw’r ffilm fud angerddol hon — sgrech o brotest yn erbyn rhyfel — yn fyw yn sgôr soniarus a deheuig Guy Bartell. + Cyfeiliant cerddorol byw gan Bronnt Industries Kapital Credit Adferwyd print Arsenal gan Ganolfan Genedlaethol Oleksandr Dovzhenko (ODNC) yn Kyiv. Cyd-gomisiynwyd sgôr Guy Bartell gan y Cyngor Prydeinig ac ODNC.
Tocynnau £12/£10/£8
Mae trigolion pentref anghysbell ym Mynyddoedd yr Himalaia yn codi cyn y wawr i gynnau tân ac i lwytho’r iaciaid – maent yn paratoi ar gyfer eu pererindod i Lhasa. Dilynwn y dwsin o bobl ddewr hyn ar daith anhygoel drwy heulwen, eira, mwd a glaw. Mae tryciau’n gwibio heibio iddynt, maent yn gosod eu pebyll wrth ochr yr heol, maent yn torri iâ o’r afon rewllyd i wneud te ac yn gwthio’n stoicaidd yn eu blaenau drwy’r mynyddoedd. Yn ffigyrau pitw mewn tirwedd epig, maent yn mynegi eu llawenydd ym mhleserau syml bywyd. Cipolwg swynol ar ddiwylliant Tibet a golwg gyfareddol ar fyd arall.
“ Teyrnged deilwng i ddefosiwn ysbrydol dwfn a phenderfyniad tawel” Screen International
Ffilm
27
Neon Bull
chapter.org
Llun 14 Mawrth 6.00pm
8.25pm
Thirst
Neon Bull
Bwlgaria/2015/90 mun/is-deitlau/15. Cyf: Svetla Tsotsorkova. Gyda: Monika Naydenova, Alexander Benev, Svetlana Yancheva.
Brasil/2015/101mun/is-deitlau/18. Cyf: Gabriel Mascaro. Gyda: Juliano Cazarré, Maeve Jinkings, Aline Santana.
Mewn tŷ anghysbell, mae mam yn cynnal ei gŵr a’u mab yn ei arddegau drwy olchi lliain ar gyfer gwestai lleol. Ond ar ôl i weithiwr a’i ferch ddod i ddrilio am ddŵr, ac i wella’r cyflenwad anghyson, caiff rwtîn y teulu ei chwalu. Ffilm hyfryd sy’n canolbwyntio ar elfennau dieiriau perthnasau ac astudiaeth swynol a barddonol sy’n gwneud defnydd ardderchog o dirwedd.
Fel cowboi sy’n gweithio’r rodeos ar ffyrdd cefn Brasil, mae Iremar yn gwybod bod yna fwy i fywyd na’r rwtîn beunyddiol o deirw, llwch ac ymagweddu ‘macho’. Yr hyn sydd wrth ei fodd go iawn yw gwneud ffrogiau hardd i’w fos, Galega. Mae’r ffilm hon yn cyfleu rhythmau bywyd Iremar â phrydferthwch hynod ac mae’r ffilm weledol gyfoethog hon am secwinau a blawd llif yn llawn bywiogrwydd a hiwmor slei; mae’n gwrthdroi confensiynau am wrywdod, rhywioldeb, dosbarth cymdeithasol a chreadigrwydd.
+ Cyflwyniad gan Holly Tarquini o Ŵyl Ffilmiau Bath am y Categori F newydd.
“ Anaml y mae ffilm nodwedd gyntaf yn llwyddo i gyfuno hyder gweledol a hyder naratifol fel y mae Thirst yn ei wneud” Variety
Enillydd Gwobr Gorwelion Fenis — Gwobr Arbennig Rheithgor Gŵyl Ffilm Fenis 2015
“ Pleser annisgwyl sydd, ar adegau, mor gnawdol, mor chwyslyd ac mor reddfol â’i phrif gymeriadau ond sydd hefyd yn chwareus, yn wreiddiol ac yn bryfoclyd” Screen International
Ffilm
029 2030 4400
O’r brig: Gypsy, Tharlo
28
Maw 15 Mawrth 2.30pm (+ Iau 17 Mawrth 8.15pm)
8.15pm
Court
Tharlo
India/2014/116mun/is-deitlau/PG. Cyf: Chaitanya Tamhane. Gyda: Usha Bane, Vivek Gomber, Pradeep Joshi.
Tibet/2015/123mun/is-deitlau/PG. Cyf: Pema Tseden. Gyda: Shide Nyima, Yang Shik Tso.
Caiff canwr gwerin mewn oed ei gyhuddo o “gynorthwyo hunanladdiad” ar ôl i gorff gweithiwr carthffosiaeth gael ei ddarganfod ym Mumbai. Â sgript gynnil a chast ensemble gwych o actorion proffesiynol ac amatur, mae hwn yn bortread cyfoethog o gymdeithas Indiaidd sy’n cyfleu nid yn unig yr achos llys ond hefyd y bywydau preifat sy’n rhan ohono. Cymysgedd effeithiol o gomedi a thrasiedi abswrd ˆ a phortread gafaelgar o’r India gyfoes. Enillydd 15 o wobrau rhyngwladol, gan gynnwys y Lotws Aur am y Ffilm Orau yng Ngwobrau Ffilm Cenedlaethol India a Gwobr Gorwelion yng Ngŵyl Ffilm Fenis
“ Campwaith — gwaith yn llawn empathi dwfn sydd wedi’i strwythuro i’r dim” Joshua Oppenheimer, Cyfarwyddwr The Act of Killing 6pm:
Gypsy Slofacia/2011/100mun/is-deitlau/15. Cyf: Martin Sulík. Gyda: Jan Mizigar, Miroslav Gulyas, Martina Kotlarova.
Mae bywyd yn anodd i’r arddegwr Romani, Adam. Caiff ei dad ei lofruddio ac mae ei ewythr bygythiol, Zigo, yn priodi ei fam alarus yn union wedyn. Ond mae’r stori Hamletaidd hon yn wahanol i ddrama Shakespeare. Caiff yr elyniaeth rhwng y Sipsiwn a’r gymdeithas ehangach ei harchwilio trwy gyfrwng cyfarfyddiadau creulon â’r heddlu a staff yr ysbyty. Wrth i Zigo aros yn driw i’w werthoedd troseddol didostur, mae Adam yn ceisio llwybr amgen. Mae e’n ceisio gwneud y peth iawn i’w deulu ond buan y daw i wrthdrawiad â chyfreithiau anffurfiol ei gymuned. Stori rymus a dilys am fywydau Romani ar gyrion cymdeithas.
Wedi’i ffilmio mewn golygfeydd hiron ac mewn du a gwyn trawiadol, mae hon yn chwedl hudolus sy’n archwilio newidiadau yng nghymdeithas Tibet. Mae bugail o’r enw Tharlo yn gorfod gadael godidogrwydd yr Himalaia a mynd i’r dref i gael tynnu ei lun ar gyfer cerdyn adnabod. Yn y fan honno, mae e’n cyfarfod â’r Yangchuo ifanc, sydd wrth ei bodd yn ysmygu, yn yfed ac yn canu karaoke. Wedi’i swyno — ac wedi drysu — mae Tharlo’n dychwelyd i ofalu am ei braidd yn y mynyddoedd mawr. Ond ni all anghofio temtasiynau’r bywyd amgen. Mae perfformiad canolog Nyima yn wych ac yn cyfleu dryswch Tharlo i’r dim. Enillydd Gwobr y Sgript Orau yng Ngŵyl y Ceffyl Aur 2015
“ Ffilm wedi’i phwyso a’i mesur i’r dim” Wendy Ide, Screen International
Ffilm
29
O’r chwith i’r dde: Tanna, Sworn Virgin
chapter.org
Mer 16 Mawrth
Iau 17 Mawrth
6pm
6pm
This Changes Everything
Sworn Virgin
Canada/2015/89mun/PG. Cyf: Avi Lewis.
Yr Eidal/2015/90mun/is-deitlau/15. Cyf: Laura Bispuri. Gyda: Alba Rohrwacher, Flonja Kodheli, Lars Eidinger.
Beth petai wynebu’r argyfwng hinsoddol yn ffordd hefyd – y ffordd orau hyd yn oed – o greu byd gwell? Ar sail ei llyfr poblogaidd, mae Naomi Klein yn dadlau y gallwn fanteisio ar yr argyfwng hinsoddol i gyfnewid ein system economaidd ddinistriol am rywbeth llawer iawn gwell. Drwy gyfrwng saith o bortreadau pwerus o gymunedau ar flaen y gad, mae Klein yn gwneud cysylltiadau rhwng y carbon yn yr awyr a’r system economaidd a’i rhoddodd yno. Gall y dasg o gywiro ein byd drylliedig ymddangos yn amhosib ar brydiau ond mae Klein yn cynnig gobaith y gellir gwneud hynny os newidiwn ni ein ffordd o feddwl — ‘Newid y system nid newid yr hinsawdd’. + Ymunwch â ni am drafodaeth banel ar ôl y ffilm.
“ Ffilm ddogfen am gynhesu byd-eang ac ymgyrchu lleol sydd yn ysigol ond yn llawn gobaith hefyd yn y pen draw” Variety 8.30pm
Tanna Awstralia/2015/104mun/is-deitlau/12A. Cyf: Martin Butler, Bentley Dean.
Yng nghoedwig law ac ar lethrau folcanig paradwys Ynys Vanuatu yn y Môr Tawel, mae Wawu yn syrthio mewn cariad ag ŵyr ei Harweinydd, Dain. Ar ôl i’w theulu atal eu priodas, mae hi’n ffoi ac mae hynny’n arwain at fygythiad o ryfel rhwng y gwahanol lwythau. Cyfle prin i weld ffilm weledol a diwylliannol gyfoethog o dde’r Môr Tawel. Gwledd i’r llygad na fyddwch chi wedi gweld ei thebyg o’r blaen. Enillydd Gwobrau’r Cyfarwyddwr Gorau a’r Sinematograffi Gorau yn Wythnos Beirniaid Rhyngwladol Gŵyl Ffilm Fenis 2015
Stori grefftus am Hana, sydd yn dilyn hen draddodiad Albaniaidd ac yn tyngu llw i aros yn forwyn er mwyn osgoi priodas wedi’i threfnu. Ar ôl deng mlynedd yn byw fel dyn o’r enw Mark, mae taith i’r Eidal yn ei chyflwyno i fyd newydd posib — byd sydd yn frawychus ond yn atyniadol hefyd. Mewn ffilm sydd yn trin â sensitifrwydd faterion yn ymwneud â hunaniaeth a rhywedd, hunan-ddelwedd a disgwyliadau diwylliannol, mae’r ffilm yn bortread teimladwy a gobeithiol hefyd o ryddid. Enillydd Gwobr Nora Ephron Gŵyl Ffilm Tribeca 2015
“ Astudiaeth gynnil a thosturiol o rywedd a diwylliant” The Playlist Cyflwynir y dangosiad hwn ar y cyd â Gŵyl Gwobr Iris
8.15pm
Court (gweler y manylion ar dudalen 28)
Ffilm
Chronic
Hail, Caesar!
029 2030 4400
O’r chwith i’r dde: Chronic, Hail, Caesar!
30
Gwe 18 — Iau 24 Mawrth
Gwe 18 — Iau 31 Mawrth
Mecsico/2015/93mun/15. Cyf: Michael Franco. Gyda: Tim Roth, Bitsie Tulloch, David Dastmalchian.
UDA/2016/106mun/TiCh. Cyf: Ethan Coen, Joel Coen. Gyda: George Clooney, Josh Brolin, Channing Tatum, Scarlett Johansson.
Mae David yn nyrs cydwybodol a thosturiol mewn hosbis ac yn cynnig cysur i’w gleifion wrth iddo ysgwyddo beichiau emosiynol aruthrol y rheiny sydd yn nesáu at ddiwedd bywyd. Y tu allan i’r gwaith, fodd bynnag, mae e’n aneffeithiol, yn lletchwith ac yn swil. Daw’n amlwg fod arno angen y cleifion gymaint ag y mae arnyn nhw ei angen ef — cydberthynas nad yw’n iach iawn o gwbl ...
“ Astudiaeth ddeallus a phruddglwyfus o ben draw emosiynol un dyn unig” Peter Bradshaw, The Guardian
The Big Short Gwe 18 — Iau 24 Mawrth UDA/2015/130mun/15. Cyf: Adam McKay. Gyda: Christian Bale, Steve Carell, Ryan Gosling.
Yn 2005, mae pedwar o ddynion ar gyrion byd yr arian mawr yn dod o hyd i dystiolaeth bod y swigen gredyd ar fin byrstio — felly maent yn dechrau betio yn erbyn y farchnad. Mae eu buddsoddiadau beiddgar yn eu harwain i isfyd tywyll bancio modern ac maent yn dechrau cwestiynu pawb a phopeth. Comedi finiog, ddoniol a manwl am gwymp y farchnad stoc a’r dihirod go iawn sydd yn dal â’u traed yn rhydd. Mae Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael — gweler y calendr am fanylion.
Mae Eddie Mannix yn ‘fixer’ yn Hollywood ac yn cynorthwyo cynhyrchwyr y ffilm ‘Hail Caesar’, gyda’r seren byd-enwog, Baird Whitlock. Ar ôl i Whitlock fod allan yn yfed, caiff ei herwgipio gan grŵp o’r enw The Future a chyfrifoldeb Mannix yw hi wedi hynny i gasglu’r $100,000 sydd eu hangen i achub y seren. Mae Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael — gweler y calendr am fanylion.
Daniel Kitson: It’s Always Right Now, Until It’s Later Sul 20 Mawrth DG/2015/95mun/15arf. Cyf: Ewan Jones Morris.
Mae hon yn sioe am bob un ohonom, y gorffennol yn ein pocedi, y dyfodol yn ein calonnau a ninnau’n sownd, yn gaeth am byth, yn y foment bitw ac anfeidrol rhwng y ddau begwn. Perfformiwyd y sioe wreiddiol am 10 y bore yn ‘Fringe’ Caeredin 2010 i gynulleidfaoedd brwd ond cysglyd ac fe’i hailgyflwynwyd wedi hynny — a’i ffilmio — yn y Royal Exchange ym Manceinion. Hon, yn ddiamau, yw sioe fwyaf uchelgeisiol, y mwyaf torcalonnus a’r mwyaf dynol o berfformiadau Kitson hyd yma. Mae’n ddoniol hefyd. + Cyflwynir y ffilm gan Daniel Kitson. £10 Nodwch os gwelwch yn dda bod pob tocyn ar gyfer y sioe hon wedi’i werthu erbyn hyn. Cysylltwch â’n Swyddfa Docynnau i holi am docynnau a ddychwelir.
Ffilm
31
O’r chwith i’r dde: NT Live: Hangmen, Anomalisa
chapter.org
NT Live: Hangmen Iau 3 Mawrth Encore Mer 30 Mawrth DG/2016/180mun/15. Cyf: Martin McDonagh. Gyda: David Morrissey, Andy Nyman, Johnny Flynn.
Yn ei dafarn leol yn Oldham yng ngogledd Lloegr, mae Harry yn dipyn o seren. Ond beth all ail grogwr gorau Lloegr ei wneud ar y diwrnod y maen nhw’n penderfynu gwahardd crogi? Ymhlith y cyw-ohebwyr a chwsmeriaid rheolaidd y dafarn sy’n awyddus i glywed ymateb Harry i’r newyddion, mae ei hen gynorthwyydd, Syd, a Mooney, cymeriad od ar y naw. Ond mae eu cymhellion nhw yn dra gwahanol. Ar ôl llwyddiant In Bruges, mae Martin McDonagh yn dychwelyd i’r West End â chynhyrchiad arobryn o ddrama newydd ddoniol iawn Matthew Dunster. Gweler manylion ein dangosiad byw o The Railway Children ar dudalen 33.
Chapter 13: Blood Bath Llun 21 Mawrth Iwgoslafia/1966/80mun/TiCh. Cyf: Stephanie Rothman. Gyda: Linda Saunders; William Campbell.
Mae artist gwallgo’ sy’n credu ei fod yn ailymgnawdoliad o fampir llofruddgar yn lladd menywod ifainc cyn berwi eu cyrff mewn crochan.
Bone Tomahawk Gwe 25 — Iau 31 Mawrth
UDA/2015/132mun/15. Cyf: S. Craig Zahler. Gyda: Kurt Russell, Patrick Wilson, Zahn McClarnon.
Mae sheriff tref fechan sy’n cael ei phoenydio gan ganibaliaid yn gorfod achub tri dinesydd sydd wedi eu cludo gan y llwythau atafistaidd i mewn i’r ogofâu gerllaw. Â dogn iach o arswyd a hiwmor tywyll, mae hon yn ffilm ‘Western’ wahanol ag iddi sgôr gofiadwy a gwaith camera anhygoel.
Anomalisa Gwe 25 — Iau 31 Mawrth UDA/2015/90mun/15. Cyf: Duke Johnson, Charlie Kaufman. Gyda: David Thewlis, Jennifer Jason Leigh, Tom Noonan.
Mae David yn ‘guru’ Gwasanaeth Cwsmeriaid ac yn siomi pan gaiff nad yw ei grefft yn ei alluogi i unioni ei broblemau personol. Ymunwn ag ef ar awr brudd, wrth iddo geisio cwmnïaeth fenywaidd cyn-gariad, yn y lle cyntaf, a’r Lisa blaen, un o’i ffans, wedi hynny. Ar wahân i Lisa, mae pawb yn edrych ac yn swnio’r un fath — fersiynau o ddadrith Stone. Trwy gyfrwng animeiddio ‘stop-motion’ dyfeisgar, mae’r ffilm hon yn archwiliad agos-atoch a thyner o’r gymdeithas fodern.
The Club
Gwe 25 — Iau 31 Mawrth Chile/2015/98mun/is-deitlau/TiCh. Cyf: Pablo Larraín. Gyda: Roberto Farías, Antonia Zegers, Alfredo Castro.
Mae pedwar offeiriad Pabyddol yn cael eu hanfon i fynachlog lan môr yn dilyn cyfres o fân droseddau — ond daw cyhuddiadau o gam-drin i darfu ar eu halltudiaeth glyd. Yn ofni sgandal arall, mae’r Eglwys yn anfon offeiriad ifanc duwiol, y Tad Garcia, i holi ac i gynghori’r henuriaid. Ond mae’r dasg yn fwy llafurus na’r disgwyl. Asesiad damniol a gwawdlyd o lygredd gan gyfarwyddwr a aeth ati yn ei ffilmiau blaenorol i ddisgrifio — yn fanwl a gofalus — fywyd dan orthrwm Pinochet. Enillydd y Grand Prix yn Berlinale 2015
“ Pwysig, cyffrous, annifyr” Dave Calhoun, Time Out
32
Ffilm
029 2030 4400
Detholiad o ffilmiau gwych sy’n addas i’r teulu cyfan, bob dydd Sadwrn a dydd Sul am 11am a 3pm. Rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn. Archebwch ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi.
Noddir gan Funky Monkey Feet www.funkymonkeyfeet.co.uk 02920 666688
Inside Out
The Jungle Book
UDA/2015/94mun/U. Cyf: Pete Docter, Ronaldo Del Carmen. Gyda: Amy Poehler, Bill Hader.
UDA/1967/75mun/U. Cyf: Wolfgang Reitherman. Gyda: Phil Harris, Sebastian Cabot, George Sanders, Louis Prima.
Sad 5 + Sul 6 Mawrth
Sul 20 + Sul 27 — Mer 30 Mawrth
Ar ôl i’r Riley ifanc gael ei thynnu o’i bywyd yn y Midwest a’i symud i San Francisco, mae ei hemosiynau — Llawenydd, Ofn, Dicter, Ffieidd-dod a Thristwch — yn ymaflyd â’i gilydd er mwyn dod o hyd i’r ffordd orau o ymdopi â dinas, tŷ ac ysgol newydd.
Mae Mowgli, a godwyd yn jyngl India gan fleiddiaid, wedi tyfu’n fachgen cryf ac mae ei ffrindiau, Bagheera y panther a Baloo yr arth, yn ceisio ei berswadio i adael y jyngl am y gwareiddiad dynol cyn i’r teigr creulon Shere Khan gyrraedd.
Snoopy and Charlie Brown: The Peanuts Movie
Close Encounters of the Third Kind
Sad 5 + Sul 6 Mawrth
Sad 19 + Sul 20 Mawrth
UDA/2015/93mun/U. Cyf: Steve Martino. Gyda: Noah Schnapp, Bill Melendez, Hadley Belle Miller.
UDA/1977/129mun/PG. Cyf: Steven Spielberg. Gyda: Richard Dreyfuss, Francois Truffaut, Teri Garr, Melinda Dillon.
Mae Snoopy yn cychwyn allan ar ei antur fwyaf un wrth iddo fe a’i dîm herio eu gelyn pennaf yn yr awyr — ac wrth i’w ffrind gorau, Charlie Brown, gychwyn ar ei antur epig ei hun yn nes at adre’. Mae Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael — gweler y calendr am fanylion.
Minions
Sad 12 + Sul 13 Mawrth UDA/2015/91mun/U. Cyf: Pierre Coffin, Kyle Balda. Gyda: Sandra Bullock, Jon Hamm, Michael Keaton.
Mae’r Minions, Stuart, Kevin a Bob, yn cael eu recriwtio gan Scarlet Overkill, uwch-ddihiryn sydd, ar y cyd â’i gŵr, y dyfeisiwr, Herb, yn ffurfio cynllun i reoli’r byd. Mae Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael — gweler y calendr am fanylion.
Mae Roy Neary wedi gweld UFO ac mae ei wraig yn poeni bod profiad ei gŵr yn troi’n obsesiwn. Mae Roy’n cysylltu â phobl eraill sydd wedi gweld UFOs, gan gynnwys Jillian, mam sengl y mae ei mab wedi diflannu, a’r gwyddonydd Claude Lacombe. Cânt eu denu bob un at fynydd dirgel ...
The Jungle Book
Ffilmiau i’r Teulu Cyfan
Ffilm
Pinocchio
Dangosiad Byw: The Railway Children
33
O’r chwith i’r dde: Pinocchio, The Railway Children
chapter.org
Sad 19 + Sad 26 + Iau 31 Mawrth UDA/1940/84mun/U. Cyf: Hamilton Luske, Ben Sharpsteen. Gyda: Cliff Edwards, Dickie Jones, Mel Blanc.
Mae’r Dylwythen Deg Las yn rhoi bywyd i’r pyped pren, Pinocchio, ac yn addo ei droi’n fachgen go iawn os bydd yn deilwng o hynny. Ond mae’r trafferthion yn dechrau wedi i Pinocchio gael ei arwain ar gyfeiliorn. Â chymorth ei gyfaill, Jiminy Cricket, a’i dad, Geppetto, rhaid i Pinocchio ddianc a cheisio profi ei fod yn deilwng o fod yn fachgen bach o gig a gwaed.
The Hunger Games: Mockingjay Part 2 Sad 26 — Mer 30 Mawrth
UDA/2015/137mun/12A. Cyf: Francis Lawrence. Gyda: Jennifer Lawrence, Josh Hutcherson, Liam Hemsworth, Donald Sutherland.
Wrth i ryfel Panem waethygu i gynnwys dinistr ardaloedd eraill ger y Capitol, rhaid i Katniss Everdeen, arweinydd anfoddog y gwrthryfel, arwain byddin yn erbyn yr Arlywydd Snow. Mae pob dim sy’n annwyl iddi yn y fantol. Mae Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ar gael — gweler y calendr am fanylion.
Llun 28 Mawrth
DG/2016/120mun/TiCh.
Mae bywydau Bobbie, Peter a Phyllis yn newid yn llwyr ar ôl i’w tad gael ei gymryd ymaith mewn amgylchiadau amheus. Maent yn symud o Lundain i fwthyn yng nghefn gwlad Swydd Efrog gyda’u mam. Yn y fan honno, dônt i adnabod porthor y rheilffordd leol, Perks, ac maent yn cychwyn ar daith hudolus yn llawn darganfyddiadau, cyfeillgarwch ac antur. Ond mae’r dirgelwch yn aros — ble mae Dad ac a fydd e’n cael dod adre’ atyn nhw byth? Tocynnau £15/£12/£10 (cysylltwch â’n Swyddfa Docynnau os gwelwch yn dda i fanteisio ar ein tocyn teulu arbennig am £45)
Carry on Screaming Bob dydd Gwener am 11am, mae Carry On Screaming yn cynnig cyfle i rieni neu ofalwyr weld ffilm heb orfod poeni y bydd eu babi’n aflonyddu ar eraill. Gweler y calendr am fanylion y dangosiadau arbennig hyn i bobl â babanod dan flwydd oed.
34
Gwybodaeth / Archebu
029 2030 4400
GWYBODAETH Sut i Archebu Tocynnau
Gwybodaeth
Dros y ffôn — ffoniwch ni ar 029 2030 4400. Rydym yn derbyn pob un o’r prif gardiau credyd. Galwch heibio — mae ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o 11am–8.30pm, ac ar y Sul o 3pm–8.30pm. Ar–lein: Gallwch archebu ar www.chapter.org bob awr o’r dydd a’r nos Consesiynau: Mae cyfraddau disgownt ar gael i fyfyrwyr, pobl dros 60 oed, plant, y di–waith, pobl anabl, deiliaid cerdyn MAX ac i Ffrindiau Chapter a deiliaid Cerdyn Chapter. Bydd angen i chi gyflwyno prawf o’ch cymhwyster i dderbyn cyfradd ostyngol. Archebion grŵp: Prynwch 8 tocyn ac fe gewch chi’r 9fed yn RHAD AC AM DDIM. Noder os gwelwch yn dda • dim ond un disgownt y gellir ei ddefnyddio ar unrhyw un adeg • rydym yn hapus i dderbyn archebion ymlaen llaw ond ni allwn gadw tocynnau i’r naill ochr • os cyrhaeddwch chi’n hwyr mae hi’n bosib y cewch chi’ch atal rhag mynychu eich digwyddiad. Cyflwynir rhai o’n ffilmiau â Disgrifiadau Sain ac Is–deitlau Meddal ond nid yw’r wybodaeth hon bob amser ar gael ar adeg argraffu’r cylchgrawn. Gweler ein gwe–fan am fanylion neu piciwch draw i’r Swyddfa Docynnau yn ystod yr wythnos y mae’r ffilm yn cael ei rhyddhau.
Cwmnïau ac Artistiaid Cysylltiedig Mae Chapter yn gartref i gwmnïau theatr, cwmnïau dawns, stiwdios animeiddio, gwneuthurwyr printiau, crochenwyr, dylunwyr graffeg, dylunwyr deunydd symudol, cyfansoddwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, cyhoeddwyr cylchgronau, artistiaid annibynnol a llawer iawn mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.
Sinema Cyn 5pm O 5pm ymlaen Llawn £4.50 (£4.00) £7.90 (£7.20) Disg £3.50 (£3.00) £5.80 (£5.10) Cerdyn + Disg £3.00 (£2.50) £5.00 (£4.50) DISGOWNT DYDD MAWRTH Tocynnau’r holl brif ddangsiadau — £4.40
Gweithdai a Dosbarthiadau Rydym yn cynnal amrywiaeth eang o weithdai dyddiol a dosbarthiadau gydag ymarferwyr annibynnol, gan gynnwys ballet, zumba, ioga, crefft ymladd, massage i fabanod, cerddoriaeth i blant, pilates, tango, fflamenco, ysgrifennu creadigol, gwersi cerddoriaeth a mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.
Sut i gyrraedd Chapter Fe ddewch chi o hyd i ni yn Nhreganna, i’r gorllewin o ganol y ddinas. Heol y Farchnad, Treganna, Caerdydd CF5 1QE Ar Droed Mae hi’n daith gerdded hamddenol o ryw 20 munud o ganol y ddinas. Ar Fws Mae bysus rhif 17, 18 a 33 yn aros gerllaw ac yn gadael bob pum munud o ganol y ddinas. Ar Feic Mae digon o raciau beic ar flaen yr adeilad. Parcio Mae gennym faes parcio yng nghefn yr adeilad ac mae meysydd parcio lleol eraill wedi eu nodi ar y map. Gofynnwn i chi barchu ein cymdogion os gwelwch yn dda drwy osgoi parcio mewn strydoedd cyfagos.
Prisiau ymlaen llaw/ar–lein mewn cromfachau. Mae “Ymlaen llaw” yn golygu unrhyw bryd cyn diwrnod y dangosiad.
aff nd Lla
Springfield Pl.
ad
mC ha cen res
Ha m i l t o n
St
t
Gr
King’s Ro
nd Wy
ane
Road
L Gray
. Library St
St. ay
Treganna
Le c h kwit
Church Rd.
Heol Ddwy rein i o l y B o n t F a en Penllyn Rd.
Harve
St Talbot
Orc h a r d P l.
rn Seve
St. Gray M a rk e t P l .
treet yS
e St. Glynn
d Roa
d hna arc lyF
Heo
o 6pm
rt S
t.
Road
Earle Pl.
A l be
P — meysydd parcio rhad ac am ddim — rac feics
r R—oadarhosfan bysus Majo
I Ganol Dinas Caerdydd to n ling Wel
et Stre
Mynediad i bawb Mae Chapter yn croesawu ymwelwyr anabl. Os oes gennych anghenion mynediad penodol, ffoniwch ein swyddfa docynnau ar 029 2030 4400.
chapter.org
Cymryd Rhan
35
CYMRYD RHAN Cerdyn CL1C
Cadwch mewn cysylltiad
Cerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawr–lwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol hwn i ddyblu eich pwyntiau!
Ymunwch â ni ar–lein www.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.
Ffrindiau Chapter Ymunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C. Ffrind Efydd: £25/£20 Ffrind Arian: £35/£30 Ffrind Aur: £45/£40
eAmserlen rad ac am ddim eAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E–bostiwch adam.chard@chapter.org â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e–bost.
Cynllun Myfyrwyr Chapter Ydych chi’n fyfyriwr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael aelodaeth am ddim a manteisio ar gynigion arbennig nodedig, fel gostyngiadau yn ein Caffi Bar a thocynnau sinema rhatach? I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Jennifer — jennifer.kirkham@chapter.org www.chapter.org/cy/myfyrwyr
Rydym yn falch o fod yn rhan o Hynt. www.hynt.cymru Hoffai Chapter gydnabod cefnogaeth hael y sefydliadau a’r grwpiau canlynol:
Noddir Theatrau Chapter gan rodd David Seligman er cof am Philippa Seligman Sefydliad Esmée Fairbairn Cronfa Gymunedol Tirlenwi Rhaglen Ddiwylliant yr UE Sefydliad Garfield Weston Sefydliad Foyle Gwobr Biffa Cronfa Loteri Fawr Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston Grŵp Admiral Cyf Sefydliad Moondance ar gyfer y Celfyddydau a Chwaraeon Sefydliad Elusennol Trusthouse Plant mewn Angen y BBC Waitrose Sefydliad Waterloo Sefydliad Henry Moore Ymddiriedolaeth Ynni Gwyrdd ScottishPower SEWTA Sefydliad y Brethynwyr
WRAP Google Sefydliad Jane Hodge Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson Ymddiriedolaeth People’s Postcode Ymddiriedolaeth Feddygol Dunhill Legal & General Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm Ymddiriedolaeth Ernest Cook Sefydliad Boshier–Hinton Lloyds TSB Barclays Celfyddydau & Busnes Cymru Ymddiriedolaeth Austin & Hope Pilkington Gwestai Puma: Gwesty’r Angel Caerdydd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru
Ymddiriedolaeth Elusennol Gibbs Ymddiriedolaeth Elusennol Steel Ymddiriedolaeth Oakdale Cwmni Plastig Dipec Nelmes Design Ymddiriedolaeth Elusennol Coutts Elusen Wake Bruce Funky Monkey Feet Sefydliad Finnis Scott Cote Brasserie Banc Unity Trust RWE Tidal Lagoon Power Hugh James Cymdeithas Celfyddydau Cyfoes Cymru Western Power Distribution
Aelodau Clwb Chapter: Prifysgol Fetropolitan Caerdydd Clearstream Technology Broomfield & Alexander Tincan 1st Office Urban Solar Patronbase Golley Slater Effective HRM Little Casino Stills Branding CDF Cyfrifwyr BPU MLM Cartwright Rheolwyr Cyfoeth SLD Capital Law Modern Television Arup Cyfrifwyr EST Tradebox Media